2014
MEDI 12-14
rhaglen swyddogol
CAMPWS PRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT, LLANBED BI RYG B CLW NBED LLA
NEU ADD F LLAN ICTORIA , BED
Gŵyl Golwg – Gair o Groeso
D
igwyddiad unwaith yn unig oedd Gŵyl Golwg i fod. Digwyddiad i nodi pen-blwydd cylchgrawn Golwg yn 25 oed ym Medi 2013. Ond, cymaint oedd llwyddiant yr ŵyl yn Llanbed llynedd, a’r galw i ni ei chynnal yn rheolaidd, penderfynwyd gwneud hynny eto eleni. Bydd yr ŵyl unwaith eto’n cynnwys amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau celfyddydol Cymraeg, o sgyrsiau llenyddiaeth i sesiynau cerddorol, comedi i drafodaethau digidol ac wrth gwrs digon o weithgareddau i’r plant. Mae marchnad Gŵyl Golwg wedi tyfu eleni, gyda mwy fyth o le i gynnyrch Cymreig, ac mae rhagor o sesiynau penodol i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg fireinio eu sgiliau.
Fel mae’r cylchgrawn Golwg wedi gwneud erioed, mae’r ŵyl yn rhoi llwyfan i amrywiaeth eang o’r celfyddydau mwyaf cyfoes ... ac er nad oes carreg filltir fawr i Golwg eleni, mae ambell elfen hiraethus wedi’u plethu i’r arlwy unwaith eto. Campws Prifysgol Llanbed ydy prif leoliad yr ŵyl unwaith eto eleni, ond rydym yn ymestyn ei ffiniau i leoliadau yng nghanol y dref – Clwb Rygbi Llanbed a Neuadd Fictoria yn benodol. Mae crynodeb o arlwy Gŵyl Golwg i’w canfod rhwng cloriau’r rhaglen hon, ac rydym yn mawr obeithio eich gweld chi oll yno.
Tanysgrifiwch i gylchgrawn wythnosol
golwg
am £85 y flwyddyn a bydd eich enw yn mynd i’r het am gyfle i ennill y print hardd hwn wedi’i fframio Soar y Mynydd – Wynne M e lvill e Jo n e s
Am fwy o wybodaeth am y cynnig hwn, cysylltwch â
marchnata@golwg.com
01570 423529
Cofiwch mae pawb sy’n prynu tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn yn cael blwyddyn o ap Golwg am ddim hefyd!
3
@gwylgolwg
Cynnwys Rhaglen Gŵyl Golwg 2014 4 Cynllun Safle 6 Golwg Go Whith 8 Cyngerdd Gŵyl Golwg 11 Stafell Sgwrsio 15 Sesiynau Lingo Newydd 19 Y Babell Roc 23 Y Cwmwl 27 Nyth Wcw 31 Y Fro Ddigidol 0
14
DI ME
DI
w .g
wy
lg
ol
wg
G L SU OLW G YL GŴ
14
TO
FIC
ww
10
D
D UA
NE
0 L SU 19 :0 DD TA N DY :0 0
RD
GE
N CY
D L BE ŴY LLAN D G RIA, .c o m
ME
.c
4 201
10
wg
£8
0 L SU 19 :0 DD TA N DY :0 0
ol
:0
13 DI ME GOLWG N8
WR AD SS NO
G L SU OLW G YL GŴ
8: 00
RN
wy
om
DD G ER NG GOLW CY YL GŴ
13
lg
DW
8: 00
RN
DW
ww
S SA NO
w .g
DI ME
W CL
S SA NO
L
‘GO
ED
NB
DI ME
13
4 A O 201 G G RYGBI LL W B DD G ER NG GOLW CY YL GŴ
7: 30
ER
DI ME O GG LW H’ ‘GO HIT W
ER
EN
O GG LW H’ ‘GO HIT W
SW NO
SW NO
EN
12
Gŵyl Golwg (dydd Sul 14 Medi) £6 (oedolion) / £3 (13-18 oed) / AM DDIM (plant dan 13)
DI ME
7: 30
Cyngerdd Gŵyl Golwg (nos Sadwrn 13 Medi) - £10
7 :3
WH
12
Tocynnau Gŵyl Golwg Golwg Go Whith (nos Wener 12 Medi) - £8
0
12 DI ME ITH’ ER
EN
SW NO
:0 0
14 DI ME G UL
DS
D DY
10
:0 0
– 19
W OL
RU ED YM NB L C LA GO T, L om YS AN .c RIF I S wg ol SP W lg W DE MP OD wy CA IND w .g R w D w Y
LG ŴY LG
4 201 SU
ARCHE
BWCH NAWR 01570 4 2 3 52 ymhol iadau@ 9 g g
%
wylgo olwg.c lwg.co om m/toc ynnau
N
LY
DO
OE
0 £1
£6
n u l l n Cy fle Sa fysgol Pri s w p Cam lanbed L
Y Babell Roc
Bwyd
Marchnad GĹľyl Golwg Adeilad y Celfyddydau
Lolfa Lingo Newydd
Mynedfa
Nyth Wcw
Stafell sgwrsio Y Cwmwl ac Y Fro Ddigidol
6
gwylgolwg.com
Golwg Go Whith Clwb Rygbi Llanbed Nos Wener 12 Medi 7:30 £8 Bydd ‘Golwg go whith’ yn dychwelyd i’r ŵyl eleni yng nghwmni rhai o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru! Gary Slaymaker fydd nôl wrth y llyw unwaith eto, yn cadw rhywfaint o drefn ar ein gwesteion wrth iddo gyflwyno cwis panel ysgafn a fydd yn trin a thrafod materion doniol a chyfoes ein byd. Yn sicr bydd ‘na ddigon o dynnu coes a chwerthin yng nghanol giamocs Gary a’r criw!
Ifan Jones Evans Mae Ifan Jones Evans yn gyflwynydd teledu a radio, a hefyd yn ffermio ar y fferm deuluol ym Mhontrhydygroes, ger Tregaron. Bu’n dilyn cwrs Theatr Cerdd a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ac mae wedi datblygu gyrfa ym myd teledu a radio ers hynny. Mae wedi cyflwyno amrywiaeth o raglenni poblogaidd ar S4C fel Rasus, Y Porthmon, Y Goets Fawr ac Y Sipsiwn. Mae Ifan hefyd yn llais cyfarwydd ar C2 BBC Radio Cymru ar ei rhaglen wythnosol gyda’r hwyr bob nos Fawrth. Mae’n chwarae pêl-droed i CPD Bont.
Rhybudd
Mae’r bygol noson yn d eo gref, g gynnwys ia och ith ymdd … ac o bosi ygiad b an dus. A nadda weds i bob o dan l 16 oed .
Gary Slaymaker
Ifan Gruffydd
Daw Gary Slaymaker o bentref Cwmann, ger Llanbedr Pont Steffan, ac aeth i’r ysgol uwchradd yn y dref. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Normal Bangor cyn symud i fyw yng Nghaerdydd. Mae bellach yn un o gomedïwyr a chyflwynwyr amlycaf Cymru ac wedi bod yn cyflwyno rhaglenni i Radio Cymru a S4C, gan gynnwys rhaglen ei hun oedd yn adolygu ffilmiau, Slaymaker. Mae’n parhau i gyflwyno rhaglenni ar y radio ac yn perfformio comedi stand-yp mewn lleoliadau ar draws Cymru a thu hwnt.
Mae Ifan Gruffydd yn un o ddiddanwyr mwyaf amryddawn a hirhoedlog Cymru ac wedi mwynhau gyrfa lewyrchus gyda deg cyfres o’i raglen Ma’ Ifan ‘Ma wedi eu darlledu ar S4C. Mae bron 29 mlynedd ers i’r gyfres hon ymddangos ar y teledu gyntaf. Ffermio yw ei briod waith, a hynny ar gyrion Tregaron ond mae’n cyfaddef fod jôcs yn talu’n well iddo na’r defaid! Mae hefyd wedi ysgrifennu sawl cyfrol o lyfrau megis Hiwmor Ifan Tregaron a Pwy faga ddefed?
7
@gwylgolwg
Iwan John
Mari Lovgreen
Un o Fynachlog-ddu, Sir Benfro yw Iwan John ond mae e bellach yn byw gyda’i wraig a’i blant ym Mridyll, ger Aberteifi. Mae’n wyneb cyfarwydd ar y teledu gan iddo ymddangos mewn sawl cyfres i blant fel Noc Noc, Hotel Eddie, Y Rhaglen Wirion ‘Na a’r gyfres sgetsus Mawr! Mae ei bortreadau sbŵff o fenywod fel Kath ‘nage Mark ni nath e’ Jones a’i gymeriad Cheryl yn y ffilm Beryl, Meryl a Cheryl wedi tyfu i fod yn gymeriadau adnabyddus i’r genedl i gyd. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o raglenwni teledu eraill gan gynnwys Tair Chwaer, Y Pris, Gig-l a Caryl. Actor da sydd o hyd yn codi gwên!
Mae Mari Lovgreen yn gyflwynydd teledu amryddawn ac wedi cael gyrfa lwyddiannus ers iddi ymddangos ar raglen Uned 5 am y tro cyntaf yn 2004. O Gaernarfon mae’n dod yn wreiddiol a bu’n astudio cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae bellach wedi ymgartrefu gyda’i gŵr ar ei fferm yn Llanerfyl, ger Llanfair Caereinion. Mae Mari Lovgreen wedi cyflwyno sawl rhaglen ar S4C gan gynnwys Waaa!!!, Y Briodas Fawr, Noson Lawen a darllediadau S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Yn ogystal â chyflwyno, mae Mari yn athrawes ysgol gynradd yn Llangadfan.
Tommo
Gillian Elisa
Daw ‘Sŵn mawr y prynhawn’ ar Radio Cymru o Aberteifi, lle mae’n dal i fyw gyda’i wraig a’i fab. Mae Tommo wedi bod yn DJ am y rhan fwyaf ei fywyd. Symudodd i Majorca yn 18 oed am ddwy flynedd i fod yn DJ llawn amser – dewis gyrfa grêt i lanc deunaw oed yn ei ôl ef! Ers hynny, mae wedi bod yn llais cyfarwydd ers blynyddoedd ar Radio Ceredigion a Radio Sir Benfro. Yn 2008, cafodd Tommo gynnig i fod yn gyhoeddwr cyn gemau y Sgarlets, swydd mae’n dal i fwynhau gwneud nawr. Bellach, mae ganddo raglen ei hun o Ddydd Llun i Ddydd Iau, rhwng 2 a 5 ar BBC Radio Cymru.
Actores, digrifwraig a chantores yw Gillian Elisa – dynes sydd â thalentau di-ben-draw! Magwyd yn Llanbedr Pont Steffan, cyn mynychu Coleg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Caiff ei hadnabod fel Sabrina ar opera sebon Pobol y Cwm, rôl y mae wedi’i chwarae ers y saithdegau, mae hefyd yn enwog am y cymeriad Mrs OTT ar raglenni Noson Lawen. Yn ogystal â’r teledu, mae wedi perfformio ar lwyfannau mawr ar draws y wlad gan gynnwys Gŵyl Caeredin a’r West End yn Llundain. Mae ar hyn o bryd yn chwarae rhan Grandma yn y sioe gerdd, Billy Elliot.
8
gwylgolwg.com
Cyngerdd Gŵyl Golwg Neuadd Fictoria, Llanbed - Nos Sadwrn, 13 Medi | 8:00 Tocynnau
£10
Meic Stevens Pleser yw croesawu’r dyn ei hun, Meic Stevens, un o gewri’r sin gerddoriaeth Gymraeg i berfformio yng Nghyngerdd Ngŵyl Golwg eleni. Go brin fod angen cyflwyniad ar y gŵr sydd wedi bod yn canu am dros bum degawd bellach, ac a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu’r sin cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Perfformiodd ar draws Prydain yn ystod y 1960au a rhwng 1967-69 recordiodd gyfres o EPs Cymraeg gan gynnwys Mwg, Y Brawd
Houdini, Diolch yn Fawr a Byw yn y Wlad i stiwdios Sain a Wren. Ers hynny, mae wedi rhyddhau 26 albwm ac mae ei gerddoriaeth yn ysbrydoli cerddorion ifanc o hyd. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu Meic nôl i Lanbed, yn enwedig gan fydd yr ŵyl yn digwydd union 30 mlynedd ers ei urddo yn aelod o’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn y dref. Ei urddo neu chwarae’n Gŵyl Golwg - pa un yw’r fraint fwyaf tybed?!
9
@gwylgolwg
Plu Triawd teuluol, gwerin cyfoes yw Plu. Daw’r ddwy chwaer a’r brawd, Marged, Elan a Gwilym Rhys o Fethel, ger Caernarfon. Ffurfiwyd y grŵp yn Haf 2012 ac ers hynny maent wedi perfformio a recordio mewn nifer fawr o leoliadau gan gynnwys perfformio sesiwn acwstig i BBC Radio Cymru fis Tachwedd 2012 ac ymddangos ar raglen Stiwdio Gefn S4C fis Chwefror a Rhagfyr 2013. Cafodd Plu hefyd eu henwebu ar gyfer rhestr fer gwobr ‘Band Newydd Gorau’ yng ngwobrau cylchgrawn Y Selar yn 2013. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, ym mis Gorffennaf 2013 ac roedd ar restr fer gwobr newydd ‘Albwm y Flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Paratowch i gael eich swyno gan eu halawon a harmonïau hyfryd.
Mari Mathias Cyfansoddwraig a chantores ifanc sy’n byw yn lleol ac yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul yw Mari. Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf llynedd yng Ngŵyl Crug Mawr, Aberteifi. Ers hynny mae wedi perfformio mewn nifer o wyliau a digwyddiadau. Mae hi’n ysgrifennu ac yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun ac yn mwynhau perfformio’n acwstig gyda’r gitâr neu’r piano. Mae artistiaid fel Gwyneth Glyn ac Ed Sheeran yn ysbrydoliaeth iddi yn ogystal â rhai o’r mawrion fel Meic Stevens, Bob Dylan, Jimi Hendrix a Bob Marley. Mae Mari ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ryddhau sengl newydd sbon yn y dyfodol agos. Mae hi a’r criw o gerddorion ifanc sy’n perfformio gyda hi, Dafydd Syfydrin, Sion Rees a Teddy Davies yn edrych ‘mlaen at Ŵyl Golwg eleni.
Llyfrau i bawb o bob oed!
£9.95
£5.95
£4.95
clawr caled
Dyddi aduro n Desg A4 £6.95 Addysg A5 £5.95 Poced £4.95 Ffeiloffaith £6.95
www.ylolfa.com
11
@gwylgolwg
Amserlen
Stafell Sgwrsio 12:00 Llyfr y Flwyddyn 2014: Ioan Kidd 13:00 Pobol y Cwm @ 40 14:00 Darlith Goffa Islwyn Ffowc Ellis: Bethan Gwanas 15:00 Martha, Jac a Sianco @ 10 16:00 Sosban Ail Symudiad 17:00 Tabŵ a thalent barod: Pennod goll o’r drafodaeth am farddoniaeth Iwan Llwyd 18:00 Yn ôl i’r Wenallt Go l y Gŵ
l
, wg
M
i ed
14
12
Stafell Sgwrsio
Llyfr y Flwyddyn 2014: Dewis – Ioan Kidd
gwylgolwg.com Darlith G offa
Islwyn Ffowc Ellis Sefydlwyd Darlith Goffa Islwyn Ffowc Ellis gan Ŵyl Golwg llynedd i nodi ei gyfraniad arbennig i lenyddiaeth Gymraeg ac i fywyd Llanbedr Pont Steffan. Yr awdures boblogaidd a chynhyrchiol Bethan Gwanas fydd yn traddodi’r ddarlith eleni a dywedodd mai ‘braint ac anrhydedd’ fydd traddodi’r ddarlith er cof am un o’i harwyr. Hoffwn ddiolch yn fawr i deulu Islwyn Ffowc am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth unwaith eto eleni.
Yng Nghaernarfon fis Gorffennaf eleni, gwelwyd yr hatric Llyfr y Flwyddyn cyntaf erioed i gyfrol Gymraeg. Cipiodd y nofel ‘Dewis’ wobr Barn y Bobl, wobr y gyfrol ffuglen orau, a’r brif wobr, ac mae’n bleser gallu croesawu’r awdur Ioan Kidd i Ŵyl Golwg i drafod y gyfrol.
40 mlynedd yng Nghwmderi
Martha, Jac a Sianco – Caryl Lewis
Wrth i opera sebon mwyaf poblogaidd a hirhoedlog Cymru ddathlu’r deugain eleni, Lowri Cooke fydd yn cyhoeddi llyfr yn yr hydref i ddathlu’r garreg filltir hon. Dewch i glywed Lowri yn trafod â Gillian Elisa ac Andrew Teilo, rhai o actorion mwyaf adnabyddus a hirhoedlog Pobol y Cwm sy’n chwarae cymeriadau enwog pentref Cwmderi, ‘Sabrina’ a ‘Hywel’.
Mae’n ddeng mlynedd ers cyhoeddi un o nofelau Cymraeg mwyaf y mileniwm – Martha, Jac a Sianco. I ddathlu hyn, cawn glywed oddi wrth yr awdures ei hun – Caryl Lewis, a fydd yn trin a thrafod agweddau o’r nofel, y profiad o’i hysgrifennu a’r cymeriadau hoffus sydd ynddi.
13
@gwylgolwg
Yn ôl i’r Wenallt Mae 2014 yn nodi canmlwyddiant ers geni’r bardd Dylan Thomas, ac yn gynharach yn y flwyddyn, cyhoeddwyd argraffiad newydd o addasiad Cymraeg ei ddrama radio, Under Milk Wood, sef Dan y Wenallt. Y cyn Archdderwydd, prifardd, sgriptiwr a darlithydd, Jim Parc Nest sydd wedi ei chyfieithu ac fe fydd yn ymuno â ni i drafod y gyfrol, bro a bywyd Dylan Thomas a’i gysylltiadau â Dyffryn Teifi.
Sosban Ail Symudiad
Tabŵ a thalent barod:
Y cyflwynydd radio Richard Rees fydd yn holi un o grwpiau mwyaf hoffus Cymru, Ail Symudiad sydd wedi bod yn perfformio ers dros 35 mlynedd, a newydd gyhoeddi cyfrol am hanes y grŵp! Bu Richard Rees yn cyfweld â’r band yn gyson yn eu gigs yn ystod yr 80au ar ei raglen, Sosban – rhaglen a gyfranodd yn helaeth at dwf ym mhoblogrwydd y sin bop Gymraeg ar y pryd.
Wrth i’r bardd Karen Owen gyhoeddi ysgrif deyrnged i’r diweddar Iwan Llwyd, un o feirdd mwyaf ei genhedlaeth, yn hwyrach yn y flwyddyn, dyma gyfle i’w chlywed yn rhannu atgofion a thrafod ei fywyd a’i waith.
Pennod goll o’r drafodaeth am farddoniaeth Iwan Llwyd
D s g ch i y c u e h da Dy C isi r l ch le c ym au ra n hi eg Cy ei m sia ? ra u eg ?
chi h c Dy u ... eisia
Cylchgrawn Cymraeg hawdd! gwylgolwg.com Dim ond £10.50 am flwyddyn! Ac anrheg am ddim!
dy
14
newydd Os dych chi’n pr
ynu lingo new ydd gyda debyd un iongyrchol, dych chi’n cael llyfr nodiadau a beiro am dd im.
ne w yd
d
Os dych chi eisiau gwybod rhagor, ffoniwch 01570 423 529 Neu anfon e-bost at lingonewydd@golwg.com
Easy Welsh ... and a free gift!
This is a special offer for lingo newydd, the magazine with specially graded stories for learners. Subscribe by direct debit and receive a notebook and pen as a thank you gift.
15
@gwylgolwg
Amserlen
Sesiynau Lingo Newydd 10.30 Adloniant gan ddysgwyr lleol – Local entertainment 11.00 Sgwrs Holi ac Ateb gyda Dysgwyr Rownd Derfynol Dysgwr y Flwyddyn, Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 / Chat with Dysgwr y Flwyddyn 2014 Finalists 12.00 Gemau, posau a hwyl i’r teulu / Family games and puzzles 13.00 Sesiwn Rhagarweiniol – Bethan Gwanas yn trafod Darlith Goffa Islwyn Ffowc Ellis / Introductory session with Bethan Gwanas 15.00 Sesiwn Rhagarweiniol – Caryl Lewis yn trafod Sgwrs Martha, Jac a Sianco / Introductory session with Caryl Lewis 17.00 Canu o gwmpas y piano / Sing Song
o lG y Gŵ
l
, wg
M
i ed
14
Gwella ein cartrefi... Ddiwedd mis Tachwedd 2009 cafodd holl stoc tai Cyngor Sir Ceredigion ei throsglwyddo i gymdeithas dai a oedd newydd gael ei ffurfio, sef Tai Ceredigion. Dechreuodd Tai Ceredigion ar y gwaith o wella’r holl eiddo’n unol â Safon Ansawdd Tai Cymru er mwyn sicrhau bod cartrefi’r tenantiaid yn addas ar gyfer eu teuluoedd ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Trwy gyflogi tîm llafur uniongyrchol lleol a gweithio gyda chontractwyr a chyflenwyr lleol, mae Tai Ceredigion wedi medru sicrhau nid yn unig bod y gwaith yn cael ei gwblhau i’r safon uchaf posibl ond hefyd bod y buddsoddiad enfawr wedi helpu i hybu’r economi leol.
n Dechrau’r sgyrsiau lleol...
n Edrych tua’r dyfodol...
n Beth y gallwch chi ei wneud?
Wrth i ni nesáu at ein pumed ‘pen-blwydd’ rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r ffaith bod y gwelliannau wedi’u cwblhau ac yn edrych ymlaen at bennod newydd yn hanes y gymdeithas. Mae’r ffaith ein bod wedi penodi Hwylusydd Tai Gwledig newydd yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu’r graddau y mae tai fforddiadwy o safon ar gael. Rydym eisoes wedi dechrau adeiladu rhai byngalos pwrpasol, y mae modd i ddefnyddwyr cadair olwyn eu defnyddio, ar gyfer teuluoedd ac unigolion lleol. Yn ogystal, bydd yr Hwylusydd Tai Gwledig yn ystyried cyfleoedd i ni ddarparu mwy o dai fforddiadwy i bobl leol eu prynu ar sail cydberchnogaeth (rhywfaint yn forgais a rhywfaint yn rhent) a chyfleoedd i ddarparu cartrefi eraill sydd naill ai’n newydd neu wedi’u hadnewyddu, am rent sy’n is na lefelau rhent y farchnad (rhenti canolradd).
Ble mae’r angen mwyaf? Sut y gallwn ni helpu unigolion i brynu eu cartref cyntaf? Sut y gallwn ni gynorthwyo teuluoedd ifanc sy’n gweithio i ddod o hyd i gartrefi addas sy’n agos i’w teuluoedd, ysgolion a gwaith? Mae angen cymorth ein cymunedau arnom i ddechrau’r sgwrs. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon a sicrhau swyddi a fydd yn hybu’r economi leol a’n cymuned wledig.
l Ysgrifennwch atom er mwyn rhannu eich
barn a’ch syniadau â ni ynghylch beth sydd ei angen yn eich cymuned leol – nid tai’n unig, ond cyfleusterau eraill sy’n creu cymuned
l Ebostiwch ni: post@taiceredigion.org.uk l Ymunwch â’n sgyrsiau drwy Facebook l Dilynwch ni ar Twitter @TaiCeredigion l Gwahoddwch yr Hwylusydd Tai
Gwledig i ddigwyddiad neu gyfarfod yn eich cymuned leol i siarad a chynnal sesiwn holi ac ateb
Melin Mark Lane Mill Llanbedr Pont Steffan/Lampeter Ceredigion SA48 7AG
£8.99
£8.99
£8.99
Hefyd yn/Also at: Broneb Stores Pumsaint, Llanwrda Tel: 01558 650215
Tel: 01570 422540 Fax: 01570 423644 www.wdlewis.co.uk
£7.99
Y
£6.99
£8.99
£3.99
£5.99
£9.99
£7.99
£7.99
www.gomer.co.uk 01559 363092 Dilynwch ni ar: Gwasg Gomer Press £5.99 £7.99
£5.99
£4.99
@GwasgGomerPress
Argraffu digidol o safon uchel
Fforddiadwy, Proffesiynol, Safon Uchel AM EICH HOLL ANGHENION ARGRAFFU
Taflenni – Posteri – Cardiau Post – Gwahoddiadau Cardiau Cyfarch – Llyfrau – Cylchgronau
www.sprint-cambrian.co.uk
01970 613008
twitter.com/Sprint_Cambrian facebook.com/sprintcambrian
19
@gwylgolwg
Amserlen
Y Babell Roc 13:00
Gildas 14:00
Catrin Herbert 15:00
Lowri Evans 16:00
Gwilym Bowen Rhys 17:00
Blodau Gwylltion 18:00
Ail Symudiad Go l y GĹľ
l
, wg
M
i ed
14
20
gwylgolwg.com
Y Babell Roc Gildas
Lowri Evans
Gildas ydi prosiect unigol Arwel Lloyd Owen, sy’n wreiddiol o Lansannan yng Nghonwy ond bellach wedi ymgartrefu yn Llanelli. Dechreuodd ei yrfa gerddorol fel prif gitarydd Al Lewis Band, ac mae wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiant y grŵp hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2010 fe ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Nos Da, dan yr enw Gildas. Rhyddhaodd Gildas ei ail albwm, Sgwennu Stori, ddechrau mis Gorffennaf llynedd ac roedd ar restr fer gwobr Albwm y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae sŵn unigryw cerddoriaeth Gildas yn ei wneud yn un o artistiaid mwyaf diddorol Cymru ar hyn o bryd - yn gymysgedd acwstig ac electronig wedi’i dylanwadu gan gerddoriaeth thema cartwnau!
Disgrifiwyd Lowri fel cantores a chyfansoddwraig aruthrol gan Bob Harris ar BBC Radio 2 ac mae ei gyrfa fel artist yn mynd o nerth i nerth. Gellir clywed dau enillydd ‘Cerddor Gorau’ Gwobrau Gwerin BBC Radio 2, y chwaraewr acordion, Andy Cutting a’r gitarydd Martin Simpson yn chwarae gyda Lowri ar ei phumed albwm, Corner of my Eye a ryddhawyd yn ddiweddar. Bu Lowri’n ymweld â’r Unol Daleithiau fis Ebrill diwethaf gan chwarae mewn amryw o gigs yno. Mae hi hefyd wedi perfformio mewn sawl gŵyl yng Nghymru gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl SŴN ac mae ei cherddoriaeth yn amrywio o’r blws, canu gwerin, canu gwlad, pop, roc a jas.
Catrin Herbert
Gwilym Bowen Rhys
Daw’r gantores a’r gyfansoddwraig dalentog hon o Gaerdydd. Mae bellach wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu’n arwain Côr Aelwyd Pantycelyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu dwy gân oddi ar ei EP cyntaf Y Gwir, Y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau, sef ‘Disgyn Amdanat Ti’ a ‘Dala’n Sownd’ yn senglau’r wythnos ar raglen Dafydd Du a Caryl Parry Jones ar Radio Cymru ac mae Catrin wedi ymddangos sawl tro ar deledu, gan gynnwys Ar Gamera, rhaglen gyntaf Y Stiwdio Gefn. Yn 2013, cyrhaeddodd Catrin rownd derfynol Cân i Gymru gyda’i chân, ‘Ein Tir Na N’Og Ein Hunain’. Mae Catrin yn mwynhau gigio ar draws y wlad ac wedi perfformio mewn sawl digwyddiad a gŵyl.
Un o Fethel, ger Caernarfon yw Gwilym ac mae’n wyneb adnabyddus i’r sin roc Gymraeg erbyn hyn fel prif ganwr a gitarydd Y Bandana - un o fandiau mwyaf poblogaidd a chyffrous Cymru. Mae’r band wedi hen arfer â pherfformio mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys cloi’r noson fawr ar nos Wener ym Maes B 2014. Mae hefyd yn aelod o’r triawd Plu, band teuluol, gwerinol gyda’i ddwy chwaer, Marged ac Elan. Bu Gwilym yn perfformio’n unigol am y tro cyntaf yn rownd derfynol Cân i Gymru yn 2012 gyda’r gân a gyfansoddodd gyda’i fam, Siân Harris, ‘Garth Celyn’. Cyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth eto yn 2014 gyda’r gân ‘Ben Rhys’.
21
@gwylgolwg
Ail Symudiad
Ail Symudiad
Blodau Gwylltion
Band a’u gwreiddiau yn Aberteifi yw Ail Symudiad. Ffurfiodd y band yn 1978 yn ystod cyfnod cyffrous pync a’r don newydd ac maent wedi tyfu erbyn hyn i fod yn un o fandiau mwyaf hoffus a dylanwadol Cymru. Ers ffurfio, mae’r band wedi mwynhau dros 35 mlynedd o gigio a pherfformio ym mhob cwr o’r wlad. Dros y blynyddoedd diweddar, mae’r band wedi rhyddhau amryw o CDs yn dathlu rhai o’u caneuon cynharaf, fel ei sengl gyntaf ‘Twristiaid yn y Dref’ a ysgrifennwyd yn 1980 a ‘Fflat 123’ yn 1982, gan roi gwedd newydd arnynt. Mae’r brodyr, Richard a Wyn Jones, hefyd yn rhedeg label Fflach sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r sin Gymraeg, yn enwedig yn y De Orllewin. Rhyddhawyd ei EP diweddaraf yn 2013 o dan yr enw Anturiaethau y Renby Toads. Bydd eu perfformiad yn Y Babell Roc yn un o uchafbwyntiau Gŵyl Golwg eleni, ac yn ffordd ddelfrydol o gloi’r ŵyl.
Manon Steffan yw’r llais hyfryd tu ôl i Blodau Gwylltion. Dechreuodd Manon ganu wrth uwch lwytho ei chaneuon ar YouTube a SoundCloud yn 2010 ac ers hynny mae’n perfformio’n gyson yn unigol a hefyd gyda band ei thad, Steve Eaves. Haf prysur oedd hi i Manon eleni gyda pherfformiadau mewn gwyliau ledled y wlad gan gynnwys Gŵyl Arall yng Nghaernarfon a Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae hi hefyd wedi recordio sesiwn C2 ar raglen Lisa Gwilym llynedd gyda’r gitarydd adnabyddus, Elwyn Williams. Mae naws ei sain gyfoethog a’r alawon cignoeth wedi cydio yn nychymyg llawer ac mae ei phoblogrwydd wedi tyfu’n aruthrol. Yn ogystal â chyfansoddi caneuon, mae Manon Steffan yn awdures cynhyrchiol a thalentog. Enillodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, Wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2010 a chipiodd deitl categori ffuglen y wobr yn 2013 gyda’r gyfrol Blasu.
Mae technoleg yn newid y byd busnes yng Nghymru yn gyflym - diolch i gwmnïau TG arloesol sy'n defnyddio talentau lleol, a busnesau o bob math yn canfod ffyrdd newydd clyfar o weithio. Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cefnogi cam nesaf y twf technegol drwy roi sylw i drawstoriad o anghenion oddi mewn ac oddi allan i'r sector TG. Mae ein holl weithgareddau wedi'u dyfeisio i greu Cymru newydd sy'n canolbwyntio ar TG, ble mae cwmnïau ym mhob rhanbarth yn rhwydweithio, yn dysgu ar y cyd ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn ar ffurf pedwar ffrwd prosiect unigryw, gyda chyllid ar gael i fusnesau yn Ardaloedd Cydgyfeirio Cymru.
Hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol Rydym yn galw hyn yn CPD, neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Wrth i dechnoleg newid o ddydd i ddydd, mae yna bob amser sgiliau newydd i'w dysgu. Ond gyda ni, chi sy'n creu'r agenda - rhowch wybod i ni yr hyn sydd angen i chi ei ddysgu, ac fe edrychwn ni ar beth yw eich dewisiadau o ran hyfforddiant.
Gweithdai Busnes TG Mae angen sgiliau TG ar bobl nad ydyn nhw'n bobl TG. Felly mae ein sesiynau gweithdy yn cyflwyno ochr haws ei defnyddio a llai technegol TG. Byddwn yn edrych ar dechnolegau newydd ac yn chwalu'r mythau, er mwyn i chi ddiweddaru eich arferion gwaith heb foddi.
Prosiectau Myfyrwyr ar gyfer Busnesau Mae angen arbenigedd ar fusnesau, ac mae angen profiad ar fyfyrwyr. Felly rydyn ni'n dod â'r ddau ynghyd, ac mae pawb yn ennill. Gall cwmnïau lleol fanteisio ar sgiliau myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei flwyddyn olaf i ddatrys problem busnes neu i fynd ar drywydd cyfle.
Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau TG ardystiedig broffil busnes uchel, yn ogystal â hygrededd a all arwain at gyfleoedd newydd yn gyflym. Ond dim ond un ochr yw hynny. Mae rhaglen ardystio Accredit UK sy'n canolbwyntio ar TG yn treiddio'n ddwfn i'ch busnes, gan arwain at ffyrdd o weithio mwy effeithlon a mwy proffidiol. _________________________________________ Wnaethon ni sôn? Pan fyddwch chi'n gweithio gyda ni, byddwch yn manteisio ar arbenigedd blaengar ein Prifysgolion sy'n bartneriaid: Abertawe, Bangor, Morgannwg, Aberystwyth a'r Drindod Dewi Sant. Mae llawer o waith ymchwil yn cael ei wneud yng Nghymru, a dyma'r llwybr cyflymaf at y syniadau diweddaraf a dulliau sydd wedi'u profi. Eisiau gwybod mwy? E-bost: tsd@softwarealliancewales.com
Cynghrair Meddalwedd Cymru
Ardystiad Cwmni TG
23
@gwylgolwg
Amserlen
Y Cwmwl 12:00 Gemau i Gymru: lle i un bach? 13:00 Print a Digidol: Rôl cyhoeddiadau Cymraeg yn yr oes ddigidol 14:00 Crap ar greu app 15:00 Pawb at y pod y bo 16:00 Hel arian gyda Heliwm 17:00 Goroesi’r Chwyldro: Ffotograffiaeth yn yr oes ddigidol
Gŵ
Go l y
g lw
,M
i ed
14
24
Gemau i Gymru: lle i un bach? Sgwrs banel dan arweiniad Fideo Wyth a fydd yn gofyn y cwestiwn, a oes dyfodol gwirioneddol ar gyfer gemau cyfrifiadur yn y Gymraeg. Os felly, sut mae cystadlu yn well yn erbyn diwydiannau creadigol eraill? Blogiwr gemau cyfrifiadurol Golwg360, a sylfaenydd Fideo 8, Daf Prys, fydd yn llywio’r drafodaeth gyda rhai o arbenigwyr y maes yng Nghymru.
Y Cwmwl
gwylgolwg.com
Print a Digidol: Rôl cyhoeddiadau Cymraeg yn yr oes ddigidol Wrth i’r chwyldro digidol barhau, mae llawer yn darogan tranc cyhoeddiadau print ond, ar hyn o bryd o leiaf, mae print yn parhau. Ond am ba hyd? Bydd y sgwrs banel yn gofyn beth ydy cyfrifoldeb digidol cyhoeddiadau print erbyn hyn, ac i ba raddau all print fanteisio ar gyfleoedd digidol? Ymysg y panelwyr bydd Cadeirydd Papur Bro ardal Llanbed, Dylan Lewis, Lois Gwenllian o Ffrwti.com a Elis Dafydd o Tu Chwith, sydd bellach yn gylchgrawn cwbl ddigidol.
Crap ar greu app Sesiwn delfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu app, ond heb syniad ble i ddechrau. Mae Eilian Roderick yn gweithio i CEMAS (Centre of Excellence in Mobile Applications and Services ) ym Mhrifysgol De Cymru - canolfan sy’n helpu busnesau yng Ngymru i ddatblygu apps newydd. Bydd Eilian yn trafod yr holl broses o greu app, o ddechrau gyda syniad, i greu brasluniau, i ddatblygu’r app, ac i’w gyhoeddi a’i hyrwyddo.
25
@gwylgolwg
Goroesi’r Chwyldro: Ffotograffiaeth yn yr oes ddigidol Mae’r chwyldro digidol yn golygu bod rhaid i bob cyfrwng addasu - mae arferion gwylio, gwrando a darllen pobl wedi newid yn llwyr yn yr oes ddigidol. Cyfrwng arall sydd wedi cael ei effeithio ydy ffotograffiaeth - mae modd i unrhyw un dynnu llun safonol ar ei ffôn erbyn hyn, a’i ddosbarthu i gynulleidfa enfawr mewn eiliadau. Ond beth mae hyn yn ei olygu i ffotograffwyr proffesiynol? Ydy’r byd digidol yn fygythiad neu’n gyfle? FfotoAber fydd yn arwain trafodaeth gyda dau o ffotograffwyr amlycaf Cymru - Keith Morris ac Emyr Young.
Pawb at y pod y bo
Hel arian gyda Heliwm
Mae darlledu digidol yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac mae’n dod yn haws creu darllediadau sain a fideo safonol gyda dyfeisiadau symudol a meddalwedd rhad ac am ddim ar y we. Bydd y sesiwn yma yn nwylo Radio Beca yn trin a thrafod sut i fynd ati i greu podlediadau, a dosbarthu eich darllediad i’ch cynulleidfa. Bydd Marc Griffiths o Cymru FM yn cyfrannu at y drafodaeth hefyd.
Gyda hinsawdd economaidd sy’n parhau’n fregus, mae codi arian ar gyfer unrhyw brosiect yn her. Wedi dweud hynny, mae’r we wedi cynnig cyfle trwy wefannau codi arian ‘crowdfunding’, sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae Rhodri ap Dyfrig wedi sefydlu gwasanaeth o’r fath o’r enw Heliwm, a bydd yn trafod y gwasanaeth a’r egwyddor o godi arian ‘torfol’ yn y sesiwn hwn.
Ap newydd sbon ar gyfer yr iPad
stori am ddim!
Ap addysgiadol sy’n hybu llythrenned
allan ^an! d, rhife ddrwa chreadigrwydd
Dewch i ddarllen a gw
rando ar anturiaetha
Llond lle o straeon, posau a chystadlaethau bob mis Anrhegion cyson ar y clawr
Cylchgrawn bob mis i blant
Cymru
u Rwdlan a’i ffrindia
u
Awst 2013 Rhif 203 £1.25
Dewch i’
a’i ffrindiau
r traeth
Dim ond £1.25 y mis! cyhoeddiad
Ar werth mewn siopau lleol ar draws Cymru.
Neu yma yng Ng[yl Golwg! Ac oes nad oes siop yn gyfleus, gallwch archebu drwy’r post - 01570 423 529 neu e-bostiwch - marchnata@golwg.com
27
@gwylgolwg
AMSERLEN GWEITHGAREDDAU I’R PLANT
Nyth Wcw 11.00 Stori a Hwyl gydag Wcw a’i ffrindiau 12.00 Amser Stori gyda Meleri Wyn James 12.45 Ben Dant a Dona Direidi 13.30 Amser Stori gyda Caryl Lewis 14.30 Stori a Hwyl gydag Wcw a’i ffrindiau 15.00 Ben Dant a Dona Direidi 15.30 Amser Stori gyda Meleri Wyn James Gŵ
yl
Go
l wg
,M ed i 14
28
gwylgolwg.com
Nyth Wcw
Stori a Hwyl gydag Wcw
Amser Stori gyda Caryl Lewis
Straeon a digonedd o hwyl a chwerthin yng nghwmni ein ffrind bach hoffus, Wcw.
Yr awdures Caryl Lewis, sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant gan gynnwys Cyfres y Teulu Boncyrs fydd yn yr ŵyl yn darllen rhai o’i straeon newydd.
Amser Stori gyda Meleri Wyn James
Dona Direidi
Bydd awdures y gyfrol boblogaidd, Na, Nel! hefyd yn ymuno â ni i adrodd ei straeon a chynnal sesiwn meddwl yn greadigol.
Bydd Dona Direidi, cymeriad hoffus Cyw ac Wcw a’i Ffrindiau, yn ymweld â ni i sgwrsio, canu, rapio a dawnsio.
29
@gwylgolwg
Ben Dant
Sali Mali a Holi Hana
Y môr-leidr doniol o raglenni Cyw fydd hefyd yn ymuno â ni i ganu a chwarae gemau.
Dewch i liwio llun, chwarae gemau a chael hwyl a sbri gyda chriw Holi Hana a Sali Mali!
Hefyd trwy gydol y dydd: l l l l l
Castell Bownsio Helfa Drysor Celf a Chrefft Paentio Wynebau Gweithdai Barddoni
Sgiliau Syrcas Sesiynau Sgiliau Syrcas trwy gydol y dydd – cyfle i droi eich llaw at jyglo, troi platiau a nifer o sgiliau anghyffredin eraill.
n law i’r l d i no sbr n! r Diw yl a cyfa hw ulu te
Yn hybu twf busnesau bach trwy ddatblygu apiau ar gyfer dyfeisiadau symudol Mae CEMAS yn frwdfrydig iawn dros greu ac ymelwa ag ED newydd, yn sylfaenol syniadau newydd sydd wedi eu dylunio, eu hadeiladu, a’u rhyddhau yng Nghymru trwy ddefnydd TGCh symudol. Nod ein Rhaglen Gymorth yw i gyflwyno’r economi ddigidol i bob un o’r sectorau eraill yn yr economi
Gymreig drwy ein rhaglen gymorth wedi’i ariannu, sy’n lleihau’r risg sy’n gysylltiedig gyda datblygu a rhyddhau ED newydd drwy apiau symudol. Os oes ganddoch syniad ar gyfer creu ap, cysylltwch â CEMAS i ddarganfod sut y gallwn fod o gymorth i chi. Ebost: cemas@southwales.ac.uk Ffôn: 01443 654265
www.cemas.mobi
31
@gwylgolwg
Y Fro Ddigidol Unwaith eto eleni yng Ngŵyl Golwg, mae ardal ‘Y Fro Ddigidol’ yn gyfle i weld beth sydd ar gael, a beth allai fod ar gael yn ddigidol yn y Gymraeg. Dewch i drafod a dysgu sut i greu, cyhoeddi a dosbarthu eich cynnwys digidol gyda arbenigwyr Y Fro Ddigidol, mewn cydweithrediad a’n ffrindiau yn CEMAS. Dyma rai o’r pethau fydd yn y Fro eleni...
Cyngor apps 1-i-1 Rhedeg busnes bach neu ganolig? Eisiau datblygu app ar gyfer eich cwmni? Dyma’r lle i chi! Bydd criw CEMAS (Canolfan Rhagoriaeth Gwasanaethau Rhaglenni Symudol) o Brifysgol De Cymru yn Y Fro Ddigidol i drafod eich syniadau apps newydd. Mae CEMAS yn cefnogi busnesau cymwys yng Nghymru i leihau’r risg cychwynnol sy’n gysylltiedig â datblygu apps a gwasanaethau symudol newydd trwy gynllun datblygu wedi’i gyllido. Mae’r cynllun cefnogi’n anelu i ddod â’r diwydiant digidol i bob sector o’r economi Gymreig, ac mae CEMAS yn rhoi cymorth i gwmnïau gyda datblygu, cynllunio, profi a lansio cynnyrch newydd. Am fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â cemas@southwales.ac.uk, ffonio 01443 654265 ymweld â’r wefan www.cemas.mobi
Wicipedia Cymraeg Gall unrhyw berson ychwanegu gwybodaeth at Wicipedia, ac mae gwneud hynny’n hawdd iawn! Does dim angen mewngofnodi hyd yn oed! Mae tua 140 o olygyddion Cymraeg yn gwneud hynny’n rheolaidd ers blynyddoedd, gan gadw golwg barcud ar eirwiredd y wefan. Mae degau o filoedd o erthyglau Cymraeg ar Wicipedia bellach. Dyna pam y tyfodd Wicipedia Cymraeg i fod yn hynod o boblogaidd ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr - cawn tua 2.4 miliwn o dudalennau’n cael eu hagor pob mis - swm aruthrol! Ac mae’n weladwy ar eich ffôn llaw ac ar fapiau fel Google Maps neu Open Streetmap. Beth am roi gwybodaeth am eich ysgol neu eich papur bro ar wefan Gymraeg fwya’ poblogaidd y blaned? Dewch draw i’r Fro Ddigidol yng Ngŵyl Golwg i weld pa mor rhwydd ydy cyhoeddi ar Wicipedia.
Mae CEMAS wedi bod o gymorth mawr i Golwg wrth ddatblygu ap Golwg, ac yn arbennig ein app newydd i blant bach ap wcw: rwdlan.
Radio Beca Mae Radio Beca bellach yn darlledu rhaglenni’n rheolaidd ar y we, ac yn awyddus i annog pawb i fynd ati i greu eu rhaglenni eu hunain a’u cyhoeddi. Yn ystod Gŵyl Golwg bydd Radio Beca’n cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n awyddus i greu a chyhoeddi podlediadau.
Fideo Wyth Bydd yr unig gymuned drafod gemau cyfrifiadurol Gymraeg, Fideo Wyth, yn y Fro Ddigidol eleni felly galwch mewn am sgwrs. Bydd cyfle i chi hefyd gystadlu yn nhwrnament Mario Karts cyntaf Fideo Wyth – ai chi fydd pencampwr Mario Karts Cymru?
Dewis PCYDDS oedd y penderfyniad gorau a wnes i erioed Harry, BA Dylunio Graffig
ABERTAWE
CAERFYRDDIN
LLAMBED