Fy Nhrichotillomania Tynnais y ffoliglau arian gyntaf, o fy ngwallt gwinau tywyll. Dirgelwch a dryswch fuont, ar yr adeg yn styrbio fy nelwedd yn fy mhlentyndod. Pam fod nhw ene? Pam fi a neb arall yn y dosbarth? Yna’n casglu’n torfeydd, gan ffurfio llinellau trefnus, clir, fel y plorod hyll, nad oedd gennyf yn styrbio fy nelwedd, yn fy nglasoed. Pigais i nhw sawl ar y tro rhesi cyfan, gan dorri fy nghalon; ceisiaf ddiarddel pob un. Wedi’r trawsnewid dadbigmentiad, ddes i ddeall yr arian a ddaeth i ddisodli’r gwallt gwinau. Ddes i’w dderbyn, i raddau “Sara Y Gwallt” - fy nghymeriad Tarantinoaidd. Ond mae’r tueddiad yn dal i gnoi fel y gynjar, ac yn fy mhryder – tynnaf, tynnaf y ffoliglau arian, yn llwyr o’m mhen. Ac anodd iawn yw dianc, rhag crafangau creulon y caethineb.