RHIF 2
Ar Gyfer Pobl Ifainc + Llinellau Cymorth + Awgrymmau Hunain-Gofal + Sut i Gadw’n ddiogel ar-lein + Ymdopi â Gorbryder + Deall Iechyd Meddwl
Crewyd gan Fforwm Ieuenctid Merthyr Tudful, Clwb Leuenctid Georgetown a Tyfu a Datblygu
UP AND COMING - Rhif 2
Llinellau Cymorth a Gwybodaeth “Mae angen i mi siarad â rhywun nawr.” Childline Help a chyngor ar unrhyw fater, i bobl ifanc hyd at 19 mlwydd oed. Llinell Gymorth: 0800 111 (Rhadffôn 24 awr) Y Samariaid Ar gyfer y rhai mewn gofid neu sy’n cael trafferth ymdopi. Llinell Gymorth: 116 123 (Rhadffôn 24 awr) Gwefan: samaritans.org E-bost: jo@samaritans.org Os ydych mewn gofid difrifol, trefnwch apwyntiad brys gyda’ch meddyg, ffoniwch y GIG ar 111, neu ewch i’ch adran damweiniau ac achosion brys lleol.
Iechyd Meddwl
Housing and Money Problems
Mind Gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, triniaethau a chyngor cyfreithiol. Llinell Wybodaeth: 0300 123 3393 (9am-6pm, heblaw gwyliau banc) Testun: 86463 Gwefan: mind.org.uk E-bost: info@mind.org.uk
Shelter Cyngor ar Dai a Dyled. Gwefan: sheltercymru.org.uk Ffôn: 0345 075 5005 (Llun-Gwener 9.30am-4pm). E-bost: emailadvice@sheltercymru.org.uk neu defnyddiwch y ddolen ar-lein
Young Minds Gwybodaeth i bobl ifanc ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl. Llinell Gymorth am ddim i Rieni: 0808 802 5544 (Llun-Gwener 9.30am-4pm) Gwefan: youngminds.org.uk
Cyngor ar Bopeth Gwasanaethau cynghori a chyfeirio ar gyfer pobl â phroblemau arian, budd-daliadau, tai neu gyflogaeth; neu bobl sydd angen help gyda chyngor cyfreithiol neu broblemau iechyd. Cymerwch gip ar ein gwefan neu ffoniwch Linell Weinyddu Cyngor ar Bopeth i gael gwybodaeth am eich canolfan galw heibio agosaf. Gwefan: citizensadvicemt.org.uk Llinell Gyngor: 03444 772020 neu 0300 456 8356 Llinell Ffôn Weinyddol: 01685 382188 (i drefnu apwyntiad) Cyfeiriad ein Prif Swyddfa: 1 Post Office Lane, Merthyr Tudful, CF47 8BE
Hafal Cyfeirio’r rhai â chyflyrau iechyd meddwl a’u gofalwyr at gymorth. Ffôn: 01792 816 600 (9am-5pm) Gwefan: hafal.org E-bost: sam.hewitt@hafal.org Merthyr and the Valleys Mind Canolfan galw heibio am wybodaeth a chyngor. Cyfeiriad: (9am-3pm): 107 Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF47 8AP Gwefan: matvmind.org.uk Ffôn: 01685 353 944 E-bost: info@matvmind.org.uk CAMHS Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed y GIG Bydd angen i ofalwr, athro, rhiant neu Feddyg Teulu eich atgyfeirio i gael asesiad. B-eat Gwybodaeth a chymorth i’r rhai ag anhwylderau bwyta. Ffôn: Llinell Gymorth: 0808 801 0677; Llinell Ieuenctid: 0808 801 0711 (4pm-10pm) Gwefan: b-eat.co.uk E-bost: fyp@b-eat.co.uk (o dan 18); help@b-eat.co.uk (dros 18)
“Y peth dewraf wnes i oedd parhau i fyw pan oeddwn i eisiau marw.” Juliette Lewis, Actor.
Hearing Voices Network I bobl sy’n clywed lleisiau, yn gweld pethau neu’n amgyffred pethau mewn ffordd anghyffredin. Gwefan: hearing-voices.org Ffôn: 0114 271 8210 E-bost: nhvn@hotmail.co.uk No Panic Gwybodaeth a chymorth i’r rhai ag anhwylderau gorbryder. Gwefan a gwasanaeth sgwrsio ar-lein: nopanic.org.uk Llinell Gymorth: 0844 967 4848 (10am-10pm) Llinell Gymorth Ieuenctid 0330 606 1174 (ar gyfer pobl ifanc 13-20 oed, Llun-Gwener 3pm-6pm) DASPA Un Pwynt Mynediad i Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Cwm Taf. Cyfeirio, hunanreoli a hyfforddiant adfer. Llinell atgyfeirio: 0300 333 0000 E-bost: daspa@daspa.org.uk Twitter: @SORTEDCYMRU
2
www.smt.org.uk
UP AND COMING - Rhif 2
Cynnwys: Tudalen 4
PECYN CYMORTH CYNTAD IECHYD MEDDWL Darganfyddwch pam a sut wnaethom ni wneud y cylchgrawn hwn.
Tudalen 5
Teimlo’n Dda?
Tudalen 12
Astudiaeth Achos: Amy Winehouse Y gantores enwog a oedd yn dioddef o iselder mewn ffordd hynod gyhoeddus.
Tudalen 13
Deall Gorbryder Ydy eich teimladau pryderus yn eich llethu ac yn eich atal rhag gwneud pethau o ddydd i ddydd? Gwybodaeth am orbryder a chyngor ar sut i’w reoli.
Cyngor ar sut i ofalu am eich lles a’ch iechyd meddwl.
Tudalennau 6 - 7
Y Myth Prydferthwch Ydych chi’n teimlo dan bwysau i gael delwedd arbennig? Dyma gip drwy hanes sy’n edrych ar yr hyn a ystyriwyd yn brydferth o ran dynion a menywod, a lle i ddod o hyd i help yn ymwneud â bwlio ac anhwylderau bwyta.
Tudalennau 8 - 9
Grid Lles
Gweithgaredd hwyliog i reoli eich lles a’ch iechyd meddwl.
Tudalennau 10 - 11
Bywyd Ar-lein Ffyrdd o amddiffyn eich hun ar gyfryngau cymdeithasol wrth rannu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd yn y byd ar-lein.
Tudalen 14
Astudiaeth Achos: Heath Ledger Trafod materion iechyd meddwl yr actor a pham, yn ystadegol, y mae gan ddynion iechyd meddwl gwael.
Tudalen 15
Natur neu Fagwraeth Ydych chi’n cael eich geni fel hyn? Ymchwilio i pam y gallai fod gennym iechyd meddwl cadarnhaol neu wael.
Tudalen 16
Diffiniadau o Iechyd Meddwl Canllaw sylfaenol i’r holl dermau anodd.
Amdanom Ni Pobl ifanc o ardal Merthyr Tudful ydym ni sy’n rhan o brosiect Tyfu a Datblygu a Fforwm Bwrdeistref Merthyr Tudful. Rydym yn cwrdd unwaith yr wythnos yng Nghlwb Ieuenctid Georgetown lle y datblygwyd y prosiect hwn; aethom ati i arwain y trafodaethau, ymchwilio i’r testunau, ysgrifennu’r erthyglau, a chreu’r gwaith celf ar gyfer y cylchgrawn hwn. Cyfranwyr: Ashleigh Davies, Lauren Davies, Leila Davies, Evan Davis, Morgan Ellis, Jennifer Owen, Shauna-Leigh Llewellyn, Ethan Scriven, Kaitlin Sutton, Hollie Symmonds, Ellis Thomas, Matthew Webb, Josh Williams, Ryan Crowley. Gyda chefnogaeth: Maxine Ridge, Jamie Scriven, Tom Stupple, Janice Watkins Diolch hefyd i: Susan Vaughan a’i thîm yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Darrell Clarke o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf am roi o’u hamser i roi adborth a chyfarwyddyd i ni ar gynnwys y cylchgrawn. Diolch yn arbennig hefyd i Bartlett a’r tîm yng Nghlwb Ieuenctid Georgetown – ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth chi. www.smt.org.uk
Cylchgrawn wedi’i dylunio gan: Joy Creative | www.joycreative.org Merthyr Tudful Mwy Diogel Voluntary Action Centre 89-90 Pontmorlais Merthyr Tydfil CF47 8UH Rhif Elusen Gofrestredig: 1062150 Rhif Cofrestredig: 3361902 Ffon: (01685) 353999 Ffacs: (01685) 353990 BUDDSODDI MEWN MERTHYR MWY DIOGEL
3
UP AND COMING - Rhif 2
Pecyn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Mae pobl ifanc ledled Cymru yn pryderu nad oes digon o wybodaeth neu gyfarwyddyd ar gael i annog iechyd meddwl cadarnhaol. Bydd 1 o bob 4 ohonom yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ryw adeg neu’i gilydd. I rai ohonom, mae problemau iechyd meddwl yn dechrau o ganlyniad i fwlio, pwysau gan gyfoedion, perthynas yn chwalu neu ddigwyddiad trawmatig. Nod y cylchgrawn hwn yw ein helpu i ddeall iechyd meddwl, sicrhau iechyd meddwl cadarnhaol drwy ddarparu cyngor a syniadau defnyddiol, ac awgrymu beth i’w wneud os byddwn yn datblygu iechyd meddwl gwael. Mae pedair prif neges rydym eisiau eu rhannu gyda chi:
#2
#1 MAE’N IAWN TEIMLO NAD YW POPETH YN IAWN
DYDYCH CHI DDIM AR EICH PEN EICH HUN
Gall bywyd fod yn anodd, yn ddryslyd, yn llawn straen, yn unig ac yn heriol, ac yn aml mae hyn hyd yn oed yn waeth wrth i chi dyfu i fyny. Nid yw bywyd bob amser yn fêl i gyd, byddwch yn wynebu amseroedd anodd, ac nid oes rhaid i chi esgus bod popeth yn iawn bob amser.
Os ydych chi’n mynd drwy gyfnod anodd, yn teimlo’n isel eich ysbryd, yn bryderus, yn ofnus, yn grac neu ar goll, gall y byd deimlo’n lle unig iawn. Cofiwch, beth bynnag y sefyllfa, mae’n debyg nad chi yw’r unig berson sy’n teimlo fel hyn a dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
#4
#3 SIARADWCH Â RHYWUN
ADNABOD EICH HUN
“Pe gallwn roi un darn o gyngor i bobl ifanc eraill, byddwn yn dweud – peidiwch â chuddio sut rydych yn teimlo â’i gadw’n gyfrinach!”
Weithiau mae’n anodd iawn deall beth sy’n mynd ymlaen yn fy mhen fy hun hyd yn oed.”
Weithiau dyma’r cam mwyaf a gall deimlo’n anhygoel o anodd, ond weithiau gall siarad â rhywun newid sut rydych yn teimlo’n gyfan gwbl. Gall fod yn ffrind, aelod o’r teulu, gweithiwr ieuenctid, athro ysgol, llinell gymorth neu weithiwr iechyd proffesiynol, ond dewch o hyd i’r person cywir a dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi’n teimlo a beth sy’n mynd ymlaen.
Y mwyaf yr ydym yn ei ddeall am ein meddyliau a’n teimladau ein hunain, y gorau y gallwn ddelio â sefyllfaoedd anodd. Mae adnabod beth sy’n gallu achosi i chi deimlo’n waeth a beth sy’n helpu i’ch cynnal yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir ac yn allwedd i feithrin iechyd meddwl cadarnhaol.
"Mae pob artist gwych yn tynnu o'r un adnodd: y gallon ddynol, sy'n dweud ein bod n ii gyd yn fwy tebyg nag yr ydym ni'ri ddiddiwedd" Bardd a gweithredydd hawliau sifil,
Maya Angelou. 4
www.smt.org.uk
UP AND COMING - Rhif 2
Teimlo'n Dda?
O ran iechyd meddwl, yn aml y man cychwyn gorau yw hunanofal. Un o’r ffyrdd gorau o ddechrau yw adnabod y pethau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda, ac ambell beth sydd ddim yn gwneud i ni deimlo’n dda. Dyma rai o’n hawgrymiadau ar gyfer datblygu iechyd meddwl
Ysgrifennu Dyddlyfr
Technegau Ymlacio Tynhau a Rhyddhau
Gwnewch gofnod o’r adegau pan fyddwch yn teimlo’n dda neu’n wael. Sut ydych chi’n teimlo ar ôl gweithgareddau neu fwydydd penodol, ar wahanol adegau o’r mis, pan mae’n rhaid i chi fynd i ddosbarth arbennig neu i weld person arbennig?
Eisteddwch neu gorweddwch yn rhywle sy’n gyfforddus a distaw. Tynhewch bob rhan o’ch corff, yna ymlaciwch y rhan honno o’ch corff, gan ddechrau gyda’ch traed, wedyn croth y goes, wedyn eich cluniau, gan symud i fyny’r corff at eich wyneb. Treuliwch ychydig eiliadau mewn tawelwch. Dewch â’r broses i ben, drwy ddechrau symud eich bysedd a bysedd eich traed ac yna ymestyn eich corff a dylyfu gên.
Llyfr Bach yn Llawn Meddyliau Cadarnhaol Prynwch lyfr nodiadau a phob tro y bydd rhywbeth da yn digwydd, neu pan fyddwch yn darllen brawddeg sy’n eich ysbrydoli, neu pan gewch eich canmol, gwnewch nodyn ohono yn eich nodiadur. Ar gyfnodau pan fyddwch yn teimlo ychydig yn isel, gallwch estyn eich llyfr a darllen yr holl bethau hyfryd rydych chi wedi’u hysgrifennu.
Mis o Hapusrwydd Casglwch dri deg darn o bapur ac ysgrifennwch rywbeth braf rydych chi’n hoffi’i wneud, er enghraifft: “bwyta bar o siocled,” “gwneud smwddi,” “cerdded i’r parc,” “darllen,” “canmol rhywun yn ddidwyll,” “rhoi arian mân i elusen.” Rhowch y darnau papur mewn bocs neu jar. Dewiswch un darn o bapur bob dydd a neilltuwch amser i chi eich hun.
Ymarfer Anadlu i Ymlacio I gychwyn, caewch eich llygaid os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hyn. Anadlwch i mewn am 4 eiliad ac yn allan am 4 eiliad. Ar ôl i chi wneud hyn sawl gwaith, cynyddwch i 5 eiliad... cymerwch anadl ddofn i mewn am 5 eiliad ac anadlwch allan am 5 eiliad. Gallwch gynyddu’r amser/eiliadau cyhyd â’i fod yn gyfforddus, hyd at uchafswm o 8 eiliad. Wedyn ewch am yn ôl am 8,7,6,5 eiliad nes eich bod yn cymryd anadl ddofn i mewn am 4 eiliad ac yn anadlu allan am 4 eiliad.
Delweddu Golau i Ymlacio Bob bore, yn y gawod, dychmygwch belen aur o olau yn eich dwylo. Trowch y belen yn eich dwylo. Teimlwch ei phŵer cadarnhaol a’i gwres. Gadewch i’r golau dreiddio drwy eich dwylo gan lenwi eich corff, symud ar hyd eich breichiau, hyd at eich corun, drwy eich corff ac i lawr at fysedd eich traed. Rydych yn teimlo’n hapus ac yn bositif. Mae’r dŵr o’r gawod uwch eich pen yn tasgu golau aur arnoch chi, a chaiff unrhyw deimlad negyddol, tywyllwch a thristwch, ei olchi i ffwrdd gan y golau.
Jar Adolygu Cadwch jar wag yn eich ystafell. Pan gewch chi syniad sy’n peri pryder i chi, neu os oes gennych gwestiwn nad ydych chi’n gallu ei ateb, gwnewch nodyn ohono ar ddarn o bapur a’i roi yn y jar. Yn ddiweddarach, gallwch ddychwelyd at y syniad ac efallai y byddwch mewn sefyllfa i ddod o hyd i’r ateb.
"Os nad yw cynllun A yn gweithio, mae gan yr wyddor 25 o lythrennau arall - 204 arall os ydych yn Japan." Awdur,
Claire Cook. www.smt.org.uk
5
UP AND COMING - Rhif 2
Y Myth
Prydferthwch Mewn astudiaeth ddiweddar o safleoedd cyfryngau cymdeithasol, darganfuwyd bod defnyddwyr yn pryderu mwy am eu pwysau a siâp eu corff y mwyaf o amser yr oedden nhw'n ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn byw mewn byd o hun-luniau a chyfryngau cymdeithasol ac mae'n anodd peidio ag edrych arnoch chi eich hun yn feirniadol yn y drych a chymharu ein hun â'r delweddau rydym yn eu gweld ar lein. Ond mae'n werth cofio bod safonau prydferthwch yn newid yn gyson, o wlad i wlad, a thrwy hanes.
Hanes Prydferthwch Menywod Prydferth Drwy gydol hanes, i fenywod cyfoethog a thlawd fel ei gilydd, mae menywod â siâp llawnach wedi bod yn gysylltiedig â ffrwythlondeb a’r gallu i gael plant, felly mae ffasiwn o ran prydferthwch menywod wedi amrywio dros amser, o ran lliw gwallt, colur a dillad. Yr Eglwys oedd canolbwynt y gymdeithas ganoloesol ym Mhrydain (5ed-15fed Ganrif) a byddai menywod yn lliwio eu gwallt yn ddu oherwydd bod gwallt golau yn cael ei ystyried yn rhy bryfoclyd! Ond yn ystod oes Elizabeth (tua1400-1700), roedd yn ffasiynol cael gwallt golau neu wallt coch. Y dyddiau hyn rydym wrth ein bodd â lliw haul o botel, ond yn ystod oes Elizabeth, roedd yn ffasiynol cael croen gwyn fel porslen. Byddai menywod cyfoethog hyd yn oed yn rhoi deunydd a oedd yn cynnwys plwm gwyn gwenwynig ar eu hwynebau er mwyn edrych yn ‘welw a diddorol’. Mae aeliau trwchus, amlwg yn ffasiynol heddiw, ond roedd yn well gan fenywod oes Elisabeth aeliau tenau, ar ffurf bwa a thalcen uchel, gan dynnu eu gwallt ar hyd llinell y gwallt er mwyn edrych yn fwy ffasiynol. Parhaodd yr olwg welw, eiddil hon dros y canrifoedd ond yn ystod oes Fictoria aeth pethau’n eithafol. Roedd y fenyw ddelfrydol yn ystod Oes Fictoria (1837-1901) yn byw bywyd mamol, yn y cartref. Roedd hi’n welw er mwyn dangos nad oedd hi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored yn yr haul, ac roedd hi’n fain ac yn eiddil gan nad oedd yn gwneud gwaith corfforol. Roedd menywod yn gwisgo corsed i wneud eu gwasg mor fach â phosibl ac roedd eu gwalltiau’n hir er mwyn iddynt ymddangos yn fwy benywaidd. Hyd yn oed yn ystod y can mlynedd diwethaf, mae’r delfrydau wedi newid dro ar ôl tro. Yn y 1920au roedd menywod eisiau corff bachgennaidd, redden nhw’n gwisgo dillad i guddio eu gwasg a’u bronnau, ac roedd ganddyn nhw steiliau gwallt bachgennaidd, byr a syth. Yn y 1930au-50au, roedd dylanwad Hollywood yn enfawr, gan sefydlu delfryd cyferbyniol o brydferthwch i ddynion a menywod a’u rôl mewn cymdeithas. Roedd sêr y ffilmiau, megis Marilyn Monroe, yn hyrwyddo corff siapus â gwasg bach. Yn y 1960au newidiodd y delfrydau eto! Ystyriwyd bod y fodel Twiggy, a oedd yn dal ac yn denau iawn, yn berffaith. Yn yr 1980au, roedd menywod eisiau bod yn dal ac yn denau o hyd, ond hefyd yn athletaidd a siapus, fel Cindy Crawford neu’r Dywysoges Diana. Roedd menywod hefyd eisiau lliw haul, er mwyn dangos eu bod wedi bod ar wyliau drud! 6
www.smt.org.uk
UP AND COMING - Rhif 2
Dynion Golygus Mae siâp dynion wedi gorfod newid gyda’r oes hefyd. Yn yr Hen Fyd Clasurol (tua’r 8fed Ganrif CCC - 300OC) roedd cymdeithas eisiau i gorff dyn fod yn chwim ac ystwyth, yn hytrach na chryfder bôn braich. Roedd y dyn delfrydol yn weddol gyhyrog, heb fraster ar ei gorff, ac wedi datblygu’n gytbwys ar draws y corff oherwydd yn ystod y cyfnod byddai llawer o ddynion wedi bod yn rhan o’r fyddin ac yn gwisgo arfwisg lledr ysgafn. Byddai’r dynion cyhyrog yn ystod y Canol Oesoedd (5ed-15fed Ganrif) wedi bod yn fwy llydan, gyda’u hysgwyddau a rhan uchaf y corff yn arbennig o gyhyrog er mwyn gallu gwisgo arfwisg drom marchog. Fodd bynnag, i’r bobl gyfoethog, roedd bod dros bwysau yn beth dymunol, oherwydd roedd bod yn dew yn dangos eich bod yn gyfoethog. A pheidiwch ag anghofio am y coesau - roedd cael croth y goes cryf a chyhyrog yn golygu bod gennych amser ac arian i farchogaeth a hela, sef arwydd o gyfoeth. Parhaodd y ffasiwn o fod yn ordew am yr ychydig ganrifoedd nesaf, a dim ond yn ystod Oes Fictoria y daeth brest gul yn nodwedd aristocrataidd rhywun o statws uwch; byddai brest gyhyrog a llydan yn arwydd o ddyn a oedd yn gweithio yn y caeau. Yn ystod Oes Aur Hollywood (1930au-50au), daeth y corff mwy cyhyrog yn ôl i ffasiwn. Roedd angen i actorion fod yn denau ac yn heini oherwydd y syniad bod ‘y camera yn ychwanegu deg pwys’. Yn ddiweddarach, yn yr 80au, corff cyhyrog gyda lliw haul oedd y norm ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn y 90au, roedd golwg ‘Grunge’ a ‘Heroin-chic’ yn ffasiynol, ac roedd dynion eisiau edrych yn dal, yn denau, yn fregus ac ychydig yn flêr!
Mae safonau prydferthwch wedi newid cymaint! Gallwn weld nad yw delfryd prydferthwch wedi bod yn gyson ac felly os nad ydych yn cyd-fynd â syniadau heddiw ynglyn â 'phrydferthwch' efallai ei fod yn gysur i chi wybod y bydd y cyfnod presennol - a'r ddelfryd gyfatebol - yn dod i ben ac yn newid. Dylem werthfawrogi ein cyfansoddiad genetig a mwynhau'r hyn a roddwyd ni! Mae'r erthygl hon yn dangos er bod syniadau am brydferthwch yn newid, rydym yn gwybod mai rhinweddau eraill fel dewrder, talent a charedigrwydd sy'n sefyll prawf amser.
“Rwy’n cael fy mwlio oherwydd y ffordd rwy’n edrych, beth alla i ei wneud?” Mae’n ymddangos bod y pwysau i gael delwedd arbennig yn dod o bobman: teledu, cyfryngau cymdeithasol, cylchgronau, a hyd yn oed ein cyfoedion. Yn 2016, dangosodd astudiaeth Ymgysylltu ag Ieuenctid lleol bod 41% o bobl ifanc wedi cael eu bwlio, a bod traean o’r bobl ifanc hyn wedi cael eu bwlio ynglŷn â’u maint neu eu siâp. Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich bwlio:
“Rwy’n credu bod gen i anhwylder bwyta.” Mae gan 1.6 miliwn o bobl yn y DU anhwylder bwyta, ac mae’r mwyafrif o’r rhain rhwng 14 a 25 mlwydd oed. Y rhai sydd fwyaf tebygol o wella yw’r rhai sy’n gofyn am help yn gynnar. Rhoddir cymaint o bwyslais ar sut mae pobl yn edrych mewn ffilmiau, ar draws y cyfryngau cymdeithasol, mewn cylchgronau, nes ei fod yn gallu gwneud i chi deimlo bod cysylltiad rhwng sut mae rhywun yn edrych a rhinweddau cadarnhaol, megis iechyd a llwyddiant. Gall anhwylderau bwyta deimlo fel eu bod yn gysylltiedig â sut mae rhywun yn edrych ond yn aml mae gwraidd y broblem yn gysylltiedig â digwyddiad llawn straen neu drawma, megis: cam-drin corfforol neu rywiol, bwlio, pwysau yn yr ysgol, neu broblem deuluol megis rhieni’n ysgaru. Mae problemau bwyta hefyd yn datblygu’n aml ar yr un pryd â newidiadau mawr yn eich bywyd, megis: y glasoed, mynd i ysgol newydd, neu ddeall eich rhywioldeb. Efallai bod aelodau eraill o’r teulu ar ddeiet, yn gorfwyta neu’n dioddef o broblem bwyta, a gall hyn gael effaith arnoch hefyd.
•
Mae angen i chi ddilyn eich greddf: nid yw ffrindiau yn bwlio. Dewiswch fod yng nghwmni pobl garedig;
•
Ymunwch â chlwb fel clwb chwaraeon, crefft ymladd, neu gelf, lle y gallwch wneud ffrindiau, datblygu eich hyder a disgleirio;
Mae bwyd yn dod yn ffordd o gael mwy o reolaeth dros eich bywyd. Os ydych yn teimlo bod gennych anhwylder bwyta:
•
Cofiwch edrych ar y darlun mawr. Haws dweud na gwneud ond efallai y byddwch yn teimlo’n well o wybod bod bwlis yn aml yn chwilio am sylw ac yn pigo ar bobl eraill er mwyn cuddio eu problemau a’r ffaith eu bod yn teimlo’n annigonol;
•
Dywedwch wrth rywun: aelod o’r teulu, ffrind, gweithiwr cymdeithasol, athro neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw
•
Ffoniwch linell gymorth (gweler tudalen gyntaf y cylchgrawn hwn);
•
Ewch at eich meddyg;
•
Darllenwch mind.org.uk i gael help a chyngor;
•
Defnyddiwch ymwybyddiaeth ofalgar neu dechnegau ymlacio – rydym wedi cynnwys un neu ddau o’r rhain yn ein cylchgrawn;
•
Dewch o hyd i ffordd o newid eich trefn ddyddiol er mwyn torri arferion drwg;
•
Meddyliwch am nodau cadarnhaol sydd ddim yn ymwneud â sut rydych chi’n edrych neu fwyta.
•
Gofynnwch am help: dywedwch wrth aelod o’r teulu, ffrind, gweithiwr cymdeithasol, athro neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw;
•
Cymerwch gip ar ein tudalen cyfryngau cymdeithasol yn y cylchgrawn hwn am gyngor ar sut i fod yn ddiogel ar lein;
•
Cymerwch gip ar www.bullying.co.uk i gael cyngor.
"Mae prydferthwch yn dechrau y foment rydych chi'n penderfynu credu ynoch chi eich hun." Cynllunydd ffasiwn eiconig, www.smt.org.uk
Coco Chanel.
7
UP AND COMING - Rhif 2
Grid Lles Os byddwn yn torri ein bys wrth goginio, byddwn yn gwisgo plastr. Os byddwn yn torri ein coes yn ystod gêm, byddwn yn mynd i'r ysbyty. Rydym yn ceisio bwyta'n iach a gofalu am ein cyrff gan ein bod eisiau cadw'n iach yn gorfforol, felly efallai y dylem feddwl yn yr un ffordd am ein hiechyd meddwl. Pan fydd meddyg yn rhoi cast plastr a chyffuriau lleddfu poen i ni ar gyfer y goes sydd wedi torri, rydym yn gwybod nad yw’r doctor yn gwau ein hesgyrn a’n gewynnau at ei gilydd er mwyn gwella’r goes; ac os bydd gwendid yn y goes yn y dyfodol, bydd rhaid i ni addasu’r ffordd rydym yn byw i aros yn iach. Yn yr un modd, rydym wedi dod i ddeall nad ydym bob amser yn gallu mynd at y meddyg a disgwyl iddyn nhw wella ein cyflyrau iechyd meddwl gydag un ateb; gyda help proffesiynol, mae’n rhaid i ni geisio cadw ein hiechyd meddwl cadarnhaol ein hunain. Mae’r grid hwn yn ffordd ddefnyddiol o adolygu sut rydych yn teimlo a gweld lle gallwch .chi ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol. Pan fyddwn yn cael trafferth ymdopi, weithiau mae’n anodd dilyn unrhyw strwythur. Mae’n beth da adolygu sut rydym yn ymdopi ac edrych i weld a allwn wella.
Beth ydych chi'n ei wneud i deimlo'n hapus? Chwarae gyda fy nith a fy nai
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Ioga
Cymdeithasu Chwarae cerddoriaeth
Coginio
Cerdded yng nghefn gwlad
Darllen Chwarae pêl-droed Haul
Edrych ar yr awyr Gorwedd ar y llawr a chau fy llygaid
8
Gwylio cyfres deledu, un ar ôl y llall Gwylio comedi
Crio er mwyn ‘gadael popeth mas’ Siarad â fy nheulu
Mynd allan gyda fy ffrindiau
Mynd i’r bingo
www.smt.org.uk
UP AND COMING - Rhif 2
Bwyta
Ffrindiau
Hwyl a Gweithgareddau
Dysgu ac Addysg
Cysgu
Sut mae pethau'n mynd?
Beth alla i ei wneud i wella pethau?
Pa gymorth sydd ei angen arnaf?
Pryd fydda i'n gwneud hyn? (dyddiad / amser)
"Mae pawb yn athrylith. Ond os ydych yn barnu pysgodyn ar ei allu i ddringo coeden, bydd yn byw ei holl fywyd yn credu ei fod yn dwp." Ffisegwr damcaniaethol ac athronydd,
Albert Einstein. www.smt.org.uk
9
UP AND COMING - Rhif 2
Bywyd
Ar-lein Rhestr Wirio er mwyn bod yn Ddiogel Ar Lein Mae pawb yn defnyddio llwyfannau cymdeithasol fel Facebook, Snapchat, Instagram a Twitter. Gydag adroddiadau bod bwlio ar-lein yn cynyddu, sut allwn ni gadw ein hunain yn ddiogel ar lein? Os oes rhywun yn eich bwlio chi neu’n anfon negeseuon amhriodol atoch chi, gallwch: • Eu dad-ddilyn; • Eu dileu fel ffrind; • Eu blocio; • Gwneud cwyn amdanynt – beth petaent yn gwneud hyn i eraill? • Spam – fel nad yw’n bosibl iddyn nhw gysylltu â chi; • Dywedwch wrth ffrind neu oedolyn fel bod rhywun arall yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd; • Soniwch amdanyn nhw wrth rywun mewn awdurdod megis athro neu’r heddlu.
Cadwch yn ddiogel: • PEIDIWCH â rhannu gwybodaeth gyfrinachol ar lein, megis eich cyfeiriad, rhif ffôn, yr ardal lle rydych yn byw, manylion banc neu ysgol. • Newidiwch eich gosodiadau er mwyn gwneud eich tudalen proffil yn breifat fel mai dim ond eich ffrindiau sy’n gallu gweld eich tudalen. Mae hyn yn ymarfer da ar gyfer yr adeg pan fyddwch yn dechrau gweithio. • Peidiwch ag adio neu dderbyn unrhyw un nad ydych yn ei adnabod. Mae digon o dudalennau i siarad â phobl debyg mewn lleoliad cyhoeddus.
Delweddau Anweddus Mae’n hawdd bod yn ddoeth wrth edrych yn ôl. Roedd yn ymddangos yn syniad da ar y pryd ond nawr mae’n taenu cwmwl du dros eich bywyd. Os oes gan rywun fideo neu ddelwedd amhriodol ohonoch chi ac yn ei rhannu gyda phobl arall neu’n bygwth ei rhannu yn erbyn eich ewyllys, mae hyn yn ANGHYFREITHLON. Dywedwch wrth oedolyn, cysylltwch â Childline ar radffôn 0800 1111, neu ffoniwch yr heddlu ar 101. Fyddan nhw ddim yn eich barnu, maen nhw eisiau eich cadw chi’n ddiogel. Mae hefyd yn anghyfreithlon i unrhyw un o UNRHYW OED: • Rannu llun neu fideo anweddus o berson ifanc DAN 18, hyd yn oed os ydynt yn ei rannu â rhywun o’r un oed; • Creu, lawrlwytho, neu gadw llun neu fideo anweddus ohonohc chi eich hun neu berson ifanc arall neu bod â llun neu fideo o’r fath yn eich meddiant – hyd yn oed os yw’r person ifanc wedi cytuno iddo gael ei greu.
Peidiwch â rhannu lluniau o rywun rydych chi'n ei adnabod oherwydd bod pawb arall wrthi! Gallwch gael eich rhoi ar gofrestr troseddwyr rhyw. Byddwch yn fugail, nid dafad. 10
Awgrym
Cymerwch seibiant o’r cyfryngau cymdeithasol yn awr ac yn y man. Ydy’r bobl ar eich Rhestr Ffrindiau yn bobl rydych yn eu hadnabod go iawn? Cofiwch, gallwch ‘ddad-ddilyn’ pobl negyddol heb orfod eu ‘dileu’ fel ffrind.
Awgrym
Mae gan wefannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook algorithmau, felly pan fyddwch yn clicio ar straeon newyddion arbennig mae’n parhau i ddangos yr un math o erthyglau i chi. Felly, os yw fideos doniol o gathod yn gwneud i chi chwerthin, a straeon newyddion am droseddau yn eich gwneud chi’n drist, dewiswch beth rydych chi’n ei glicio’n ofalus a dewiswch y pethau sy’n eich gwneud chi’n hapus. www.smt.org.uk
UP AND COMING - Rhif 2
Ein meddyliau ar gyfryngau cymdeithasol “Weithiau, rwy’n teimlo bod y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o ymestyn allan at bobl os ydych chi’n teimlo’n ddigalon. Mae rhywun yna i gael sgwrs neu sy’n teimlo’r un fath.”
“Roedd yna stori am fechgyn ar daith ysgol gymerodd fideo o’u ffrind yn y gawod, heb iddo wybod. Cafodd y fideo ei anfon at eu holl ffrindiau, hyd yn oed y rhai oedd yn ôl adref. Yn y bore, cawson nhw eu hanfon adref ar yr awyren nesaf ac erbyn hyn maen nhw ar y gofrestr troseddwyr rhyw.”
“Weithiau mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i chi deimlo’n waeth, o weld sut mae bywydau pawb arall yn edrych yn well na’ch bywyd chi.” “Os ydy pobl wedi mynd allan hebddoch chi, gallwch ei weld ar bob llwyfan cyfryngau cymdeithasol, a gallwch weld yn union i ble yr aethon nhw a phwy oedd gyda nhw. Mae’n llawer anoddach anghofio am y byd tu allan, ac mae ffordd hollol newydd bellach i ddangos eich bod chi wedi cael eich gadael allan.”
“Pan fyddaf yn ddig ac eisiau ymateb i sylwadau ar-lein, rwy’n ceisio cofio mai dim ond pethau y byddwn i’n hapus i fy ffrindiau a’m teulu eu clywed rwy’n eu postio!”
“Rwyf wedi clywed cymaint o straeon am bobl yn ffugio bod yn rhywun arall ar lein.”
“Weithiau rwy’n teimlo bod pobl yn chwilio am sylw ar lein; yn postio statws ynglŷn â pha mor wael maen nhw’n teimlo, neu am fod rhywun wedi peri gofid iddyn nhw ond nid ydyn nhw mewn gwirionedd yn wynebu’r person sydd wedi peri’r gofid. Mae’n oddefolymosodol.”
“Rwy’n teimlo bod rhai pobl ifanc yn gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol ac mae’n effeithio arnyn nhw’n gymdeithasol, yn feddyliol ac yn gorfforol.”
“Dydy’r ffordd y mae pobl yn ymddwyn ar y cyfryngau cymdeithasol ddim yn real: maen nhw ond yn postio lluniau penodol, maen nhw’n defnyddio hidlyddion, maen nhw’n siarad am y pethau da sy’n digwydd iddyn nhw. Dydy’r bobl hyn yn ddim postio pob agwedd ar eu bywydau, y da a’r drwg.”
"Byddwch yn dod o hyd i hapusrwydd pan fyddwch yn rhoi'r gorau i gymharu eich hun â phobl eraill." Anhysbys
www.smt.org.uk
11
UP AND COMING - Rhif 2
Astudiaeth Achos: Amy Winehouse "Rwy'n dioddef o iselder, am wn i. Sydd ddim mor anghyffredin â hynny. Mae llawer o bobl yn dioddef iselder." Amy Jade Winehouse (1983-2011) Iselder manig, anhwylder deubegynol, anhwylder bwyta, hunan-niweidio, camddefnyddio alcohol a chyffuriau Yn 13 mlwydd oed, aeth Amy Winehouse i Ysgol Theatr Sylvia Young yn Llundain sy’n ysgol ag iddi enw da iawn. Yn ei harddegau, roedd adroddiadau ysgol Amy yn dweud nad oedd hi’n gwneud llawer o ymdrech gyda’i gwaith. Roedd hi’n wrthryfelgar, wedi tyllu ei thrwyn ac doedd hi ddim yn gwisgo’r wisg ysgol gywir. Hyd yn oed bryd hynny, dywedodd ei hathrawon ei bod hi’n dangos arwyddion o gyflwr meddwl cythryblus a ddatblygodd yn ddiweddarach yn salwch meddwl. Roedd yna ddigwyddiadau teuluol a oedd o bosibl wedi gwaethygu ei hiechyd meddwl, megis ei rhieni’n gwahanu pan oedd hi’n 9 mlwydd oed a salwch hir ei mam drwy gydol plentyndod Amy (canfuwyd bod gan ei mam Sglerosis Ymledol pan oedd Amy yn 19 oed). Rhoddwyd cytundeb recordio i Amy pan oedd hi’n 19 mlwydd oed. Roedd gan Amy steil nodedig, gyda gwallt mawr siâp cwch gwenyn a llinell ddu drwchus eiconig o amgylch ei llygaid. Enwebwyd ei halbwm gyntaf Frank am Wobr Mercury. Enillodd ei hail albwm, Back to Black, bum Gwobr Grammy, tair Gwobr Ivor Novello, a Gwobr Brit. Cafodd ganmoliaeth gan adolygwyr ac artistiaid cerddorol eraill ond yn aml roedd ei bywyd personol yn bwrw cysgod dros ei thalent. Roedd yn rhedeg oddi ar y llwyfan i chwydu yn ystod perfformiadau, dro arall nid oedd yn troi i fyny ar gyfer sioeau, a chanslwyd teithiau. Cyrhaeddodd un o’r prif seremonïau gwobrwyo a oedd yn cael ei darlledu wedi meddwi cymaint fel nad oedd yn gallu perfformio. Yn 2007, dywedodd ei chyn-athro: “Gallai fod yn un o’r mawrion. […] Yn anffodus, mae perygl y bydd Amy yn fwy adnabyddus am ei bywyd personol na’i doniau cerddorol cynhenid.” Dywedodd Amy mewn cyfweliad: “Rwy’n un o’r bobl yma sy’n meddwl os na allwch chi ddatrys rhywbeth eich hun, ni all neb eich helpu. Mae therapi adsefydlu yn grêt i rai ond nid i eraill.” Yn anffodus, o ganlyniad i berthynas dymhestlog Amy a’r ffaith ei bod yn ceisio ymdopi â’i chyflwr gyda chyffuriau ac alcohol, aeth i goma ym mis Awst 2007. Cymysgodd heroin, cocên, ecstasi, ketamine, wisgi a fodca. Mae’r cyfarwyddwr rhaglenni dogfen, Asif Kapadia, yn credu bod gan Amy Winehouse “afiechyd meddwl a niwed i’r ymennydd o ganlyniad i’r holl orddosau a ffitiau a gafodd dros y blynyddoedd. Effeithiodd hynny yn sicr ar ei hymennydd. Doedd hi ddim yn meddwl yn glir.” Bu farw Amy Winehouse ym mis Gorffennaf 2011 o ganlyniad i wenwyn alcohol damweiniol. Aeth Adele ac Amy i’r London BRIT School ac yn dilyn marwolaeth y gantores cymerodd Adele foment yn ystod cyngerdd i anrhydeddu Amy â’r geiriau: “Rwy’n teimlo fel fy mod yn ddyledus iddi am 90% o fy ngyrfa.” Mae Amy yn parhau i ysbrydoli pobl hyd heddiw, a bydd bob amser yn cael ei chofio am ei phersonoliaeth a’i cherddoriaeth wych.
"Nid oes unrhyw gywilydd o orfod delio â'r pethau hyn" Actor o'r gyfres 'Supernatural', Jared Padalecki Mae Amy Winehouse yn dangos y gallwch fod yn hynod lwyddiannus hyd yn oed os oes gennych salwch meddwl. Yn anffodus, nid oedd hi’n gallu rheoli ei hafiechyd, ond dyma restr o bobl lwyddiannus sydd wedi llwyddo i reoli eu hafiechyd: Canwr, Justin Bieber – ADHD.
Actor a chyfarwyddwr, Mel Gibson – anhwylder deubegynol.
Cantores, Adele – gorbryder.
Actor a digrifwr,, Russell Brand – bwlimia.
Cantores, Demi Lovato – bwlimia, hunan-niweidio.
Vlogger, Zoella – gorbryder.
Cantores ac actor, Selena Gomez – gorbryder, pyliau o banig, iselder. Pêl-droediwr, David Beckham – OCD. Canwr ac actor, Justin Timberlake – ADD, OCD.
Seiclwr Olympaidd a enillodd fedalau aur, Victoria Pendleton – OCD, hunan-niweidio, gorbryder.
Actor, Stephen Fry – anhwylder deubegynol, meddyliau hunanladdol.
Nofiwr Olympaidd a enillodd fedalau aur, Michael Phelps – ADHD.
Actor, Ryan Reynolds – gorbryder.
Ysgrifennwr, JK Rowling – iselder.
Actor, Leonardo DiCaprio – OCD.
Athrylith economaidd a mathemategol, John Nash (1928-2015) – sgitsoffrenia
Actor, Angelina Jolie – iselder, hunan-niweidio.
Cyd-sylfaenydd Apple Inc, Steve Jobs (1955-2011) – OCD
Actor, Halle Berry – meddyliau hunanladdol, iselder.
Sylfaenydd cwmni bwyd Heinz, Henry Heinz (1844-1919) – OCD
12
www.smt.org.uk
UP AND COMING - Rhif 2
Beth yw Gorbryder? Gorbryder yw poeni'n barhaus sy'n cynyddu i lefel mor afresymol fel nad ydych yn gallu ei reoli. Mae pawb yn pryderu neu'n poeni am bethau bob dydd, ond mae gwahaniaeth rhwng y teimlad arferol hwn a dioddef o orbryder, sef salwch meddwl sydd â diagnosis meddygol. Gall rhywun sy’n dioddef o hyn brofi gorbryder a phyliau o banig a all deimlo’n debyg i drawiad ar y galon. Efallai y bydd ganddynt symptomau corfforol megis teimlo’n sâl a chyfoglyd. Gall eraill deimlo tensiwn eithafol mewn rhannau eraill o’r corff. Os yw teimlad o orbryder yn dechrau cronni, dyma rai technegau i helpu:
1. Anadlu Rheoledig Mae anadlu yn ffordd wych o ganolbwyntio’r meddwl ac ymlacio. Ar y dudalen hon, mae gennym ymarfer syml fel man cychwyn.
2. Ymarfer Mae ymarfer corfforol yn ffordd ardderchog o ryddhau straen a gall arwain at ryddhau endorffinau, cemegau grymus yn yr ymennydd sy’n gwneud i ni deimlo’n hapusach. Os nad ydych wedi ymarfer ers amser maith gwnewch yn siŵr eich bod yn ei chymryd hi’n araf, rhag achosi straen neu anaf i chi eich hun.
3. Bod yng nghanol natur Profwyd bod treulio amser allan yn yr awyr agored mewn amgylchedd naturiol yn eich tawelu. Efallai eich bod yn ddigon ffodus i fyw wrth ymyl coedwig, ger y mynyddoedd neu lyn, ond gallwch fynd i’r parc lleol neu eistedd yn eich gardd. Dim ots os yw’r tywydd yn arw – gwisgwch ddillad cynnes sy’n dal dŵr!
Anadlu Rheoledig: Ailhyfforddi sut i Anadlu Anadlwch i mewn drwy’r trwyn ac allan trwy’r geg. Defnyddiwch anadlu o’r stumog wedi ymlacio: wrth i chi anadlu i mewn mae eich stumog yn gwthio allan ymhellach na’r frest ac wrth anadlu allan rydych yn tynnu’r stumog i mewn. • Anadlwch i mewn a meddyliwch “1.” • Anadlwch allan a meddyliwch “ymlacio.”
4. Ymwybyddiaeth Ofalgar
• Anadlwch i mewn a meddyliwch “2.”
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â chanolbwyntio ar y ‘presennol’ a byw yn y foment. Gallech roi cynnig ar fideos ar-lein neu ymuno â dosbarth ioga.
5. Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)
• Anadlwch allan a meddyliwch “ymlacio.” • Ailadroddwch hyd at 10 ac wedyn nôl lawr hyd at 1. • Gwnewch yr ymarfer ddwywaith y dydd.
Therapi siarad lle rydych yn gweithio â therapydd wedi’i hyfforddi i ymchwilio i’r hyn rydych yn ei feddwl a’r modd rydych yn ymddwyn. Gyda’ch gilydd byddwch yn adnabod ac yn herio patrymau meddwl ac ymddygiad negyddol.
"Weithiau y cam lleiaf yn y cyfeiriad cywir fydd cam mwyaf eich bywyd yn y pen draw. Symudwch ar flaenau eich traed os bydd raid, ond cymerwch y cam hwnnw." Gweinidog,
Naeem Callaway. www.smt.org.uk
13
UP AND COMING - Rhif 2
Astudiaeth Achos: Heath Ledger
"Pam mor ddifrifol?" Heathcliffe Andrew Ledger (1979-2008) Anhwylder gorbryder, insomnia, camddefnyddio cyffuriau presgripsiwn
Ganwyd yr actor Heathcliffe Andrew Ledger, a adnabyddir fel Heath Ledger, yn Awstralia ac aeth i fyw i’r Unol Daleithiau gyda’i ffrind yn 16 mlwydd oed gyda dim ond 69 sent yn ei boced er mwyn ceisio gwireddu ei freuddwyd i fod yn actor. Roedd Heath yn ŵr ifanc, golygus ac roedd yn poeni y byddai’n cael ei deipcastio fel pishyn ifanc, a fyddai’n cyfyngu ar ei gyfleoedd i fod yn enwog. Ceisiodd gael amrywiaeth eang o brofiadau actio drwy chwarae cymaint o rolau ffilm gwahanol â phosibl. O’i 19 ffilm, yr enwocaf oedd: Brokeback Mountain, The Patriot, A Knight’s Tale a 10 Things I Hate About You. Ei ran fwyaf heriol oedd ‘Joker’ yn y ffilm Batman, The Dark Knight. Mewn cyfweliad â’r New York Times yn 2007 cyfaddefodd Heath ei fod yn ei chael hi’n anodd cysgu: “Yr wythnos diwethaf mae’n siŵr fy mod wedi cysgu rhyw ddwy awr y noson ar gyfartaledd.” Yr awgrym yw bod chwarae rhan y Joker wedi bod yn anodd, a bod hyn, ynghyd â’i insomnia, wedi effeithio ar ei iechyd meddwl a’i les. Dechreuodd Heath gymryd tabledi cysgu, tabledi lleihau gorbryder a chyffuriau i leddfu poen ar bresgripsiwn. Ar 22ain Ionawr 2008, cymerodd Heath Ledger orddos o’i dabledi presgripsiwn yn ddamweiniol a bu farw. Ni chafodd y cyfle i weld y ganmoliaeth i’w rolau yn The Dark Knight a The Imagination of Doctor Parnassus. Enillodd Heath nifer o wobrau am y rhannau hyn ar ôl iddo farw. Mae Heath yn golled enfawr i’r diwydiant ffilmiau, ac roedd yn actor a ysbrydolodd cymaint o bobl.
Beth yw'r prif reswm dros farwolaethau dynion ifanc?
Dydych Chi Ddim ar eich Pen eich Hun.
Er y derbynnir yn gyffredinol mai gorddos damweiniol oedd achos marwolaeth Heath Ledger, yn anffodus mae’n gyffredin clywed am hunanladdiad dynion ifanc. Mae tri chwarter y rhai sy’n lladd eu hunain yn ddynion ac, yn syfrdanol, hunanladdiad yw’r prif reswm dros farwolaethau dynion ifanc o dan 35 mlwydd oed.
Wrth gwrs, allwn ni ddim stereoteipio pob dyn i’r categorïau hyn, ond mae tystiolaeth o astudiaethau (mind.org.uk) yn awgrymu nad yw dynion yn gallu ymdopi cystal â sefyllfaoedd llawn straen bywyd. Yn aml mae’r rhwydwaith cymdeithasol sydd gan ddynion i’w cefnogi yn fwy cyfyng, ac maen nhw’n llai parod i ofyn am help pan fydd ei angen arnynt.
Mae astudiaethau'n awgrymu bod: Dynion yn LLAI TEBYGOL o: • • •
Ddweud wrth ffrindiau a theulu os oes ganddynt broblem; Dweud wrth ffrindiau a theulu os ydynt wedi cael diagnsos o gyflwr iechyd meddwl; Gofyn am help proffesiynol yn syth ar ôl iddynt sylweddoli bod ganddynt broblem.
Mae dynion yn FWY TEBYGOL o: •
‘Hunanfeddyginiaethu,’ gan ddefnyddio alcohol neu gyffuriau i
deimlo’n well, yn hytrach na gofyn am help;
•
Gwneud yn waeth yn yr ysgol;
•
Cael eu gwahardd o’r ysgol;
•
Cysgu ar y stryd;
•
Cael eu hanfon i’r carchar.
Os ydych yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl, peidiwch â dioddef yn ddistaw! Bydd ein cylchgrawn yn cynnig syniadau i chi ynglŷn â sut i feithrin iechyd meddwl da a cheir nifer o rifau ffôn defnyddiol ym mlaen y cylchgrawn.
"Gollyngwch eich llais yn rhydd. Peidiwch â bod yn ddistaw. Rydych yn brifo'ch hun a phobl eraill o'ch cwmpas hefyd."
"Yn ystod hanner cyntaf fy 20au roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i mi lwyddo a llwyddo a llwyddo. Mae llawer o ddynion yn gwneud hyn. Rwy'n edrych o fy nghwmpas nawr ac yn gofyn, i ble ydw i'n rhedeg?" Actor a chanwr
Justin Timberlake. 14
www.smt.org.uk
UP AND COMING - Rhif 2
Natur neu Fagwraeth? Trafodaeth ar wyddoniaeth iechyd meddwl Mae trafodaeth ymhlith gwyddonwyr ynglyn ag a ydynt yn cael ein llunio gan geneteg yn unig, neu a yw'n ein profiadau o ddydd i ddydd, ein ffactorau amgylcheddol, yn chwarae rhan yn hynny.
"Rwy'n meddwl bod gen i broblemau iechyd meddwl. Pan oeddwn i'n iau ac yn byw gyda fy rhieni, roedd gan fy nhad broblemau iechyd meddwl. Roedd yn cael dyddiau pan roedd yn ymddangos yn berson hollol wahanol. Fe wnes i'n si'r fy mod i'n gofalu amdano ond roedd yn straen."
Ydych chi mewn mwy o berygl? Mae gan 1 o bob 10 o bobl ifanc rhwng 5-16 oed gyflwr iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis o honno. Dywedir bod 1 o bob 4 oedolyn wedi dioddef o salwch meddwl. Bydd rhai o'ch ffrindiau yn fwy agored i niwed. Er enghraifft: mae gan 72% o blant sy’n derbyn gofal anhwylder ymddygiad neu broblemau emosiynol; mae 95% o droseddwyr ifanc sy’n cael eu carcharu yn dioddef o broblemau iechyd meddwl; mae mamau yn eu harddegau 3 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn perygl o gael iechyd meddwl gwaeth na mamau hŷn; mae 44% o bobl LHDTC rhwng 16-24 mlwydd oed wedi ystyried lladd eu hunain;
Ydy'r person uchod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl oherwydd geneteg? Ydy'r tad wedi trosglwyddo iechyd meddwl gwael drwy ei DNA? A yw'r ffaith bod y person wedi byw mewn amgylchedd llawn straen wedi achosi iddo ddatblygu salwch meddwl? Ffactorau Amgylcheddol
Ffactorau Biolegol
Y lle mae rhywun yn byw
Teulu
Pryderon ffrindiau a theulu
Mwtaniadau mewn DNA*
Diddordebau *Peidiwch â phoeni! Mae mwtaniadau yn hollol normal. Mae amcangyfrifon yn amrywio, ond mae pawb yn wynebu’r posibilrwydd o fwtaniad wrth i DNA ddyblygu. Gall rhai celloedd, megis celloedd gwaed neu goluddol, ddyblygu bob dydd. Mae rhai gwyddonwyr yn awgrymu bod hyd yn oed ffactorau amgylcheddol yn cael effaith uniongyrchol ar ein cod genetig. Mewn geiriau arall, mae’r pethau sydd o’ch amgylch yn cael cymaint o effaith arnoch fel ag y gall greu mwtaniad yn y cod DNA. Felly, yn yr un modd ag y mae ysmygu sigaréts yn cynyddu’r siawns y bydd person yn cael canser yr ysgyfaint, efallai bod rhai pobl a fyddai wedi byw bywyd heb unrhyw broblemau iechyd meddwl o gwbl, yn datblygu iechyd meddwl gwael o ganlyniad i’r byd o’u hamgylch neu’r sylweddau maen nhw’n eu cymryd? P’un a yw ein hiechyd meddwl yn cael ei ddylanwadu gan eneteg neu’r byd o’n cwmpas, damcaniaeth arall ydy bod pawb yn gallu dioddef o iechyd meddwl gwael ar adegau gwahanol ond ei bod hi’n haws i rai ddod allan o’r cyflwr hwn. Er enghraifft, os bydd tad-cu person ifanc yn marw, mae sawl ffordd y gallant deimlo am y digwyddiad hwn. Efallai na fydd rhai yn teimlo dim, ond gall eraill deimlo’n drist a digalon. Efallai y bydd rhai yn teimlo eu bod wedi ‘gwella’ o’r galar ar ôl blwyddyn, ond bydd y tristwch yn pylu i eraill er na fydd yn eu gadael am flynyddoedd maith. I eraill, mae’r digwyddiad mor erchyll, mae’n bosibl na fyddant byth yn gwella.
Gan barhau â'r syniad hwn, gallwn ofyn: a yw pawb ar sbectrwm iechyd meddwl?
mae tri chwarter y rhai sy’n lladd eu hunain yn ddynion; mae gan 38% o ofalwyr ifanc sydd yn yr ysgol broblemau iechyd meddwl, a dywedodd bron eu hanner eu bod yn teimlo’n flinedig ac o dan straen; mae 45% o ofalwyr sy’n oedolion ifanc (16-25) yn nodi bod ganddynt broblemau iechyd meddwl. (astudiaethau ar wefannau professional. carers.org a mind.org.uk) Os ydych yn perthyn i un o’r categorïau hyn sydd ‘mewn perygl’, ystyriwch neilltuo amser i ofalu amdanoch chi eich hun a’ch iechyd meddwl. Cymerwch gip ar y tudalennau yn y cylchgrawn hwn am syniadau i hybu iechyd meddwl cadarnhaol.
"Nid yw'n fater o fod yn hunanol. Rwy'n ystyried lles fel cwpan. Rwy'n cymryd amser i lenwi fy nghwpan â phethau sy'n fy ngwneud i'n hapus. Ond os yw fy nghwpan yn wag, nid oes gennyf ddim ar ôl i'w rannu ag eraill." www.smt.org.uk
"Efallai mai'r rheswm pam nad yw'n ymddangos bod dim yn eich 'trwsio' yw am nad ydych wedi torri." Awdur a chyflwynydd radio,
Steve Maraboli. 15
Diffiniadau o Iechyd Meddwl Iechyd Meddwl yw lles meddyliol ac emosiynol person. Yn yr un ffordd ag iechyd corfforol, gall newid, gan wella a gwaethygu ond gallwch fod yn iach o hyd. Salwch Meddwl yw pan mae iechyd meddwl negyddol yn dechrau effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Gorbryder Teimlad cryf o anniddigrwydd, gofid ac ofn. Os bydd gorbryder yn eich llethu, weithiau gyda symptomau corfforol annymunol, daw’n broblem iechyd meddwl.
Anhwylder Deubegynol Mae anhwylder deubegynol yn effeithio ar eich hwyliau. Gyda’r diagnosis hwn, rydych yn debygol o brofi cyfnodau o ymddygiad gorweithgar neu hypomania: gan deimlo’n hapus iawn neu’n isel iawn. Mae rhai yn cael symptomau seicotig, ac yn credu neu’n gweld pethau sydd ddim yn real, yn ystod cyfnodau manig neu isel.
Iselder Mae’r rhai sy’n dioddef o iselder yn teimlo’n ddiobaith, yn ddi-werth, heb ddim cymhelliant ac yn flinedig iawn. Mae iselder yn gwneud i chi deimlo ei bod hi’n anoddach gwneud popeth ac nad oes fawr o werth i unrhyw beth.
Problemau Bwyta Mae problemau bwyta cyffredin yn cynnwys: anorecsia (cyfyngu ar fwyd), bwlimia (cael gwared ar fwyd o’r corff ar ôl bwyta), ac anhwylder gorfwyta mewn pyliau (bwyta gormod, y tu draw i chwant bwyd neu’r hyn sy’n gysurus). Mae gan ddioddefwyr hunanddelwedd wyrdroëdig. Gall problemau bwyta fod yn gysylltiedig â phethau anodd sy’n digwydd yn eich bywyd a theimladau poenus sy’n anodd eu hwynebu neu eu datrys.
Pyliau o Banig Pyliau o banig yw ymateb gormodol gan y corff i ofn, straen neu gyffro. Yn aml mae’r symptomau’n peri dychryn, ac yn para rhwng 5 i 20 munud fel arfer. Efallai y bydd dioddefwyr yn profi: eu calon yn curo fel gordd neu boen yn y frest, chwysu a theimlo’n gyfoglyd, teimlo’n wan ac ar fin llewygu a methu ag anadlu, cryndod yn y cymalau, neu deimlo bod eich coesau’n troi’n jeli.
Profiadau Seicotig Profiad (neu episod) seicotig yw pan fyddwch yn amgyffred neu’n dehongli digwyddiadau yn wahanol iawn i’r bobl o’ch cwmpas. Gallai hyn gynnwys: rhithweledigaethau, fel clywed lleisiau neu weld pethau; a chael rhithdybiau, megis paranoia neu rithdybiau mawredd.
Hunan-niweidio Mae hunan-niweidio yn ffordd o fynegi gofid hynod ddwfn, lle mae dioddefwyr yn achosi poen corfforol iddyn nhw eu hunain. Efallai nad ydynt yn gwybod pam maen nhw’n hunan-niweidio, ond gall fod yn ffordd o fynegi teimladau neu deimlo bod ganddyn nhw reolaeth dros bethau. Mae arferion hunan-niweidio yn amrywio o: niwed corfforol, camddefnyddio sylweddau megis alcohol neu gyffuriau, ymarfer mewn modd eithafol, neu ymddwyn mewn modd peryglus yn gyson.
Meddwl am Hunanladdiad Mae llawer o bobl yn dioddef o feddyliau a theimladau hunanladdol fel rhan o broblem iechyd meddwl. Gall y meddyliau a’r teimladau hyn fod yn annymunol, yn ymwthiol ac yn frawychus. Mae llawer o bobl yn meddwl am hunanladdiad, a byth yn ceisio lladd eu hunain. Mae llawer o syniadau i’ch helpu i ymdopi â theimladau hunanladdol ond os yw;r sefyllfa’n argyfyngus gallwch fynd i adran damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty, ffonio 111, neu gysylltu â’r Samariaid ar y rhif rhadffôn 116 123.