Swansea Ymgyrch ailgylchu wrth fynd Adroddiad Effaith
Y broblem Mae ein bywydau modern prysur yn golygu ein bod ni'n bwyta ac yn yfed mwy wrth fynd. Mae
5.5 biliwn
o boteli plastig
2.3 biliwn 1.4 biliwn o ganiau
o boteli gwydr
2.9 biliwn o gwpanau coffi
yn mynd i wastraff bob blwyddyn yn y DU, er eu bod yn hawdd eu hailgylchu.
Pam nad ydyn nhw'n cael eu hailgylchu?
Mae llai na hanner yr awdurdodau lleol yn darparu cyfleusterau ailgylchu wrth fynd, yn rhannol oherwydd y costau cynnal a chadw a seilwaith uchel.
?
? ?
Mae 1/3 ohonon ni’n ansicr ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu. Mae hyn oherwydd diffyg cysondeb o ran brandio, arwyddion a'r gwahanol fathau o wastraff a gesglir ledled y wlad. Pan fydd biniau ailgylchu ar gael, maen nhw’n cael eu halogi â bwyd, hylifau a phethau na ellir eu hailgylchu. Gall hyn achosi i lwythi cyfan o ailgylchu gael eu gwrthod yn y ffatri ailgylchu.
2
3
Y cyd-destun yn Abertawe 1
Mae Cymru yn arweinydd ym maes ailgylchu cartrefi, ac mae ganddi uchelgais i ddod yn arweinydd y byd1.
2
Mae gan Gymru dargedau llym, uchelgeisiol o ran ailgylchu. Mae trigolion Abertawe yn wynebu dirwyon o £100 os ydyn nhw'n methu ag ailgylchu gartref.
3 4 5
Yn Ewrop
Nododd ymatebwyr yr arolwg fod eu hymddygiad ailgylchu yn... ardderchog gartref
wael wrth fynd
Roedd gan ganol dinas Abertawe 86 o finiau ailgylchu cymysg ar waith cyn yr ymgyrch. Ond mae 3 o bob 5 o bobl a holwyd wedi dweud nad ydynt yn cofio eu gweld.
Yr her Sut allwn ni gael mwy o bobl yn Abertawe i ailgylchu'n gywir wrth fynd?
Halogiad yn erbyn deunyddiau targed cyn yr ymgyrch:
25%
40% 60%
75%
Yn ôl cyfaint 4
Yn ôl pwysau 5
Ein huchelgeisiau
Sefydlu system gost-effeithiol ar gyfer ailgylchu wrth fynd.
Annog y defnydd cywir o finiau newydd a meithrin diwylliant ailgylchu.
Datblygu model ymgyrchu y gellir ei gopĂŻo mewn lleoliadau eraill.
6
Dal nifer fawr o ddeunyddiau o ansawdd uchel i'w hailgylchu.
Gadael etifeddiaeth barhaol fel bod y system yn aros yn ei lle ar Ă´l yr ymgyrch.
7
Llwyddiant ar y cyd
“
Mae problem o'r raddfa hon yn gofyn am ddatrysiad cydweithredol, uchelgeisiol ar draws y diwydiant. Mae cyflawniadau ymgyrchoedd ar y cyd ac yn ganlyniad gwir gydweithrediad. Roedd yr ymgyrch yn dibynnu ar bartneriaid lleol – eu harbenigedd a'u rhwydwaith lleol, ynghyd â'u hymrwymiad i lwyddiant yr ymgyrch.
Partneriaeth gychwynnol
+ Hubbub
Partner cyflawni lleol,
Cyngor Abertawe
Thomas Williams, Rheolwr Datblygu Lleihau Gwastraff, Cyngor Abertawe
“
”
Mae gan Ganolfan yr Amgylchedd ddiddordeb bob amser mewn prosiectau sy'n ein helpu i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy, felly roedden ni’n awyddus i fod yn rhan o'r bartneriaeth #AbertaweYnAilgylchu. Cafodd y prosiect ei groesawu gan y cyhoedd a dangosodd welliannau gwirioneddol mewn cyfraddau ailgylchu. Rydym yn falch y bydd y treial a'r gwersi a ddysgwyd yn Abertawe yn cyfrannu at ddatblygu glasbrint i awdurdodau lleol eraill elwa ohono. Mae bod yn rhan o brosiect mor gadarnhaol a chydweithredol wedi bod yn brofiad gwerthfawr. Rhian Corcoran, Rheolwr Canolfan yr Amgylchedd a Arweinydd Cyflawni ar gyfer #AbertaweYnAilgylchu
”
Partner mesur a gwerthuso,
sy’n arwain ar yr holl weithgareddau ar lawr gwlad
sy’n darparu monitro annibynnol o'n canlyniadau a'n heffaith
Canolfan yr Amgylchedd
Cadwch Gymru'n Daclus
8
Mae gweithio mewn partneriaeth â Hubbub, Canolfan yr Amgylchedd a phartneriaid eraill wedi caniatáu i ni gronni ein harbenigedd a'n hadnoddau, archwilio ffyrdd newydd o feddwl a chyrraedd cynulleidfa ehangach sydd wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant yr ymgyrch.
9
Cynghrair cyllido unigryw
“
Cyllid Daeth cyllid gan gynghrair o 16 sefydliad, gan gynnwys y manwerthwyr a'r brandiau wrth fynd mwyaf yn y diwydiant.
Rydym wrth ein bodd o weld bod etifeddiaeth #LeedsByExample yn ymestyn y tu hwnt i'r gwelliannau a wnaed mewn un ddinas. Mae'r mudiad #YnAilgylchu sy'n dechrau yn Abertawe a Chaeredin yn dyst i bŵer cydweithredu gan gynhyrchwyr a rhanddeiliaid mawr. James Piper, Prif Swyddog Gweithredol yn Ecosurety
“
Mae ein partneriaeth hirsefydlog gyda Hubbub a llwyddiant ‘Yn Ailgylchu’ yn dystiolaeth bellach eto bod cydweithredu yn allweddol o ran gyrru newid ystyrlon. Rydyn ni’n falch o'r effaith y mae'r ymgyrch wedi'i chael ac yn gobeithio y gallwn annog cymunedau eraill i roi mesurau ar waith sy'n gwneud ailgylchu hyd yn oed yn haws drwy rannu ein dysgu. Fel diwydiant mae gennyn ni gyfrifoldeb a chyfle i ysgogi newid ymddygiad positif. Dim ond wedyn y gallwn ddod yn wirioneddol gylchol a gyrru ein huchelgais ymlaen i gyrraedd deunydd pacio plastig sy’n 100% gynaliadwy erbyn 2030. Michelle Norman, Cyfarwyddwr Materion Allanol a Cynaliadwyedd yn Lucozade Ribena Suntory
Mae'r consortiwm hwn yn enghraifft arfer gorau o sefydliadau sy’n cystadlu yn cydweithio i bob diben ac yn partneru i gyllido ymgyrch i fynd i'r afael â phroblem a oedd yn gysylltiedig â phob un ohonynt. Dangosodd barodrwydd y diwydiant bwyd a diodydd i gymryd cyfrifoldeb rhagweithiol am sicrhau bod y cynhyrchion y maen nhw’n eu cynhyrchu yn cael eu hailgylchu ar ddiwedd oes. Roedd ymuno i brofi seilwaith ailgylchu newydd ar y stryd, technegau newid ymddygiad a negeseuon ailgylchu i ddefnyddwyr yn golygu y gellid cyflawni cymaint mwy yn Abertawe. Nid oedd elfennau ymgyrchu yn cynnwys logos unrhyw bartneriaid. Gyda'n gilydd, gwnaethom gynnal ymgyrch newid ymddygiad 6 mis o fis Medi 2019. Ein nod oedd helpu preswylwyr Abertawe i allu a bod yn barod i ailgylchu wrth grwydro. 10
”
“
Ein gweledigaeth yw fod dim o'n deunydd pacio, gan gynnwys plastig, yn mynd i safleoedd tirlenwi na chefnforoedd, llynnoedd nac afonydd. Er mwyn galluogi hyn, mae Nestlé yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad cynlluniau casglu, didoli ac ailgylchu sydd wedi'u cynllunio'n dda ac sy'n weithredol ar draws y gwledydd lle rydym yn gweithredu. Mae YnAilgylchu yn enghraifft wych o sut mae busnesau’n cydweithredu yng Nghaeredin ac Abertawe i wella cyfleusterau ailgylchu ‘wrth fynd’, sy’n rhan allweddol o ddod o hyd i atebion graddadwy i fynd i’r afael â’r her hon. Alison Bramfitt, Rheolwr Pacio’r Grŵp yn Nestle
”
” 11
Ein cyflawniadau mwyaf Etifeddiaeth barhaol o finiau lliwgar sy’n hawdd eu defnyddio
Rydyn ni wedi gwella ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd (yn Ă´l cyfaint)
Campaign end
Campaign start
We introduced... 75% contamination
%
89
e
inc
s rea
53% contamination
25% target materials
Rydyn ni wedi cynyddu faint o ddeunyddiau targed a gasglwyd
75,000
o boteli plastig
40,000 o ganiau
12
12,000
Gwnaethon ni arwain ymgyrch gyfathrebu amrywiol ac effeithiol
6 tonnes of materials
900,000 100+
o boteli gwydr
12 million
20,000 o gwpanau coffi
47% target materials
oppertunities cyfleoedd to see
impressions businesses on on social board media
900,000 100+
4,000
people engaged at engaged events
impressions businesses on board social on media
147,000 o eitemau wedi'u hailgylchu!
13
Ein model newid ymddygiad
Mae pobl yn gallu ailgylchu
14
Mae pobl yn barod i ailgylchu
15
Roedd pobl yn gallu ailgylchu oherwydd ein bod wedi gwella'r system, gan ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw wneud y peth iawn.
16
17
Biniau lliwgar newydd
“
Gwnaeth yr ymgyrch #AbertaweYnAilgylchu gyflwyno neu wella 119 o bwyntiau ailgylchu: • 105 o finiau ailgylchu melyn ar gyfer poteli plastig, caniau a gwydr. Roedd
Roedd yn wych gweld rhywbeth yn digwydd yng nghanol y ddinas. Mae cymaint ohonon ni'n cael bwydydd a diodydd tecawê, mae'r biniau'n amlwg iawn nawr ac yn atgof da i'w hailgylchu. Cydweithredwr yng Ngholeg Gŵyr
19 o'r rhain yn finiau newydd sbon
”
• 14 o finiau ailgylchu oren newydd sbon ar gyfer cwpanau coffi Gwnaethom y mwyaf o gyfleusterau ailgylchu drwy newid lliwiau 86 o finiau oedd eisoes ar y stryd i gymryd rhan yn y treial. Gwnaethom eu hail-frandio â lliwiau llachar ac arwyddion cyson a oedd yn tynnu sylw'r cyhoedd, gan sicrhau eu bod yn sylwi ar y biniau ac yn ailgylchu'r deunyddiau cywir. Mae ein harolwg ar ôl yr ymgyrch yn dangos bod 69% o bobl leol wedi gweld y biniau newydd.
“
#YnAilgylchu Deunyddiau
Sian, preswylydd Abertawe Wedi'i ailgylchu gan amryw o ailgylchwyr cyfrifol yn yr UE.
Swansea:
Uwchgylchwyd cwpanau yn gynhyrchion papur moethus gan James Cropper yng Nghymbria.
co 18
cti o
ek
Ailgylchwyd gan Real Alloy yn Abertawe.
ll e
we a n 3x
Mae'r biniau'n hawdd iawn i'w hadnabod ac mae'n hawdd gweld beth sy'n mynd ym mha un.
Ailgylchwyd gan URM yn y Tŷ Ogofog.
“
Mae'r biniau newydd yn fawr ac yn llachar ac mae ganddyn nhw sticeri eglur. Maen nhw'n drawiadol. Rwy'n credu bod angen rhoi mwy o bwyslais ar faint o wastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu, ac ar sut mae ailgylchu yn ddewis olaf cyn ei dirlenwi. Wrth ddweud hynny, mae unrhyw gamau a gymerwn sy'n atal gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi yn beth da. Isabel, gwirfoddolwr #AbertaweYnAilgylchu
”
” 19
Mwy o faint, gwell ansawdd Cyflawnodd yr ymgyrch un o'i nodau allweddol: i Gyngor Abertawe fod yn fodlon ag ansawdd y deunyddiau ailgylchu a gasglwyd. Mae cyfraddau halogi wedi gostwng o ganlyniad i'r ymgyrch, ac wedi sefydlogi ar lefel dderbyniol, nad oedd hynny'n wir o'r blaen. Ers dechrau'r ymgyrch, rydym yn amcangyfrif1 ein bod wedi casglu:
75,000
12,000
40,000
20,000
o boteli plastig
o ganiau
“
6 tonnes of materials
Fodd bynnag, mae archwiliadau gwastraff2, a gynhelir yn fisol ar ddetholiad o finiau ailgylchu, yn dangos tuedd positif yn ansawdd y deunyddiau a gesglir i'w hailgylchu. Mae hyn yn dangos bod y cyhoedd wedi defnyddio'r biniau ailgylchu yn well ac yn well wrth i amser fynd yn ei flaen.
Rydym wedi gweld:
o boteli gwydr
o gwpanau coffi
147,000 o eitemau wedi'u hailgylchu!*
Rydym wedi bod yn falch iawn gyda'r cynnydd amlwg yn ansawdd y deunyddiau a gasglwyd ers cyflwyno'r ymgyrch arwyddion newydd a chyfathrebu ehangach. Mae lefelau halogi is a chyfradd ddal uwch yn golygu bod mwy o wastraff pacio yn cael ei ailgylchu wrth fynd nag erioed o'r blaen. Mae hyn yn newyddion gwych a bydd yn helpu i sicrhau bod #AbertaweYnAilgylchu am flynyddoedd lawer i ddod. Thomas Williams, Rheolwr Datblygu Lleihau Gwastraff, Cyngor Abertawe
Gostyngiad o 30% yn halogiad biniau ailgylchu (unrhyw beth na ddylai fod yno, e.e. deunydd pacio plastig).
Cynnydd o 89% yng nghyfraddau casglu deunyddiau targed (y pethau rydyn ni'n ceisio eu casglu).
Gostyngiad o 39% yn halogiad biniau cwpanau coffi, o'u cyflwyniad hyd at ddiwedd yr ymgyrch.
+89%
-30%
81%
”
*Based on estimates from our measruement and evaluation partner Keep Wales Tidy.
20
Mae rhywfaint o halogi yn anochel wrth gasglu ailgylchu. Yn enwedig wrth fynd, lle mae pobl yn treulio llai na dwy eiliad ar gyfartaledd yn gwneud penderfyniad ar sut i gael gwared ar eu gwastraff.
19% Esblygiad o ansawdd y deunyddiau targed a gasglwyd (yn ôl cyfaint)
Archwiliad gwastraff olaf (cyfaint): • Cwpanau Coffi • Halogiad
21
Datblygu rhwydwaith o bartneriaid lleol
“
Mae llwyddiant yr ymgyrch #AbertaweYnAilgylchu yn ganlyniad gwir ymdrech gydweithredol:
Mae ein masnachwyr yn wirioneddol awyddus i ailgylchu, ond nid oeddem yn siŵr pa mor dda y byddai biniau ailgylchu cyhoeddus yn cael eu defnyddio yma yn y Farchnad. Rhaid i fi ddweud ei fod wedi bod yn llwyddiant go iawn. Defnyddir y biniau'n dda gyda'r gwastraff cywir yn gyffredinol yn cael ei roi yn y biniau cywir. Rydym nawr yn edrych ar ymestyn yr opsiynau i'n masnachwyr ailgylchu plastig hefyd. John Burns, Cynghorydd Marchnad Abertawe
”
• Gwnaeth 100 o sefydliadau lleol hyrwyddo a helaethu negeseuon yr ymgyrch yn eu siopau neu ar-lein. Gwnaeth y sefydliadau hyn helpu i greu diwylliant o ailgylchu yn Abertawe. • Gwnaeth lleoliadau canolog eiconig gyflwyno systemau ailgylchu newydd am y tro cyntaf a gwnaethant arbed deunyddiau gwerthfawr rhag mynd i wastraff.
“
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd, a dyna pam yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n ymgorffori datblygiad cynaliadwy yng nghalon popeth rydyn ni'n ei wneud. Roeddem yn gyffrous i gymryd rhan yn yr ymgyrch #AbertaweYnAilgylchu o'r dechrau, gan ei fod yn gyfle perffaith i dreialu ailgylchu cwpanau yng ngorsaf reilffordd Abertawe. Rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau'r treial ac os ydym yn llwyddiannus, gobeithiwn gyflwyno biniau ailgylchu cwpanau i fwy o'n gorsafoedd. Sophie Duggan, Trafnidiaeth Cymru
22
” 23
Roedd pobl yn barod i ailgylchu oherwydd ein bod wedi ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ymgyrch gyfathrebu greadigol a phellgyrhaeddol.
24
25
Ymgyrch gyfathrebu proffil uchel Sylw yn y wasg a'r cyfryngau Mae’r ymgyrch wedi cael 18 eitem o sylw yn y cyfryngau hyd yma, pob un yn bositif. • Sylw mewn darllediadau gan gynnwys cyfweliad â phartneriaid lleol ar ITV Cymru News at Six a The Wave Radio. • Rhyddhaodd South Wales Evening Post bedwar darn am y cyhoeddiad i fusnesau, y lansiad, ailgylchu cwpanau coffi a’r canlyniadau hyd yn hyn. • Roedd y sylw masnach yn cynnwys Business News Wales, Edie.net a British Plastics and Rubber.
gweledol a chanllawiau cyfathrebu ar gyfrif Dropbox a rennir er mwyn i helaethwyr lleol gael mynediad atynt a'u defnyddio. Cyrhaeddodd yr hashnod #AbertaweYnAilgylchu 910,000 o bobl, gyda 1.5 miliwn o ddanfoniadau llinell amser ar Twitter yn yr wythnos lansio3. Cynhyrchodd ein hysbysebion Facebook ac Instagram a dargedwyd yn lleol fwy na 540,000 o argraffiadau yn ystod yr ymgyrch. Gwnaeth grŵp Facebook #AbertaweYnAilgylchu ennill 120 o ddilynwyr a chyrraedd 85,000 o bobl drwy postiadau â hwb.
Cyfle i weld dros
12 miliwn!
Gallwch ddarllen ein hadroddiad cyfryngau cynhwysfawr yma.
Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Gyrrwyd yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol gan ymdrechion cyfunol cyngor Abertawe, Canolfan yr Amgylchedd a Hubbub. Roedd y postiadau yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer y cyrhaeddiad mwyaf. Gwnaeth 31 o sefydliadau lleol helpu arall i helaethu negeseuon yr ymgyrch ar-lein, drwy eu sianeli cyfathrebu eu hunain – cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr, ac ati. Mae ein harolwg yn dangos bod yr ymgyrch wedi dyblu faint o bobl o dan 30 oed sy'n defnyddio cyfleusterau ailgylchu ar y stryd i gael gwared ar eu caniau. Roedd pobl ifanc yn gynulleidfa darged allweddol gan eu bod yn defnyddio'r mwyaf wrth fynd. Er mwyn sicrhau cysondeb ein brandio a'n negeseuon, storiwyd yr holl asedau 26
27
Ymgysylltu yn bersonol Digwyddiadau lleol
Siopau lleol
Yn ogystal â bod gan yr ymgyrch bresenoldeb cryf ar-lein ac yn y cyfryngau, roedd digwyddiadau a gweithdai hefyd yn offer ymgysylltu da i newid ymddygiad ailgylchu.
Gwnaethom ddosbarthu mwy na 1,900 o ddeunyddiau cyfathrebu i gyfanswm o 65 o siopau lleol ledled canol y ddinas.
Diolch i'n partner cyflawni lleol, gwnaeth #AbertaweYnAilgylchu elwa o gefnogaeth gwirfoddolwyr a helpodd i gynnal sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd ar strydoedd Abertawe. Ymhlith y digwyddiadau a fynychwyd roedd:
• • • • • • •
Digwyddiad elusennol yn y siop Lush Cynhadledd flynyddol y Clwb Rotari Stondin yn y farchnad Fegan Stondin yn y Ffair Werdd Gweithdai yng Nghanolfan yr Amgylchedd
Mwy na 4,000
o bobl wedi’u hymgysylltu!
Llety Student Roost Dewi Sant
Hysbysebu lleol
Stondin yn Wythnos y Glas Prifysgol Abertawe
Sgriniau canol y ddinas Caniataodd partneriaeth â chyngor y ddinas i ni elwa o gefnogaeth mewn nwyddau drwy gydol yr ymgyrch. Roedd hyn yn cynnwys mynediad at sgriniau
Mae Gordon Binnit yn fin sy’n chwythu swigod a thorri gwynt! Mae'n casglu poteli plastig a chaniau ac mae'n gynghreiriad gwych ar gyfer ymgysylltu.
mewn lleoliadau canolog allweddol yn Abertawe i arddangos ein negeseuon ymgyrchu. Bu’n ffordd gost-effeithiol i ehangu ein cyrhaeddiad a chynyddu'r nifer o weithiau yr oedd pobl leol yn cael eu hannog i ailgylchu wrth fynd. Cylchgrawn lleol Cafodd yr ymgyrch #AbertaweYnAilgylchu sylw 3 gwaith yn What’s On, cylchgrawn lleol a ddarllenir gan bobl leol yn ardal bae Abertawe.
28
29
Gwneud tonnau Wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan yr artist ecolegol lleol Wren Miller, mae’r Don yn osodiad trawiadol sy'n dangos faint o ddeunyddiau sy'n hawdd eu hailgylchu yn mynd i wastraff bob 20 eiliad yn y DU. Gwnaeth hyn helpu i ddelweddu maint y broblem yn y DU a gweithredu fel galwad bwerus i weithredu. Roedd hefyd yn fachyn cyfryngau gwych, yn dal sylw hyd yn oed y tu allan i Abertawe.
Yn seiliedig ar ein harolwg ar ôl yr ymgyrch “Dw i wedi gweld y don!”
“Fe wnaeth i fi ailystyried fy arferion ailgylchu”
59% of locals
70% of those who had seen The Wave
Teithiodd Y Don o amgylch Abertawe, gan wneud sblash mewn amrywiaeth fawr o leoliadau eiconig Abertawe: • Stryd Rhydychen a Chastell y Sgwâr • Prifysgol Abertawe, Campws Singleton (Ffair Wythnos y Glas)
(yn seiliedig ar boblogaeth Abertawe)
• Canolfan Siopa’r Quadrant
Yn ystod 6 mis yr ymgyrch, casglodd Abertawe ddigon o ailgylchu i adeiladu'r hyn sy'n cyfateb i 96 Ton Abertawe.
• Marchnad Abertawe
Dyna Don bob 36 awr!
• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Diolch Abertawe, rydych chi wedi bod yn fin-digedig!
“ Disgwylir i'r Don barhau i deithio ar draws Abertawe a Chymru tan fis Mai 2020. Y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw, os na cheir hyd i gartref parhaol, bydd yn cael ei ddatgymalu'n gynaliadwy gyda'r holl ddeunyddiau'n cael eu hailgylchu.
O'r eiliad y cafodd ei ddadorchuddio yn Sgwâr y Castell yn Abertawe, roeddwn i'n gallu gweld diddordeb y cyhoedd yn Y Don ar unwaith, a pha mor bwerus oedd hi wrth ddechrau trafodaethau. Arweiniodd presenoldeb Y Don a biniau newydd yn Abertawe at newid positif mewn agweddau tuag at ddeunyddiau ailgylchadwy wrth fynd. Wren Miller, artist ecolegol lleol y tu ôl i’r Don
30
” 31
Ein hetifeddiaeth
32
33
Ein prif gasgliadau Mae'r ymgyrch #AbertaweYnAilgylchu yn cadarnhau ac yn cryfhau'r hyn a ddysgwyd a'r prif gasgliad gan ei ragflaenydd, yr ymgyrch #LeedsByExample. Mae cydweithredu yn allweddol i godi ymwybyddiaeth wrth gyflwyno ailgylchu. Gwneud ailgylchu yn syml, yn weledol ac yn hwyl. Mae'r cyhoedd yn ymateb yn dda i chwareusrwydd, negeseuon hyderus ac ymyriadau sy'n delweddu'r broblem. Mae cyfathrebiadau clir, syml a chyson yn hanfodol i wneud pobl yn llai dryslyd ynghylch ailgylchu.
Mae ansawdd yr ailgylchu yn amrywio ac mae lleoliad biniau, y tywydd a'r tymor yn dylanwadu arno.
Mae casgliadau cwpanau yn bwysig ond mae angen negeseuon ar raddfa fawr a chlir arnynt i fod yn effeithiol.
Mae monitro trylwyr, rheolaidd a chyson yn bwysig.
Datblygu etifeddiaeth a sicrhau bod y system yn aros ar waith yn y tymor hir.
34
35
Beth sy'n digwydd nesaf? Un o amcanion allweddol y treial oedd sicrhau ei hyfywedd tymor hir. Cyflawnwyd hyn drwy ddatblygu perthynas gynhyrchiol â dau bartner ymgyrchu allweddol.
Cwpanau coffi Bydd casgliadau yn parhau i fod ar waith am gyfnod amhenodol. Bydd Cyngor Abertawe yn gweithio ar y cyd â Chanolfan yr Amgylchedd i ehangu nifer y pwyntiau casglu ar draws y ddinas. Bydd y ddau sefydliad yn parhau i hyrwyddo negeseuon o amgylch ailgylchu cwpanau coffi, mewn ffordd sydd hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o ddeunydd ailddefnyddiadwy.
• Mae cyngor Abertawe, y gwnaethom ddangos gwerth y cynllun iddo, bellach yn cymryd perchnogaeth lawn o asedau, seilwaith a dysg yr ymgyrch.
• Mae Canolfan yr Amgylchedd, ein partner cyflawni, wedi gwneud cais
llwyddiannus i raglen ariannu Llywodraeth Cymru i barhau i redeg gweithgareddau ar lawr gwlad ac i helaethu negeseuon wrth fynd. Mae hyn yn caniatáu iddynt hefyd ddechrau ar eu nod ehangach, sef cryfhau cyfranogiad y gymuned mewn ailddefnyddio, atgyweirio a gwell ailgylchu yn Abertawe.
Cyfathrebu Bydd Cyngor Abertawe a Chanolfan yr Amgylchedd yn parhau i roi negeseuon allweddol ar gyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, gan gadw negeseuon yn syml a rhannu lluniau o'r biniau. Yr uchelgais yw ymestyn negeseuon yr ymgyrch yn raddol o ailgylchu i ail-lenwi ac ailddefnyddio.
Mae cynlluniau etifeddiaeth yn cynnwys:
Cyflwyno mewn lleoliadau eraill yng Nghymru Ein gobaith yw y bydd adnoddau a dysgiadau’r ymgyrch #AbertaweYnAilgylchu yn hwyluso awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, y mae rhai eisoes wedi mynegi diddordeb ynddynt, i gyflwyno cynllun ailgylchu wrth fynd tebyg.
Seilwaith biniau Mae'r holl finiau ailgylchu bellach yn eiddo i gyngor Abertawe. Bydd angen newid sticeri biniau mewn cwpl o flynyddoedd.
Monitro Bydd cyngor Abertawe yn parhau i fonitro perfformiad y biniau gydag archwiliadau gwastraff rheolaidd
Estyniad Bydd Cyngor Abertawe yn archwilio'r syniad o gynyddu ardal yr ymgyrch i strydoedd ychwanegol mewn cwpl o flynyddoedd.
36
“
Rwy’n falch iawn o weld canlyniadau positif #AbertaweYnAilgylchu, y cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu ac ymwybyddiaeth uwch trigolion Abertawe o bwysigrwydd ailgylchu. Llwyddodd yr ymgyrch i ddal dychymyg y cyhoedd a sicrhau cefnogaeth llawer o'n busnesau lleol. Bydd Cyngor Abertawe yn cynnal ac yn datblygu’r cynllun yn y dyfodol. Y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd a Seilwaith yng Nghyngor Abertawe
” 37
Ein methodoleg Gwnaethom fesur effaith drwy fonitro annibynnol gan Cadwch Gymru'n Daclus i sicrhau hygrededd ein canlyniadau. Roedd y rhain yn cynnwys:
• Archwiliadau gwastraff misol
Darparu data cadarn a chymaradwy yn seiliedig ar fonitro sampl gynrychioliadol o fagiau bin. Cydgasglu data pwysau a chyfaint, a chanolbwyntio ar asesu ansawdd (cyfradd halogi yn erbyn deunyddiau targed) a maint y gwastraff a gesglir.
Nodiadau a chyfeiriadau
1
Maint gwastraff Mae nifer y deunyddiau a gesglir yn y ddogfen hon yn amcangyfrifon ceidwadol ac mae'n debygol o fod yn uwch.
2
Ansawdd gwastraff
3
Cyrhaeddiad ar-lein a dilyniant
• Arolygon cyhoeddus cyn ac ar ôl yr ymgyrch
Mesur ymwybyddiaeth, canfyddiad ac ymddygiad y cyhoedd sy'n gysylltiedig ag ailgylchu cyn yr ymgyrch, gofyn yr un cwestiynau wedi hynny, a monitro'r newid. Cadw golwg ar faint o bobl sy'n cael eu cyrraedd a’u hymgysylltu, lefelau ymwybyddiaeth yr ymgyrch, ynghyd ag effaith y prosiect wrth symud ymwybyddiaeth, gwerthoedd ac ymddygiad ailgylchu.
Buom hefyd yn gweithio'n agos gyda Chanolfan yr Amgylchedd a sefydliadau lleol eraill drwyddi draw i gael mewnwelediadau ar lawr gwlad, gan ein galluogi i addasu ein strategaeth, cyfathrebu ac ymyriadau mewn amser real. Gwnaeth y ddolen adborth hon ein helpu i ddysgu'n gyflym a methu yn rhad.
38
Mae rhywfaint o halogi yn anochel wrth ailgylchu casgliadau. Mae hyn yn arbennig o wir am ailgylchu wrth fynd lle mae mwy o gyfle i gamgymeriadau gael eu gwneud. Y cwestiwn pwysig yw a yw'r ffatri ailgylchu yn fodlon ag ansawdd yr ailgylchu y maent yn ei dderbyn, sy'n wir yn Abertawe o ganlyniad i'r ymgyrch.
Roedd yn anodd mesur cyrhaeddiad hashnod #InTheLoop yn Saesneg y tu hwnt i effaith yr wythnos lansio oherwydd y defnydd eang o’r hashnod gan bartïon eraill. Gwnaed y penderfyniad i fesur cyrhaeddiad yr hashnod yn ystod wythnos lansiad yr ymgyrch yn unig, ac ar draws nifer gyfyngedig o sianeli. Yma eto, amcangyfrif ceidwadol yw'r nifer a nodwyd.
39
Ein huchelgeisiau ar gyfer ailgylchu wrth fynd Ar ôl Leeds, Abertawe yw'r ail ddinas i fod #YnAilgylchu yn y DU, a Chaeredin yw ein trydedd ddinas, gyda rhagor o leoliadau eisoes ar y gweill. Ond dim ond y dechrau yw hyn... Mae'r dysgiadau cyfun o brofi sut i weithredu ymgyrch ailgylchu wrth fynd effeithiol mewn gwahanol leoliadau, yn helpu i ddatblygu model y gellir ei gopïo bron yn unrhyw le. Ein huchelgais yw integreiddio #AbertaweYnAilgylchu i strategaeth Gwastraff ac Adnoddau DEFRA, estyn allan i lywodraeth Cymru a chysylltu'r cynllun â'r agenda bolisi. Ein nod yw helpu i drawsnewid y dull cenedlaethol o ailgylchu wrth fynd. Yn y pen draw, dim ond un rhan o'r jig-so yw ailgylchu wrth ddatrys y broblem wastraff. Gan symud tuag at economi fwy cylchol, nod #AbertaweYnAilgylchu yw annog ailgylchu ac ailddefnyddio. Rydym yn falch iawn bod partneriaid lleol yn Abertawe wedi defnyddio'r ymgyrch fel man cychwyn i gael mwy o gyllid ac ehangu'r negeseuon tuag at ailddefnyddio.
40
Adnoddau pellach Ynglŷn â'r ymgyrch #AbertaweYnAilgylchu Gwefan Infograffig o ganlyniadau’r ymgyrch
Ynglŷn ag ymgyrchoedd #YnAilgylchu eraill ledled y DU Adroddiad effaith a chrynodeb gweithredol #LeedsByExample Adroddiad effaith #InTheLoop Caeredin
Ynglŷn ag ailgylchu wrth fynd Egwyddorion allweddol ar gyfer llwyddiant
Cysylltwch Tîm prosiect Hubbub
41