David Baker - LLE MAE BUIGION YN CYFARFOD - Commercial Photography

Page 1

LLE MAE BUIGION YN CYFARFOD

WHERE SHEPHERDS MEET

DAVID BAKER

The Gathering

Y Cynulliad

Rwyf wedi bod yn fugail ar yr ucheldir trwy gydol fy oes gwaith a theimlaf mae un o’r ychydig bethau cyson gyda bugeilio yw’r ddibyniaeth ar gymdogion da a chymwynasgar sy’n dod at ein gilydd i hel ytiroedd uchel a’r mynyddoedd y mynyddoedd nad ydnty yn addas ar gyfer beiciau quad, ac sy’n dibynnu ar gymdogion a chyfeillion gyda cwn da i ddod at ein gilydd i hwyluso’r helfa.

Wedi bod n fugail am 50 mlynedd ni fuasai wedi bod cystal bywyd onibai am allu galw am gymorth a chyfeillgarwch cymdogion da a dwi’n siwr y byddai hyn yn wir am bob cymuned sy’ n ffermio yr ucheldir ym Mhrydain.

Idris Thomas

Fugail, Fferm Nannau, Llanfrachreth

One of the few constants in hill shepherding is the dependency on good neighbours who come together to help with the gathering of hills and mountains which are not accessible by quad bikes and are still reliant on neighbours and friends coming together with good dogs to assist and help and share banter.

Having been a shepherd for 50 years it would not have been the good life it has without the ability to call on the help and friendship of good neighbours and I’m sure this would be true of all hill farming communities in Britain.

Shepherd, Nannau Farm, Llanfrachreth

Idris Thomas

The Market

Y Farchnad

Mae’r farchnad yn rhan bwysig iawn o fywyd y ffermwr defaid, mae’n lle i fusnes, ond hefyd cyswllt cymdeithasol. Dyma lle mae pris stoc ffermwr yn cael ei osod, sy’n dylanwadu ar y brid o ddefaid a ddewisir, a phryd a pha mor aml mae wyna’n digwydd.

Mae hefyd yn fan cyfarfod hanfodol i’r gymuned ffermio, lle mae’r hen a’r ifanc yn dod at ei gilydd i rannu newyddion, sgwrsio, a chwerthin. Mae’n ofod cymdeithasol i ffermwyr sydd wedi ymddeol ddod at ei gilydd am baned neu bryd o fwyd, ac yn ystod gwyliau’r ysgol dyma lle mae cenedlaethau’r dyfodol yn dysgu eu crefft.

Ffermwr Defaid, Tan Y Waen Farm

The market is a very important part of the sheep farmer’s life, it is a place for business, but also social contact. This is where the price of a farmer’s stock is set, which influences the breed of sheep chosen and when, and how often, lambing takes place.

It is also an essential meeting place for the farming community, where the young and old come together, share news, chat, and laugh. It is a social space for retired farmers to get together for a cup of tea or a meal, and during school holidays it is where future generations learn their craft.

John Jones John Jones

The Trial

Y Treialon

Mae Treialon cŵn defaid yn rhan allweddol o’r calendr ffermio a diwylliannol, ac maent yn parhau i fod yn weithgaredd gwerthfawr a thraddodiadol. Cynhelir y mwyafrif o dreialon Gogledd Cymru yn y berweddlad ieithyddol ble mae cystadlu iach yn cael ei basio i lawr rhwng cenedlaethau o ffermwyr a bugeiliaid.

Cymraeg yw iaith gyntaf y mwyafrif o gyfranogwyr a gwylwyr a chymraeg yw y brif iaith a glywir yn y treialon. Mae hyn yn arwyddocaol yn ddiwylliannol gan helpu i warchod a hyrwyddo yr iaith. Nid yw gwaith dyddiol ffermwyr yn cynnig llawer o gyfle i gymdeithasu ac mae’r treialon yn siawns i gael newid oddiwrth y fferm o’r tir cyfarwydd gan roi cyfle i gymysgu yn gymdeithasol gyda phobl o’r un anian a hefyd yn y gymuned lleol ac yn bellach i ffwrdd.

Maent felly yn gyfrwng i hyrwyddo a gwella iechyd meddwl a lles o fewn y diwydiant. Mae trefnu a llwyfannu treialon yn gymorth i gynnal cydlyniant cymunedol ac mae’n bleser gweld yr ifanc a rhai ddim mor ifanc yn cystadlu yn erbyn eu gilydd beth bynnag fo’r tywydd! Rhaid peidio dibrisio pwysigrwydd treialon cwn defaid i gymunedau cymreig a’u cyfraniad hefyd i adeiladu gwydnwch unigolion a chymunedau .

Sheepdog trials in North Wales are a key part of the farming and cultural calendar and they continue to be a much cherished and traditional activity. The vast majority of trials in North Wales are held in the traditional linguistic heartlands, where competition and healthy rivalry is passed down between generations of farmers and shepherds. Welsh is the first language of a large majority of participants and spectators and it is the dominant language heard at the trials. This is culturally significant as it helps to preserve and promote the language.

The working lives of farmers and shepherds offer few opportunities to socialise, the trials provide a break from their own farms and land, allowing competitors to mix socially with likeminded people and others within the local community and wider afield. They are therefore a force for promoting and improving mental health and wellbeing within the industry.

The organising and staging of trials helps to build and maintain community cohesion and it is a pleasure to watch the young and not so young compete against each other at all levels, in all weathers! The importance of sheepdog trials to the Welsh communities and the individual and community resilience they help to build should not be underestimated.

David Baker

www.davidbaker.photography

info@davidbaker.photography

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.