Commuitylinksummer2014welsh

Page 1

Rhifyn 64 Haf 2014

Cylchlythyr Interlink ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn RCT


Cyflwyniad Interlink News Croeso i’r rhifyn Iechyd a Lles

Croeso ..... i rhifyn yr haf o Gylchlythyr Interlink. Os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf, anfonwch eich erthyglau, gwybodaeth, swyddi gwag neu hysbysebion erbyn: 7 Tachwedd 2014 i Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk

In this issue we have: Cyflwyniad Newyddion Staff Interlink Iechyd Meddwl (MHSUI) Iechyd Meddwl Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Iechyd a Lles Lleisiau Lleol Cysylltu Cymunedau Newyddion Lleol Hyfforddi Interlink

2 3 4-5 6-7 8-9 10-11 12-13 14 15 16

Ein cyfeiriad: 6 Melin Corrwg, Cardiff Road Upper Boat, Pontypridd CF37 5BE Rhif Ffon: 01443 846200 Fax: 01443 844843 E-bost: info@interlinkrct.org.uk Gwefan: www.interlinkrct.org.uk Oriau agor y swyddfa yw: Monday - Thursday: 9.00am - 5.00pm Friday: 9.00am - 4.30pm

Page 2

Mae Interlink yn brysurach nag erioed ac rydyn ni wedi gorfod ymdrechu’n galed i gadw’r rhifyn yma i 16 o dudalennau gan fod cymaint o bethau’n digwydd. Mae lles yn hollbwysig inni i gyd ac rydyn ni’n trafod y ‘5 cam tuag at les’ yn y rhifyn yma drwy gynnwys erthyglau am Gysylltu Cymunedau, Gwobrau Gwirfoddolwyr Rhondda Cynon Taf, Llais y Gymuned, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli straen a Gwobrau’r Dlws Grisial. Rydyn ni hefyd yn cyflwyno cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl a’n Cydlynwyr Cymunedol newydd sy’n gweithio gyda phobl hŷn. Rydyn ni’n gobeithio cymryd cam arall tuag at annog ymgysyll ad y cyhoedd yng Nghynhadledd Llais y Gymuned ar 15 Hydref. Bydd y prosiectau Llais y Gymuned yn dod â phobl, grwpiau cymunedol a phartneriaid ynghyd i drafod sut y gallwn ni gael pobl i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau a chael pawb i gydweithio i wneud ein gwasanaethau a’n cyfleusterau cymunedol hyd yn oed yn well – mae’n gyffrous iawn! Erbyn hyn, mae gyda ni gysyll ad gwell fyth gyda chi, a drwy ein digwyddiadau Cysylltu â’r Gymuned, rydyn ni wedi recriw o dros 50 o aelodau newydd i Interlink i ymuno â’r 500 o aelodau sydd gyda ni’n barod – croeso i chi! Y cam nesaf fydd ychwanegu’r holl aelodau yma at ‘ap’ fel bod modd i bawb ddarganfod beth sy’n digwydd yn Rhondda Cynon Taf. Cawsom amser da unwaith eto yn ein noson Gwobrau Gwirfoddolwyr Rhondda Cynon Taf gyda thros 100 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan – cyfran fach o’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf i greu cymunedau cryf. Dwy o’r prif heriau sy’n ein hwynebu yng Nghwm Taf yw’r boblogaeth sy’n heneiddio a lles meddwl. Rydyn ni’n credu bod gan bawb yn Rhondda Cynon Taf rywbeth i’w roi i’r gymdeithas, ac yn aml iawn, mae gan bobl hŷn gyfle i roi mwy nag eraill. Maen nhw’n rhoi drwy fod yn gymdogion, gofalwyr, rhieni, teidiau a neiniau, siopwyr, gwirfoddolwyr ac mae ganddyn nhw fwy o wybodaeth a phrofiadau na’r gweddill ohonon ni! Drwy Gynllun Grant Capasi ’r Gymdogaeth mae dros ddwsin o fentrau newydd wedi’u cychwyn a byddant yn cael eu cefnogi gan bum Cydlynydd Cymunedol yng Nghwm Taf, tri ohonyn nhw gydag Interlink. Mae un prosiect yn cael ei gydlynu gan Interlink, sef hyfforddi pobl hŷn i fod yn ymchwilwyr i gynnal ymchwil trylwyr gyda phobl hŷn eraill. Yna, bydd y prosiect yn edrych sut i ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn. Model gwasanaeth newydd ar gyfer hyrwyddo lles, cefnogi gwelliant a datblygu gwydnwch cymunedol yw Cynnig Gwasanaeth Newydd am Ymyrraeth Iechyd Meddwl Cynnar Cwm Taf, ‘Valleys Steps’. Dewch i Glwb Rygbi Abercwmboi ar 16 Medi rhwng 09.30 a 13.00 lle gallwch ofyn cwes ynau’n uniongyrchol i gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Yn ogystal, bydd siaradwyr i’ch ysbrydoli a chyfle gwirioneddol i roi eich barn. Cynhelir y digwyddiad yma i Ddefnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr, Darparwyr a’u Hymddiriedolwyr. Mwynhewch y darllen, cysylltwch, a chymerwch ran – gydag ysbryd cymunedol mor gryf a byddin o wirfoddolwyr parod, rydych chi’n gwneud Rhondda Cynon Taf yn lle unigryw.


Newyddion Staff Interlink

Y Gronfa Gofal Canolraddol Mae’r Gronfa Gofal Canolraddol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013 yn hyrwyddo gwell cydlyniant ym maes gofal i gefnogi pobl i aros yn ddiogel yn eu cartrefi neu yn y gymuned. Mae rhan o’r gronfa yn cefnogi’r gwaith o adeiladu capasi cymunedol ac felly mae Interlink a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful bellach yn gartref i bum swydd Cydlynydd Cymunedol newydd. Bwriad y swyddi yw ehangu mynediad i gyfleusterau yn y gymuned a’r gymdogaeth sy’n cefnogi lles, gwelliant ac ailalluogi pobl hŷn. Ar hyn o bryd, maen nhw’n mynd o gwmpas eu hardaloedd yn darganfod beth sydd ar gael i bobl dros 65 oed ac yn gweithio er mwyn ceisio lleihau arwahanrwydd ac unigrwydd ac annog cynhwysiant cymdeithasol yn y gymuned. Bydd Deanne yn ddolen gyswllt gydag Ymarferwyr Gofal Sylfaenol yng Nghwm Taf gan gynnwys Meddygfeydd a Fferyllfeydd Cymunedol.

Cydlynwyr Cymunedol Cwm Taf Fi yw Karen Powell ac rwy’n gweithio yn ardal Taf Elái. Yn barod, rydw i’n mwynhau’r gwaith rwy’n ei wneud i helpu grwpiau a sefydliadau cymunedol i hyrwyddo’u hunain a dysgu am y gwasanaethau a’r gweithgareddau maen nhw’n eu darparu yn eu cymunedau. Mobile 07580 869970 e-bost: kpowell@interlinkrct.co.uk

Dyddiad ar gyfer eich dyddiadur Stronger in Partnership 10 Medi 2014 1.30pm - 3.30pm Voluntary Ac on Merthyr Tydfil Cysylltwch Rachel Wya

Community Voice Conference 15 Hydref 2014 Cysylltwch Lucy Foster

Valleys Steps Stakeholder Engagement Event 16 Medi 2014 9.30am - 1.00pm Abercwmboi Rugby Club Cysylltwch Maria Abson

Fforwm Iechyd Meddwl Fi yw Jason Tynan ac rwy’n gweithio yn ardal Cwm Cynon. Rydw i wedi bod yn cwrdd â grwpiau a sefydliadau gwirfoddol yn y gymuned ac rwy’n edrych ymlaen i fod yn rhan o’r fenter gyffrous yma. Mobile 07580 869946 e-bost: jtynan@interlinkrct.org.uk

Fi yw Kelly Daniel a bydda i’n gweithio ar y prosiect cyffrous yma. Bydda i wedi fy lleoli yn Nhonpentre a byddaf yn gweithio yn y Rhondda. Rydw i’n edrych ymlaen i ddysgu pa wasanaethau rydych chi’n eu cynnig i gefnogi pobl hŷn a gweithio gyda chi ar brosiectau ar y cyd. Mobile 07580 865938 e-bost: kdaniel@interlinkrct.org.uk

Fi yw Deanne Rebane ac rydw i’n gweithio gyda Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful. Byddai’n ymgysylltu ag Ymarferwyr Gofal Sylfaenol yng Nghwm Taf gan gynnwys Meddygfeydd a Fferyllfeydd Cymunedol. Mobile 07580 869983 e-bost: deanne.rebane@vamt.net

Fi yw Carol van den Berg, ac rydw i’n gweithio yn ardal Merthyr Tudful. Rydw i’n edrych ymlaen i weithio gyda phobl 65 oed a hŷn. Rydw i’n angerddol am allu sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gefnogi’r grŵp oedran yma drwy gynnig gwasanaethau lleol.

4 Tachwedd 2014 10.00am - 12.00pm Cysylltwch Maria Abson

Interlink AGM 26 Tachwedd 2014

Gyda chalon drom rydym yn cyhoeddi bod Sue Shaddock, sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda ni am 14 o flynyddoedd, wedi marw ar ôl cyfnod byr o salwch. Mae’r newyddion annisgwyl wedi dod fel sioc i ni ac i Hannah a Charlo e, sef gwirfoddolwyr cynorthwyol Sue sydd wedi bod gyda hi ers iddyn nhw fod yn yr ysgol. Bydd nifer ohonoch a fuodd yn y digwyddiad Gwobrwyo Gwirfoddolwyr blynyddol yn cofio Sue – digwyddiad a oedd bob amser yn rhoi pleser iddi. Bydd colled mawr ar ei hôl.

Mobile 07580 866547 e-bost: carol.vandenberg@vamt.net

Page 3


Iechyd Meddwl Mae’r Prosiect Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl (MHSUI) yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r dasg o gynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y gwaith o gynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl lleol ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, er mwyn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed. Mae Rachel Wya , Swyddog Datblygu’r Prosiect yn gweithio i ddatblygu’r prosiect ac mae hi’n hwyluso’r Grŵp Nerth mewn Partneriaeth. Mae hi’n datblygu prosiectau penodol, fel INFORM, sydd â chysyll ad â datblygiadau Cysylltwch Rachel ar 01443 846200 neu e-bost: rwya @interlinkrct.org.uk

Cyflwyno’r Cynrychiolwyr – Cry

au Llais Defnyddwyr a Gofalwyr yng Nghwm Taf

Yn ddiweddar, mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi recriw o pedwar o Gynrychiolwyr Defnyddwyr Gwasanaeth ac un Cynrychiolydd Gofalwyr ar Fwrdd Partneriaeth Cwm Taf ar gyfer Iechyd Meddwl. Swyddogaeth y bwrdd yw goruchwylio’r gwaith o ddarparu a rhoi cynllun Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar waith. Hon yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru. Mae’n gyfnod cyffrous iawn ym maes Iechyd Meddwl a gobeithio y bydd y cynrychiolwyr newydd yn rhan o newidiadau cadarnhaol. Mae pob Cynrychiolydd yn brofiadol o ran defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl neu ofalu am rywun sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Dyma gyflwyniad byr i’r pum cynrychiolydd Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr ar y Bwrdd. Rwy’n gynrychiolydd gofalwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Lleol ac yn un o’r ddau gynrychiolydd gofalwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol. Rydw i wedi bod yn ofalwr am 12 mlynedd ac rwy’n angerddol am ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yn lleol ac yn genedlaethol. Rwy’n gobeithio, fel m, y byddwn ni’n gallu cynrychioli barn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn effeithiol, gan dynnu sylw at y materion sydd o bwys. Yn y pen draw, hoffwn weld gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n barod i wrando a phawb yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwasanaeth iechyd meddwl o ansawdd. Jane Bod yn gynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth ar Fwrdd Partneriaeth Cwm Taf ar gyfer Iechyd Meddwl yw fy s wyddogaeth ddiweddaraf yn y maes yma. Rwy’n bencampwr gweithgar ar gyfer ymgyrch Amser i Newid Cymru ac rwy’n datblygu sefydliad, ‘Making Minds’, sy’n hyrwyddo rôl celf a chreadigrwydd ym maes iechyd meddwl. Mark Smith

Page 4

Rwy’n falch iawn o gael fy newis fel Cynrychiolydd ar y Bwrdd Partneriaeth. Fel defnyddwyr gwasanaeth, rwy’n credu fod gennym y gallu i gael effaith go iawn ar newidiadau yn y dyfodol ac i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel. Mae gen i brofiad ym maes addysg ac un o fy hoff bethau yw codi ymwybyddiaeth a thorri s gma o ran iechyd meddwl, yn enwedig yn y gweithle. Rydw i hefyd yn credu bod modd gwella agweddau cenedlaethau’r dyfodol os gallwn ni addysgu ein pobl ifanc heddiw. Nik John Helo bawb, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn gynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth ar Fwrdd Partneriaeth Cwm Taf ar gyfer Iechyd Meddwl. Fel rhywun sydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth ers dros 14 mlynedd ac sy’n Therapydd Galwedigaethol, rwy’n gobeithio defnyddio fy mhrofiad personol a phroffesiynol wrth weithio gydag aelodau eraill ar y Bwrdd. Rwy’n angerddol iawn dros sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn cael cymryd rhan go iawn yn y gwaith o ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau. Bethan Mair Edwards

Rwy’n ymwneud â nifer o grwpiau cefnogi iechyd meddwl i gyfoedion yn Rhondda Cynon Taf ac yn ddiweddar, gofynnodd Mind Merthyr a’r Cymoedd imi fod yn ymddiriedolwr iddynt. Bydd bod ar y Bwrdd Partneriaeth yn gyfle delfrydol imi gynrychioli defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr sy’n dod i’r grwpiau yma a throsglwyddo eu pryderon a fydd, gobeithio, yn helpu i wella’r gwasanaeth maen nhw ac eraill yn ei dderbyn heddiw ac yn y dyfodol. Sharon Phillips


Iechyd Meddwl

Oes gyda chi brofiad o Gynllunio Gofal a Thriniaeth? Mae eich llais chi’n cyfri! Mae Prosiect Cynnwys Iechyd Meddwl yn cynnal arolwg i gasglu barn pobl sy’n derbyn cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Os ydych chi’n derbyn cefnogaeth gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (e.e. gweithiwr cymdeithasol, seiciatrydd neu nyrs seiciatrig gymunedol, byddem yn hoffi clywed eich barn am eich profiad o Gynllunio Gofal a Thriniaeth.

Mae’n bosibl llenwi’r arolwg ar-lein mewn dwy ran hefyd. Mae Rhan 1 yn gofyn am eich profiadau o Gynllunio Gofal a Thriniaeth a gellir ei llenwi ar-lein yma www.surveymonkey.com/s/M95SYL3 Mae Rhan 2 yn gofyn am adolygiad o’ch Cynllun Gofal a Thriniaeth a gellir ei llenwi ar-lein yma www.surveymonkey.com/s/MJ6KKN5 Bydd modd llenwi’r arolwg tan fis Hydref a bydd y canlyniadau yn cael eu bwydo i Lywodraeth Cymru a’u defnyddio i wella gwasanaethau yn lleol.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y gwasanaeth rydych wedi’i gael, neu i wneud cais am gopi caled o’r arolwg, anfonwch e-bost i rwya @interlinkrct.org.uk neu ffoniwch Interlink, 01443 846200.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ar gyfer Staff Meddygfeydd Mae’r angen am well ymwybyddiaeth iechyd meddwl mewn Gofal Sylfaenol wedi cael ei nodi ar lefel leol a chenedlaethol. Mae un o brif argymhellion arolwg 2014 Gofal o Brofiadau Pobl o Wasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol yng Nghymru yn nodi: ‘Dylai partneriaid iechyd meddwl sicrhau bod meddygon teulu a staff gofal sylfaenol eraill yn cael hyfforddiant i godi eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl.’

Cyflwynodd y grŵp ei sesiwn gyntaf ym mis Gorffennaf i staff ym Meddygfa Parc Aberdâr a bydd yn cyflwyno sesiynau mewn meddygfeydd eraill yng Nghwm Taf yn yr hydref Hyd yma, INFORM yw un o’n prosiectau mwyaf arloesol a chyffrous ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant i’r grŵp wrth ddarparu’r hyfforddiant yma tan 2015.

Mae’r Prosiect Cynnwys Iechyd Meddwl hefyd wedi cael nifer o adroddiadau anecdotaidd am yr effaith y gall agweddau negyddol eu cael pan fydd pobl yn ymweld â’u meddygon i gael cymorth gyda iechyd meddwl a gwelwyd llawer o frwdfrydedd am brosiect sy’n hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol. O ganlyniad, cynhyrchwyd pecyn hyfforddi INFORM ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth ymysg staff prac s o brofiadau cleifion a gofalwyr o ddefnyddio gofal sylfaenol ar gyfer cyflwr yn ymwneud â iechyd meddwl. Mae’r grŵp wedi datblygu amrywiaeth o ddulliau hyfforddi rhyngweithiol gan gynnwys straeon digidol, gweithgareddau grŵp a chyflwyniadau i dynnu sylw at themâu cyffredin ac i ddangos sut y gall newidiadau syml i arferion gweithio fod yn hynod effeithiol o ran cefnogi pobl. Page 5


Iechyd Meddwl Mae Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl, yn cefnogi sefydliadau iechyd meddwl lleol yng Nghwm Taf ac yn cydlynu cysyll adau rhwng cymunedau, sefydliadau gwirfoddol a’r sector statudol drwy Fforwm Iechyd Meddwl Cwm Taf. Mae’r Fforwm Iechyd Meddwl yn croesawu unrhyw gymuned neu grŵp gwirfoddol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl yng Nghwm Taf. Cysylltwch Maria ar 01443 846200 neu e-bost: mabson@interlinkrct.org.uk

Cyrsiau Hunan Gymorth am Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen yn y Gymuned Ym mis Ionawr 2014, dechreuodd Gwasanaeth Cymorth Gofal Sylfaenol Lleol ar gyfer Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Cwm Taf ddarparu cynllun peilot i gynnig cyrsiau mynediad agored am hunan reolaeth yn y gymuned. Yn ystod 2014, bydd 32 o gyrsiau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi a llyfrgelloedd, a nifer o’r cyrsiau wedi’u hariannu gan Gymunedau yn Gyntaf. Hyd yma, mae tua 30 o bobl ar gyfartaledd wedi bod yn mynd i bob cwrs ac mae 95% o bobl wedi bod ar bum allan o chwe sesiwn ar gyfer y ddau gwrs. Cafwyd y presenoldeb uchaf ar gwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar gyda’r nos yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant lle bu 87 o bobl ar y cwrs a lle cwblhaodd dros 80 o bobl y cwrs chwe wythnos. Drwy gydol y cynllun peilot bydd y cwrs yn cael ei hyrwyddo gan Feddygon Teulu, Gwasanaeth Cymorth Gofal Sylfaenol Lleol ar gyfer Iechyd Meddwl, gwefannau Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod Lleol a gwasanaethau iechyd galwedigaethol a’r trydydd sector.

Mae’r cyrsiau yn helpu pobl i ddeall a rheoli eu teimladau yn well ac yn gwella’u lles. Mae’r cyrsiau yn rhai ‘galw heibio’ / hunan gyfeirio. Mae croeso i bob oedolyn, does dim disgwyl i neb siarad yn ystod y sesiynau ac mae croeso i bawb ddod â ffrind.

Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn cynnwys: Rheoli Straen© • Mae’r cwrs yma’n seiliedig ar dechnegau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol • Nod y cwrs yw helpu pobl i ddeall beth sy’n achosi straen a sut i reoli’r symptomau Ymwybyddiaeth Ofalgar • Mae’r cwrs yma’n seiliedig ar Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT) a gyda pheth • myfyrdod, mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn dechneg sy’n gallu bod yn ddefnyddiol drwy gydol eich bywyd ar ôl ichi ei dysgu. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: CTT_stresscontrol&mindfulness@wales.nhs.uk

Cyfeirlyfr Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Mae gwefan Cymorth Iechyd Meddwl yn brosiect partneriaeth rhwng Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol New Horizons, y Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Nod y wefan yw rhoi cyngor a gwybodaeth hygyrch am faterion a gwasanaethau iechyd meddwl i bobl â phroblemau iechyd meddwl, eu gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac unrhyw arall â diddordeb mewn iechyd meddwl. Mae llawer o bethau ar y wefan, ewch i www.mentalhealthsupport.co.uk i ddysgu mwy! Page 6


Iechyd Meddwl Grwpiau Cymorth Iechyd Meddwl gan Gyfoedion yn Rhondda Cynon Taf Camau Cadarnhaol – Darran Las, Aberpennar

M.A.S.H. – Maerdy

Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob prynhawn dydd Gwener rhwng 12.30pm a 3.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Darran Las.

Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob dydd Mercher rhwng 6.00pm ac 8.00pm yn Rhif 9, Maes y Rhedyn, Maerdy.

Dechrau Newydd – Glyncoch

Grŵp cymdeithasol yw hwn a gall bobl alw heibio neu aros drwy’r dydd ar ddydd Llun yn Neuadd Eglwys Sant Ioan rhwng 11.00am a 3.00pm.

Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob bore dydd Gwener rhwng 9.30am a 12.30pm yng Nghanolfan Gymunedol Glyn-coch.

Taith Well – Tonyrefail Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob bore dydd Mawrth rhwng 10.30am a 12.30pm yng Nghanolfan Adnoddau Fferm y Capel.

Camau – Glynrhedynog Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob dydd Mawrth rhwng 10.30am a 1.30pm yn Neuadd Morlais, Glynrhedynog.

Cyfeillon sy’n Gwrando y Rhondda – Tonpentre

Cysyll adau Newydd – Ystrad Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob dydd Mercher rhwng 10.30am a 12.30pm yn Eglwys Providence, Ystrad. Cysylltwch â Simone drwy ffonio 01443 424218 neu simone@rhondda.org Mae’r grwpiau yma i bobl sydd â theimladau ysgafn i gymedrol o bryder ac iselder. Mae’r holl grwpiau’n codi pris am luniaeth, ac maent yn amrywio.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sara Davies drwy ffonio 01443 424350 neu e-bos wch: Sara.M.Davies@rhondda-cynon-taff.gov.uk

Iechyd Meddwl – Pwy sy’n poeni?

Grŵp Cymorth gan Gyfoedion New Horizons

Mae Prosiectau Ieuenc d New Horizons i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf ac sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Yn cwrdd yn Neuadd Eglwys Sant Lleurwg (tu ôl i Lyfrgell Hirwaun) bob dydd Gwener rhwng 1.00pm a 3.00pm.

New Horizons – Cynon

Mae’r grŵp yn cynnig cymorth i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Mae grŵp cymorth gan gyfoedion New Horizons Aberdâr wedi uno’n ddiweddar gyda grŵp cymorth gan gyfoedion Hirwaun, ac mae’r gwaith o uno’r grwpiau wedi bod yn llwyddiant a phawb yn dod ynghyd i gefnogi a mwynhau cwmni eu gilydd.

16 Dean Street, Aberdâr CF44 7BN Cysylltwch â Kristy Davies drwy ffonio 01685 881113

New Horizons – Rhondda Apple Tree Stores Apple Tree Avenue Dinas, Porth CF40 1JH Cysylltwch â Tracy Thomas drwy ffonio 01443 681881 Gellir dod o hyd i’r ffurflen gyfeirio yn www. newhorizons-mentalhealth.co.uk

Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd am ymuno â ni, a bydd paned a bisgedi yn eu disgwyl. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Natalie drwy ffonio 01685 881113.

Making Minds Fel rhan o’n hymrwymiad i annog celf i hyrwyddo lles, mae Making Minds yn cynnal arddangosfa yn Oriel Llantrisant yn y Tŷ Model, Llantrisant. Rydyn ni’n chwilio am ddarnau o gelf sy’n cynrychioli salwch meddwl neu les meddwl. Gall fod yn waith wedi’i baen o, cyfrwng cymysg, serameg, tecs lau – unrhyw beth ar s g y gallwn ei osod ar wal neu fwrdd.

Ychydig o le sydd ar gael, felly mae faint o waith y gallwn ei arddangos yn ddibynnol ar faint pob darn unigol. Bydd yr arddangosfa i’w gweld drwy gydol mis Hydref a bydd angen i ni gael y gwaith yn ystod wythnos olaf mis Medi. Mae modd gwerthu’r gwaith a bydd yr oriel yn cymryd comisiwn o 40%, ond rydyn ni hefyd yn fodlon arddangos gwaith nad yw ar werth. I gynnig darn o waith, i wneud awgrym neu i gael rhagor o wybodaeth, Page 7 cysylltwch â Kira: kira@kirajones.co.uk neu ffoniwch hi ar 07973 539026


Iechyd Meddwl

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2014 New Horizons Cynon Valley ‘Diwrnod Agored’ 7 Hydref 2014 12.00pm - 3.00pm 16 Dean Street, Aberdare Cysyllwch Janet Whiteman on 01685 881113

‘Noson Gwis‘ 8 Hydref 2014 Cwis yn dechrau 7.00pm 7.30pm - 10.30pm Ton Pentre Footabll Club Roedd y cwis y llynedd yn llwyddiant ysgubol arall, ac felly byddwn yn ei ailadrodd eto eleni ar gyfer pawb sy’n hoffi gwybodaeth gyff redinol. Bydd Boyd Clack, Noddwr New Horizons, yn cyfl wyno eto eleni. Dewch draw gyda’ch ff rindiau a’ch cydweithwyr i ddangos eich cefnogaeth, mae llawer o wobrau ar gael i’w hennill a digon o hwyl. Am mwy o gwybodaeth cysylltwch Sara Davies 01443 424350 neu Janet Whiteman ar 01685 881113

Ymgyrch Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Fyd-Eang Ar ôl i Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd sefydlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref 1992, cafodd ei fabwysiadu gan lawer o wledydd fel ffordd o hyrwyddo materion iechyd meddwl. Bob blwyddyn caiff thema ei dewis a chaiff deunyddiau addysg eu cynhyrchu gan y Ffederasiwn i’w dosbarth. Eleni, y thema yw ‘Byw gyda Sgitsoffrenia.’ I ofyn am ddeunydd addysg, anfonwch eich manylion cysylltu i: wmhday@wfmh.com. Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu ac mae digwyddiadau wedi’u trefnu yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar y thema byw gyda sgitsoffrenia. Bydd un o bob cant o bobl yn profi sgitsoffrenia yn ystod eu hoes. Mae modd ei drin, a bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â sgitsoffrenia yn byw eu bywydau yn ôl yr arfer. Fodd bynnag, gall diffyg dealltwriaeth arwain at s gma a gwahaniaethu, a all ei gwneud hi’n llawer anoddach i bobl siarad yn agored am y cyflwr ac i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ac mae’n siŵr eich bod yn gwybod am bobl sydd â sgitsoffrenia sy’n gweithio gyda chi ac yn gymdogion a gwirfoddolwyr gwych yn eich cymuned! Hoffem i chi gymryd rhan yn Niwrnod Iechyd Meddwl y Byd! Mae hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn lleol yn golygu manteision pwysig i bawb yn ein cymunedau, ac mae’n mynd ymhell o ran lleihau s gma ac unigrwydd gan greu cymuned gefnogol, wybodus sy’n goresgyn s gma. Mae hyn yn cyfeirio egni ac ymdrech newydd i’r gwaith o wella bywydau’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl drwy herio gwahaniaethu yn lleol.

New Horizons Rhondda Valley ‘Diwrnod Agored’ 9 Hydref 2014 12.00pm - 3.00pm Apple Tree, Dinas Cysylltwch Janet Whiteman ar 01685 881113

Page 8

Hoffai Interlink ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb sy’n rhan o’r gwaith o drefnu digwyddiadau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn lleol. Heb gyfraniad a chefnogaeth barhaus, ni fyddai’r digwyddiadau yma’n digwydd o gwbl. Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unigol ac ar y cyd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl yn Interlink drwy ffonio 01443 846200 neu e-bos o: mabson@interlinkrct.org.uk


Iechyd Meddwl

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2014 ‘RCT Byd Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl’ 3 Hydref 2014 10.00am – 3.00pm Hawthorn Leisure Centre Fairfield Lane, Pontypridd Mae’r digwyddiad yma wedi’i anelu at ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl, a bydd ystod eang o wybodaeth am faterion iechyd meddwl a lles a materion perthnasol eraill ar gael. Bydd amrywiaeth o sefydliadau yn bresennol a bydd cyfle i unigolion holi cwes ynau a chael arweiniad ar bynciau a materion o ddiddordeb iddyn nhw. Bydd y digwyddiad yn gyfle i sefydliadau ddathlu arfer da a llwyddiannau, ac arddangos eu gwasanaethau. Bydd therapïau holistaidd ar gael i chi eu trio hefyd. Dewch draw i fanteisio ar y wybodaeth a fydd ar gael. Bydd lluniaeth ar gael drwy’r dydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Claire Meredith drwy ffonio 01443 668813.

Mae angen eich cymorth CHI arnon ni! Bwrdd Stori ar gyfer Digwyddiadau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Os oes gyda chi brofiad o fyw gyda sgitsoffrenia a’ch bod am gyfrannu at y bwrdd stori, hoffem ichi anfon eich cerddi, straeon neu ddyfyniadau atom am fyw gyda Sgitsoffrenia i godi ymwybyddiaeth. Anfonwch nhw at:

‘ Prif Ddigwyddiad Merthyr Tudful’ Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2014 9 Hydref 2014 10.30am - 1.30pm Merthyr Tydfil Leisure Centre Mae Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ffordd o weithio gyda’n gilydd er mwyn rhoi sylw i anghenion ein cymunedau lleol. Bydd y diwrnod yn gyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth drafod â’r rhai sy’n darparu gwasanaethau, a bydd hefyd yn gyfle i sefydliadau lleol a’u partneriaid arddangos eu gwasanaethau. Bydd amrywiaeth o weithgareddau, cre au a therapïau cyflenwol ar gael ar y diwrnod. Cysylltwch â Maria Abson drwy ffonio 01443 846200 neu Shian Neale ar 01685 727067

Cystadleuaeth Gelf Dydd Iau 9 Hydref 2014

A oes arlunwyr yn eich plith? Lluniwch lun modern wedi’i baen o ar bapur maint A4 sy’n dangos

‘Byw’n Dda ym Merthyr Tudful’ Bydd darlun 3’ x 4’ yr enillydd yn cael ei arddangos yn y digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 9 Hydref

Gwobr – £300 a fydd yn cael ei chyflwyno i’r enillydd ar y diwrnod Y dyddiad cau yw 1 Medi 2014

Rachel Wya yn Interlink neu e-bost: rwya @interlinkrct.org.uk

Anfonwch eich ceisiadau i: Mind Merthyr a’r Cymoedd – Canolfan Wybodaeth a Chyngor, 88 High Street, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UH

Y dyddiad cau ar gyfer cyfrannu yw Dydd Gwener, 26 Medi 2014

Nodwch gyda’r llun ‘Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd – Cystadleuaeth Gelf’ a rhowch eich enw a’ch manylion cyswllt ar y cefn.

Bydd yr holl wybodaeth ar y bwrdd stori’n cael ei chadw’n ddi-enw.

Drwy gystadlu, rydych chi’n cydsynio bod posibilrwydd y bydd eich gwaith yn cael ei arddangos ar y diwrnod. Noddwyd gan: Tydfil Training

Page 9


Iechyd a Lles Mae Anne Morris, Hwylusydd Gofal Cymdeithasol a Lles, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n rhan o’r gwaith o wella iechyd a gofal cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. Yn aml iawn mae hyn yn golygu cael pobl i rwydweithio a gweithio gyda’i gilydd. Mae Anne hefyd yn hwyluso Fforwm Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles Rhondda Cynon Taf, a bwle n wythnosol am iechyd. Cysylltwch â Anne ar 01443 846200 neu e-bost: amorris@interlinkrct.org.uk

‘Prosiect 5’ cam tuag at les Yn ddiweddar, mae Mind Merthyr a’r Cymoedd wedi lansio Prosiect 5 cam tuag at les, gan weithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng nghymuned Cwm Taf. Wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol, bydd y prosiect yn gweithio gyda phobl hŷn i wella’u lles cyffredinol drwy ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Bydd y gwirfoddolwyr yn cynorthwyo pobl hŷn drwy eu cefnogi i gysylltu ag eraill, i gadw i fynd, i gymryd sylw o’u hamgylchedd, i roi i eraill ac i barhau i ddysgu.

Dywedodd Pam Khan, Cydlynydd y Prosiect: ‘Rydyn ni’n falch o gael dod â Phrosiect 5 i bobl hŷn sy’n byw mewn llety gwarchod – yn aml mae pobl yn teimlo’n unig ac ynysig sy’n gallu effeithio ar les pobl. Bwriad Prosiect 5 yw newid hyn.’

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yma, ffoniwch Mind Merthyr a’r Cymoedd ar 01685 353944 neu ewch i’r wefan www.matvmind.org.uk

Y Gronfa Gofal Canolraddol Mae’r Gronfa Gofal Canolraddol a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni yn rhoi cyfle gwirioneddol i ddatblygu gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau integredig effeithiol ym meysydd gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a thai, gyda’r trydydd sector yn bartneriaid cydradd. Dynodwyd dros £4.3 miliwn i gynnig Cwm Taf a derbyniodd y trydydd sector bron i £400,000 ohono. Bwriad y gronfa yw cynorthwyo i ddatblygu modelau newydd i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy sy’n cynnal ac yn gwella lles pobl a’u hannibyniaeth gan osgoi ymweliadau diangen â’r ysbyty neu ymweliadau amhriodol â gofal preswyl yn ogystal ag osgoi oedi cyn cael eu rhyddhau o’r ysbyty. Cafodd y trydydd sector £50,000 i hyrwyddo gwirfoddoli a gafodd ei ddefnyddio i ddatblygu ‘Prosiect 5’ cam tuag at les, fel y nodir uchod. Defnyddiwyd cyfran sylweddol o’r arian a gafwyd i recriw o’r pum Cydlynydd Cymunedol y soniwyd amdanynt yn gynharach. Page 10

Mae gan asiantaethau trydydd sector rôl arbennig yn y gwaith o ganfod a chefnogi mentrau lleol sy’n hanfodol i helpu pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ddiogel ac yn fodlon, ac mae helpu pobl hŷn i sylweddoli bod ganddynt rôl i’w chwarae yn eu cymdogaethau yn hanfodol, yn ogystal ag ymateb i’r hyn maen nhw’n ei ddweud am bwysigrwydd aros yn ac f a phwrpasol. Defnyddiwyd rhan o ddyraniad y trydydd sector i greu Cynllun Grant Capasi ’r Gymdogaeth er mwyn i’r sector allu ymateb i anghenion sydd heb eu diwallu a dangos sut mae gweithgareddau cymdogaethol yn rhan hanfodol o gynnal lles. Gwahoddwyd asiantaethau i gyflwyno cynigion sy’n gwella adnoddau lleol, yn ymateb i’r agenda ataliol ac yn cynnig cymorth i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. O ganlyniad, dyfarnwyd bron i £150,000 i 13 o sefydliadau lleol ar gyfer prosiectau arloesol a fydd yn cychwyn cyn hir.


Iechyd a Lles Cystadleuaeth Iach yng Ngwobrau’r Dlws Grisial Cafodd grwpiau cymunedol sydd wedi mynd y tu hwnt i’w swyddogaethau i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal iechyd gwael eu canmol yn seremoni Gwobrau’r Dlws Grisial flynyddol. Partneriaeth Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ar y cyd â’r sector gwirfoddol, gynhaliodd y noson wobrwyo ar Gampws Rhondda Coleg y Cymoedd. Dywedodd y Cynghorydd Mike Forey: ‘Mae llwyddiant y gwaith yma yn dangos faint o waith sy’n digwydd mewn cymunedau o ddydd i ddydd, gan dargedu grŵp penodol o breswylwyr neu fater penodol sy’n ymwneud ag iechyd a lles. Dyma lle mae trigolion yn cael eu cynnwys a’u cynorthwyo i ddelio gyda’r materion sy’n effeithio arnynt. Mae’r gwobrau yma’n gyfle i ddangos a dathlu gwaith lleol, ac yn codi proffil yr amrywiaeth enfawr o weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf i helpu pobl i helpu eu hunain.’ Yr enillwyr eleni oedd Prosiect ‘Dewisiadau’ gan Fixers, prosiect arloesol sy’n codi ymwybyddiaeth am gyffuriau ‘anterth cyfreithlon’ neu ‘legal highs’, fel NRG, Popper, Black Mambo a Meow Meow. Codwyd y mater o gamddefnyddio’r cyffuriau yma am y tro cyntaf mewn cyfarfod Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd a gynhaliwyd ym Mhrosiect Ieuenc d Forsythia, lle cododd ieuenc d eu pryderon am ddefnydd eang o’r cyffuriau. Arweiniodd hyn at gynhyrchu DVD grymus sydd ar gael i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol ei gweld os ydynt am ddysgu rhagor am y broblem hon a chodi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc.

Enillwyr yr ail wobr oedd prosiect Bocsys Bwyd Cymunedol (Cymdeithas Dai y Rhondda a FareShare Cymru). Mae’r cynllun – sy’n newid bywydau – yn un o’r rhai cyntaf o’i fath yn y de. Mae’n ailgyfeirio bwyd iach oedd yn cael ei gyfrif fel gwastraff ac yn cael ei daflu gan ddosbarthwyr, cynhyrchwyr a mân-werthwyr ar un adeg i focsys bwyd iach sy’n cael eu rhannu ymysg trigolion sydd mewn angen. Hyd yma, mae 160 o deuluoedd wedi elwa o’r bocsys, ac mae ôl-ddyledion rhent wedi gostwng 5%. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli gwerthfawr. Prepare To Care (Mind Merthyr a’r Cymoedd) enillodd y drydedd wobr. Mae Prepare To Care yn gyfle hyfforddi unigryw i’r rheini sy’n gofalu am rywun yn eu cymuned neu’r rheini sy’n chwilio am yrfa ym maes gofal. Mae’r cwrs achrededig Agored Cymru Lefel Tri yn rhoi cyflwyniad anffurfiol a chefnogol i ofal i chi. Dywedodd un myfyriwr ar y cwrs: ‘Mae cymryd rhan wedi gwneud i mi sylweddoli ein bod i gyd yn unigryw gydag anghenion iechyd a lles ac anableddau gwahanol, ac am y tro cyntaf erioed, mae wedi rhoi gwybodaeth imi am fy newisiadau ac i beidio â barnu pobl.’ Enillwyr y bedwaredd wobr oedd Gweithgareddau i Bawb (Cymdeithas Ofal Cyfeillion Tŷ Cwm). Tŷ Cwm yw’r adeilad cyntaf o’i fath sy’n cynnig gofal ychwanegol i’r rheini sydd ag anableddau corfforol neu nam ar eu synhwyrau a chyflyrau cronig hirdymor. Cafodd trigolion eu dwyn ynghyd drwy fenter Gweithgareddau i Bawb a bellach maent yn mwynhau dros 44 o weithgareddau hwyliog ac ysgogol sy’n dod â phobl at ei gilydd yn gymdeithasol ac yn eu cynorthwyo gyda iechyd a lles. Dywedodd Nicola John, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf: ‘Mae’r prosiectau yma’n gwneud cyfraniad enfawr i iechyd a lles. Hoffwn ganmol gwaith y grwpiau yma a hoffwn weld hyn yn digwydd mewn cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.’

Yr enillwyr eleni oedd Prosiect ‘Dewisiadau’ gan Fixers

Page 11


Lleisiau Lleol Mae Lucy ‘dwy swydd’ Foster yn ferch brysur! Hi yw Swyddog Cyfranogi a Gwerthuso Llais y Gymuned, a hefyd y Cydlynydd Hyfforddi. Mae gwaith Lucy gyda Llais y Gymuned yn golygu cefnogi wyth prosiect gwahanol iawn sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn a phobl ag anableddau, o ran cael llais yn gwella gwasanaethau cymunedol. Cysyllwch Lucy ar 01443 84200 neu e-bost: lfoster@interlinkrct.org.uk

Llais y Gymuned Bydd Rhaglen Llais y Gymuned yn cael ei chynnal am bedair blynedd yn Rhondda Cynon Taf. Gwelwyd gwaith gwych yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect. Mae Interlink yn cydlynu wyth sefydliad i weithio gyda’i gilydd i ddarparu wyth prosiect er mwyn ymgysylltu â phobl a chymunedau o ran y gwaith o gynllunio a chyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r rhaglen yn canolbwyn o ar gydgynhyrchu. Mae hyn yn golygu bod pobl a chymunedau sy’n derbyn gwasanaethau yn gweithio gyda’r rheini sy’n eu darparu.

‘Dw i’n caru’r clwb ieuenc d. Alla i ddim credu nad oedden ni’n gallu cael un!! Dwi’n falch bod Becca wedi’n helpu ni i gael un!’ Plentyn 11 oed

Y prosiectau Dyfodol Ynysybwl – Ynysybwl a Glyncoch Partneriaeth Adfywio Ymgysylltu â’r gymuned gyfan, gan dargedu’n benodol grwpiau anoddach eu cyrraedd i gymryd cyfrifoldeb dros wella’u bywydau eu hunain a’r gymuned ehangach. Yn gysyll edig â Chynllun Cymunedol ar gyfer Cynlluniau Llanwynno ac Ynni Dŵr. Mae llawer o gyfleoedd a gweithgareddau gwych wedi cael eu cynnal sy’n cynnwys Glanhau Strydoedd – sef ymgysylltu gyda’r m glanhau strydoedd, Cadwch Gymru’n Daclus a thrigolion – ac mae hyn wedi arwain at rai prosiectau glanhau strydoedd gyda llawer o wirfoddolwyr newydd. Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd m glanhau strydoedd yn sôn am eu gwaith gyda’r trigolion, ac mae hyn wedi arwain at ymgysylltu, cyfranogiad a chyd-gyflwyno. Darpariaeth Ieuenc d a Fforwm Ieuenc d – clwb ieuenc d poblogaidd gyda fforwm ieuenc d sy’n llywio’r gweithgareddau sy’n digwydd yn y clwb ieuenc d ac yn ystod gwyliau’r Pasg, yn cael eu darparu gan Gymunedau yn Gyntaf a E3. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cael hyfforddiant perthnasol i’w helpu i gefnogi’r ddarpariaeth ieuenc d. Page 12

Gweithiwr prosiect, Rebecca Arnold, yn ymgysylltu â phobl hŷn sydd wedi’u hynysu yn gymdeithasol – yn cwblhau holiadur drwy’r blwch llythyrau

Cydgynhyrchu’r Dyfodol – Partneriaeth Adfywio Glyncoch Ennyn diddordeb pobl ifanc i gydgynhyrchu cynlluniau gweithredu lleol ar faterion sy’n effeithio arnynt. ‘Cynyddwyd clybiau ieuenc d a darpariaeth i ieuenc d yn lleol yn ogystal â chyfranogiad a gweithgareddau cydgynhyrchu sy’n cael eu darparu gan Gymunedau yn Gyntaf a sefydliadau allanol. Mae’r clwb ieuenc d wedi datblygu o fod yn ddarpariaeth sy’n seiliedig ar Gymunedau yn Gyntaf, a oedd yn cael ei gyflwyno i bobl ifanc a nhw’n cael eu hysbysu, i wasanaeth sy’n cynnwys pobl ifanc ac sy’n cael ei gyd-gyflwyno a’i gydwerthuso gyda’n gilydd.’ Gweithiwr Prosiect


Lleisiau Lleol Eisiau cael ein Clywed – Caerdydd, y Fro a’r Cymoedd

Ein Llais, Ein Dyfodol – Coleg Cymuned Tonypandy

Mae Eisiau cael ein Clywed yn datblygu fforymau i bobl â nam ar eu golwg i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ac ymgynghori, a gweithio i sicrhau integreiddiad effeithiol i wasanaethau prif-ffrwd.

Yn targedu pobl 16 oed a hŷn sydd mewn perygl o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ei nod yw ymchwilio sut mae darparwyr gwasanaethau fel cyngor gyrfaoedd, addysg a’r heddlu yn ymgysylltu â phobl ifanc, gan ddatblygu pecyn o arferion da wrth gynnwys pobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau ar bob lefel.

‘Rydw i wedi cynyddu’r niferoedd ar gyfer y CSG ond brwdfrydedd y rheini ar y CSG yn ogystal. Maen nhw wedi dangos diddordeb brwd wrth werthuso’r gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd â nam ar eu golwg ac yn hyrwyddo’r grŵp ar bob cyfle. Wedi ymgynghori â Network Rail, cynnal gwerthusiad o’r gwasanaethau a ddarperir, trefnu bod adborth yn cael ei ddarparu i gynrychiolydd Network Rail a pharatoi nodiadau perthnasol. Mae aelodau o’r Grŵp wedi datblygu cysyll adau newydd gyda grwpiau eraill yn ardal Pontypridd drwy’r cyfarfodydd pobl o bwys.’ Kris an, Gweithiwr Prosiect

Creu Llais – Lygad yn Llygad Cynnwys pobl ifanc, rhwng 14 ac 18 oed sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn y gwaith o ymchwilio a datblygu ffyrdd mwy effeithiol i ddarparwyr gwasanaethau ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau hunan-niweidio a gwasanaethau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Mae’r gweithiwr wedi canolbwyn o ar ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau eu dealltwriaeth o’r prosiect, a’i waith gyda phobl ifanc a hunan-niwed. Mae’r rhain yn chwarae rhan uniongyrchol naill ai wrth gefnogi pobl ifanc sy’n gallu dylanwadu neu’r rhai sy’n gallu adnabod aelodau addas ar gyfer ymgynghori â nhw yn yr ail flwyddyn.

Croeso i’n Coedwig! – Dysgu a Thyfu Yn cynnwys y gymuned gyfan yn Rhondda Fawr yn y gwaith o adfywio coe r Cwm Saerbren i wella mynediad i’r gymuned, iechyd a lles ac adfywio economaidd. ‘Rydyn ni’n cefnogi pobl a grwpiau cymunedol lleol gyda materion sy’n gysyll edig â llais y gymuned am goe roedd, h.y. mynediad at goe roedd, gorfodaeth coe r, mentrau coe roedd, hyfforddiant coe roedd, bioddiogelwch, torri coed, ffermydd gwynt, difrod storm a mannau gwyrdd sy’n gysyll edig â choe roedd.’

Mae’r gweithiwr prosiect wedi cynnal arolwg lles torfol gyda’r ysgol gyfan, wedi dadansoddi’r canlyniadau ac ysgrifennu cynllun gweithredu lles ar gyfer yr uwch dîm rheoli. Mae wedi trefnu darpariaeth addysg amgen ar gyfer myfyrwyr a oedd yn ei chael yn anodd ymdopi â llwythi gwaith academaidd traddodiadol, ac wedi rhoi profiad o addysg awyr agored i’r myfyrwyr hynny a chyfle iddyn nhw ymgymryd â nifer o gyfleoedd hyfforddi ychwanegol.

Cymdogion – Theatr Spectacle Yn targedu’r gymuned gyfan gan ddechrau mewn clystyrau yn y Rhondda Fach, y Porth a Phontypridd. Ei nod yw ceisio grymuso llais cymunedol drwy ‘theatr weithredol’ er mwyn lleihau’r achosion o ‘ymddygiad peryglus’ ar aelodau mwyaf bregus y gymuned. ‘Heb Theatr Spectacle i gadw ein pobl ifanc yn brysur, does wybod beth fyddent yn ei wneud. Mae gweithio ar y DVD hwn wedi bod o fudd mawr i’r merched ifanc yma, a heb hyn i’w cadw’n brysur bydden nhw wedi bod yn yfed mewn safle bws yn rhywle.’ Debbie, Partneriaeth Penrhys, Gorffennaf 2014

Prosiect Torri Trwodd – Age Concern Morgannwg Yn ymgysylltu â phobl hŷn sy’n anodd eu cyrraedd nad ydynt yn rhan o grŵp cymunedol cydnabyddedig. Mae’r gweithiwr prosiect wedi cychwyn partneriaethau cryf iawn gyda 34 o unigolion, Sefydliadau’r Trydydd Sector, adrannau ac unigolion amrywiol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Mae modd gweld cryfder y partneriaethau yma gyda’r prosiectau amrywiol mae hi’n rhan ohonyn nhw ac wedi’u cychwyn. Enghrai wych o hyn yw’r ‘Arolwg Ansawdd Bywyd’ y cychwynnodd hi gyda chymorth Chris Davies, Rheolwr Ymgynghori a Pholisi Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Page 13


Cysylltu Cymunedau

Cymunedau’n Cael eu Cysylltu Mapiau, Bylchau, Cysyll adau ac Atebion yn Nhaf Elái, y Rhondda a Chynon ‘Mae’n rhyfeddol faint o grwpiau sydd yn ein cymunedau yn gwneud gwaith pwysig iawn sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl. Mae’r arwyr tawel sydd gyda ni’n anhygoel – mae angen inni ffeindio ffyrdd o roi mwy o gydnabyddiaeth iddyn nhw!’ Aelod o staff Interlink Mae gwneud y mwyaf o’r hyn sydd gyda ni, a chysylltu’r hyn sydd gyda ni yn ein cymunedau yn sgil caledi yn bwysicach nag erioed. Mewn digwyddiadau Cysylltu Cymunedau yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf yn Rhondda, Cynon a Thaf Elái, bu grwpiau gwirfoddol mewn neuaddau chwaraeon mawr yn dangos eu gwaith, yn rhwydweithio gyda’i gilydd a’r cyngor, yr heddlu a staff iechyd. Ymuno â’i gilydd i wasanaethu cymunedau yn y ffordd orau bosibl oedd ar frig yr agenda, a bu grwpiau yn creu cysyll adau yn ogystal â phennu agenda ar gyfer gweithredu i wella gwasanaethau ym mhob ardal.

Mae llawer mwy o faterion a chamau gweithredu – bydd adroddiad ar gael ar y we cyn hir ac os oes gyda chi ychydig o amser, edrychwch ar y darluniau graffeg gwych o syniadau pobl. Mae adborth o’r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn a llawer o bobl yn rhoi sylwadau hyfryd fel; ‘Am ddigwyddiad gwych. Mae pawb yma [yn ein sefydliad] wedi rhoi sylwadau cadarnhaol, gyda llawer o gysyll adau defnyddiol yn cael eu gwneud ar sail broffesiynol a phersonol. Roedd y digwyddiad cyfan yn un llawen, ond yn broffesiynol ac yn llawn gwybodaeth.’ Cyfranogwr Mae Interlink am ddiolch yn fawr i bawb a wnaeth y digwyddiadau hyn yn llwyddiant a hefyd i Wasanaethau Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am feddwl am y syniad A’U comisiynu!!! Roedd Ma Wya o’r gwasanaeth iechyd yn hwylusydd hynod o ysbrydoledig a doniol, ac roedd y canolfannau hamdden yn gefnogol iawn – ym mhob ardal.

Enghrei iau o faterion i weithio arnynt: Mater/bwlch: Cyfathrebu – beth mae grwpiau a gwasanaethau yn ei wneud. Cam i’w gymryd: Interlink i ddatblygu ap yn seiliedig ar ‘GO4IT!’ lle gall unrhyw un mewn unrhyw gymuned ddarganfod beth sy’n cael ei gynnal yn lleol a sut i gael cymorth os oes ei angen arnynt. Mater/bwlch: Ychydig iawn o gymorth gan gyfoedion sydd ar gael i deuluoedd â phroblemau iechyd meddwl. Cam i’w gymryd: Datblygu grŵp cymorth gan gyfoedion yn ardal Llanharan / Pontyclun, lle nad oes darpariaeth ar hyn o bryd. Mater/bwlch: Unigedd – problem sydd ar gynnydd. Cam i’w gymryd: Cefnogi’r grwpiau gwych sy’n bodoli’n barod sy’n gweithio ar unigedd a phrosiect ymchwil cyffrous sy’n cynnwys gwrando ar bobl sy’n profi unigedd, clywed eu straeon unigol a cheisio meddwl sut mae datblygu modd o ailgysylltu.

Mae angen eich cymorth chi arnon ni A fyddech chi’n fodlon bod yn llysgennad ar gyfer eich cymuned a helpu i gadw’r wybodaeth yn gyfredol? A fyddech chi neu eich grŵp yn hoffi helpu gyda phrosiectau ymchwil i leihau unigedd?

Page 14

Os felly, ffoniwch Jenny O’Hara-Jakeway ar 01443 846200 neu anfonwch e-bost a : johara@interlinkrct.org.uk


Newyddion Lleol

Llawer yn digwydd yn Breast Friends y Rhondda Sefydlwyd Breast Friends y Rhondda yn 2006 ac mae gyda ni ganolfan yn y Porth. Ein nod yw cefnogi pobl sy’n byw gyda chanser ac ar ôl hynny yn Rhondda Cynon Taf a chefnogi eu gofalwyr ac aelodau o’u teulu.

Cafodd aelodau o Breast Friends eu gwahodd gan Frankie & Benny i gynnal bore coffi yn y bwyty

Rydyn ni’n cynnal boreau coffi a chyfarfodydd gyda’r hwyr yn fisol yn ogystal ag astudiaethau cyfrifiadurol, dosbarthiadau cadw’n heini ysgafn a chlwb cre . Yn bwysicach, mae gyda ni gynghorwr a therapydd gwych sy’n mynychu’r Ganolfan i roi cymorth mawr ei angen i’n haelodau.

Mae ein cynghorydd yn cynnig cwnsela un-i-un yn ogystal â chwnsela grŵp a hypnotherapi. Mae ein therapydd wedi cwblhau amryw o gyrsiau therapi gan gynnwys tylino’r corff llawn a Reiki ac mae ein merched yn mwynhau eu sesiynau gyda hi. Yn ystod 2013/2014, cawsom ein dewis yn ‘Elusen y Flwyddyn’ gan Sainsbury’s ym Mhontypridd. Gwahoddwyd dau aelod o staff i fod yn siaradwyr gwadd yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Ebrill a dyma ran fach o’u haraith rydyn ni am ei rhannu gyda chi. ‘Pan aethon ni’n ôl i’r siop fe ddwedon ni wrth bawb am ein hymweliad ac roedd llawer o bobl yn gofyn cwes ynau fel ‘A oedd yn lle digalon?’, ‘A oedd hi’n drist?’, ‘A oeddech chi’n teimlo’n drist?’. Roedden nhw wedi synnu pan ddwedon ni nad oedd yn ddim byd tebyg i hynny, ei fod yn lle gwych i gwrdd â phobl debyg, i rannu straeon, ac i gael cyngor a rhannu ofnau a meddyliau. Mewn gwirionedd, roedd yn lle gwirioneddol lawen, cyfeillgar a bywiog.’ Os oes angen rhagor o wybodaeth am yr uchod arnoch neu os ydych chi wedi cael diagnosis o ganser y fron ac am fod yn rhan o Breast Friends y Rhondda, cysylltwch â ni drwy ffonio 01443 687556 neu drwy e-bos o: info@rhonddabreas riends.org.uk

Gweithdy Demen a i Ofalwyr Ydych chi’n gofalu am rywun sydd â phroblemau cof? Hoffech chi ddysgu mwy am ddemen a? Ymunwch â ni yn ein Gweithdai Demen a i Ofalwyr i ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael i chi, eich hawliau cyfreithiol, y budd-daliadau a allai fod ar gael i chi, yr agweddau emosiynol ar ofalu a llawer mwy.

Dyddiadau Cyrsiau Gwybodaeth am Ddemen a i Ofalwyr: Dydd Mawrth 7 Hydref 2014 Amgueddfa Parc Tre adaeth y Rhondda Dydd Mawrth 17 Chwefror 2015 Coleg y Cymoedd, Campws Nantgarw Y cyfan rhwng 10.00am a 3.30pm Gall seibiant a chludiant yn cael ei ddarparu os oes angen. Ffoniwch Trudy ar 01685 353919 neu Claire ar 01443 668813 i gael gwybod mwy neu i archebu eich lle.

Page 15


Ehangwch eich gorwelion ..... gyda hyfforddiant Interlink Diogelu Plant a Phobl Ifanc

Datblygu Cymunedol Lefel 2

11 Medi 2014 9.30am - 1.00pm

9, 16, 23 Medi 2014 (3 Diwrnod) 9.30am - 4.00pm

Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed

Beth am ddylunio eich hyfforddiant eich hun! Rydym yn cynnig cyrsiau ar gyfer unigolion a grwpiau, ffioedd hyfforddi yn agored i drafodaeth ac rydym yn cynnig llawer o opsiynau am ddim cysylltwch â ni!

11 Medi 2014 2.00pm - 4.30pm

Pob cwrs yn cael ei gynnal yn Interlink oni bai ein bod yn datgan fel arall. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01443 846200 neu ewch i www.interlinkrct.org.uk i weld rhaglen hyfforddi a’n rhaglen allgymorth newydd.

Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen yn dechrau ym mis Medi Taf Ely - Ymwybyddiaeth ofalgar Rhondda - Rheoli Straen

Cynon Valley - Ymwybyddiaeth ofalgar

10 Medi am 2.15pm Llantrisant Leisure Centre

11 Medi am 5.30pm Sea Cadets Hall, Llwynypia

9 Medi am 6.30pm Abercwmboi Rugby Club

12 Medi am 1.30pm Methodist Church Hall Rhydyfelin

Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae’r holl gyrsiau’n para am chwe wythnos.

9 Medi am 12.30pm Rhondda Fach Sports Centre Tylorstown

I gael rhagor o ddyddiadau, ewch i’n gwefan www.interlinkrct.org.uk neu e-bost: CTT_stresscontrol&mindfulness@wales.nhs.uk

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn addas i bawb. Mae’n gyfle i unigolion ddatblygu’u hymwybyddiaeth a dysgu sgiliau newydd, ac yn helpu sefydliadau i wella iechyd meddwl yn y gweithle. Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn para deuddydd ac yn gwella llythrennedd iechyd meddwl ac yn helpu pobl i adnabod arwyddion a symptomau rhywun sydd â phroblemau iechyd meddwl. Dyddiad: Amser: Lleoliad: Cost:

15 a 22 Medi 2014 9.30am tan 4.30pm Interlink – darperir cinio £40

I archebu lle, ffoniwch Lauren ar 01443 846200

Mae Cwrs Hyfforddi Arweinyddiaeth Cymunedol Cenedlaethol Ci zens UK yn dod i Gaerdydd rhwng 19 a 24 Hydref 2014! Ydych chi’n frwdfrydig dros gyfiawnder cymdeithasol? Ydych chi am ddysgu sut i wneud gwahaniaeth? Ydych chi’n chwilfrydig am drefniadaeth gymunedol a Ci zens Cymru? Dyma’r cwrs i chi! Mae cwrs hyfforddi Ci zens UK yn cael ei gynnal yng Nghymru er mwyn i gymaint o bobl leol â phosibl allu dod. Bydd amseriad y cwrs yn caniatáu i chi fynychu heb orfod aros y nos. e-bost: jonathan.cox@ci zenswales.org.uk i gael rhagor o fanylion.

Rhif Elusen 1141143 Rhif Cwmni 07549533

Rhifyn nesaf: Rhagfyr 2014


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.