Dolen y gymuned haf 2015

Page 1

Rhif 67 Haf 2015

Urddas Mewn Iechyd Meddwl

Gylchlythyr Interlink i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf


Cyflwyniad Interlink News Croeso i’r rhifyn Iechyd a Lles

Croeso ..... i rhifyn yr haf o Gylchlythyr Interlink. Os hoff ech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf, anfonwch eich erthyglau, gwybodaeth, swyddi gwag neu hysbysebion erbyn: 6 Tachwedd 2014 i Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk

Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyflwyniad Newyddion Interlink Iechyd Meddwl (MHSUI) Iechyd Meddwl Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Iechyd a Lles Camu Ymlaen

2 3 4-5 6-7 8-9 10-11 12

Llais y Gymuned Pobl Ifanc Newyddion Lleol Hyforddiant Interlink

13 14 15 16

Cyfeiriad: 6 Melin Corrwg, Cardiff Road Upper Boat, Pontypridd CF37 5BE Rhif ffon: 01443 846200 Facs: 01443 844843 Ebost: info@interlinkrct.org.uk Gwefan: www.interlinkrct.org.uk Amser ar agor: Llun - Iau: 9.00am - 5.00pm Gwener: 9.00am - 4.30pm

Tudalen 2

Mae lles wedi cynyddu mewn pwysigrwydd ac yn destun sylw i bawb erbyn hyn, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae lles yn ganolog i ddwy ddeddf fwyaf Llywodraeth Cymru, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddfwriaeth arloesol hon yn nodi’r heriau mawr sy’n ein hwynebu ni i gyd yn sgil y toriadau mawr mewn gwariant cyhoeddus. Efallai ei bod yn ymddangos na all pethau fynd llawer gwaeth, ond fe fyddan nhw, gan effeithio fwyaf ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae Interlink wedi gweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a chynhyrchu adroddiad ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu ni, yn arbennig, pa mor anodd yw cynllunio yn yr hirdymor a dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau pan mae’n rhaid i chi wneud toriadau mawr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gallwn fod yn hyderus bod dulliau gweithio diweddar ein partneriaid, yn arbennig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, eu hymgyrch Rhondda Cynon Taf Gyda’n Gilydd a’u Cronfa Galluogi Gymunedol, yn newydd ac yn arloesol, ac yn bwysicach, yn gosod y gymuned wrth wraidd pob dim. Rydym wedi bod yn gweithio ar gais gwych am gyllid gan Eglwys Gymunedol New Life sy’n edrych ar ddarparu gwasanaethau hanfodol yn Nhonyrefail i’r gymuned gyfan. Maen nhw’n sicrhau ymyrraeth gynnar i atal problemau rhag tyfu ac achosi niwed i bobl a chymunedau (a thorri pethau na allwn fforddio eu trwsio). Mae gan Interlink gynlluniau tebyg ar gyfer Hyb Lles yn Rhondda Cynon Taf. Mae Interlink yn parhau i fod yn bosi f oherwydd y nifer anhygoel o unigolion, gwirfoddolwyr, aelodau, cymunedau a sefydliadau partner rydym yn gweithio gyda nhw bob dydd. Dim ond cipolwg bras o’r hyn sy’n digwydd ledled Rhondda Cynon Taf sydd yn ein cylchlythyr. Mae gennym brosiectau Llais y Gymuned anhygoel lle mae pobl leol yn dod ynghyd i leisio’u barn ar eu dyfodol eu hunain. Rydym yn gweithio gyda Chynghrair y Rhondda, lle mae grwpiau gwych yn cydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned gyfan drwy weithio i wella’r Rhondda, gyda’r Big Click, Cyfeillion Coleg Cymunedol Tonypandy, y Ffatri Gelf, Theatr Spectacle, Tîm Pinc a’r Uned Pobl a Gwaith a llawer llawer mwy cyn bo hir! A’r newyddion diweddara... Mae Interlink newydd dderbyn grant bach gan Gronfa wych Ymddiriedolaeth y Rhondda er mwyn helpu gyda’r gwaith hwn a hyrwyddo gwirfoddoli gyda phobl ifanc. Byddwn yn cynnal ein digwyddiad nesaf ar 7 Hydref yng Nglynrhedynog. . . os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni. Un o’r pethau cyffrous mae Interlink yn eu gwneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, yw gweithio gydag Age Connects Morgannwg, Iechyd Cyhoeddus Cymru a llawer o bobl eraill i gynnal Prosiect Gwrando gyda phobl hŷn i nodi’r hyn y gallwn ni ei wneud i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd - yn dilyn ein Hadroddiad Ymchwil diweddar ‘From Isola on to Integra on’. Os hoffech chi gopi o’r adroddiad neu os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Prosiect Gwrando, bydden ni wrth ein boddau petaech chi’n ymuno â ni, felly... cysylltwch â ni! Ac mae cymaint yn digwydd gyda’r Diwrnod Iechyd Meddwl ym mis Hydref, felly cymerwch gip ar dudalennau 8 a 9 ac ymunwch â ni...


Newyddion Interlink Dates for your Diary Crea ve Wri ng Workshop for Service Users and Carers 2 and 3 September 2.30pm - 4.30pm YMCA Pontypridd

Have your Say 10 September 12.30pm - 4.00pm YMCA Pontypridd Visual Arts Workshops for Service Users and Carers 16 and 23 September 1.30pm - 3.30pm YMCA Pontypridd

Taff Ely Funding and Enterprise Event 15 September 1.00pm - 5.00pm Gilfach Goch Community Centre

Transforming your Community For more informa on or to book a place contact Interlink on 01443 846200.

23 September 10.00am - 3.00pm Ferndale School

Rhondda Alliance Event

Prosiect Iach, Uchelgeisiol, Ffyniannus a Chynhwysol (HAPI) Mae Cymdeithas Tai Newydd wedi derbyn arian y Loteri Fawr i gynnal Prosiect HAPI. Mae’r Prosiect wedi’i leoli yn Rhydfelen a’r Ddraenen Wen yn ardal Gogledd Taf Elái yn Rhondda Cynon Taf. Bydd yn darparu gwasanaeth anghlinigol i unigolion drwy gymorth un i un, gweithdai a gweithgareddau ymyrraeth i wella eu hiechyd a’u lles cyffredinol ac mae’n canolbwyn o’n benodol ar y trigolion mwyaf difrein edig. Bydd 840 o unigolion ac 20 sefydliad yn elwa o’r prosiect dwy flynedd hwn.

7 October 10.00am - 4.00pm Arts Factory, Ferndale

Have your Say 9 October 10.30am - 2.30pm Merthyr Tydfil Rugby Club

Mental Health Forum 24 November 9.30am - 12.00pm

Interlink AGM Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hyb Cymunedol Rhydfelen drwy e-bost: - hapi@newydd.co.uk ffoniwch neu anfonewch neges tecst – 07899665807 Facebook: hapiRCT Twi er: hapi_RCT

25 November

Tudalen 3


Iechyd Meddwl Mae’r Prosiect Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl (Involve 2 Evolve) yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r gwaith o gynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y gwaith o gynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl lleol ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, er mwyn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaethau yn cael ei glywed. Rachel Wya yw Swyddog Datblygu’r Prosiect ac mae’n cydlynu cyfleoedd cyfranogi amrywiol, fel hyfforddiant, grwpiau cynllunio a digwyddiadau ymgysylltu. Cysylltwch â Rachel ar 01443 846200 neu e-bos wch: rwya @interlinkrct.org.uk

INVOLVE 2 EVOLVE – Eich Prosiect Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau Sefydlwyd y Prosiect i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynnwys mewn modd ystyrlon yn y ffordd y mae’r gwasanaethau hynny yn cael eu cynllunio, eu darparu a’u datblygu yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Drwy wneud hyn, ein nod yw sicrhau bod llais pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn cael ei glywed ac yn sbarduno camau i sicrhau gwelliannau parhaus i’r gwasanaethau hynny.

Mae sawl ffordd i bobl gymryd rhan: •

Cofrestru er mwyn cael ein Cylchlythyr SUN am ddim

Digwyddiadau a gweithdai cyfranogi: Mae ffyrdd gwych o ddarganfod mwy am brofiadau pobl o wasanaethau, rhannu enghrei iau o arferion da ac edrych ar ffyrdd newydd o gydweithio

Rhannu eich Stori: Mae ysgrifennu neu siarad am eich profiadau iechyd meddwl, a’r hyn sydd wedi’ch helpu chi a’r hyn nad yw wedi helpu, yn gallu bod yn ffyrdd pwerus o hyrwyddo ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, gwella gwasanaethau a herio s gma

Bod yn Gynrychiolydd Gofalwyr neu Ddefnyddwyr Gwasanaethau

Helpu i recriw o staff iechyd meddwl

Mae Rachel Wya , Swyddog Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Interlink, yn gweithio gydag unigolion er mwyn cyflawni’r prosiect.

Beth yw barn pobl am Brosiect Involve 2 Evolve? ‘I mi, mae wedi bod yn achubiaeth, mae wedi rhoi hyder a gobaith i mi yn ogystal â’r ysgogiad a’r penderfyniad i wneud gwahaniaeth. Un o’r prif elfennau oedd y ffaith bod cydweithwyr gwych a chydymdeimladol o’m cwmpas i yn rhannu’r siwrne gyda mi. Roedd y m oedd yn hwyluso’r prosiectau yn eithriadol o gefnogol ac yn credu yn yr hyn roedd gen i i’w gynnig. Mae hynny yn hwb i mi. Bellach rydw i wedi cael fy nerbyn i gyflogaeth llawn amser gyda’r Gymdeithas Alzheimer lle mae fy sgiliau a’m hyder yn sgil y Prosiect yn cael eu defnyddio bob dydd. Heb y Prosiect Cynnwys Defnyddwyr, a chydlynwyr mor ymroddgar, ni fyddwn yn y sefyllfa rydw i ynddi heddiw, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fy mywyd. Dwi’n ei gweld fel llwybr tuag at adferiad ar gyfer y bennod nesaf yn fy mywyd.’ Gareth Lewis, Gweithiwr Cymorth Demen a, Cymdeithas Alzheimer

Gareth Lewis, Alzheimer’s Society

Tudalen 4


Iechyd Meddwl

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl - Pennu’r Blaenoriaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yw Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn gofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a staff, beth yw eu 5 Prif Flaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl o’r rhestr ganlynol.

Beth yw eich 5 Prif Flaenoriaeth ar gyfer Iechyd Meddwl? • •

• • • • • • • • • • • •

Datrys Argyfyngau a Gwasanaethau Triniaeth yn y Cartref Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymryd rhan mewn Cynllunio Gofal a Thriniaeth Apwyn adau Cleifion Allanol Iechyd Meddwl Cymorth ar ôl Rhyddhau o’r Ysbyty Cyfleoedd ystyrlon yn ystod y dydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Hunanladdiad a Hunan-niwed Targedau’r Mesur Iechyd Meddwl Gwella Mynediad at Seicolegydd Iechyd Meddwl Pobl Hŷn Llety Cyrsiau Hunan-gymorth e.e. Ymwybyddiaeth ofalgar Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Sut gallaf i gymryd rhan? • Rhannwch eich 5 Prif Flaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghwm Taf drwy gwblhau ein harolwg byr h ps://www. surveymonkey.com/r/3DYW2DG • Dilynwch ni ar Twi er @Involve2E #cwmtafmhyourviews • Hoffwch ni ar Facebook www.facebook.com/ Involve2evolvemh

Os hoffech ddod i’r digwyddiad neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Wya ar 01443 846200 neu e-bos wch: rwya @interlinkrct.org.uk

Mentrau Hyfforddiant Newydd yn Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr Hyfforddiant Cynllunio Gofal a Thriniaeth sy’n Canolbwyn o ar Ganlyniadau Mae’r sesiwn hyfforddiant hon wedi’i chynllunio a’i chynnal gan Ddefnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr, Cydlynwyr Gofal a sefydliadau Trydydd Sector.

Mae’n cynnig dealltwriaeth o: • • •

Hawliau pobl o dan Ran 2 o’r Mesur Iechyd Meddwl Beth sy’n gwneud Cynllun Gofal a Thriniaeth da Sut i Gynllunio ar gyfer Argyfwng

Nod hyfforddiant INFORM yw codi ymwybyddiaeth ymysg staff meddygfeydd ac a o brofiadau cleifion a gofalwyr o ddefnyddio gofal sylfaenol ar gyfer cyflwr yn ymwneud â iechyd meddwl. Mae wedi’i gynllunio a’i ddarparu gan grŵp sydd â phrofiad go iawn o iechyd meddwl, sydd wedi datblygu amrywiaeth o ddulliau hyfforddi rhyngweithiol, gan gynnwys straeon digidol, gweithgareddau grŵp a chyflwyniadau. Mae’r sesiwn dwy awr yn amlygu’r themâu cyffredin ym mhrofiadau pobl ac yn dangos sut y gall newidiadau syml i arferion gwaith fod yn hynod o effeithiol wrth gefnogi pobl

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel ar 01443 846200 neu drwy e-bost: rwya @interlinkrct.org.uk

Tudalen 5


Iechyd Meddwl Mae Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl, yn cefnogi sefydliadau iechyd meddwl lleol yng Nghwm Taf ac yn cydlynu cysyll adau rhwng cymunedau, sefydliadau gwirfoddol a’r sector statudol drwy Fforwm Iechyd Meddwl Cwm Taf. Mae’r Fforwm Iechyd Meddwl yn croesawu unrhyw gymuned neu grŵp gwirfoddol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl yng Nghwm Taf. Cysylltwch â Maria drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: mabson@interlinkrct.

Siarad â fi 2 - Siarad â fi 2 - Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed ar gyfer Cymru 2015-2020 Nod y strategaeth newydd hon yw lleihau’r cyfraddau o hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith poblogaeth Cymru a hyrwyddo, cydlynu a chefnogi cynlluniau a rhaglenni i atal ymddygiad a all arwain at hunanladdiad neu hunan-niwed ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Amcan 3: Gwybodaeth a chymorth i’r rhai sydd wedi

Mae Siarad â fi 2 yn nodi chwe phrif amcan strategol:

Amcan 5: Lleihau mynediad at bethau y gellir eu

Amcan 1: Gwella ymhellach ymwybyddiaeth, gwybodaeth

cael profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i hunanladdiad a hunan-niwed

Amcan 4: Rhoi cymorth i’r cyfryngau fod yn gyfrifol wrth bortreadu ac adrodd ar hunanladdiad ac ymddygiad hunanladdol defnyddio i gyflawni hunanladdiad

a dealltwriaeth am hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith y cyhoedd, unigolion sy’n dod i gysyll ad yn aml â phobl sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad a hunan-niwed a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru

Amcan 6: Parhau i hybu a chefnogi dysgu, systemau

Amcan 2: Darparu ymatebion priodol i argyfyngau personol,

Am ragor o wybodaeth, gallwch lawrlwytho’r strategaeth: h p://gov.wales/topics/health/ publica ons/health/reports/

ymyriadau cynnar a rheolaeth ar gyfer hunanladdiad a hunan-niwed

gwybodaeth a monitro ac ymchwil i wella ein dealltwriaeth am hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru ac arwain camau gweithredu

Cyfeirlyfr Gwasanaethau Cymorth Iechyd Mae gwefan Cymorth Iechyd Meddwl yn brosiect partneriaeth rhwng Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol New Horizons, y Bwrdd Iechyd Prifysgol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Nod y wefan yw rhoi cyngor a gwybodaeth hygyrch am faterion a gwasanaethau iechyd meddwl i bobl â phroblemau iechyd meddwl, eu gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac unrhyw un arall â diddordeb mewn iechyd meddwl.

Ydych chi’n dioddef o deimladau ysgafn neu gymedrol o orbryder neu iselder? Os felly, mae croeso i chi ddod i’r grŵp cymorth gan gyfoedion. Mae’r grŵp yn cwrdd bob wythnos i rannu profiadau a rhoi cymorth i’w gilydd, ac yn cael gafael ar wybodaeth a chyngor ynglŷn â’r ffordd orau o reoli symptomau. Mae’n grŵp cyfeillgar sy’n cael ei gynnal mewn awyrgylch preifat a chyfrinachol.

Ble? Ystafell Ymlacio (Chill Out Room) yng Nghanolfan Galw Heibio Llanharan Pryd? Bob dydd Llun 1.00yp - 3.00yp Eisiau rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â Phoebe Walford ar 01443 229723

www.mentalhealthsupport.co.uk am mwy o gwybodaeth! Tudalen 6

neu Maria Abson drwy ffonio 01443 846200


Iechyd Meddwl

Grwpiau Cymorth Iechyd Meddwl gan Gyfoedion yn Rhondda Posi ve Steps - Darran Las, Aberpennar

M.A.S.H. - Maerdy

Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob prynhawn dydd Gwener rhwng 12.30pm a 3.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Darran Las.

Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob nos Fercher am 6.00pm 8.00pm yng Nghanolfan Gymunedol y Maerdy.

New Beginnings - Glyn-coch

Grŵp cymdeithasol yw hwn a gall pobl alw heibio neu aros drwy’r dydd ar ddydd Llun yn Neuadd Eglwys Sant Ioan rhwng 11.00am a 2.30pm.

Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob bore dydd Gwener rhwng 9.30am a 12.30pm yng Nghanolfan Gymunedol Glyn-coch.

Grŵp Cymorth gan Gyfoedion Cwm Clydach Cwm Clydach Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob prynhawn dydd Mawrth am 1.00pm - 3.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Cwm Clydach.

Footsteps - Glynrhedynog Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob bore dydd Mawrth rhwng 10.30am a 1.30pm yn Neuadd Morlais, Glynrhedynog.

Silver Linings - Llanharan Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob prynhawn dydd Llun am 1.00pm - 3.00pm yng Nghanolfan Galw Heibio Llanharan. Cysylltwch â Phoebe Walford ar 01443 229723 neu

Maria Abson ar 01443 846200

Rhondda Listening Friends - Tonpentre

Grŵp Cymorth Deubegynol Aberdâr - Aberdâr Mae’r grŵp yma’n cwrdd ar ddydd Mercher 1af bob mis am 12.00pm - 2.00pm yn New Horizons, 16a Dean Street, Aberdâr. Galwch mewn neu ffoniwch 0845 4349953 neu e-bos wch: aberdare@bipolarukgroups.org.uk

New Connec ons - Ystrad Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob dydd Mercher rhwng 10.30am a 12.30pm yn Eglwys Providence, Ystrad. Cysylltwch â Simone ar 01443 424218 neu simone@rhondda.org Mae’r grwpiau yma i bobl sydd â theimladau ysgafn i gymedrol o bryder ac iselder. Mae’r holl grwpiau’n codi pris am luniaeth, ac mae’r prisoedd yn amrywio.

Am mwy o gwybodaeth cysylltwch a Sara Davies ar 01443 424350 ne ebost: Sara.M.Davies@rhondda-cynon-taff.gov.uk

Siarad am Iechyd Meddwl Gall ychydig o eiriau wneud byd o wahaniaeth. Peidiwch â bod ofn siarad am iechyd meddwl! Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin. Bydd yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom ar ryw bwynt yn ein bywydau. Felly mae gallu siarad am iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n bwysig i ni i gyd. Mae’r ffaith ei bod weithiau’n anodd siarad am broblemau iechyd meddwl, yn gallu bod ymhlith y pethau anoddaf am fod â salwch meddwl. Gall pobl deimlo’n anghyfforddus neu’n ofnus ynghylch siarad â rhywun am eu problem iechyd meddwl - neu siarad am eu problem iechyd meddwl eu hunain, ond nid yw hyn yn iach i neb.

Mae pobl yn siarad am iechyd meddwl ar ein tudalen Facebook, www.facebook.com/ cwales felly beth am ymuno â’r sgwrs? Cofiwch y gallwch ddarllen am brofiadau pobl o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl (a sut i siarad amdanynt!) yn ein blogiau. www. metochangewales.org.uk/cy/blogs-stories ‘Mae’n hanfodol i agor trafodaethau am iechyd meddwl a dangos i eraill ei fod yn iawn i fod yn chi - nid yw’n heintus ac yn bwysig iawn y gall eraill siarad â’r person sy’n mynd drwyddo.‘ Esther,

Time to Change Wales Champion

Edrychwch ar ein hawgrymiadau i’ch helpu i siarad â rhywun am eu problemau iechyd meddwl, neu os oes gennych chi broblem iechyd meddwl ac rydych yn barod i siarad amdani, mae gennym awgrymiadau yngylch sut i siarad am eich iechyd meddwl. Os nad ydych wedi’i weld yn barod, gall ein hysbyseb teledu eich ysbrydoli i ddechrau’r sgwrs heddiw! Am mwy o gwybodaeth ymweliad www. metochangewales.org.uk

Tudalen 7


Iechyd Meddwl

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2015 New Horizons Cynon Valley Recovery College ‘Prynhawn Agored’ 6 Hydref 2015 1.00yp - 3.00yp 16 Dean Street, Aberdare Cysylltu Janet Whiteman ar 01685 881113

Ymgyrch Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Fyd-Eang Ar ôl i Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd sefydlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref 1992, cafodd ei fabwysiadu gan lawer o wledydd fel ffordd o hyrwyddo materion iechyd meddwl. Bob blwyddyn caiff thema ei dewis a chaiff deunyddiau addysg eu cynhyrchu gan y Ffederasiwn i’w dosbarthu. Eleni, y thema yw ‘Urddas mewn Iechyd Meddwl’ ac er mwyn gwneud cais am y deunydd addysgol, anfonwch e-bost at: wmhday@wfmh.com gan nodi eich manylion cyswllt. Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu ac mae digwyddiadau wedi’u trefnu yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar y thema Urddas mewn Iechyd Meddwl. Mae hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn lleol yn golygu manteision pwysig i bawb yn ein cymunedau, ac mae’n mynd ymhell o ran lleihau s gma ac unigrwydd gan greu cymuned gefnogol, wybodus sy’n goresgyn s gma. Mae hyn yn cyfeirio egni ac ymdrech newydd i’r gwaith o wella bywydau’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl drwy herio gwahaniaethu yn lleol.

‘Noson Cwis‘ 7 Hydref 2015 7.00yp bydd y Cwis yn dechrau am 7.30yp - 10.00yp Ton Pentre Football Club

Hoffai Interlink ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb sy’n rhan o’r gwaith o drefnu digwyddiadau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn lleol. Heb gyfraniad a chefnogaeth barhaus, ni fyddai’r digwyddiadau yma’n digwydd o gwbl. Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unigol ac ar y cyd.

Ydych chi’n barod am yr Her? Oes gan eich sefydliad chi bobl sy’n gwybod popeth? Os felly, beth am roi m at ei gilydd ar gyfer Noson Gwis Wythnos Iechyd Meddwl y Byd? Beth amdani – dewch i gystadlu! Am mwy o gwybodaeth cysylltu Sara Davies 01443 424350 neu Janet Whiteman ar 01685 881113

New Horizons Rhondda Valley Recovery College ‘Prynhawn Agored’ 8 Hydref 2015 1.00yp - 3.00yp Apple Tree Stores, Dinas Cysylltu Janet Whiteman ar 01685 881113 Tudalen 8

Am mwy o gwybodaeth cysylltu Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl yn Interlink ar 01443 846200 neu ebos wch: mabson@interlinkrct.org.uk


Iechyd Meddwl

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2015 ‘Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd RhCT’ 2 Hydref 2015 10.00yb – 2.00yp Michael Sobell Sports Centre Mae’r digwyddiad yma wedi’i anelu at ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl, a bydd ystod eang o wybodaeth am faterion iechyd meddwl a lles a materion perthnasol eraill ar gael. Bydd amrywiaeth o sefydliadau yn bresennol a bydd cyfle i unigolion holi cwes ynau a chael arweiniad ar bynciau a materion o ddiddordeb iddyn nhw. Bydd y digwyddiad yn gyfle i sefydliadau ddathlu arferion da a llwyddiannau, ac arddangos eu gwasanaethau.

‘ Prif Ddigwyddiad Merthyr Tudful‘ Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2015 9 Hydref 2015 10.30yb - 2.30yp Merthyr Tydfil Rugby Club Mae Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ffordd o weithio gyda’n gilydd er mwyn rhoi sylw i anghenion ein cymunedau lleol. Bydd y diwrnod hwn yn gyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau gysylltu â darparwyr gwasanaethau, a bydd hefyd yn gyfle i sefydliadau a phartneriaid lleol arddangos eu gwasanaethau.

Bydd therapïau holistaidd rhyngweithiol ar gael i chi eu trio hefyd. Dewch yno i gael budd o’r wybodaeth fydd ar gael. Bydd lluniaeth ar gael drwy’r dydd.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau, cre au a therapïau cyflenwol ar gael ar y diwrnod.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch Maria Abson ar 01443 846200. Er mwyn archebu lle cysylltwch â Kath Price yn Interlink

Cysylltwch â Maria Abson drwy ffonio 01443 846200. Er mwyn archebu lle, cysylltwch â Carol Hindley yn VAMT dros e-bost: carol.hindley@vamt.net neu ffoniwch 01685 353917

Hoffech chi fynegi’ch syniadau neu eich profiadau mewn ffordd greadigol?

Ysgrifennu Creadigol YMCA Pontypridd Mercher 2 Medi 2015 am 2.30yp - 4.30yp Iau 3 Medi 2015 am 2.30yp - 4.30yp

Visual Arts YMCA Pontypridd Mercher 16 Medi 2015 am 1.30yp - 3.30yp Mercher 23 Medi 2015 am 1.30yp - 3.30yp

Er mwyn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, 2015, mae’r prosiect Involve 2 Evolve yn gweithio mewn partneriaeth â Making Minds i gynnal gweithdai Celf ac Ysgrifennu Creadigol ar thema ‘Urddas mewn Iechyd Meddwl’ Gyda’ch caniatâd caiff eich gwaith ei arddangos yn y digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a gaiff ei gynnal ddydd Gwener 2 Hydref yng Nghanolfan Michael Sobell, Aberdâr. I archebu eich lle, cysylltwch â Rachel Wya ar 01443 846200 neu ebos wch: rwya @interlinkrct.org.uk Tudalen 9


Iechyd a Lles Mae Anne Morris, Hwylusydd Gofal Cymdeithasol a Lles, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n rhan o’r gwaith o wella iechyd a gofal cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. Mae Anne yn cefnogi gwaith partneriaeth rhwng y sector ac asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill sy’n cynrychioli’r sector mewn grwpiau cynllunio a phartneriaeth strategol, drwy hyrwyddo sefydliadau trydydd sector a phartneriaid statudol i’w gilydd. Cysylltwch ag Anne drwy ffonio 01443 846200 neu dros e-bost: amorris@interlinkrct.org.uk

Canmoliaeth i Grŵp Cymunedol yng Ngwobrau Tlws Grisial Her Iechyd Cwm Taf 2015 Mae grwpiau cymunedol sy’n hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal salwch yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful (Cwm Taf) wedi derbyn clod a gwobrau yng Ngwobrau’r Dlws Grisial eleni. Mae’r digwyddiad hwn, wedi’i drefnu gan Dîm Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar y cyd ag Interlink, yn cydnabod llwyddiannau grwpiau a sefydliadau lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd a lles. Un o’r pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Cymdeithas Tai Rhondda gyda’r ‘Prosiect Canfod eich Dyfodol.’ Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda’r rhai sy’n dioddef o iechyd meddwl a chorfforol gwael, diffyg hyder, cyn-droseddwyr, a’r rhai sy’n teimlo’n unig ac ynysig. Mae’r prosiect yn cynnig cymorth un-i-un a chyfleoedd i feithrin sgiliau newydd. Mae cymryd rhan yn y prosiect yn caniatáu i denan aid wireddu eu potensial a chodi eu huchelgais, gyda chefnogaeth i wirfoddoli ac i gael hyfforddiant a swyddi. Mae dau berson a gafodd fudd o’r prosiect yn rhannu eu straeon personol; mae un wedi gweddnewid ei fywyd ac mae nawr yn rhedeg menter gymdeithasol sy’n cynnig gwasanaethau garddio ac mae’r llall yn arwain grŵp cymorth iechyd meddwl gan gyfoedion.

Aeth y wobr gyntaf i Ferthyr Tudful Mwy Diogel am gyfres o brosiectau i gefnogi pobl sydd wedi goroesi cam-drin domes g. Eu bwriad yw defnyddio’r wobr ariannol i ariannu Côr ‘Lleisiau yn erbyn Trais’, dan arweiniad Grŵp Goroeswyr Ifanc. Rhoddwyd yr ail wobr i Gymdeithas Tai Merthyr Tudful am eu Prosiect ‘Boxfit’ sy’n anelu at gael mwy o ferched yn eu harddegau i gymryd rhan mewn ymarfer corff. Aeth y drydedd wobr i Gymdeithas Gristnogol Almond Tree am y gwasanaeth cwnsela sy’n cynnig cwnsela i blant a phobl ifanc ym Merthyr Tudful.

Prosiect Find Your Future

Dywedodd Nicola John, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ‘Mae’r prosiectau hyn ar lawr gwlad yn gwneud cyfraniad enfawr i iechyd a lles. Rhaid canmol gwaith y grwpiau yma a hoffwn weld hyn yn digwydd mewn cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.’

Dywedodd Ian Davy, Prif Swyddog, Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, ‘Mae Gwobrau’r Dlws Grisial yn ffordd wych o gydnabod gwaith gwych grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr’

Am mwy of gwybodaeth cysylltwch Anne ar 01443 846200 neu ebos wch: amorris@interlinkrct.org.uk Tudalen 10


Iechyd a Lles

Y Gronfa Gofal Canolraddol - Cefnogi Pobl Hŷn Yn gynharach yn y flwyddyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad pellach yn y Gronfa Gofal Canolraddol. Nod y Gronfa yw cefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi a’u cymunedau a datblygu’r broses o integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. Derbyniodd rhanbarth Cwm Taf bron i £2filiwn i barhau â phrosiectau sydd wedi profi i fod yn llwyddiannus wrth helpu pobl hŷn sy’n agored i niwed, i aros yn eu cartrefi eu hunain. Bydd y gronfa refeniw cylchol yn cefnogi cynlluniau sy’n gwella gofal y tu allan i’r ysbyty, ac sy’n helpu pobl i ddychwelyd i’w cartrefi ar ôl bod yn yr ysbyty a bydd yn ychwanegu adnodd newydd hanfodol i ofal yn y gymuned. Mae’r arian yn cefnogi’r 5 Cydlynydd Cymunedol ledled ardal Cwm Taf. Mae’r Cydlynwyr wedi’u cyflogi gan Interlink a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful ac maen nhw wedi datblygu perthynas dda gyda phartneriaid statudol yn gyflym, gan fapio gweithgareddau cymunedol a thrydydd sector i bobl dros 65 oed. Maen nhw wedi dod yn arbenigwyr ar eu cymdogaethau o’r dechrau, ac maen nhw wedi cael effaith o ran lleihau unigrwydd i bobl dros 65 oed drwy eu cyfeirio at weithgareddau cymunedol a thrydydd sector. Cyfeiriwyd Mrs P gan ei Therapydd Galwedigaethol at gymorth cyfeillio a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Roedd Mrs P yn derbyn ffysio ar ôl cwympo a thorri ei chlun. Roedd wedi colli hyder o ran mynd allan a mynd o gwmpas y lle am ei bod yn ofni cwympo eto ac roedd yn dechrau mynd yn gaeth i’w chartref a theimlo’n unig. Cyfeiriwyd Mrs P gan y Cydlynydd at Wasanaeth Cyfeillio Cyfeillion Croeso RSVP, a bellach mae’n cael ymweliadau rheolaidd gan wirfoddolwr sy’n mynd gyda hi i weithgareddau bob wythnos. Mae ei hyder wedi cynyddu ac nid yw’n teimlo’n unig bellach, diolch i’r cynnydd y mae wedi gwneud gyda’i gwirfoddolwyr drwy sicrhau ei bod yn gadael y tŷ ac yn mynd o gwmpas y lle.

Mae’r Cydlynwyr Cymunedol wedi derbyn clod mawr gan lawer o bartneriaid. ‘Mae’r gwaith rydych wedi’i wneud ers dechrau yn y swydd wedi bod yn werth chweil a gwerthfawr dros ben yn fy marn i. Mae’r holl wybodaeth rydych wedi’i chasglu a’i harddangos drwy’r swyddfeydd, yn ogystal â’r e-byst llawn gwybodaeth, wedi sicrhau ein bod yn gwybod beth sydd ar gael yn y gymuned ac mae hyn wedi bod o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau. Roeddech yn gallu cyfeirio’r defnyddwyr gwasanaethau at wasanaethau a’u cynghori ar y gwasanaethau roedd eu hangen arnyn nhw. Gobeithio y byddwch yn gallu parhau yn eich rôl gan ein bod wedi gweld budd go iawn ers i chi ymuno â ni.’ Linda Davies, Ardal De Cynon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

‘Mae ein cyswllt â Chydlynwyr Cymunedol y Gronfa Gofal Canolraddol wedi bod yn amhrisiadwy. Maen nhw wedi gallu agor cymaint o ddrysau i wasanaethau cymunedol, nad oedden ni’n gwybod eu bod yn bodoli. Mae angen dybryd am y gwaith partneriaeth parhaus hwn wrth ein galluogi ni i ddarparu cymorth cymunedol cydlynol i drigolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.’ Samantha Sullivan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Bydd y gwirfoddolwyr yn cynorthwyo pobl hŷn drwy eu cefnogi i gysylltu ag eraill, i gadw i fynd, i gymryd sylw o’u hamgylchedd, i roi i eraill ac i barhau i ddysgu. Cafwyd arian pellach drwy Gynllun Grant Capasi Cymunedol newydd ar gyfer prosiectau sy’n mynd i’r afael ag effaith unigrwydd ac yn cynnig cyfleoedd i bobl hŷn aros yn iach ac yn annibynnol am gyfnod mor hir â phosibl. Am mwy o gwybodaeth cysylltwch Anne Morris ar 01443 846200 neu ebos wch: amorris@interlinkrct.org.uk Tudalen 11


Camu Ymlaen Mae Lucy ‘dwy swydd’ Foster yn ferch brysur! Hi yw Swyddog Cyfranogi a Gwerthuso Llais y Gymuned, a hefyd Cydlynydd Prosiect Camu Ymlaen. Mae gwaith Lucy gyda Llais y Gymuned yn golygu cefnogi wyth prosiect gwahanol iawn sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn a phobl ag anableddau, o ran cael llais yn y broses o wella gwasanaethau cymunedol. Cysylltwch â Lucy drwy ffonio 01443 84200 neu e-bos o: lfoster@interlinkrct.org.uk

Cwrs creadigol yn helpu dysgwyr i ‘gamu ymlaen’ Mae Camu Ymlaen yn gwrs hyfforddi i fagu hyder. Mae Interlink Rhondda Cynon Taf yn rhedeg y cwrs ac mae wedi helpu pobl ddiwaith yn Rhondda Cynon Taf i fynd yn ôl i’r gwaith. Llwyddodd y bobl ar y cwrs Camu Ymlaen 12 wythnos o 14 Ebrill hyd at fis Gorffennaf i greu murlun a chyfansoddi caneuon a’u recordio. Hefyd, fe wnaethon nhw gyfarwyddo a pherfformio mewn fideo cerddorol, a throi eu llaw at animeiddio, ysgrifennu creadigol a drama.

Wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a’i gynnal mewn partneriaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chelfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro, roedd y cwrs yn cynnig cyfleoedd creadigol i 16 o bobl o ardal Rhondda Cynon Taf a oedd eisoes wedi cwblhau unedau llawn neu rannol cwrs cyflogadwyedd City a Guilds. ‘Buaswn yn dweud wrth bobl sydd am wneud y cwrs yma, gymaint o ofn oedd arna i. Ar ôl pythefnos, roeddwn yn edrych mlaen at ddod bob dydd.’ Tudalen 12

Ar ôl cymryd rhan yn Camu Ymlaen, mae dau ohonyn nhw bellach wedi cael swyddi. Dywedodd un o’r aelodau, ‘Rwy mor falch o gael swydd. Mae’r cwrs wedi bod yn gymaint o help i fi a dwi ddim yn credu y byddwn i wedi llwyddo yn y cyfweliadau swydd hebddo.’ Yn ogystal â helpu pobl i fynd yn ôl i’r gwaith, mae dwsin o aelodau’r cwrs wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach i’w helpu i sefydlu grŵp animeiddio. Ac mae dau aelod o’r grŵp sy’n dioddef gyda gorbryder ac iselder, wedi darganfod sut y gallan nhw gymryd rhan gyda’r prosiect iechyd meddwl ‘Involve to Evolve’.

Dywedodd Prif Weithredwr Interlink, Simon James, ‘Rydym yn falch gyda llwyddiant y cwrs, yn enwedig am fod pawb wedi gweld newid drama g yn hunan-barch a hyder yr aelodau.’


Llais y Gymuned

Llais y Gymuned Ynysybwl - Pwll Butchers Yn 2014 cyhoeddodd Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf ei ‘Doriadau Cyllideb, Cam 2’ sy’n golygu na fyddai’r Awdurdod Lleol yn ariannu unrhyw bwll padlo awyr agored o hynny ymlaen. Nid oes gan Ynysybwl lawer o gyfleusterau hamdden cyhoeddus ac mae pwll padlo’r pentref yn drysor lleol ac yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd a phlant yn ystod misoedd yr haf pan fydd ar agor. Yn dilyn cau ysgol leol a chyhoeddiad y byddai’r llyfrgell yn cau yn fuan, penderfynodd grŵp o bobl leol weithredu, a chadw’r pwll padlo ar agor i blant Ynysybwl. Dywedodd uwch swyddog yn yr awdurdod lleol wrth un o’r trigolion ‘dydych chi ddim yn dewis byw yn Ynysybwl os ydych chi eisiau archfarchnad.’ Efallai fod hynny’n wir, ond dwi’n dewis byw yn Ynysybwl ar gyfer y pwll padlo hwn.

Gyda chymorth Llais y Gymuned, roedd y gwirfoddolwyr yn gallu dylanwadu ar Wasanaethau Hamdden yr Awdurdod Lleol, Cymunedau yn Gyntaf, Bancio Amser, Partneriaeth Adfywio Ynysybwl a’r Cyngor Cymuned ac roedd eu dylanwad cymdeithasol anhygoel yn golygu eu bod wedi denu gwirfoddolwyr â sgiliau penodol i’w galluogi nhw i atgyweirio’r pwll a’r ystafell newid a staffio’r pwll yn ystod gwyliau’r haf. Cafodd yr holl wirfoddolwyr wiriad CRB a ddarparwyd gan fusnes lleol, fe wnaethon nhw ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf a derbyn hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch pwll nofio a gweithdrefnau Diogelu Plant.

I ddechrau, ystyriwyd arbed y costau rhedeg blynyddol, drwy godi arian i newid y pwll padlo yn ardal sblash a gwnaethpwyd cryn dipyn o ymchwil i’r costau posibl, amserlennu a chynllun. Yn y tymor byr, penderfynwyd mai defnyddio gwirfoddolwyr i staffio’r pwll padlo fyddai’r opsiwn mwyaf ymarferol.

‘Dwi mor falch bod y pwll ar agor, byddai’r gymuned ar goll hebddo.’ Person ifanc

Mae Cyfeillion Pwll Butchers yn edrych ymlaen at agor y pwll am yr ail flwyddyn. Iddyn nhw, mae’n drysor i’r gymuned.’ Rebecca Arnold

Roedd y Cyngor Cymuned yn falch iawn o gael eu cynnwys yn y prosiect ac roedden nhw’n teimlo eu bod wedi gwrando ar y gymuned leol a’i chefnogi er mwyn cadw’r adnodd gwerthfawr hwn ar agor. Roedden nhw’n cydnabod eu bod wedi cael eu gorfodi i weithredu y tu allan i’r camau ffurfiol arferol ac roedden nhw’n hapus i dderbyn cydnabyddiaeth am y penderfyniadau da a wnaethon nhw. Am mwy o fgwybodaeth cysyllwch Lucy ar 01443 846200 neu ebos wch: lfoster@interlinkrct.org.uk Tudalen 13


Pobl Ifanc Dadl Pobl Ifanc - ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Cymerodd pobl ifanc o Rhondda Cynon Taf ran mewn dadl yn gofyn y cwes wn ‘ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn ffit i bwrpas?’. Siaradodd Ysgol Gyfun Cymer Rhondda o blaid ac Ysgol y Pant yn erbyn y cynnig. Cadeirydd y ddadl oedd y Cynghorydd Geraint Hopkins a chynhaliwyd y ddadl ym mhresenoldeb Comisiynydd Plant newydd Cymru, yr Athro Sally Holland.

Y Camau Nesaf: Byddai pobl ifanc yn hoffi datblygu Hawliau Plant yn Rhondda Cynon Taf drwy godi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant. Cyflwynwyd her i gynghorwyr Rhondda Cynon Taf i weithio tuag at broses ‘Sylw Dyledus’, sy’n debyg i’r ffordd y mae’n rhaid i weinidogion yn Llywodraeth Cymru weithredu o ran Mesur Hawliau Plant a

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn Siambrau’r Cyngor yng Nghwm Clydach ar 8 Gorffennaf 2015, gyda nifer o bobl ifanc eraill a sefydliadau yn y gynulleidfa ac fe gawson nhw hefyd gyfle i gyfrannu at y ddadl. Un o’r prif bwyn au a godwyd oedd nad oedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant na Hawliau Plant yn gyffredinol yn cael eu hysbysebu a’u hyrwyddo. Cynhaliwyd pleidlais dros neu yn erbyn y cynnig a’r canlyniad oedd 60% - 40% o blaid y cynnig. Am mwy o gwybodaeth cysylltwch Sue Phillips yn Interlink ar 01443 846200 neu ebost: sphillips@interlinkrct.org.uk

Tîm Pinc Yn ystod gwaith yn y gymuned gyda merched ifanc yn Wa stown, fe ddywedodd rhai merched 15-16 oed y bydden nhw wrth eu bodd yn cael cyfle i chwarae rygbi. Trefnwyd sesiwn blasu a daeth 28 merch i gymryd rhan, ac o’r sesiwn gyntaf honno, mae’r chwaraewyr unigol a’r m ei hun wedi mynd o nerth i nerth. Yn eu hail dymor daethon nhw’n ail yng Nghynghrair Cymru gan gyrraedd rownd derfynol Cwpan Merched Cymru.

Mae iechyd a lles y m wedi gwella ac mewn rhai achosion mae’r merched wedi colli hyd at bedair stôn o bwysau yn sgil yr holl ymarfer corff rheolaidd sydd ei angen i chwarae rygbi. Mae wedi bod yn daith i’r merched, gyda heriau ar hyd y ffordd, ond pan rydym yn ystyried yr hyn rydym wedi’i gyflawni ar y cae ac oddi ar y cae yn ystod y daith hon, mae’n anhygoel ac mae’n dangos bod rygbi yn fwy na gêm!!

Aeth saith o chwaraewyr Wa stown ymlaen i gynrychioli m rhanbarthol Gleision Caerdydd ac aeth pump yn eu blaenau i gynrychioli Dwyrain Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.

www.supporters.wru.co.uk/ matchdaytv/?play=media&id=21428 Fideo hyrwyddo Merched Undeb Rygbi Cymru www.youtube.com/watch?v=aicn6DEUFdo

Mae ymrwymiad a gwaith caled y merched ifanc hyn Fideo hyrwyddo aerobics cadair freichiau cymunedol wedi arwain at nifer o weithgareddau eraill oddi ar www.youtube.com/watch?v=34a_Ld_6u9o y cae. Gellir gweld enghrei iau ar y clipiau fideo. Gan gofio nad oedd y merched hyn yn gallu pasio pêl Achlysur codi arian y merched ‘Gate & Nominate’ rygbi, heb sôn am orfod dysgu taclo, sgrymio a’r holl www.youtube.com/watch?v=WS8vVLeoOoU sgiliau eraill sydd eu hangen i chwarae rygbi, mae eu llwyddiant wedi bod yn anhygoel. Am mwy o gwybodaeth cysylltwch Mark Hu on, Dynamic Communi es Project Leader gan ebost: mark.hu on@peopleandworkunit.org.uk neu galw 07929504525 www.peopleandworkunit.org.uk Tudalen 14


Newyddion lleol Cymdeithas Newyddion Llafar Pontypridd yn chwilio am wirfoddolwyr Mae Cymdeithas Newyddion Llafar Pontypridd, elusen gofrestredig, wedi bod yn recordio detholiad o newyddion o’r Pontypridd and Llantrisant Observer bob wythnos ers bron i 40 mlynedd. Mae’n wasanaeth am ddim i bobl â nam ar y golwg sy’n byw yn ardal Pontypridd a’r cyffiniau ac mae’n cael ei recordio ym Mhrifysgol De Cymru am awr ar CD.

Hefyd, mae’r Gymdeithas yn gwahodd aelodau’r gymuned sydd â diddordeb yn y gwasanaeth mae’n ei ddarparu i ymuno â’i Bwyllgor i’w helpu i ddatblygu’r gwasanaeth.

Mae’r Gymdeithas yn darparu’r gwasanaeth hwn i dros 50 o wrandawyr a gall ei ymestyn i lawer mwy o bobl â nam ar y golwg sy’n byw yn yr ardal. Gellir darparu chwaraewr CD am ddim i ddefnyddwyr newydd, os nad oes un ganddyn nhw.

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod ddwywaith y mis ar nos Lun yn y Brifysgol ac os ydych chi’n gallu gwirfoddoli i ymuno â ni neu os hoffech dderbyn y gwasanaeth, gadewch neges ar 01443 404118 gyda’ch manylion cyswllt.

Arian prosiectau bach Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Datblygu Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arian ar gyfer prosiectau bach.

Gallai’r buddiannau y gallech eu nodi gynnwys: •

Maen nhw’n gwahodd ceisiadau am arian i ariannu prosiectau bach (£1,000 - £15,000). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Medi 2015. Rhaid cwblhau’r gweithgaredd a gynigir erbyn 31 Mawrth 2016.

• Rydym yn gwybod bod prosiectau twf cymunedol yn cynnig cymaint yn fwy i’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw na’r agwedd tyfu yn unig. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ariannu prosiectau sy’n dangos budd o sawl math i’r gymuned, felly peidiwch â bod yn swil, gwnewch yn siŵr eich bod yn canu eich clodydd eich hun ar y ffurflen gais! Mae’r nodiadau canllaw llawn a’r ffurflen gais ar wefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru

Rheoli adnoddau naturiol - gwella bioamrywiaeth yn eich ardal Gwella’r amgylchedd lleol – clirio mannau sydd wedi tyfu’n wyllt, gwella mynediad at fannau gwyrdd Cydnerthedd ac effeithlonrwydd adnoddau – cydweithio gyda phartneriaid lleol i ychwanegu gwerth i brosiectau cymunedol lleol, mynd i’r afael â thlodi bwyd

Os hoffech unrhyw gymorth gyda’r cyfle ariannu hwn, hyd yn oed os mai dim ond darllen dros eich cais cyn i chi ei anfon, cysylltwch â: Ken Moon yn Interlink ar 01443 846200 neu e-bos wch: kmoon@interlinkrct.org.uk neu moishe@farmgarden.org.uk gyda digon o amser cyn y dyddiad cau.

Os oes gennych unrhyw gwes ynau am sut i wneud cais, cysylltwch â Llywodraeth Cymru dros e-bost: ESDGrantsManagementTeam@Wales.GSI.Gov.UK neu ffoniwch 02920 801029. Er mwyn anfon y cais dros e-bost, dylech gynnwys y geiriau ‘Cais Prosiect Bach’ yn y pennawd neu anfonwch y cais drwy’r RHADBOST at: Pobl a’r Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, NAT 8910, RHADBOST, Caerdydd CF10 3BR Tudalen 15


Ehangwch eich gorwelion ..... gyda hyfforddiant Interlink Social Services and Wellbeing 2014 Act Awareness Raising Training 4 Medi 2015 9.30yb - 1.00yp

Safeguarding Children and Young People 30 Medi 2015 9.30yb - 12.30yp

Introduc on to Inves ng in Volunteers 17 Medi 2015 9.30yb - 12.00yp

Safeguarding Vulnerable Adults 30 Medi 2015 1.30yp - 4.30yp

Mental Health First Aid for Youth

Awareness of Ea ng Disorders

25 Medi a 2 Hydred 2015 9.30yb - 4.30yp

10 Tachwedd 2015 9.30yb - 12.30yp

Beth am ddylunio eich hyfforddiant eich hunan?

Rydym yn cynnig cyrsiau ar gyfer unigolion a grwpiau, mae’r ffioedd hyfforddi i’w trafod, ac rydym yn cynnig llawer o opsiynau am ddim - cysylltwch â ni! Mae pob cwrs yn cael ei gynnal yn Interlink oni bai ein bod yn nodi fel arall. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01443 846200 neu ewch i www.interlinkrct.org.uk i edrych ar y rhaglen hyfforddi.

Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen yn dechrau ym mis Medi Taf Ely - ymwybyddiaeth ofalgar 2 Medi am 5.30yp Royal Glamorgan Hospital

Taff Ely - Rheoli Straen 21 Hydref am 5.30yp Royal Glamorgan Hospital

Merthyr Tydfil -

Rhondda - Rheoli Straen

Cynon Valley - ymwybyddiaeth ofalgar

3 Medi am 6.00yp Ystrad Leisure Centre

Rhondda - ymwybyddiaeth ofalgar 22 Hydref am 6.00yp Rhondda Fach Sports Centre Tylorstown

Cynon Valley - Rheoli Straen 20 Hydref am 6.15yp Abercwmboi Rugby Club

Rheoli Straen

Merthyr Tydfil - ymwybyddiaeth

1 Medi am 10.00yb St Mathias Church Hall, Treharris

ofalgar

20 Hydref am 10.00yb St Mathias Church Hall, Treharris

1 Medi am 6.15yp Abercwmboi Rugby Club

Mae pob cwrs yn rhedeg am 6 wythnos

Am mwy or gwybodaeth cysylltwch y University Health Board ar 01443 744800 neu ebos wch: CTT_stresscontrol&mindfulness@wales.nhs.uk

Ydych chi’n chwilio am le ar gyfer swyddfa yn ardal Pontypridd? Mae gyda ni swyddfeydd ar gael i’w rhentu yn ein swyddfa yng Nglan-bad. Neu ydych chi’n chwilio am gyfleusterau cynadledda i’w llogi? Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau cyfarfod a chynadledda. Mae pris llogi ystafell yn cynnwys gallu defnyddio: Gliniadur; Taflunydd; Sgrin Taflunio; Cyswllt â’r We; Siart Cip; Bwrdd Ysgrifennu Gellir archebu lluniaeth am bris bach ychwanegol.

Rhif Elusen 1141143 Rhif Cwmni 07549533

Rhifyn Nesaf: Rhagfyr 2015


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.