Dolen
Rhifyn 61 Haf 2013
Iechyd a Iechyd Meddwl Cylchgrawn sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol Rhondda Cynon Taf
Newyddion Staff Interlink Interlink News Mas â’r hen, mewn â’r newydd
Croeso ..... i rifyn yr haf o Gylchlythyr Interlink. Os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf, anfonwch eich erthyglau, gwybodaeth, swyddi gwag neu hysbysebion erbyn: 1 Tachwedd 2013 i Cara Jordan-Evans at Interlink gan ebost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk
Yn y rhifyn hwn rydym wedi:
Newyddion Staff Interlink Cyflwyniad Iechyd Meddwl(MHSUI) Iechyd Meddwl Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Iechyd a Lles Lleisiau LLeol See CHANGE Newyddion Lleol Hyfforddi Interlink
2 3 4-5 6-7 8-9 10-11 12-13 14-15 16
Ein cyfeiriad: 6 Melin Corrwg, Cardiff Road Upper Boat, Pontypridd CF37 5BE Rhif Ffon: 01443 846200 Fax: 01443 844843 E-bost: info@interlinkrct.org.uk Gwefan: www.interlinkrct.org.uk Oriau agor y swyddfa yw: Llun - Iau: 9.00am - 5.00pm Gwener: 9.00am - 4.30pm
Page 2
Mae’n teimlo fel bod llwyth o hen wynebau yn gadael a rhai newydd yn ymuno â’r m. Roedd Kelly Daniel yn arfer bod yn Gydlynydd See CHANGE ac wedyn hi oedd Swyddog Creu’r Cysyll adau. u. Ar ôl priodi yn ddiweddar a dod yn Kelly Brightman, mae hi wedi ein gadael ni yn Interlink ac wedi ymuno â Phartneriaeth Adfywio Glyncoch. Kelly ei hunan wnaeth th h ddatblygu prosiect See CHANGE, a’i wneud yn llwyddiant nt enfawr o ran cefnogi datblygu cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf. Drwy ei gwaith caled a’i gallu i dynnu pobl at ei gilydd, llwyddodd Kelly i sicrhau bod cais ardderchog gyda ni i raglen Lleisiau Lleol. Roedd hi’n dod â chymaint i’r m – roedd egni a brwdfrydedd Kelly yn llenwi pawb arall â brwdfrydedd hefyd. Mae ganddi galon fawr, ac mae hi’n hoff iawn o gŵn. Fe fyddwn ni’n gweld ei cholli – pob lwc iddi am ddyfodol disglair. Mae Jenny O’Hara-Jakeway yn ymuno â ni o raglen Cymunedau yn Gyntaf, a bydd llawer ohonoch chi’n ei nabod hi gan ei bod wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaeth Adfywio Glyncoch ers blynyddoedd. Fel Swyddog Creu’r Cysyll adau, bydd Jenny’n gweithio ar gyswllt gyda’r cyhoedd a chydgynhyrchu yn Rhondda Cynon Taf, yn gweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Mae Jenny wedi bod yn gweithio gydag Interlink ers blynyddoedd lawer. Mae hi’n unigolyn dawnus ac ysbrydoledig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei gweld yn dod allan i gwrdd â chi i gyd. Manylion cyswllt Jenny yw 01443 846200.
Pwy ddywedodd bod hyfforddi ddim yn rhywiol? Mae Maria James (Maria Prosser gynt, wedi priodi’n ddiweddar) wedi dangos wtor mor wych yw hi, drwy ennill gwobr arbennig iawn. Enillodd Maria Wobr Tiwtor Newydd Inspire! 2013. Cafodd Maria ei gwobrwyo am roi hyfforddiant i’r gymuned a’r sector gwirfoddol mewn iechyd rhywiol, camddefnyddio sylweddau, a diogelu – gan weithio ar ran Fframwaith gyda’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant a Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Llongyfarchwyd Maria am fod â’i thraed ar y ddaear ac am helpu pobl i ymdopi â materion sensi f iawn. Fe wnaethon ni ofyn i’r staff pwy i’w enwebu fel y wtor gorau – ac roedd ymateb unfryd – Maria! Mae hi’n cael adborth heb ei ail gan y dysgwyr. Ar ôl cwblhau’r cwrs yma rydw i’n teimlo y galla i wneud gwahaniaeth, roedd y wtor yn gyfeillgar iawn ac roedd hi’n fy helpu i i deimlo’n gyfforddus.’ Sylw gan rywun ar un o’r cyrsiau
Cyflwyniad Croeso i rifyn Iechyd Dolen Cynhyrchu Pethau Gyda’n Gilydd Mae galwadau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn tyfu. Bechgyn sydd wedi’u geni yn Rhondda Cynon Taf sydd â’r disgwyliad oes isaf yng Nghymru. Yng Nghwm Taf mae’r gyfradd ail-uchaf o roi presgripsiynau iechyd meddwl yng gwledydd Prydain i gyd. Bydd angen i unigolion, cymunedau a sefydliadau weithio’n llawer agosach at ei gilydd i wella iechyd a lles. Rydyn ni wedi gwneud dechrau da – rydyn ni’n rhannu gwybodaeth, mae perthnasau da gyda ni a Chytundeb Compact rhwng y trydydd sector, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Yn bwysicach na dim rydyn ni i gyd yn deall yr heriau sy’n ein hwynebu. Er hynny, mae’n rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd yn fwy effeithiol fel defnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr, cymunedau, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, a mentrau cymdeithasol, sectorau cyhoeddus a phreifat. Sut ydyn ni’n mynd i wneud hyn? Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd fel partneriaid cyfartal, er mwyn llunio a chynnig gwell gwasanaethau. Mae arloesi yn digwydd pan fydd mwy o bobl yn cymryd rhan er mwyn rhannu syniadau a sgiliau. Mae’n bwysig bod y bobl mae ein gweithgareddau, ein prosiectau a’n gwasanaethau ni yn effeithio arnyn nhw yn cael eu cynnwys, a’n bod ni’n trafod gyda nhw. Rhaid i bawb fod yn rhan o’r gwaith o wella iechyd a lles cymunedau os ydyn ni am sicrhau ei fod yn digwydd. Grwpiau cymunedol, pobl hŷn, gofalwyr, teuluoedd . . . rydyn ni i gyd yn rhan o gymuned ddynamig. Os ydyn ni eisiau cael effaith ar unrhyw gymuned, rhaid i ni ofyn i’r gymuned helpu, defnyddio eu hamser nhw a gweld beth maen nhw’n ei wybod. Cymunedau yw tad-cu a mam-gu yn rhoi gofal plant, teuluoedd yn gofalu am ei gilydd a chymdogion yn edrych allan am ei gilydd. Heb gymuned, allwn ni ddim cael cymunedau iach. Rhaid i ni symud i ffwrdd o’r syniad bod cymunedau yn amddifad, bod pobl hŷn yn faich a bod plant yn debygol o droseddu. Mae cymunedau yn llefydd hyfryd, mae gyda ni grwpiau cymorth o bob lliw a llun, gwirfoddolwyr yn cynnig ysgwydd i bwyso arni, grwpiau cerdded a choginio, canolfannau cymunedol ac amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau yn cael eu cynnig drwy Gymunedau yn Gyntaf a’r sector gwirfoddol, o ofal plant i glybiau swyddi. I wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a lles yn Rhondda Cynon Taf, y cyfan sydd ei angen yw cael pobl i weithio’n well gyda’i gilydd. Rhaid i ni fwrw ymlaen gyda dulliau cydgynhyrchu. Rhaid i ni gry au cyfraniad unigolion, cymunedau a’r sector gwirfoddol. Mae’r roced wedi tanio. Does dim angen i chi wneud dim heblaw dod gyda ni. Bydd y teithio yr un mor gyffrous â phen y daith. I brynu tocyn ac i ymuno gyda ni, cysylltwch â sjames@interlinkrct.org.uk neu ffoniwch 01443 846200.
Dyddiad ar gyfer eich dyddiadur Mae Rhondda Cynon Taf ‘Coproduc on’ Digwyddiad Rhwydwaith ‘Gwasanaethau Cynhyrchu Gyda’n Gilydd ‘ 12 Medi 2013 1.30pm - 4.45pm Rhydyfelin Methodist Church Cysylltwch â Anne Morris neu Maria James
South Wales Cancer Network Pa ent Conference ‘The Pa ent Voice in Shaping Cancer Services’ The Orangery Margam Park Port Talbot 25 Medi 2013 Cysylltwch â Eleri Girt Eleri.Girt@wales.nhs.uk
Knowing your Rights! Regional mental health service user and carer conference 23 Hydref 2013 10.30am - 3.30pm All Na ons Centre Cardiff Cysylltwch 01443 233308
Fforwm Iechyd Meddwl 29 Hydref 2013 10.00am - 12.00pm Cysylltwch Maria Abson
Dyddiad ar gyfer eich dyddiadur Interlink AGM 27 Tachwedd 2013 Page 3
Iechyd Meddwl Mae’r Prosiect Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl (MHSUI) yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r dasg o gynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y gwaith o gynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl lleol ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, er mwyn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed. Mae Helen Rees, Swyddog Mae Rachel Wya , Swyddog Datblygu’r Prosiect yn cefnogi Datblygu’r Prosiect yn gweithio i defnyddwyr gwasanaethau i gymryd ddatblygu’r prosiect ac mae hi’n rhan; i fynd i gyfarfodydd partneriaeth hwyluso’r Grŵp Nerth mewn i gynrychioli barn defnyddwyr Partneriaeth. Mae hi’n datblygu gwasanaeth, ac i ddefnyddio eu prosiectau penodol, fel INFORM, profiadau a’u ‘straeon’ er mwyn sydd â chysyll ad â datblygiadau addysgu gweithwyr iechyd meddwl gwasanaeth newydd. proffesiynol. Cysylltu Rachel ar 01443 846200 neu e-bost: rwya @interlinkrct.org.uk
Cysylltu Helen ar 01443 846200 neu e-bost: hrees@interlinkrct.org.uk
Strategaeth Newydd yn Hwb i’r Gwaith o Gynnwys Pobl sy’n Defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yw enw strategaeth newydd deng mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella bywydau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Un o themâu allweddol y strategaeth yw sefydlu partneriaeth newydd gyda’r cyhoedd sy’n golygu cynnwys pobl yn fwy effeithiol yn y canlynol: • Penderfyniadau am driniaeth a gofal. • Sut mae gwasanaethau iechyd meddwl lleol yn cael eu llunio, eu darparu a’u monitro.
Felly beth sy’n digwydd yn lleol? Cynllunio Gofal a Thriniaeth: Mae’r Prosiect Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn awyddus i glywed am brofiadau pobl o wasanaethau eilaidd (e.e. Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol), ac i ba raddau mae pobl yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu ac adolygu eu Cynllun Gofal a Thriniaeth. Rydyn ni hefyd yn chwilio am bobl sydd o bosibl â phrofiad o gynllunio triniaeth a gofal, a fyddai â diddordeb bod yn rhan o’r darn o waith parhaus yma. Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl Cwm Taf: Mae Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf. Grŵp strategol aml-asiantaeth yw’r Bwrdd Partneriaeth, sy’n gyfrifol am fonitro pa mor dda mae Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cael ei gweithredu yn lleol. Bydd y Bwrdd yn adrodd ar gynnydd ar lefel leol i’r Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl Cenedlaethol, sy’n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Page 4
Cyn bo hir byddwn ni’n recriw o defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i ddod yn aelodau o Fwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl Cwm Taf. Bydd y pedwar ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael cyfle i fynd i’r Fforwm Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr Cenedlaethol, fforwm o aelodau o’r saith Bwrdd Iechyd ledled Cymru. Sut gallech chi gymryd rhan? • Trafod y gwasanaethau a gawsoch chi • Gwneud yn siŵr bod pobl sy’n derbyn gwasanaethau yn rhan o’r gwaith o reoli eu triniaeth • Codi ymwybyddiaeth am gyfleoedd i gymryd rhan • Defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn taclo s gma • Dod yn eiriolwr defnyddwyr gwasanaethau
Am mwy of gwybodaeth cysylltwch â Rachel Wya neu Helen Rees
Iechyd Meddwl ‘INFORM’ – Defnyddio Straeon Cleifion i Godi Ymwybyddiaeth am Iechyd Meddwl Beth yw INFORM? Pecyn hyfforddi ar gyfer staff sy’n gweithio yn y sector gofal sylfaenol yw INFORM. Mae’n gasgliad o straeon Cleifion a Gofalwyr am geisio cael cymorth gan feddygfeydd lleol ar gyfer afiechyd meddwl. Daeth y syniad gan gleifion a gofalwyr, a oedd yn teimlo bod angen amlwg i’r holl staff gofal sylfaenol fod yn fwy ymwybodol o faterion iechyd meddwl.
Sylw gan rywun a gymerodd ran: ‘Wrth fy modd. Roedd yn wych cwrdd â phobl eraill a chael eu barn nhw am sut i newid agweddau meddygon at iechyd meddwl, a rhoi lles ar flaen meddwl y proffesiwn meddygol. Rwy’n gobeithio, drwy weithio i chwalu’r ystrydebau y gallwn ni wneud gwahaniaeth, ac efallai gydag amser y gallwn ni newid y byd, neu o leiaf sut mae’r byd yn ein gweld ni!’
Pam fod straeon cleifion a gofalwyr mor bwysig? Mae straeon yn ffordd o roi llais i gleifion a gofalwyr, a dod â’u profiad yn fyw. Maen nhw’n cydnabod meysydd arbenigedd y cleifion ac yn ffordd bwerus o godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo trafodaeth a gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd. Beth yw’r materion allweddol mae Cleifion a Gofalwyr yn eu codi? Mae INFORM yn cynnwys straeon ysgrifenedig a digidol, sy’n amlinellu negeseuon pwysig ar gyfer yr holl staff sy’n gweithio mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys: 1. Pwysigrwydd gwrando, cyd-ymdeimlo, cyswllt llygad a thrin yr unigolyn cyfan. 2. Profiad meddygon teulu o iechyd meddwl a’u gwybodaeth amdano, a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl yn y gymuned leol. 3. Anghysonderau o ran gofal cleifion, sy’n gallu codi pan fydd cleifion yn gweld meddygon locwm
Rydyn ni’n gobeithio y bydd INFORM yn adnodd hyfforddi gwerthfawr ar gyfer yr holl staff sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol. Cysylltwch â Rachel Wya neu Helen Rees os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y pecyn hyfforddi.
Ac yn olaf... Hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi rhoi amser, egni ac ymrwymiad i ddweud eu stori a datblygu pecyn hyfforddi INFORM.
Gofal Sylfaenol yw’r gwasanaethau iechyd sy’n bwynt cyswllt cyntaf i glaf, ac yn aml meddygfa meddygon teulu sy’n cynnig gofal sylfaenol.
Ychydig o Ystyriaeth Gall newid bach wneud gwahaniaeth mawr i glaf sy’n dioddef iselder difrifol
Yn ystod fy mhrofiad cyntaf o iselder, roedd hi’n anodd iawn i fi fynd allan a bod o gwmpas pobl. Roeddwn i’n sâl iawn ac wedi bod yn hunan-niweidio. Roeddwn i hefyd wedi ceisio lladd fy hunan. Fe wnaeth ffrind oedd yn fy nghefnogi i ffonio fy meddyg teulu, ac fe wnaeth hi wneud trefniadau i fi fynd i’w gweld hi yn syth, heb orfod aros yn yr ystafell aros. Yn ystod yr apwyn ad roedd hi’n gefnogol iawn ac fe wnaethon ni drafod yr opsiynau. Fe wnaeth hi argymell y dylwn i gymryd meddyginiaeth i ddechrau er mwyn sefydlogi fy hwyliau, ac wedyn fy wnaeth hi fy atgyfeirio i at wasanaethau iechyd meddwl. Heb ei chefnogaeth hi dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi mynd i gael triniaeth, a byddai’r canlyniadau wedi gallu bod yn ddifrifol. (Stori allan o INFORM) Page 5
Iechyd Meddwl Mae Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl, yn cefnogi sefydliadau iechyd meddwl lleol yng Nghwm Taf ac yn cydlynu cysyll adau rhwng cymunedau, sefydliadau gwirfoddol a’r sector statudol drwy Fforwm Iechyd Meddwl Cwm Taf. Mae’r Fforwm Iechyd Meddwl yn croesawu unrhyw gymuned neu grŵp gwirfoddol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl yng Nghwm Taf. Cysylltwch Maria ar 01443 846200 neu ebost: mabson@interlinkrct.org.uk
Hoffech chi wirfoddoli ar gyfer Headway Cardiff yn ein Grŵp Cymdeithasol ym Mhontypridd? Fyddai gyda chi ddiddordeb cefnogi pobl sydd ag anaf i’r ymennydd ac sy’n cael anawsterau gwybyddol, emosiynol ac ymddygiadol? Oes gyda chi 4 – 5 awr y mis i’w sbario? Ar ôl cael anaf i’r ymennydd, mae llawer o oroeswyr a’u teuluoedd yn cael trafferth dod i arfer â’r newidiadau, a dyw eu hen ganolfannau cymdeithasol e.e. y gwaith, y dafarn, clybiau chwaraeon, ddim yn opsiwn yn aml. Gall grwpiau helpu i leihau’r unigrwydd mae gofalwyr a goroeswyr yn ei deimlo, ac maen nhw’n ffordd dda o gychwyn dod yn ôl i’r gymuned ehangach. Maen nhw’n cynnig amgylchedd diogel a difyr i bobl rannu profiadau, ymarfer strategaethau, ac ymlacio a chael hwyl. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â Nia Morgan drwy ffonio 029 2057 7707 neu drwy e-bos o: nia.morgan@headwaycardiff.org
Cyfeirlyfr Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Mae gwefan Cymorth Iechyd Meddwl yn brosiect partneriaeth rhwng Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol New Horizons, y Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Nod y wefan yw rhoi cyngor a gwybodaeth hygyrch am faterion a gwasanaethau iechyd meddwl i bobl â phroblemau iechyd meddwl, eu gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac unrhyw arall â diddordeb mewn iechyd meddwl. Mae llawer o bethau ar y wefan, ewch i www.mentalhealthsupport.co.uk i ddysgu mwy! Page 6
Iechyd Meddwl
‘Making Minds’ Ar hyn o bryd mae Interlink yn cefnogi grŵp o bobl, sy’n datblygu prosiectau a menter gymdeithasol sy’n hyrwyddo swyddogaeth celf a chreadigrwydd mewn iechyd meddwl yn y de. Mae Making Minds yn gobeithio datblygu pedwar maes gwaith: •
Datblygu gwasanaethau celfyddydol yn y gymuned, mewn partneriaeth â sefydliadau sector statudol a gwirfoddol, a fydd yn helpu i gefnogi pobl o ran iechyd meddwl a lles.
•
Datblygu rhwydwaith o sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb neu sy’n rhan o’r celfyddydau a chreadigrwydd fel mae’n berthnasol i iechyd meddwl, er mwyn rhannu arfer gorau, rhannu adnoddau, meithrin arferion gweithio ar y cyd gan gynnwys ar gyfer contractau sector cyhoeddus ac ariannu, dylanwadu ar bolisi ac arferion.
•
Trefnu digwyddiadau a ‘phrofiadau’ a fydd yn golygu defnyddio celf a chreadigrwydd fel llwyfan ar gyfer trafod, a fydd yn taclo’r s gma a’r gwahaniaethu sy’n gysyll edig â salwch meddwl, yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol faterion iechyd meddwl.
•
Datblygu ‘siop un stop’ a fydd yn cefnogi ar s aid o bob math, ac ‘entrepreneuriaid creadigol’, y mae afiechyd meddwl yn effeithio arnyn nhw. Gallai hyn gynnig dewis o opsiynau i unigolion yn cynnwys cymorth iechyd meddwl, cefnogaeth busnes a chefnogaeth i rwydweithio yn eu maes diddordeb nhw.
Mae’r grŵp sydd wedi ei sefydlu i fwrw ymlaen gyda Making Minds yn cynnwys ymarferwyr iechyd meddwl, ar s aid, pobl fusnes greadigol, ymchwilydd ac ymarferwyr celfyddydol cymunedol.
Dechreuodd Mark Smith ymchwilio i syniadau ar gyfer Making Minds flwyddyn yn ôl: ‘Rydw i wedi byw gydag iselder, gorbryder a materion cysyll edig ers sawl blwyddyn. Roeddwn i eisiau gwybod os mai meddyginiaeth a therapïau cysyll edig oedd yr unig beth ar gael i helpu pobl mewn sefyllfaoedd tebyg. Wrth i fi gychwyn ymchwilio beth oedd ar gael mewn meysydd eraill, fe wnes i ddarganfod sawl sefydliad yn Lloegr oedd yn cefnogi pobl drwy weithgareddau creadigol. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael mynd i ymweld ag un o’r sefydliadau yna yn ddiweddar, sef Core Arts yn Llundain, ac fe ges i fy rhyfeddu. Drwy ymgyrch Amser i Newid Cymru, mae yna awydd ar gyfer taclo s gma iechyd meddwl a gwahaniaethu yng Nghymru hefyd ar hyn o bryd. Rwy’n gobeithio y gall gwaith Making Minds ategu’r ymgyrch yna, datblygu dulliau newydd, galluogi mwy o bobl i weithredu a meddwl yn wahanol am iechyd meddwl a hyrwyddo’r celfyddydau ac ar s aid mewn ffordd sydd heb ei gwneud yng Nghymru o’r blaen.’
Mae gobeithion Mark ar gyfer Making Minds yn seiliedig ar ethos o weithio cynhwysol ac mewn partneriaeth: ‘Rydyn ni’n gobeithio dod yn gwmni cydweithredol yn cael ei arwain gan yr aelodau. Bydd hyn yn golygu pobl a sefydliadau, o bob math ac ymhob sector, yn gweithio gyda’i gilydd ar faterion sy’n effeithio ar lawer o bobl, ac yn gwneud hynny mewn ffordd a fydd yn hwyl, yn gyffrous, yn gost-effeithiol ac mewn rhai achosion, yn newid bywydau. Rydyn ni’n gwybod bod angen y gwaith yma yn ein cymunedau a’n bywydau diwylliannol – nawr mae angen i ni fynd allan i brofi hynny.’ Byddwn ni’n ymgynghori â phobl ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym Merthyr (gweler tudalen 9), dewch draw, ymunwch â ni. Mae Making Minds yn chwilio am bobl â phrofiad o redeg digwyddiadau a gweithdai creadigol i gysylltu. Mae posibilrwydd hefyd o brosiect peilot lle bydd Making Minds yn gweithio mewn meddygfeydd teulu, er mwyn datblygu gwasanaeth newydd. Ac mae llawer o ffyrdd i ymuno â Making Minds fel gwirfoddolwr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i makingmindsblog.wordpress.com facebook.com/makingmindssouthwales a gallwch chi hefyd anfon e-bost: makingmindssouthwales@gmail.com neu ffonio 07795 199062.
Page 7
Iechyd Meddwl
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2013 New Horizons Cynon Valley ‘Diwrnod Agored’ 8 Hydref 2013 1.00pm - 4.00pm 16 Dean Street, Aberdare Cysylltwch â Janet Whiteman ar 01685 881113
‘Cwis Nos‘ Ton Pentre Football Club Ton Pentre 9 Hydref 2013 7.30pm – 10.30pm Roedd y cwis y llynedd yn llwyddiant ysgubol arall, ac felly byddwn yn ei ailadrodd eto eleni ar gyfer pawb sy’n hoffi gwybodaeth gyffredinol. Bydd Boyd Clack, Noddwr New Horizons, yn cyflwyno eto eleni. Dewch draw gyda’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr i ddangos eich cefnogaeth, mae llawer o wobrau ar gael i’w hennill a digon o hwyl.
Ymgyrch Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Fyd-Eang
Iechyd Meddwl ac Oedolion Hŷn Ar ôl i Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd sefydlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref 1992, cafodd ei fabwysiadu gan lawer o wledydd fel ffordd o hyrwyddo materion iechyd meddwl. Bob blwyddyn caiff thema ei dewis a chaiff deunyddiau addysg eu cynhyrchu gan y Ffederasiwn i’w dosbarth. Y thema eleni yw ‘Iechyd Meddwl ac Oedolion Hŷn.’ I ofyn am y deunydd addysgol, anfonwch e-bost at wmhday@wfmh.com gyda’ch manylion cyswllt! Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn gwneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth fyd-eang, lle mae miliynau o bobl ledled y byd yn trefnu ac yn lansio digwyddiadau addysgol a llawer o weithgareddau diddorol a hwyliog yn eu cymunedau lleol, yn codi ymwybyddiaeth ac yn codi arian ar gyfer achosion iechyd meddwl. Bob blwyddyn tua 10 Hydref mae sefydliadau iechyd meddwl, gweithwyr iechyd proffesiynol, sefydliadau academaidd, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn uno yn eu hymdrechion i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o iechyd meddwl a lles emosiynol. Mae hyn yn dod â materion iechyd meddwl i sylw cyhoeddus, gan daclo gwybodaeth anghywir a chamdybiaethau cyffredin er mwyn sicrhau gwell ymwybyddiaeth, cydymdeimlad a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd. Mae hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn lleol yn golygu manteision pwysig i bawb yn ein cymunedau, ac mae’n mynd ymhell o ran lleihau s gma ac unigrwydd gan greu cymuned gefnogol, wybodus sy’n goresgyn s gma. Mae hyn yn cyfeirio egni ac ymdrech newydd i’r gwaith o wella bywydau’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl drwy herio gwahaniaethu yn lleol.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Claire Hughes drwy ffonio 01443 424530 neu Janet Whiteman drwy ffonio 01685 881113
New Horizons Rhondda Valley ‘Diwrnod Agored’ 10 Hydref 2013 1.00pm - 4.00pm Apple Tree, Dinas Cysylltwch â Janet Whiteman ar 01685 881113
Page 8
Eleni mae digwyddiadau a gweithgareddau hynod o gyffrous yn cael eu trefnu drwy Rondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Hoffai Interlink ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb oedd yn rhan o’r gwaith o drefnu digwyddiadau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn lleol. Heb gyfraniad a chefnogaeth barhaus, ni fyddai’r digwyddiadau hyn yn digwydd o gwbl. Hoffen ni ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unigol ac ar y cyd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl yn Interlink drwy ffonio 01443 846200 neu e-bos o: mabson@interlinkrct.org.uk
Iechyd Meddwl
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2013 ‘RCT Byd Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl’ 4 Hydref 2013 10.30am – 3.00pm Ystrad Sports Centre Gelligaled Park, Ystrad Bydd y digwyddiad yma yn cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth sy’n berthnasol i iechyd meddwl, iechyd cyffredinol a lles yn ogystal â materion eraill perthnasol. Bydd amrywiaeth o sefydliadau yn bresennol a bydd cyfle i unigolion holi cwes ynau a chael arweiniad ar bynciau a materion o ddiddordeb iddyn nhw. Bydd y digwyddiad yn gyfle i sefydliadau ddathlu arfer da a llwyddiannau, ac arddangos eu gwasanaethau.
9 Hydref 2013 10.30am - 2.30pm Merthyr Tydfil Leisure Centre Mae Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ffordd o weithio gyda’n gilydd er mwyn rhoi sylw i anghenion ein cymunedau lleol.
Bydd therapïau holistaidd ar gael i chi eu trio hefyd. Dewch draw i fanteisio ar y wybodaeth a fydd ar gael. Bydd lluniaeth ar gael drwy’r dydd. Am mwy or gwybodaeth cysylltwch â Claire Hughes ar 01443 424350
‘Prif Ddigwyddiad Merthyr Tudful’ Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2013
Bydd y diwrnod yn gyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth drafod â’r rhai sy’n darparu gwasanaethau, a bydd hefyd yn gyfle i sefydliadau lleol a’u partneriaid arddangos eu gwasanaethau. Bydd amrywiaeth o weithgareddau, cre au a therapïau cyflenwol ar gael ar y diwrnod. Cysylltwch â Maria Abson ar 01443 846200 neu Shian Neale ar 01685 727067
Arddangosfa Gelf i gefnogi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Bydd nifer o sefydliadau iechyd meddwl lleol yn dangos gwaith celf yng nghyntedd Ysbyty Cwm Cynon Aberpennar ar 10 Hydref 2013 rhwng 10 y bore a 2 y prynhawn galwch draw i gael golwg.
Taith Gerdded dros Iechyd a Lles 11 Hydref 2013 Parc Ynysangharad, Pontypridd (Prif Fynedfa) 10.30am – 12.30pm Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau ‘Cerdded’ yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn helpu i godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn Rhondda Cynon Taf, mae taith gerdded arall wedi ei threfnu ar gyfer eleni. Bydd y daith ym Mharc Ynysangharad yn cychwyn o’r Ganolfan Ddydd wrth y brif fynedfa, gan fynd am dro yn hamddenol o gwmpas y parc. Mae’r daith ar dir fflat yn bennaf felly mae’n addas i bawb. Dewch draw i ddangos eich cefnogaeth ac i fwynhau cerdded gyda grŵp o bobl gyfeillgar, debyg i chi. Bydd lluniaeth ar gael ar ddiwedd y daith. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Nane e King drwy ffonio 01443 486856.
Page 9
Iechyd a Lles Mae Anne Morris, Hwylusydd Gofal Cymdeithasol a Lles, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n rhan o’r gwaith o wella iechyd a gofal cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. Yn aml iawn mae hyn yn golygu cael pobl i rwydweithio a gweithio gyda’i gilydd. Mae Anne hefyd yn hwyluso Fforwm Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles Rhondda Cynon Taf, a bwle n wythnosol am iechyd. Cysylltwch â Anne ar 01443 846200 neu e-bost: amorris@interlinkrct.org.uk
Gwobr Iechyd Gweithle Bach Mae Interlink wedi llwyddo i gael Gwobr Iechyd Gweithle Bach Lefel Aur, sef y marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer ansawdd iechyd a lles ar gyfer sefydliadau sy’n cyflogi llai na hanner cant o bobl, wedi’i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Wobr yn broses o ddatblygu, gyda thair lefel yn seiliedig ar arfer da a gwella. Mae’n cael ei defnyddio i gefnogi’r gwaith o greu gweithgareddau sy’n hyrwyddo iechyd a lles gweithwyr. Mae’r Wobr wedi ei datblygu er mwyn targedu materion afiechyd ataliadwy yn y gweithle, sydd hefyd yn helpu i wella perfformiad a chynhyrchiant sefydliadau. Roedd Interlink yn llwyddiannus yn cael y Wobr Aur, sy’n adlewyrchu amrywiaeth o gamau gweithredu er mwyn hyrwyddo iechyd a lles ein staff. Canolbwyn odd y sefydliad ar bump o bynciau ffordd o fyw, sef gweithgarwch corfforol, maeth, alcohol, cyffuriau ac ysmygu. Digwyddodd amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sefydlu grŵp cerdded i’r cwmni ar gyfer teithiau cerdded amser cinio ac ar ôl gwaith, cymryd rhan ym mhrosiect ‘work out’ a gweithdai codi ymwybyddiaeth am gyffuriau.
I ddysgu sut y gallai eich sefydliad chi ymuno, cysylltwch â’r Cynghorydd Iechyd Gweithle Rhanbarthol www. cymruiacharwaith.com Sylw Asesydd: ‘Mae hwn yn sefydliad sy’n gwneud y gorau o fanteision bod yn fach, ac mae’n codi uwchben yr anfanteision. Mae diwylliant iach yno – mae diddordeb gan bobl, maen nhw’n cymryd rhan, ac yn teimlo bod eu cyflogwr yn eu cefnogi ac yn gofalu amdanyn nhw. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau iechyd a lles yn digwydd, o deithiau cerdded rheolaidd i’r cynllun rhannu llyfrau anffurfiol, a’r llyfrau wedi eu gosod, yn synhwyrol iawn, wrth ochr y llungopïwr. Dywedodd un aelod staff eithaf newydd wrtha i mai dyma’r lle mwyaf iachus mae hi wedi gweithio ynddo erioed. Yn ystod fy ymweliad byr, roedd hi’n hawdd gweld sut y gallai hyn fod yn wir. Wrth adael roeddwn i’n teimlo bod hwn yn weithle lle roedd pobl eisiau gweithio.’
Cegaid o Fwyd Cymru 2013 Daeth mwy nag erioed o bobl i ŵyl Cegaid o Fwyd Cymru yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf eleni, gyda tua 15,000 o bobl yn tyrru i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd. Dyma’r nifer uchaf o ymwelwyr yn holl hanes y digwyddiad, sef deng mlynedd. Mae Sioe Amaethyddiaeth a Bwyd Cymru yn rhan o ŵyl Cegaid o Fwyd, ac roedd yn cynnwys amrywiaeth arbennig o stondinau bwyd a chre , amserlen lawn o sioeau arena, anifeiliaid fferm, arddangosfa gof, reidiau plant, gemau, cynghorion iechyd a lles. Rhan fawr arall oedd yr Ardal Iechyd a Lles, lle roedd Interlink yn cynnal stondin gyda sefydliadau trydydd sector lleol, yn dangos eu gwahanol wasanaethau, gan gynnwys; Follow Your Dreams, y Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol, MIND Merthyr a’r Cymoedd, toogooodtowaste a YMCA Pontypridd. Page 10
Iechyd a Lles Tlws Grisial am Brosiectau Cymunedol Rhagorol Bu prosiectau cymunedol sy’n hyrwyddo byw’n iachus yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn dathlu Seremoni Gwobrau Tlws Grisial ym mis Mai eleni.
Mae gan y gymdeithas gysyll adau clos gydag ysgolion lleol, ac mae disgyblion yn ymweld â’r rhandiroedd fel rhan o’u gwersi, lle maen nhw’n cael cyngor ymarferol ar blannu a thyfu eu llysiau eu hunain.
Mae Gwobrau’r Tlws Grisial yn cydnabod llwyddiannau grwpiau a sefydliadau lleol sy’n gweithio er mwyn gwella iechyd a lles yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
Aeth y drydedd wobr o £750 i Merthyr Aloud, sef grŵp canu cymunedol. Mae’r cyfarfodydd wythnosol ar fore dydd Gwener yn cychwyn gydag ymarfer twymo lan ac ymarferion anadlu er mwyn helpu i leihau straen a hybu lles.
‘Mae Gwobrau’r Tlws Grisial yn gwobrwyo prosiectau llawr gwlad sy’n gwneud cyfraniad go iawn i iechyd a lles ein cymunedau.’ Yn cipio’r wobr gyntaf roedd prosiect The Stories, o Brosiect Cyfryngau 3G, a enillodd y Dlws Grisial a gwobr o £1,500. Trioleg o ffilmiau yw’r straeon: Sun beds and Steroids, The Hut a The Boxer, sy’n rhoi sylw i faterion fel delwedd o’r corff, camddefnyddio sylweddau, ffyrdd o fyw iach, disgyblaeth ac ymddygiad riogaethol. Enillydd yr ail wobr o £1,000 oedd Horace Rogers, 72 oed, am Gymdeithas Rhandiroedd Heol Kier Hardie. Mae’r gymdeithas rhandiroedd ar Ystâd Penywaun ym Mhenywaun, Aberdâr, ac mae’n tyfu llysiau ar gyfer y gymuned leol, gyda’r nod o annog pobl leol i fwyta pump y dydd. Mae’r grŵp hefyd yn annog pobl ifanc yn yr ardal i gymryd diddordeb mewn garddio a bwyta’n iach.
Enillwyd y bedwaredd wobr a £500 gan Make a Difference, sef grŵp cymorth ym Maerdy sy’n rhedeg sesiynau galw-i-mewn wythnosol er mwyn cefnogi pobl gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau neu ddibyniaeth ar alcohol. Dywedodd Nicola John, Cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf: ‘Rydyn ni’n dysgu cymaint gan wobrau fel hyn pan rydyn ni’n clywed am yr holl bethau sy’n digwydd yn y gymuned – mae’n rhyfeddol. Mae’n dangos bod cymunedau wir yn gallu gweithio gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth.’ Mae Gwobrau’r Dlws Grisial yn agored i unrhyw brosiect cymunedol sy’n cyfrannu at y gwaith o hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal afiechyd. Mae’r Gwobrau yn agored i brosiectau newydd neu sefydledig sy’n cefnogi unigolion, grwpiau neu deuluoedd sy’n byw yn ardal Cwm Taf.
Enillodd Horace Rogers ail wobr ar gyfer Heol Kier Hardie Cymdeithas Rhandiroedd
Page 11
Lleisiau Lleol Mae Lucy ‘dwy swydd’ Foster yn ferch brysur! Hi yw Swyddog Cyfranogi a Gwerthuso Lleisiau Lleol, a hefyd Cydlynydd See CHANGE. Mae gwaith Lucy gyda Lleisiau Lleol yn golygu cefnogi wyth prosiect gwahanol iawn sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn a phobl ag anableddau, o ran cael llais yn gwella gwasanaethau cymunedol. Mae See CHANGE ‘grymuso cymunedau gweithgar yn Rhondda Cynon Taf’ yn rhoi cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i helpu pobl i ddod yn rhan o benderfyniadau lleol ac i wella eu cymunedau. Cysylltwch â Lucy drwy ffonio 01443 84200 neu e-bos o: lfoster@interlinkrct.org.uk
Diweddariad Lleisiau Lleol Gyda dim ond un neu ddwy swydd angen eu llenwi, mae mwyafrif prosiectau Lleisiau Lleol wedi cychwyn o ddifrif, gyda bron pob partner yn cyflogi pobl ar lawr gwlad sy’n gwneud cysyll adau gyda phobl mewn cymunedau yn Rhondda Cynon Taf. Mae wedi bod yn gyffrous iawn, a bydd y prosiect yn cael ei lansio’n swyddogol yn ystod y digwyddiad rhwydwaith cydgynhyrchu ar 12 Medi. Mae’r prosiect yn targedu pobl ifanc a phobl hŷn, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl ddall neu sydd â nam ar eu golwg, ymhob man yn Rhondda Cynon Taf a chymunedau yn ardaloedd Treherbert, Tonypandy, Maerdy, Glyncoch ac Ynysybwl.
Mae’n golygu bod pobl mewn sefydliadau mawr wir yn helpu’r grwpiau a’r rhwydweithiau yma i dyfu a datblygu. Ydych chi am gymryd rhan? Mae amrywiaeth eang o weithgareddau i chi fod yn rhan ohonyn nhw – felly os oes diddordeb gyda chi, ffoniwch Lucy.
Mae pobl a chymunedau arbennig iawn yn Rhondda Cynon Taf. Os gallwn ni gael pobl leol i weithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau’r gymuned, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn. Mae hyn yn golygu bod cymunedau yn sefydlu grwpiau lleol a rhwydweithiau ac yn rhannu eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn taclo problemau lleol.
Ein Prosiectau Bydd Interlink Rhondda Cynon Taf yn cefnogi’r sefydliadau canlynol i gyflawni eu prosiectau Lleisiau Lleol:
Ein Canlyniadau Byddwn ni’n cynhyrchu gwasanaethau gyda’n gilydd fel bod pobl a chymunedau yn cael budd o’r canlynol: • • • •
Cysyll ad mwy effeithiol gyda sefydliadau sector cyhoeddus allweddol. Dylanwadu ar benderfyniadau am wasanaethau maen nhw’n eu cael. Bod â mwy o allu i ddatblygu gwasanaethau lleol. Gwasanaethau lleol sy’n diwallu anghenion pobl yn well.
1. Coproducing the Future – Partneriaeth Adfywio Glyncoch 2. Create a Voice – Eye to Eye 3. The Breakthrough Project - Age Concern Morgannwg 4. Our Voice, Our Future – Coleg Cymuned Tonypandy 5. Neighbours – Theatr Spectacle 6. Wan ng to be Heard – Caerdydd, y Fro a’r Cymoedd 7. Ynysybwl Futures – Partneriaeth Adfywio Ynysybwl a Glyncoch 8. Welcome to our Woods! – Learn and Grow
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan y Loteri Fawr o dan Raglen Lleisiau Lleol.
Page 12
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Lucy Foster yn Interlink drwy ffonio 01443 846200 neu e-bos o: lfoster@interlinkrct.org.uk
See CHANGE Prosiect See CHANGE yn cefnogi Eiriolwyr Iechyd Glyncoch Yr Eiriolwyr Iechyd Cymunedol
Cymorth
Mae’r Eiriolwyr Iechyd Cymunedol yn grŵp anhygoel o bobl sydd eisiau i bobl leol gael gwell iechyd am gyfnod hirach – achos dyw’r ystadegau iechyd lleol ddim yn wych, ac mae pobl yn haeddu gwell!
Mae prosiect See CHANGE wedi cael y fraint o gefnogi’r gwirfoddolwyr yng Nglyncoch, sy’n cael eu galw yn Eiriolwyr Iechyd ers mis Awst 2012. Cyflwynodd Lucy Foster Hyfforddiant Sefydlu i’r holl wirfoddolwyr, yn cynnwys sgiliau ymddwyn a chyfathrebu, a chod ymddygiad. Wedi hynny, ariannodd y prosiect amrywiaeth o sesiynau hyfforddi a fyddai’n fuddiol i’r holl wirfoddolwyr yn eu gwaith fel cynrychiolwyr iechyd yn eu cymuned, fel sgiliau mentora a diogelu. Roedd hyfforddi straeon digidol yn ffordd ardderchog o hyrwyddo’r prosiect ac i glywed straeon y gwirfoddolwyr, gan ddysgu beth oedd wedi ysbrydoli pobl i ddod yn Eiriolwyr Iechyd.
Fe wnaeth gwraig anhygoel o’r enw Dr Katherine Taylor, meddyg teulu lleol, ysbrydoli grŵp o 15 o bobl yng Nglyncoch i hyfforddi fel eiriolwyr flwyddyn yn ôl, fe aeth hi mor bell â chymryd gwyliau o’i gwaith er mwyn eu hyfforddi nhw! Mae Interlink, Partneriaeth Adfywio Cymuned Glyncoch, Plant y Cymoedd, y Cyngor, y Bwrdd Iechyd Lleol a llawer mwy, yn credu eu bod nhw’n gwneud gwaith gwych, ac wedi cynnig cefnogi’r achos arbennig yma. Mae dwy elfen i waith yr eiriolwyr iechyd: •
•
•
•
•
Bwyta’n Iach – ar hyn o bryd, Weight Busters yn Eglwys Glyncoch ar ddydd Mercher, a gwersi coginio ambell waith gyda phobl ifanc ac oedolion Gweithgarwch Corfforol – dosbarthiadau ymarfer ar gyfer grwpiau oedran gwahanol ac amrywiaeth o alluoedd Ymddygiad Risg – cefnogaeth ar gyfer gwell iechyd rhywiol a gwybodaeth am gyffuriau / alcohol ac a . Cymorth Rhieni a Phlant Bach – grŵp Tiny Tiddlers gwych ar fore dydd Llun yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch Cymorth Iechyd Meddwl / Iselder. Enw’r grŵp cymorth yma sy’n digwydd yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch yw ‘New Beginnings’, a diolch i ysbrydoliaeth a sylfaenydd y grŵp, Petrina Oliver, rydyn ni’n sefydlu ‘cynllun cyfeillio’ i roi cymorth i bobl sy’n unig iawn, gyda chefnogaeth Age Concern a’r Tîm Iechyd Meddwl yn y cyngor. Mae Jackie a Pauline yn aelodau o’r grŵp, gweler stori Jackie isod.
Angen pobl leol newydd i ymuno Gallwch fod yn rhan fawr neu’n rhan fach, beth bynnag sy’n addas i chi. Byddwch yn cael cefnogaeth, hyfforddiant, yn cwrdd â phobl wych ac yn cael llwyth o hwyl! Gall pobl o bob oedran fod yn eiriolwyr iechyd – mae cymaint o waith i’w wneud, mae rhywbeth i bawb ei wneud!!
I ddysgu mwy ffoniwch Carol, Swyddog Iechyd Arweiniol Pontypridd drwy ffonio 01443 491848 neu Lucy, Cydlynydd See Change yn Interlink drwy ffonio 01443 846200
Aelodau’r gymuned yn tynnu at ei gilydd i oresgyn iselder – Stori Jackie Fe gollais i fy hyder i adael y tŷ, ac erbyn hyn rydw i allan o hyd yn helpu pobl yn y gymuned! Fy nghysyll ad cyntaf oedd drwy Weight Busters. Fe wnes i stopio am ychydig, ac wedyn fe ddywedodd Petrina, ‘beth am ddod eto,’ felly es i i gwrdd ag Angela, ac wedyn Pauline, a wnaeth fy annog i i fynd ar lawer o gyrsiau, fel Routes to Recovery. Drwy fynd i Weight Busters ac wedyn New Beginnings (cymorth iselder), rydw i wedi dod allan o fy nghragen ac wedi gwneud ffrind agos newydd sef Pauline, ac wedi cael cwnsela gyda Chymunedau yn Gyntaf. Mae hynny, a’r cyrsiau rydw i wedi eu gwneud, wedi codi fy ysbryd i. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un mai dod i un o’r grwpiau am y tro cyntaf yw’r peth mwyaf arswydus – ar ôl i chi ddod byddwch chi’n gwybod bod croeso i chi, ac mae popeth yn gwella ar ôl hynny. Page 13
Newyddion Lleol
Bosom Pals Pontyclun – Grŵp Cefnogi Canser y Fron Pan glywon ni’r geiriau yna – ‘Mae canser arnoch chi’ – fe newidiodd ein byd ni am byth. Yn fy achos i, fe ddylwn i fod wedi dyfalu beth oedd ar y ffordd pan ges i alwad i fynd yn ôl i weld Bron Brawf Cymru yng Nghaerdydd, a chael fy nhywys i ystafell aros lle roedd dau arall yn eistedd, a lle roedd bocs ar y bwrdd, nid bocs o siocledi, ond bocs o hancesi.
Gofynnodd nyrsys Macmillan i ni a fydden ni’n fodlon helpu cleifion gyda gwahanol fathau o ganser, felly mae ein grŵp wedi tyfu. Ein bwriad yw cefnogi cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae llawer ohonon ni yn ofalwyr yn barod ac yn gallu cael gafael ar lawer o wybodaeth, neu’n gallu dangos i rywun ble i gael gwasanaethau eraill.
Rwy’n credu y galla i ddweud bod pob claf canser mewn sioc mawr, yn enwedig os nad oes dim arwyddion, lympiau, colli pwysau ac a . Gwyrth meddygaeth oedd bod y peiriant bach mamogram yna mewn carafán symudol wedi canfod fy smotyn bach! Fis yn ddiweddarach fe wnaeth un o fy chwiorydd hefyd ddatblygu Canser y Fron.
Roeddwn i’n arfer bod yn berchen ar gwmni oedd yn helpu pobl oedd ag alergedd bwyd/anoddefiad bwyd, ac mae gen i ddiddordeb mawr o hyd mewn bwyd a deiet, yn enwedig y cysyll ad â Chanser. Drwy Felindre a Phrifysgol yn Llundain roeddwn i’n rhan o astudiaeth pum mlynedd o Ddeiet a Ffordd o Fyw. Rydw i’n aros am y canlyniadau a’r argymhellion, a gallwn i siarad am hyn drwy’r dydd, ond fy hunan rwy’n teimlo bod deiet, ymarfer corff a chymorth i ddelio â straen anweledig, gorbryder ac iselder yn rhywbeth sy’n gallu bod yn help mawr i ni i gyd.
Felly rwy’n dweud wrth bawb ‘BYDDWCH YN EFFRO – BYDDWCH YN DDOETH – EWCH AM BRAWF’ Ar ôl triniaeth roeddwn i’n ymwybodol nad oedd grŵp cymorth yn fy ardal i, sef rhwng Pontypridd a Phen-coed. Gyda chymorth gan yr holl asiantaethau canser, Breast Cancer Care, Macmillan, Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig ac Ymchwil Canser Cymru, ysbytai lleol a grwpiau eraill, fe wnes i sefydlu Bosom Pals Pontyclun.
Fel grŵp rydyn ni hefyd yn gweithio gydag Interlink, Gofalwyr Rhondda Cynon Taf, Pobl Hŷn, NISCR, rhaglenni Ymchwil Cynnwys Pobl, Awdioleg Rhondda Cynon Taf a myfyrwyr (drwy nawdd Tenovus) sy’n gwneud ymchwil yn ein prifysgolion lleol, yn rhoi sgyrsiau ac yn ceisio tynnu sylw at pwy ydyn ni a’r Mae PALS yn sefyll am Posi ve – Ac on – Ladies – hyn sydd gyda ni i’w gynnig. Dewch i’n gweld ni am Support heb anghofio bod tua 300 o ddynion bob gyfarfod cyfrinachol ac amser i chi eich hunan dros blwyddyn yn datblygu Canser y Fron. baned o de. Am mwy of gwybodaeth galw Barbara Powell, Pontyclun Bosom Pals ar 01443 237997 www.pontyclunbosompals.org.uk neu e-bost: contact@pontyclunbosompals.org.uk
Follow Your Dreams Elusen genedlaethol yw Follow Your Dreams, a’i chartref ym Mhentre’r Eglwys, ger Pontypridd. Mae’r elusen yn canolbwyn o ar blant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu a’r nod yw eu hysbrydoli nhw i wireddu uchelgais a photensial drwy weithdai creadigol a rhyngweithiol sy’n cael eu cynnig mewn Ysgolion Arbennig ac Ysgolion sydd ag Adrannau Anghenion Arbennig. Rydyn ni hefyd yn casglu ‘breuddwydion’ sy’n helpu ein pobl ifanc i anelu at eu huchelgais drwy weithgareddau fel hwyluso gwersi nofio, gwersi merlota, hyfforddi pêl-droed a rygbi a gwneud gemwaith... a dweud y gwir, beth bynnag mae ein pobl ifanc ni eisiau ei wneud ac yn methu ei wneud drwy lwybrau traddodiadol, bydd Follow Your Dreams yn ceisio llenwi’r bwlch. Rydyn ni’n uchelgeisiol ein hunain hefyd, ac mae ein
gwaith yn cynnwys helpu sêr chwaraeon y dyfodol i gael cydnabyddiaeth drwy’r Gemau Olympaidd Arbennig. Rydyn ni wedi ariannu dau asesiad ar gyfer dau unigolyn sydd am fod yn athletwyr yn barod, ac wedi darparu offer hanfodol ar gyfer hyfforddiant. Mae gyda ni brosiect hefyd o’r enw ‘My CV in Ac on’. Mae hwn yn brosiect fideo unigryw sy’n cynhyrchu ffilmiau byrion o bobl ifanc ag anableddau dysgu sy’n chwilio am waith. Rydyn ni’n gwbl ymrwymedig i’r gwaith o godi ymwybyddiaeth a helpu plant a phobl ifanc ag Anableddau Dysgu i fod yn fwy uchelgeisiol, ac mae croeso mawr i unrhyw wirfoddolwyr sy’n gallu ein helpu ni gyda’r amcanion hyn.
Am mwy o gwybodaeth galw 01443 218443 neu e-bost: admin@followyourdreams.org.uk neu ewch i www.followyourdreams.org.uk Page 14
Newyddion Lleol toogoodtowaste a Tenovus yn dod at ei gilydd Mae’r ddwy elusen flaenllaw, toogoodtowaste a’r elusen canser Tenovus wedi dod at ei gilydd i helpu disgyblion yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen i gynhyrchu fideo am osgoi effeithio canser gan ddefnyddio cynnyrch wedi’i ailgylchu. Mae dros 20 grŵp o ddisgyblion wedi cynhyrchu fideo fel rhan o’u gwaith Bagloriaeth Cymru. Aeth y disgyblion ar antur ymchwil i weld toogoodtowaste a’u siop elusen sydd newydd gael estyniad yn Ynys-hir,. Daeth y disgyblion i’r Siop i gasglu gwybodaeth ar amrywiaeth y cynnyrch wedi’i ailgylchu sydd ar gael, a gadael gydag eitemau roedden nhw wedi eu cael yn anrheg er mwyn cynhyrchu eu fideos.
Meddai Dr Ian Lewis, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil yn Tenovus; ‘Roedd yn wych bod yn rhan o’r prosiect yma a gweld gwaith mor ardderchog gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen. Mae’r creadigrwydd maen nhw wedi ei ddangos wrth ymdrin â phwnc mor anodd yn ysbrydoliaeth.’
Ar ôl cael eu cynhyrchu, cafodd y fideos eu beirniadu gan Tenovus. Roedd y fideo a enillodd yn cynnwys animeiddiad o gynnyrch wedi’i ailgylchu oedd yn esbonio bod 48 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser bob dydd, bod modd atal canser, ac yn dangos pa mor fanteisiol mae gwirfoddoli gyda toogoodtowaste neu Tenovus yn gallu bod.
Dywedodd Shaun England, Prif Reolwr toogootowaste: ‘Mae’n fraint cael bod ymhlith pobl mor ddawnus – mae eu brwdfrydedd a’u dealltwriaeth o bwnc mor emosiynol â chanser yn rhagorol. Mae’r prosiect nid yn unig wedi helpu’r disgyblion i ddeall atal canser, ond os bydd y fideo yn helpu dim ond un unigolyn i beidio cael canser, neu’n arwain rhywun i ddechrau gwirfoddoli, bydd y prosiect wedi newid bywydau.’
Daeth y chwaraewr rygbi undeb rhyngwladol dros Gymru a’r Llewod, Gethin Jenkins, draw i Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen i gyflwyno’r gwobrau i’r m a enillodd. Roedd y prosiect yn llwyddiannus a’r fideos i gyd o ansawdd uchel. Mae’r fideo a enillodd ar gael i’w weld ar wefan toogoodtowaste www.toogoodtowaste.co.uk a gwefan Tenovus www.tenovus.org.uk a hefyd ar eu safleoedd cyfryngau cymdeithasol.
Recriw o am Wirfoddolwyr nawr! Mae estyniad cangen Ynys-hir o toogoodtowaste wedi ei gwblhau yn ddiweddar diolch i arian gan y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru, ac erbyn hyn maen nhw’n chwilio am wirfoddolwyr ychwanegol. Mae cyfleoedd ar gael ym maes manwerthu, gofal stordy, marchnata, canolfan gyswllt, trydan, gweinyddu a mwy. Mae croeso arbennig i bobl â gwybodaeth arbenigol a fydd yn gallu helpu i hyfforddi eraill. Mae toogoodtowaste yn dibynnu ar yr ymrwymiad a’r gefnogaeth maen nhw’n ei chael gan eu gwirfoddolwyr er mwyn cynnig eu gwasanaethau i gymuned Rhondda Cynon Taf. Cyn bo hir bydd Swyddog Datblygu Dysgu yn ymuno â’r m, a’i waith fydd trefnu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi mewnol ar gyfer gwirfoddolwyr. Os oes gyda chi – neu rywun rydych chi’n nabod – ddiddordeb ymuno â thîm toogoodtowaste neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer Evans drwy ffonio 01443 680090 neu e-bos o: JEvans@toogootowaste.co.uk. Page 15
Ehangwch eich gorwelion ..... gyda hyfforddiant Interlink Hyfforddiant Ymyriad Byr Alcohol
Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed
14 Tachwedd 2013 10.00am - 12.00pm
23 Hydref 2013 9.30am - 1.00pm
Rheoli Straen 4 Rhagfyr 2013 2.00pm - 4.30pm
Diogelu Plant a Phobl Ifanc 23 Hydref 2013 2.00pm - 5.00pm
Pob cwrs yn cael ei gynnal yn Interlink oni bai ein bod yn datgan fel arall. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01443 846200 neu ewch i www.interlinkrct.org.uk i lawrlwytho ffurflen archebu, rhaglen hyfforddi a’n rhaglen allgymorth newydd.
Cymorth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Gallwn helpu gyda rhannu sgiliau neu roi hyfforddiant penodol ar y pecynnau Microso canlynol: Word
Excel
Publisher
Access
PowerPoint
Rhyngrwyd ac E-bost
Bydd m y Ddesg Gymorth yn gallu helpu sefydlu gyda’r gwasanaethau canlynol: • Gwefan – gallwn bos o gwybodaeth am eich sefydliad/digwyddiad ar ein gwefan • Ymgyrch bos o – anfonwch eich gwybodaeth aton ni ar gyfer ein cylchlythyr a phethau eraill rydyn ni’n eu pos o allan • Cyhoeddi Pen Desg – yn cynnwys dylunio taflenni, posteri, tocynnau, cardiau busnes, ac a . • Llun-gopïo – mae ein llun-gopïwr lliw yn gallu argraffu mewn lliw llawn gyda gorffeniad proffesiynol • Lamineiddio/Rhwymo • Cyfeirio – os na allwn ni helpu, fe wnawn ni ffeindio rhywun sy’n gallu! Cysylltwch â’r Ddesg gymorth ar 01443 846200 neu e-bost: info@interlinkrct.org.uk
Gofod swyddfa ar gael yn swyddfa Interlink yng Nglan-bad Am mwy o gwybodaeth cysylltwch â June Williams-Sykes ar 01443 846200 neu e-bost: jwilliams-sykes@interlinkrct.org.uk
Rhif Elusen 1141143 Rhif Cwmni 07549533
Rhifyn nesaf: Rhagfyr 2013