Dolen
Rhifyn 62 Gwanwyn 2013
Tyfu Mentrau Lleol Cylchgrawn sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol Rhondda Cynon Taf
RhifynInterlink Menter Cymdeithasol News Mentrau Cymdeithasol yn creu llwyddiant yn RhCT
Croeso ..... i rifyn y Gwanwyn o Gylchlythyr Interlink. Os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf, anfonwch eich erthyglau, gwybodaeth, swyddi gwag neu hysbysebion erbyn: 28 Chwefror 2014 i Cara Jordan-Evans at Interlink gan ebost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk
Yn y rhifyn hwn rydym wedi:
Cyflwyniad Cydgynhyrchu Cyllid a Chymorth Mentrau Lleol Cymunedau Menter Mentrau Lleol SEWCED Menter Cymdeithasol Cymorth Technoleg Hyfforddi Interlink
2 3 4-5 6-7 8-9 10-11 12-13 14 15 16
Ein cyfeiriad: 6 Melin Corrwg, Cardiff Road Upper Boat, Pontypridd CF37 5BE Rhif Ffon: 01443 846200 Fax: 01443 844843 E-bost: info@interlinkrct.org.uk Gwefan: www.interlinkrct.org.uk Oriau agor y swyddfa yw: Llun - Iau: 9.00am - 5.00pm Gwener: 9.00am - 4.30pm
Page 2
Roedden ni'n sgwrsio'n ddiweddar gyda chydweithiwr oedd yn wynebu toriadau sylweddol yn ei gyllideb. Er mwyn ceisio codi morâl, mae'r m yn y sefydliad llwyddiannus hwn wedi dechrau chwarae bingo gyda ymadroddion allweddol pan fyddan nhw'n cael neges gan y brif swyddfa. Maen nhw'n chwilio am eiriau fel 'amseroedd caled'; 'rydyn ni i gyd yn teimlo'r wasgfa' a'r math yna o beth, ac mae pwy bynnag sy'n llwyddo i sylwi ar yr holl ymadroddion yn ennill gwobr ariannol. Yn ogystal â bod yn ffordd ysgafn o ddelio gyda 'phenderfyniadau anodd' a 'dewisiadau anodd' mae'n golygu nad oes rhaid i ni ddechrau'r rhifyn yma o'r bwle n gyda sylw am sut mae'r toriadau yn 'effeithio arnon ni i gyd' neu'n mynd i effeithio arnon ni i gyd. Felly ydy, mae hwn yn 'gyfnod anodd', ac mae'n debygol o 'fynd yn waeth'. Er enghrai , mae Rhondda Cynon Taf yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar newidiadau posibl i ddarpariaethau gwasanaethau sy'n awgrymu y gallai llyfrgelloedd a chanolfannau gofal dydd gau, a gostyngiad sylweddol mewn darpariaeth ysgolion meithrin mor fuan â mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae'n bosibl bod gan bob un ohonon ni farn bersonol am sut y gallai toriadau i wasanaethau cyhoeddus effeithio'n sylweddol ar fywydau pobl Rhondda Cynon Taf, ond fel sector, mae'n rhaid i ni edrych y tu hwnt i hyn a dechrau meddwl yn greadigol am sut gallwn ni barhau i ddarparu canlyniadau cymdeithasol gwasanaethau o'r fath gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Gallai hyn olygu edrych am gran au yn lle'r rhai sydd ar gael yn barod, neu meddwl yn wahanol am sut y gellir darparu gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned drwy ddefnyddio llai o adnoddau neu hyd yn oed drwy ddefnyddio modelau sy'n cynhyrchu incwm. Byddwn ni'n cefnogi nifer o grwpiau ym mis Ionawr i gynnal gweithdai i edrych ar sut y gall pobl a chymunedau ymateb i'r toriadau posibl. Os hoffech arwain, neu fod yn rhan o sesiwn, cysylltwch â Ken, Simon neu Jenny drwy ffonio 01443 846200. Roedd y Digwyddiad Ffyniant a Menter yn y Ffatri Bop yn y Porth ar 14 Tachwedd yn llwyddiant mawr. Daeth 47 o bobl i'r digwyddiad a dywedodd un ohonyn nhw mai 'hwn oedd y digwyddiad gorau dwi erioed wedi bod iddo!'. Diolch i bawb a gymerodd ran. Roedd yn gyfle gwych i drafod materion o bwys a bydd y sgwrs hon gyda'r sector yn parhau wrth i'r flwyddyn ariannol newydd nesáu. Mae llawer o bethau y gall mentrau cymdeithasol newydd, neu rai sy'n bodoli'n barod, eu gwneud i sicrhau y byddan nhw'n parhau i oroesi a ffynnu yn y dyfodol. Ac yn olaf, os yw hyn i gyd yn edrych fel gormod i un unigolyn neu sefydliad ei gyflawni ei hunan, meddyliwch sut y gallwch weithio gyda phobl eraill a chydgynhyrchu a chydweithio er mwyn creu cynnyrch a gwasanaethau sy'n apelio at farchnad ehangach. Yn y rhifyn hwn, fe welwch chi enghrei iau o sut mae'r trydydd sector yn parhau i lwyddo yn Rhondda Cynon Taf drwy ddatblygu gweithgareddau cynhyrchu incwm newydd, a darparu hyfforddiant a chyfleoedd swyddi angenrheidiol a hynny i bobl sy'n bell i ffwrdd o'r farchnad swyddi, yn ystod y cyfnodau anodd a'r cyfnodau da. Os na welwch chi'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani ar y tudalennau nesaf, cysylltwch â'r m datblygu ac fe wnawn ni ein gorau i'ch cynorthwyo gyda'ch syniadau am fenter newydd. Cymerwch ofal! Ken, Jo a Meriel - Y Tîm Menter
Cydgynhyrchu ‘Cydgynhyrchu’? Chwyldroadol neu derm diwerth arall? Pam fod y dull cydgynhyrchu o bwys i ni gyd? Caiff anghenion pobl a chymunedau eu bodloni orau pan fyddan nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n iawn, pan fydd pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain. Fel sefydliadau eraill, mae Interlink yn credu mai dim ond drwy ‘gydgynhyrchu’ y gall newid cymdeithasol posi f ddigwydd. Nid term arall am ‘gydweithio’ yw hwn. Mewn sawl ffordd, mae’n chwyldroadol oherwydd mae’n cynnwys llawer mwy o gydraddoldeb rhwng gweithwyr proffesiynol a dinasyddion. Mae’n dechrau drwy gynnwys pobl a chymunedau yn ystyrlon yn y broses o gynllunio, darparu a gwneud penderfyniadau.
gwirfoddol yn ymateb i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu - yn seiliedig ar gydnabod yr adnoddau sydd gan bobl a chymunedau yn barod, a darparu gwasanaethau gyda nhw, yn hytrach nag ar eu cyfer nhw. Pan fydd pobl a chymunedau yn cael cydnabyddiaeth ehangach am eu rhan yn yr ateb i'r broblem, bydd cyfoeth o botensial cudd yn cael ei ryddhau. Rydyn ni'n gwybod hyn, oherwydd mae rhai cymunedau yn Rhondda Cynon Taf eisoes wedi cydgynhyrchu er mwyn lleihau trosedd yn sylweddol, gwella canlyniadau addysgol a gwella eu hamgylchedd leol.
Mae’r mudiad cydgynhyrchu yn mynd rhagddo yng Nghymru gyda Gweinidogion allweddol yn hyrwyddo gwerth democrateiddio gwasanaethau. Rydyn ni am sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn adeiladu ar ei thre adaeth gyfoethog o gydymddibyniaeth a chydweithredu er mwyn bod yn rhan ohono.
sefydliadau a grwpiau er mwyn eich helpu CHI i gyflawni'r hyn rydych chi am ei gyflawni! Rhowch alwad i ni ac fe wnawn ni eich pasio chi ymlaen at yr unigolyn gorau i ateb eich ymholiad. Efallai y bydd o fudd i chi gadw mewn cysyll ad â grwpiau neu sefydliadau tebyg hefyd... eto, dywedwch wrthon ni beth fyddai orau i chi, ac fe wnawn ni gydweithio gyda chi.
Yn ogystal â rhannu arfer gwych, rydyn ni'n trefnu cyfres o brosiectau ymchwil gweithredu gyda Y newyddion da yw bod llawer iawn o enghrei iau o phrifysgolion a darparwyr gwasanaethau lleol. Bwriad y unigolion, teuluoedd a chymunedau sy’n helpu i greu prosiectau fydd edrych ar ffyrdd o'i gwneud hi'n haws i wasanaethau cyhoeddus brif-ffrydio cydweithio a gwell gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys gwasanaethau i deuluoedd a phobl ifanc sy’n agored i chydgynhyrchu. Yr hyn sy'n sylfaenol bwysig yw gallu gwneud hyn mewn ffordd sy'n gweithio orau i niwed a phobl sydd â demen a. Yr her sy’n ein ddefnyddwyr y gwasanaeth ac aelodau o'r gymuned. hwynebu yw rhoi’r math yma o arfer da ar waith. Wrth i ni lwyddo i greu awyrgylch o'r fath, bydd Rydyn ni am ffeindio mwy o ffyrdd y gall sefydliadau canlyniadau cymdeithasol posi f yn dilyn. cyhoeddus a gwirfoddol werthfawrogi aelodau cymunedol / defnyddwyr gwasanaethau am yr hyn Yn ogystal, os ydych chi eisiau cymorth i wneud hyn hyd maen nhw’n GALLU ei wneud, a gwella’r asedau yn oed yn well, mae m o bobl gan Interlink sy'n gallu hynny er mwyn eu helpu i wneud newidiadau yn eu datblygu'r ffyrdd arloesol yma o gymryd rhan i'r lefel bywydau a’u cymunedau. uchaf. Maen nhw'n CARU gweithio gydag unigolion,
Y weledigaeth yw bod sefydliadau cyhoeddus a
Oes gyda chi unrhyw syniadau am y ffordd orau o gyflawni hyn... neu oes gan eich sefydliad awgrymiadau am hyn? Os felly, rydyn ni am glywed gennych!! Ffoniwch Jenny ar 01443 846200 neu anfonwch e-bost a : johara@interlinkrct.org.uk. Mae Jenny yn rhedeg Creu'r Cysyll adau, sy'n cael ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Cefnogi Pobl sy'n Dioddef effaith y toriadau Mae llawer o grwpiau wedi dangos brwdfrydedd dros weithio gydag eraill i helpu i liniaru effaith y toriadau ar bobl sydd mewn tlodi drwy weithredu yn y gymuned. Roedd hon yn thema amlwg yn ystod ein digwyddiadau diweddar, sef y 'Digwyddiad Ffyniant a Menter' a 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r cyfarfod cyffredinol blynyddol. Er enghrai , mae pobl yn pryderu am oblygiadau cau llyfrgelloedd ar geiswyr gwaith sydd angen gallu defnyddio technoleg gwybodaeth yn ddyddiol er mwyn profi eu bod nhw'n chwilio am waith. Gofynnwyd i ni helpu i ddod â phobl ynghyd i weithio gyda'i gilydd er mwyn ffeindio ffyrdd creadigol o leihau'r effaith ar y rhai mwyaf agored i niwed.
Bydd Interlink yn cefnogi galwad i weithredu drwy gyd-noddi gweithdai â thema gan ddod ag aelodau a grwpiau perthnasol ynghyd i drafod y meysydd lle mae toriadau yn cael eu cynnig: Cau llyfrgelloedd; Cau canolfannau gofal dydd a gwasanaeth pryd ar glud; Llai o ddarpariaeth ysgolion meithrin a gwasanaethau ieuenc d. Mae croeso i BAWB fod yn rhan o hyn. Bydd dyddiadau'n cael eu cyhoeddi cyn hir ar gyfer digwyddiadau sydd i'w cynnal yn y flwyddyn newydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jenny, Simon neu Ken drwy ffonio 01443 846200.
Page 3
Cyllid a Chymorth Joanna Markham, Swyddog Cymunedau Menter. Swydd Joanna yw cynorthwyo mentrau cymunedol a chymdeithasol ac unrhyw grŵp yn Rhondda Cynon Taf sydd eisiau mentro! Mae'r rhan fwyaf o bobl yn chwilio am gymorth gyda nawdd a chodi arian, ond yn aml er mwyn cael cyllid, mae angen cymorth ar bobl gyda pholisïau ac i edrych ar eu strwythur gyfreithiol. Gall Joanna gynorthwyo grwpiau sy'n cwblhau ceisiadau am gyllid drwy ei harbenigedd o reoli ac asesu ceisiadau am gyllid gan noddwyr. Mae Interlink yn lwcus o gael Gran inder, sef cronfa ddata ar-lein sy'n eich cynorthwyo i chwilio am noddwyr perthnasol ar gyfer prosiectau penodol. Mae nifer o grwpiau'n defnyddio'r adnodd hwn drwy Interlink, OND NID CYMAINT O GRWPIAU AG Y BYDDEM YN EI DDYMUNO! Felly, os nad ydych wedi defnyddio'r adnodd eto, cysylltwch â fi drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: jmarkham@interlinkrct.org.uk. Caiff y Prosiect Cymunedau Menter ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Arian i Bawb Mae'r Loteri Fawr yn awyddus i gael ceisiadau gan grwpiau yn Rhondda Cynon Taf. Mae gan y Loteri Fawr ddwy gronfa sydd ar gael i grwpiau: Mae Arian i Bawb Cymru yn cynnig hyd at £5,000 i grwpiau er mwyn cefnogi gwaith gyda gwirfoddolwyr, hyfforddi, marchnata, cynnal digwyddiad, prynu offer ac a .
Dim ond os ydych chi'n grŵp cymunedol, yn grŵp nid er elw, yn gyngor cymuned neu dref, yn gorff iechyd neu'n ysgol y gallwch chi wneud cais am Arian i Bawb. Does dim angen i chi fod yn elusen gofrestredig er mwyn gwneud cais am Arian i Bawb.
Byddwn ni'n talu am weithgareddau sy'n cynnwys: • Cynnal digwyddiad, gweithgaredd neu berfformiad • Prynu offer neu ddeunyddiau newydd • Cynnal cyrsiau hyfforddiant Mae Arian i Bawb yn cynnig ffordd gyflym a hawdd i grwpiau gwirfoddol a chymunedol gael gran au bach • Sefydlu prosiectau peilot neu ddechrau grŵp newydd rhwng £500 a £5,000 ar gyfer prosiectau sy'n gwella • Teganau a gemau addysgol ac offer technoleg gwycymunedau lleol a bywydau pobl sydd fwyaf mewn bodaeth angen. • Talu am gostau gwirfoddolwyr, costau gweithwyr Mae'r rhaglen yn annog ystod eang o brosiectau achlysurol neu oedd proffesiynol cymunedol, iechyd, addysgol ac amgylcheddol. • Costau teithio ac ailwampio I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i h p://www.biglo eryfund.org.uk/welsh/global-content/programmes/wales/awards-for-all-wales
Pobl a Lleoedd Mae Pobl a Lleoedd yn cynnig cyllid o hyd at £1 filiwn i grwpiau.
Y prif nod yw ceisio dod â phobl ynghyd i greu gwir welliannau i gymunedau a bywydau'r bobl sydd fwyaf mewn angen. Rydyn ni am i'ch prosiect chi gael ei arwain gan y gymuned - felly mae helpu pobl i ddatblygu sgiliau a hyder i fod yn fwy o ran yn eu cymunedau yn elfen hollbwysig o'r rhaglen hon.
Mae Pobl a Lleoedd yn ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw sy'n annog gweithredu ar y cyd gan bobl sydd am wneud eu cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddyn nhw. Byddwn ni'n cefnogi prosiectau lleol a Bydd y Loteri yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio rhanbarthol yng Nghymru sy'n canolbwyn o ar: yn Rhondda Cynon Taf. I gael rhagor o wybodaeth • Adfywio cymunedau, neu i gael cymorth gyda chyllid, cysylltwch â • Gwella perthynas o fewn cymunedau, Joanna Markham drwy ffonio 01443 846200. • Gwella amgylcheddau, gwasanaethau cymunedol ac adeiladau yn lleol. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.biglo eryfund.org.uk/prog_people_places Page 4
Cyllid a Chymorth
Cronfa Fenter Mae Cronfa Fenter Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn chwilio am geisiadau gan unigolion neu gan fentrau cymdeithasol sydd â syniadau busnes menter gymdeithasol yr hoffen nhw eu datblygu ymhellach. Nod y gronfa yw: • Cefnogi unigolion / sefydliadau entrepreneuraidd i oresgyn pethau sy'n eu rhwystro rhag datblygu eu syniadau busnes • Archwilio datblygiad menter • Cynorthwyo tuag at sefydlu mentrau cymdeithasol Bydd gran au o rhwng £3,000 a £5,000 ar gael i nifer gyfyngedig o ymgeiswyr, ar sail gystadleuol. Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, rhaid i'r ymgeisydd fod: • Wedi'i leoli yn hen ardal y Meysydd Glo yn RCT • Yn aelod o'r Rhwydwaith Menter Cymunedol • Wedi bod yn masnachu neu'n rhag-fasnachu ers llai na chwe mis • Yn gallu dangos syniad busnes da • Yn gallu cychwyn ar y prosiect o fewn tri mis • Gyda throsiant o lai na £100,000 Mae'r eitemau y mae modd eu cyllido yn cynnwys: • Cymorth gan ymgynghorwyr e.e. Astudiaethau Dichonolrwydd, Cynlluniau Busnes • Cymorth mentora • Hyfforddiant busnes • Offer cychwynnol (bydd angen cyflwyno cynllun busnes gyda'r cais) • Syniadau marchnata creadigol ac arloesol
Costau sydd ddim yn gymwys: • Cyflogau staff • Cymorth ymgynghorol y gellir ei ddefnyddio o rywle arall Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar y meini prawf canlynol: • Ansawdd y syniad busnes • Tys olaeth o'r farchnad • Tys olaeth o'r effaith • Pa mor realis g yw costau'r prosiect a pha mor glir maen nhw'n cael eu hesbonio • Sut mae mesur llwyddiant Y broses gwneud cais: 1. Cofrestru gyda'r Rhwydwaith Menter Cymunedol - bydd angen tys olaeth o bwy ydych chi 2. Cymorth un-i-un - mapio'r cais 3. Cyflwyno'r cais 4. Panel gran au Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau bob chwarter gan ddechrau ym mis Medi 2013. Er mwyn cael pecyn gwneud cais ac i gael cymorth i gwblhau'r broses gwneud cais, cysylltwch â Hayley Doorhof drwy ffonio 01443 404455 neu drwy e-bost: hayley.doorhof@coalfields-regen.org.uk
Cronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru ar gyfer y Trydydd Sector Mae Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ac Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro (sy'n cynrychioli Undebau Credyd ABCUL) wedi ennill contract gan Gyllid Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu buddsoddiad micro-fenthyciad i sefydliadau menter trydydd sector ledled Cymru. Mae'r benthyciadau yn amrywio rhwng £1,000 a £20,000 ac uchafswm cyfnod yr ad-dalu yw pum
mlynedd, bydd y cyfraddau llog yn 10% gyda ffi sefydlu o £150. Mae'r gronfa sydd werth £1 filiwn yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd a bydd ar agor tan 2017. Nod y gronfa yw darparu cyllid micro-fenthyciad i sefydliadau trydydd sector sydd am ehangu neu ddechrau menter a fydd yn cynhyrchu incwm a swyddi mewn cymunedau yng Nghymru. Gellir defnyddio'r cyllid sydd ar gael i ariannu buddsoddiadau refeniw neu gyfalaf.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag: Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo - alun.taylor@coalfields-regen.org.uk neu drwy ffonio 01443 404455 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru - microfund@wcva.org.uk neu drwy ffonio 0800 2888 329 Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro - lherberg@cardiffcu.com neu drwy ffonio 02920 872379
Page 5
Mentrau Lleol
Cyfleoedd Partneriaeth gyda Llyfrau Ffatri Y Ffatri Gelf Mae'r Ffatri Gelf yn ymddiriedolaeth ddatblygu yn y Rhondda a gafodd ei chreu yn 1990 gan drigolion lleol oedd wedi diflasu ar gael eu labelu'n 'broblem' ac oedd eisiau gweithio gyda'i gilydd i wella ansawdd eu bywydau. Ein nod yw creu cyfleoedd i newid bywydau pobl sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gwthio i'r cyrion neu eu heithrio, er mwyn trin pawb fel ased, a bod yn sefydliad sy'n angori'r gymuned. Cyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cynaliadwy yw ein prif werthoedd.
Llyfrau Ffatri Dair blynedd yn ôl, lansiodd y Ffatri Gelf Llyfrau Ffatri, sef menter gymdeithasol sy'n gwerthu hen lyfrau ail-law ar-lein drwy Amazon Marketplace. Mae gyda ni stoc o dros 28,000 o lyfrau ac yn aml iawn rydyn ni'n dosbarthu llyfrau i gwsmeriaid ledled y byd o'n storfa yn y Rhondda. Mae dros 30 o wirfoddolwyr rheolaidd yn helpu i wireddu hyn. Mae'r profiad yn eu helpu nhw i ddatblygu sgiliau newydd, yn creu rhwydwaith cymdeithasol cefnogol, yn magu hunanhyder a hunan-barch. Mae llwyddiant y fenter yn dibynnu ar ansawdd ein stoc, prisiau cystadleuol a gwasanaeth i gwsmeriaid o'r radd flaenaf. Rydyn ni'n dda iawn yn gwneud hyn, ac mae'r sylwadau rydyn ni'n eu cael yn adlewyrchu hynny.
Mae’r prosiect Llyfrau Ffatri yn cyfrannu’n sylweddol at elw triphlyg y Ffatri Gelf. Yn economaidd drwy gynhyrchu incwm sy'n helpu i dalu ein costau gweithredu, yn gymdeithasol drwy greu ystod o gyfleoedd gwirfoddoli sy'n galluogi pobl i ddysgu a datblygu, ac yn amgylcheddol drwy ailgyfeirio llyfrau o'r ffrwd wastraff.
Cyfleoedd partneriaeth Mae gyda ni drefniadau gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau eraill sy'n casglu llyfrau ar ein cyfer ac rydyn ni'n eu gwerthu ar-lein ar eu rhan am ran o'r pris gwerthu. Dydy'r holl lyfrau ddim yn addas i'w gwerthu ar-lein. Rydyn ni'n dewis y rhai gorau ac yn ailgylchu'r gweddill. Bydden ni'n hapus iawn i ddod i drefniant fel hyn gydag aelodau Interlink neu sefydliadau eraill sy'n rhannu'r un gwerthoedd â ni. Rydyn ni hefyd yn chwilio am bartneriaid heb fod ar-lein sydd am werthu llyfrau ail-law. Mae gyda ni stoc fawr o lyfrau gwahanol sydd mewn cyflwr gwych, sy'n rhy dda i'w hailgylchu ond sydd heb unrhyw werth ar-lein. Yn gyffredinol, mae llyfrau mwy arbenigol yn gwerthu'n dda ar-lein, tra bod llyfrau poblogaidd yn gwerthu'n dda ar y stryd fawr. Mae miloedd o lyfrau gyda ni a fyddai'n gwerthu'n dda o'r lleoliad cywir. Gallwn ddarparu'r stoc ar sail gwerthu neu ddychwelyd am ran o'r pris gwerthu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth gyda'r prosiect Llyfrau Ffatri, cysylltwch ag Elwyn James drwy ffonio 01443 757954 neu drwy e-bost: Elwyn@artsfactory.co.uk. Ewch i www.artsfactory.co.uk Mae Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru (SEWCED) yn cefnogi prosiect llyfrau'r Ffatri Gelf
Ildiwch eich llyfrau diangen! Helpwch i greu cyfleoedd i bobl sydd ar y cyrion yn rhai o gymunedau mwyaf difrein edig Ewrop drwy gyfrannu eich llyfrau diangen. Croesewir unrhyw lyfrau sydd mewn cyflwr darllenadwy a byddwn yn gwneud defnydd da ohonyn nhw. Bydd prosiect Llyfrau Ffatri yn casglu unrhyw lyfrau y byddwch yn eu cyfrannu. Yna, bydd ein m o wirfoddolwyr yn palu drwy'r llyfrau. Bydd llyfrau sy'n addas i gael eu hailwerthu yn mynd ar werth ar ein siop lyfrau ar-lein drwy Amazon Marketplace. Bydd y llyfrau sy'n weddill yn cael eu hailgylchu. Mae prosiect Llyfrau Ffatri yn fenter gymdeithasol sydd wedi’i lleoli yng Nghwm Rhondda. Page 6
Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd i unigolion sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwthio i'r cyrion a'u heithrio fel eu bod yn datblygu sgiliau newydd, hunanhyder, hunan-barch a rhwydwaith cymdeithasol cefnogol. Ein nod yw canolbwyn o ar gryfderau pobl yn hytrach na'u gwendidau a throi pobl oedd yn cael eu galw'n 'ddefnyddwyr gwasanaeth' y y gorffennol i fod yn ddarparwyr gwasanaethau gwerthfawr i'r gymuned ehangach. Mae dros 40 o unigolion yn elwa o'r cyfleoedd hyn bob wythnos. Mae Llyfrau Ffatri yn is-gwmni sy'n eiddo'n gyfan gwbl i'r Ffatri Gelf ymddiriedolaeth ddatblygu sy'n eiddo i'r gymuned yn y Rhondda. Mae'r Ffatri Gelf yn bodoli i adeiladu cymuned gryfach a mwy cynhwysol. Ewch i www.artsfactory.co.uk
Mentrau Lleol
AX Music Mae AX Music yn gwmni menter cymdeithasol sydd wedi'i leoli yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf. Phil Harris ac Anne Cleaton a sefydlodd y cwmni yn 2008, gyda chymorth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Mae'r ddau yn gweithio fel cerddorion a thiwtoriaid gitâr proffesiynol a thrwy brofiad, roedd y ddau'n teimlo bod angen codi safonau mewn addysgu cerddoriaeth a chreu cyfleoedd cyflogaeth i nifer o'r cerddorion ifanc talentog yn yr ardal.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio wtoriaid lleol fel arholwyr, sy'n cynnig cyfleodd cyflogaeth i gerddorion lleol. Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi lansio cangen 'Gwasanaethau' o'r cwmni'n ddiweddar, sy'n darparu wtoriaid gitâr a drymiau i ysgolion lleol, rhywbeth arall sy'n creu cyfleoedd i gerddorion lleol.
Gyda hynny mewn cof, ysgrifennodd y Cyfarwyddwr, Phil Harris, gyfres o gymwysterau gitâr sy'n rhan o'r Fframwaith Credyd a Chymhwyster (QCF). Yn ogystal, mae AX Music wedi datblygu cyfres o lyfrau ac arholiadau gitâr ar wahanol lefelau, gan ddefnyddio talent a busnesau lleol lle bynnag y bo'n bosibl. Dyluniwyd ac argraffwyd y llyfrau gan gwmnïau lleol, cynhelir yr arholiadau yn lleol, gan gadw busnes yng Nghymru. Cyn datblygu'r cwmni cerddoriaeth, roedd byrddau arholi wedi'u lleoli mewn rhannau eraill o wledydd Prydain, a oedd yn golygu Rydyn R d nii wedi di recriw i o Rheolwr Rh l Marchnata M h t yn bod cymunedau'r de yn colli allan ar unrhyw fudd ddiweddar, sef Kylie Howarth. Mae hi, ar y cyd â yr oedd y diwydiant yn ei ddarparu. Er mwyn cadw Phil a'n Swyddog prosiect, Lauren Crumb, wedi gyda'r syniad y dylai cerddoriaeth greu cyfleoedd lle cynyddu gweithgarwch marchnata ac, o ganlyniad, bynnag y bo'n bosibl, mae myfyrwyr AX Music yn wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y llyfrau sy'n chwarae gyda band byw fel rhan o'u arholiad cael eu gwerthu. rhywbeth sy'n unigryw i AX Music. I gael rhagor o wybodaeth amdanon ni, ewch i'r wefan www.axmusic.co.uk, neu enw ein tudalen ar Facebook yw AX-Music, neu ar Soundcloud www.soundcloud.com/ax-music-wales. Mae Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru (SEWCED) yn cefnogi AX Music
Big Click Caiff Big Click ei ariannu gan fenter o dan Lywodraeth magu hyder a chynnig profiad i unigolion er mwyn iddyn nhw allu llwyddo yn y farchnad waith. Dros y Cymru o'r enw Cymunedau 2.0 sy'n un o'r nifer o cyfnod hwnnw, rydyn ni hefyd wedi helpu dros 1,000 wasanaethau mae Partneriaeth Penrhys yn eu o bobl i fynd ar-lein yn Rhondda Cynon Taf. Yn darparu. Rydyn ni'n fenter gymdeithasol newydd ddiweddar, penderfynodd y Big Click gynnig yr sydd â dwy flynedd o brofiad ac sy'n cynnig ystod hyfforddiant a'r cymorth proffesiynol rydyn ni'n ei eang o hyfforddiant i bobl neu grwpiau sy'n gynnig i unigolion ar hyn o bryd, i fusnesau hefyd. gweithredu er budd y gymuned. Mae ein prosiect Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy'n yn canolbwyn o ar y rheini sydd wedi'u heithrio yn cynnwys dylunio gwefannau, pecynnau (fel pecynnau ddigidol ac yn eu cefnogi er mwyn iddyn nhw gael cychwyn busnes, mau chwaraeon, priodasau, clybiau gwneud y mwyaf o dechnoleg. Mae Big Click yn cymdeithasol a phecynnau marchnata digwyddiadau), gwerthfawrogi cymorth gan wirfoddolwyr ac yn dylunio graffeg, cymorth gyda chyfryngau ymdrechu i greu cyfleoedd er mwyn iddyn nhw fagu sgiliau a phrofiad. Ers mis Hydref 2011, rydyn ni wedi cymdeithasol, hysbysebu ar-lein a hyfforddiant. Mae ein gwasanaethau wedi cael eu yn ofalus i cynnig cyfleoedd gwirfoddol i fwy na 12 o bobl ac gyd-fynd ag arbenigedd y m. wedi cynnig profiad gwaith i chwech o bobl er mwyn I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, ewch i'r wefan: www.bigclick.org.uk Page 7
Cymunedau Menter Ken Moon, Swyddog Cymunedau Menter. Mae Ken yn gweithio ar y cyd â Jo a Meriel i gynorthwyo mentrau cymunedol a chymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf ac unrhyw grŵp sydd am fod yn fenter! Mae Ken yn mwynhau ysgrifennu'r Bwle n Menter Cymdeithasol wythnosol ac wedi treulio llawer o'i amser dros y flwyddyn ddiwethaf yn rhoi cefnogaeth i ddatblygu cynigion ynni cymunedol, yn benodol prosiectau ynni dŵr. Cysylltwch â Ken drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: kmoon@interlinkrct.org.uk. Caiff y Prosiect Cymunedau au u Menter ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Beth nesaf i Ynni Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf? Wrth i'r Llywodraeth gyflwyno cynlluniau cymhelliant fel y Tariff Cyflenwi Trydan a'r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy a chyflwyno rhaglenni fel Ynni'r Fro, mae ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned yn cynnig cyfle unigryw i adfywio cymunedau difrein edig yn y Cymoedd. Ers 2011, mae Interlink wedi gweithio gydag ystod o bartneriaid gan gynnwys y Prosiect Siopa a Menter Adfywio’r Meysydd Glo, er mwyn sicrhau cyllid i ymgymryd â nifer o archwiliadau ynni mewn adeiladau cymunedol, gosod mesurau arbed ynni mewn adeiladau cymunedol ac archwilio'r posibilrwydd o greu cynlluniau ynni dŵr ledled Rhondda Cynon Taf.
Fodd bynnag, nid yw'r gwaith hwn wedi bod heb ei anawsterau ac mae penderfyniad diweddar gan Adnoddau Naturiol Cymru i newid y gyfundrefn dynnu dŵr ar gyfer Ynni Dŵr Micro yng Nghymru wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu cynlluniau ynni dŵr cymunedol yn Rhondda Cynon Taf. Mae Interlink yn edrych ar ffyrdd y gall y sector weithio ar y cyd ag Adnoddau Naturiol Cymru i sicrhau y gall y cyfleoedd sydd wedi'u nodi hyd yma sicrhau cyllid er mwyn eu hadeiladu gan barhau i fuddsoddi mewn prosiectau adfywio lleol ar yr un pryd.
Mae cymoedd Rhondda, Cynon a Taf yn parhau i gynnig nifer o gyfleoedd i gymunedau lleol arbed ynni a chynhyrchu incwm drwy ynni adnewyddadwy, ac wrth Canfu'r ymchwiliad cychwynnol yma 30 o safleoedd i'r gwaith ymchwil presennol i ynni gwynt cymunedol a ynni dŵr posibl y gellir eu datblygu am gost o chynhesu adeiladau cymunedol gyda dŵr o byllau glo £5.4 miliwn gan gynhyrchu amcangyfrif o £22 miliwn, fynd rhagddo, bydd Interlink yn parhau i chwarae rhan gwerth £84.9 miliwn kWh o ynni gan arbed dros 42 bwysig yn y sector. mil o dunelli o garbon dros 20 mlynedd. O ystyried y cyfleoedd amlwg ar gyfer adfywio cymunedol, sicrhaodd Interlink £75,000 o gyllid ychwanegol gan nifer o raglenni Llywodraeth Cymru gan gynnwys, Hay on Earth, Amgylchedd Cymru, Rhaglen Blaenau'r Cymoedd ac Ynni'r Fro i ymgymryd ag astudiaethau dichonoldeb ar bob safle a phenderfynu ar y deg cynllun gorau i fwrw ymlaen â nhw. Mewn tri digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned yn ystod y gwanwyn, ym Mhen-yr-Englyn, Tŷ Pennant a Chlwb Rygbi Abercwmboi, dangosodd dros 30 o grwpiau cymunedol ddiddordeb mewn arbed ynni a chynlluniau ynni dŵr cymunedol. Erbyn hyn, rydyn ni'n gweithio gyda grwpiau ym mhob ardal i benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu cynlluniau o'r fath, i gydlynu cefnogaeth a sicrhau perchnogaeth leol dros y broses fel llofnodi cytundebau prydles ar dri chynllun ynni dŵr yng Nghwm Saebren, Ynysybŵl a Gelliwion. Page 8
Simon James, Priff Weithredwr h d Interlink, l k a Ken Moon, Swyddog dd Datblygu Menter Cymdeithasol, yn cael eu llongyfarch gan John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, yng Ngŵyl y Gelli y llynedd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ken drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: kmoon@interlinkrct.org.uk
Cymunedau Menter Canolfan Sgiliau RCT - sut mae unigolion yn darparu gwerth cymdeithasol drwy fenter yn RCT Llwyddodd Craig, fel adeiladwr a datblygwr preifat, i ddatblygu busnes cryf dros nifer o flynyddoedd. Pan fu'n rhaid iddo gymryd toriad o'i waith oherwydd problemau gyda'i iechyd, fe ddechreuodd edrych am bren siaid. Fodd bynnag, roedd Craig wedi'i synnu cyn lleied o bren siaid oedd ar gael oedd â'r sgiliau angenrheidiol. A hyn, er gwaethaf y ffaith bod nifer o gyrsiau hyfforddiant yn cael eu cynnal sydd, ym marn Craig, yn canolbwyn o ar niferoedd yn hytrach na pharatoi pobl i weithio. Fel entrepreneur preifat, penderfynodd Craig fynd a i wneud rhywbeth ynghylch hyn a buddsoddodd elw ei fusnes i sefydlu Canolfan Sgiliau Rhondda Cynon Taf sydd wedi'i lleoli mewn uned sydd ar rent gan y Ffatri Bop ym Mhorth. Ers cael ei lansio ar 1 Gorffennaf 2013, mae'r ganolfan wedi hyfforddi 50 o bobl hyd yma mewn sgiliau adeiladu, wedi sicrhau pren siaeth i bump o bobl ifanc gyda Chartrefi Rhondda Cynon Taf, wedi trefnu 15 llwybr i bren siaid gyda GrEW ac wedi helpu chwech o bobl i ddod o hyd i waith hyd yn hyn. Yn ogystal, mae'r ganolfan sgiliau yn creu llawer o brofiadau gwaith ar y safle gan gynnwys adnewyddu ac ailddechrau defnyddio rhannau o'r Ffatri Bop.
Fel entrepreneur, mae Craig yn un sy'n gweithredu ac, fel gyda nifer o fentrau sy'n cychwyn, mae'r newid rhwng cyfalaf cychwynnol a llif arian arferol yn un anodd ei reoli. Heb ddim cymorth ariannol interim ac wedi iddo gyflawni cymaint mewn cyn lleied o amser, bydd rhaid i Ganolfan Sgiliau Rhondda Cynon Taf gau ar ddiwedd y flwyddyn, gan golli cyfleoedd hyfforddiant hanfodol i bobl ifanc yn yr ardal.
Fel datblygwr preifat sydd wedi dod i mewn i'r sector cyhoeddus, mae Craig yn gweld llawer o werth i gefnogi pobl ifanc i weithio ac mae'n mwynhau'r heriau a'r cyfleoedd o ddatblygu a rhedeg menter gymdeithasol sy'n helpu cymaint o bobl. Yr her nawr yw sefydlu'r sylfeini sefydliadol a fydd yn caniatáu i Craig sicrhau'r arian sydd ei angen arno i sicrhau lefel ddigonol o fasnach er mwyn goroesi a thyfu yn y dyfodol.
Er bod peth o'r profiad gwaith ar y safle yn creu ychydig bach o incwm i'r fenter, dydy'r rhan fwyaf ohono ddim yn llwyddo i greu incwm, ac wrth i fuddsoddiad cychwynnol Craig i sefydlu'r ganolfan brinhau, mae'r ganolfan yn dechrau gweithio gyda'r rheini sy'n cynnig lleoliadau hyfforddiant a chontractau i sicrhau incwm yn yr hirdymor. I gael rhagor o wybodaeth, neu i gynnig cymorth, anfonwch e-bost: rctskillscentre@hotmail.com
Sbotolau - Creu Adfywiad Cymunedol Mae Ken wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Sgiliau Rhondda Cynon Taf, Greenstream Flooring, Too Good Too Waste, WK Plasters Ltd, prosiect Build it a mudiad Bright Futures i ddatblygu dull o gydweithio i sicrhau adfywiad rhwng mentrau'r sector gwirfoddol a'r sector preifat sy'n gallu creu adfywiad; hyfforddiant trylwyr, rheoli adnoddau, sgiliau adeiladu, cyllido arloesol a dodrefnu eiddo. Drwy weithio'n annibynnol, mae sefydliadau'n cyfyngu ar eu gallu i ddarparu, datblygu a thyfu. Drwy ddod â'r sefydliadau ynghyd, mae Ken yn cefnogi aelodau'r consor a i gynnig ystod ehangach o wasanaethau a chydweithio er mwyn sicrhau cyllid a chystadlu am gontractau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ken Moon drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: kmoon@interlinkrct.org.uk
Mentrau'n t ' trafod t f d sutt y gallan ll nhw h weithio ithi gyda'i d 'i gilydd il dd yn y Digwyddiad Ffyniant a Menter ar 14 Tachwedd.
Page 9
Mentrau Lleol toogoodtowaste yn cael ei enwi fel y Brif Fenter Gymdeithasol yng Nghymru Mae toogoodtowaste, elusen yn Rhondda Cynon Taf, wedi cael ei chydnabod fel y brif fenter gymdeithasol yng Nghymru mewn cyhoeddiad heddiw yng ngwobrau SE100 2013 yr RBS. Mae Mynegai SE100 yr RBS yn rhestr ar-lein o fentrau cymdeithasol, sy'n cael eu sgorio a'u rhestru yn ôl eu twf a'u heffaith gymdeithasol. Cynlluniwyd y pla form deallusrwydd byw o'r farchnad i ddarparu ffynhonnell sylweddol o ddata i fuddsoddwyr, comisiynwyr a llunwyr polisi wrth iddyn nhw geisio deall rwedd yr economi gymdeithasol ac adnabod y prif berfformwyr yng ngwledydd Prydain.
Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda sefydliadau lleol eraill fel y Ganolfan Waith, elusennau Cymorth i Ferched, grwpiau gofal iechyd meddwl a Gweithredu dros Blant, i enwi dim ond rhai. Mae'r grwpiau hyn yn cyfeirio pobl ar gyfer lleoliadau gwirfoddoli neu'n tynnu sylw at y rheini yn y gymuned a fyddai'n elwa o waith toogoodtowaste. Yn 2012, roedd Lynda a'i thîm yn gyfrifol am ddarparu 250 o becynnau dodrefn i deuluoedd a phobl na fyddai'n gallu prynu dodrefn eu hunain.
Nid ar chwarae bach mae toogoodtowaste yn rhedeg menter gymdeithasol. Nid yn unig maen nhw'n ailwampio ac yn ailddefnyddio dodrefn, sy'n lleihau nifer yr eitemau i safleoedd rlenwi (llynedd fe wnaethon nhw arbed 317.5 tunnell o wastraff rhag mynd i safleoedd rlenwi), maen nhw'n gwerthu'r dodrefn ar gyfradd sy'n fforddiadwy i drigolion a theuluoedd ag incwm isel drwy eu siopau elusen lle mae gwirfoddolwyr a gweithwyr o'r gymuned leol yn gweithio. Sefydlwyd toogoodtowaste gan Lynda Davies ar ôl iddi fod yn gweithio yn Barnardos a sylweddoli bod diffyg seilwaith sy'n cysylltu'r rhai sydd angen dodrefn fforddiadwy a'r bobl sydd am roi eu dodrefn sy'n weddill i elusen. Er mwyn ceisio torri'r cylch tlodi lle mae rhai teuluoedd yn methu â phrynu gwelyau, aeth Lynda a i sefydlu gwasanaeth a fyddai'n cysylltu'r ddarpariaeth a'r galw.
Ar ôl 20 mlynedd, A l dd mae toogoodtowaste t dt t wedi di gwasanaethu'r gymuned mewn nifer fawr o ffyrdd, nid yn unig drwy ddarparu dodrefn fforddiadwy. Mae gan y sefydliad rwydwaith cryf o wirfoddolwyr a weithwyr, nifer ohonyn nhw'n dod o gefndir lle maen nhw'n wynebu trafferthion wrth geisio dod o hyd i waith. Page 10
Dywedodd Lynda 'Rydw i'n hynod falch o'r ffordd mae'r gymuned wedi cefnogi ein datblygiad. Maen nhw'n rhoi dodrefn i ni, maen nhw'n prynu ganddon ni ac maen nhw'n gwirfoddoli eu hamser i weithio gyda ni. Rydyn ni'n gweithio fel cymuned i greu ein cyfleoedd ein hunain, roedd hyd yn oed yr adeilad rydyn ni'n ei ddefnyddio yn arfer bod yn adfail hyll, ond bellach mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio bob dydd gan y gymuned gyfan.' Eleni, drwy gyllid gan Gronfa'r Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru, prynodd toogoodtowaste eu cangen yn Ynys-hir sy'n gartref iddyn nhw ac roedden nhw'n gallu ei ymestyn i gynnwys ardal ar gyfer hyfforddi a dysgu. Llynedd, fe ddatblygon nhw gangen newydd ar gyfer y fenter ar ôl cael cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chynllun Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru SEWCED), sy'n darparu gwasanaeth glanhau tai moesol, sy'n casglu dodrefn y gellir ei adfer a'i werthu. Yn y dyfodol, mae Lynda yn gobeithio darparu hyfforddiant ardys edig i'w gweithlu ac ar hyn o bryd mae'n ceisio penodi hyfforddwr mewnol.
Mentrau Lleol
toogoodtowaste yn creu cyfle cyflogaeth Mae'r elusen ailgylchu ac ailddefnyddio leol a'r fenter gymdeithasol toogoodtowaste wedi gallu creu swydd newydd ar ôl cael cyllideb ychwanegol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chynllun Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru (SEWCED).
Bydd toogoodtowaste yn buddsoddi mewn hyfforddiant i John, a bydd yn mynd i ddosbarthiadau nos ddwywaith yr wythnos yn Abertawe er mwyn ennill cymhwyster City and Guilds.
Mae'r arian hwn wedi galluogi toogoodtowaste i greu swydd newydd i Beiriannydd Offer Trydanol Domes g ymuno â'r m, sy'n eu galluogi i gynyddu faint o nwyddau gwyn ac offer trydanol maen nhw'n gallu eu casglu a chynnal profion dyfeisiau cludadwy (PAT) a phrofion gweithredu cyn eu cynnig yn ôl i'r gymuned. Roedd John Hill, cynorthwyydd trydanol gwirfoddol gyda toogoodtowaste a ymunodd â'r sefydliad ym mis Mawrth, yn llwyddiannus yn ei gais am y swydd. Ymunodd John â'r sefydliad fel gwirfoddolwr ar ôl bod yn aflwyddiannus yn dod o hyd i waith ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith yn 2012. Mae gan John brofiad helaeth yn y diwydiannau modur a pheirianyddol ac mae wedi gweithio i enwau adnabyddus yn y diwydiant. Pan oedd yn gwirfoddoli, safodd John arholiad PAT drwy gwrs dysgu o bell ar-lein ar brofi PAT ac fe basiodd yn rhwydd. Llwyddodd y sgiliau a'r profiadau a gafodd John wrth wirfoddoli i'w helpu i sicrhau swydd fel Peiriannydd Offer Trydanol Domes g.
Dywedodd John Hill 'Wnes i erioed feddwl y bydden i'n cael newid gyrfa a mynd yn ôl i'r coleg yn 61 oed, ac rwy'n gobeithio y caf i basio fy ngwybodaeth ymlaen i wirfoddolwyr a phobl ar brofiad gwaith yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn ac yn edrych ymlaen at ddechrau'r swydd newydd ac rwy'n ddiolchgar iawn i toogoodtowaste am fuddsoddi yn fy nyfodol.'
Dywedodd Shaun England, y Rheolwr Cyffredinol 'Drwy broses recriw o agored, fe wnaethon ni hysbysebu'r swydd a daeth nifer o geisiadau i law. Cafodd yr holl ymgeiswyr addas eu hasesu gan arbenigwyr annibynnol er mwyn sicrhau bod eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn ddigonol. Rydyn ni'n falch bod gan John wybodaeth am drydan a byddwn ni'n adeiladu ar hynny gyda hyfforddiant. Mae ganddo agwedd wych tuag at helpu gwirfoddolwyr eraill a lleoliadau yn seiliedig ar waith ac mae'n rhannu yr un ymrwymiad â ni i helpu i ailhyfforddi pobl sy'n chwilio am waith parhaol.' Dechreuodd John ar ei swydd newydd ddydd Llun 28 Hydref, ac mae pawb yn toogoodtowaste yn falch ei fod wedi llwyddo gyda'i gais ac yn edrych ymlaen at gael croesawu John i'r m fel aelod cyflogedig o staff.
I gael rhagor o wybodaeth am toogodtowaste, ffoniwch 01443 680090 neu ewch i www.toogoodtowaste.co.uk
Carpedi Greenstream Carpedi am lai na £50 yr ystafell Mae Homelife gan Greenstream yn cynnig gostyngiadau a benthyciadau unigryw i denan aid lleol sy'n cael eu cyfeirio fel eu bod yn gallu cael carpedi yn eu cartrefi. Am dri diwrnod o 10 Ionawr ymlaen, maen nhw'n cynnig carpedi am ddim ar sail cyntaf i'r felin o'u stordy ar Ystâd Ddiwydiannol Rheola, Porth CF390AD. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 683123. Page 11
Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru Meriel Gough, Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol. Mae Meriel yn canolbwyn o ar Raglen Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru sy'n cynnig pob math o gymorth ar gyfer prosiectau a gaiff eu hariannu, gan helpu mentrau cymunedol a chymdeithasol i baratoi eu cynlluniau busnes, eu cynigion, a'u ceisiadau, ac yn rhoi cymorth parhaus. Mae Meriel yn annog grwpiau i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyfleoedd mentrau cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau a chynnyrch newydd. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o hyn, cysylltwch â Meriel drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: mgough@interlinkrct.org.uk Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol RCT.
Cyflwyniad i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Rhondda Cynon Taf Yn ddiweddar, mae Meriel Gough, Swyddog Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru Interlink, gyda chymorth mentrau sy'n darparu gwasanaethau gan ddefnyddio grant SEWCED, wedi datblygu Cyfeiriadur o Wasanaethau ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Diben y Cyfeiriadur yw cynnig cyfle i fentrau SEWCED yn Rhondda Cynon Taf i hysbysebu eu gwasanaethau/ cynnyrch i'r gymuned yn Rhondda Cynon Taf a thu hwnt, am ddim, drwy rwydwaith ac aelodau Interlink gyda'r nod o ddenu cwsmeriaid i brynu eu gwasanaethau/cynnyrch.
Cyfeiriadur cyntaf SEWCED o Wasanaethau ar gyfer RCT! Yn y Cyfeiriadur, mae amrywiaeth o 'Fentrau' sy'n darparu gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf. Bwriad y mentrau yw gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy wella gwybodaeth, sgiliau, ansawdd bywyd a dod â phobl ynghyd er lles pawb! Mae gan yr holl fentrau sydd wedi'u rhestru yn y Cyfeiriadur hwn amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac maen nhw'n cael cymorth gan wirfoddolwyr sydd, drwy fod yn rhan o'r cynlluniau, yn elwa o'r profiad a'r datblygiad personol. Mae'r mentrau yn y Cyfeiriadur hwn yn cefnogi eraill - pan fydd angen gwasanaeth ar eich teulu, eich cymuned neu eich gweithle, gwnewch yn siŵr eich bod yn pori drwy'r Cyfeiriadur i ddechrau. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r amrywiaeth sydd gan y Cyfeiriadur hwn i'w gynnig! Gellir gweld a llwytho'r Cyfeiriadur ar ein gwefan newydd www.interlinkrct.org.uk/2013/08/a-directory-of-enterpriseservices-in-rhondda-cynon-taf 'Cyhoeddiad gwych - mae'n gwella cysyll adau, rhwydweithio a rhannu gwybodaeth.' Steve Davis, Theatr Spectacle Mae'r Cyfeiriadur wedi cael derbyniad da gyda llawer o sylwadau cadarnhaol a chefnogaeth iddo: 'Annwyl Meriel a Cara, Diolch yn fawr am anfon copi o'r Cyfeiriadur newydd ymlaen i mi. Cyhoeddiad da a pherthnasol. Mae angen i Gymru gyfan gael gwybod amdano. Oes gyda chi ddolen uniongyrchol er mwyn i ni gael rhannu'r newyddion a galluogi pobl i lwytho'r ddogfen yn uniongyrchol? Rwy'n hoffi'r ffaith ei fod ar ffurf pdf fel y gallwch chi ychwanegu ato a'i ddiweddaru'n rhwydd. Da iawn chi, m SEWCED/Interlink. Gallai hwn yn hawdd fod yn 'ganllaw prynu Cymru-gyfan'??' Cofion, San Leonard, Prif Weithredwr Cwmnïau Cymdeithasol Cymru Page 12
Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru
Ail Gyfeiriadur SEWCED o Wasanaethau ar gyfer RCT! Roedd y Cyfeiriadur cyntaf yn llwyddiant gan fod pobl wedi dechrau siarad am fentrau cymdeithasol a'u gwerth wrth ddod â phobl ynghyd i greu. Mae mentrau cymdeithasol yn plethu pobl, cynnyrch a gwasanaethau ynghyd, cwlwm empathig ar gyfer adeiladu posi frwydd a gwneud bywydau pobl yn fwy boddhaus. Mae mentrau cymdeithasol yn gwella bywydau, yn meithrin lle bo angen hynny ac yn cynhyrchu arian er mwyn gallu darparu mwy o'r un peth. Yn ddiddorol, mae menter gymdeithasol a chydgynhyrchu (y 'gair allweddol' yng nghylchoedd y sector gwirfoddol) yn cynnig gwerthoedd tebyg: 'Mae cydgynhyrchu yn ddull sy'n seiliedig ar dys olaeth ac yn canolbwyn o ar y dinesydd wrth gynnig gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n arwain at wasanaethau mwy effeithiol a chynaliadwy ac yn creu perthynas well rhwng dinasyddion a darparwyr gwasanaethau. Mae'n gwella cyswllt, yn adeiladu cymunedau cryfach ac yn gwella lles. Nid y Gymdeithas Fawr mohono. Mae'n mynd yn ôl i'r traddodiad Cymreig o gydweithio a chymuned: yng ngeiriau Aneurin Bevan, 'gweithredu ar y cyd, er mwyn gwella lles pob un ohonom, gyda'n gilydd.'
Dewch, ymunwch a chydgynhyrchwch drwy gefnogi'r mentrau cymdeithasol sydd wedi'u rhestru yn y Cyfeiriadur hwn. Pan fydd angen gwasanaeth sydd â 'chymuned' yn greiddiol i bopeth mae'r darparwr yn ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod yn pori drwy'r Cyfeiriadur hwn i ddechrau! Mae mentrau SEWCED wedi dechrau holi'n barod pryd fydd y cyhoeddiad nesaf ar gael, ymhell cyn i'r gwaith o'i baratoi ddechrau! Mae nifer o fentrau yn Rhondda Cynon Taf nad ydyn nhw'n cael eu hariannu gan SEWCED am wybod 'sut' y gallan nhw hysbysebu yn y Cyfeiriadur! Mae Ken Moon a Joanna Markham, ein Swyddogion Datblygu Cymunedau Menter yn edrych ar y posibiliadau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Meriel Gough drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: mgough@interlinkrct.org.uk Gellir gweld a llwytho'r Cyfeiriadur ar ein gwefan newydd www.interlinkrct.org.uk/2013/10/a-directory-of-enterprise-services-in-rhondda-cynon-taf-2
Not the Thursday Group Gyda chymorth grant y Loteri fawr, rydyn ni wedi sefydlu grŵp cymunedol o'r enw 'Not the Thursday Group.’ Roedd hyn mewn ymateb i'r ffaith bod nifer o bobl ar ein gweithdai yn gofyn am rywle lle gall pobl ifanc a'u rhieni ddod ynghyd ac ailsefydlu perthynas. Roedd nifer o'r bobl ifanc a oedd yn rhan o'r cynllun wedi cael diagnosis o anhwylder ADHD, ODD, tra bod rhai o'r rhieni wedi cael diagnosis o salwch meddwl. Ein nod gyda'r sesiynau hyn oedd creu awyrgylch diogel lle gallai'r teuluoedd hyn arbrofi'n greadigol drwy theatr, celf, dawns, symudiad a stori. Roedd yn eu galluogi i ddangos sut roedden nhw'n teimlo. Man diogel i gael llais a rhoi barn. Mae'r grŵp hwn, gyda chefnogaeth gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenc d yn parhau i dyfu a datblygu.
Diddordeb mewn sefydlu grŵp fel hyn? Cysylltwch â Steve Davis, y Rheolwr Datblygu Busnes drwy ffonio 01443 430700 Drwy e-bost: Steve.davis@spectacletheatre.co.uk neu ewch i www.spectacletheatre.co.uk Page 13
Menter Cymdeithasol Llwyddiant Melys i Gymuned Glynrhedynog Mae Siop Losin gymunedol Glynrhedynog yn dathlu ei phen-blwydd yn ddwy oed ac yn mwynhau'r effaith y mae wedi'i chael ar y gymuned a'r trigolion lleol. Caiff y cwmni nid er elw hwn ei redeg gan Elizabeth Breese a'i mam Mary. Eu prif amcan yw darparu cyfleoedd hyfforddiant i drigolion Glynrhedynog a'r ardal leol sy'n ddi-waith ar hyn o bryd neu i bobl ifanc gael profiad gwaith. Mae gan y busnes chwe gwirfoddolwr sy'n gwneud nifer o swyddi yn y busnes. Gan ddibynnu ar yr unigolyn, mae'r rhain yn amrywio o wasanaeth cwsmeriaid, rheoli stoc, gweinyddu neu farchnata. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mwy na 10 o bobl wedi gwirfoddoli cyn mynd ymlaen i gael eu cyflogi yn rhywle arall gan ddefnyddio'r sgiliau a'r hyder maen nhw wedi'u hennill o weithio yn y siop losin. Dywedodd Elizabeth Breese, y Cyfarwyddwr 'Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn dathlu dwy flynedd o fasnachu a'r effaith rydyn ni wedi'i chael. I'r cyhoedd, rydyn ni'n edrych fel siop losin draddodiadol, ond mewn gwirionedd, ein prif nod yw darparu cyfleoedd a chymorth i'r gwirfoddolwyr sy'n dod atom i weithio am amryw o resymau gan gynnwys rhesymau iechyd, cymdeithasol neu gyflogaeth. Gyda lefel uchel o ddiweithdra yn yr ardal, rydyn ni'n falch bod ein gwirfoddolwyr yn magu hyder a sgiliau sy'n eu galluogi i gael swyddi yn rhywle arall.'
Yn ogystal â gweithredu fel siop losin traddodiadol a pharlwr hufen iâ gwirfoddolwyr bellach yn gwneud addurniadau melys a choed melys ar gyfer priodasau, pen-blwyddi a chawodydd babi. Am gyfleoedd gwirfoddoli neu ar gyfer y profiad pop siop losin traddodiadol yn y pen draw i mewn i'r siop ar y Stryd Fawr, Ferndale am groeso gymuned gynnes. Mae'r busnes yn edrych ymlaen at lawer mwy o ddathliadau pen-blwydd ac yn gallu darparu y tocyn aur hyd yn oed mwy o drigolion Rhondda.
Caiff rhaglen Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru (SEWCED) ei chynnal gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Caiff cyllid ar gyfer cymorth menter ei ddarparu gan raglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd. Mae Interlink yn gweithio'n agos gyda'r sefydliadau canlynol i ddarparu'r cyngor a'r canllawiau mwyaf addas ar eich cyfer: Rhondda Cynon Taf County Borough Council www.rhondda-cynon-taff.gov.uk Wales Co-opera ve Centre www.walescoopera ve.org
Page 14
Coalfields Regenera on Trust www.coalfields-regen.org.uk
Business in Focus www.businessinfocus.co.uk
Cymorth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cymorth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Gall Interlink helpu gyda rhannu sgiliau neu roi hyfforddiant penodol ar y pecynnau Microso canlynol: Word Excel Publisher Access PowerPoint Rhyngrwyd ac E-bost
Bydd m y Ddesg Gymorth yn gallu helpu sefydliadau gyda’r gwasanaethau canlynol: • Gwefan – gallwn bos o gwybodaeth am eich sefydliad/digwyddiad ar ein gwefan • Ymgyrch bos o – anfonwch eich gwybodaeth aton ni ar gyfer ein cylchlythyr a phethau eraill rydyn ni’n eu pos o allan • Cyhoeddi Pen Desg – yn cynnwys dylunio taflenni, posteri, tocynnau, cardiau busnes, ac a . • Llun-gopïo – mae ein llun-gopïwr lliw yn gallu argraffu mewn lliw llawn gyda gorffeniad proffesiynol • Lamineiddio/Rhwymo • Cyfeirio – os na allwn ni helpu, fe wnawn ni ffeindio rhywun sy’n gallu! Cysylltwch â'r Ddesg Gymorth drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: info@interlinkrct.org.uk
Gofod swyddfa ar gael yn swyddfa Interlink yng Nglan-bad I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â June Williams-Sykes drwy ffonio 01443 846200. neu drwy e-bost: jwilliams-sykes@interlinkrct.org.uk
Page 15
Lledwch eich gorwelion ..... gyda hyfforddiant Interlink Pob cwrs yn cael ei gynnal yn Interlink oni bai ein bod yn nodi fel arall. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01443 846200 neu ewch i www.interlinkrct.org.uk i lawrlwytho rhaglen hyfforddi a ffurflen archebu.
Working Together Effec vely
Supervison Training 13 Ionawr 2014 9.30am - 4.30pm
5 Chwefror 2014 9.30am - 3.30pm
Ge ng the Best from your Volunteers
Involving People!
15 & 16 Ionawr 2014 9.30am - 4.30pm
13 Chwefror 2014 9.30am - 12.30pm
Measuring Change: Outcomes Toolkit
Measuring Outcomes
16 Ionawr 2014 9.30am - 12.30pm
26 Chwefror 2014 9.30am - 12.30pm
Sexual Health Founda on Course
Safeguarding Vulnerable Adults
17 Ionawr 2014 9.30am - 4.30pm
6 Mawrth 2014 9.30am - 1.00pm
Project Publicity
Safeguarding Children and Young People
22 Ionawr 2014 9.30am - 12.30pm at St Fagans Church Hall Trecynon Aberdare
6 Mawrth 2014 2.00pm - 5.00pm
Dealing with Challenging Bahaviour 23 Ionawr 2014 9.30am - 4.30pm at St Fagans Church Hall Trecynon Aberdare
Introduc on to Management 14 Mawrth 2014 9.30am - 4.30pm
Dealing with Difficult Situa ons Posi vely
Roles and Responsibili es of Running your Group
20 Mawrth 2014 9.30am - 4.30pm
30 Ionawr 2014 9.30am - 12.30pm
Hoffai pawb yn Interlink ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'n holl aelodau!
Rhif Elusen 1141143 Rhif Cwmni 07549533
Rhifyn nesaf: Ebrill 2014