Rhifyn 65 Gaeaf 2014
Dyfodol y Fenter Cylchlythyr Interlink ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn RCT
RhifynInterlink Menter Gymdeithasol News
Cymorth i Fentrau Cymdeithasol
Croeso ......i rifyn y gaeaf o Gylchlythyr Interlink. Os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf, anfonwch eich erthyglau, gwybodaeth, swyddi gwag neu hysbysebion erbyn: 27 Chwefror 2015 i Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk
Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol
2
Cyflwyniad
3
Cymunedau Menter yn y Rhondda
4-5
Cymunedau
6
Menter Lleol Phoenix Ini a ve
7
Wrth i raglenni Cymorth i Fentrau Cymdeithasol sy'n cael eu hariannu gan Ewrop ddod i ben yn y gwanwyn, rydyn ni'n gofyn pa gymorth sy'n debygol o fod ar gael i Entrepreneuriaid Cymdeithasol yng Nghwm Taf. Yn gynharach eleni, trefnodd Interlink gyfarfod rhwng partneriaid allweddol sy'n darparu arian a chymorth i fentrau cymunedol a chymdeithasol yn toogoodtowaste yn Ynys-hir. Ymysg y cynrychiolwyr roedd Llywodraeth Cymru (EST), Awdurdodau Lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr SEWCED), Cynghorau Gwirfoddol Sirol (Interlink a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful), Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, Canolfan Arloesi mewn Menter Cymru (Welsh ICE), Capacitas a mentrau cymdeithasol lleol. Trefnwyd y gweithdy yn sgil trafodaeth am ddyfodol cymorth i fentrau cymdeithasol ar lawr gwlad gyda Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae Mentrau Cymdeithasol yn bwysig iawn i fynd i'r afael â thlodi a gwella lles, er enghrai drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant a chyflogaeth. Yn amlach na pheidio, maen nhw'n gyfrifol am gynnal gwasanaethau cymunedol hanfodol - nifer ohonynt sydd mewn perygl oherwydd toriadau yn y sector cyhoeddus. Mae angen mentrau cymdeithasol newydd nawr yn fwy nag erioed; mae'r galw i'w cefnogi yn cynyddu tra bod yr arian i ddarparu'r gefnogaeth honno'n lleihau.
Cymunedau Menter yn y Taf Ely
8-9
Adeiladau Cynunedd
10
Felly pa gymorth a fydd ar gael gan y sefydliadau cefnogi presennol?
Menter Lleol Big Click
11
•
Bydd Interlink a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yn parhau i gynnig cymorth gan swyddogion datblygu i grwpiau cymunedol a sefydliadau ac yn parhau i gwrdd ag unigolion sy'n bwriadu datblygu mentrau cymunedol a chymdeithasol.
•
Bydd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn parhau i gynnig cymorth gan swyddogion datblygu a Gran au Cymunedol ond ni fyddant yn gallu cynnig cymorth ymgynghori drwy'r rhaglen Rhwydweithiau Menter Cymunedol.
•
Bydd Valleys Kids yn parhau i gefnogi'r rheini sy'n datblygu Mentrau Cymdeithasol sy'n canolbwyn o ar y Diwydiannau Creadigol o'r Ffatri Bop.
•
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru hefyd yn dechrau dod â'i gwasanaeth cymorth ymgynghorol presennol i ben cyn i raglen newydd ddechrau.
•
Mae Awdurdod Lleol Merthyr Tudful yn darparu cymorth cyfrinachol i fusnesau embryonig, busnesau newydd a busnesau sefydledig drwy Fwrdd Adnoddau Gwirfoddolwyr, ‘Enterprise Facilita on For Effec ve Community Transforma on’ (EFFECT) Sirolli.
De Cymunedol ddwyrain Cymru Grant Datblygu Economaidd
12-13
Social Enterprise Cra of Hearts
14
Newyddion Lleol
15
Hyfforddiant
16
Ein Cyfeiriad: 6 Melin Corrwg, Cardiff Road Upper Boat, Pontypridd CF37 5BE Rhif Ffon: 01443 846200 Facs: 01443 844843 E-bost: info@interlinkrct.org.uk Gwefan: www.interlinkrct.org.uk
Oriau agor y swyddfa yw: Llun - Iau: 9.00am - 5.00pm Gwener: 9.00am - 4.30pm
Tudalen 2
Cyflwyniad Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o blaid trosglwyddo gwasanaethau lleol i gymunedau lleol drwy sefydlu proses gadarn a chlir. Er bod hon yn her fawr i ni i gyd, mae'r toriadau o 30% a ddisgwylir i gyllideb cyrff cyhoeddus yn cynnig cyfle unigryw i gymunedau ddarparu gwasanaethau yn eu hardaloedd lleol. Wrth i lefelau cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd ddisgyn, mae angen i ni weithio ledled y sector i edrych ar ffyrdd y gallwn ni gefnogi ein gilydd. Gallai hynny olygu bod cyfleoedd i adeiladau cymunedol fod yn ganolfannau menter.
‘Byddaf yn parhau i ddarparu cyllid i sefydliadau cymorth busnes arbenigol yng Nghymru er mwyn eu galluogi i gefnogi datblygiad cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol newydd. Byddaf hefyd yn darparu cyllid i Ganolfan Cydweithredol Cymru arwain ar ddatblygu cymorth busnes arbenigol i’r sector. Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda’r sector. Defnyddir pla form Busnes Cymru i sefydlu porthol ar y we a fydd yn rhoi cyngor priodol a chymorth ar gyfer cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol, boed yn rhai arfaethedig neu wedi’u sefydlu’n barod.’ Datganiad Gweinidogol gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, 25 Mehefin 2014 Mae’n hanfodol felly bod y sector ehangach yn dod o hyd i ddulliau amgen o ddarparu Cymorth i Fentrau Cymdeithasol yng Nghwm Taf, fel y gallwn ni barhau i ddarparu datblygiad mwy hirdymor gan symud i ffwrdd o fod yn ddibynnol ar gran au tuag at gynaliadwyedd ariannol. Mae hefyd angen cyfleoedd ar lefel leol i fentrau dderbyn cymorth hwyluso i’w galluogi i ddatblygu syniadau, ymateb i gyfleoedd, gweithio a dysgu gyda’i gilydd fel cyfoedion, gyda mynediad at wasanaethau cymorth, gan gynnwys costau swyddogaethau swyddfa gefn isel a chyngor proffesiynol, er enghrai , cyngor cyfreithiol a chyfrifyddu.
Eich Cyfle Chi i Gymryd Rhan Bydd yr awdurdod yn cynnal digwyddiad ymgysylltu ar gyfer sefydliadau a grwpiau trydydd sector a fydd yn edrych ar y mater yma. Wrth symud ymlaen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cydnabod y bydd angen adnoddau ar gyfer hyn.
Byddai canolfan o'r fath yn darparu man lle gall entrepreneuriaid newydd gefnogi ei gilydd a chael cymorth yn ôl yr angen i helpu gyda sefydlu a sicrhau cyllid cychwynnol a benthyciadau.
Rhannu man gwaith gyda @Indyupperboat Mae Indycube yn gymuned o gydweithwyr yn y de sy’n tyfu ac sydd bellach yn cynnwys Interlink h ps://twi er.com/indycube, yn ein swyddfeydd Indycube yng Nglan-bad @Indyupperboat Rydyn ni’n cynnig amgylchedd swyddfa proffesiynol, yn ôl yr angen. Ond rhan o’r stori yw hyblygrwydd a chyfleusterau swyddfa o’r radd flaenaf - beth sy’n denu pobl yn ôl aton ni dro ar ôl tro yw’r teimlad cymunedol maen nhw’n ei gael wrth fod yn rhan o Indycube. Mae rhai o’r buddion yn cynnwys cael cyngor a chymorth gan gyfoedion, rhwydweithio, dysgu, cymdeithasu a chreu cyfleoedd busnes newydd hyd yn oed. Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, nid elw sy’n bwysig i ni - os oes angen desg llawn amser arnoch chi, lle achlysurol i weithio, neu unrhyw beth rhwng y ddau, manteisiwch ar bopeth sydd gan Indycube i’w gynnig. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 02921 690023, galwch draw, neu anfonwch e-bost aton ni! Gallwch archebu diwrnod mewn unrhyw Indycube gyda GoCardless h ps://twi er.com/indycube - yna fydd dim ond angen i chi roi galwad i ni pan fyddwch chi’n dod! Os hoffech chi gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu cymorth i fentrau yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol, cysylltwch ag Interlink drwy ffonio 01443 846200. Tudalen 3
Cymunedau Menter yn y Rhondda Joanna Markham, Swyddog Cymunedau Menter. Mae Joanna yn cynorthwyo mentrau cymunedol a chymdeithasol yn y Rhondda. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn chwilio am gymorth gyda nawdd a chodi arian, ond yn aml er mwyn cael cyllid, mae angen cymorth ar bobl gyda pholisïau ac i edrych ar eu strwythur gyfreithiol. Gall Joanna gynorthwyo grwpiau sy’n cwblhau ceisiadau am gyllid drwy ei harbenigedd o reolii ac asesu ceisiadau am gyllid gan noddwyr. Mae Interlink yn lwcus o gael Gran inder, sef cronfa fa ddata ar-lein sy’n eich cynorthwyo i chwilio am noddwyr perthnasol ar gyfer prosiectau penodol. dol. oll. Mae nifer o grwpiau’n defnyddio’r adnodd hwn drwy Interlink, OND NID CYMAINT O GRWPIAU AG Y BYDDEM YN EI DDYMUNO! Felly, os ydych chi wedi eich lleoli yn y Rhondda, cysylltwch â fi drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: jmarkham@interlinkrct.org.uk.
Ystrad Old Age Cynthia Lewis, sy'n 84 oed, yw ysgrifenyddes Ystrad Old Age. Gofynnodd am gymorth gan Gymunedau Menter i gwblhau cais am gyllid o Gronfa Eglwysi Cymru. Cafodd y Neuadd ei throsglwyddo i bensiynwyr Ystrad ym 1953 ond mae gweithgarwch wedi bod yn digwydd yn y Neuadd ers y tridegau. Cafodd ei hadeiladu gan grŵp o ddynion o'r enw y Frawdoliaeth. Ers y pumdegau, mae wedi cael ei defnyddio gan bensiynwyr yn rheolaidd ac maent yn berchen ar y Neuadd a'r r, ac yn rhedeg popeth eu hunain. Yn 2003, cafodd yr adeilad ei ail-wifro ond nid oes gwaith paen o wedi cael ei wneud ers degawdau. Dywedodd Cynthia: ‘Heb gymorth Interlink, ni fydden ni wedi llwyddo i gwblhau’r ffurflen gais.’
Ymatebodd Joanna: ‘Heb waith y grwpiau yma yn y gymuned, byddai pobl hŷn yn aml yn cael eu hynysu yn eu cartrefi eu hunain - mae’r neuadd yma’n achubiaeth i lawer o bobl leol. Mae Cynthia a’i grŵp yn ysbrydoliaeth i weithio gyda nhw yn cefnogi pobl eraill yn eu cymuned.’
Roedd y Neuadd yn eithaf adfeiliedig gyda thros 45 o bobl dros 65 oed yn ei defnyddio bob wythnos. Drwy weithio gyda Joanna, fe wnaethon nhw gwblhau’r cais, cael dyfynbris gan adeiladwr lleol am y gwaith a chafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Tachwedd 2014. Tudalen 4
Os oes angen cymorth gyda’ch cais am arian, cysylltwch â Joanna drwy ffonio 01443 846200.
Cymunedau Menter yn y Rhondda
Ysblander Tylorstown yn Dychwelyd Mae Interlink wedi bod yn gweithio gyda Neuadd Tylorstown drwy gydol y prosiect Cymunedau Menter gyda busnesau lleol i roi cyfle arall i’r theatr olaf yn y Rhondda Fach i gyrraedd y brig unwaith eto. Mae dros ddwsin o fusnesau lleol wedi darparu eu gwasanaethau proffesiynol i’r prosiect o adfer adeilad rhestredig Gradd II Neuadd Les Tylorstown, a hynny am ddim. Roedd y Neuadd Les, a adeiladwyd 80 mlynedd yn ôl, mewn perygl o gau yn 2013 gan nad oedd neb ar gael i reoli’r adeilad, a oedd wedi mynd i gyflwr gwael. Gadawodd Rebecca Sullivan, sy’n wraig leol, ei swydd ddiogel gyda Chymunedau yn Gyntaf i helpu i ofalu am yr adeilad, a oedd yn dal i ddarparu gwasanaethau, digwyddiadau ac adloniant i’r cymunedau cyfagos. Cafodd Rebecca gefnogaeth gan Meadow Prospect, yr elusen a sefydlwyd gan y sefydliad tai lleol, Cartrefi Rhondda Cynon Taf, i godi arian er mwyn adfer yr adeilad i’w hen ogoniant.
Lynsey Holley-Ma hews yw Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Meadow Prospect. Mae Lynsey wedi cydlynu’r busnesau sy’n rhan o’r prosiect, gan gefnogi eu harferion busnes cyfrifol. Y cwmnïau a roddodd eu gwasanaethau am ddim yw Penseiri Powell Dobson; Prifysgol De Cymru; Architexture; DRAC; Cartrefi Rhondda Cynon Taf; GO.qs; Partneriaeth Aus n; AICR Health and Safety Ltd; Cynllunio Asbri; San a; M Delacey ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo. Dywedodd Lynsey: ‘Mae Neuadd Les Tylorstown dros 80 oed a thros y degawdau diwethaf, mae’r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio’r adeilad wedi mynd yn ormod. Rydyn ni’n gwybod bod gan y theatr a’i thre adaeth le arbennig yn y Rhondda. Gyda thros fil o bobl yn dod drwy ei drysau bob mis, mae ei phoblogrwydd yn ddigamsyniol. Byddai’r cymorth a ddarparwyd gan bob busnes wedi bod allan o gyrraedd y Neuadd petai wedi gorfod talu am y gwasanaethau. Drwy gysylltu cwmnïau sydd ag agwedd fusnes gyfrifol a moesegol, mae’n golygu y gall prosiectau fel Neuadd Tylorstown ffynnu, gan gynnig budd i fusnesau a chymunedol lleol. Mae’r gwasanaethau proffesiynol wedi gosod y Neuadd yn y man cywir i wneud cais am arian ar gyfer ei hadnewyddu. Gyda diolch i ymrwymiad Rebecca a’r busnesau dan sylw, mae’r unig theatr sydd ar ôl yn y Rhondda Fach yn gallu cynnig dyfodol disglair i bobl leol.’
Dros y deuddeg mis diwethaf, mae cwmnïau o Gymru wedi darparu gwerth bron i £30,000 o wasanaethau, yn rhad ac am ddim, er mwyn helpu i droi Neuadd Les Tylorstown yn ddiogel unwaith eto. Mae’r gwasanaethau wedi cynnwys rheoli prosiectau, cefnogaeth bensaernïol, gwasanaethau peirianneg mecanyddol a thrydanol, mesur mein au a chymorth peirianyddol strwythurol. Mae’r Neuadd bellach yn barod i’w hadnewyddu ac mae Rebecca’n gweithio’n agos gyda Meadow Prospect ac Interlink i wneud cais am gyllid gan Gronfa Dre adaeth y Loteri ar gyfer y cam nesaf, a fydd yn golygu adnewyddu’r Neuadd yn gyflawn gan wneud y lleoliad poblogaidd yn rhywle cynaliadwy a hyfyw ar gyfer y Cymoedd.
Mae Penseiri Powell Dobson, sydd wedi’u lleoli yn Llaneirwg yng Nghaerdydd, wedi darparu gwerth bron i £3,000 o wasanaethau rheoli prosiectau a rheoli dylunio adeiladu i’r prosiect. Dywedodd Kevin Morgan o Benseiri Powell Dobson: ‘Mae Neuadd Les Tylorstown yn rhan bwysig o ddiwylliant a thre adaeth y Rhondda. Rydyn ni’n falch iawn o gael cyfle i fod yn rhan o’r prosiect yma, sydd eisoes wedi gweld lefel uchel o ymroddiad ac ymrwymiad, er mwyn sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy.’ Tudalen 5
Cymunedau
Paul Robinson - Gwirfoddolwr gydag Interlink Ar ôl cael fy ngwneud yn ddi-waith roedd hi’n amser i mi ystyried fy opsiynau. Un opsiwn oedd gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol wrth chwilio am swydd newydd. Penderfynais weithio gydag Interlink yn Rhondda Cynon Taf am ddau reswm: a) gan mai nhw oedd y cyngor gwirfoddol sirol yn Rhondda Cynon Taf a b) eu bod yn caniatáu i mi gefnogi’r gymuned drwy wneud gwaith roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn ei wneud.
Rydw i’n parhau i fwynhau gweithio gyda staff Interlink Rhondda Cynon Taf, sydd wedi rhoi croeso cynnes i mi a gwneud i mi deimlo fel rhan o’u m. Mae gwaith y sefydliad yn werthfawr i’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd, ond yn bwysicach fyth, yn cynorthwyo’r gymuned i gynnal a datblygu prosiectau a fyddai o bosibl yn methu fel arall ar draul cymunedau yn Rhondda Cynon Taf.
Fel uwch reolwr roedd ysgrifennu cynlluniau busnes yn gyffredin i mi a hyd yma rydw i wedi bod yn ffodus i gael cynorthwyo dau sefydliad elusennol sy’n llunio eu cynlluniau busnes a fydd, gobeithio, yn eu helpu i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Rydw i hefyd wedi bod yn ffodus yn cael cynnal gwaith ymchwil ac ysgrifennu papur ar gynaliadwyedd ariannol y sefydliad. Wrth i’r rhan fwyaf o elusennau a sefydliadau cymunedol wynebu dyfodol ansicr oherwydd toriadau ariannol ar bob lefel bron, rwy’n gobeithio y gall y prosiectau rydw i’n gweithio arnyn nhw ddefnyddio ychydig o fy ngwybodaeth gweinyddu busnes i’w helpu i symud ymlaen.
Ffynnon Gynnes Ffynnon Taf? Gweledigaeth un gymuned i ddefnyddio pŵer y Ffynnon Ffynnon Taf yw’r unig ffynnon thermol (dŵr cynnes) yng Nghymru ac mae’n un o lond dwrn o ffynhonnau o’r fath drwy Brydain. Mae’r dŵr yn cadw ar dymheredd cyson o 21°C, ddwywaith mor gynnes â ffynnon arferol, wrth i’r dŵr gael ei gynhesu yn ddwfn islaw’r Cymoedd. Er nad oes tys olaeth bod y Rhufeiniaid wedi heidio i Ffynnon Taf, roedd gan y Fictoriaid yn sicr ddiddordeb, wrth i resi o bobl aros eu tro i gael ymdrochi yn y dŵr, a arweiniodd at adeiladu’r strwythur carreg sydd ar y safle ym 1890.
Unwaith eto, mae yna ddiddordeb gwyddonol a chyhoeddus sylweddol yn y ffynnon, ac mae’r adeilad ar agor i’r cyhoedd. Mae gwirfoddolwr gydag Interlink, Paul Robinson, wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Datblygu Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw i ddatblygu cynlluniau i osod pwmp gwresogi o’r ddaear a fydd yn defnyddio cynhesrwydd y ffynnon at ddefnydd y pafiliwn gerllaw.
Yn ystod dirwasgiad mawr y dauddegau, sefydlodd glowyr a llafurwyr di-waith gwmni Taffs Well Spa Ltd a oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o adeiladu pwll nofio awyr agored a gafodd ei lenwi A’I wresogi gan y ffynnon. Roedd y pwll yn llwyddiant mawr a bu’n cael ei ddefnyddio tan y pumdegau. Ers yr haf poeth a hir ym 1970, mae’r gymuned leol wedi edrych ar gynlluniau gwahanol i ailagor pwll nofio ar y safle ac i botelu’r dŵr hyd yn oed. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chymdeithas Datblygu Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw drwy e-bost: libraryhub1@hotmail.co.uk Tudalen 6
Menter Leol - Phoenix Ini a ve
Phoenix Ini a ve Syniad gan Jonathan Thorne a Janet Mulcock oedd Phoenix Ini a ve. Cafodd ei ddatblygu drwy gyfuniad o waith gwirfoddol gydag aelodau o’r gymuned o wahanol gefndiroedd a gweld y problemau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd; a’r angerdd o fod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
‘Mae Janet a Jonathan yn diwtoriaid hawdd mynd atyn nhw ac mae’r cwrs yn sicr o fudd i ni gan fod angen dealltwriaeth am dechnoleg gwybodaeth ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi erbyn hyn (ac ar gyfer y system budddaliadau). Dydw i ddim yn teimlo’n dwp wrth ofyn cwes ynau bellach, gan eu bod nhw’n gwneud i mi deimlo mor gyfforddus. Mae hynny’n rhywbeth anodd i’w wneud!’
Dyma beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud: Yn ein Clybiau Swyddi, mae ein mentoriaid a’n hyfforddwyr yn darparu’r gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd eu hangen. Mae’n helpu pobl sy’n teimlo eu bod nhw’n gorfod wynebu newidiadau i fudd-daliadau ar eu pen eu hunain, a datblygu’r sgiliau cyfrifiadurol sydd eu hangen arnyn nhw i ddefnyddio system fudd-daliadau ar-lein yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddwn ni hefyd yn helpu gydag awgrymiadau ar gyllidebu, ac yn dangos sut i sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog fel y gall pobl sicrhau bod eu biliau’n cael eu talu ar amser, ac i beidio â bod ofn rheoli eu harian.
‘Rydw i’n teimlo’n gyfforddus, ac rwy’n gwybod y byddaf yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arna i.’
Cymdeithas Dai y Rhondda ‘Gwneud iddo Weithio’ Dyma lle mae grŵp o bobl ifanc lleol yn mynd drwy ein rhaglen sefydlu cyn iddyn nhw ddechrau ar eu pythefnos o brofiad gwaith gyda gwahanol adrannau yng Nghymdeithas Dai y Rhondda. Maen nhw’n magu sgiliau newydd, yn datblygu ac yn rhannu eu sgiliau presennol, a hefyd yn magu hyder. I gyd-fynd â’r profiad gwaith ymarferol, rydyn ni’n trefnu lle iddyn nhw ar gyrsiau Gwasanaethau i Gwsmeriaid drwy LearnDirect. Bydd hyn oll yn helpu i’w paratoi ar gyfer symud yn nes at y farchnad waith. ‘Mae’r wtoriaid yn amyneddgar ac ar yr un lefel â chi. Dydyn nhw ddim yn defnyddio jargon pan fyddan nhw yn eich dysgu chi ac mae’r gwersi ar fy nghyflymder i. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus erbyn hyn a dydw i ddim ofn gofyn am gymorth.’
Bydd ein gweithdai yn helpu dysgwyr i ddeall fod ganddyn nhw EU HUNAIN rywbeth gwerthfawr i’w gyfrannu at y gymdeithas! Nes i bobl sylweddoli’r cam cyntaf pwysig yma, ni fyddan nhw’n gallu cyrraedd eu llawn botensial. Gyda chymorth ein partneriaethau gwaith, BYDDWN NI YN eu helpu i ddatblygu a dysgu sgiliau i godi eu hunan-barch, i fagu hyder a’u helpu i ddod yn agosach at gyflogaeth, wrth eu helpu i gychwyn ar y daith o ddatblygu’u hunain ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth gallwch ffonio 07800 665967 i gael sgwrs anffurfiol a chyfeillgar, neu Tudalen 7
Cymunedau Menter yn y Taf Ely Ken Moon, Swyddog Cymunedau Menter. Mae Ken yn gweithio ar y cyd â Jo a Meriel i gynorthwyo unrhyw grŵp sydd am fod yn fenter! Ken sy’n ysgrifennu’r Bwle n Menter Cymdeithasol wythnosol. Mae Ken yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau cymunedol newydd a phresennol yn Nhaf Elái yn y gwanwyn. Cysylltwch â Ken drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: kmoon@interlinkrct.org.uk
Trosglwyddo Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymunedau Lleol yn Rhondda Cynon Taf Mae’r toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn her enfawr i ni i gyd. Gyda gostyngiad disgwyliedig o 30% mewn gwariant cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf, beth allwn ni ei ddysgu o’r rownd gyntaf o doriadau i wasanaethau cyhoeddus a welwyd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2013/14 a sut mae’r sector yn ymateb i’r her? Bu Interlink yn gweithio gyda nifer o’r grwpiau hyn ac rydyn ni am arddangos dau o’r rhain, tynnu sylw at rai o’r problemau roedden nhw’n eu hwynebu cyn mynd ymlaen i edrych ar beth sy’n cael ei wneud i wella’r broses ac edrych ar beth fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol o bosibl...
Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thŷ Nant Yn y Beddau a Thŷ Nant, ymunodd y gymuned leol â grŵp newydd a ddaeth at ei gilydd i achub eu llyfrgell leol. Bu Interlink ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn gweithio gyda’r grŵp o’r cychwyn, er enghrai eu helpu i ymgysylltu â’r gymuned ehangach am ddyfodol y cyfleuster. Cynhaliwyd diwrnod agored a ddangosodd faint o bobl leol oedd yn barod i gynnig eu sgiliau a chefnogi’r grŵp ac i redeg y gwasanaeth. Darparodd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo gymorth pellach drwy’r rhaglen Rhwydweithiau Menter Cymunedol i sicrhau ymgynghorydd ac i ysgrifennu achos busnes fel rhan o gais prydles y grŵp.
Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thŷ Nant
Tudalen 8
‘O’r dechrau, mae Interlink wedi bod yn darparu cymorth, arweiniad a hyfforddiant i ni ac yn ein cyflwyno i gysyll adau perthnasol er mwyn ein galluogi i lunio cynllun busnes effeithiol. I ddechrau, fe wnaethon nhw ein helpu i gynnal cyfarfod cymunedol i sicrhau bod y prosiect yn ddichonadwy, a bod digon o gefnogaeth iddo gan y gymuned a gwirfoddolwyr.’ Helen Boldero – Ysgrifenyddes (Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thŷ Nant)
Treherbert Regenera on Ltd Yn Nhreherbert, daeth Cylch Meithrin Tynewydd, aelod o CwmNi Ltd a phartner yn y sector preifat ynghyd i edrych ar y posibilrwydd o gymryd cyfrifoldeb dros Ganolfan Ieuenc d Treherbert. Cafodd Interlink gyfarfod gyda’r grŵp a’u helpu i edrych ar opsiynau strwythur cyfreithiol. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu cwmni rheoli cyfleuster, Treherbert Regenera on Ltd, a fyddai’n gweithredu ar ran y gymuned leol. Bu Interlink hefyd yn gweithio gyda’r grŵp i sicrhau cefnogaeth ymgynghorol gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i ddatblygu’r Cynllun Busnes fel rhan o’u cais i drosglwyddo’r brydles gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a darparu cymorth parhaus drwy gydol y broses. ‘Mae cyngor gan staff Interlink wedi bod yn allweddol wrth helpu Cylch Meithrin Tynewydd i gymryd gofal dros adeilad Clwb Ieuenc d Treherbert sydd wedi cau. Mae Interlink wedi darparu cysyll adau i sefydliadau ac arbenigeddau eraill a oedd eu hangen yn fawr. Heb gymorth Interlink, ni fyddwn wedi gallu cyflawni’r hyn rydw i wedi’i wneud hyd yma eleni. Byddwn yn argymell i unrhyw fenter newydd gysylltu ag Interlink am gyngor a chefnogaeth.’ Paul Russell, Ysgrifennydd CwmNi Ltd
Cymunedau Menter yn y Taf Ely Cyngor Sir a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd a helpu i sicrhau proses drosglwyddo fwy llyfn. Mae’r datblygiad yma i’r sector i’w groesawu’n fawr.
Cylch Meithrin Tynewydd
Nodwyd materion a heriau gan y grwpiau ynghylch y broses o drosglwyddo asedau unwaith roedd y grwpiau wedi cael caniatâd i gychwyn trafodaethau i brydlesu eiddo. Bu Interlink yn cefnogi grwpiau mewn meysydd fel edrych ar strwythurau cyfreithiol priodol a chynghori ar gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ac yn gwneud sylwadau am agweddau ar brydlesi. Er bod y grwpiau wedi gwneud cynnydd anhygoel dros y flwyddyn ddiwethaf, mae trafodaethau prydles yn dal i fynd ymlaen rhyngddyn nhw â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae’r ddau gyfleuster yn dal i fod ar gau.
Gan symud ymlaen felly o’r gwersi a ddysgwyd yn ystod cam cyntaf y broses drosglwyddo, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi dangos parodrwydd gwirioneddol i weithio gyda’r sector gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf er mwyn gwella pethau. O’r hyn rydyn ni’n ei ddeall, mae grwpiau sydd wedi bod yn mynd drwy’r ail rownd o drosglwyddo asedau, fel Canolfan Gelf y Miwni, Amgueddfa Cwm Cynon a Phwll Padlo Abercynon wedi elwa o gael un pwynt cyswllt gyda’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae’r holl sefydliadau sydd yng nghyfnod 1 a 2 o’r broses wedi elwa o’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’r gronfa Gydgyfeirio Ewropeaidd ar gyfer cefnogi mentrau cymdeithasol.
Roedd y materion a godwyd gan y grwpiau yn cynnwys: •
Diffyg ymgysylltu a thrafod, cyn ac yn ystod y broses.
•
Diffyg dull cydlynol/amserol ar gyfer rheoli’r cyfnod pon o.
•
Oedi wrth ddatrys cytundebau prydles a chymalau prydlesi afrealis g neu amhriodol.
• •
Cael gwared ar asedau o eiddo. Mynediad cyfyngedig iawn i’r eiddo sy’n achosi anawsterau cynyddol i grwpiau wrth sicrhau dyfynbrisiau ar gyfer offer.
Muni Arts Centre
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn agored i’r syniad o weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf yn dal i gael eu cynnig yn barhaus, ac mae hyn i’w groesawu.
Beth fydd y dyfodol? I fynd i’r afael â’r materion hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi sefydlu Grŵp Cynghori Trydydd Sector newydd yn ddiweddar i adeiladu ar y cyfleoedd a pherthnasoedd sy’n bodoli eisoes i alluogi’r
Caiff y Prosiect Cymunedau Menter ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Tudalen 9
Adeiladau Cymunedol Help! Mae fy Adeilad Cymunedol yn Cau! Dyfodol Cyfleusterau Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf Mae’r toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn her enfawr i ni i gyd. Mae adeiladau cymunedol a chyfleusterau cymunedol eraill yn wynebu gostyngiadau yn eu cyllidebau blynyddol, naill ai drwy gymorth ariannol uniongyrchol neu drwy golli incwm rhent gan y sector cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae costau cynnal fel gwresogi a goleuo sy’n codi yn gwneud y sefyllfa’n waeth ar gyfer llawer o grwpiau sy’n rhoi nifer sylweddol o’n hadeiladau cymunedol mewn perygl o gau. Mae’r sefyllfa yma’n debygol o waethygu’n ddifrifol dros y blynyddoedd nesaf. Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall adeiladau cymunedol fod yn gartref i amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n darparu ar gyfer pob rhan o’r gymuned - o blant ifanc iawn i bobl hen iawn. Yn aml, dyna fydd yr unig gyfleuster cymunedol mewn ardal. Er bod gwahaniaethau rhwng yr adeiladau o ran oedran, maint a lleoliad, mae’r problemau a’r anawsterau sy’n wynebu eu pwyllgorau rheoli yn debyg. Er bod adeiladau cymunedol yn gallu chwarae rhan allweddol wrth gry au cymunedau lleol - a’u bod yn gwneud hynny - mae angen rhagor o adnoddau, a gwell mynediad at wybodaeth a chyngor arbenigol, os ydyn nhw i ehangu a datblygu eu gweithgareddau. Ffynhonnell: Sefydliad Joseph Rowntree www.jrf.org.uk Ffynhonnell: www.thirdsector.co.uk
Dyma amlinelliad o rai camau y gall mudiadau cymunedol eu cymryd i newid pethau a sut y gall y gweddill ohonom ni eu cefnogi:
Cael y Gymuned i Gymryd Rhan! Un o’r agweddau sy’n cael ei hanwybyddu amlaf, ond sy’n un o’r agweddau pwysicaf o gynnal adeilad cymunedol, yw cael y gymuned i gymryd rhan. Nid yw hyn yn golygu gorfod mynd i gyfarfodydd (mewn gwirionedd, mae’n annhebygol mai dyma fydd angen). Siaradwch gyda’r gymuned a gofyn a ydyn nhw’n gwerthfawrogi’r adeilad, beth maen nhw’n gwerthfawrogi am y lle, sut y gallai fod yn well, pa ddefnydd fydden nhw’n hoffi ei weld o’r adeilad a sut y bydden nhw’n hoffi bod yn rhan o’r gwaith o helpu i’w gynnal a darparu gwasanaethau ohono. Siaradwch gyda chymaint o bobl â phosibl, a chael cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan!
Ar gyfer pwy mae’r cyfleuster? Bydd cyfleuster cymunedol sydd ond yn cael ei ddefnyddio gan ran fach o’r gymuned yn annhebygol o gynhyrchu digon o incwm neu fod mewn sefyllfa gryf i wneud cais am gran au. Pwy arall yn eich cymuned fyddai’n cael budd o gael mynediad i’r cyfleuster ac ar ba sail?
Tudalen 10
Mynnwch Gymorth Proffesiynol Pwyllgor rheoli prin iawn sydd â’r holl sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i gynnal cyfleuster cymunedol. Ni fydd hyn yn syndod i chi pan fyddwch yn ystyried pa arbenigedd sydd ei angen arnoch - datblygu cymunedol, codi arian, rhedeg busnes cymunedol a rheoli eiddo. Holwch yn eich cymuned, dysgwch pwy all eich helpu - mae cysyll adau yr un mor bwysig â gwybodaeth!
Byddwch yn Greadigol gydag Arian Un o’r prif bwyn au anodd i nifer o adeiladau cymunedol yw bod yn ddibynnol ar sicrhau gran au. Wrth feddwl am gynnwys y gymuned, estynnwch wahoddiad i fusnesau lleol i gyfrannu eu cefnogaeth i’ch cyfleuster cymunedol. Gyda buddsoddiadau mwy, fel mesurau effeithlonrwydd ynni, yna efallai y byddai benthyciad yn golygu eich bod yn arbed arian wrth i filiau ynni godi.
Cynhyrchu Incwm Gall gran au bach a chodi arian yn lleol ariannu gwasanaethau, ond ni fydd yn sicrhau bod y drysau’n aros ar agor am byth. Bydd cael y gymuned i defnyddio’r adeilad a bod cost defnyddio’r adeilad yn gywir, yn ffordd dda o sicrhau defnydd cyson ac o gadw’r drysau ar agor.
Menter Leol Rheolaeth ar y cyd a Marchnata ar y Cyd: Mae nifer o adeiladau cymunedol yn Rhondda Cynon Taf wedi dod i'r casgliad na allan nhw reoli'r cyfleuster ar eu pen eu hunain ac mae angen cael rhagor o'r Gymuned i fod yn rhan o'r gwaith o gynnal yr adeilad. Ffordd arall o ysgafnhau'r baich yw hyrwyddo nifer o adeiladau cymunedol ar y cyd mewn ardal benodol, gan rannu hysbysebu a threfniadau archebu. Felly beth mae Interlink yn ei wneud i helpu? Mae Interlink yn gweithio'n uniongyrchol gyda phwyllgorau rheoli adeiladau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf i gynnal cyrsiau hyfforddiant ar 'Sut i Reoli Eich Cyfleuster Cymunedol' a 'Rolau a chyfrifoldebau' yn ystod y dyddiau cynnar, drwy helpu grwpiau yn rheolaidd gyda cheisiadau am arian i helpu gyda strategaethau goroesi ar adeg o argyfwng. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan www.interlinkrct.org.uk/helpfulinfo neu ffoniwch ni ar 01443 846200 neu cysylltwch â Community Ma ers ar 0845 847 4253 neu ewch i www.communityma ers.org.uk
Ap Flappy Bird yn cael gweddnewidiad Cymreig diolch i bobl ifanc y Rhondda Ar ôl cael ei lansio yn gynharach eleni, mae ap poblogaidd Flappy Bird wedi cael llwyddiant byd-eang. Erbyn hyn, mae pobl wedi datblygu fersiwn tafod mewn boch i Gymru. Farty Sheep yw’r ap symudol diweddaraf i gael ei ddatblygu gan brosiect Click Big Partneriaeth Penrhys (elusen yn y Rhondda). Cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc. Mae Farty Sheep yn ddathliad eofn o Gymreictod ac mae’r holl elw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith Partneriaeth Penrhys i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddatblygwyr technoleg yn y de. Fe ddatblygodd m Big Click eu syniad o greu fersiwn Gymreig o Flappy Bird drwy gynnwys pobl ifanc yn y broses o feddwl am y syniad cychwynnol, dylunio, datblygu, codio, recordio effeithiau sain a marchnata. Yn yr ap mae dafad unig, o’r enw Elwyn, ar antur i geisio dianc o gae yng Nghymru a mynd i deithio’r byd. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid iddo ddianc dros furiau castell ac osgoi cymylau o law, gydag ymadroddion Cymreig cyfarwydd i’w clywed ar eich taith. Mae hon yn gêm ddifyr iawn ar gyfer unrhyw un sy’n hoff o Gymru! Mae Big Click yn fenter ddigidol sy’n creu apiau symudol newydd i gefnogi adfywio cymunedol drwy ddefnyddio pŵer technoleg i effeithio ar newid.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff hefyd wedi helpu mwy na 30 o fusnesau bach a chanolig i fynd ar-lein a hyfforddi mwy na 60 o bobl ifanc gyda datblygu technoleg, gan gynnwys roboteg a chodio, a hefyd datblygu cynnyrch ap i’w gwerthu ar iTunes a Google Play. ‘Rydyn ni am ddangos enghrei iau o’r hyn y gellir ei greu yn ein cymunedau a sut y gall mudiadau bach hyd yn oed herio’r sefyllfa sydd ohoni o ran datblygu technoleg, gan ddod a hynny i galon y Cymoedd. Mae Cymru yn sefydlu ei hun fel canolfan dechnoleg ar gyfer Ewrop, sy’n golygu bod mwy o alw am bobl â sgiliau sy’n gallu creu a thrin technoleg - mae pobl ifanc mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer y swyddi yma sydd i ddod, ond mae angen ysbrydoliaeth arnyn nhw nawr.’ Ben Treharne-Foose, Rheolwr Technolegau Digidol
‘Mae gweithio gyda Big Click wedi rhoi cyfleoedd gwych i fi ddatblygu fy sgiliau codio. Rydw i wedi eu helpu i ddatblygu dau ap yn barod, gan gynnwys fersiwn Android o ap Farty Sheep. O ganlyniad, mae gen i bellach bor folio o waith ac rydw i wedi cael cyfweliadau am swyddi gyda chwmnïau ym Mae Caerdydd.’ Robert Pengelley o Ynys-hir
Mae prosiectau blaenorol wedi cynnwys gwaith i Lywodraeth Cymru i greu tri o apiau Cymraeg i blant ifanc. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: h p://bigclick.org.uk/project/farty-sheep-app Tudalen 11 Mae’r llun ar y clawr yn ddelwedd o’r ap
De Cymunedol ddwyrain Cymru Grant Datblygu Economaidd Meriel Gough, Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol. Mae Meriel yn canolbwyn o ar Raglen Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru. Mae Meriel yn annog grwpiau u i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyfleoedd mentrau cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau a chynnyrch newydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu tu â’r mentrau yma, cysylltwch â Meriel drwy ffonio 01443 846200 neu drwy e-bost: mgough@interlinkrct.org.uk Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol RCT.
Rhwydwaith Pobl o Bwys Pontypridd Dechreuodd Rhwydwaith Pobl o Bwys Pontypridd yn dilyn trafodaethau rhwng Wendy York - Cymuned Ar s; Hayley Fiddler - YMCA Pontypridd a Meriel Gough - Interlink, yn ystod hydref 2013. Ar y pryd, roedd y YMCA ac Cymuned Ar s yn gweithio ar eu cais i Gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru a hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru am arian datblygu sylweddol i drawsnewid adeilad y YMCA ym Mhontypridd yn llwyr. Mae’r ddau gais am arian wedi cael derbyniad cadarnhaol iawn, felly rydyn ni’n croesi ein bysedd! Bydd adeilad y YMCA ym Mhontypridd yn dod yn ganolbwynt ac yn fwrlwm o weithgarwch i ymgysylltu â phobl Rhondda Cynon Taf mewn lleoliad hygyrch iawn sy’n darparu beth mae pobl ei eisiau. Nod y ganolfan yw cysylltu cymaint o grwpiau gwirfoddol a mentrau gyda’i gilydd mewn un lle fel y gall pawb gefnogi ei gilydd a dod yn gorff cryf i gynrychioli’r Trydydd Sector ym Mhontypridd - nifer fawr o wasanaethau i drigolion Rhondda Cynon Taf o dan yr un to!
Tudalen 12
Roedd Wendy, Hayley a Meriel yn ymwybodol iawn o faint o grwpiau Trydydd Sector a mentrau oedd wedi’u lleoli ym Mhontypridd, ond fe sylweddolon nhw nad oedden nhw’n cyfathrebu gyda’i gilydd yn rheolaidd neu’n dod at ei gilydd i ddysgu am ddarpariaethau gwasanaethau ei gilydd yng nghanol tref Pontypridd. Cynhaliwyd y Digwyddiad Rhwydweithio Pobl o Bwys cyntaf ym mis Hydref 2013, gyda chynrychiolaeth gan 15 o grwpiau. Dri digwyddiad rhwydweithio’n ddiweddarach ac mae dros 40 o grwpiau yn aelodau! Mae grŵp Pobl o Bwys Pontypridd wedi bod mewn cyfarfod rhwydwaith gyda Mentrau sy’n cael eu hariannu gan Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru, sydd wedi ymestyn rhwydweithiau’r grŵp ymhellach. Bellach, mae grwpiau yn fwy gwybodus ac felly mewn gwell sefyllfa i gefnogi ei gilydd er mwyn helpu pobl i mewn i grwpiau cymdeithasol, grwpiau hobi a chyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a chyflogaeth: gyda’i gilydd mae ganddynt lawer mwy i’w gynnig. Bu’r rhwydwaith Pobl o Bwys yn cefnogi ei gilydd: • Drwy logi gofod/darparu gweithdai • Drwy ddarparu gweithdai e.e. helpu i uwchsgilio mewn celfyddydau gweledol/llwybrau gyrfa i’r diwydiannau creadigol • Drwy gyfeirio gwirfoddolwyr rhwng grwpiau i uwchsgilio a chefnogi • Drwy gyfeirio unigolion • Drwy roi cleien aid ar leoliadau - profiad gwaith • Drwy ddosbarthu gwybodaeth i grwpiau eraill • Drwy edrych ar gyfleoedd cymorth a rhannu adnoddau, ynghyd ag ymgynghori â gofalwyr a phrosiectau, a cheisiadau am arian • Drwy hysbysu staff am weithgareddau cymunedol i’w pasio ymlaen i ofalwyr am y cyfleoedd cymdeithasol cynhwysol sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd • Drwy hysbysebu ein digwyddiadau a gwasanaethau i bartneriaid, grwpiau a defnyddwyr gwasanaeth
De Cymunedol ddwyrain Cymru Grant Datblygu Economaidd
Grwpiau sydd wedi’u cysylltu ac sy’n darparu cymorth: •
•
• •
• • • • •
•
YMCA: VIVA! Adref, RNIB Cymru, Prosiect Gofalwyr, Partneriaeth Adfywio Cymuned Glyncoch – mae’r grwpiau yma’n defnyddio’r gampfa yn y YMCA Eglwys Santes Catherine: Age Connects, Cymuned Ar s, Amgueddfa Pontypridd, Neuadd Eglwys Santes Catherine Purple Shoots: Theatr Spectacle Age Connects Morgannwg: yn hysbysebu eu digwyddiadau i Bobl Hŷn yn rheolaidd drwy rwydweithiau Interlink Mind Merthyr a’r Cymoedd yn cymysgu gyda’r Kni ng Nanas Grŵp Pwytho yn cysylltu â grŵp canu Mind Tydfil Training yn creu cysyll adau gyda Home Start - Referrals Kni ng Nanas wedi’u cysylltu â Home Start Rhondda Cynon Taf a ‘Got orders in!’ RNIB: YMCA Pontypridd, Cyngor ar Bopeth (rhannu gwybodaeth), Cymdeithas Hanes Teuluoedd Morgannwg (rhannu ffotograffau), Age Connects Morgannwg Gweithredu dros Blant wedi cysylltu â Cra of Hearts.
Yn y pedwerydd digwyddiad, gwnaeth toogoodtowaste gysyll ad ag Age Connect Morgannwg ynghylch darparu gwasanaeth glanhau tai moesol a gyda Crossroads sy’n gallu darparu gwasanaeth ailaddurno’r tai drwy eu menter gymdeithasol, Total Care Support Solu ons Ltd, a Menter Tyfu CIC (Cymorth Cyffuriau) i glirio’r gerddi!
Dywedodd Hayley Fiddler o YMCA Pontypridd: ‘Mae wedi bod yn agoriad llygad gweld yn union faint o waith da sy’n cael ei wneud yn ardal Pontypridd. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r YMCA ac mae gallu rhoi gwybod i bobl am yr amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael yno yn ein helpu i gyfeirio pobl yn fwy effeithlon.’
Adborth o Ddigwyddiadau Rhwydweithio Pobl o Bwys Pontypridd: • • • • • • •
Campfa YMCA i gefnogi gwella iechyd - nawr rydw i’n dod i wybod amdano! Diddorol Mae mwy o bethau’n digwydd nag o’n i’n ddisgwyl mae’n dda bod drysau’n agor i ddysgu rhagor Wedi cysylltu â grwpiau newydd Popeth! Gwybod beth sy’n digwydd ym Mhontypridd Cysylltu defnyddwyr gwasanaeth gyda grwpiau cymunedol Syndod dysgu beth sy’n digwydd ym Mhontypridd! Llawer o gysyll adau diddorol ar gyfer ein menywod ifancCysylltu â phobl sydd angen ein cymorth
Rhestr o Bobl o Bwys Pontypridd: Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf; Gweithredu dros Blant; Eglwys Teml y Bedyddwyr; Eglwys Uno Dewi Sant; YMCA Pontypridd; Cymorth i Ferched Rhondda Cynon Taf; Crossroads Cwm Taf; Interlink Rhondda Cynon Taf; Broydd Caerdydd a’r Cymoedd; RNIB; Tydfil Training; Cymuned Ar s; Gofal Canser Rowan Tree; Prosiect VIVA; Posi vely Ponty; Hafan Cymru; Home Start; Purple Shoots; Mind Merthyr a’r Cymoedd; Drug Aid; Age Cymru; Hanes Teuluoedd Morgannwg; Kni ng Nanas; ADREF; Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Rhondda Cynon Taf; Age Connects Morgannwg; Teapot Cra ers; Cymdeithas Gorawl Pontypridd; Cross S tch Crazy; Llamau; Cartrefi Rhondda Cynon Taf; Gyrfa Cymru; Amgueddfa Pontypridd; Eglwys Santes Catherine; Café Connect Santes Catherine; Cynllun Galw Heibio Nam ar y Synhwyrau (SIDS) Rhydyfelin; Cylch Cymreig; Pit Pony Sanctuary; Beyond Everything there is Hope (BETH); Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).
Y camau nesaf ar gyfer rhwydwaith Pobl o Bwys Pontypridd Bydd Naz Syed, Cymuned Ar s, a Meriel Gough, Interlink, yn cynnal Gwerthusiad o’r Rhwydwaith yn gynnar yn y flwyddyn newydd i’w ddilyn gan gyfarfod o’r rhwydwaith. Bydd Interlink yn datblygu grwpiau rhwydwaith tebyg yn Nhonypandy ac Aberdâr yn y flwyddyn newydd. Oes gyda chi ddiddordeb? Anfonwch e-bost ataf i, Meriel, yn: mgough@interlinkrct.org.uk Tudalen 13
Menter Gymdeithasol - Cra s of Hearts
Cra of Hearts Menter sy’n cael ei hariannu gan grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru - Magu sgiliau ac agweddau, newid credoau a gwerthoedd - creu dyfodol cryf
Jo Roe, Sylfaenydd a Rheolwr menter gymdeithasol Cra of Hearts Ltd yn Nhonypandy sy’n dweud ei stori. Pan gwrddais i ag Annie * am y tro cyntaf, roedd hi’n cuddio o dan y grisiau mewn lleoliad cymunedol mewn ffair gre au. Roed Ro edd d Annie Anni An niee yn ei ei chael ch hi’n anodd siarad am ei Roedd chre ond cyfeiriodd fi at ddarnau o emwaith ei ffrind a oedd wedi’u gosod ar y bwrdd wrth ei gemwaith hi. Gofynnais i Annie gysylltu â ni yn Cra of Hearts yn Nhonypandy unwaith y bydden ni wedi agor ym mis Chwefror 2013. Ro’n i’n falch iawn o dderbyn neges gan Annie dros gyfryngau cymdeithasol ym mis Mawrth 2013. Estynnais wahoddiad iddi ddod i’r siop ac i ddod â rhai o’i gemwaith gyda hi. Er bod hyn yn beth anodd iawn iddi ei wneud, gwnaeth Annie hyn drwy sbecian drwy ddrws y siop a chuddio o dan ei gwallt hir a’i het wedi’i gwau. Gofynnais i gael gweld ei gemwaith ac er oedi am ychydig, dangosodd i mi beth oedd hi wedi bod yn gweithio arno. Esboniais wrthi sut roeddwn i’n mwynhau ei gwaith a gofynnais a fyddai’n fodlon gwneud darn arall a dod ag ef i’w ddangos dros yr wythnos nesaf. Nid oedd Annie’n siŵr a fyddai’n gallu gwneud hyn - roedd ei hyder hi’n isel iawn. Fodd bynnag, cytunodd y byddai’n dod â mwy o’i gwaith i’r siop yr wythnos ganlynol. Ar y foment honno, roedd Annie yn gallu gweld fy mod i’n gwisgo un o’i darnau. Daeth hyn fel syndod iddi a gadawodd y siop yn falch iawn bod rhywun yn gwerthfawrogi ei gwaith a chytunodd i ddod yn ôl yr wythnos ganlynol. Parhaodd hyn am beth amser; roedd Annie a fi yn edrych ymlaen at weld ein gilydd bob wythnos a byddem yn siarad am y gwahanol agweddau o redeg menter gymdeithasol Cra of Hearts. Un o’r agweddau hyn oedd darparu gweithdy gwneud gemwaith ar gyfer ein cwsmeriaid. Cytunodd Annie i helpu gyda’r grŵp gwneud gemwaith cyntaf - grŵp o blant. Roedden nhw wrth eu boddau gyda’i chamau araf a chyfarwyddyd clir. Llwyddodd pob plentyn yn y grŵp i greu darn eithriadol o emwaith i fynd gyda nhw ac roedden nhw’n falch o’u dangos i’w teuluoedd a’u ffrindiau. Yn raddol, daeth Annie i sylweddoli na Tudalen 14
fyddai’r gweithdy wedi bod yn bosibl heb ei mewnbwn hi. Dechreuodd ddeall yr effaith gadarnhaol a phellgyrhaeddol roedd ei gwaith gwirfoddol wedi ei chael ar y gymuned. Dechreuodd Annie gynnal llawer mwy o sesiynau cre . Dechreuodd hefyd helpu yn y siop o ddydd i ddydd, gan hyd yn oed gefnogi’r staff drwy edrych ar ôl y siop ar ei phen ei hun fel eu bod nhw’n gallu cynnal gweithdai allgymorth i helpu pobl e.e. Gofal Canser Rowan Tree grŵp o ferched sy’n dod at ei gilydd i wneud gweithgareddau cre - mae pob un ohonyn nhw wedi profi canser mewn rhyw ffordd. Dechreuodd Annie ddod i ddeall cymhlethdodau rhedeg menter gymdeithasol gymunedol gyda phoblogaeth amrywiol Cymoedd y de. Gyda dealltwriaeth ddyfnach, sylweddolodd Annie ei bod yn gallu cefnogi’r Fenter mewn ffordd fwy ystyrlon fyth ac roedd hi’n falch iawn pan ofynnwyd iddi fod yn Gyfarwyddwr gwirfoddol gyda Cra of Hearts Ltd. Yn dilyn ei phrofiadau blaenorol, roedd Annie’n awyddus iawn i barhau gyda’i mewnbwn ymarferol yn y siop ac mae bellach yn aelod ymroddgar o’r fenter, yn agor y siop yn rheolaidd, yn rhedeg y siop yn ôl yr angen ac yn cyflwyno gweithdai cre fel gwirfoddolwr i aelodau gan gynnwys pobl ag anghenion ychwanegol. Erbyn hyn, mae Annie yn cymryd balchder yn ei hymddangosiad, wedi newid steil ei gwallt, yn cyfarch pobl gyda gwên gyfeillgar a chyswllt llygad hyderus mae clywed ei chwerthin tra mae yn y siop yn bleser mawr i ni i gyd! Mae Annie hefyd wedi bod yn datblygu ei hamrywiaeth o emwaith ac yn creu eitemau pwrpasol ar gyfer staff a chwsmeriaid. Mae hi wedi cael gwahoddiad i gyfarfodydd gyda sefydliadau fel Interlink a Busnes mewn Ffocws: mae’r cyfarfodydd hyn wedi ei helpu i ganolbwyn o ar ei dyfodol - nid helpu gyda Cra of Hearts yn unig oedd hynny, ond gyda’i menter ‘Heart of The Phoenix’ ei hunan hefyd. Mae Karen Davies o Purple Shoots wedi ariannu Annie’n rhannol er mwyn ei galluogi i gael benthyciad tymor byr cost isel i brynu deunyddiau cychwynnol i wneud gemwaith i’w gwerthu!! Mae Cra of Hearts wedi cefnogi 37 o wirfoddolwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae pump o’r gwirfoddolwyr hyn wedi symud ymlaen i waith cyflogedig ac mae deg arall yn defnyddio’r sgiliau cre maen nhw wedi’u datblygu gyda Cra of Hearts Ltd i ychwanegu at eu hincwm. * Nid Annie yw ei henw go iawn. I gael rhagor o wybodaeth am Cra of Hearts, ewch i www.facebook.com/Cra OfHeartsLtd
Newyddion Lleol Beth mae’r rhwydwaith Pobl o Bwys wedi’i wneud i ni? Mae Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo wedi bod mewn tri digwyddiad Pobl o Bwys yn y YMCA ym Mhontypridd. Mae pob digwyddiad wedi rhoi cyfle i ni gwrdd â sefydliadau sy’n rhannu gwerthoedd tebyg i ni. Fel cyfrifwyr sy’n targedu cyrff y trydydd sector, mae’n hanfodol ein bod yn deall yr amgylchedd mae ein cleien aid yn gweithredu ynddo, mae clywed grwpiau gwahanol yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau yn ein helpu i gydymdeimlo gyda’n cleien aid, ac i ddeall yr heriau sy’n ein hwynebu. Mae rhwydwaith Pobl o Bwys wedi ein helpu i hyrwyddo ein gwasanaethau, ac o ganlyniad, mae nifer wedi manteisio ar ein cynnig o wasanaethau cyfrifeg rhatach, sy’n fwy fforddiadwy. Mae’r sefydliadau hynny yn gallu gwneud arbedion sylweddol gan wybod ein bod ni’n gofalu am eu
busnes, gan eu galluogi i ganolbwyn o ar yr hyn maen nhw’n ei wneud orau. Nid ni yn unig sy’n ‘gwerthu’ ein gwasanaethau mewn digwyddiadau Pobl o Bwys, rydyn ni wedi cyflogi gwasanaethau mentrau cymdeithasol eraill i wneud gwaith ar ein rhan. Mae’r cyfan yn ymwneud â helpu ein gilydd. Drwy gysyll adau a ffurfiwyd mewn digwyddiadau rhwydweithio Pobl o Bwys ym Mhontypridd, mae gwasanaethau cyngor Cyfrifeg Cymdeithasol Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo wedi bod o fudd i Cra of Hearts, Have Heart, Awyr Dywyll Cymru a Theatr Spectacle. Mae Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo hefyd yn fenter sydd wedi’i hariannu gan Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Rhys Williams, y Prif Gyfrifydd Cymunedol, Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo, drwy ffonio 01443 485233 neu ewch i www.ccaw.org.uk
toogoodtowaste yn Croesawu Pren siaid Newydd Aeth y Dirprwy Weinidog draw i ymweld â changen Ynys-hir o toogoodtowaste i groesawu’r ddau bren s newydd ac i gael dysgu rhagor am y sefydliad. Yn ystod ei hymweliad, roedd y Dirprwy Weinidog wedi’i phlesio gan y gwaith a’r gwasanaethau roedd toogoodtowaste yn eu cynnig i’r gymuned leol. Roedd toogoodtowaste wedi’u plesio gymaint gan yr ymgeiswyr nes iddynt benderfynu cynnig cyfle i ddau bren s. Ar hyn o bryd, mae Tomos Woods a Regan May yn ehangu ar eu gwybodaeth a’u sgiliau ar sut i atgyweirio eitemau trydanol yn y cartref fel peiriannau golchi, poptai ac oergelloedd. Wrth ddysgu’u cre gyda toogoodtowaste, maen nhw hefyd yn parhau i astudio ar gyfer NVQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Trydanol yng Ngholeg y Cymoedd, yn dilyn astudio Diploma Cenedlaethol Lefel 3 estynedig mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ac NVQ
Dywedodd Lynda Davies, Prif Weithredwr toogoodtowaste: ‘Ym mis Rhagfyr 2013, roedd y penawdau newyddion yn edrych yn ddu iawn i bobl ifanc ddi-waith yng Nghymru. Ro’n i’n teimlo pe bai modd i bob busnes bach greu un cyfle, y gallen ni wneud cymaint o wahaniaeth i bobl ifanc. Gyda chyllid gan Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru roedden ni’n gallu mynd gam yn well a chynnig cyflogaeth a hyfforddiant i’r ddau unigolyn ifanc yma.’
Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog: ‘Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol ar gyfer ein heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynlluniau hyfforddi fel pren siaethau ond maent yn gyfrifoldebau sy’n cael eu rhannu rhwng y sectorau addysg, busnesau, unigolion yn ogystal â’r llywodraeth.’ Lynda Davies, Julie James, Tomos Woods a Regan May
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â toogodtowaste drwy ffonio 01443 680090 neu ewch i www.toogoodtowaste.co.uk
Tudalen 15
Ehangwch eich gorwelion ..... gyda hyfforddiant Interlink Mae’r holl gyrsiau a gynhelir yn Interlink oni nodir yn wahanol. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01443 846200 neu ewch i www.interlinkrct.org.uk i lawrlwytho rhaglen hyfforddiant a ffurflen archebu
Cael y Gorau o’ch Gwirfoddolwyr
Hyfforddiant goruchwyliaeth
16 & 17 Chwefror 2015 9.30am - 4.30pm yn VAMT
13 Ionawr 2015 9.30am - 4.30pm
Cyflwyniad i Wirfoddoli a Paratoi ar gyfer Gwirfoddolwyr
Datblygu Cymunedol Lefel 3 a 4
14 & 15 Ionawr 2015 9.30am - 4.30pm at VAMT
16, 23 & 30 Mawrth 2015 9.30am - 4.00pm
Llawdriniaeth Ariannu
Recriw o Gwirfoddolwyr, Dewis a Sefydlu
10 Chwefror 2015 Funders Surgery at Bryncynon Strategy including Coalfields and Big Lo ery (more info to Follow)
28 & 29 Ionawr 2015 9.30am - 4.30pm
Diogelu Plant a Phobl Ifanc
24 Mawrth 2015 Funders Surgery in Taf Ely
5 Chwefror 2015 9.30am - 1.00pm
Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed 5 Chwefror 2015 2.00pm - 4.30pm
Digwyddiad Ymddiriedolwr - Cyflogi Staff a Dealltwriaeth Prydlesi 16 Mawrth 2015 9.30am - 1.00pm
Llywodraeth Cymru wedi lansio Gwasanaeth Cymru Effeithlon Adnoddau rhoi pobl yn cefnogi ar ddefnyddio adnoddau (ynni, gwastraff a dŵr) yn fwy effeithlon. Yn ogystal â chyngor ar gyfer gwella eich cartref eich hun, mae cymorth ar gael ar gyfer adeiladau cymunedol ac ar gyfer pobl a grwpiau sydd am weithredu gyda’i gilydd i wella defnydd o adnoddau ar draws eu cymuned leol. Ar gyfer ymholiadau cymunedol yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a De Powys, cysylltwch â Gareth Ellis ar 01874 611039 neu drwy e-bost: gareth.ellis@thegreenvalleys.org neu’r cymorth desk0300 123 2020 ar gyfer y cartref
Hoffai pawb yn Interlink ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl aelodau!
Rhif Elusen 1141143 Rhif Cwmni 07549533
Rhyfin nesaf: Ebrill 2015