Healthy living with a smile! Byw’n iach gyda gwên!
www.fit4funwales.com
w w w . f i t 4 f unwa l e s . c om
01
Healthy living with a smile… ‘Fit 4 Fun’ is an exciting new project run by the Carmarthenshire Youth and Children’s Association. The aim of ‘Fit 4 Fun’ is to do just that. Giving the opportunity for you and your family to explore ways of getting healthier, in a fun environment. The scheme is primarily aimed at children aged 0-11, however this includes their families as well – so everyone can join in the fun! The project runs until December 2011 and during that time we are staging a variety of exciting and educational events throughout the Carmarthenshire. These include a mixture of large community festivals, school based activities and our Fit 4 Fun clubs, and one thing’s for sure…fun is definitely on the menu!
Byw’n iach a byw’n hapus… Mae ‘Heini am Hwyl’ yn brosiect newydd cyffrous sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin. Mae enw’r prosiect yn egluro beth yw ei nod, sef rhoi’r cyfle i chi a’ch teulu ganfod ffyrdd o fod yn fwy iach, a hynny mewn awyrgylch llawn hwyl. Cynllun i blant rhwng 0 ac 11 oed yw hwn yn bennaf, ond mae teuluoedd y plant yn cael eu cynnwys hefyd – felly gall pawb ymuno yn yr hwyl! Mae’r prosiect yn cael ei gynnal tan fis Rhagfyr 2011, ac yn ystod y cyfnod hwnnw yr ydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous ac addysgol ledled Sir Gaerfyrddin. Mae’r rhain yn cynnwys cyfuniad o wyliau cymunedol mawr, gweithgareddau mewn ysgolion a’n clybiau Heini am Hwyl, ond mae un peth yn sicr… bydd digon o hwyl i’w gael ym mhob un o’r digwyddiadau! www.fit4funwales.com
02
Here, there and everywhere… From the centre of Llanelli to the middle of Carmarthen, over the course of the project, Fit 4 Fun aims to reach as many of you as possible throughout the county. The main areas where the project is delivered are Glanymor, Tyisha, Llwynhendy, Bigyn, Felinfoel and Bynea in Llanelli; and Carmarthen Town North and West, but our large festivals and Fit 4 Fun clubs are open to everyone.
Fan hyn, fan draw ac ym mhob cwr… O ganol tref Llanelli i ganol tref Caerfyrddin, nod Heini am Hwyl yw cyrraedd cynifer ohonoch â phosibl ledled y sir dros gyfnod y prosiect. Y prif ardaloedd lle mae’r prosiect yn cael ei gynnal yw Glanymor, Tyisha, Llwynhendy, Bigyn, Felinfoel a Bynea yn Llanelli, a Gogledd a Gorllewin Tref Caerfyrddin, ond mae croeso i bawb ymuno â’n gwyliau mawr a’n clybiau Heini am Hwyl.
We’re not too cool for school! As well as the community festivals and clubs, we are bringing the fun to many of the county’s schools, contributing to the great work that’s already taking place as part of the Healthy Schools Initiative. Byddwn ni hyd yn oed yn galw heibio eich ysgol! Yn ogystal â’r gwyliau cymunedol a’r clybiau, byddwn yn dod â’r hwyl i lawer o ysgolion y sir, gan gyfrannu at y gwaith gwych sy’n cael ei wneud eisoes yn rhan o’r Fenter Ysgolion Iach. www.fit4funwales.com
03
Fun’s on the Menu! Our events programme is jam packed full of fun helping you learn the benefits of eating healthily and doing regular exercise – but remember, the emphasis is always on having a good time.
Mae hwyl i’w gael! Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn llawn hwyl i’ch helpu i ddysgu am fanteision bwyta’n iach a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd – ond cofiwch fod y pwyslais bob amser ar fwynhau eich hun.
04
Let’s Dance We also provide activities such as Dance, Aerobics, Yoga, Tai Chi, Cheerleading and even Circus Skills, so there really is something for everyone.
Awydd Dawnsio? Yr ydym hefyd yn cynnig gweithgareddau megis Dawnsio, Aerobeg, Ioga, Tai Chi, Codi Hwyl a hyd yn oed Sgiliau Syrcas, felly mae’n wir dweud bod gennym rywbeth at ddant pawb.
Be a Sport! From football, rugby, tennis and basketball...to dodgeball, skateboarding, karate and boxing, we aim to give children the chance to take part in as many fun sports and games as possible. They’re brought to you by our qualified instructors as well as some of our Fit 4 Fun friends including The Scarlets and Dragon Sports – so quality fun is guaranteed. Dewch i Chwarae! O bêl-droed, rygbi, tennis a phêl-fasged…i bêl-osgoi (dodgeball), sglefrfyrddio, carate a bocsio, ein nod yw rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn cynifer o gampau a gemau hwyliog â phosibl. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal gan ein hyfforddwyr cymwysedig yn ogystal â rhai o’n ffrindiau Heini am Hwyl gan gynnwys y Sgarlets a Champau’r Ddraig – felly byddwch chi’n sicr o gael hwyl o’r ansawdd uchaf.
Ready…Steady… Cook! As well as our ‘sporty’ fun, many of our events feature cooking and healthy eating activities. From events such as “Can you cook better than a 10 year old” and “Ready, Steady, Cook”, children and parents alike can learn some valuable nutritional skills. Barod i Goginio? Yn ogystal â’n hwyl ym myd y campau, mae llawer o’n digwyddiadau yn cynnwys gweithgareddau coginio a bwyta’n iach. Yn sgil digwyddiadau megis “Allwch chi goginio’n well na phlentyn 10 mlwydd oed?” a “Barod i Goginio”, gall plant a rhieni fel ei gilydd ddysgu sgiliau maeth gwerthfawr. It’s Playtime Some of our events are simple play sessions where children learn some new and exciting games which they can play at home with family and friends.
Amser Chwarae Sesiynau chwarae syml yw rhai o’n digwyddiadau, lle bydd plant yn dysgu gemau newydd a chyffrous y gallant eu chwarae gartref gyda theulu a ffrindiau. www.fit4funwales.com
www.fit4funwales.com
05
06
Get Fit 4 Fun There are plenty of fun ways of getting exercise, and staying active makes Fabian feel happy… from football and rugby to rolly pollys and just playing games – he loves it all. It doesn’t have to be organised sport either, there are plenty of fun and easy ways to get active either indoors or outside. Fabian’s Fit 4 Fun easy exercise tips: Create your own game or dance Grab a ball and play catch
Have a game of hide and seek
Try balloon ‘keepy uppy’. How long can you do it for? Grab a duvet and try some ‘rolly pollys’
Meet Fabian Look out for Fabian ‘The Fit 4 Fun Fruit Cocktail’ who’s always ready for some fun! He comes along to all of our events where he joins in with the action. Whether it’s football, dancing, skateboarding or cooking – Fabian loves it all. Fabian loves being active, playing games and eating healthily, so he’s come up with some great ideas to help you as well…
Dewch i gwrdd â Fabian Cadwch olwg am Fabian, ‘Coctel Ffrwythau Heini am Hwyl’, sydd bob amser yn barod am dipyn o hwyl! Mae’n dod i bob un o’n digwyddiadau ac yn ymuno â’r gweithgareddau. Beth bynnag sy’n digwydd – pêl-droed, dawnsio, sglefrfyrddio neu goginio – mae Fabian ar ben ei ddigon. Mae Fabian wrth ei fodd yn cadw’n heini, chwarae gemau ac yn bwyta’n iach, felly mae wedi meddwl am sawl syniad gwych i’ch helpu chi hefyd.
www.fit4funwales.com
Cadw’n Heini am Hwyl Mae digon o ffyrdd hwyliog o gael ymarfer corff ac mae cadw’n heini yn gwneud i Fabian deimlo’n hapus... o bêl-droed i rygbi i droi tin-dros-ben – mae wrth ei fodd â’r cyfan. Nid oes raid iddynt fod yn chwaraeon sydd wedi’u trefnu ychwaith – mae digon o ffyrdd hwyliog a rhwydd o gadw’n heini dan do neu yn yr awyr agored. Dyma gynghorion ymarfer corff rhwydd Heini am Hwyl gan Fabian: Beth am greu eich gêm neu ddawns eich hun?
Chwiliwch am bêl a cheisiwch ei dala pan fydd rhywun yn ei thaflu atoch Beth am chwarae cuddio?
Ceisiwch gadw balŵn yn yr awyr. Am ba mor hir y gallwch chi wneud hynny? Cydiwch mewn cwrlid a cheisiwch droi tin-dros-ben
07
‘5 a-day’ the easy way It’s easier than you think to get 5 portions of fruit & veg every day. Whether it’s fresh, frozen, canned or dried – it all counts. Remember as well – a portion is roughly a ‘handful’.
Help us help your kids If you would like to get involved in the project in some way, then just get in touch, as we would welcome any support to help us deliver our fun events across the county. The more support we get, the more we can offer. If you have an interest in healthy living issues and would like to take part in an event which could include children’s exercise, children’s play and children’s cooking, then this is the ideal opportunity to do something positive for children in your area. Maybe you have an idea we could use! By helping us, you may want to hold your own Fit 4 Fun event – big or small. We can give you all the help you need with issues like funding, planning and the general running of events. If you haven’t got much time to give and you don’t want to commit yourself, that isn’t a problem, as we would be grateful for any support you can offer. It’s your children who benefit after all. Let’s face it, we all like acting like children once in a while… So what are you waiting for? Come and discover what FUN is all about!
08
Fabian’s ‘5 a-day’ tips:
Drink a glass of 100% fruit juice or a smoothie. Make some fun shapes with chopped up fruit.
Add bits of vegetables like carrots, peppers, courgettes and aubergines to your pasta sauces. Replace unhealthy snacks with bits of fruit.
Remember ‘Me Size Meals’ - a 4 year old needs less than a 10 year old.
Fabian also makes sure he drinks plenty of water (or squash) as well.
Ffordd rwydd o gael ‘5 y dydd’ Mae bwyta 5 cyfran o ffrwythau a llysiau bob dydd yn haws nag yr ydych chi’n ei ddychmygu. Boed yn ffres, wedi’i rewi, mewn tun neu wedi’i sychu – mae popeth yn cyfrif. Cofiwch hefyd mai gwerth tua llond llaw yw cyfran. Dyma gynghorion ‘5 y dydd’ Fabian:
Yfwch wydraid o sudd ffrwythau 100% neu smwddi.
Gallwch ddysgu rhagor am Fabian ar www.fit4funwales.com lle mae ganddo lond gwlad o weithgareddau hwyliog ichi gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys posau, lliwio a jôcs. Cadwch lygad hefyd am gystadlaethau gwych â chyfle i ennill gwobrau gwych ‘Heini am Hwyl’.
Helpwch ni i helpu eich plant Cofiwch gysylltu â ni os hoffech gyfrannu rywsut at y prosiect, oherwydd byddem yn croesawu unrhyw gefnogaeth i’n cynorthwyo i gynnal ein gweithgareddau llawn hwyl ledled y sir. Po fwyaf o gefnogaeth a gawn, y mwyaf y gallwn ei gynnig. Os oes gennych ddiddordeb mewn materion byw’n iach ac os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiad a allai gynnwys ymarfer corff i blant, chwarae i blant a choginio i blant, yna dyma’r cyfle delfrydol i wneud rhywbeth cadarnhaol i blant yn eich ardal chi. Efallai fod gennych syniad y gallem ei ddefnyddio! Wrth ein helpu, efallai y bydd arnoch eisiau cynnal eich digwyddiad Heini am Hwyl eich hun – boed yn fach neu’n fawr. Gallwn roi’r holl gymorth y bydd arnoch ei angen gyda materion megis ariannu, cynllunio a’r agweddau cyffredinol ar gynnal y digwyddiad. Os nad oes gennych lawer o amser i’w roi, ac nad oes arnoch eisiau ymrwymo, dyw hynny ddim yn broblem, oherwydd byddem yn ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth y gallwch ei chynnig. Eich plant chi fydd ar eu hennill, wedi’r cyfan. Gadewch inni fod yn onest – rydym ni i gyd yn ymddwyn fel plant bob hyn a hyn. Felly peidiwch ag oedi’n hwy. Dewch i ddysgu beth yw HWYL go iawn!
www.fit4funwales.com
www.fit4funwales.com
Gwnewch siapiau doniol gyda darnau o ffrwythau.
Ychwanegwch ddarnau o lysiau fel moron, puprynnau, courgettes a phlanhigion wy at eich sawsiau pasta. Bwytewch ddarnau o ffrwythau yn hytrach na byrbrydau afiach.
Cofiwch am ‘Brydau Maint Addas i Mi’ - bydd rhywun 4 oed angen llai na rhywun 10 oed
^ r (neu diod ffrwythau) hefyd. Mae Fabian hefyd yn sicrhau bod e’n yfed digon o ddw
You can learn more about Fabian at www.fit4funwales.com where he’s got loads of fun activities for you to take part in, including puzzles, colouring and jokes. Also look out for some fantastic competitions with great ‘Fit 4 Fun’ prizes up for grabs.
09
Join the Club Our Fit 4 Fun clubs run regularly throughout the year where the sporting and ‘foodie’ fun is provided on a plate – quite literally! Get in touch now for more details. Ymunwch â’r Clwb Mae ein clybiau Heini am Hwyl yn rhedeg yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r hwyl ym maes campau ac ym maes bwyd yn cael ei ddarparu ar blât – yn llythrennol! Cysylltwch â ni’n awr i gael rhagor o fanylion. Fit 4 Fun friends Our events are brought to you in partnership with some high profile and quality organisations such as The Scarlets, Dragon Sports and Hybu Cig Cymru (Meat Promotion Wales) and Llanelli AFC.
Ffrindiau Heini am Hwyl Yr ydym yn cynnal ein digwyddiadau mewn partneriaeth â chyrff amlwg o ansawdd uchel megis y Sgarlets, Campau’r Ddraig a Hybu Cig Cymru a CPD Llanelli. Where to find us… We are based in the CYCA offices at the Dewi Sant Centre, Nevill Street, Llanelli, SA15 2RS and if you would like further information about Fit 4 Fun ring 01554 757599, email fit4fun@cycaonline.org or visit our website www.fit4funwales.com, where you’ll find details on upcoming events, photos, video, games, competitions and much more!
Ble rydym ni... Ein cartref yw swyddfeydd CYCA yng Nghanolfan Dewi Sant, Nevill Street, Llanelli, SA15 2RS ac os hoffech ragor o wybodaeth am Heini am Hwyl ffoniwch 01554 757599, anfonwch e-bost at fit4fun@cycaonline.org neu ewch i’n gwefan www.fit4funwales.com, lle cewch fanylion am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, lluniau, fideos, gemau, cystadlaethau a llawer mwy!