Yn y Rhifyn Hwn Cyflwyniad
Angela Kenvyn, Rheolwr y Prosiect yn cyflwyno’n newyddlen olaf.
Cyfleoedd Gwirioneddol, Bywydau Gwirioneddol
Wrth i’r prosiect presennol ddod i ben, edrychwn ar sut rydym wedi dathlu cyflawniadau a rhannu arfer da.
Gwerthuso Cyfleoedd Gwirioneddol
Canolfan Anableddau Dysgu Cymru yn rhannu canfyddiadau o’u hastudiaeth ar adolygiadau blynyddol.
Safbwynt Rhiant
Sue Bird yn rhannu ei barn ar agwedd Cyflogaeth â Chefnogaeth y prosiect.
PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL
Mehefin 2014 Yn anffodus, dyma fydd y newyddlen olaf ar gyfer y prosiect hwn. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol bod llawer o weithgarwch y prosiect yn cael ei ariannu gan grant ESF sy’n dod i ben yn fuan. Ar adeg ysgrifennu rydym yn aros i glywed a fydd y prosiect yn cael ei ymestyn am ychydig fisoedd wrth i ni geisio sicrhau arian ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gobeithio parhau i ddiweddaru’r wefan a Facebook a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym newyddion. Nôl yn 2007, pan es i â’m cydweithwyr ati i ddechrau adeiladu’r bartneriaeth o 9 awdurdod lleol a datblygu model y prosiect, roedd gennym lawer o ddyheadau, gobeithion a breuddwydion. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl ifanc a’u teuluoedd sydd wedi cymryd rhan mor barod yn y prosiect a diolch i holl staff y prosiect am eu hymrwymiad a’u gwaith caled. Mae’r prosiect wedi’i gydnabod a’i arddangos yn fodel o arfer da gan ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes yn ogystal â chan Lywodraeth Cymru. Hebddoch chi ni fyddai’r prosiect wedi cyflawni hyn a bod mor llwyddiannus. Mae 1761 o bobl ifanc gydag anabledd dysgu neu Anhwylder Sbectrwm Awtistig wedi cymryd rhan yn y prosiect, ac mae dros 1000 o fentoriaid cymheiriaid wedi’u hyfforddi. Maent wedi cyflawni cymaint, ac wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Diolch i chi am wireddu fy mreuddwyd! Angela Kenvyn Rheolwr y Prosiect
Yn darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod yn Oedolion
CYFLEOEDD GWIRIONEDDOL
BYWYDAU GWIRIONEDDOL Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi bod yn gweithio mewn naw Awdurdod Lleol ar draws De Cymru i gefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu, anghenion dwys a chymhleth neu Anhwylder Sbectrwm Awtistig trwy’r trawsnewid i fod yn oedolyn. Mae’r prosiect wedi datblygu model blaengar a chyfannol o gefnogaeth, wedi’i deilwra’n unigol i bob person ifanc trwy feddwl a chynllunio yn seiliedig ar y person. Mae’r model yn seiliedig ar y 5 llwybr yn y trawsnewid i fod yn oedolyn:
• • • • •
Dysgu Gydol Oes Cyflogaeth Cyfleoedd Hamdden Perthnasoedd Byw’n Annibynnol.
Mae Cyfleoedd Gwirioneddol wedi cefnogi 1761 o bobl ifanc i fod yn fwy annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau lleol, Roedd pobl ifanc a mentoriaid cymheiriaid yn cynnal y byrddau am cymryd rhan mewn cyfleoedd y dydd cymdeithasol, parhau â’u haddysg a dysgu a goresgyn rhwystrau i Cynhadledd Cyfleoedd Gwirioneddol, gyflogaeth. Bywydau Gwirioneddol 2014 Mae’r prosiect wedi gweithio’n galed i werthuso’r hyn sy’n gweithio i bobl ifanc, datblygu dulliau arfer gorau a rhannu gwersi a ddysgwyd gyda gweithwyr proffesiynol, teuluoedd a phobl ifanc mor eang â phosibl. Mae pecyn cymorth o adnoddau ar gael ar ein gwefan www.realopportunities. org.uk lle gallwch ddarllen adroddiadau hefyd ar ganlyniadau Cyfleoedd Gwirioneddol, a luniwyd gan Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru.
Eleni cynhaliwyd ein 3edd gynhadledd flynyddol yng Ngwesty a Sba St. David’s yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin, o’r enw ‘Cyfleoedd Gwirioneddol, Bywydau Gwirioneddol’.
‘
Bob blwyddyn rydym wedi cynnal cynadleddau dosbarthu gwybodaeth wedi’u hanelu at weithwyr proffesiynol, rhwydweithiau rhannu gwybodaeth a chynadleddau i staff y prosiect ac wedi dathlu cyflawniadau ein pobl ifanc a’n mentoriaid cymheiriaid gyda phrofiadau preswyl, diwrnodau gweithgareddau ac eleni, ‘Parti Gwirioneddol’!
’
Diwrnod teimladwy ac ysbrydoledig iawn!
Daeth dros 100 o gynadleddwyr i’r digwyddiad a chafodd ei gefnogi gan bobl ifanc o’r prosiect a roddodd gyflwyniadau a chynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol a chynnal byrddau.
2
Cyflwynodd Joe Powell, Cyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan gyflwyniad diddorol a difyr am ei stori drawsnewid ei hun, gan nodi pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn i bobl ifanc a’u trin fel unigolion Eglurodd Helen Etherington, Uwch Seicolegydd Addysg a Phlant bwysigrwydd arfer proffesiynol seiliedig ar y person ac yna cafwyd diweddariad ar werthusiad y prosiect gan Dr Stephen Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru. Joe Powell, Cyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn Cafwyd cyflwyniad gan Ceri Leach, trafod ei drawsnewid ei hun. person ifanc o Sir Gaerfyrddin ar ei stori am hyfforddiant teithio, wedi’i gefnogi gan ei weithiwr Sgiliau Byw’n Annibynnol Derek Murphy a rheolwr tîm Sir Roedd araith annisgwyl Gaerfyrddin Anthony Maynard, a drafododd werth dysgu sgiliau byw’n annibynnol a anogodd Gary yn arbennig - yn araith annisgwyl gan riant, Gary Payne.
‘
’
crynhoi’r her i rieni a pham mae angen y prosiect hwn!
Rhoddodd Gary hanes teimladwy ei brofiad ei hun a chanmol ymdrechion y tîm Cyfleoedd Gwirioneddol, sydd wedi newid y dyfodol i’w deulu er gwell. Plant Gary Tyler (mentor cyfoedion) a Brad (un o’r cyfranogwyr prosiect) wedi rhoi araith yn gynharach yn y dydd am eu stori pontio, a sut yr oeddent wedi ddau elwa o weithio gyda thîm Sir Gaerfyrddin.
Pennaeth Cefnogaeth i Ddysgwyr yn adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ar y Diwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a dilynwyd hynny gan amrywiaeth o drafodaethau o gwmpas y bwrdd wedi’u harwain gan arbenigwyr.
Cafwyd diweddariad gan Emma Williams,
Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyniadau gan Helen Mary Jones, Prif Swyddog Gweithredol Ieuenctid Cymru a’r person ifanc Luke Hemfrey a siaradodd yn wych am Gynhwysiad Cymdeithasol. Yna cafwyd cyflwyniad ar Gyflogaeth gan Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol Cyflogaeth â Chefnogaeth Elite a’r person ifanc David Preece, sydd wedi bod mewn cyflogaeth ers dwy flynedd diolch i’r prosiect hwn.
Gary Payne, rhiant yn rhoi araith annisgwyl 3
Yn ystod y digwyddiad, cafodd y cynadleddwyr gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau o gwmpas y bwrdd, wedi’u hwyluso gan hyrwyddwyr
arbenigol. Roedd y pynciau dan sylw yn cynnwys: • Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol • Cyflogaeth • Fframwaith Ymgysylltu Ieuenctid a Chynnydd • Perthnasoedd • Fy Mywyd Fy Nghynllun • Mentoriaid Rhieni • Mentora Cymheiriaid. Mae’r cyflwyniadau o’n cynhadledd Bywydau Gwirioneddol ar gael ar ein gwefan ynghyd ag adborth o’n trafodaethau arbenigol o gwmpas y bwrdd.
‘
Mae cyflwyniadau o’n cynhadledd Bywydau Gwirioneddol ar gael ar ein gwefan ynghyd ag adborth o’n trafodaethau arbenigol o gwmpas y bwrdd. Dechreuwyd y diwrnod gyda chyflwyniadau gan y bobl ifanc Nicole Bird, Hannah Buckley a Glenn Lucas a’r siaradwr gwadd Sara Pickar o Mencap Cymru a roddodd araith ysbrydoledig am ei thrawsnewidiad ei hun i mewn i gyflogaeth lawn amser
Roedd y cyflwyniadau gan y bobl ifanc yn emosiynol ac yn feddylgar iawn. Cafwyd cipolwg da ar yr hyn sydd yn cael ei gyflawni.
Parti Gwirioneddol I ddathlu gwaith y prosiect ac i ddweud diolch a da iawn i’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan, cafwyd ‘Parti Gwirioneddol’ ym Mhafiliwn Mawr Porthcawl ym mis Ebrill eleni. Gwahoddwyd 300 o westeion i ddod ynghyd am ddiwrnod o ddathliadau hwyliog, oedd yn cynnwys gweithdai gweithgareddau, seremoni wobrwyo ac adloniant gan Jukebox Collective, a gyrhaeddodd rownd derfynol sioe dalent Got to Dance Sky1 yn 2010!
’
Yn y Parti Gwirioneddol cafodd bawb oedd yn bresennol gyfle i ddysgu am amrywiaeth o anifeiliaid a’u trin yn y ‘Nearly Wild Show’ gyda Chris. Roedd rhai yn bert, rhai yn frawychus ond roedd pob un yn ddifyr! Roedd gorsaf grefftau wedi’i chynnal gan Crafty Little Things lle y gallech ddylunio cap pêl-fas, Gorsaf Gwallt, Harddwch a
Mentor Cymheiriaid Glenn yn rhoi cyflwyniad am ei brofiad Cyfleoedd Gwirioneddol. 4
diwrnod o barti gwych! Dywedodd un Gaerfyrddin:
Cyfranogwyr y prosiect o RhCT yn derbyn eu tystysgrifau gan Claire Williams, yr athletwraig baralympaidd. Thylino i gynnig ychydig o foethusrwydd i staff a rhieni sy’n gweithio’n galed, gweithdy dawns egnïol a gynhaliwyd gan Tan Dance, a’r cyfle i ddysgu rhai sgiliau syrcas anhygoel gyda Circus Eruption. Roedd yr arbenigwr drama Michael Aubin gyda ni hefyd i gynnal gweithdy ymladd ar lwyfan, oedd yn cynnwys dysgu technegau perfformio brwydr ffug realistig.
rhiant
o
“Mae’r hyn yr ydych wedi’i wneud yn anhygoel. Mae heddiw wedi bod yn wych; mae fy merch wedi cael diwrnod arbennig. Mae’n drueni mawr i feddwl efallai na fydd y prosiect yma’n hir nawr, maen nhw wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ni”.
Diolch i’r rhai a ddarparodd weithgareddau, y diddanwyr, y lleoliad ac yn bwysicach i staff Cyfleoedd Gwirioneddol, pobl ifanc a’u teuluoedd a’u mentoriaid cymheiriaid am ddiwrnod mor arbennig. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect, yn cynnwys sut mae’n gweithio, model y prosiect a sut y gellid ei atgynhyrchu yn rhywle arall, yn ogystal â’r adnoddau am ddim sydd ar gael ar wefan Cyfleoedd Gwirioneddol yn www. realopportunities.org.uk .
Rhoddodd Claire Williams, enillydd Medal Efydd yng Ngemau Paralympaidd 2012 Dystysgrif Cyfranogiad Cyfleoedd Gwirioneddol i gyfranogwyr y prosiect a mentoriaid cymheiriaid a bag o ddanteithion i ddiolch iddynt a’u llongyfarch ar ran tîm prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol am eu gwaith caled a’u cyflawniadau arbennig yn ystod y 3 blynedd diwethaf Fe wnaeth y Mentor Cymheiriad Tyler Payne o Sir Gaerfyrddin, a enillodd Wobr Dinesydd Dewr Diana yn ddiweddar am ei gwaith gwirfoddoli rhagorol dorri’n cacen enfys Cyfleoedd Gwirioneddol. Daeth y digwyddiad i ben gyda disgo gan y DJ Darren Tipples o DJ Sound and Lighting a lwyddodd i gael pawb i ddawnsio, a sicrhau bod pawb allan o wynt ac yn barod i fynd i’r gwely ar ôl
sir
Pobl yn cael cyffwrdd â neidr yn ystod y sioe anifeiliaid. 5
GWERTHUSO
CYFLEOEDD GWIRIONEDDOL Gan Amy Davies Canolfan Anableddau Dysgu Cymru
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Canolfan Anableddau Dysgu Cymru, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael y gwaith o werthuso’r hyn weithiodd yn dda ar y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol a’r hyn na weithiodd cystal. Maen nhw wedi edrych ar sut wnaeth y prosiect helpu pobl ifanc i gael eu cynnwys yn gymdeithasol trwy addysgu sgiliau fel hyfforddiant teithio a darparu gweithgareddau fel egwyliau penwythnos yn ogystal â helpu pobl ifanc i gael mynediad i weithgareddau sy’n bodoli yn eu cymuned leol Gofynnodd y tîm ymchwil i deuluoedd am eu barn ar hyfforddiant teithio, ar brofiad gwaith a’r prosiect yn gyffredinol. Gofynnon nhw hefyd i staff Cyfleoedd Gwirioneddol beth oedden nhw’n meddwl oedd wedi gweithio’n dda yn y prosiect a pha bethau y bydden nhw’n ei wneud yn wahanol. Edrychodd y tîm ymchwil ar sut mae’r prosiect wedi helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith â thâl, trwy brentisiaethau, cyflogaeth â chefnogaeth a mentora cymheiriaid. Yn ddiweddar maen nhw wedi edrych ar sut mae’r timau Cyfleoedd Gwirioneddol wedi newid cyfarfodydd Adolygiad Blynyddol o Ddatganiad, trwy ddefnyddio Cynllunio Seiliedig ar y Person. Cawson nhw fod gan rai bothau lawer o ddylanwad mewn cyfarfodydd adolygiad blynyddol – cwrdd ymlaen llaw gyda theuluoedd a phobl ifanc, creu cynlluniau trawsnewid a chwarae rhan lawn yn y cyfarfodydd eu hunain – lle mewn rhai bothau roedd y cyfarfodydd hyn yn dal i gael eu harwain gan athrawon mewn ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau i ysgolion sy’n dweud y dylai pobl ifanc fod yn rhan o’r cyfarfodydd hyn ac ni ddylent fod am yr ysgol yn unig, ond dylent gwmpasu pob maes ym mywyd person ifanc. Cafodd y tîm ymchwil bod yr adolygiadau wedi bod yn gwella dros y pedair blynedd diwethaf – maent nawr yn cynnwys mwy o bynciau, mae mwy o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan ac maent yn well o ran defnyddio iaith hawdd a chynnwys lluniau. Cafodd gwaith papur yr adolygiad ei sgorio ar yr holl bethau hyn a hefyd nifer y nodau a osodwyd yn y cynllun gweithredu. Roedd y sgoriau cyfartalog ar gyfer pob blwyddyn yn edrych fel hyn:
2010-2011
2011-2012
2012-2013
2013-2014
18.96
30.85
31.83
35.32
Isafswm
4
4
5
4
Uchafswm
42
60
69
66
Cyfartaledd
Fel y gallwch weld, mae’r adolygiadau wedi gwella llawer ers 2010-2011. Maent hefyd yn well o ran cynnwys mwy o bynciau, ac mae’r graff isod yn dangos pa bethau a drafodwyd yn yr adolygiadau. Roedd y cyfarfodydd adolygu nawr yn well o lawer o ran siarad am weithgareddau cymunedol a pherthnasoedd. Fodd bynnag, nid oedd llawer o drafod ynghylch swyddi gyda’r hwyr, swyddi â thâl 6
g le
l
Co
go
Ys
Ta i
lia u n as Pr o o Sw fiad edd yd G w di gy aith d Sw a’r No yd s di Bu â Th dd âl -d al ia da u Ta Ie ch lia da yd u Un ig ol rth
Sg i Pe
Cy
m un
ed
neu fudd-daliadau. Gallai hyn fod oherwydd nid yw staff o asiantaethau Cyflogaeth â Chefnogaeth yn mynd i’r cyfarfodydd felly gallai hyn fod yn rhywbeth fyddai’n ddefnyddiol yn y dyfodol. Gwelson ni lle roedd staff Bothau yn cael llawer o fewnbwn i mewn i’r cyfarfodydd adolygu, trafodwyd pynciau fel profiad gwaith, gweithgareddau cymunedol, iechyd a thai yn llawer amlach.
Roedd yr adolygiadau oedd yn cynnwys help gan staff Bothau hefyd yn gosod llawer mwy o nodau yn adran cynllun gweithredu’r cyfarfod, yn enwedig mewn addysg, iechyd a sgiliau. Roedd staff Bothau hefyd yn llawer mwy tebygol i ddilyn i fyny ar nodau a osodwyd. Bydd adolygiadau blynyddol yn newid cyn hir a bydd pob ysgol yn defnyddio Cynllun Datblygu Unigol yn lle. Caiff hwn ei greu yn defnyddio offer PCP a bydd yn disodli’r holl gynlluniau gwahanol sydd gan bobl ifanc nawr, fel y bydd pob peth sy’n bwysig iddynt mewn un cynllun. Mae un o’r Bothau yn defnyddio Cynlluniau Datblygu Unigol yn barod felly edrychon ni ar a oedd y rhain yn well na’r hen ffyrdd o wneud adolygiadau. Cawson ni fod cyfarfodydd yn defnyddio’r Cynlluniau Datblygu unigol yn well o ran safon ac yn llai tebygol o gynnwys addysg yn unig. Fel rhan o werthusiad y prosiect, mae Canolfan Anableddau Dysgu Cymru hefyd wedi cynnal astudiaeth 3 blynedd ar yr effaith mae profiad gwaith â chefnogaeth yn ei chael ar bobl ifanc ag anableddau deallusol, eu teuluoedd a’u cyflogwyr. Yn yr astudiaeth hon aeth y Ganolfan ati i sefydlu effaith y timau profiad gwaith a chyflogaeth Cyfleoedd Gwirioneddol a reolir gan Elite, Mencap, Remploy a’r gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, trwy ddisgrifio’r lleoliadau a ddarperir, unrhyw newid yn sgiliau’r bobl ifanc, a’r ymateb i leoliadau gan gyflogwyr, y bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r llenyddiaeth ymchwil yn awgrymu bod y model cyflogaeth â chefnogaeth, gyda chefnogaeth gan gynorthwyydd swydd ar gael yn y gweithle, yn allweddol o ran pobl ag anableddau dysgu yn cael cyflogaeth â thâl. Mae hefyd yn awgrymu bod cael profiad o swyddi tra yn yr ysgol yn rhagfynegydd pwysig o lwyddiant mewn cyflogaeth fel oedolyn, a bod cefnogaeth gan gynorthwyydd swydd yn bwysig mewn perthynas â chynnig lleoliadau gwaith tra mewn addysg. Mewn ymateb i gwestiynau am effaith y lleoliad profiad gwaith ar eu cwmni, cafwyd sylwadau positif ar y cyfan gan gyflogwyr ynghylch yr effaith ar staff, delwedd eu cwmni a chwsmeriaid. Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod y lleoliadau gwaith wedi’u derbyn yn dda a’u bod yn fuddiol mewn ffyrdd mwy cyffredinol i’r cwmni yn ogystal ag i’r person ifanc. Mae’r adroddiad gwerthuso llawn ar gael i’w lawrlwytho o wefan ein prosiect www.realopportunities. org.uk/news 7
SAFBWYNT
RHIANT
Mae gwaith y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi bod yn hollbwysig i lawer o deuluoedd dros y 3 blynedd diwethaf. Mae’r cyfleoedd sydd wedi bod ar gael i bobl ifanc wedi’u galluogi i ddatblygu’n bersonol a chodi eu dyheadau ar gyfer dyfodol gwell. Gofynnodd Asiantaeth Cyflogaeth â Chefnogaeth Elite, un o’r asiantaethau Cyflogaeth â Chyflogaeth a gontractiwyd i weithio gyda Chyfleoedd Gwirioneddol i Sue Bird, mam cyfranogwr y prosiect Nicole, sut yr oedd hi’n teimlo am y gwasanaethau a gynigiwyd i’w merch.
hi dros yr ofn hwn A ydych yn credu bod Nicole wedi derbyn y lefel briodol o gefnogaeth tra roedd hi ar ei lleoliad? Roedd lefel y gefnogaeth dderbyniodd Nicole ar bob cam o’i phrofiad gwaith yn eithriadol bob tro. Roedd y gweithwyr cefnogi yn gweithio ar gyflymdra addas i Nicole ac roedd yr anogaeth a gafodd yn golygu bod ei hannibyniaeth wedi cynyddu ac o ganlyniad mae hi’n fwy hyderus
Beth oedd eich teimladau/ofnau am Nicole yn cwblhau Profiad Gwaith cyn iddi ddechrau gweithio gydag Elite ar y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol? Roedd Nicole a minnau yn llawn cyffro i gael y cyfle i gymryd rhan mewn profiad gwaith trwy Elite. Roedd y ddwy ohonom yn teimlo ei bod yn ffordd ddelfrydol i Nicole brofi amgylchedd gwaith yn uniongyrchol. Roedd y gefnogaeth ychwanegol yn rhoi cyfle i Nicole gynyddu’i hyder mewn amgylchedd diogel.
Sut wnaeth Nicole elwa o’r profiad gwaith? Fe wnaeth Nicole elwa mewn sawl ffordd yn cynnwys cynnydd yn ei hyder a’i gallu. Cynyddodd ei sgiliau cymdeithasol hefyd, rheoli amser a threfnu. A yw eich teimladau/ofnau wedi newid ers i Nicole gwblhau ei phrofiad gwaith?
A oeddech chi’n hapus â’r cyfathrebu a’r gefnogaeth a gawsoch chi a Nicole wrth drafod y posibilrwydd o brofiad gwaith?
Roedd y profiad yn un positif iawn ac rwy’ nawr yn dyheu am fod y gwasanaeth hwn ar gael am gyfnod hwy o leoliad.
Cefais i a Nicole brofiad da o ran cyfathrebu a chefnogaeth. Roedd hyn wedi’n galluogi i wneud penderfyniad gwybodus am gymryd rhan mewn profiad gwaith.
Pa mor bwysig ydyw yn eich barn chi i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol allu cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gwblhau profiad gwaith a dysgu am waith?
A ydych yn credu bod Elite wedi llwyddo i drefnu profiad gwaith yr oedd Nicole yn ei ddymuno ac yn hapus ag ef?
Mae’n hanfodol bod pobl ifanc ag anghenion arbennig yn derbyn cefnogaeth i gwblhau’r profiad gwaith gan rwy’n credu na fyddai Nicole wedi ffynnu yn y ffordd a wnaeth hebddo.
Roedd Nicole wedi gwireddu ei breuddwyd o weithio gyda cheffylau tra ar brofiad gwaith. Mae ofn ieir arni a phan roedd ar leoliad daeth
Am fwy o wybodaeth am Gyfleoedd Gwirioneddol, ewch i wefan ein prosiect yn www. realopportunities.org.uk neu cysylltwch ag Angela Kenvyn, Rheolwr Prosiect ar 01443 814447 neu yn kenvya@caerphilly.gov.uk 8