Y Gymraeg: Iaith i’r Gymru Annibynnol Mynnu dyfodol i’r Gymraeg – dyma un o brif freintiau Plaid Cymru ers ei sefydlu. Wrth edrych ymlaen tuag at greu Cymru annibynnol gyda’n gilydd, mae angen cynllunio manwl i sicrhau y bydd y Gymraeg yn gyfrwng annatod o’r Gymru honno - yn iaith y bydd pobl yn ei defnyddio yn holl beuoedd bywyd. Hanner can mlynedd yn ôl, dywedodd Saunders Lewis yn ei araith pellgyrhaeddol ‘Tynged yr Iaith’ na fyddai dyfodol i’r iaith Gymraeg pe ennillwyd rhyddid cenedlaethol cyn rhyddid ieithyddol. Ei bryder oedd y gellid ymylu’r iaith Gymraeg pe bae materion cyfansoddiadol yn dod yn fwy pwysig na brwydr yr iaith Gymraeg. Er bod newidiadau cyfansoddiadol mawr wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, nid yw sefyllfa’r Gymraeg wedi cryfhau fel ag y byddem wedi ei ddymuno. Rhennir pryder yn dawel bach y gallai’r Gymraeg fod yn iaith symbolaidd yn unig yn y dyfodol, yn hytrach na datblygu i fod yn iaith weithredol ym mhob haen o gymdeithas. Dyma fyddai hunllef yng Nghymru fydd i Blaid Cymru. Ni fydd Cymru yn rhydd hyd nes bod ei hiaith yn rhydd hefyd – ‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’. Un frwydr yw ein hymgyrch dros annibyniaeth a dros y Gymraeg – ni ellir gwahanu’r ddwy. Bydd hi’n daith heriol ond yn daith gyffrous hefyd, oherwydd bod i bawb yng Nghymru eu cyfraniad. Y mae’r Gymraeg yn etifeddiaeth gyffredin i ni oll. Dim ond mewn Cymru annibynnol y caniateir yr amodau gorau ar gyfer ffyniant y Gymraeg oherwydd mae ni fydd yn pennu’r amodau cymdeithasol hynny, nid mympwy y sawl sy’n gwasanaethu Prydain. Dyna pam na ellir gwahanu ymdaith iaith a chenedl. Nid yw’r iaith Gymraeg yn dal Cymru yn ôl – yn wir, mae’n rhan ganolog o ystyr a phwrpas ennill gwir annibyniaeth. Rhaid i ni fod yn hollol glir ein bod am weld Cymru annibynnol lle mae defnydd o’r Gymraeg ynddi yr un mor naturiol a normal â defnydd o’r Saesneg. Er mwyn iddi gyrraedd y sefyllfa honno dylem fynd ati i gynllunio sut gall y Gymraeg ddod yn rhan sylfaenol o fywyd pob dydd. Nid opsiwn ychwanegol ar gyfer lleiafrif fydd dyfodol y Gymraeg, ond cyfrwng ar gyfer bob gweithgarwch yng Nghymru. Wrth i ni adfywio’r economi, rhaid adfywio’r Gymraeg law yn llaw â hynny. Wrth i ni gynllunio dyfodol gwyrdd trwy ddatblygu ynni cynaliadwy, rhaid i gynaliadwyedd a dyfodol y Gymraeg fynd law yn llaw a’i gilydd. Mynnwn greu cymunedau hyfyw, gyda’r Gymraeg yn greiddiol i fywyd y cymunedau hynny. Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Gweithiodd Plaid Cymru yn galed i ddangos nad yw’r iaith yn rhywbeth caeedig, ond y gellir dysgu’r iaith neu ei thrysori er mwyn meithrin gwlad mwy cydradd a mwy goddefgar. Dyna un rheswm o nifer pam fod cynifer o rieni, fel fi, yn dewis gyrru ein plant, yn aml mewn amgylchiadau heriol, i ysgol Gymraeg – i wneud y mwyaf o’r cyfle nas rhoddwyd i ni. Nid mater i élite neu i leiafrif yw hyn. Nid yw’r Gymraeg yn rhywbeth i’w thrin fel “problem” a’i gosod mewn bocs ar ei phen ei hun ‘chwaith. Wedi’r cyfan, penderfyniadau bwriadol llywodraeth ac awdurdod a arweiniodd at genedlaethau’n penderfynu mae “gwell” fyddai peidio â throsglwyddo’r iaith i blant ac rydw i, fel cynifer yn y Gymru gyfoes, yn un o’r sawl a gollodd y Gymraeg yn sgil strategaeth bwriadus i eithrio a sathru’r Gymraeg fel iaith Cymru. O dderbyn na ddylai’r Gymraeg gael ei hynysu ac fod yr ateb i’w thwf a’i ffyniant yn y dyfodol yn gorwedd yn llorweddol ar draws sawl maes polisi, mae’n rhaid cynnig atebion
sy’n ymwneud â chryfhau’r economi, darparu tai fforddiadwy, creu cymunedau hyfyw, cynnig gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg. Mae gen i hawl i’r Gymraeg ac mae gan Gymry Cymraeg hawl i ddisgwyl y bydd eu hiaith yn cael ei pharchu a’i hannog. Rydym yn byw mewn cymdeithas war ble caiff amrywiaeth o bob math ei ddathlu a’i hyrwyddo a ble rydym yn ymwrthod â rhagfarn ar sail yr elfennau hynny o amrywiaeth gymdeithasol (boed yn hil neu grefydd neu rywioldeb neu anabledd) a oedd unwaith yn cael ei ystyried yn dderbyniol. Onid yw hi’n amser hefyd felly i ni weld y Gymraeg o fewn yr un prism? Hynny yw, onid oes gan siaradwyr Cymraeg hawl i ddisgwyl gwasanaethau wedi eu darparu’n Gymraeg heb orfod cael eu gorfodi i wneud ffws a sioe a mynnu gwasanaeth Cymraeg? Onid yw hi’n syndod fod cyn lleied yn gofyn am filiau Cymraeg pan nad ydynt ar gael yn awtomatig ac fod angen mynnu’r hawl i’r gwasanaeth hwnnw heb ei fod ar gael yn ddi-ofyn? Os magwn olwg mwy holistaidd o sefyllfa’r iaith Gymraeg, gellid mynd i’r afael â defnydd iaith drwy gydol oes. Ar lefel yr unigolyn, cymuned ddaearyddol, gwaith, addysg, cymuned ddigidol rhaid pweru pobl i fedru defnyddio’r Gymraeg a magu cyfrifoldeb i ddewis byw trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai ein blaenoriaethau gynnwys ymchwil darbodus i alluogi cynllunwyr iaith a pholisi i wneud y penderfyniadau gorau dros y Gymraeg – penderfyniadau nad ydynt yn gweithio yn erbyn ffynniant iaith. Mae angen buddsoddi mewn ymchwil felly fel ein bod yn gwybod sut i fuddsoddi yn y Gymraeg a beth fydd yn cael y dylanwad mwyaf ar natur ieithyddol gwahanol rannau o Gymru. Mynd i’r afael ag allfudiad Rhaid cydnabod bod canlyniadau’r cyfrifiad yn mynd i fod yn destun dathlu ac yn destun pryder yr un pryd. Dathlu oherwydd y modd yr ydym gyda’n gilydd wedi llwyddo i greu dyfodol i’r Gymraeg a’i gwneud yn berthnasol i Gymru’r unfed ganrif ar hugain. Ond ar y llaw arall, bydd y cyfrifiad yn destun pryder oherwydd y cwymp yn nifer y cymunedau Cymraeg lle mae’r Gymraeg yn briod iaith y gymuned honno. Dyna pam mae angen cynllunio ar fyrder i sicrhau nad oes cwymp pellach. Rhaid cydnabod mai y prif ffactor dros allfudiad o’n bröydd Cymraeg yw problemau economaidd sy’n milwrio yn erbyn pobl i aros yn eu cymunedau, ac yn sgil hynny, y Gymraeg. Dylid mynd ati i gynllunio yn ôl anghenion y gymuned a chryfhau economi trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ddadansoddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg o drosiant blynyddol siaradwyr Cymraeg:
Yn bresennol rydym yn gwneud colled o 3,000 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn. Nid yw hyn yn gynaliadwy. Mae nifer o ffactorau yn cyfrannu tuag at allfudiad, ond un o’r ffactorau y gallwn fynd ati i’w newid yw amodau’r economi. Drwy gynllunio i greu economi sy’n cryfhau ein cymunedau, gallwn ddylanwadu ar lefelau allfudiad. Yn benodol, rhaid cyplysu polisi cefnogi’r Gymraeg gyda pholisi hyfforddiant ac adfywio economaidd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg. Yn hanesyddol mae siaradwyr Cymraeg wedi bodoli fel cymuned ieithyddol a chymuned ddiwylliannol. Yn anffodus nid yw hyn yn ei hun yn ddigon i sicrhau dyfodol cynaliadwy. Gwaith a pherchnogaeth dros adnoddau naturiol sydd yn hoelio pobl i ddarn o dir. Mae’r twf mewn addysg Gymraeg yn destun llawenydd gan mai hyn sydd yn arwain at greu cenhedlaeth newydd o bobl sydd â’r gallu i siarad Cymraeg. Ond ffactorau eraill fydd yn dylanwadu ar eu dewis iaith o ddydd i ddydd mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae arnon ni ddyled i’r unigolion a’r mudiadau hynny sydd yn creu cyfleoedd hamddena a chymdeithasu trwy’ Gymraeg ac yn cyfoethogi ein diwylliant. Ond heb waith, heb berchnogaeth dros ein hadnoddau naturiol, a heb gymunedau byw a byrlymus ‘does dim gwreiddiau i gynnig dyfodol cynaliadwy. Heb fodoli fel cymuned economaidd, bydd y gymuned honno yn colli pobl o bob cenhedlaeth. Gwendid economaidd sydd yn gyrru allfudo. Wrth i genhedlaeth o bobl ifanc (yn bennaf) gilio o’n cymunedau Cymraeg, bydd llai o gymhelliad gan bobl sydd yn symud i mewn i ddysgu’r iaith a chymhathu i’r diwylliant lleol.
Yn ei hanfod, mae’r Gymraeg yn cael ei effeithio’n negyddol, fel sawl agwedd arall o fywyd, gan ddiffyg grym economaidd lleol a pherchnogaeth o adnoddau lleol. Hyd yn hyn fe welwyd brwydr y Gymraeg fel cyfrifoldeb y gyfundrefn addysg a rhwydweithiau gwirfoddol, ynghyd â brwydr i sefydlu hawliau a gwasanaethau. Rhaid i hyn newid.. Rhaid i ystyriaethau ieithyddol ddod yn ganolog mewn polisïau economaidd, strategaethau cynllunio, polisïau tai a chreu gwaith. Yn gryno, diffyg statws hanesyddol y Gymraeg a diffyg perchnogaeth pobl Cymru dros ei hadnoddau sydd wedi arwain at ymylu'r Gymraeg o fod yn brif iaith Cymru i fod yn iaith leiafrifol. Yn ei hanfod problem diffyg grym economaidd lleol a pherchnogaeth adnoddau lleol yw un y Gymraeg a Chymru. Credwn fod gan unrhyw strategaeth genedlaethol le i ddylanwadu ar y ffactorau uchod. Eisoes mae elfennau o’r strategaeth bresennol yn dechrau mynd i’r afael gyda ffactorau o fewn y diagram uchod e.e. •
Y nifer o blant sydd yn dysgu Cymraeg trwy addysg cyfrwng Cymraeg.
•
Y defnydd o’r Gymraeg a wna rhieni wrth siarad â phlant a phobl ifanc yn y teulu trwy gynlluniau fel TWF
•
Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau anffurfiol trwy weithgaredd y digwyddiadau a noddir gan Y Mentrau Iaith, Yr Urdd ayyb
Mae hyn yn waith pwysig, ond yn annigonol. Rhaid i unrhyw strategaeth newydd roi sylw penodol i werth economaidd y Gymraeg, ei defnydd yn y gweithle a’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ynghlwm wrthi. Y Ffordd Ymlaen Os caf fy ethol yn arweinydd Plaid Cymru, byddaf yn sefydlu grŵp i adrodd nôl o fewn 6 mis i drafod y polisïau sydd eu hangen i adfywio cymunedau iaith Gymraeg. Bydd y grŵp yn ymgynghori ar y syniadau canlynol ac ar bolisïau all fynd i’r afael â sefyllfa’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol ar draws Cymru. 1. Marchnad Llafur Gymraeg 2. Ehangu gwaith y mentrau iaith i fod yn fentrau cymunedol 3. Trefn Gynllunio Gynaliadwy ac atal gor-ddatblygu 4. Y Gymraeg yn iaith weinyddol cynghorau sir 5. Diwydiant digidol drwy gyfrwng y Gymraeg - sicrhau bod cymunedau ar draws y wlad yn elwa o'r buddsoddiad 6. Buddsoddi mewn dysgwyr 7. Creu ‘melin drafod’ dros y Gymraeg er budd ymchwil
Os oes gennym ni’r weledigaeth, mae dyfodol cynaliadwy i’r Gymraeg o fewn ein cyrraedd. Marchnad Llafur Gymraeg Mae rôl y Gymraeg yn ein cymunedau yn cael ei effeithio’n fawr gan symudoledd y boblogaeth – allfudo yn ogystal â mewnfudo. Drwy greu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg cydnabyddedig, gallwn ddylanwadu ar y ffactorau yma’n adeiladol. Gallai’r cynllun hwn lenwi’r bwlch sydd yn y stratgaeth iaith bresennol drwy fynd i’r afael â’r ffactorau economaidd sy’n dylanwadu ar y Gymraeg. Yn sylfaenol gwneir hyn drwy: •
gydweithio gyda chyrff ac asiantaethau presennol i fapio’r galw a’r cyfleoedd hyfforddiant presennol er mwyn sicrhau fod swyddi lle mae angen siaradwyr Cymraeg yn cael eu llenwi.
•
adnabod cyfleoedd cyflogaeth yn y meysydd sydd ddim yn cael eu hadnabod gan siaradwyr Cymraeg, ond sydd yn hanfodol neu efo potensial enfawr i economi’r ardal e.e. diwydiant awyr agored, egni gwyrdd, twristiaeth, diwydiant digidol, cadwraeth, yr heddlu, gwasanaeth iechyd.
•
adnabod lle mae yna ddiffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn maes a'u datblygu, e.e. gofal plant, cyfieithu, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr iechyd, yr heddlu.
•
codi cymhwysedd y Mentrau Iaith a phartneriaid eraill i fedru sefydlu mentrau cymdeithasol a chydweithredol i ymateb i’r anghenion yma.
Gallai cynllunio pwrpasol olygu bod swyddi Cymraeg yn cael eu creu, ac yn hynny o beth rhaid ystyried lleoliadau cyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â’r Gymraeg, megis S4C. Rhaid ystyried ehangu gwaith y mentrau iaith i fynd i’r afael a’r cyswllt rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg. Yn hynny o beth, gellir ystyried syniadau cydweithredol megis y rhai yn y ddogfen ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ fel posibiliadau ar gyfer mentrau cymdeithasol a allai esblygu neu gael eu sbarduno gan Fentrau Iaith. Mae rôl penodol yn y meysydd hyn gan y gyfundrefn Addysg Bellach. Tra bod cynnydd sylweddol wedi bod yng ngallu disgyblion i ddilyn cyrsiau addysg trwy’r Gymraeg o fewn ysgolion, a thra bo’r Coleg Cymraeg newydd yn cynnig cynnydd yn y ddarpariaeth o fewn ein prifysgolion, erys y sector addysg bellach – sydd a’i ffocws ar hyfforddiant galwedigaethol – yn sector sydd wedi methu bron yn llwyr yn ei chyfrifoldeb at y Gymraeg ac sydd wedi methu â sylweddoli gwerth y Gymraeg i’w cenhadaeth addysgol ac economaidd. Dyma faes lle mae angen cynnydd buan a brys. Myfyrwyr sydd yn dilyn cyrsiau yn y sector addysg bellach yw’r sawl sydd fwyaf tebygol i aros yn eu cymunedau ar ôl cymhwyso. Maent yn llai symudol na’u cyfoedion sydd yn mynd i brifysgolion i ddilyn cyrsiau mwy academaidd. Gall symudiad i feithrin hyder a hyfrededd yn eu defnydd o’r Gymraeg o fewn y sector hon weddnewid y defnydd o’r Gymraeg o fewn y gweithle ac o fewn busnesau bychain lleol ar hyd a lled y wlad. Gallai Marchnad Llafur Gymraeg roi golwg mwy holistaidd a chyflawn ar unrhyw gynllunio ieithyddol. Byddai strategaeth gyflawn yn cynnwys allbynnau economaidd ffafriol:
•
Galluogi ac annog unigolion sydd yn derbyn addysg Gymraeg i gael swyddi lle maent yn defnyddio’u Cymraeg ar ôl gadael addysg.
•
Cynyddu sgiliau ieithyddol newydd ymhlith y gweithlu.
•
Cryfhau cymunedau a rhwydweithiau cyfrwng Cymraeg ar draws y wlad.
•
Gwneud y Mentrau Iaith a’u phartneriaid yn fwy cynaliadwy trwy ddatblygu mentrau cymdeithasol.
•
Cryfhau gwasanethau cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector.
•
Gwneud y Gymraeg yn sbardun economaidd.
Trefn Cynllunio Cynaliadwy Os yw creu a chynnal swyddi’n hanfodol, yna mae sicrhau cyflenwad o dai fforddiadwy yn gwbl greiddiol hefyd. Yn anffodus mae unrhyw strategaeth genedlaethol o safbwynt yr iaith Gymraeg a chreu cymunedau hyfyw yn cael ei thanseilio gan y broses gynllunio bresennol ble nad oes digon o ystyriaeth, os o gwbl, i ddylanwad ceisiadau cynllunio ar broffil ac ar gynllunio ieithyddol. Mae’r ffigyrau twf poblogaeth yn creu mewnlifiad anghynaladwy i rai ardaloedd sydd yn tanseilio cymunedau. Mae’n rhaid felly blaenori anghenion lleol a nid hapfasnachwyr a buddsoddiad datblygwyr preifat sydd yn blaenori elw dros fudd cymdeithasol drwy sicrhau cyflenwad digonol o anheddau (a hynny yn y sector prynu ac yn y sector rhentu). Ystyriaeth arall yw codi Treth Cyngor ar raddfa uwch ar ail dai er mwyn ceisio annog cynnydd yn nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael, yn enwedig felly i bobl ifanc. Atal gor-ddatblygu Tra’n bod eisoes yn gyfarwydd â phroblem diffyg tai fforddiadwy yn ein cymunedau sy’n analluogi pobl ifanc, yn enwedig, i aros yn eu milltir sgwâr i weithio, y mae hefyd broblem ddifrifol o safbwynt gor-ddatblygu tai mewn ardaloedd sy’n cyflenwi trefi a dinasoedd dros y ffin yn Lloegr. Nid pwrpas cynllunio a datblygu strategaeth tai fforddiadwy ydyw galluogi i Gynghorau Sir a phartneriaethau traws-ffiniol i annog mewnfudo pellach i Gymru o’r dinasoedd hynny. Ni fyddai hynny’n gynaliadwy ac fe fyddai’n gwneud cam â’r sawl sydd yn dymuno gweld llywodraeth Cymru, a Chynghorau Sir Cymru, yn canolbwyntio ar ddarparu ac annog cyflenwad o dai fforddiadwy (ym mha bynnag sector) fel y cynlluniau arloesol hynny a weithredwyd gan Blaid Cymru tra mewn llywodraeth yng nghyfnod Cymru’n Un. Cyfrifoldeb y Llywodraeth ar gyfer Cynllunio Ieithyddol Wrth i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gael ei diddymu ar Fawrth 31 eleni, daw cyfundrefn a deddfwriaeth newydd i fodolaeth. Mae rôl newydd Comisiynydd y Gymraeg yn un heriol a pwerus, ac edrychaf ymlaen at weld yr effaith cadarnhaol bydd y rôl honno yn ei chael ar y
defnydd o’r Gymraeg gan gyrff cyhoeddus a phreifat, ac ar allu pobl Cymru i ddefnyddio’r hawliau sydd yn dod yn sgil sefydlu’r Gymraeg fel iaith swyddogol. Mae llawer iawn o swyddogaethau blaenorol Bwrdd yr Iaith yn trosglwyddo i’r Comisiynydd fel sail iddi weithredu’r ystod o bwerau newydd. Ond mae talp helaeth iawn o gyfrifoldebau’r Bwrdd yn awr yn trosglwyddo’n uniongyrchol i’r Llywodraeth. Cyfrifoldeb y Gweinidog a’i weision sifil bydd llawer o’r maes cynllunio ieithyddol – gan gynnwys cyfrifoldeb am Fentrau Iaith, datblygu cymunedol, dosrannu grantiau i hybu a datblygu’r Gymraeg, hyrwyddo’r iaith o fewn addysg, a llawer iawn o feysydd eraill sydd yn galw am greadigrwydd, arloesi, gweledigaeth a momentwm. Mae sicrhau atebolrwydd democrataidd ar gyfer y gwaith hwn yn agor cyfnod newydd yn ein hanes, a bydd Plaid Cymru o dan fy arweiniad i yn herio’r llywodraeth yn gyson i weld bod y tasgau cwbl allweddol hyn yn cael eu cyflawni mewn modd sydd yn cydnabod anghenion brys y Gymraeg a’n cymunedau yn ogystal â sicrhau bod cynllunio ieithyddol tymor hir yn digwydd. Un o ddadleuon y Llywodraeth wrth iddi gymryd y pwerau newydd hyn oedd y ffordd y bydd hyn yn hwyluso’r gwaith o brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws pob sector o waith y Llywodraeth. Bydd cyflawni hyn yn galw am gryn newid yng ngallu’r Llywodraeth i lywio dyfodol yr iaith, ac mae’n her aruthrol i adrannau helaeth o’r gwasanaeth sifil sydd ar y gorau yn llugoer tuag at yr iaith – ac mewn rhai mannu’n weithredol elyniaethus. Ond mae hyn yn gyfnod newydd. Byddwn yn ymdrechu i weithio’n gadarnhaol gyda’r datblygiad hwn – er na fyddwn yn oedi lle mae angen beirniadu, procio a herio. Y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth mewnol cynghorau sir - Môn, Ceredigion, Sir Gâr Pennaf bwrpas Cynghorau Sir Cymru yw i wasanaethu trigolion lleol ac i ddarparu amrywiol wasanaethau cyhoeddus. Ble mae’r ddarpariaeth yn aml yn methu, o safbwynt y Gymraeg, yw yn narpariaeth gwasanaethau ble nad oes digon o weithwyr sydd yn siarad Cymraeg yn cael eu cyflogi. Mae hyn, o raid, yn effeithio ar effeithlonrwydd y gwasanaeth dan sylw ac yn golygu fod siaradwyr Cymraeg yn cael bargen wael. Dan arweiniad Plaid Cymru, y mae Cyngor Sir Gwynedd wedi dangos y ffordd, a gosod esiampl i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, trwy weinyddu gwaith yr Awdurdod yn y Gymraeg. Nid yn unig y mae hyn yn llesol o safbwynt y dinesydd yng Ngwynedd ond y mae hyn hefyd, wrth gwrs, yn creu cyfleoedd swyddi i Gymry Cymraeg ac i’r sawl sy’n barod i ddysgu Gymraeg ac hefyd yn darparu gwasanaethu i unigolion a chymunedau yn eu Mamiaith ac yn y Saesneg. Gyda’r fath ewyllys a dyfalbarhad gwleidyddol, gellir efelychu’r esiampl cwbl ymarferol yma o gynllunio economaidd wedi ei gyplysu â chynllunio ieithyddol mewn ardaloedd eraill o Gymru. Deil sawl Cyngor Sir i’r meddwl wrth ystyried ymarferoldeb y cam yma a byddai’n gwbl resymol disgwyl i Gynghorau Sir Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr efelychu yr hyn sydd bellach wedi datblygu i fod yn norm yng Ngwynedd, sef gweinyddu cyfrwng Cymraeg. Diwydiant Digidol cyfrwng Cymraeg Mae’r Llywodraeth bresennol yn San Steffan eisoes wedi profi ei hun yn gwbl analluog i ddiogelu buddiannau Cymru a’r Gymraeg ym maes darlledu. Dyma faes sydd ag effaith uniongyrchol a dwfn ar y Gymraeg ac ar ymwybyddiaeth o Gymreictod. Rhaid pwyso i ddatganoli grym dros ein holl gyfryngau darlledu i Gymru fel mater o flaenoriaeth.
Tra bod y cyfryngau wedi datblygu ar ras wyllt dros y ddegawd diwethaf, nid oes buddsoddiad digonol wedi digwydd i sicrhau bod datblygiadau tebyg yn y Gymraeg. Mae pryderon mawr ynghylch lle’r Gymraeg ar radio lleol wrth i drwyddedau gael eu rhoi heb amodau ieithyddol. Mae angen cyllid a darpariaeth well i gyfryngau Cymraeg a sicrhau bod cymunedau Cymraeg ar draws y wlad yn elwa o'r buddsoddiad. Dylem gefnogi mentrau lleol sydd am greu eu cyfryngau eu hunain. Dylid hefyd adolygu dosraniad daearyddol buddsoddiadau yn y cyfryngau, e.e. lleoliad pencadlys S4C, er mwyn osgoi gor-ganoli ein hadnoddau. Fel yn achos y diwydiant teledu, mae angen i’r Gymraeg feddiannu y diwydiant digidol. Mae cyfle mawr i Gymru yn y diwydiant digidol a rhaid i’r Gymraeg fod yn gyfrwng i’r diwydiant yng Nghymru, fel y bu yn achos teledu. Gellir cymryd camau i’r cyfeiriad hwn drwy: •
Godi sgiliau digidol Cymru drwy’r mentrau iaith/cymunedol
•
Sicrhau fod comisiynau digidol gan y sector cyhoeddus yn aros yng Nghymru, nid fel achos comisiynu busnes i greu parth i Gymru (.cym)
•
Cynyddu argaeledd meddalwedd cod agored
•
Hybu busnesau newydd digidol drwy gynnal cyfarfodydd traws-ddisgyblaethol er mwyn annog arloesedd a chreadigrwydd
Melin Drafod dros y Gymraeg Rhaid cydnabod bod gwaith rhagorol yn cael ei wneud eisoes gan nifer o gynllunwyr iaith ynghylch sut i wthio agenda yr iaith Gymraeg yn ei blaen, ac rwyf yn awyddus i gryfhau y ddeialog honno. Mae diffyg ymchwil ynghylch defnydd a natur iaith mewn gwahanol ardaloedd o Gymru yn anfantais wrth gynllunio dyfodol yr iaith Gymraeg ar hyn o bryd. Fel y soniwyd eisoes, heb wybod sut y defnyddia pobl y Gymraeg yn eu bywyd o ddydd i ddydd a sut y syniant ynghylch y syniad o ‘gymuned’ ni ellir gwneud y penderfyniadau gorau ynghylch buddsoddi yn y Gymraeg. Er mwyn cefnogi’r cyd-destun presennol o gynllunio iaith llwyddiannus, felly, dylid sefydlu Think Tank dros y Gymraeg a fyddai’n rhagori mewn ymchwil am y Gymraeg ac yn meithrin arbenigaeth mewn adfer iaith. Bydd cyfraniad grŵp o’r fath nid yn unig yn werthfawr yng Nghymru ond gallent gynnig eu gwasanaeth a’u profiad yn rhyngwladol mewn rhanbarthau/cenhedloedderaill lle mae iaith dan fygythiad. Buddsoddi mewn dysgwyr Ni ellir cynyddu y nifer o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg heb fod pobl yn dysgu’r Gymraeg. Ar hyn o bryd, nid oes digon o bobl yn cyrraedd rhuglder yn y Gymraeg ac nid yw’n deg disgwyl y bydd hyn yn digwydd heb llawer mwy o fuddsoddiad a chefnogaeth i’r dysgwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed i ddysgu’r Gymraeg i bobl ar draws Cymru. Mae’n fater o frys oherwydd bydd gan dysgwyr y Gymraeg lawer i gyfrannu er mwyn sicrhau llwyddiant y Gymraeg ym mhob sector.
Diweddglo Mae gan Gymru iaith i’w thrysori a’i dathlu. Boed i ni fel plaid ddangos y bydd y Gymraeg yn rhan gyfannol o’r Gymru annibynnol trwy ei gosod yng nghanol y drafodaeth ynghylch y daith tuag at gwir rhyddid i Gymru.