![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/77a57573a42609fd83067efe179bc01b.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
1 minute read
Phil Mostert
Llais 70c Ardudwy
RHIF 519 - EBRILL 2022 LLWYDDIANT TRIATHLON HARLECH
Advertisement
Llun:Always Aim High Events Mae Triathlon Harlech yn un o’r rasys mwyaf poblogaidd ar y calendr ac erbyn hyn yn llwyddo i ddenu cannoedd o gystadleuwyr i’r dref. Gan gofio fod gan lawer o’r cystadleuwyr deulu efo nhw, mi welwch ei fod hefyd yn hwb mawr i dwristiaeth yn yr ardal. Dywed Linda Soar, ysgrifennydd y Neuadd Goffa, fod y tîm o wirfoddolwyr lleol eleni wedi paratoi 1200 tafell o facwn er mwyn cynnig rhôl i bawb oedd yn cystadlu. Roedd nifer fawr wedi cofrestru yn ras y Stryd Mwyaf Serth ar y nos Sadwrn. Roedd oddeutu 120 yn cystadlu yn y ddeuathlon ben bore Sul a rhyw 270 yn y triathlon ar ddydd Sul, Mawrth 27. Roedd 120 o bobl leol wedi gwirfoddoli i helpu ar y diwrnod - dyna arwydd o galon y gymuned yn Harlech a’r cyffiniau. Mae’n enghraifft wych o ddigwyddiad cymunedol lle mae llawer yn gweithio er lles y dref. Aiff yr elw o’r Triathlon at gefnogi prosiectau lleol fel Clwb Triathlon Harlech, Cynghorau Cymunedol lleol, timau Achub Mynydd lleol a llawer mwy o brosiectau cymunedol.
![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/0eccec474317cdee4b92ff52d3f5bdc3.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/74a9e952b2464dfcb54c61bf77669b0e.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/327c5b08118d2f48b2cfffc1246b7d63.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/d4e60480cf9078136b03da8907a8f998.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/e231747b41a1814b4836710c8e62f20b.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/d3e6f317d5b6d8eb37137d3bf495c987.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
![](https://assets.isu.pub/document-structure/220816092023-3ba015e89438054ec56a700840eaf12a/v1/196ba9c9f88e26b2f745d76ace9de968.jpeg?width=720&quality=85%2C50)