17 minute read

owns o gaws aeddfed wedi ei gratio

Y GEGIN GEFN CYSTADLEUAETH GOGINIO

Wyau Sir Fôn Y GEGIN GEFN

Advertisement

Rysáit

10 owns o datws wedi eu mathru (stwnshio) 2 genhinen 2 ŵy wedi eu berwi’n galed 2 owns o fenyn 1 llond llwy fwrdd o flawd plaen Cwpanaid o lefrith/laeth (1/4 peint) Pupur a halen 3 owns o gaws aeddfed wedi ei gratio.

Dull

Golchi’r genhinen a’i thorri yn ddarnau. Toddi 1 owns o’r menyn a chynnwys y genhinen a’i choginio am tua 5 munud, yna tynnu’r genhinen allan a’i hychwanegu at y tatws. Cymysgwch yn dda a’i roi yng ngwaelod dysgl bopty. Torrwch y wyau yn eu hanner ar eu hyd a’u gosod yn y ddysgl a’u pen i lawr yn y tatws a’r cennin. Cynheswch yr owns o fenyn sydd ar ôl ac ychwanegu y blawd ato. Yn ara deg, ychwanegwch y llefrith a gwylio rhag ofn iddo fynd yn lympiau! Mi fydd y saws yn tewychu fel y bydd yn coginio; yna adiwch y caws wedi ei gratio a chadw dipyn i’w roi ar y top. Rhowch y saws caws ar ben y wyau ac ychydig o gaws wedi ei gratio drosto. Rhowch yn y popty ar 370 gradd C nes y bydd wedi brownio.

Mi allwch ei fwyta fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs gyda bacwn neu gig o’ch dewis. Digon i ddau unigolyn. Gobeithio y gwnewch ei fwynhau!

Rhian Mair Jones, Tyddyn y Gwynt gynt

Yn y rhifyn diwethaf, fe wnaethon ni ofyn i’r plant wneud Pwdin Bisgedi Brau neu Gacennau Bach Siocled i ddathlu Gŵyl San Ffolant.

Casi Roberts o 2 Castell y Gog, Dyffryn Ardudwy, 10 oed gyda’i champwaith. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Dyffryn ac yn hoff o wneud crefftau o bob math. A dyma gampweithiau Bethan Haf Williams, 6 oed o Altrincham. Doedd ganddi hi ddim eisin coch ond, er hynny, mae wedi llwyddo i greu dipyn o sioe!

Mae Mared a Gethin Evans, Llys Enlli, Tal-y-bont hefyd wedi bod yn coginio ar gyfer y gystadleuaeth. Yn wir, fe ddaru Mared greu pwdin bisgedi brau gyda mefus a chacennau bach siocled.

Diolch i bawb am gystadlu. Mae’r wobr gyntaf ar ei ffordd i Casi. Llongyfarchiadau gwresog iti, Casi. Bydd gwobr hefyd yn mynd i Bethan Haf, Mared a Gethin am eu gwaith clodwiw. Diolch i Rhian Jones a Janet Mostert am gytuno i noddi’r gystadleuaeth. [Gol.]

Un o ymadroddion Beirdd yr Uchelwyr ar adeg fel hon oedd ‘torri brenhinbren’. Ystyr y gair brenhinbren ydi ‘y goeden fwyaf’ neu ‘derwen fawr ganghennog’. A dyna Evie i’r dim; wedi’i wreiddio yng Nghwm Nantcol ond ei gyfraniad a’i ddylanwad yn ymestyn yn bell tu hwnt i’w ardal, i’w sir a hefyd i’w wlad. Y pennaf o’n cymwynaswyr - yn enwedig o safbwynt y diwylliant Cymraeg yn yr ardal hon a thu hwnt; a dwi’n defnyddio’r gair ‘diwylliant’ yn ei ystyr ehangaf. Dewch yn ôl at y brenhinbren a’r goeden fawr ganghennog. Sawl cangen oedd i’r goeden hon? Dim ond ei deulu agos sy’n gwybod yn iawn sawl cangen oedd i gyfraniadau Evie. Evie, â Heulwen yn gefn mawr iddo, fu’n gyfrifol am yr asbri ym mywyd Cwm Nantcol ers imi ddod i fyw i’r ardal yn y 70au cynnar ac ar hyd y degawdau wedyn. Eisteddfodau lleol, Cymdeithas y Cwm, yr Urdd, Capel y Cwm a Chapel y Ddôl, gyrfaoedd chwist, y Ffermwyr Ifanc a Thîm Ymryson y Beirdd. Roedd ganddo fo ddeinamo pwerus iawn. Roedd yn weithgar iawn efo pobl ifanc, yn llywodraethwr mewn dwy ysgol ac yn gefn mawr i fudiad y Ffermwyr Ifanc yn lleol ac yn sirol. Roedd yn gynghorydd lleol a sirol ac ar bob math o bwyllgorau megis Theatr Ardudwy a Gwasanaeth Tân y Gogledd. Yn 2008, fo oedd Cadeirydd y Cyngor Sir. Roedd yn amaethwr blaengar ac ar flaen y gad gyda sawl datblygiad. Roedd yn swyddog poblogaidd gyda’r Weinyddiaeth Amaeth rhwng 1966 a 1994 a chafodd groeso cynnes iawn ar sawl aelwyd oherwydd ei natur hynaws, ei bersonoliaeth mynwesol a’i ddealltwriaeth o’i waith. Dyn glandeg, smart a thrwsiadus bob amser. Dyn eang ei weledigaeth, dyn galluog, yn chwim iawn ym maes mathemateg ac roedd ganddo lawysgrifen gymen iawn. Roedd o hefyd yn ddarllenwr brwd. Gallwn draethu’n faith am ei gyfraniadau i fyd amaeth – yn ysgrifennydd sioe gŵn yn Harlech a Dyffryn Ardudwy, yn weithgar efo’r Sioe Sir, lle roedd yn flaenllaw ar y corn siarad am flynyddoedd. Fo oedd llywydd y Sioe Sir yn 2010. Roedd hefyd yn un o reolwyr Cwmni Clunderwen a Cheredigion. Sut oedd o’n cael amser i wneud hyn oll? Sut oedd o’n cael amser i ffermio? Fel mae’r hen air yn ei ddweud, ‘Os ydych chi am ofyn cymwynas, gofynnwch i ddyn prysur!’ Prin y medrai ef a Heulwen symud ar gae y Sioe Sir neu Sioe Llanelwedd neu faes yr Eisteddfod Genedlaethol heb ddod wyneb yn wyneb â rhywun cyfarwydd. Roedd yn nabod pawb a phawb yn ei nabod o. Roedd yn Gristion o argyhoeddiad ac yn weithgar yng Nghapel Nantcol a Chapel y Fro. Braint arall oedd iddo gael ei godi’n flaenor yng Nghapel y Ddôl yn 2006. Fo oedd yn parhau i drefnu Suliau hyd y diwedd. Roedd yn un o’r hoelion wyth yn sicr. Nid dyn y cysgodion oedd Evie ond dyn oedd yn gweithredu, yn llythyru, yn ffonio i sicrhau siaradwyr, yn gofalu am adloniant, ac yn aml yn gofalu am yr ochr ariannol, yn cefnogi’n ymarferol i sicrhau graen ar weithgareddau. Mi welodd yr Awdurdodau ei ddoniau amlwg pan benodwyd ef yn Ynad Heddwch. Bu ei ddoethineb, ei Gristnogaeth a’i natur bonheddig yn gefn mawr iddo yn y swydd honno am chwarter canrif. Fe ŵyr pawb pa mor weithgar oedd o efo’r Eisteddfod Genedlaethol – yn ddirprwy brif stiward ym Mro Madog yn 1987, yn Is-lywydd yn Steddfod Bala yn 2008, lle roedd o mor falch o weld ei ŵyr, Rhys, yn un o’r macwyaid. Yn 2009, mi gafodd ei gyfraniad i’n diwylliant ei chydnabod ac roedd wrth ei fodd yn derbyn y Wisg Wen yn yr Orsedd. Fe glywais o le da na chafodd ei enwebiad ei drafod gan Fwrdd yr Orsedd. Cynigwyd ac eiliwyd gan nad oedd angen unrhyw drafodaeth cyn cynnig yr anrhydedd iddo fo. Oni bai amdano fo, dydw i ddim yn meddwl y buasai cystal llewyrch ar Gôr Meibion Ardudwy. Wynebodd y Côr sawl her dros y blynyddoedd, rhai bach a mawr, ond mi oedd Evie yn benderfynol fod y Côr yn mynd i barhau ac fe weithiodd yn ddiarbed i sicrhau hynny. Bu’n gadeirydd y Côr ar dri achlysur gwahanol, bu’n aelod ers 1954 [68 mlynedd], ac ef, tan ei farwolaeth, oedd Llywydd Anrhydeddus y Côr. Bu hefyd yn arwain cyngherddau’r Côr am flynyddoedd gan ddangos dimensiwn arall i’w bersonoliaeth. Roedd ganddo hiwmor cynnes a rhyw ddireidi difalais. Yn yr un modd, ym myd eisteddfota a’i gyfraniad enfawr yn arwain gweithgareddau’r llwyfan – gallaf enwi o leiaf 10 eisteddfod – Cwm Nantcol, Gwynfryn, Ffermwyr Ifanc [Meirion a Chymru], Talsarnau, Harlech, Tal-ybont, Bala; Llanuwchllyn, Llandderfel, Llawrplwy a Phenstryd, a Llanfachreth. Roedd hefyd yn un o arweinyddion yr Ŵyl Cerdd Dant yn Harlech yn 1974. Gwn iddo gael ei anrhydeddu gan bwyllgorau niferus am ei gefnogaeth a hynny’n aml iawn heb ofyn dimai o dâl. Roedd ganddo dri chryfder mawr ar lwyfan eisteddfod. • Y cyntaf oedd ei adnabyddiaeth lwyr o’r maes ee os oedd angen trefnu seremoni gadeirio • Yr ail oedd adnabyddiaeth o’r prif gystadleuwyr. Gallai gyflwyno cystadleuydd heb holi neb am ei enw. Dyn oedd yn nabod pawb oedd o. • A’r trydydd oedd ei fod yn nabod ei gynulleidfa. Dyn pobl oedd Evie. Bu hefyd yn un o olygyddion Llais Ardudwy. Roedd yn un o bedwar bryd hynny. Daliodd ei ddiddordeb yn y papur hyd y diwedd un. Byddai ar y ffôn yn weddol aml, yn canmol ac yn cynnig syniadau. ‘Mae gen i awgrymiadau am bobl fedrai lenwi holiadur ‘Holi Hwn a’r Llall’ i ti!’ Ac nid cynnig yr enw ond mynd yr ail gam wedyn. ‘Mi ffonia i o, mi fedra i yrru copi iddo fo.’ Fel mewn llawer i faes - gweithredu nid dim ond addo ei gefnogaeth. Mae dyled y papur i Evie

yn drwm. Bûm yn cydweithio’n agos efo fo yng Nghymdeithas Cwm Nantcol. Er mai fi oedd y Cadeirydd yn ddiweddar, Evie oedd wrth y llyw. Fo oedd yn gwneud y gwaith caib a rhaw. Trefnu’r pwyllgor, helpu i sicrhau siaradwyr, teipio ac argraffu rhaglen, cadw’r cyfrifon a pharatoi mantolen ariannol. Nodais ei fod yn nabod pawb ac roedd hynny’n fendith fawr i Gymdeithas y Cwm. Roedd y fantolen ariannol bob amser yn batrwm ac er nad oes tâl aelodaeth, mae’r Gymdeithas yn parhau i ffynnu oherwydd parodrwydd Evie i roi ysgwydd dan y gwaith - heb anghofio haelioni nifer fawr o garedigion – y rhan fwyaf ohonyn nhw yn aelodau ei deulu ei hun! Mi fydd colled enfawr ar ôl y dderwen fawr ganghennog yn yr ardal hon ond mi fydd y golled fwyaf ar aelwydydd Heulwen, Aled ac Eleri, Gwenan ac Arfon heb anghofio Aron, Rhys, Elliw, Siôn, Dylan ac Iwan a’i ddwy chwaer, Gweneira a Jean, a’r teulu estynedig. Mi gânt gysur o gofio’r amseroedd da a chysur o gofio am ei ofal, ei hawddgarwch, ei hiwmor a’i gyngor doeth. Diolch am iddo gael oes dda a chynhyrchiol a diolch am gawr o ddyn a wnaeth gymaint o waith dyrchafol dros bethau gorau ein cenedl. Diolch am gael ei adnabod y brenhinbren. Diolch am holl nawdd y dderwen fawr ganghennog. Diolch, diolch yw ein cân. Gwyn ei fyd o.

PM

Evie Morgan Jones

Anodd yw cau y llenni - i Heulwen Ar aelwyd ddigwmni, Atgofion lif am Evie Ddaw o hyd i’w hannedd hi.

Mair Evans Llanystumdwy

Englyn i Evie

Diamod fu i fyd amaeth - ein hiaith A ‘Phethe’n’ hunaniaeth, Mae sôn am ei wasanaeth A’r hyn oll yn wir a wnaeth.

Huw Dafydd

Penybryniau, Dyffryn Ardudwy - {Cefn Uchaf, Cwm Nantcol gynt} Amaethwr, Arweinydd Eisteddfodau, Cynghorydd, Cwmniwr, Cymwynaswr, Capelwr, Carwr ‘Y Pethe,’ Cyfaill Cwm Nantcol brofodd olud - ei allu, Diwylliodd ei weryd, A bri roes Evie hefyd I’r rhan fechan hon o’i fyd.

Ef a roes urddas i’w fro Yn wylaidd drwy’i hanwylo; Plethu wnaeth ddysgeidiaeth gŵr  gwarineb gwerinwr. Rhoes dant yn nhelyn Nantcol A sain ei dinc seinia’i dôl.

Bydd maith yr hiraeth weithian - i Heulwen Ac Aled a Gwenan Am ŵr hoff gymerai ran Ag afiaith drwy’i oes gyfan.

Fel arwr, bu’n frwydrwr o fri! - Yn un I fwynhau ei gwmni, A dygnwch brwd ei egni Fu’n cryfhau’n heneidiau ni.

Conglfaen o’r radd flaenaf - yn mynnu Rhoi’i gymuned gyntaf; I’w encil aeth yn ŵr claf Drwy wal ei frwydr olaf.

Iwan Morgan

DIOLCHIADAU

Dymuna Heulwen, Aled, Gwenan a’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Evie Morgan, priod, tad a thaid arbennig iawn. Diolch diffuant i’r Parch Christopher Prew am wasanaeth urddasol ddydd yr angladd ac hefyd diolch i’r Parch Iwan Llewelyn Jones am ei wasanaeth arbennig wrth yr organ. Cafwyd teyrnged haeddiannol gan Phil Mostert ac mae ein diolch yn fawr iawn iddo. Yn ogystal diolch i Iwan Morgan am farddoniaeth wych a ddarllenwyd ganddo yn ystod y gwasanaeth. Dau ffrind mynwesol i Evie dros nifer o flynyddoedd. Hyfryd oedd cael presenoldeb aelodau o Gôr Meibion Ardudwy a ffurfiodd osgordd i ffarwelio ag Evie a fu’n aelod ffyddlon am oddeutu 60 o flynyddoedd; roedd y Côr yn agos iawn at ei galon i’r diwedd. Daeth tyrfa luosog i’r angladd a gwerthfawrogwyd eu presenoldeb yn fawr iawn. Derbyniwyd rhoddion hael o £3000 er cof am Evie fydd yn cael ei drosglwyddo i Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch arbennig i Malcolm o gwmni Pritchard & Griffiths am y trefniadau trylwyr a theimladwy.

Rhodd £30

Pen-blwydd hapus

Dymunwn ben-blwydd hapus i Pip Wynne. Dyma hi efo cerdyn gan ei hwyres, Katie o Seland Newydd.

Eglwys Huchenfeld

Bydd cyswllt Zoom yn digwydd gyda’r nos ar 17 Mawrth rhwng Llanbedr a phentref Huchenfeld yn yr Almaen. Bydd cyfle i weld gwasanaeth yn Eglwys Huchenfeld i gydnabod y dyddiad y lladdwyd aelodau o griw awyren John Wynne. Os am fanylion pellach neu gyswllt â’r gwasanaeth, cysylltwch â Jennifer ar 01341 241517.

Mae perthynas y ci defaid doeth, Mot, a’i berchennog, Lea yn un agos a chariadus. Ond, tybed fedrith Mot ddefnyddio’i ddoethineb a’i sgiliau i ddewis y cariad perffaith i Lea? Dyma nofel ysgafn, obeithiol a chynnes gan un o awduron gorau Cymru sy’n trafod cariad, ffyddlondeb a heneiddio.

Clwb Cawl

Bydd y Clwb Cawl yn ailddechrau ar ddydd Iau Mawrth 10 yn Neuadd y Pentref, Llanbedr am hanner dydd. Cawl, brechdan, panad, cacen a sgwrs.

Diwrnod Jiwbili, Mehefin 5

Parti plant ac oedolion yn y Parc, Cae Chwarae, Llanbedr. Yr amser i ymgynnull eto i’w gadarnhau. Byddwn yn gofyn am wirfoddolwyr cyn bo hir.

Meinciau a bwrdd picnic yn yr ardd gymunedol newydd yn Llanbedr

Llais Ardudwy

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!

Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360.cymru/papurau-bro/

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!

TOYOTA HARLECH

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd Ffordd Newydd Harlech HarlechLL46 2PS LL46 2PS 01766 780432

01766 780432

www.harlech.toyota.co.uk www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk

Trefnwyr Angladdau

* Gofal personol 24 awr• Gofal Personol 24 awr * Capel Gorffwys• Capel Gorffwys * Cynlluniau Angladd Rhagdaledig • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig HEOL DULYN, TREMADOG Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk Ffôn: 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant

PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW

01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr

office@bg-law.co.uk

WYTHNOS FRECWAST AMAETHWYR CYMRU

Brecwast

Fel rhan o Wythnos Frecwast Ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru, cafwyd cyfle i drafod materion ffermio dros baned a brecwast ar ddydd Llun, Chwefror 7 yng Nghaffi Cymunedol Dyffryn Ardudwy a’r gobaith oedd codi arian hanfodol i elusen Llywydd UAC, sef Sefydliad DPJ. .

Cydymdeimlad

Ar y 9fed o Chwefror yn Llanegryn bu farw Mr Ian Edward Rutherford, priod Catrin Dwyryd, tad Tristan a Tesni a thaid Macsen, Moya, Edward a George. Bu Mr Rutherford yn rheoli Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog am flynyddoedd ac roedd y teulu yn byw yn Llys Benar, Dyffryn. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf atynt fel teulu.

Cydymdeimlad

Ar y 7fed o Chwefror, bu farw Mr Evie Morgan Jones, Penybryniau, Dyffryn, yn 85 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei briod Heulwen, ei blant Aled a’i wraig Eleri a Gwenan a’i phriod Arfon, at ei wyrion a’i wyres Aron, Rhys, Elliw, Siôn, Dylan ac Iwan ac at ei chwiorydd Gweneira a Jean a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

Croesawyd Mr Michael Griffiths a Mr Dylan Hughes, o Ganolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy i amlinellu beth sydd wedi bod yn digwydd yn y Ganolfan yn ddiweddar. Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau am ddod atom a chytunwyd i gefnogi’r Bwrdd efo’r cynlluniau sydd ganddynt.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Caniatâd Adeilad Rhestredig i wneud nifer o newidiadau mewnol - Y Bwthyn, Taltreuddyn Fawr, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Codi estyniad ar y llawr cyntaf ac ar yr ochr - Murmur-yr-afon, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn.

GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd

Nid yw y ffordd i fyny am Tal Ffynhonnau bellach yn cael ei chynnal a’i chadw ac o ganlyniad mae cyflwr y ffordd yn dirywio. Mae peiriannydd wedi ymweld â’r safle ac mae’n adrodd fod gwaith llenwi tyllau wedi ei wneud yn ddiweddar. Nid oedd diffygion ar y safle oedd yn creu pryder ond serch hynny, byddant yn parhau i’w monitro dros y gaeaf a pharatoi cynllun i wneud ychydig o waith clytio yno yn ystod mis Ebrill. Mae sylwadau’r Cyngor ynglŷn â’r angen am sylw ar ganllaw pont Tal-y-bont wedi eu hanfon ymlaen at eu Peiriannydd Strwythurol i gynnal asesiad a threfnu unrhyw waith angenrheidiol.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod tair carafan statig bellach wedi eu lleoli yn Bryn Bywyd a chytunwyd i gysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â hyn. Datganwyd pryder ynglŷn â chyflwr Eglwys Llanenddwyn sydd bellach wedi cau a bod cyflwr y waliau cyfagos a phorth y fynwent wedi dirywio er bod y safle yn gradd 2*. Cytunwyd i gysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â hyn.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MAWRTH

13 Meinir Lloyd Jones 10.00 20 Parch Christopher Prew 5.30 27 Parch Glenys Jones 10.00

EBRILL

3 Parch Gwenda Roberts 10.00

Derbyniwyd grant o £5,000 ar gyfer cynnal prosiect creadigol gyda disgyblion B3 a B4. Bu’r actores/llenor Siwan Llynor a’r cerddor Gai Toms yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol er mwyn cynnal gweithgareddau creadigol i hybu sgiliau llafar y plant. Mae’r gweithgareddau wedi eu seilio ar y cromlechi sydd gerllaw’r ysgol. Y gobaith yw creu perfformiad i gymuned ehangach yr ysgol ar ddiwedd y tymor.

Rheolaeth Coetir Cors y Gedol

I lawer ohonom, bu llwybrau Coetir Cors y Gedol yn achubiaeth yn ystod y cyfnodau clo, gyda’u cyfyngiadau llym ar weithgareddau eraill. Mae’r llwybrau hefyd wrth gwrs, yn ddrws i ucheldir y Rhinogydd, os cychwyn y daith o Dal-y-bont. Wrth droedio’r llwybrau a mwynhau’r llonyddwch, prin fod y rhan fwyaf ohonom yn aros i feddwl am bwysigrwydd yr ecosystemau sydd o’n hamgylch. Mae’r coetir hynafol, sydd wedi datblygu dros gannoedd o flynyddoedd, yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid bregus. Er mwyn ei ddiogelu, mae angen gwaith adfer gan ddefnyddio technegau sensitif megis defnydd o geffylau i logio’r coed. Ers dechrau Chwefror eleni, mae Coed Cadw, fel rhan o Brosiect Coedwigoedd Glaw Cymru, yn cyflawni’r gwaith sensitif yma. Gan fod y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae’r ymddiriedolaeth wedi cael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud y gwaith. Allweddol hefyd wrth gwrs, yw cefnogaeth a chydweithrediad y tirfeddiannwr. Ceffylau Gwaith Carnog, sydd â’u cartref yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, sy’n gwneud y gwaith trwm o dynnu’r boncyffion i fan canolog, yn barod i’w cludo i ffwrdd o’r coetir. Cobiau Sipsi neu Wyddelig yw’r brîd, sy’n addas iawn i’r gwaith yn sgil anwyldeb eu natur a’u deallusrwydd ynghyd â’u cryfder, wrth gwrs. Maent yn deyrngar ac yn awyddus i blesio ac nid syndod felly yw’r parodrwydd i gydweithio’n hwylus gyda’u triniwr. Mae defnyddio ceffylau i wneud y gwaith yn llai newidiol na phe defnyddid peiriannau trwm. Mae’r gwaith sensitif o adfer a rheoli’r safleoedd yma, sy’n rhan mor bwysig a gwerthfawr o’n treftadaeth, yn sicrhau fod bioamrywiaeth rhyfeddol y coedwigoedd hyn yn cael ei warchod. Mae’r prosiect adfer yng Nghoetir Cors y Gedol yn mynd i wella ansawdd y darn pwysig yma o dir Ardudwy, gan sicrhau y bydd o hyd yn ‘lle i enaid gael llonydd’ i genedlaethau newydd o gerddwyr.

Ray Owen

This article is from: