LLENYDDIAETH CYMRU RHAGLEN DIGWYDDIADAU TWRISTIAETH LENYDDOL EBRILL—HYDREF 2013 ANTURIAETHAU LLENYDDOL AR DRAWS CYMRU
Croeso
© Llenyddiaeth Cymru / John Briggs
Croeso i Raglen Digwyddiadau Twristiaeth Lenyddol Llenyddiaeth Cymru 2013. Ymunwch â ni ar ddeunaw antur llenyddol newydd, a fydd yn mynd â chi am brofiadau hollol unigryw a bythgofiadwy i fydoedd llenorion a seiri geiriau Cymru. Dewch i ddarganfod llenyddiaeth Cymru ar gefn beic neu geffyl, mewn bws neu ganŵ, neu ar droed.
pob taith unigol ar gyfer graddau anhawster. Os ydych yn prynu ar gyfer ffrind, mae Tocynnau Rhodd ar gael yn awr.
Lleolir y teithiau ledled Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Does dim angen i chi fod yn feiciwr, marchogwr na chanŵiwr profiadol i gymryd rhan – gwiriwch fanylion
Mae Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru hefyd yn cynnal deg Diwrnod Drysau Agored â naws llenyddol yn Medi 2013. Ewch i ymweld â www.civictrustwales.org/cymraeg am wybodaeth pellach.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / www.llenyddiaethcymru.org / post@llenyddiaethcymru.org
Llenyddiaeth Stâd Glynllifon gyda Gwen Pritchard Jones a John Dilwyn
© Alan Fryer
Dydd Sadwrn 4 Mai, 2013 Amser: 10.30 am - 2.30 pm Man Cychwyn / Gorffen: Maes Parcio Stâd Glynllifon, Heol Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY Pris tocyn: £6 (£5) Darpariaeth bwyd a diod: Nid yw bwyd yn gynwysiedig – dewch â bocs bwyd a fflasg neu gallwch brynu lluniaeth yn ystod y daith. Te / coffi yn gynwysiedig yng Nghaffi'r Gath Ddu Dillad a argymhellir: Esgidiau cerdded; Dillad glaw; Dillad cynnes; Eli haul (os yn berthnasol) Taith lenyddol ar hyd yr afon Llifon yng nghwmni’r awdur a nofelydd, Gwen Pritchard Jones, a’r hanesydd lleol, John Dilwyn. Bydd Gwen yn ein tywys ar daith
ei hen nain a ysgrifennodd ddisgrifiad o daith drwy'r stâd. Cyhoeddwyd y daith mewn rhifyn o'r Cymru Coch ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd ei thad yn saer coed ar y stâd, a'r teulu'n byw o fewn y waliau. Bydd John yn ein cyfeirio at y diwylliant hanesyddol a berthyn i Stâd Glynllifon a’r ardal gyfagos. Mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. A Welsh language walk in the company of author Gwen Pritchard Jones and local historian John Dilwyn.
Mewn partneriaeth â:
Hawdd, 3 milltir Caniateir cwn ˆ Cymraeg Ni fydd yn addas
Addasrwydd Oedran Bryniau a chymoedd; Morluniau a thraethau Maes Parcio am ddim wrth fynedfa’r parc
© Ceridwen
O Abergwaun i Aberteifi gyda Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones
Guto’r Glyn, y llwybr i Fôn gydag Eurig Salisbury
Dydd Sadwrn 25 Mai, 2013
Dydd Sadwrn 22 Mehefin, 2013
Amser: 1.30 pm – 6.30 pm Man Cychwyn / Gorffen: Maes Parcio West Street, Abergwaun, SA65 9NG Pris tocyn: £14 (£12) Darpariaeth bwyd a diod: Nid yw’n gynwysiedig Dillad a argymhellir: Esgidiau cyfforddus; Dillad cynnes; Cot law Mae'r daith o Abergwaun i Aberteifi'n cwmpasu hen gantrefi Pebidiog a Chemaes. Ar hyd y ffordd hon mae cartref DJ Williams, magwrfa Dewi Emrys a gwreiddiau Dafydd ap Gwilym hyd yn oed. Dewch ar hyd milltir y feidir fach yng
Taith fws Hawdd, 2 filltir ˆ Dim cwn Cymraeg
nghwmni’r Prifeirdd Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones i glywed iaith Dyfed, cofio rhai o'r llenorion a darganfod ambell gyfrinach sy'n cuddio rhwng y cloddiau. Mewn Partneriaeth â Menter Iaith Sir Benfro. A Welsh language tour of Pembrokeshire led by two poets who have a strong connection with the county: Mererid Hopwood and Ceri Wyn Jones.
Ni fydd yn addas Addasrwydd Oedran Bryniau a chymoedd; Morluniau a thraethau Maes Parcio talu ac arddangos yn y man cychwyn / gorffen
Amser: 1.00 pm - 5.30 pm Man Cychwyn / Gorffen: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT Pris tocyn: £12.50 (£10.50) Darpariaeth bwyd a diod: Nid yw’n gynwysiedig Dillad a argymhellir: Esgidiau cyfforddus; Dillad cynnes; Cot law; Eli haul (os yn berthnasol)
gwaith oedd y Cywyddwr enwog, Guto’r Glyn. Bydd Eurig Salisbury yn arwain taith fws yn dilyn ôl llwybr Guto’r Glyn gan ymweld â nifer o fannau o bwys i Guto ac i nifer o feirdd eraill oes aur barddoniaeth Gymraeg. A Welsh language tour retracing the footsteps of one of Wales’ greatest Cywyddwyr, Guto’r Glyn, in Anglesey.
Un o deithiau mawr y beirdd ers sawl canrif oedd y daith honno i Fôn. Dyma gartref nifer o uchelwyr y bymthegfed ganrif a fu, yn ôl y sôn, yn cynnig nawdd hael i feirdd y cyfnod. Un a aeth ar ei daith yno lawer
Taith fws Hawdd, 2 filltir ˆ Dim cwn Cymraeg
Ni fydd yn addas Addasrwydd Oedran Bryniau a chymoedd; Morluniau a thraethau Maes Parcio talu ac arddangos lleol
© Ken Bagnell
Ar Drywydd Waldo Ar Gewn Beic gyda Hefin Wyn a Teifryn Williams Dydd Sadwrn 22 Mehefin, 2013 Amser: 10.00 am – 4.00 pm Man Cychwyn / Gorffen: Cychwyn - Ysgol Gynradd Cas-mael, Cas-mael, Hwlffordd, SA62 5RL. Gorffen - Gwesty Nant-y-Ffin, Llandysilio, Clynderwen, SA66 7SU Pris tocyn: £5 (£4) Darpariaeth Bwyd a Diod: Dewch â phicnic Dillad a argymhellir: Dillad glaw; Esgidiau cyfforddus; Het ac eli haul (os yn berthnasol); Bag cefn a photel o ddŵr Rhowch naid ar eich beic ac ymuno â’r awdur Hefin Wyn a Teifryn Williams (nai Waldo) i ddilyn trywydd un o’n beirdd praffaf, Waldo Williams. Cyn cyhoeddi Ar Drywydd Waldo (Ar Gewn Beic) (Y Lolfa, 2012) bu’r ddau ar bererindod o Sir Benfro i Ben Llŷn, i Lundain, Kimbolton a
Beic Cymedrol, 18 milltir ˆ Dim cwn Cymraeg
Crwydro Creigiau Aberdaron: Damian Walford Davies yn dilyn llwybrau RS Thomas Dydd Sadwrn 29 Mehefin, 2013
Lyneham yn ogystal ag i Iwerddon i gwrdd â’r bobl hynny a adwaenai Waldo. Aros yn ei filltir sgwâr fyddwn ni ar y daith hon fodd bynnag, gan seiclo o Gas-mael i Landysilio gan ymweld â mannau o bwys ar hyd y ffordd, yn cynnwys Carreg Waldo ar Gomin Rhos-fach ym Mynachlog-ddu, Rhosaeron (cartref teuluol Waldo) a Chapel Blaenconin lle gorwedda aelodau'r teulu yn y fynwent.
Amser: 10.30 am – (tua) 3.00 pm Man Cychwyn / Gorffen: Maes Parcio Aberdaron, Aberdaron, Gwynedd, LL53 8BE Pris tocyn: £7 (£6) Darpariaeth bwyd a diod: Nid yw’n gynwysiedig – dewch â bocs bwyd a fflasg neu gallwch brynu lluniaeth yn ystod y daith Dillad a argymhellir: Esgidiau cyfforddus; Dillad glaw; Dillad cynnes; Eli haul (os yn berthnasol)
Paratowch am ambell riw serth wrth fynd ar wib i ddilyn llwybrau’r athro ysgol, y bardd, yr heddychwr, y gwladgarwr, y Crynwr a'r seiclwr.
Mae 2013 yn nodi canmlwyddiant un o feirdd gorau Cymru: RS Thomas. Mae’r daith lenyddol hon yn rhan o gyfres a gynhelir yn ystod y flwyddyn o ddathliadau – ewch i www.rsthomas2013.org am ragor o fanylion.
A bicycle tour with author Hefin Wyn and Teifryn Williams, visiting places significant to the legendary Pembrokeshire poet Waldo Williams.
Ni fydd yn addas Addasrwydd Oedran Bryniau a chymoedd; Tirwedd trefol Parcio yng Nghas-mael. Bydd angen trefnu cludiant o Landysilio
Taith fws Cymedrol, 2 filltir ˆ Dim cwn Cymraeg
Ymunwch â’r Athro Damian Walford Davies ar daith o amgylch hen gartref RS Thomas, Sarn Rhiw, ar dir Plas yn Rhiw uwchben Porth Neigwl: y lle a ysbrydolodd y bardd i ysgrifennu rhai o’i weithiau gorau. Awn wedyn i Lanfaelrhys, i weld bedd ei wraig Elsi, ac yna i’r Eglwys yn Aberdaron lle bu’n gweithio fel offeiriad am fwy na deugain mlynedd. Daw’r daith i ben yn Uwchmynydd, lle cawn ryfeddu ar olygfa Ynys Enlli. Mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Welsh language bus tour and walk focusing on RS Thomas’ Aberdaron with Professor Damian Walford Davies.
Ni fydd yn addas Addasrwydd Oedran Bryniau a chymoedd; Morluniau a thraethau Maes Parcio talu ac arddangos yn y man cychwyn / gorffen
Y Stafell Ddirgel, o Fryn Mawr i Fryn Mawr gyda Haf Llewelyn a Huw Meilir Edwards
Ar drywydd ceffyl gwyn Rhiannon: Y Mabinogion yng nghwmni Sioned Davies
Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf, 2013
Dydd Sadwrn 21 Medi, 2013
Amser: 11.00 pm – 5.00 pm Man Cychwyn / Gorffen: Canolfan Groeso Tŷ Meirion, Y Sgwâr, Dolgellau, LL40 1PU Pris tocyn: £5 (£4) Darpariaeth bwyd a diod: Nid yw’n gynwysiedig. Dewch â phecyn bwyd a dŵr Dillad a argymhellir: Esgidiau cerdded addas; Dillad cynnes; Cot law; Eli haul (os yn berthnasol) Ychydig wyddai am gysylltiad Dolgellau â Lower Meirion ym Mhensylfania, ond eto, y digwyddiadau a arweiniodd at y cysylltiad hwnnw ddylanwadodd ar un o nofelau mawr
Cymedrol, 5 milltir ˆ Caniateir cwn Cymraeg Ni fydd yn addas
y Gymraeg yn yr 20fed ganrif, Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames. I dwrio ymhellach i hanes y nofel a digwyddiadau’r cyfnod, dyma gylchdaith 5 milltir sy’n crwydro o amgylch coedwigoedd, mynyddoedd, mynwentydd a ffermydd sydd yn nalgylch fferm Bryn Mawr, cartref Rowland Ellis a phrif gymeriad y nofel enwog. Mewn partneriath â Parc Cenedlaethol Eryri. A five mile Welsh language walk exploring the literary and Quaker past of Dolgellau and the surrounding area.
Addasrwydd Oedran Bryniau a chymoedd; Coedwigoedd; Tirweddau trefol Maes Parcio talu ac arddangos lleol
Amser: 10.00 am – 4.00 pm Man Cychwyn / Gorffen: Maes Parcio yr Hen Ysgol, Arberth, SA67 7AG Pris Tocyn: £10 (£8) Darpariaeth bwyd a diod: Nid yw’n gynwysiedig. Bydd cyfle i brynu cinio yn ystod y daith Dillas a argymhellir: Esgidiau cyfforddus; Dillad cynnes; Cot law
lle ceisiodd Manawydan grogi llygoden. Yna teithiwn i Genarth am ginio cyn troi am Lyn Cuch i edrych am yr agoriad i’r Arall Fyd. Cewch ddod i wybod mwy am grefft y storïwr canoloesol wrth wrando ar y chwedlau’n cael eu hadrodd ar hyd y daith.
Dyma gyfle i ymgolli ym myd lledrithiol y Mabinogion. Dan arweiniad Sioned Davies, arbenigwr ar draddodiad rhyddiaith yr Oesoedd Canol, cawn ymweld â llys Pwyll yn Arberth ac â Camp Hill, yr orsedd hynod lle gwelwyd Rhiannon ar ei cheffyl gwyn a
A Welsh language tour of St Davids and the surrounding area, focusing on the Mabinogion with Professor Sioned Davies.
Taith fws Cymedrol, 3 milltir ˆ Dim cwn Cymraeg
Mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Ni fydd yn addas Addasrwydd Oedran Gwlypdiroedd a Dyfrffyrdd; Bryniau a chymoedd Maes Parcio talu ac arddangos yn y man cychwyn / gorffen
Ysbrydion Aberystwyth: Taith arswydus yng nghwmni Euros Lewis
Gwyliau â Gwreiddiau
Nos Iau 31 Hydref, 2013
ˆ Gwyl Wil Sam
Amser: 5.00 pm - 9.00 pm Man Cychwyn / Gorffen: Cychwyn - Maes Parcio MFI, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3TL; Gorffen - Yr Hen Lew Du, Heol y Bont, Aberystwyth, SY23 3EW Pris tocyn: Y daith yn unig - £5 (£4); Yn cynnwys bwyd ar ddiwedd y daith - £10 (£9) Darpariaeth bwyd a diod: Darperir pryd o fwyd cynnes yn Nhafarn yr Hen Lew Du am £5 ychwanegol Dillad a argymhellir: Esgidiau cyfforddus; Dillad cynnes; Cot law
A feddylioch chi erioed wrth deithio tiroedd Cymru, pwy a droediodd yno o’r blaen, a pha erchyllterau a ddigwyddodd yno? Dyma daith i’r rheini ohonoch sy’n ddigon dewr i wynebu’r atebion i’r cwestiynau hyn. Bydd Euros Lewis, arbenigwr hanes lleol Ceredigion a thu hwnt, yn ein harwain trwy ddyffrynnoedd Ystwyth a Rheidiol gan ein cyflwyno i ddrychiolaethau’r ardal. Cawn orffen y daith gyda pheint a phryd o fwyd yn nhafarn y Llew Du, Aberystwyth, i dawelu’r cryndod yn ein dwylo. Mewn partneriaeth â Thafarn y Llew Du. A Welsh language literary ghost tour around the Ceredigion area with Euros Lewis.
Taith fws Hawdd, 1 milltir ˆ Dim cwn Cymraeg
18
Ni fydd yn addas Addasrwydd Oedran Bryniau a chymoedd; Tirweddau trefol Maes Parcio talu ac arddangos yn y man cychwyn / gorffen
11-19 Mai, 2013 Dyma Ŵyl arbennig i ddathlu bywyd a gwaith un o brif ddramodwyr y Gymraeg, Wil Sam Jones. Roedd Wil Sam yn gymeriad mawr ac yn wyneb amlwg yng nghylchoedd Eifionydd a thu hwnt. Trwy ei arddull naturiol, ffraeth ac unigryw, llwyddodd ei ddramâu i gyrraedd cynulleidfaoedd niferus, a hynny ar lwyfan, ar y sgrin a thros donfeddi’r radio. Dros ddegawdau o sgriptio, creodd nifer o gymeriadau cofiadwy, yn eu plith, Ifas y Tryc a anfarwolwyd gan
berfformiadau’r actor Stewart Jones. Yn ystod wythnos yr Ŵyl cawn gyfle i wrando ar ddarlith arbennig yn hel atgofion am ei fywyd, darllen a thrafod ei waith mewn grwpiau darllen, gwylio rhai o ddramâu Wil Sam a gynhyrchwyd ar gyfer y sgrin deledu, taith feics o amgylch y fro a pherfformiad llwyfan o un o’i ddramâu. Bydd holl ddigwyddiadau’r Ŵyl yn digwydd ym mhentref Llanystumdwy. A Welsh language festival at Tŷ Newydd, Llanystumdwy, to celebrate the life and works of the much loved playwright Wil Sam Jones.
Ffurflen Archebu Hoffwn archebu: lle ar Daith Lenyddol o gwmpas Stâd Glynllifon gyda Gwen Pritchard Jones a John Dilwyn 4 Mai, £6 (£5)
ˆ GWyl Gynganeddu ˆ GWyl Gynganeddu
lle ar O Abergwaun i Aberteifi gyda Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones 25 Mai, £14 (£12)
lle ar Y Stafell Ddirgel, o Fryn Mawr i Fryn Mawr gyda Haf Llewelyn a Huw Meilir Edwards 6 Gorffennaf, £5 (£4)
lle ar Guto’r Glyn, y llwybr i Fôn gydag Eurig Salisbury 22 Mehefin, £12.50 (£10.50)
lle ar Y Mabinogion: Taith yng ngofal Sioned Davies 21 Medi, £10 (£7)
lle ar Ar Drywydd Waldo Ar Gewn Beic gyda Hefin Wyn a Teifryn Williams 22 Mehefin, £5 (£4)
Ysbrydion Aberystwyth: Taith arswydus yng nghwmni Euros Lewis 31 Hydref, £5 (£4) y daith yn unig / £10 (£9) yn cynnwys bwyd ar ddiwedd y daith
Rwyf yn cytuno â Thelerau ac Amodau Twristiaeth Lenyddol. Rhaid ticio hwn er mwyn gosod archeb.
22-24 Tachwedd, 2013 Dyma ŵyl sy’n profi bod y gynghanedd yn hollgynhwysol, ac nad yw’r gallu i gyfateb cytseiniaid yn angenrheidiol i’w mwynhau. Dyma’r unig ŵyl o’i math a’n gyfle i wylio a gwrando ar rai o feirdd blaenllaw Cymru yn trafod eu gwaith, yn arwain sesiynau amrywiol, yn cynnig cymorth i’r rhai sydd am ddysgu’r grefft gaeth, a diddanu’r dorf gydag ambell linell gynnil a meddyliau craff. Mae’r Ŵyl yn addas i bob oed - boed yn ddisgyblion 6ed sy’n astudio gwaith y Cywyddwyr i’w Lefel A, yn ddysgwr y Gymraeg, neu’n rhywun sy’n chwilio am benwythnos o ddiddanwch.
lle ar Aberdaron RS Thomas yng nghwmni Damian Walford Davies 29 Mehefin, £7 (£6)
Uchafbwynt yr Ŵyl Gynganeddu yw’r Ornest a gynhelir ar y nos Sadwrn. Dyma gystadleuaeth sy’n gymysgedd o’r digrif a’r dwys wrth i ddwsin o feirdd hogi cywyddau er mwyn brwydro am deitl ‘Pencerdd Tŷ Newydd’ a’r ffon fawr. Ymysg enillwyr diweddar y teitl, mae Eurig Salisbury, Iwan Rhys a Rhys Iorwerth a enillodd yn 2012. Bydd Rhys yn ei ôl yn 2013 er mwyn ceisio cadw ei afael ar y ffon. Mae’r Ŵyl bellach wedi sefydlu yn Llanystumdwy, lle cynhelir holl ddigwyddiadau’r Ŵyl o amgylch y pentref.
Hoffai Llenyddiaeth Cymru eich hysbysu ynghylch ein digwyddiadau, cynnyrch a gwasanaethau. Ticiwch y bocs os nad ydych am dderbyn yr wybodaeth hon. Mae cyfraddau gostyngol (wedi eu nodi mewn cromfachau) ar gael ar gyfer: Aelodau a Chefnogwyr yr Academi Gymreig. Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau i’r ddau ŵyl, ffoniwch 01766 522811 neu e-bostiwch post@llenyddiaethcymru.org os gwelwch yn dda.
The Welsh language Cynghanedd Festival at Tŷ Newydd, Llanystumdwy, featuring the poet Rhys Iorwerth.
✁
Ffurflen Archebu Enw:
Telerau ac Amodau Cyflwr y Tywydd Mi fydd y teithiau yn cael eu cynnal ym mhob tywydd, oni bai bod risg i iechyd a diogelwch. Ni fydd tywydd garw yn rheswm teilwng i ganslo taith ac os ydych am wneud hynny ar y diwrnod ni fydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnig ad-daliad.
Rhif Ffôn:
Cyfeiriad: Cod Post: E-bost: Amgaeaf siec yn daladwy i Llenyddiaeth Cymru ar gyfer: NEU tynnwch oddi ar fy ngherdyn credyd/credyd debyd:
Polisi Canslo O ganlyniad i’r ymrwymiadau ariannol a gweinyddol a ddaw wrth drefnu’r teithiau llenyddol, mae’n rhaid gwarantu'r incwm maent yn eu cynhyrchu. Gellir cynnig ad-daliad os darperir rhybudd rhesymol (lleiafswm o bedair wythnos) ond mi fydd yn ddarostyngedig ar daliad gweinyddol o 20%.
£ £
Nodwch pa un: Visa (credyd) / Visa (debyd) / Mastercard / Switch / Maestro / Solo / Electron Enw ar y cerdyn:
Dyddiad dechrau:
Rhif y cerdyn:
Dyddiad dod i ben:
Cod Diogelwch:
Rhif Cyhoeddi (os yn berthnasol):
Gellir canslo taith o fewn y cyfnod rhybudd o bedair wythnos; cynigir ad-daliad yn unig os bydd Llenyddiaeth Cymru yn llwyddo ail werthu’r lle. Mi fydd yr ad-daliad yn ddarostyngedig ar daliad gweinyddol o 20%.
Anfonwch y ffurflen hon, ynghyd â’ch taliad at: Llenyddiaeth Cymru, 4ydd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL / Ffôn: 029 2047 2266 / www.llenyddiaethcymru.org post@llenyddiaethcymru.org
Mae Llenyddiaeth Cymru yn mynnu’r hawl i ganslo taith mewn achos o salwch neu unrhyw amgylchiadau arall sydd tu hwnt i’n rheolaeth. Os caiff y daith ei chanslo mi fydd Llenyddiaeth Cymru yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â chi o flaen llaw a darperir ad-daliad llawn. Mae Llenyddiaeth Cymru yn mynnu’r hawl i wrthod gadael unrhyw un ar daith sydd, neu sy’n ymddangos i fod, o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, neu unrhyw un sydd yn ymddwyn mewn ffordd sydd yn niweidiol i fwynhad y bobl eraill ar y daith.
✁
Newidiadau i’r Daith Yn achlysurol gall amgylchiadau tu hwnt i reolaeth Llenyddiaeth Cymru arwain at newidiadau munud olaf i’r daith. Mewn achos o’r fath mi fydd taith arall o werth cyfatebol yn cael ei gynnig yn ei le, os yn bosib.
Gwisgo’n Addas Sicrhewch eich bod wedi gwisgo’n addas ac eich bod, neu bod y rheini yr ydych yn archebu ar eu rhan, yn ddigon heini ar gyfer y daith. Mae’r teithiau yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o amgylchiadau ac mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn meddu ar y cyfarpar cywir ac â’r gallu corfforol i ymdrin â gofynion y daith. Bydd rhai ohonynt yn cynnwys llwybrau anwastad a fydd yn fwdlyd ac wedi eu gorchuddio gan ordyfiant. Ceir gwybodaeth bellach am hygyrchedd y teithiau yn eu disgrifiadau ac anfonir y gofyniadau penodol yn y llythyr sy’n cadarnhau’r archeb. Hygyrchedd Cynhelir y teithiau mewn amrywiaeth o leoliadau ac efallai ni fydd rhai o’r rhain yn hygyrch i gadair olwyn. Cyfeiriwch at ddisgrifiad y daith cyn gosod eich archeb. Damwain neu Golled Mae’r rheini sy’n cymryd rhan yn y teithiau yn gyfrifol am eu diogelwch personol a’u heiddo eu hunain. Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf, colled, difrod, anhwylder, neu golled uniongyrchol neu ganlyniadol, sut bynnag y digwyddir, heblaw bod aelod o’i staff wedi bod yn ddiofal. Nid ydym yn berchen ar, nag yn rheoli’r lleoliadau, cerbydau tai bwyta, caffis neu dafarndai a ddefnyddir ac nid yw Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am golled neu ddamwain a achosir gan eu perchnogion. Yswiriant Personol Mae’r penderfyniad am gymryd yswiriant personol yn gyfrifoldeb i’r unigolyn. Polisi Preifatrwydd Mi fydd yr holl wybodaeth bersonol a gyflenwir yn cael ei gadw’n ddiogel ac ni fydd yn cael ei rannu â thrydydd person. Am wybodaeth bellach gellir gweld polisi preifatrwydd corfforaethol Llenyddiaeth Cymru ar y wefan neu trwy gais trwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru dros y ffôn neu trwy’r post.
02
04
05
13
01
03
06 17
08 12
18
14