Care & Repair Cymru
Adroddiad Blynyddol 2012 - 2013 Hyrwyddwr Tai Pobl Hy^ n Aelod o Grwp CHC
Industrial & Provident Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus gyda statws elusen rhif 27363R
Neges Gan y Cadeirydd A’r Prif Weithredydd Gan edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, cawsom ein taro gan ba mor gyflym y daw heriau newydd a newid. Mae Asiantaethau Gofal a Thrwsio wedi parhau i weld cynnydd yn nifer y ceisiadau am help. Cynyddodd oedran cyfartalog cleientiaid i 75 a bu cynnydd hefyd yn yr amser ac adnoddau angenrheidiol i ganfod datrysiadau ar gyfer cleientiaid, oherwydd cymhlethdod problemau ac anawsterau wrth ganfod cyllid. Ynghyd â gostyngiadau mewn incwm grant gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol, mae'r pwysau yma ar wasanaethau'n dangos yr angen i ni gynyddu cyflymder ein taith tuag at fwy o gydweithio rhwng Asiantaethau Gofal a Thrwsio, arbedion effeithiolrwydd, gwella partneriaeth gyda'r sector statudol a'r trydydd sector, a pharhau i ddatblygu mentrau cymdeithasol i ategu incwm i gyflwyno ein gwasanaethau craidd i bobl hŷn.
Yn y cyfamser, cynhaliodd Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Wasanaeth Cyhoeddus a Newid Demograffig adolygiad ar effaith heneiddio ar wasanaethau cyhoeddus. Roeddem yn hynod falch i roi tystiolaeth ysgrifenedig ac wedyn dystiolaeth lafar i Dŷ'r Arglwyddi ar waith Gofal a Thrwsio yng Nghymru a sut yr ydym yn helpu pobl hŷn i fyw bywydau diogel, cynnes ac annibynnol tra'n gostwng y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
“
Gwnaethom gynnydd da tuag at ein hamcanion a nodwyd yn "Adeiladu ar gyfer y Dyfodol" 2011-2015.
Mae Care & Repair Cymru wedi cryfhau ei sefyllfa ar gydweithio ac effeithiolrwydd, gyda'r symud i rannu safle gyda Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn y strwythur Grŵp. Mae hyn wedi hwyluso a chryfhau ein hymagwedd at rannu Gwasanaethau Canolog, gan rannu sgiliau ar waith polisi, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, a'n dull cyffredinol o gydweithredu. Mae'r amgylchedd polisi wedi symud yn gyflym, ac rydym wedi ymateb yn ffurfiol i nifer fawr o ymgynghoriadau yn cynnwys y Papur Gwyn Tai, Bil Gwasanaethau Cymdeithasol, Cam 3 Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn, Bil Iechyd Cyhoeddus ac adolygiad pellach o addasiadau tai gan Lywodraeth Cymru (drwy Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a hefyd adolygiad gan y Gweinidog a'i Chris Jones swyddogion). Prif Weithredydd 2
”
W W W. C A R E A N D R E PA I R . O R G . U K
Gwnaethom gynnydd da tuag at ein hamcanion a nodwyd yn “Adeiladu ar gyfer y Dyfodol” 2011-2015, sy’n parhau mor berthnasol yn awr ag oeddent pan lansiwyd y Strategaeth. Mae crynodeb byr lefel uchel o gynnydd yn ystod y flwyddyn i'w weld mewn man arall yn yr adroddiad yma.
Y flwyddyn i ddod Mae 2013/14 yn argoeli bod yn flwyddyn galed ond yn un yr edrychwn ymlaen ati, yn hyderus yn ein gallu i fynd i'r afael â'r heriau anodd i ddod. Bydd ein ffocws mewnol ar ddatblygu ac ehangu ein cydweithio gyda CHC a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru (CREW) yn y strwythur Grŵp, a dechrau gwneud gwaith manwl i ddatblygu braich fasnachu.menter gymdeithasol CRC. Yn allanol byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd mewn gwaith partneriaeth a ddigwyddodd eleni gyda Chynghrair Henoed Cymru, Cynghrair Ail-alluogi Cymru a'r Comisiynydd Pobl Hŷn i sicrhau ein bod yn codi proffil problemau tai sy'n wynebu pobl hŷn.
Rydym yn ddiolchgar am ymrwymiad a gwaith caled ein staff, a chyfarwyddyd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr wrth ein helpu i gyflawni'r hyn a wnaethom yn ystod 2012/13, a bydd angen eu gwaith caled unwaith eto'r flwyddyn nesaf i'n helpu i gyflawni ein hamcanion, a fydd maes o law yn arwain at i ni barhau i wella amodau tai ar gyfer miloedd o bobl hŷn am flynyddoedd lawer i ddod. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid, partneriaid a chyllidwyr, ac yn neilltuol staff yn Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i Care & Repair Cymru ac asiantaethau Gofal a Thrwsio ar draws Cymru.
Care & Repair Cymru
“
Mae 2013/14 yn argoeli bod yn flwyddyn galed ond yn un yr edrychwn ymlaen ati, yn hyderus yn ein gallu i fynd i'r afael â'r heriau anodd i ddod.
Byddwn yn gweithio’n galetach byth yn yr amgylchedd polisi i sicrhau y caiff perthnasedd Gofal a Thrwsio at addasiadau tai, mynd i'r afael â chyflwr gael tai, atal codymau, effeithiolrwydd ynni a gwres fforddiadwy ei gyflwyno'n glir a'i ddeall. Ar addasiadau tai yn neilltuol, byddwn yn gweithio i sicrhau fod Gofal a Thrwsio'n parhau i fod yn asiant cyflenwi allweddol ac y clywir ein galwad ar gyfer ehangu'r rhaglen Addasiadau Brys a gwneud Grantiau Byw Annibynnol yn rhaglen flynyddol. Byddwn hefyd yn cynyddu ein hymdrechion i gyflwyno'r achos yn gryf dros ein gwasanaethau ataliol, a sut mae ein gwaith yn gostwng y galw yn y GIG a Gofal Cymdeithasol. Drwy wneud hyn, byddwn yn anelu i leihau neu atal toriadau yn ein cyllid grant refeniw gyda'r neges syml mai camsyniad fyddai hynny gan na fyddai ond yn symud y galw a'r costau i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaethau David Lewis Cymdeithasol. Cadeirydd ^
H Y R W Y D D W R TA I P O B L H Y N
”
3
Yr hyn y gwnaethom ei gyflawni yn 2012/2013
“ADEILADU AR GYFER Y DYFODOL” Gwnaethom gynnydd da tuag at ein hamcanion a nodwyd yn “Adeiladu ar gyfer y Dyfodol” 2011-2015, sy’n parhau mor berthnasol yn awr ag oeddent pan lansiwyd y Strategaeth. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
Nod Strategol 1: Gweithio tuag at sicrhau cynaliadwyedd ariannol ym mhob Asiantaeth ar adeg o her economaidd a demograffig mawr.
1
• Mynychodd 2 aelod o staff CRC a 17 o aelodau staff Asiantaethau Gofal a Thrwsio y cwrs Arweinyddiaeth ar gyfer Menter Gymdeithasol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd • Mae asiantaethau wedi parhau i ymchwilio a gwneud cynnydd wrth sefydlu a/neu dyfu Mentrau Cymdeithasol.
2
Nod Strategol 2:
Gwella’r sylfaen tystiolaeth o werth gwasanaethau Gofal a Thrwsio drwy gasglu data ac adrodd ansawdd uchel, ymchwil drylwyr a chasglu gwybodaeth gyda ffocws. • Parhau i drafod a manylebu prosiect SAIL gyda Phrifysgol Abertawe i gynyddu ansawdd tystiolaeth o ddeilliannau iechyd o wasanaethau Gofal a Thrwsio • Datblygu prosiect ymchwil PhD gyda Phrifysgol Abertawe ar effaith gwasanaethau gwaith achos Gofal a Thrwsio • Prosiect deilliannau cleient i gael gwybodaeth ac adrodd yn gyson ar brofiad cleientiaid o wasanaethau Gofal a Thrwsio • Cyhoeddi adroddiad effaith “Unman yn Debyg i’ch Cartref eich Hun” ar wasanaethau Gofal a Thrwsio • Parhau i ddatblygu a defnyddio cronfa ddata CARIS.
3
Nod Strategol 3:
Ymgysylltu gydag agendâu polisi cenedlaethol a rhoi syniadau blaengar sy'n helpu i wella ansawdd gwasanaethau a gwerth am arian amcanion tai, iechyd, gofal cymdeithasol a thlodi tanwydd.
• Datblygu cynigion ar gyfer gwasanaethau ECO a Bargen Werdd ar draws Cymru • Blaenllaw wrth roi tystiolaeth i adolygiadau Llywodraeth Cymru o wasanaethau addasiadau i gartrefi • Dyfarnwyd a chyfleni rhaglen £1m Grantiau Byw Annibynnol yn 2012/13 • Paratoi papur cynnig ar fenthyciadau i Lywodraeth Cymru, gyda thrafodaethau'n parhau ar ran Gofal a Thrwsio.
4
W W W. C A R E A N D R E PA I R . O R G . U K
4
Nod Strategol 4: Datblygu ein sgiliau gweithlu a’n galluedd i ddarparu gwasanaethau tai ansawdd uchel i bobl hy^ n ar draws Cymru.
• Cwrs Arwain ar gyfer Menter Gymdeithasol • Gweithio tuag at ddyfarniad aur Buddsoddwyr mewn Pobl i CRC fel rhan o Grŵp CHC a pharhau gyda thrafodaethau a chynnydd at gael achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl ar gyfer pob un o’r 22 Asiantaeth • Dynodi adnoddau i hyfforddi 12 o staff Gofal a Thrwsio i ddod yn aseswyr gydag achrediad ar gyfer ECO a’r Ddêl Werdd • Cyflenwi rhwydweithiau a hyfforddiant.
Nod Strategol 5: Cryfhau ein brand ac ymwybyddiaeth gyhoeddus, a chynyddu ansawdd a chysondeb dull gweithredu - datrysiadau pwrpasol wedi'u teilwra i broblemau tai sy'n wynebu pobl hy^ n.
5
• Mae'r sylw i Gofal a Thrwsio wedi parhau i gynyddu ar draws y cyfryngau gyda 19 o straeon cadarnhaol wedi cael sylw gan BBC Radio Cymru/Wales, Western Mail, Inside Housing ac ITV Cymru ac ati • Ym mis Hydref buom yn dathlu 10fed pen-blwydd y Rhaglen Addasiadau Brys a fu'n gyfle i ni godi proffil Gofal a Thrwsio gyda gwleidyddion, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol • Bu presenoldeb da iawn unwaith eto yn ein cynhadledd flynyddol gyda'r siaradwyr yn cynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn a'r Gweinidog Tai ac Adfywio. Digwyddodd y gynhadledd ar yr un pryd â sylw da yn y cyfryngau gan ein galluogi i gyfathrebu ein negeseuon allweddol yn ymwneud â byw annibynnol. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i gryfhau cysylltiadau presennol, a hefyd weithio ar adeiladu perthynas newydd gyda defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid a gwleidyddion allweddol i roi sylw i'r ystod gwasanaethau a gynigiwn i sicrhau y gall pobl hŷn barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser.
Cynghori a Dylanwadu Buom yn bresennol yn: • Y Grŵp Trawsbleidiol ar Heneiddio a Phobl Hŷn lle bu'n Prif Swyddog Gweithredol yn siarad am rôl tai Gofal a Thrwsio mewn ail-alluogi • Tŷ'r Arglwyddi yn Llundain lle buom yn sôn am waith Gofal a Thrwsio, buddion iechyd tai da ac addasiadau cyflym, a'n dymuniad i weld y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cymryd mwy o rôl wrth ariannu gwasanaethau tai pobl hŷn • Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i roi tystiolaeth ar ^
H Y R W Y D D W R TA I P O B L H Y N
addasiadau tai. Yn dilyn hyn, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ehangu'r Rhaglen Addasiadau Brys, parhau i ariannu ac efallai ymestyn y rhaglen Grant Byw Annibynnol ac ymchwilio os yw cyfraniadau gan gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol i addasiadau tai yn briodol, er mwyn gwella canlyniadau i gleifion • Grŵp cynghori gweinidogol y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol lle mae ein Prif Swyddog Gweithredol yn cynrychioli Cynghrair Henoed Cymru.
5
Digwyddiadau Gweithgaredd Newydd Buom yn arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg yn Awst 2012. Gwahoddwyd ymwelwyr i edrych ar ein tŷ peryglon cartref ac arddangosiad o addasiadau bach. Roedd hyn yn gyfle i weld y peryglon posibl a wynebir yn y cartref a chartrefi preswylwyr hŷn.
Edrychodd ein Cynhadledd ‘Yfory Pawb’ ar y dyfodol ar gyfer pobl sy’n heneiddio yng Nghymru, yr ystod o heriau polisi a beth yn fwy sydd angen i ni wneud i sicrhau fod Cymru’n lle gwell i heneiddio yn y dyfodol. Cafwyd yr anerchiad allweddol agoriadol gan Huw Lewis AC, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, gan danlinellu pwysigrwydd gwaith Gofal a Thrwsio i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn.
Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm er mwyn helpu i gynnal ein gwasanaethau. • drefnu rhaglen cynhadledd “Cartrefi i Gymru: Trawsnewid Addasiadau i Gymu” Llywodraeth Cymru a ddaeth ag ystod eang o randdeiliaid ynghyd ac a fu'n gyfle i drafod sut y gellir gwneud gwelliannau i’r system addasu tai yng Nghymru. Roedd y diwrnod yn gyfle i'r prif gyfranogwyr mewn addasiadau tai i ystyried ffyrdd i wella'r system bresennol • lansio ein haelodaeth fasnachol sy’n rhoi nifer o gyfleoedd i aelodau i gysylltu gyda ni a mudiad ehangach Gofal a Thrwsio ledled Cymru, ar yr un pryd â chyfrannu at ein gwaith yn helpu i wella amodau byw pobl hŷn fregus
Aelodaeth Fasnachol • cynnal ein diwrnod Golff Elusennol cyntaf yng Nghlwb Golff Machynys, Llanelli. Bu 16 tîm yn bresennol mewn diwrnod llwyddiannus iawn yn nhermau rhwydweithio a chynhyrchu incwm i helpu cyflenwi ein gwasanaethau.
Yn ystod y gynhadledd lansiwyd 'Does unman yn debyg i'ch cartref eich hun’ yn amlygu gwaith Gofal a Thrwsio a'r effaith a’r canlyniadau y mae’n ei gyflawni i bobl hŷn yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn trafod perthnasedd a gwreth Gofal a Thrwsio i wasanaethau gofal cymdeithasol a GIG yn nhermau effeithiolrwydd cost a sut mae'n gwaith yn cyfrannu at amcanion polisi Lliywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol ac Iechyd.
6
W W W. C A R E A N D R E PA I R . O R G . U K
Ein Hasiantaethau Pob ymweliad yn cyfrif Yn ystod cyfnod mor anodd yn economaidd, gyda chyllidebau gwasanaeth cyhoeddus dan bwysau difrifol, mae llawer o resymau pam fod yn rhaid i ni wneud i bob ymweliad gyfrif, yn gyntaf ac yn bwysicaf ar gyfer ein cleientiaid. Y llynedd ymwelodd ein hasiantaethau â 29,471 o gleientiaid a roddodd gyfle i'n gweithwyr achos a'n swyddogion technegol i drafod gyda phobl hŷn beth yw eu pryderon ac i weithredu, un ai'n uniongyrchol drwy wasanaethau Gofal a Thrwsio, neu mewn partneriaeth gydag eraill a all helpu.
Yn ystod eu hymweliadau, fe wnaeth ein hasiantaethau: • Gwneud 11,238 o swyddi addasu a thrwsio a gynorthwyodd i ostwng nifer codymau • Helpu 1,628 o gleientiaid gyda gwaith effeithiolrwydd ynni • Helpu 607 cleientiaid i hawlio £2,207,917 mewn budd-daliadau nad oeddent yn cael eu hawlio • Gwneud 4,867 o welliannau i ddiogelwch cartrefi
Astudiaeth Achos Mae Mr King yn gyn-lowr, ac mae ganddo nifer o gyflyrau iechyd yn gysylltiedig gyda’i alwedigaeth. Mae’n anwastad iawn ar ei draed ac roedd wedi syrthio’n mynd allan o'r bath. Roedd yn methu dringo’r grisiau ac yn gorfod cysgu yn yr ystafell fyw ac ymolchi yn y gegin. Daeth ef a'i wraig at
• Cwblhau 15,616 o swyddi dan y Rhaglen Addasiadau Brys a gan atal 11,282 o bobl rhag gorfod mynd i ysbyty’n ddiangen a galluogi 4,334 i gael eu rhyddhau'n ddiogel o ysbyty. Yn Ionawr 2013 roeddem yn hynod falch i dderbyn £1 miliwn ychwanegol i helpu pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi. Mae’r Grant Byw Annibynnol, a fu ar gael ers 2012, yn cynorthwyo i dargedu addasiadau lefel ganolog ar gyfer pobl hŷn yn effeithlon. Fe wnaeth yr arian ychwanegol hwn gynorthwyo 219 o bobl hŷn gydag addasiadau cyflym, gydag oedran cyfartalog y cleientiaid yn 75-84. Asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru • Blaenau Gwent • Penybont • Caerffili • Caerdydd • Sir Gâr • Ceredigion • Conwy • Sir Ddinbych • Sir y Fflint • Gwynedd • Merthyr • Sir Fynwy • Castell-nedd Porth Talbot • Casnewydd • Sir Benfro • Powys • Rhondda Cynon Taf • Abertawe • Torfaen • Bro Morgannwg • Wrecsam • Ynys Môn
Gofal a Thrwsio oherwydd na wyddent sut i gael yr addasiadau oedd eu hangen i alluogi Mr King i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun. Drwy’r Grant Byw Annibynnol, gallodd Mr King gael lifft grisiau wedi’i gosod, ciwbicl cawod addas a gris is ar y drws blaen. Mae ganddynt yn awr fynediad rhwyddach i’w cartref a gall Mr King yn awr ymolchi heb fod i'w wraig fod yn bresennol.
Dathlodd y Rhaglen Addasiadau Brys ei 10fed pen-blwydd yn Hydref 2012. Caiff y rhaglen, sy’n atal pobl rhag gorfod mynd i ysbyty heb fod angen ac yn cyflymu rhyddhau o ysbyty, ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan Gofal a Thrwsio mewn partneriaeth gyda’r GIG a Llywodraeth Leol. Mae wedi helpu dros 100,000 o bobl hŷn yng Nghymru ac arbed £101 miliwn dros 10 mlynedd. ^
H Y R W Y D D W R TA I P O B L H Y N
7
Gweithgareddau Grwp Mae Care & Repair Cymru yn ^ falch i fod yn rhan o Grw p Cartrefi Cymunedol Cymru. Gyda’n gilydd, gweithiwn i godi ymwybyddiaeth a chryfhau'r cysylltiadau rhwng tai, gofal ac adfywio.
Care & Repair Cymru
Yn ystod 2012-2013 fe wnaethom ...
^ Gwerthoedd ein Grw p
Fel Grŵp, mae gennym set o werthoedd creiddiol sy’n diffinio pwy ydym. Maent yn llywio yr hyn a wnawn a’n hymddygiad, a dylanwadu ar y ffordd y gweithiwn gyda’n gilydd - a’r ffordd y gwasanaethwn ein cleientiaid a chysylltu gyda’n cymunedau.
ARLOESI CYDWEITHIO ATEBOL DANGOS PARCH GRYMUSO
^ ... symud i'n swyddfa grw p newydd ym Mai 2012.
Cafodd y swyddfa ei hagor yn swyddogol ym Mehefin gan Huw Lewis, Gweinidog Tai ac Adfywio, a chomisiynwyd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru i ysgrifennu ac adrodd cerdd i ni dan y teitl ‘Not much to ask’, a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Menna Elfyn.
Huw Lewis AM
8
W W W. C A R E A N D R E PA I R . O R G . U K
^ ... lansio blog y Grw p, sy'n ddull arall i gyfathrebu a rhoi sylw i waith y mudiad a'r cysylltiadau rhwng tai, gofal ac adfywio.
Yn ogystal â chynnwys gan staff a’n bwrdd, byddwn yn cyhoeddi blogiau gan asiantaethau a rhanddeiliaid i ysgogi trafodaeth am waith y mudiad yng Nghymru.
... lansio gwefan Dan Un To ym Mehefin 2012. Mae hwn yn broseict Grŵp CHC sy’n anelu i hyrwyddo a chynorthwyo lobio lleol a chryfhau llais tai, gofal ac adfywio dim-er-elw.
Fe wnaethom gynnal bore coffi a chystadleuaeth teisennau a gododd £130 er budd Macmillan Cancer Support. Noddwyd y digwyddiad gan ein becws Greggs lleol a daethant draw i ddewis y deisen fuddugol.
^
H Y R W Y D D W R TA I P O B L H Y N
9
Ein Pobl Ein pobl yw craidd ein busnes. Hwy yw ein hased fwyaf ac maent yn hanfodol i'n llwyddiant. Fel sefydliad Buddsoddwyr mewn Pobl, mae gennym ymrwymiad i ddatblygu ein staff a rhoi amgylchedd sy'n eu cymell i ddysgu, tyfu ac aros. Mae ein strategaeth dysgu a datblygu bob amser wedi cynnwys cydbwysedd o brofiad seiliedig yn y gweithle, cefnogaeth datblygu personol ac adborth, yn ogystal â rhaglenni hyfforddiant mwy strwythuredig i adeiladu sgiliau staff ac annog cydweithio a rhwydweithio gyda'u cydweithwyr ar draws y Grŵp.
10
Staff Care & Repair Cymru Chris Jones Phillipa Knowles Steve Evans Edwina O’Hart Neil Williams
Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfarwyddwr Gwasanaethau Canolog Pennaeth Cyllid & TG y Grw^ p Rheolwr Cyfathrebu Pennaeth Perfformiad & Cyllid Asiantaethau Vera Brinkworth Pennaeth Digwyddiadau a Hyfforddiant Sharon Williams Pennaeth Gwasanaethau Asiantaethau Heather Dungey Uwch Swyddog Llywodraethol Kennedy Dosomah Swyddog Perfformiad & Cyllid Asiantaethau Louise Parry Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Claire Clarke Swyddog Cyllid Rachel Gingell Swyddog Polisi ac Ymchwil Hugh Holiday Swyddog Gwybodaeth a Cynorthwyo Carys Welsh Cyd-drefnydd Achosion Allanol Gwenan Jones Gweinyddwr Perfformiad & Cyllid Asiantaethau (rhan amser) Cyd-drefnydd Achosion Allanol (rhan amser) O Mehefin 2012 Evelyn McFarland Swyddog Gwybodaeth Sheila Guy Ceidwad Ty O Mai 2012 Anne Pash Gweinyddydd Digwyddiadau a Hyfforddiant Tan Medi 2012 Clair Houston Gweinyddwraig Perfformiad & Cyllid Asiantaethau Tan Medi 2012
W W W. C A R E A N D R E PA I R . O R G . U K
Ein Llywodraethiant
Care & Repair Cymru
Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cynnwys 15 aelod (penodir 8 gan CHC* ac etholir 7) a 5 aelod cyfethol, a ddewisir o blith awdurdodau lleol, sefydliadau academaidd, cyrff gwirfoddol, cymdeithasau tai ac aelodau unigol. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am reoli materion busnes Care & Repair Cymru yn nhermau Pennu polisi, Cynllunio, Gosod targedau/monitro perfformiad, Rheolaeth ariannol, Cyfrifoldebau cyfreithiol.
Mae gan ein haelodau ymrwymiad i werthoedd, amcanion ac egwyddorion y sefydliad a gyda’u hystod eang o sgiliau a phrofiad, maent eu rhoi eu hamser rhydd i’n helpu i lunio cyfeiriad y sefydliad ar gyfer y dyfodol.
Rhestrir isod yr aelodau a wasanaethodd yn y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2013. Aelodau: Cadeirydd Is-gadeirydd Is-gadeirydd Trysorydd
Aelodau cyfetho
Sylwedyddion
David Lewis Doiran Jones Walis George Peter Maggs David Scott Sharon Mainwaring Nancy Davies Carol Morgan Michelle Wales Christine Court Lorraine Morgan Rachel Rowlands Glenn Bowen Ruth Crowder
Unigol Melin Homes Cymdeithas Tai Eryri Pembrokeshire Housing Association Unigol Unigol Unigol Caerphilly Care & Repair Shelter Cymru Unigol Open University in Wales Age Concern Morgannwg Wales Co-op Centre Unigol
Simon Inkson Catherine Thomas Shan Lloyd Williams Ruth Crowder Jonathan Willis
Individual Unigol Cyngor Anglesey Unigol Unigol
Huw McLean Kenyon Williams
Llywodraeth Cymru Cymdeithas Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd, Cymru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Llywodraeth Cymru Cyngor Dinas Casnewydd
Sue Finch Alyn Williams Mike Jones Eurwen Edwards (Mygedol) Brendon Hilbourne
O September 2012
Tan Medi 2012
O Medi 2012
Unigol Unigol
^ *O fewn y strwythur grw p gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, gwneir penodiadau CHC gyda’r nod o gynnal ystod gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol Bwrdd CRC. Bydd CHC yn penodi 6 aelod, ac yn cynnal 2 lle gwag.
^
H Y R W Y D D W R TA I P O B L H Y N
11
Ein Cyllid Mantolen Asedau Sefydlog Asedau Presennol
Ymrwymiadau Presennol Darpariaeth ar gyfer ymrwymiadau Asedau Net
2013
2012
37,372 264,095 301,467
35,949 321,810 357,759
-135,335 £166,132
-176,499 -28,000 153,260
59 114,389 51,684 £ 166,132
59 113,192 40,009 £ 153,260
Sut y crëwyd hyn: Cyfalaf Cyfranddaliadau Cyfrif Incwm a Gwariant Cronfeydd Dynodedig 0% 14% 0% 2% 1%
24%
Gwariant Care & Repair Cymru 2012-2013
59%
Gwariant Uniongyrchol £203,132* Costau Staff £508,034 Hyfforddi Staff £10,583 Teithio a Chynhaliaeth £17,699 Personél a Recriwtio £3,160 Gorbenion Swyddfa £113,193 Costau Cyfarfodydd £1,966 *Nid yw hyn yn cynnwys £1m a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Grant Byw Annibynnol a ddosbarthwyd i Asiantaethau.
Datganiad gan yr archwilwyr Cymerir y wybodaeth uchod o’r datganiadau ariannol llawn ar gyfer Care & Repair Cymru Cymru am y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2013, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Rheoli ar 23 Gorffennaf 2013 ac mae’n barod i’w gyflwyno i’r Cofrestrydd Cymdeithasau Cyfeillgar. Mae’r archwilwyr, Broomfield and Alexander, yr oedd eu barn yn ddiamwys wedi cadarnhau bod y crynodeb hwn yn gyson â’r adroddiad llawn sydd ar gael gan Ysgrifennydd y Gymdeithas os gofynnir amdano.
Ein Dyfodol Mae gan Gofal a Thrwsio ymrwymiad i helpu pobl hy^ n yng Nghymru i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
I gael mwy o wybodaeth am y mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru cysylltwch â'n prif swyddfa neu’ch asiantaeth leol drwy ffonio 0300 111 3333.
Ein Cenhadaeth:
Swyddfa Genedlaethol 2 Ocean Way, Caerdydd, CF24 5TG Ffôn 029 2067 4830 Fax 029 2067 4801 Ebost: enquiries@careandrepair.org.uk Gwefan: www.careandrepair.org.uk
Mae'r mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru yn bodoli i sicrhau fod pob person hŷn yng Nghymru yn derbyn gwasanaethau tai pwrpasol ansawdd uchel i wella ansawdd eu bywyd.
Swyddfa Gogledd Cymru Unit 6b, Llys Onnen, Bangor, Gwynedd, LL57 4DF Ffôn 01248 671880
Ein Gweledigaeth: Bydd pob person hŷn yn byw mewn cartrefi sy’n gwella ansawdd eu bywyd.
12
W W W. C A R E A N D R E PA I R . O R G . U K