Report: Ewrop Greadigol yng Nghymru 2014-20

Page 1

1


Ynghylch yr Adroddiad Hwn Fe edrychodd The Impact of Creative Europe in the UK: A report by SQW with the support of Creative Europe Desk UK ar feysydd effeithiau Ewrop Greadigol yn y Deyrnas Unedig (DU).1 Mae’r adroddiad hwn yn ategu’r canfyddiadau hynny ac yn rhoi sylw i rai o effeithiau’r rhaglen a’r Ddesg yng Nghymru. Mae’n rhoi cipolwg ar rywfaint o’r gweithgareddau a gefnogwyd gan raglen Ewrop Greadigol 2014-2020 a’i hetifeddiaeth. Ewrop Greadigol yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd (UE) i gefnogi’r sectorau diwylliannol, creadigol a chlyweledol. Rhwng 2014 a 2020, gwnaed €1.46 biliwn ar gael i gefnogi prosiectau Ewropeaidd a oedd â’r potensial i deithio, i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac i annog rhannu a datblygu sgiliau. Rhannwyd y rhaglen yn is-raglenni: Diwylliant, a ddarparodd gyllid ar gyfer y sectorau diwylliannol a chreadigol, a CYFRYNGAU, a fuddsoddodd mewn ffilmiau, teledu, cyfryngau newydd a gemau fideo. Roedd Desg Ewrop Greadigol y DU (CED UK) yn bartneriaeth rhwng y Cyngor Prydeinig, Sefydliad Ffilm Prydain, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland a Llywodraeth Cymru, a ddynodwyd ac a gefnogwyd gan Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd. Bu’n hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Ewrop Greadigol a darparu cyngor a chefnogaeth am ddim i ymgeiswyr yn y DU.

Cyflwyniad Mae rhaglen Ewrop Greadigol wedi bod o fudd i weithwyr creadigol proffesiynol, sefydliadau a chynulleidfaoedd ledled cymunedau gwledig a threfol yng Nghymru. Mae’r ddwy is-raglen wedi dod â llwyddiant, gan roi cyllid a chyfleoedd rhyngwladol i’r sectorau canlynol; animeiddio, gemau, ffilm a theledu, technoleg ddigidol, llenyddiaeth, cyhoeddi, adrodd storïau, treftadaeth, theatr, cerddoriaeth ddawns, celfyddydau gweledol, crefftau, cerddoriaeth, opera, a gwyliau. Mae llawer o’r sefydliadau sy’n elwa ar gyllid Ewrop Greadigol i’w cael yn ardaloedd mwyaf poblog Cymru, yng Nghaerdydd a De Cymru. Fodd bynnag, mae gwasgariad iach o sefydliadau sy’n elwa ar gyllid Ewrop Greadigol i’w cael ledled Cymru. Mae Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn gweithredu o Orllewin Cymru – sef ardal wledig ar gyrion Gorllewin Ewrop, ac eto dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi datblygu partneriaethau rhyngwladol sylweddol. Mae’n cefnogi ac yn cysylltu ag awduron, cyhoeddwyr, prifysgolion, gwyliau, sefydliadau, ymarferwyr unigol a gweithwyr proffesiynol yn y maes llenyddol, i greu rhwydweithiau amrywiol a gosod sail ar gyfer cenhadaeth y sefydliad i wneud i lenyddiaeth deithio ledled Cymru, y DU, Ewrop ac yn fyd-eang. Mae Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau wedi derbyn €1,097,229 yn uniongyrchol, sy’n cyfrif am 57% o gyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd yn uniongyrchol i brosiectau Diwylliant yng Nghymru, ar draws pedwar prosiect Ewrop Greadigol. 1

https://www.creativeeuropeuk.eu/publications

2


‘Dros y blynyddoedd, rydym wedi darparu llu o gyfleoedd i awduron, cyfieithwyr, cyhoeddwyr a threfnwyr llenyddol gwrdd a chyfnewid syniadau mewn cynadleddau, gweithdai a seminarau, ac rydym wedi cyfrannu at y ddadl ar bolisi diwylliannol gyda’n hymchwil a’n harbenigedd. O brosiectau hirdymor sy’n galluogi cydweithrediadau creadigol, a rhoi mewnbwn i raglennu digwyddiadau llyfrau rhyngwladol a gwyliau llenyddol, i dynnu sylw at feysydd llenyddol lleiafrifol, mae ein gwaith bob amser wedi ceisio gwneud cwestiynau am amrywiaeth, mynediad cyfartal a hawliau diwylliannol yn uniongyrchol berthnasol i’n sector. Mae etifeddiaeth ein gwaith yn sylweddol: sef cysylltiadau parhaus sydd wedi deillio o’n prosiectau, a gwyliau a sbardunwyd ac a ysbrydolwyd yn wreiddiol gan ein partneriaethau, rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol, cynulleidfaoedd cynyddol ar gyfer gwaith wedi’i gyfieithu, a modelau datblygu cydweithredol. Ac efallai fod yr etifeddiaeth anghyffyrddadwy hyd yn oed yn fwy ystyrlon: sef yr effaith y mae profiad rhyngwladol yn ei chael ar ddatblygiad creadigol a phroffesiynol awduron a’u safbwyntiau cyffredinol, a dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliannau ac amgylchiadau hanesyddol eraill, a geir gan ddarllenwyr a chynulleidfaoedd.’ Alexandra Buchler, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau. Dyfynnwyd yng nghyhoeddiad etifeddol Desg Ewrop Greadigol y DU, ‘Stories of Creative Europe in the UK 2014-20’

Cenedl ddwyieithog yw Cymru, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg, y ddwy iaith swyddogol, â statws cyfartal, sy’n unigryw yn y DU. Mae ganddi draddodiad diwylliannol hanesyddol a bywiog sydd wedi’i wreiddio’n gryf yn ei hiaith a’i phobl, ac yn aml mae ymgeiswyr yng Nghymru yn nodi perthynas ddiwylliannol agos â phartneriaid ledled Ewrop lle mae llu o ieithoedd llai eu defnydd, a chyffredinedd â chenhedloedd bach Ewropeaidd eraill. Ceir ysgogiad i rannu ein diwylliant unigryw a’n storïau lleol ledled Ewrop ac yn rhyngwladol, ac arddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, a chroesawu gwaith rhyngwladol. Mae Ewrop Greadigol wedi cefnogi hyn ac, yn hanfodol, wedi darparu cyfleoedd ehangach i gydweithredu ar draws gwledydd. Daw’r prosiectau â chysylltiadau a safbwyntiau newydd a chyfleoedd i gyfnewid arferion, sgiliau a syniadau proffesiynol a diwylliannol. Mae sefydliadau ledled Cymru wedi elwa ar gyllid i ymgymryd ag ystod amrywiol o brosiectau ar draws y ddwy is-raglen, i fentro, i ddatblygu modelau busnes newydd, i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, i greu rhwydweithiau, a chynnig cyfleoedd ac amlygiad rhyngwladol i artistiaid, gyda rhai cyflawniadau rhyfeddol yn gadael etifeddiaeth ledled Cymru. Derbyniodd y cyfresi arloesol Y Gwyll/Hinterland grantiau gwerth dros €1 miliwn (cyfres 1 a chyfres 3) gan raglenni olynol Ewrop Greadigol. Ffilmiwyd y cyfresi yn Gymraeg a Saesneg, bu tair cyfres, ac mae’r rhain wedi gwerthu i dros 100 o wledydd ledled y byd. Ystyrir bod llwyddiant Y Gwyll/Hinterland wedi paratoi’r ffordd ar gyfer creu dramâu dwyieithog Cymraeg/Saesneg eraill a ddilynodd, gan gynnwys Craith/Hidden (gan gyd-grëwr Y Gwyll/Hinterland, y cynhyrchydd Ed Talfan), Bang, ac Un Bore Mercher/Keeping Faith. I ddechrau, derbyniodd Fiction Factory gyllid Datblygiad Prosiect Unigol gan y rhaglen CYFRYNGAU ar gyfer cyfres gyntaf Y Gwyll/Hinterland a dilynwyd hyn gan grant Rhaglennu Teledu o €500,000 yn 2012 – sef cam hanfodol ar gyfer gwireddu’r prosiect wedi dwy flynedd a hanner o geisio codi cyllid. Dywedodd Ed Thomas, sy’n Gyfarwyddwr Creadigol gyda Fiction Factory, ar adeg derbyn y dyfarniad: 3


“Heb gefnogaeth y rhaglen CYFRYNGAU, ni fyddai Y Gwyll/Hinterland wedi cael ei chynhyrchu. Mae’r ffaith ein bod ar hyn o bryd yn saethu ein trydedd gyfres yn dyst i’r budd enfawr y mae’r cwmni wedi’i gael o’n partneriaeth ag Ewrop Greadigol. Mae dathlu a meithrin amrywiaeth diwylliannau ac ieithoedd ledled Ewrop yn hanfodol, ac mae ein partneriaeth wedi rhoi llais i wlad fach, ei diwylliant a’i phobl.”2

Desg Ewrop Greadigol yng Nghymru Cynhaliwyd Desg Ewrop Greadigol y DU yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, yn wreiddiol o fewn tîm y sector diwydiannau creadigol ac yn ddiweddarach fel rhan o strwythur Cymru Greadigol, sef asiantaeth a sefydlwyd o fewn Llywodraeth Cymru i yrru twf ar draws y diwydiannau creadigol. Cafodd y Ddesg ei rhedeg gan ddau aelod staff rhan amser; sef rheolwr CYFRYNGAU a rheolwr Diwylliant a oedd ar secondiad o Gyngor Celfyddydau Cymru Bu’r Ddesg, fel ased ynddi’i hun, yn ategu rhaglen Ewrop Greadigol trwy ymhelaethu ar weithgarwch a chyfleoedd. Mae’r Ddesg wedi creu cyfleoedd rhwydweithio a rhannu gwybodaeth trwy gynnal digwyddiadau a chefnogi digwyddiadau eraill ledled Cymru a’r DU. Cynhaliodd is-raglen CYFRYNGAU Desg Ewrop Greadigol y DU yng Nghymru gyfres o ddigwyddiadau a ddyluniwyd i gefnogi sector clyweledol Cymru. Bu’r Ddesg yn allweddol o ran cefnogi sefydlu dau ddigwyddiad allweddol yn y diwydiant, sef Sioe Datblygu Gemau Cymru a Gŵyl Animeiddio Caerdydd; a bu’n gefnogwr rheolaidd digwyddiad blynyddol Fforwm y Cynhyrchwyr yng Nghaerdydd (sy’n rhan o Ŵ yl Ffilm Iris) a bu’n cydweithio’n aml â’r desgiau Celtaidd eraill (Galway, yr Alban) yn y Sioe Cyfryngau Celtaidd. Cynhaliwyd digwyddiadau blynyddol Cwrdd â’r Comisiynwyr (mewn partneriaeth â BAFTA Cymru), a ddaeth â chomisiynwyr dramâu, rhaglenni ffeithiol, rhaglenni plant, a chomisiynwyr gemau i Gymru i gyflwyno’r blaenoriaethau comisiynu diweddaraf a chwrdd â chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru. Daeth digwyddiad Games – what film and TV producers need to know â’r sector gemau a’r sector teledu at ei gilydd gan roi sylw i’r potensial i gydweithredu. Daeth y rheolwyr CYFRYNGAU a Diwylliant â Rhaglenni Horizon 2020, Erasmus+ ac Interreg EU at ei gilydd mewn digwyddiadau What can the EU do for Creative and Cultural Industries in Wales yng Ngogledd a De Cymru. Mae is-raglen Diwylliant Desg Ewrop Greadigol y DU yng Nghymru wedi hwyluso a chynnal nifer o sesiynau sy’n canolbwyntio ar ymgeiswyr ledled Cymru. Yn ogystal, bu’r Ddesg yn cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru a thu hwnt i gefnogi cyfleoedd rhwydweithio a digwyddiadau rhannu gwybodaeth rhyngwladol ar gyfer sefydliadau ac 2

https://www.creativeeuropeuk.eu/funded-projects/hinterlandy-gwyll-series-3

4


artistiaid yng Nghymru, gan gynnwys Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Prydain Cymru, swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, Gŵyl y Gelli, Agor Drysau, Gwyliau Caeredin a Ffair Lyfrau Llundain, i enwi ond ychydig. Yn 2020, bu’r Ddesg yn cydweithio â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r sefydliad rhwydweithio rhyngwladol On The Move i hwyluso Connect – sef sesiwn gydag artistiaid o Gymru, er mwyn archwilio rhwydweithiau Ewropeaidd a gwerth cysylltiadau rhyngwladol. Bu’n cydweithio â Desg Ewrop Greadigol Sbaen yn nigwyddiad WOMEX yn Sbaen yn 2018 – roedd y Ddesg Diwylliant yn cynrychioli Cymru a’r DU ar stondin ryngwladol Ewrop Greadigol – a bu’n meithrin cysylltiadau rhwng Cymru, y DU ac Ewrop ymhlith y cynrychiolwyr. Bu’r rheolwr CYFRYNGAU a’r rheolwr Diwylliant yn gweithredu fel porth rhwng polisi a mentrau perthnasol yr UE a sefydliadau yng Nghymru. Fel rhan o rwydwaith ehangach o Ddesgiau yn y 41 gwlad sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, cafwyd cyfleoedd i ddod o hyd i bartneriaid, trosglwyddo gwybodaeth a chydweithredu mewn digwyddiadau ledled Ewrop. Bu’r trefniant rhwng Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd â chyfrifoldebau datblygu ar gyfer y sector creadigol a’r sector diwylliannol yn y drefn honno, yn annog gweithio’n agos â chydweithwyr er mwyn ychwanegu gwerth yn effeithlon ac yn effeithiol at bolisïau, agendâu a digwyddiadau rhyngwladol ar draws sefydliadau ac adrannau’r llywodraeth. Llwyddodd y Ddesg i ddarparu llais rhyngwladol i’r sector, yn ogystal â chyfrannu at y sgwrs ryngwladol yng Nghymru, y DU ac Ewrop.

Ystadegau yn ymwneud â’r rhaglen    

5

15 sefydliad wedi derbyn cyllid Ewrop Greadigol (2014 – 2020) yn uniongyrchol yng Nghymru, sef cyfanswm o €2,575,369. €1,910.565 wedi’i ddyfarnu’n uniongyrchol i gwmnïau a sefydliadau yng Nghymru trwy’r is-raglen Ddiwylliant, gan gyfrif am 6.3% o’r cyllid Diwylliant gwerth €30 miliwn a ddyfarnwyd ledled y DU. €664,804 wedi’i ddyfarnu i gwmnïau a sefydliadau o Gymru trwy CYFRYNGAU, sy’n gyfrif am 1.48% o’r cyllid Diwylliant gwerth €45 miliwn a ddyfarnwyd ledled y DU Bu prosiectau yng Nghymru mewn partneriaethau â sefydliadau yn gweithredu allan o 27 o’r 41 gwlad sy’n cymryd rhan yn rhaglen Ewrop Greadigol: yr Eidal, Sweden, Iwerddon, yr Almaen, Gwlad Groeg, Denmarc, Norwy, Portiwgal, Gwlad Pwyl, Croatia, y Weriniaeth Tsiec, Awstria, Slofenia, Sbaen, Ffrainc, y Ffindir, Lithwania, Gwlad Belg, Latfia, yr Iseldiroedd, Hwngari, Tiwnisia, Serbia, Malta, Rwmania, Twrci a’r DU (yr Alban a Lloegr).


Mae’r tabl isod yn rhestru’r holl brosiectau a dderbyniodd ddyfarniad yng Nghymru. Mae rhestr fanylach o brosiectau yn dilyn. Sub-programme

Culture

Project Roots and roads: traditional heritage stories to connect contemporary Cooperation Project Small European audiences

Culture Culture Culture Culture

Cooperation Cooperation Cooperation Cooperation

Culture

National Theatre Wales Literature Across Frontiers The Ulysses' Shelter: Building writers-in- @University of Trinity Saint Cooperation Project Small residence network 2 David Literature Across Frontiers @University of Trinity Saint Cooperation Project Small LEILA David Cooperation Project: Large European Opera Digital Project Welsh National Opera European Art-Science-Technology Cardiff Metropolitan Cooperation Project: Large Network for Digital Creativity University Women Equal Share Presence in the Hay Festival of Literature and Cooperation Project: Large Arts and Creative Industries the Arts ConnectUp - The Life of the Others | European Theatres for Young Audience Cooperation Project: Large in a Union of Diversity Theatr Genedlaethol Swansea College of Art @ University of Trinity Saint Cooperation Project: Large Craft Hub David Voices from the Margins - Keeping Literary Translation - 3year Framework Wales in Europe Partnership through Agreement Translation Parthian Books Platform Literary Europe Live Literature Across Frontiers

Culture

Culture Culture Culture Culture

Culture

Culture Culture Culture

Media Media Media

Scheme

Project Project Project Project

Small Small Small Small

Literary Europe Live Plus Literary Europe Live Plus A Woman's Work iCoDaCo Open Access / Experimenting with Cooperation Project Small performance and transmedia creation

TV Programming Hinterland / Y Gwyll - Series 3 Video games development Maid of Sker Chapter Arts Centre - 2 years of of Europa Cinema Network programming 2014/15

Company Beyond The Border Storytelling Festival Literature Across Frontiers @University of Trinity Saint David Cwmni Theatr Arad Goch Ffotogallery Gwyn Emberton Dance

Type

Grant to Welsh Organistion

Partner

€ 14,000

Lead Partner Lead Partner

€ 90,962 € 23,086 € 78,000 € 40,368

Partner

€ 31,088

Partner

€ 32,382

Partner Partner

€ 18,460 € 86,012

Partner

€ 125,106

Partner

€ 199,395

Partner

€ 44,710

Partner

€ 108,635

Sole Lead Total Culture

€ 62,936 € 955,426 € 1,910,565

Fiction Factory Wales Interactive

Sole Sole

€ 500,000 € 139,945

Chapter Arts Centre

n/a Total MEDIA

€ 24,859 € 664,804

Culture and MEDIA total

€ 2,575,369

PROSIECTAU Mae’r 17 prosiect isod yn dangos ystod amrywiol o amcanion a chyflawniadau. Mae’r israglen Diwylliant wedi dyfarnu cyfran fwy o’r cyllid ledled Cymru – ond nid yw hynny’n adlewyrchu’r darlun llawn o fudd a gwerth Ewrop Greadigol yng Nghymru. Mae cydweithredu ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol wrth wraidd rhaglen Ewrop Greadigol. Mae’r prosiectau isod yn dangos sut mae mynediad i bartneriaid, cynulleidfaoedd a marchnadoedd Ewropeaidd a’u cefnogaeth wedi bod yn fuddiol i’r prosiect, ac o ganlyniad, i’r sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru.

6


Cyllid yr is-raglen Diwylliant yng Nghymru

Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau – Literary Europe Live – delwedd trwy gwrteisi Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau

Cydweithio a chyfnewid trawswladol yw sylfaen yr is-raglen Diwylliant. Mae cyllid yn cefnogi cydweithredu rhwng sefydliadau diwylliannol a chreadigol o wledydd gwahanol trwy gyllido prosiectau, cefnogi rhwydweithiau a sefydlu llwyfannau i hyrwyddo artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Mae strwythur amlochrog y rhaglen yn cynnig fframwaith i gefnogi ystod eang o brosiectau a phrofiadau. Yng Nghymru, mae 14 prosiect wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid ac wedi’i dderbyn, ar draws y pedwar llinyn cyllido allweddol yr is-raglen Diwylliant. Mae sefydliadau yn y sector llenyddol wedi bod yn arbennig o lwyddiannus ac yn cyfrif am hanner yr holl ddyfarniadau a wnaed yn yr is-raglen Diwylliant. Mae nifer o’r prosiectau yn cael effaith gymdeithasol hefyd, gan edrych ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, a gweithio gyda phobl ifanc, ffoaduriaid ac ysgrifenwyr mudol a chynnig cyfleoedd proffesiynol iddynt. A. Prosiectau Cydweithredu Mae’r cyfle cyllido hwn yn cefnogi cyflwyno prosiectau cydweithredu trawswladol diwylliannol a chreadigol ar draws unrhyw ffurf ar gelf am uchafswm o bedair blynedd, a hon oedd y ffrwd gyllido allweddol o dan yr Is-raglen Diwylliant gyda dyddiad cau blynyddol. Cyllidwyd cyfanswm o 12 prosiect Cydweithredu – 7 ar raddfa fach a 5 ar raddfa fawr – ledled Cymru rhwng 2014 a 2020, gan gynnwys 13 o sefydliadau yng Nghymru. 7


Mae amrywiaeth y raddfa, y gweithgarwch a’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain. Prosiectau ar Raddfa Fach Beyond the Border Storytelling Festival Ltd Gwreiddiau a Ffyrdd: straeon treftadaeth traddodiadol i gysylltu cynulleidfaoedd Ewropeaidd cyfoes (dyfarnwyd 2018) Partneriaeth: Raccontamiunastoria Associazione Culturale, yr Eidal (partner arwain); Theodorsson Lars, Sweden Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn oedd pan fydd pobl yn teimlo eu bod wedi’u gwreiddio ac yn gysurus â’u treftadaeth draddodiadol, maen nhw’n ennill dealltwriaeth well o ddiwylliannau gwahanol. Bu’r prosiect hwn yn ymwneud â gweithgareddau mewn gwyliau chwedleua, teithiau, preswyliadau a digwyddiadau rhyngweithiol. Yng Nghymru, adroddwyd storïau â rhai cefndiroedd diddorol. Hwyliodd criw o storïwyr o Ewrop i Abertawe i rannu eu storïau morol â disgyblion ysgol dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cyn dychwelyd i Fae Caerdydd ar gyfer perfformiad yn yr Eglwys Norwyaidd. Hefyd, cafwyd perfformiadau yn Felin Uchaf, yn Eglwys Hywyn Sant yn Aberdaron, ac ym Mhlas Glyn-y-Weddw yng ngogoniant Penrhyn Llŷn. ––– Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau @Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chwmni Theatr Arad Goch Literary Europe Live Plus (dyfarnwyd 2018) Partner Arwain Partneriaeth: Tŷ Awduron a Chyfieithwyr Ventspils, Latfia; SabirFest, yr Eidal; Hrvatsko Društvo Pisaca, Croatia; Inizjamed, Malta; Passa Porta, Brwsel; Literaturbrucke, yr Almaen; Udruga za promicanje kultura Kulturtreger, Croatia; Centre de Cultura Contemporània de Barcelona, Sbaen; Biuro Literackie - Artur Burszta, Gwlad Pwyl Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a arweiniodd y prosiect hwn a fu’n hyrwyddo dealltwriaeth drawsddiwylliannol a chydlyniant cymdeithasol trwy weithgareddau llenyddol a chelfyddydol. Mae Literary Europe Live Plus yn ymgysylltu ag awduron sy’n ffoaduriaid a chymunedau ffoaduriaid trwy gyfres o breswyliadau, cyfarfyddiadau a gweithdai cydweithredol. Bydd gwaith llenyddol gan awduron sy’n ffoaduriaid a’r gwaith newydd sy’n deillio o’r prosiect yn cael ei arddangos mewn gwyliau partner yn Ewrop a thu hwnt, gyda’r nod o gyfrannu at newid canfyddiadau am ffoaduriaid a mewnfudwyr a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. ––– 8


Ffotogallery A Woman’s Work (dyfarnwyd 2018) Partneriaeth: La Photographie Au Chateau D’eau, Ffrainc; Irish Gallery Of Photography Designated Activity Company, Iwerddon; Lietuvos Fotomenininku Sajungos Kauno Skyrius, Lithwania Fe wnaeth y prosiect hwn herio cynrychiolaeth weledol amlwg menywod yn y gwaith a dangos sut mae’r darlun yn newid yn Ewrop gyfoes. Nod y prosiect dwy flynedd hwn oedd datgelu dealltwriaethau newydd, dogfennu’r prosesau cymdeithasol a diwylliannol sydd ar waith a rhannu safbwyntiau unigol â chynulleidfa ehangach. Bu’r artistiaid dan sylw yn amlygu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond hefyd y ffordd y mae’r gwaith a wneir gan fenywod yn cael ei ailddiffinio trwy ddatblygiadau technolegol, modelau cymdeithasol ac economaidd newydd ac ôl-fyd-eangiaeth. Bu’r bartneriaeth yn comisiynau artistiaid, preswyliadau ac arddangosfeydd. Mae llyfr sy’n arddangos gwaith yr artist ac yn dogfennu’r prosiect yn llunio etifeddiaeth y prosiect. “Mae cyllid Ewrop Greadigol ar gyfer A Woman’s Work wedi galluogi artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru i ymgysylltu ag amrywiaeth o safbwyntiau diwylliannol gwahanol o bob rhan o Ewrop. Mae hefyd wedi rhoi platfform i artistiaid o Gymru ac i Ffotogallery ar y llwyfan rhyngwladol ehangach, ac wedi creu’r cyfle i gydweithio, rhannu ein gwybodaeth a’n profiad a chyfleu golwg optimistaidd flaengar o’n perthnasoedd Ewropeaidd ar gyfer y dyfodol, y tu hwnt i’r pandemig, y tu hwnt i Brexit, ac ar gyfer y genhedlaeth nesaf” David Drake, cyfarwyddwr Ffotogallery ––– Cwmni Dawns Gwyn Emberton (a elwir bellach yn Jones y Ddawns/ the Dance) iCoDaCo - it will come later (dyfarnwyd 2018) Partneriaeth: Aloni & Brummer Productions Ab, Sweden (arwain); Nowohuckie Centrum Kultury, Gwlad Pwyl; Sin Muveszeti Es Kulturalis Nonprofit Kft, Hwngari Bu’r prosiect dawns gyfoes hwn, iCoDaCo, yn gweithio’n agos ag artistiaid, cwmnïau a phobl ledled Ewrop a Hong Kong. Bu’r grŵp cyfunol hwn yn creu, cynhyrchu a theithio gwaith theatr ddawns cydweithredol uchelgeisiol a oedd yn adlewyrchu ac yn dathlu lluosogrwydd ein diwylliannau a’n hieithoedd cyfun ac unigol. Roedd un o artistiaid dawns blaenllaw Cymru, Eddie Ladd, yn goreograffydd ac yn berfformiwr yn y darn. Bu’r gwaith ar daith i lwyfannau gwledig a bach yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth, Trefaldwyn, a chanolfannau dawns ledled Ewrop a Hong Kong, gan gynnwys Gŵyl Ymylol Caeredin. Mae llyfr sy’n cynnwys ffotograffiaeth, erthyglau ysgrifenedig, a myfyrdodau personol yn llunio etifeddiaeth y prosiect.

9


‘Fel cwmni prosiectau bach a gyllidir, rhoddodd y gefnogaeth gan Ewrop Greadigol gyfle i ni fod yn feiddgar ac uchelgeisiol trwy gymryd rhan mewn prosiect ar raddfa fawr, i ddarparu gwaith i bobl ledled Cymru a gweddill y DU, a rannu ein gwaith a’n hieithoedd (Cymraeg, Saesneg a dawns) â chymunedau newydd yn Ewrop a Hong Kong, a chwrdd a dathlu ehangder amrywiaeth y prosiect y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl i ni fel arfer, a rhannu a chyflwyno arferion dawns rhyngwladol â chymunedau ledled cefn gwlad Cymru.’ Dyfyniad gan Gwyn Emberton yng nghyhoeddiad astudiaethau achos ‘Stories from Creative Europe in the UK’ Desg Ewrop Greadigol y DU

––– National Theatre of Wales Open Access / Experimenting with performance and transmedia creation (dyfarnwyd 2018) Partneriaeth: Theatre Granit Scene Nationale De Belfort, Ffrainc (partner arwain) ; Duplacena Producao E Realizacao De Festivais, Espectaculos E Audiovisuais, Lda, Portiwgal; Asociatia Colectiv A, Rwmania Mae Open Access yn brosiect datblygu artistiaid a chynulleidfaoedd sy’n gweithredu ledled Ewrop, gan archwilio dulliau traws-gyfrwng yn y celfyddydau perfformio. Mae’r term traws-gyfrwng yn cyfeirio at fathau o chwedleua sy’n rhychwantu platfformau lluosog ac sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr. Mae’r prosiect yn cynnwys cyfres o labordai, â phob un wedi’i drefnu gan sefydliad partner gwahanol, yn ymchwilio i sut y gallai dulliau traws-gyfrwng fod o fudd i sefydliadau celfyddydol, artistiaid a chynulleidfaoedd ledled Ewrop, a ffyrdd o ailfeddwl y perthnasoedd rhwng cynulleidfaoedd ac artistiaid, a natur theatr fyw – ac ymgynnull mewn gofod ffisegol – ei hun. “Yn broffesiynol, mae gennym lawer i’w ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae ein sectorau diwylliannol i gyd mor wahanol, ac mae chwaeth, anghenion a gofynion cynulleidfaoedd a’r ffyrdd y mae’r gwaith yn cael ei gyllido neu beidio yn enghreifftiau sylfaenol. Mae cryfder mewn gwahaniaeth, pan rydym yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n ein huno.” Dyfyniad gan Simon Coates mewn neges blog ar wefan Desg Ewrop Greadigol y DU

––– Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau @ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ulysses’ Shelter: Adeiladu rhwydwaith awduron preswyl 2 (dyfarnwyd 2019) Partneriaeth: Srsen Ivan, Croatia (arwain); Drustvo Slovenskih Pisateljev, Slofenia; Opaka, Gwlad Groeg; Udruzenje Krokodil, Serbia Mae Ulysses’ Shelter: Adeiladu rhwydwaith awduron preswyl 2 yn cyfuno preswyliadau llenyddol ar gyfer awduron llenyddol ifanc â rhaglen gefnogol gref ar gyfer grwpiau targed lleol. Bydd y rhaglen breswyl yn rhoi cyfle i awduron ifanc sy’n dod i’r amlwg weithio, perfformio a chyflwyno eu hunain mewn cyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol gwahanol. ––– 10


Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau @ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant LEILA (dyfarnwyd 2020) Partneriaeth: : iReMMO - Institut de Recherche et d’Études Méditerranée Moyen-Orient, Ffrainc (partner arwain); ATLAS – CITL Association pour la promotion de la traduction littéraire, Ffrainc; Bozar – Canolfan y Celfyddydau Cain, Gwlad Belg; Éditions Elyzad, Tiwnisia; LitProm, yr Almaen Amcan y prosiect hwn yw creu offer a dynameg strwythurol i hyrwyddo, cyfieithu a dosbarthu llenyddiaeth Arabeg gyfoes trwy fynd i’r afael â holl ecosystem cyfieithu llenyddol yn Ewrop. Mae’n gwneud hyn trwy: ddod â rhwydwaith o arbenigwyr o faes llenyddol EwroArabaidd at ei gilydd, darparu cyfleoedd i feithrin capasiti ymhlith cyfieithwyr, a chyhoeddi catalog o deitlau a argymhellir, sef Llyfrau Newydd mewn Arabeg. Rôl Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau ym mhrosiect LEILA fydd parhau â’r gwaith o adeiladu cysylltiadau rhwng y byd Arabaidd a byd llenyddol Ewrop, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cyrraedd ac yn ymgysylltu â rhwydwaith bwysig o weithwyr proffesiynol ar draws y maes llenyddol Ewro-Arabaidd.

Prosiectau ar Raddfa Fawr OPERA CENEDLAETHOL CYMRU CYFYNGEDIG Prosiect Digidol Opera Ewrop (dyfarnwyd 2014) Partneriaeth: Opera Europa, Gwlad Belg (partner arwain); Association pour le Festival International d’Art Lyrique et l’Académie Européenne de Musique d’Aix en Provence, Ffrainc; Association Relative a la Television Europeenne, Ffrainc; Opera Cenedlaethol y Ffindir; Den Norske Opera & Ballett As, Norwy; Fondazione Teatro Regio, yr Eidal; Opera National de Lyon, Ffrainc; Komische Oper Berlin, yr Almaen; y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, y DU; Stichting Het Muziektheater Amsterdam, yr Iseldiroedd; Teatro-Real, Sbaen; Teatr Wielki Opera Narodowa, Gwlad Pwyl; Wiener Staatsoper, Awstria; Theatre Royal De La Monnaie, Gwlad Belg; Vsia Latvijas Nacionala Opera, Latfia Mae Prosiect Digidol Opera Ewrop wedi rhoi un gyrchfan ar-lein awdurdodol hygyrch i gynulleidfaoedd, fel y gellir darganfod holl fyd opera Ewrop. Wrth wneud opera yn hygyrch i gynulleidfaoedd newydd, cafodd operâu eu ffrydio ochr yn ochr â deunydd cefndir (fideos, deunydd ysgrifenedig, ffotograffau, cerddoriaeth), gwybodaeth hanesyddol fanwl am dai opera unigol yn Ewrop, archifau dethol o berfformiadau, cyfweliadau ag artistiaid pwysig, a mynediad i ddaliadau llawysgrifau mewn llyfrgelloedd cerddoriaeth tai opera. Hefyd, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyfrannu at y prosiect olynol, Opera Vision. –––

11


PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD European Art-Science-Technology Network for Digital Creativity (dyfarnwyd 2017) Partneriaeth: Association Pour la Creation et Larecherche sur les Outils d’Expression, Ffrainc (partner arwain); Prifysgol Manceinion, Lloegr; Ionian University, Gwlad Groed; Aalborg Universitet, Denmarc; Instituto Superiore di Stdudu Musicali - Conservatorio di Musica Giorgio Federico Ghedini di Cuneo, yr Eidal; Kungliga Musikhogskolan I Stockholm, Sweden; Drustvo Ljudmila Laboratorij Za Znanost in Umetnost, Slofenia; Miso Music Portugal Associacao Cultural, Portiwgal; Zentrum Fur Kunst Und Medientechnologie Karlsruhe Stiftung Des Offentlichen Rechts, yr Almaen; Interactive Media Art Laboratory ASBL, Gwlad Belg; Open Up Music CIC, Lloegr; Scene de Musiques Actuelles du Pays de Romans, La Cordonnerie, Ffrainc; Institut; Polytechnique de Grenoble, Ffrainc Mae EASTN-DC yn rhwydwaith o nifer o sefydliadau Ewropeaidd sy’n ymwneud ag ymchwil, datblygu technoleg, creu ac addysg ym maes technolegau sy’n berthnasol i greu artistig. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gelfyddydau digidol sy’n seiliedig ar amser: celfyddydau cerddorol, celfyddydau gweledol, celfyddydau perfformio a chelfyddydau rhyngweithiol. Mae nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol yn digwydd ar draws y prosiect – bydd un ohonynt yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd. ––– Gŵyl y Gelli Women Equal Share Presence in the Arts and Creative Industries (dyfarnwyd 2017) Partneriaeth: Auditorio de Galicia, Sbaen (partner arwain); Umetnostna Galerija Maribor, Slofenia; Akademija Primijenjenih Umjetnosti Sveucilista u Rijeci, Croatia; Grand Angouleme, Ffrainc; Menywod mewn Ffilm a Theledu, y Ffindir; Centre Audiovisuel Simone de Beauvoir, Ffrainc; Sefydliad Technoleg Limerick, Iwerddon; Fundacion Municipal de Cultura de Aviles, Sbaen; Viesoji Istaiga Vilniaus Rotuse, Lithwania Nod Wom@rts yw amlygu cyfraniad menywod i dreftadaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol Ewrop, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau trwy gefnogi presenoldeb menywod o safbwynt traws-sector, gan hyrwyddo ystod eang o gamau symudedd, gwybodaeth, offer, gweithgareddau hyfforddiant a digwyddiadau. Mae ‘State of the Arts – Underpaid, underrepresented, underpromoted: describing women’s ceiling glass in the European Creative Cultural Industries’ yn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2021 gan Brosiect Wom@rts, gyda’r nod o leihau’r diffyg data sylweddol ar gyfranogiad menywod fel asiantau ac fel defnyddwyr ym mywyd diwylliannol Ewrop. –––

12


THEATR GENEDLAETHOL CYMRU ConnectUp - The Life of the Others | European Theatres for Young Audience in a Union of Diversity (dyfarnwyd 2019) Partneriaeth: Universitetet I Agder, Norwy (partner arwain); Assitej Norge, Norwy; Bialostocki Teatr Lalek, Gwlad Pwyl; Centar za kulturu Cakovec, Croatia; Cooperativa De Producao Artistica Teatro Animacao O Bando Crl, Portiwgal; Divadlo Alfa prispevkova organizace, y Weriniaeth Tsiec; Dschungel wien - theaterhaus fur junges publikum GMBH, Awstria; Elsinor Societa Cs, yr Eidal; Fitei, Portiwgal; “Ich bin O.K.” - Kultur- und Bildungsverein der Menschen mit und ohne Behinderung, Awstria; Atpar Landesbühnen Sachsen GmbH, yr Almaen; Deparlutkovno Gledalisce Ljubljana, Slofenia; University of Derby Theatre Ltd, Lloegr. Mae CONNECTUP yn fenter ddiwylliannol ryngwladol ar gyfer grŵp targed o bobl ifanc 12+ mlwydd oed, sydd â’r nod o wrthweithio rhaniadau cymdeithasol a diwylliannol cynyddol ledled Ewrop. Mae theatrau, gwyliau ac un brifysgol, sydd i gyd yn gweithio ym maes Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc, yn cynllunio buddsoddiad mawr mewn datblygu cynulleidfaoedd. Mae’r ap arloesol Sibrwd a ddatblygwyd gan y Theatr Genedlaethol yn cael ei ddatblygu ymhellach fel rhan o’r prosiect hwn; gan gefnogi cyfieithu a gwerthuso, a hwyluso cyflwyniadau mewn 22 o wyliau. ––– COLEG CELF ABERTAWE @ Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Craft Hub (dyfarnwyd 2020) Partnership: Glasmalerei Peters, yr Almaen; Tsaltampasi Apostolina and CO, Gwlad Groeg; Cyngor Sir Carlow, Iwerddon; Materahub, yr Eidal; Designskolen Kolding, Denmarc; Coleg Prifysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol Akershus (HiOA), Norwy; Universidade Nova de Lisboa, Portiwgal; Craft Scotland, yr Alban Mae Craft Hub yn dod â sefydliadau at ei gilydd sydd ag angerdd a rennir dros Grefft a threftadaeth ddiwylliannol. Mae’r rhaglen yn cynnwys preswyliadau cyfnewid ar gyfer gwneuthurwyr; gweithdai hyfforddiant ac addysg allgymorth cymunedol; arddangosfeydd teithiol; cynadleddau; gŵyl Grefft; llyfrgell ddeunyddiau ac adnodd storfa ddigidol amlgyfrwng. Gan gydweithio ag ymarferwyr creadigol, ymchwilwyr a chymunedau ledled Ewrop, bydd y prosiect yn archwilio ac yn dathlu cyfoeth Crefft – ei threftadaeth yn ogystal ag arloesedd cyfoes.

13


B. Cyfieithu Llenyddol Cefnogi cyhoeddwyr a thai cyhoeddi i gyfieithu gwaith llenyddol o un iaith Ewropeaidd i iaith arall. Nod y gronfa yw cefnogi amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol yn Ewrop a hyrwyddo dosbarthu gweithiau llenyddol o ansawdd uchel rhwng gwledydd, yn ogystal â gwella mynediad i’r gweithiau llenyddol hyn fel y gallant gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’r cyllid hefyd yn amlygu gwaith cyfieithwyr llenyddol gan godi proffil y gwaith hwn.

Parthian Books Voices from the Margins – Keeping Wales in Europe through Translation. (dyfarnwyd 2018, 2019 a 2020) Derbyniodd Parthian Books ddyfarniad Cytundeb Partneriaeth Fframwaith – yr unig ddyfarniad a wnaed yn y DU yn y categori hwn. Bob blwyddyn, dros fframwaith 3 blynedd, bu Parthian yn cyfieithu a chyhoeddi detholiad o lyfrau i’w dosbarthu. Cyfieithwyd wyth teitl o wyth iaith wahanol i’r Saesneg, gan gynyddu nifer y darllenwyr a chodi proffil y 10 cyfieithydd dan sylw. Bydd Parthian yn comisiynu cyfres o gyfweliadau rhwng awduron sefydledig a chyfieithwyr o’r enw ‘Talking Translation’, i daflu goleuni ar rôl ddi-glod y cyfieithydd a phwysigrwydd helpu storïau i deithio. Death Drives an Audi a ddangosir yn y llun oedd enillydd Gwobr Llenyddiaeth Ewropeaidd ac fe’i cyfieithwyd i 19 iaith. “Mae cefnogaeth Ewrop Greadigol wedi galluogi sgwrs rhwng awduron a chyfieithwyr a darllenwyr ar draws nifer o ieithoedd. Mae wedi gwneud lleisiau parhaus y carnifal yn bosibl mewn cyfnod heriol.” Richard Davies, Cyhoeddwr, Parthian Books

C. Llwyfan Ewropeaidd Nod y prosiectau hyn yw hyrwyddo artistiaid sy’n dod i’r amlwg, gan gynyddu eu hamlygiad rhyngwladol trwy raglen o weithgareddau diwylliannol ac artistig ledled Ewrop a chefnogi symudedd a gwelededd crewyr ac artistiaid. Mae’r cyfle cyllido hwn yn cynnig cefnogaeth i Lwyfannau Ewropeaidd hyrwyddo talentau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg trwy gyd-ddatblygu, cyd-gynhyrchu a rhaglennu. Mae llwyfannau’n cynnwys aelodau, sydd gyda’i gilydd yn ymrwymo i gyflwyno cynnwys a gynhyrchir yn Ewrop ac i ddarparu gwelededd a symudedd i dalentau newydd. Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Gŵyl y Gelli Literary Europe Live (dyfarnwyd 2015, 2016) Latvijas Literaturas centrs (Canolfan Lenyddiaeth Latfia), Latfia; Inizjamed, Malta; Het beschrijf vzw (Tŷ Llenyddiaeth Passaporta), Gwlad Belg; Kulturtreger – Cymdeithas er 14


hyrwyddo diwylliannau, Croatia; Foreningen Oslo internasjonale poesifestival (Gŵyl Farddoniaeth Oslo), Norwy; Centre de Cultura Contemporània de Barcelona (Canolfan Diwylliant Cyfoes Barcelona), Sbaen; Petöfi Irodalmi Múzeum (Amgueddfa Lenyddol Petöfi), Hwngari; Drustvo Slovenskih Pisateljev (Cymdeithas Awduron Slofenia), Slofenia; Artur Burszta Biuro Literackie (Canolfan Lenyddol), Gwlad Pwyl; Maratonas de Leitura Consultores Editoriais, Portiwgal; Cymdeithas Awduron Croatia, Croatia; Literaturbruecke Berlin e.V., yr Almaen; Llyfrgell Farddoniaeth yr Alban, yr Alban; Anadolu Kultur A.S, Twrci Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio’n gyfartal ar ddatblygiad creadigol a phroffesiynol awduron a rhaglenwyr llenyddol sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â chyhoeddwyr, ac yn annog rhaglenni sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth tirwedd lenyddol Ewrop ac yn tynnu sylw at waith talentau llenyddol rhagorol sy’n dod i’r amlwg. Y prif nodau oedd: - cyflwyno gwaith llenyddol Ewropeaidd yn ei holl amrywiaeth i gynulleidfaoedd byw ledled Ewrop a thu hwnt mewn cydweithrediad â nifer o wyliau - rhoi cyfleoedd i awduron sy’n dod i’r amlwg ymddangos mewn digwyddiadau llenyddol rhyngwladol - cynnig cyfleoedd rhyngwladol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes llenyddiaeth (rhaglenwyr llenyddol, cyhoeddwyr ac ati).

Mae etifeddiaeth ein gwaith gydag Ewrop Greadigol ers 2015, megis Literary Europe Live, yn sylweddol: mae cysylltiadau parhaol wedi deillio o’n prosiectau, a gwyliau a sbardunwyd yn wreiddiol gan ein partneriaethau, a rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol, cynulleidfaoedd cynyddol ar gyfer gwaith wedi’i gyfieithu, a modelau datblygu cydweithredol. Ac efallai fod yr etifeddiaeth anghyffyrddadwy hyd yn oed yn fwy ystyrlon: sef yr effaith y mae profiad rhyngwladol yn ei chael ar ddatblygiad creadigol a phroffesiynol awduron, a dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliannau ac amgylchiadau hanesyddol eraill, a geir gan ddarllenwyr a chynulleidfaoedd. Alexandra Buchler, Cyfarwyddwr, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau

Ch

Rhwydweithiau

Mae’r maes cyllido hwn yn cynnig cefnogaeth ar gyfer rhwydweithiau creadigol a diwylliannol Ewrop. Nod y rhwydweithiau hyn yw cefnogi gallu eu haelodau i weithredu’n well ar draws cenhedloedd, ac adeiladu eu gallu i weithio ledled Ewrop ac addasu i newid. Mae rhwydweithiau yn annog amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol, yn cryfhau cystadleurwydd, ac yn hyrwyddo rhannu sgiliau ac arferion da. Cyllidwyd 28 o rwydweithiau gan raglen Ewrop Greadigol – sy’n rhychwantu gwahanol fathau o gelfyddyd a diddordebau sectorau, o gerddoriaeth i bolisi diwylliannol. Mae sefydliadau ac artistiaid ledled Cymru yn elwa ar fod yn rhan o rwydwaith. Yn 2018, cynhaliodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gyfarfod ategol IETM yn Llandudno. IETM yw’r rhwydwaith rhyngwladol ar gyfer y celfyddydau perfformio cyfoes, ac mae’n rhwydwaith sector arbennig o weithgar. 15


‘Meysydd Gweledigaeth – Lleisiau gwahanol, lleoedd gwledig, straeon byd-eang’ oedd thema’r gynhadledd, a fynychwyd gan weithredwyr diwylliannol o bob rhan o’r DU ac Ewrop. O ystyried cyd-destun gwledig Cymru, roedd hwn yn gyfle i barhau â sgyrsiau rhwydwaith ynghylch gweithio mewn ardaloedd gwledig i ffwrdd o’r canolfannau trefol ar lefel Ewropeaidd ac ar lefel ryngwladol. Hefyd, roedd yn gyfle gwerthfawr i rannu a chyflwyno diwylliant a chynnyrch Cymru i gynulleidfa ryngwladol. Mae gweithredwyr diwylliannol ledled Cymru yn weithgar o fewn IETM, Circo Strada, Culture Action Europe, EUNIC, a’r Ffederasiwn Chwedleua Ewropeaidd, i enwi ond ychydig. Mae’r cyfle i uno ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid, ysbrydoliaeth, sgyrsiau ar y cyd a thrafodaeth ar lwyfan rhyngwladol yn adlewyrchiad cyffredin ac yn rhan annatod o weithio rhyngwladol. Europa Nostra yw’r ffederasiwn ledled Ewrop o sefydliadau treftadaeth anllywodraethol a dyma’r rhwydwaith mwyaf cynrychioliadol sy’n gweithio ym maes treftadaeth Ewrop. Mae’r rhwydwaith yn rhoi dyfarniadau yn flynyddol i brosiectau sy’n hyrwyddo arferion gorau yn ymwneud â chadwraeth, rheolaeth, ymchwil, addysg a chyfathrebu ym maes treftadaeth. Derbyniodd Yr Ysgwrn ym Mharc Cenedlaethol Eryri – a chartref Hedd Wyn – Wobr Cadwraeth glodfawr yng Ngwobrau Treftadaeth Ewrop/ Europa Nostra 2019 a gefnogir gan Ewrop Greadigol.

“Bydd y wobr hon yn agor drws Yr Ysgwrn i lwyfan rhyngwladol, sy’n gwbl briodol o ystyried bod hanes Hedd Wyn, y colledion enfawr a gafwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’i etifeddiaeth heddychlon yn perthyn i gartrefi a chymunedau ledled y byd.” Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dyfyniad o neges blog ar wefan Desg Ewrop Greadigol y DU

Delwedd © Purcell UK

16


Cyllid is-raglen CYFRYNGAU yng Nghymru

Gêm fideo Maid of Sker. Y ddelwedd trwy gwrteisi Wales interactive

Yn sgil uno’r rhaglenni Diwylliant a CYFRYNGAU â Rhaglen Ewrop Greadigol yn 2013, gwelwyd gostyngiad yn nifer y ceisiadau CYFRYNGAU llwyddiannus yng Nghymru. Sefydlwyd y Rhaglen CYFRYNGAU gyntaf, fel rhaglen ar wahân, ym 1990 ac roedd ar ffurf pum Rhaglen flaenorol: CYFRYNGAU 95, CYFRYNGAU II, CYFRYNGAU Plws a CYFRYNGAU 2007. Fe wnaeth Ewrop Greadigol, gyda’r pwyslais o’r newydd ar greu ‘cae chwarae gwastad’ ledled y gwledydd sy’n cymryd rhan, ac wedi hynny, y ffocws ar gefnogaeth ar gyfer cydgynhyrchu, effeithio’n sylweddol ar nifer y cwmnïau clyweledol yng Nghymru a oedd yn gymwys i wneud cais, ac os gwnaethant gais, faint oedd yn llwyddo i sicrhau cyllid. Fel un o’r pum gwlad â chynhyrchiant uchel yn y maes clyweledol (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a’r Eidal yw’r lleill), cafodd ceisiadau o’r DU eu heithrio o’r pwyntiau awtomatig a ddyfarnwyd i geisiadau o wledydd canolig a llai. Roedd yr effaith ar gwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, â llawer ohonynt yn ficro-fentrau, yn enfawr. Wrth i gyfradd lwyddiant y ceisiadau ostwng, felly hefyd yr hyder wrth gyflwyno ceisiadau, a arweiniodd at ostyngiad parhaus yn nifer y ceisiadau. Derbyniodd cwmnïau a sefydliadau o Gymru €2.5 Miliwn ar draws 25 prosiect yn rhaglen CYFRYNGAU 2007 – 2013, sy’n dangos yr effaith hon. Gweler atodiad am restr lawn o’r prosiectau a dderbyniodd ddyfarniad. Wedi dweud hynny, parhaodd yr is-raglen CYFRYNGAU i ddod â buddion i gwmnïau yng Nghymru mewn nifer o ffyrdd eraill. Bu cyfranogwyr o Gymru’n cymryd rhan mewn llawer o’r cynlluniau hyfforddiant o safon uchel a gefnogwyd gan CYFRYNGAU, gan gynnwys EAVE ac Inside Pictures, a bu cwmnïau’n cymryd rhan mewn marchnadoedd a gwyliau a gefnogwyd gan CYFRYNGAU gan gynnwys Cartoon Forum a Series Mania. Roedd y mentrau hyn yn galluogi cynhyrchwyr cynnwys i rwydweithio â phobl greadigol eraill o bob rhan o Ewrop a chysylltu ag ystod o gyllidwyr, dosbarthwyr a darlledwyr o bob cwr o’r byd. 17


A.

Datblygu Gemau Fideo

Mae’r cyllid hwn yn cefnogi datblygu gemau fideo naratif, gyda’r bwriad i’w datblygu’n fasnachol. Wales Interactive Maid of Sker (dyfarnwyd 2017) Gêm arswyd yn y person cyntaf, gyda’r nod o oroesi, yw Maid of Sker, ac mae wedi’i gosod mewn gwesty anghysbell sydd â hanes dychrynllyd, sy’n deillio o lên gwerin Cymru ac sy’n cynnwys defnydd o’r Gymraeg. Ers ei lansio ledled y byd, enillodd y gêm wobr Treftadaeth gan TIGA, sef ‘Oscars’ clodfawr y diwydiant gemau, yn 2020. Yn ogystal â’i harwyddocâd diwylliannol, mae’r gêm wedi bod yn llwyddiant masnachol gwych i’r stiwdio gan gyflawni dros filiwn o lawrlwythiadau ers ei lansio. Bydd hyn yn gweld cynulleidfa fyd-eang newydd yn darganfod y Gymraeg, a straeon a chaneuon Cymru am y tro cyntaf trwy gyfrwng gemau fideo.

B.

Datblygu Cyfres neu Brosiect Unigol

Mae cyllid datblygu yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu annibynnol Ewrop sydd eisiau datblygu prosiect neu brosiectau sydd â photensial rhyngwladol ar gyfer platfformau sinema, teledu neu ddigidol. Mae ymgeiswyr yn gwneud cais naill ai ag un prosiect neu gyfres o brosiectau. Gweler tabl CYFRYNGAU 2007 i gael manylion am fuddiolwyr yng Nghymru o dan raglen flaenorol.

C.

Addysg ym maes Ffilm

Mae’r cyllid hwn yn cefnogi prosiectau sy’n darparu mecanweithiau ar gyfer cydweithredu gwell rhwng mentrau addysg ym maes ffilm. Mae’n helpu i ddatblygu prosiectau newydd ac arloesol sydd wedi’u hanelu at gynulleidfa o bobl dan 19 oed. Mae’r prosiectau hyn yn gofyn am bartneriaid lluosog o bob rhan o Ewrop.

Ch.

Cefnogaeth ar gyfer Rhaglenni Teledu

Fiction Factory Hinterland/Y Gwyll Cyfres 3 (dyfarnwyd yn 2015) Mae Fiction Factory, sef cwmni cynhyrchu sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, wedi datblygu perthynas gref a llwyddiannus â darlledwyr sydd wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a hanes profedig. 18


Ariannwyd cyfres gyntaf Hinterland/Y Gwyll drwy’r Rhaglen Gyfryngau flaenorol, sef y cyllid a’i gwnaeth yn bosibl cynhyrchu’r gyfres. Gan nad oedd modd digolledu cyllid Ewrop Greadigol, rhoddodd hyn sicrwydd i arianwyr eraill fentro. Roedd y risg yn werth chweil - a bu Hinterland/Y Gwyll yn llwyddiant ledled y byd, gan arwain at nifer o gynyrchiadau dwyieithog llwyddiannus eraill. Dywedodd cynhyrchydd a chydgreawdwr Hinterland/Y Gwyll, Ed Talfan: “Byddwn i’n dweud bod yr arian Ewropeaidd yn dyngedfennol yn y gyfres gyntaf. Rwy’n amau efallai erbyn y drydedd gyfres, gan ein bod wedi hen ddechrau arni, efallai bod ffordd o gael sgyrsiau a oedd yn galluogi partïon eraill i ddod ag ychydig bach mwy at y bwrdd. Ond yn sicr, gyda’r gyfres gyntaf, roedd pawb wedi rhoi’r mwyaf y gallant ac roedd y cyllid Ewropeaidd yn hanfodol.”3 Mae enghreifftiau eraill o gwmnïau cynhyrchu o Gymru a elwodd ar gyllid a ddyfarnwyd ar gyfer prosiectau Rhaglenni Teledu yn cynnwys The Truth Department ar gyfer The Borneo Case, Animation Associates ar gyfer Circle Square a Cwmni Da ar gyfer Europe’s Last Nomads. D.

Hyfforddiant a Marchnadoedd

Mae rhaglen Ewrop Greadigol yn cefnogi gweithgareddau hyfforddiant sydd â’r nod o ddatblygu gallu gweithwyr clyweled proffesiynol, a digwyddiadau blynyddol sydd wedi’u llunio i hwyluso’r gallu i weithwyr clyweled proffesiynol Ewropeaidd fanteisio ar farchnadoedd. Er na wnaeth unrhyw wyliau na sefydliadau sgrin Cymreig fanteisio’n uniongyrchol ar y gronfa i gyflwyno eu cynllun hyfforddiant na’u marchnad eu hunain, mynychodd llawer o unigolion a sefydliadau o Gymru gynlluniau hyfforddiant, a marchnadoedd a gwyliau a gefnogwyd gan Ewrop Greadigol ledled Ewrop. Gweler tabl prosiect Cyfryngau 2007-13 (Atodiad i) am fanylion am fuddiolwyr o Gymru dan y rhaglen flaenorol.

Dd.

Rhwydwaith Europa Cinemas

Crëwyd Rhwydwaith Europa Cinemas gan y Comisiwn Ewropeaidd a CNC (Ffrainc) ym 1992, ac fe’i hariannwyd gan y rhaglen Gyfryngau. Ers ei greu, cefnogwyd Europa Cinemas gan y Comisiwn Ewropeaidd (Ewrop Greadigol / y Rhaglen Gyfryngau) a CNC (Ffrainc), a hwn yw’r rhwydwaith cyntaf o sinemâu sy’n canolbwyntio ar ffilmiau Ewropeaidd. Erbyn hyn, mae’r rhwydwaith yn uno dros 1,200 o sinemâu mewn 43 o wledydd. Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter, fel sinema annibynnol fechan yng Nghaerdydd, wedi elwa ar y rhwydwaith hwn i ddangos ffilmiau Ewropeaidd i gynulleidfaoedd yn 2013-2015. Ni pharhaodd y sinema i gymryd rhan ar ôl y dyddiad hwn, gan iddi benderfynu adlinio’r rhaglen ffilmiau i fodloni anghenion ei chynulleidfa, a oedd yn golygu wedyn nad oedd yn bodloni’r gofynion cymharol uchel ar gyfer y cyllid.

3

Dyfyniad o ‘Dark cloud of Brexit looms over noir series Hinterland’ gan Lucy Ballinger ar www.bbc.co.uk (26.07.2016), http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-36896952.

19


Atodiad Rhestr lawn o’r prosiectau a ddyfarnwyd yng Nghymru dan y rhaglen Gyfryngau 2007-2013

Cynllun Development Interactive Development Interactive

Cwmni Dave Edwards Entertainment Media Rondo Media CYF

Development Interactive Development Single Development Single Development Single Development Single

Dinamo Productions Ffilmiau'r Nant Cyf Truth Department Modern Television Teledu Apollo Cyf

Development Single Development Single

Element Productions Calon

Development Single Development Single Development Single Development Single Development Single Development Single Development Slate Development Slate Development Slate Initial Training Initial Training Initial Training Initial Training TV Broadcasting TV Broadcasting TV Broadcasting

Vision Thing Communications Dinamo Productions Fragrant Films Red&Black Films Little Lamb Media Fiction Factory Griffilms Machine Productions Dinamo Productions University of Wales, Newport University of Wales, Newport University of Wales, Newport University of Wales, Newport Calon Mike Young Productions Fiction Factory

20

Prosiect Arty's 'Make & Do Combat' Lost on Infinity (Rockford) Abadas Interactive Pop Up Book The Devil's Horn Gone to Spain Road of Bones Eliffant Europe's Big Walk: The Pilgrimage Route from Canterbury to Rome PS15 String Theory - The Sound of Good and Evil The Wordles Runt Cyrano Red Mathias/Hinterland (Fiction) Slate funding 1 - Animation Fiction Animation Transmedia Lab Transform@Lab Transform@lab Transform@Lab Igam Ogam Chloe’s Closet Hinterland/Mathias Cyfanswm

Grant i Sefydliad yng Nghymru € €

86,014 150,000

€ € € € €

50,000 30,000 30,000 40,000 40,000

€ €

46,497 50,000

€ € € € € € € € € € € € € € € € €

24,999 53,771 24,950 24,980 24,957 45,000 80,000 165,022 150,000 69,942 70,000 83,129 92,902 268,000 300,000 500,000 2,500,163


Delwedd clawr: Delwedd o Rosemary Smith, Gyrrwr Rali, (c) Beta Bajgart, rhan o brosiect A Woman’s Work gan Ffotogallery & Delwedd o Y Gwyll/ Hinterland gan Fiction Factory

Paratowyd yr adroddiad hwn gan reolwyr Diwylliant a Chyfryngau Cymru Desg Ewrop Greadigol y DU, ac mae ar gael yn Saesneg hefyd. Am fwy o wybodaeth am Ewrop Greadigol, ewch i: www.creativeeuropeuk.eu

21


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.