Cynyddu Gwerth Rhyngweithio Rhwng Prifysgolion a Busnesau Yng Nghymru ADRODDIAD YMCHWIL AWST 2017
Yr Athro Kevin Morgan, Dr Adrian Healy, Yr Athro Robert Huggins a Mr Meirion Thomas
2
Rhagair Mae Canolfan Genedlaethol Prifysgolion a Busnes yn datrys materion sydd o fudd i’r DU, mewn partneriaeth â llunwyr polisïau a’r llywodraeth. Gwerth Cynyddol y Ganolfan Genedlaethol: Nod Tasglu Cymru yw archwilio i sut mae prifysgolion a byd diwydiant yn rhyngweithio yng Nghymru, a gwneud argymhellion ynglŷn â sut i wella. Mae’r Tasglu, sydd wedi’i gadeirio gan Dr Drew Nelson, Prif Swyddog Gweithredol IQE a’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yn dod ag unigolion allweddol o’r sectorau preifat ac addysg uwch i ganolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o fanteisio ar y bobl dalentog sy’n datblygu yn ein prifysgolion, a’n cryfderau o ran gwneud ymchwil sy’n torri tir newydd, er mwyn gwella economi’r wlad. Mae Tasgluoedd blaenorol y Ganolfan Genedlaethol wedi cael effaith a dylanwad mawr ar y llywodraeth, ac mae ganddynt enw am gynnig camau ac argymhellion ymarferol. Mae’r Tasglu’n ychwanegu at waith Tasglu Cynyddu Gwerth y DU, a gyfrannodd at bolisïau gwyddoniaeth a’r adolygiad gwario yn 2012 a Growing Value: Scotland a’i raglen etifeddiaeth Growing Potential: Scotland’s Innovation Step-Change, a oedd yn archwilio i sut mae prifysgolion, busnesau a’r llywodraeth yn cydweithio i sicrhau newid o ran arloesedd ac ymchwil a datblygu ym myd busnes, ac yn sicrhau bod y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau’n cynhyrchu graddedigion entrepreneuraidd ac arloesol. Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Dasglu Cynyddu Gwerth Cymru y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnesau, yn ystyried y rhyngweithio newidiol rhwng prifysgolion a busnesau yng Nghymru. Mae’n nodi’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n deillio o gydweithredu ac yn tynnu sylw at glystyrau o ragoriaeth, neu ‘bwyntiau poeth’, yn nhirwedd arloesi Cymru o safbwynt rhyngweithio rhwng prifysgolion a busnesau. Roedd y dull gweithredu’n cynnwys adolygiad dogfen cynhwysfawr wedi’i ddilyn gan ymchwil ansoddol gyda rhanddeiliaid o fusnesau bach a mawr a holl brifysgolion Cymru. Roedd y Tîm Ymchwil yn cynnwys:Yr Athro Kevin Morgan; Dr Adrian Healy; Yr Athro Robert Huggins; Mr Meirion Thomas. Rheolwr y prosiect yw Elin Lloyd Jones. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am ariannu’r ymchwil hon.
Crynodeb o’r camau y mae angen eu cymryd yn sgil yr adroddiad hwn
1. Mae angen i brifysgolion a busnesau i gael dealltwriaeth ddyfnach o ‘i gilydd ac i ffurfio partneriaethau mwy a gwell. 2. Mae adeiladu dull strategol gwell o gydweithredu rhwng prifysgolion a busnesau yn hanfodol. 3. Mae sicrhau bod uwch arweinwyr mewn prifysgolion a busnesau yn hyrwyddo cydweithrediadau rhwng prifysgolion a busnesau mewn modd cadarn, amlwg a chyson yn allweddol. 4. Mae angen i Gymru adeiladu arloesedd prosesau a gwasanaethau i mewn i’w strategeiddio cyffredinol mewn perthynas ag arloesedd, gan gynnwys arloesedd cymdeithasol ac arloesedd gwasanaeth cyhoeddus. 5. Rhaid i brifysgolion ystyried y busnesau cadwyn gwerth i gynyddu effaith cydweithredu. ylid ailddechrau buddsoddi mewn cydweithredu rhwng prifysgolion a busnesau yng Nghymru i 6. D alluogi prifysgolion a busnesau Cymru i weithredu ar yr un lefel â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. 7. Mae angen adnodd hyblyg ac ymatebol sy’n defnyddio llwyfan digidol modern i gysylltu holl brifysgolion Cymru a rhoi gwybod i fusnesau yn fwy effeithiol am arbenigedd a chyfleoedd cydweithredu. Un ffordd ymarferol o wneud hynny yw I’r ddau grŵp i weithio drwy’r llwyfan digidol creusbarc.cymru sy’n ceisio cysylltu’r holl rhanddeiliaid allweddol yn yr economi wybodaeth.
04
Cynnwys
Cyflwyniad
06
01. Cynyddu gwerth drwy ryngweithio prifysgol- busnes
07
02. Ymchwil ac arloesedd a busnesau Cymru
11
03. Ymchwil ac arloesedd a phrifysgolion Cymru
17
04. ‘Pwyntiau Poeth’ ar gyfer rhyngweithio prifysgol-busnes yng Nghymru
24
05. Heriau i wella rhyngweithio prifysgol-busnes yng Nghymru
30
06. Cyfleoedd i gynyddu gwerth drwy ryngweithio prifysgol-busnes
32
07. Casgliadau
34
08. Cynllun gweithredu i gynyddu gwerth
36
05
Tabl Ffigurau
Ffigur 1.
Canran y cynnyrch domestig gros rhanbarthol yn y DU sy’n cael ei wario ar R&D
11
Ffigur 2.
Cwmnïau o Gymru sy’n ymgymryd ag arloesi
12
Ffigur 3.
Y lefelau a’r mathau o arloesedd gan gwmnïau Cymru
12
Ffigur 4.
Ffynonellau ‘uchel’ o arloesedd ymysg cwmnïau Cymru
13
Ffigur 5.
Cydweithrediad gan y math o bartneriaid
13
Ffigur 6.
Cwmnïau angori yng Nghymru.
15
Ffigur 7.
Cysylltiadau busnes-prifysgol yng Nghymru
15
Ffigur 8.
Cysylltiadau prifysgol-busnes mewn rhanbarthau eraill yn y DU
16
Ffigur 9.
Gwariant ar ymchwil yng Nghymru
17
Ffigur 10.
Incwm cyfnewid gwybodaeth yng ngwledydd y DU 2014-15 a chyllidebau Arloesi ac Ymgysylltu
17
Ffigur 11.
Cyfranogiadau mewn prosiectau Innovate UK (2004-2017)
19
Ffigur 12.
Prosiectau ymchwil cydweithredol 2015-16
20
Ffigur 13.
Incwm contract
20
Ffigur 14.
Incwm ymgynghori
21
Ffigur 15.
Incwm o gontractau ymchwil a chontractau ymgynghori ar gyfer SAU Cymru
21
Ffigur 16.
Cydweithio rhyngwladol gan sefydliadau Cymru yn Horizon 2020
22
Ffigur 17.
Cyfranogiad gan SAU Cymru yn Horizon 2020 hyd heddiw
23
Ffigur 18.
Cryfderau sector a nodwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd
24
Ffigur 19.
Cryfderau sector a nodwyd gan Ranbarth Dinas Bae Abertawe
25
Ffigur 20.
Cryfderau sector a nodwyd gan Ogledd Cymru
25
Ffigur 21.
Blaenoriaethau sector a nodwyd ar draws dogfennau strategaeth
25
Ffigur 22.
‘Pwyntiau poeth’ UBC cyfredol fel y nodir gan SAU
26
Ffigur 23.
‘Pwyntiau poeth’ UBC sy’n datblygu fel y nodir gan SAU
27
Ffigur 24.
Aliniad cydweithrediad ‘Pwyntiau poeth’ gyda blaenoriaethau strategaeth
28
Ffigur 25.
Blaenoriaethau arbenigo deallus ar gyfer Cymru
29
06
Cyflwyniad Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Dasglu Cynyddu Gwerth Cymru1, yn ystyried y rhyngweithio newidiol rhwng prifysgolion a busnesau yng Nghymru. Mae’n nodi’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n deillio o gydweithredu ac yn tynnu sylw at glystyrau o ragoriaeth, neu ‘bwyntiau poeth’, yn nhirwedd arloesedd Cymru o safbwynt rhyngweithio. Nod y Tasglu yw archwilio’r tri thema:
1. Mapio’r ecosystem
2. Adnewyddu’r gronfa dalent
3. Dulliau symleiddio
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi mewnbwn ar gyfer y cyntaf o’r themâu hyn - “Mapio’r ecosystem” gyda’r amcanion canlynol wedi’u pennu ar gyfer y gwaith ymchwil:
•• I nodi meysydd o gryfder a/neu wendid a chanolfannau rhagoriaeth yn nhirwedd arloesi Cymru; •• I nodi cyfleoedd a bygythiadau sy’n datblygu; •• I lunio ‘map gwres’ o’r dirwedd arloesi yng Nghymru.
Rhagwelwyd yr allbwn o’r gwaith hwn fel adroddiad byr fel sail i ddatblygiad ffrydiau gwaith dilynol y tasglu. Yn fwy penodol, cytunodd y tîm ymchwil gyda Bwrdd Prosiect Cynyddu Gwerth Cymru y dylai ffocws yr ymchwil fod ar ryngweithio a rhwystrau/hwyluswyr i ryngweithio o’r fath; i nodi meysydd o gryfder/gwendid a meysydd o gyfleoedd a bygythiadau sy’n datblygu sy’n gysylltiedig â rhyngweithio, ac i amlygu, lle bo’n bosibl, clystyrau neu ganolfannau rhagoriaeth yn nhirwedd arloesi Cymru o ran rhyngweithio. Roedd y dull ymchwil a ddefnyddiwyd yma yn cynnwys adolygiad helaeth o lenyddiaeth a pholisi oedd yn arwain at raglen o gyfweliadau ansoddol gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar ochr gyflenwi (prifysgolion) ac ochr galw rhyngweithio (busnesau mawr a bach). Yn olaf, mae astudiaethau achos neu ‘ddisgrifiadau cryno’ (vignettes) sy’n esbonio agweddau ar yr ymchwil, heriau a chyfleoedd, wedi’u defnyddio i daflu mwy o oleuni ar y cydweithrediad rhwng prifysgol a busnes. Roedd y tîm ymchwil yn cynnwys: •• Yr Athro Kevin Morgan •• Dr Adrian Healy •• Yr Athro Robert Huggins •• Mr Meirion Thomas
1 Mae Tyfu Gwerth Cymru yn adeiladu ar waith Tasglu Cynyddu Gwerth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes (NCUB) ledled y DU a’r Tasglu Growing Value Scotland.
07
01
Cynyddu gwerth drwy ryngweithio prifysgol-busnes
Adolygiad llenyddiaeth Cydnabyddir yn eang fod ymchwil, datblygu ac arloesedd yn hanfodol ar gyfer twf a ffyniant yr economi - yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn fydeang yn dangos bod economïau llwyddiannus wedi’u nodweddu gan eu heconomïau gwybodaeth a’u systemau arloesi gweithredol sy’n cynnwys ymchwil a datblygu academaidd, sector cyhoeddus a busnes a gefnogir gan fecanweithiau polisi cyhoeddus hyblyg. Mae dadansoddiad meincnodi o 2014 o wyddoniaeth ryngwladol a system arloesi a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn nodi fod “Systemau arloesi a gwyddoniaeth yn gymhleth ac yn cynnwys nifer fawr o elfennau ategol; pennir eu heffeithiolrwydd yn bennaf gan ba mor dda mae’r elfennau’n rhyngweithio o’u mewn ac yn ymateb i alw’r system economaidd a chymdeithasol ehangach”2. Yn hollbwysig, mae systemau arloesi hefyd yn dibynnu ar elfennau meddalach megis diwylliant o arloesi sy’n seiliedig ar ryngweithio, a bod yn agored i gyfleoedd rhyngwladol a newid. Mae ecosystem arloesi effeithiol yn galluogi cwmnïau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, buddsoddwyr ac asiantaethau’r llywodraeth i ryngweithio’n effeithiol er mwyn gwneud y mwyaf o effaith economaidd masnacheiddio ymchwil ac arloesi. Mae modelau arloesi technolegol confensiynol yn cael eu herio i lynu’n llai wrth ddarganfyddiadau gwyddonol fel y brif ffynhonnell sy’n bwydo arloesedd. Mae busnesau bellach, i raddau helaeth, yn canolbwyntio ar arloesi wedi’i ysbrydoli gan y galw i feithrin dealltwriaeth fanylach o anghenion
a disgwyliadau defnyddwyr. Yn y cyd-destun hwn, mae modelau arloesi’n dod i’r amlwg sy’n seiliedig ar ecosystem ryngweithiol ac sy’n rhoi gwerth ar allbynnau arloesi trawsnewidiol ochr yn ochr â gwybodaeth wyddonol yn hytrach nag yn eilradd iddi. Mae polisïau a strategaethau sy’n cefnogi twf economaidd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd adeiladu economi wybodaeth ar sail cyfnewid technoleg a gwybodaeth yn hwylus ac effeithiol rhwng y sectorau academaidd a busnes sydd wrth wraidd economi a arweinir gan arloesi llwyddiannus. Mae NESTA wedi ystyried y rôl benodol mae prifysgolion yn chwarae wrth helpu i wneud i gapasiti arloesi lleoedd a systemau weithio’n fwy effeithiol ac mae’n dod i’r casgliad fod prifysgolion yn chwarae rôl allweddol o ran ysgogi cyfnewid gwybodaeth gyda busnesau, a rhwng busnesau, oherwydd eu rôl posibl fel ‘angorion ar gyfer busnesau arloesol’3. At hynny, mae llawer o astudiaethau rhyngwladol, er enghraifft gan yr OECD4, wedi dangos bod rhanbarthau Ewrop sy’n canolbwyntio ar adeiladu dull cydweithredol rhwng busnes, prifysgolion a Llywodraeth yn tueddu i fod y mwyaf llwyddiannus o ran gwella eu perfformiad. I’r perwyl hwn, mae’r Comisiwn Ewropeaidd5 yn disgrifio ‘rhanbarth cysylltiedig’ fel un lle ceir synergeddau rhwng asedau deallusol prifysgolion y rhanbarth ac anghenion busnes o ran datblygu gallu i arloesi. Nododd Sir Andrew Witty, yn ei Adolygiad o Brifysgolion a Thwf (2013)6, fod “Mae prifysgolion sy’n cynhyrchu ymchwil arloesol... yn ymdebygu blaen saeth... ac mae rhan ôl y saeth yn cael ei
2 Yr Adran Arloesi Busnes a Sgiliau (2014) ‘Insights from international benchmarking of the UK science and innovation systems’ Adroddiad gan Tera Allas, Papur Dadansoddiad BIS 03, Ionawr 2014, Ar gael o: www.gov.uk/government/publications/science-and-innovation-system-international-benchmarking 3 Kitson, M; Howells, J; Braham, R; Westlake, Stian (2009) ‘The connected university: driving recovery and growth in the UK economy’. Adroddiad ymchwil Nesta Ar gael o: www.nesta.org.uk/publications/reports/assets/features/the_connected_university 4 OECD (2011) ‘Regions and innovation policy’, OECD Adolygiadau o Arloesi Rhanbarthol. Crynodeb gweithredol ar gael o: www.oecd.org/dataoecd/43/39/47743581.pdf 5 Y Comisiwn Ewropeaidd (2011) ‘Connecting Universities to Regional Growth: A Practical Guide’, Smart Specialisation Platform, Medi. Ar gael o: http://ec.europa.eu/regional_policy/sources/docgener/presenta/universities2011/universities2011_en.pdf 6 BIS Llywodraeth y DU (Hydref 2013) ‘Encouraging a British Invention Revolution: Sir Andrew Witty’s Review of Universities and Growth’ Adroddiad Terfynol ac Argymhellion.
08 chynrychioli gan weithgarwch economaidd a alluogir gan arloesedd a arweinir gan ymchwil. Mae datblygu’r gweithgarwch hwn i’r eithaf...yn hanfodol.“ Felly nodweddir arloesi bellach fel rhywbeth sy’n cynnwys rhwydweithiau sefydliadol ar ffurf cysylltiadau cydweithredol gydag amrywiaeth o actorion allanol.
O ganlyniad, mae gwybodaeth gan ddarparwyr fel prifysgolion yn ffactor allweddol gyda phrosesau arloesi modern a llunio systemau arloesi. Mae prifysgolion yn cael eu portreadu fwyfwy fel endidau cynhyrchu gwybodaeth graidd sy’n gallu chwarae rôl ehangach wrth ysgogi arloesi a datblygu trwy ddarparu gwybodaeth ar gyfer busnes a diwydiant.
Cyd-destun polisi Mae dogfen strategol allweddol y Comisiwn Ewropeaidd, Ewrop 20207 yn nodi gweledigaeth economi Ewrop ar gyfer y 21ain ganrif wedi’i yrru gan fusnesau deallus, cynaliadwy ac arloesol yn cynnig lefelau uchel o gyflogaeth a chynhyrchiant cryf. Roedd rôl arloesi a gweithgareddau dwys o ran gwybodaeth yn y sectorau masnachol, academaidd a chyhoeddus yn cael ei bwysleisio’n gryf drwy gydol y strategaeth fel rhywbeth sy’n darparu tanwydd ar gyfer twf a datblygiad ar lefel Undeb Ewropeaidd (UE), aelod-wladwriaeth, lefel rhanbarthol lleol a lefel uned busnes. Nododd menter flaenllaw Ewrop 2020, yr Undeb Arloesi8 yr angen i’r “UE ac aelod-wladwriaethau.....i barhau i fuddsoddi mewn addysg, ymchwil a datblygiad (Y&D), arloesi a technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh)”. Yn yr un modd, nodwyd perfformiad Ewrop yn erbyn ymrwymiadau Agenda Lisbon yn y gwerthusiad o Strategaeth Lisbon9. Er nad oedd prif dargedau Agenda Lisbon fel y 3% o GDP a wariwyd ar Y&D
wedi’u cyflawni, canfu hyn fod effaith cyffredinol y targedau a’r strategaeth wedi bod yn bositif ar gyfer economi’r Deyrnas Unedig (DU) a gweithgareddau’r aelod-wladwriaeth mewn perthynas ag arloesi. Ar y lefel ranbarthol, mae polisi’r UE wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau economaidd a chymdeithasol drwy gamau a gymerir ac a fesurir ar y lefel ranbarthol. Er enghraifft, canfu’r Pumed Adroddiad ar Gydlyniant Economaidd a Chymdeithasol10 fod gwahaniaethau rhwng rhanbarthau’r UE wedi lleihau ar ôl camau a gymerwyd i hyrwyddo cydlyniant rhwng rhanbarthau, a bod effaith buddsoddiadau cyson ar arloesedd, sgiliau a seilwaith, ymhlith eraill, wedi bod yn allweddol wrth helpu’r rhanbarthau gorau i barhau i ffynnu a’r rhanbarthau gwannach i wneud camau cyffredinol ymlaen. Fodd bynnag, nododd yr adroddiad hefyd bod angen parhaus am bolisïau sy’n gweithredu i gefnogi datblygiad rhanbarthol a bod angen cydgysylltu prif bolisïau’r UE a pholisïau cenedlaethol yn well.
Mae prifysgolion sy’n cynhyrchu ymchwil arloesol... yn ymdebygu blaen saeth... ac mae rhan ôl y saeth yn cael ei chynrychioli gan weithgarwch economaidd a alluogir gan arloesedd a arweinir gan ymchwil. Mae datblygu’r gweithgarwch hwn i’r eithaf...yn hanfodol.”
,,
Sir Andrew Witty, yn ei Adolygiad o Brifysgolion a Thwf (2013)
7 ‘Ewrop 2020: A European Strategy for Smart Sustainable and Inclusive Growth’, Mawrth 2010. 8 ‘Ewrop 2020: Flagship Initiative Innovation Union SEC(2010) 1161’, Hydref 2010. 9 ‘Dogfen Weithredol Staff y Comisiwn: Lisbon Strategy’ evaluation document, Chwefror 2010. 10 ‘Investing in Europe’s future; Fifth report on Economic, Social and Territorial Cohesion’, Tachwedd 2010.
09 O ganlyniad i hynny mae amrywiaeth o ddatganiadau blaenoriaeth wedi cyd-fynd â strategaeth Ewrop 2020. Mae’r rhain yn amlygu’r her bwysig o ‘annog mwy o arloesi o sylfaen yr ymchwil drwy gydweithredu gwell rhwng byd gwyddoniaeth a byd busnes’, yn ogystal â’r anghenion i symleiddio’r system arloesi yn Ewrop. Er bod pwyslais hir sefydlog ym mholisi’r UE ar rôl a chyfraniad pwysig Y&D ac arloesi i gyflawni datblygiad a thwf economaidd, wrth wraidd y datblygiadau polisi diweddaraf mae’r gofyn i ranbarthau nodi meysydd arbenigol lle gellir adeiladu strategaeth ac arloesedd arnynt. Gelwir y dull hwn yn ‘Arbenigo Deallus’. Mae Arbenigo Deallus11 yn seiliedig ar ragdybiaeth y dylai rhanbarthau nodi’r meysydd technoleg sydd â’r potensial i fod yn nodedig o ran arbenigeddau ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol. Mae Arbenigo Deallus yn galw am ‘broses o adeiladu ar y gorffennol, tra’n cadw’n gyfoes â’r presennol’12. Gellir dadlau y bydd hyn yn caniatáu crynodi adnoddau a gweithredoedd, a gwneud y mwyaf o fanteision a throsglwyddo gwybodaeth leol sydd dros ben. Felly mae Arbenigo Deallus yn cyfeirio at angen i adeiladu ar gryfderau a chymwyseddau presennol tra hefyd yn hyrwyddo arbenigo sy’n seiliedig ar gryfderau a chymwyseddau presennol pob rhanbarth13. Mae gwella cryfder sylfaen wybodaeth y DU hefyd wedi bod yn rhan allweddol o strategaethau arloesi diweddar llywodraeth y DU gyda ffocws cryf ar gefnogi a datblygu capasiti a gallu sylfaen wybodaeth y DU i gynnal ymchwil sylfaenol a chymhwysol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Yn ‘Strategaeth Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Twf’” Llywodraeth y DU14 (2011), nodwyd cyfres o egwyddorion ar gyfer datblygu galluoedd ymchwil y DU ymhellach. Roedd nodau’r strategaeth i’w cyflawni drwy “gefnogi ymchwil ac arloesedd mewn busnes; darparu cymhellion i gwmnïau fuddsoddi mewn gweithgareddau busnes â gwerth uchel; creu ecosystem arloesi fwy agored ac integredig; a dileu rhwystrau i arloesedd”. Roedd y Strategaeth Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Twf yn cydnabod, er mwyn llwyddo yn yr economi arloesi byd-eang, fod rhaid i’r DU gryfhau ei allu i gyflymu’r broses o fasnacheiddio technolegau sy’n datblygu, chanolbwyntio ar y cadwyni gwerth sy’n gysylltiedig â’r rhain. Fodd bynnag, er bod
cystadleuaeth yn bwysig o ran cymell arloesedd, roedd y strategaeth yn cydnabod fod cydweithio rhwng ymchwilwyr, arloeswyr a busnesau fel arfer yn cynhyrchu mwy o lwyddiant ac effaith. Nid yw cysyniadau cyfoes am arloesi yn canolbwyntio bellach ar rôl asiantaethau unigol - cwmnïau, canolfannau Y&D a phrifysgolion ac ati - gan eu bod nhw nawr yn ystyried sut mae’r asiantaethau hyn yn cydweithio er mwyn cael diwedd buddiol i’r ddwy ochr. Mae’r ffocws cyfredol ar “ecosystemau arloesi” yn enghraifft o’r ffocws newydd hwn ar weithgarwch cydweithredol, proses lle mae cwmnïau, prifysgolion a llywodraethau yn chwaraewyr allweddol; i’r fath raddau nes bod rhwydweithiau cyfnewid gwybodaeth yn nodwedd ddiffiniol o ecosystemau arloesi rhanbarthol mwyaf llwyddiannus y byd. Mae’r ecosystem arloesi yn cael ei ystyried yn hanfodol i lwyddiant arloesedd a thwf gyda chysylltiadau cryf rhwng y ‘chwaraewyr’ allweddol yn y system arloesi’n cael eu pwysleisio fel rhywbeth sylfaenol os byddwn am greu gwybodaeth, ei ledaenu a manteisio arno mewn busnesau arloesol, twf uchel. Ystyrir fod caniatáu a galluogi busnesau i fanteisio’n hawdd ar gyfleusterau ymchwil a sylfaen wybodaeth y DU yn hanfodol.
Mae Llywodraeth y Du wedi nodi fod y systemau arloesi cenedlaethol mwyaf llwyddiannus yn rhannu nodweddion cyffredin. Er enghraifft: •• Mae ganddyn nhw’r gallu i gynhyrchu buddsoddiadau hirdymor, mentrus ar raddfa fawr er mwyn manteisio ar syniadau newydd. •• Maen nhw’n galluogi i berthnasau gael eu creu a’u cynnal ymhlith pobl sy’n cynhyrchu, yn rhannu, yn defnyddio ac yn datblygu mathau amrywiol o wybodaeth drwy eu rhwydweithiau. •• Maen nhw’n adeiladu rhwydweithiau sy’n caniatáu i ‘chwaraewyr’ ymchwil ac arloesi ymgysylltu mewn cydweithio rhyngwladol o’r radd flaenaf.
11 Foray et al. (2009) ‘Smart Specialisation – The Concept’. http://ec.europa.eu/invest-in-research/pdf/download_en/kfg_policy_brief_no9.pdf 12 Healy, A. (2012) ‘Smart Specialisation: building on the past, whilst breaking with the past’, Adroddiad ar Weithdy Arbenigo Deallus, Caerdydd, Mehefin, 2012. http://s3platform.jrc.ec.europa.eu/documents/10157/29014/Summary_document_Adrian_Healy_Cardiff_Uni.pdf 13 Morgan, K. (2017) ‘Nurturing Novelty: Regional innovation policy in the age of smart specialisation, Environment and Planning C, 35(4)’, pp.569-583. 14 Yr Adran Arloesi Busnes a Sgiliau (2011) ‘Innovation and Research Strategy for Growth’.
10 Yn y systemau arloesi llwyddiannus hyn, mae llywodraethau, cyrff cyflenwi ac asiantaethau yn cymryd rôl arweinyddiaeth; gan ddatblygu galluoedd technolegol allweddol drwy Y&D a chefnogi cydweithio rhwng ‘actorion’ arloesi a fframweithiau sefydliadol gan gynnwys ar draws addysg, rheoleiddio a seilwaith. Roedd strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru - Arloesi Cymru15 - yn nodi nifer o heriau cysylltiedig ag arloesi. Nodwyd “gwella cydweithio” fel y brif flaenoriaeth oherwydd: “Mae’n rhaid i ni ddyblu ein hymdrechion cyfunol i sicrhau bod gwybodaeth mewn prifysgolion a cholegau yn cael ei ddefnyddio fel sail i arloesi mewn busnes ac felly’n cynyddu gweithgarwch economaidd. Bydd llywodraeth, y sector academaidd a busnes yn gweithio i nodi mecanweithiau er mwyn galluogi hyn i ddigwydd a goresgyn rhwystrau rhag manteisio’n llwyddiannus” (Llywodraeth Cymru, 2014:20).
Mae corff cynyddol o waith archwilio’r trosglwyddo gwybodaeth prifysgol yn arddangos y canlynol:
•• Mae llawer o sefydliadau’n datblygu mentrau polisi a ddyluniwyd i gynyddu gweithgarwch o’r fath; ond mae llai yn hysbys am natur a phatrwm y rhwydweithiau a’r rhyngweithio sy’n datblygu o arferion trosglwyddo gwybodaeth o’r fath. •• Mae nodweddion prifysgolion sy’n ymwneud â phartneriaethau cydweithredol yn ddylanwad pwysig ar ddatblygu cysylltiadau. •• Gall gallu rhwydweithio allanol hefyd ddibynnu ar enw da a bri’r sefydliad. Mae prifysgolion mwy sefydledig yn dueddol o ganolbwyntio mwy ar ymchwil a gallant gynnig mwy o atyniad i sefydliadau allanol. •• Gall medr ymchwil weithredu fel atyniad arwyddocaol i gwmnïau sy’n mynd ar drywydd cysylltiadau cydweithredol.
Gwelwyd fod y mathau hyn o gysylltiadau yn cael effaith gadarnhaol ar y cwmnïau dan sylw, gyda thystiolaeth yn amlygu nifer o fanteision i’r cwmnïau dan sylw - fel gwerthiant cynyddol, cynhyrchiant ymchwil, a’r lefel patentu - drwy hwyluso mynediad at amrywiaeth mwy eang o adnoddau allanol, hyrwyddo dysgu o fewn y cwmni, ac ehangu cwmpas eu gweithgareddau. At hynny, ni all prifysgolion gael eu hystyried yn gyflenwyr canlyniadau ymchwil neu gyflogeion graddedig yn unig, ond yn bartneriaid sydd â’r gallu i gydweithredu â busnesau ar fentrau ymchwil strategol, adeiladu clwstwr gyda chwmnïau mawr a bach a helpu i ysgogi diwylliannau entrepreneuraidd ac arloesol yn eu hardaloedd lleol ac yn eu cymunedau ymchwil a graddedig.
15 Llywodraeth Cymru (2014) ‘Arloesi Cymru’.
11
02
Ymchwil ac arloesedd a busnesau Cymru
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, er bod Cymru wedi gallu datblygu tirwedd gyfoethog o weithgarwch, rhaglenni a sefydliadau cefnogi arloesi gan gynnwys ei phrifysgolion a’i chwmnïau angori, mae safle arloesi a thechnoleg mewn polisi economaidd wedi amrywio o fod wrth wraidd polisi i fod, ar adegau, yn weithgaredd ymylol. Mae dangosyddion economaidd ac arloesedd allweddol yn dangos bod Cymru’n dioddef o ddiffygion strwythurol parhaus a pherfformiad economaidd gwael. Yn sgil hyn, mae Cymru’n parhau y tu ôl i’w chystadleuwyr yn y DU ac Ewrop ac, er bod Cymru’n cael ei hystyried yn ‘arloeswr cryf’ ar lefel yr UE, nid yw gweithgarwch arloesi yng Nghymru yn cyflawni gwerth ychwanegol digonol. Yn 2016, bu i gadeirydd pwyllgor dethol gwyddoniaeth a thechnoleg y Tŷ Cyffredin alw ar y llywodraeth i osod targed i fuddsoddi 3% o gynnyrch domestig gros ar Y&D. Ystyrir hyn fel meincnod ar gyfer economi blaengar a arweinir gan arloesedd er mai dim ond rhanbarth Dwyrain Lloegr sy’n bodloni’r targed hwnnw ar hyn o bryd. Er bod tystiolaeth yn dangos bod cwmnïau Cymru, ar gyfartaledd, o leiaf yr un mor arloesol â’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU, mae Cymru mewn sefyllfa gymharol wan o ran y metrigau traddodiadol mewn perthynas â pherfformiad ymchwil ac arloesedd, megis % y CDG sy’n cael ei wario ar fuddsoddiadau ymchwil a datblygu gan gwmnïau. Er bod cyfartaledd y DU ar hyn o bryd yn 1.68%, yng Nghymru, 1.15% yn unig yw’r cyfartaledd. Mae’r sefyllfa ychydig yn gryfach yn Nwyrain Cymru, lle mae gwariant yn 1.55%, ond mae’n llawer gwannach yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, lle mae’r ffigwr yn 0.86% o CDG yn unig.
Ffigur 1: Canran y Cynnyrch domestig gros rhanbarthol yn y DU sy’n cael ei wario ar Y&D
Dwyrain Lloegr De Ddwyrain Lloegr Gorllewin Canolbarth Lloegr
Rhanbarthau'r DU
Dwyrain Canolbarth Lloegr De Orllewin Lloegr Y Deyrnas Unedig Yr Alban Gogledd Orllewin Lloegr Gogledd Iwerddon Cymru Swydd Efrog a'r Humber Llundain Gogledd Ddwyrain Lloegr 0.0
0.5
1.0
1.5
2.0
2.5
3.0
3.5
% y Gwariant ar Y&D
Ffynhonnell: Eurostat
Fodd bynnag, mae nifer cynyddol o gwmnïau yng Nghymru yn ymgymryd â Y&D, er bod nifer llai o gwmnïau Cymru yn gymesur yn buddsoddi mewn Y&D o’u cymharu â’u cymheiriaid yn y DU.
12 Welsh firms undertaking innovation
Ffigur 2: Cwmnïau o Gymru sy’n ymgymryd ag arloesi
1300
Nifer o gwmnïau sy’n adrodd
1250 1200 1150 1100 1050 1000 950 2014
2013
2015
Ffynhonnell: Arolwg Arloesi y DU
Mae lefelau arloesi ymhlith cwmnïau o Gymru yn gydradd â chyfartaleddau’r DU yn gyffredinol.
Ffigur 3: lefelau a’r mathau o arloesedd gan gwmnïau Cymru
Aroloesol weithgar Aroloesol ehangach Y mathau o arloesedd a nodwyd
Aroloesol llydan Gweithgarwch Arloeswr cynnyrch Arloeswr proses Gweithgarwch wedi ei adael Gweithgarwch cyfredol Arloeswr cynnyrch a phroses Naill ai arloeswr cynnyrch neu broses 0.0 DU
Cymru
10.0
20.0
30.0
40.0
50.0
60.0
% y cwmniau sy’n aroloesol weithgar
Ffynhonnell: Arolwg Arloesedd y DU
Mae strwythur economi Cymru yn cael ei adlewyrchu’n glir yn ffynonellau arloesi cwmnïau Cymru gyda’r rhan fwyaf yn adrodd fod eu ffynonellau ‘uchaf’ o syniadau yn dod o du mewn i’r cwmni, gan y cyflenwyr neu gan gleientiaid a chwsmeriaid h.y. eu cadwyni cyflenwi neu werth. Hefyd, mae cyfran sylweddol yn cael syniadau arloesi drwy arsylwi ar eu cystadleuwyr.
13
Ffigur 4: Ffynonellau ‘uchel’ o arloesedd ymysg cwmnïau Cymru
Cyfnodolion gwyddonol a masanach / cyhoeddiadau technegol Technegol, diwydiant neu wasanaeth safonau Cymdeithasau proffesiynol a diwydiant Cynadleddau, ffeiriau masnach, arddangosfeydd Sefydliadau ymchwil cyhoeddus neu lywodraeth Prifysgolion neu sefydliadau addysg uwch eraill Ymgynghorwyr, labordai masnachol neu sefydliadau ymchwil a datblygu breifat Cystadleuwyr neu fusnesau eraill yn eich diwydiant Cleientiaid neu gwsmeriaid sector gyhoeddus Cleientiaid neu gwsmeriaid sector breifat Cyflenwyr offer, deunyddiau, gwasanaethau neu feddalwedd O fewn eich grŵp busnes neu fenter 0
10
20
30
40
50
% y cwmnïau a ymatebodd
Ffynhonnell: Arolwg Arloesedd y DU
Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr un modd yn ymatebion y cwmnïau hynny o Gymru sy’n adrodd eu bod yn cydweithio gyda phartneriaid allanol. O’r rhain, maen nhw’n gweithio’n bennaf â chyflenwyr neu gwsmeriaid sector preifat gyda dim ond chwarter yn adrodd eu bod yn gweithio gyda phrifysgolion.
Ffigur 5: Cydweithrediad gan y math o bartneriaid
Llywodraeth neu sefydliadau ymchwil cyhoeddus Prifysgolion neu sefydliadau addysg uwch eraill
Partneriaid
Ymgynghorwyr, labordai masnachol, neu sefydliadau preifat Y&D Cystadleuwyr neu fusnesau eraill yn eich diwydiant Cleientiaid neu gwsmeriaid o'r sector gyhoeddus Cleientiaid neu gwsmeriaid o'r sector breifat Cyflenwyr offer, deunyddiau, gwasanaethau neu feddalwedd Busnesau eraill o fewn grŵp menter 0
10
20
30
40
50
60
70
80
% o ymatebion
Ffynhonnell: Arolwg Arloesedd y DU
Mae economi Cymru’n cael ei ddylanwadu’n arbennig gan gryfder ac integreiddiad ei sylfaen busnesau bach a chanolig (BbaChau) a chwmnïau aml-genedlaethol i werth byd-eang (cadwyni cyflenwi). Mae cwmnïau amlgenedlaethol yn gallu defnyddio dulliau cynhyrchu uwch, dylanwadu ar rwydwaith o gyflenwyr, cwsmeriaid a chontractwyr rhyngwladol i wella eu proses o greu gwerth. I’r gwrthwyneb, er y derbyniwyd ers tro bod
14 datblygu cadwyni gwerth byd-eang yn cynnig cyfleoedd newydd i fusnesau bach a chanolig (fel arfer drwy eu galluogi i ehangu eu cyfleoedd busnes a meithrin sgiliau newydd a thechnolegau newydd) mae hyn yn aml wedi bod yn ddyhead yn hytrach na gwirionedd ar gyfer nifer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae busnesau yng Nghymru yn eistedd mewn lleoliadau amrywiol yn eu cadwyni gwerth ac o ran eu statws haen (1-5). Mewn cadwyni gwerth byd-eang, mae’n bosibl y bydd busnesau bach a chanolig sydd yn is i lawr yr haenau cyflenwi ond ni fydd ganddynt y màs critigol i gefnogi’r ymchwil a datblygu, yr hyfforddiant a’r buddsoddi gofynnol er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd y gadwyn gwerth.
Yng Nghymru mae nifer o gwmnïau angori yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw’n ffurfio cynulleidfa cydweithwyr allweddol ar gyfer busnesau bach a chanolig yn eu cadwyni gwerth, ar y naill law, a sefydliadau addysg uwch fel cydweithwyr trosglwyddo ymchwil a thechnoleg ar y llaw arall.
Mae’r dystiolaeth a ddarparwyd uchod o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn nodi eu cyflenwyr a’u cwsmeriaid fel eu cydweithwyr pwysicaf ar gyfer arloesedd ac ar gyfer ffynonellau syniadau yn cadarnhau’r dadansoddiad hwn. Er mwyn i fusnesau bach a chanolig symud i fyny’r
Mae lleoliad a dosbarthiad y cwmnïau angori yn bwysig yn hyn o beth gan y bydd datblygiad ‘clystyrau’, ‘rhanbarthau diwydiannol’ a ‘phwyntiau poeth’ mewn economi rhanbarthol a chenedlaethol yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan leoliad cymharol, pellter teithio a lleoliad cronfeydd o staff medrus a hyddysg.
gadwyn gwerth mae angen proses barhaus o newid, arloesedd a thwf cynhyrchiant. Mae ysgogi trosglwyddo technoleg ar draws ac ar hyd cadwyni gwerth yn aml yn cael ei ystyried fel y sianel bwysicaf ar gyfer defnyddio buddsoddiad uniongyrchol o dramor i helpu i gynhyrchu ‘allanoldebau cadarnhaol’ ar gyfer y rhanbarthau a’r gwledydd maen nhw’n gweithredu ynddynt.
Mae ymchwil ar gysylltiadau prifysgol-diwydiant wedi cynhyrchu rhywfaint o dystiolaeth sy’n awgrymu fod cydleoli cwmnïau dwys o ran ymchwil a phrifysgolion yn yr un rhanbarth yn hwyluso rhyngweithio sy’n arwain at gydweithio arloesol. O ystyried y sail dystiolaeth bresennol, gellir awgrymu’r canlynol: •• Fel arfer, ystyrir fod economïau rhanbarthol arloesol yn cael eu poblogi gan brifysgolion dwys o ran ymchwil sy’n cymryd rhan mewn ymchwil o’r radd flaenaf. •• Mae rhanbarthau llai arloesol yn dueddol o fod yn ‘denau’ yn sefydliadol, gyda diffyg endidau sector preifat neu sector cyhoeddus wedi’u llywio gan arloesedd. •• Mae’n debyg y bydd prifysgolion sydd wedi’u lleoli mewn rhanbarthau craidd gyda chronfeydd mwy o gwmnïau dwys o ran ymchwil a datblygu yn cael cyfleoedd gwell i greu cysylltiadau gyda’r chwaraewyr hyn. •• Mae prifysgolion hefyd yn ymgysylltu â nifer o fathau eraill o gwmnïau ac mae cwmnïau entrepreneuraidd yn aml yn gallu mwynhau cost is wrth chwilio am bartneriaid pan fyddant wedi’u lleoli ger prifysgolion, gydag agosrwydd hefyd yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar wybodaeth ddeallus hollbwysig gan brifysgolion. •• Fodd bynnag, mae lefelau cynyddol o bartneriaethau academaidd-diwydiant cenedlaethol a thrawsgenedlaethol yn dangos nad yw cwmnïau na phrifysgolion yn ystyried ei bod hi’n angenrheidiol cyfyngu ffrydiau gwybodaeth yn ofodol. •• Adlewyrchir y ddibyniaeth gynyddol ar biblinellau gwybodaeth ofodol ehangach yn y nifer cynyddol o gwmnïau sy’n dewis gweithio gyda’r prifysgolion gorau waeth beth fo’u lleoliad er mwyn manteisio ar gronfeydd talent uchel, rheolau eiddo deallusol ffafriol a chymhellion llywodraeth ar gyfer ymchwil ar y cyd rhwng diwydiant a phrifysgol.
Pan fydd partneriaid prifysgol yn agos yn ofodol, mae cwmnïau’n gallu arsylwi eu camau yn agosach, gan asesu eu heffeithiolrwydd. O ganlyniad, mae cyd-leoli yn hyrwyddo ffurfio cysylltiadau prifysgol-busnes drwy leihau costau chwilio. Hefyd, mae cysylltiadau lleol yn annog lefelau uwch o ryngweithio ymhlith asiantaethau gan gynyddu dwysedd y cysylltiadau cydweithredol, ac mae lefelau uwch o ryngweithio’n hybu dysgu cyfunol ac allanoldebau cyfathrebu. Felly, mae bod yn agos o ran gofod yn caniatáu trosglwyddo gwybodaeth ddeallus, sydd yn aml yn gyd-destunol ei natur, gan alluogi trosglwyddo cyfoeth y wybodaeth o actor i actor.
15
Ffigur 6: Dosbarthiad cwmnïau angori yng Nghymru
Nifer cwmniau angor 1 2 3 4 5 10
Ffynhonnell: GIS yr awduron yn seiliedig ar ddata Llywodraeth Cymru.
Felly mae lleoliad gofodol cwmnïau angori yng Nghymru yn bwysig o ran eu heffaith bosibl ar berfformiad ymchwil ac arloesi a chydweithredu rhwng busnesau o fewn y system arloesedd ehangach. Go brin fod dosbarthiad gofodol y cwmnïau angori a ddangosir uchod yn syndod o ystyried dosbarthiad poblogaeth a hanes diwydiannol Cymru ond mae, serch hynny, yn rhoi tystiolaeth bwysig pan fydd rôl a photensial y cwmnïau angori yn cael eu hystyried mewn trafodaeth am dyfu gwerth drwy ryngweithio yn yr ecosystem arloesi. Gallai mapio’r cyfleoedd i glystyru a datblygu ‘pwyntiau poeth’ ystyried lleoliad a dosbarthiad gofodol gweithgareddau economaidd a dwysedd a chymhlethdod y gweithgareddau hynny. Er enghraifft, yn ddiweddar, cynhaliodd NESTA ddadansoddiad o gymhlethdod economaidd economïau awdurdod lleol y DU gan ddod i’r casgliad bod ardaloedd ag amrywiaeth economaidd fawr a economïau mwy cymhleth yn dueddol o fod â lefelau uwch o gynnyrch domestig gros y pen a lefelau is o anghydraddoldeb.
Yng Nghymru mae economïau cymhleth wedi’u lleoli mewn nifer fechan o leoliadau, yn bennaf yng Nghaerdydd ac Abertawe, gyda llawer llai o gymhlethdod yn amlwg ar draws Canol a Gorllewin Cymru lle mae economïau a gweithgareddau cefn gwlad yn goruchafu. Dull gwahanol yw mapio’r cysylltiadau a’r rhwydweithiau sy’n bodoli o amgylch prifysgolion gan wahaniaethu rhwng cysylltiadau gyda chwmnïau a sefydliadau eraill yn yr un rhanbarth a’r rhai hynny y tu allan i’r rhanbarth. Hefyd, mae cysylltiadau rhwng prifysgolion yn yr un rhanbarth yn cael eu mapio. Mae hyn wedi’i wneud ar gyfer Cymru fel sydd i’w weld yn y ffigur isod. Ffigur 7: Cysylltiadau busnes-prifysgol yng Nghymru
Cwmnïau a sefydliadau eraill yn y rhanbarth Cwmnïau a sefydliadau eraill y tu allan i’r rhanbarth Prifysgolion yn y rhanbarth
Ffynhonnell: R Huggins
16 Gall cymariaethau â mapio cysylltiadau mewn rhanbarthau perthnasol eraill yn y DU helpu’r dadansoddiad yma. Ffigur 8: Cysylltiadau prifysgol-busnes mewn rhanbarthau eraill yn y DU
Dwyrain Lloegr
Yr Alban
Cwmnïau a sefydliadau eraill yn y rhanbarth
Dwyrain Canolbarth Lloegr
De Ddwyrain Lloegr
Gogledd Ddwyrain Lloegr
Cwmnïau a sefydliadau eraill y tu allan i'r rhanbarth
Prifysgolion yn y rhanbarth
Ffynhonnell: R Huggins
Mae ffigurau 7 ac 8 yn dangos mapiau rhwydwaith ar gyfer Cymru a detholiad o wledydd a rhanbarthau eraill y DU. Mae’r mapiau’n dangos y cysylltiadau rhwng prifysgolion ym mhob rhanbarth gydag actorion allanol, busnesau yn bennaf, o ran gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, sef: i.
Ymchwil cydweithredol – ymchwil academaidd a wnaed mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
ii. Ymchwil contract – trafodiad sy’n cynnwys darparu ymchwil prifysgol i bartner allanol iii. Ymgynghoriaeth – defnyddio gwybodaeth gyfredol ar ffurf cyngor neu waith i barti allanol Gellir gweld fod tuedd gyffredinol i’r rhwydweithiau fynd yn deneuach yn y rhanbarthau llai arloesol fel Cymru (a Gogledd Ddwyrain Lloegr). Mae’r clystyru o amgylch prifysgolion arbennig o flaenllaw yn eithaf amlwg, ac yn achos y rhanbarthau sydd ar flaen y gad mae cnewyllyn o brifysgolion sy’n gweithredu nid yn unig fel rhwydweithwyr cryf, ond hefyd fel ‘arloeswyr sydd yn rhanbarthol agored’, o ystyried eu bod yn meddu ar gysylltiadau arwyddocaol gyda sefydliadau sydd nid yn unig yn eu rhanbarth eu hunain, ond mewn rhanbarthau eraill hefyd. Un o nodweddion mwyaf diddorol y diagramau rhwydwaith hyn yw i ba raddau mae cysylltiadau sy’n pontio ar draws clystyrau a rhanbarthau, gyda’r lefel o gysylltedd ar draws clystyrau’n rhoi syniad o ran i ba raddau mae gwybodaeth yn cael ei rannu mewn rhanbarthau, a rhwng rhanbarthau. Mae’r pontio hwn yn ymddangos i fod yn gryfach mewn rhanbarthau blaenllaw, lle mae cysylltiadau traws-glwstwr yn fwy datblygedig.
17
03
Ymchwil ac arloesedd a phrifysgolion Cymru
Er gwaethaf y perfformiad gwael Cymru yn gyffredinol mewn perthynas â % cyffredinol o gynnyrch domestig gros a fuddsoddwyd mewn ymchwil a datblygiad, mae lefelau gwariant ymchwil yng Nghymru yn cynyddu, gan brifysgolion a busnesau. Ffigur 9: Gwariant ar ymchwil yng Nghymru
800
Ymchwil a datblygu mentrau busnes
700
Ymchwil a datblygu llywodraeth a chyngorau ymchwil
600
Ymchwil a datblygu gan gyrff addysg uwch
500 400 300 200 100 0 2001
‘02
‘03
‘04
‘05
‘06
‘07
‘08
‘09
‘10
‘11
‘12
‘13
2014
Ffynhonnell: ONS
Fodd bynnag, mae asesiad o gydweithredu yn y DU angen cofio canfyddiad allweddol Adolygiad Lambert, a ddaeth i gasgliad drwy ddweud mai’r brif broblem o ran trosglwyddo gwybodaeth yn y DU oedd galw isel y gymuned fusnes am wybodaeth gan y sector addysg uwch. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol i Gymru, lle mae gwariant busnes Y&D yr isaf yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU. Mae’r ffaith fod cyfleusterau Y&D cwmnïau aml-genedlaethol wedi’u lleoli mewn man arall a’r ffaith fod gan gwmnïau lleol lefelau isel o Y&D yn gosod cyfyngiadau ar y graddau y gall y sector addysg uwch yng Nghymru ddenu buddsoddiad sylweddol fel sy’n cael ei fesur gan ddangosyddion HE-BCI. Am y tro cyntaf yn y blynyddoedd diwethaf mae ffigur cyfanswm yr incwm wedi gostwng fel y gallwn weld o’r ffigur isod, sy’n dangos Cymru fel yr unig wlad yn y DU i gofrestru twf incwm negyddol o weithgarwch cyfnewid gwybodaeth. Ffigur 10: Incwm cyfnewid gwybodaeth yng ngwledydd y du 2014-15 a chyllidebau arloesi ac ymgysylltu 2014/15 Cyllideb Arloesi ac Ymgysylltu
2013/14 Incwm Cyfnewid Gwybodaeth
2014/15 Incwm Cyfnewid Gwybodaeth
£ million
£ million
£ million
Lloegr
150
3200
3400
6%
Yr Alban
17.1
412
453
10%
Gogledd Iwerddon
3.96
93
121
30%
0
201
193
-4%
Cymru
Ffynhonnell: Data HE-BCI a ddarparwyd gan HEFCW
% newid mewn incwm Cyfnewid Gwybodaeth
18 Er ei bod yn anodd priodoli’r dirywiad yn incwm cyfnewid gwybodaeth i unrhyw achos unigol, mae’n debygol nad yw’n gysylltiedig i’r newidiadau mewn cyllid craidd (diddymu cronfa arloesi ac ymgysylltu (A&Y) HEFCW) a chael gwared ar brosiectau o dan Gronfeydd Strwythurol blaenorol yr UE. Er bod rhaglen gyfredol Cronfeydd Strwythurol yr UE (2014-2020) yn helpu prifysgolion i adnewyddu eu gweithgarwch cyfnewid gwybodaeth, mae sector addysg uwch (SAU) Cymru dan anfantais unigryw gan mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd wedi dileu ei chyllideb A&Y. O 2004-05 i 2013-14 roedd cronfa A&Y HEFCW yn darparu ffynhonnell benodol o arian wedi’i gymell gan fformiwla graidd oedd yn galluogi dull proffesiynol o ran gweithgarwch A&Y ledled Cymru. Roedd y lefel o gyllid yn 2012-13, ei flwyddyn llawn olaf, yn £8.2
miliwn, a oedd yn cefnogi seilwaith craidd yn bob SAU yng Nghymru ynghyd â 7 o brosiectau a oedd yn cael eu rhedeg ar y cyd ar draws Cymru. Fodd bynnag, o 2013-14 roedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru i HEFCW ddechrau tynnu’n ôl fesul cam o’r gronfa A&Y er mwyn ariannu grantiau ffioedd israddedig llawn amser ar gyfer myfyrwyr cartref o Gymru. O ganlyniad, roedd gostyngiad o 50% yn y gyllideb A&Y yn 2013-14 a dim ariannu fformiwla o 2014-15 ymlaen. Fel mae HEFCW wedi’i ddweud, mae tynnu allan o’r cyllid arloesi ac ymgysylltu wedi “rhoi Cymru dan anfantais o’i gymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae cyrff ariannu addysg uwch yn parhau i fuddsoddi mewn gweithgarwch cyfnewid gwybodaeth”.
Mae tri o oblygiadau gwanychol i Gymru yn dilyn colli’r cyllid arloesi ac ymgysylltu:
•• mae’n ei gwneud hi’n llawer mwy anodd ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i recriwtio a chadw timau masnacheiddio ac ymgysylltu busnes hynod arbenigol; •• mae hefyd yn ei gwneud hi’n llawer mwy anodd i SAUu Cymru adeiladu partneriaethau cynaliadwy gyda busnesau, sefydliadau cymdeithas sifil a sefydliadau addysg uwch eraill oherwydd roedd y gyllideb arloesi ac ymgysylltu yn darparu arian cyfatebol a ddefnyddiwyd i ddenu ffynonellau ariannu eraill, gan gynnwys Cronfeydd Strwythurol yr UE, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, Innovate UK a refeniw eiddo deallusol (IP); •• mae cyllideb sero ar gyfer A&Y yn anfon neges gref iawn i fusnesau ac i academyddion ac ymchwilwyr nad yw rhyngweithio’n cael ei werthfawrogi yng Nghymru ac ei fod yn ‘berthynas tlawd’ i addysgu ac ymchwil.
O’i gymharu â’r £150 miliwn y flwyddyn sydd ar gael i brifysgolion cymwys yn Lloegr, mae HEFCW wedi dadlau fod “y gwahaniaeth hwn yn rhoi Cymru dan anfantais gystadleuol o ran darparu gweithgarwch o’r radd flaenaf mewn arloesi ac ymgysylltu oherwydd: yr anallu i ddarparu seilwaith ategol a cholli staff arbenigol; yr anallu i gyfateb prosiectau allanol yn ariannol; ac anghynaliadwyedd gweithgarwch cydweithredol”. Heb gyllideb A&Y, bydd gallu SAUau i gefnogi rhyngweithio rhwng prifysgolion a busnesau yn dirywio ymhellach. Er bod gan yr SAUau mwy o faint y gallu i ddelio â’r golled i raddau drwy eu cyllidebau cyffredinol, nid yw hynny’n wir am SAUau llai. Felly, yr ardaloedd tlotaf fydd yn cael y trafferthion mwyaf o ran ymgysylltu â gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth, sy’n allweddol i adfywio cymdeithasol ac economaidd. Ar wahân i sbarduno materion tegwch newydd rhwng SAUau mawr a bach, mae colli’r gyllideb A&Y yn cael effaith arall llai amlwg ond nid llai pwysig ac mae hyn yn deillio o’r rhyng-chwarae rhwng ymchwil a gweithgarwch A&Y. Yn ôl HEFCW, bydd yn anodd efelychu perfformiad cryf Cymru yn REF2014 yn y dyfodol heb yr offerynnau a ddarparwyd drwy’r gyllideb arloesi ac ymgysylltu. Mae SAUau yn Lloegr eisoes yn defnyddio eu dyraniadau cronfa arloesedd addysg uwch (HEIF) i gefnogi datblygiad astudiaethau achos effaith yn barod ar gyfer y REF nesaf. Roedd SAUau yng Nghymru eisoes yn is na meincnod y DU mewn perthynas ag elfen amgylchedd yr ymarfer REF a bydd colli cyllideb yr A&Y yn dwysáu’r gwendid hwn ymhellach.
19 Roedd Adolygiad Diamond16 yn cydnabod fod Cymru o dan anfantais o’i gymharu â Lloegr, lle gellir priodoli effaith HEIF i draean o bob incwm o weithgarwch trosglwyddo gwybodaeth mewn prifysgolion, lle mae pob punt o HEIF yn cynhyrchu tua £7.90 mewn incwm trosglwyddo gwybodaeth. Dadleuodd Diamond fod angen partneriaeth well ar Gymru rhwng prifysgolion, busnesau a’r llywodraeth i sicrhau’r manteision cymdeithasol ac economaidd mwyaf posibl drwy SAUau. Felly, argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru, drwy HEFCW ddarparu system gymorth ddeuol o gyllido cyfnewid gwybodaeth, yn cynnwys: •• Dwy ganolfan (i alluogi SAUau llai i gymryd rhan) yn cael cyfanswm cyllid craidd o £5 miliwn y flwyddyn i alluogi ymgysylltu hyblyg rhwng SAUau a diwydiant; a •• Cynllun modd ymateb hyblyg i hyrwyddo prosiectau Cydweithio Prifysgol-busnes a fydd yn cael effaith economaidd, gan gostio £20 miliwn y flwyddyn (Diamond, 2016). Yn gyffredinol mae’r dirwedd ar gyfer cydweithio prifysgol-busnes wedi newid yn ddramatig yn ddiweddar a bydd effaith net y newidiadau’n rhoi Cymru dan anfantais ddifrifol o’i gymharu â gwledydd eraill y DU. Hefyd yn dilyn diddymu’r gefnogaeth arloesi ac ymgysylltu gwelwyd datgysylltiad arwyddocaol rhwng polisi addysg a pholisi economaidd yn Llywodraeth Cymru. Er bod y polisi addysg yn diddymu’r gyllideb arloesi ac ymgysylltu i ariannu grantiau ffioedd israddedig, roedd polisi economaidd yn clodfori’r angen am gydweithio gwell
ac agosach fel canolbwynt i’w strategaeth Arbenigedd Deallus newydd ar gyfer arloesi a thwf. Mae perfformiad siomedig Cymru o ran ymchwil ac arloesi i’w weld ymhellach gan y nifer fechan o gyfranogwyr blaenllaw o Gymru yn rhaglenni arloesi blaenllaw y DU, wedi’u hariannu gan Innovate UK. Mae naw sefydliad, prifysgolion yn bennaf, yn cyfrif am fwy nag un rhan o dair o weithgarwch Cymru. Er bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru yn cymryd rhan yn y rhaglenni hyn, maen nhw’n gwneud hynny yn llai aml nag mewn gwledydd eraill yn y DU. Pan ystyrir y 15 cyfranogwr mwyaf blaenllaw, mae’r nifer o gwmnïau yn cynyddu - gan gynnwys nifer fechan o fusnesau bach a microfusnesau. O’r 883 prosiect (2004-17) oedd yn cynnwys cyfranogwyr o Gymru, mae’r rhan fwyaf ym maes ymchwil cydweithredol, yna Astudiaethau Dichonoldeb, Talebau Arloesedd a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. Bu i’r incwm ymchwil cydweithredol a enillwyd gan brifysgolion Cymru gynyddu o 19.5% dros y cyfnod 2012 - 2015 yn nhermau arian parod ac mae’n debyg fod perfformiad cryf Cymru yn y mesur hwn yn gysylltiedig ag argaeledd cyllidebau strwythurol yr UE yn enwedig rhaglen A4B (Academyddion ar gyfer Busnes) Llywodraeth Cymru. Yn 2014-15 parhaodd cyfran Cymru o incwm ymchwil cydweithredol ar 6.7% (yn uwch na throthwy poblogaeth 5% y mae HEFCW yn ei ddefnyddio fel meincnod ar gyfer perfformiad) ond ymhlith yr isaf yn y DU.
Ffigur 11: Cyfranogiad prosiect Innovate UK (2004-2017) Ymchwil a datblygu cydweithredol Astudiaethau dichonoldeb Talebau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Rhaglenni a ariennir gan BIS Rhaglenni a ariennir gan yr UE Prawf o gysyniad GRD Prawf o farchnad GRD Trac cyflym Menter ymchwil busnesau bach Datblygu prototeip GRD Launchpad Prosiect mawr Caffael Grŵp diddordeb arbennig Canolfannau Astudiaeth
Ffynhonnell: Adroddiad diweddaraf HE-BCI gan HEFCW: 2014-15
16 Diamond (2016) ‘Adolygiad o Gyllid Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru’ Llywodraeth Cymru.
20
Ffigur 12: Prosiectau ymchwil cydweithredol 2015-16
Gogledd Ddwyrain Lloegr Gogledd Iwerddon De Orllewin Lloegr
Rhanbarthau y DU
Cymru Gorllewin Canolbarth Lloegr Dwyrain Canolbarth Lloegr Dwyrain Lloegr Swydd Efrog a'r Humber De Ddwyrain Lloegr Gogledd Orllewin Lloegr Yr Alban Llundain 0
50,000
100,000
150,000
200,000
250,000
300,000
Incwm prosiectau ymchwil cydweithredol 2015/16 £’000
Ffynhonnell: HE-BCI
Roedd y lefelau o incwm contractau isaf yn y DU, ac roedd yr incwm ymgynghori yr isaf namyn un. Er y gellir egluro rhywfaint o hyn gan faint llai Cymru, mae’n amlygu goruchafiaeth gweithgareddau ymchwil dros weithgareddau contract ac ymgynghoriaeth, a allai gael effaith mwy uniongyrchol ar gynyddu gwerth.
Ffigur 13: Incwm contract
Cymru Gogledd Iwerddon Gogledd Ddwyrain Lloegr
Rhanbarthau y DU
Dwyrain Canolbarth Lloegr Dwyrain Lloegr De Orllewin Lloegr Gorllewin Canolbarth Lloegr Gogledd Orllewin Lloegr Yr Alban Swydd Efrog a'r Humber De Ddwyrain Lloegr Llundain 0
100,000
200,000
2015/16 Incwm ymchwil contract £’000
Ffynhonnell: HE-BCI
300,000
21
Ffigur 14: Incwm ymgynghori
Gogledd Iwerddon Cymru
Rhanbarthau y DU
De Orllewin Lloegr Gogledd Ddwyrain Lloegr Dwyrain Canolbarth Lloegr Gorllewin Canolbarth Lloegr Swydd Efrog a'r Humber Gogledd Orllewin Lloegr De Ddwyrain Lloegr Dwyrain Lloegr Yr Alban Llundain 0
10,000
20,000
30,000
40,000
50,000
60,000
70,000
80,000
90,000 100,000
Incwm ymgynghoriaeth 2015/16 £000
Ffynhonnell: HE-BCI
Fodd bynnag, mae ymgynghori yn ffurfio rhan bwysig o weithgareddau prifysgolion Cymru, yn enwedig wrth weithio gyda busnesau bach a chanolig. Mae’n cynrychioli bron i 30% o holl weithgareddau incwm ymgynghoriaeth ar draws SAU Cymru.
Ffigur 15: Incwm o gontractau ymchwil a chontractau ymgynghori ar gyfer SAU Cymru
Ymchwil dan gontract BBaCh
5%
Ymchwil contract masnachol heb fod yn BBaCh Ymchwil contract anfasnachol
14%
Ymgynghori BBaCh
27%
Ymgynghoriaeth masnachol nad yw'n BBaCh Ymgynghori anfasnachol
18% 13%
23%
Ffynhonnell: HE-BCI
22 Targedir incwm ymchwil yn gryf gan SAU Cymru am resymau amlwg ac mae tystiolaeth o lwyddiant cynyddol gan nifer o SAU mewn rhaglenni ymchwil allweddol. Er enghraifft, yn rhaglenni ymchwil Horizon 2020 yr UE hyd yma, mae sefydliadau Cymru wedi cofnodi niferoedd uwch na chyfartaledd y DU a’r UE ar gyfer cymryd rhan mewn prosiectau ar Wyddoniaeth Ragorol; uwch na chyfartaledd y DU o ran cymryd rhan mewn prosiectau ar Arweinyddiaeth Ddiwydiannol ond is na chyfartaledd y DU a’r UE ar gyfer cymryd rhan mewn ymchwil ar ‘Heriau Cymdeithasol’. Mewn perthynas â chydweithrediadau ymchwil rhyngwladol a gefnogir o dan Horizon 2020, mae SAU Cymru yn gallu ymffrostio o batrwm eang o bartneriaid cydweithredol sy’n cynnwys 1000 o gydweithrediadau, dull agored o gydweithredu a safbwynt rhyngwladol cryf cyn belled ag ymchwil a phartneriaid ymchwil.
Ffigur 16: Cydweithio rhyngwladol gan sefydliadau Cymru yn Horizon 2020
ISL
(6)
(45)
SWE
(25)
FIN
(19)
NOR
(3)
EST
(3)
CAN
(22)
USA
(3)
LVA
(24)
IRL
(2)
DNK
(2)
(6)
LTU LTU
CYMRU/ WALES
(2)
POL
(27)
(191)
BEL
(51)
(1)
LUX LUX
DEU
CZE(14)
(14)
(118)
FRA
SVK
AUT
(54)
SVN SVN
(10)
HUN
ITA
AUS
(2)
ROU ROU
(6)
(7) (3)
(147)
(31)
(1)
(39)
CHE
PRT
BLR
(79)
NLD NLD
KOR (1) CHN
(9) HRV HRV(9)
(1)
ESP
(142)
SRB
BGR
(8)
(1)
MKD
TUR
(7)
GRC(42) (1)
TUN
1 - 39 40 - 79 80+
CYP(7)
(4)
ZAF
(South Africa)
Manylion yn gywir @ 30.09.16 Details correct @ 30.09.16 © Hawlfraint y Goron 2017 • Cartograffeg • Llywodraeth Cymru • ML/162/15.16 © Crown copyright 2017 • Cartographics • Welsh Government • ML/162/15.16
Ffynhonnell: WEFO 2017
(2)
MLT
(2)
KEN
(2)
TZA
(2)
ETH
ISR(13)
23 Mae’n rhaid i berfformiad yn Horizon 2020 (a rhaglenni fframwaith cynharach) gan SAU Cymru, fodd bynnag, nodi sefyllfa gref Prifysgol Caerdydd fel y dangosir isod.
Ffigur 17: Cyfranogiad gan SAU Cymru yn Horizon 2020 hyd heddiw
Prifysgol Caerdydd Prifysgol Bangor Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Abertawe Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol y Drindod Dewi Sant Prifysgol De Cymru Prifysgol Wrecsam Glyndwr 0
2.5
5
7.5
10
12.5
15
17.5
20
22.5
25
Cyfraniadau UE (€m)
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru 2017
Er bod SAUau yng Nghymru yn chwarae rôl bwysig yn system ymchwil ac arloesi Cymru, ni allant gerdded ochr yn ochr â’u cyfoedion yng ngwledydd a rhanbarthau eraill y DU gan fod y gyllideb i ariannu cydweithredu yng Nghymru - y Gronfa Arloesi ac Ymgysylltu - wedi’i thorri i sero tra bod cyllidebau o’r fath yn cynyddu yng ngweddill y DU. Mae adolygiad Diamond w edi nodi ateb i’r tirlun ariannu anwastad hwn ac mae angen rhoi ei argymhelliad o ran cyfnewid gwybodaeth ar waith fel mater o frys os nad yw SAU Cymru i’w rhoi dan anfantais barhaol.
24
04
‘Pwyntiau Poeth’ ar gyfer rhyngweithio prifysgol-busnes yng Nghymru
Blaenoriaethau mewn polisïau, strategaethau a chynlluniau gweithredu Ledled Cymru, mae pedwar maes eang wedi’u nodi’n ganolog i weithgareddau arloesi. Mae cyswllt agos rhwng y rhain a thri maes o gryfder gwyddonol arwyddocaol. Arloesi Cymru
Gwyddoniaeth Cymru
Gwyddor bywyd ac iechyd
Gwyddorau bywyd
Ynni carbon isel a’r amgylchedd
Ynni a’r amgylchedd
Peirianneg uwch a deunyddiau
Uwch-ddeunyddiau a gweithgynhyrchu
TGCh a’r economi ddigidol
Er bod rhai cryfderau presennol ledled Cymru, mae eraill yn fwy crynodedig. Ar lefel is-genedlaethol, mae tair prif ardal wedi cyhoeddi dogfennau a gweledigaeth sy’n nodi arbenigeddau a themâu sy’n rhan bwysig o’r dirwedd arloesi yn y meysydd hyn. Y rhain yw Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (gyda Bargen Ddinesig y cytunwyd arni), Rhanbarth Dinas Bae Abertawe (gyda chytundeb wedi’i lofnodi ar gyfer Bargen Ddinesig) a Gogledd Cymru. Er enghraifft, ar draws Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae amrywiaeth o ddogfennau yn nodi nifer o gryfderau presennol allweddol yn yr ardal.
Ffigur 18: Cryfderau sector a nodwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd Ffowndri’r Dyfodol (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd)
Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi (De Orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru)
Gwyddorau bywyd, med-dechnoleg, gofal iechyd a chlinigol
Peirianneg uwch ac awyrofod
Digidol, data mawr, seiber a lled-ddargludyddion
Systemau ynni newydd
Arloesi trefol, dinesig, llywodraeth a chymdeithasol
Bywyd digidol Micro-electroneg y genhedlaeth nesaf Gwydnwch amgylcheddol a chynaliadwyedd
25 Mae Rhanbarth Dinas Bae Abertawe yn ddiweddar wedi nodi pedwar prif thema fel meysydd o gryfder. Ffigur 19: Cryfderau sector a nodwyd gan Ranbarth Dinas Bae Abertawe Rhyngrwyd cyflymiad economaidd (Gweithgareddau digidol)
Rhyngrwyd ynni (technolegau ynni) - Ynni ar y môr ac yn y môr - Cartrefi fel gorsafoedd pŵer
Rhyngrwyd gwyddor bywyd a lles
Gweithgynhyrchu deallus - Ffatri’r dyfodol - Gwyddoniaeth dur
Ar draws Gogledd Cymru, nodir tair prif thema fel cryfderau rhanbarthol. Ffigur 20: Cryfderau sector a nodwyd gan Ogledd Cymru Ynni
Gweithgynhyrchu uwch
Digidol
Mae sawl tebygrwydd i’w gweld ar draws y cynlluniau a’r strategaethau amrywiol hyn. Dangosir y rhain yn y ffigur isod.17 Ffigur 21: Blaenoriaethau sector a nodwyd ar draws dogfennau strategaeth Arloesi Cymru17 (Cymru gyfan)
Gwyddoniaeth Cymru (Cymru gyfan)
Gwyddorau bywyd ac Iechyd
Gwyddorau bywyd
Ynni carbon isel a’r amgylchedd
Ynni a’r amgylchedd
Gwyddorau bywyd, meddechnoleg, gofal iechyd a chlinigol
Digidol, data mawr, seiber a lledddargludyddion
TGCh a’r economi ddigidol Peirianneg uwch a deunyddiau
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (Ffowndri’r Dyfodol)
Uwchddeunyddiau a gweithgynhyrchu
Rhanbarth Dinas Bae Abertawe
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi (De Orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru)
Rhyngrwyd gwyddor bywyd a lles Rhyngrwyd o ynni
Ynni
Systemau ynni newydd
Rhyngrwyd Cyflymiad Economaidd
Digidol
Bywyd digidol
Gweithgynhyrchu deallus
Gweithgynhyrchu uwch
Peirianneg uwch ac awyrofod
Arloesi trefol, dinesig, llywodraeth a chymdeithasol Gwydnwch amgylcheddol a chynaliadwyedd Micro-electroneg y genhedlaeth nesaf
17 Mae Arloesi Cymru hefyd yn rhan o’r sylfaen ar gyfer y rhaglen ERDF 2014-2020 ac o Arbenigo Deallus RIS3.
26
Y safbwynt o’r prifysgolion Fel rhan o’r prosiect ymchwil hwn, cynhaliwyd cyfweliadau â holl SAUau Cymru i bennu eu barn eu hunain ar eu cryfderau (neu “bwyntiau poeth”) yn y sectorau strategol a’r disgyblaethau technolegol sydd fwyaf perthnasol i gydweithredu rhwng prifysgolion a busnesau. Dylid nodi nad yw’r gwaith mapio hwn wedi’i brofi’n allanol. Mae’n seiliedig ar ganfyddiadau’r prifysgolion eu hunain o le mae eu rhyngweithio â busnesau yn arbennig o gryf neu’n cryfhau18. (Bydd angen ymchwilio ymhellach i gael asesiad mwy manwl a meintiol o bwyntiau poeth). Mae’r darlun sydd i’w weld fel a ganlyn: Ffigur 22: ‘Pwyntiau poeth’ UBC cyfredol fel y nodir gan SAU ‘Pwyntiau Poeth’ Cyfredol
Rhanbarth
SAU
Lled-ddargludyddion cyfansawdd
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Caerdydd
Catalysis
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Caerdydd
Technolegau ynni
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Caerdydd
Sector creadigol
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Caerdydd/Prifysgol Metropolitan Caerdydd/ Prifysgol De Cymru
Gwyddorau bywyd/darganfod cyffuriau
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Caerdydd
Technolegau hydrogen
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol De Cymru
Systemau modurol a pŵer
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol De Cymru
Cynnal a chadw awyrennau
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol De Cymru
Ymchwil cynnyrch a dylunio
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Bridio planhigion/cnydau
Gorllewin Cymru
Aberystwyth
Technoleg pŵer niwclear
Gogledd Cymru
Prifysgol Bangor
Deunyddiau uwch
De-Orllewin Cymru
Prifysgol Abertawe
Technolegau ynni
De-Orllewin Cymru
Prifysgol Abertawe
Profion nad ydynt yn ddinistriol
De-Orllewin Cymru
Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Ffynhonnell: Cyfweliadau â SAU Cymru
18 Mae Arloesi Cymru hefyd yn rhan o’r sylfaen ar gyfer y rhaglen ERDF 2014-2020 ac o Arbenigo Deallus RIS3.
27 Hefyd, nodwyd ‘pwyntiau poeth’ ar gyfer cydweithio prifysgol-busnes y teimlwyd eu bod yn datblygu.
Ffigur 23: ‘Pwyntiau poeth’ UBC sy’n datblygu fel y nodir gan SAU ‘Pwyntiau Poeth’ sy’n datblygu
Rhanbarth
SAU
Diogelwch seiber
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Caerdydd/Prifysgol De Cymru
Yr Amgylchedd
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol De Cymru
Gweithgynhyrchu digidol
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Gwyddoniaeth Data
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Meddalwedd
De-ddwyrain Cymru
Prifysgol Caerdydd
Bwyd a diod
De-Ddwyrain Cymru
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Parasitoleg/Clefydau Heintus
Gorllewin Cymru
Prifysgol Aberystwyth
Technolegau bwyd a diod
Gorllewin Cymru
Prifysgol Aberystwyth
Gweithgynhyrchu uwch
Gogledd Cymru
Prifysgol Bangor
Ynni a’r amgylchedd
Gogledd Cymru
Prifysgol Bangor
Gwyddorau bywyd
De-Orllewin Cymru
Prifysgol Abertawe
Y gwyddorau cyfrifiannol
De-Orllewin Cymru
Prifysgol Abertawe
Arloesi mewn adeiladu
De-Orllewin Cymru
Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Ffynhonnell: Cyfweliadau â SAU Cymru
28 Mae aliniad clir yma gyda’r sectorau a’r disgyblaethau technoleg hynny sydd wedi’u hamlygu fwyaf fel sectorau/disgyblaethau blaenoriaeth yn y polisïau, strategaethau a’r cynlluniau amrywiol a ddisgrifir yn yr adran gynharach.
Ffigur 24: Aliniad cydweithrediad ‘Pwyntiau poeth’ gyda blaenoriaethau strategaeth ‘Pwyntiau poeth’ a briodolir gan strategaeth/polisi ac ati
‘Pwyntiau poeth’ a briodolir gan SAUau
‘Pwyntiau Poeth’ sy’n datblygu a briodolir gan SAUau Parasitoleg/clefydau heintus
Gwyddorau bywyd ac iechyd
Bridio planhigion/cnydau Gwyddorau bywyd
Ynni carbon isel a’r amgylchedd
TGCh a’r economi ddigidol
Peirianneg uwch a deunyddiau
Canolfan hydrogen
Arloesi mewn adeiladu
Technoleg niwclear
Ynni a’r amgylchedd
Technoleg ynni
Technolegau amgylcheddol
Lled-ddargludyddion cyfansawdd
Diogelwch seiber Gweithgynhyrchu digidol
Systemau modurol a pŵer
Deunyddiau uwch
Cynnal a chadw awyrennau
Gweithgynhyrchu uwch
Ymchwil cynnyrch a dylunio Technolegau bwyd a diod Eraill Bwyd a diod
Mae’n werth nodi fod y ‘pwyntiau poeth’ a nodwyd naill ai fel rhai cyfredol neu fel rhai sy’n datblygu gan SAUau sydd wedi’u dangos yn y tablau uchod wedi’u halinio gyda’r rhai hynny yn y strategaeth Arbenigo Deallus (AD) ar gyfer Cymru, gyda’r blaenoriaethau AD perthnasol i dechnolegau a rhaglenni meddygol yn unig ar goll o asesiadau SAU ar gyfer yr ymchwil hwn. Mae’n bosibl mai un rheswm am hyn yw’r ffocws - yn yr ymchwil presennol hwn - ar gydweithio gyda ‘busnesau’ yn hytrach na chydweithio ymarferydd/clinigwr ehangach.
29
Ffigur 25: Blaenoriaethau arbenigo deallus ar gyfer Cymru
Ynni carbon isel /Byw’n ddoeth/Arloesedd eco
Ymddiriedolaeth TGCh a diogelwch seiber
Iacháu clwyfau/Niwrowyddoniaeth/Dyfeisiadau meddygol
e-iechyd & gwybodeg Iechyd
Darganfod cyffuriau
Diogelwch bwyd
Deunyddiau uwch/Ffotoneg/Lled-ddargludyddion cyfansawdd
Gwerthuso a phrofi deunyddiau/Cynnal a chadw, atgyweirio a thrwsio Ffynhonnell: Llwyfan Arbenigo Deallus (RIS3) ac Arloesi Cymru 2015
Roedd cyfweliadau gyda busnesau yn dueddol o gadarnhau’r asesiad SAU o’r ‘pwyntiau poeth’ fel y disgrifir uchod. Yn naturiol, mae busnesau - rhai mawr a bach - yn dueddol o fod â chysylltiadau gyda phrifysgolion yn eu maes diddordeb penodol ac felly yn anaml iawn maen nhw’n gallu rhoi trosolwg o feysydd technoleg a galluoedd ymchwil a chydweithio nad ydynt yn berthnasol iddyn nhw’n uniongyrchol.
Mewn trafodaeth fodd bynnag gwnaed nifer o bwyntiau pwysig gan gynnwys:
•• Mae dadansoddi data, diogelwch seiber a gwaith fforensig seiber fel maes o ddiddordeb sy’n datblygu ar gyfer cwmnïau ac ymchwilwyr o brifysgolion Cymru. Mae mentrau cydweithredol ar waith eisoes, er bod hynny ar raddfa gymharol fach hyd yma. •• Mae gan brifysgolion Cymru arbenigedd hirsefydlog ond yn aml nad yw’n cael ei werthfawrogi ddigon o ran disgyblaethau peirianneg uwch, gan gynnwys deunyddiau uwch a haenau yn Abertawe a Chaerdydd. Fodd bynnag roedd nifer o fusnesau’n teimlo fod y ffocws wedi symud i ddefnyddio’r arbenigedd hwn mewn ffordd arbenigol, sy’n ei wneud yn ddeniadol i arianwyr ymchwil ond yn gymhleth i fusnesau ryngweithio ag o. Mae cydweithio gyda busnesau yn hir-sefydlog mewn sawl ffordd a gellid rhoi ffocws cryfach iddo. •• Roedd y cwmnïau gwyddorau bywyd a gyfwelwyd yn dangos mwy o frwdfrydedd ar gyfer y cyfleoedd cydweithio rhwng arbenigedd a busnes a nodwyd gan y SAUau eu hunain. Er enghraifft, nodwyd cryfderau cenedlaethol pwysig mewn data poblogaeth a gofal iechyd a meddyginiaeth adfywiol gan fusnesau angori.
30
05
Heriau i wella rhyngweithio prifysgol-busnes yng Nghymru
Yr her fwyaf cyffredin sy’n wynebu’r holl brifysgolion a gyfwelwyd ar gyfer yr ymchwil hwn oedd diffyg y gyllideb arloesi ac ymgysylltu (A&Y) y cyfeiriwyd ato yn Adran 4 uchod.
Un canlyniad o golli’r arian A&Y oedd y pwysau roedd hyn yn ei roi ar adnoddau mewnol. Fel y dywedodd un brifysgol:
“Roedd diddymu cefnogaeth A&Y yn ‘drychineb’ oherwydd fe ataliodd yr holl waith da oedd yn cael ei wneud mewn perthnasoedd rhwng prifysgol a busnes ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar SAUau i gefnogi’r gwaith hwnnw o’u hadnoddau mewnol eu hunain.”
Yn ogystal â hynny, mae’r cyferbyniad gyda phrifysgolion yn Lloegr a phrifysgolion eraill y DU yn cymhlethu’r broblem oherwydd:
“Yr her allweddol yw absenoldeb cefnogaeth A&Y, sy’n rhoi SAUau yng Nghymru mewn cyffion o’u cymharu â SAUau yng ngweddill y DU.”
Er bod yr amgylchedd polisi ac ariannu allanol yn cyflwyno rhwystrau, mae’r holl brifysgolion yn barod i gydnabod y rhwystrau mewnol i ymgysylltu â busnesau. Nid oes gan fusnesau fawr o ddealltwriaeth am yr heriau ariannu mae prifysgolion maen nhw am gydweithio â nhw yn eu hwynebu. Fodd bynnag, mae’r heriau a restrir isod yn cael eu hadlewyrchu’n amlwg yn yr atebion i’r cwestiwn cyfatebol;
Sylwyd ar y pwysau ar adnoddau ac arbenigedd staff gan brifysgol arall:
“Mae’n golygu fod y brifysgol yn brwydro i gadw staff i reoli partneriaethau rhwng busnes a’r brifysgol oherwydd bod gweithio gyda phartneriaid busnes strategol yn cymryd llawer o amser.”
Ac, ymhellach:
“Y rhwystr fwyaf i gyfnewid gwybodaeth yn effeithiol yw diffyg cyllid A&Y, sy’n rhoi SAUau Cymru dan anfantais sylweddol o’u cymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr.”
“Pa heriau sydd wrth geisio cydweithio gyda phrifysgolion Cymru?” Er enghraifft, roedd prifysgolion yn nodi diffyg o ran aliniad diwylliant mewnol prifysgolion a diwylliant corfforaethol y busnesau yr oeddent yn ceisio rhyngweithio â nhw. Roedd busnesau yn cytuno â’r farn ein bod, o ran ymchwil ac arloesi, yn rhy wrthrisg, yn methu â goddef methiant, ac nad ydynt yn gwerthfawrogi cymryd risg.
31 Mae prifysgolion yn teimlo bod statws braidd yn negyddol nawr yn gysylltiedig â gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ymhlith y gymuned academaidd. Cydnabuwyd hyn hefyd gan fusnesau. Nododd un ei syndod o ran cyn lleied sy’n mynychu seminarau rhwydwaith a chyfarfodydd brecwast y brifysgol o ran ymchwilwyr cyffredin. Daeth y cwmni i’r casgliad naill ai nad oedd ymchwilwyr yn cael eu gwahodd neu nad oeddent yn cael eu cymell i wneud yr ymdrech i fynychu. Yn yr un modd, dywedodd un cwmni angori, o ran timau cydlynu busnes (masnacheiddio) ym mhrifysgolion Cymru, eu bod wedi colli’r cymhelliant oherwydd yr ariannu a’r diwylliant sy’n ymwneud â rhyngweithio busnes mewn Prifysgolion. Mae strwythurau a gweithdrefnau mewnol y brifysgol yn aml yn cael eu hystyried, hyd yn oed yn y prifysgolion, yn rhy anhyblyg ac wedi’u cyfyngu gan dâp coch, sy’n llesteirio’r math o systemau hyblyg sydd eu hangen yn y maes cyfnewid gwybodaeth. Roedd busnesau hefyd yn uchel eu cloch ar y pwynt hwn ac yn gallu dyfynnu nifer o feysydd lle’r oedd hyn wedi creu problem - fel yn y dyfyniad canlynol: “Mae triniaeth IP yn broblem barhaus. Mae prifysgolion yn gorbrisio IP o gydweithredu ac mae’n ymddangos nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau masnachol neu realistig ar y pris, y gwerth a risgiau masnachol.” Yn yr un modd nododd busnes bach a chanolig arall o’i brofiad: “Nid yw SAUau yn hyblyg – mae ganddynt reolau caffael ac mae’n rhaid iddynt adennill costau fel bod busnesau bach a chanolig yn teimlo fel eu bod yn cael eu gadael allan. Pan maen nhw am gydweithio maen nhw’n mynd at gwmnïau mawr sy’n gallu cymryd mwy o risg.” Cododd y gymuned fusnes hefyd dri mater pellach nad oedd wedi’u nodi’n benodol gan y prifysgolion, ond y mae’r gymuned fusnes yn eu hystyried yn heriau pwysig. Yn gyntaf, roedd nifer o fusnesau yn teimlo bod diffyg gweledigaeth strategol hirdymor ac uchelgeisiau i ategu cydweithio rhwng prifysgolion a busnesau yn hanfodol os oedd am arwain at dyfu gwerth yn yr economi ac i’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Nodwyd hyn gan un cwmni angori fel “gêm hirdymor a thaith hirdymor - rydym angen dod o hyd i ymrwymiad i fuddsoddi yn y tymor hwy. Dylai agenda effaith prifysgolion roi’r ffocws ar gyfer yr ymagwedd fwy strategol hirdymor hwn”.
Dywedodd busnes gwahanol hefyd am yr her o weithio gyda phrifysgolion pan fydd y “rhyngweithio rhwng prifysgolion a diwydiant yn rhy dameidiog, ar raddfa fechan ac yn cynnwys diffyg o ran cyfeiriad strategol”. Sylw pellach oedd yn adlewyrchu’r her hon oedd bod “y diffyg cydgysylltu a chydweithredu ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru yn cael effaith negyddol iawn ar ei allu i ymgysylltu â diwydiant, oherwydd y diffyg cyfeiriad strategol clir a llais.”19 Yn ail, mae paru arbenigedd academaidd gyda’r hyn mae diwydiant ei angen yn her barhaus i’r ddwy ochr. Er bod prifysgolion wedi buddsoddi mewn gwefannau, cyfeiriaduron a swyddfeydd cyswllt, yn amlwg teimlir nad yw’r buddsoddiad hwn yn effeithiol gan nifer o fusnesau. Dywedodd un rheolwr ar fusnes bach a chanolig (sydd yn cydweithio gyda nifer o brifysgolion y DU) bod “diffyg gwybodaeth am bwy sy’n gwneud beth a ble maen nhw yn ogystal â dryswch y mae’n rhaid i’r ymchwilydd a’r cwmni ddod drosto er mwyn delio gyda biwrocratiaeth prifysgol, mae’n syndod fod unrhyw brosiectau cydweithredol yn cael eu cyflawni.” Yn berthnasol, dywedodd un arall eu bod wedi dod i’r casgliad, yn dilyn mynychu nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio a gweithgareddau tebyg i ‘ddiwrnod agored’ fod “pobl uwch yn frwdfrydig ond nad ydynt yn deall y cryfderau ar lawr gwlad heb sôn am bwy yn benodol allai wneud y gwaith gofynnol.” Yn olaf, roedd gwerth ecosystemau lleol a chadwyni cyflenwi neu werth yn ffactor bwysig ar gyfer busnesau - p’un ai’n gwmnïau angori neu’n fusnesau bach a chanolig yn haenau is cadwyni gwerth. Fodd bynnag, mae hyn yn gosod cyfyngiadau amser ar fusnesau sy’n ceisio cydweithrediad ymchwil neu arloesi gyda phrifysgolion gan eu bod ar fympwy cwsmeriaid yr haenau uwch yn eu cadwyni gwerth, gan olygu fod cynhyrchu canlyniadau amserol o brosiectau ymchwil yn hanfodol. Ymhellach, i fod yn bartneriaid arloesi effeithiol, mae busnesau yn chwilio am bartneriaid prifysgol gyda gwell dealltwriaeth o lif canlyniadau ymchwil, technoleg arloesi, datblygiad cynnyrch a phrosesau gwell. Roedd busnesau’n teimlo fod hwn yn faes lle gellid rhoi mwy o sylw a buddsoddiad gan brifysgolion.
19 Roedd diffyg gweledigaeth hirdymor ac uchelgais hefyd yn cael ei bwysleisio yn yr ymgynghoriad rhanddeiliaid a gynhaliwyd yn 2016 fel rhan o ymchwiliad yr achos ar gyfer Corff Arloesi Cenedlaethol.
32
06
Cyfleoedd i gynyddu gwerth drwy ryngweithio prifysgol-busnes
Mae’r ymchwil wedi awgrymu nifer o feysydd allweddol lle gallai cyfleoedd fod yng Nghymru i gynyddu gwerth o ryngweithio prifysgol-busnes. Nodwyd adeiladu dull strategol gwell o ran cydweithrediad gan nifer o brifysgolion fel cyfle ac anghenraid. Roedd busnesau hefyd yn teimlo bod hwn yn gyfle hollbwysig a fyddai, os bydd yn cael ei gymryd, yn gwella eu hyder a’u parodrwydd i gydweithio gyda phrifysgolion. Dywedwyd bod cydberthnasau ymhlith prifysgolion eu hunain yn fwy anodd i’w sefydlu a’u rheoli na’r cysylltiadau gyda phartneriaid cwmni o’r radd flaenaf. Nododd un cwmni angori fod ganddynt femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda dwy brifysgol yng Nghymru ers peth amser. Er ei fod wedi gweithio’n dda ar y cyfan, gan alluogi ymchwilwyr y brifysgol i ddefnyddio offer arbenigol cwmnïau a defnyddio partneriaid y brifysgol ar gyfer swyddogaethau profi ac ardystio, nododd hefyd fod y berthynas wedi dod yn llai strategol ac yn fwy trafodol dros amser. Mae cwmni arall wedi canfod bod cydberthnasau gwaith wedi dod yn fwy cystadleuol ar draws eu sefydliadau partner a bod angen i’r cwmni ‘chwifio pastwn mawr neu gynnig moronen’ i gael eu cydweithwyr prifysgol i weithio gyda’i gilydd yn well ar sawl achlysur. Mae cwmni angori wedi datblygu memorandwm o dyd-ddealltwriaeth arbennig gydag un o gynghorau ymchwil y DU ac mae hyn wedi’u helpu i ddatblygu agenda ymchwil sy’n bodloni anghenion y busnes ac sy’n berthnasol i fusnesau eraill yn y maes yn genedlaethol. Mae Prifysgolion Cymru wedi cael budd sylweddol o’r dull hwn o weithredu.
Tynnwyd sylw at y dull agenda ymchwil strategol a ddatblygwyd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, ac yn benodol gyda Phrifysgol Loughborough, gan un cwmni angori wedi’i leoli yng Nghymru. Roedd technoleg sylfaenol, ymchwil diwydiant ar raddfa fawr, buddsoddiadau mawr gan y brifysgol, cytundebau ymchwil ac ymgynghoriaeth, perthnasau strategol gyda gweithgynhyrchwyr mawr i gyd yn rhan o’r perthnasau sydd wedi’u sefydlu. Nododd nifer o gwmnïau a phrifysgolion fod y dull strategol a gymerwyd i ddatblygu’r achos am ffrwd o weithgarwch yn ymwneud â lled-ddargludyddion cyfansawdd gyda Phrifysgol Caerdydd ac IQE plc a Phrifysgol Abertawe ac amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol yn SPECIFIC yn flaenllaw o ran dulliau strategol yn arwain at ddatblygiad ymchwil pellach a phwyntiau poeth arloesi sy’n cynnwys sectorau allweddol, busnesau a phrifysgolion Cymru. Gellir disgwyl y bydd gwell dealltwriaeth o anghenion a chyfleoedd rhwng prifysgolion a busnesau yn arwain at greu a chynnal partneriaethau ac ymgysylltiadau strategol. Mae cyfle da i fusnesau a phrifysgolion/ academyddion i weithio gyda’i gilydd ar brosiectau ymchwil a fydd yn cefnogi anghenion y busnesau gan fod hyn bellach yn fyrdwn amrywiaeth eang o gymorth gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod hyn yn gofyn am newid yn y diwylliant mewn nifer o achosion lle mae academyddion yn llai parod i ymgysylltu gyda’r agenda hwn. Un allwedd i gyflawni’r newid diwylliant gofynnol fydd hyrwyddo cydweithrediadau prifysgol-busnes yn gryf, amlwg a chyson gan arweinyddiaeth uwch
Gellir disgwyl y bydd gwell dealltwriaeth o anghenion a chyfleoedd rhwng prifysgolion a busnesau yn arwain at greu a chynnal partneriaethau ac ymgysylltiadau strategol.”
,,
33
mewn prifysgolion. Mae busnesau yn teimlo bod uwch reolwyr prifysgol “wedi dechrau troedio’r pedal yn ysgafn” yn y blynyddoedd diwethaf. Er bod rhaid i adran rheoli’r brifysgol ymdopi gyda phwysau newydd ar adeg o galedi, mae’r gymuned fusnes yn teimlo pwysau tebyg gan randdeiliaid a buddsoddwyr ac mae angen gwybod fod ei bartneriaid academaidd wedi ymrwymo yn yr un modd i ymchwil ac arloesi. Cyfle allweddol a nodwyd gan y prifysgolion ond y mae busnesau a gyfwelwyd ar gyfer yr ymchwil hwn hefyd yn ei ddeall, yw cael ‘parch teg’ rhwng addysgu, ymchwil ac ymgysylltu busnes yng nghyflogau, dyrchafiadau a strwythurau rheoli a chymhellion y brifysgol. Nododd un busnes, lle’r oedd cydweithredu wedi gweithio ar gyfer eu busnes, fod cyfraniad amlwg wedi bod gan staff uwch o ‘ganol’ y brifysgol yn hytrach nag o ganolfan ymchwil neu dîm ymchwil. Roedd hyn wedi rhoi parch teg i’r gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth gyda gweithgareddau academaidd eraill. Dywedodd nifer o’r prifysgolion a gyfwelwyd eu bod wedi ceisio datblygu a gwella strwythurau mewnol, yn enwedig o ran contractau staff, achredu, systemau gwobrwyo a gwneud ‘arloesi’ yn nodwedd fwy canolog yn gyffredinol o weledigaethau a nodau strategol eu prifysgol. Y nod allweddol yw hwyluso newid diwylliannol yn y brifysgol sydd yn sicrhau sefyllfa fwy amlwg a pharhaus ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ar draws y sefydliad.
Yn olaf, caiff y manteision sy’n deillio o weithio gyda chwmnïau angori yn arbennig eu hehangu lle bo’r cydweithredu’n ystyried agweddau cadwyn werth y busnes. Bydd hyn nid yn unig yn caniatáu datgelu’r cyfleoedd ymchwil ac arloesi ehangach, ond bydd yn creu cyfle i bartneriaid y brifysgol adnabod a gweithio gyda mwy o BBaChau lleol, i roi rhai gweithgareddau i ddarparwyr BBaChau arbenigol yn y gadwyn werth ac, yn olaf, i weithredu fel teclyn casglu gwybodaeth i nodi anghenion sgiliau, prinder a chyfleoedd technoleg newydd. Y cyfle felly yw adeiladu cydweithrediadau cadwyn werth cyfan sy’n lledaenu’r costau ac yn ehangu’r manteision cadarnhaol ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau. Wrth gymryd cyfle o’r fath nid yw’n wirioneddol angenrheidiol i’r brifysgol gymryd yr awenau. Yn wir, mae tystiolaeth i awgrymu, gyda chwmni angori yn ei le bod y Brifysgol angen set gwahanol o sgiliau i’w alluogi i chwarae rôl greadigol, sy’n gwella prosiect yn hytrach na rôl drafodol. Ymhellach, ceir enghreifftiau yng Nghymru, gan gynnwys y Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, lle mai’r busnes angori oedd y chwaraewr allweddol yn hytrach na phartner iau i’r brifysgol. Mewn achosion eraill, fel clystyru gweithgareddau’n embryonig yng Nghanolfan OpTIC Llanelwy, mae cyfle i ‘uwchraddio’ capasiti a gallu technegol busnesau ac ymchwilwyr yng Ngogledd Cymru mewn amrywiaeth o dechnolegau
34
07
Casgliadau
Mewn llenyddiaeth academaidd a pholisi mae rôl bwysig cydweithio busnes-prifysgol wedi’i sefydlu’n glir. Mae prifysgolion yn allweddol i weithrediad yr economi wybodaeth, ac nid yw eu rôl hollbwysig i’w chwarae ochr yn ochr â busnesau ym mhob math o ecosystem arloesi yn cael ei herio o ddifrif. Mae’n bwysig cydnabod bod rôl prifysgolion yn un cyfannol, nad yw’n syml am gynhyrchu canlyniadau ymchwil blaengar, ond sydd hefyd i’w weld drwy gyd-weithio gyda busnes ar ymchwil contract, ymgynghoriaeth ac ymdrechion ymchwil cydweithredol hanfodol. At hynny, nid yw prifysgolion yn cael eu hystyried yn gyflenwyr canlyniadau ymchwil yn unig, ond yn rhan hanfodol o ddatblygiad a chynaliadwyedd ecosystemau arloesi lleol sydd â’r gallu i gydweithredu â busnesau ar fentrau ymchwil strategol, adeiladu clwstwr gyda chwmnïau mawr a bach a helpu i ysgogi diwylliannau a greddfau entrepreneuraidd ac arloesol yn eu hardaloedd lleol ac yn eu cymunedau ymchwil a graddedig. Fodd bynnag, mae Cymru mewn safle cymharol wan o ran metrig traddodiadol perfformiad ymchwil ac arloesi fel % o’r cynnyrch domestig gros a wariwyd ar fuddsoddiadau Y&D gan gwmnïau. Ar y llaw arall, fodd bynnag, mae tystiolaeth bod cwmnïau o Gymru ar gyfartaledd o leiaf mor weithgar fel arloeswyr â’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU. Er bod arloesi a thechnoleg wedi bod yn agos i syniadau polisi datblygu economaidd am yr 20 mlynedd diwethaf o leiaf, nid yw dwysedd gweithio yn
y dirwedd ac ar draws y dirwedd mor fawr â’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd a rhanbarthau eraill yn y DU, lle mae prifysgolion yn chwarae rhan fwy canolog mewn ecosystemau arloesi hynod rwydweithiol. Ar sail y dadansoddiad hwn, daeth adroddiad diweddar ar y potensial am Gorff Arloesi Cenedlaethol yng Nghymru i’r casgliad: “Os bydd Cymru’n derbyn y sefyllfa bresennol o ran polisi arloesi, ni fydd ond yn aros yn ei hunfan ond yn syrthio ymhellach y tu ôl i’w chyfoedion wrth iddynt ‘fynd yr ail filltir’ i fod yn economïau mwy arloesol ac ymatebol. Yn gryno, nid yw ‘busnes fel yr arfer’ yn agwedd dderbyniol mwyach o ran polisi economaidd”. Yng Nghymru, mae’n ymddangos fod nifer o ffactorau yn chwarae yn y cyswllt hwn. Yn gyntaf, mae goruchafiaeth cadwyni gwerth neu gyflenwi byd-eang ar draws llawer o ddiwydiant Cymru yn golygu fod y defnydd o ffynonellau allanol arloesi a syniadau o brifysgol neu ffynonellau eraill yn ail i ffynonellau sydd yng nghadwyn cyflenwi neu werth y cwmnïau. Mae cyfres ryngweithio linol yn hytrach na rhwydweithiol felly’n dod i’r amlwg a gallai wneud rhyngweithio gan BBaChau gyda phrifysgolion yn fwy anodd nag mewn economïau lle mae cadwyni gwerth yn llai amlwg. At hynny, mae y nifer o brifysgolion Cymru a’u gwasgariad daearyddol yn golygu fod rhagoriaeth ymchwil wedi’i daenu’n denau - er bod goruchafiaeth Prifysgol Caerdydd o ran ymchwil gydweithredol drwy Innovate UK a Horizon 2020 yn gownter cadarnhaol i’r gwasgariad hwnnw.
Mae’n bwysig cydnabod bod rôl prifysgolion yn un cyfannol, nad yw’n syml am gynhyrchu canlyniadau ymchwil blaengar, ond sydd hefyd i’w weld drwy gyd-weithio gyda busnes ar ymchwil contract, ymgynghoriaeth ac ymdrechion ymchwil cydweithredol hanfodol.”
,,
35 Mae’r lefelau isel o incwm ymgynghoriaeth a chontract sy’n cael ei gynhyrchu gan brifysgolion Cymru o’i gymharu â gwledydd y DU a rhanbarthau eraill yn arwydd o lefelau isel o ryngweithio gyda busnesau er, yn rhyfedd iawn, mae’r ffynonellau hyn o incwm, mewn termau absoliwt, yn hanfodol ar gyfer prifysgolion Cymru. Yn olaf, mae diffyg cyllideb Arloesi ac Ymgysylltu (A&Y) ar gyfer prifysgolion Cymru yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith amlwg a gwanychol difrifol, gan roi prifysgolion Cymru dan anfantais fawr o’u cymharu â’u cymheiriaid yn y DU. Mae goblygiadau niferus i’r diffyg cyllid, y mwyaf difrifol o’r rhain yw’r ffaith ei bod yn dod yn fwyfwy anodd recriwtio a chadw staff cyfnewid gwybodaeth proffesiynol a phrofiadol, broceriaid cydweithio. Mae’r ‘pwyntiau poeth’ a nodwyd yn yr ymchwil hwn yn dangos fod cydlyniad ar draws busnes, prifysgolion a pholisi llywodraeth cyn belled â sectorau blaenoriaeth a thechnolegau. Hefyd, fodd bynnag, nodwyd nifer o ‘bwyntiau poeth’ pwysig posibl sy’n dod i’r amlwg sydd wedi’u halinio â’r blaenoriaethau Arbenigo Deallus ar gyfer Cymru. Wrth edrych ymlaen, y mater allweddol yw’r broses o flaenoriaethu a datblygu ‘pwyntiau poeth’ - ac mae rhesymau da dros feddwl fod angen nodi ‘pwyntiau poeth’ y dyfodol drwy ddull mwy strategol, clir a chydweithredol gan gynnwys busnes, prifysgolion a llywodraeth. Dylai hyn gael ei gefnogi gan ddatblygiad modelau busnes clir ac unigryw ar gyfer pob ‘pwynt poeth’ a chydnabyddiaeth na fydd angen yr un mecanweithiau cyllido, partneriaid neu gydberthnasau gweithredu ar bob un. Bydd angen hyblygrwydd a chreadigrwydd a bydd angen goresgyn rhwystrau rhyng-sefydliadol o’r cychwyn cyntaf. Mae enghreifftiau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru a allai weithredu fel templedi. Mae ‘pwyntiau poeth’ sy’n dod i’r amlwg yn dangos nad metrigau technoleg traddodiadol yw’r llwybr mwyaf priodol o bosibl i Gymru. Er y bydd lle ffafriol i arloesedd technolegol mewn amgylchedd bydeang cystadleuol bob amser, nid yw’n ddigonol mwyach i greu a thyfu’r busnesau a lywir gan arloesedd y mae eu hangen ar Gymru.
Drwy gydnabod pŵer a phwysigrwydd cadwyni gwerth ac ecosystemau lleol, mae yna gyfleoedd newydd y gellir eu datblygu sy’n dibynnu ar sgyrsiau amserol a chydlynu gwell ar draws yr ecosystem, lle bydd busnesau, ymchwilwyr a llunwyr polisi yn cydweithredu er budd pawb. Bydd sgyrsiau adeiladol a chreadigol yn hanfodol cyn y gellir datblygu ac ariannu cynlluniau buddsoddi. Mae’r prifysgolion eu hunain angen cynyddu eu ffocws ar arloesi ac ymchwil drwy gydweithrediad gyda busnes sy’n canolbwyntio ar gyflawni arweinyddiaeth strategol o ran gweithgarwch A&Y yn fewnol, newid eu ffocws diwylliannol cyfyngedig i ddarparu parch teg a chymhellion i’r rhai hynny sy’n gweithio gyda busnes yn hytrach na’r rhai hynny sy’n canolbwyntio ar allbynnau ymchwil yn unig. Mae angen mynd i’r afael â natur ddarniog a diffyg cydlyniant prifysgolion Cymru cyn y bydd y sector preifat a’r trydydd sector yn fodlon ymgysylltu’n fwy. Gan na fydd gan brifysgolion Cymru fynediad i ffynonellau ERDF i ariannu rhaglenni cydweithredu (fel KEF, Smart Expertise, ASTUTE ac ati) yn y dyfodol agos, bydd dod o hyd i ffyrdd o fuddsoddi cyllid cyfyngedig yn fwy call ac i gael mwy o effaith yn allweddol i lwyddiant yn y dyfodol. Yn olaf, mae’n ymddangos y byddai adsefydlu’r cyllid A&Y yn gam cyntaf amlwg i roi cydweithredu yng Nghymru ar yr un lefel â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU.
36
08
Cynllun gweithredu i gynyddu gwerth
Camau sydd eu hangen
Cyfrifoldebau allweddol ar gyfer gweithredu
1. Dull a gweledigaeth strategol sydd ei angen Mae adeiladu dull strategol gwell o gydweithredu rhwng prifysgolion a busnesau yn hanfodol. Mae’r diffyg gweledigaeth ac uchelgais strategol hirdymor sy’n sail i gydweithio rhwng prifysgolion a busnesau yn gwanhau ac yn afradu’r ymdrechion mae’r ddau’n ei wneud yn hyn o beth. Yn ddelfrydol, mae angen nodi ‘pwyntiau poeth’ y dyfodol drwy ddull gweithredu strategol, tryloyw a chydweithredol sy’n galluogi datblygu a defnyddio modelau busnes clir ac unigryw ar gyfer pob ‘pwynt poeth’ fel y bo’r amgylchiadau’n mynnu.
Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag arweinwyr prifysgolion Cymru ac arweinwyr busnes a diwydiant allweddol
Mae’r dull strategol a gymerwyd i ddatblygu’r achos am ffrwd o weithgarwch yn ymwneud â Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gyda Phrifysgol Caerdydd ac IQE plc a Phrifysgol Abertawe ac amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol yn SPECIFIC yn flaenllaw o ran dulliau strategol yn arwain at ddatblygiad ymchwil pellach a phwyntiau poeth arloesi sy’n cynnwys sectorau allweddol, busnesau a Phrifysgolion Cymru.
2. Arweinyddiaeth a chysondeb Mae busnesau’n ystyried hyrwyddo cydweithrediadau Prifysgol-busnes yn gryf, amlwg a chyson gan arweinwyr uwch yn y prifysgolion a’r busnesau yn hanfodol er mwyn creu diwylliant ac amodau priodol ar gyfer galluogi rhyngweithio a chydweithredu. Yn benodol, mae angen i’r gymuned fusnes wybod bod ei phartneriaid academaidd yr un mor ymrwymedig â hi i gydweithredu ac arloesi. Mae statws Cyfnewid Gwybodaeth mewn prifysgolion ac o fewn strwythurau gyrfa, adnoddau academaidd a gwobrau i gyd yn feysydd y mae’n rhaid i arweinwyr prifysgolion fynd i’r afael â nhw. Drwy weithio tuag at ‘barch teg’ rhwng addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â busnesau mewn prifysgolion, gellir dechrau unioni’r gwendidau a nodwyd gan brifysgolion ac a gydnabuwyd gan fusnesau o ran ymrwymiad, talent a chynaliadwyedd cydweithrediadau.
Arweinyddiaeth prifysgolion Cymru a diwydiant
3. Modelau newydd ar gyfer arloesi Er y bydd lle ffafriol i arloesedd technolegol mewn economi gystadleuol bob amser, nid yw’n ddigonol mwyach ar gyfer creu a thyfu’r busnesau a lywir gan arloesedd y mae eu hangen ar Gymru. Gan fod proses a gwasanaeth cyn bwysiced i weithgynhyrchu â chynnyrch a thechnoleg, mae angen i Gymru adeiladu arloesedd prosesau a gwasanaethau i mewn i’w strategeiddio cyffredinol mewn perthynas ag arloesedd, gan gynnwys arloesedd cymdeithasol ac arloesedd gwasanaeth cyhoeddus. Gall prifysgolion chwarae rôl flaenllaw yn hyn o beth drwy fanteisio ar eu gallu i fod yn greadigol a rhoi sylw ar wyddorau cymdeithasol a’r pŵer amharu sy’n gysylltiedig â gwyddor data a dadansoddi mewn perthynas â’r heriau cymdeithasol mawr y bydd rhyngweithiadau a ‘phwyntiau poeth’ y dyfodol yn datblygu o’u cwmpas.
Llywodraeth Cymru, Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, cyrff cynrychioli’r diwydiant, prifysgolion a grwpiau cymdeithas sifil
37
Camau sydd eu hangen
Cyfrifoldebau allweddol ar gyfer gweithredu
4. Hwyluso potensial arloesi cadwyni gwerth Caiff y manteision sy’n deillio o brifysgolion yn gweithio gyda chwmnïau angori a BBaChau eu hehangu lle bo’r cydweithredu’n ystyried agweddau cadwyn werth y busnes. Bydd hyn yn caniatáu datgelu cyfleoedd ymchwil ac arloesi ehangach a bydd yn creu cyfle i bartneriaid prifysgolion i adnabod a gweithio gyda mwy o BBaChau lleol ac i allanoli rhai gweithgareddau i ddarparwyr BBaCh arbenigol yn y gadwyn werth.
Diwydiant a phrifysgolion Cymru
Drwy ymgysylltu â chwmnïau angori allweddol, dylai prifysgolion allu chwarae rôl greadigol sy’n gwella prosiectau yn hytrach na’u rôl drafodol draddodiadol nad yw ond yn seiliedig ar ymchwil contract.
5. Adsefydlu cyllideb A&Y Dylid ailddechrau buddsoddi mewn cydweithredu yng Nghymru i alluogi prifysgolion a busnesau Cymru i weithredu ar yr un lefel â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Dadleuodd Adolygiad Diamond fod angen partneriaeth well ar Gymru rhwng prifysgolion, busnesau a’r llywodraeth i sicrhau’r manteision cymdeithasol ac economaidd mwyaf posibl drwy SAUau. Felly, roedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, drwy HEFCW (neu ei gorff olynol), ddarparu system cefnogaeth ddeuol ar gyfer ariannu cyfnewid gwybodaeth, yn cynnwys Canolfannau rhyngweithio Prifysgol-Busnes yn derbyn cyllid craidd o £5 miliwn y flwyddyn i alluogi ymgysylltiad ystwyth a hyblyg rhwng SAU a diwydiant; a, cynllun a fyddai’n caniatáu i brifysgolion fod yn fwy hyblyg ac ymatebol yn eu gwaith i hyrwyddo prosiectau cydweithio rhwng Prifysgol-busnes sy’n cael effaith economaidd bwysig a sylweddol o bosibl.
Llywodraeth Cymru i roi Adolygiad Diamond ar waith
6. Pwyntiau mynediad gwell i adnoddau ac arbenigedd prifysgol Mae meithrin dealltwriaeth well o anghenion a chyfleoedd rhwng prifysgolion a busnesau, gan baru arbenigedd academaidd ag anghenion y diwydiant, yn her barhaol. Mae angen gwybodaeth glir a mynediad rhwydd at bartneriaid prifysgolion ar fusnesau er mwyn sicrhau bod canlyniadau ymchwil yn cael yr effaith fwyaf posibl ar eu busnes a’r economi. Drwy feithrin dealltwriaeth well o sut y gall canlyniadau ymchwil gael eu defnyddio i roi hwb i arloesedd, datblygu cynnyrch ac arloesedd prosesau, gallai prifysgolion sicrhau gwerth uwch ac effaith economaidd well drwy eu gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth a chydweithredu â busnesau. Mae creu llwyfan neu bwynt mynediad hyblyg ac ymatebol yn un o argymhellion Adolygiad Diamond. Gallai llwyfan o’r fath gysylltu holl Brifysgolion Cymru gan ddefnyddio llwyfan digidol modern a thechnoleg rwydweithio wedi’u hategu o bosibl gan rwydwaith BBaCh/busnesau angori cadarn. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi awgrymu ei hun yn bartner posibl “ar lawr gwlad”.
Prifysgolion Cymru mewn partneriaeth â chyrff diwydiant a phartneriaid eraill
CYDWEITHIO AR GYFER TWF A FFYNIANT
National Centre for Universities and Business
Studio 10, Tiger House, Burton Street, London, WC1H 9BY info@ncub.co.uk
www.ncub.co.uk
+44 (0)207 383 7667
@NCUBtweets