'Creu'r Cysylltiad – Cytundeb Arloesedd Cenedlaethol Newydd i Gymru'

Page 1

Creu’r Cysylltiad Cytundeb Arloesi Cenedlaethol Newydd i Gymru ADRODDIAD TERFYNOL TASGLU CYNYDDU GWERTH CYMRU

1


Awduron: Dr David Docherty, yr Athro Colin Riordan, Dr Drew Nelson ac Elin Lloyd Jones. Cyfraniadau golygyddol gan: Lin Phillips, yr Athro Rob Rolley, Dr Alyson Thomas, yr Athro Maria Hinfelaar, Dr Fraser Logue, yr Athro John Hughes, yr Athro Graeme Reid ac Audra Smith. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a’r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd am roi’r astudiaethau achos.


3

Cyflwyniad i’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes yn datblygu, cefnogi a hyrwyddo cydweithrediad o safon fyd-eang rhwng prifysgolion a busnesau ledled y DU.

RYDYM YN:

Cael ein harwain gan arweinwyr ac yn derbyn arweiniad gan ein rhwydweithiau o brifysgolion a busnesau.

Cael ein llywio gan ymchwil, sy’n darparu dadansoddi chwalu chwedlau annibynnol.

Arloeswyr digidol a churaduron cyfleoedd ar gyfer prifysgolion, busnesau, a’r llywodraeth.

Rheolwyr newid, drwy ein tasgluoedd, sy’n mynd i’r afael â heriau o ran talent ac arloesedd.

Mae Tasglu Canolfan Cenedlaethol yn dwyn ynghyd arweinwyr o brifysgolion, y llywodraeth a busnesau i ganolbwyntio ar sector neu fater economaidd arbennig. Rydym yn gweithio ar y cyd i nodi problemau, archwilio materion yn fanwl, gwneud argymhellion y gellir gweithredu arnynt, a chreu rhaglenni etifeddiaeth. Yn 2012, rhoddodd Tasglu Cynyddu Gwerth y DU ymchwil, datblygu ac arloesi mewn cyd-destun Ewropeaidd a byd-eang, archwiliodd y synergeddau rhwng ymchwil gyhoeddus a phreifat, ac arweiniodd y ffordd at ddatblygu Konfer, sef platfform broceri arloesedd gydag 120,000 o academyddion. Yn 2016, adeiladodd Tasglu Cynyddu Gwerth yr Alban ar y llwyddiant hwn yn ei adroddiad dylanwadol, ‘The Step Change’, a lansiwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog. Mae Tasglu Cynyddu Gwerth Cymru, a gadeirir gan Dr Drew Nelson, prif swyddog gweithredol IQE, a’r Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, wedi dod â meddylwyr ac ymarferwyr allweddol at ei gilydd i ganolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o ddefnyddio’r dalent sy’n cael ei datblygu mewn prifysgolion Cymru a chryfhau ymchwil a datblygu er budd economi’r genedl. Nid oes modd i’r adroddiad terfynol hwn, sy’n galw am gytundeb arloesi proffil uchel newydd i Gymru, fod yn fwy amserol. Diolch i bawb a gymerodd ran.


4

Ynghylch Cynyddu Gwerth Cymru Nid yw arloesedd Cymru erioed wedi bod yn ased mor werthfawr i ffyniant y wlad. Yn benodol, rhaid inni ganfod ffyrdd gwell, mwy systematig a mwy integredig o uno prifysgolion, busnesau a’r llywodraeth i ddatblygu sylfaen sgiliau ar gyfer yr 21fed ganrif a chysylltiadau cyflym a thrawiadol rhwng academyddion a chwmnïau. Yn 2016, daeth Tasglu Cynyddu Gwerth Cymru y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes ag uwch arweinwyr o nifer o sectorau ac asiantaethau at ei gilydd i adolygu ffyrdd o gynyddu partneriaethau a chydweithrediadau mwy effeithiol. Ers hynny, wrth gwrs, mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit, ond hefyd gyda newidiadau strwythurol yn yr economi fyd-eang, wedi’u hysgogi gan ddadansoddiadau data, cyfrifiadura cwantwm, deallusrwydd artiffisial, a newidiadau dwfn o ran cynhyrchu a defnyddio ynni. Yng Nghymru, lansiwyd cynllun newydd ar gyfer ffyniant economaidd, mae Bargeinion Dinesig yn cael eu cytuno, ac mae’r trefniadau ar gyfer ariannu addysg uwch ac ymchwil ac arloesedd yn y pair. Ni all yr adroddiad hwn, sy’n galw am gytundeb arloesi cenedlaethol newydd rhwng holl chwaraewyr y system, fod yn fwy amserol. Mae’n adeiladu ar yr adolygiad mawr a manwl o gydweithredu rhwng busnesau a phrifysgolion a gyhoeddwyd ym mis Awst 20171, ac rydym yn ddiolchgar i’r Athro Kevin Morgan, Dr Adrian Healy, yr Athro Robert Huggins a Mr Meirion Thomas am y gwaith hwnnw, a’u hargymhellion. Hoffem ddiolch i aelodau ein grŵp llywio am eu mewnbwn craff ac am roi’n garedig o’u hamser, yn ogystal â’r tîm yng Nghaerdydd ac yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes.

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd

www.ncub.co.uk/what-we-do/growing-value-wales-task-force

1

Dr Drew Nelson Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol IQE PLC


5

Aelodau’r grŵp llywio: Cyd-gadeiryddion y tasglu Dr. Drew Nelson

Prif Swyddog Gweithredol

IQE Plc

Yr Athro Colin Riordan

Is-Ganghellor

Prifysgol Caerdydd

Dr. David Docherty

Prif Swyddog Gweithredol

NCUB

Joanna Hodgson

Cyfarwyddwr

Red Hat

Yr Athro John G. Hughes

Is-Ganghellor

Prifysgol Bangor

Dr. Fraser Logue

Is-Lywydd a Rheolwr Gyfarwyddwr

Siemens Healthcare Diagnostics Products

Linda Phillips

Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol

Elin Lloyd Jones

Rheolwr Prosiect Cynyddu Gwerth Cymru

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Cara Aitchison

Llywydd ac Is-Ganghellor

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Alastair Davies

Pennaeth Polisi Arloesi

Llywodraeth Cymru

Rhodri Talfan Davies

Cyfarwyddwr

BBC Cymru

Anne Dixon

Prif Swyddog Gweithredu

Innovate UK

Ian Edwards

Prif Weithredwr

Gwesty’r Celtic Manor

Yr Athro Maria Hinfelaar

Is-Ganghellor

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Prof. Medwin Hughes

Is-Ganghellor

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

David Jones

Prif Weithredwr

Coleg Cambria / Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy

Janet Jones

Cadeirydd, Uned Polisi Cymru

Ffederasiwn Busnesau Bach

Liz Jones

Partner

Deloitte Consulting

Ron Jones

Cadeirydd Gweithredol

Tinopolis Group

Iwan Trefor Jones

Cyfarwyddwr Corfforaethol

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Ieuan Wyn Jones

Cyfarwyddwr

M-Sparc

Yr Athro Hilary Lappin-Scott

Dirprwy Is-Ganghellor Uwch, Ymchwil ac Arloesi

Prifysgol Abertawe

Yr Athro Julie Lydon

Is-Ganghellor

Prifysgol De Cymru

Ian Nellist

Cadeirydd, Cangen Gwynedd

Ffederasiwn Busnesau Bach

Chris Nott

Uwch Bartner

Capital Law LLP

Dr. Penny Owen

Cyfarwyddwr Masnachol

NPL

Ian Risk

Pennaeth EADS Innovation Works UK

Airbus

Ashley Rogers

Ymgynghorydd Annibynnol

Cyngor Busnes Gogledd Cymru

Yr Athro Rob Rolley

Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu

General Dynamics UK Ltd

Matthew Taylor

Cyfarwyddwr Arloesi

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Dr. Alyson Thomas

Pennaeth Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu

CCAUC

Yr Athro Elizabeth Treasure

Is-Ganghellor

Prifysgol Aberystwyth

Dr. David Williams

Prif Weithredwr

Eco2

Bwrdd prosiect

Grŵp llywio


6

Y Cyd-destun Paradocs diffiniol yr oes gysylltiedig yw bod pethau teimlo’n fwy datgysylltiedig fyth. I aralleirio W.B. Yeats, ‘Things fall apart and connections cannot hold’. Ac eto, gwella cysylltedd rhwng y llywodraeth, prifysgolion, busnesau, entrepreneuriaid a chyfalaf risg yn gwbl hanfodol i oroesi, heb sôn am ffynnu, yn yr oes ddiwydiannol nesaf. Mae angen Cytundeb Arloesi Cenedlaethol Newydd ar Gymru i gyd-fynd â Chynllun Gweithredu Economaidd 2017, Ffyniant i Bawb2. Ac yn yr adroddiad hwn, sef adroddiad terfynol Tasglu Cynyddu Gwerth Cymru, rydym yn amlinellu rhai o’r cydrannau ac yn galw am gynghrair fawr o lunwyr polisi, swyddogion, addysgwyr, a phobl busnes i’w hysgogi ymlaen. Mae Prydain yn wynebu heriau brawychus yn dilyn Brexit. Yn fwy penodol, mae Cymru’n wynebu heriau brawychus yn dilyn Brexit. A dyna’r pwynt: mae problemau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr hyd yn oed yn wahanol mewn ffyrdd dramatig a chynnil fel ei gilydd. Nid yw’r adroddiad hwn, fodd bynnag, yn ymwneud â heriau Brexit yn unig. Mae angen i brifysgolion, y diwydiant a’r llywodraeth ddod at ei gilydd mewn byd sy’n prysur newid lle mae globaleiddio, poblyddiaeth, anghydraddoldeb, ac, ie, Brexit yn cael eu cymhlethu gan amgylchedd cyhoeddus ôl-wirionedd lle mae swyddogaeth arbenigwyr ac arbenigedd yn cael eu cwestiynu’n helaeth. Rydym yn wynebu ansicrwydd aruthrol sy’n debygol o bara am flynyddoedd cyn i’r niwl godi a’r drefn ddyddiol gael ei hadfer (yn gymharol). Fodd bynnag, rydym ni yng Nghymru yn gallu gweithredu’n bendant, a dylem wneud hynny, i sicrhau ein dyfodol ein hunain. Mae Llywodraeth Cymru, mewn datblygiad sydd i’w groesawu, eisoes wedi gofyn i’r Athro Graeme Reid i adolygu3 cyllid ymchwil ac arloesi yng Nghymru yng nghyd-destun Brexit, creu Ymchwil ac Arloesi y DU, a diwygiadau i gyllid ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru. Bydd ymholiadau helaeth yr Athro Reid yn ystod 2017 yn cynnig cyngor gwerthfawr i Lywodraeth Cymru ynghylch polisi a chyllid a ddylai ategu gwaith y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes. Mae hyn yn bwysig oherwydd rhaid i randdeiliaid yng Nghymru ddod at ei gilydd mewn ysbryd o gydgynhyrchu i hybu hunanddibyniaeth fel gwlad falch, ac i ddod o hyd i ffyrdd o fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r byd newydd hwn yn eu cynnig. Yn arbennig, mae’n hanfodol sicrhau bod actorion allweddol yn Llywodraeth Cymru, y dinas-ranbarthau, yr awdurdodau lleol, San Steffan, busnes a diwydiant, ac yn ein prifysgolion a cholegau, yn cymryd safbwynt strategol a chydgysylltiedig o’r cyfleoedd a fydd yn bodoli.

http://gov.wales/docs/strategies/170919-prosperity-for-all-cy.pdf

2

3

http://gov.wales/newsroom/educationandskills/2017/review-of-government-funded-research-and-innovation-in-wales-begins/?skip=1&lang=cy


7

Bydd ffrydiau ariannu megis y Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol4, bargeinion dinas-ranbarth5, Cronfa Ffyniant Gyfrannol y DU a addawyd6, Ymchwil ac Arloesi y DU a mentrau arloesi Llywodraeth Cymru yn fwy pwerus, trawsnewidiol ac effeithiol ar gyfer economi Cymru os bydd yr asiantaethau a’r actorion amrywiol sydd a wnelo yn cydgysylltu eu hymdrechion. Ond mae’r materion yn mynd y tu hwnt i ariannu: wrth greu gwybodaeth, rhaid i’r ochr gyflenwi fod yn fwy cydnaws ag ochr y galw i ymelwa ar wybodaeth. Mae gan Ffyniant i Bawb bum maes blaenoriaeth – y blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a sgiliau – sydd â’r potensial i wneud y cyfraniad mwyaf at ffyniant a lles yn y tymor hir 7. I gyflawni’r blaenoriaethau hyn, ac i atgyfnerthu diwydiannau Cymru y dyfodol a grymuso y rhanbarthau i ddod yn fwy cynhyrchiol, rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n agos gyda phrifysgolion, diwydiant, rhanddeiliaid a’r gymdeithas sifil i fanteisio’n llawn ar y dull Helics Pedwarplyg y dangoswyd ei fod yn gweithio’n dda iawn mewn mannau eraill o’r byd8. Mae angen cytundeb newydd rhwng y llywodraeth genedlaethol a rhanbarthol a’i rhanddeiliaid er mwyn helpu i gyflawni’r cynllun uchelgeisiol hwn. Mae angen i gydberthnasau fod yn gynnes ac yn agored, a dylai cyfathrebu lifo’n rhwydd. Mae’n rhaid i’r llywodraeth, academyddion, entrepreneuriaid, diwydianwyr a phobl busnes ddeall deinameg, galluoedd a chyfyngiadau ei gilydd mewn modd llawer mwy cynhwysfawr. A dylid sefydlu a datblygu fforymau cryf er mwyn cyfnewid gwybodaeth a meithrin cydberthnasau. Mae angen i gynhyrchion rhagorol ein harbenigedd ymchwil – gan cydnabod bod arloesedd sy’n economaidd hyfyw yn dibynnu ar sylfaen gadarn o ymchwil awyr las a ysgogir gan chwilfrydedd ac sydd wedi’i hariannu’n dda ar draws holl waith academaidd – gael eu hategu gan sylfaen sgiliau ragorol lle mae pobl ifanc, wrth ddechrau eu bywyd gwaith, yn ogystal â’r rhai sydd am newid cyfeiriad neu gynyddu lefel eu sgiliau, yn cael cystal gwasanaeth. A lle darperir yn wirioneddol ar gyfer anghenion cyflogwyr. Yn anad dim, rhaid bod ymdeimlad o ddiben cyffredin. Mae Cymru gyfan yn haeddu economi wybodaeth fodern a blaengar sy’n ystyried traddodiadau economaidd y genedl ac yn eu haddasu i fyd newydd y tu allan i’r UE. Dylem fod ar flaen y gad mewn economi sy’n tyfu lle mae Cymru’n cael ei chydnabod am ffyniant o fewn pob rhanbarth sy’n perthyn iddi. Mae angen i ni, yn gryno, dyfu gwerth ym mhob ystyr: yn economaidd, yn gymdeithasol, ac yn ddiwylliannol. Ond ni fydd y llwyddiant hwnnw yn digwydd oni bai fod pawb sy’n cymryd rhan yn barod i chwarae eu rhan. www.gov.uk/government/collections/Industrial-Strategy-Challenge-Fund-joint-Research-and-Innovation

4

www.gov.uk/government/policies/City-deals-and-Growth-deals

5

6

www.local.gov.uk/sites/default/files/documents/2017-07_Beyond%20Brexit%20-%20LGA%20Discussion%20%28FINAL%29_0.pdf

http://gov.wales/docs/det/publications/171213-economic-action-plan-cy.pdf

7

Mae’r cysyniad cyfan bellach wedi cael ei ehangu i’r helics pedwarplyg drwy ychwanegu’r amgylchedd. https://innovation-entrepreneurship.springeropen.com/articles/10.1186/2192-5372-1-2

8


8

Y Ffeithiau Mae’r system arloesi a sgiliau yng Nghymru wedi cael ei hastudio a’u hadolygu’n drylwyr ar sawl achlysur. Comisiynwyd dadansoddiad cyfredol9 gan y tasglu, a ddaeth i’r casgliadau canlynol:10111213 01

02

03

04

05

06

Mae Cymru mewn sefyllfa gymharol wan o ran metrigau traddodiadol ymchwil a pherfformiad arloesi megis canran y Cynnyrch Domestig Gros sy’n cael ei gwario ar fuddsoddiadau ymchwil a datblygu gan gwmnïau.

Mae’r oruchafiaeth ar draws rhan helaeth o dirwedd busnes Cymru gan gadwyni gwerth bydeang (neu gadwyni cyflenwi) yn golygu bod busnesau, yn gyffredinol, yn fwy tebygol o droi at eu cadwyni cyflenwi eu hunain – cyflenwyr, cleientiaid a chwsmeriaid – na cheisio ffynonellau allanol o arloesedd (megis syniadau gan brifysgolion). Mae tystiolaeth ledled y DU gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn dangos bod cwmnïau sy’n ‘ymwybodol o arloesi’ yn ffafrio prifysgolion fel ffynonellau cyngor. Byddai lefelau uwch o ymwybyddiaeth arloesedd ymysg busnesau Cymru yn agor cyfleoedd newydd i gwmnïau fanteisio ar arbenigedd prifysgolion ledled Cymru10.

Dangosodd canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 y DU gyfan, a dadansoddiad dilynol Elsevier11, fod ymchwil o ansawdd uchel yng Nghymru. Crynhoir y canlyniadau hyn yn adroddiad diweddar Cymdeithas Ddysgedig Cymru Wales and the World 12. Fodd bynnag, mae’r sylfaen ymchwil gymharol fach, ynghyd â dosbarthiad anghyson cwmnïau angori Cymru, yn lleihau’r cyfleoedd i brifysgolion ryngweithio gyda chwmnïau mawr a’u cadwyni cyflenwi.

Maelefel ac amrywiaeth sylweddol o gydweithio yn parhau rhwng prifysgolion Cymru a’u partneriaid. Rhwng 2012 a 2015, cynyddodd yr incwm ymchwil gydweithredol a enillwyd gan brifysgolion Cymru 19.5% – yn rhannol oherwydd argaeledd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae data o 2015–16 yn dangos dirywiad yng nghyfran Cymru o incwm cydweithredol y DU i 5.7% o 6.6%13.

Erei bod hi’n amlwg fod gan brifysgolion Cymru ran allweddol i’w chwarae yn system ymchwil ac arloesi Cymru, rydym yn nodi y cafodd Cronfa Arloesi ac Ymgysylltu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a oedd yn helpu i danategu cydweithio rhwng busnesau a phrifysgolion yng Nghymru, ei diddymu yn 2014 fel un o ganlyniadau’r drefn ffioedd newydd ar gyfer israddedigion. Yng nghyllideb hydref 2017 y Canghellor, dyrannwyd £40 miliwn ychwanegol i brifysgolion yn Lloegr drwy Gronfa Arloesi Addysg Uwch (HEIF) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), ac mae Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynyddu HEIF i £250 miliwn erbyn 2020–21. Bydd y cymorth cynyddol hwn yn cyd-fynd ag anghenion y Strategaeth Ddiwydiannol. Nodwn y bydd hyn yn arwain at gyllid ôl-ddilynol ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig ac rydym yn galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i nodi a dyrannu cyllid o’r fath yn gloi.

Yn 2015/16, gostyngodd yr incwm o gyfnewid gwybodaeth yng Nghymru 11%, o’i gymharu â’r Alban (-6%) a Gogledd Iwerddon (-24%). Cynyddodd incwm Lloegr 3%. Mae’r ffigurau hyn yn dibynnu ar arian cylchol yr UE acyn pwysleisio’r risg i arloesedd Cymru.

https://issuu.com/nationalcentreforuniversitiesandbusiness/docs/ncub_growing_value_wales_main_repor

9

www.cbi.org.uk/cbi-prod/assets/File/CBI%20Innovation%20Survey%202016_%20results.pdf

10

www.elsevier.com/research-intelligence/research-initiatives/international-comparative-performance-of-the-welsh-research-base-2016

11

www.learnedsociety.wales/wp-content/uploads/2017/09/REF15186-Times-Higher-Publication-Online-PDF.pdf

12

www.hefce.ac.uk/pubs/year/2017/201723/

13


9

07

08

O ran ymchwil ac arloesi, dywedodd busnesau fod prifysgolion yn tueddu i geisio osgoi risg a’u bod yn anoddefgar o fethiant. Roedd prifysgolion yn cydnabod nad yw eu diwylliant mewnol a diwylliant corfforaethol y busnesau y mae’n ceisio rhyngweithio â nhw wedi’u halinio’n dda.

Mae mannau poeth14 arloesi sy’n dod i’r amlwg (gweler Ffigur 1) angen eu meithrin drwy amaethu ofalus a phartneriaethau. Mae cyhoeddiad y Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n canolbwyntio ar dyfu’r economi a ysgogir gan ddata a deallusrwydd artiffisial, twf glân, dyfodol symudedd, a chymdeithas sy’n heneiddio, yn cynnig cyfle cyffrous i Gymru ehangu ei mannau poeth ymchwil a datblygu i’r meysydd hyn.

Ffigur 1: Mannau poeth prifysgol–busnes yng Nghymru

Cyfredol: Technoleg Niwclear Allddodol: Gweithgynhyrchu uwch Ynni a'r Amgylchedd

Cyfredol: Planhigion / Bridio Cnydau Allddodol: Parasitoleg / clefydau heintus Technolegau bwyd a diod

Cyfredol: Deunyddiau datblygedig Technolegau ynni Profi Annistrywiol Allddodol: Gwyddorau bywyd Gwyddoniaeth cyfrifiannol Grloesedd adeiladu

Cyfredol: Lled-ddargludyddion cyfansawdd Catalysis Technolegau ynni Y sector greadigol Gwyddorau bywyd / darganfod cyffuriau Technolegau hydrogen Systemau modurol a phŵer Cynnal a chadw awyren Dylunio a chynnyrch ymchwil Allddodol: Diogelwch seiber Yr amgylchedd Gweithgynhyrchu digidol Bwyd a diod Gwyddoniaeth data Meddalwedd

Ffynhonnell: Adroddiad cryno ar gynyddu gwerth rhyngweithio rhwng prifysgolion a busnesau yng Nghymru 2017 www.ncub.co.uk/what-we-do/growing-value-wales-task-force 14

Un o’r cyfraniadau pwysicaf y mae prifysgolion yn eu gwneud i’r clystyrau a busnesau hyn ledled Cymru yw adnewyddu’r gronfa dalent yn barhaus. Mae prinder sgiliau yn bodoli o hyd ledled y DU, ac maent yn ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae’r rhain yn dod a heriau o ran twf, yn ogystal â chynhyrchiant. Nododd adroddiad Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Unlocking Regional Growth15, fod ardaloedd â mwy o raddedigion proffesiynol yn llawer mwy cynhyrchiol. Nid yw’r cynnydd posibl hwn yn weladwy mewn llawer o ranbarthau prifysgolion Cymru gan fod y mwyafrifo raddedigion yn symud i ddinasoedd mwy Lloegr ar ôl graddio. Mae meithrin gallu arloesol, felly, yn gofyn am bolisi sgiliau sy’n canolbwyntio ar gadw yn ogystal ag addysg. Cydnabyddwyd pwysigrwydd yr agenda hon gan Llywodraeth Cymru drwy sefydlu tri ‘Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol’, gyda Chynlluniau Cyflogi a Sgiliau Rhanbarthol16, yn seiliedig ar angen lleol. Mae’r partneriaethau yn cefnogi twf trwy adeiladu ar y blaenoriaethau a nodir gan barthau menter, bargeinion dinesig, rhanbarthau dinasoedd a chydweithio traws-ffiniol.

Gweler hefyd, yr hwb arbenigedd craff a gyflenwir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes, am ddadansoddiad lefel uchel ‘Gweithgarwch Arloesi’ Gweinyddiaethau Datganoledig‘. http://smartspecialisationhub.org/portfolio/devolved-administrations-innovation-activity

14

www.CBI.org.uk/index.cfm/_api/Render/File/?method=inline&fileID=9AF06398-223D-4214-B96F1AD8A2FE4CC8

15

https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/partneriaethau-sgiliau-rhanbarthol

16


10

Y Syniadau Gwych Ledled Cymru, mae prifysgolion a busnesau yn gweithio i arddel agweddau newydd at bartneriaethau. Rydym yn amlygu wyth yn yr adroddiad hwn, sy’n cwmpasu amrywiaeth o syniadau gwych. (Gweler Atodiad tudalen 19).

Sefydlodd Prifysgol De Cymru y Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer. Mae hon yn cynnig amrywiaeth sylweddol o ymchwil a datblygu, a gwasanaethau profi a chynghori ynghylch meysydd megis cerbydau hybrid/trydan, ynni adnewyddadwy, ac electroneg bersonol. Mae’r Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer yn gartref i dîm arbenigol sy’n cynnal ymchwil a phrofion ar gyfer chwaraewyr mawr y diwydiant chwaraeon moduro a modurol rhyngwladol, yn ogystal â chwmnïau technoleg arbenigol yng Nghymru, gan gynhyrchu incwm masnachol o £1 miliwn a £2 miliwn ychwanegol mewn grantiau yn 2014–15. Mae Prifysgol Bangor wedi torri drwy ffiniau academaidd traddodiadol i ddod â myfyrwyr o bynciau gwahanol at ei gilydd i gystadlu mewn timau amlddisgyblaethol ar gyfer her ‘Menter trwy Ddylunio’, gyda gwobr o £2,500 i’r enillydd. Mae Menter drwy Ddylunio, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn dod â thimau o fyfyrwyr israddedig sy’n astudio Seicoleg, Peirianneg Electronig, Cyfrifiadureg, Dylunio Cynnyrch, Busnes, ac Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau at ei gilydd i fynd i’r afael â brîff cynllunio byd go iawn a bennir gan fusnes. Yn 2017, arweiniodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam grŵp traws-ffiniol a oedd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i archwilio sut y gallai’r strategaethau twf a chynlluniau blaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth traws-ffiniol gael eu huno. Gwnaethant fapio symudiadau graddedigion a chanfod y canlynol: • Roedd 54% yn aros yn y rhanbarth (a ddiffinnir fel ardal gogledd Cymru yn ogystal ag ardal Cilgwri, Caer a gorllewin Swydd Gaer), ond os ydym yn cyfyngu’r data i’r rheini a oedd yn byw’n wreiddiol yn y rhanbarth pan ddechreuasant yn y brifysgol, mae’r canran hon yn cynyddu i 80%. • Daeth 61% o hyd i waith o fewn y sectorau blaenoriaeth. • Dros y pedair blynedd flaenorol, mae nifer y graddedigion sy’n cael eu cyflogi yn y sectorau blaenoriaeth wedi bod yn ddisymud.

Ffurfiwyd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd drwy fenter unigryw ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE. Dyma oedd y cam cyntaf wrth helpu i sefydlu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd (CS Connect) cyntaf y byd, a bydd yn creu 2,000 o swyddi gwerth uchel yn uniongyrchol dros y pum mlynedd nesaf a hyd at 5,000 yn y tymor hwy. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i chwarae rhan arweiniol ym maes lledddargludyddion cyfansawdd datblygedig yn fyd-eang, yn debyg i’r ffordd y croesawyd y chwyldro silicon yn Nyffryn Silicon Califfornia dros bum degawd yn ôl. Roedd y gwaith ar y cyd yn ganolog o ran trawsnewid buddsoddi: £38 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer ffowndri lled-ddargludyddion cyfansawdd, a £12 gan EPSRC ar gyfer canolfan gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd y dyfodol. Sicrhaodd y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sef arbenigwyr cynhyrchu’r clwstwr, £17.2 miliwn gan Innovate UK a £13.4 miliwn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a gwnaethant recriwtio chwe arbenigwr rhyngwladol a derbyn caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer ei gartref ar Gampws Arloesi £300 miliwn Prifysgol Caerdydd. Denodd y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ymrwymiad o £50 miliwn hefyd gan Innovate UK ar


11 gyfer Compound Semiconductor Applications Catapult pwrpasol cyntaf Cymru, ac, ochr yn ochr â’r partneriaid diwydiannol pwerus a gydnabyddir yn rhyngwladol – IQE, SPTS, MicroSemi a brand newydd y Newport Wafer Fab – mae màs critigol gan y clwstwr, sydd bellach yn denu sawl cwmni proffil uchel rhyngwladol fel cwsmeriaid. Mae menter Caerdydd Creadigol Prifysgol Caerdydd yn cysylltu pobl sy’n gweithio mewn sefydliadau creadigol a busnesau yn rhanbarth Caerdydd, gan eu hannog i groesi ffiniau eu sector a gweithio gyda’i gilydd. Gyda chymorth Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Caerdydd, mae’r prosiect yn rhagweld Caerdydd fel ‘prifddinas o greadigrwydd’ gyda chymuned greadigol fywiog sydd wedi’i chysylltu’n dda ac sy’n dod â budd i’r ddinas, gan ei helpu i ffynnu. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda Ridgeway Research a Bio-Check (UK) Ltd i ddatblygu profion i ganfod llyngyr yr afu a llyngyr y rwmen mewn da byw. Mae ffasgioliasis, a achosir gan lyngyr yr afu (Fasciola hepatica) yn cael effaith ddwys a negyddol ar iechyd a lles da byw, gyda cholledion mewn cynhyrchiant o $US3 biliwn y flwyddyn yn fyd-eang, a £300 miliwn yn y DU. Mae modelu epidemioleg ffasgioliasis yn datgelu risgiau sylweddol yn y dyfodol agos, a rhagwelir y bydd epidemigau yn yr Alban erbyn 2020 ac yng Nghymru erbyn 2050. Mae cydweithio rhwng ymchwilwyr Aberystwyth, Ridgeway Research a Bio-Check (UK) Ltd drwy arian gan Innovate UK wedi datblygu prawf prototeip er mwyn canfod llyngyr yr afu. Ar hyn o bryd, mae’r consortiwm yn cael trafodaethau â chwmni iechyd anifeiliaid rhyngwladol ynghylch rhyddhau’r diagnostig llyngyr yr afu newydd ar y farchnad. Mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y diwydiant ac yn deillio o ganfyddiadau Tasglu Datblygu Busnes Casnewydd, dan arweiniad Simon Gibson, prif swyddog gweithredol Wesley Clover. Ei nod yw rhoi sylw i’r diffyg peirianwyr meddalwedd cymwysedig, sy’n barod ar gyfer y diwydiant, drwy gynhyrchu graddedigion gyda phrofiad diwydiannol y bydd galw amdanynt ac a fydd yn cael eu hadnabod fel arweinwyr yn eu maes. Cyflawnir hyn drwy uno dysgu a hyfforddiant mewn amgylchedd masnachol/TG pwrpasol, a ddatblygwyd mewn partneriaeth agos gyda’r diwydiant a busnesau lleol. Mae nodweddion allweddol yr Academi yn cynnwys ymgysylltu helaeth â diwydiant drwy gydol y radd, canolbwyntio ar brosiectau sy’n wynebu cleientiaid, a phwyslais ar waith tîm ac arferion gweithio y diwydiant i hwyluso’r cyfnod pontio i’r farchnad swyddi. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK i ymgysylltu â diwydiant ar brosiectau strategol i helpu busnesau unigol i dyfu. Fe’i cyhoeddwyd yn enillydd y categori Partneriaeth yng Ngwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg 2017 Insider Media Ltd 201717, sy’n dathlu’r enghreifftiau gorau o weithio rhwng busnesau Cymru ac addysg. Cyflwynwyd y wobr i gydnabod Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth lwyddiannus dwy flynedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd gyda gweithgynhyrchwr systemau glanhau ffenestri proffesiynol a leolir ym Mro Morgannwg, Window Cleaning Warehouse (WCW). Dyfarnwyd y radd uchaf, sef gradd A, i’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon gan Innovate UK. Manteisiodd y bartneriaeth ar flynyddoedd o wybodaeth o fewn y cwmni ac arbenigedd academyddion Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddatblygu, perffeithio a phrofi proses glanhau heb ddŵr arloesol a fyddai’n briodol ar gyfer wyneb allanol awyrennau.

Mae’r rhain i gyd yn syniadau gwych. Maent yn gyffrous ac yn ysgogi’r meddwl, a dylid eu hefelychu a’u cefnogi. Ond erys y cwestiwn mawr: sut allwn ni greu graddfa ar lefel Cymru? Sut ydyn ni’n cael system wych sy’n creu datblygiadau o’r fath yn barhaus?

www.insidermedia.com/event/business-and-education-partnerships-awards/coverage

17


12

Casgliadau ac Argymhellion Nod ein casgliadau ac argymhellion yw symleiddio’r dirwedd, creu llais rhanbarthol cryf, a chanolbwyntio ar y tymor hir. Maent wedi’u halinio at yr egwyddorion a amlinellir yn Ffyniant i Bawb. Mae’r rhan fwyaf o adolygiadau o gydweithio rhwng busnesau, prifysgolion a llywodraeth yn canolbwyntio ar anawsterau o ran gwerth canfyddiedig ymchwil gan brifysgolion, diffyg iaith a diwylliant cyffredin, gallu arloesol isel llawer o fusnesau, a’r angen i fecanweithiau ariannu er mwyn ysgogi cysylltedd. Mae systemau gwahanol ar draws y byd yn defnyddio mecanweithiau amrywiol i gyflawni hyn, ond, yr hyn sydd ei angen yw cymysgedd o arian a chyfalaf amyneddgar gan y llywodraeth, cymelliadau treth, mewnwelediadau busnes, ymrwymiad gan brifysgolion, a llunio polisïau da. Yr angen i Lywodraeth Cymru, prifysgolion, busnesau, entrepreneuriaid a darparwyr cyfalaf risg gytuno, cyhoeddi a gweithredu ar Gytundeb Arloesi Cenedlaethol Newydd yw’r brif flaenoriaeth, ond rydym yn gwneud y casgliadau canlynol a’r argymhellion dilynol. 01

Casgliad Wrth greu gwybodaeth, mae angen i’r ochr gyflenwi fod yn fwy cydnaws ag ochr y galw i ymelwa ar wybodaeth, ac mae arnom angen dull systematig a hirdymor i wireddu hyn.

Argymhelliad Mae angen cytundeb newydd rhwng y llywodraeth, prifysgolion, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru, gan adeiladu ar y fenter Creu Sbarc, sy’n arwain at gyfathrebu safon uchel, cydberthnasau rhagorol a chysoni buddiannau. Mae nodyn syml: hyrwyddo ffyniant a llesiant i bobl Cymru. Mae gan brifysgolion bŵer i ddwyn pobl ynghyd â’r gallu i gynnig gofod niwtral ar gyfer dadl. Mae Prifysgol Caerdydd wedi mynegi parodrwydd i weithio gydag eraill sydd â diddordeb i drefnu a chynnal uwchgynhadledd ar y cysyniad o Gytundeb Arloesi Cenedlaethol fel y’i hamlinellir yn yr adroddiad hwn.

02

Casgliad Mae ymchwil ansawdd uchel sy’n ymwthio ffiniau gwybodaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i ddatblygiad economaidd hirdymor ac i ddenu a chadw cwmnïau yn sectorau datblygol y cynllun gweithredu economaidd. Ar lwyfan yr hyn a elwir yn ymchwil awyr las gall prifysgolion gydweithio â busnesau ar gyfer ffyniant hirdymor Cymru. Ychydig o gwmnïau sy’n gallu cynnal rhaglenni cost uchel, tymor hir, ond byddant yn elwa’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan fewnwelediadau, goferu, a thalent ôl-raddedig o ansawdd uchel. Bydd hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, ac ôl-raddedigion sy’n gadael y brifysgol i sefydlu neu ymuno â busnes, yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn o’r ymchwil a gynhelir mewn mannau eraill o’r byd. Mae’r ymchwil ansawdd uchel gan brifysgolion yn sylfaen i bob rhan o wyddoniaeth ac i’r ymdrech arloesi yng Nghymru. Bydd sylfaen ymchwil gref, wedi’i hariannu’n dda, yn galluogi prifysgolion Cymru i wneud ceisiadau mwy effeithiol ar gyfer grantiau ar y cyd â chwmnïau blaengar, gan ysgogi ymchwil ag effaith uchel, o’r ansawdd gorau gan greu’r amodau lle y gall arloesedd ffynnu a chwarae ei swyddogaeth hanfodol wrth hybu twf economaidd. Danategir hyn gan grantiau ymchwil cysylltiedig ag ansawdd, a roddir gan Lywodraeth Cymru yn unig. Ni all unrhyw sefydliad arall gamu i’r adwy i gyflawni’r dasg hon. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynnig lefelau digonol o grantiau ymchwil cysylltiedig ag ansawdd i brifysgolion.

Argymhelliad Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio Adolygiad Reid o’r ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth yng Nghymru fel modd o gynyddu a datblygu grantiau ymchwil cysylltiedig ag ansawdd.


13

03

Casgliad Mae Lloegr yn buddsoddi’n helaeth mewn cyllid addysg uwch ar gyfer arloesi, ac efallai bydd Cymru, yn dilyn Brexit, yn gymharol ddifreintiedig. Yn Lloegr, mae’rgronfa HEIF yn ddull profedig i alluogi prifysgolion i fod yn bartneriaid arloesi deinamig ac ymatebol. Mae’n helpu i ysgogi allforion, sicrhau talent o’r radd flaenaf, a denu buddsoddiad mewnol. Yn ddiweddar, ategwyd HEIF gan y Gronfa Cysylltu Galluoedd, a bydd yn tyfu i £250 miliwn y flwyddyn erbyn 2020–21.

Argymhelliad Rydym yn dod â dau at ei gilydd, gan fydd pob un yn ysgogi mathau gwahanol o ymyriadau ariannu posibl. 1) Dylai Llywodraeth Cymru gynnig ffrwd gyllido barhaol i gefnogi rhyngweithio rhwng prifysgolion a busnesau Cymru. Bydd hyn yn hybu prosiectau ar y cyd gyda busnes a diwydiant (oddeutu £20 – £30 miliwn). 2) Dylai Banc Datblygu Cymru gael ei annog i weithio gydag UKRI, Creu’r Sbarc, a rheioleiddwyr addysg a hyfforddiant ôl-orfodol i sicrhau bod yr arian a fuddsoddir mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cefnogi cyllid arloesi ac ymchwil prifysgolion ac UKRI.

04

Casgliad Ar lefel yr UE, mae Cymru yn cael ei chategoreiddio fel ‘arloeswr cryf’ 18, ond nid yw gweithgarwch arloesi yng Nghymru yn cyflawni gwerth ychwanegol digonol. Mae Cymru mewn sefyllfa gymharol wan ar hyn o bryd o ran metrigau traddodiadol ymchwil a pherfformiad arloesi megis canran y Cynnyrch Domestig Gros sy’n cael ei gwario ar fuddsoddiadau ymchwil a datblygu gan gwmnïau. Mae cwmnïau angori Cymru wedi’u dosbarthu’n anwastad, ac mae rhagoriaeth ymchwil prifysgolion wedi’i gwasgaru’n denau yn yr un modd, gan leihau cyfleoedd i ryngweithio â chwmnïau angori a’u cadwyni cyflenwi.

Argymhelliad Dylai Llywodraeth Cymru, prifysgolion ac arweinwyr busnes ddatblygu canolfannau cynyddu arloesi ar y cyd i gefnogi a hyrwyddo ‘mannau poeth’ busnes, er mwyn ysgogi cynhyrchiant ar gyfer budd economaidd. Dylai’r rhain ystyried yr argymhellion ynghylch canolfannau twf a arweinir gan ddiwydiant Adolygiad Diamond ac Adolygiad Reid o ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth yng Nghymru, yn ogystal ag adeiladu ar lasbrint menter ar y cyd Prifysgol Caerdydd / IQE y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Bydd hyn yn cynyddu hyder cwmnïau o ran y manteision o fuddsoddi ochr yn ochr â phrifysgolion. Rydym yn nodi bod angen cynnal gwaith ymchwil a dadansoddi ychwanegol i ganiatáu asesiad mwy cynnil a meintiol o’r pwyntiau poeth i’w creu a dylai hyn fod yn gam gweithredu etifeddol ar gyfer y gwaith datblygu mewn perthynas â’r Cytundeb Arloesi Cenedlaethol yng nghyd-destun y cynllun datblygu economaidd. Mae Prifysgol Caerdydd yn barod i ategu hyn yn y lle cyntaf.

18

https://ec.europa.eu/docsroom/documents/23881/attachments/1/translations/en/renditions/native

18



15

05

Casgliad Mae arloesedd yng Nghymru ac ymgysylltiad busnesau a phrifysgolion wedi dibynnu ar gyllid gan yr UE. Ar ôl Brexit, bydd hyn o dan fygythiad, a bydd angen i brifysgolion a busnesau Cymru sicrhau cymorth gan ffynonellau eraill. Mae’n afrealistig disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu am gost lawn y gweithgareddau hyn felly bydd angen sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE.

Argymhelliad Rhaid disodli’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd gyda chronfa ddatblygu ranbarthol Cymru sydd ag adnoddau da, a ddylai gynnwys prosiectau cyfalaf. Mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod pwysigrwydd cronfeydd datblygu rhanbarthol o ran yr ecosystem arloesi, a chydnabod bod angen iddynt gael eu datganoli i’r lefel lle y gellid gwneud y defnydd gorau ohonynt. Ar ben hynny, mae angen i brifysgolion a busnesau Cymru gydweithio’n agos i sefydlu prosiectau proffil uchel sy’n cefnogi Strategaeth Ddiwydiannol y DU, ac yn ennill mwy na’u cyfran deg o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol drwy gynnig atebion cymhellol sy’n mynd i’r afael â’r pedair her fawr a nodwyd yn y Papur Gwyn ar Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

06

Casgliad Mae gan y byd academaidd fwy i’w gynnig na thechnoleg. Mae angen i feddylfryd arloesi yng Nghymru gynnwys proses, gwasanaeth ac arloesi er mwyn agor ac ysgogi cydweithredu. Mae diffyg gwybodaeth gan gwmnïau Cymru, yn enwedig rhai bach a chanolig, o ran yr hyn y mae prifysgolion yn gallu ei gynnig, yn ogystal â chanllawiau ynghylch pa academyddion ac adrannau y dylid fynd atynt i helpu i ddatrys eu problemau. Mae hyn yn rhwystro cynhyrchiant ac arloesi yn sylweddol. Rhaid i brifysgolion wneud eu gwaith yn hawdd cael mynediad ato ac mae’n rhaid i gydweithio rhwng busnesau gael ei wobrwyo fel rhan barchus o lwybr gyrfa academaidd.

Argymhelliad Dylai prifysgolion, diwydiant a Llywodraeth Cymru gydweithio i greu porth gwell symudol un stop er mwyn cynnig llwybrau clir ac uniongyrchol i gwmnïau Cymru at ganolfannau academaidd, nid yn unig ar gyfer ymchwil, ond ar gyfer profiad gwaith i raddedigion, offer a chyllid. Dylai’r dull gynnwys proses, gwasanaeth ac arloesedd cymdeithasol i sicrhau’r ymgysylltiad ehangaf. Dylai’r gwasanaeth newydd gael ei annog i sefydlu model masnachol/tanysgrifiad cynaliadwy i gefnogi datblygiad parhaus. Bydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes a Chreu’r Sbarc yn cydlynu grŵp gorchwyl a gorffen sy’n cynnwys yr holl asiantaethau i greu’r porth hwn, yn seiliedig ar lwyfannau sydd eisoes yn bodoli (megis www.konfer.online, https://creusbarc.cymru ac Arbenigedd Cymru19).

19

https://businesswales.gov.wales/expertisewales/cy

19


16

07

Casgliad Mae busnesau yn dal i feddwl bod gormod o fiwrocratiaeth, sy’n cael ei chreu’n rhannol gan beirianwaith y llywodraeth, ond hefyd o ganlyniad i heriau atebolrwydd a disgwyliadau afrealistig o ran eiddo deallusol. Ar y llaw arall, mae llawer o academyddion yn teimlo mai eu prif swyddogaeth yw cynhyrchu gwybodaeth. Mae’r heriau diwylliannol hyn wedi dod i’r amlwg mewn meysydd eraill wrth ddatblygu sefydliadau a chlystyrau ymchwil ar y cyd, lle mae cyflymder yn rhan arferol o’r rhyngweithio rhwng busnesau ac academyddion.

Argymhelliad Dylai’r Cytundeb Arloesi Cenedlaethol flaenoriaethu dull newydd i eiddo deallusol a gwybodaeth prifysgolion. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid ariannu arloesedd i ddadrisgioa chyflymu mwy o ymchwil campws ar y cyd a mannau poeth datblygu, sy’n canolbwyntio’n arbennig ar dechnolegau newydd a heriau mawr (megis heneiddio). Dylid sefydlu gweithgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, y byd academaidd, diwydiant, entrepreneuriaid a darparwyr cyfalaf risg i roi sylw penodol i’r gwahaniaeth sylweddol o ran disgwyliadau, arferion gwaith, a phrosesau gwneud penderfyniadau rhanddeiliaid gwahanol, er mwyn llunio glasbrint ar gyfer dealltwriaeth gyffredin a mentrau cydweithredol cyflymach a mwy effeithlon.

08

Casgliad Mae’r agenda sgiliau yn ddull ymgysylltu allweddol ar gyfer prifysgolion, diwydiant, a chynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, ac mae ond yn gallu cael ei gyflawni gan bobl fedrus iawn, yn enwedig graddedigion.

Argymhelliad Rhaid i brifysgolion gydweithio’n systematig gyda chyflogwyr i ddeall eu hanghenion sgiliau. Dylai hyn gynnwys cynllunio cwricwla ar y cyd, ailsgilio gydol oes, a datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd datblygu partneriaethau o gwmpas sgiliau yn cynnig llwyfan ar gyfer datblygu cydberthnasau ehangach a dyfnach â chwmnïau. Dylai’r llywodraeth, prifysgolion a diwydiant weithio mewn modd systematig a strategol i adeiladu ar arferion da e.e. yr Academi Meddalwedd Genedlaethol20, y Rhaglen Gwasanaethau Ariannol i Raddedigion21, rhaglen gyflogadwyedd blwyddyn mewn diwydiant ESTnet22, Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth, a’r Academi Seibr-ddiogelwch Genedlaethol23 ac yn y blaen. Dylai’r ymchwil a gynhelir yng ngogledd Cymru ynghylch sgiliau ac arloesi ar gyfer y rhanbarth trawsffiniol gael ei hailadrodd gyda’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol eraill o Gymru, i gael syniad da o’r diffyg sgiliau ym mhob rhanbarth, yn enwedig o ran y sectorau busnes â blaenoriaeth24.

20 21 22 23 24

www.cardiff.ac.uk/cy/software-academy

20

http://buzzwales.com/Graduate-Programme/

21

www.estnet.uk.net/future-events/estnet-year-in-industry-2017-calendar-of-events/

22

www.southwales.ac.uk/courses/bsc-hons-applied-cyber-security/2352/national-cyber-security-academy/

23

https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/partneriaethau-sgiliau-rhanbarthol

24



18

Cytundeb Arloesi Cenedlaethol Newydd i Gymru Rhaid cael ymateb unigryw Gymreig i’r byd wedi’i globaleiddio hwn, sy’n dod yn fwyfwy dryslyd, lle mae technoleg yn diberfeddu diwydiannau wrth greu amgylchedd entrepreneuriol bywiog ar yr un pryd i’r rhai sy’n gallu manteisio ar y posibiliadau. Mae mentrau tymor byr a thymor canolig yn ymatebion dealladwy i amgylchedd sy’n newid yn gyflym, ond bydd cytuno, cysoni a chymhwyso’r cytundeb arloesi, gyda rhoi a derbyn amlwg ar y ddwy ochr, yn rhagofyniad hanfodol o ran llwyddiant Cymru a’r cynllun gweithredu economaidd. Mae angen i elfennau o’r Cytundeb Arloesi Cenedlaethol fod yn barhaol (o leiaf pum mlynedd), wedi’u gwreiddio mewn cydgyfnewidiad y gellid gweithredu arno, cynnwys cydbwysedd cryf rhwng hawliau a chyfrifoldebau, ac adrodd yn ôl i Gomisiwn Cytundeb Arloesi sy’n cynnwys arweinwyr a gasglwyd o feysydd y llywodraeth, busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru, yn ogystal ag is-gangellorion a phenaethiaid ysgolion a cholegau. Mae modelau y gellid tynnu arnynt eisoes yn bodoli. Sefydlwyd y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a chymdeithasau gwirfoddol yn 199825. Mae ei egwyddorion yn gymwys i bob perthynas rhwng mudiadau gwirfoddol a chyrff cyhoeddus sy’n dyrannu cyllid ar ran y llywodraeth. Mae pob adran o’r llywodraeth wedi ymrwymo i egwyddorion y cytundeb, a gynlluniwyd i fod o fudd i’r ddau sector ac i sefydlu fframwaith ar gyfer gweithio’n dda mewn partneriaeth. Mae hefyd yn pennu safonau i’r llywodraeth gynnal ymgynghoriadau sy’n agored ac ystyrlon, wedi’u diffinio’n glir, ac sy’n darparu adborth ynghylch yr ymatebion. Ceir modelau dinas a rhanbarthol ar draws Ewrop hefyd sy’n canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth gyda phŵer cydweithredol, meddwl yn greadigol, meddwl ar lefel yr ecosystem, synthesis, a phwyslais cryfach ar effaith a chanlyniadau26. Ni fydd Ewrop yn sefyll yn ei hunfan ac mae’r Comisiwn Ewropeaidd eisoes yn cefnogi rhanbarthau arloesol sy’n gweithio gyda methodolegau sydd yn ddiffinio pwrpas a rennir, creu’r amodau ar gyfer cydweithio da, adeiladu gallu, arddangos enghreifftiau, a dangos y ffordd. Mae hyn yn amlwg ledled Ewrop, o fynyddoedd ‘clyfar’ Aosta27 i’r gwaith peirianneg newydd yn Lubelskie28. Hefyd, wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd Cymru’n cystadlu gydag economïau sy’n seiliedig ar syniadau o’r fath. Mae’r heriau o ran polisi, seilwaith, sgiliau, dawn a chydweithredu dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar ecosystemau wedi cael eu cwmpasu, eu profi, ac yn hysbys. Yr her yw cytuno arnynt a mynd ar eu hôl mewn modd integredig. Credwn y gall Cymru dderbyn yr her honno. Mae gan Gymru fantais sylweddol o fynediad corfforaethol ac academaidd at Lywodraeth Cymru. Rhaid i ni greu a chryfhau’r cysylltiadau i ddarparu ffyniant a thwf.

www.compactvoice.org.uk/about-compact/short-history-compact

25

http://cor.europa.eu/en/documentation/brochures/Documents/Regional-innovation-ecosystems/Regional-innovation-ecosystems.pdf

26

https://ec.europa.eu/growth/tools-databases/regional-innovation-monitor/policy-document/smart-specialisation-strategy-valle-daosta

27

http://cor.europa.eu/rie/Pages/story-14.aspx

28


19

Atodiad - Y Syniadau Gwych

01

Y Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer Prifysgol De Cymru

Lleolir y Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer yn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’n dŷ profi ac ardystio, datblygu ac ymchwil annibynnol a gydnabyddir yn genedlaethol, gydag enw da am ymchwil o’r radd flaenaf a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth yn y sectorau modurol a pheirianneg systemau pŵer uwch. Nod y Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer yw cefnogi busnesau a sefydliadau eraill i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau carbon isel a, thrwy wneud hynny, cefnogi’r broses o greu swyddi a chyfleoedd economaidd newydd. Mae’n dymuno cyflawni hyn drwy arwain ymchwil a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth i sicrhau dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy. Mae’r Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer yn cynnig amrywiaeth sylweddol o ymchwil a datblygu, a gwasanaethau profi a chynghori ynghylch meysydd megis cerbydau hybrid/trydanol, ynni adnewyddadwy ac electroneg bersonol, ac mae’n gartref i dîm arbenigol sy’n cynnal ymchwil a phrofion ar gyfer chwaraewyr mawr y diwydiant modurol a chwaraeon moduro rhyngwladol, yn ogystal â chwmnïau technoleg arbenigol yng Nghymru, gan gynhyrchu incwm masnachol o £1 miliwn a £2 miliwn ychwanegol mewn grantiau yn 2014–15.

Yn ddiweddar, mae’r brifysgol wedi buddsoddi £3 miliwn yn y Ganolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol gyda’r holl offer y disgwylir i dŷ profi ac ardystio masnachol feddu arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys: • Y ‘cyfleusterau ymchwil a datblygu trenau pŵer’, sy’n canolbwyntio ar gerbydau hybrid ac electronig llawn y genhedlaeth nesaf, ac sy’n gartref i’r unig system ffordd dreigl siasi deinamig hwb uniongyrchol gyriant pedair olwyn yng Nghymru; • Y ‘cyfleusterau ymchwil a datblygu storio ynni’, sy’n canolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf o ddatrysiadau storio ynni sefydlog a modurol, gan gynnwys batris, uwch-gynwysyddion, celloedd tanwydd, chwylrodau, a thechnolegau storio ynni eraill Mae amrywiaeth eang o ddulliau profi gan y cyfleuster hwn, gyda dros un megawat o allu profi; • Y ‘cyfleusterau ymchwil a datblygu systemau ynni’, sy’n arbenigo mewn ymchwil, datblygu a phrofi mewn perthynas â’r systemau sy’n integreiddio storio ynni sefydlog a modurol gyda’u cymwysiadau terfynol ac sy’n cynnwys galluoedd hinsoddol, ymateb i amledd, electroneg pŵer, cyfathrebu, a dadansoddi electrocemeg sylfaenol.

Bydd technoleg hybrid a thrydanol yn cynnal diwydiant modurol yr 21fed ganrif, ac mae’n hanfodol inni fanteisio ar y wyddoniaeth ddiweddaraf er mwyn sicrhau bod y DU yn aros ar flaen y gad yn y ras dechnoleg. Mae Prifysgol De Cymru eisoes wedi sefydlu enw da am ragoriaeth a gwaith partneriaeth gyda diwydiant, a bydd y cyfleuster hwn yn cyflymu’r gwaith pwysig hwn ymhellach ym maes peirianneg systemau pŵer.” Yr Arglwydd Drayson, entrepreneur rasio a chyn-Weinidog Gwyddoniaeth, wrth agor y ganolfan Newydd

www.southwales.ac.uk/business/computing-engineering-science/centre-automotive-power-systems-engineering


20

02

Menter trwy Ddylunio Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi torri drwy’r ffiniau academaidd traddodiadol i ddwyn myfyrwyr o bynciau gwahanol at ei gilydd i gystadlu mewn timau amlddisgyblaethol ar gyfer her ‘Menter trwy Ddylunio’, gyda gwobr o £2,500 i’r enillydd. Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae Menter trwy Ddylunio yn dwyn ynghyd timau o fyfyrwyr israddedig sy’n astudio Seicoleg, Peirianneg Electronig, Cyfrifiadureg, Dylunio Cynnyrch, Busnes, ac Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau i fynd i’r afael â briff dylunio byd go-iawn a bennir gan fusnes. Yn 2017, rhoddodd yr her ddylunio gan Zip World, un o brif gwmnïau twristiaeth antur Cymru, sydd ag amrywiaeth o safleoedd antur lleol, gan feddu ar linell sip gyflymaf y byd, y llinell sip pedwar person gyntaf, a rhwydwaith unigryw o drampolinau tanddaearol mewn ceudyllau llechi. Yn unol â gweledigaeth Zip World o arloesi’n barhaus o amgylch y gweithgareddau crai a datblygu cynigion newydd ac unigryw i gleientiaid, roedd y briff yn canolbwyntio ar gyflwyno profiad gwell i ymwelwyr ar gyfer eu sylfaen cwsmeriaid eang. Gwnaeth y myfyrwyr a gymerodd ran nodi problemau ac archwilio datrysiadau mewn perthynas ag amrywiaeth o grwpiau targed cleientiaid Zip World. Yn dilyn deg wythnos o weithio ochr yn ochr â hwyluswyr ôl-raddedig ac arbenigwyr academaidd mewn proses a arweiniwyd gan ddylunio, cyflwynodd deuddeg o dimau amlddisgyblaethol eu syniadau newydd i banel arbenigol a oedd yn cynnwys arweinwyr busnes lleol ac arbenigwyr arloesi. Cyflwynodd David Stacey, Rheolwr Gyfarwyddwr Zip World yn y DU, y wobr fuddugol o £2,500 i dîm Bluebell am eu cysyniad ‘Slate VR’, sef pecyn o fuddion cysylltiedig â rhithrealiti i wella profiad y cwsmer yn safleoedd Zip World. ‘Roedd nifer o syniadau gyda phosibiliadau go iawn’, meddai David. ‘Gwnaed y dewis terfynol oherwydd hygrededd y cyflwynwyr, y cynnwys gwych a’r cyflwyniad proffesiynol. Rydym eisiau gweithio gyda phobl gredadwy sy’n gweddu i’n diwylliant a brand a llwyddodd y tîm hwn i wneud hynny’n wych. Roeddem hefyd eisiau ateb arloesol oedd yn herio’r peth arferol ac ar yr un pryd yn sicrhau llwyddiant masnachol i’n hatyniad, sydd ar sawl safle. Roeddem yn teimlo bod y grŵp hwn yn broffesiynol iawn, yn deall ein brand, ac yn cynnig potensial sylweddol o ran gwerth at y dyfodol.’ Ar ben hynny, rhoddwyd cynnig o waith cyflogedig i bob aelod o’r tîm buddugol gan Zip World, am fod eu proffesiynoldeb a’u meddylfryd arloesol wedi gwneud cymaint o argraff ar y cwmni.

Dyma un o’r rhaglenni mwyaf arloesol ac ysbrydoledig rwyf wedi eu gweld mewn addysg uwch, ac rwyf yn falch iawn ei bod wedi cael ei datblygu ym Mhrifysgol Bangor.” Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor oedd yn aelod o’r panel o feirniaid.

www.bangor.ac.uk/careers/students/enterprise


21

03

Astudiaeth Achos Sgiliau ac Arloesi yn Rhanbarth Trawsffiniol Gogledd Cymru, Cilgwri, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer – Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Arweiniodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam grŵp trawsffiniol yn cynnwys Prifysgolion Bangor a Chaer Caer, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy ac aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i archwilio sut yr oedd strategaethau twf a chynlluniau blaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth trawsffiniol yn ‘cydgysylltu’, gan ystyried strategaethau’r llywodraeth. Mae amrywiaethau o fewn pob un ohonynt ond mae cyffredineb gwaelodol o fewn sectorau a’r gofynion sgiliau. Ysbrydolwyd a chefnogwyd y gwaith gan Grŵp Seneddol Hollbleidiol yn San Steffan, dan arweiniad Ian Lucas (AS dros Wrecsam). Roedd hyn yn fenter unigryw a oedd yn cynnwys rhannu data rhwng sefydliadau nad oeddent wedi cydweithio yn y modd hwn o’r blaen. Nododd astudiaeth fapio o gyrchfannau graddedig dros gyfnod o bedair blynedd o’r tair prifysgol yn erbyn sectorau diwydiant blaenoriaeth canfyddedig yn yr ardal drawsffiniol faint o raddedigion y prifysgolion a arosodd yn y rhanbarth a pha gyfran ohonynt oedd wedi’u cyflogi yn y sectorau allweddol, tra’n cymharu hyn gyda’r darlun y tu allan i’r rhanbarth. Canfu bod 54% o raddedigion yn aros yn y rhanbarth ond bod hynny’n cynyddu i 80% wrth ystyried y rhai a enwyd yn wreiddiol yno wrth fynd i mewn i’r brifysgol. Mae 61% o’r rhai sydd wedi aros yn y rhanbarth wedi canfod gwaith yn y sectorau blaenoriaeth. Nododd y grŵp fod Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus (er nad ystyrir eu bod yn sectorau â blaenoriaeth), yn sail i’r economi ehangach ac yn gyflogwyr mawr o raddedigion. Un pryder yw bod cyflogaeth graddedigion yn y sectorau blaenoriaeth wedi bod yn sefydlog dros y pedair blynedd diwethaf. Mae hyn yn dangos nad yw strategaethau rhanbarthol wedi cael effaith sylweddol eto ar y ddarpariaeth a’r galw, neu nad ydynt yn adlewyrchu’r economi go iawn. Ychydig o wahaniaeth oedd rhwng cyflogaeth graddedigion a fesurwyd wrth sector o fewn neu y tu allan i’r rhanbarth, waeth beth fo’r strategaethau. E.e. Mae Gwyddorau Bywyd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn sectorau pwysig ni waeth ble mae ein graddedigion yn mynd (tua 40%). Mae gweithgynhyrchu braidd yn gryfach yn y rhanbarth nag mewn mannau eraill, tra bod Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol ychydig yn wannach. Mae’r sectorau allweddol a nodwyd yn y strategaethau rhanbarthol, megis Adeiladu ac Ynni / Amgylchedd, yn cyflogi ychydig iawn o raddedigion.

Mae negeseuon allweddol o drafodaeth draws-ffiniol gyda chynrychiolwyr cyflogwyr I archwilio’r data hyn yn cynnwys: • Yr angen i gyflogwyr ac addysgwyr gael eu cydgysylltu, a’u cefnogi gan wasanaethau gyrfaoedd. • Gwelwyd cyfleoedd dysgu sy’n seiliedig ar y gweithle gyda’r prentisiaeth /prentisiaeth gradd fel fframwaith i sicrhau bod graddedigion yn ‘barod i weithio’. • Addysgwyr i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gofynion sgiliau priodol yn cael eu bodloni ar y lefelau cywir gyda llwybrau dilyniant a nodwyd yn glir. • Addysgu’r addysgwyr mewn technolegau datblygol newydd fel eu bod yn gyfoes ac yn gallu sicrhau bod myfyrwyr yn ennill y setiau sgiliau cywir. • Nid yw cyflogwyr Merswy Dyfrdwy yn cydnabod y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac felly dylai darpariaeth sgiliau a hyfforddiant a chymorth busnes fod yn ddi-dor yn yr ardal economaidd honno waeth pa ochr o’r ffin y maent wedi’i seilio.

Fel cam nesaf, mae Uwchgynhadledd Sgiliau ac Arloesi gyda Gweinidogion, cyflogwyr ac addysgwyr o ddwy ochr y ffin yn cael ei chynllunio. www.glyndwr.ac.uk


22

04

IQE a Phrifysgol Caerdydd

Mae IQE plc, a leolir yng Nghaerdydd, yn arweinydd byd-eang sy’n gwneud ac yn cyflenwi’r wafferi lledddargludyddion cyfansawdd a geir y tu mewn i nifer o declynnau uwch-dechnoleg heddiw, o ffonau clyfar i dechnolegau gofal iechyd. Bydd deunyddiau datblygedig y cwmni yn dod yn fwyfwy pwysig ar draws amrywiaeth eang o sectorau newydd a rhai sy’n datblygu, gan gynnwys cerbydau trydanol ac awtonomaidd, systemau diogelwch a sicrwydd, cydnabyddiaeth 3D/ystumiau, a llu o synwyryddion sy’n ffurfio’r rhyngrwyd pethau. Gellir priodoli sefyllfa flaenllaw’r cwmni i ffocws parhaus ar arloesi. IQE oedd y cwmni cyntaf yn y byd i gynnig gwasanaeth dylunio a chynhyrchu epi-wafferi lled-ddargludyddion cyfansawdd allanol, sydd wrth wraidd nifer o dechnolegau mwyaf arloesol heddiw. Mae IQE yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pŵer arloesi cydweithredol trwy bartneriaethau â busnesau eraill a sefydliadau academaidd. Mae IQE wedi mwynhau perthynas hirdymor gyda Phrifysgol Caerdydd ers blynyddoedd lawer, ond mae’r gweithgareddau cydweithio wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan fod y ddau sefydliad wedi sicrhau cyllid i bontio’r ‘‘Dyffryn Angau’ honedig rhwng ymchwil a datblygu a realiti masnachol. Menter unigryw ar y cyd rhwng IQE a Phrifysgol Caerdydd i ffurfio’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd oedd y cam cyntaf wrth helpu i sefydlu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y rhanbarth, a fydd yn creu 2,000 o swyddi gwerth-uchel yn uniongyrchol dros y pum mlynedd nesaf a hyd at 5,000 yn y tymor hwy. Eisoes, mae’r rhanbarth wedi denu rhai cynadleddau rhyngwladol ac mae’n ennill enw da yn fyd-eang fel y cartref ar gyfer datblygu a gweithgynhyrchu dyfeisiau lled-ddargludyddion y genhedlaeth nesaf, a fydd yn galluogi technolegau newydd sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i gymryd rhan arweiniol ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd datblygedig, yn debyg i’r ffordd y croesawyd y chwyldro silicon yn Nyffryn Silicon Califfornia dros bum degawd yn ôl. Hyd yn hyn, mae dros £ 300M o gefnogaeth preifat / cyhoeddus wedi ymrwymo i adeiladu isadeiledd technoleg arloesol gydag endidau, gan gynnwys y Compound Semiconductor Applications (CSA) Catapult (Innovate UK), Canolfan Lled-ddargluddydion cyfansawdd (Cyd-Fenter rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE), Athrofa Lled-ddargluddydion (Prifysgol Caerdydd) a Ffowndri Lled-ddargluddydion (Rhanbarth Caerdydd), ynghyd â nifer o fentrau eraill sy’n helpu i roi màs critigol i’r rhanbarth gael ei gydnabod fel clwstwr. Eisoes, mae’r clwstwr yn ennill momentwm, gyda nifer o lwyddiannau ymchwil, datblygu ac arloesi yn ddiweddar gan fusnesau a sefydliadau academaidd yn y rhanbarth. Enghraifft arall o gydweithio posibl yn y dyfodol yw cynhyrchion IQE sy’n cael eu hallforio i Taiwan i’w prosesu, lle mae’r cynhyrchion wedyn yn cael eu trosglwyddo i SPTS yng Nghymru ac yna’n ôl i Taiwan. . Drwy sefydlu galluoedd gwell yn y rhanbarth, byddai modd cyflawni mwy o brosesu gwerth ychwanegol yng Nghymru, wrth ychwanegu at effeithlonrwydd cynhyrchu cyffredinol yn y gadwyn gyflenwi. Er bod cadwyni cyflenwi yn hanfodol wrth sefydlu arbenigedd rhanbarthol, yr un mor bwysig yw sicrhau bod mynediad rhanbarthol i gadwyni arloesi priodol â galluoedd sy’n ymestyn gweithgareddau o ymchwil a datblygu, trwy brawf o gysyniad a phrototeipio i gynhyrchu peilot ac yn y pen draw, cynhyrchu cyfaint. Mae’r rhanbarth bellach yn gartref i garfan o gwmnïau allweddol o’r radd flaenaf sy’n arbenigo mewn technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd, gyda chefnogaeth seilwaith sy’n cefnogi gweithgareddau o ymchwil i fasnacheiddio. http://csconnected.com


23

05

Caerdydd Creadigol Prifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi economi greadigol y ddinas ac yn annog pobl i gydweithio i godi uchelgeisiau’r ddinas. Mae’n gwneud hyn drwy alluogi staff a myfyrwyr i ymgysylltu â’r diwydiannau creadigol a thrwy ddatblygu cynlluniau i greu mannau ffisegol a rhithwir a fydd yn caniatáu i’r gwaith ar y cyd hwn ddigwydd. Nod rhwydwaith Creadigol Prifysgol Caerdydd – o dan arweiniad tîm yr Economi Greadigol a sefydlwyd gan yr Athro Justin Lewis a’r Athro Ian Hargreaves – yw cysylltu pobl sy’n gweithio mewn swyddi, sefydliadau a busnesau creadigol yn rhanbarth Caerdydd, a’u hannog i groesi ffiniau eu sector a gweithio gyda’i gilydd. Gyda chymorth Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Dinas a Sir Caerdydd, mae’r prosiect yn rhagweld Caerdydd fel ‘prifddinas creadigrwydd’ gyda chymuned greadigol fywiog sydd wedi’i chysylltu’n dda ac sy’n dod â budd i’r ddinas, gan ei helpu i ffynnu. Mae rhwydwaith Caerdydd Creadigol yn galluogi cydweithio, yn ehangu cyfleoedd, ac yn annog arloesi. Mae Caerdydd Creadigol yn anelu at wireddu’r weledigaeth hon drwy greu amrywiaeth o ffyrdd i bobl ymgysylltu yn ei rwydwaith, a lansiwyd yn gyhoeddus ym mis Hydref 2015. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, arddangoswyd ‘52 o Bethau’ gan Gaerdydd Creadigol a oedd yn pwysleisio creadigrwydd y ddinas. Yn yr ail flwyddyn, gwnaeth gydweithio gyda Chyngor Dinas a Sir Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru i archwilio hunaniaeth y ddinas. Mae Caerdydd Creadigol wedi bod yn effeithiol o ran ehangu’r rhwydwaith i 1,500 o aelodau ac mae ganddo 9,500 o ddilynwyr gweithredol ar Twitter. Mae Caerdydd Creadigol bob amser wedi pwysleisio pwysigrwydd y mannau lle mae pobl greadigol yn gweithio, gan hwyluso canolfan beilot dros dro, taith o amgylch y canolfannau, sesiwn Dangos a Dweud ar y thema o gydweithio, a phrosiect i rwydweithio canolfannau creadigol a arweiniodd at sefydlu’r Gydweithfa Greadigol. Mae Caerdydd Creadigol yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’n gallu ei wneud i gefnogi a chroesbeillio’r mannau hyn, ac archwilio sut maent yn cael eu hysgogi i annog y cydweithio gorau. Mae ei brosiect diweddaraf, Ymlaen!, yn ddau ofod desg sydd wedi cael eu talu amdanynt a mentora ar gyfer graddedigion Prifysgol Caerdydd sy’n dymuno cychwyn eu busnes eu hunain yn y ganolfan greadigol, Stiwdio Rabble. Mae gan y brifysgol ystod eang o bobl sy’n ymchwilio ac yn gweithio gyda’r economi greadigol. Mae’r rhain yn cynnwys ieithyddion a chyfreithwyr sy’n gweithio gyda chwmnïau opera a theatr, artistiaid sy’n gysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol, a newyddiadurwyr sy’n ymdrwytho yn y cyfryngau cymunedol. Ers 2014, mae tîm yr Economi Greadigol wedi datblygu Rhwydwaith Ymchwil Caerdydd Creadigol, sydd â dros 300 o aelodau. Gwnaeth ei Grŵp Ymchwil Gwyliau weithio gyda gŵyl gerddoriaeth Sŵn i archwilio effaith yr ŵyl ar y gynulleidfa, y ddinas a’r sîn gerddoriaeth, a oedd yn cynnwys creu amgueddfa dros dro a dderbyniodd sylw ar 6 Music, WalesOnline, y BBC a Made in Cardiff. Mae tîm yr Economi Greadigol wedi mapio economi greadigol Caerdydd, gan gynnal ymchwil i nodi cryfderau, clystyrau a maint cyffredinol economi greadigol Caerdydd, ac wedi cynnal ymchwil ar ‘bobl greadigol sefydledig’ sy’n gweithio mewn sectorau eraill. Roedd y tîm yn bartneriaid ym mhrosiect cyfnewid gwybodaeth economi greadigol REACT ac maent wedi cynnal digwyddiadau ar gyfer ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys sesiynau ar rwydweithio, ariannu ac artistiaid preswyl. www.creativecardiff.org.uk


24

06

Datblygu profion wrth ochr y gorlan i ganfod llyngyr yr afu a llyngyr rwmen mewn da byw – Prifysgol Aberystwyth

Mae ffasgioliasis, a achosir gan lyngyr yr afu (Fasciola hepatica) yn effeithio’n ddwys ac yn negyddol ar iechyd a lles da byw, gyda cholledion mewn cynhyrchiant o ~$US3 biliwn y flwyddyn yn fyd-eang a ~£300 miliwn yn y DU. Mae modelu epidemioleg ffasgioliasis yn datgelu risgiau sylweddol yn y dyfodol agos, a rhagwelir y bydd epidemigau yn yr Alban erbyn 2020 ac yng Nghymru erbyn 2050. Mae llyngyr rwmen (Calicophoron daubneyi) yn gyffredin ymhlith da byw yn fyd-eang, gan gynnwys y DU, a gellir eu cysylltu â dirywiad mewn cynhyrchiant da byw. Yn debyg i ffasgioliasis, mae patrymau tywydd newidiol a symudiad anifeiliaid yn debygol o arwain at ragor o adroddiadau mewn perthynas â heintiad llyngyr rwmen. Yn anffodus, mae presenoldeb llyngyr rwmen yn gallu amharu ar y broses o ganfod wyau llyngyr yr afu, sy’n fwy pathogenaidd, a’r gwaith o fonitro ei ymwrthedd anthelmintig gan fod yr wyau yn forffolegol debyg. O ganlyniad, mae angen brys i gynnal diagnosteg wrth ochr y gorlan er mwyn gwahaniaethu rhwng llyngyr yr afu a llyngyr rwmen a statws ymwrthedd/tueddiad i gyffur yr arunigyn sy’n rhan o’r haint. Datgelodd ymchwil sylfaenol yn IBERS lwybr a oedd yn esbonio sut mae llyngyr yr afu yn debygol o addasu system imiwnedd yr organedd letyol er mwyn creu heintiau hirdymor. Mae’r modylyddion imiwnedd yn bresennol fel llwythi mewn fesiclau allgellog sy’n cael eu rhyddhau gan gelloedd llyngyr yr afu yn yr amgylchedd lletyol. Profodd yr ymchwil gan IBERS y rhagdybiaeth fod cregyn fesiclau allgellog yn cynnig biomarcwyr newydd i nodi heintiau llyngyr, ac mae gwaith ar y cyd dilynol gyda Ridgeway Research a Bio-check (UK) Ltd drwy gyllid a roddwyd gan Innovate UK wedi datblygu prototeip o’r prawf llif ochrol cyntaf wrth ochr y gorlan ar gyfer nodi llyngyr yr afu. Ar hyn o bryd, mae’r consortiwm yn trafod â chwmni iechyd anifeiliaid rhyngwladol ynghylch rhyddhau’r diagnostig llyngyr yr afu newydd ar y farchnad. Rydym yn rhagweld potensial i ddatblygu diagnosteg sy’n seiliedig ar fesiclau allgellog ar gyfer parasitiaid eraill yn y dyfodol.

Colledion cynhyrchiant a achosir gan ffasgioliasis sy'n effeithio ar dda byw

BYD EANG

$US3bn DU

£300m COLLED

www.aber.ac.uk/en/ibers

COLLED


25

07

Academi Meddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd

Drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Alacrity ac arweinwyr y diwydiant, mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn mynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol o raddedigion rhaglennu a pheirianneg meddalwedd medrus yng Nghymru. Mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi’i lleoli yn y Platfform yng Nghasnewydd, ac mae’n cynnig gradd BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol tair blynedd sy’n canolbwyntio ar y wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i weithio fel peiriannydd meddalwedd fasnachol. Datblygwyd y cwrs mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y diwydiant. Roedd Tasglu Datblygu Busnes Casnewydd wedi tynnu sylw at y nifer isel o raddedigion peirianneg meddalwedd a rhaglennu medrus, er gwaethaf y galw uchel amdanynt. Yn ei flwyddyn gyntaf, cofrestrwyd 23 o fyfyrwyr â’r Academi Meddalwedd Genedlaethol, ac aeth saith ohonynt ar leoliadau diwydiant. Cofrestrwyd 64 o fyfyrwyr ychwanegol ar gyfer blwyddyn ganlynol y radd. Dysgir y BSc gan academyddion ac ymarferwyr diwydiannol. Mae’r myfyrwyr yn cyflawni prosiectau meddalwedd bywyd go iawn, gan ymuno â myfyrwyr eraill a darlithwyr mewn awyrgylch dechrau busnes bywiog, gan ddefnyddio technolegau cwmwl, symudol a’r we. Mae myfyrwyr yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn gweithio gyda chwmnïau ledled y DU. Maent wedi profi technoleg iBeacon ar gyfer y gwneuthurwr technoleg ynni’r haul GCell, wedi creu prototeip ar gyfer ap profiad ymwelwyr ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd, ac wedi helpu i ddatblygu cymhwysiad ar y we ar gyfer SmileNotes. Mae lleoliadau wedi cael eu cynnal gan gwmnïau megis GCell ac Admiral, Undeb Rygbi Cymru, cwmni technoleg feddygol Medivation, ac Ardal Gwella Busnes Casnewydd. Pan oedd cwmni Talkative, a leolir yng Nghasnewydd, yn chwilio am intern datblygu meddalwedd i ymuno â’r cwmni yn haf 2016, gwnaethant holi’r Academi Meddalwedd Genedlaethol. Yn dilyn proses gyfweld, dewisodd cyfarwyddwyr y cwmni Joel Valentine, a oedd adeg hynny’n fyfyriwr israddedig Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn ei flwyddyn gyntaf. Roedd profiad Joel yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi caniatáu iddo gyfrannu at gronfa codau Talkative o’r diwrnod cyntaf, gan adeiladu nodweddion cynhyrchu i fodloni anghenion gwirioneddol cwsmeriaid. Gweithiodd mewn adrannau eraill o’r cwmni hefyd, gan gynorthwyo â gwefan Talkative, sy’n wynebu cwsmeriaid, a thrafod dylunio a chyfeiriad datblygiadau. Prif gyfraniad Joel at Talkative yw nodwedd newydd o’r enw ‘Rheolau Ymgysylltu’, sy’n caniatáu i gwmnïau ddewis sut a phryd y maent yn cynnig y gwasanaeth cyfathrebu Talkative i’w cwsmeriaid. Helpodd Joel wrth ddiffinio’r gofynion a chreodd y nodwedd drwy ddefnyddio fframwaith dewis rheng flaen Talkative (Vue.JS), gan greu cynnyrch cwbl weithredol. Mae Talkative yn parhau i gyflogi Joel yn rhan amser wrth iddo barhau i astudio yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol. www.cardiff.ac.uk/software-academy


26

08

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cyhoeddwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn enillydd y categori Partneriaeth yng Ngwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg 2017 Insider Media Ltd, sy’n dathlu’r enghreifftiau gorau o weithio rhwng busnesau Cymru ac addysg. Cyflwynwyd y wobr i gydnabod Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth dwy flynedd lwyddiannus Prifysgol Metropolitan Caerdydd gyda’r gweithgynhyrchwr systemau glanhau ffenestri proffesiynol a leolir ym Mro Morgannwg, Window Cleaning Warehouse (WCW). Dyfarnwyd y radd uchaf, sef gradd A, i’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon gan Innovate UK. Manteisiodd y bartneriaeth ar flynyddoedd o wybodaeth o fewn y cwmni ac arbenigedd academyddion Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddatblygu, perffeithio a phrofi proses glanhau heb ddŵr arloesol a fyddai’n briodol ar gyfer wyneb allanol awyrennau. Cyflawnodd y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth y nod trosfwaol o ymgorffori galluoedd ymchwil a datblygu I Window Cleaning Warehouse er mwyn caniatáu i’r cwmni gynnig gwasanaethau newydd a chael mynediad at farchnadoedd newydd. Arweiniodd at ateb cynnyrch ardystiedig gan Boeing a oedd yn galluogi Window Cleaning Warehouse i werthu i gwmnïau awyrennau. Dywedodd Mr Stephen Fox, sy’n gweithio i WCW: “Gwnaethom nodi angen yn y farchnad ar gyfer gwasanaethau glanhau awyrennau arloesol ac ateb posibl. Fodd bynnag, byddai datblygu’r ateb hwn yn llwyddiannus yn golygu cael mynediad at awyrennau er mwyn cynnal profion defnyddwyr parhaus – a chyfyngir ar hynny, sy’n ddealladwy. “Drwy’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, roeddem yn gallu defnyddio cyfleuster o’r enw’r Labordy Profiad Canfyddiadol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r Labordy Profiad Canfyddiadol yn gyfleuster realiti cymysg sy’n caniatáu i gyd-destunau profi cynhyrchion gael eu hefelychu mewn modd realistig iawn o fewn oriau. Gwnaethom ddefnyddio’r Labordy Profiad Canfyddiadol fel dull ar gyfer cynnal profion ymarferol, cyflym ac isel o ran costau.

Gwnaethom weithio’n agos gyda thîm y prosiect ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy gydol y prosiect ac rydym yn credu y bu’n brofiad buddiol dros ben i bawb a gymerodd ran”. Mr Stephen Fox, WCW

www.cardiffmet.ac.uk/business/Pages/Knowledge-Transfer-Partnerships-(KTP).aspx



CYDWEITHIO AR GYFER TWF A FFYNIANT

National Centre for Universities and Business

Studio 10, Tiger House, Burton Street, London, WC1H 9BY info@ncub.co.uk

www.ncub.co.uk

+44 (0)207 383 7667

@NCUBtweets


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.