HOSPIS TŶ’R EOS CYLCHLYTHYR MEDI 2019
DÔL HEULWEN
DATHLU BYWYDAU EICH ANWYLIAID
GWASANAETH ALLGYMORTH NEWYDD
YN CYRRAEDD AT BOBL ANGHENUS YN YR WYDDGRUG A’R WAUN
BETHAN SCOTT
MENYW SY’N BENDERFYNOL O GODI £100,000
01978 316800 NIGHTINGALEHOUSE.CO.UK
CROESO Wrth i mi ysgrifennu’r erthygl hon, mae hi’n ddiwedd Gorffennaf ac mae’r cam cyntaf y gwaith o foderneiddio adeiladau’r hospis wedi hen gychwyn. Mae’r gwaith yn datblygu yn unol â’r amserlen ac o fewn y gyllideb, a bydd adain newydd y Gwasanaeth Gofal Dydd yn barod i’w throsglwyddo ym mis Hydref. Hoffwn ddiolch i gleifion, ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr am eu hamynedd a’u cydymdeimlad tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a hefyd i’n contractwyr, Read Construction, am fod yn sensitif i anghenion yr hospis yn ystod y gwaith adnewyddu. Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i gynnal gwasanaethau ar gyfer ein holl ddefnyddwyr trwy gydol y cyfnod hwn. Eleni, byddwn yn dathlu 25 mlynedd ers agor y cyfleusterau yn Ffordd Caer, ac mae’r trefniadau yn mynd rhagddynt ar gyfer ein Blwyddyn Dathlu, ac mae nifer o weithgareddau a digwyddiadau ar y gweill i nodi’r achlysur. Mae’n rhyfeddol faint mae’r gwaith o ddarparu gofal lliniarol wedi newid dros y blynyddoedd. Bydd y rhaglen foderneiddio sy’n digwydd ar hyn o bryd yn sicrhau y byddwn ni’n gallu cynyddu nifer ein cleifion a pharhau i ddarparu’r gofal gorau posibl mewn amgylchedd modern a fydd yn addas i’w ddiben am y 25 mlynedd nesaf. Trwy gydol 2018, oherwydd cyllid grant a gafwyd gan Ymddiriedolaeth Elusennol St James’s Place, fe wnaethom ni gydweithio â NIPBC i redeg prosiect yn canolbwyntio ar ofal lliniarol ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o fethiant y galon a darparu cymorth i’w teuluoedd. Oherwydd llwyddiant y prosiect hwn, rwy’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni wedi lansio ein Gwasanaeth Methiant y Galon yn yr hospis yn ddiweddar ac rydym yn croesawu Dr Jenny Welstand a fydd yn goruchwylio’r gwaith o redeg y gwasanaeth. Yn ystod 2019, mae’r hospis wedi bod yn cydweithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn ein bod ni wedi cael mynediad at lu o ddigwyddiadau yn lleoliadau hyfryd Erddig a Chastell y Waun. Mae Erddig a Chastell y Waun yn weddol agos at yr hopsis ac yng nghanol y gymuned yr ydym ni’n ei gwasanaethau. Gan edrych ymlaen at y dyfodo, rydym ni wrthi’n trafod datblygu cysylltiadau posibl eraill ar gyfer ein gwasanaethu cleifion yn Erddig a Chastell y Waun, ac fe wnaiff hyn ein galluogi i gyrraedd at y gymuned a chynorthwyo rhagor o bobl. Rydym ni’n ddiolchgair iawn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ei chefnogaeth ac rydym yn teimlo’n frwdfrydig iawn ynghylch y cyfleoedd y gallai’r berthynas hon eu cynnig er budd yr hospis a’n cymuned ehangach.
Fel sy’n digwydd bob amser yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, mae ein codwyr arian yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a gweithgareddau codi arian ar gyfer y diwedd prysur arferol i’r flwyddyn a chyfnod y Nadolig. Yn ystod y deuddeg mis nesaf, bydd gennym ni nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous newydd, ac rydym yn gobeithio y byddant yn apelio at ein cefnogwyr ac yn edrych ymlaen at weld llawer ohonoch chi yn y digwyddiadau sy’n cael sylw yn y cylchlythyr hwn. Dyma gylchlythyr olaf 2019, felly fe hoffwn i ddymuno’n dda i chi am weddill y flwyddyn a diolch i chi eto am y gefnogaeth anhygoel yr ydych chi’n parhau i’w rhoi i’ch hospis. Cofion gorau,
Steve Parry Prif Weithredwr
01978 316800 NIGHTINGALEHOUSE.CO.UK 1
GWASANAETH ALLGYMORTH NEWYDD YN YR WYDDGRUG A’R WAUN I GYRRAEDD AT BOBL ANGHENUS Rydym ni’n mynd â’n gwasanaeth gofalu am gleifion a gofalwyr i’r gymuned, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r bobl y mae arnynt angen hynny. Mae dau gyfleuster allgymorth newydd sbon wedi cael eu sefydlu yn Ysbytai Cymunedol yr Wyddgrug a’r Waun i alluogi cleifion a’u hanwyliaid i elwa ar gyfoeth o arbenigedd a gwasanaethau o fewn lleoliad cymunedol. Mae Kay Ryan, ein Cydlynydd Gwasanaethau ar gyfer Cleifion Allanol, yn gyfrifol am y gwasanaeth newydd hwn, ac yn ei barn hin, y syniad sydd wrth wraidd y prosiect newydd yw sicrhau ei bod hi’n haws i gleifion sy’n byw yn yr ardaloedd hyn ddefnyddio gwasanaethau. Mae Kay yn credu y gwnaiff hynny helpu pobl i sylweddoli bod hospis yn fwy na rhywbeth sy’n darparu gofal diwedd oes. Mae’r hospis yn helpu cleifion i fwynhau ansawdd bywyd gwell, hyd yn oed os oes ganddynt salwch sy’n cyfyngu ar hyd eu bywyd. Yn ôl Kay, nid yw llawer o bobl yn gwybod bod Tŷ’r Eos yn helpu cleifion i gael nifer o wasanaethau nad ydynt efallai yn gwybod eu bod ar gael iddynt, megis cymorth yn sgil profedigaeth, therapi celf a cherddoriaeth a sesiynau galw heibio, yn ogystal â chymorth clinigol os bydd hynny’n ofynnol. “Nod ein gwasanaethau yw diwallu anghenion cleifion a theuluoedd sy’n eu defnyddio. Efallai eu bod yn cael trafferth â lles corfforol neu emosiynol, neu gallent fod yn poeni am deulu neu waith. Rydym ni’n gobeithio y bydd cynnig Gwasanaeth Allgymorth i bobl sydd ddim yn dymuno dod i’r hospis yn eu galluogi serch hynny i elwa o’n cymorth. Mae’n darparu cyfle iddynt sgwrsio â ni ac i ni allu darparu gwybodaeth a chymorth a wnaiff dawelu eu pryderon a’u helpu i fynd i’r afael â’u problemau.” Bydd mynychu’r sesiynau yn rhoi cyfle i gleifion neu ofalwyr ganfod rhagor o ddulliau rheoli poen, byw yn dda a chyflawni eu nodau, cael trafodaethau pwysig ynghylch iechyd a lles a gwybod sut i gysgu’n well. Bydd aelodau
O’r chwith i’r dde: Kay, Kathi and Jane o Dŷ’r Eos a Jane o Ysbyty Cymunedol y Waun teuluoedd yn aml yn awyddus i drafod â gweithiwr iechyd proffesiynol medrus heb fynd i amgylchedd ffurfiol megis ysbyty neu feddygfa. Yn aml iawn, symylrwydd y cymorth sy’n dylanwadu fwyaf ar gleifion. Er enghraifft, roedd un gŵr bonheddig oedd â chyflwr niwrolegol datblygedig ac a oedd yn colli’r gallu i siarad yn bryderus ynghylch sut byddai’n cael gofal oherwydd nid oedd yn gallu cyrchu’r gwasanaethau yr oedd arno eu hangen. Ar ôl ffonio’r feddygfa, fe wnaeth y meddyg teulu gynnig apwyntiad un awr i’r claf, a llwyddodd i dawelu ei bryderon.
“Mae pobl yn ystyried ein bod ni’n darparu gofal diwedd oes yn unig, ac yn aml iawn, bydd cleifion yn rhy ofnus i ddod i brif adeilad ein hospis yn Ffordd Caer. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn deall beth yw’r amrywiaeth o wasanaethau rydym ni’n eu cynnig.” - Kay Ryan, Cydlynydd Gwasanaethau Allgymorth
Mae Gwasanaethau Allgymorth ar gael ar yr adegau dilynol:
Ysbyty Cymunedol y Waun, bob dydd Mawrth rhwng 10yb a 12.30yp Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug, bod dydd Mercher rhwng 1yp a 3.30yp I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Allgymorth Tŷ’r Eos, ffoniwch 01978 316800 2
EIN TÎM O WIRFODDOLWYR Mae’n ymddangos yn ymadrodd bychan iawn, ond fe hoffem ddweud ‘diolch’ wrth ein holl wirfoddolwyr gwych. Diolch i’ch cymorth hael chi, mae ein siopau wedi parhau i ffynnu, mae ein digwyddiadau wedi cael eu cynnal, ac rydych chi wedi rhannu’r neges am ein holl waith yn eich cymunedau. Rydych chi wedi’n helpu ni i godi arian i gynorthwyo cleifion a’u teuluoedd - rydym ni’n gwerthfawrogi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y byddwch chi’n eu cyfrannu. YN EIN BUSNES MANWERTHU Mae natur busnesau manwerthu yn golygu ei fod yn ddiwydiant sy’n newid yn ddiddiwedd, ac wrth i’n siopau geisio rhagweld ac ymateb i’r galw gan gwsmeriaid a thueddiadau’r dyfodol, mae arnom ni angen rhagor o wirfoddolwyr. Mae ein siopau yn cynnig llawer iawn o amrywiaeth, diolch yn bennaf i’r llu o nwyddau sydd ar gael, felly os ydych chi’n hynafiaethydd, wedi dwli ar geir neu’n ddilynwr ffasiwn, mae gennym ni gyfleoedd diddiwedd i’w cynnig i chi. Os ydych chi’n credu y dylai bob cwsmer gael ei drin fel brenin, mae arnom ni eich angen CHI i gynorthwyo i redeg ein siopau. Ein horiau agor yw 9.00yb-5.00yh o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a dydd Sul mewn rhai achosion hefyd, sy’n golygu y gallwn ni gynnig rhywbeth sy’n gweddu i’ch oriau gwaith a’ch ymrwymiadau teuluol a phersonol. BETH YW’R CAM NESAF? Ymuno â ni a mwynhau profiad gwych: • Bod yn rhan o dîm bywiog • Gwella eich CV a datblygu sgiliau trosglwyddadwy • Cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd • Cynorthwyo eich cymuned • Magu hyder a bod yn weithgar • Gwneud gwahaniaeth a rhannu eich gwybodaeth Darperir hyfforddiant a chymorth llawn, felly nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond eich brwdfrydedd a’ch parodrwydd i gynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid er budd ein hospis A YDYCH CHI’N BILI-PALA CYMDEITHASOL? Hwylusydd Gwirfoddol Gweithgareddau Cymdeithasol i Gleifion a Gofalwyr Peidiwch â phryderu, rydym ni’n bwriadu cychwyn â rhywbeth bychan, e.e. bore coffi, clwb llyfrau/ffilmiau, neu dim ond gwau a sgwrs bob bore Gwener gan gychwyn ym mis Hydref. Y nod yw cynnal perthnasoedd anffurfiol ar ôl i ni orffen darparu gofal i’n cleifion. Bydd arnoch chi angen sgiliau cyfathrebu gwych, y gallu i gydlynu pobl a gweithgareddau a nodi a threfnu themâu cymdeithasol,
Os hoffech chi wneud cyfraniad allweddol a dod yn rhan o deulu Hospis Tŷ’r Eos, derbyniwch yr her a dewch yn wirfoddolwr! meddu ar bersonoliaeth allblyg, ond yn bwysicaf oll, dylech chi fod yn awyddus i gael hwyl! A YDYCH CHI’N MWYNHAU GWNEUD GWEITHGAREDDAU CELF A CHREFFT? Gwirfoddolwyr Celf a Chrefft Os dewch chi’n wirfoddolwr Celf a Chrefft, byddwch yn annog ein cleifion i gyfranogi mewn gweithgareddau mewn grwpiau bychan. Gallech chi rannu eich hobi neu eich diddordebau, er enghraifft, tecstilau, gwneud collages, gwau, gwnïo, gwaith crosio, a chrefftau papur ac addurno megis stensilio, creu gwydr lliw, cardiau cyfarch... Fel arall, efallai y gallech chi rannu eich sgiliau celf a chrefft â gwirfoddolwyr eraill fel y gallant hwythau fynd ati i helpu ein cleifion. TRIN GWALLT A THERAPYDDION HARDDWCH/ CYFLENWOL Rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr sy’n drinwyr gwallt a therapyddion harddwch a chyflenwol cymwysedig i gynnig rhywfaint o faldod a chymorth mawr eu hangen i’n cleifion. Bydd yn rhaid i chi fod yn fodlon cyfranogi mewn proses sefydlu a chael gwiriadau cefndir perthnasol i wneud unrhyw waith gwirfoddol yn ein hospis. Darperir hyfforddiant llawn.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw un o’r cyfleoedd cyffrous hyn, e-bostiwch
jo.kearns@nightingalehouse.co.uk neu ffoniwch 01978 316800 3
CHUC MAY MAN VA CAM ON Ystyr hyn yw bob lwc a diolch mewn Fietnameg a dyna yw ein neges ddiffuant i bawb sy’n mynd i feicio yn Fietnam a Cambodia i gefnogi ein hospis ym mis Tachwedd (16-26). Bydd y 24 codwr arian gwrol yn beicio 383km o brysurdeb Ho Chi Minh yn Fietnam, ar hyd delta Afon Mekong i gyrraedd tangnefedd temlau dirgel Angkor Wat yn Cambodia. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae ein beicwyr wedi bod yn codi arian yn ddiflino, a bydd rhagor o weithgareddau yn cael eu cynnal, yn cynnwys Dawns Whistler a gaiff ei gynnal yng Ngwesty Carden Park ar 2 Tachwedd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, ffoniwch 01829 731616. Dymunwn daith ddiogel a difyr iawn iddynt a byddwn yn rhoi sylw i’w hymdrechion yn ein cylchlythyr nesaf. LLWYR YR INCA – A YW HYNNY YN EICH RHESTR FWCED? A hoffech chi her yn 2020? Mae gennym ni bedwar lle yn unig yn weddill yn Her Dramor ein Pen-blwydd yn 25 Llwybr godidog yr Inca ym Mheriw (Tachwedd 6-15, 2020). Bydd antur deg diwrnod Llwybr yr Inca yn cynnwys taith gerdded 52km yn cychwyn yn Cusco, prifddinas yr Inca, sydd wedi’i chuddio ym mherfeddion mynyddoedd yr Andes, a dyna fydd man cychwyn taith i ymweld ag un o Saith Rhyfeddod Newydd y Byd, sef Machu Picchu, sy’n cael ei ystyried yn ddarganfyddiad archeolegol pwysicaf y byd. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Del neu Debbie yn y Swyddfa Codi arian ar 01978 314292.
I noddi ein codwyr arian, trowch at: Fietnam i Gambodia: justgiving.com/campaign/NHHVietnam2Cambodia2019 Llwybr yr Inca: justgiving.com/campaign/NHHIncaTrail2020
Machu Picchu – Llwybr yr Inca
A ALLECH CHI DROI £50 YN LLAWER IAWN RHAGOR? Gwahoddir busnesau a sefydliadau lleol i wneud eu gorau glas i godi arian at Dŷ’r Eos fel rhan o’n Her £50 gyntaf. Bydd cyfranogwyr yn cael £50 ac yn cael eu herio i gynyddu’r cyfanswm cymaint ag y gallant trwy godi arian dros gyfnod tri mis o fis Medi i fis Tachwedd. Mae’n ddull delfrydol o annog gwaith tîm ac yn ddifyr iawn. Gallwch chi wneud fel y mynnwch chi â’r arian, ond gallwn ni gynnig rhywfaint o awgrymidau. Os hoffech chi gyfranogi, cysylltwch â Debbie Barton yn y Swyddfa Codi Arian.
4
EIN GWASANAETH METHIANT Y GALON NEWYDD
O’r chwith i’r dde: Medwyn Edwards, Dr Jenny Welstand, Kay Ryan, Karl Benn a Tracy Livingstone Mae gwasanaeth NEWYDD ar gyfer cleifion sydd ag anghenion cyflwr methiant y galon datblygedig a gofal lliniarol wedi cael ei lansio. Bydd yn sicrhau bod cleifion sydd â’r cyflwr yn cael gwell mynediad at wasanaethau i reoli eu gofal, i’w galluogi i fyw bywyd mor llawn ag y bo modd.
Roedd gan Paul, diweddar ŵr Sue Glover, ganser yr arennau cam 4, ac roedd angen iddo gael falf calon newydd. Ym Mawrth 2018, cafodd Paul ymateb difrifol i’w foddion canser, ac fe wnaeth hynny niwed difrifol i allu ei galon i bwmpio gwaed, oedd yn golygu ei fod wedi datblygu methiant y galon.
Efallai y cewch chi eich synnu o wybod bod ein hospis yn helpu pobl sydd ag amrywiaeth o gyflyrau sy’n cyfyngu ar hyd bywyd, nid cleifion canser yn unig, trwy amrywiaeth o wasanaethau.
“Fe wnaeth Jenny helpu Paul i gael gafael ar adnoddau eraill oedd yn golygu y gallai aros adref cyn hired ag y bo modd. Yn drist iawn, bu Paul farw yn yr ysbyty, ond mae’n wych gweld sut mae’r prosiect hwn wedi datblygu yn wasanaeth parhaol i’r sawl sy’n profi methiant y galon.”
Deilliodd y gwasanaeth o brosiect peilot a sefydlwyd diolch i grant o £40,000 gan Sefydliad Elusennol Elusennol St James’s Place, sy’n cael ei weinyddu gan Hospice UK, ac adnoddau ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r hospis wedi penodi Dr Jenny Welstand, nyrs sy’n arbenigo yng nghyflyrau methiant y galon. Dywedodd hi: “Yn aml iawn, ni sylweddolir difrifoldeb symptomau lliniarol ac ni roddir digon o sylw iddynt, yn bennaf oherwydd bydd cleifion yn aml yn edrych yn llawer gwell na sut maent yn teimlo. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu i ni asesu cleifion yn y clinig a dros y ffôn, i reoli eu symptomau a’u moddion ar y cyd â’r tîm methiant y galon, a’u cynorthwyo hefyd ynghylch eu pryderon a’r problemau y byddant yn ystyried eu bod yn bwysig iddynt. Byddwn ni hefyd yn cynorthwyo teuluoedd sy’n aml yn ysgwyddo baich gofal a’r anawsterau emosiynol sy’n deillio o hyn.” 5
Dywedodd Karl Benn, Pennaeth Grantiau Hospice UK: “Nid llefydd ar gyfer cleifion canser yn unig yw hosbisau; maent yn ymwneud â’r holl ystyriaethau ynghylch sut rydym yn ymdrin â marwolaeth a marw. “Bellach, bydd cleifion sydd wedi cael diagnosis o fethiant y galon yn nalgylch Nightingale House yn gallu defnyddio gwasanaeth a fydd yn golygu y gallan nhw, gyda’u teuluoedd a’u gofalwyr, ddysgu sut i ymdopi â chlefyd sy’n cyfyngu ar hyd eu bywyd ac addasu i’r heriau a ddaw yn sgil hynny.” Dywedodd Medwyn Edwards o Hadlow Edwards Wealth Management, Wrecsam, cynrychiolydd lleol Sefydliad Elusennol St James’s Place: “Roeddem ni’n falch iawn o allu dyfarnu’r cyllid grant cychwynnol hwn i gynorthwyo’r prosiect peilot a galluogi’r hospis i ddatblygu gwasanaeth cymorth arloesol ac effeithlon.”
WYTHNOS EWYLLYSIAU 30 MEDI – 4 HYDREF 2019 Weithiau, gall hynt bywyd ein synnu, a bydd sicrhau y gofalir am eich anwyliaid ar ôl i’r daith hon ddod i ben yn cael ei anghofio yn aml. Mae’n un o’r pethau hynny y bydd angen i ni ei wneud “rywbryd neu’i gilydd”, ac er y gallech chi gael eich diflasu pan fyddwch chi’n clywed y nodiadau atgoffa meddyliol hyn yn eich pen, efallai dyma’r un adeg pan fydd yn rhaid i ni fynd ati i wneud un o’r pethau hynny. Heb ewyllys, ni fyddwch chi’n gallu sicrhau amddiffyniad i’ch anwyliaid na phennu beth fydd yn digwydd i’ch asedau a’ch eiddo yn y pen draw. Mae Wythnos Ewyllysiau Hospis Tŷ’r Eos yn cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd gael ewyllys syml wedi’i hysgrifennu gan gyfreithiwr yn lle cyfraniad argymelledig o £100 yn achos ewyllys sengl sylfaenol neu £150 am ewyllys ddwbl sylfaenol (drych), sy’n arbediad gwych ar gostau arferol llunio ewyllysiau. (Daliwch sylw: yn achos ewyllysiau mwy cymhleth, gallai’r amser ychwanegol a dreulir gan eich cyfreithiwr arwain at ffi uniongyrchol ychwanegol). Bydd ewyllys ddiweddaredig wedi’i llunio gan gyfreithiwr yn sicrhau y caiff eich dymuniadau eu parchu. Bydd hynny’n golygu y gall eich anwyliaid osgoi gwneud penderfyniadau
anodd ac wynebu cymhlethdodau cyfreithiol. Mae ein hospis yn dymuno diolch am eu cefnogaeth garedig i’r holl gyfreithwyr sy’n cyfranogi ac sydd wedi cytuno i beidio derbyn ffi os rhoddir cyfraniad at yr hospis. I weld rhestr o gyfreithwyr sy’n cyfranogi, trowch at: nightingalehouse.co.uk/will
GWASANAETH GOLEUO BYWYD Eleni, cynhelir gwasanaeth Goleuo Bywyd yn yr hospis ar ddydd Sul 15 Rhagfyr am 4:40yp. Mae croeso i bawb yn ein gwasanaeth Goleuo Bywyd, beth bynnag fo’ch cred neu ffydd, ac mae’n agored i bobl eraill yn ogystal â’n cleifion a’u teuluoedd. Rydym ni’n dymuno sicrhau y caiff pawb y cyfle i ddathlu a chofio rhywun annwyl a oleuodd eich bywyd neu a oedd yn ysbrydoliaeth i chi. Efallai nad oedd gan yr anwyliaid yr ydych chi’n dymuno eu cofio unrhyw gysylltiad â’r ysbyty, ond roeddent yn rhan o’ch bywyd neu eich bywydau.
Ymunwch â ni cyn y gwasanaeth i gael gwydraid o win cynnes neu baned o de neu coffi ynghyd â mins pei. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
Bydd y Llyfr Anrhydeddu yng Nghaffi Cwtch yn ystod y gwasanaeth fel y gall pawb chwilio am eu sylwadau. Bydd y llyfrau yn cael eu harddangos yn yr hospis yn ystod y flwyddyn ddilynol.
Os na allwch chi ddod i’n gwasanaeth yn Wrecsam, mae gwasanaethau eraill ar gael yn y lleoliadau hyn: Eglwys San Andreas, Cei Connah. 1 Rhagfyr, am 5:00yh Eglwys Crist, y Bala. 1 Rhagfyr am 7.00yh Eglwys Santes Collen, Llangollen. 6 Rhagfyr am 6:30yh Eglwys San Tsiad, Hanmer. 5 Rhagfyr, am 6:30yh 6
DIGWYDDIADAU
01978 314292 nightingalehouse.co.uk/events
Wythnos Ewyllysiau Dydd Llun 30 Medi – Dydd Gwener 4 Hydref 2019 £100 am ewyllys sengl sylfaenol | £150 am ewyllys ddwbl sylfaenol Mae cwmni cyfreithwyr lleol sy’n cyfranogi yn ddigon caredig i gyfrannu eu hamser yn rhad ac am ddim i ysgrifennu ewyllys i chi, yn lle cyfraniad at Hopsis Tŷ’r Eos. Trefnwch apwyntiad yn ystod Wythnos Ewyllysiau trwy gysylltu ag unrhyw un o’r cyfreithwyr sy’n ein cefnogi ni. nightingalehouse.co.uk/will
Ffair Nadolig Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2019 Neuadd Eglwys Santes Margaret, Heol Caer, Wrecsam | 10yb - 2yp | AM DDIM Bydd y digwyddiad gwych hwn yn lansio tymor ewyllys da unwaith yn rhagor. Crwydrwch o amgylch yr amrywiaeth o stondinau sy’n cynnig llu o anrhegion a danteithion ysbrydolgar i bawb. Trwy brynu unrhyw beth, byddwch chi’n helpu i ariannu gofal diwedd oes allweddol ar gyfer ein cleifion a’u teuluoedd pan fydd arnynt angen hynny fwyaf.
Cyngerdd Nadolig Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2019 Eglwys San Silyn, Wrecsam | 7:30yh | £15 Cychwynnwch eich paratoadau at y diwrnod mawr trwy ddod i fwynhau ein cyngerdd Nadolig bythol boblogaidd, yn llawn llawenydd a swyn tymor yr Ŵyl. Bydd y fezzo-soprano o Gymru, Angharad Lyddon, yn ymuno â Chôr Meibion y Rhos a Band Byddin yr Iachawdwriaeth Wrecsam yn lleoliad godidog Eglwys San Silyn, Wrecsam, a fydd yn ychwanegu at awyrgylch hyfryd y digwyddiad hudolus hwn.
Gwasanaeth Goleuo Bywyd Dydd Sul 15 Rhagfyr 2019 Hospis Tŷ’r Eos | 4:00yp Dewch i ddathlu bywydau ein hanwyliaid â chymorth pobl eraill. Mae ein gwasanaeth Goleuo Bywyd yn ddigwyddiad i bawb ac mae’n cynnig cyfle i chi ddod ynghyd a dathlu a chofio bywyd rhywun sy’n annwyl i chi.
Casglu Coed Nadolig Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2020 Diolch i gymorth busnesau yn ein cymuned, byddwn ni’n cynnal ein gwasanaeth casglu coed Nadolig cyntaf! Bydd ein criw o wirfoddolwyr yn casglu ac yn ailgylchu eich coeden Nadolig go iawn yn lle cyfraniad tuag at ofal cleifion yn yr hospis. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ar y dydd Sadwrn cyntaf wedi Nos Ystwyll. Arbedwch amser a thrafferth trwy drefnu i’ch coeden gael ei chasglu heddiw! nightingalehouse. co.uk/tree
Taith Gerdded Treftadaeth y Byd Dydd Sul 5 Ebrill 2020 Lion Quays, Croesoswallt | 10yb | Cofrestru am Ddim Yn dilyn llwyddiant ein tair Taith Gerdded Treftadaeth y Byd ddiwethaf a’r adborth cadarnhaol a gafwyd, byddwn ni’n cynnal ein Taith Gerdded Treftadaeth y Byd unwaith yn rhagor ar ddydd Sul 5 Ebrill 2020. Dyma ddigwyddiad y gall y teulu cyfan gyfranogi ynddo, yn cynnwys eich cyfeillion ar bedair coes.
7
CASGLU COED NADOLIG
MAE’N HAWDD IAWN! A ydych chi erioed wedi dymuno y byddai rhywun yn dod i gasglu eich coeden Nadolig ar ôl i hwyl yr Ŵyl ddod i ben? Mae llawer o aelodau tîm Tŷ’r Eos yn gwybod sut brofiad yw gorfod tynnu nodwyddau pinwydd o seddi eu car fisoedd wedi ymweliad â’r ganolfan ailgylchu! Dyna pam rydym ni wedi penderfynu cynnig help llaw i chi. Diolch i gymorth busnesau yn ein cymuned, rydym ni’n cynnig Gwasanaeth Casglu Coed Nadolig am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn 11 Ionawr 2020. Bydd angen i chi wneud y canlynol: 1. Troi at nightingalehouse.co.uk/tree neu ffonio 01978 314292 i drefnu i gasglu eich coeden 2. Tynnu’r holl addurniadau oddi ar eich coeden 3. Gadael eich coeden y tu allan i’ch tŷ mewn lle gweladwy cyn 7yb ar ddydd Sadwrn 11 Ionawr 2020 Yn lle hynny, rydym ni’n gofyn am gyfraniad tuag at gost gofal cleifion preswyl a chleifion y Gwasanaeth Dydd sydd â salwch sy’n cyfyngu ar hyd bywyd yn Nhŷ’r Eos. Os ydych chi’n fusnes lleol a fyddai’n hoffi helpu eich hospis lleol ac mae fan fawr neu lori ar gael gennych chi (yn ddelfrydol, un â chawell neu ddadlwythwr, gwely fflat neu drelar), byddai’n dda gennym ni glywed gennych chi.
“Rydym ni’n falch iawn o gyflwyno gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig newydd yr hospis yn Ionawr 2020. Mae’n fenter gymunedol go iawn, a bydd busnesau a gwirfoddolwyr lleol yn rhoi eu hamser yn hael iawn i gasglu eich coed. Mae’n dileu’r drafferth o gael gwared ar eich coeden, ac ar yr un pryd, yn codi arian hanfodol i dalu am ofal cleifion.” - Sam Amis, Codwr Arian Digwyddiadau Daliwch sylw: byddwn yn gallu casglu coed Nadolig go iawn y trefnir ymlaen llaw i’w casglu, ac ni ellir casglu unrhyw goed ychwanegol ar y diwrnod. Gellir archebu hyd at ddydd Mercher 8 Ionawr am 11.49yh.
I gofrestru i gael casglu eich coeden ac i ganfod a fyddwn ni’n casglu yn eich ardal, trowch at: nightingalehouse.co.uk/tree neu ffoniwch 01978 314292 8
ARWRES DDI-GLOD Mae Jane Jones yn Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd a bydd hi’n cyflawni ei gwaith yn fedrus ac yn ddiffwdan yn yr hospis. Bydd hi bob amser yn sicrhau’r gwasanaeth gorau ar gyfer cleifion, er enghraifft, wrth drafod prydau bwyd â’r tîm arlwyo neu gynllunio gweithgareddau y gall cleifion y gwasanaeth dydd eu mwynhau. “Mae Jane yn unigolyn trugarog iawn, ac mae ei charedigrwydd a’i phroffesiynoldeb yn amlwg iawn. Mae’n bleser gweithio gyda hi, ac mae hi’n eiriolwraig mor frwdfrydig dros ofal cleifion hefyd. “Pe bawn i’n holi Jane beth yw’r elfen bwysicaf o’i gwaith rwy’n 100% yn sicr mai “y cleifion” fyddai ei hateb.” - Jane McGrath, Pennaeth Gwasanaethau Clinigol “Yn fy marn i, Jane yw ‘trysor’ y Gwasanaethau Dydd. Bydd hi’n ymdrechu i’r eithaf er budd ei chleifion ac mae hi’n aelod gwych o’r tîm.Bydd hi’n gweithio’n dawel ac yn effeithlon heb ddwyn sylw at ei gwaith, ond pan fydd hi ar ei gwyliau, byddwn i’n gweld ei heisiau hi yn fawr. Dyna pryd fyddwch chi’n sylweddoli faint yn union mae hi’n ei gyfrannu at ein gwasanaeth. Mae Jane yn cydweithio’n dda â staff yn yr holl adrannau a bydd hi’n wên o glust i glust pan fydd hi gyda chleifion.” - Kay Ryan, Cydlynydd Gwasanaethau i Gleifion Allanol
“Pan fydd ymwelwyr sy’n dod i’r hospis yn clywed yn chwerthin sy’n rhan o’r Gwasanaethau Dydd yn feunyddiol a phan fydd cleifion newydd yn sylweddoli bod ganddyn nhw lawer iawn rhagor i’w gyflawni, ar waethaf eu diagnosis, mae effaith hynny yn rhywbeth na allwch chi ei fesur... Mae Jane yn rhan anhepgor o’r tîm sy’n darparu’r profiad hwnnw.” - Tracy Livingstone, Pennaeth Llywodraethu’r Hospis
BLYCHAU CASGLU NEWYDD! Os ydych chi sylwgar, efallai eich bod chi eisoes wedi sylweddoli bod ein blychau casglu sydd newydd gael eu hail-frandio i’w gweld yn y gymuned. Mae ein casglwyr gwirfoddol wedi bod yn brysur yn cyfnewid yr holl flychau melyn am flychau newydd gwyrddlas. Mae newid mân sy’n cael ei roi yn ein blychau casglu yn ffrwd incwm hanfodol sy’n cynnal gwaith yr hospis yn gofalu am gleifion ac yn y gymuned. Yn 2018, casglwyd dros £40,000 trwy gyfrwng y blychau casglu, felly diolch am eich cyfraniad!
Cysylltwch â ni os hoffech chi gael blwch casglu yn eich gweithle:
01978 314292 neu merchandise@nightingalehouse.co.uk 9
YSBRYD CYMUNEDOL Yma yn Nhŷ’r Eos, rydym ni’n ffodus iawn fod gennym ni gymuned wych o godwyr arian sy’n mynd i drafferth fawr i helpu i godi arian hanfodol i gynorthwyo pobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar hyd bywyd. Mae’r grwpiau hyn yn amhrisiadwy i waith yr hospis, a byddant yn rhoi eu hamser a’u hegni yn hael i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys digwyddiadau te prynhawn, cyngherddau, boreau coffi, sioeau ffasiwn a hyd yn oed Noson Bollywood. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’r grwpiau wedi codi dros £100,000. Rydym ni newydd benodi dwy Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned newydd, sef Susan Williams a Claire Quant, sydd ar gael i gynorthwyo ein grwpiau cymunedol gwych. Gellir cysylltu â’r ddwy pan fydd ar y grwpiau angen cymorth ag unrhyw weithgareddau codi arian ac i gael syniadau newydd, a byddant hefyd yn diweddaru’r grwpiau ynghylch sut mae eu hymdrechion i godi arian yn gwneud gwahaniaeth. Dywedodd Claire (yn y llun ar y chwith) a Susan (ar y dde):
“Rydym ni wedi bod yn ddigon ffodus i gael mynd allan a chwrdd â llawer o’n grwpiau cymunedol yn barod. Mae eu brwdfrydedd, eu hegni a’u hymroddiad i Hospis Tŷ’r Eos yn ysbrydolgar iawn ac rydym ni’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw.”
A hoffech chi sefydlu grŵp cymunedol yn eich ardal? Os felly, ffoniwch 01978 314292 neu e-bostiwch: claire.quant@nightingalehouse.co.uk susan.williams@nightingalehouse.co.uk
DOTIO POB I A CHROESI BOB T Yn ystod y 13 mlynedd ddiwethaf, mae’r Daith Gerdded am Hanner Nos wedi bod yn brif ddigwyddiad codi arian calendr yr hospis, ac mae miloedd o gerddwyr brwdfrydig wedi troedio strydoedd Wrecsam i gefnogi Tŷ’r Eos. Y Daith Gerdded am Hanner Nos eleni oedd yr olaf o’r digwyddiadau hyn a chafwyd addewidion am £64,000 ac mae rhagor o arian nawdd yn parhau i’n cyrraedd yn ddyddiol. Roeddem ni wedi gobeithio cyhoeddi manylion digwyddiad codi arian mawr 2020 yn ystod ein taith gerdded am hanner nos olaf; fodd bynnag, rydym ni’n parhau i gadarnhau’r trefniadau a’r manylion i sicrhau bod popeth yn ei le cyn i ni ddatgelu beth fydd y dathliad mawr. Gallwn ni ddweud fodd bynnag y byddwch chi’n sicr o gael llond trol o hwyl ar gyfer y teulu cyfan, llawer o weithgareddau egnïol ac awyrgylch carnifal pan fydd yr haul yn machlud. Ni allwn ni anghofio mai diben ein hymgyrchoedd codi arian yw ein galluogi ni i ddarparu gofal i’r cleifion hynny yn ein cymuned y mae arnynt angen hynny fwyaf. Fe wnawn ni ddiweddaru pawb a bydd cyfle am ddisgownt ‘cyntaf i’r felin’ i gadw eich lle yn y parti gorau yn y dref fel dathliad o fywyd.
Ar ran pawb yn Nhy’r Eos, hoffwn ddiolch o waelod calon i chi am barhau i’n cefnogi ni. 10
EIN CYMUNED HAEL Byddwn yn cael ein rhyfeddu gan haelioni ein cymuned; rydych chi wedi mynd ati’n garedig a brwdfrydig i godi arian mawr ei angen at ein hospis. Ac rydym ni wedi bod yn ddigon ffodus i gael ein dewis yn elusen y flwyddyn gan sawl cwmni, yn cynnwys M&S Wrecsam a Hays Travel, Bellis Brothers a Bkoncepts, yn ogystal â sefydlu perthynas newydd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. “Mae ein cefnogwyr wedi trefnu nifer o weithgareddau codi arian gwych, yn cynnwys cystadlaethau pysgota, diwrnodau chwarae golff, diwrnodau dillad anffurfiol, te prynhawn a heriau.
11
“Beth am ymuno â’n grŵp, ‘Tudalen Cymuned Tŷ’r Eos’, ar Facebook, i gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau ein cymuned ac i gael syniadau codi arian.” - Jess Druce, Codwr Arian yn y Gymuned I gyfranogi, cysylltwch â: jessica.druce@nightingalehouse.co.uk luke.mcdonald@nightingalehouse.co.uk neu ffoniwch 01978 314292
Fe wnaeth y grŵp cefnogi yn yr Wyddgrug godi £1,500 trwy gynnal bingo siocled a chodi arian yn gyffredinol
Fe wnaeth y grŵp cefnogi yn y Rhos godi £3,000 trwy gynnal cyngerdd a noson Bollywood
Fe wnaeth David Walker a chyfeillion gyflawni her y 3 chopa, a llwyddo i godi £5,000 bron iawn
Fe wnaeth ein ‘Sgwterthon’ godi dros £3,000 i Dŷ’r Eos
Fe wnaeth David sy’n 80 mlwydd oed fentro ar linell sip gyflymaf y byd i godi £1,606
Fe wnaeth Eleanor Roberts drefnu ‘Cinio gyda’r Fonesig Anne Dodd’ a gmanylion £765
Fe wnaeth Wrexham Ink gynnal arwerthiant elusennol a chodi £2,530.18
Casglwyd £1,327.91 mewn bwcedi yn nigwyddiad Picnic a Proms eleni
Fe wnaeth yr Hair Lounge yn Rossett godi cyfanswm gwych o £1,205
WYT TI’N SIARAD CYMRAEG? We produce an electronic version of our Welsh newsletter which is on our website. If you require a hard copy, please contact our fundraising department on 01978 314292.
Byddwn yn cynhyrchu fersiwn electronig o’n cylchlythyr Cymraeg, a gallwch gael y ddogfen ar gais neu o’n gwefan. Os hoffech chi gael copi papur, cysylltwch â’n hadran codi arian ar 01978 314292.
The previous two newsletters were kindly translated, completely free of charge, by Gareth Evans Jones. Gareth’s support is appreciated by everyone at our hospice.
Cafodd y ddau gylchlythyr blaenorol eu cyfieithu’n rhad ac am ddim yn garedig iawn gan Gareth Evans Jones - mae pawb yn yr Hospis yn gwerthfawrogi cymorth Gareth.
View or download our Welsh literature: nightingalehouse.co.uk/cymraeg
I ddarllen neu lawrlwytho ein llenyddiaeth cyfrwng Cymraeg, trowch at: nightingalehouse.co.uk/cymraeg
Diolch o galon i gyfranogwyr ein Taith Gerdded am Hanner Nos am godi £1,000,000 dros 13 blynedd!
Fe waeth Ian Evans drefnu gêm bêldroed Tlws Coffa Den Lloyd a gododd £1,911
Fe wnaeth Sabine Fraser a’i chydweithwyr drefnu taith gerdded yn Llangollen gan godi £1,156
Fe wnaeth grŵp cefnogi Hanmer godi £297.20 yn ystod eu bore coffi
Mae gweithgareddau codi arian Bellis Brothers wedi codi £1,502.71
Fe wnaeth Gary a thafarn Garth Mill godi £500
Fe wnaeth ein ‘Noson Cyri’ a gynhaliwyd ym mwyty Anise yn Wrecsam godi £1,755
Fe wnaeth y BBrownis yn Acton godi £1,566.31 trwy gynnal taith gerdded noddedig
Fe wnaeth Harley Challinor-Hughes sy’n 10 oed godi £315 trwy gyfranogi mewn marathon nofio 12
POB TOCYN WEDI’I WERTHU
O’r Chwith i’r Dde: Chloe Yeomans, sy’n ddawnswraig broffesiynol; Steve Heighway, y dechreuwr o gwmni V4B a’i gydweithiwr Alex Bryan
Rydym ni oll yn edrych ymlaen yn eiddgar at ein digwyddiad codi arian newydd sbon, sef Strictly Nightinglaes, pan fydd deg gwirfoddolwr dewr o fusnesau lleol yn perfformio dawns neuadd neu ddawns o America Ladin o flaen cynulleidfa lawn. Mae ein dechreuwyr wedi bod yn dysgu sut i ddawnsio yn ystod y misoedd diwethaf, a bydd eu hymdrechion yn talu ar eu canfed yn ystod un perfformiad ysblennydd yng Ngwesty Lion Quays, Croesoswallt, ar ddydd Gwener 6 Rhagfyr. Cyn i ni hysbysebu’r sioe hyd yn oed, gwerthwyd yr holl docynnau, ac mae dros 300 o bobl yn edrych ymlaen at noson lawn o fywiogrwydd, lliw haul ffug a chodi arian. Noddir y digwyddiad yn garedig gan gwmni llogi ceir V4B sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, ac yn ystod y digwyddiad, bydd y dawnswyr yn cystadlu o flaen panel o bedwar beirniad, yn cynnwys Chloe Hewitt, sydd wedi ymddangos yn y Strictly Come Dancing go iawn. Hi yw partner dawnsio rheolaidd A.J. Pritchard, ac roedd y ddau ohonynt yn Bencampwyr Dawnsio America Ladin Iau am dair blynedd yn olynol. Ynghyd ag aelod o fwrdd ymddiriedolwyr yr hopsis, mae dechreuwyr o’r cwmnïau canlynol yn cyfranogi yn yr her - Handelsbanken, DTCC, ASH Waste, Williams Financial Services, Allington Hughes, AJW Wealth Management, Tritech, Tesni Homes a V4B.
Maent oll yn amaturiaid sydd ag ychydig iawn o brofiad o ddawnsio (neu ddim), ac maent wedi cael eu paru â dawnsiwr proffesiynol ac maent yn gweithio’n galed yn paratoi at y noson fawr. Dywedodd Debbie Barton, un o Godwyr Arian Tŷ’r Eos: “Mae hwn yn ddigwyddiad codi arian newydd gan Dŷ’r Eos, a dyna fydd ein digwyddiad codi arian mwyaf ysblennydd hyd yn hyn. Rydym ni wedi cael ei rhyfeddu gan yr ymateb i’r digwyddiad ac rydym ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld sut hwyl mae ein dawnswyr yn ei gael. Diolch o galon i bob un ohonynt am gyfranogi yn yr her ac am eu holl ymdrechion i godi arian nawdd. Bydd yn noson wych, ac ar sail yr ymateb eleni, bydd yn ddigwyddiad mwy fyth y flwyddyn nesaf!” Dywedodd Alex Bryan o V4B: “Mae V4B yn falch iawn o gefnogi elusen mor wych, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at ddigwyddiad Strictly! Mae’n wych ymwneud â chodwyr arian mor unigryw a byddwn ni hapus i barhau cydweithio â Thŷ’r Eos oherwydd maent yn sicrhau bod codi arian yn ddifyr dros ben.”
Rhai o’n dechreuwyr yn un o gyfarfodydd rheolaidd Strictly yng Nghaffi Cwtch
Rydym ni eisoes yn derbyn ymholiadau ynghylch Strictly Nightingales 2020, blwyddyn pen-blwydd yr hospis yn 25. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu y flwyddyn nesaf, ffoniwch Debbie Barton ar 01978 314292.
I noddi ein dawnswyr, trowch at
justgiving.com/campaign/NHHStrictlyNightingales2019 13
MAE EICH CYFRANIADAU YN GWNEUD GWAHANIAETH
Mae cyfrannu yn rhwydd iawn! Gallwch chi fynd â’ch cyfraniadau i unrhyw un o’n siopau neu i’n Canolfan Cyfraniadau yn Wrecsam.
Yn ein siopau, rydym ni’n dibynnu ar nwyddau a gyfrannir gennych chi, ein cefnogwyr, i’n helpu i godir arian at yr hospis. A allwch chi ein helpu ni i sicrhau bod y silffoedd a’r rheiliau yn ein siopau yn llawn o nwyddau sydd wedi bod yn annwyl i chi? Byddwn ni’n wastad yn chwilio am ddillad, dodrefn, nwyddau cartref, nwyddau trydanol, setiau teledu, llyfrau a beiciau o ansawdd da y gallwn ni eu hailwerthu. Yn anfoddus, mae rhai eitemau na allwn ni eu hailwerthu na’u hailgylchu, ac ni allwn ni dderbyn y cyfraniadau hyn, oherwydd byddai angen i ni dalu am eu gwaredu, felly peidiwch â chael eich digio os gwelwch yn dda os bydd yn rhaid i ni wrthod pethau o bryd i’w gilydd. BLE ALLAF I ADAEL CYFRANIADAU? Gellir mynd â nwyddau mewn car i gefn y siopau canlynol: Bwcle, y Fflint, yr Wyddgrug, Stryt y Priordy yn Wrecsam ac Ystâd Ddiwydiannol Whitegate, Wrecsam. Dewch â’ch nwyddau i’r siopau yn ystod eu horiau agor os gwelwch yn dda. Gofynnwn yn garedig iawn i chi beidio gadael nwyddau y tu allan i’r siopau, oherwydd, yn drist iawn, bydd y mwyafrif o fagiau sy’n cael eu gadael y tu allan i’n siopau dros nos yn cael eu hagor. GWASANAETH CASGLU AM DDIM Os oes gennych chi ddodrefn neu nwyddau trydanol mawr ac nid ydych chi’n gallu dod â nhw i’n siopau, gallwn ni ddod i’w casglu gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth am ei gwasanaeth casglu, neu i drefnu casgliad, ffoniwch
Manylion eich siop leol
nightingalehouse.co.uk/shops
01978 262589. Mae’n wasanaeth poblogaidd iawn felly peidiwch â disgwyl tan y funud olaf cyn trefnu. RHODD CYMORTH Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, gallwch chi gynyddu gwerth eich cyfraniadau trwy lenwi ffurflen Rhodd Cymorth pan fyddwch chi’n dod â nwyddau i ni. Gellir llenwi’r ffurflen yn gyflym, a byddwn ni’n gwneud y gweddill. Gallwn hawlio 25%, sy’n rhoi hwb ychwanegol i werth eich cyfraniad. DIWRNODAU CYFRANNU YN LLE GWAREDU A allech chi drefnu Diwrnod Cyfrannu yn lle Gwaredu ar ran Tŷ’r Eos, yn eich gweithle, eich ysgol, eich clwb neu ymhlith eich ffrindiau a’ch perthnasau? Gallech chi fynd â’ch cyfraniadau i un o’n siopau, neu gallem ni ddod i’w casglu. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i drefnu Diwrnod Cyfrannu yn lle Gwaredu, ffoniwch Emma ar 01978 353088.
“Hoffwn ddiolch i’ch staff yn y mannau derbyn nwyddau. Rwyf i wedi cwrdd â rhai ohonynt yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac fe hoffwn i chi gyfleu fy niolch iddynt. Mae pawb yr wyf i wedi cwrdd â nhw wedi bod yn barod i gynorthwyo, yn broffesiynol, yn ddiolchgar am ein cyfraniadau, ac yn anad dim, mor hapus. Byddwch chi bob amser yn cael eich croesawu gan rywun sy’n gwenu’n gyfeillgar, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr! Felly diolch yn fawr iawn a daliwch ati i wneud eich gwaith gwych!” - Sharon Burt, un o Gwsmeriaid Nightingales yn Stryt y Rhaglyw 14
STORI ANDREW Mae Andrew Beade yn wastad wedi bod â ffydd yn y natur ddynol. Daeth Andrew o Goedpoeth i Hopsis Tŷ’r Eos ym mis Mawrth. Roedd yn agosáu at y cam nesaf mewn cyfres o amgylchiadau cymhleth sydd wedi newid y bywyd oedd yn gyfarwydd iddo. Ar waethaf tiwmor ymennydd cam pedwar, mae Andrew yn gadarnhaol, yn ddymunol ac yn frwdfrydig iawn. Gwyddai nad oedd cyfnod byr dilynol yn yr ysbyty yn amgylchedd priodol iddo. “Mae dod i Dŷ’r Eos wedi gweddnewid fy mywyd Rwyf i wrth fy modd â’u dull gweithredu cyfannol, a bellach, ar ôl gorffen fy nhriniaethau cemotherapi a radiotherapi, rwy’n credu’n wirioneddol bod y triniaethau cyfannol y byddaf yn eu cael yma yn fwy llesol i mi.” Nid y cyfleusterau yn Nhŷ’r Eos yn unig sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth iddo, yn ôl Andrew, ond ‘parodrwydd y staff i gynorthwyo y tu hwnt i’w galluoedd corfforol’, rhywbeth nad yw wedi’i brofi yn flaenorol. Fel arolygwr trydanol i gwmni bragu Marston, mae Andrew yn gyfarwydd â bod yn brysur, felly bydd yn treulio ei ddyddiau yn cyfranogi yn ein darpariaethau therapi mewnol sydd ar gael i gleifion, yn amrywio o therapi celf i therapi cerddoriaeth. Yn wir, diolch i’w lais canu persain, mae wedi mynd ati i recordio CD i godi arian at yr hospis gyd Charlotte, y Therapydd Cerdd, sy’n cynnal y dosbarthiadau diolch i nawdd gan Elusen Therapi Cerdd Nordoff Robbins. Mae Andrew yn dweud yn onest nad oedd wedi llawn sylweddoli beth yn union yw’r holl gyfleusterau sydd ar gael yn yr hospis ar gyfer cleifion preswyl a chleifion y Gwasanaeth Dydd. Fel llawer o bobl eraill, credai bod yr hospis yn cynnig gofal diwedd oes yn unig, ac roedd wrth ei fodd yn gweld yr holl gyfleusterau a’r gwasanaethau a gynigir sy’n ei helpu i ymdopi â’i salwch. “Cefais i wybod bod llawer iawn ar gael, ond roedd gweld pa mor wych yw’r lle pan wnes i gyrraedd yn anhygoel. Mae’r sesiynau adweitheg gyda Beryl wedi bod yn llesol iawn o ran fy lles yn gyffredinol. Byddwn ni’n sgwrsio am bopeth ac mae Beryl yn rhywun sy’n deall sut mae pethau. Ers dod yma, rwy’n gallu gweld gwelliant bob dydd - mae’r lle hwn wedi rhoi optimistiaeth a chryfder meddyliol i mi. “Mae’r staff nyrsio wedi bod yn ‘wynt o dan fy adenydd’ yn llythrennol, yn fy nghynnal i pan na fydd pethau wedi gweithio fel y disgwyl. Rydym ni wedi crïo gyda’n gilydd a byddaf yn dweud wrthynt yn aml, ‘Rwy’n ddyledus am fy mywyd i bob un ohonoch chi’. 15
“Rwyf i wedi gwneud cymaint o ffrindiau yn yr ysbyty, ac mae’n gyffrous gweld yr holl newidiadau sy’n digwydd yma yn sgil y prosiect moderneiddio sydd wedi cychwyn ers to. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddefnyddio’r gampfa newydd yn y swît ffisiotherapi newydd.”
“Pan wnes i ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar, cefais becyn bwyd gan Peter, prif gogydd Caffi Cwtch, i’w fwyta yn ystod y diwrnod. Y pethau bychan hynny sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. “Mae gallu cael fy anwyliaid gerllaw yn amhrisiadwy.” Mae Tina, gwraig Andrew (priododd y ddau ym mis Ionawr), a’i fam a’i dad Veronica a David, yn cael yr un croeso cynnes ag Andrew, a byddant yn dod yma’n ddyddiol a gallant gyfranogi yn llawn yn y gofal a ddarperir iddo a chyfrannu at ei les. Gall perthnasau wneud defnydd o lawer o’r cyfleusterau i’w helpu nhw, ac byddan nhw’n cael eu hannog i drafod eu hemosiynau a’u teimladau eu hunain, naill ai yn unigol neu fel rhan o grŵp.
PROSIECT ECHO:
RHANNU GWYBODAETH ARBENIGOL
O’r chwith i’r dde: Tîm Addysg a Llywodraethu’r Hospis, Tracy Livingstone, Catherine Hughes a Claire Edwards, sydd wedi sefydlu Prosiect ECHO yn Nhŷ’r Eos
Dychmygwch eich bod chi mewn ystafell enfawr â nenfwd uchel, ac rydych chi’n gweiddi ‘ECHO’! Nid oes wahaniaeth ble bydd pobl eraill yn sefyll yn yr adeilad, byddant yn debygol o glywed eich galwad yn atseinio o amgylch yr ystafell. Nawr dychmygwch y gallwch chi ddefnyddio’r un egwyddor i rannu gwybodaeth a chymorth ag eraill mewn sefydliadau gwahanol sy’n darparu gwasanaethau i gleifion y mae arnynt angen gofal lliniarol. Rydym ni’n gwybod bod hyn yn bosibl ac rydym ni’n gweithio i ddarparu hynny fel rhan o fodel o ddarpariaeth addysgol o’r enw Prosiect ECHO. Ym mis Mai eleni, treuliodd tri aelod o staff yr hospis dri diwrnod gyda thîm Prosiect ECHO ym Melffast, Gogledd Iwerddon, yn cael hyfforddiant dwys ynghylch model Prosiect ECHO er mwyn dod yn Hwb ECHO cyntaf Cymru. Hanfod Prosiect ECHO yw defnyddio model sydd wedi’i ddilysu i symud gwybodaeth yn hytrach na symud pobl. Gan ddefnyddio adnodd fideo-gynadledda diogel a
gynhelir gan Zoom, byddai hwb canolog yn yr ysbyty yn cydweithio â safleoedd partneriaid ar draws y gymuned (breichiau’r olwyn) i gynllunio a darparu cwricwlwm addysg pwrpasol. Bydd staff sy’n gweithio ym mreichiau’r olwyn yn cyflwyno hanesion o achosion yn ddienw gan amlinellu’r heriau y gallent fod yn eu hwynebu, ac yna, bydd y cyfranogwyr yn ystyried dewisiadau i ddatrys yr anawsterau penodol a drafodir, a bydd pawb yn dod yn ddysgwr ac yn dod yn athro yn ystod y sesiynau. Mae Prosiect ECHO yn cyd-fynd â nodau strategol Tŷ’r Eos, sef helpu a chynorthwyo rhagor o bobl yn ein cymuned trwy gyfrwng addysg, a datblygu perthnasoedd cryfach â phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Prosiect ECHO yn cynnig system a strwythur i rannu gwybodaeth arbenigol ar draws ffiniau daearyddol a ffiniau sefydliadau, i gynnal a gwella’r gofal a roddir i unigolion a’u teuluoedd, a gall hynny gwmpasu ystod eang o bynciau.
Os ydych chi’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac fe hoffech chi fod yn rhan o fudiad addysgol Prosiect ECHO yng Ngogledd Cymru, e-bostiwch
tracy.livingstone@nightingalehouse.co.uk
16
DIWEDDARIAD NEWYDDION BUSNES
DIOLCH, AIRBUS
PAWB YN GWENU WRTH FWYNHAU DIWRNOD YN YR AWYR Rydym ni’n ffodus iawn o fod yn un o bum elusen a gefnogir gan Airbus, Brychdwn, eleni. Roeddem ni wrth ein bodd yn cael cyfle i fynychu digwyddiad ‘Cwrdd â’r Partneriaid’ i ddod i adnabod staff Airbus, ac mae hi wedi bod yn bleser cael mynychu nifer o weithgareddau codi arian dros yr haf, yn cynnwys ‘Quingo’ a Noson Band Mawr. Mae staff o Airbus hefyd wedi bod yn gwirfoddoli yn eu hamser eu hunain yn ein Canolfan Dosbarthu.
elusen awyrennu sy’n bartner iddo, fly2help. Roedd y diwrnod yn cynnwys taith hedfan fer, sesiynau gweithdai rhyngweithiol gan Heddlu Gogledd Cymru, a chyfle i roi cynnig ar gemau Rhith-wirionedd rhyngweithiol Airbus. Daeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru â’u hinjan dân yno hefyd. Bwriad y digwyddiad oedd rhoi cyfle i’r plant a’u teuluoedd gael seibiant o’r pryderon am ddiwrnod ac roedd yn brofiad hyfryd.
Roedd yn fraint go iawn gallu mynd â thri theulu sy’n gysylltiedig â ‘Release’, ein gwasanaeth ynghylch profedigaeth i blant, i gyfranogi yn niwrnod gwych Air Smiles ynghyd ag elusennau eraill sy’n bartneriaid i Airbus. Roedd yn ddigwyddiad a noddwyd gan Airbus ar y cyd â’r
Dywedodd Phil McGraa, Rheolwr Perthnasoedd Cymunedol Airbus: “Roeddem ni wrth ein bodd yn gallu cydweithio â fly2help i drefnu diwrnod yn llawn hwyl a chwerthin i lawer o blant a theuluoedd haeddiannol. Mae’n bleser cyfranogi a gweld cymaint o wynebau hapus ym Mrychdwn.”
GALL EICH BUSNES WNEUD GWAHANIAETH Mae JCB wedi cyfrannu £1,000 i noddi un o’u staff a fydd yn beicio o Fietnam i Gambodia Mae DTCC wedi cyfrannu £5,000 at ein gwaith moderneiddio a bydd £5,000 ychwanegol yn cael ei godi erbyn diwedd y flwyddyn. Maent hefyd wedi noddi ein Ras Lliwiau Mae fflapjacs cwmni Brynmor a dŵr gan gwmni Refresco wedi cael croeso yn ein holl brif ddigwyddiadau codi arian 17
Mae Solvay, HSBC, DTCC, Transcontinental a’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyfrannu eu hamser i helpu yn ein Canolfan Dosbarthu Fe wnaeth Hoya Lens noddi ein Ras Lliwiau Fe wnaeth cwmni Wrexham Lager noddi ein Diwrnod Golff Fe wnaeth Kronospan, GHP Legal a Tomlinson’s Dairies noddi ein Dol Heulwen
TAITH GERDDED ELLISON YN CODI DROS £7,000 Fe wnaeth staff yn Ellison Europe (Sizzix) a leolir yn Ystâd Ddiwydiannol Whitegate, Wrecsam, ddilyn Taith Gerdded Arfordir Cilgwri o Seacombe Ferry i Ganolfan Ymwelwyr a Pharc Gwledig Thurstaston er budd ein helusen. Cyfranogodd oddeutu 50 o gerddwyr, a chodwyd cyfanswm o £7.306.43. Dywedodd Becky Jones o gwmni Ellison: “Mae Tŷ’r Eos yn agos at ein calonnau yn y gymuned a byddwn ni bob amser yn awyddus i wneud beth allwn ni i helpu ag ymdrechion codi arian. Roedd y daith gerdded yn ddifyr iawn oherwydd roeddem ni oll yn gwisgo gwisg ffansi. Fe wnaeth nifer o bobl syllu arnom ni mewn syndod, ond roedd yn golygu y cawsom ni hyd yn oed rhagor o gyfraniadau yn ystod y daith!”
Tîm Ellison yn dathlu cwblhau Taith Gerdded Arfordir Cilgwri i godi arian!
Ynghyd â’u hymdrechion codi arian, mae Ellison yn cefnogi ein hospis trwy sawl dull arall yn cynnwys uwchgylchu dodrefn i’w gwerthu yn ein siopau, gweithdai Coffi a Chrefftau yn y siop yn Stryt y Rhaglyw yn Wrecsam, taith gerdded noddedig i fyny’r Wyddfa, a chyfrannu offer celf a chrefft gan eu brand, Sizzix, i’w defnyddio gan ein gweithwyr cymdeithasol.
CYMORTH HOLLOL WYCH GAN GWMNI LLAETH Mae un o’r cwmnïau o Wrecsam sy’n tyfu’n gyflymaf wedi addo cefnogi ein hospis diolch i bleidlais gan dros 400 aelod o staff. Bydd Tomlinson’s Dairies o’r Mwynglawdd yn codi arian at Dŷ’r Eos dros y 12 mis nesaf ac maent yn cyflenwi’r holl laeth y mae ar yr hopsis ei angen, sy’n gyfraniad gwych a wnaiff arbed llawer o arian i ni will. Dywedodd Debbie Barton, Rheolwr Partneriaethau Corfforaethol Tŷ’r Eos: “Rydym ni wrth ein bodd bod cwmni Tomlinson wedi dewis ein cefnogi ni ac rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio â phawb yn y cwmni yn ystod y flwyddyn sy’n dod. Roedd hi’n bleser ymweld â’r cwmni ac roeddem ni wrth ein bodd hefyd yn cael cyfle i groesawu Paul Jukes i Dŷ’r Eos i ddangos ein cyfleusterau a’n gwasanaethau iddo.”
Paul Jukes (Tomlinson’s Dairies) a Debbie Barton (Tŷ’r Eos)
Ychwanegodd Paul Jukes, Prif Swyddog Gweithredol Tomlinson’s Dairies: “Mae Tŷ’r Eos yn elusen sy’n gwneud gwaith pwysig yng nghanol ein cymuned. Mae llawer o’n cyflogeion wedi cael rhyw fath o gyswllt â’r hospis, ac rydym ni oll yn awyddus i fynd ati i godi arian i helpu’r hospis.”
WEDI CAEL YSBRYDOLIAETH? Gall eich busnes wneud llawer iawn o bethau i gyfranogi – yn cynnwys codi arian, diwrnodau cyfrannu a gwirfoddoli.
Ffoniwch Debbie Barton ar 01978 314292 i gael rhagor o wybodaeth. 18
TRI CHYNNIG I GYMRAES I DARO’R TARGED O £100,000 Mae menyw o Riwabon yn ymgyrchu i godi £100,000 at yr hospis a ofalodd am ei gŵr. Mae Bethan Scott eisoes wedi codi £66,000 o’i tharged anhygoel, ac mae hi wedi cynllunio llu o weithgareddau i’w helpu i gyflawni ei nod. Fe wnaeth Bethan, sy’n Gweithio i ScottishPower Energy Retail ym Mhentre Bychan, gychwyn codi arian at yr hospis yn dilyn marwolaeth ei hannwyl ŵr David (Dave), a gollodd ei frwydr 18 mis yn erbyn canser yn Awst 2017 pan oedd yn 53 mlwydd oed. Sgwrs yn angladd Dave oedd man cychwyn taith codi arian Bethan, yn llythrennol felly, pan ddywedodd ffrind y byddai’n hoffi cerdded ar hyd Mur Mawr China.
“Mae’r her bersonol yn wefreiddiol, ond mae’n wefreiddiol gwybod hefyd y bydd yr holl arian y byddwn ni’n ei godi yn cael ei ddefnyddio i helpu i ofalu am bob eraill y mae arnynt angen yr hospis. Mae hynny wedi cynorthwyo â fy adferiad yn fawr ac rwy’n benderfynol o daro’r targed o £100,000. Rwy’n gwybod y byddai Dave wedi bod yn falch iawn o wybod bod ei ffrindiau oll yn cydweithio i godi arian. Mae Bethan wedi bod yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau codi arian, yn cynnwys Hanner Marathonau Glasgow a Village Bakery, taith gerdded i fyny i gopa Ben Nevis gyda ffrindiau, gan gynnwys cydweithwyr o ScottishPower, a thaith gerdded er cof am Dave. Yn y dyfodol agos, bydd hi’n cyfranogi yn Ras Fawr y Gogledd, Hanner Marathon Caerdydd, Noson Rasys a llawer iawn rhagor, cyn ei thaith feicio arwrol 383km o Ddinas Ho Chi Minh yn Fietnam i Angkor Wat yng Nghambodia ym mis Tachwedd. Dywedodd Debbie Barton o Hospis Tŷ’r Eos: “Mae Bethan yn unigolyn nodedig ac ysbrydolgar. Mae ei gwaith codi arian yn ddiderfyn ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei holl ymdrechion. Mae’n amlwg bod Dave yn unigolyn hynod o boblogaidd ymhlith ei holl gymdeithion, fel mae’r ewyllys da tuag at ymdrechion codi arian Bethan gan deulu a ffrindiau yn ei brofi. Mae brwdfrydedd Bethan dros godi arian yn wirioneddol heintus.”
“Roedd hynny’n debyg i ffawd”, meddai Bethan. “Ychydig ar ôl i fy ffrind Deidre grybwyll y Mur Mawr, ymddangosodd hysbyseb yn Facebook am her newydd sbon yr oedd Tŷ’r Eos yn ei gynnig. Roedd Dave yn feiciwr a rhedwr hynod o heini - roedd yn barod am unrhyw antur. Roedd y cymorth a gafodd gan yr elusen yn ystod ei salwch wedi bod yn wych, a chafodd hynny trwy gyfrwng y Gwasanaeth Dydd a defnydd o’r pwll hydrotherapi yn bennaf, felly roedd fel pe bai’n addas derbyn yr her hon er cof amdano.” Fe wnaeth Bethan, ei brawd Geraint, ynghyd â Deidre a’i gŵr Neil, ymuno â 24 o godwyr arian eraill i gerdded ar hyd y Mur Mawr yn Hydref 2018. Fe wnaeth y pedwar diwyd ragori ar eu targed gwreiddiol o £25,000, a chodwyd £41,524, “Roedd yn brofiad rhyfeddol, a’r uchafbwynt oedd gallu gosod bricsen yn y Mur er cof am Dave. Roedd derbyn yr her yn ffocws gwych i mi, a heb os nac oni bai, roedd yn fan cychwyn rhywbeth mwy, oherwydd rwyf i bellach wedi cofrestru i gyfranogi yn y Daith Feicio o Fietnam i Gambodia eleni a Llwyr yr Inca yn 2020.
Gall unrhyw un sy’n dymuno cefnogi ymdrechion Bethan gyfrannu yn:
justgiving.com/fundraising/cycle4DRS 19
Bethan a Dave Scott
PE BAWN I’N FLODYN, BYDDWN I’N FLODYN HAUL
Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni benderfynu y byddai’n syniad da lansio ymgyrch neu ddigwyddiad haf i helpu i godi arian at ofal cleifion a dathlu bywydau anwyliaid ar yr un pryd. Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil a thrafod y posibiliadau, cawsom y syniad o greu Dôl Heulwen - carped o 1000 o Flodau Haul tragwyddol Tŷ’r Eos yn Stable Bank yng Nghastell y Waun sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Cefndir - cefndir prydferth ac eiconaidd. Ni fyddem ni wedi dychmygu i ba raddau y byddai’r syniad hwn yn hoelio sylw pawb! Mae’r ymateb gan ein cefnogwyr ac aelodau eraill o’r cyhoedd wedi bod yn rhyfeddol! Cafodd y BBC ei hysbrydoli hefyd gan y syniad, a chafodd y blodau haul sylw yn rhaglen newyddion Wales Today ar 19 Mehefin pan wnaeth y nifer o flodau a werthid gychwyn codi i’r entrychion. Fe wnaeth gweld y blodau hardd hynny â Chastell y Waun yn y cefndir ennyn ymateb gwych gan bobl oedd yn dymuno prynu blodyn haul er cof am rywun oedd wedi ysbrydoli eu bywydau. Roeddem ni wedi bod yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ystyried sut y gallai’r hospis ddefnyddio mannau arbennig i gefnogi’r cleifion a’u teuluoedd, ac fe wnaethom ni eu holi am y posibilrwydd o arddangos ein blodau haul ar gloddiau’r castell, yn debyg iawn i’r dull o arddangos y pabïau yn Nhwr Llundain, ond ar raddfa llawer llai. Cafodd y blodau haul pwrpasol eu creu gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt. Yna, roedd yn rhaid i ni ystyried sut YN UNION y gallem ni osod 1000 o flodau haul yn y ddaear a’u harddangos i sicrhau’r budd pennaf i’r hospis. Fe wnaethom ni sgwrsio ag Ellison (Europe) sydd wedi ein cefnogi ni mewn sawl ffordd yn ystod blynyddoedd diweddar, ac ar ôl ymweliad â’r safle, fe wnaethant gytuno y gallai Lisa, eu cynllunydd hyfryd, ein cynorthwyo ni, a chynlluniodd hi’r arddangosfa. Fe gawsom ni hefyd fenthyca rhai o aelodau eu Tîm Marchnata, ynghyd â gwirfoddolwr o DWP, i osod bob un o’r 1000 o flodau haul yn y ddaear â hithau’n tywallt y glaw, a threfnu’r arddangosfa yn unol â chynllun Lisa. Rydym ni’n hoffi meddwl bod y cynllun ar ffurf gwên. Roeddem ni’n ffodus iawn o gael nawdd at yr ymgyrch gan dri busnes lleol mawr eu bri, sef GHP Legal, Kronospan a Tomlinson’s Dairies. Ni fyddid wedi gallu cynnal y digwyddiad heb eu cymorth. Mae partneriaid cwmni cyfreithwyr GHP Legal, yn Wrecsam, Croesoswallt, Llangollen a’r Waun yn parhau â’u cysylltiad â Thŷ’r Eos, cysylltiad sydd wedi para nifer o flynyddoedd, yn cynnwys cyfranogi yn yr Wythnos Ewyllysiau ers i’r ymgyrch gychwyn. Mae Kronospan hefyd wedi noddi ein hospis sawl gwaith yn y gorffennol, a bu Tomlinson’s Dairies yn ddigon caredig hefyd i gyfrannu at noddi Dôl Heulwen, ond maent hefyd yn cyfrannu at nifer o brosiectau gyda ni ar hyn o bryd.
Mae’r arddangosfa bellach wedi dod i ben, a gobeithio, os gwnaethoch chi brynu un, eich bod chi eisoes wedi mynd â’ch blodyn haul adref i’w gartref tragwyddol neu y gwnewch chi hynny’n fuan.
Diolch o waelod calon i bawb ohonoch chi am eich cefnogaeth chi - rydym ni’n gwybod na fydd arnoch chi angen blodyn haul i gofion am eich anwyliad, ond rydym ni’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r atgofion am hynny pan fyddwch chi’n edrych arno. 20
SYML
TAPIWCH UNWAITH I GYFRANOGI YN EIN LOTERI...
nightingalehouse.co.uk/lottery BYDDWCH YN ENILLYDD AC ARIANNWCH OFAL I GLEIFION
DIGWYDDIADAU CYMUNEDOL
Te Prynhawn yn cynnwys Prosecco (i godi arian at ddigwyddiad Llwybr yr Inca) Dydd Sul 15 Medi, 2yp - 4yp Caffi Cwtch, Heol Caer, Wrecsam LL11 2SJ £20.00 y pen Ffoniwch: Debbie Wright ar 07875 541671 Dawns Pili Pala Tš’r Eos Dydd Sadwrn 28 Medi, 7:30yh Celtic Arms, Llaneurgain, yr Wyddgrug, CH7 6WA £40.00 y pen Ffoniwch: Swyddfa Cadeirydd Sir y Fflint ar 01352 702151 Noson Lansio Groto Nadolig Bellis Brothers Dydd Gwener 29 Tachwedd, 6yh - 8yh Bellis Brothers, Holt, Wrecsam LL13 9YU £4.50 y plentyn I archebu eich lle, ffoniwch: 01829 270302 Brecwast gyda Siôn Corn (Bellis Brothers) Bob dydd Sadwrn rhwng 20 Tachwedd ac 21 Rhagfyr, 9yb – 10:30yb Bellis Brothers, Holt, Wrecsam LL13 9YU Brecwast oedolyn £7.95 Brecwast plentyn £7.45 I archebu eich lle, ffoniwch: 01829 270302 Groto Siôn Corn (Bellis Brothers) Bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 30 Tachwedd a 22 Rhagfyr, 11yb – 4yp Bellis Brothers, Holt, Wrecsam LL13 9YU £4.50 y plentyn I archebu eich lle, ffoniwch: 01829 270302 Carolau Nadolig a Chinio yng nghwmni Sioned Terry Dydd Mercher 11 Rhagfyr, 12:30yp Plas Hafod, Gwernymynydd, yr Wyddgrug CH7 5JS £32.50 y pen Ffoniwch: Martin Jones ar 01352 752632
Diwrnod Treftadaeth Agored Dydd Sadwrn 14 Medi, 10yb - 5yh Y Pentre, Bronygarth, Croesoswallt SY10 7LY Ffoniwch: 01691 770922 neu e-bostiwch helenlloyd@ gmail.com
HER Y CROESAIR
Allwch chi wneud ein croesair ymhen llai nag awr? Across
Down
1 Beautiful (8) 5 Moves through water (5) 10 Unconventional (7) 11 Pilot (7) 12 Pollen gatherers (4) 13 When the living is easy (10) 14 Otherwise (4) 16 Artificial sparkler (10) 19 Corridor (10) 22 Yorkshireman (4) 24 Preceding wedlock (10) 25 Precious stones (4) 28 Shining (7) 29 Hollowed inward (7) 30 Bovine mammary gland (5) 31 Austrian Alpine resident (8)
1 Farewell (7) 2 Plunder (5) 3 Paradise (4) 4 Lie (7) 6 Restaurant worker (8) 7 Marriage (9) 8 Opera by Bizet (6) 9 Current of air (6) 15 Pendent (9) 17 Large island in the Channel (1,1,1) 18 Computer information store (8) 19 Thin and translucent (6) 20 Expels (6) 21 Disorder (7) 23 Oriental (7) 26 Fill with high spirits (5) 27 Untie (4)
A WYDDOCH CHI?
A hoffech chi sefydli Gržp Cymunedol yn eich ardal i helpu i godi arian at Dš’r Eos a chefnogi gwaith yr hospis? Os felly, ffoniwch 01978 314292 neu e-bostiwch: susan.williams@nightingalehouse.co.uk claire.quant@nightingalehouse.co.uk
Caffi arobryn
yn codi arian at Hospis Ty’r Eos I gael rhagor o wybodaeth, trowch at:
www.cafficwtchwrexham.com
Across: 1 Gorgeous, 5 Swims, 10 Offbeat, 11 Aviator, 12 Bees, 13 Summertime, 14 Else, 16 Rhinestone, 19 Passageway, 22 Tyke, 24 Premarital, 25 Gems, 28 Radiant, 29 Concave, 30 Udder, 31 Tyrolean. Down: 1 Goodbye, 2 Rifle, 3 Eden, 4 Untruth, 6 Waitress, 7 Matrimony, 8 Carmen, 9 Breeze, 15 Suspended, 17 I o W, 18 Database, 19 Papery, 20 Evicts, 21 Anarchy, 23 Eastern, 26 Elate, 27 Undo.
Y Bala, Corwen, Hanmer, Lavister, Coed Llai, Llangollen, yr Wyddgrug, Rhosllannerchrugog a Wrecsam.
v
Mae gennym ni ddeg grĹľp cymunedol yn ein dalgylch.
22
MYNEDIAD AM DDIM
PARCIO AM DDIM
FFAIR
NADOLIG DYDD SADWRN 23 TACHWEDD NEUADD EGLWYS SANTES MARGARET FFORDD CAER, WRECSAM
P Y 2 B Y 10
AU STONDIN H LLUNIAET LIG O D A N U CARDIA ON ANRHEGI R! A LLAWER
RHAGO
01978 314292 NIGHTINGALEHOUSE.CO.UK Hospis Tŷ’r Eos. Elusen Gofrestredig Rhif: 1035600 (Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr)