
2 minute read
Rhagair - Neges gan y Prif Swyddog Gweithredol
Dyma ein Gweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd. Mae’r strategaeth hon yn nodi ein dull yn y tymor hir o ymdrin â heriau newid hinsawdd mewn ffordd gynaliadwy ac economaidd.
Mae ClwydAlyn eisoes yn arwain y blaen o ran ymdrin â ‘Phroblemau Astrus’ fel tlodi, iechyd a llesiant a digartrefedd. Mae Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog wedi gosod targed i sicrhau bod yr holl gartrefi yn rhai Di-garbon erbyn 2050. Ond, ein huchelgais ni yw gyrru’r newid hwn yn gynharach!
Mae ymchwil yn awgrymu bod yr aelwydydd tlotaf yn gwario chwe gwaith yn fwy fel canran o’u hincwm ar ynni na’r rhai sy’n ennill mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym am dorri tir newydd wrth wynebu’r heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau.
Rydym yn cydnabod bod angen i’n busnes newid ei ymddygiad i ymdrin â’r brys sydd o ran yr argyfwng hinsawdd, sy’n gofyn am fuddsoddiad sylweddol o ran cyfalaf, adnoddau ac amser. Byddwn yn sicrhau bod ein Preswylwyr, Staff, Cartrefi, Busnes a Chymunedau yn cael eu hystyried yn ofalus ym mhopeth a wnawn.
Mae gennym ddyletswydd i genedlaethau’r dyfodol i sicrhau ein bod yn ymwreiddio ein Gwerthoedd trwy ein Strategaeth Amgylcheddol, Gymdeithasol a Llywodraethu sy’n sail i’n busnes. Bydd y weledigaeth hon yn ein helpu i nodi map hyd at 2035 trwy roi ein pobl a’n cymunedau yn ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud. Bydd hyn yn gadael i ni ymdrin â’r anghyfartaledd cymdeithasol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ein cymdeithas, yn ogystal â chreu amgylchedd iach a glân sy’n gynaliadwy. Byddwn yn dechrau trwy leihau ôl troed carbon ein gweithgareddau busnes trwy wneud cartrefi ein preswylwyr yn fforddiadwy ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Ein nod yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl, gan leihau’r effaith ehangach ar wasanaethau gofal iechyd a’n cymunedau. Trwy fod â gweledigaeth dymor hir byddwn yn gallu defnyddio’r cyfle hwn i gefnogi’r economi gylchol ar ein taith tuag at fod yn Ddi-garbon. Byddwn yn ddeinamig a rhagweithiol i sicrhau ein bod yn barod i wynebu unrhyw heriau amgylcheddol newydd fel y byddant yn digwydd yn ystod y 15 mlynedd a mwy nesaf.
Rydym wedi cyffroi o gychwyn ar ein cenhadaeth i ddod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar a chynaliadwy ac rydym yn eich croesawu chi i ymuno â ni ar ein taith.
Clare Budden
Prif Swyddog Gweithredol Tai ClwydAlyn