9 minute read
NEWYDDION DIWEDDARAF
NEUADD MALDWYN,
BYW’N ANNIBYNNOL
I BOBL HŶN.
Diolch
AM FYNEGI DIDDORDEB
YN NEUADD MALDWYN.
Rydym yn bwriadu rhoi cylchlythyr chwarterol i chi, yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar sut y mae'r datblygiad yn dod yn ei flaen a llawer mwy. Hwn yw'r cyntaf o lawer!
Y Diweddaraf Am Y Cynnydd
Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, mae’r gwaith daear cryfhau wedi ei gwblhau, ar ben chwith eithaf y safle, wrth ymyl y gamlas, gosodwyd llawr y llawr isaf ac mae’r gosodwyr brics wedi cael y dasg o godi’r waliau hyd at y llawr cyntaf.
Yn y cyfamser, ar ochr arall y safle, agosaf at y cylchdro, mae codi a gosod slabiau concrid yr ail lawr wedi ei orffen ac mae rhan o'r to yn ei le..
O ran yr adeilad sy’n bodoli, gosodwyd y sgaffaldiau o’i gwmpas ac mae’r gwaith trwsio’r to wedi dechrau, ac adnewyddu’r ffenestri sash, yn fewnol gwnaed newidiadau i ffurfio drysau newydd.
Edrych Ymlaen
Am yr ychydig fisoedd nesaf, rhagwelir mai mwy o’r un fath fydd i raddau helaeth wrth i gragen y bloc newydd yng nghefn y safle ddal i gael ei adeiladu, mwy o friciau a blociau, mwy o forter a mwy o waith craen!
Er mwyn cynorthwyo ymhellach wrth ddosbarthu’r miloedd lawer o frics o gwmpas y safle, codwyd ail graen tŵr trydan.
Gallwch ddal i ddisgwyl gweld llif cyson o lorïau yn cludo deunyddiau i’r safle, briciau a blociau yn bennaf. Tua diwedd y flwyddyn, fe welwch chi’r trawstiau to pren cyntaf yn cyrraedd, arwydd pendant o gynnydd!
Mae’r holl waith yn symud ymlaen yn dda ar y safle yn ôl y rhaglen waith ac fe ddylai’r datblygiad gael ei orffen yng ngwanwyn 2024.
DEWCH I FYW YN ANNIBYNNOL GYDA GOFAL A CHEFNOGAETH FEL Y BYDD ARNOCH EI ANGEN
Cynllun byw’n annibynnol yw Neuadd Maldwyn, gan Cymdeithas Tai ClwydAlyn, ar y cyd â Chyngor Sir Powys. Datblygiad 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen Gofal neu Gefnogaeth wedi ei asesu. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal y Trallwng sydd â chysylltiadau clos ag ardal y Trallwng. Bydd y gwasanaethau rheoli tai a’r gwasanaethau ategol yn cael eu darparu gan ClwydAlyn, tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gofal cartref ar y safle.
NODWEDDION ALLWEDDOL
Fflatiau un a dwy ystafell wely ar rent yn ddibynnol ar feini prawf cymhwyster
Preifatrwydd ac annibyniaeth
Gerddi wedi eu tirlunio
Bwyty
Lolfa i’r Preswylwyr
Ystafell aml-weithgaredd
Ystafelloedd ymolchi ar wahân gyda chymorth
Ystafell olchi dillad
Ystafell i wahoddedigion
Storfa Bygis/sgwteri
Gofal sy’n rhoi’r pwyslais ar yr unigolyn a gynigiwn, a ddatblygwyd dros flynyddoedd maith o weithio gyda phobl hŷn, gan ganolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, gofal a chefnogaeth i gadw preifatrwydd, urddas, annibyniaeth a dewis.
Ffurflenni Cais
Ni fydd ffurflenni cais ar gyfer y cynllun yn cael eu hanfon atoch yn fuan.
Bydd yr holl geisiadau’n cael eu hadolygu a’u hystyried trwy ymgynghori â Chyngor Sir Powys a’r gweithwyr Iechyd proffesiynol perthnasol, felly nid oes unrhyw fantais o lenwi ac anfon ffurflen gais yn rhy fuan, gan fod eich amgylchiadau’n debygol o newid os caiff y ffurflen ei hanfon yn rhy fuan.
Patrwm Mewnol Unigryw I Neuadd Maldwyn
Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II ac fe’i defnyddiwyd gan Gyngor Sir Powys hyd 2021 a chyn hynny roedd yn brif swyddfa i Gyngor Dosbarth a Sir Drefaldwyn.
Mae’r adeilad yn dyddio yn ôl i ddechrau’r 20fed ganrif a bydd ei addasu ar gyfer cynllun byw’n annibynnol i bobl hŷn yn cael ei gynnal mewn modd llawn cydymdeimlad gan gadw cyfoeth o’i nodweddion gwreiddiol.
Mae BPA Architecture wedi bod yn gweithio gyda ni ar du mewn Neuadd Maldwyn. Mae BPA Architecture yn gwmni o Benseiri sy’n arbenigo mewn dylunio mannau hygyrch.
BPA Architecture: Rydym yn hoffi dylunio mannau ffres, cyffrous i breswylwyr eu mwynhau trwy edrych yn ofalus ar y cyd-destun o’u cwmpas, yr ydym yn eu defnyddio i ddatblygu themâu addas yn yr adeiladau. Rydym hefyd yn ceisio sicrhau bod eglurder i bobl sydd â nam ar eu golwg neu ddementia i’w cynorthwyo i ddod o hyd i’w ffordd a chynnig amgylchedd sy’n ysgogol.
BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶN – GOFAL YCHWANEGOL
Rydym wedi defnyddio adeilad gwreiddiol y Cyngor fel sail a datblygu’r grisiau smart yn y fynedfa i amlygu nodweddion gwreiddiol yr adeilad hanesyddol. Mae derbynfa ger y fynedfa lle gall preswylwyr ac ymwelwyr fwynhau paned o de neu goffi wrth weld beth sydd ymlaen neu gyfarfod ffrindiau. Mae lolfa hefyd gydag ardal deledu a lle tân clyd gerllaw. Mae’r bwyty yn hen siambr y cyngor gan greu cefnlen gain i fwyta bwyd hyfryd.
Mae’r golchdy yn agor yn uniongyrchol i’r ardd ddiogel ac mae yno le i eistedd a sgwrsio wrth olchi dillad. Mae’r ystafelloedd amlbwrpas yn yr ystafelloedd ar ben y grisiau crand yn edrych dros yr ardd ffrynt, wedi eu haddurno’n gynnil, gydag amrywiaeth o ddodrefn ar gyfer gwahanol ddibenion. Mae’r ystafelloedd ymolchi pampro yn groesawus a bydd ymolchi yn bleser yno.
Rydym yn cyfeirio at Neuadd Maldwyn fel cynllun byw’n annibynnol i bobl hŷn, caiff ei alw yn ‘Gynllun Gofal Ychwanegol’ hefyd. Beth yw gofal ychwanegol?
Mae Gofal Ychwanegol yn gysyniad blaengar, gan gynnig y cyfuniad unigryw o ffordd o fyw annibynnol gyda gofal cartref a chefnogaeth ar y safle. Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig y cyfle i bobl fyw yn eu fflatiau hunangynhwysol eu hunain, gan wybod petaent yn mynd yn fwy dibynnol neu fregus y bydd gofal a chefnogaeth ar gael ar y trothwy. NID yw Neuadd Maldwyn yn Gartref Gofal, mae’n golygu byw’n annibynnol gyda Thîm Gofal ar y safle os bydd angen.
BYW’N ANNIBYNNOL:
Byddwch yn byw yn eich cartref eich hun gyda daliadaeth ddiogel a’ch drws ffrynt eich hun. Rhoddir Gofal Cartref ar sail angen wedi ei asesu gan dîm sydd ar y safle ddydd a nos.
Byddwch yn cael eich cefnogi i gadw eich annibyniaeth
Gall cyplau a ffrindiau aros gyda’i gilydd
Y ffactor allweddol sy’n gwneud gofal ychwanegol yn wahanol i dai cysgodol neu ymddeol yw presenoldeb staff gofal ar y safle. Mae’r dyluniad a’r adeiladwaith yn hyblyg ac yn rhai y gellir eu haddasu fel y bydd eich anghenion yn newid. Amgylchedd cartrefol, y gallwch fod yn falch ohono, ac sy’n gwella ansawdd eich bywyd. Creu cyfleoedd i chi gael preifatrwydd, bod yn gyfforddus, cefnogaeth a chwmnïaeth, yn eich gofod byw preifat ac fel rhan o gymuned fywiog. Prif ddiben tai gofal ychwanegol yw cynnig llety hawdd ei reoli sy’n cefnogi annibyniaeth y preswylwyr.
Bydd Rheolwr Cynllun yn gweithio ar y safle i’ch helpu i reoli eich tenantiaeth
Chi sy’n rheoli eich arian eich hun
Byddwch yn ddiogel
Pryd maethlon ar amser cinio ar gael bob dydd yn y bwyty ar y safle
Cyfleusterau cymunedol modern ar y safle i annog cymdeithasu
Cwestiynau Cyffredin
Faint mae’n ei gostio?
Os ydych yn rhentu fflat cynllun byw’n annibynnol gennym, byddwch yn talu rhent a thâl gwasanaeth am gynnal a chadw’r adeiladau a’r tir, a thâl am brydau amser cinio sy’n cynnwys prif gwrs, pwdin a diod.
Chi fydd yn gyfrifol am dalu eich biliau cyfleustodau eich hun (gan gynnwys nwy, trydan, trethi dŵr), yswiriant cynnwys a biliau ffôn. Bydd yr holl daliadau a chyfrifoldebau yn cael eu trafod yn llawn yn ystod y broses ymgeisio.
Beth sy’n cael ei gynnwys yn y rhent?
Mae’r rhent yn cynnwys eich holl waith cynnal a chadw, gan gynnwys cynnal a chadw o ddydd i ddydd a gwaith mawr tymor hir (e.e. adnewyddu ffenestri).
Nid oes raid i chi boeni am unrhyw waith cynnal a chadw; dim ond rhoi adroddiad am y diffyg a bydd rhywun yn gwneud y gwaith trwsio.
Taliadau Gwasanaeth
Rhaid i’r holl breswylwyr dalu Tâl Gwasanaeth a thâl bwyd wythnosol, mae hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys un pryd y dydd (sy’n bryd 2 gwrs a diod). Amlinellir yr holl wasanaethau eraill isod:
Glanhau a Chynnal a Chadw
Glanhau ardaloedd cymunedol
Golchi ffenestri
Casglu sbwriel (o’r storfa finiau)
Garddio
Cynnal a chadw: system fynediad, larymau tân, golau argyfwng, lifftiau, offer derbyn teledu, cegin gymunedol ac offer golchi dillad, goleuadau a gwresogi cymunedol, offer Teleofal.
A allaf fforddio byw yn Neuadd Maldwyn?
Mae rhent a thaliadau gwasanaeth yn daladwy dan Gontract Meddiannaeth. Yn ddibynnol ar eich incwm a’ch cyfalaf, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer budd-dal tai ar gyfer eich rhent a rhai o’r taliadau gwasanaeth. Os byddwch yn gymwys i gael budddal tai fe allwch fod yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol tuag at wasanaethau gofal a chefnogaeth hefyd. Mae gennym Swyddog Budd-daliadau Lles fydd yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth i bennu a oes gennych hawl i fudd-dal tai, neu amrywiaeth o gefnogaeth ariannol arall sydd ar gael i bobl hŷn ac anabl. Ein nod yw sicrhau eich bod yn cael yr incwm mwyaf posibl fel eich bod yn cael y gefnogaeth ariannol y mae gennych hawl iddi.
Sut fydd y gofal yn cael ei ddarparu?
Bydd Tai ClwydAlyn yn darparu’r gwasanaethau rheoli ac ategol ar y safle tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am gynnig gofal ar y safle 24 awr y dydd, i denantiaid sydd ag angen wedi ei asesu.
Gosodwyd yr offer Teleofal a diogelwch diweddaraf ym mhob fflat, gan sicrhau bod help gyffyrddiad botwm i ffwrdd. Dyluniwyd y cynllun cyfan i fod yn ‘Ddiogel trwy ei Ddyluniad’ i wella ymdeimlad y tenantiaid o ddiogelwch. Y nod yw cadw annibyniaeth cyn belled ag y gellir, gan ddarparu gofal a chefnogaeth yn ôl y galw, i gynnig tawelwch meddwl yn awr ac i’r dyfodol.
Pa lefel o ddiogelwch sydd yn y cynlluniau / fflatiau?
Bydd y cynlluniau’n cael eu hardystio yn “Ddiogel trwy Ddyluniad”. Mae’r camau i wella ymdeimlad y preswylwyr o fod yn ddiogel yn cynnwys drysau sy’n cael eu rheoli hefo ffob, system fynediad, camerâu cylch cyfyng, cloeon ffenestri, ffensys/waliau o’u hamgylch.
Pa lefel o ofal fydd yn cael ei ddarparu?
Bydd Cyngor Sir Powys yn asesu anghenion gofal y tenantiaid fydd yn cael fflat ac yn darparu’r tîm gofal ar y safle fydd yn bresennol 24 awr y dydd. Bydd y gofal yn cael ei deilwrio i’r unigolyn a gall gynyddu neu leihau yn ôl y gofyn yn dilyn asesiad. Bydd cymysgedd o denantiaid gyda gwahanol lefelau o ofynion gofal, a all fod yn isel, canolig neu uchel, er mwyn creu cymuned gytbwys sy’n hybu annibyniaeth gydag ymdeimlad o ddiogelwch ac iechyd.
Pa brydau fydd yn cael eu darparu?
Bydd cinio yn cael ei ddarparu rhwng 12 a 2 y prynhawn yn y prif fwyty, sy’n cael ei gynnwys fel tâl ar wahân am bryd ochr yn ochr â’r taliadau gwasanaeth ac yn cynnwys prif bryd, pwdin a diod.
Mae ein staff arlwyo yn ymfalchïo mewn cael gwybod am ddewisiadau ac anghenion unigol ein preswylwyr ac yn darparu dewis o brydau maethlon, amrywiol o safon uchel i fodloni amrywiaeth o anghenion o ran maeth, a gofynion dietegol arbenigol i unigolion sydd ag anghenion penodol.
Gall tenantiaid wahodd gwahoddedigion i ymuno â nhw am ginio trwy archebu gan dîm y bwyty yn y bore.
Mae’r pris yn nodweddiadol tua £6 y pen ac mae’r taliadau yma yn cael eu talu i’r cyfrif taliadau bwyd i gadw’r costau i lawr i denantiaid.
BETH MAE EIN PRESWYLWYR YN EI DDWEUD…
I lawer o’n preswylwyr, mae byw yn ein cynlluniau byw’n annibynnol wedi newid eu bywydau ac nid ydynt wedi edrych yn ôl o gwbl. Dyma beth mae rhai o’n preswylwyr yn ei feddwl am fyw yn ein cynlluniau…
" Rwyf wedi bod yma ers i’r cynllun agor 4 mlynedd yn ôl, ac mae fy fflat 1 ystafell wely yn berffaith i mi. Y pethau gorau am fyw yma yw nad wyf fi byth ar fy mhen fy hun, mae’r cynllun mor agos i’r siopau, ac rwy’n mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau fel bingo ac ati. Rwyf hefyd eisiau diolch i’r gofalwyr am fod yna i mi yn ddiweddar pan oedd arnaf eu hangen. Mae’n wych cael y cymorth yna ar y safle ac rwy’n falch iawn fy mod wedi symud yma."
" Fe wnes y penderfyniad i symud i Lys Raddington gan fod arnaf angen tai â chefnogaeth ar ôl colli fy nghoes; fe symudais i fyngalo yn Saltney i gychwyn, ac wedyn symud yma i fy fflat. Mae fy ngwreiddiau yn y Fflint ac mae’n braf bod adre, ac mae’r bobl yn glên a’r staff yn wych. Wrth fyw yng nghanol y Fflint mae’n hawdd mynd i siopa a chael tripiau bws, ac mae’r cynllun hefyd yn ganolog i’m teulu ymweld gan eu bod yn byw yn lleol. Allwch chi ddim ei guro, a dwi’n meddwl bod rhaid i chi ei wneud yn gartref i chi eich hun. Rwyf wedi gwneud ffrindiau yma ac yn teimlo’n lwcus iawn."
" Symudais i fy fflat fis Tachwedd diwethaf. Rwyf wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd a mwynhau’r cwmni a’r tynnu coes sy’n mynd ymlaen yn y boreau coffi ac ar amser bwyd! Er nad oes arnaf angen gofal ychwanegol fy hun, rwy’n gweld bod y staff yn gyfeillgar iawn ac yn ofalgar i’r rhai sydd ei angen. Nid wyf yn difaru symud yma o gwbl er ei bod yn anodd gorfod gadael fy nhŷ a’r ardd ond mae’r profiad o fyw yma yn gwrthbwyso hynny’n llwyr. Mae gan fy nheulu dawelwch meddwl o wybod fy mod mewn amgylchedd diogel a saff."
Tony yn Llys Raddington, Y Fflint
" Symudais i Faes y Dderwen yn gynnar yn 2020. Mae fy nghartref yn fflat byw’n annibynnol 1 ystafell wely yr wyf wrth fy modd ag o. Mae Rheolwr y Cynllun a’r staff yn gyfeillgar iawn. Rwy’n teimlo’n ddiogel yma ac rwyf wedi ymuno â’r boreau coffi a hefyd y nosweithiau bingo ac unrhyw gyfarfodydd cymdeithasol! Mae fy mywyd wedi newid cymaint ers i mi ddod i fyw yma, rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac mae fy hyder wedi cynyddu, fyddwn i ddim yn dymuno byw yn unlle arall; rwy’n hapus yma."