Dysgu a Sganio'r Gorwel Rhyngwladol Adroddiad Gwerthuso Cryno

Page 1

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gyfres Gweminarau COVID-19 Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol Adroddiad Gwerthuso Cryno Catherine Evans Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Hydref 2020


1.

Cyflwyniad

Cynhelir Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru gan yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd sydd wedi ei lleoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Ymysg y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, ceir cyfres o seminarau sydd yn ceisio hybu arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg. Mae’r gyfres yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae enghreifftiau diweddar wedi cynnwys Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar, Anableddau Dysgu a Digartrefedd. Cyflwynir datganiad o weledigaeth ar gyfer y gyfres o seminarau isod: Bydd Cyfres o Seminarau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu rhanddeiliaid ar faterion iechyd y cyhoedd cyfoes trwy ddarlithoedd, trafodaethau a sgyrsiau, er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth a chyfrannu at ddeialog iechyd y cyhoedd presennol ac yn y dyfodol. Nodau’r gyfres o seminarau yw:   

Rhoi cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu gydag ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sydd yn effeithio ar Gymru; Datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang; Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd ymhellach.

Oherwydd COVID-19 a’r angen i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, rydym wedi gohirio ein seminar flynyddol wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, roeddem o’r farn ei fod yn bwysig parhau i rannu a dysgu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Felly dechreuwyd cyfres o weminarau yn ymwneud â COVID-19 ym mis Gorffennaf 2020. Enw’r weminar gyntaf oedd COVID-19: Yn Gryno a theitl yr ail weminar oedd Asesiad o Effaith ar Iechyd ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ COVID-19 yng Nghymru. Gellir gweld y ddwy weminar ynghyd â’u hadroddiadau gwerthuso ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad gwerthuso hwn ar gyfer y drydedd weminar a ddefnyddir i gynllunio a gwella profiad y defnyddiwr o weminarau yn y dyfodol ymhellach.


2.

COVID-19: Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol

Cynhaliwyd y weminar hon ar 30 Gorffennaf 2020 gan ddefnyddio meddalwedd digwyddiadau byw Microsoft Teams. Hwyluswyd y weminar gan Dr Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyflwynwyd y weminar gan aelodau canlynol o dîm Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd:     

Lauren Couzens, Uwch Reolwr Prosiect (Iechyd Byd-eang) Anna Stielke, Swyddog Datblygu Tystiolaeth Ryngwladol Mischa Van Eimeren, Uwch Swyddog Datblygu Polisi a Thystiolaeth Ryngwladol (Brexit) Angie Kirby, Swyddog Cymorth Prosiect James Allen, Gwyddonydd Iechyd y Cyhoedd (Iechyd Rhyngwladol)

Cychwynnwyd ffrwd waith Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol yn dilyn ymateb esblygol iechyd y cyhoedd i COVID-19 a’r cynlluniau adferiad yng Nghymru. Cyflwynir y ffrwd waith gan Gyfarwyddiaeth Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru i Lywodraeth Cymru. Rhoddodd y weminar drosolwg o’r adroddiadau sydd yn cael eu creu gan y ganolfan sydd yn canolbwyntio ar ddod â thystiolaeth ryngwladol COVID19 ynghyd i ddeall yn well ac archwilio atebion i fynd i’r afael ag effeithiau iechyd, llesiant, cymdeithasol ac economaidd sydd yn dod i’r amlwg yn sgîl yr achosion. Mae’r cyflwyniadau unigol ar publichealth.network@wales.nhs.uk neu Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

3.

gael gellir

trwy gysylltu â eu gweld ar wefan

Gwerthusiad

Cofrestrodd cant a dau o bobl ar gyfer y weminar a mynychodd 50 ar y diwrnod. Yn anffodus, oherwydd anawsterau technegol, nid oedd y mynychwyr yn gallu cael mynediad i’r weminar o ddechrau’r cyflwyniad. Anfonwyd dolen arall at bawb oedd wedi cofrestru 15 munud ar ôl i’r weminar ddechrau. Roedd hyn yn golygu y gallai ychydig dros hanner y bobl hynny a gofrestrodd fod wedi methu cael mynediad i’r weminar, ond


anfonwyd dolen i recordiad byw ar ôl y weminar er mwyn gallu ei gwylio yn llawn. Ers 15 Hydref, mae’r recordiad byw wedi cael ei wylio 91 o weithiau. Mae’r tabl canlynol yn dangos mynychwyr o ba sector a gynrychiolwyd ar y diwrnod: Sector Tîm Canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru Tîm Lleol Iechyd Cyhoeddus Cymru Bwrdd Iechyd Lleol Llywodraeth Cymru Awdurdod Lleol Trydydd Sector Academaidd Arall: Tai

Nifer 20 5 5 2 2 9 5 2

Gofynnwyd i’r mynychwyr gwblhau arolwg gwerthuso ar-lein dienw trwy Survey Monkey ar ôl y weminar. Y gyfradd ymateb i’r arolwg oedd 14% (N=7). Anfonwyd dau e-bost yn atgoffa’r mynychwyr ar ôl y weminar ond roedd nifer y bobl a gwblhaodd yr arolwg yn isel iawn. Gallai hyn fod oherwydd y problemau yn ymwneud â chael mynediad i’r weminar. 3.1. Canlyniadau meintiol Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg a oeddent yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Roedd pump yn aelodau presennol o’r Rhwydwaith. Yn yr wythnos yn dilyn y seminar, cafodd y Rhwydwaith wyth cofrestriad ar gyfer aelodau newydd, llawer ohonynt yn cael eu hystyried fel canlyniad uniongyrchol o’r weminar, a/neu fynychwyr yn hyrwyddo’r Rhwydwaith yn eu meysydd nhw. Gan nad yw Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal llawer o weminarau byw, teimlwyd bod angen gofyn i’r mynychwyr a gawsant unrhyw anawsterau technegol wrth gymryd rhan yn y weminar. Soniodd pedwar person eu bod wedi methu cael mynediad i’r weminar ar ddechrau’r cyflwyniad. Fodd bynnag, ni nodwyd unrhyw broblemau eraill. Roedd cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r mynychwyr nodi o 1 i 5, (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) ‘Pa mor ddefnyddiol oedd y weminar yn eich barn chi?’ Dywedodd pedwar o’r 7 eu bod o’r farn bod y weminar yn ddefnyddiol iawn.


Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis o gyfres o atebion a/neu roi eu hymateb eu hunain i’r cwestiwn canlynol; ‘O ganlyniad i gymryd rhan yn y weminar, pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd (dewiswch bob un sydd yn berthnasol)?’ Nododd pedwar o’r ymatebwyr y byddent yn rhannu’r cyflwyniad gyda chydweithwyr a dywedodd pedwar ymatebydd y byddent yn canfod mwy o wybodaeth am y testun. Dywedodd tri ymatebydd y byddent yn trafod cynnwys y weminar gyda chydweithwyr i lywio gweithredu a dywedodd un ymatebydd y byddent yn argymell Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydweithwyr. Atebodd dau ymatebwr trwy nodi ‘arall’ a dweud y byddent “yn ei ddefnyddio i addysgu myfyrwyr amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd” Mae’n bwysig nodi y gallai’r mynychwyr ddewis atebion lluosog i’r cwestiynau hyn. 3.2 Canlyniadau ansoddol Gofynnodd yr arolwg gwerthuso gwestiynau testun rhydd hefyd. ymatebion i’r cwestiynau hyn wedi eu nodi yn yr adrannau nesaf.

Mae’r

A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer testunau gweminarau yn y dyfodol? “Gweminar ar y wyddoniaeth y tu ôl i fesurau COVID-19, yn cynnwys gorchuddion wyneb” “Gofal diwedd oes a chymorth mewn profedigaeth” “Effaith pandemig ar lesiant gweithwyr rheng flaen” “Gwledydd y trydydd byd a COVID” A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol am y weminar? “Wedi ei chyflwyno’n dda ac yn llawn gwybodaeth. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol clywed am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud gyda rhai o destunau Adroddiad IHS” “Mwy os gwelwch yn dda!” “Wedi ei chymedroli’n dda iawn, wedi cadw at yr amser” “Yn llawn gwybodaeth ac wedi ei chyflwyno’n broffesiynol”


“Gweminar ddiddorol. Dyma fy ail hyd yn hyn ac maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn”

3.3 Sesiwn holi ac ateb fyw Yn ystod y weminar, cafodd y mynychwyr gyfle i ofyn cwestiynau i’r cyflwynydd. Gofynnwyd y rhain i’r cyflwynydd gan yr hwylusydd yn ystod yr amser oedd yn weddill yn y digwyddiad. Gofynnodd y mynychwyr y cwestiynau canlynol: 

“A oedd gwahaniaeth o ran mynediad at ofal iechyd rhwng gwasanaethau sylfaenol ac eilaidd a rhwng gofal wedi ei gynllunio / ar gyfer cyflyrau hirdymor a gofal heb ei gynllunio / brys?”

“A yw’r dos yma o Fitamin D yn berthnasol i blant o dan 10 oed?”

“Pa wledydd sy’n ymddangos fel pe baent wedi rheoli eu gwasanaethau gofal iechyd hanfodol yn well na’r DU?”

“A oes unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â fitamin D a’r anghydraddoldebau oherwydd sefyllfa economaidd-gymdeithasol gan fod y rheiny sydd mewn sefyllfa economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o allu fforddio atchwanegiadau/yn berchen ar erddi er mwyn sicrhau cyswllt digonol â golau’r haul?”

“Testunau diddorol iawn. Diddordeb mawr mewn Fitamin D. A oes amser gorau o’r dydd i gael cyswllt â’r haul neu rannau gorau o’r corff i gael cyswllt? A oes angen iddo fod yn haul llachar neu dim ond golau dydd?”

“A yw’n well defnyddio PPE y gellir ei olchi?”

“A oes ymchwil/gwerthusiad parhaus yn cael ei gynllunio i edrych ar effaith anuniongyrchol a chost pandemig covid19 yng Nghymru?”

“Ydyn ni’n gwybod pa wledydd sydd yn gwneud y gwaith gorau o reoli effeithiau PPE sydd yn cael ei daflu. Allwn ni ddysgu unrhyw beth?”

“A oedd gwledydd eraill yn fwy datblygedig na Chymru am iddynt gael achosion cadarnhaol cyn i ni wneud neu mwy o achosion na ni neu resymau eraill?”

“A oes unrhyw beth penodol y byddech yn ei gynghori i unigolyn BAME heb unrhyw gyflwr iechyd sylfaenol?”


“A allwn ddisgwyl gweld mwy o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty a mwy o bobl yn colli eu bywydau i Covid-19 ar draws yr UE oherwydd y cynnydd diweddar mewn achosion?”

“Sut mae’r Almaen yn cynnal olrhain cyswllt ac ynysu? Unrhyw ymchwil ar y ffordd y mae hyn yn effeithio ar rifau R ar draws Ewrop?” “Allwn ni gael sganio’r gorwel rhyngwladol ar strategaethau profi yn cynnwys y Profion Antigen Cyflym y soniwyd amdanynt yn ddiweddar?”

“Rydym yn clywed na fydd COVID mor wael ag oedd ym mis Mawrth/Ebrill o’i gymharu â Tach /Rhag 2020. I ba raddau y mae hyn yn wir?”

Roedd y sylwadau ychwanegol a gafwyd gan fynychwyr yn syth ar ôl diwedd y weminar fel a ganlyn. “Cefais anawsterau yn ymuno ond talodd dyfalbarhad ar ei ganfed! Roedd yn weminar dda, yn ddiddorol iawn yn arbennig y cysylltiad â Fit D” “Nid oeddwn yn gallu cael mynediad i’r digwyddiad hwn, a fyddai’n bosibl i chi roi gwybod i mi pryd mae ar gael ar eich gwefan”

4.

Crynodeb

Yn gyffredinol, mae’r data gwerthuso gan y mynychwyr a gwblhaodd yr arolwg a’r sylwadau a gafwyd yn ystod ac ar ôl hynny yn awgrymu bod y weminar yn llwyddiannus ac wedi cael ymateb cadarnhaol. Yr unig ymatebion negyddol oedd gan y bobl hynny oedd yn methu cael mynediad i’r weminar ar ddechrau’r cyflwyniad. Mae’r tîm bellach wedi rhoi nifer o gamau ar waith i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Mae nodau’r weminar wedi cael eu bodloni yn y ffyrdd canlynol: i)

Darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu ar ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sydd yn effeithio ar Gymru

Roedd y weminar yn gyfle i gynadleddwyr gynyddu eu gwybodaeth am COVID-19 ac yn arbennig y dystiolaeth ryngwladol i ddeall yn well ac archwilio atebion i fynd i’r afael ag effeithiau iechyd, llesiant, cymdeithasol ac economaidd parhaus ac sydd yn dod i’r amlwg yn sgîl yr achosion. O’r cwestiynau a ofynnwyd gan y mynychwyr, roedd yn amlwg bod diddordeb


arbennig yn y ffordd y mae gwledydd eraill yn ymateb i’r pandemig yn ogystal â’r cysylltiad rhwng Fitamin D ac anghydraddoldebau. ii)

Datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang

Mae’r weminarau wedi eu hanelu at bobl sydd nid yn unig yn gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG, ond o ystod o sectorau. Roedd y rhan fwyaf o’r mynychwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru (timau canolog a lleol) ond roedd cynrychiolaeth uchel hefyd o gydweithwyr Byrddau Iechyd Lleol, Academaidd a Thrydydd Sector. Roedd cynrychiolaeth hefyd o gydweithwyr Awdurdod Lleol, Llywodraeth Cymru a’r sector Tai. Dywedodd nifer o gynadleddwyr y byddent yn lledaenu’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiadau hyn i gydweithwyr er mwyn llywio camau gweithredu. Mae’r gweminarau yn caniatáu cynulleidfaoedd llawer mwy nag y gallai ein seminarau wyneb yn wyneb ddarparu ar eu cyfer. Mae hyn, ynghyd â recordio’r gweminarau a gallu gweld cyflwyniadau ar y wefan ar ôl y digwyddiad, yn galluogi gwybodaeth y diwrnod i gael ei lledaenu i gynulleidfa llawer ehangach o ystod o sectorau. iii)

Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd ymhellach

Amlygodd y cyflwyniad y sefyllfa bresennol, y sail dystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg ac ymchwil ddiweddar ar COVID-19, gan ganolbwyntio’n benodol ar lefel ryngwladol. Mae’n anffodus nad oes gan weminarau yr un cyfleoedd i rwydweithio ar gyfer mynychwyr â digwyddiadau wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae’r tîm yn archwilio llwyfannau pellach a allai ganiatáu i fynychwyr rwydweithio a chael trafodaethau am destunau tebyg. Bydd hyn yn galluogi partneriaethau i gael eu datblygu fydd yn gwella rhywfaint ar y dystiolaeth ddiweddar a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg ymhellach er mwyn llywio ymarfer yn y dyfodol.

5.

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth a recordiadau o’r gweminarau ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.