Tachwedd 2016
Croseo i’r e-fwletin Croeso i rifyn diweddaraf efwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r pwyslais y mis yma ar HIV ac AIDS. Cynhaliwyd Diwrnod AIDS y byd ar 1 Rhagfyr ac mae’n gyfle i bobl yn fyd-eang uno yn y frwydr yn erbyn HIV, dangos eu cefnogaeth ar gyfer pobl sydd yn byw gyda HIV a dathlu bywydau’r bobl sydd wedi marw. Diwrnod AIDS y Byd oedd y diwrnod iechyd byd-eang cyntaf, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym 1988. Mae Aderinola Omole, aelod o’r Grŵp Cynghori, yn siarad â ni am ei maes arbenigedd ac, yn ei barn hi, y prif heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â HIV ac AIDS yma yng Nghymru. Mae gennym ddigwyddiad Arddangos Ymchwil yng Nghymru a gynhelir ar 2 Mawrth 2017 yn Adeilad yr Atrium Prifysgol De Cymru, Caerdydd. Rydym wedi trefnu cynhadledd ar gyfer 15 Mawrth 2017 yn canolbwyntio ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a gynhelir yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Yn olaf, os oes gennych unrhyw newyddion neu eitemau am ddigwyddiadau yr hoffech i ni eu cynnwys yn y rhifyn nesaf, cofiwch anfon ebost publichealth.network@wales.nhs.uk
www.publichealthnetwork.cymru @PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
Gwybod ein statw
ws yng Nghymru Sylw i’r HIV/AIDs Mae efwletin y mis yma’n canolbwyntio ar HIV ac AIDS. Mae dros 100,000 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU. Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod gan 34 miliwn o bobl y feirws. Er gwaetha’r ffaith mai ond ym 1984 y cafodd y feirws ei adnabod, mae dros 35 miliwn o bobl wedi marw o HIV neu AIDS, sy’n ei wneud yn un o’r clefydau pandemig mwyaf dinistriol mewn hanes. Heddiw, mae datblygiadau gwyddonol wedi cael eu gwneud i driniaethau HIV, ac mae cyfreithiau i amddiffyn pobl sydd yn byw gyda HIV ac rydym yn deall cymaint yn fwy am y cyflwr. Er gwaethaf hyn, bob blwyddyn yn y DU, mae tua 6,000 o bobl yn cael diagnosis o HIV, nid yw pobl yn gwybod y ffeithiau ynghylch sut i ddiogelu eu hunain ac eraill, a’r stigma a’r gwahaniaethu sydd yn dal yn realiti i lawer o bobl sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae Diwrnod AIDS y Byd yn bwysig am ei fod yn atgoffa’r cyhoedd a’r Llywodraeth nad yw HIV wedi mynd i ffwrdd – mae angen hanfodol i godi arian o hyd a chyn yddu’r ymwybyddiaeth, brwydro yn erbyn y rhagfarn a gwella addysg. Er bod Diwrnod AIDS y Byd yn gyfle gwych i siarad am HIV, mae’n bwysig cadw’r momentwm i fynd drwy’r flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma https:// www.worldaidsday.org/
Gadael stigma HIV yn y gorffennol Mae Kat Smithson o NAT yn edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wybod am stigma HIV yng Nghymru a rôl Diwrnod AIDS y Byd yn codi proffil HIV ac yn ein cefnogi i fynd i’r afael â’r stigma hwn. Er bod triniaeth ac ataliaeth HIV gymaint yn well nag ydoedd 30 mlynedd yn ôl, nid yw agwedd y cyhoedd wedi datblygu mor gyflym. Yng Nghymru, mae nifer y bobl sy’n cael gofal am HIV yn dal i gynyddu; cafodd 168 o bobl ddiagnosis newydd yn 2015. Mae angen i ni sicrhau nad yw’r bobl hyn yn dal i gael eu heffeithio’n negyddol gan y stigma sydd wedi cael ei gysylltu gyda HIV yn y gorffennol. Mae stigma yn cael effaith negyddol ar les, gall atal pobl sydd yn byw gyda HIV rhag cael triniaeth, a gall atal pobl eraill rhag cael prawf am HIV. Nid oes ffordd hawdd i fynd i’r afael â hyn. Ond unwaith y flwyddyn, mae Diwrnod AIDS y Byd yn rhoi’r cyfle i ni fwrw goleuni ar HIV a’r stigma cysylltiedig, er mwyn ystyried ein hymateb iddo ac i agor y drafodaeth arno. Mae angen gwella gwybodaeth y cyhoedd am HIV Diwrnod AIDS y Byd, a ddechreuwyd yn y DU ym 1988, mewn gwirionedd oedd y diwrnod iechyd rhyngwladol cyntaf ac mae’r sylw y mae’n ei roi i HIV yn gyfle gwych i wella gwybodaeth y cyhoedd. Yn 2014, comisiynodd NAT MORI Ipsos i arolygu gwybodaeth ac agweddau’r cyhoedd ar HIV. Yn galonogol, roedd cyfran uwch (82%) o bobl yng Nghymru yn gallu nodi’r holl lwybrau trosglwyddo yn gywir o restr, o’i gymharu â’r cyhoedd ym Mhrydain yn gyffredinol (65%). Ond ar y cyfan, dim ond 45% o’r cyhoedd ym Mhrydain oedd yn gallu nodi holl lwybrau trosglwyddo HIV yn gywir, heb nodi unrhyw lwybrau anghywir. Roedd 16% yn credu y gellid trosglwyddo HIV trwy gusanu. Mae camddealltwriaeth o’r fath am HIV yn aml yn cael ei ystyried fel grym sy’n gwaethygu’r stigma. Mae angen cymorth ar bobl sy’n byw gyda HIV i ymdrin ag effaith stigma Dangosodd yr un arolwg bod isafswm sylweddol o bobl o hyd sydd ag agweddau negyddol tuag at HIV. Unwaith eto, yn galonogol, yng Nghymru roedd pobl ar y cyfan yn dangos agweddau mwy cefnogol. Roedd 62% o bobl yng Nghymru yn cytuno gyda’r datganiad ‘pe byddai rhywun yn fy nheulu yn dweud wrthyf eu bod yn HIV positif, ni fyddai’n niweidio fy mherthynas gyda nhw’, o’i gymharu â 49% ar draws y DU. Ond mae hynny’n 38% o bobl yng Nghymru a wnaeth naill ai ddweud y byddai eu perthynas gydag aelod o’r teulu yn cael ei niweidio wrth ddweud bod ganddynt HIV, neu‘n ansicr. Mae goblygiadau dwys yn sgil hyn i’r rheiny a allai fod wedi eu heffeithio. Un o’r arwyddion cliriaf o stigma yw’r ffordd y mae’n gwneud i unigolion deimlo amdanynt eu hunain. Mewn arolwg yn 2015 o bobl sydd yn byw gyda HIV (Mynegai Stigma’r DU), nododd hanner y cyfranogwyr yng Nghymru eu bod yn teimlo stigma yn fewnol. Dywedodd un fenyw: “Mae adwaith pobl yn adlewyrchu’r ffordd yr ydych yn teimlo amdanoch chi eich hun pan fyddwch yn dweud wrthynt.” Ar yr un pryd, mae cymorth hanfodol ar gyfer pobl sydd yn byw gyda HIV yn cael ei ddiddymu oherwydd toriadau cyllid y Llywodraeth. Yn ôl mynegai Stigma’r DU, mae pobl sydd yn byw gyda HIV yng Nghymru yn llai tebygol o gael cymorth gan sefydliad cymorth HIV lleol neu o rywle arall, er gwaetha’r ymateb sy’n awgrymu lefelau angen tebyg i weddill y DU. Mae stigma mewn lleoliadau gofal iechyd yn dal yn broblem Man cyffredin lle mae stigma am HIV yn cael ei brofi yw mewn lleoliadau gofal iechyd. Er bod y rhan fwyaf o ymatebwyr wedi dweud wrth eu meddyg teulu am eu HIV, roedd 37% yn dal yn poeni am gael eu trin yn wahanol ac roedd 22% wedi osgoi triniaeth neu ofal. Mae goblygiadau hyn yn ddinistriol am nad yw pobl sydd yn byw gyda HIV yn teimlo’n ddiogel yn cael gofal meddygol. Gall hefyd annog pobl i beidio gofyn am neu gael prawf HIV. Ar gyfer Diwrnod AIDS 2016, roedd ymgyrch NAT (Ymddiriedolaeth Genedlaethol AIDS) yn ymwneud â gadael pethau sydd yn y gorffennol, yn y gorffennol. Mae stigma, a’r camddealltwriaeth a’r agweddau negyddol sy’n ei fwydo, yn un o’r pethau hyn. Gan fanteisio ar angerdd cymdeithas am hen bethau, roeddem eisiau atgoffa pobl na ddylid dathlu popeth o’r 80au a’r 90au fel pethau retro. Nid yw stigma am HIV yn retro, nid yw’n iawn.
Wrth gwrs, dim ond cyffwrdd â’r broblem y mae’r neges hon; mae angen dechrau sgyrsiau am HIV gyda phobl newydd a gwneud iddynt ganfod mwy. Fodd bynnag, mae angen i ni fanteisio i’r eithaf ar y diddordeb y mae Diwrnod AIDS y Byd yn ei ennyn a sicrhau y gall hyn arwain at newid parhaol mewn lleoliadau lle mae pobl yn profi stigma, fel gofal iechyd. Yng Nghymru, mae’r dystiolaeth yn dangos bod yna le i wella lefel y cymorth ar gyfer pobl sydd yn byw gyda HIV, mewn gofal iechyd a thu hwnt. Os ydym o ddifrif am adael stigma yn y gorffennol, mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau o’r fath ac ymrwymo i wella lefelau gwybodaeth y tu hwnt i Ddiwrnod AIDS y Byd. www.nat.org.uk www.worldaidsday.org #HIVnotretro
HIV yng Nghmru HIV yng Nghymru – Gwybod Ein Statws Yn yr un modd ag y mae’n hanfodol i berson wybod eu statws HIV, mae hefyd yn bwysig iawn i ni, fel ymarferwyr iechyd y cyhoedd, wybod y data presennol am HIV yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd yn byw gyda HIV a bydd hefyd yn dweud wrthym sut a ble i gyfeirio ein hymdrechion i atal HIV. Yn yr erthygl hon, rwyf yn amlygu rhywfaint o’r data allweddol presennol yn ymwneud â HIV yng Nghymru. Tueddiadau o ran Diagnosis Cafwyd cynnydd graddol yn nifer y bobl sydd yn byw gyda HIV yng Nghymru, sydd yn adlewyrchu cynnydd o ran goroesi a diagnosis newydd. Ar gyfartaledd, dros y chwe blynedd adrodd diwethaf (2010-2015) , cafwyd tua 153 diagnosis o achosion newydd yn flynyddol. Mae mwyafrif helaeth yr achosion sy’n cael diagnosis yng Nghymru wedi eu trosglwyddo’n rhywiol gyda 47.5% o’r diagnosis newydd er 2011 wedi eu priodoli i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM) tra bod 31.6% o achosion wedi eu cofnodi i fod wedi eu caffael trwy gyswllt heterorywiol. Er bod yr achosion hyn wedi cael diagnosis yng Nghymru, mewn llawer o achosion, efallai nad yng Nghymru y cawsant eu heintio. Profion HIV Mae cael HIV yn un peth, ond mae gwybod ei fod arnoch yn y lle cyntaf yn hanfodol, oherwydd dim ond ar ôl cael diagnosis y gall claf ddechrau’r daith oes o gael triniaeth, ac yn ei dro, atal trosglwyddo’r haint i eraill. Dyna pam y mae’n dda gweld bod y ffigurau blynyddol diweddaraf (2014) ar gyfer profion HIV yng Nghymru yn dangos bod nifer y profion HIV a wnaed wedi cynyddu’n raddol dros y degawd diwethaf. Gallwn weld o’r data adrodd chwarterol bod y cyfraddau profi’n dal yn sefydlog yn 2016. Cyflwr oes, gofal am oes Mae bron deg ar hugain o flynyddoedd wedi mynd heibio ers yr ymgyrch hybu iechyd cofiadwy yn galw ar bobl i beidio ‘marw o anwybodaeth’, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, cymerwyd camau sylweddol i ddatblygu HIV/AIDS rhag bod yn haint sy’n cyfyngu bywyd i gyflwr oes. Yn ddi-os, mae cael diagnosis HIV positif yn cael effaith sylweddol ar fywyd person, er bod pobl sy’n cael diagnosis yn gyflym yn llai tebygol o brofi’r morbidrwydd sydd yn gysylltiedig â HIV, yn debygol o ymateb yn well i driniaeth ac atal y llwyth feirysol yn gyflymach. Amcangyfrifodd astudiaeth mai cost oes gofal HIV yn y DU ar gyfartaledd yw £360,800, yn seiliedig ar ddisgwyliad oes canolog o 71.5 o flynyddoedd, gyda chyfran fwyaf y costau hyn (68%) wedi ei phriodoli i’r cyffuriau gwrthfeirysol a ddefnyddir i drin person . Dyfodol atal HIV? Y datblygiad mawr sydd ar y gorwel o ran atal HIV yw darparu Proffylacsis Cyn Cyswllt (PrEP). Mae PrEP yn golygu rhoi meddyginiaeth a ddefnyddir yn draddodiadol i drin HIV i bobl sydd heb HIV. Mae defnyddio triniaeth HIV fel mesur ataliol wedi dod i’r amlwg fel strategaeth newydd posibl ar gyfer atal HIV, ac mae treialon clinigol yn cael eu cynnal i weld effeithiolrwydd hyn ymysg poblogaethau risg uchel. Mae astudiaethau wedi dangos effeithiolrwydd o 86% i’r dull hwn o ran lleihau’r perygl o HIV . Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar wedi cynnal Grŵp HIV Arbenigol (HIVEG) i edrych ar y posibilrwydd o ddarparu PrEP yng Nghymru – cyflwynwyd yr adroddiad o’r gwaith hwn i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, fydd yn edrych ar ein hadroddiadni, ac ar adolygiad o effeithiolrwydd clinigol PrEP o Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, wrth ystyried a yw PrEP yn opsiwn ymarferol ar gyfer atal HIV ymysg poblogaethau risg uchel yng Nghymru. Bydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gwrs yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y datblygiadau yn ymwneud â hyn a’r holl ddatblygiadau eraill o ran atal HIV, yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
MEDFASH Ffarwel Mae Prif Weithredwr MEDFASH, Ruth Lowbury, yn ystyried yr heriau y mae sefydliadau elusennol bach yn eu hwynebu wrth sicrhau ffrydiau incwm newydd a chynaliadwy mewn amgylchedd ariannu cynyddol gystadleuol ac mewn sector sydd o dan bwysau. Mae hefyd yn adlewyrchu ar y ffyrdd niferus y mae MEDFASH wedi cydweithredu gydag eraill i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer dros y blynyddoedd a rhoi budd i bobl sydd yn byw gyda HIV a’r rheiny ag anghenion eraill yn ymwneud ag iechyd rhywiol. Ysgrifennwyd gan Ruth Lowbury, Prif Weithredwr, MEDFASH Bydd MEDFASH yn cau ar ddiwedd mis Rhagfyr ar ôl bron 30 o flynyddoedd o gefnogi gwneuthurwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol i frwydro yn erbyn HIV a gwella gofal iechyd rhywiol. Rydym wedi chwarae rôl sydd yn wahanol i unrhyw sefydliad arall yn ein maes ac wedi anelu’n uchel iawn. Felly ysgrifennaf yr eErthygl hon gyda thristwch, balchder a diolchgarwch. Mae angen MEDFASH gymaint ag erioed, ond rydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae ein hincwm yn rhy anwadal ac ni ellir dibynnu arno i dalu costau. Rydym wedi bod yn ffodus i gael ystod amrywiol o gyllid prosiect ond, dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi mynd yn gwbl ddibynnol bron ar hyn am fod y rhan fwyaf o’n cyllid craidd wedi cael ei ddiddymu. Ond eto mae cyllid prosiect, yn enwedig mewn cyfnod o gyni, yn annigonol ar gyfer costau swyddogaethau nad ydynt yn rhai prosiect sydd yn galluogi’r sefydliad i fodoli (rhent, cyfleustodau, offer, gwefan, hyfforddiant staff, cyfrifon, cyfarfodydd bwrdd ac yn y blaen). Nid diflaniad cyllid craidd yw’r unig her y mae elusennau bach fel MEDFASH yn ei hwynebu’n gynyddol: Mae toriadau i gomisiynau’r sector cyhoeddus yn gorfodi mwy o elusennau i gystadlu am y grantiau elusennol cyfyngedig sydd ar gael, tra bod yr arian sy’n cael ei ddosbarthu gan y cynlluniau hynny wedi crebachu. Gyda thebygolrwydd is o lwyddo, a siawns y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael llai nag yr ymgeisiwyd amdano, gall cost ymgeisio fod yn rhy uchel. Yn yr un modd, gyda thendro cystadleuol am gontractau gwasanaeth, sydd yn digwydd yn fwy aml, gall cost amser staff i ddatblygu cynigion manwl nad oes sicrwydd y byddant yn llwyddo, fod yn ormod o faich. Mae’r flaenoriaeth a roddir gan ormod o noddwyr i arloesi’n ei wneud yn fwy anodd ac yn golygu gormod o amser i sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau sefydledig, hyd yn oed pan fyddant yn cael eu gwerthuso’n fanwl gan randdeiliaid. Mae costau sylweddol i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau o ansawdd uchel, waeth pwy sy’n eu darparu, ond eto mae rhai noddwyr yn disgwyl i’r gwasanaethau a ddarperir gan elusen fod yn afrealistig o rad. Fel sefydliad bach, nid oes llawer o le i drafod. Mae noddwyr yn aml yn gosod terfyn isel ar gyfer gorbenion ar gyllidebau prosiect - tua 5% - neu hyd yn oed yn eu dileu’n gyfan gwbl. Mae hyn o’i gymharu â’r 40% neu fwy a godir gan gyrff academaidd mawr neu gyrff sector cyhoeddus ar eu prosiectau. Gall fod angen buddsoddiad ar gynnyrch prosiectau sydd wedi eu cwblhau, fel cyhoeddiadau, i’w diweddaru a’u dosbarthu mewn blynyddoedd pan fydd y cyllid wedi dod i ben, ond gall fod yn anodd i sefydliad bach ddod o hyd i’r gallu i wneud hyn. Gyda thîm bach iawn o staff, nid oes digon o allu fel arfer ar gyfer codi arian yn barhaus. Yn olaf, er bod gwaith fel ein gwaith ni ar bolisi ac addysg broffesiynol yn bwysig, mae’n apelio llai na darparu gwasanaethau uniongyrchol i’r rhan fwyaf o noddwyr ac ni fydd yn denu nawdd na rhoddion gan y cyhoedd. Mae’r heriau hyn wedi bod yn cynyddu a gobeithio bydd Pwyllgor Dethol ad hoc Tŷ’r Arglwyddi ar gynnal y sector elusennau yn eu hystyried. Maent yn berthnasol i bob elusen, ond mae’n sefyllfa arbennig o aciwt i rai bach. Fodd bynnag, er gwaetha’r heriau, mae MEDFASH wedi parhau tan nawr i ddarparu ystod o waith gwerthfawr a chael effaith ar draws y sector HIV ac iechyd rhywiol. Mae’r rhan fwyaf o’n prosiectau wedi dibynnu ar gydweithredu gydag eraill, naill ai trwy bartneriaethau ffurfiol neu ymgysylltu unigolion a sefydliadau ar weithgorau a grwpiau cynghori. Mae cynnyrch MEDFASH, fel safonau gwasanaeth, wedi bod yn nodedig o ran ardystio ystod eang o randdeiliaid. Rydym bob amser wedi rhoi blaenoriaeth i gael cefnogaeth o’r fath fel ffordd o wella ein heffaith ar ymarfer a pholisi. Ni fyddem wedi gallu cael effaith o’r fath heb ewyllys da ac amser cymaint o bobl arbenigol ac ymrwymedig yn rhad ac am ddim. Mae defnyddio adnoddau o’r fath yn rhoi gwerth sylweddol na allai unrhyw waith codi arian ei ddisodli.
Dros y blynyddoedd, mae MEDFASH wedi dylanwadu ar bolisi ac ymarfer mewn nifer o feysydd allweddol, o’n cyfnod cynharaf fel Sefydliad BMA ar gyfer AIDS, yn cynnig llais meddygol goleuedig ar AIDS ar adeg o anwybodaeth, ofn a stigma ymysg y cyhoedd a’r proffesiwn meddygol, trwy ddegawd o brosiectau mawr yn cefnogi gweithredu strategaeth genedlaethol 2001 ar gyfer iechyd rhywiol a HIV, i’r datblygiad mwyaf diweddar o arweiniad ac astudiaethau achos ar gomisiynu yn sgil y newidiadau strwythurol yn deillio o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012. Er gwaethaf ei amrywiaeth, mae rhai elfennau cyffredin wedi rhedeg trwy ein gwaith. I ddechrau, ffocws ar wella a safoni darpariaeth HIV ac iechyd rhywiol. Mae’r safonau yr ydym wedi eu datblygu (rhai gyda phartneriaid) ar gyfer gwasanaethau HIV y GIG, gwasanaethau iechyd rhywiol, rheoli STI, a chymorth seicolegol ar gyfer pobl sydd yn byw gyda HIV, i gyd wedi canolbwyntio ar lwybr y person sydd angen gofal, ac ansawdd y gofal y dylent ei gael waeth pwy sy’n ei ddarparu. Roedd gan yr adolygiad cenedlaethol tair blynedd o wasanaethau GUM ran fawr yn helpu gwasanaethau i foderneiddio a chreu gostyngiadau dramatig o ran amserau aros (o dros 4 wythnos mewn mannau i 48 awr ym mhobman bron). Roedd y pwyslais ar ymagwedd amlddisgyblaethol, sy’n bwysicach nag erioed nawr, yn allweddol i safonau ac adolygiad GUM. Yn ail, ymrwymiad i wella cyfraddau diagnosis HIV er mwyn galluogi mwy o bobl i gael triniaeth sydd yn achub bywydau yn gynnar. Yn y 1990au, ar ôl i therapi gwrthfeirysol effeithiol ymddangos, fe wnaethom greu llyfryn yn annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i argymell profion HIV i’w cleifion heb fod angen cwnsela hirfaith. Mae’r ymagwedd hon bellach yn rhan o ganllawiau profi cenedlaethol a chânt eu derbyn yn helaeth, ond ar y pryd roedd yn arloesol ac yn ddadleuol. Mae ein llyfrynnau ar gyfer ymarfer cyffredinol a gofal eilaidd, bellach ar eu trydydd ac ail rifyn yn y drefn honno, a’n hofferyn addysgol ar-lein ar gyfer meddygon teulu, wedi pwysleisio rôl bwysig arbenigwyr nad ydynt yn arbenigwyr HIV yn rhoi diagnosis o HIV. Yn fwyaf diweddar, fel partner prosiect OptTEST a ariennir gan yr UEA, rydym wedi bod yn datblygu offer i gefnogi profion HIV o dan arweiniad dangosydd cyflwr ar draws Ewrop. Yn drydydd, pwyslais ar annog arweinyddiaeth strategol a chydweithredu i lywio gwelliant. Gan roi blaenoriaeth i iechyd rhywiol fel mater allweddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd, roedd atebolrwydd cliriach ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a datblygu partneriaethau strategol rhwng y GIG a llywodraeth leol, yn elfennau allweddol yn ein hadolygiad o’r strategaeth genedlaethol ar gyfer iechyd rhywiol a HIV nôl yn 2008. Er bod yr adroddiad yn gyfoes ar y pryd, mae’n demtasiwn dweud ‘plus ça change’ - mae cymaint o hyd yn ymddangos yn hynod o berthnasol yng nghyd-destun trefniadau comisiynu tameidiog a dyfodiad Cynlluniau Cynaliadwyedd a Thrawsnewid. Dechreuodd yr eFwletin hwn yn 2012 fel ffynhonnell wybodaeth tymor byr ar bolisi ar gyfer comisiynwyr a darparwyr yn ystod y ‘trawsnewid’ - mae’n arwyddocaol, yn 2015, bod darllenwyr yn ei werthfawrogi’n fwy nag yn 2013 hyd yn oed. Ar gyfer bob un o’r elfennau hyn, rydym wedi cyflawni llawer ond mae llawer i’w wneud o hyd. Mae’n drist na fydd MEDFASH yn rhan o hyn bellach, ond rydym yn ddiolchgar y bydd sefydliadau eraill yn cymryd yr awenau ar ein prosiectau a’n cynnyrch: • yr eFwletin Polisi Iechyd Rhywiol a HIV hwn gan y Gyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, yn ogystal â HIV TIPs, ein hofferyn addysgol ar-lein ar brofion HIV ar gyfer ymarfer cyffredinol • EUROBulletin Polisi Iechyd Rhywiol a HIV gan NAM aidsmap • ein llyfrynnau HIV mewn gofal sylfaenol a HIV ar gyfer y rheiny nad ydynt yn arbenigwyr HIV gan Sefydliad HIV Prydain • fersiynau pdf i ddod o’r ddau lyfryn yma ar gyfer cynulleidfa Ewropeaidd gan JUSTRI. Diolch o galon i’r sefydliadau hyn am gymryd yr awenau, ond diolch hefyd i’r unigolion niferus a’r sefydliadau eraill y mae gormod ohonynt i’w henwi, sydd wedi gweithio gyda ni a’n galluogi i gyflawni, i’r holl noddwyr sydd wedi gwneud ein gwaith a’n bodolaeth yn bosibl am 30 o flynyddoedd bron, i staff MEDFASH, ymgynghorwyr prosiect a’r ymddiriedolwyr sydd wedi rhoi safonau mor uchel i’n gwaith, ac yn olaf i bawb sydd wedi darllen ein cyhoeddiadau neu wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau ac wedi defnyddio’r rhain i lywio neu newid eich ymarfer er budd pobl sydd yn byw gyda HIV a’r rheiny ag anghenion eraill sy’n ymwneud ag iechyd rhywiol a HIV. Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn yr eFwletin Polisi Iechyd Rhywiol a HIV gan FSRH yn y dyfodol trwy danysgrifio yma.
I HAVEN’T GOT TIME FOR AN HIV TEST. BUT THE NEW FINGER PRICK RAPID HIV TEST GIVES YOU RESULTS IN JUST 20 MINUTES.
YOUR NEAREST
CLINIC IS:
Terrence Higgins Trust, Swansea The YMCA 1, The Kingsway, Swansea. SA1 5JQ Every Thursday 5.30pm-7pm. Tel: 01792 477 540
Terrence Higgins Trust is a registered charity in England and Wales (reg no. 288527) and in Scotland (SC039986). Ref: 1694701.
I HAVEN’T GOT TIME FOR AN HIV TEST. BUT THE NEW FINGER PRICK RAPID HIV TEST GIVES YOU RESULTS IN JUST 20 MINUTES.
YOUR NEAREST
CLINIC IS:
Terrence Higgins Trust, Cardiff First Saturday of the month 11am-3pm & every Tuesday 6pm-8pm. Tel: 02920 666 465 for details
Terrence Higgins Trust is a registered charity in England and Wales (reg no. 288527) and in Scotland (SC039986). Ref: 1694701.
Cael Ei Holi Y mis yma, mae Aderinola Omole, aelod o Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn siarad â ni. Mae Aderinola yn gweithio i Ymddiriedolaeth Terrence Higgins fel Arbenigwr Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol.
Beth yw eich maes arbenigedd?
Rwyf yn Arbenigwr Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, yn arbennig HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol/feirysau a gludir yn y gwaed ymysg pobl o leiafrifoedd ethnig, menywod a phobl ifanc.
Pam wnaethoch chi ymuno â Grŵp Cynghori PHNC?
Ymunais am fy mod yn angerddol am yr hyn yr wyf yn ei wneud a sut y gallaf fod yn llais mwy trwy’r fforwm yn hybu iechyd rhywiol da. Yn ogystal, roeddwn eisiau gallu dysgu pethau newydd gan aelodau eraill o’r grŵp yn arbennig mewn meysydd lle gall agweddau wahaniaethu ond cael canlyniadau cadarnhaol o hyd.
Beth ydych yn rhagweld bydd yr heriau i’r Grŵp Cynghori?
Yr heriau mwyaf i’r Grŵp Cynghori fydd gwella cwmpas ymysg y cyhoedd ehangach a’r asiantaethau amrywiol a all ddylanwadu ar les. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys staff sy’n gweithio ar ystod o wasanaethau statudol ac anstatudol ond cyflogwyr, y cyfryngau, cymunedau ffydd a grwpiau cymunedol eraill. Mae cyhoedd gwybodus a system wasanaeth sydd wedi ymrwymo i wella lles yn hanfodol ond mae’n dal yn anodd ei gyflawni.
Mae e-fwletin y mis yma’n pwysleisio HIV ac AIDS. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â HIV ac AIDS yma yng Nghymru?
Stigma a gwahaniaethu yn ymwneud â HIV, ynghyd â diffyg gwybodaeth yn ymwneud â llwybrau trosglwyddo HIV. Mae annog pobl i gael prawf HIV yn her arall ac nid yw helpu pobl ifanc i ddeall nad yw bod ‘ar y bilsen’ yr un peth ag atal HIV nac unrhyw STI chwaith. Yn ogystal, am fod y gymuned lleiafrifoedd ethnig yn eithaf bach, nid yw llawer o bobl eisiau cael eu gweld yn mynd i mewn i sefydliad sydd yn hysbys i fod yn cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV am ei fod yn eu stigmateiddio.
Pa awgrymiadau fyddech chi’n eu rhoi i’n haelodau i hybu Ymwybyddiaeth o AIDS?
Annog profi gan fod 1 ym mhob 6 sydd yn byw gyda HIV ar hyn o bryd heb gael diagnosis ac nid ydynt yn ymwybodol eu bod yn byw gyda’r feirws. Mae cael prawf HIV yn golygu mai chi sy’n rheoli’r sefyllfa a, diolch i driniaeth, bydd yn eich atal rhag mynd yn ddifrifol wael, eich galluogi i gael rhychwant oes arferol ac yn eich atal rhag trosglwyddo’r feirws i unrhyw un arall. Gwisgo rhuban coch i gefnogi pobl sydd yn byw gyda HIV neu wedi eu heffeithio gan AIDS. Gallwch decstio RIBBON i 70707 er mwyn cyfrannu £1 i Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a chael rhuban coch am ddim. Helpu i ddileu’r stigma a normaleiddio HIV. Ar ddiwrnod AIDS y Byd 2016, ein thema Genedlaethol yn Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yw ‘Nid yw drosodd’. Rydym yn annog pawb i gefnogi pobl sydd yn byw gyda HIV trwy herio stigma’n ymwneud â HIV a’u helpu i weld nad ydynt ar eu pen eu hunain. Rydym yn dal i frwydro, yn dal i ofalu ac yn dal i wisgo ein rhuban coch gyda balchder. Ni wnawn anghofio, ni wnawn roi’r ffidil yn y to. Nid yw epidemig HIV drosodd – ond gyda’ch help chi, fe allai fod!
Pe byddech yn cael 3 dymuniad beth fyddent? 1. 2. 3.
Gweld Addysg Rhyw a Chydberthynas (SRE) yn cael ei integreiddio i gwricwlwm yr ysgol a hyfforddi athrawon i allu ei gyflwyno’n gyfforddus ac yn briodol. Lleihau’r stigma yn ymwneud â HIV ac o bosibl, dod o hyd i wellhad am mai’r stigma yw’r hyn sydd yn lladd bellach, nid AIDS. Gallu chwarae’r drymiau’n berffaith.
Beth yw eich diddordebau personol? Coginio, gemau bwrdd a Rhwydweithio
Pyncia Llosg Mae’r rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglŷn â gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiadau! Os ydych chi’n dymuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at Sarah.James10@wales. nhs.uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
Cyhoeddi adroddiad Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod Dywed adroddiad newydd bod y rheiny yng Nghymru sydd wedi dioddef pedwar neu fwy o brofiad niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o glefyd cronig yn nes ymlaen mewn bywyd o’u cymharu ag oedolion sydd heb brofi un. Mae oedolion hyd at 69 oed sydd yn profi pedwar ACE neu fwy bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes Math 2, dair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y galon a thair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd anadlol, o’u cymharu ag unigolion sydd heb nodi unrhyw ACE. Mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE) yn brofiadau trawmatig sydd yn digwydd cyn 18 oed. Mae’r profiadau hyn yn amrywio o gam-drin llafar, meddyliol a chorfforol, i gael cyswllt ag alcoholiaeth, defnydd o gyffuriau a cham-drin domestig yn y cartref.
Newyddion gan y Tîm Trais yn Erbyn Menywod (VAWDA) Byddwn yn cynnal ymgyrch o dan faner Byw Heb Ofn o 14 Tachwedd hyd at 4 Rhagfyr. Bydd hyn yn ailadrodd yr ymgyrch ‘Gwneud Safiad’ a gynhaliwyd ddiwethaf yn 2014. Mae’r ymgyrch yn cynnwys posteri ar fysiau a hysbysebion gorsafoedd trenau ar sgriniau LCD. Bydd hafan gwefan Byw Heb Ofn www.gov.wales/livefearfree www.llyw.cymru/bywhebofn hefyd yn cael ei diweddaru gyda gwybodaeth am yr ymgyrch a bydd gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol ar https://www.facebook.com/LiveFearFree a Twitter https://twitter.com/LiveFearFree. Fel yr ymgyrch blaenorol, byddwn yn gofyn i bobl ddangos eu cefnogaeth trwy bostio a rhannu lluniau o’r ffordd y maent yn ‘gwneud safiad’. Yr hashnod yw #makingastandwales. Bydd hysbysiad y wasg yn cael ei gyhoeddi hefyd. Dros gyfnod y Nadolig - 15 Rhagfyr i 1 Ionawr, byddwn yn ailadrodd yr hysbyseb teledu ‘Allwch chi weld yr hyn yr ydym ni’n ei weld’ a ddefnyddiwyd yn flaenorol, sydd hefyd ar ein sianel YouTube https://www.youtube.com/watch?v=TUY8APLxnKA&index=10&list=PLHBVoCVw4XZSyz5vDuJTKJbt6eBQZE4hT. Mae darn olaf yr hysbyseb hwn wedi cael ei newid i ddangos URL y wefan newydd felly bydd hwn yn cael ei adnewyddu cyn i’r ymgyrch fynd yn fyw. Unwaith eto, bydd hysbysiad y wasg a gweithgaredd Facebook / Twitter i gefnogi’r ymgyrch hwn. Mae Strategaeth Genedlaethol newydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cael ei chyhoeddi. Gweler y ddolen isod i weld y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – 2016 – 2021: http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/domesticabuse/?skip=1&lang=en
Crynodeb o’r Newyddion
Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Substance Misuse Maethiad Arddegwyr yn yfed llond bath o ddiodydd melys bob blwyddyn Mae pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn yfed llond bath bron o ddiodydd melys bob blwyddyn ar gyfartaledd, yn ôl cyfrifiadau newydd gan Ymchwil Canser y DU.
Physical Activity Dyled Tri ar hugain y cant o boblogaeth Cymru’n cael anhawster yn cael dau ben llinyn ynghyd Mae adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree wedi canfod bod bron chwarter y bobl yng Nghymru yn cael anhawster yn cael dau ben llinyn ynghyd ac mae tlodi yn costio £3.6bn y flwyddyn i’r wlad.
Cardiovascular Iechyd Meddwl Gall cael eu hamddifadu o gwsg wneud i bobl fwyta mwy o galorïau
Gall cael eu hamddifadu o gwsg wneud i bobl fwyta mwy o galorïau’r diwrnod wedyn, yn ôl adolygiad systematig o feta-ddadansoddiad o dan arweiniad ymchwilwyr yng Ngholeg y Brenin, Llundain.
Health Professionals Clefydau Anhrosglwyddadwy Dyn yn datblygu hepatitis aciwt ar ôl yfed gormod o ddiodydd egni Cafodd dyn 50 oed ei dderbyn i’r adran achosion brys gyda hepatitis aciwt, mwy na thebyg am ei fod wedi yfed 4-5 o ddiodydd egni bob dydd am dair wythnos, yn ôl meddygon oedd yn ysgrifennu i’r cyfnodolyn BMJ Case Reports.
Click Here for more news on the Public Health Network Cymru website
December
05 06 07 12 13
Uwchgynhadledd Ewropeaidd ar Arloesi ar gyfer Iechyd a Heneiddio’n Egnïol Brwsel Cynhadledd y Gaeaf y Gymdeithas Faetheg: Deiet, Maeth ac Iechyd a Lles Meddwl Llundain Cynhadledd lefel uchel ar gydweithio ar gyfer iechyd a lles gwell Paris, Ffrainc Golwg ar… Ofal Cymunedol Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd Cymorth Iechyd Meddwl mewn Ysgolion Caerdydd
Cliciwch yma i weld rhagor wefan Rhwydwaith Iec
14 15 15
17
Cyfarfod Rhwydwaith Eirioli Powys Swyddfeydd PAVO, Llandrindod, LD1 6DF Penderfynyddion Cymdeithasol ac Anghydraddoldebau Iechyd Caerdydd
Dathlu Cymunedau Caerdydd
Gŵyl Teithiau Cerdded y Gaeaf 2016 Digwyddiad Cenedlaethol
o ddigwyddiadau ar chyd Cyhoeddus
#TechniHealth Hybu Iechyd yn yr Oes Ddigidol 27 Chwefror 2017 11:00 - 16:00 Techniquest, Caerdydd Bydd y Siaradwyr yn Cynnwys: Peter Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd a Gofal Digidol, Llywodraeth Cymru Julia Bailey, Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Gofal Sylfaenol, UCL Craig Jackson, Athro Seicoleg Iechyd Galwedigaethol, Prifysgol Dinas Birmingham David Crane, Ymchwilydd, UCL Dr Kelly Mackintosh, Uwch Ddarlithydd Gwyddor Chwaraeon, Prifysgol Abertawe Dr Melitta McNarry, Uwch Ddarlithydd Gwyddor Chwaraeon, Prifysgol Abertawe
I archebu lle, defnyddiwch Wefan Eventbrite
Cysylltu â Ni Publichealth.network@wales.nhs.uk Capital Quarter 2 Floor 5 Tyndall Street Cardiff CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk y dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhifyn Nesaf: Ymwybyddiaeth Alcohol