Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Ebrill 2018

Page 1

April 2018

Ebrill 2018


Gwneud pob diwrnod yn Ddiwrnod Dim Tybaco y Byd

Croeso i rifyn Ebrill o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd yr e-fwletin fis yma’n canolbwyntio ar Ddiwrnod Dim Tybaco WNO a gynhelir ar 31 Mai. Bob blwyddyn, mae WHO a’i bartneriaid yn nodi Diwrnod Dim Tybaco i bwysleisio’r peryglon iechyd a’r peryglon eraill sy’n gysylltiedig â defnyddio tybaco ac i eirioli polisïau effeithiol i leihau’r defnydd o dybaco. Ffocws Diwrnod Dim Tybaco y Byd 2018 yw “Tybaco a chlefyd y galon.”

@PHNetworkCymru

Mae Diwrnod Dim Tybaco y Byd yn cyd-fynd ag ystod o fentrau byd-eang a chyfleoedd sydd yn ceisio mynd i’r afael â’r epidemig tybaco a’i effaith ar iechyd y cyhoedd, yn arbennig yn achosi marwolaeth a dioddefaint miliynau o bobl yn fyd-eang. Mae’r camau hyn yn cynnwys y mentrau a gefnogir gan WHO, sef Global Hearts a RESOLVE, sydd â’r nod o leihau marwolaethau clefyd cardiofasgwlaidd a gwella gofal, a thrydydd Cyfarfod Lefel Uchel Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Atal a Rheoli Clefydau Anhrosglwyddadwy a gynhelir yn 2018.




Diwrnod Dim Tybaco y Byd Dan Sylw Helpa fi i stopio flwyddyn yn ddiweddarach Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ei gynllun ‘Helpa Fi i Stopio’ gan ddod â dwsinau o fferyllwyr, gweithwyr ysbyty, bydwragedd ac arbenigwyr rhoi’r gorau i smygu ynghyd i helpu’r rheiny sydd eisiau rhoi’r gorau iddi. Yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro, mae dros 60,000 o bobl yn smygu ac mae tîm o bobl sydd yn gweithio i helpu’r rheiny sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu. Un ohonynt yw Helen Poole, sydd yn rhan o dîm mewnol ysbytai Bwrdd Iechyd y Brifysgol o arbenigwyr rhoi’r gorau i smygu ac mae wedi ei lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dywedodd: “Rwyf eisiau gallu helpu a chefnogi pobl, a’u grymuso i sylweddoli y gallant oroesi a ffynnu mewn bywyd heb dybaco. “Enghraifft wych yw rhywun yn cael eu bywyd yn ôl ar ôl sigaréts yw dyn a atgyfeiriwyd ataf gyda diabetes a phroblemau cylchrediad y gwaed. Roedd yn ei 60au a bu’n smygu am y rhan helaeth o’i fywyd. O ganlyniad, mae cylchrediad y gwaed yn un o’i goesau wedi dirywio cymaint nes i’w ymgynghorydd benderfynu y dylid torri ei goes i ffwrdd. “Trefnwyd y llawdriniaeth mewn chwe mis felly cafodd ei atgyfeirio ataf i i’w helpu i roi’r gorau i smygu er mwyn yw adferiad fod yn well. Nid oedd yn hapus ei fod yn gorfod rhoi’r gorau i smygu ond cytunodd i roi cynnig arni. “Ym mhob apwyntiad, dywedodd wrthyf gymaint yr oedd yn gweld eisiau smygu ond llwyddodd i gadw’n gryf ac ni chafodd un sigarét. Yn ei apwyntiad nesaf gyda’i ymgynghorydd, dywedwyd wrtho fod cylchrediad ei waed wedi gwella cymaint nad oedd angen llawdriniaeth arno bellach. Yr unig beth a newidiodd yn ystod y chwe mis hwnnw oedd rhoi’r gorau i smygu. Gallwch ddarllen gweddill yr erthygl ar Wefan y Penarth Times.


Diwrnod Dim Tybaco y Byd Bob blwyddyn, ar 31 Mai, mae’r WHO a’i bartneriaid yn nodi Diwrnod Dim Tybaco y Byd (WNTD), gan amlygu’r peryglon iechyd a’r peryglon eraill sy’n gysylltiedig â’r defnydd o dybaco, ac eirioli polisïau effeithiol i leihau’r defnydd o dybaco. Ffocws Diwrnod Dim Tybaco y Byd 2018 yw “Tybaco a chlefyd y galon.” Bydd yr ymgyrch yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r: • cyswllt rhwng tybaco a chlefyd y galon a chlefydau cardiofasgwlaidd eraill (CVD), yn cynnwys strôc, a’r rhain, gyda’i gilydd, yw prif achosion marwolaeth yn y byd; • camau a mesurau ymarferol y gall cynulleidfaoedd allweddol, yn cynnwys llywodraethau a’r cyhoedd, eu cymryd i leihau’r peryglon i iechyd y galon a gyflwynir gan dybaco. Mae Diwrnod Dim Tybaco y Byd 2018 yn cyd-fynd ag ystod o fentrau a chyfleoedd byd-eang sydd yn ceisio mynd i’r afael â’r epidemig tybaco a’i effaith ar iechyd y cyhoedd, yn arbennig yn achosi marwolaeth a dioddefaint miliynau o bobl yn fyd-eang. Mae’r camau hyn yn cynnwys y mentrau a gefnogir gan WHO, sef Global Hearts a RESOLVE, sydd yn ceisio lleihau marwolaethau yn sgil clefyd cardiofasgwlaidd a gwella gofal, a thrydydd Cyfarfod Lefel Uchel Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Atal a Rheoli Clefydau Anhrosglwyddadwy a gynhelir yn 2018. Sut mae tybaco’n peryglu iechyd y galon ymysg pobl yn fyd-eang Bydd Diwrnod Dim Tybaco y Byd 2018 yn canolbwyntio ar yr effaith y mae tybaco’n ei gael ar iechyd cardiofasgwlaidd pobl yn fyd-eang. Mae’r defnydd o dybaco yn ffactor risg pwysig ar gyfer datblygiad clefyd coronaidd y galon, strôc a chlefyd fasgwlaidd ymylol. Er gwaethaf niwed hysbys tybaco i iechyd y galon, ac argaeledd atebion i leihau marwolaeth a chlefydau cysylltiedig, mae gwybodaeth ymysg adrannau sylweddol o’r cyhoedd mai tybaco yw un o brif achosion CVD yn isel. Am fwy o wybodaeth ac adnoddau, ewch i wefan WHO.



Dengys ymchwil newydd fod gan blant ysgol gynradd lefel dda o ymwybyddiaeth o e- sigaréts Mae’r adroddiad, ‘Lle bo mwg oes tân? Canfyddiadau plant ysgol gynradd yng Nghymru am sigaréts electronig’, yn amlygu y gall y rhan fwyaf o blant (95 y cant) wahaniaethu rhwng tybaco a sigaréts electronig, gyda llawer yn meddwl bod e- sigaréts yn fwy diogel ac yn well na sigaréts tybaco. Comisiynwyd yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i ddeall ymwybyddiaeth a safbwyntiau plant am e- sigaréts, o’i gymharu â smygu tybaco. Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, yn cydnabod effeithiau niweidiol smygu ond nad oes gan blant lawer o ddealltwriaeth o unrhyw niwed i iechyd yn sgil sigaréts electronig. Roedd ansicrwydd sylweddol a llawer o gam-amgyffrediad. Fe wnaeth rhai plant iau, erenghraifft, gamgymryd blas ffrwythau fel arwydd bod yr e-hylif yn cynnwys ffrwythau a’u bod felly’n iach. Sylwodd yr ymchwilwyr mai thema sylfaenol trwy gydol y canfyddiadau oedd bod plant yn disgrifio sigaréts electronig fel rhywbeth ‘gwell’ ac ‘iachach’ na sigaréts tybaco. Er bod hyn yn sicr yn wir i smygwyr sy’n oedolion sydd yn ceisio lleihau eu niwed yn sgil smygu, mae cytundeb rhyngwladol clir na ddylai’r rheiny nad ydynt yn smygu, yn arbennig plant a phobl ifanc, ddefnyddio e- sigaréts. Roedd dros bumed y plant oedd wedi cwblhau’r holiadur wedi cael rhyw gyswllt â sigaréts electronig a thybaco trwy deulu a ffrindiau yn y cartref. Canfu fod hyn wedi dylanwadu ar safbwyntiau plant am smygu ac anweddu gyda’r canfyddiadau’n awgrymu bod plant sy’n cael cyswllt â sigaréts electronig yn y cartref yn fwy gwybodus am y pwnc na’u cyfoedion. Gallwch ddarllen gweddill yr erthygl ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.



Lansio fideo meddygon teulu gwasanaethau Helpwch Fi i Stopio

Ers ei lansio fis Ebrill diwethaf, mae ymgyrch Helpa Fi i Stopio GIG Cymru wedi ymgysylltu tua 30,000 o bobl ar hyd a lled Cymru. Lansiwyd yr ymgyrch i gydnabod bod smygu, i lawer o bobl, wedi mynd yn arferiad sydd yn rhy anodd rhoi’r gorau iddo heb gymorth a chefnogaeth. Ei nod yw cynyddu ymwybyddiaeth am yr ystod o gymorth arbenigol i roi’r gorau i smygu sydd ar gael ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn gorfod parhau. Er, yn draddodiadol, mae sawl brand rhoi’r gorau i smygu wedi cael eu defnyddio yng Nghymru, lansiwyd Helpa Fi i Stopio i ddod â’r rhain ynghyd i’w wneud yn haws i smygwyr gael yr holl gymorth a’r arweiniad sydd ei angen arnynt i roi’r gorau i smygu. Mae’n cymryd sawl ymgais i’r rhain fwyaf o smygwyr roi’r gorau iddi cyn iddynt lwyddo ac mae’r dystiolaeth yn cadarnhau bod smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo i roi’r gorau iddi trwy ddefnyddio meddyginiaeth ynghyd â chymorth ymddygiadol, nag unrhyw ymgais i roi’r gorau iddi heb gymorth. Gellir cael gafael ar y feddyginiaeth a’r cymorth hwn yn rhad ac am ddim trwy Helpa Fi i Stopio.


Ystadegau Ysmygu Allweddol i Gymru Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod mynychder

19% neu tua 476,000 o smygwyr yng Nghymru Mae smygu’n achosi tua 5,450 farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru Mae smygu’n costio tua £302 miliwn smygu yng Nghymru wedi gostwng i

y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru

un o brif achosion anghydraddoldebau mewn iechyd o hyd gyda chyfraddau smygu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig Smygu yw

dros ddwbl y cyfraddau yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig


ASH Cymru’n Cefnogi’r Rhybudd i’r Pwyllgor Dethol ar Sgrin yn ei Achosi yn y DU

Mae’r elusen rheoli Tybaco, Action on Smoking and Health (ASH) Cymru yn cefnogi cyflwy rhybuddio bod smygu ar y teledu ac mewn ffilmiau yn annog plant i ddechrau smygu.

Mae’r cyflwyniad i’r Pwyllgor Dethol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg, a anfonwyd ar y cyd g astudiaethau Tybaco ac Alcohol y DU (UKCTAS), yn cynnwys canlyniadau newydd YouGov bobl ifanc 11 i 15 oed ac 88% o bobl ifanc 16 i 18 oed wedi gweld smygu mewn ffilmiau. Ar g degau yn 68% o bobl ifanc 11 i 15 oed a 77% o bobl ifanc 16 i 18 oed.

Un o’r troseddwyr mwyaf nid yn unig ar gyfer smygu ond hefyd pecynnau â brand arnynt oed boblogaidd, Love Island. Amcangyfrifir bod y rhaglen wedi creu tua 47 miliwn o argraffiadau’n o dan 16 oed.

Mae’r cyflwyniad hefyd yn cynnwys ffigurau newydd gan Ymchwil Canser y DU sydd yn dang ym mynychder smygu, bod llawer o bobl ifanc yn dal i ddechrau smygu. Rhwng 2014 a 2016 blant y flwyddyn smygu am y tro cyntaf yn Lloegr, sydd yn gyfwerth â 17 o ddosbarthiadau p Yng Nghymru, y ffigur yw 30 o blant y dydd. Dengys ymchwil fod dros 60% o’r rheiny sydd mynd ymlaen i fod yn smygwyr rheolaidd.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Mae llawn dosbarth o blant yn dechra Nghymru. Pobl ifanc yw prif darged y diwydiant tybaco gan mai nhw yw’r unig bobl all gym oes, sydd yn marw. Dechreuodd y rhan fwyaf o oedolion sydd yn smygu yr arferiad yn eu ha

“Mae hysbysebion smygu wedi cael eu gwahardd ers blynyddoedd lawer ar y teledu ac mew amlwg cynnyrch tybaco, yn arbennig ymysg rhaglenni sy’n benodol i bobl ifanc.”

Cynghrair Rheoli Tybaco yn Cefnogi Galwadau i Fynd Nghymru

Mae cynghrair rheoli tybaco yn cefnogi galwadau am raglen ar draws Cymru i fynd i’r afael â Cafodd rhaglen ddogfen am fynychder tybaco anghyfreithlon a’r camau sy’n cael eu cymry Cownter’ neithiwr (9.30pm ar Ddydd Mawrth 10 Ebrill). Mae’n dilyn adroddiad gan yr elusen rheoli tybaco, ASH Cymru sydd yn dangos bod tybaco unrhyw ranbarth o’r DU. Dywed Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru (WTCA) – sydd yn cynnwys sefydliadau iechyd yn c Canser Tenovus – fod angen rhaglen gydlynus i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon i’w wn

Dywed y WTCA y byddai ymagwedd aml-asiantaeth, wedi ei chefnogi gan gynllun cyfathre Cymru.

Mae sigaréts a thybaco sy’n cael ei reoli â llaw yn cael eu galw’n anghyfreithlon os ydynt we neu’n gynnyrch ffug sydd yn efelychu brandiau mawr. I ddarllen mwy, ewch i wefan ASH Cymru.


r y Niwed y mae Arferion Smygu ar y

yniad i Lywodraeth y DU yn

gan ASH Lloegr a Chanolfan sydd yn dangos bod 81% o gyfer y teledu, roedd yr ysta-

dd y rhaglen deledu realaeth n ymwneud â smygu ar blant

gos, er gwaethaf gostyngiad 6, dechreuodd tua 127,000 o plant ysgol uwchradd y dydd. d yn rhoi cynnig ar smygu yn

au smygu bob dydd yma yng mryd lle eu cwsmeriaid gydol arddegau, mewn oed pan oedd yn hawdd dylanwadu arnynt.

wn sinemâu. Mae’n anodd peidio cwestiynu pam yr ydym yn gweld cynnydd cyflym yn lleoliad

i’r afael â Thybaco Anghyfreithlon yng

â phroblem anghyfreithlon tybaco yng Nghymru. yd i frwydro yn ei erbyn ei darlledu ar raglen Gymraeg ar S4C, sef ‘Y Byd ar Bedwar: Dan y

o anghyfreithlon yn rhoi cyfrif am 15% o farchnad dybaco cyfan Cymru – sydd yn uwch nag

cynnwys Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Sefydliad Prydeinig y Galon, BMA Cymru a Gofal neud ar gael llai i bobl ifanc ac i gadw troseddu allan o’n cymunedau.

ebu cynhwysfawr, yn lleihau cyflenwad a galw tybaco anghyfreithlon yn sylweddol ar draws

edi cael eu smyglo i’r wlad, wedi eu prynu dramor yn ‘ddi dreth’ ac wedi osgoi trethiant y DU,


Helpwch bobl i wneud penderfyniadau gwybodus yng dywed NICE a Public Health England.

Mae NICE a Public Health gwasanaethau rhoi’r gorau i argymell rhoi blaenoriaeth i g phobl â phroblemau iechyd m maent yn gweld gweithiwr go gwasanaethau rhoi’r gorau i s blwyddyn.

Mae’r canllaw yn cynnwys y cynnwys: cymorth ymddygiad apy amnewid nicotin (NRT) a c proffesiynol am ddefnyddio e

Dywedodd yr Athro Gillian Le yw prif achos salwch y gellir e ei angen ar bobl i roi’r gorau i “Fel cynnyrch cymharol newydd, mae effaith hirdymor eu defnydd tymor byr yn ogystal ag e na ddylid annog pobl sydd yn smygu i newid i e- sigaréts oherwydd y dystiolaeth sy’n dal i d helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu defnydd.”

Yn 2015/16, roedd tua 474,000 o dderbyniadau i ysbytai’r GIG yn Lloegr yn gysylltiedig â chy farwolaethau oherwydd smygu.

Dywedodd yr Athro John Newton, cyfarwyddwr Gwella Iechyd: “Er gwaethaf gostyngiad mew o smygwyr eisiau rhoi’r gorau iddi, mae’n hanfodol eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei han

“Mae pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol rheng flaen yn chwarae rôl ac mae’r canllaw n


ghylch pryd y maent eisiau rhoi’r gorau i smygu,

England wedi cyhoeddi canllawiau wedi eu diweddaru ar gyfer ymarferwyr iechyd a smygu am y ffyrdd gorau o helpu pobl i roi’r gorau i smygu. Mae’r canllaw newydd yn grwpiau penodol sydd â’r perygl mwyaf o niwed o smygu, fel menywod sydd yn feichiog a meddwl. Mae’n argymell gofyn i bobl am eu smygu a’u hannog i roi’r gorau iddi bob tro y ofal iechyd neu gymdeithasol. Mae hefyd yn amlygu’r targedau sydd eisoes yn bodoli y dylai smygu eu gosod fel trin o leiaf 5% o’r amcangyfrifiad o’r boblogaeth leol sydd yn smygu bob

ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth a ddylai fod ar gael i oedolion sydd yn smygu yn dol, meddyginiaethau nad ydynt yn rhai nicotin i helpu ysfeydd a symptomau amddifadu, therchyngor byr iawn. Nodwyd bod pobl sydd yn smygu yn aml yn gofyn i weithwyr gofal iechyd e- sigaréts. Mae’r canllaw yn argymell y dylid cynghori pobl ar eu defnydd.

eng, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn NICE: “Smygu ei osgoi a marwolaeth yn Lloegr. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r cymorth a’r cyngor sydd iddi. effaith hirdymor eu defnydd hirdymor yn dal i gael ei ddatblygu. Roedd y pwyllgor yn poeni ddatblygu. Mae ein canllawiau felly’n argymell bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn

yflyrau sy’n gysylltiedig â smygu. Yn ogystal â hyn yn 2015, roedd tua 16% (79,000) o’r holl

wn cyfraddau smygu, mae bron 7 miliwn o bobl yn Lloegr yn dal i smygu. Gyda’r rhan fwyaf ngen arnynt i gael y cyfle gorau o lwyddiant.

newydd hwn yn rhoi argymhellion i lywio eu cyngor i gleifion sydd yn smygu.”


18

Gwobr Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol syd

We know from experience that a multi-pronged approach is necessary to reduce tobacco use in the EU, therefore the work of NGOs in communicating to citizens about the dangers of tobacco is an invaluable part of our overall effort.

Vytenis Andriukaitis European Commissioner for Health and Food Safety

D R A W A H to prevent T L A E H g EU

kin r o w s for NGO tobacco use /2018 /06 line: 15 Dead

Health and Food Safety

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn neilltuo’r pedw gyfrannodd neu sydd yn cyfrannu at lefel uwch o Y defnydd o dybaco yw’r perygl unigol mwyaf i iec achos unigol mwyaf marwolaeth a chlefydau y ge UE; mae tua 50% o smygwyr yn marw cyn pryd (a diwethaf, mae nifer o fentrau wedi cael eu datblyg eu bod wedi ceisio rhoi’r gorau i smygu a dim on mwy o incwm gwario ac yn y pen draw, ansawdd

Yn ôl Ewrofaromedr Arbennig Mai 2017 ar agwed a 2017 yng nghyfran y rheiny sydd yn smygu, g adroddiad, o ran y newidiadau ymysg grwpiau ymatebwyr 15-24 oed sydd bellach ychydig yn fw

Mae’r defnydd o dybaco gan y glasoed ac oedo oedolyn, gyda chanlyniadau iechyd hirdymor difr ogystal â’r glasoed. Ceir tystiolaeth hefyd y gall o y byddant yn dod yn ddefnyddwyr tybaco rheolai

Mae rôl Cyrff Anllywodraethol yn hanfodol yn yr y

Cyhoeddodd Vytenis Andriukaitis, Comisiynydd Iechyd a Diogelwch Bwyd, y Wobr ar achly eu bod yn 18 oed a 94% yn dechrau cyn eu bod yn 25 oed, mae’n hanfodol ein bod yn cano sefydlu deddfwriaeth gadarn i wneud cynnyrch tybaco yn llai deniadol i bobl ifanc, yn cy gwyddom o brofiad fod angen ymagwedd ddeuol i leihau’r defnydd o dybaco yn yr UE. Yn tybaco yn rhan werthfawr o’n hymdrech gyffredinol. Bydd yn bleser felly i gydnabod a gwobr defnyddio tybaco.”

Gyda’r wobr hon, bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn amlygu ac yn gwobrwyo mentrau eithria cyfrannu’n sylweddol at atal y defnydd o dybaco ymysg poblogaeth yr UE. Dylai mentrau dd

Fel Gwobrau Iechyd blaenorol yr UE, mae’r wobr hon yn gysylltiedig â gwaith y Comisiwn E Anllywodraethol sydd yn gwasanaethu fel modelau ar gyfer y dyfodol. Dylai mynediad i’r Aelod-wladwriaethau yr UE yn ogystal â sefydliadau rhyngwladol sydd yn efelychu’r arferion

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn galw ar Gyrff Anllywodraethol rhyngwladol, Ewropeaidd, cen am eu mentrau i Wobr Iechyd 2018 yr UE. Mae’r alwad am geisiadau yn agored i fentrau sydd sydd yn ceisio osgoi’r defnydd o dybaco ymysg y glasoed ac oedolion ifanc. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd.


dd yn gweithio i atal y defnydd o dybaco

werydd rhifyn hwn o Wobr Iechyd yr UE i fentrau sefydliadau anllywodraethol (NGO) a o iechyd y cyhoedd yn yr Undeb Ewropeaidd trwy weithio i atal y defnydd o dybaco.

chyd y gellir ei osgoi yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae 26% o Ewropeaid yn smygu, a smygu yw ellir eu hosgoi yn yr UE o hyd. Dyma’r achos mwyaf arwyddocaol o farwolaeth cyn pryd yn yr ar gyfartaledd 14 o flynyddoedd yn gynt na’r rheiny nad ydynt yn smygu). Yn y blynyddoedd gu i fynd i’r afael â baich defnyddio tybaco ar draws Ewrop, lle mae 54% o smygwyr wedi nodi nd 20% sydd wedi llwyddo1. Mae ffordd o fyw di-fwg yn golygu iechyd gwell a llesiant gwell, bywyd gwell.

ddau Ewropeaid tuag at dybaco a sigaréts electronig, cafwyd gostyngiad o 6% rhwng 2006 gyda thuedd ar i lawr yn 21 o’r 28 o Aelod-wladwriaethau. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr demograffig cymdeithasol er 2014, gellir gweld un o’r newidiadau mwyaf amlwg ar gyfer wy tebygol o ddweud eu bod yn smygu nag o’r blaen (+ 4 pwynt canran , o 25% i 29%).

olion ifanc yn achosi dibyniaeth ar nicotin, sydd yn cynyddu’r tebygolrwydd o smygu pan yn rifol. Oherwydd yr uchod, byddai angen i ymdrechion atal smygu dargedu oedolion ifanc yn oedi o ran yr oed y mae’r glasoed a phobl ifanc yn dechrau defnyddio tybaco leihau’r perygl idd a chynyddu eu siawns o lwyddo i roi’r gorau iddi.

ymdrech i sicrhau llwyddiant wrth atal y defnydd o dybaco.

ysur Diwrnod Iechyd y Byd, gan ddweud “Gyda 70% o smygwyr yn Ewrop yn dechrau cyn olbwyntio ar ein hymdrechion i atal effaith tybaco ar Ewropeaid ifanc. Mae’r Comisiwn wedi ynnwys gwaharddiadau ar briodoli blasau, gimics pecynnu a phaciau o 10. Fodd bynnag, Yn hyn o beth, mae gwaith Cyrff Anllywodraethol yn cyfathrebu i ddinasyddion am beryglon rwyo mentrau eithriadol gan Gyrff Anllywodraethol sydd yn helpu pobl ifanc i ymwrthod rhag

adol cyrff anllywodraethol rhyngwladol, Ewropeaidd, cenedlaethol neu ranbarthol sydd wedi dangos gwerth ychwanegol yn atal y defnydd o dybaco.

Ewropeaidd i ddatblygu cronfa ddata o arferion da mewn meysydd iechyd amrywiol o Gyrff gronfa ddata hon ysbrydoli Cyrff Anllywodraethol eraill ac awdurdodau cyhoeddus mewn n da hyn i ddiogelu iechyd dynol a gwella ansawdd bywyd dinasyddion yr UE.

nedlaethol a rhanbarthol sydd yn weithredol yn atal y defnydd o dybaco i gyflwyno manylion d yn ceisio creu iechyd y cyhoedd gwell ar gyfer dinasyddion yr UE, yn arbennig trwy gamau


Gwyliwch, Gwrando a dysgu Podlediadau Ychwanegiad diweddar i’r ystod o adnoddau a gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i aelodau yw’r gyfres o bodlediadau sydd yn boblogaidd iawn. Mae’r llyfrgell podlediadau ar hyn o bryd yn cynnwys podlediadau byr ar bynciau yn amrywio o Alcohol a Phobl Hŷn i Anableddau Dysgu mewn Ysbytai a digon o bethau eraill. Fodd bynnag, mae’r tîm yn awyddus i barhau i ddatblygu’r llyfrgell a chwilio am aelodau brwdfrydig fyddai’n hoffi cyfrannu at yr ystod gynyddol o destunau a thrafodaethau. Os hoffech chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, siarad am wasanaeth, prosiect neu fenter yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a hybu iechyd, gallwn ddarparu’r dechnoleg os gallwch chi ddarparu ychydig o’ch amser. Os ydych yn awyddus, yn barod ac yn gallu gwneud hynny, anfonwch e-bost atom yn publichealth.network@wales.nhs.uk a byddwn yn fwy na pharod i drafod podlediad posibl gyda chi. Dylid nodi na allwn ddefnyddio podlediadau i hyrwyddo unrhyw gynnyrch neu wasanaeth masnachol.

Youtube Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar Iechyd y Cyhoedd


Mae cyngor Caerdydd eisiau cyflwyno pum “traffordd feicio” Dyma’r olwg gyntaf ar lwybr beicio wedi ei ddylunio’n arbennig y mae cyngor Caerdydd yn gobeithio bydd yn cael mwy o bobl ar feic. Fel rhan o gynllun 15 mlynedd, mae’r awdurdod lleol eisiau cyflwyno pum “traffordd feicio”. Maent yn llwybrau parhaus sydd yn gwahanu beicwyr oddi wrth gerbydau modur a cherddwyr lle bo angen. Mae’r delweddau cyntaf a gyhoeddwyd yn dangos llwybr beicio 1km wedi ei “wahanu’n gyfan gwbl” oddi wrth y ffordd gyda phalmant rhwng y llwybr a’r ffordd. Mae’r rhan gyntaf ar Gilgant Sant Andreas ar hyd Plas Sant Andreas a Heol Senghennydd. Dywedodd yr aelod o’r Cabinet, Caro Wild, mai hwn fyddai’r cam cyntaf tuag at wneud Caerdydd yn ddinas fwy cyfeillgar i feicwyr. Dywedodd fod hyn wedi cael ei ddewis fel y lleoliad cyntaf oherwydd ei fod mor brysur. “Mae hwn yn llwybr prysur gyda llawer o fyfyrwyr a byddai’n dechrau’r daith yr holl ffordd i’r ysbyty. “Mae hwnnw’n llwybr allweddol i ni. Gwyddom fod llawer o alw yn y fan honno.” Darllenwch fwy ymam

Ar y grawnwin

Golwg gyntaf ar gynllun y cyngor ar gyfer ‘traffordd’ feicio’r cyngor gyda’r nod o gael mwy o bobl ar feic



Close to Home: The Right to Housing

How do we ensure the human right to housing remains a priority?

Tai Pawb Annual Conference 2018 17th May - Future Inn, Cardiff Featured Speakers: • • • •

Professor Geraldine Van Bueren QC, International Human Rights Lawyer Peter Tatchell, Human Rights Activist Rebecca Evans AM, Minister for Housing and Regeneration Mica Moore, Olympic Bobslegher

Book online now: www.taipawb.org/closetohome Principal Sponsor - Valleys to Coast


Clywed si

Cyfrifiadau Newydd yn Cadarnhau y Gallai Newidiadau i Ffordd o Fyw Atal 4 mewn 10 o Achosion o Ganser

Gellir rhoi achosion o ganser mewn dwy garfan yn fras: pethau y gallwn eu rheoli, ac eraill na allwn. Mae’r olaf yn cynnwys pethau fel newidiadau ar hap i’n genynnau wrth i ni fynd yn hŷn, neu’r rheiny sy’n cael eu trosglwyddo trwy deuluoedd. Yn ôl eu natur, nid oes llawer y gallwn ni ei wneud am y peryglon hyn. Ond ar gyfer yr achosion niferus y mae gennym rywfaint o reolaeth drostynt, fel smygu, mae cyfle i weithredu sydd â’r potensial i achub bywyd.

Lansio Ymgynghoriad Mawr ar Iechyd a Gweithgaredd Corfforol Plant

Mae ukactive wedi lansio ymgynghoriad mawr newydd fydd yn llunio dyfodol gweithgaredd corfforol plant ar draws y DU. Mae cadeirydd ukactive a’r cyn-Baralympiad y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi galw ar bawb o blant i ddarparwyr gweithgaredd corfforol a gwneuthurwyr polisïau, i ychwanegu at adroddiad newydd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd i wella iechyd plant.

Cynllun cyflogadwyedd newydd i fynd i’r afael â diweithdra ac anweithgarwch economaidd Cael gwared ar y bwlch yn y cyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd rhwng Cymru a’r cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Unedig o fewn deng mlynedd; lleihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant; cynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith; a dileu’r bwlch cymwysterau rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yw prif amcanion cynllun cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru.

Cymru - yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’. Mae’r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel un o’r awdurdodau sy’n arwain y byd ar gynorthwyo buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl, ysgogi datblygu cynaliadwy a hyrwyddo ffyniant i bawb.


Alcohol Plant a Phobl Ifanc Cymunedau Addysg Yr Amgylchedd Gamblo Rhyw Digartrefedd Ffordd o Fyw Iechyd Mamau a'r Newydd-Anedig Iechyd Meddwl Clefydau Anhrosglwyddadwy Maeth Iechyd y Geg Rhieni Pobl ag Anableddau Fferylliaeth Gweithgaredd Corfforol Polisi Tlodi Carcharorion Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Rhywiol Rhywioldeb Ysmygu Camddefnyddio Sylweddau Diweithdra Cyn-filwyr Trais a Chamdriniaeth Gwaith


Beth sy’n digwydd ym mis

MaI

1

7

14

2

3

Deall sut i Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc

New Pathways SURE for Mental Health Interactive Conference 2018

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Caerdydd

Caerdydd

Caerdydd

8

9

10

Deall ac Ymateb i Ymddygiad Bwlio

ACE – Adeiladu Gwydnwch yn wyneb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Iechyd Meddwl Heddiw Cymru 2018

Caerdydd

Caerdydd

Caerdydd

15

16

17

4 Pobl Ifanc a Chamddefnyddio Sylweddau: Pam nad yw’r Cyffuriau’n Gweithio Caerdydd

11

18

Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol wrth Ddiogelu Plant

Arddangos Cynaliadwyedd 2018

Bore Agored Wythnos Ymwybyddiaeth Weithredu Dementia Ddiwylliannol wrth Ddiogelu Plant

Cardiff

Caerfyrddin

Abertawe

21

22

23

24

Datblygu’r Dystiolaeth ar gyfer Ymarfer Clinigol mewn Polisi Iechyd

Tuag at ddigonolrwydd chwarae: gwneud synnwyr o’r ymchwil

Pobl Ifanc LHDTC: Gwneud pethau’n gwbl glir

DyspracsiaSinderela’r Anhwylderau Datblygol

Stockholm

Wrecsam

Caerdydd

Caerdydd

28 Wythnos MOVE 2018

Digwyddiad Cenedlaethol

29

30

31

Bae Colwyn

25


Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Arddangos Cynaliadwyedd 2018 Mae Arddangos Cynaliadwyedd yn gyfres o ddigwyddiadau fydd yn digwydd ar hyd a lled Cymru ym mis Mai 2018. Eu nod yw darparu’r canlynol: • Y diweddaraf ar ddatblygiadau yn Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, a hyb Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru • Gofod rhwydweithio a chyfle i brosiectau lleol arddangos eu gwaith • Cyfle i ymgysylltu â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Os oes gennych brosiect chynaliadwyedd ac iechyd yr hoffech ei hyrwyddo, cysylltwch â ni yn: publichealth.network@wales.nhs.uk Gellir mynychu’r digwyddiadau am ddim a darperir cinio bys a bawd ym mhob lleoliad. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch le yn gynnar. Cliciwch ar un o’r digwyddiadau canlynol i gofrestru trwy Eventbrite: 2 Mai - Canolfan Reoli Busnes, Bangor Gwerthu Allan 3 Mai - Ramada Plaza, Wrecsam Gwerthu Allan 8 Mai - Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd 10 Mai - Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod 16 Mai - Canolfan Halliwell, Caerfyrddin 23 Mai - Canolfan St Michaels, Y Fenni



Yn y Rhifyn nesaf Wythnos Diogelwch Plant


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.