Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau Chwefror 2017

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Chwefror 2017

Networks and Partnerships: Wales Collaborating for Global Health More on Page 5


Croeso Croeso i rifyn mis Rhagfyr o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd y rhifyn yma yn rhoi gwybodaeth i chi am Gynhadledd Dathlu’r Siarter Blynyddol “Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang” a gweithgareddau yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyhoeddiadau a chyfleoedd newydd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter i gael diweddariadau rheolaidd #IHCCCymru ac ar wefan IHCC.

Cynnwys Mewn Ffocws - YTu Hwnt i Gymru

3

Mewn Ffocws - Yng Nghymru 5 Cyfleoedd 8 Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol

18


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Cyfarfod y Gweithgor Iechyd ac SDG Arbenigol Ar 17–19 Ionawr 2017, galwodd WHO Ewrop gyfarfod cyntaf y Gweithgor Iechyd a Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) Arbenigol gyda’r nod o gynorthwyo Ysgrifenyddiaeth WHO i ddrafftio’r map ffordd. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Swyddfa Ewropeaidd WHO dros Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal. Amlygodd y cyfranogwyr bwysigrwydd SDG yn cyflawni iechyd a lles, a’r newid o ran patrwm oedd angen i gyrraedd targedau’r SDG. Mae angen i newid o’r fath ganolbwyntio’n benodol ar: lywodraethu a gweithredu rhyng-sectoraidd ar gyfer iechyd; gadael neb ar ôl; alinio datblygiad cenedlaethol a pholisïau iechyd, yn ogystal ag eglurder polisi ar draws SDG lluosog; ac ar ddulliau gweithredu. Mae’r olaf yn cynnwys partneriaethau, ariannu cynaliadwy, ymchwil ac arloesi, a monitro ac atebolrwydd gwell. Bydd y map ffordd drafft ar gael ar-lein ar gyfer ymgynghoriad yng nghanol mis Chwefror 2017. Caiff y map ffordd ei gyflwyno i’w ardystio yn y sesiwn nesaf o’r Pwyllgor Rhanbarthol ym mis Medi 2017. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan WHO EURO.


Cymru a’r DU yn Nhrafodaethau Brexit Wrth i’r DU baratoi i adael yr UE, cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, Bapur Gwyn sydd yn nodi’r prif faterion ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau Brexit ar 23 Ionawr 2017. Mae’r ddogfen hon yn nodi chwe maes y mae Llywodraeth Cymru eisiau mynd i’r afael â nhw fel rhan o’r broses drafod, yn cynnwys: y Farchnad Sengl a masnachu rhyngwladol, mudo, cyllid a buddsoddi, materion cyfansoddiadol a datganoli, amddiffyniadau a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol, a threfniadau trawsnewid. Yn ogystal, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei adroddiad cyntaf ar Oblygiadau Cymru’n gadael yr UE. Gallwch ganfod mwy am gyfranogiad Cymru yn nhrafodaethau Brexit ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar 17 Ionawr 2017, hysbysodd Theresa May, y prif weinidog presennol, Prydain am y cynllun y bydd llywodraeth y DU yn ei ddefnyddio i drafod Brexit. Mae’r cynllun yn cynnwys 12 o flaenoriaethau yn amlinellu’r weledigaeth ar ôl Brexit am gydberthynas gyda gwledydd yr UE a thu allan i’r EU yn y dyfodol, yn cynnwys rheoli ein cyfreithiau, cytundebau masnach, gwyddoniaeth ac arloesi ein hunain yn ogystal â mewnfudo. Amlinellodd Theresa May yn benodol bwysigrwydd cynnal Prydain annibynnol, hunanlywodraethol, wrth chwilio am bartneriaethau newydd a chyfartal a chynnal cynghreiriau presennol yn yr UE. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth y DU.


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall sy’n ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol yng Nghymru ac yn gysylltiedig â gwaith rhyngwladol ac eisiau rhannu eich gwaith, anfonwch e-bost at international.health@wales.nhs.uk.

Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cynhadledd Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang Mae’n bleser gan Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru eich gwahodd i fynychu Cynhadledd Dathlu’r Siarter Blynyddol “Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang, a gynhelir ar 27 Mawrth 2017 yn Future Inns, Bae Caerdydd, CF10 4AU. Mae’n bleser gan IHCC gadarnhau y bydd llawer o’n partneriaethau lleol a rhyngwladol yn mynychu’r gynhadledd i arddangos y gwaith rhyngwladol a’i fudd hanfodol i Gymru.


Yn ogystal â’r Prif Swyddog Meddygol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, bydd siaradwyr yn mynychu o WHO EURO a sefydliadau fel y Gyfnewidfa Iechyd Fyd-eang a THET.

Mae’r cyfranogwyr eraill yn cynnwys: Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol (IANPHI), gyda’r brif flaenoriaeth o gasglu profiad ac arbenigedd ei aelodau er mwyn cryfhau systemau iechyd. Bydd yr IHCC yn cymryd rhan mewn ymagwedd cymorth cymheiriaid sy’n cefnogi rhannu arbenigedd a phrofiad ymysg aelodau IANPHI. Bydd Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad hefyd yn bresennol yn y gynhadledd eleni, sydd yn cynnig gwasanaethau cynghori i’w haelodau trwy eu cefnogi i gyflawni datblygu cynaliadwy a theg. Rhwydwaith Dinasoedd Iach sydd yn ymgysylltu llywodraethau lleol i ddatblygu iechyd trwy “broses o ymrwymiad gwleidyddol, newid sefydliadol, datblygu gallu, cynlluniau yn seiliedig ar bartneriaeth a phrosiectau arloesol”. Os hoffech gofrestru, ewch i Eventbrite. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â international.health@wales.nhs.uk


Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang Cynhadledd Flynyddol Dathlu’r Siarter 27 Mawrth 2017, Future Inns, Caerdydd, Cymru Mae’n bleser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) eich gwahodd i fynychu ail Gynhadledd Dathlu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang, a gynhelir ar 27 Mawrth 2017 yn y Future Inns, Bae Caerdydd, CF10 4AU. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar fanteisio i’r eithaf ar fuddion rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol, datblygu partneriaethau a chydweithrediadau gweithredol a chynaliadwy yn ogystal â dathlu’r cynnydd a wnaed yn gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter) a sut mae’n cyfrannu at yr agenda iechyd a datblygu cynaliadwy byd-eang. Amcanion y Gynhadledd: • Rhannu profiadau a chyfleoedd yn cynnwys buddion a heriau cymryd rhan mewn rhwydweithiau a chydweithrediadau rhyngwladol • Archwilio synergeddau ac ymagweddau yn cyflawni iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau ar draws sectorau a rhwydweithiau amrywiol yng Nghymru, y DU, Ewrop ac yn fyd-eang • Dangos rhyngberthynas rhwng gweithredu’r agenda Iechyd Byd-eang, Iechyd 2020, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 • Rhannu cynnydd tuag at weithredu’r Siarter ar draws y GIG trwy bartneriaethau a chysylltiadau yng Nghymru ac ar draws Ewrop a’r byd • Darparu fforwm ar gyfer cyfnewid rhyngwladol, trafodaeth, rhwydweithio a dysgu Mae hyrwyddo a chefnogi cydweithredu rhyngwladol yn ganolog i waith yr IHCC, sydd yn rhoi canolbwynt ar gyfer gwaith rhyngwladol yn ymwneud ag iechyd ar draws y GIG yng Nghymru. Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r IHCC wedi bod yn cefnogi gweithredu’r Siarter. Gyda set o werthoedd ac egwyddorion y mae holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo iddynt, mae’r Siarter yn offeryn allweddol ar gyfer parhau i ddwyn yr agenda hon ymlaen ac mae’n enghraifft dda o’r GIG yn bod yn gyfrifol yn fyd-eang sydd yn unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n bleser gennym gadarnhau y bydd Vaughan Gething, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yng Nghymru, yn agor y gynhadledd eleni ac y bydd Dr. Christoph Hamelmann, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd dros Fuddsoddi mewn Iechyd a Datblygu, yn rhoi anerchiad yn y digwyddiad ar ran WHO Ewrop. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddathlu’r achlysur arbennig hwn gyda chi.


Cyfleoedd

FAm wybodaeth gyffredinol ar gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol.

Cyllid Cylch Grant Hyb Cymru Affrica ar Agor Hyb Cymru Affrica Geiriau allweddol: Cymru, WHO Rhanbarth Affricanaidd, cyllid, datblygu rhyngwladol Dyddiad cau: 6 Mawrth 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan Hyb Cymru Affrica.


Galwad Addysg Uwch Erasmus+ Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Prydeinig Geiriau allweddol: addysg uwch, partneriaeth sefydliadol strategol, Asiantaeth Genedlaethol y DU Dyddiad cau: 29 Mawrth 2017 Gallwch ganfod mwy ar Wefan Erasmus+ y DU.

Galwad am Ddeialog Ieuenctid Erasmus+ Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Prydeinig Geiriau allweddol: rhyngweithio pobl ifanc, cyfranogiad gweithredol ieuenctid Dyddiad cau: 29 Mawrth 2017 Gallwch ganfod mwy ar werfan Erasmus+ y DU.

Gogledd Orllewin Ewrop: Pumed Galwad am Rhaglen Interreg Gogledd Orllewin Ewrop Geiriau allweddol: Ewrop, cyllid, arloesi, amgylchedd Dyddiad cau: 24 Mai 2017 Gallwch ganfod mwy ar Nwefan Gogledd Orllewin Ewrop.


Galwadau Agored Ffrydio Byw Technoleg Ffiniau Yr Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) Geiriau allweddol: datblygu rhyngwladol, technoleg, cyllid, arbenigedd Ewch i wefan DFID am fwy o wybodaeth.

Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol ac Amddiffyn Sifil y Comisiwn Ewropeaidd (ECHO) Geiriau allweddol: grantiau, caffaeliad cyhoeddus, cymorth dyngarol, gwirfoddoli dramor, y trydydd sector, Ewrop Ewch i wefan ECHO am fwy o wybodaeth.


Cyhoeddiadau ac Offer Iechyd Planedol: Disgyblaeth Newydd Y Lancet Geiriau allweddol: iechyd planedol, dinasyddiaeth fyd-eang, newid amgylcheddol byd-eang Gallwch ganfod mwy ar Werfan y Lancet.

Hyrwyddo Ewrop Iachach a Thecach EuroHealthNet Geiriau allweddol: hybu iechyd, cydweithredu a phartneriaethau Gallwch ganfod mwy ar wefan EuroHealthNet.

Olrhain Amgylcheddol ac Iechyd y Cyhoedd i Ddatblygu Gwybodaeth ar gyfer Iechyd Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop Geiriau Allweddol: heriau iechyd newidiol, iechyd ecolegol a phlanedol Mae’r erthygl gysylltiedig ar gael ar wefan Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop.


Eirioli gweithredu rhyngsectoraidd ar gyfer tegwch iechyd a lles Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd WHO Geiriau allweddol: ymagwedd draws-sectoraidd, datblygu iechyd, addasu cymunedau Mae’r adroddiad cysylltiedig ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop.

Gwirfoddoliaeth Proffesiynol Symudol a Datblygu Rhyngwladol: Lleddfu’r dioddefaint? Awduron: Ackers, Louise, Ackers-Johnson, James Geiriau allweddol: dadansoddi, cymorth, effaith, gwledydd adnodd isel, trosglwyddo polisi, THET Gallwch ganfod mwy ar wefan Palgrave.

Strategaeth Datblygu Economaidd DFID 2017 Yr Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) Geiriau allweddol: rhyngwladol/byd-eang, datblygu rhyngwladol, polisi, Nodau Datblygu Cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan DFID.


Offer ac Adnoddau 2016: Adolygu Blwyddyn Rhanbarth Ewropeaidd y WHO Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop Geiriau allweddol: Cynnydd a heriau Rhanbarth Ewropeaidd WHO, Iechyd 2020, Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO Ewrop.

Hyb Brexit BOND Geiriau allweddol: Ewrop, rhyngwladol/byd-eang, DU, newyddion, adnoddau Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cynhadledd Dathlu Siarter Blynyddol Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd Cardiff, 27 Mawrth 2017 Geiriau allweddol: partneriaethau, cydweithredu, gwaith rhyng-sectoraidd a rhyngwladol Os hoffech gofrestru ewch i Eventbrite.

Symposiwm Blynyddol Iechyd Digartrefedd a Chynhwysiant 2017 Llwybrau a Chyfadran ar gyfer Iechyd Digartrefedd a Chynhwysiant Llundain, 1af – 2il Mawrth 2017 Geiriau allweddol: digartrefedd, allgáu lluosog, gwasanaethau cymdeithasol Gallwch ganfod mwy ar wefan Iechyd Digartrefedd a Chynhwysiant.

Cynhadledd, Arddangosfa a Phartneriaeth BioCymru BioCymru Caerdydd, 7 – 8 Mawrth 2017 Geiriau allweddol: gwyddorau bywyd, meddygaeth aildyfu,technoleg feddygol Gallwch ganfod mwy ar wefan BioCymru.


Diwrnod Gwybodaeth Rhaglen Gogledd Orllewin EwropGwybodaeth Rhaglen Gogledd Orllewin Ewrop Rhaglen Gogledd Orllewin Ewrop Interreg Manceinion, 9 Mawrth 2017 Geiriau allweddol: cyllid, Ewrop, cyfle dysgu Gallwch ganfod mwy ar wefan Eventbrite.

Digwyddiad Blynyddol Horizon 2020 Llywodraeth Cymru Bae Caerdydd, 30 Mawrth 2017 Geiriau allweddol: rhaglen arloesi, cystadleuaeth fyd-eang Gallwch ganfod mwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyngres y Byd ar Iechyd y Cyhoedd Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Awstralia a Ffederasiwn Cymdeithasau Iechyd y Cyhoedd y Byd Melbourne, Awstralia, 3 – 7 Ebrill 2017 Geiriau allweddol: iechyd y cyhoedd byd-eang, diogelu/ hybu iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Cyngres y Byd ar Iechyd y Cyhoedd.

Symposiwm Iechyd Byd-eang Prifysgol Queen’s Belfast Belfast, 27 Ebrill 2017 Geiriau allweddol: gwella iechyd, cyflawni tegwch, rhannu ymchwil ac ymarfer Gallwch ganfod mwy ar Gwefan y Symposiuwm Iechyd Byd-eang.


Cyfleoedd eraill

Arbenigedd Cofrestru ar gyfer Cymuned Ymarfer UKMed Geiriau allweddol: gweithwyr gofal iechyd, gwaith dyngarol, ymateb brys Ewch i wefan UKMed am fwy o wybodaeth.

Cyflwyno crynodeb Datblygiad Trefol Cymdeithas Ryngwladol Iechyd Trefol (ISUH) Geiriau allweddol: iechyd trefol, datblygiad trefol, llywodraethu trefol, Nodau Datblygu Rhyngwladol, rhyngwladol/byd-eang Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 17 Mawrth 2017 Ewch i wefan ISUH am fwy o wybodaeth.


Hyfforddiant Rheoli Prosiect wedi ei Ariannu gan yr UE Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) Geiriau allweddol: cynllunio prosiectau, monitro a gwerthuso, Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Bae Colwyn, Cymru, 23 Mawrth 2017 Ewch i wefan 3-SET am fwy o wybodaeth.

Gwirfoddolwyr Crynodeb Raglen Fentora Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop Geiriau allweddol: rhaglen fentor, cyflwyniad cryno, Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop Ewch i wefan Iechyd y Cyhoedd Ewrop am fwy o wybodaeth.

Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu i frwydro yn erbyn Ymwrthedd Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: polisi iechyd anifeiliaid a dynol, ymwrthedd gwrthficrobaidd Dyddiad cau ar gyfer cyfrannu: 28 Ebrill 2017 Ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd am fwy o wybodaeth.


Sefydliadau a Chylchlythyrau Cylchlythyr 1000 o Fywydau Mae’r cylchlythyr misol yn darparu gwybodaeth am waith 1000 o fywydau. Gwella 1000 o Fywydau yw’r gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru sy’n cael ei gyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. I ganfod mwy ewch i wefan 1000 o Fywydau.

Connect Cymru Gallwch ganfod mwy am gyfleoedd am Rhyngwladol ar wefan newydd Connect Cymru.

Waith

Ieuenctid

Cynnal Cymru/Sustain Wales Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth gan Cynnal Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.

EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio ei brosiectau, ei amcanion a’i ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 o Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd sydd yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.

Comisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU Gallwch weld cylchlythyr SANTE Health EU ar wefan Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer gwybodaeth am, Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg yr UE, Gwobrau Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, digwyddiadau i ddod, cyhoeddiadau newydd ac adroddiadau ar draws Ewrop.


Partneriaeth Arloesol Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Cylchlythyr PHAME Ewrop WHO Mae’r cylchlythyr yn rhoi diweddariad chwarterol am agweddau iechyd y cyhoedd o fudo yn Ewrop ac mae’n bartneriaeth rhwng WHO Ewrop a Phrifysgol Pécs, Hwngari. I gael eu newyddion diweddaraf, gallwch ymuno i dderbyn eu cylchlythyr.

Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA) Mae rhifyn diweddaraf cylchlythyr EUPHA ar gael ar eu gwefan, mae’n rhoi’r diweddariadau diweddaraf ym maes Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys digwyddiadau i ddod, cyfleoedd a newyddion gan ei Aelodau.

Cylchlythyr Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Bartneriaeth Iechyd Ryngwladol a chael y newidion diweddaraf, ymunwch i dderbyn eu cylchlythyr ar eu gwefan.

Conffederasiwn y GIG Mae conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Conffederasiwn GIG Ewrop E-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn eich hysbysu am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.

Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol Meithrin partneriaethau gydag arbenigwyr gofal iechyd i gyflenwi rhaglenni hyfforddiant wedi eu targedau mewn gwledydd incwm isel a chanolig. I ganfod mwy am waith THET ac i danysgrifio i’w e-fwletin, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol.


Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica Nod Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica (WAHLN) yw hwyluso ymagwedd gydlynus ac effeithiol o hybu a chefnogi datblygiad cysylltiadau iechyd rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara. I danysgrifio i gylchlythyr WAHLN ac i ddarllen am newyddion diweddaraf y Rhwydwaith, cysylltwch â Buddug Nelson yn Ysgrifenyddiaeth WAHLN.

E-newyddion Horizon 2020 WEFO Wedi ei lunio ar eich cyfer chi gan Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru, mae e-Newyddion Horizon 2020 yn grynodeb rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cymuned Horizon 2020 yng Nghymru. I danysgrifio anfonwch e-bost at flwch postio Horizon 2020. Neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan Horizon 2020 WHO.

Cylchlythyr Iechyd Byd-eang Wessex I gadw mewn cysylltiad â Rhwydwaith iechyd Byd-eang Wessex ac i gael diweddariadau rheolaidd, darllenwch eu diweddariad wythnosol neu ymunwch i dderbyn eu cylchlythyr ar eu gwefan.

WHO Ewrop Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf gyda newyddion iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy danysgrifio i e-fwletin WHO Ewrop.

Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn rhoi llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd i gyhoeddi gwersi a ddysgwyd o’r maes hwn, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.

Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd WHO Mae’r bwletin hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a ddatblygwyd gan rwydwaith RHN WHO, darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan RHN.


Cysylltu â Ni Ebost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd y cyhoedd Cymru Capital Quarter 2 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.