Iechyd Yng Hghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Mehefin 2017

Mwy ar dudalen 8


Croeso Croeso i rifyn mis Mehefin o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Strategaeth Iechyd Ryngwladol Newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, 70fed Cynulliad Iechyd y Byd a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru

8

Cyfleoedd 13


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

70fed Cynulliad Iechyd y Byd Cynhaliwyd 70fed Cynulliad Iechyd y Byd (WHA) rhwng 22ain a 31ain Mai 2017. Fel y corff sy’n gwneud penderfyniadau yn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), cynhelir Cynulliad Iechyd y Byd yn flynyddol yng Ngenefa, y Swistir, ac mae holl Aelod-wladwriaethau WHO yn mynychu. Prif swyddogaethau’r WHA yw pennu polisïau a gwaith llywodraethu’r WHO, goruchwylio polisïau ariannol, ac adolygu a chymeradwyo cyllideb arfaethedig y rhaglen. Yn ei haraith agoriadol ddiwethaf fel Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO (2007-2017), arsylwodd Dr Margaret Chan fod yn rhaid i “Ein gweithredoedd yn unol ag Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 gael eu harwain gan 5 elfen: pobl, y blaned, heddwch, ffyniant, a phartneriaeth”. I weld araith lawn Dr Margret Chan, ewch i wefan WHO. Cafodd Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus ei ethol fel Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd WHO, gan Aelod-wladwriaethau WHO. Mae Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus yn olynu Dr Margret Chan yn ffurfiol, gan fod ei phenodiad 10 mlynedd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol wedi dod i ben.


Yn flaenorol, gwasanaethodd Dr Adhanom Ghebreyesus fel Gweinidog Materion Tram or, Ethiopia (2012-2016) ac fel Gweinidog Iechyd, Ethiopia (2005-2012). Yn ei araith Ghebreyesus:

agoriadol

i’r

Cynulliad,

dywedodd

Dr

Adhanom

“Mae gennyf weledigaeth o fyd lle gall pawb fyw bywydau iach a chynhyrchiol waeth pwy ydynt a ble maent yn byw.” Nododd mai ei flaenoriaethau pwysicaf fel y Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd yw: (i) sylw cyffredinol uwch i iechyd, gyda’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) yn rhoi cyfle i’r WHO weithredu, (ii) gwneud yr asiantaeth yn fwy effeithiol, tryloyw ac atebol, (iii) sicrhau bod gan WHO yr adnoddau i gyflawni ei genhadaeth, (iv) canolbwyntio adnoddau ar y bobl fwyaf agored i niwed, a (v) gweithio mewn partneriaethau traws-sector i wella iechyd. Bydd Dr Adhanom Ghebreyesus yn cymryd yr awenau yn ffurfiol fel Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO ar y cyntaf o Orffennaf 2017. I weld anerchiad llawn Dr Adhanom Ghebreyesus, ewch i wefan WHO. Roedd canlyniadau allweddol ychwanegol yn cynnwys adolygiad o gynnydd byd-eang a rhanbarthol tuag at gyflawni SDG (Nodau Datblygu Cynaliadwy yn ymwneud ag iechyd. Yn ogystal, aethpwyd i’r afael â’r angen i weithredu’r Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol. Am fwy o wybodaeth am destunau allweddol eraill cynnwys yn ystod Cynulliad Iechyd y Byd, ewch i wefan WHO.

gafodd

eu

I weld yr areithiau a gynhaliwyd yn y WHA, ewch i wefan Canolfan y Cyfryngau WHO. Geiriau Allweddol: World Health Organization, WHO European Region, byd-eang / rhyngwladol, polisi, gwasanaethau iechyd


Cyfarfod G20 Cyntaf Gweinidogion Iechyd Cynhaliodd Arlywyddiaeth yr Almaen gyfarfod cyntaf erioed gweinidogion iechyd G20 yn Berlin, rhwng 19 a 20 Mai 2017. Yn ei haraith agoriadol, cefnogodd Canghellor yr Almaen, Dr Angela Merkel, cynnwys iechyd fel testun allweddol yn agenda G20. Yn Natganiad Gweinidogion Iechyd G20: Gyda’n Gilydd Heddiw dros Yfory Iach, Berlin, mynegodd gweinidogion iechyd G20 eu cefnogaeth i reoli argyfwng iechyd byd-eang, cryfhau systemau iechyd a brwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd. Am fwy o wybodaeth am gyfarfod gweinidogion iechyd G20, ewch i wefan Llywodraeth Ffederal yr Almaen. Geiriau Allweddol: byd-eang / rhyngwladol, Datblygiad Rhyngwladol, polisi, gwasanaethau iechyd

Diwrnod Dim Tybaco y Byd Cynhaliwyd Diwrnod Dim Tybaco y byd ar 31 Mai 2017. Y thema eleni oedd “Tybaco – bygythiad i ddatblygiad”*. Mae’r diwrnod yn amlygu’r bygythiadau y mae’r diwydiant tybaco’n eu cyflwyno i ddatblygiad cynaliadwy pob gwlad, yn cynnwys iechyd a llesiant economaidd eu dinasyddion. Cynigiodd Dr Oleg Chestnov, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer clefydau anhrosglwyddadwy ac iechyd meddwl, fesurau y gall llywodraethau a’r cyhoedd eu cymryd i hybu iechyd a datblygiad trwy wynebu’r argyfwng tybaco byd-eang: “Mae llawer o lywodraethau yn gweithredu yn erbyn tybaco, o wahardd hysbysebu a marchnata, i gyflwyno pecynnau plaen ar gyfer cynnyrch tybaco, a gweithleoedd a mannau cyhoeddus di-fwg. Ond un o’r mesurau sy’n cael ei ddefnyddio leiaf, ond un o’r rhai mwyaf effeithiol i reoli tybaco i helpu gwledydd i fynd i’r afael ag anghenion datblygiad yw trwy gynyddu treth a phrisiau tybaco.” I ganfod mwy am Ddiwrnod Dim Tybaco y Byd neu i lawrlwytho deunydd ymgyrch eleni, ewch i wefan WHO. Geiriau Allweddol: byd-eang / rhyngwladol, World Health Organization, ysmygu, datblygu cynaliadwy, polisi, eiriolaeth


*Saesneg yn unig


Mewn Focus Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Strategaeth Iechyd Ryngwladol Newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mabwysiadu Strategaeth Iechyd Ryngwladol, y cyntaf o’i bath ar gyfer y sefydliad. Bydd y strategaeth, sydd yn strategaeth ategol i’n Cynllun Tymor Canolig Integredig, yn cefnogi gweithredu ein blaenoriaethau strategol trwy alluogi’r sefydliad i gael effaith, cysylltiadau a rôl ryngwladol gryfach mewn iechyd byd-eang; ymgysylltu effeithiol ar draws sefydliadau ac ar draws y GIG; ac arbenigedd blaenllaw mewn buddsoddiad ar gyfer iechyd, llesiant a datblygu cynaliadwy yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd ein gwaith a’n hymgysylltu rhyngwladol dros y deng mlynedd nesaf yn cael ei lunio gan dair blaenoriaeth strategol ategol: • • •

Cynyddu dysgu rhyngwladol cymhwysol a chefnogi arloesi ar gyfer iechyd y cyhoedd Datblygu pobl a sefydliadau sydd yn gyfrifol yn fyd-eang Cryfhau ymagwedd iechyd byd-eang Cymru


Cefnogir y rhain gan chwe amcan, yn cynnwys: cryfhau a datblygu rhwydweithiau a phartneriaethau; hwyluso newid ac arloesi; sefydlu enw da ac amlygrwydd rhyngwladol; sicrhau llywodraethu ac eglurder cadarn; cefnogi meithrin gallu a chynaliadwyedd a hybu amgylchedd sydd yn galluogi a diwylliant o ddinasyddiaeth fyd-eang . Dywedodd Mariana Dyakova, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac Arweinydd Datblygu Iechyd Rhyngwladol: “Ein gweledigaeth yw bod yn asiantaeth iechyd y cyhoedd sydd yn gyfrifol yn fyd-eang, yn flaenllaw yn y Byd ac yn ysbrydoli, gan greu Cymru iachach, hapusach a thecach. “Rydym yn ymdrechu i gynyddu ein gweithgaredd rhyngwladol, ein heffaith a’n hasedau a bod yn ganolbwynt effeithiol, effeithlon ac arloesol ar gyfer gwaith iechyd rhyngwladol a byd-eang ar draws y GIG a Chymru, gan ddarparu arweinyddiaeth ac arbenigedd. Ein nod yw cyflawni ein haddewidion, cryfhau ein hymrwymiad sefydliadol, ein cyfrifoldeb a’n gallu, gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.” Datblygwyd y strategaeth trwy broses ymgynghori eang, gyda chymorth adolygiad llenyddiaeth a mapio gwaith rhyngwladol a chydweithrediadau ar draws y sefydliad. Mae’n cefnogi cyflawni rôl genedlaethol, cynllun strategol, blaenoriaethau ac amcanion llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llwyddiannus. Mae hefyd yn ategu dogfennau strategol presennol, fel y strategaeth Ymchwil a Datblygu a’r Fframwaith Ansawdd ac Effaith, yn ogystal â’r cylch symud gwybodaeth. Gan groesawu’r ddogfen, dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r Strategaeth Iechyd Ryngwladol yn cryfhau ymrwymiad ein sefydliad i wella iechyd a llesiant gan leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n rhoi cyfle i rannu ein harbenigedd ar draws y byd, mabwysiadu dysgu oddi wrth y gorau a chefnogi diogelwch iechyd a datblygu cynaliadwy byd-eang.” Bydd cyfnod 2017/18 yn canolbwyntio ar ddatblygu cynllun gweithredu yn cynnwys monitro a gwerthuso, a fframwaith, strwythurau a phrosesau llywodraethu.


Lansiwyd y strategaeth ar 5 Mehefin 2017 ac roedd yn gyfle i arddangos rhai o’r prosiectau rhyngwladol sydd yn digwydd ar draws y sefydliad yn ogystal ag ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol allweddol, fel Llywodraeth Cymru ac academia. Mae’n cefnogi’r gwaith o weithredu rôl genedlaethol a blaenoriaethau strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch y Ein Strategaeth Iechyd Ryngwladol. Am fwy o wybodaeth ac i weld y strategaeth lawn ewch i wefan IHCC. Geiriau Allweddol: byd-eang / rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus, Strategaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru


Ymweliad Uwch Chaerdydd

Gomisiynydd

Uganda

â

Yn ddiweddar, ymwelodd yr Athro Joyce Kikafunda, Uwch Gomisiynydd ymadawol Uganda yn y DU, â Chaerdydd. Cynhaliodd Hub Cymru Africa ei hymweliad deuddydd, oedd yn cynnwys cyfarfod gyda busnesau Cymru sy’n buddsoddi neu sydd â diddordeb mewn datblygu marchnadoedd yn Uganda yn ogystal â chyfarfodydd gyda rhai o’r sefydliadau yng Nghymru sydd yn gweithio yn Uganda. Mae gan Gymru gysylltiadau cryf ag Uganda yn unol â rhaglen Cymru o Blaid Affrica, fel cyswllt PONT rhwng Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru a rhanbarth Mbale yn Uganda Am fwy o wybodaeth a lluniau o’r diwrnod, ewch i wefan Hub Cymru Africa. Geiriau Allweddol: byd-eang / rhyngwladol, datblygiad rhyngwladol, cymru, WHO African Region


Cynhadledd Iechyd Cymru Affrica 2017 Dydd Mawrth, 18fed Gorffennaf 2017 09:00 to 17:00 Caerdydd, Deyrnas Unedig Dewch i ymuno â ni ar gyfer y Cynhadledd Iechyd Cymru Affrica yn Stadiwm y SWALEC yng Nghaerdydd. Byddwn yn clywed gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, Vaughan Gething ac arddangos rhai o’r prosiectau iechyd rydym wedi bod yn cefnogi. Mae’r digwyddiad mewn partneriaeth â Cysylltiadau Cymru o Blaid Affrica a’r Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd.

CYNHADLEDD IECHYD CYMRU AFFRICA 2017 CRYFHAU SYSTEMAU IECHYD YN AFFRICA STADIWM Y SWALEC DYDD MERCHER 18fed GORFFENNAF 9.00YB – 5.00YH COFRESTRWCH NAWR:

https://healthconf2017.eventbrite.co.uk WWW.HUBCYMRUAFRICA.CYMRU

 Areithiau gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon a siaradwyr o’r GIG a'r sector datblygu rhyngwladol  Gweithdai rhyngweithiol  Cwrdd a cysylltiadau newydd a rhannu dysgu gydag eraill


Cyfleoedd

Am wybodaeth gyffredinol am gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Trydydd Rhaglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol neu ewch i wefan IHCC am fwy o wybodaeth am gyfleoedd am gyllid.

Cyllid Gwobr Prifddinas Arloesedd Ewrop: Dinasoedd Hybu Arloesedd Comisiwn Ewropeaidd (Horizon 2020) Geiriau Allweddol: byd-eang / rhyngwladol, cymunedau, WHO European Region, ymchwil, cyllid,cynllun arfer, Amgylchedd Adeiledig Dyddiad Cau: 21 Mehefin 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.


Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Cyd-destun Byd-eang: Galwad ar Draws Cynghorau Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) Geiriau Allweddol: iechyd cyhoeddus, byd-eang / rhyngwladol, DU, ymchwil, cyllid Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan MRC. Gwobr Diwrnod Geni Horizon 2020 Comisiwn Ewropeaidd (Horizon2020) Geiriau Allweddol: iechyd mamau a’r newydd-anedig, beichiogrwydd, cyllid, gwasanaethau gofal iechyd Dyddiad cau: 6 Medi 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Hyfforddiant Cwrs Haf: Safbwyntiau Ewropeaidd ar Hybu Iechyd Consortiwm Hyfforddiant Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd (ETC-PHHP), Prifysgol Alicante, Sbaen Geiriau Allweddol: iechyd cyhoeddus, gwasanaethau iechyd, WHO European Region, hyfforddiant a sgiliau Dyddiad: 16 – 28 Gorffennaf 2017 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 30 Mehefin 2017 Ewch i wefan ETC-PHHP am fwy o wybodaeth


Gwobrau Gwobr Iechyd yr EU: Gwobrwyo Mentrau ym Maes Brechu Comisiwn Ewropeaidd (CE) Geiriau Allweddol: imiwneiddio, cynllun arfer, WHO European Region Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 30 Mehefin 2017 Ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Galwad am Bapurau Sgrinio at Atal Clefydau Trosglwyddadwy ymysg Mudwyr sydd Newydd Gyrraedd Ewrop Eurosurveillance Geiriau Allweddol: datblygiad rhyngwladol, atal, screening, fudol, WHO European Region Ewch i wefan Eurosurveillance am fwy o wybodaeth.


Cysylltu â Ni E-bost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.