Ionawr 2019
Croeso
Croeso i e-fwletin cyntaf 2019 sydd, fis yma, yn canolbwyntio ar Iechyd Mudwyr. Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr ar 18 Rhagfyr 2018 ar thema Mudo gydag Urddas. Yn 2018, collodd yn agos at 3,400 o fudwyr a ffoaduriaid eu bywydau yn fyd-eang. Mudo yw mater mawr ein hoes ac mae’n rym ar gyfer urddas am ei fod yn galluogi pobl i ddewis achub eu hunain, gan adael iddynt ddewis cyfranogiad dros ynysu. (Cenhedloedd Unedig, 2019) Fodd bynnag, mae gan y cynnydd yn symudiad y boblogaeth oblygiadau iechyd y cyhoedd hefyd ac mae angen ystyried iechyd mudwyr wrth gynllunio gwasanaethau iechyd. Mae gennym flwyddyn brysur o’n blaenau ac rydym eisoes ymhell ar y blaen gyda’n paratoadau ar gyfer digwyddiadau cyntaf y flwyddyn. Cynhelir seminar cyntaf 2019, o’r enw ‘Rysáit am Oes’ Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar, ar 6 Chwefror 2019 ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac mae bellach yn llawn. Cynhelir ‘Cynhadledd Llunio Ein Dyfodol’ yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth 2019 a chynhelir Digwyddiad Arddangos Ymchwil Flynyddol yng Nghymru yn Adeilad Hadyn Ellis ar 13 Mawrth 2019. Rydym bob amser yn chwilio am wybodaeth a digwyddiadau y gallwn eu cynnwys yn yr e-fwletin yn ogystal ag ar y wefan felly cofiwch gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk
Cysylltu â Ni Gallwch gysylltu â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn amrywiaeth o ffyrdd Drwy anfon e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Drwy ffonio 02920 104450 Drwy’r post Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llawr 5, Rhif 2 Capital Quarter, Tyndall Stryd, Caerdydd, CF10 4BZ Drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol twitter @PHNetworkCymru facebook Publichealthnetworkcymru
Sylw ar... Iechyd Mudwyr Mae mwy o bobl yn symud nawr nag erioed o’r blaen. Amcangyfrifir bod biliwn o fudwyr yn y byd heddiw, y mae 258 miliwn ohonynt yn fudwyr rhyngwladol – un ym mhob saith o boblogaeth y byd. Mae 65 miliwn o fudwyr mewnol a rhyngwladol y byd yn cael eu dadleoli’n orfodol heddiw. Mae gan y cynnydd cyflym hwn yn symudiad y boblogaeth oblygiadau iechyd y cyhoedd pwysig, ac felly mae angen ymateb digonol gan y sector iechyd. (Sefydliad Iechyd y Byd, 2019)
WHO yn lansio cyfres canllaw technegol ar iechyd ffoaduriaid a mudwyr I nodi Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr ar 18 Rhagfyr 2018, lansiodd y WHO gyfres canllaw technegol ar iechyd ffoaduriaid a mudwyr. Mae wedi ei gynhyrchu ar y cyd â’r Comisiwn Ewropeaidd ac mae pob rhifyn yn mynd i’r afael ag agweddau penodol o iechyd ffoaduriaid a mudwyr trwy ddarparu offer, astudiaethau achos a thystiolaeth i lywio ymarfer a pholisïau i wella eu hiechyd. Mae pum rhifyn ar gael ar hyn o bryd: Iechyd plant ffoaduriaid a mudwyr Wrth ystyried ymyriadau iechyd a gofal iechyd ar gyfer plant mudwyr, mae’r meysydd sydd angen sylw penodol yn cynnwys eu cefndiroedd amrywiol, a ydynt ar eu pen eu hunain ac wedi eu gwahanu oddi wrth eu teulu, a ydynt wedi cael eu masnachu, ac a ydynt wedi cael eu gadael ar ôl. Mae’r canllaw technegol hwn yn cyflwyno ystyriaethau polisi ar gyfer hybu iechyd a llesiant plant ffoaduriaid a mudwyr, ac yn arbennig eu hiechyd meddwl. Mae’n cynnwys ymagwedd rhyng-sectoraidd sydd yn targedu ffactorau risg ar lefelau’r unigolyn, y teulu a’r gymuned. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd llywodraethau cenedlaethol/lleol yn meithrin neu’n rhwystro amodau byw teg ar gyfer plant ffoaduriaid a mudwyr ym meysydd tai, gwasanaethau gofal iechyd ac addysg. Hybu iechyd er mwyn gwella iechyd ffoaduriaid a mudwyr Mae’r canllaw technegol hwn yn amlinellu arfer gorau presennol, tystiolaeth a gwybodaeth i lywio datblygiad polisi a rhaglenni ym maes hybu iechyd ar gyfer ffoaduriaid a mudwyr yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Mae’n amlygu egwyddorion allweddol, yn crynhoi camau a heriau sy’n flaenoriaeth, yn mapio’r adnoddau a’r offer sydd ar gael, ac yn rhoi ystyriaethau polisi ac argymhellion ymarferol i wella gweithgareddau hybu iechyd. Iechyd ffoaduriaid a mudwyr hŷn Mae poblogaeth sy’n heneiddio a achosir gan gyfraddau genedigaethau isel cynyddol a disgwyliad oes hwy yn duedd sylweddol ar hyn o bryd ar draws Ewrop. Nod y canllaw technegol hwn yw llywio datblygiad polisïau ac ymarfer yn ymwneud â gwella iechyd ffoaduriaid a mudwyr hŷn. Mae heneiddio a mudo eu hunain yn brosesau aml-ddimensiwn, cymhleth wedi eu llunio gan ystod o ffactorau yn ystod cwrs bywyd yr unigolyn. Mae’n rhaid i ymateb i anghenion ffoaduriaid a mudwyr hŷn, felly, fod wedi ei integreiddio i bob dimensiwn o bolisïau ac ymarfer yn ymwneud â heneiddio. Gwella gofal iechyd menywod beichiog a babanod newydd-anedig sydd yn ffoaduriaid ac yn fudwyr Gellir ystyried bod mudo yn ffactor risg ar gyfer canlyniadau gwaeth i famau a babanod newydd-anedig. Mae’r canllaw technegol hwn yn nodi problemau a mannau mynediad ar gyfer ymyriadau i iechyd mamau a babanod newydd-anedig ymysg ffoaduriaid a mudwyr yn y Rhanbarth.
Mae’n amlinellu ystyriaethau polisi ar gyfer 4 prif faes sy’n effeithio ar iechyd mamau a babanod newydd-anedig sydd yn ffoaduriaid ac yn fudwyr: • statws iechyd unigol; • hygyrchedd gofal iechyd; • ansawdd gofal; a • ystemau polisi ac ariannu gofal iechyd. Hybu iechyd meddwl a gofal iechyd meddwl ymysg ffoaduriaid a mudwyr Mae cymhlethdod a straen mudo yn gysylltiedig â digwyddiadau cyn ymadael, wrth deithio a symud, ac ar ôl cyrraedd. O ganlyniad, gall ffoaduriaid a mudwyr ddioddef anhwylderau meddyliol, er bod y mynychder yn amrywio’n sylweddol ar draws astudiaethau a grwpiau poblogaeth. Mae’r canllaw technegol hwn yn adolygu mynychder rhai anhwylderau fel anhwylder straen wedi trawma ac anhwylderau iselder a gorbryder. Yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yn ymwneud â ffactorau risg a meysydd ar gyfer ymyrraeth, mae’n nodi 8 maes gweithredu sy’n flaenoriaeth i wneuthurwyr polisïau eu hystyried yn ymwneud ag iechyd meddwl ffoaduriaid a mudwyr
ÿ ÿ !" ÿ #$ÿ %&" # ÿ' & $ # 09 1 2 (ÿ) 2 9
0123ÿ56789 ÿ23ÿ 9 ÿ ÿ 19ÿ 6759 ÿ 7 23327
Noddfa yng Nghymru Byddwch eisoes yn gwybod bod y byd ar hyn o bryd yn profi’r llifau mudo gorfodol mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd – yr hyn sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘argyfwng ffoaduriaid’. Yn rhifyn Diwrnod Hawliau Dynol e-fwletin PHNC, edrychwyd ar yr hawl i gael lloches. Yng Nghymru, mae hanes hir o groesawu’r rheiny sydd yn ceisio noddfa. Nid yw cyfanswm y ffoaduriaid yng Nghymru yn hysbys, ond mae tua 893 o ffoaduriaid o Syria wedi ymgartrefu yma er 2015, yn ogystal â nifer sy’n debygol o fod yn fwy o ffoaduriaid sydd wedi cael hawl i aros trwy’r broses ceisio lloches. Fodd bynnag, gwyddom fod pobl sydd yn chwilio am noddfa yn wynebu heriau niferus hyd yn oed pan fyddant wedi cyrraedd diogelwch cymharol y DU. Gall materion iechyd meddwl a chorfforol, anawsterau ariannol, rhwystrau ieithyddol a gwahaniaethu gwirioneddol neu ymddangosiadol rwystro eu taith i integreiddio, gan rwystro eu gallu i ddechrau ailadeiladu eu bywydau. Er mwyn i bobl gael noddfa wirioneddol yng Nghymru, mae angen i sefydliadau ac unigolion chwarae eu rhan yn mynd i’r afael â’r heriau hyn a lleihau’r rhwystrau i integreiddio. Trwy wneud hynny, byddant yn cyfrannu at uchelgais Cymru i fod yn Genedl Noddfa gynta’r byd. Mae cyfle yma yng Nghymru i fod yn flaenllaw o ran polisi yn y maes hwn. Fel Llywodraeth yr Alban, nod Llywodraeth Cymru yw cefnogi pobl sydd yn ceisio noddfa o’r adeg y maent yn cyrraedd, yn hytrach na dibynnu ar benderfyniad y Swyddfa Gartref yn ymwneud â’u hawl i gael lloches. Polisi Llywodraeth Cymru yw bod integreiddio’n dechrau ar y diwrnod cyntaf. Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn ymateb i’r alwad hon i bobl a sefydliadau gydweithio i gefnogi anghenion integreiddio, iechyd a llesiant pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru. Rydym yn uchelgeisiol ac yn ceisio cael ein cydnabod fel ‘Sefydliad Noddfa’, sydd yn cyd-fynd â mudiad Dinas Noddfa, er mwyn sicrhau croeso a chynhwysiant i bawb, yn arbennig y rheiny sydd yn chwilio am ddiogelwch rhag trais ac erledigaeth. Byddwn yn rhoi cyfleoedd i bob un o’n staff ddysgu am amgylchiadau pobl sydd yn ceisio noddfa yn y DU trwy hyfforddiant ac ymchwil. Anogir timau i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd i sefydlu arferion croesawgar a chynhwysol i’w swyddi o ddydd i ddydd. Ein gobaith yw cael cydnabyddiaeth trwy’r Wobr Noddfa, a’n nod yw rhannu ein hymdrechion yn fewnol ac yn allanol er mwyn annog cyrff eraill y sector cyhoeddus ac iechyd i ymuno â’r mudiad hefyd. Rydym ar hyn o bryd yn dylunio modiwl e-ddysgu am geiswyr lloches a ffoaduriaid sydd yn gysylltiedig â’n hyfforddiant cydraddoldeb a hawliau dynol gorfodol. Gall staff GIG Cymru gyfrannu at gyd-ddyluniad yr adnodd hyfforddi hwn trwy gwblhau’r arolwg byr yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/Z8852MJ. Yn ogystal, rydym yn cynnal dau weithdy gyda phobl sydd yn ceisio noddfa a gweithwyr iechyd proffesiynol, ar 14 Chwefror a 14 Mawrth. I ganfod mwy neu i gofrestru eich diddordeb yn mynychu, cysylltwch â Rebecca Scott yn rebecca.scott2@wales.nhs.uk
Gweithredu ar y Cyd ar Degwch Iechyd Ewrop Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda menter Gweithredu ar y Cyd ar Degwch Iechyd Ewrop (JAHEE) gyda Llywodraeth Cymru, sef Awdurdod Neilltuol y DU ar gyfer y Gweithredu hwn. Amcan cyffredinol JAHEE yw: gwella iechyd a llesiant dinasyddion yr UE a; chael mwy o degwch mewn canlyniadau iechyd ar draws pob grŵp mewn cymdeithas trwy ffocws cadarn ar benderfynyddion economaidd-gymdeithasol iechyd yn ogystal ag anghydraddoldebau iechyd yn ymwneud â ffordd o fyw trwy gydol cwrs bywyd. Mae iechyd mudwyr ar hyn o bryd yn faes lle mae annhegwch sylweddol, yn sgil effaith mudo ar iechyd, yn arbennig yn yr hirdymor, ac oherwydd bod mudwyr yn aml yn dioddef effaith negyddol penderfynyddion cymdeithasol iechyd. Maent yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth ansicr, er enghraifft. Gall salwch a diffyg mynediad i wasanaethau iechyd fod yn rhwystr parhaus i integreiddio a chymryd rhan mewn cymdeithas, gan sefydlu anghydraddoldebau iechyd ymhellach mewn cylch cythreulig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn “cydnabod yr angen brys i’r sector iechyd fynd i’r afael yn fwy effeithiol ag effaith mudo a dadleoli ar iechyd” . Mae hyn yng nghyd-destun yr Agenda Datblygu Cynaliadwy, y mae ‘gadael neb ar ôl’ yn egwyddor canolog iddi. Mae Iechyd Mudwyr yn naturiol yn un o becynnau gwaith rhaglen JAHEE. Caiff y pecyn gwaith hwn ei arwain gan Norwy ac mae’n cynnwys dros 10 o wledydd yn cynnwys Groeg, yr Eidal, Sweden, yr Almaen a Sbaen. Amcan cyffredinol y pecyn gwaith ar iechyd mudwyr yw pontio’r bylchau gweithredu polisi yn ymwneud â mudwyr yn y tymor byr, canolig a’r hirdymor, gyda phwyslais ar blant ac ieuenctid. Nid yw bod yn fudwr o reidrwydd yn gwneud unigolyn yn ‘agored i niwed’. Fodd bynnag, mae nifer fawr o fudwyr yng Nghymru angen gofal a chymorth ychwanegol i’w galluogi i ffynnu fel aelodau iach, gweithredol o gymdeithas. Mae cydnabod yr amrywiaeth sylweddol ymysg mudwyr, rhai ohonynt â chadernid sylweddol, yn ei wneud yn bosibl canolbwyntio ar y mudwyr sydd yn cael eu ‘gadael ar ôl’ fwyaf ac angen polisïau cefnogol. Yn ogystal, mae cymunedau cyfan yn cael budd o bolisïau effeithiol ar integreiddio ac iechyd a llesiant ar gyfer grwpiau wedi eu hallgau. Arweinydd rhaglen pecyn gwaith Iechyd Mudwyr JAHEE Cymru (DU) yw Dr Gill Richardson, Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Catherine Weatherup o’r un Gyfarwyddiaeth yw arweinydd pecyn gwaith Iechyd a Thegwch ym Mhob Polisi - Llywodraethu.
Astudiaeth achos: Cynllun preswylio’r UE Beth yw eich enw a ble rydych yn gweithio? Fy enw yw Anna ac rwy’n gweithio i Dîm Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ble cawsoch eich geni? Cefais fy ngeni yn yr Almaen. Pryd ddaethoch i Gymru a pham? Roeddwn wedi byw ac astudio yn Lloegr cyn dod i Gymru am y tro cyntaf yn 2015. Gwnes swydd meddyg preswyl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru am ychydig fisoedd cyn dechrau fy rhaglen Feistr yn yr Iseldiroedd. Ar ôl gorffen fy ngradd, dychwelais i Gymru ar ddiwedd 2016 ac rwyf wedi bod yn gweithio ac yn byw yma ers hynny. Beth yw Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a sut clywsoch chi amdano? Mae Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE wedi ei anelu at ddinasyddion yr UE sy’n parhau i fyw a gweithio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddi yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Rwyf wedi cymryd rhan yng nghynllun peilot y Swyddfa Gartref o Gynllun Preswylio’n sefydlog i Ddinasyddion yr UE sydd wedi cael ei gynnal o fis Tachwedd 2018. Mae’r cynllun peilot yn rhoi’r Cynllun Preswylio ar brawf ac mae wedi ei anelu at ddinasyddion yr UE sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU. Bydd y Cynllun Preswylio yn agor yn swyddogol ym Mawrth 2019. Gwnaeth ein Rheolwr Gweithrediadau Busnes yn ogystal â fy rheolwr llinell fi yn ymwybodol o’r cynllun peilot. Beth oedd y broses o wneud cais am y Cynllun? Mae gwneud cais am y Cynllun yn cynnwys camau gwahanol, yn cynnwys sganio dogfennau perthnasol gyda’r Ap gwirio dogfennau ymadael yr UE wedyn ffurflen ar-lein ychwanegol ar wefan y Swyddfa Gartref. Mae angen dilysu hunaniaeth, gwirio troseddoldeb a dilysu preswyliad yn ogystal â thalu ffi gwneud cais (gall hyn amrywio ar gyfer defnyddwyr gwahanol). Pryd ydych chi’n gobeithio clywed a ydych wedi bod yn llwyddiannus? Rwy’n gobeithio clywed gan y Swyddfa Gartref ar ddiwedd mis Mawrth 2019, unwaith y mae cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE wedi cael ei lansio. https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families https://www.gov.uk/government/collections/eu-settlement-scheme-pilot-applicant-information
Arferion da Mudo ac Iechyd; Gofal Iechyd Sylfaenol, Malta Anfonwyd yr erthygl ganlynol i mewn gan Marika Podda Connor sydd yn aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn byw a gweithio ym Malta. Mae’r erthygl yn amlygu rhywfaint o’r gwaith sydd yn digwydd ym Malta mewn perthynas ag iechyd mudwyr. Mae Malta yn ynys Ewropeaidd ym Môr y Canoldir sydd yn enwog am ei hanes, tywydd braf a môr hardd. Fodd bynnag, dros y degawd diwethaf, mae wedi cael anhawster yn achub a darparu ar gyfer dros 20 mil o fudwyr sydd yn cyrraedd ar gychod o Affrica Is-Sahara ac yn fwy diweddar o Syria, Libya, Bangladesh ac Irac. Yn aml iawn, nid yw’r mudwyr yn gwybod sut, pryd a ble i chwilio am wasanaethau gofal iechyd ac nid iechyd yw eu prif bryder yn aml iawn. Sefydlodd Gofal Iechyd Sylfaenol, sydd yn endid yn y Weinyddiaeth Iechyd ym Malta, Swyddfa Gyswllt Iechyd Mudwyr er mwyn: 1. mynd i’r afael â materion hygyrchedd priodol gwasanaethau gofal iechyd 2. hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol a myfyrwyr y Gwyddorau Iechyd ar destunau yn ymwneud â mudo ac iechyd fel Cymhwysedd Diwylliannol, adnabod dioddefwyr masnachu mewn lleoliad clinigol, Ataliaeth, Diogelu a Chefnogi Dioddefwyr Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a Gweithio gyda Chyfryngwyr Diwylliannol 3. Trefnir sesiynau addysg iechyd ar gyfer y boblogaeth mudwyr hefyd yn y canolfannau derbyn ac yn y gymuned 4. Rhoi hyfforddiant a chymorth i gyfryngwyr diwylliannol Mae’r Swyddfa Gyswllt Iechyd Mudwyr hefyd wedi datblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer ‘Cyfryngwyr Diwylliannol mewn Gofal Iechyd’ a hyd yn hyn mae wedi hyfforddi 15 grŵp o fudwyr wnaeth gais i’w fynychu. Yn gryno, rôl cyfryngwr diwylliannol yw cynorthwyo cleifion sydd yn fudwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol i oresgyn rhwystrau ieithyddol a cham-baru diwylliannol. Mae’r cyfryngwyr diwylliannol sy’n gweithio yn y Gofal Iechyd Sylfaenol ym Malta fel arfer yn aelodau o’r gymuned fudol sydd yn ddeiliaid tystysgrif y rhaglen hyfforddi a gyflwynir gan y Gofal Iechyd Sylfaenol ac sydd fel arfer wedi eu hintegreiddio’n dda i’r gymdeithas ym Malta. Yn rhan o’u rôl, maent yn darparu canlyniad cadarnhaol i gleifion na fyddai fel arall yn gallu cyfathrebu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn yr un modd, mae gweithwyr iechyd proffesiynol sydd yn gweithio gyda’r cyfryngwyr diwylliannol yn dysgu am ymddygiad diwylliannol mewn iechyd a sut i drafod cynllun gofal gyda chlaf sy’n dod o gefndir gwahanol. Mae prosiectau’r UE y mae’r Swyddfa Gyswllt Iechyd Mudwyr wedi bod yn gysylltiedig â nhw (yn cynnwys: Marenostrum, EQUIHealth, COST Actions, CARE, MIG_H Project a TRAIN4M&H) wedi rhoi cyfle i weithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol a swyddogion gorfodi’r gyfraith fynychu seminarau hyfforddi amrywiol ar Glefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Meddwl a Chymhwysedd Diwylliannol. Mae Gofal Iechyd Sylfaenol wedi cael ei ystyried yn enghraifft o arfer da ymysg gwledydd Ewropeaidd eraill ac mae wedi llwyddo i sensiteiddio gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda mudwyr yn ddyddiol. Marika Podda Connor MSc Iechyd Trawsddiwylliannol, BSc, Diploma Rhyw a Datblygiad, RN Nyrs Ymarfer Trawsddiwylliannol Gofal Iechyd Sylfaenol, Malta Ebost: marika.poddaconnor@gov.mt URL Gwedudalen: https://deputyprimeministercms.gov.mt/en/phc/mhlo/Pages/mhlo.aspx
Pwysigrwydd Chwarae mewn Sefyllfaoedd o Argyfwng Rydym i gyd yn ymwybodol iawn bod nifer sylweddol o blant wedi eu heffeithio gan wrthdaro, dadleoli a’r angen i greu bywydau newydd mewn lleoedd newydd. Mewn rhaglenni brys ac argyfwng, fel y rheiny sy’n cefnogi plant mudol, mae chwarae yn aml yn flaenoriaeth llawer is na darparu bwyd, lloches a meddyginiaeth. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi mynegi pryder mawr yn ymwneud â’r flaenoriaeth isel a roddir i chwarae mewn sefyllfaoedd o’r fath ac mewn rhaglenni cymorth. Yn ei Sylw Cyffredinol rhif 17 ar erthygl 31 (sydd yn cynnwys yr hawl i chwarae), mae’n nodi: ‘Mae gan blant awydd digymell i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a byddant yn chwilio am gyfleoedd i wneud hynny mewn amgylchiadau anffafriol iawn. Fodd bynnag, mae angen sicrhau rhai amodau, yn unol â galluoedd plant i esblygu, er mwyn iddynt wireddu eu hawliau yn unol ag erthygl 31 i’r graddau eithaf.’ Pwysleisir yn y sefyllfaoedd hyn, bod chwarae: • • • •
‘yn chware rôl therapiwtig ac adsefydlol sylweddol yn helpu plant i gael teimlad o normalrwydd a hapusrwydd ar ôl eu profiad o golled, dadleoli a thrawma yn helpu plant sy’n ffoaduriaid a phlant sydd wedi cael profedigaeth, profi trais, cam-drin neu gamfanteisio, i oresgyn poen emosiynol ac adfer rheolaeth dros eu bywydau yn gallu adfer teimlad o hunaniaeth, eu helpu i wneud ystyr o’r hyn sydd wedi digwydd iddynt a’u galluogi i gael hwyl a mwynhad yn rhoi cyfle i blant ymgysylltu â phrofiad a rennir, i ailadeiladu syniad o werth a hunanwerth personol, i archwilio eu creadigrwydd eu hunain a chael teimlad o gysylltu a pherthyn’
Mae cyfleoedd i chwarae yn chwarae rôl arwyddocaol yn helpu plant i adfer teimlad o normalrwydd a hapusrwydd ar ôl eu profiad o golled, dadleoliad a thrawma. Mae cael mannau croesawgar, digon o amser a chwmni eraill i chwarae bob dydd yn creu canlyniadau sylweddol i blant ac fel oedolion, gallwn feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn. Dylai unrhyw ymyrraeth gydnabod nodweddion chwarae a galluogi digon o hyblygrwydd, natur anrhagweladwy a diogelwch er mwyn i blant chwarae’n rhydd. Mae amser a lle rheolaidd, wedi ei ddiogelu ar gyfer chwarae yn cynorthwyo iechyd meddwl plant ac mae hyn yn hanfodol pan fydd y byd o’u hamgylch mewn anrhefn. Trwy chwarae, mae plant yn profi ystod o emosiynau a gallant ddysgu sut i’w rheoli. Mae cymdeithasu gyda’u ffrindiau ar eu telerau eu hunain yn rhoi cyfleoedd i blant ddatblygu eu cadernid eu hunain, cael hwyl ac ymlacio. Mae ffantasi a chwarae rôl yn caniatáu dychymyg a chreadigrwydd, ond gall hefyd fod yn ffordd i blant wneud synnwyr o agweddau anodd a thrallodus yn eu bywyd a ‘gweithio trwyddynt’. Trwy chwarae, mae plant yn cymryd rhan mewn defodau ac arferion sy’n cynorthwyo teimlad o berthyn a chael eu cynnwys, a gallai plant hŷn gael budd o faethu rhai iau. Mae amgylcheddau chwarae o ansawdd yn fwy na mannau ffisegol yn unig. Maent yn fannau cymdeithasol lle mae plant yn trafod lle, cydberthynas ac adnoddau a gallant fod yn gyfle i brofi ystod eang o deimladau. I blant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau - maent yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o ansawdd i chwarae. Os gallwn ganfod ffyrdd o sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfnodau o ddiogelwch a chymorth i chwarae, yn yr amgylchiadau anoddaf hyd yn oed, bydd y profiad yn adnodd y gallant ei ddefnyddio am weddill eu bywydau.
Mae’r Gymdeithas Chwarae Ryngwladol (IPA) yn ymwybodol bod diffyg dealltwriaeth gyffredinol o bwysigrwydd chwarae i blant mewn amgylchiadau o’r fath ac felly maent wedi cyhoeddi pecyn cymorth - Access to Play for Children in Situations of Crisis - a ysgrifennwyd gan Marianne Mannello a Martin King-Sheard o Chwarae Cymru. Cynhyrchwyd y pecyn cymorth i gefnogi pobl ac asiantaethau sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd o argyfwng yn cynnwys y rheiny sy’n cefnogi integreiddio plant wedi eu dadleoli, er mwyn iddynt allu deall a chynorthwyo chwarae plant yn well. Mae’n rhoi: gwybodaeth glir a chryno i unigolion a sefydliadau, ac offer ymarferol, cam wrth gam a thempledi. Mae adolygiad o’r pecyn cymorth yn nodi bod ‘pecyn cymorth ymarferol fel hyn yn angenrheidiol er mwyn cymhwyso gwybodaeth ac ymchwil a gwireddu canlyniadau ein nod a rennir: hawl pob plentyn i chwarae’. Mae’r pecyn cymorth ar gael ar wefan Chwarae Cymru: www.playwales.org.uk/eng/news/792-access-to-play-for-children-in-situations-of-crisis-toolkit-
Croeso i Dudalen Podlediad newydd PHNC yn yr E-fwletin. Yma gallwch wrando ar y Podlediadau a gyhoeddwyd yn flaenorol. Ar hyn o bryd, mae gennym sawl podlediad ar y gweill ar destunau fel Iechyd a Thai, Asesu Effaith ar Iechyd, Iechyd yn y Gweithle a Chlefyd Cardiofasgwlaidd. Mae’r Podlediad fis yma ar Iechyd Mudwyr a chafodd ei recordio gyda Rebecca Scott, Uwch Reolwr Prosiect ar gyfer Grwpiau Agored i Niwed yn y tîm Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os oes gennych ddiddordeb yn recordio podlediad gyda ni yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar e-bost: publichealth.network@wales.nhs.uk
Newydd: Podlediad Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Iechyd Mudwyr
Toiledau sydd yn Deall Dementia (Podlediad Diwrnod Toiledau’r Byd)
Love Activity, Hate Exercise
Anabledd Dysgu mewn ysbytai
Rhagfynegwyr Dementia
Iechyd rhywiol
Heneiddio’n Iach
Gamblo
Iechyd Traws
Diogelwch yn yr Haul
Croeso i Press Play, lle gallwch gael fideos diweddaraf PHNC o youtube! Bob mis, byddwn yn ychwanegu fideos newydd wrth iddynt gael eu lanlwytho. Mae gennym nifer o ddigwyddiadau wedi eu cynllunio dros y misoedd nesaf felly cadwch eich llygaid ar agor am y ffrydiau diweddaraf ar ein cyfrif twitter neu dewch yn ôl i ymweld â Press Play ar ôl y digwyddiad!
Yn Hen ac yn Unig: Nid digwyddiad ynysig
Arddangosfa Gynaliadwyedd 2018
Iechyd a Lles Meddwl yn y Gweithle
Cynhadledd Iechyd Rhywiol 2018 Fideo Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018
Ar y Grawnwin Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo’n cael ei danbrisio Yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw’r ffocws presennol ar unigolion sy’n ‘gamblwyr problemus’ yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a’r gymdeithas ac mae hynny’n diystyru’r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae’r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae’r gwaith yn edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd i fynd i’r afael â niwed gamblo fel mater o bryder o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod plant a phobl ifanc, pobl â phryderon ariannol a dyledion, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, a phobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy agored i niwed gamblo nag eraill. https://www.publichealthnetwork.cymru/cy/news/true-cost-of-gambling-underestimated-say-new-publications/
Siarad â mamau am eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod Canfyddiadau o astudiaeth newydd gan ymwelwyr iechyd yn Ynys Môn. ACES Health Visiting Report WelshMae menter leol arloesol newydd a gyflwynir yn Ynys Môn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi gweld ymwelwyr iechyd yn mynd ati’n rheolaidd i holi mamau newydd am y Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod neu ACE a ddioddefwyd ganddynt pan oeddent yn blant. Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn ddigwyddiadau trawmatig sy’n effeithio ar blant pan maent yn tyfu i fyny, fel dioddef cam-drin plant neu fyw mewn aelwyd yr effeithir arni gan drais domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl. Mae’r ymholiad ACE rheolaidd yn ceisio paratoi unigolion yn well ar gyfer rhianta drwy roi cyfle i drafod beth effeithiodd ar brofiadau’r fam ei hun o blentyndod a myfyrio ar hyn. Dyma’r tro cyntaf mae dull o’r fath wedi’i dreialu gydag ymwelwyr iechyd yn y DU. Mae’n gam cyntaf tuag at ddeall sut i gynorthwyo mamau sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gyflawni iechyd cadarnhaol, llesiant ar gyfer eu hunain a gwell canlyniadau iddyn nhw fel rhieni. Er mai astudiaeth gychwynnol yn unig yw hon, mae’r canfyddiadau o werthusiad annibynnol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn addawol iawn. Roedd mwy nag 8 o bob 10 o famau o’r farn ei bod yn bwysig i ymwelwyr iechyd gael y ddealltwriaeth hon o’u ACE ac roedd dros 90% o famau o’r farn ei bod yn dderbyniol darparu gwybodaeth o’r fath i ymwelydd iechyd. Ar gyfer dros 40% o famau a chanddynt ACE, ymholiad yn ystod ymweliadau iechyd oedd y tro cyntaf yn eu bywydau iddynt allu trafod y profiadau hyn gyda gweithiwr proffesiynol. Nododd y gwerthusiad hefyd fod ymholiadau ACE yn gwella’n sylweddol ddealltwriaeth yr ymwelwyr iechyd o deuluoedd, gan greu mwy o natur agored ac ymddiriedaeth yn eu perthnasoedd â defnyddwyr gwasanaethau. Mae’r gwaith yn Ynys Môn yn adeiladu ar raglen fwy o waith o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n ceisio mynd i’r afael ag adfyd cynnar ym mywydau pobl er mwyn gwella eu hiechyd a’u llesiant drwy gydol eu bywyd. Meddai’r Athro Bellis, Cyfarwyddwr Polisi a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn gweithio gydag ymwelwyr iechyd yn Ynys Môn ar y darn pwysig hwn o waith. “Yn rhy aml mae’r niwed sy’n effeithio ar blant mewn un genhedlaeth yn ailadrodd mewn cenedlaethau’r dyfodol yn yr un teuluoedd. “Mae ymwelwyr iechyd mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu’r mathau o gymorth sy’n gallu torri cylchoedd o’r fath. “Er mai astudiaeth gychwynnol yn unig yw hon, mae’r canlyniadau eisoes yn nodi ei bod yn rhoi cyfle i rai menywod drafod problemau yn ystod eu plentyndod eu hunain am y tro cyntaf ac mae ymwelwyr iechyd a mamau newydd o’r farn ei fod yn ddatblygiad defnyddiol. “Rydym bellach yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r gwaith hwn mewn rhannau eraill o Gymru er mwyn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn tyfu i fyny mewn amgylcheddau diogel a meithringar sy’n rhoi’r cyfle gorau iddynt gyrraedd eu potensial llawn.”
Clywed Si
Pobl agwith Anableddau People Disabilities
Plant a Phobl Ifanc People Children and Young
Fferylliaeth Pharmacy
Communities Cymunedau
Physical Activity
Education Addysg
Polisi Policy
Yr Amgylchedd Environment
Tlodi Poverty
Gambling Gamblo
Prisoners Carcharaorion
Rhyw Gender
Researcha and Evidence Ymchwil Thystiolaeth
Homelessness Digartrefedd
Sexual Rhywiol Health Iechyd
Fford o Fyw Lifestyle
Rhywioldeb Sexuality
Iechyd Mamau a’r Maternal and Newborn Newydd-Anedig
Ysmygu Smoking
Iechyd Mental Meddwl Health
Camddenfnyddio Substance MisuseSylweddau
Clefydau Anhrosglwyddadwy Noncommunicable Diseases
Diweithdra Unemployment
Nutrition Maeth
Cyn-Filwyr Veterans
OlderHyn People Pobl
Violence and Abuse Trais a Chamdriniaeth
Iechyd y Geg Oral Health
Gwaith Work
Parents Rhieni
All News Newyddion
Crynoden Y’r Newyddion
Alcohol
Beth Sy’n Digwydd ym mis... Chwefror 1 Gwella Iechyd trwy Addysg ac Ymchwil
4
11
5
6
7
Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
‘Dull am Oes’ Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar
Gwella Gwasanaethau Plant Anabl
12
13
14
15
Cyfweld Cymhellol
Cyfweld Cymhellol
20
21
22
Efaith hybu iechyd ac ataliaeth yng nghyd-destun HIV
Cyfleoedd o Gludiant Allyriadau Carbon Isel Iawn a Mudoledd Lleol
27
28
Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
18
25
19
26
Cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
8
Yn Y Rhifyn Nesaf Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar