Yn Hen ac ar eich Pen eich Hun: Nid yw hyn yn Ddigwyddiad Unigryw Adroddiad Gwerthuso Cryno

Page 1

Yn Hen ac ar eich Pen eich Hun: Nid yw hyn yn Ddigwyddiad Unigryw Adroddiad Gwerthuso Cryno Catherine Evans Cydlynydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Hydref 2018


Cyflwyniad Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei leoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Mae cyfres o seminarau ymysg y gwasanaethau y maent yn eu darparu, sydd yn ceisio hybu arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg. Mae’r gyfres yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae enghreifftiau diweddar wedi cynnwys testunau fel Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle: Defnyddio Arfer Gorau. Caiff y testunau eu pennu gan aelodau’r rhwydwaith sy’n pleidleisio ar restr o ryw 12 testun sy’n cael eu dosbarthu’n flynyddol a phleidleisiodd yr aelodau dros Unigrwydd ac Ynysu ymysg pobl hyn. Trefnwyd y seminar mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Age Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hyn. Cynhaliwyd y seminar hwn ar ddydd Iau 11 Hydref 2018 yn Neuadd Reichel ym Mhrifysgol Bangor a’r cadeirydd oedd Dafydd Iwan. Rhoddwyd y cyflwyniad cyntaf gan Steve Huxton o Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hyn a roddodd drosolwg o Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Roedd y cyflwyniad nesaf gan Dr Deborah Morgan sydd yn Ymchwilydd yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia. Enw’r cyflwyniad oedd ‘Tu ôl i’r Ffigurau: Unigrwydd ac Ynysu Cymdeithasol yn Nes Ymlaen mewn Bywyd. Siaradodd Dr Catrin Hedd Jones a’r Athro Gill Windle, eu dau o Brifysgol Bangor, am Waith Pontio’r Cenedlaethau yn Mynd i’r afael ag Unigrwydd, a Lleihau Unigrwydd yn Nes Ymlaen Mewn Bywyd: rôl cadernid. Cafwyd cyflwyniad olaf y bore gan David Evans a Peter Harrison a soniodd am y gwaith a wneir gan Gydweithfa Crefftwyr Prestatyn a rhai o’r prosiectau y maent wedi bod yn gysylltiedig â nhw er mwyn helpu i atal unigrwydd ac ynysu yn y gymuned.


Dilynwyd y cyflwyniadau gan dri gweithdy: Cysylltiadau Cymunedol: David Worrall, Camau Cadarn/Cysylltu Cymunedau Cyflwynodd y gweithdy hwn waith y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru a Chysylltwyr Cymunedol, canlyniad gwaith ar y cyd rhwng y Co-op a’r Groes Goch, a phrosiect Camau Cadarn. Archwiliodd y gweithdy ganfyddiadau adroddiad diweddar gan y Co-op/y Groes Goch ‘Cysylltu cymunedau i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol’ a chafwyd trafodaeth am heriau a chyfleoedd gweithio gyda phobl sydd yn unig a/neu wedi eu hynysu’n gymdeithasol. Llywio Polisi: Penny Hall a Rachel Lewis, Llywodraeth Cymru Rhoddodd y gweithdy hwn y wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unigrwydd a gofynnwyd i’r cynadleddwyr ychwanegu at yr ymateb trwy nifer o gwestiynau. Goresgyn Rhwystrau: Valerie Billingham, Age Cymru Archwiliodd y gweithdy hwn oresgyn rhwystrau posibl mewn cymunedau i hwyluso cynnwys a chyfranogiad pobl hyn, er mwyn helpu i atal unigrwydd ac ynysu. Cafodd sawl pwynt ei drafod yn cynnwys dyluniad a gwasanaethau cymdogaeth a Chyfrifwr Cymunedol Age Cymru a all helpu i weld a yw cymunedau yng Nghymru yn gyfeillgar i’r henoed. Mae cyflwyniadau unigol ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir eu gweld ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Gwerthusiad Cofrestrodd 56 o bobl ar gyfer y seminar a mynychodd 56 o bobl ar y diwrnod. Cafodd y seminar ei ffrydio’n fyw hefyd trwy Twitter gyda 70 o bobl yn gwylio yn ystod y seminar a 114 arall yn gwylo’r ffrwd ar ôl y seminar. Rhoddwyd ffurflen werthuso i’r holl gynadleddwyr ar ddiwedd y digwyddiad a dychwelwyd 23 o ffurflenni.

Canlyniadau Meintiol Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn i’r cynadleddwyr a oeddent yn aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Nid oedd y rhan fwyaf o bobl (70%) yn aelodau o’r Rhwydwaith er bod y seminar wedi cael ei anfon at aelodau’r Rhwydwaith yn wreiddiol. Fodd bynnag, cafodd y digwyddiad ei hybu gan aelodau o’r grwp cynllunio hefyd ac roedd hyn yn cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a hyrwyddodd y digwyddiad ymysg eu myfyrwyr, gyda nifer ohonynt yn mynychu’r digwyddiad. Yn yr wythnos ar ôl y seminar, cofrestrodd 10 aelod newydd ar y Rhwydwaith, llawer ohonynt yn gynadleddwyr o’r seminar.

Mae cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r cynadleddwyr raddio o 1 i 5, (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) “pa mor ddefnyddiol oedd y seminar?”. Fel y gellir gweld, atebodd y rhan fwyaf o bobl (78%) 4 neu 5 ar gyfer y cwestiwn hwn gyda 13% (3 o bobl) yn ateb 3 a 4% (1 person) yn ateb 2. Ar ôl edrych yn agosach ar y ffurflen werthuso hon nid oedd unrhyw beth yn dangos pam y rhoddodd y person hwn yr ateb hynny.


Canlyniadau Ansoddol Edrychodd cwestiynau pellach ar y ffurflen werthuso am ymateb ansoddol a nodir isod. Beth oedd eich prif ysgogiad dros fynychu’r digwyddiad hwn? Mynychodd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr y seminar i ganfod mwy am y testun a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil ddiweddar ac arfer da. Roedd rhwydweithio hefyd yn ffactor pwysig i nifer o’r cynadleddwyr. “Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y testun hwn ac a ydym neu a allwn wneud mwy i ymgorffori’r mater hwn yn ein gwaith” “Datblygu syniadau, greu cysylltiadau newydd, gwrando ar safbwyntiau ac enghreifftiau o arferion da” “I mi a phobl eraill gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau pobl hyn yn yr ardal” A oedd unrhyw beth o ddiddordeb penodol? Soniodd llawer o gynadleddwyr am y cyflwyniadau ac yn arbennig y cyflwyniad o Gydweithfa Crefftwyr Prestatyn. Mae’n ddiddorol nodi bod y prosiect wedi cael nifer o ymholiadau gan gynadleddwyr ers y digwyddiad yn gofyn a ellir ymweld â’r prosiect i ganfod mwy amdano. “Mae nifer o gynadleddwyr eisoes wedi cysylltu â ni yn gofyn a allant ymweld ac mewn un achos yn gofyn i ni ymweld â nhw, felly roedd yn llwyddiant mawr i ni ledaenu’r gair o safbwynt gwirfoddol /3ydd sector” Soniwyd am y gweithdai hefyd nifer o weithiau ar y ffurflenni gwerthuso fel rhywbeth defnyddiol i drafod materion yn fanylach. “Roedd diweddariad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar eu gwaith yn ddefnyddiol iawn” “Cyflwyniad yn pontio’r cenedlaethau gan Dr Catrin Hedd Jones a Tu ôl i’r Ffigurau gan Dr Deborah Morgan” “Cyflwyniad Heneiddio’n Dda yng Nghymru” Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn?? Dywedodd nifer o gynadleddwyr y byddent yn rhannu’r wybodaeth gyda chydweithwyr ac yn codi ymwybyddiaeth o ynysu ac unigrwydd yn y gymuned. Roedd rhai myfyrwyr yn y digwyddiad a chafwyd rhai sylwadau yn datgan y byddent yn defnyddio’r hyn yr oeddent wedi ei ddysgu yn y digwyddiad fel rhan o’u cwrs. “Roedd yn dda deall bylchau mewn gwybodaeth a’r hyn y gallaf i ei wneud yn fy swydd i’w llenwi” “Rhaeadru’r wybodaeth i gydweithwyr / atgyfeirio ar gyfer cleientiaid” “Rwyf yn fyfyriwr ymchwil – mae rhwydweithio wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi gael mwy o wybodaeth” Pa seminar / cynhadledd yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol? Roedd llawer o’r testunau y dywedodd y cynadleddwyr y byddent yn hoffi eu gweld yn cael eu cynnwys mewn digwyddiadau yn y dyfodol mewn perthynas â phobl hŷn ac yn agos gysylltiedig â maes testun y seminar hwn. Codwyd iechyd meddwl sawl gwaith a chan fod hwn bob amser yn destun poblogaidd, mae’r Rhwydwaith yn cynllunio digwyddiad ar gyfer 2019. “Mwy o astudiaethau achos am yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn lleoliadau gwledig a threfol” “Sut i droi tystiolaeth/gwybodaeth yn ymarfer ystyrlon” “Polisi cydgysylltiedig ynghylch unigrwydd”


Sylwadau eraill

Cafodd y cynadleddwyr gyfle i roi mwy o sylwadau yr oedd ganddynt am y digwyddiad. Roedd yr unig sylw negyddol yn ymwneud â thaflenni gwybodaeth fel y ffurflenni gwerthuso’n cael eu darparu’n Gymraeg a bydd y Rhwydwaith yn mynd i’r afael â hyn ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Roedd y rhaglen ar gael yn Gymraeg a darparwyd cyfieithiad dwyieithog ar gyfer y cyflwyniadau. Roedd y cynadleddwyr hefyd yn gallu cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn Gymraeg. “Digwyddiad ysbrydoledig, defnyddiol, dyfeisgar, llawn gwybodaeth. Diolch yn fawr” “Llawn gwybodaeth a chyfle i gyfarfod ag eraill sy’n gweithio yn yr un maes” “Roedd y trafodaethau yn y gweithdai yn ddefnyddiol i glywed safbwyntiau pobl eraill” Un gair Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi un gair i grynhoi’r ffordd yr oeddent yn teimlo am y digwyddiad. Mae’r geiriau hyn wedi cael eu rhoi i mewn i Wordle (www.wordle.net). Mae Wordle yn creu diagramau geiriau sydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i eiriau sy’n ymddangos yn fwy aml yn y testun. O hyn gallwch weld yn glir mai ‘informative’ a ‘interested’ a nodwyd amlaf.


Mentimeter Mae Mentimeter yn offeryn cyflwyno hawdd ei ddefnyddio ar y we. Mae’n llwyfan diogel y gellir ei ddefnyddio gyda chynulleidfaoedd o bob maint i wneud cyflwyniadau’n fwy rhyngweithiol. Achubwyd ar y cyfle i ddefnyddio Mentimeter i ryngweithio gyda chynadleddwyr ac i ganfod eu safbwyntiau am y sefyllfa bresennol. Roedd y cyfranogiad yn dda iawn gan gynadleddwyr a chymerodd cyfanswm o 38 o gynadleddwyr ran. Mae’r canlyniadau fel a ganlyn:


Mwy o wybodaeth Mae mwy o wybodaeth a fideo byr o’r diwrnod ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.