12 minute read

Penawdau

Next Article
Fideos

Fideos

Cynllunio a galluogi amgylcheddau iach

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru.

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Cafodd y gwaith hwn ei lunio'n wreiddiol fel offeryn ar gyfer mynd i'r afael â lefelau cynyddol o ordewdra ledled Cymru, drwy gynllunio'r amgylcheddau y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddynt yn y dyfodol. Gyda data'n awgrymu bod 58 y cant o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew, ni fu'r angen i greu amgylcheddau sy'n galluogi ac yn annog pwysau iach erioed yn bwysicach. “Mae pandemig COVID-19, a'r risg uwch o afiachusrwydd a marwolaethau ar gyfer y rhai a ystyrir yn ordew, yn alwad frys arall i lunio amgylcheddau a lleoedd sy'n hybu iechyd ac nad ydynt yn ychwanegu ymhellach at yr her gordewdra.

“Er enghraifft, mae cynyddu nifer y mannau gwyrdd a glas a'r mynediad iddynt, blaenoriaethu teithio llesol dros ddefnyddio'r car a chreu adeiladau sydd â digon o le mewnol i storio beiciau a chyfleusterau cegin, ymhlith rhai o'r ffactorau yn unig y gellir eu hychwanegu yn ystod y cam cynllunio, sy'n annog ymddygiad iachach ac felly pwysau iachach.

“Mae'r ddogfen hon yn cydnabod bod mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd sy'n effeithio ar bwysau iach yn cynnwys ystyried sut i greu amgylcheddau iachach yn gymaint â mynd i'r afael ag ymddygiad iechyd ar ei ben ei hun. Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd y dull deuol hwn yn atal y duedd ordewdra yng Nghymru ac yn darparu bywydau iachach ar gyfer cenhedlaeth y dyfodol.”

Mae ‘Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach’ yn gyfres o ddogfennau sydd wedi'u datblygu gan arbenigwyr iechyd i gynorthwyo swyddogion polisi cynllunio a rheoli datblygu awdurdodau lleol, ymarferwyr tîm iechyd cyhoeddus cenedlaethol a lleol, cynrychiolwyr iechyd amgylcheddol, eiriolwyr cenedlaethol a llunwyr polisi ar gyfer cynllunio ac iechyd, a datblygwyr yng Nghymru i gyfrannu at greu amgylcheddau iach, gan gynnwys pwysau iach. Mae'n rhoi cyd-destun a gwybodaeth am y rhwystrau presennol i greu amgylcheddau iach, polisi cynllunio perthnasol a dulliau gwahanol ar gyfer cyflawni'r amgylcheddau hyn yn genedlaethol ac yn lleol, a chyfres o o astudiaethau achos sy'n defnyddio enghreifftiau o Gymru a'r Deyrnas Unedig

(DU) ac awdurdodau lleol (ALl) sydd eisoes wedi defnyddio camau arloesol ac ymarferol i oresgyn yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu o ran cynnal ffyrdd iach o fyw. Mae'r adnodd yn darparu templed ymarferol ar gyfer Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar gyfer Amgylcheddau Pwysau Iach, gan ddarparu'r cyd-destun a'r wybodaeth i gyfrannu at bolisïau defnydd tir lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol a'u cefnogi. Mae ar gyfer y rhai sy'n dymuno defnyddio'r system gynllunio i weithio tuag at greu amgylcheddau sy'n cyflawni nodau cynllunio ac iechyd cyhoeddus i fynd i'r afael â gordewdra, deiet, gweithgarwch Dyma'r chwe elfen i gynllunio amgylcheddau pwysau iach: 1. Symud a mynediad 2. Mannau agored, chwarae a hamdden 3. Bwyd iach 4. Mannau cymdogaeth a seilwaith cymdeithasol 5. Adeiladau, a'r 6. Economi leol.

Gellir dod o hyd i'r adnodd llawn yma: https://icc.gig.cymru/newyddion1/ adnodd-newydd-i-helpu-i-greuamgylcheddau-iachach-a-mynd-ir-afael-agordewdra-yng-nghymru/

Creu lleoedd a gofod iachach ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol

Mae’r adnodd hwn yn dangos sut gall y cyfleoedd iechyd a lles a gynigir gan yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, fel seilwaith cerdded a beicio, tyfu bwyd a mynediad at natur, gyfrannu at Gymru ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Cafodd yr adnodd ei greu i gynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, cyrff cyhoeddus, sefydliadau traws-sector ac unigolion i ddwyn gweithredoedd ymlaen sydd yn mynd i’r afael â chyfleoedd iechyd a llesiant sydd yn cael eu cyflwyno gan yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, a’u gwella.

https://phwwhocc.co.uk/wp-content/ uploads/2020/07/Creating-healthierspaces-places-Cymru.pdf

Creu mannau cynaliadwy: Pa rôl all y system gynllunio ei chwarae?

Mae gwasanaeth Ymchwil y Senedd wedi crynhoi’r hyn y mae creu lleoedd yn ei olygu yng nghyd-destun Cymru. Mae’r erthygl yn rhoi dolenni i safbwyntiau polisi a gwybodaeth am Gynlluniau Datblygu Lleol a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Creu mannau cynaliadwy: Pa rôl all fod gan y system gynllunio? (senedd.cymru)

Strydoedd ar gyfer Iechyd

Mae gan Gyngor Caerdydd bolisi uchelgeisiol i wneud pob stryd yn stryd iach i bob dinesydd: gan weithio mewn cydweithrediad â Strydoedd Byw, edrychodd y prosiect hwn ar wireddu hynny.

Newid y ffordd yr ydym yn symud o gwmpas dinas sydd yn tyfu yw gweledigaeth trafnidiaeth Caerdydd ar gyfer y deng mlynedd nesaf ac mae’n cynnwys ymrwymiad i’r canlynol: “Cyflwyno menter ‘strydoedd ar gyfer iechyd’ ar draws y ddinas, i alluogi pob stryd i gael ei hadfer fel mannau cyhoeddus a dod yn iach, yn wyrdd, yn ddiogel, yn gyfeillgar i blant, i annog cerdded a beicio, gyda chroesfannau o ansawdd uchel i gerddwyr, bioamrywiaeth, plannu a systemau draenio trefol cynaliadwy (SUDS), a darparu gwell i bawb, yn arbennig y rheiny â symudedd cyfyngedig”. Gweithiodd Urban Habitats mewn cydweithrediad â Strydoedd Byw ar y comisiwn hwn i ddarparu tîm oedd yn integreiddio gwybodaeth iechyd cymunedol Urban Habitats ag arbenigedd Strydoedd Byw mewn ymgysylltu cymunedol a chydgynhyrchu.

Roedd y gweithgareddau yn cynnwys: • Ymagwedd tuag at flaenoriaethu buddsoddiad yn ôl angen iechyd. • Proffil iechyd cymunedol ardal beilot. • Sesiynau galw heibio cymunedol. • Parc bach dros dro mewn marchnad gymunedol. • Arolwg cymunedol. • Archwiliadau stryd gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid. • Gweithdy meithrin gallu gyda rhyw 50 o staff awdurdod lleol. • Adroddiad ac argymhellion i’r awdurdod lleol.

Defnyddiwyd amrywiaeth o ffynonellau data yn cynnwys data iechyd y cyhoedd a digwyddiadau cymunedol cyfranogol i ddarparu ystod o ffynonellau tystiolaeth yn cynnwys profiad bywyd aelodau’r gymuned.

Roedd yr ymagwedd yn cynnwys deall y blaenoriaethau iechyd ar gyfer dinas Caerdydd a defnyddio iechyd y cyhoedd a ffynonellau perthnasol eraill i ddatblygu dull ar gyfer blaenoriaethu ymyriadau ar lefel stryd ar gyfer effaith ar iechyd a llesiant gan ystyried ble’r oedd yr angen mwyaf. Hyd y gwyddom ni, mae hon yn ymagwedd newydd tuag at flaenoriaethu cyllid ar gyfer ymyriadau.

Roedd meithrin gallu a dealltwriaeth ar gyfer menter Strydoedd Iach yn yr awdurdod lleol yn bwysig hefyd: cynhaliwyd gweithdy cyfranogol hanner diwrnod gyda rhyw 40 o staff o amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys polisi trafnidiaeth, gwasanaethau chwarae, priffyrdd ac eraill. O’r casglu data cychwynnol yma, cynigiwyd rhestr flaenoriaeth ddrafft o ymyriadau a chafodd un o’r rhain yn ardal Plasnewydd ei ddatblygu’n fanylach. Defnyddiwyd ymagwedd o fapio asedau cymunedol, yn cynnwys gwrando ar brofiad bywyd aelodau o’r gymuned. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cynnwys un yn y farchnad ar ddydd Sadwrn, archwiliadau stryd cymunedol, ac archwiliadau stryd ysgol gydag ysgol gynradd leol. Cafodd arbenigedd Strydoedd Byw o ran ymgysylltu’r gymuned ac ysgolion ei gefnogi gan Urban Habitats i ffurfio cwestiynau a gweithgareddau ar gyfer canlyniadau iechyd a llesiant. Cafodd canlyniadau eu cyflwyno i Gyngor Caerdydd hefyd fel adroddiad ysgrifenedig ar y cyd yn cyfuno cyd-destunau a nodau iechyd a llesiant ynghyd â chanfyddiadau archwiliadau stryd y gellir gweithredu arnynt.

Fel gwaddol i’r prosiect hwn, cefnogodd Strydoedd Byw Cymru sefydlu Grŵp Lleol Strydoedd Byw o breswylwyr ar lawr gwlad sydd bellach yn weithredol yn hyrwyddo cerdded a strydoedd iach yn yr ardal.

Yr hyn y gwnaethom ei ddysgu:

Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i ddod ag arbenigedd Strydoedd Byw yn gweithio gyda chymunedau ac archwiliadau stryd ynghyd â ffocws Urban Habitats ar ganlyniadau iechyd a llesiant. Felly, er enghraifft, roedd yn werthfawr iawn integreiddio ein dealltwriaeth o’r llwybrau tuag at effaith ar iechyd i’r arolwg cymunedol.

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys defnyddio polisi wedi ei fabwysiadu a’i droi yn ganllaw y gellir gweithredu arno. Amlygodd y gwaith bwysigrwydd bod yn gyfres systemig a pharhaus o weithgareddau i wireddu polisi ar lawr gwlad. Mae trafodaethau cymunedol a gwerthfawrogi profiad bywyd yn ganlyniadau pwysig a gallant fod yn ffordd gyflym o ddechrau gwneud cynnydd o ran effaith ar iechyd hyd yn oed os yw newidiadau ffisegol yn cymryd mwy o amser i’w gweithredu.

Datblygodd ein techneg fapio ymagweddau presennol gan ddefnyddio sticeri gyda chwestiynau a datganiadau perthnasol yn llwyddiannus iawn ac roedd yn gweithio’n dda o ran dechrau trafodaethau.

Jo Breckon, Cyd-gyfarwyddwr, Studio Response

Mae ymchwil yn canfod mwy a mwy bod creadigrwydd yn gallu gwella iechyd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi croesawu’r ymagwedd hon trwy wneud celf yn ganolog i Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae dros 60 o artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr wedi creu gwaith celf penodol i safle yn y Faenor i wella llesiant cleifion, ymwelwyr, staff a’r gymuned. Wedi eu curadu a’u comisiynu gan Studio Response, mae’r gweithiau celf yn creu amgylchedd hamddenol a chroesawgar sydd yn meithrin hunaniaeth unigryw yr ysbyty, gan fynegi bywiogrwydd ac amrywiaeth y bobl a’r lleoedd y mae’n eu gwasanaethu. Mae gan lawer o’r gweithiau celf ddiben ymarferol yn ogystal ag un esthetig. Mae paneli gwydr mawr gan yr artist Catrin Jones, yn integreiddio darluniau canfod ffordd ac arwyddion wedi eu harwain gan yr artist i wneud teithio drwy’r ysbyty yn llai o straen trwy greu mannau penodol. Mae comisiynau eraill yn canolbwyntio ar lesiant staff yn cynnwys gweithiau celf yn ystafell fwyta’r meddygon iau a’r adran fferylliaeth sydd yn helpu i ddarparu gofod anghlinigol ar gyfer gorffwys ac ymlacio. Mae cerfluniau awyr agored Howard Bowcott yn annog pobl, staff yn arbennig, i wneud defnydd o dir helaeth yr ysbyty. Mae’r gwaith celf yn ymgorffori ardal eistedd neilltuol i staff, wedi ei ddylunio i ddarparu lle o heddwch a noddfa, a chyfres o ganfyddwyr ffordd sydd yn arwain pobl allan ac o amgylch y tir. Mae cynnwys saethau cyfeiriad a phellterau ar y canfyddwyr ffordd yn annog pobl i fod yn egnïol a defnyddio’r safle ar gyfer cerdded yn ddyddiol. gadarnhaol ar lesiant, ac mae creu gofod gardd wedi bod yn agwedd bwysig o’r rhaglen gelfyddydau. Roedd Gardd Iachau yr artist Cecile Johnson-Soliz yn ymateb i gais gan staff clinigol am le y gellid mynd â chleifion mewn gwelyau gofal critigol i dreulio amser yn yr awyr agored ymysg golygfeydd, arogl, teimlad a blasau natur. Ar gyfer Gardd Natur y Plant, plannodd Cecile flodau mawr, lliwgar, yn cynnwys 500 o gennin Pedr. Mae’n lle y gall pobl ifanc gael saib, dysgu a chwarae mewn amgylchedd naturiol i helpu eu hadferiad ac i leddfu straen. Dywed Bev Trinder, arbenigwr chwarae y Bwrdd Iechyd, sydd wedi ei lleoli yn yr ysbyty “mae’n ein galluogi ni i ddefnyddio’r amgylchedd hardd yma sydd gennym yn y Faenor i helpu llesiant ac adferiad plant”. Mae llawer o’r gweithiau celf yn yr adeilad yn ymateb i’r dirwedd naturiol sydd yn ysbrydoli o amgylch yr ysbyty. Mae gwaith celf integredig y darlunydd Shaun Doyle yn ymddangos ar draws yr ysbyty, lle maent yn helpu i sefydlu’r rhaglen gelf i wneuthuriad yr adeilad. Mae delweddau wedi eu hysbrydoli gan dirweddau lleol a bywyd gwyllt yn gwneud i’r gofod pediatrig, sydd yn gallu bod yn glinigol, deimlo’n llai brawychus. Wedi eu lleoli o safbwynt perffaith plentyn, mae eu cymeriadau dymunol yn rhedeg ar hyd y coridorau, gan gyflwyno lliw, cymeriad, cynhesrwydd ac elfen chwareus, ysgafn. Yn radioleg, mae ystafelloedd delweddu a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer plant, yn elwa ar bapur wal eang wedi ei lamineiddio â hylif, sydd yn tynnu sylw plant oddi ar y weithdrefn glinigol.

Dywedodd Clare Payne, uwch nyrs, gwasanaethau newyddenedigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan “Mae’r gweithiau celf sydd wedi eu gosod yn

yr uned gofal dwys newyddenedigol yn y Faenor yn ysgafnhau’r amgylchedd i’r staff ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd sy’n ymweld neu’n aros gyda’u babi.” Am fwy o wybodaeth am y comisiynau niferus eraill sydd yn rhan o Raglen Gelfyddydau’r Faenor, a’r artistiaid, y dylunwyr a’r gwneuthurwyr a gyfrannodd, ewch i www.Artforthegrange.com

Gweithio gyda natur i hybu llesiant ac iechyd y blaned

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i wella iechyd, cyfoeth a llesiant y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn ogystal â hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ac amrywiaeth. Yn un o’n prosiectau ymgysylltu, wedi ei gynorthwyo gan Accelerate Cymru (cynllun ariannu sydd yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd yn helpu i droi syniadau arloesol yn fesurau ymarferol) rydym wedi ymuno â menter gymdeithasol ffyniannus, ger Abercynon, i archwilio effaith presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd ar iechyd ac ansawdd bywyd.

Mae’r Brifysgol yn cefnogi creu llwybr natur ar goetir cymunedol pum erw a gardd CVOA, i archwilio hanes y safle, sydd â thystiolaeth o feddiannaeth gan y Rhufeiniaid. Rydym yn cynorthwyo dyluniad Tŷ Crwn Celtaidd ac yn cefnogi creu gardd lesiant Rufeinig, yn cynnwys planhigion meddyginiaethol a dôl blodau gwyllt ganoloesol, yn llawn rhywogaethau cyfeillgar i beillwyr. Byddwn hefyd yn datblygu adnoddau addysgol i esbonio hanes a bioamrywiaeth mewn gorsafoedd amrywiol ar hyd y llwybr. Bydd yn amlygu sut mae bywyd gwyllt lleol o fudd i ni i gyd, yn gwrthweithio effaith newid hinsawdd. ar natur, rydym hefyd yn defnyddio’r gweithgareddau amrywiol fel cerbyd ar gyfer gwella iechyd meddwl gwirfoddolwyr. Cyflawnir hyn trwy Bresgripsiynu Gwyrdd, ymagwedd lle mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol lleol a gweithwyr cyswllt yn atgyfeirio unigolion i weithgareddau yn seiliedig ar natur – fel garddio, garddwriaeth a chadwraeth – er mwyn gwella canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol.

Dywedodd Janis Werrett, sydd yn arweinydd cymunedol i’r prosiect: “Rydym wrth ein bodd yn ffurfio partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd ac Accelerate i greu llwybr natur fydd yn helpu i fesur buddion presgripsiynu gwyrdd. Rwy’n gwybod o brofiad personol, wrth i chi feithrin natur, bod natur yn eich meithrin yn ôl. Sefydlodd tri ohonom CVOA yn 2018. Wrth i ni dorri pum mlynedd o dŵf danadl poethion yn ôl a thrwsio ffensys ar draws ein safle, dechreuodd ein llesiant wella. Wrth i’r ardd dyfu, fe wnaethom ni dyfu’n iachach ac yn hapusach gyda hi.”

Dywedodd Les Baillie, arweinydd Prifysgol Caerdydd: “Mae presgripsiynu gwyrdd yn amserol iawn, ond mae

angen mwy o dystiolaeth wyddonol gadarn i helpu cymdeithas i gael dealltwriaeth well o’r buddion y gall ei gyflwyno i fywydau pobl. Rydym yn gweithio gyda meddygon teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion yng Nghwm Cynon i asesu sut mae cysylltu â natur yn hybu iechyd a llesiant. Bydd cofnodi profiadau cleifion a gwirfoddolwyr o adeiladu a rhyngweithio gyda’r llwybr natur yn creu data o’r byd go iawn ar fuddion y math yma o ymagwedd.”

Yn y pen draw, hoffem weld ymagweddau cymunedol tebyg eraill yn blodeuo ar draws y wlad. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect trwy wylio fideo byr y gellir cael mynediad ato trwy’r ddolen ganlynol https://www.youtube.com/watch?v=YDIFgVDA1k I ganfod mwy am y prosiect ewch i wefan Cynon Valley Organic Adventure https://cynonvalleyorganicadventures. co.uk

Neu cysylltwch â Les Baillie yn Bailliel@cardiff.ac.uk

Llyfrau ac Adnoddau

Ffurfio ein cymdogaethau – Hugh Barton

Mae trydydd rhifyn Shaping Neighbourhoods yn cyfuno pob agwedd ar gynllunio gofodol cymdogaethau a threfi tra’n pwysleisio canlyniadau cadarnhaol ar gyfer iechyd pobl a chynaliadwyedd byd-eang

Dyluniad newid system – Cyngor Dylunio

Mae Dyluniad Newid System (Hydref 2021) yn nodi ymarfer sydd yn dod i’r amlwg gan ddylunwyr sydd yn gweithio i greu systemau iechyd, llesiant, cartrefi a chymuned newydd. Mae’r dylunwyr hyn yn dewis yr ymagwedd hon yn hytrach na cheisio gwella systemau presennol. Wedi ei ddylunio dros 18 mis, daeth y Cyngor Dylunio a The Point People â 38 o ddylunwyr oedd yn flaenllaw yn eu hymarfer ynghyd i archwilio sut olwg sydd ar ‘ymarfer nesaf’ dylunio systemig, a sut gall fod angen i’r system ddylunio ei hun newid i ganiatáu mwy o ddylunwyr i weithio fel hyn.

https://www.designcouncil.org.uk/ resources/guide/download-oursystems-shifting-design-report

This article is from: