Arddangosfa Gynaliadwyedd 2018: Adroddiad Crynodeb Gwerthuso

Page 1

Arddangosfa Gynaliadwyedd 2018 Adroddiad Crynodeb Gwerthuso Marie Griffiths Cydlynydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Mai 2018


Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018 Cipolwg ar Sioeau Teithiol • • • • • • •

Bangor Canolfan Iechyd a Lles Cadw’n Iach yng Nghymru Chwarae Cymru Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Chwaraeon Anabledd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Live Labs

• • • • • • • •

Wrecsam Rwy’n Rhedeg Cymru MPower/DO-IT Canolfan Iechyd a Lles Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Cadw’n Iach yng Nghymru ACEs Live Labs Chwarae Cymru

33

23 • • • • • • •

Llandrindod Cyngor Sir Powys Chwarae Cymru Parciau Cenedlaethol Cymru PAVO Cyfoeth Naturiol Cymru Partneriaeth Rhostir Powys Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Cefndir Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llwyfan ar gyfer ymarferwyr, ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisïau o bob sector a lleoliad yng Nghymru. Mae hefyd yn lle ar gyfer dysgu, rhannu ac ymgysylltu â thestunau a materion iechyd y cyhoedd allweddol. Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bodoli ers tair blynedd bellach. Cafodd ei ddatblygu fel cam nesaf yn esblygiad rhwydweithiau iechyd y cyhoedd, gan uno’r pedwar Rhwydwaith oedd yn bodoli yn seiliedig ar destun yn un gwasanaeth hollgynhwysfawr, gan gynnig ‘siop un stop’ ar gyfer ymarferwyr sydd yn gweithio ar destunau iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

21 • • • • • • •

Caerfyrddin Fferm Ofal Gorllewin Cymru Cysylltwyr Cymunedol Cymunedau Tosturiol Down to Earth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe Cyngor Abertawe

21 • • • • • • • •

• • • • • • • •

Y Fenni Sir Fynwy BGC Cyngor Abertawe Ministry of Furniture Beicio Cymru Chwarae Cymru Doeth am Iechyd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Prosiect Iechyd Gwyllt

Caerdydd Bwyd y Fro Morgannwg CC Yr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol a Llesiant Merched Ynghyd #CRYFDERMEWNOL Beicio Cymru Caerdydd a Bro Morgannwg - Ein Berllan Chwarae Cymru Caerdydd a Bro Morgannwg - Symud Ymlaen

Sioe Deithiol Cynaliadwyedd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018 Cafodd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHNC) ei lansio’n swyddogol ym Mai 2015 mewn sawl digwyddiad ar hyd a lled Cymru. Nod y Rhwydwaith yw hyrwyddo cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer gweithwyr proffesiynol â diddordeb ym maes iechyd y cyhoedd. Mae’r Rhwydwaith yn parhau i ymgysylltu â’i aelodau trwy drefnu ‘sioeau teithiol’ ar draws Cymru i hysbysu cynadleddwyr ynghylch datblygiadau pellach a dyheadau’r Rhwydwaith ar gyfer y dyfodol. Mae rhan fawr o’r digwyddiadau hyn yn cynnwys ymgysylltu gan fynychwyr a chael adborth gan y rheiny sy’n bresennol ar agweddau o’r Rhwydwaith yn cynnwys y wefan, yr e-fwletin, digwyddiadau yr hoffent eu gweld gan y Rhwydwaith yn y dyfodol a’r Gronfa Ddata Ymarfer a Rennir. Defnyddir yr adborth o’r digwyddiadau blaenorol bob amser i lywio digwyddiadau yn y dyfodol sydd wedi eu cynllunio gan y Rhwydwaith.

33

37

Eleni, penderfynodd y Rhwydwaith wneud thema’r Sioe Deithiol i ymwneud â chynaliadwyedd a chydweithredwyd â’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Cynhaliwyd chwe digwyddiad ar draws Cymru. Roedd y rhain ym Mangor, Wrecsam, Caerdydd, Llandrindod, Caerfyrddin a’r Fenni. Cynhaliwyd y digwyddiadau o 09:30am – 2:00pm ac roeddent yn agored i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd â diddordeb ym maes iechyd y cyhoedd ac yn dymuno canfod mwy am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.


Trosolwg o’r diwrnod Agorodd y diwrnod gyda sesiwn torri’r garw oedd â thema gynaliadwyedd i annog y cynadleddwyr i siarad a rhwydweithio. Canolbwyntiodd rhan gyntaf y diwrnod ar roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cynadleddwyr, aelodau presennol ac aelodau newydd am y Rhwydwaith a’i swyddogaethau. Rhoddodd Malcolm Ward, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd a Rheolwr y Rhwydwaith drosolwg o’r Rhwydwaith. Cynhyrchwyd fideo byr gan Sarah James, y Cynhyrchydd Cynnwys, i esbonio cefndir y Rhwydwaith ymhellach ac i amlygu swyddogaethau eraill y Rhwydwaith yn cynnwys cynadleddau, seminarau, e-fwletinau a phodlediadau. Gellir gweld y fideo yma

Caerfyrddin • Fferm Ofal Gorllewin Cymru • Cysylltwyr Cymunedol • Cymunedau Tosturiol • Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro • Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe • Down to Earth • Cydlynu Ardaloedd Lleol – Cyngor Abertawe

Y Fenni • Cyfoeth Naturiol Cymru • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy • Cydlynu Ardaloedd Lleol – Cyngor Abertawe • Ministry of Furniture • Beicio Cymru • Chwarae Cymru • Doeth am Iechyd Cymru yn Cwm Taf • Prosiect Iechyd Gwyllt

Roedd rhan fawr o’r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar arddangos prosiectau lleol a’u gwaith a sut maent yn cysylltu â Nodau Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd cyflwyniad cyntaf y dydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Wedi ei gyflwyno gan Cathy Weatherup, Arweinydd Strategol; Richard Lewis, Rheolwr y Rhaglen a Michael Darke, Swyddog Cymorth Prosiect. Roedd y prosiectau’n cael cyfle naill ai i gyflwyno eu gwaith o fewn slot 15-20 munud a / neu i ddarparu stondin arddangos oedd ar gael i’w weld trwy gydol y dydd. Cafwyd ymateb da i’r adran hon a gellir gweld y prosiectau oedd yn arddangos eu gwaith yn y tabl isod. Roedd hyn hefyd yn gyfle i hyrwyddo’r Pecyn Cymorth a’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir ymhellach, a byddwn yn olrhain y prosiectu hyn i weld a ydynt eisiau ychwanegu eu manylion i’r Cyfeiriadur ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Prosiectau oedd yn arddangos eu gwaith Bangor • Cadw’n Iach yng Nghymru • Cyfoeth Naturiol Cymru • ‘Live Labs’ • Chwarae Cymru • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru • Canolfan Iechyd a Lles Conwy • Chwaraeon Anabledd Cymru

Wrecsam • Canolfan Iechyd a Lles Conwy • ‘Live Labs’ • Cadw’n Iach yng Nghymru • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod • Rwy’n Rhedeg Cymru • MPower/DO-IT • Chwarae Cymru • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Caerdydd • Bwyd y Fro – Gwneud Synnwyr o Fwyd y Ffordd Gynaliadwy • Morgannwg CC - Criced ac Iechyd • Yr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol a Llesiant • Merched Ynghyd #CRYFDERMEWNOL • Beicio Cymru • Chwarae Cymru • Ein Berllan • Symud Ymlaen: Teithio Iach i Bawb yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Llandrindod • Cyfoeth Naturiol Cymru • Tuag At 2040 – Cynllun Llesiant Powys • Parciau Cenedlaethol Cymru – Gyda’n Gilydd dros Iechyd a Llesiant • Chwarae Cymru • Partneriaeth Rhostir Powys • Cymdeithas Sefydliadau Gwirfododol Powys (PAVO) • Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Niferoedd a Sefydliadau / Sectorau yn Bresennol Rhoddwyd gwahoddiad i’r Sioe Deithiol i bob aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ôl y disgwyl, Caerdydd oedd y lleoliad mwyaf poblogaidd, sef ardal fwyaf poblog Cymru. Fodd bynnag, roedd y niferoedd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru yn uwch na’r blynyddoedd blaenorol a chyrhaeddwyd yr uchafswm bron, sydd yn welliant enfawr ar ddigwyddiadau yn y gorffennol yn yr ardaloedd hynny. O’i gymharu â 2017, roedd y niferoedd cyffredinol yn sylweddol uwch gyda chyfanswm o 186 yn cofrestru i fynychu o’i gymharu ag 80 ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Gallai hyn fod oherwydd thema’r digwyddiad gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn amserol iawn. O’r 186 a gofrestrodd, mynychodd 168 ar y diwrnod. Lleoliad Nifer a fynychodd Bangor 23 Wrecsam 33 Caerdydd 37 Llandrindod 21 Caerfyrddin 21 Y Fenni 33 Cyfanswm 168 O’r cyfranogwyr hynny, roedd y mwyafrif o’r Trydydd Sector, Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Academia.


Ffurflen Werthuso: Canlyniadau Meintiol

Ffurflen Werthuso: Canlyniadau Ansoddol

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr lenwi ffurflenni adborth gwerthuso ar ddiwedd pob digwyddiad. Cwblhawyd 86 o’r 168 o gynadleddwyr.

Roedd cwestiynau pellach ar y ffurflen werthuso yn edrych am ymateb ansoddol a cheir y manylion isod.

Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn i’r cynadleddwyr a ydynt yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n ddiddorol nodi bod mwy o gynadleddwyr (58) nad oedd yn aelodau o’u cymharu â’r rheiny oedd yn aelodau (28), yn arbennig gan fod y digwyddiadau wedi eu hysbysebu’n bennaf ymysg aelodau’r Rhwydwaith. Fodd bynnag, mae hyn yn dangos bod gwybodaeth sy’n cael ei hanfon at aelodau wedyn yn cael ei throsglwyddo i gydweithwyr a sefydliadau eraill (Ffig. 1).

Beth oedd eich prif ysgogiad dros fynychu’r digwyddiad hwn?

Cafodd y Rhwydwaith 8 aelod newydd yn yr wythnos yn dilyn y seminarau. Roedd digwyddiadau Arddangos Cynaliadwyedd y Rhwydwaith yn gyfle i hyrwyddo’r Rhwydwaith ar draws Cymru, ac mae’r cynnydd mewn aelodaeth wedi dangos bod hyn wedi bod yn llwyddiant.

Bangor • “Mae’r testun yn arbennig o berthnasol i’r gwaith yr wyf yn gysylltiedig ag ef ac roedd yn gyfle da i glywed safbwynt ehangach gan sefydliadau gwahanol, i gysylltu â phobl a thrafod materion cyffredin.”

Y prif reswm y rhoddodd bobl am fynychu’r digwyddiadau oedd; i rwydweithio, i ganfod mwy am Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd; ac i arddangos eu prosiect eu hunain.

Wrecsam • “I ganfod mwy ynghylch sut y gall hyn lywio’r gwaith yr wyf yn ei wneud gyda’r PSB.” • “Cyfle i rwydweithio gyda sefydliadau eraill a nodi prosiectau cydweithredol posibl.” Caerdydd • “Canfod yr hyn y mae sefydliadau eraill yn ei wneud o ran sefydlu’r Ddeddf llesiant a’r 5 ffordd o weithio.” • “Rhannu’r dysgu o’r rhaglen ymyrraeth gweithgaredd corfforol/llesiant ac i gyfarfod â phobl o’r sector iechyd – cyfle i rwydweithio.”

Llandrindod • “Cynyddu dealltwriaeth o gynaliadwyedd a llesiant i weld a oes ffyrdd o ymgysylltu.” • “Dysgu am Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, clywed gan gyflwynwyr sy’n cynrychioli sefydliadau amrywiol a sut y dylent i gyd gysylltu â’i gilydd.” Ffigur 1

Roedd cwestiwn arall yn gofyn i’r cynadleddwyr raddio o un i bump, (gydag un ddim yn ddefnyddiol o gwbl a phump yn ddefnyddiol iawn) pa mor ddefnyddiol oedd y seminar. Fel y gellir gweld, rhoddodd y mwyafrif 4 neu 5 (76) i’r cwestiwn hwn gydag 8 person yn rhoi 3. (Ffig. 2)

Caerfyrddin • “Cysylltu â thîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol!” • “Rheoli cymorth llesiant ac iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc – alla i gymhwyso unrhyw beth a ddysgwyd i’r prosiectau yr wyf yn eu rheoli.” Y Fenni • “Canfod mwy am y ffordd y mae sefydliadau yng Nghymru’n gweithredu’r Ddeddf CD yn eu prosiectau. I rannu arfer da.” • “Cael dealltwriaeth well o’r Rhwydwaith.”

A oedd unrhyw beth o ddiddordeb nodedig? Dywedodd y rhan fwyaf o bobl bod y digwyddiadau yn amrywiol a’u bod wedi mwynhau’r cyflwyniadau am eu bod i gyd yn procio’r meddwl. Soniodd nifer o bobl hefyd eu bod yn awyddus i ganfod mwy am y Rhwydwaith a hefyd y ffordd yr oedd y prosiectau yn ymgorffori cynaliadwyedd yn eu gwaith.

Ffigur 2

• “Roedd y cipolwg a gafwyd ar waith yr hyb cynaliadwyedd, canfyddiadau ymchwil yr Hot House a chysylltiadau BCUHB yn arbennig o ddefnyddiol.” • “Straeon gweithredu Deddf 2015 yn ymarferol.” • Ystod ac amrywiaeth y cyflwyniadau - rhagorol – llawer o faterion trawsbynciol ac arddangos cysylltu asiantaethau / agendâu gwahanol • Rhwydwaith Iechyd y Cyhoedd. Y prosiectau gwahanol sydd yn digwydd ar draws Cymru


Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn? Roedd yr ymateb i’r cwestiwn hwn yn cynnwys rhannu’r wybodaeth a gawsant gyda chydweithwyr a sefydliadau eraill yn bennaf. Dywedodd nifer o bobl hefyd y byddent yn olrhain y cysylltiadau a wnaed ac yn parhau i rwydweithio. • Byddaf yn ymdrechu i ymgorffori rhywfaint o’r hyn a ddysgwyd i waith cwmpasu yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd a chynnal cysylltiadau gyda rhai o’r sefydliadau ar y diwrnod er mwyn archwilio’r ffordd y gallwn helpu ein gilydd i gyflawni rhai nodau llesiant.” • “Llywio gwaith PSB yn y dyfodol.” • “Rhoi adborth i’m sefydliad fy hun a bwydo i mewn i weithredu cynllun llesiant.” • “Ystyried mannau gwyrdd yn fwy wrth gynllunio rhaglenni.” • “Rwyf yn bwriadu dod yn aelod o PHNC a defnyddio chwilotwr gwybodaeth PAVO.” • “Trwy fy swydd fel Cynghorydd Sir / Tref ac yn arbennig fel Ymddiriedolwr/Gwirfoddolwr nifer o grwpiau gwirfoddol cysylltiedig.” • “Rhannu elfennau o gyflwyniad NRW, defnyddio ar gyfer datblygu lleol.”

Pa destunau seminar / cynhadledd yr hoffech eu gweld yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol?

Sylwadau eraill

Cafodd y cynadleddwyr gyfle i roi unrhyw sylwadau eraill oedd ganddynt am y digwyddiad. Roedd y sylwadau i gyd yn gadarnhaol iawn; dim ond un nododd y gallai fod wedi bod yn ddigwyddiad mwy. • • • • • •

“Diolch i chi i gyd am ddiwrnod hyfryd, yn dysgu, gwerthuso a chreu cysylltiadau newydd.” “Da iawn i bawb oedd yn gysylltiedig. Diwrnod Rhagorol.” “Byddai’n dda gweld mwy o fynychwyr / cynulleidfa ehangach.” “Digwyddiad rhagorol. Diddorol iawn.” “Edrych ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i bethau ddatblygu.” “Digwyddiad wedi ei gyflwyno’n dda, siaradwyr amrywiol, cyfnodau o 20 munud yn rhoi digon o fanylion.” • “Gwaith gwych yn cael ei wneud gan lawer.”

Un Gair

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi un gair i grynhoi’r ffordd yr oeddent yn teimlo am y digwyddiad / cwrs. Mae’r geiriau hyn wedi cael eu rhoi i mewn i Wordle (www.wordle.net). Mae Wordle yn creu diagramau geiriau sydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i eiriau sy’n ymddangos yn fwy aml yn y testun. O hyn gallwch weld yn glir mai defnyddiol, llawn gwybodaeth, diddorol a chadarnhaol a nodwyd amlaf.

Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru bob amser yn cynnwys ei aelodau wrth ddewis meysydd testun ar gyfer seminarau a chynadleddau yn y dyfodol. Gwneir hyn fel arfer trwy arolwg ar-lein ond rydym hefyd yn achub ar y cyfle mewn digwyddiadau i’w gynnwys yn y ffurflen werthuso. Cafwyd amrywiaeth o ymatebion i’r cwestiwn eleni ac mae rhai ohonynt wedi eu rhestru isod: • “Agenda Iechyd Gwyrdd” • “Gweld rhai o’r offer cynaliadwyedd a drafodwyd ar waith” • “Mynd i’r Afael â Gordewdra ac Annog Pobl i Symud Mwy” • “Effeithiau Diffyg Cwsg a’r Defnydd o Dechnoleg ar Bobl Ifanc” • “Gwaith y Blynyddoedd Cynnar” • “Sut i Weithio ar Draws Rhanbarthau

Mentimeter Mae Mentimeter yn offeryn cyflwyno hawdd i’w ddefnyddio ar y we. Mae’n llwyfan diogel y gellir ei ddefnyddio gyda chynulleidfaoedd o feintiau gwahanol i wneud cyflwyniadau’n fwy rhyngweithiol. Achubwyd ar y cyfle i ddefnyddio Mentimeter i ryngweithio gyda chynadleddwyr a chanfod eu safbwyntiau. I weld canlyniadau pob lleoliad, cliciwch y dolenni isod. Wrecsam

Caerdydd

Y Fenni

Caerfyrddin

Llandrindod

Mae ‘Moments’ Sioe Deithiol Twitter ar gael hefyd trwy’r ddolen ganlynol: https://twitter.com/i/moments/1017769440488972288


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.