Rhif Mater 9
Croeso i e-fwletin Croeso i e-fwletin mis Hydref Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y mis hwn mae’r e-fwletin yn canolbwyntio ar Iechyd Cyn-filwyr wrth baratoi ar gyfer Sul y Cofio ar 13 Tachwedd 2016. Mae’n ddiwrnod i’r genedl gofio ac anrhydeddu’r rhai a aberthodd eu bywydau i ddiogelu ac amddiffyn ein rhyddid. Mae’r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol, a gaiff ei gynnal ger y senotaff yn Whitehall ar Sul y Cofio, yn sicrhau na chaiff neb ei anghofio wrth i’r genedl uno i anrhydeddu pawb a ddioddefodd neu a fu farw mewn rhyfel. Mae Phill Chick, sy’n aelod o’r Grŵp Cynghori, yn sôn am ei feysydd arbenigol a’r gwasanaethau sydd ar gael i gyn-filwyr ar hyd a lled Cymru. Ein seminar nesaf ar 30 Tachwedd fydd ‘Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant’. Caiff ei chynnal yng ngwesty Mercure, Holland House, Caerdydd. Cynhelir digwyddiad Ymchwil yng Nghymru ar 2 Mawrth 2017 yn yr Atriwm yng Nghaerdydd. Mae cynhadledd ar y gweill ar gyfer 15 Mawrth 2017, yn canolbwyntio ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Caiff hon ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau yr hoffech i ni eu cynnwys yn yr e-fwletin nesaf, anfonwch e-bost atom yn publichealth.network@wales.nhs.uk
www.publichealthnetwork.cymru @PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
Iechyd ar y F
Ffrynt Cartref Iechyd Cyn-filwyr
Y mis hwn mae’r e-fwletin yn canolbwyntio ar Iechyd Cyn-filwyr. Mae effaith niweidiol posibl gwasanaeth milwrol ar iechyd a llesiant wedi cael ei gydnabod ers amser maith, gyda chyn-filwyr yn sôn llawer am symptomau corfforol a seicolegol. Mae pryderon ynghylch diffygion iechyd a llesiant ymysg cyn-filwyr wedi cael cryn sylw yn ddiweddar oherwydd y galw presennol ar bobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog. http://www.veteranswales.co.uk/
Dathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn Tynnodd Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sylw at gyfraniad gwerthfawr eu staff yn y Lluoedd Wrth Gefn ar Ddiwrnod y Lluoedd Wrth Gefn eleni (Dydd Iau 8 Medi). Mae’r Lluoedd Wrth Gefn yn chwarae rhan ganolog ochr yn ochr â’r unedau rheolaidd o ran diwallu gofynion amddiffyn, gan roi cymorth mewn adrannau arbenigol megis y meysydd meddygol a chyfathrebu. Mae’r Unedau Wrth Gefn yn hyfforddi ochr yn ochr â’r unedau rheolaidd ac yn cydweithio ochr yn ochr â hwy pan fydd angen. Mae Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yn gyfle i gydnabod a dathlu’r rhan bwysig y mae’r Lluoedd Wrth Gefn yn ei chwarae o ran cefnogi gallu amddiffynnol y DU. Mae’r Lluoedd Wrth Gefn wedi chwarae rhan allweddol - a byddant yn parhau i chwarae rhan allweddol - yn y Lluoedd Arfog, gan wneud cyfraniad gwerthfawr i’r genedl y tu hwnt i’w swyddi arferol dydd i ddydd. Bydd staff sydd yn y Lluoedd Wrth Gefn yn gwisgo eu lifrau i’r gwaith ar 8 Medi i ddangos balchder yn eu gwasanaeth. Mae llawer o aelodau o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, fel Paddy Keogh, yn aelodau o’r Lluoedd Wrth Gefn. Gweinyddydd Systemau TG yw Paddy, yn Adran Famolaeth Ysbyty Athrofaol Cymru, a’i brif swydd yw gofalu am systemau TG yr uned famolaeth. Wrth ei waith bob dydd, mae’n gweithio ar brosiect yn gosod system gyfrifiadurol yn lle’r nodiadau papur a gaiff eu defnyddio ar hyn o bryd. Fel Aelod o’r Lluoedd Wrth Gefn, mae Paddy yn Swyddog Gwarant i’r Uned Signalau Brenhinol, Sgwadron Signalau 53 (Cymru a’r Gorllewin), yr unig Sgwadron Signalau Cymreig yn y DU. Mae wedi gwasanaethu am dymor yng Ngogledd Iwerddon ac yn Bosnia, ac oddi cartref am 12 mis ar y tro. Dywedodd Paddy: “Prif rôl Sgwadron Signalau 53 yw darparu systemau gwybodaeth a chyfathrebu arloesol ar gyfer y Lluoedd Arfog, y Gwasanaethau Brys ac Adrannau eraill y Llywodraeth. “Rydyn ni wedi cynorthwyo gyda’r Gemau Olympaidd, yn ystod Uwchgynhadledd NATO, mewn tywydd garw fel llifogydd, ac unrhyw adeg pan fydd argyfwng cenedlaethol, bydd yr uned yn ymgymryd â’r cyfathrebu. “Rwyf wrth fy modd yn y Lluoedd Wrth Gefn. Mae’r Fyddin yn helpu i dalu am gymwysterau sy’n rhoi gwybodaeth i chi yn y maes yn ogystal â phrofiad y gallwch ei ddefnyddio yn eich gwaith bob dydd. Rwyf wedi bod yn y fyddin ers pan oeddwn yn 16 oed, felly rwyf wedi gwneud cyfanswm o 31 mlynedd o wasanaeth. “Mae cymaint o adegau cofiadwy, yn rhai hapus a thrist. “Mae bod yn rhan o dymor ar ddyletswydd wedi bod yn wych, ac mae ysbryd tîm a’r cyfeillgarwch yn rhywbeth arbennig ond law yn llaw â’r amseroedd da, daw amseroedd trist. Collais ffrind da yn Afghanistan, pan gafodd ei saethu; a bydd hyn yn aros gyda mi am byth gan fy atgoffa o reality bod yn rhan o’r Fyddin.” Dywedodd Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd ac Arweinydd Gweithredol y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Hoffwn ddiolch i’r staff sy’n aelodau o’r Lluoedd Wrth Gefn am y cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud at ein System Amddiffyn Genedlaethol. “Hoffwn annog mwy o’n staff i ymuno â’r Lluoedd Wrth Gefn gan ei fod yn gyfle i chi fwynhau profiadau newydd a chyffrous y tu hwnt i’ch bywyd a’ch gwaith bob dydd. “Mae pob math o swyddi gwahanol a chyffrous yn y Lluoedd Wrth Gefn, a fydd yn eich herio ac yn rhoi boddhad i chi. “Gall staff ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddynt neu wneud rhywbeth sy’n hollol wahanol i’w bywyd neu eu gwaith bob dydd.” I gael rhagor o wybodaeth am ymaelodi â’r Lluoedd Wrth Gefn, ewch i www.army.mod.uk http:// www.royalnavy.mod.uk/mr neu https://www.raf.mod.uk/recruitment/
Veterans’ NHS Wales Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) wedi penodi clinigydd profiadol yn Therapydd Cyn-filwyr (VT) sydd â diddordeb neu brofiad o broblemau iechyd (meddwl) milwrol. Bydd y Therapydd yn derbyn atgyfeiriadau gan staff gofal iechyd, meddygon teulu, elusennau cyn-filwyr a hunan-atgyfeiriad gan gyn-filwyr. Gellir cysylltu â’r Therapydd priodol drwy fynd i dudalen eu BILl ar y wefan hon a defnyddio un o’r dulliau cysylltu, gan gynnwys ffôn, e-bost neu ffacs. Caiff apwyntiadau eu trefnu mor agos â phosibl at gartref y cyn-filwr, mewn lleoliad addas. Ni all y gwasanaeth ymateb i atgyfeiriadau brys. Dylai cyn-filwyr mewn argyfwng gysylltu â’u meddygon teulu neu’r Gwasanaeth y tu allan i oriau. Mae Seiciatrydd ar-alwad ym mhob Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys mewn Ysbytai Cyffredinol Dosbarth. Fel arall, gellir cysylltu â’r llinellau cymorth hyn 24/7: CALL - 0800 132 737, neu Rethink - 0800 138 1619. Yn dilyn asesiad, gallai’r cyn-filwr gael cynnig triniaeth gan y Therapydd neu ei atgyfeirio i dimau neu adrannau eraill y GIG i gael triniaeth bellach. Bydd y Therapydd hefyd yn atgyfeirio i elusennau cyn-filwyr am gymorth yn ymwneud â rheoli dyledion, hawliadau budd-daliadau a phensiwn rhyfel/iawndal y lluoedd arfog fel y nodir. Ni all y gwasanaeth ddarparu diagnosis ar gyfer hawliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog. Mae Veterans’ NHS Wales newydd gwblhau Adroddiad Blynyddol 2014-15 ac wrthi’n dadansoddi’r data ar gyfer 2015-16
Garddio i Gyn-filwyr gan Change Mae Change Step yn darparu cymorth, gweithgareddau, brawdoliaeth a chyfeillgarwch i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Mae mentoriaid sy’n gymheiriaid yn gweithredu ledled Cymru, wedi’u cefnogi gan wirfoddolwyr a gweinyddwyr ymroddedig. Caiff Garddio i Gyn-filwyr gan Change Step ei ariannu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac mae’n darparu cyfle cynhyrchiol a chymdeithasol sy’n galluogi’r cyfranwyr i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau ffurfiol a chyfrannu at gymunedau ledled Cymru. Gall aelodau o’r cyhoedd enwebu cyn-filwyr sydd angen cymorth gyda’u gerddi – a bydd ein tîm o wirfoddolwyr yn gwneud y gwaith yn gyfnewid am rodd i’n prosiect. Rydym hefyd yn gweithio mewn mannau agored, gan gynnwys parciau cyhoeddus, lawntiau pentrefi a gerddi ysbytai. Diddordeb? Cysylltwch â ni i roi gwybod am gyn-filwyr a fyddai’n elwa o’n gwaith, neu ardal gyhoeddus sydd angen ychydig o sylw. Byddwn yn hapus i ymweld, cyflwyno gwaith Change Step, a thrawsnewid rhywle sydd wedi tyfu’n wyllt yn ardd drefnus y gellir ei mwynhau. Gallwch ein helpu mewn llawer o ffyrdd – cysylltwch â ni ar 0300 777 2259 neu anfonwch e-bost at ask@change-step.co.uk I gael rhagor o wybodaeth http://www.changestepwales.co.uk/veterans-gardening/
Poppies Weeping Window gan Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn cyflwyno Weeping Window gan yr arlunydd Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper fel rhan o daith 14-18 NOW o’r pabïau eiconig ar hyd a lled y DU. Bydd y gosodiad i’w weld yn y Senedd rhwng 5 Awst a 25 Medi 2017. Bydd y cyflwyniadau gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelf y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gyfle i bobl ledled y DU brofi effaith y cerfluniau pabi ceramig mewn amrywiaeth o leoliadau yn adlais o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymrwymo i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf gyda chyfres o ddigwyddiadau ar ei ystâd, a ledled Cymru. Bydd y gosodiad hwn yn rhan o’r rhaglen honno. Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae’n anrhydedd mawr i’r Senedd, ac i’r Cynulliad Cenedlaethol, i gynnig cartref i’r gosodiad eiconig hwn. “Y Senedd yw canolbwynt bywyd dinesig a gwleidyddol Cymru ac mae’n addas ein bod yn nodi’r aberth a wnaeth cymaint o ddynion o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf drwy arddangos y darn ingol hwn o waith. “Mae’r gosodiad wedi chwarae rhan ganolog ledled y DU wrth goffau’r gwrthdaro creulon hwn. Rhaid i ni beidio byth ag anghofio’r difrod dychrynllyd a wnaeth i gymaint o bobl ledled Cymru a’r byd.” Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW: “Mae’r pabïau wedi hudo miliynau o bobl ledled y DU, ac rydym yn falch o gyflwyno’r Weeping Window yn y Senedd yng Nghaerdydd yn 2017 fel rhan o barhad y daith. Mae’r arlunydd Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper wedi creu dau ddarn o waith celf eithriadol o bwerus sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ac sy’n parhau i ysbrydoli pawb sy’n eu gweld.” Daw Weeping Window o’r gosodiad Blood Swept Lands and Seas of Red - pabïau a chysyniad gwreiddiol gan yr arlunydd Paul Cummins a’r gosodiad wedi’i ddylunio gan Tom Piper - gan Paul Cummins Ceramics Limited mewn cydweithrediad â Historic Royal Palaces. Rhoddwyd y gosodiad gwreiddiol yn Nhŵr Llundain Ei Mawrhydi rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014, lle yr arddangoswyd 888,246 o babïau, i anrhydeddu pob un o’r marwolaethau yn lluoedd Prydain a’r Trefedigaethau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ddau gerflun o babïau a gaiff eu cyflwyno ledled y DU, sy’n cynnwys dros 10,000 o babïau, wedi cael eu cadw ar gyfer y genedl gan y Backstage Trust a Sefydliad Clore Duffield, ac wedi’u rhoi yn rhodd i 14-18 NOW a’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol. Cafwyd cymorth ariannol i’r cyflwyniadau gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae gwaith codi arian ar gyfer y cyflwyniadau yn parhau. DAF Trucks yw’r noddwyr cludiant ar gyfer y cyflwyniadau yn y DU, ac mae 14-18 NOW yn falch o’r bartneriaeth â DAF i wireddu’r prosiect hanesyddol hwn. Caiff y rhaglen ddysgu ac ymgysylltu ar gyfer taith y pabïau ei chefnogi gan Sefydliad Foyle.
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Cyn-filwyr lluoedd arfog y DU sy’n byw ym Mhrydain Cyhoeddiad blynyddol yw hwn, sy’n rhoi amcangyfrif o faint a nodweddion cymdeithasol-ddemograffig poblogaeth cyn-filwyr y DU sy’n byw mewn cartrefi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio ymatebion a ddarparwyd yn yr arolwg blynyddol o’r boblogaeth yn 2015 a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Caiff ffigurau cryno a chymariaethau, i boblogaeth y DU sy’n byw ym Mhrydain, eu cyflwyno ar: nodweddion pobl; lleoliad rhanbarthol; iechyd; statws cyflogaeth; addysg a llety.
Cyflogwyr sy’n cefnogi’r Lluoedd Arfog yn ennill gwobr Aur gyda’r Tywysog William Prince William, the Duke of Cambridge, has presented twenty-two companies with the Ministry of Mae Tywysog William, Dug Caergrawnt, wedi cyflwyno’r gydnabyddiaeth uchaf gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i 22 o gwmnïau am gymorth cyflogwyr i’r Lluoedd Arfog. Cafodd Seremoni Wobrwyo’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr ei chynnal nos Fercher gyda Michael Fallon, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, yn Ysbyty Brenhinol Chelsea - cartref ymddeoliad ar gyfer cannoedd o gyn-filwyr. Diolchodd Dug Caergrawnt i’r 22 o gwmnïau am eu gwaith yn y maes drwy roi gwobr aur iddynt. Roedd yr enillwyr yn cynnwys cwmnïau o amrywiaeth eang o sectorau, yn amrywio o gwmnïau corfforaethol mawr i fusnesau bach a chanolig eu maint. Bwriad y cynllun yw cydnabod cyflogwyr sy’n cefnogi cymuned y lluoedd arfog a’u teuluoedd a diolch iddynt am y gefnogaeth honno, gan ysbrydoli eraill i’w dilyn. Dywedodd Michael Fallon, yr Ysgrifennydd Amddiffyn: Mae cyflogwyr ledled y wlad yn sicrhau bod ein lluoedd milwrol yn cael cefnogaeth deg, gan gynnwys helpu cyn-filwyr i gael gyrfaoedd llwyddiannus ar ôl gadael y lluoedd. Mae’n iawn i’r cwmnïau hyn gael eu cydnabod am y cymorth y maent yn ei gynnig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog ac annog cwmnïau eraill i gymryd y cam ychwanegol hwnnw. Mae’r cwmni peirianneg, AECOM, un o enillwyr y wobr aur, wedi dyblu nifer y Lluoedd Wrth Gefn y mae’n eu cyflogi yn ystod y 12 mis diwethaf, drwy gyflogi o’r newydd, a bod ei weithwyr ei hun yn ymuno. Mae’n caniatáu 15 diwrnod o wyliau yn ychwanegol iddynt, yn ogystal â Hyfforddwyr Cadetiaid. Ar ben hynny, mae wedi buddsoddi mewn gwasanaeth penodol i recriwtio’r rhai sy’n gadael y gwasanaeth, sydd wedi cynyddu nifer y cyn-filwyr y mae’n eu cyflogi o 40 i 70 ar draws pob rheng a gwasanaeth. Dywedodd Steve Morris, Prif Weithredwr AECOM a chyn-swyddog: “Fel cyn-swyddog fy hun, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun yr amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y gall ein Lluoedd Arfog eu cyflwyno i gwmni fel AECOM. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i recriwtio dynion a menywod sy’n ystyried gadael y lluoedd milwrol a rhoi ail yrfa foddhaol iddynt. Mae DJ Rees yn gwmni addurno bach o 21 o staff wedi’i leoli yn ne Cymru, ac wedi gweithio gyda Lluoedd Wrth Gefn ers nifer o flynyddoedd. Mae’r cwmni’n recriwtio prentisiaid i’w dîm drwy gynllun Llwybr Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog yn unig, gan helpu i wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc, ddi-waith. Gwyliwch fideo yn adrodd hanes Paul Matthews, un o weithwyr DJ Rees. Roedd Paul yn ddigartref nes i DJ Rees roi gwaith a hyfforddiant iddo, gan roi’r sgiliau trosglwyddadwy yr oedd eu hangen i wireddu ei freuddwyd o ymuno â’r fyddin. Wrth groesawu’r wobr, dywedodd, Mr David Rees, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Roeddem yn hapus iawn o gael ein henwebu ar gyfer Gwobr Aur, heb sôn am ennill un. Mae mor bwysig, ac rwyf mor hapus. Rydym yn masnachu ers 25 mlynedd ac rwy’n siŵr mai ennill y wobr hon yw un o’r pethau rwyf fwyaf balch ohonynt fel busnes. “Fel cyflogwr, rwy’n credu mewn cefnogi’r Lluoedd Arfog. Mae’n bwysig bod yn hyblyg a chydymdeimladol gyda fy staff sydd mor ymroddedig i’w gwasanaeth. Mae hyn yn flaenoriaeth i mi, a bydd yn parhau felly yn y dyfodol. Y rhestr lawn o gyflogwyr a gafodd eu cydnabod am eu cefnogaeth ragorol i’r gweithwyr Amddiffyn yw: AECOM, Atos UK Ltd, Bank of America Merrill Lynch, Boeing Defence UK Ltd, Bureau Veritas, DJ Rees Decorating Services Limited, Doncaster Council, Dundee City Council, Hampshire County Council, HSBC, Kier Group, KPMG, Nationwide Building Society, Nottinghamshire Healthcare NHS Foundation Trust, Pertemps, QinetiQ, Holt’s Military Bank/NatWest/Royal Bank of Scotland, Scottish Ambulance Service, Surrey County Council, TA Plastic Supplies Ltd, United Utilities a Waves Training Solutions Ltd.
Cael Ei Holi Mae ‘Yn y Fan a’r Lle’ y mis yma gyda Phill Chick, aelod o Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae cefndir Phill ym maes gwaith cymdeithasol, ond ag arbenigedd penodol ym maes polisi a deddfwriaeth iechyd meddwl.
Beth yw eich maes arbenigedd?
Mae gennyf gefndir ym maes gwaith cymdeithasol, ar ôl gweithio fel ymarferydd arbenigol a rheolwr gofal plant, amddiffyn plant ac iechyd meddwl. Rwyf hefyd wedi gweithio yn y maes iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau fel comisiynydd gwasanaethau, cynllunydd, strategydd a rheolwr perfformiad. Mae gennyf arbenigedd penodol ym maes polisi a deddfwriaeth iechyd meddwl ar ôl bod yn gysylltiedig â maes gweithredu polisi a deddfwriaeth
Pam y gwnaethoch chi ymuno â Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru? Fe wnes i ymuno â’r Rhwydwaith am fy mod yn teimlo’n angerddol dros iechyd meddwl cyhoeddus a gwella llesiant ar lefel poblogaeth drwy integreiddio iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol.
Beth ydych chi’n ei weld fydd yr heriau i’r Grŵp Cynghori?
Yr heriau mwyaf i’r Grŵp Cynghori yw gwella cyrhaeddiad o fewn y cyhoedd yn ehangach a’r asiantaethau amrywiol a all ddylanwadu ar lesiant. Mae hyn yn cynnwys staff sy’n gweithio mewn amrywiaeth o wasanaethau statudol ac anstatudol, a chyflogwyr, y cyfryngau, cymunedau ffydd a grwpiau cymunedol eraill. Mae system gyhoeddus a gwasanaethau hyddysg sydd wedi ymrwymo i wella llesiant yn hanfodol ond yn parhau i fod yn her o ran ei chyflawni.
Y mis hwn mae’r e-fwletin yn canolbwyntio ar Iechyd Cyn-filwyr, pa wasanaethau sydd ar gael yng Nghymru a phwy sy’n gymwys i’w cael?
Mae Cymru yn ffodus bod ganddi’r gwasanaeth Veterans NHS Wales, sy’n darparu triniaeth ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, wedi’i ddarparu gan Therapyddion arbenigol i Gyn-filwyr. Mae canolfan yng Nghaerdydd sy’n cydgysylltu darpariaeth ac yn ymgysylltu ar lefel genedlaethol ar faterion yn ymwneud ag iechyd cyn-filwyr. Gwasanaeth gofal sylfaenol ydyw, sy’n caniatáu i gynfilwyr atgyfeirio eu hunain, ac i deuluoedd a ffrindiau atgyfeirio cyn-filwyr, yn ogystal â’r asiantaethau amrywiol a gaiff eu defnyddio gan gyn-filwyr ac sy’n gweithio gyda chyn-filwyr. Mae Veterans NHS Wales yn agored i unrhyw gyn-filwyr sy’n byw yng Nghymru sydd wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod gyda gwasanaeth milwrol Prydain, naill ai fel aelod rheolaidd neu fel aelod wrth gefn sydd â niwed seicolegol sy’n gysylltiedig â gwasanaethu. Yn ogystal â’r gwasanaeth hwn gan y GIG, mae nifer sylweddol o wasanaethau arbenigol megis Cais (Change step), Combat stress, Help for Heroes a gwasanaethau eraill y trydydd sector sy’n diwallu’r amrywiaeth o anghenion iechyd meddwl, iechyd corfforol, cyflogaeth ac anghenion cymdeithasol cyn-filwyr. Mae asiantaethau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cymdeithas Milwyr, Morwyr, Awyrwyr a Theuluoedd yn darparu ffynonellau cymorth pellach.
Er bod amrywiaeth o asiantaethau arbenigol a chyffredinol ar gyfer cyn-filwyr, mae ein gwasanaethau craidd yn ymdrechu, drwy gyfamod y Lluoedd Arfog, i sicrhau mynediad teg at ofal cymdeithasol iechyd prif ffrwd a gwasanaethau perthnasol eraill. I gael crynodeb lawnach o’r gwasanaethau i gyn-filwyr, ewch i cobseo.org.uk, sef gwefan y DU ar gyfer Cydffederasiwn Elusennau Gwasanaethau.
Pa awgrymiadau y buasech yn eu rhoi i’n haelodau er mwyn gweithredu i hyrwyddo iechyd cyn-filwyr?
Buaswn i’n argymell bod aelodau yn ymgyfarwyddo â’r amrywiaeth o faterion a allai wynebu’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’r anghenion y gallai fod ganddynt o ran ennill a chynnal iechyd a llesiant cadarnhaol. Buaswn hefyd yn argymell eu bod yn deall y “diwylliant gwasanaethu”. Mae defnyddio iaith a dulliau priodol yn helpu i alluogi cyn-filwyr i ymgysylltu, ynghyd â’r sefydliadau y maent yn eu defnyddio ac sy’n eu cynrychioli. Gall gweithio â sefydliadau a sefydlwyd ar gyfer cyn-filwyr, megis grwpiau cyn-filwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol a gwasanaethau arbenigol helpu i wella’r cyrhaeddiad. Yn olaf, wrth i aelodau ddatblygu a hyrwyddo rhaglenni, i gadw cyn-filwyr a’u teuluoedd mewn cof fel rhanddeiliaid a chynulleidfa darged. Yn benodol, dylai aelodau ymgyfarwyddo â chyfamod y cyn-filwyr a chefnogwr penodedig y cyn-filwyr ym mhob Awdurdod Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a sectorau eraill.
Pe baech yn cael tri dymuniad, beth fyddai’r tri dymuniad hynny?
Gallu canu’r gitâr, Gweld iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn gyfartal ac yn hollol integredig yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Gweld ymdrech wedi ei thargedu ac ymdrech bendant gan bob asiantaeth angenrheidiol i leihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn sylweddol.
Beth yw eich diddordebau personol?
Mae gennyf nifer o ddiddordebau personol, a’r rhai pennaf yw gwylio cerddoriaeth fyw a chwaraeon.
The Grapevine Mae’r rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglŷn â gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiadau! Os ydych chi’n dymuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at Sarah.James10@wales.nhs. uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Ar gyfer Cymru Hapusach, Iachach, Decach a Chynaliadwy. “Datblygiad cynaliadwy yw datblygiad sy’n ateb anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ateb eu hanghenion eu hunain...” Adroddiad Brundtland. Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw gwella ein llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Rhaid i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, gydweithio’n well â phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, meddwl mwy am yr hirdymor, ceisio atal problemau a chymryd dull mwy cydgysylltiedig. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru yr ydym i gyd yn dymuno byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Y Ddeddf yw’r ddeddfwriaeth gyntaf yn y byd i gysylltu â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig drwy osod saith nod i Gymru er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth.
Mae’r Ddeddf hefyd yn creu ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ sy’n golygu bod yn rhaid i Iechyd Cyhoeddus Cymru feddwl am genedlaethau’r dyfodol pan fyddwn yn cynllunio ac yn cynnal ein gwaith. Ceir pum ‘ffordd o weithio’ y bydd angen i Iechyd Cyhoeddus Cymru feddwl amdanynt i ddangos bod y sefydliad wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy hon: hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys
Gyda’r Ddeddf bellach yn “fyw”, mae gan y ‘Ganolfan Iechyd a Chynaliadwy’ yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sawl rôl gynorthwyol wrth sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer iechyd cyhoeddus o’r ddeddfwriaeth arloesol hon. Mae rhaglen waith y Ganolfan yn cynnwys cynorthwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru i fodloni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf a dod yn hyrwyddwr dros y Ddeddf; cynorthwyo’r gymuned iechyd cyhoeddus yn ei rôl ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella’r potensial i wella iechyd a llesiant mewn ardaloedd lleol; a gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau rhanddeiliaid traws-sector i gryfhau effaith y Ddeddf ar iechyd a llesiant, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol. Cysylltwch â ni: • •
Os ydych am gofrestru ar gyfer ein e-fwletin Os hoffech wybod mwy am y Ddeddf neu waith y Ganolfan
Yr erthygl newyddion hon yw’r gyntaf mewn cyfres i gysylltu â’n dinasyddion a’n rhanddeiliaid mewn datblygu cynaliadwy a darparu cymorth i gyflawni llesiant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rhowch wybod i ni os oes pynciau yr hoffech eu gweld yn cael eu trafod neu os oes gennych syniadau am sut y gallwn weithio gyda chi i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan y Ddeddf. I gael gwybod mwy Yn y cyfamser, i gael gwybod rhagor am y Ddeddf argymhellwn y canllaw ‘Yr hanfodion’ ac animeiddiad ‘Bywyd Megan’ Canllaw ‘Yr Hanfodion’ http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/ 150623-guide-to-the-fg-act-en.pdf Fideo ‘Bywyd Megan’ http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/future-generations-act-video/?skip=1&lang=cy Gallwch hefyd ymweld â’n tudalen ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/topics/policy/well-being-of-future-generations-walesact-2015/ Cysylltwch â ni Gellir cysylltu â ni drwy: publichealth.sustainability@wales.nhs.uk
Newyddion Round-Up Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion. Cliciwch ar benawdau’r eitem newyddion i fynd i’r stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Camddefnyddio sylweddau Lansio rhaglen i helpu pobl oedd yn arfer camddefnyddio sylweddau neu â chyflyrau iechyd meddwl i gael gwaith Lansio rhaglen i helpu pobl oedd yn arfer camddefnyddio sylweddau neu â chyflyrau iechyd meddwl i gael gwaith
Gweithgarwch Corfforol Cyfres gyflawn gyntaf o fapiau’r DU Mae Sustrans wedi cwblhau’r gyfres gyntaf o fapiau cyfres i gynnwys y DU gyfan. Mae’r pedwar map olaf mewn cyfres o 56 o ganllawiau poced wedi cael eu cyhoeddi.
COPD Mae adroddiad newydd Coleg Brenhinol y Meddygon yn tynnu sylw at yr anghysondebau o ran diagnosis a rheoli COPD yng Nghymru Mae COPD yn cael effaith enfawr ar gleifion unigol, eu gofalwyr, ac ar y GIG.
Gweithwyr iechyd proffesiynol Dewis Doeth Cymru Cafodd Dewis Doeth Cymru ei lansio gan Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru.
Mental Health Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni: 2016-19 Cafodd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ei chyhoeddi yn 2012. Mae’n strategaeth 10 mlynedd ar gyfer gwella iechyd meddwl a lles a gwella gofal a thriniaeth i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Cliciwch Yma am fwy o newyddion ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Tachwedd
12 14 15
Cymdeithas Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymru (WASCH): Symposiwm yr Hydref Future Inn, Bae Caerdydd Pam mae gwaith da yn bwysig: rôl gwaith o ansawdd da yn lleihau anghydraddoldebau iechyd Dulyn Hybu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer rhieni sy’n mabwysiadu a phlant Prifysgol Sussex
17 22
23 24 30
Blaenoriaethau ar gyfer polisi chwaraeon yng Nghymru – cyllid, cyfleusterau a chyfranogiad Caerdydd Asesu’r Effaith ar Iechyd: Iechyd a Thai Caerdydd
Gweithio gyda Thadau Y Rhyl Iechyd y Cyhoedd: Ataliaeth ar Waith Canolfan Gynadledda Manceinion
Planning for Better Health and Wellbeing Mercure Cardiff Holland House Hotel and Spa
Click Here for more events on the Public Health Network Cymru website
cysylltu â ni Publichealth.network@wales.nhs.uk Capital Quarter 2 Floor 5 Tyndall Street Cardiff CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk – y dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhufyn Mis: HIV a AIDS