NEWYDDION Newyddion Cyngor Gwynedd
www.gwynedd.llyw.cymru
Hydref 2016
01766 771000
Rhifyn 49
@cyngorgwynedd cyngorgwyneddcouncil
Yr Ysgol Hafod Lon newydd - byd cyffrous o ddysgu a hwyl
Yn y rhifyn hwn…
l Newid yn eich gwasanaeth
gwastraff gardd - Tudalen 07
l Ffordd newydd o ofalu Tudalen 08-09 l Bydd plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd yn cael manteisio i’r eithaf ar eu hysgol newydd sbon £13 miliwn yr hydref yma
Yr hydref yma, bydd yr Ysgol Hafod Lon newydd ym Mhenrhyndeudraeth, sy’n cymryd lle’r ysgol boblogaidd yn Y Ffôr sydd wedi gwasanaethu cenedlaethau o blant Gwynedd ers 1974, yn agor ei drysau. Dros y misoedd nesaf, bydd gan blant Ysgol Hafod Lon fyd newydd lliwgar a chyffrous o leoedd chwarae dan do ac yn yr awyr agored, ystafelloedd dosbarth lliwgar, pwll
hydrotherapi, ystafelloedd therapi ac offer synhwyraidd i’w profi. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, mae ymateb y disgyblion i’r cyfleuster newydd wedi bod yn llawn brwdfrydedd: “Mae’n llawer mwy na’r hen ysgol - mae’n grêt,” meddai Elain sy’n 13 oed. “Mae llawer o wahanol liwiau yn yr ysgol newydd. Roedd yr hen ysgol i gyd yr un lliw.”
Trowch i dudalennau 4 a 5 i wybod mwy am raglen fuddsoddi Cyngor Gwynedd i sicrhau’r cyfleusterau addysgol gorau bosib i’n plant ac i ddysgu sut y gallwch helpu dylanwadu ar addysg yn y sir am y degawdau i ddod.
Ewch ar-lein am y newyddion diweddaraf o Hafod Lon Newydd Mae miloedd o bobl leol bellach yn derbyn yr holl newyddion diweddaraf am wasanaethau lleol a chlipiau fideo o brosiectau fel Ysgol Hafod Lon newydd trwy ddilyn y Cyngor ar Twitter a Facebook. Ymunwch â nhw trwy “hoffi” tudalen Facebook CyngorGwyneddCouncil, dilyn ffrwd Twitter @CyngorGwynedd neu sianel YouTube www.youtube.com/CyngorGwynedd
Cyflawni Her Gwynedd Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud cynnydd cadarn wrth fynd i’r afael â’r her ariannol sy’n ei wynebu, gan weithio tuag at gyflawni’r £10.5 miliwn o arbedion effeithlonrwydd a’r £4.94 miliwn o doriadau i wasanaethau y bydd angen eu gweithredu rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2018. Ond mae ansicrwydd cynyddol dros ddyfodol cyllid gan y llywodraeth ar gyfer gwasanaethau lleol - yn enwedig yn dilyn canlyniad y refferendwm ‘Brexit’ - yn
golygu na ellir llaesu dwylo os am barhau i warchod gwasanaethau hanfodol a chyflawni dyletswydd gyfreithiol i osod cyllideb gytbwys. Dyma’r neges gan Aelod Cabinet Cyllid a Phrif Weithredwr y Cyngor wrth iddyn nhw ddiweddaru darllenwyr Newyddion Gwynedd ar y sefyllfa. Mae hyn flwyddyn ers i bobl leol leisio eu barn ar doriadau posib i wasanaethau yn ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus ‘Her Gwynedd’ - ac wyth mis Am fwy o wybodaeth trowch i dudalen 6
Her Gwynedd
l Paratoi ar gyfer tywydd garw -
tudalennau canol
Mae geirfa Gymraeg iʼw gweld ar www.gwynedd. llyw.cymru/newyddion Os ydych yn darllen Newyddion arlein ceir cyfieithiad cyflym o eiriau allweddol (sydd wedi eu lliwio mewn melyn) drwy glicio ar y gair ei hun. Os hoffech dderbyn Newyddion Gwynedd ar mp3 neu mewn iaith neu fformat arall, ffoniwch 01766 771000.
ers i gynghorwyr gymeradwyo strategaeth ariannol a rhaglen doriadau dros ddwy flynedd sy’n seiliedig ar yr hyn a ddywedodd pobl leol.
Mae Newyddion wedi ei gynhyrchu ar bapur wedi ei ailgylchu. Wedi i chi ei ddarllen, cofiwch ei roi yn eich bocs glas ailgylchu.
Hydref 2016
Neges gan yr Arweinydd Daeth yr argyfwng ffoaduriaid yn fyw i ni gyd wrth syllu ar y lluniau papur newydd o gorff marw bachgen bach tair oed o Syria ar draeth yn Nhwrci dros flwyddyn yn ôl. Boddodd Alan Kurdi ym Mor y Canoldir wrth iddo ef a’i deulu geisio dianc o ryfel. Trôdd y gobaith o gyrraedd hafan cyfandir Ewrop yn hunllef. Ac mae’r hunllef yn aros i filiynau wrth i ryfeloedd barhau mewn amryw o wledydd. Mae dros 65 miliwn o bobl bellach yn cael eu cyfrif yn ‘ffoaduriaid’ sydd yn ceisio dianc o ormes a thrais eu mam gwlad. Dros ugain gwaith poblogaeth Cymru; mwy na phoblogaeth Gwledydd Prydain gyfan. Daw dros draean o’r ffoaduriaid o Syria, Afghanistan a Somalia - gwledydd lle mae rhyfel wedi troi yn batrwm byw, neu yn hytrach batrwm marw. Mae miliynau o bobl o’r gwledydd hyn a gwledydd eraill yn mentro popeth er mwyn ceisio achub eu bywydau. Yn y meri-go-rownd erchyll yma o fyd, mae cyfle gennym i estyn cymorth a chynnig gobaith i rai sydd yn anobeithio oherwydd eu sefyllfaoedd. Rwy’n hynod falch fod nifer o drigolion Gwynedd - trwy amryw o fudiadau - yn cynnig cefnogaeth ymarferol i ffoaduriaid. A ninnau Cyngor Gwynedd, fel pob cyngor arall yng Nghymru, wedi cynnig lloches i deuluoedd o Syria ac am wneud yr un modd i rai o’r cannoedd o blant hynny sydd wedi cyrraedd y gwersylloedd yn Calais. Mae’r rhain mewn perygl o fod yn ddi-gartref wrth i awdurdodau Ffrainc gynllunio i chwalu’r gwersylloedd. Ni ddylem gerdded heibio ar yr ochr arall ond yn hytrach wneud popeth o fewn ein gallu i ddangos bod goleuni yng nghanol môr o dywyllwch.
NEWYDDION
Digwyddiadau Gwynedd dros yr hydref 29 - Hwyl yr Hydref ym Mhlas yn Rhiw 11am - 3pm Dathlwch yr hydref a pharatowch at Galan Gaeaf drwy ymuno mewn gweithgareddau hwyliog a chreu celf wyllt ym Mhlas yn Rhiw www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula
l
Hwyl yr Hydref ym Mhlas yn Rhiw
September HYDREF 25 - Crwydro Craflwyn yn y Nos 6pm - 9pm Cyfle i grwydro’r goedwig yn y nos gan syllu ar y sêr a choginio ar dân agored. Rhaid archebu o flaen llaw ar gyfer mynychu’r digwyddiad www.nationaltrust.org.uk/snowdonia
29 - Marathon Eryri Llanberis Ras i gychwyn am 10:30am Bydd pencadlys y ras yn y Mynydd Gwefru, Llanberis, a’r ras yn cychwyn y tu allan i’r Pentref ar yr A4086. Gellir cofrestru yng Nghanolfan Ymwelwyr y Mynydd Gwefru o ganol dydd tan hanner nos dydd Gwener, 28 Hydref ac eto o 6am tan 9am ar fore Sadwrn, 29 Hydref. www.snowdoniamarathon.co.uk
2-4 - Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion Gŵyl flynyddol boblogaidd tu hwnt fydd yn siŵr o’ch rhoi yn hwyl yr ŵyl! Pris tocynnau £4. www.portmeirion.cymru/
l
Fel yn achos Comin Greenham a’r ras arfau niwcliar, merched oedd yn flaenllaw wrth gymryd safiad dros heddwch. Ac fel rydym yn gweld, un o ffrwythau rhyfel yw ffoaduriaid; canlyniadau bomio pobl yw eu gyrru dros fôr a thir i chwilio am ddihangfa mewn man arall. Un llinyn dieflig sydd yn cysylltu’r ras arfau, rhyfeloedd a ffoaduriaid.
“Mae Rhentu Doeth Cymru yn golygu bod rhaid i landlordiaid gofrestru a bod asiantaethau a landlordiaid sy’n hunan-reoli wedi eu trwyddedu,” eglurodd Richard Hughes o Adran Dai’r Cyngor.
02
Marathon Eryri
Annog landlordiaid i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru Ydych chi’n yn berchen ar eiddo rhent, yn gosod eiddo ar rent neu’n rheoli neu’n byw mewn eiddo rhent? Os felly mae’r gyfraith Rhentu Doeth Cymru yn effeithio arnoch chi.
Y Cynghorydd Dyfed Edwards Arweinydd Cyngor Gwynedd
3-4 - Penwythnos Nadolig Plas yn Rhiw 11am - 3pm Dewch i weld Siôn Corn yn cyrraedd ar ei geffyl, chwarae gemau Nadoligaidd a gweld y tŷ wedi ei addurno. Bydd gwydraid o win cynnes i’ch croesawu! www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yng Ngwynedd, ac i ddweud wrthym am ddigwyddiad, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ digwyddiadau. Gallwch hefyd weld beth sy’n digwydd yn y sir drwy ddilyn @CyngorGwynedd ar Twitter a ‘hoffi’ y Cyngor ar Facebook www.facebook.com/CyngorGwyneddCouncil
Yn amserol iawn, cafwyd dathliad i nodi 90 mlynedd ers Pererindod Heddwch Merched y Gogledd yng Nghaernarfon ar 21 Medi gyda gorymdaith a dadorchuddio plac coffa i ddiolch am gyfraniad y merched dros heddwch yn ôl yn 1926. Cafodd aelodau’r Cyngor gyfle i glywed mwy am yr hanes wrth wylio ffilm fer o’r orymdaith cyn ein cyfarfod diwethaf o’r Cyngor.
Fe wnawn bob ymdrech yng Ngwynedd i sefyll dros gyfiawnder ac ymestyn pob cymorth posibl i deuluoedd a phlant mewn angen. Pwy bynnag ydynt ac o ba wlad bynnag maent yn dod.
26-27 - Hwyl yr Ŵyl, Pwllheli 10am-6pm Ymunwch yn nathliadau’r Nadolig gyda gweithgareddau hwyliog megis sglefrio, ffair i blant a chyfle i ymweld â groto Siôn Corn. Ceir adloniant cerddorol, marchnad Nadolig a llawer mwy ar gyfer bob oedran. Mynediad am ddim, codir tâl am y reidiau a’r sglefrio. www.hwylyrwyl.org/ RHAGFYR RHAGFYR
27 - Trên Calan Gaeaf Rheilffordd Eryri, Caernarfon 6pm - 9pm A fentrwch chi ar drên ysbryd Eryri? Os ‘dach chi ddigon dewr, rhowch eich gwisg Calan Gaeaf ac ymuno â’r gwrachod a’r ysbrydion am noson o ofn, hwyl a danteithion yn Nhafarn y “Snowdonia Park Brewpub”,Waunfawr. www.festrail.co.uk 27-29 - Trenau Calan Gaeaf Rheilffordd Ffestiniog 6pm-9.30pm Rhowch eich gwisg arswydus ymlaen ac ymunwch â gwrachod ac ysbrydion mewn noson o hwyl ddieflig a danteithion blasus. Reidiwch y trên Calan Gaeaf i Orsaf Tan y Bwlch am swper poeth, cystadlaethau ac adloniant. www.festrail.co.uk
TACHWEDD TACHWEDD
Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am y ddeddf sydd wedi bod yn ei lle ers blwyddyn ac fydd yn cael ei gorfodi o 23 Tachwedd 2016 ymlaen.
“Pwrpas y gyfraith ydi sicrhau bod llety rhent yn ddiogel a derbyniol, yn cael ei reoli’n dda a bod tenantiaid yn cael eu hamddiffyn. “Mae ein neges i landlordiaid yn syml - os nad ydach chi wedi cofrestru eich busnes eto, rydach chi wir angen gwneud hynny neu mi fyddwch yn wynebu cosb ariannol. Mae cofrestru ar-lein neu dros y ffôn yn hawdd a sydyn, os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â ni neu dewch draw i un o’n sesiynau galw heibio am sgwrs. “Ar y llaw arall, os ydych yn denant ac eisiau gwybod os ydi’ch cartref wedi ei gofrestru, gallwch gysylltu â ni i ddarganfod hynny.”
Bydd rhagor o sesiynau galw heibio ar gyfer landlordiaid yn cael eu cynnal rhwng 10am a 3pm yn y lleoliadau canlynol:
•
4 Tachwedd Swyddfeydd y Cyngor, Penarlâg, Dolgellau 18 Tachwedd Swyddfeydd y Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli 25 Tachwedd Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon
• •
Geraint Martin a Justin Craig Jones o Wasanaeth Tai Cyngor Gwynedd mewn digwyddiad galw-heibio Rhentu Doeth Cymru diweddar
l
Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich eiddo ar-lein, ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru, neu ffoniwch 03000 133344 i holi am ffurflen bapur i’w gwblhau a’i ddychwelyd.
Cyngor Gwynedd
Hydref 2016
Helpwch ni i hybu gwasanaeth gwych Ydych chi wedi derbyn gwasanaeth eithriadol gan aelod o staff Cyngor Gwynedd neu un o dimau’r Cyngor?
gwasanaethau y mae pobl Gwynedd yn dibynnu arnyn nhw am lawer llai na’r gyllideb a oedd unwaith ar gael.
Efallai eich bod chi wedi derbyn gwasanaeth gwirioneddol dda gan un o’n gweithwyr neu wedi cael eich plesio gyda’r ffordd y mae un o dimau Cyngor Gwynedd wedi eich helpu chi’n bersonol neu wedi cyflawni prosiect sydd wedi bod o fudd i’ch cymuned? Os felly, mae Cyngor Gwynedd angen eich help.
“Wrth gwrs, allwn ni ddim rhoi gwobrau, ond y seremoni flynyddol yw ein ffordd o ddweud diolch i’r rheini sy’n cerdded yr ail filltir er budd pobl leol.”
Yn y gorffennol, roedd yr holl enillwyr yn cael eu henwebu gan eu cydweithwyr. Ond eleni, am y tro cyntaf, mae’r broses enwebu’n cael ei hymestyn i’r cyhoedd.
“Yn aml iawn mae eu gwaith o roi pobl leol yn flaenaf ym mhopeth y mae’r Cyngor yn ei wneud yn digwydd heb i neb sylwi, ac mae hynny’n drueni mawr.
Meddai’r Cynghorydd Eric M Jones, Cadeirydd y Cyngor: “Mae seremoni ‘Cyngor ar ei Orau’ yn un o wir uchafbwyntiau calendr y Cyngor. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pryd y gallwn ddangos ein gwerthfawrogiad i’r aelodau rheini o staff sy’n gwneud yr ymdrech ychwanegol i sicrhau bod pobl Gwynedd yn derbyn y gwasanaeth gorau bosib.
“Gall darllenwyr Newyddion Gwynedd ein helpu ni drwy roi ychydig funudau i ddweud wrthon ni am unrhyw enghreifftiau, boed nhw’n rhai mawr neu’n rhai bach, o ragoriaeth a brofwyd ganddyn nhw, a dychwelyd ffurflen enwebu fer “Gwobr y Bobl”. “Bydd pob unigolyn neu dîm sy’n derbyn enwebiad ‘Gwobr y Bobl’ yn cael eu hystyried ac enillydd yn cael ei anrhydeddu yn seremoni ‘Cyngor ar ei Orau’ y gwanwyn nesaf.”
Dysgu o gwynion ydi’r nod Mae gan Gyngor Gwynedd nod syml: rhoi pobl Gwynedd yn flaenaf ym mhopeth a wnawn trwy ddarparu’r gwasanaethau gorau bosib. Rhan bwysig o hyn ydi cydnabod fod rhai adegau pan nad ydi pethau yn mynd fel y dylent, ac i ddefnyddio sylwadau fel cyfleoedd i wella.
“Plis dywedwch wrthon ni os oes rhywbeth wedi mynd o’i le, rydan ni yma i helpu, ac mae ymdrin â chwynion yn rhan o’r gwasanaeth o ddydd i ddydd,” meddai Meinir Williams, Swyddog Gwella Gwasanaeth y Cyngor. “Yn ddiweddar, rydan ni wedi diwygio’n proses a ffurflen gwynion i’w gwneud hi’n symlach i’w defnyddio. Mae hi hefyd yn galluogi pobl i roi sylwadau cadarnhaol am y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn.
Cyngor Gwynedd
“Rydan ni’n ceisio cadw pethau mor anffurfiol â phosib a gweld pethau o safbwynt y cwsmer. Yn lle gweld sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd fel beirniadaeth, rydan ni’n eu gweld nhw fel gwybodaeth ddefnyddiol a gwerthfawr i’n helpu ni i wella. “Oherwydd hyn, y gwasanaeth sy’n ymdrin â chwynion unigol yn y lle cyntaf sydd yn y sefyllfa orau i gywiro’r hyn aeth o’i le. “Ein nod ydi ymateb yn effeithiol i unrhyw bryder cyn bod achos iddo ddatblygu i fod yn gŵyn ffurfiol, a dim ond os nad ydi hi wedi bod yn bosib datrys y broblem drwy drafod gyda’r adran berthnasol y maen nhw’n dŵad ataf i.
Yn seremoni 2016, derbyniodd gydnabyddiaeth am y ffordd mae hi’n helpu pobl ddi-gartref i droi eu bywydau er gwell pan maent mewn sefyllfa anodd. Er enghraifft, wrth fynd â nhw i’r Banc Bwyd a’u helpu i gofrestru gyda chwmniau trydan ac ar gyfer budd-daliadau.
!
!
H H Y Cyngor ar ei Orau 2017 H H Gall darllenwyr Newyddion Gwynedd enwebu aelod unigol o staff y Cyngor neu dîm trwy:
!
Yn ogystal ag anrhydeddu staff sy’n gwneud ymdrech ychwanegol i roi’r lle blaenaf i bobl Gwynedd ym mhopeth y mae’r Cyngor yn ei wneud, mae seremoni “Y Cyngor ar ei Orau” hefyd yn gyfle i annog holl wasanaethau’r Cyngor i ddysgu oddi wrth ragoriaeth ac anelu tuag ato.
Gallwch chi ein helpu i wneud hynny trwy roi gwybod i ni yn brydlon os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwynion am unrhyw agwedd o waith y Cyngor.
Mae Eleri yn Swyddog Cefnogaeth Tenantiaeth yn Adran Dai y Cyngor.
Ychwanegodd Dilwyn Williams, Prif Weithredwr y Cyngor: “Yn ogystal â datblygu dull cadarnhaol o ddysgu oddi wrth gamgymeriadau a phethau’n mynd o’i le, rydan ni’n benderfynol o ddysgu oddi wrth wasanaeth gwych. “Boed yn wersi nofio llawn hwyl i blant bach, llety dros nos i bobl sydd wedi eu taro gan argyfwng, ysbrydoli oedolion bregus i adennill eu hannibyniaeth, adeiladau ysgolion newydd sy’n ennill gwobrau neu’n gynlluniau arloesol i hyrwyddo’r Gymraeg - mae pethau gwych yn cael eu gwneud gan lawer o’r 5,000 o bobl leol sy’n darparu gwasanaethau Cyngor Gwynedd.
“Yn yr adegau hyn o adnoddau prin a chyllidebau sy’n lleihau, mae’n rhyfeddol fod ein staff yn parhau i allu darparu
Dyma un o enillwyr blaenorol yng ngwobrau Y Cyngor ar ei Orau, Eleri Wyn Hughes (chwith), yn derbyn ei gwobr gan Morwena Edwards, un o Gyfarwyddwyr Corfforaethol y Cyngor.
•
fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/ CyngorArEiOrau • torri allan y ffurflen isod a’i dychwelyd drwy eich llyfrgell neu Siop Gwynedd neu ei phostio at Gwobr y Bobl, Uned Gyfathrebu, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ydi 31 Ionawr, 2017. Bydd pob enwebiad yn cael ei ystyried gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor a chyhoeddir yr enillydd yn y seremoni gwobrau staff yng ngwanwyn 2017. Bydd yr enillydd yn derbyn tystysgrif a tharian fach. Cadwch lygad am restr o enillwyr yn y rhifynnau nesaf o Newyddion Gwynedd.
EICH ENW: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . EICH CYFEIRIAD E-BOST NEU RIF FFÔN . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . ................................................................. Hoffwn enwebu . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . ar gyfer “Gwobr Y Bobl” oherwydd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
!
Ers sawl blwyddyn, mae’r Cyngor wedi bod yn cynnal seremoni flynyddol fer i gydnabod aelodau o staff sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i wasanaethau lleol.
Llaw i fyny dros bobl ddi-gartref
................................................................. ................................................................. ................................................................. ................................................................. .................................................................
“Yn syml, mae’r cyfan yn ymwneud â gwella gwasanaethau trwy gyfathrebu da a chydweithio agos rhwng staff y Cyngor a thrigolion y sir. Os ydan ni’n cael gwybod am rywbeth yn mynd o’i le, ein nod ydi cymryd camau i wella pethau cyn gynted â phosib.” Ychwanegodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am faterion Gofal Cwsmer: “Ein nod ydi trawsnewid agwedd ein gwasanaethau tuag at gwynion fel eu bod yn eu gweld trwy lygaid mwy positif. “Braf yw adrodd ein bod yn barod yn gweld enghreifftiau lle mae’r drefn newydd yn cael effaith gadarnhaol ac wedi helpu i greu canlyniadau gwell i’r bobl rydym ni’n eu gwasanaethu. Mae sawl un o’n trigolion wedi cysylltu’n ôl gyda ni i ddweud bod eu profiad o’r broses ar ei newydd wedd wedi bod yn un rhwydd, yn bositif a’u bod yn
hapus gyda’r canlyniad. “Dyna sy’n bwysig i ni fel Cyngor: rydym ni yma i gynnig y gwasanaethau gorau posib i bobl Gwynedd, ac os oes yna unrhyw enghreifftiau lle nad ydi hynny’n digwydd, yna cyfrifoldeb ein gwasanaethau ydi mynd at wraidd unrhyw broblem a’i ddatrys er eich budd chi.”
Sut i gyflwyno cwyn neu sylw: n Drwy
ymweld â gwefan y Cyngor: www.gwynedd. llyw.cymru/cwynion
n Trwy
ffonio 01766 771000
03
Hydref 2016
NEWYDDION
Ysgolion yr 21ain Ganrif Gwynedd Fel rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif Gwynedd, mae mwy na £38 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn adeiladu a gwella ysgolion mewn cymunedau ledled y sir. Er gwaetha’r ffaith fod y Cyngor yn parhau i wynebu cyllidebau sy’n tynhau o hyd, mae’r awdurdod wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adnoddau a’r cyfleusterau addysgol gorau bosib ar gael i blant a phobl ifanc Gwynedd. “Rydan ni eisiau gweld disgyblion mewn ysgolion ledled y sir yn manteisio ar y cyfleusterau addysg gorau bosib,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, yr Aelod dros
Addysg ar Gabinet Cyngor Gwynedd. “Dw i’n hynod falch felly fod gwaith yn mynd ymlaen yn dda ar brosiectau adeiladu sylweddol mewn ysgolion ledled y sir. “Gyda buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd i wella adeiladau ysgolion yn nalgylchoedd Dolgellau a’r Bala, adeilad newydd sbon i Ysgol Glancegin ym Mangor a’r Ysgol Hafod Lon newydd ym Mhenrhyndeudraeth, rydan ni’n benderfynol o fod yn uchelgeisiol ac o ddal ati i ddarparu’r cyfleusterau a’r cyfleoedd gorau i bobl ifanc y sir lle bynnag maen nhw’n byw.”
Ysgol Hafod Lon newydd, Penrhyndeudraeth Bydd yr ysgol newydd o’r radd flaenaf ar gyfer rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yn agor ei drysau i ddisgyblion ledled ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Bydd cyfleusterau ac adnoddau diweddaraf yr adeilad gwerth £13 miliwn ym Mhenrhyndeudraeth yn cynnwys ystafelloedd dosbarth modern a phwrpasol, pwll hydrotherapi, ystafelloedd therapi, offer synhwyraidd, mannau awyr agored i chwarae a dysgu, yn ogystal â gardd a chaffi.
Gwaith yn cychwyn yn Ysgol Glancegin ym Mangor Mae’r gwaith adeiladu yn dod yn ei flaen yn dda ar ddatblygiad newydd Ysgol Glancegin i gymryd lle’r ysgol bresennol yn ardal Maesgeirchen o Fangor. Bydd y prosiect £5.1 miliwn, a fydd yn agor ei ddrysau yn hydref 2017, yn sicrhau’r amgylchedd dysgu gorau, a bydd yn cynnwys ardal chwarae ac addysgu newydd yn yr awyr agored.
Buddsoddiad o £10 miliwn yng Nghampws Dysgu’r Bala Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu model addysgol arloesol newydd ar gyfer y Bala trwy adeiladu Campws Dysgu 3-19 oed ar safle Ysgol y Berwyn yn y dref. Yn ogystal â chynnig amgylchedd dysgu modern i ddisgyblion yr ardal, bydd y model yn diogelu rhwydwaith ysgolion gwledig y
04
dalgylch. Pan fydd yn agor yn swyddogol ym mis Medi 2018, bydd y campws hefyd yn gartref i amryw o wasanaethau lleol pwysig gan gynnwys llyfrgell gyhoeddus wedi ei hadnewyddu a sinema gymunedol.
Mae pob un o’r cynlluniau gwella ysgolion hyn gan Gyngor Gwynedd wedi cael cymorth ariannol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Ysgol Bro Idris - gwaith uwchraddio sylweddol Mae gwaith wedi cychwyn ar werth £4.34 o welliannau ar nifer o safleoedd ysgolion a fydd yn uno i ffurfio’r ysgol newydd i ddisgyblion 3-16 oed dalgylch cyfan, Ysgol Bro Idris. Mae gwelliannau wrthi’n cael eu gwneud ar safle Cynradd Dolgellau, estyniad newydd wedi ei osod ar safle Ieuan
Gwynedd yn Rhydymain a gwelliannau wedi cychwyn yn Llanelltyd. Mae Jano Owen wedi cael ei phenodi’n bennaeth Ysgol Bro Idris ac mae’r gwaith penodi’n parhau ar gyfer aelodau eraill o uwch dîm rheoli’r ysgol ardal a fydd yn agor yn swyddogol ym mis Medi 2017.
Cyngor Gwynedd
NEWYDDION
Hydref 2016 Hysbyseb
Sicrhau’r addysg orau i ddisgyblion Gwynedd
Nod Cyngor Gwynedd ydi sicrhau bod holl ysgolion y sir yn arfogi plant a phobl ifanc i gyflawni’r safonau uchaf posib ac i adnabod ffyrdd creadigol o warchod addysg mewn cymunedau gwledig. Ar hyn o bryd, mae ansawdd addysg ysgolion Gwynedd yn dda iawn, ond mae penaethiaid ysgolion ac arbenigwyr addysg annibynnol wedi adnabod yr angen i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio i sicrhau bod y llwyddiant presennol yn parhau. Maent wedi datgan yn glir fod risg sylweddol i safonau addysg yn ysgolion Gwynedd dros y blynyddoedd nesaf os nad oes rhai newidiadau yn cael eu gwneud i’r model presennol. Os am gwrdd â’r nod o ddarparu addysg ardderchog i holl blant Gwynedd, mae penaethiaid wedi dweud bod rhaid cyfarch heriau penodol, sy’n cynnwys y ffaith: • nad oes amser digonol i benaethiaid fod yn arwain a llywio addysg yn eu hysgolion, datblygu a hyrwyddo ymarfer da, a rheoli staff a chyllidebau yn effeithiol; • fod problemau cynyddol wrth recriwtio penaethiaid ysgolion o’r newydd; • fod athrawon cynradd yn aml yn gorfod addysgu ystod eang o ddisgyblion o wahanol oedrannau a galluoedd yn yr un dosbarth - ar adegau hyd at bedair blwyddyn ysgol mewn un dosbarth; • fod athrawon uwchradd yn aml yn gorfod addysgu sawl pwnc y tu allan i’w maes arbenigedd. Dywedodd Arwyn Thomas, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd “Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi trafod a gwrando yn ofalus ar benaethiaid ysgolion Gwynedd. “Mae’r trafodaethau yma wedi bod yn hynod gynhyrchiol ac yn sail ar gyfer
llunio egwyddorion newydd cychwynnol i amddiffyn safonau addysg ac i symud tua’r nod o sicrhau bod pob plentyn yn y sir yn derbyn addysg ardderchog a fydd yn eu galluogi i fyw a ffynnu’n lleol. “Mae’r trafodaethau cychwynnol yma wedi cadarnhau a chrisialu’r ffaith fod yr her ym maes arweinyddiaeth ysgolion yn dwyshau yn flynyddol. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth na allwn ei anwybyddu os ydym o ddifrif am ddiogelu ansawdd addysg yn y sir, gan gynnwys addysg wledig.” Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae staff ysgolion Gwynedd wedi llwyr ymrwymo i ddarparu’r addysg orau bosib i’n plant. Ond rydym angen trafod a chytuno ar egwyddorion newydd er mwyn osgoi dirywiad dros y blynyddoedd i ddod. “Fel cam cychwynnol, rydym wedi dechrau ar y gwaith hanfodol yma drwy wahodd penaethiaid ysgolion y sir i ddiffinio’r heriau maent yn eu hwynebu ac rydan ni’n hynod ddiolchgar iddynt am fod yn barod i gyfrannu’n llawn i’r gwaith. Mae’r hyn maent wedi ei adnabod yn cydfynd gyda barn Estyn, yr arolygiaeth ysgolion, sef fod arweinyddiaeth dda yn allweddol er mwyn sicrhau addysg o’r ansawdd uchaf i’n plant. “Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ymweld â chymunedau ym mhob rhan o Wynedd - ac rydym yn awyddus i ddatblygu egwyddorion ar y cyd gyda’r proffesiwn, llywodraethwyr a rhieni fel y gallwn symud ymlaen gyda’n gilydd.”
Cyfle i ddysgu mwy a chyfrannu Bydd cyfres o sesiynau galw-heibio yn cael eu cynnal ar draws Gwynedd dros yr wythnosau nesaf ar gyfer llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned yn ehangach er mwyn bod yn rhan o’r broses o ddatblygu egwyddorion newydd ar gyfer ysgolion Gwynedd: n 07/11/2016 n 09/11/2016 n 14/11/2016 n 16/11/2016 n 18/11/2016 n 21/11/2016 n 23/11/2016 n 28/11/2016 n 30/11/2016 n 05/12/2016 n 06/12/2016 n 07/12/2016 n 14/12/2016
3pm - 6pm 3pm - 6pm 4pm - 7pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm 3pm - 6pm
Canolfan Hamdden Plas Ffrancon, Bethesda Capel Berea Newydd, Bangor Ysgol Brynrefail, Llanrug Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes Canolfan Hamdden Arfon, Caernarfon Canolfan Hamdden Penllyn, Y Bala Canolfan Hamdden Bro Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog Ysgol Ardudwy, Harlech Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau Ysgol Glan y Môr, Pwllheli Canolfan Hamdden Bro Dysynni, Tywyn Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog
Bydd cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau hyd dymor gwanwyn 2017 ac yn bwydo maes o law i mewn i weledigaeth newydd ar gyfer y gyfundrefn addysg yng Ngwynedd.
Cyngor Gwynedd
Cynllunio GwasanaEthau Cyhoeddus yng Ngwynedd ac Ynys Môn Ar 1 Ebrill 2016 daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru i rym. Diben y ddeddf ydi gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. O dan y ddeddf, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cael eu sefydlu ar gyfer pob un o’r 22 o ardaloedd awdurdod lleol Cymru. Mae’r byrddau hyn yn gyfrifol am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i greu gwell dyfodol i bobl Cymru. Yn ardaloedd Gwynedd a Môn, mae byrddau ardal y ddau gyngor yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth sy’n cynnwys: • Cyfoeth Naturiol Cymru • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr • Cyngor Gwynedd • Cyngor Sir Ynys Môn
Helpwch y Bwrdd i ddod i adnabod eich ardal chi Mae cyfle i chi helpu’r Bwrdd i ddysgu mwy am eich ardal mewn ymgynghoriad cyhoeddus sy’n digwydd ledled Gwynedd a Môn ar hyn o bryd. Y nod ydi darganfod beth sy’n bwysig i bobl o fewn eu cymunedau a beth hoffen nhw ei weld yn cael ei wella at y dyfodol. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn wedi rhannu’r ardal gyfan yn 14 o ardaloedd llai. Gellir gweld rhestr lawn o’r rhain ar y wefan www.LlesiantGwyneddaMon.org neu yn eich llyfrgell leol o 1 Tachwedd ymlaen. Mae ymchwil wedi cael ei wneud ar ran y Bwrdd ar gyfer pob un o’r 14 o ardaloedd hyn I ddysgu a deall mwy am lesiant yr ardaloedd hynny. Lawn cyn bwysiced, mae’r Bwrdd eisiau gwybod eich barn am eich cymuned - beth sy’n bwysig i chi, beth sy’n dda a beth sydd angen ei wella? Pan fydd y cyfnod ymgynghori’n cau ar 31 Rhagfyr 2016, y gobaith ydi y bydd yr holl ymatebion a gasglwyd o’r cymunedau yn rhoi darlun clir i’r Bwrdd o gymunedau lleol, eu blaenoriaethau a sut y gall partneriaid y Bwrdd weithio gyda’i gilydd i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol. Gallwch gyfrannu at y drafodaeth mewn amryw o ffyrdd: • trwy fynd i www.LlesiantGwyneddaMon.org, darllen y llyfryn gwybodaeth am eich ardal leol a chwblhau’r holiadur ar-lein; • cymryd copi papur o’r llyfryn ar gyfer eich ardal yn eich llyfrgell leol neu Siop Gwynedd a chwblhau’r holiadur; • mynychu un o’r sesiynau galw-heibio lleol neu’r cyfarfodydd cyhoeddus. Dyddiad
Amser
Lleoliad
07/11/2016 08/11/2016 08/11/2016 10/11/2016 10/11/2016 21/11/2016 23/11/2016 23/11/2016 24/11/2016 06/12/2016 08/12/2016 - - - -
7pm - 9pm 2pm - 4pm 7pm - 9pm 2pm - 4pm 7pm - 9pm 7pm - 9pm 2pm - 4pm 7pm - 9pm 2pm - 4pm 7pm - 9pm 7pm - 9pm - - - -
Tywyn - Ysgol Uwchradd Tywyn Dolgellau - Llyfrgell Dinas Mawddwy - Caffi Yr Hen Siop Criccieth - Neuadd Goffa Porthmadog - Y Ganolfan Pwllheli - Ysgol Glan Y Môr Penygroes - Canolfan Y Bont Caernarfon - Yr Institiwt Bethesda - Neuadd Ogwen Trawsfynydd - Neuadd Gpmoeddus Bala - Neuadd Buddug Aberdaron* Bangor* Blaenau Ffestiniog* Llanuwchllyn*
*Amser, dyddiad a lleoliad i ddilyn. Edrychwch allan am y manylion ar wefan www.LlesiantGwyneddaMon.org, yn y wasg leol neu ffoniwch 01286 679682 os gwelwch yn dda = Sesiwn galw heibio lleol = cyfarfod cyhoeddus 05
Hydref 2016
NEWYDDION
Parhad o dudalen 1
Cyflawni Her Gwynedd Fel yr adroddwyd mewn rhifynnau blaenorol o Newyddion, er gwaethaf ymdrechion dros lawer blwyddyn i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen, ni all Cyngor Gwynedd bellach osgoi’r pwysau sydd ar gynghorau ledled Prydain. Ym mis Mawrth felly, fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo strategaeth ddwy flynedd i fynd i’r afael â diffyg ariannol sylweddol Gwynedd, a oedd yn golygu bod yn rhaid cychwyn gweithredu rhai toriadau. Yn ogystal â gweithredu llu o arbedion effeithlonrwydd ychwanegol gwerth £10.5 miliwn i bontio’r bwlch, mae’r strategaeth hon yn cynnwys cynllun i weithredu £4.9 miliwn o doriadau i wasanaethau - £2.6 miliwn yn 2016/17 a £2.1 miliwn yn 2017/18 gyda £0.2 miliwn arall i ddilyn yn 2018/19.
270 260 250
230
210
“Ers i gynghorwyr gymeradwyo strategaeth ariannol ddwy flynedd ym mis Mawrth, mae ein gwasanaethau wedi gwneud cynnydd da i weithredu’r newidiadau anodd a hynod sensitif hyn a hynny gan barhau i wella effeithlonrwydd,” meddai’r Aelod Cyllid ar Gabinet Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Peredur Jenkins.
190
“Bydd y cyhoedd eisoes wedi dechrau gweld effaith y toriadau hyn ar wasanaethau, a’n gobaith gwirioneddol ni ydi y bydd y rhaglen lymder bresennol sy’n cael ei gyrru gan y llywodraeth yn ganolog yn cael ei lliniaru ac na fydd yn rhaid i ni fynd dim pellach.” Dysgu o brofiad a chefnogi dewisiadau realistig eraill i doriadau Diolch i gefnogaeth cymunedau lleol, cynghorau tref a chymuned, partneriaid yn ogystal â gwaith caled staff y Cyngor, mae’r mwyafrif helaeth o’r toriadau i wasanaethau yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac mae ymdrechon yn cael eu gwneud i liniaru’r effaith. Fodd bynnag, gyda Chyngor Gwynedd bellach ar dir ariannol gwbl newydd ac yn gorfod gweithredu toriadau hynod gymhleth a sensitif am y tro cyntaf yn ei hanes, mae’n sefyll i reswm na fydd pethau’n iawn y tro cyntaf bob amser. “Rydan ni bellach mewn sefyllfa na fuom ynddi o’r blaen o orfod gweithredu nifer mawr o doriadau i wasanaethau ar draws yr amrediad llawn o wasanaethau’r ydan ni’n eu darparu a hynny o fewn cyfnod byr,” esboniodd Prif Weithredwr Gwynedd, Dilwyn Williams.
£48 miliwn
220
200
“Fel y gellir gweld, mae cynnydd yn cael ei wneud, ond dylid cofio bod y gweddill o’r toriadau y cytunwyd arnyn nhw gan Gynghorwyr ym Mawrth 2016 - gwerth £2.1 miliwn - i gael eu gwireddu yn ystod 2017/18.
Diffyg a amcangyfrifir
240
Dechrau da ond angen dal ati
“Hanner ffordd drwy 2016/17, roedd dros 70% o’r prosiectau effeithlonrwydd a thoriadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y flwyddyn wedi cael eu cyflawni, gan adael ychydig llai na thraean i gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2017.
Diffyg ariannol sy’n wynebu’r Cyngor
£264 miliwn
Mae penderfyniad y llywodraeth i weithredu toriadau llym ar wariant ar wasanaethau lleol fel rhan o’i rhaglen llymder yn golygu nad oes unrhyw ddewis gan gynghorau ond gweithredu mesurau anodd a thorri gwasanaethau er mwyn dal dau ben llinyn ynghyd.
£216 miliwn
180
0
Brexit yn ychwanegu at yr ansicrwydd Ers i Gyngor Gwynedd gymeradwyo ei strategaeth ariannol a rhaglen o doriadau i wasanaethau ym mis Mawrth, mae’r sefyllfa economaidd a gwleidyddol ehangach wedi dod yn llawer mwy cymhleth ac ansicr yn sgil y bleidlais Brexit, a’r newid ym Mhrif Weinidog Prydain. “Tra’i bod yn rhy gynnar rhagweld beth fydd y newidiadau sylfaenol hyn yn ei olygu i gyllid llywodraeth leol, mae’n debygol y bydd yr oblygiadau’n sylweddol ac yn bell-gyrhaeddol,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams. “Ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2018 rydan ni’n eithaf hyderus na fydd angen i ni weithredu rhagor o doriadau i wasanaethau ar ben y rheini a gytunwyd gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth. Fodd bynnag, mae’r cyd-destun ariannol yr ydan ni’n gweithredu ynddo yn ddibynnol ar bolisïau ariannol y llywodraeth ac, yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, mae ansicrwydd sylweddol ynghylch beth fydd yn digwydd nesaf.
“O gofio hyn, mae’n anochel na fydd y darnau’n disgyn yn union i’w lle bob amser. Pan mae hyn yn digwydd - fel gyda rhaglen torri gwellt ar ochrau ffyrdd ac ym mharciau’r Cyngor dros yr haf - bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i gywiro pethau cyn gynted ag sy’n bosib ac i ddysgu o’r profiad.
“Dros y ddegawd ddiwethaf, ymateb Cyngor Gwynedd i’r ansicrwydd ariannol o’n cwmpas oedd paratoi’n ofalus ar gyfer amser caletach. Mae gweithio fel hyn wedi ein galluogi i osgoi penderfyniadau byrbwyll, i drafod dewisiadau posib gyda phobl leol ac i seilio penderfyniadau anodd ar eu blaenoriaethau.
“Yn yr un modd, pan fo cynigion realistig yn cael eu cyflwyno i ni i osgoi toriadau i wasanaethau, mi fyddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus iddyn nhw bob amser. Er enghraifft, yn hytrach na phwyso ymlaen i gau i nifer o doiledau cyhoeddus, rydym yn gweithio efo cynghorau tref a chymuned i geisio canfod ffyrdd newydd o ariannu’r cyfleusterau hyn.”
“Gyda’r blynyddoedd sy’n dod yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy heriol, rydan ni’n hyderus y bydd parhau gyda’r strategaeth yma yn ein cadw ar y trywydd iawn.”
Ffeil Ffeithiau Her Gwynedd Yn hydref 2015 fe wnaeth cyfanswm o 2,142 o bobl leol a thros 100 o fudiadau ymateb i arolwg ‘Her Gwynedd’. Yr hyn a ddywedwyd gennych oedd: n
bod arnoch eisiau i’r Cyngor ddal ati i geisio ffyrdd mwy effeithlon o weithio. Mewn ymateb i hyn, mae gwerth £26 miliwn o arbedion effeithlonrwydd wedi cael eu cymeradwyo neu eu cyflawni, ac fe fyddwn ni’n troi pob carreg i gyflawni mwy fyth; n bod arnoch eisiau i’r Cyngor dorri cymaint ag sy’n bosib o’r gwariant ar y ‘swyddfa gefn’ a gwasanaethau canolog y Cyngor. Mewn ymateb, mae toriad ychwanegol o £1.07 miliwn yn cael ei wneud i’r rhain, ar ben y £3.3 miliwn sydd eisoes wedi’i weithredu.
06
Mae graddfa’r lleihad yng nghyllid llywodraeth yn golygu nad yw’r camau hyn yn ddigon i bontio’r diffyg sydd ar ôl. Bydd y bwlch sy’n weddill yn cael ei gyfarch wrth: n
gynyddu Treth Cyngor 3.97% yn 2016/17 a 2017/18 n gweithredu £2.6 miliwn o doriadau i wasanaethau yn 2016/17 a £2.1 miliwn yn 2017/18 Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus Her Gwynedd, cafodd pobl leol gyfle i roi eu barn ar bob un o’r 118 o opsiynau posib mewn toriadau y byddai modd i’r Cyngor eu
gweithredu. Mae 41 o’r 49 (84%) o doriadau y mae’r cynghorwyr wedi penderfynu eu gweithredu yn cydfynd gyda blaenoriaethau pobl leol yn arolwg Her Gwynedd. Cafodd nifer bach o ddewisiadau toriadau i wasanaethau eu tynnu’n ôl o restr derfynol y toriadau oherwydd eu pwysigrwydd i sector penodol allweddol neu i ardal benodol o’r sir.
Cyngor Gwynedd
NEWYDDION
“Dyfodol ansicr a heriol” Yn ôl Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol, gallai Gwynedd a chynghorau eraill Cymru wynebu toriad termau real posib o 5.9% i’w cyllideb ar ben y toriadau a brofwyd eisoes dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth fanylu ar y toriadau termau real parhaus sy’n debygol o daro cyllid cyhoeddus Cymru, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y canlynol: • gallai cyllideb Llywodraeth Cymru grebachu o 3.2% ychwanegol dros y dair mlynedd nesaf; • os na fydd Llywodraeth San Steffan yn gwneud iawn am yr arian fyddai wedi dod o’r Undeb Ewropeaidd, bydd diffyg o £500 miliwn y flwyddyn ar ôl gadael yr undeb; • o fethu â gwneud iawn am y cymorth ariannol o’r UE, bydd y toriadau hyd 2020 tua dwywaith yn llymach; • ar ben y toriadau diweddar, gallai cyllidebau cynghorau Cymru grebachu o 5.9% ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth; • i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd megis addysg a gofal cymdeithasol, bydd rhaid i gynghorau gwtogi ar gyllidebau gwasanaethau eraill megis tai, diwylliant a hamdden o ryw 23% er bod cyllidebau’r gwasanaethau hynny wedi crebachu rhwng 20% a 50% eisoes. Dywedodd y Cynghorydd Bob Wellington, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: “Mae’r adroddiad yma yn dangos fodd llymder yma i aros a bod cynghorau lleol yn wynebu talcen caled iawn. “Mae camau wedi’u cymryd yn barod i gynnal economi’r DU o ganlyniad i benderfynu gadael yr UE, ac mae bellach angen i ni weld camau’n cael eu cymryd i gynnal gwariant cyhoeddus. “Chafodd canlyniad refferendwm yr UE mo’i ystyried wrth lunio polisi llymder presennol Prydain, a rhaid iddynt ail-edrych ar y toriadau sy’n cael eu cynllunio. Byddai lleihad bychan hyd yn oed mewn llymder yn arwain at £90 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, a fyddai’n mynd ymhell at liniaru rhywfaint o’r pwysau ariannol sy’n cael eu rhoi ar ein gwasanaethau cyhoeddus lleol.” Ychwanegodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Dirprwy Arweinydd a Llefarydd Cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: “Cynghorau lleol sy’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o faich llymder. Ar gyfer y gwasanaethau sydd wedi eu heffeithio waethaf, mae gwariant ar lefelau sydd heb eu gweld ers y 1990au. Mae’r adroddiad hwn yn dod i’r casgliad na fydd unrhyw liniaru ar hyn. “Bydd llymder yn mynd rhagddo am flynyddoedd eto ac mae gwir angen ail-ystyried sut rydyn ni’n cynnal a chyllido gwasanaethau cyhoeddus lleol trwy Gymru gyfan. “Mae’n hanfodol ein bod ni yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i gychwyn proses o ddiwygio ariannol, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Gyllid Llywodraeth Leol. Mae angen i ni adeiladu system ariannol addas sy’n gallu cefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus lleol y mae ein cymunedau eu hangen.”
Cyngor Gwynedd
Hydref 2016
Newid yn eich gwasanaeth gwastraff gardd cyhoeddus, mae’r Cyngor wedi gorfod edrych ar bob gwasanaeth a phenderfynu a oes unrhyw rai y gallwn godi tâl amdanyn nhw, fel y gallwn ni gyfyngu effaith toriadau ar gwasanaethau cwbl hanfodol fel gofal ac ysgolion.
O fis Ionawr 2017 ymlaen, oherwydd y pwysau ariannol sydd ar bob gwasanaeth cyhoeddus, bydd Cyngor Gwynedd yn codi ffi flynyddol am gasglu gwastraff gardd o’r bin olwyn brown. Dros yr wythnosau nesaf, bydd holl gartrefi Gwynedd yn derbyn llythyr trwy’r post yn esbonio’r newidiadau. Os nad ydych yn defnyddio’r bin brown gwastraff gardd, ni fydd y newidiadau hyn effeithio arnoch chi a does dim angen i chi wneud dim. Ond os ydych chi’n defnyddio’r bin olwyn brown ar gyfer gwastraff gardd, bydd angen i chi benderfynu a oes arnoch eisiau parhau i dderbyn y gwasanaeth bob
pythefnos am dâl blynyddol o £33 am y bin olwyn safonol (240 litr). Os ydych chi’n cynhyrchu mwy nag un llond bin o wastraff gardd bob pythefnos, gallwch gael bin ychwanegol am £28 ychwanegol y flwyddyn (dim mwy na tri bin i bob aelwyd). Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu, dros gyfnod o flwyddyn, y byddwch yn derbyn 25 o gasgliadau gwastraff gardd o garreg y drws am ddim ond £33. Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Yn anffodus, fel y rhan fwyaf o’r sector
“Un o’r gwasanaethau yr ydan ni wedi penderfynu codi tâl amdanyn nhw ydi casglu gwastraff gardd. Dw i’n deall yn iawn na fydd y newid yn cael ei groesawu gan bobl sydd wedi derbyn y gwasanaeth yma am ddim ers blynyddoedd lawer, ond mewn gwirionedd Gwynedd ydi un o’r ychydig gynghorau yng Nghymru sy’n dal i gynnig y gwasanaeth yma’n rhad ac am ddim. “Dw i’n meddwl efallai y bydd rhai o drigolion eraill Gwynedd, nad oes ganddyn nhw ardd, yn falch nad ydyn nhw’n talu am wasanaeth na allan nhw mo’i ddefnyddio. Bydd yr arbedion a gawn trwy beidio â’i ddarparu am ddim yn cael eu had-dalu i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor. “Dylai unrhyw un yng Ngwynedd sydd â diddordeb mewn talu am y gwasanaeth yma - tâl sy’n cyfateb i tua £1.32 am bob casgliad o’r bin mawr - ddilyn y camau syml i gofrestru ar gyfer y trefniadau newydd, sy’n dod i rym ar 9 Ionawr 2017.”
Am fwy o wybodaeth ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/casglugwastraff
Tri cham syml i gofrestru am y gwasanaeth newydd: 1 2 3
1
Cysylltwch â ni
n Drwy wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/ casglugwastraff lle gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Os nad ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein Cyngor Gwynedd o’r blaen, bydd angen i chi greu cyfrif a fydd yn cymryd ychydig eiliadau. n Os nad oes gennych fynediad i’r we, gallwch gofrestru trwy ffonio 01766 771000 neu trwy ymweld a Siop Gwynedd yng Nghaernarfon, Dolgellau neu ym Mhwllheli.
2
Gwnewch daliad diogel
Talwch gyda’ch cerdyn debyd neu gredyd gan ddefnyddio’r system ar-lein ddiogel. Mae’r Cyngor yn defnyddio gwasanaeth allanol diogel i ymdrin â phob taliad - yn debyg iawn i siopa ar-lein. Os ydych chi’n gwneud y trefniant yn un o’n swyddfeydd neu dros y ffôn, gallwch dalu gyda cherdyn banc, arian parod neu siec.
3
Derbyn eich pecyn
Cadwch lygad am becyn croesawu a fydd yn cael ei anfon i chi yn y post unwaith y byddwch wedi cofrestru. Bydd hwn yn cynnwys sticeri i’w rhoi ar eich bin brown i ddangos i’r timau casglu eich bod wedi talu am y gwasanaeth a chyfarwyddiadau ar sut y mae’r drefn newydd yn gweithio.
07
Hydref 2016
NEWYDDION
Ffordd newydd o ofalu yng Mae pobl sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd - fel y rheini ag anableddau neu gyflyrau meddygol hirdymor a’u teuluoedd - yn debygol o fod yn gwybod am Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru. A gallwn fod yn sicr y bydd y newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf yn effeithio ar fywydau’r mwyafrif ohonom rywbryd neu’i gilydd yn y dyfodol. Gan ein bod ni’n fwy tebygol o fyw i oedran teg, mae llawer mwy ohonom hefyd yn debygol o ddatblygu problemau iechyd neu anableddau sy’n aml yn digwydd wrth i ni fynd yn hŷn. Oherwydd hyn, a’r ffaith fod cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau cynyddol, mae awdurdodau fel Cyngor Gwynedd bellach yn datblygu ffyrdd mwy cynaliadwy o
edrych ar ôl pobl a ffyrdd newydd o helpu pobl i ofalu amdanyn nhw’u hunain ac am ei gilydd. Byddwn yn gweithio fwyfwy gyda sefydliadau trydydd sector - fel grwpiau gwirfoddol, elusennau a mentrau cymdeithasol - i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae’r ddeddf newydd yn gosod pwyslais allweddol ar annibyniaeth a dewis: n helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth a pharhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyhyd â phosib er gwaethaf cyflyrau meddygol; n mwy o ddewis ynghylch y math o wasanaethau mae pobl yn eu derbyn a phwy sy’n eu darparu, os neu pryd y bydd angen mwy o ofal meddygol.
Un cyflwr sydd ar gynnydd oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio yw dementia. Mae Cyngor Gwynedd yn canolbwyntio ar ffyrdd o helpu pobl sydd â’r cyflwr i fyw’n ddiogel yn eu cymuned eu hunain gyhyd ag sy’n bosib. Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, yr Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Oedolion, Iechyd a Lles: “Ar adegau, gall bywyd fod yn anodd, dryslyd ac ofnus i rywun sydd â dementia, ond mi allwn ni i gyd
wneud pethau bach, ymarferol, i wneud bywyd yn haws ac yn well i’n ffrindiau a’n cymdogion sy’n byw efo’r cyflwr. “Fel Cyngor, rydan ni’n gweithio efo’r Gymdeithas Alzheimer i roi hyfforddiant i gymaint o bobl, busnesau a grwpiau ag sy’n bosib mewn helpu pobl â dementia. “Trwy gyrraedd cerrig milltir penodol, gall pobl dderbyn cymhwyster ‘Ffrind Dementia’ a gall tref neu bentref ennill statws ‘Dementia Gyfeillgar’.”
Porthmadog yn arwain y ffordd Porthmadog yw’r ardal gyntaf yng Ngwynedd i ennill statws ‘Dementia Gyfeillgar’ ac mae cymunedau eraill ledled Gwynedd yn gweithio’n galed i ddilyn esiampl y dref yn Eifionydd. Yn Port, mae sesiynau wythnosol yn cael eu cynnal yn y ganolfan hamdden i’r rheini sydd â’r cyflwr a’u gofalwyr. I lawer, mae’n gyfle i gyfarfod pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, i anghofio am eu gofidiau ac ymlacio am ychydig oriau. Mae grŵp llywio hefyd wedi cael ei sefydlu, sy’n cyfarfod yn rheolaidd i godi arian a threfnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth. Mae Emma Quaeck, sy’n gweithio i gynllun Gwynedd Iach y Cyngor, wedi chwarae rhan allweddol wrth yrru’r ymgyrch ym Mhorthmadog. Mae hi wedi ymweld â llawer o fusnesau, banciau a darparwyr gwasanaethau i addysgu staff sut y gallan nhw helpu pobl sydd â dementia.
Meddai Emma: “Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n codi ymwybyddiaeth o effeithiau dementia a pham fod y cyflwr yn digwydd. Mae’n gallu effeithio ar y ffordd mae rhywun yn symud ac yn cyfathrebu, ac ar eu hymddygiad. “Wrth siarad efo busnesau a sefydliadau eraill rydan ni’n mynd i’r afael â’r teimladau o gywilydd sy’n gysylltiedig â’r cyflwr a’u helpu nhw i ddarparu’r math iawn o wasanaeth, fel y gall pobl gadw eu hannibyniaeth a’u hurddas.”
Mae gennych ffrind Un o’r bobl sydd wedi ymuno â’r cynllun Dementia Gyfeillgar yw’r postmon lleol, Bleddyn Williams. Mae’r achos yn agos iawn at ei galon oherwydd i’w fam ddioddef o’r cyflwr. Meddai: “Dw i’n meddwl ei fod yn syniad da i ni’r postmyn ymuno â’r cynllun, gan ein bod ni’n gweld pobl bob dydd fel y gallwn ni gadw llygad ar y rheini a all fod angen help
ychwanegol. Dw i’n meddwl y byddai gormod o bobl yn edrych y ffordd arall neu na fydden nhw’n gweld y problemau sy’n wynebu pobl â dementia. “Fel rhan o’r cynllun, dw i wedi bod yn hyfforddi rhai o fy ffrindiau i ddod yn Gyfeillion Dementia, fel eu bod nhw’n gwybod beth mae’r cyflwr yn ei olygu a sut y gallan nhw helpu.”
Daeth dwsinau o bobl leol at ei gilydd yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn i gymryd rhan mewn cystadleuaeth Boccia. Mae gan lawer brofiad uniongyrchol o’r cyflwr. Nod y sesiwn oedd codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a hefyd o bwysigrwydd cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chadw’n iach a heini.
08
Cyngor Gwynedd
NEWYDDION
Hydref 2016
Ngwynedd
Yn eisiau: mwy o ofalwyr cartref
Ffeithiau Dementia n Bydd dementia yn effeithio ar un o bob 14 o bobl dros 65 oed n Mae bron i 2,000 sydd wedi cael diagnosis o’r cyflwr yn byw yng Ngwynedd ar hyn o bryd - y gyfran uchaf ond un o holl gynghorau gogledd Cymru
n Am fwy o wybodaeth am y cynllun Cyfaill Dementia neu sut i wneud eich cymuned yn well i’r rheini sy’n byw â’r cyflwr, ewch i wefan y Gymdeithas Alzheimer, www. dementiafriends.org.uk
Annibyniaeth, cymuned a chefnogaeth Mae gwaith yn bwrw ymlaen yn dda ar y cynllun gofal ychwanegol yn Hafod y Gest, gyda’r gwaith adeiladu i’w gwblhau erbyn yr hydref nesaf. Bydd Hafod y Gest - sef partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin - yn galluogi pobl hŷn o ardal Borthmadog i fanteisio ar y cyfle i fyw bywyd yn annibynnol mewn cymuned ddiogel a chartrefol gyda gwasanaethau gofal hyblyg. Bydd yn cynnwys 40 o fflatiau modern un neu ddwy ystafell wely ac elfennau cymdeithasol fel ystafelloedd ffitrwydd, gweithgareddau a diddordebau, lolfa a bwyty. Bydd y cyfleusterau yma hefyd ar gael i bobl hŷn o’r gymuned ehangach. “Fel y cynlluniau gofal ychwanegol llwyddiannus yr ydym wedi eu datblygu gyda phartneriaid yng Nghysgod y Coleg yn Y Bala a Chae Garnedd ger Bangor, bydd Hafod y Gest ym Mhorthmadog yn cynnig annibyniaeth i breswylwyr gan wybod fod cymorth ar gael os oes fyth ei angen,” meddai’r Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod
Cabinet Gofal y Cyngor. “Mae tai gofal ychwanegol yn golygu eich bod yn byw yn eich cartref eich hun, gyda’ch drws ffrynt eich hun, a gall cyplau aros gyda’i gilydd. Chi sy’n penderfynu pwy sy’n dod i mewn, a chi sy’n penderfynu os ydych eisiau cymryd rhan mewn amrywiaeth o’r weithgareddau hamdden sydd ar gael.” Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts: “Rydym yn deall fod gan bawb anghenion cefnogaeth wahanol, felly bydd pecynnau gofal a chefnogaeth yn cael eu teilwra yn unigol er mwyn sicrhau fod preswylwyr yn derbyn y lefel priodol o gymorth os oes angen. Bydd tîm gofal profiadol yn hyrwyddo byw’n annibynnol tra’n parchu urddas, preifatrwydd a dewisiadau’r preswylwyr.” Os ydych yn 55 oed neu’n hyn, ac yn teimlo y byddech yn elwa o’r nodweddion a’r gefnogaeth y bydd cynllun gofal ychwanegol Hafod y Gest yn eu cynnig, cysylltwch â Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122.
Gofalwr cartref, Mair Jones yn ystod ymweliad ag Eira Parry yn Llandderfel ger Y Bala Un o’r gwasanaethau y mae trigolion Gwynedd yn ei werthfawrogi fwyaf ydi’r gofal cartref sy’n cael ei gynnig i bobl hŷn neu fregus. Ac os ydi’r gwasanaeth am barhau i ddatblygu yn y dyfodol, bydd angen mwy o bobl i weithio fel gofalwyr cartref. Ar hyn o bryd, mae bron i 300 o bobl yn gweithio fel gofalwyr cartref i wasanaeth gofal cartref mewnol y Cyngor, sydd rhyngddyn nhw’n darparu dros 5,500 o oriau’r wythnos o wasanaeth. Gyda chyfran uwch na chyfartaledd Cymru o bobl dros 65 oed, a’r nifer yn cynyddu’n barhaus, mae mwy o angen nag erioed am ofalwyr o’r fath yng Ngwynedd. Dyna pam y mae Asiantaeth Gofal Cartref y Cyngor yn apelio’n uniongyrchol ar drigolion y sir i ystyried gweithio fel gofalwr. “Rydan ni wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio staff newydd i ymuno â’r tîm i wneud y gwaith gwerthfawr a phwysig yma,” meddai Huw Ceiriog, o Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y Cyngor. “Mi hoffwn i annog darllenwyr Newyddion Gwynedd i ystyried o ddifrif i gynnig eu hunain ar gyfer gwaith o’r fath. “Hoffem bwysleisio ein bod yn chwilio am unigolion cydwybodol, dibynadwy a charedig, ac nid o reidrwydd am gymwysterau penodol. “Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n rhoi ystyriaeth arbennig i bobl sydd â phrofiad o weithio yn y maes gofal, neu i fyfyrwyr sydd ar fin cwblhau eu hastudiaethau yn y maes.
l Sut y bydd cynllun tai gofal ychwanegol Hafod y Gest yn edrych
“Ar y llaw arall, mae yna lawer iawn o bobl sy’n byw yn ein plith a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl fregus y sir trwy gynnig help llaw iddyn nhw fel eu bod yn gallu parhau i fyw yn annibynnol.” Dywedodd fod angen mwy o ofalwyr yn
Cyngor Gwynedd
ardaloedd gwledig y sir yn benodol, ac yn ne Meirionnydd yn enwedig. “Dw i’n sicr fod yna bobl yn yr ardaloedd hyn a allai wasanaethu fel gofalwyr rhagorol,” meddai Huw Ceiriog. “Yn ddelfrydol, rydan ni’n chwilio am bobl i weithio dros 25 awr yr wythnos, ond mi allwn ni gynnig cytundebau am lai o oriau a hyblygrwydd i bobl sydd ag ymrwymiadau eraill. “Rydan ni’n cynnig cytundebau sefydlog a phob math o fanteision fel tâl gwyliau, costau ac amser teithio a chynllun pensiwn atyniadol. “Os nad oes gennych chi gymwysterau, mi fyddwch yn cael hyfforddiant ac yn cael treulio amser gyda gofalwr profiadol i gynefino â’r gwaith. “Mae’n waith sy’n cynnig gyrfa werth chweil a hefyd y boddhad o wybod eich bod yn dod â llawenydd i fywydau llawer o’n cyd-drigolion trwy eu galluogi i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.”
BETH AMDANI? Os ydych chi’n meddwl eich bod yn addas am swydd fel gofalwr cartref, cysylltwch gyda’r Cyngor am fwy o wybodaeth a ffurflen gais - ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/swyddi neu ffoniwch 01341 424534. Mae’r Cyngor yn hynod awyddus i recriwtio pobl yn ardal Meirionnydd. Fel gweithiwr i’r Cyngor, byddech yn elwa ar:
• cytundeb oriau penodol; • rhaglen hyfforddiant; • buddion staff, pensiwn a thal gwyliau;
• costau teithio, gwisg a gwiriad DBS wedi’i dalu.
09
Hydref 2016
NEWYDDION
Cadw’n ddiogel y gaeaf yma Wrth i’r gaeaf nesáu, mae’n werth atgoffa’n hunain o’r hyn y mae’r Cyngor yn ei wneud i helpu cymunedau pan fo’r tywydd yn oeri. Lawn cyn bwysiced hefyd cofio sut y gallwch chi baratoi a helpu eich hun cyn i unrhyw eira a rhew neu dywydd neilltuol o wlyb gyrraedd. o dunelli o stoc halen yn barod am unrhyw oerfel sydyn. Pan ragwelir y bydd tymheredd wyneb ffyrdd yn disgyn islaw’r rhewbwynt o fewn cyfnod 24 awr, bydd timau graeanu’r Cyngor yn cael eu hanfon i daenu halen ar 670 o briffyrdd cyn i’r tymheredd ostwng. Mae’r prif ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth yn cynnwys rhai a ddefnyddir gan wasanaethau bws a ffyrdd i ysbytai fel eu bod yn agored i gerbydau argyfwng ac yn galluogi traffig i symud yn ddiogel. Pan ddisgwylir cyfnod hir o rewi, neu pan fo eira wedi disgyn, bydd ffyrdd eraill yn cael eu trin cyn gynted â phosib ar ôl i’r timau graeanu sicrhau bod y prif ffyrdd yn glir.
Rhew ac Eira Mae’r Cyngor yn cadw llygad fanwl ar y rhagolygon tywydd, gyda thîm graeanu ymroddgar ar alwad yn barod pan fydd eu hangen. Mae ysguboriau halen y Cyngor yn llawn i’r ymylon gyda miloedd
Barrug ar y ffordd Bydd barrug, rhew neu eira ar y ffordd yn lleihau gafael teiars - mae hyn yn eich gwneud yn fwy tebygol o lithro. Felly, arafwch, gyrrwch yn ofalus, breciwch yn ofalus ac mewn da bryd. s Ewch
â phecyn argyfwng efo chi, gan gynnwys crafwr rhew a chwistrell gwrthrew, fflachlamp, dillad cynnes a blanced, bwyd a diod, esgidiau mawr, pecyn cymorth cyntaf, jump leads a rhaw (i gael eich car allan o’r eira). Hefyd, cadwch
Gwneud eich cartref yn ddiogel am y gaeaf Fe fydd y Cyngor a’i bartneriaid yn ymdrechu bob amser i helpu pobl fregus yn ystod tywydd garw. Eto i gyd, os ydych chi’n byw mewn ardal anghysbell, ceisiwch sicrhau bod gennych ddigon o danwydd i gynhesu’ch tŷ. Trefnwch fod gennych chi offer cynhesu wrth gefn a thanwydd digonol ar ei gyfer rhag ofn i’r cyflenwad trydan gael ei golli. Os gallwch chi, ceisiwch sicrhau bod perthnasau a ffrindiau bregus yn ddiogel ac iach. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n ddigon cynnes a bod ganddyn nhw gyflenwadau digonol o fwyd a meddyginiaeth fel nad oes angen iddyn nhw fynd allan yn ystod tywydd oer iawn. 10
Mae manylion y ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth graeanu ar gael i’w gweld ar fapiau rhyngweithiol ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/argyfwng a chliciwch ar y tab ‘Rhew ac Eira’.
eich ffôn symudol efo chi, yn ogystal â radio, fflachlamp a batris ychwanegol. s Ewch â bylbiau a ffiwsiau sbâr a thriongl rhybuddio efo chi. s Gwiriwch fod pob golau yn lân ac yn gweithio. Defnyddiwch y prif oleuadau os yw hi’n anodd gweld. s Gadewch fylchau mwy rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen. s Cadwch lygad gofalus ar bobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd a byddwch ar eich gwyliadwriaeth am blant yn chwarae a cherddwyr eraill. Yn fwy na dim - CYMERWCH BWYLL
Peidiwch â chael eich gadael yn y tywyllwch
Mae rhif newydd, hawdd ei gofio, i’w alw pan fo’r trydan wedi diffodd. Mae 105 yn rhif newydd i’w alw os ydych chi’n cael toriad i’ch cyflenwad. Bydd y rhif am ddim yn eich rhoi chi drwodd i’ch gweithredwr rhwydwaith trydan lleol - y cwmni sy’n rheoli’r gwifrau a’r isorsafoedd sy’n dod â thrydan i’ch cartref. Gallwch alw’r rhif o’r rhan fwyaf o linellau tir a ffonau symudol. Does dim gwahaniaeth gan bwy yr ydych chi’n prynu’ch trydan - gall unrhyw un ffonio 105. Gall y cyhoedd ffonio 105 hefyd os ydyn nhw’n sylwi ar ddifrod i wifrau trydan ac is-orsafoedd a allai eu rhoi eu hunain, neu rywun arall, mewn perygl. Os oes risg difrifol brys, dylai pobl alw’r gwasanaethau brys hefyd. I wybod mwy, ewch i www.powercut105.com
Gyrru yn y gaeaf Gall fod peryglon mawr os cewch chi eich dal mewn storm eira. Beth allwch chi ei wneud i’ch amddiffyn eich hun a’ch cerbyd trwy gynllunio ymlaen llaw? s Cyn
i’r gaeaf gyrraedd, gwnewch yn siŵr fod eich cerbyd wedi cael gwasanaeth a’i fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n iawn. Gofalwch fod eich teiars mewn cyflwr da a’r pwysau iawn o aer ynddyn nhw. s Cofiwch wirio’r rhagolygon tywydd cyn cychwyn ar eich taith. Naill ai gwrandewch ar eich gorsaf radio leol am ddiweddariadau rheolaidd i’r newyddion teithio neu edrychwch ar wefannau’r Cyngor a phartneriaid ac ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cychwyn. s Gofynnwch i’ch hun, ‘Ydi fy nhaith yn angenrheidiol?’, ac os nad ydi hi, peidiwch â theithio. Os ydi hi, yna cynlluniwch eich taith gan ddefnyddio’r prif rwydwaith ffyrdd. s Ceisiwch weld os gallwch chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. s Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith. s Cliriwch ffenestri’r car cyn cychwyn. s Gwnewch yn siŵr fod hylif gwrth-rewi yn eich cerbyd a hylif glanhau ffenestr sy’n gwrthsefyll rhew yn y botel ddŵr. s Gwnewch yn siŵr fod eich weipars yn gweithio’n iawn. s Cymerwch ofal arbennig wrth yrru pan mae’n oer a pheidiwch byth â chymryd yn ganiataol fod ffordd wedi cael ei graeanu. s Defnyddiwch oleuadau wedi eu dipio wrth yrru mewn glaw, niwl neu eira. s Gofalwch fod digon o danwydd yn eich tanc bob amser.
Llifogydd Mae un mewn chwe eiddo yng Nghymru yn agored i risg o lifogydd - ydi eich cartref chi yn un? I weld os ydi eich cartref neu fusnes yn agored i risg, neu i gofrestru am rybuddion pan fo rhybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi yn eich ardal, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch 0345 988 1188. Er y bydd y Cyngor yn ceisio darparu bagiau tywod i bobl sy’n gofyn amdanynt os oes risg uchel o lifogydd i’w heiddo ar y pryd, dylid cofio mai’r perchennog sy’n gyfrifol am amddiffyn eiddo rhag llifogydd. Cofiwch, pan fo tywydd garw, y bydd gweithwyr y Cyngor yn debygol o fod yn ymdrin â nifer mawr o ddigwyddiadau ledled y sir. O dan amgylchiadau o’r fath, bydd gallu’r Cyngor i gyflenwi bagiau tywod yn dibynnu ar raddau a difrifoldeb llifogydd a’r nifer o ddigwyddiadau sy’n rhaid mynd i’r afael â nhw’r un pryd. Paratoi ymlaen llaw yw’r amddiffyniad mwyaf effeithiol - ychydig iawn y gellir ei wneud unwaith y mae lefelau’r dŵr wedi codi. Felly, os ydych chi’n byw mewn ardal o risg uchel o lifogydd, rydym yn eich cynghori i gael bagiau tywod neu fyrddau llifogydd yn barod i ddiogelu drysau a briciau awyr. Peidiwch â dibynnu ar asiantaethau, a fydd yn debygol o fod yn ymateb i amrywiol ddigwyddiadau, i ddarparu bagiau tywod ar y munud olaf pan fo llifogydd yn digwydd. Mewn achos o lifogydd: s Paratowch restr o rifau ffôn defnyddiol ee y Cyngor, gwasanaethau brys, eich cwmni yswiriant, Llinell Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru a chadwch hi wrth law. s Os ydi hi’n ddiogel gwneud hynny, gwnewch yn siŵr fod ffrindiau a pherthnasau bregus yn gwybod am unrhyw rybuddion llifogydd a gyhoeddwyd. s Cymerwch yn ganiataol fod dŵr llifogydd yn cynnwys carthion neu’n halogedig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo menig plastig/rwber wrth gyffwrdd eitemau gwlyb. s Paratowch ‘becyn llifogydd’ sy’n cynnwys fflachlamp, blancedi, dillad sy’n dal dŵr a dillad cynnes, welingtons, radio a batris, pecyn cymorth cyntaf, menig rwber, bwyd ac unrhyw ddogfennau personol pwysig. s Os digwydd llifogydd, diffoddwch y cyflenwad nwy, dŵr a thrydan. s Ewch ag eiddo gwerthfawr neu bethau sy’n golygu llawer ichi i fyny’r grisiau neu cadwch nhw mewn lle uchel i lawr y grisiau. Os yw’n ddiogel gwneud hynny, symudwch gerbydau i rywle nad yw wedi cael ei daro gan lifogydd.
Y newyddion diweddaraf Cofiwch y gallwch ddal i fyny â’r newyddion diweddaraf am wasanaethau’r Cyngor, a gwybodaeth am unrhyw ffyrdd neu ardaloedd sydd wedi cael eu taro â thywydd eithafol, trwy ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Ymunwch â mwy na 12,000 o bobl sy’n dilyn ffrwd Twitter Cyngor Gwynedd am
y newyddion a’r rhybuddion diweddaraf. Dilynwch ni ar @CyngorGwynedd Gallwch hefyd ddilyn tudalen Facebook y Cyngor am yr wybodaeth ddiweddaraf chwiliwch am ‘Cyngor Gwynedd Council’. Am fwy o wybodaeth ar gadw’n ddiogel y gaeaf yma, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/argyfwng
Cyngor Gwynedd