Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2009
www.chwaraecymru.org.uk
Croeso Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru; elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ein nod yw gweithredu fel llysgennad dros chwarae plant; gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd allweddol chwarae i iechyd a lles plant.
Cynnwys
Adroddiad y Cyfarwyddwr Adroddiad y Cadeirydd Darpariaeth a Datblygiad Chwarae Y Loteri FAWR Gwybodaeth, Arweiniad a Rhwydweithio Cyhoeddiadau Datblygu’r Gweithlu Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) Adolygiad Ariannol Cynlluniau ar gyfer y dyfodol IPA 2011 Tîm Chwarae Cymru Manylion Cyswllt
4 5 6 8 10 11 12 13 14 15 16 17 18
Adroddiad y Cyfarwyddwr Eleni dathlwyd degfed pen-blwydd Chwarae Cymru fel elusen gofrestredig. Mewn gwirionedd ’dyw cerrig milltir o’r fath yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth i’r gwaith y byddwn yn ei wneud nac i’n uchelgeisiau, ond maent yn cynnig cyfle inni fyfyrio ar ein cynnydd, i ddathlu llwyddiannau ac i edrych ymlaen i’r dyfodol. Yn bwysicaf oll, mae’r degfed pen-blwydd yma’n gyfle inni ddiolch i bob un sydd wedi ein cefnogi ac sydd wedi cydweithio â ni dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod y ddegawd diwethaf gwelwyd cryn newid mewn dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae i blant; yr amrywiol ffyrdd y gallwn ni oedolion wella a dylanwadu ar amgylcheddau ffisegol a chyfreithiol, yn ogystal ag ar ddiwylliant ein gwlad, i’w gwneud yn fan ble fo gan bob plentyn fynediad rhad ac am ddim i ddewis o gyfleoedd chwarae o safon o fewn eu cymuned. Hyderwn y bydd un o fentrau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru – sef y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Les Cymdeithasol: Plant sy’n Agored i Niwed a Thlodi Plant a’r Mesur Plant a Theuluoedd arfaethedig – yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddarpariaeth ar gyfer chwarae plant yng Nghymru. Mae’n cynnwys gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a darparu ar gyfer ‘digon o’ chwarae ar gyfer plant. Eleni mae’r Mesur wedi parhau i symud yn ei flaen trwy’r amrywiol gamau fydd yn arwain, yn y diwedd, at ei weld yn dod yn ddeddfwriaeth. Roedd y dyletswydd hwn yn un o’r prif argymhellion yn 2004 pan oeddem yn un o’r sefydliadau oedd ynghlwm â chynghori’r Cynulliad ynghylch Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae, felly mae’n nod gennym ers amser maith a bydd gweld hyn yn cael ei gyflawni’n y fath fodd fel ei fod yn cael yr effaith mwyaf cadarnhaol posibl ar gyfer plant a’u chwarae’n parhau i fod yn un o’n prif flaenoriaethau.
4
Er mwyn inni fod mor effeithlon â phosibl wrth gyflawni ein amcanion, tra’n cydnabod rolau newidiol o fewn ein tîm a hynny o ariannu sydd ar gael, fe gomisiynwyd adolygiad staffio yn ystod y flwyddyn ariannol hon arweiniodd at rywfaint o newidiadau staffio sy’n adlewyrchu’n well yr hyn y mae aelodau unigol o staff yn ei wneud. Gadawodd rhai o aelodau’r tîm i ymgymryd â chyfleoedd gyrfa eraill ac ni benodwyd pobl yn eu lle, a gwnaeth yr ymddiriedolwyr a’r tîm rheoli benderfyniadau anodd y gobeithiwn fydd yn cynorthwyo gyda chynaladwyedd tymor hir Chwarae Cymru. Yn ogystal, mae’r newidiadau a wnaethpwyd yn adlewyrchu’r lefel cynyddol o gefnogaeth ar gyfer darparwyr chwarae llawr gwlad a geir yng Nghymru nawr bod deg prosiect isadeiledd chwarae a ariannwyd gan y Loteri FAWR wedi eu sefydlu i ateb anghenion lleol ar draws pob rhanbarth, a nawr bod Canolfan Genedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae wedi ei sefydlu. Mae’r adolygiad blynyddol hwn yn manylu ar yr ystod eang ac amrywiol o waith y mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i’w eiriol a sicrhau darpariaeth o safon ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn yng Nghymru yn ystod 2008/2009. I gloi, o dro i dro byddwn yn clywed disgrifiad o Chwarae Cymru sy’n adlewyrchu barn ein bod ond yma i eiriol dros ac i gefnogi darpariaeth chwarae mynediad agored wedi ei staffio. Dim o’r fath beth. Hyderaf y bydd pawb sy’n darllen yr adolygiad hwn yn sylweddoli’n fuan iawn ein bod yn cwmpasu llawer, llawer mwy er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar ran plant Cymru.
Mike Greenaway Cyfarwyddwr
Adroddiad y Cadeirydd O feddwl yn ôl i ddiwedd y naw degau, mae’n ymddangos fel amser maith iawn ers i griw bychan, penderfynol ohonom ymladd i gadw sefydliad cenedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru. Ym 1998 roedd Play Wales wedi bodoli ers peth amser ond roedd yn ei chael yn anodd i oroesi, ac roedd chwarae bron â chael ei ddileu oddi ar yr agenda wleidyddol. Ond, gyda’r addewid o grant bychan gan y Swyddfa Gymreig, fe luniom elusen newydd, Play Wales / Chwarae Cymru, er mwyn bod yn lais effeithlon i eiriol dros anghenion chwarae plant a hyrwyddo safonau mewn darpariaeth chwarae. Bellach mae’r elusen yn ddengmlwydd oed, rydym yn sefydliad sydd wedi hen ennill ei blwyf gyda gwerth degawd o lwyddiannau i’w dathlu a degawd newydd i’w wynebu a heriau newydd i’w goresgyn. Rydym yn parhau i weithio’n galed i ddylanwadu ar y broses o lunio polisïau allai effeithio ar fynediad plant i ddetholiad o gyfleoedd chwarae o safon ac i gynghori ar drosglwyddiad strategol canlyniadau cadarnhaol ar gyfer chwarae plant. Rydym wedi ymgyrchu dros, yn ogystal â chefnogi datblygiad Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae dilynol, y mae’r ddau ohonynt wedi effeithio’n sylweddol ar y cyd-destun polisi yr ydym yn gweithio iddo; ac yn ddiweddarach mae cyfraniad strategol rhaglen Chwarae Plant y Loteri FAWR wedi dechrau gwneud gwahaniaeth. Rydym yn edrych ymlaen at ganlyniadau Rownd Dau y rhaglen a’i chefnogaeth ar gyfer prosiectau chwarae dyfeisgar ar draws Cymru’n hwyrach yn ystod 2009. Bydd nifer o’r ceisiadau prosiectau chwarae i’r rhaglen Chwarae Plant, os yn llwyddiannus, yn dibynnu ar y ffaith bod gan Gymru gyflenwad cyson o weithwyr chwarae cymwys a chymwysedig – pobl y mae eu swyddogaeth yn cynnwys cefnogi plant i greu a gwarchod amgylcheddau ble y gallant chwarae. Bu cynnal cymhwyster gwaith chwarae Lefel 2 nodedig Chwarae Cymru, Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith, yn un o’n prif flaenoriaethau eleni a maes o law mae’n fwriad gennym ddatblygu’r cymhwyster ymhellach ar Lefelau 3 a 4. Rydym yn teimlo inni ennill rhywfaint o dir, ond mae llawer ar ôl inni ei wneud dros y ddegawd nesaf. Margaret Jervis, O.B.E 5
Darpariaeth a Datblygiad Chwarae Er mwyn cynnal a sicrhau cynrychiolaeth ac ymgynghoriaeth briodol bu Chwarae Cymru ynghlwm ag amrywiol bwyllgorau gwaith trwy Gymru gyfan, a ariannwyd yn bennaf gan y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod chwarae plant yn ennill ei statws haeddiannol: • Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol • Grŵp Cyfranddalwyr Allanol ‘Dringo’n Uwch’ Cynllun Gweithredu Gweithgarwch Corfforol • Grŵp Ymgynghorol Cynllunio a Dylunio ‘Fields in Trust’ a Grŵp Ymgynghorol yr Atodiad Cymreig • Grŵp Monitro Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Grŵp Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant • Grŵp Darparwyr dan 8 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) • Grŵp Isafswm Safonau Cenedlaethol a Rheoliadau dan 8 • Fforwm Magu Plant • Pwyllgor Datblygu Cymru Cymdeithas Cenedlaethol Llyfrgelloedd Teganau a Hamdden • Bu’r Cyfarwyddwr yn ymddiriedolwr Plant yng Nghymru a Clybiau Plant Cymru Kids’ Club • Grŵp Llywio Cynhadledd Cynllunio ar gyfer Iechyd • Grŵp Monitro Cynllun Cyflawni Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru • Canllawiau a Safonau ar gyfer Gweithredu o fewn Grŵp Ymgynghorol Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae • Consortiwm Cyfranogaeth – Is-grŵp Cyfranogaeth plant 0 – 10 oed
6
Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi datblygiad agwedd strategol tuag at chwarae plant trwy:
Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi chwarae plant a darpariaeth chwarae ar lefel leol trwy:
• Ddylunio a throsglwyddo seminarau gwaith chwarae.
• Sicrhau bod grwpiau cymunedol lleol yn cael eu cyfeirio at, ac yn cael eu cefnogi’n ddigonol, gan rwydweithiau cefnogaeth lleol. Rydym yn amcangyfrif inni dderbyn ac ymateb i fwy na 1000 o ymholiadau dros y ffôn a thrwy ebost gan rieni, aelodau etholedig, ysgolion a mudiadau bychain yn ystod y flwyddyn diwethaf.
• Datblygu, cynnal a chefnogi’r Rhwydwaith Swyddogion Datblygu Gwaith Chwarae. Mae gan y rhwydwaith hwn aelodaeth o dros 40 o bobl broffesiynol sydd ynghlwm â datblygu darpariaeth chwarae. • Aelod o 20 pwyllgor gwaith chwarae strategol trwy Gymru. • Cefnogi datblygiad ffederasiwn o ddarparwyr adnoddau ar gyfer chwarae. • Cefnogi datblygiad cyngor technegol, canllawiau a materion diogelwch sy’n ymwneud yn benodol â darpariaeth chwarae wedi ei staffio. Bu Chwarae Cymru ynghlwm ag amrywiol grwpiau polisi trwy’r DU gyfan, megis:
• Darparu cefnogaeth datblygiad proffesiynol an-rheolaethol i 20 o Swyddogion Datblygu Chwarae trwy Gymru. • Trosglwyddo 20 cyflwyniad ynghylch cynllunio ar gyfer chwarae mewn awdurdodau lleol / cymunedau. • Darparu cefnogaeth i brosiectau chwarae sector gwirfoddol yn cynnwys: Chwarae Iawn (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot); Re-create (Cymdeithas Gwasanaethau Chwarae Caerdydd a Bro Morgannwg). Ymatebodd Chwarae Cymru i ystod eang o ymgynghoriadau’n cynnwys: •
• Grŵp Ymgynghorol Gwasanaeth Gwybodaeth Chwarae Plant • Fforwm Diogelwch Chwarae Cenedlaethol • Cofrestr ‘Playground Inspectors International’ • Fforwm Polisi Chwarae Plant
• • • • •
• Cyngor Chwarae Plant
•
• Grŵp Llywio Cenedlaethol Diwrnod Chwarae
•
FIT (Fields in Trust) – Cynllunio a Dylunio ar gyfer Chwaraeon a Chwarae Awyr Agored ‘Implementing a Dormant Accounts Scheme in Wales’ Cynnal Gofal Plant o Ansawdd yng Nghymru (Adolygiad o’r Rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Gwarchod Plant) Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – Cysylltu Cymru Gweithredu ar Dlodi Plant Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc – Galw am dystiolaeth ar gyfer Cynllun Gweithredu Rhianta Llywodraeth Cynulliad Cymru Ymchwiliad Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Gyllidebu ar gyfer Plant yng Nghymru Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru)
7
Y Loteri FAWR Ym mis Awst 2006 derbyniodd Chwarae Cymru gytundeb gan Cronfa Loteri FAWR i helpu i drosglwyddo’ r rhaglen Chwarae Plant. Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi ymateb strategol i’r rhaglen Chwarae Plant trwy: • Cynhyrchu atodiad i Cyflwr Chwarae 2006, oedd yn • Parhau i gefnogi 10 prosiect is-adeiledd. darparu gwybodaeth ynghylch sut y defnyddiwyd y cyllid ychwanegol ar gyfer cyfleusterau chwarae ar gyfer plant • Cymorth i 10 prif ymgeisydd ar gyfer Rownd 2 o’r rhaglen anabl, i amlygu materion oedd angen mynd i’r afael â Chwarae Plant. hwy. • Trefnu seminar ar gyfer cyfranddalwyr allweddol, ‘Dylunio Mannau Chwarae Creadigol’ a ‘Symud y Cais yn ei Flaen’ i raeadru gwybodaeth a rhannu arfer da. • Parhau i hwyluso a chefnogi 10 partneriaeth rhanbarthol (grwpiau gwaith) i gyflwyno ceisiadau.
8
• Rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwasanaeth trwy we-dudalennau penodedig, cylchgrawn Chwarae dros Gymru a chyhoeddiadau eraill, a chyhoeddi taflen wybodaeth.
Gwybodaeth, Arweiniad a Rhwydweithio Mae tîm Gwybodaeth Chwarae Cymru wedi cynhyrchu a rhaeadru amrywiaeth eang o wybodaeth dwyieithog yn ystod y flwyddyn diwethaf, yn cynnwys:
• Darpariaeth, cynnal a chadw a datblygiad parhaus gwefan gaiff ei diweddaru’n rheolaidd gydag eitemau o ddiddordeb i aelodau ac i bobl sydd â diddordeb mewn chwarae plant, gwaith chwarae a darpariaeth chwarae. Mae nifer y tudalennau gwybodaeth ar y wefan wedi cynyddu fel y mae nifer yr ymwelwyr sy’n lawrlwytho gwybodaeth. • Cyhoeddi cylchgrawn Chwarae dros Gymru bob chwarter. • Cefnogi gwaith Gwaith Chwarae Cymru, y ganolfan genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant gwaith chwarae – cynhyrchu a marchnata llyfryn a thaflen recriwtio gwaith chwarae, datblygu gwefan. • Adolygu a chyhoeddi ffeithddalenni a gwe ddalennau ar amrywiol bynciau yn cynnwys Chwarae a’r Plwg, datganiad safbwynt a briffiad ar ddefnydd gemau cyfrifiadurol mewn darpariaeth chwarae. Mae’n agored i ymwelwyr trwy drefniant. • Golygu, proflennu, rheoli dylunio a chynorthwyo gyda datblygiad deunyddiau hyfforddi gwaith chwarae newydd.
10
Cyhoeddiadau Chwarae a’r Plwg (Mawrth 2009)
• Hyrwyddo chwarae trwy’r cyfryngau – gwnaeth Chwarae Cymru gyfraniad sylweddol o ran cyngor a chyfranogaeth yn nhymor ‘What are We Doing to our Kids?’ BBC Wales. Cynrychiolaeth mewn digwyddiadau cenedlaethol, fel y Diwrnod Chwarae a’r Eisteddfod Genedlaethol – ble y trefnodd y Gwasanaeth Gwybodaeth ddadl yn 2008.
Briff a datganiad safbwynt ar ddefnydd plant o gemau cyfrifiadurol a’u perthnasedd o fewn sefyllfaoedd chwarae.
• Cyfrannu tuag at grŵp llywio a Phecyn Gwybodaeth Diwrnod Chwarae cenedlaethol y DU.
Y Triongl Adnoddau Chwarae - cynyddu cyfleoedd chwarae mewn modd creadigol (Medi 2008)
• Cysylltiad rheolaidd gydag Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad.
Mae’r papur briffio hwn yn tanlinellu’r buddiannau llyfrgelloedd teganau a hamdden, storfeydd sgrap a darpariaeth chwarae symudol - y triongl adnoddau chwarae. Cyhoeddwyd gan Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad â’r National Playbus Association a’r National Association of Toy and Leisure Libraries (NATLL).
• Cyfrannu at gynadleddau a digwyddiadau yng Nghymru ac ar draws y DU. • Cydlynu trefnu cynhadledd 2011 yr IPA. • Rhaeadru cyhoeddiadau: 486 copi o’r Hawl Cyntaf... fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae ac 42 copi o’r Hawl Cyntaf – Prosesau Dymunol •
Amddiffyn Plant: Diogelu ein plant (Gorffennaf 2008)
Seminarau a chynadleddau ar bynciau megis:
- Ysbryd Chwarae Antur, cynhadledd gwaith chwarae genedlaethol
- Seminarau datblygiad proffesiynol yn cynnwys Datblygu’r Gweithlu – Derbyn y Clod, Sgiliau Gweithwyr Chwarae, Dylunio Ardaloedd Chwarae, Re-charge.
Polisi a gweithdrefnau ar gyfer eu mabwysiadu a’u haddasu.
11
Datblygu’r Gweithlu
Mae tîm Datblygu’r Gweithlu, Chwarae Cymru, wedi parhau i gefnogi a chyfrannu tuag at hyfforddiant addysg gwaith chwarae a datblygu’r gweithlu yng Nghymru.
Dros y 12 mis diwethaf mae Chwarae Cymru wedi: • Rhoi cefnogaeth sylweddol i SkillsActive, y cyngor sgiliau sector ar gyfer gwaith chwarae, yn cynnwys trosglwyddo strategaeth y DU – Hyfforddiant o Safon, Chwarae o Safon, a datblygu strategaeth cymhwyster sector ar gyfer gwaith chwarae yng Nghymru. • Trosglwyddo pedwar cyfarfod Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru ar ran SkillsActive. Mynychu cyfarfodydd datblygu ar gyfer Cymwysterau Unedau Cyffredin Gwaith Chwarae gyda SkillsActive. • Cynnal perthynas gref â Phwyllgor Safonau Addysg a Hyfforddiant Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau system gymeradwyo cyfoedion – pedwar cyfarfod y flwyddyn a chyfarfodydd cymeradwyo ychwanegol y flwyddyn yn ddibynnol ar y galw, y rhaglen waith a’r anghenion cefnogaeth. • Cynnal Canolfan Genedlaethol Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae dros Gymru, Gwaith Chwarae Cymru – trosglwyddo dwy Sioe Deithiol, yn cynnwys ymgynghoriad ar strategaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gweithio ar y gwe-blatfform dysgu rhyngweithiol a’r wefan a datblygiad y Gist Arfau Sgiliau Sylfaenol. 12
• Cymorth i Brifysgol Glyndŵr i drosglwyddo llwybr gradd anrhydedd mewn gwaith chwarae. • Trosglwyddo cynhadledd Derbyn y Clod ar ddatblygu’r gweithlu gwaith chwarae wnaeth gynnwys lansio Gwaith Chwarae Cymru, cyflwyno’r ymchwil gweithlu ‘Ble Wyt Ti?’ a chyflwyniad cyntaf o’r gwe-blatfform dysgu rhyngweithiol. • Achredu cyfres Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) o gymwysterau Lefel 2 ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau newydd. Cymhwyso mwy na 200 o ddysgwyr P3. • Parhau i weithio ar ddatblygu cais newydd i Gronfa Gydgyfeirio Ewrop i gefnogi trosglwyddo a datblygu cymwysterau P3 ar Lefelau 2, 3, a 4. • Datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda’r Scottish Qualifications Authority ar gyfer datblygu a throsglwyddo P3 yn y dyfodol. • Dechrau ar y cymhwyster V1, gwobr gwirwyr mewnol, ar gyfer tri unigolyn sydd bellach unai wedi cymhwyso neu’n gweithio tuag at gymhwyster.
P3
13
Adolygiad Ariannol Prif Ffynonellau Ariannu
Yn ystod y flwyddyn derbyniodd Chwarae Cymru ei incwm yn bennaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Loteri FAWR – cytundeb gwasanaeth a ddechreuodd ym mis Awst 2006, y gynhadledd ‘Ysbryd’ flynyddol, amrywiol seminarau, ymgynghoriaeth a chyngor a thâl aelodaeth (daeth i rym 1 Ionawr 2008). Mae’r cyllid craidd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ffynhonnell ariannu o bwys sylweddol, wnaeth sicrhau gweithrediad y rhaglen waith trwy gyflogi staff a’r costau gweithredol cysylltiedig.
Datganiad Arian Wrth Gefn
Mae Chwarae Cymru’n bwriadu cadw lefel arian wrth gefn o o leiaf tri mis o’r gwariant blynyddol, sydd ar hyn o bryd oddeutu £252 o filoedd. Caiff yr arian wrth gefn ei roi o’r neilltu er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y staff a’r aelodau ac er mwyn sicrhau y byddai’r gweithgareddau presennol yn cael eu cynnal pe digwydd cwtogiad sylweddol mewn ariannu. Caiff cyllid cyfyngedig o £(2,547), fel ar 31 Mawrth 2009, eu defnyddio’n ystod y flwyddyn at y dibenion y’i derbyniwyd. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae’r elusen â gweddill digyfyngiad cronedig o £2,913 (2008: £264,361). O’r gweddill hwn mae £23,767 ynghlwm mewn asedau sefydlog, mae £48,000 wedi eu neilltuo mewn cronfa gyflog benodedig fel cyfrif cadw cyflogres. Fodd bynnag, mae’r gweddill digyfyngiad wedi ei nodi ar ôl didynnu atebolrwydd pensiwn o £310,000, nad oes gofyn iddo gael ei setlo ar unwaith. Y cyllid digyfyngiad oedd ar gael i’r elusen (ac eithrio asedau sefydlog, y gronfa benodedig a’r atebolrwydd pensiwn) oedd £241,146 (2008: £276,361).
Polisi Buddsoddi
Mae’r ymddiriedolwyr yn adolygu’r swm y mae’r mudiad ei angen er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol iddo gyflawni ei ddyletswyddau parhaus yn rheolaidd. Ar hyn o bryd mae’r elusen yn mabwysiadu agwedd ofalus tuag at fuddsoddi, gan ddefnyddio polisi risg isel, tymor byr, cyfrif cadw 14 diwrnod sy’n dwyn llog sy’n derbyn tua 3.76 y cant o elw.
14
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol Bydd Chwarae Cymru wastad yn gweithio i hyrwyddo chwarae plant ar bob lefel, yn gweithredu fel eiriolwr dros blant a’u anghenion chwarae ac yn sicrhau y ceir ffocws cenedlaethol strategol ar chwarae ar draws ffiniau. •
Datblygiad parhaus y wefan a datblygu Gwasanaethau Gwybodaeth
•
Cylchgrawn chwarterol
•
Rhaglen o gynadleddau, gweithdai, digwyddiadau a seminarau
•
• Cau posibl swyddfa Gogledd Cymru oherwydd newid mewn ariannu ac anghenion strategol – ceisio trefnu i Swyddog Datblygu Gogledd Cymru gael ei leoli yn Swyddfa’r Comisiynydd Plant ym Mae Colwyn
Cyfrannu at ddatblygiad strategaethau lleol priodol ac ystyrlon, ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, cynnal aelodaeth a hwyluso datblygiad gweithio partneriaeth gyda grwpiau sy’n bodoli eisoes
•
Cyfrannu tuag at a chefnogi gweithredu Chwarae dros Gymru
•
• Datblygiad a throsglwyddiad parhaus deunyddiau hyfforddi a chymwysterau chwarae o safon
Cyfrannu tuag at weithredu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae’r DU
•
Datblygu aelodaeth Chwarae Cymru a chynyddu nifer yr aelodau newydd 20 y cant
• Datblygiad cais am Ariannu Ewropeaidd
•
Cefnogi datblygiad agwedd strategol tuag at drosglwyddo darpariaeth chwarae ar lefel awdurdod lleol, er mwyn galluogi ymatebion priodol a’r ceisiadau ariannu mwyaf effeithlon i raglen Chwarae Plant y Loteri FAWR.
Mae gweithgareddau a gwasanaethau o bwys fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni’r amcanion penodedig yn cynnwys: • Adolygiad o strategaethau 5 mlynedd a 10 mlynedd Chwarae Cymru
• Datblygiad Canolfan Hyfforddiant Genedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae - gan gyfrannu’n strategol at ddatblygiad y gweithlu ar gyfer y sector gwaith chwarae ar draws Cymru
15
IPA 2011
Cafodd Chwarae Cymru ei dewis i gynnal cynhadledd nesaf yr ‘International Play Association’ yng Nghymru yn 2011. Mae’r mudiad yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr i sicrhau y bydd hwn yn ddigwyddiad cofiadwy, diddorol, bywiog a chyffrous. Bydd hwn yn gyfle i ddod â darparwyr chwarae, ymarferwyr, damcaniaethwyr ac ymchwilwyr ynghyd ac i roi llwyfan i’r polisïau a’r gwaith ymarferol sy’n cael ei wneud yng Nghymru. Cynhelir y gynhadledd o Ddydd Llun 4 – Dydd Iau 7 Gorffennaf 2011.
Fe Fydda’ i Yno Yn ystod y flwyddyn gwnaethpwyd cynnydd cyson gyda’r paratoadau ar gyfer croesawu 50ed Cynhadledd Fyd-eang yr IPA yn 2011. Rydym wedi: • • • • • •
archebu’r lleoliad – Neuadd y Ddinas, Caerdydd archebu llety myfyrwyr ar gyfer y cyfranogwyr sefydlu grwpiau ymgynghorol sy’n cynnwys aelodaeth o Gymru, y DU ac yn fyd-eang dechrau gyda’n hymgyrch hysbysebu dechrau chwilio am ariannu ychwanegol penodi cydlynydd cynhadledd o blith ein tîm
Rydym yn edrych ymlaen at gynhadledd fywiog ac ysgogol dros bedwar diwrnod yn 2011 ac at arddangos y gorau y gall Cymru (a’r DU) ei gynnig i blant sy’n chwarae.
16
Tîm Chwarae Cymru Swyddfa Genedlaethol
Strwythur Trefniadol
Kate Barron - Cynorthwy-ydd Gweinyddol Gill Evans - Rheolwraig Cyfathrebiadau Mike Greenaway - Cyfarwyddwr Jane Hawkshaw - Rheolwraig Canolfan Genedlaethol Gwaith Chwarae Cymru Agii Hennessy - Cynorthwy-ydd Cyllid Jacky Jenkins - Rheolwraig Cyllid Michelle Jones - Swyddog Datblygu Marianne Mannello - Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Tillie Mobbs - Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Aled Morris - Cynorthwy-ydd Gweinyddol Kathy Muse - Rheolwraig Swyddfa Sarah Southern - Swyddog Datblygu Richard Trew - Rheolwr Prosiect, Prosiect Hyfforddiant Gwaith Chwarae CWLWM Mel Welch - Cydlynydd Datblygu’r Gweithlu Angharad Wyn Jones - Cydlynydd Cyfathrebiadau
Caiff yr elusen ei gweinyddu gan Y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae’r Cyfarwyddwr yn atebol i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr am reoli’r mudiad o ddydd i ddydd.
North Wales Office
I gofrestru i ddod yn aelod, ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/register.asp
Annette Hennessey - Cydlynydd Gweinyddu a Chyfathrebiadau Martin King-Sheard - Swyddog Datblygu
Aelodaeth Mae Chwarae Cymru’n fudiad aelodaeth. Mae aelodaeth yn agored i sefydliadau ac unigolion o sectorau gwirfoddol, statudol ac annibynnol. Y tâl aelodaeth ar gyfer 2009 yw: Unigol: £10 Sefydliadau – un aelod llawn amser o staff neu lai: £25 Rhyngwladol: £25 Sefydliadau – mwy nag un aelod llawn amser o staff: £50 Masnachol / preifat: £75 Awdurdod Lleol: £100
17
Cysylltwch â ni ... Swyddfa Genedlaethol Chwarae Cymru
Swyddfa Chwarae Cymru yn y Gogledd
Chwarae Cymru Tŷ Baltig Sgwâr Mount Stuart Caerdydd CF10 5FH
Chwarae Cymru Canolfan Busnes Tai Tywyn Sandy Lane Prestatyn Sir Ddinbych LL19 7SF
Rhif Ffôn: (029) 2048 6050 Ffacs: (029) 2048 9359 Ebost: post@chwaraecymru.org.uk
Rhif Ffôn: (01745) 851 816 Ffacs: (01745) 851 517 Ebost: northoffice@playwales.org.uk
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif. 1068926. Cwmni cyfyngedig drwy warant cofrestrwyd yng Nghymru, rhif. 3507258