Awgrymiadau anhygoel ar gyfer arfer myfyriol

Page 1

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer arfer myfyriol

Ar gyfer gweithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant Mae myfyrio’n derm y bydd gweithwyr chwarae’n ei ddefnyddio i ddisgrifio meddwl yn ddwys am yr hyn y byddwn yn ei wneud i wella ein harfer proffesiynol. Mae’n rhan hanfodol o’n dysg beunyddiol a dylid ei ystyried fel datblygiad proffesiynol parhaus. Mae arfer myfyriol yn agwedd strwythuredig sydd, yn y termau symlaf, yn golygu: dynodi’r broblem,
myfyrio ar neu ddadansoddi’r broblem, yna llunio casgliadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Amser myfyrio – Bydd rhai ohonom yn myfyrio wrth wneud tasg arall fel gyrru gartref, ymarfer corff neu ymlacio yn y bath, tra bydd eraill yn elwa o ysgrifennu neu siarad gyda phobl eraill. Bydd deall pryd y mae myfyrio’n dod yn naturiol yn ddefnyddiol i’n helpu i wybod pryd a sut i weithio pethau allan. Peidiwch â gwthio’r mater – Rydym yn dueddol o hoffi myfyrio trwy un ai siarad, ysgrifennu, tynnu llun neu fynegi, felly bydd defnyddio ein hoff ddulliau’n ein helpu i fyfyrio’n haws. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhaid i weithiwr chwarae y mae’n well ganddynt siarad trwy bethau ysgrifennu rhywbeth i lawr yn y pen draw, ond mae’n bosibl mai cofnodi canlyniadau’r arfer myfyriol fydd hynny yn hytrach na’r broses fyfyrio ei hun. Gweithio fel tîm – Dylai arfer myfyriol gael ei feithrin yn ein timau, felly bydd angen inni sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer myfyrio un-i-un ac fel grŵp. Gallai hyn fod trwy gyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio cefnogol neu’n anffurfiol trwy gydol yr wythnos waith. Bod yn ffrind beirniadol – Y nod yw helpu eraill i gwestiynu eu harfer, eu penderfyniadau a’u gweithredoedd yn feirniadol, tra’n bod yn gefnogol ac yn llawn dealltwriaeth. Gofyn cwestiynau ‘beth pe bae’ a ‘pham’ – Bydd y mathau hyn o gwestiynau agored yn ein helpu i ymchwilio i agweddau gwahanol posibl.

Cadw meddwl agored – Er mwyn dadansoddi ein llwyddiannau a’n methiannau’n feirniadol bydd angen inni fod yn agored i syniadau newydd neu ffyrdd gwahanol o ystyried pethau. Bydd meithrin diwylliant yn llawn ymddiriedaeth o fewn ein tîm yn cefnogi hyn. Gweithredol neu oddefol? – ‘Myfyrio gweithredol’ yw pan fyddwn yn neilltuo amser er mwyn meddwl o ddifrif am broblem trwy fynd ati’n weithredol i fwydo’r broses feddwl. Mae ‘myfyrio goddefol’ yn cyfeirio at pan fyddwn yn myfyrio heb wir ystyried y peth a phan fydd meddyliau ac atebion yn ymddangos o unman. Yn ymarferol, mae’r ddau fath yma o fyfyrio’n ddefnyddiol felly, weithiau, mae’n bosibl y bydd angen inni neilltuo amser i feddwl o ddifrif am broblem, tra i eraill efallai y bydd yn fwy effeithiol i ganiatáu i feddyliau lifo’n rhydd mewn ffordd sy’n fwy synfyfyriol. Archwilio damcaniaethau a’n credau craidd – Bydd y rhain yn dylanwadu ar sut y byddwn yn ymddwyn, felly mae’n hanfodol inni eu hystyried yn ein myfyrdodau. ARFER myfyriol ydi o – Heb ganlyniad pendant ’dyw’n ddim mwy na meddwl am y broblem. Dylai ein harfer myfyriol wastad arwain at ganlyniad – er enghraifft gwneud nodyn meddyliol i wneud pethau’n wahanol o hyn ymlaen, mynychu hyfforddiant i’n helpu gyda’n rolau, ychwanegu mater i agenda cyfarfod o’r tîm, diweddaru asesiad risg-budd neu drafod datrysiadau seiliedig ar arfer gyda’n tîm.

www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant cofrestrwyd yng Nghymru, rhif 3507258.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.