Awgrymiadau anhygoel: Gwaith chwarae a coronafirws
Ar hyd a lled Cymru, mae gweithwyr chwarae yn dod i delerau gyda gweithio mewn ffordd wahanol i gefnogi chwarae plant. Efallai bod gennych ymdeimlad o golled a galar, a’ch bod yn colli’r plant yr ydych yn eu hadnabod ac yn gweithio gyda nhw. Efallai eich bod yn poeni am yr holl blant oedd yn defnyddio eich gwasanaeth. Dydych chi heb gael fawr o amser i baratoi a chynllunio ar gyfer hyn, ond byddwch am weithio allan sut y gallwch gefnogi plant yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Dyma rywfaint o awgrymiadau i’ch helpu 1. Glynwch at yr Egwyddorion Gwaith Chwarae Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n datgan bod chwarae’n anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol. Dylai eich rôl chi fel gweithiwr chwarae ddal olygu myfyrio ar yr Egwyddorion Gwaith Chwarae er mwyn eiriol dros a chefnogi plant i greu mannau ble y gallant chwarae – hyd yn oed os nad ydych yn gweithio â nhw wyneb-yn-wyneb bellach. Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae yw’r sail foesegol ar gyfer ein proffesiwn ac maent yn berthnasol, hyd yn oed pan ydym yn cefnogi chwarae plant mewn gwahanol gyd-destun. 2. Eiriolwch dros chwarae Gallwch fynd ati’n weithredol i atgoffa pobl yn y gymuned – rhieni a’r rheini sy’n dal i weithio gyda phlant – yn ystod cyfnodau’n llawn ansicrwydd, bod chwarae: • yn helpu i roi ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd i blant yn ystod profi colled, unigrwydd a thrawma • yn helpu plant i oresgyn poen emosiynol ac adennill rheolaeth dros eu bywyd • yn helpu plant i ennill dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a’u galluogi i brofi hwyl a mwynhad
• yn cynnig cyfle i blant archwilio eu creadigedd eu hunain. 3. Cadwch mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau Chwiliwch beth sy’n digwydd yn eich hardal chi ac ewch ati i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r awdurdod lleol neu’r darparwr lleol i roi gwybod iddynt sut y gallwch chi helpu. Os ydych chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, mae’n bosibl bod gennych wybodaeth bwysig ynghylch pwy sydd fwyaf bregus yn y cymunedau yr ydych yn gweithio ynddynt. Rydych mewn sefyllfa dda i sicrhau bod yr hawl i chwarae’n cael ei chydnabod ac i atgoffa pobl bod angen inni wneud yn siŵr nad yw hyn yn cael ei golli na’i sathru dan flaenoriaethau eraill yn ystod adegau’n llawn ansicrwydd. 4. Meddyliwch am adnoddau Gwnewch gyfrif o’ch stoc yn eich pen. A oes gennych ddeunyddiau neu offer sbâr allai fod o ddefnydd i ysgolion a lleoliadau eraill? A oes gennych adnoddau allai helpu plant pan maent yn treulio amser dan do? Bydd pethau fel pennau ysgrifennu, creonau, sialc, papur, cerdyn, sisyrnau yn annog creadigedd neu’n helpu gyda thasgau ysgol a byddant o ddefnydd mawr i lawer o blant ar hyn o bryd.
5. Cadwch mewn cysylltiad gyda theuluoedd Bydd gan nifer ohonoch bresenoldeb byw ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae rhieni’n cael eu peledu gyda gwybodaeth am dasgau addysgol a gweithgareddau dan do. Mae rŵan yn amser da i weithwyr chwarae eiriol dros chwarae plant drwy ganolbwyntio ar negeseuon sy’n seiliedig ar chwarae. Edrychwch ar wefan Plentyndod Chwareus am ysbrydoliaeth a gwybodaeth parod i’w defnyddio. www.plentyndodchwareus.cymru 6. Neilltuwch amser ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus Mae holl gyhoeddiadau Chwarae Cymru ar gael ar ein gwefan ac mae rŵan yn amser da i ail-ymgyfarwyddo gyda’r ystod eang o becynnau cymorth, awgrymiadau anhygoel a thaflenni gwybodaeth yr
ydym wedi eu cynhyrchu ar gyfer y sector gwaith chwarae. Yn ogystal, bydd adran Newyddion ein gwefan yn cyfeirio at yr holl ddatblygiadau diweddaraf. 7. Meddyliwch am y dyfodol Darllenwch becyn cymorth Access to play for children in situations of crisis, y gwnaeth Chwarae Cymru ei gyd-ysgrifennu gyda’r International Play Association (www.ipaworld.org). Rydym yn rhannu hwn gydag ysgolion a darparwyr gofal plant sydd, ar hyn o bryd, yn cefnogi’r ymateb cydweithredol i coronafirws. Bydd yn ddefnyddiol hefyd er mwyn mynd i’r afael â’r niwed posibl y mae ynysu cymdeithasol a chorfforol yn ei achosi. Bydd yn ein helpu i gefnogi plant i ymddiried yn eu cymdogaethau ac i ddefnyddio eu hoff fannau pan fydd pethau’n dechrau dychwelyd i normal.
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926