Chwarae a'r blynyddoedd cynnar

Page 1

Chwarae a’r blynyddoedd cynnar: genedigaeth i saith oed


Mae Cerys, sy’n naw mis oed, yn eistedd yn ei chadair uchel yn gollwng ei llwy, ei chwpan a’i dysgl ar lawr drosodd a throsodd gan wichian mewn llawenydd wrth i’w brawd pum mlwydd oed, Rhys, eu codi’n ôl iddi.

Mae Gethin, sy’n bedair oed, wedi casglu cerrig yn yr ardd ac mae’n canolbwyntio ar eu pentyrru’n uchel ar ben ei gilydd, dim ots sawl gwaith y mae’r ‘tŵr’ yn cwympo i lawr. Mae’n gwenu’n dawel bob tro y mae’n gosod carreg yn ei lle.

Mae Ishan, sy’n ddwy oed, yn gyrru ei gar bach i fyny ac i lawr a rownd a rownd y llwybr yn y parc, gan wneud gwahanol synau sy’n cynrychioli injian, brecio a seiren ambiwlans.

Mae Sunita, sy’n chwemlwydd oed, a’i ffrind Jeni, sy’n saith, yn defnyddio cist o ddillad gwisgo i fyny i actio stori y maent wedi ei chreu am ddoctoriaid a nyrsys.

Beth mae’r plant yma’n ei wneud? Chwarae, wrth gwrs! Ond beth mae hynny’n ei olygu a sut allwn ni ei adnabod? A yw chwarae’n bwysig i blant ac, os felly, sut allai oedolion ysbrydoli a chefnogi chwarae? Beth yw chwarae?

Awydd

Bydd pob un ohonom yn adnabod chwarae pan y byddwn yn ei weld, oherwydd mai un agwedd o chwarae yw ei fod yn ymddygiad y gellir ei arsylwi. Mae hefyd yn awydd ac yn broses1. Wrth arsylwi chwarae, gallwn weld ei fod yn cael ei ysgogi’n gynhenid – o’r tu mewn i’r plentyn – ac yn hunanbenderfynedig2. Mewn chwarae, mae popeth yn bosibl ac yn aml caiff realiti ei anwybyddu a bydd dychymyg a meddwl sy’n llifo’n rhydd yn cael blaenoriaeth3.

Mae’n amlwg bellach fod gan chwarae ran anferth i’w chwarae wrth ddatblygu awydd neu agweddau plant tuag at ddysgu, a pha mor agored y maent i ystod o brofiadau5. Mae dysgu’n bwysig i bob creadur ifanc ond elfen sydd yr un cyn bwysiced yw datblygiad awydd cadarnhaol ymysg plant tuag at ddysgu, sy’n golygu dysgu sut i ddysgu ac i ymdopi â ‘pheidio â gwybod’ rhywbeth am gyfnod digonol heb golli hyder. Bydd hyn yn ddefnyddiol iawn iddynt pan fyddant yn oedolion, pryd y mae’n bur annhebyg y bydd pethau’n rhedeg yn gwbl llyfn a heb unrhyw fath o heriau! Mae awydd i wneud pethau’n rheoli’r modd y byddwn yn chwarae a dysgu trwy ein bywyd fel oedolion.

Mae chwarae’n broses hynod o greadigol, sy’n defnyddio’r corff a’r meddwl; mae’n hyblyg ac, yn aml, yn rhydd o unrhyw nodau allanol (er y bydd plant yn aml yn creu’r rhain eu hunain). Mae’n cael effaith cadarnhaol, sy’n aml yn bleserus, ar y chwaraewyr ac mae’n galw am lawer o ymroddiad a lefel dyfn o ddysg4. Bydd chwarae’n datblygu ac yn newid dros amser, fel y gwelwn yn y gwahanol olygfeydd uchod, o weithredoedd a lleisio syml, ailadroddus a phleserus, i brosesau hynod ddeallusol a chydweithrediadol. Yn fwy na dim, mae chwarae’n cynnig rhyddid, dewis a rheolaeth i blant dros rai agweddau o’u bywydau, profiadau sy’n ddigon prin iddynt mewn byd gaiff ei arwain, yn anochel, gan oedolion. Mae chwarae’n gyd-destun ble y caiff lleisiau’r plant eu clywed yn gwbl eglur.

Mae’r awydd i chwarae’n reddfol, fel y mae’r awydd i ddysgu. Mae’r cyswllt rhwng y ddwy elfen yma’n hynod o ddiddorol ac yn peri inni feddwl, ond mae’n gwbl amlwg wrth arsylwi plant yn chwarae. Mae awydd cadarnhaol Gethin i ddysgu sut i bentyrru cerrig (uchod) yn cynnwys o leiaf dair elfen: academaidd (casglu gwybodaeth); deallusol (dadansoddi, datrys problemau); a chymdeithasol / emosiynol (hunanddisgyblaeth). ‘Mae chwaraegarwch yn awydd pwysig iawn sy’n cynorthwyo gyda dysg plant’6 ac mae’n elfen reddfol yn ogystal ag yn un y gellir ei dysgu.


Chwarae fel proses Mae dysgu’n broses y bydd pob un ohonom yn mynd trwyddi trwy gydol ein hoes; er y byddai’n ddefnyddiol iawn i gael disgrifiad eglur ac unigryw o’r hyn y mae dysgu’n ei olygu, mae prosesau o’r fath yn tueddu i herio unrhyw ddiffiniad pendant oherwydd eu cymhlethdod. Gallwn gredu ein bod wedi dysgu rhywbeth un funud, dim ond i’r dysg hwnnw gael ei gwestiynu a’i newid gan y darn nesaf o wybodaeth. Mae pob proses yn destun newid parhaus, sy’n gwneud dysgu a chwarae mor fyrhoedlog. Mae’r broses ddysgu’n un gynyddol, yn enwedig i blant, sy’n golygu ein bod yn adeiladu ar yr hyn yr ydym yn gallu ei wneud ac yn ei wybod eisoes: mae chwarae’n brofiad allweddol sy’n cefnogi dysg o’r fath ac sy’n cynnig cip i arsyllwyr ar lefelau dealltwriaeth a sgiliau plant. Ond wedyn, y cyfan y gallwn ei wneud yw archwilio elfennau posibl y broses o chwarae, ac yna ‘cysylltu’r smotiau’ er mwyn gwneud synnwyr o chwarae a dysgu plant ifainc.

symbolau9. Mae dysgu’n golygu creu synnwyr o fyd sy’n gallu bod yn gymhleth ar brydiau, a cheir cysylltiadau clir rhwng chwarae a’r synnwyr y bydd plant yn ei ffurfio, er enghraifft, defnyddio marciau fel math o ysgrifennu a mathemateg ysgrifenedig cynnar10 mewn mwd neu dywod neu ar bapur. Fel y dywed David Elkind: ‘Nid moeth mo chwarae ond yn hytrach mae’n elfen allweddol o ddatblygiad corfforol, deallusol a chymdeithasol-emosiynol iach i bob oedran’11.

Mae’r broses o chwarae’n cwmpasu cymaint o wahanol elfennau; bydd awgrymu bod dim ond un agwedd yn chwarae’n gwarafun ystod eang o elfennau eraill sydd hefyd yn cynrychioli elfen o chwarae – yn enwedig i blant. Ac yna ceir chwaraegarwch, gaiff ei ddatgelu’n aml ar ffurf hiwmor wrth i’r plant ddatblygu o ran aeddfedrwydd ac, wrth gwrs, mae’n arwydd o chwaraegarwch mewn llawer o oedolion, h.y. chwarae â geiriau a meddyliau7. Mae’n ddefnyddiol weithiau i feddwl am chwarae ochr yn ochr â chwaraegarwch, yn enwedig fel oedolion sy’n anelu i gynorthwyo a rhyngweithio mewn chwarae plant ifainc.

Mae chwarae’n sail i ddatblygiad holistig plant gan ei fod yn cynnig sail cadarn, diogel ar gyfer archwilio, ymchwilio, dehongli a gwerthuso’r byd y byddant, fel babanod, yn cael eu taflu i mewn iddo12. Trwy eu dealltwriaeth cynyddol o’u byd personol, bydd plant yn graddol ddatblygu eu ymdeimlad o hunanddelwedd a hunanbarch. Mae’n wybyddus y bydd plant sydd, am ba bynnag reswm sy’n ymwneud ag iechyd ac amgylchiadau, yn cael eu hamddifadu o gyfleoedd i chwarae, yn gyffredinol yn datblygu’n llai effeithiol ond yn arbennig yn eu hymdeimlad o’r hunan, yn ogystal ag yn gorfforol13.

Mae chwarae pur8 – y chwarae y bydd y plentyn a’i gyd-chwaraewyr dethol ei hun yn rhan ohono – yn ‘bur’ yn yr ystyr ei fod heb ei effeithio gan ymyriadau neu gyfarwyddyd gan unrhyw un ar wahân i’r plant. Pan fo oedolion yn ceisio ymuno mewn chwarae plant, bydd angen iddynt wneud hynny mewn modd chwareus os ydynt am gael cipolwg ar feddwl a gweithredoedd plant wrth chwarae.

Chwarae a datblygiad plant Mae’n wybyddus bellach bod chwarae’n creu’r profiadau diriaethol, uniongyrchol sy’n sail i lawer o ddatblygiad plentyn, yn cynnwys meddwl haniaethol a gallu’r plentyn i ddefnyddio

Yn y cyfnod hwn o bryder cynyddol ynghylch gordewdra mewn plant, mae chwarae hefyd yn cynnig cyfle i blant ddefnyddio eu egni a’u sgiliau corfforol cynyddol14. Mae amgylcheddau chwarae awyr agored ac Ysgolion Coedwig yn cynnig cyfleoedd fel hyn, sydd wedi profi eu bod yn effeithiol. Bydd cymryd risg mewn amgylcheddau awyr agored naturiol ac amgylcheddau agored eraill hefyd yn galluogi plant i ddysgu sut i ymddiried yn eu hunain, ac eraill, ac mae’n cyfrannu at eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol15. Fel pob math o chwarae, mae chwarae seiliedig ar risg yn anodd i’w grynhoi mewn damcaniaeth ond mae’n hanfodol ar gyfer lles cyffredinol plant ifainc.


© New Model Army Photography

Mae plant tair i saith mlwydd oed angen llawer o gyfleoedd i wthio eu hunain y tu hwnt i’w ffiniau arferol mewn amgylcheddau cyfarwydd. Mae’n ymddangos bod llawer o ysgolion ac ystafelloedd dosbarth wedi troi’n fannau sydd ofn risg ac, felly, mae’n hanfodol bod plant yn teimlo bod ganddynt berchenogaeth o fannau a lleoliadau awyr agored er mwyn hybu eu datblygiad a’u lles cyffredinol16. I lawer o blant, mae’n bosibl y byddant angen cefnogaeth wrth gael eu cyflwyno i amgylcheddau sy’n cynnig cyfleoedd chwarae eang o’r fath, pryd y byddant yn wynebu mannau agored eang ac yn cael rhyddid i chwarae a chrwydro. Gall chwarae hefyd hyrwyddo datblygiad sgiliau datrys anghydfodau mewn plant ifainc wrth iddynt drafod rolau a chynllunio, fel yn y senario gyda Sunita a Jeni. Mae gan chwarae hynod gymdeithasol a chydweithrediadol, fel chwarae cymdeithasol-ddramatig, gysylltiadau cwbl eglur â dysg, cynnydd a ffurfio cymeriad17. Mae plant sy’n adnabod eu hunain yn dda yn fwy tebyg o fod yn anhunanol ac yn fwy parod i ofalu am eraill yn eu chwarae ac yn eu bywyd. Er enghraifft, mae profiadau chwarae gwyllt yn hanfodol i blant ddysgu annibyniaeth ac maent yn sgiliau angenrheidiol iddynt allu ymgysylltu’n llawn â’r perthnasau cymdeithasol cymhleth sy’n sail i gymdeithas oedolion18.

Mae chwarae cymdeithasol yn ymddygiad esblygedig ac mae’n bwysig ar gyfer perthnasau ymreolus, cymhleth sydd, yn eu tro, yn arwain at hunanadnabyddiaeth a chymhwysedd cymdeithasol mewn bodau dynol, yn ogystal ag anifeiliaid19. Mae

cysylltiad agos iawn rhwng datblygiad emosiynol a dirnadol, a chwarae. Bydd plant sy’n mwynhau sefyllfaoedd chwarae’n arddangos mwy o dystiolaeth o ddoniau datrys problemau, dychymyg a chreadigedd. Mae plant sy’n mwynhau tasgau chwareus y maent wedi eu dyfeisio eu hunain yn arddangos lefelau uwch o hunanddisgyblaeth dirnadol sydd, yn ei dro, yn arwain at lefelau dyfnach o feddwl a dealltwriaeth20.

Datblygiad ymenyddol a dirnadol Tra bo diffinio gwerth chwarae wedi profi’n anodd hyd yma21, mae digon o waith ymchwil wedi ei gynnal i ddangos bod amrywiol elfennau chwarae’n allweddol i blentyn ar ei brifiant. Er enghraifft, ceir tystiolaeth cynyddol o werth a phwysigrwydd profiadau chwarae i ddatblygiad dirnadol plant, sy’n ymwneud yn arbennig â symbyliad priodol a hyblygrwydd ymenyddol22. Mae ymennydd plant yn ‘hyblyg’, yn enwedig rhwng eu geni a phum mlwydd oed, sy’n golygu y gallant newid, addasu a thyfu ond fydd hyn ond yn digwydd yn effeithlon gyda’r mathau cywir o


symbyliad. Credir y caiff yr hyblygrwydd yma ei gyfoethogi gan chwarae, gan fod pob ymennydd yn ymateb i newydd-deb a bydd gwreiddioldeb o’r fath yn codi’n aml mewn cyd-destunau chwareus, yn enwedig ar gyfer babanod y teulu, fel y gwelwn gyda Cerys yn yr enghraifft uchod. Mae chwarae’n galluogi’r ymennydd i dderbyn gwybodaeth mewn ffyrdd ystyrlon ac yn amser pob plentyn unigol, gan herio eu meddyliau heb greu unrhyw straen o gwbwl. Awgrymodd Meade y bydd plant, tra’n chwarae, yn ‘arddangos lefelau uchel o ysgogiad. Mae emosiwn, meddwl a gweithrediad mewn cytgord llwyr – mae’r system ddynamig, sef yr ymennydd, yn gytbwys’23.

Mae chwarae’n bwerus Mae chwarae’n bwerus oherwydd ei fod yn dysgu llawer o sgiliau a rhinweddau i blant ifainc yn cynnwys hunanysgogiad, annibyniaeth ac ymreolaeth, rheolaeth dros eu gweithredoedd a’u meddyliau eu hunain, dyfalbarhad, hyder, cymhwysedd a’r ddawn i ymdopi â heriau. Mae’n dysgu nodweddion fel hyblygrwydd a chreadigedd ac yn sicrhau bod plant yn meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu ac yn defnyddio gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaethau newydd; rhywbeth sy’n ofyniad gan holl gwricwla plentyndod cynnar24. Fel y dywed Moyles: ‘Yn ogystal â bod yn llawer o hwyl mae chwarae, yn ei holl ffurfiau, yn llwyfan cadarn ar gyfer dysg plant: mae’n galluogi metaddirnadaeth (dysg ynghylch sut i ddeall dysg a chwarae personol). Mae’n caniatáu plant i … ymarfer, adolygu, ail-chwarae ac ail-ddysgu … Mae’n eu rhyddhau rhag pryderu am wneud pethau’n anghywir ac yn rhoi hyder iddynt roi tro ar ddulliau eraill. Bydd plant yn dysgu i ffurfio eu hunaniaeth personol a’u lle yn nhrefn pethau trwy chwarae, yn enwedig chwarae cymdeithasolddramatig … mae chwarae’n galluogi plant i ddysgu beth yn union yw dysgu – a dylai bob amser fod yn – foddhaus, heriol ac o fudd personol. Dyma’r nodwedd allweddol os ydym i fagu dysgwyr, a dinasyddion, hapus a chytbwys ar gyfer y dyfodol.’25 Golyga hyn fod plant angen oedolion myfyriol o’u hamgylch i’w cefnogi yn eu mentrau (a’u anturiau) chwareus.

Rolau oedolion, eiriolaeth a chynnal hawliau plant Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae26 waeth beth fo’u anghenion unigol neu arbennig, anabledd, iaith, diwylliant, cefndir, rhyw neu ymddygiad. Er mwyn i bob plentyn allu chwarae yn ei ffordd ei hun bydd rhaid ystyried ei anghenion a’i natur unigol. Fydd trin plant yn gyfartal ddim yn golygu eu trin yr un fath! Yn aml, bydd y treftadaethau diwylliannol cyfoethog sydd gan blant yn dod i’r amlwg yn eu chwarae. Mae arferion chwareus sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o ddiddordebau a dealltwriaeth diwylliannol unigol pob plentyn yn allweddol ym mhob cyd-destun blynyddoedd cynnar27. Mae rhaid i oedolion arsylwi a gwrando ar blant yn chwarae a dysgu oddi wrthynt am y modd gorau i gefnogi eu datblygiad. Mae angen i oedolion fod, ac annog plant i fod, yn eiriolwyr dros chwarae, a golyga hyn ddeall cymaint â phosibl ynghylch pam a sut y bydd plant yn chwarae a’r sensitifrwydd y bydd oedolion eu hangen i ryngweithio mewn chwarae a phrofiadau chwareus. Bydd parchu ac ymddiried mewn plant yn galluogi oedolion i ddeall pwer chwarae yn eu dysg eu hunain ac i chwarae rôl arweiniol28. Bydd deall potensial cynhenid chwarae ar gyfer plant yn galluogi oedolion i gynnal hawl plant i chwarae a’r buddiannau i gymdeithas o ddysgu sy’n seiliedig ar chwarae. Mae angen i bobl sydd ynghlwm â gwaith chwarae ac addysgu, er enghraifft, feddwl am chwarae a chwaraegarwch os ydynt i’w gosod eu hunain ochr yn ochr â’r plant fel chwaraewyr. Mae’n gwbl hanfodol mai rhyngweithio, yn hytrach nag ymyrryd, yw’r norm, a hynny dim ond ar ôl cyfnod o arsylwi fel bod y chwarae, y chwaraewyr a’r cyd-destun wedi eu deall yn drylwyr. Bydd plant yn ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym pan fo oedolion yn cyfleu eu bod yn derbyn chwarae. Er enghraifft, mae’n wybyddus y bydd plant y mae chwarae’n elfen rheolaidd a boddhaus o’u bywyd, yn cwblhau tasgau dan arweiniad athro yn yr ystafell ddosbarth yn gyflymach o lawer29.


Sylw i gloi Yn debyg iawn i’r modd y bydd chwyn yn parhau i dyfu’n gryf yn yr ardd waeth beth bynnag a wnawn, bydd plant yn tyfu trwy chwarae: mae’n elfen gynhenid ac anochel. Fel y dywed David Kuschner ‘… mae grym bywydol chwarae’n anodd i’w ddiffodd30 ac rydym yn wirioneddol am ei gadw’n fyw, er mwyn pob un o’n plant ifainc chwareus.’

1 Howard, J. a McInnes, K. (2010) Thinking through the challenge of a play-based curriculum: Increasing playfulness via co-construction. Yn J. Moyles (gol.) Thinking About Play: Developing a Reflective Approach. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 2 Moyles, J. (2008) Empowering children and adults: play and child-initiated learning. Yn S. Featherstone a P. Featherstone (gol) Like Bees not Butterflies. Llundain: A & C Black. 3 Bruce, T. (2011) Cultivating Creativity: for babies, Toddlers and Young Children. Llundain: Hodder. 4 Pelligrini, A. (2009) The Role of Play in Human Development. Efrog Newydd a Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. 5 Ros-Voseles, D. a Fowler-Haughey, S. (2007) Why Children’s Disposition Should Matter to All Teachers. NAEYC Beyond the Journal: Young Children on the Web. Ar gael ar lein ar: http://www.naeyc.org/files/yc/ file/200709/DaRos-Voseles.pdf (agorwyd 19 Mawrth, 2013). 6 Thomas F. a Harding, S. (2011) The role of play: play outdoors as the medium and mechanism for well-being, learning and development. Yn J. White (gol.) Outdoor Provision in the Early Years. Llundain: Paul Chapman (td 13-14). 7 Loiz Loizou, E. (2005) Humor: a different kind of play. European Early Childhood Education Research Journal, 13(2): 97-109. 8 Moyles, J. (2010) Practitioners Reflection on Play and Playful Pedagogies. Yn J. Moyles (gol.) Thinking About Play: Developing a Reflective Approach. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 9 Bowman et al. 2000. 10 Worthington, M. a Carruthers, E. (2011) Understanding Children’s Mathematical Graphics: Beginning in Play. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 11 Elkind, D. (2008) The Power of Play: How spontaneous, imaginative activities lead to happier, healthier children. Cambridge, MA: De Capo Press (td 4).

12 Sunderland, M. (2007) What Every Parent Needs to Know: The Incredible Effects of Love, Nurture and Play on Your Child’s Development. Llundain: Dorling Kindersley. 13 Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change: Play Policy and Practice: A Review of Contemporary Perspectives. Llundain: Play England (td 12). 14 Knight, S. (2013) Forest School and Outdoor Learning in the Early Years (2e). Llundain: Sage. 15 Sandseter, E. a Kennair, L. (2011) Children’s risky play from an evolutionary perspective: The antiphobic effects of thrilling experiences. Evolutionary Psychology, 9(2): 257-284. 16 Tovey, H. (2007) Playing Outdoors. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 17 Broadhead, P. a Burt, A. (2011) Understanding Young Children’s Learning Through Play. Llundain: Routledge. 18 Jarvis, P. a George, J. (2010) Thinking it through: rough and tumble play. Yn J. Moyles (gol.) Thinking About Play: Developing a Reflective Approach. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 19 Smith, P.K. (2011) Developing Emotional Intelligence and Social Awareness. Yn P. K. Smith, H. Cowie ac M. Blades Understanding Child Development (5e). Chichester: Wiley. 20 Whitebread, D. a Coltman, P. (2008) Teaching and Learning in the Early Years (3e). Llundain: Routledge. 21 Moyles, J. (2010) Cyflwyniad. Yn J. Moyles (gol.) The Excellence of Play (3e). Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 22 Brown, S. gyda Vaughan, C. (2010) Play: How it Shapes the Brain, Opens the Imagination and Invigorates the Soul. Efrog Newydd: Penguin. 23 Meade, A. (2001) One hundred billion neurons: how do they become organised? Yn T. David (gol.) Promoting Evidence-based Practice in Early Childhood Education: Research and its Implications. Llundain: JAI / Elsevier Science.


24 Llywodraeth Cynulliad Cymru: Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (2008) Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru. 25 Moyles, J. (2009) Play – The powerful means of learning in the early years. Yn S. Smidt (gol.) Key Issues in Early Years Education (2e). Llundain: Routledge (td 28). 26 Y Cenhedloedd Unedig (1989) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Ar gael ar-lein ar: http://www.unicef.org.uk/UNICEFsWork/Our-mission/UN-Convention/ (agorwyd 21 Mawrth, 2013).

27 Kalliali, M. (2005) Play Culture in a Changing World. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 28 Goouch, K. (2010) Permission to Play. Yn J. Moyles (gol.) The Excellence of Play (3e). Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored. 29 Howard, J. (2009) Play, learning and development in the early years. Yn T. Maynard ac N. Thomas (gol) An Introduction to Early Childhood Studies. Llundain: Sage. 30 Kuschner, D. (2012: 104) What is the state of play? International Journal of Play. 1(1): 103–104.


Mawrth 2013 © Chwarae Cymru

Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan Janet Moyles ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.