Chwarae a risg
Pwyso a mesur risgiau a buddiannau mewn chwarae plant: Pam fod angen agwedd gytbwys, a beth yn union yw hynny Amcanion a chynulleidfa Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i amlinellu pam fod angen agwedd gytbwys, feddylgar tuag at reoli risgiau mewn chwarae plant. Mae’n anelu hefyd i gynnig trosolwg o asesu risgbudd, y mae llawer yn cydnabod sy’n agwedd addas. Mae’r daflen wybodaeth hon wedi ei anelu at bob un sydd â diddordeb mewn chwarae plant, yn cynnwys addysgwyr, gweithwyr chwarae, darparwyr a rheolwyr cyfleusterau chwarae, gweithwyr iechyd a diogelwch proffesiynol, rheolwyr risg, llunwyr penderfyniadau a rhieni.
Pam fod risg yn bwysig mewn chwarae plant? Mae gan blant o bob oed a gallu ysfa naturiol i chwarae. Yn ogystal, mae chwarae’n dda i blant. Mae Polisi Chwarae (2002) Llywodraeth Cymru’n nodi fod gan blant ‘awydd greddfol i chwarae’ a bod chwarae’n ‘hanfodol i’r broses o ddysgu a thyfu’. Pan fydd plant yn chwarae, bydd eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn elwa hefyd. Pryd bynnag y bydd plant yn chwarae, maent yn teimlo cymhelliad greddfol i symud ymlaen o’r hyn sy’n arferol a chyfarwydd – ac o’r herwydd yn ddiflas – i’r hyn sy’n ddieithr, ansicr a deniadol. Mae’r Polisi Chwarae yn nodi hefyd: ‘mae gan blant awydd greddfol i chwilio am gyfleoedd i gymryd risgiau cynyddol.’ Pur anaml y gellir dileu risgiau’n llwyr heb danseilio profiadau’r plant ar yr un pryd. Bydd llawer o blant a phobl ifainc yn mynd ati’n weithredol i chwilio am brofiadau chwarae anturus, cyffrous. Efallai y bydd darparu cyfleoedd chwarae heriol mewn amgylcheddau wedi eu rheoli’n helpu i leihau damweiniau’n gyffredinol, oherwydd y gallant ddigwydd mewn lleoliadau sy’n ddiogel rhag traffig a pheryglon difrifol eraill. Mae gan blant anabl yr un angen, os nad mwy o angen, am gyfleoedd chwarae anturus, gan ei bod yn bosibl nad ydynt yn cael y rhyddid dewis y mae eu
cyfoedion heb anabledd yn ei fwynhau. ’Dyw hi’n ddim syndod bod plant yn aml yn cael mân ddamweiniau wrth chwarae. Yn ogystal, ’dyw mân-anafiadau sy’n gwella’n gyflym mewn amgylcheddau chwarae ddim, o reidrwydd, yn broblem. I ddweud y gwir maent yn gwbl anochel, yn enwedig mewn darpariaeth anturus, heriol. Ond wedi dweud hynny, mae meysydd chwarae o bob math yn fannau cymharol ddiogel ac mae chwarae ar feysydd chwarae’n fwy diogel na chymryd rhan mewn llawer o chwaraeon neu weithgareddau hamdden eraill.
Beth sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith? Yn gyffredinol, caiff meysydd chwarae a darpariaeth chwarae eraill eu rheoli gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, a Deddfau Atebolrwydd Deiliaid 1957 a 1984. Mae’r Deddfau hyn yn gosod dyletswydd gofal ar ddarparwyr a deiliaid. Mae’r deddfwriaethau hyn, a rheoliadau cysylltiedig, yn cyfleu lefel tebyg o ofal, a amlinellir gan y cysyniad o ‘resymoldeb’. Mae Deddf Atebolrwydd Deiliaid 1957 yn datgan hefyd bod ‘rhaid i ddeiliaid fod yn barod i blant fod yn llai gofalus nag oedolion.’ Fodd bynnag, dengys dyfarniadau o’r llysoedd nad yw’r llysoedd yn ystyried bod plant yn ddiofal, anghymwys neu fregus mewn unrhyw synnwyr absoliwt. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ddileu neu leihau risg, hyd yn oed ble fo plant
dan sylw. Mewn gwirionedd, mae disgwyl i ddarparwyr gynnal ‘asesiad risg addas a digonol’, ac i weithredu ar y canfyddiadau. Nid oes unrhyw ofyniad statudol i gydymffurfio â chanllawiau neu â safonau diwydiannol, er y dylid ystyried gwybodaeth berthnasol bob amser, fel un rhan o asesiad risg addas a digonol.
Pam fod angen agwedd gytbwys? Mae rheoli risgiau mewn amgylcheddau chwarae’n dasg gymhleth. Mae’n wahanol iawn i reoli risg mewn cyd-destunau eraill fel ffatrïoedd neu weithleoedd. Mewn mannau fel hyn, pur anaml y bydd gan beryglon – pethau all, o bosibl, achosi niwed – unrhyw fuddiannau cynhenid. O’r herwydd, mae rheoli risg yn canolbwyntio’n llwyr ar yr angen i gyflwyno camau rheoli fydd yn lleihau’r risg o niwed i lefel dderbyniol. Ond mewn cyd-destun chwarae, bydd wynebu rhywfaint o risgiau’n fudd ynddo’i hun. Dewch inni ystyried pont sigledig er enghraifft, y math y byddech yn ei gweld ar faes chwarae plant. Mewn ffatri neu weithle, fyddai’r un rheswm da dros adeiladu pont sy’n siglo. Pe bae pont o’r fath yn bodoli, mae’n debyg y byddai asesiad risg yn tynnu sylw at y ffaith bod angen ei hatgyweirio. Ond mewn cyd-destun chwarae, mae gan bont sigledig fuddiannau cynhenid, er y gallai arwain at fwy o ddamweiniau na phont gadarn. Mae pont sigledig yn cynnig her i blant: ydyn nhw’n ddigon sad ar eu traed – ac yn ddigon dewr – i’w chroesi? Felly mewn amgylcheddau chwarae, mae’n allweddol i ganiatáu ar gyfer lefel o risg. Mae Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (2012) Llywodraeth Cymru’n datgan: ‘mae angen i blant deimlo’n rhydd i fentro a phrofi her o’u gwirfodd a dim ond os y gadawn i rywfaint o ansicrwydd barhau y byddant yn gallu gwneud hyn.’ Mae’r angen yma i gynnwys rhywfaint o risg mewn amgylcheddau chwarae’n bwysicach fyth o ganlyniad i newidiadau ehangach ym mywydau bob dydd plant. Yn y degawdau diwethaf gwelwyd gostyngiad yn yr amser y bydd plant yn ei dreulio’n chwarae ac yn teithio
o gwmpas yn annibynnol y tu allan. Mae’r rhesymau am y dirywiad yma’n gymhleth ac yn destun dadlau. Ond mae llawer o bobl yn cytuno y bydd plant, o ganlyniad, yn cael llai o gyfle i wynebu a dysgu sut i reoli risg drostynt eu hunain. Bydd rhoi cyfleoedd wedi eu rheoli i blant gymryd risg yn fodd o wneud yn iawn iddynt am golli rhyddid yn fwy cyffredinol. Meddai Judith Hackitt, Cadeirydd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): ‘mae chwarae’r tu allan yn dysgu pobl ifainc sut i ymdopi â risg a heb hyn byddant yn ei chael yn anodd i ymdopi â bywyd gwaith.’ Ceir dadl gynyddol ynghylch gwerth caniatáu i blant ddelio â risg, ac ynghylch peryglon gor-amddiffyn. Fodd bynnag, ddylai hyn ddim gwneud inni ystyried y dylem adael plant i’w tynged. Rydym yn parhau i fod â dyletswydd gofal i gadw plant yn rhesymol ddiogel, a chaiff y dyletswydd hwn ei adlewyrchu’n y fframwaith cyfreithiol. Felly, wrth wraidd rheoli risg mewn chwarae ceir angen i daro cydbwysedd rhwng cyfleoedd ar gyfer chwarae rhydd, ac ystyriaeth i les – neu o’i fynegi mewn modd arall, rhwng risg a diogelwch. Mae Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae (2006) Llywodraeth Cymru yn egluro bod hyn yn galw am ‘farn gytbwys o’r risg.’ Bydd angen agwedd gytbwys, waeth os ydym yn trafod ardaloedd chwarae cyhoeddus, tiroedd ysgol neu feithrinfeydd, meysydd chwarae antur, parciau a mannau cyhoeddus neu ardd gefn – mewn gwirionedd, unrhyw amgylchedd ble y gellid yn rhesymol ddisgwyl i blant chwarae.
Beth fydd yn atal mabwysiadu agwedd gytbwys? Fydd llawer o oedolion, yn enwedig y rheini sydd ag atgofion o blentyndod wedi eu dreulio’r tu allan yn bennaf, ddim angen llawer o berswad ynghylch buddiannau caniatáu i blant gymryd rhywfaint o risgiau. Ond ceir tystiolaeth eglur bod oedolion yn cyfyngu’n ormodol ar chwarae plant, oherwydd eu pryder ynghylch rhoi cyfle i blant gymryd risgiau. Mae’r HSE yn cydnabod y broblem yma. Yn 2012, fe gyhoeddodd ddatganiad lefel uchel oedd yn anelu i ddileu camddealltwriaethau.
Nododd bod y rhesymau am lawer o’r dryswch yn cynnwys ‘ofn ymgyfreithiad neu erlyniad troseddol gan na chafodd y risg mwyaf dibwys ei ddileu.’ Ofn ymgyfreithiad yw’r ffactor allweddol, yn hytrach na’r union nifer o achosion cyfreithiol. Mewn gwirionedd, fydd meysydd chwarae ddim yn arwain at lawer o hawliadau’n sgîl damweiniau, ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gynnydd sylweddol mewn niferoedd. Ychwanegodd datganiad yr HSE: ‘Gall y gwaith papur sydd ei angen beri rhwystredigaeth a chamddealltwriaeth ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud i reoli risgiau sylweddol.’ Mae eraill wedi awgrymu bod codi bwganod gan y cyfryngau i feio’n rhannol hefyd. Waeth beth fo achosion ofn risg gormodol, ceir bellach farn gyffredin mai’r modd i ddelio â’r broblem yma yw i hybu agwedd mwy cytbwys a meddylgar tuag at reoli risg. Mae Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae yn datgan mai’r hyn sydd angen yw i ‘ymateb yn bositif drwy ehangu’r amrywiaeth o amgylcheddau a chyfleoedd sydd ar gael ar gyfer chwarae plant, tra’n parhau i roi ystyriaeth briodol i’w lles corfforol a seicolegol.’
Beth yn union yw agwedd gytbwys? Mae agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae’n cynnwys dod â meddwl am risgiau yn ogystal â buddiannau ynghyd mewn un broses sengl. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd datblygiad asesu risgbudd fel y modd gorau o gefnogi proses o’r fath. Amlinellwyd asesu risg-budd mewn chwarae am y tro cyntaf yng nghyhoeddiad Play England yn 2008 sef Managing Risk in Play Provision: Implementation Guide. Mae hwn yn diffinio asesu risg-budd fel agwedd sy’n ‘amlinellu, mewn datganiad unigol, yr ystyriaethau risg a budd sydd wedi cyfrannu at y penderfyniad i ddarparu, addasu neu gael gwared â nodwedd neu gyfleuster penodol.’ Caiff y canllaw hwn ei gefnogi gan yr HSE, sy’n ei ddisgrifio fel ‘agwedd synhwyrol tuag at reoli risg.’ Yr hyn sy’n gwneud asesu risg-budd yn wahanol i asesu risg confensiynol yw ei fod yn cynnwys ystyriaeth ofalus o fuddiannau gweithgaredd, cyfleuster, strwythur neu
brofiad. Gan fod hyn yn digwydd ochr yn ochr ag ystyried y risgiau, mae’n caniatáu i fuddiannau cynhenid rhai risgiau gael eu hystyried yn gywir. Mae hefyd yn egluro nad yw rheolaeth risg da wastad yn golygu y dylid lleihau neu reoli risgiau. Ynghyd â meddwl yn benodol am fuddiannau, mae’r agwedd a amlinellir yn Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu yn cynnwys nodweddion allweddol eraill: • Mae’n cynghori y dylai gweithdrefnau fod yn seiliedig ar ddealltwriaethau a gwerthoedd eglur ynghylch plant a’u chwarae, ac mae’n argymell y dylai darparwyr gytuno ar a mabwysiadu polisi chwarae sy’n amlinellu’r rhain. Mae Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru’n enghraifft o hyn. • Mae’n egluro’n gwbl blaen bod llunio barn am y cydbwysedd rhwng risgiau a buddiannau, yn y pen draw, yn fater i’r darparwr, ac nid i arbenigwyr technegol, archwilwyr allanol, cynghorwyr cyfreithiol neu yswirwyr (er y gall eu sylwadau fod yn berthnasol).
• Mae’n cyflwyno agwedd ddisgrifiadol, yn hytrach nag unrhyw fath o sgorio rhifol, am y rheswm bod prosesau sgorio o’r fath yn aml yn anodd i’w defnyddio mewn modd cyson, ac y gallant or-gymhlethu’r dasg. • Mae’n egluro’r modd y mae canllawiau a safonau (gan gynnwys safonau Ewropeaidd ar gyfer offer chwarae) yn ffitio i mewn i’r dasg rheoli risg gyflawn, gan bwysleisio’r mater nad yw cydymffurfio â’r safonau’n ofyniad cyfreithiol (er y byddant yn cael eu hystyried mewn achosion cyfreithiol).
Beth allwch chi ei wneud? Os yw eich mudiad chi ynghlwm â darparu cyfleoedd chwarae, dylech fabwysiadu agwedd risg-budd. Fel cydnabyddiaeth o hyn, mae’r defnydd o asesu risg-budd mewn polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn un o’r criteria a amlinellir yn y Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Os ydych ond megis dechrau ar y broses, efallai y byddai o gymorth ichi greu cyfle i archwilio materion risg a chwarae plant. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn dwyn ynghyd ystod mor eang a phosibl o bleidiau perthnasol, yn cynnwys gweithwyr proffesiynol, rheolwyr, pobl sydd yn ymwneud â rheoli risg, aelodau etholedig / pwyllgorau rheoli / cyrff llywodraethol, rhieni ac efallai’r plant eu hunain. Mewn awdurdodau lleol a sefydliadau eraill mwy o faint, bydd deialog rhwng rheolwr gwasanaethau, rheolwyr risg a swyddogion arweiniol, yn hanfodol. Bydd adolygiad trylwyr o bolisïau a gweithdrefnau asesu risg sy’n bodoli eisoes yn dangos ble y mae angen adolygu ac ailystyried y rhain. Gallai fod yn ddefnyddiol i gynnal peilot o weithdrefnau newydd, a / neu eu rhedeg ar y cyd â gweithdrefnau sy’n bodoli eisoes am gyfnod, er mwyn helpu i reoli’r broses o newid.
Casgliad Mae gwella cyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifainc o bob oedran a gallu’n nod allweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu sicrhau bod plant yn cael wynebu lefel o risg wedi ei reoli. Yr her yw gadael i blant gymryd risgiau derbyniol pan fyddant yn chwarae, heb eu gosod mewn perygl gormodol o niwed difrifol. Ceir buddiannau o asesu risg-budd ar gyfer pawb sydd ynghlwm â chwarae. Yn bennaf oll, bydd plant a phobl ifainc yn elwa o brofiadau chwarae mwy deniadol a mwy o gyfleoedd ar gyfer datblygiad a thwf iach – y mae’r cyfan yn debygol o arwain at eu gweld yn mwynhau plentyndod hapusach ac yn tyfu’n bobl mwy gwydn, abl a hyderus.
Adnoddau Ball, D. (2002) Playgrounds – risks, benefits and choices Ball, D., Gill, T. a Spiegal, B. (2013) Managing Risk in Play Provision: Implementation Guide (2il argraffiad yn y wasg) Gill, T. (2007) No Fear: Growing up in a risk averse society Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (2012) Chwarae a hamdden plant – hyrwyddo agwedd gytbwys Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006) Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru (2012) Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mawrth 2013 © Chwarae Cymru
Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan Tim Gill ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.
Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru