Chwarae, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol

Page 1

© Oriel Gelf ac Amgueddfa Rugby

Chwarae, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol


Bwriad y daflen wybodaeth hon yw cefnogi amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd i ehangu eu dealltwriaeth o chwarae, a dod o hyd i ffyrdd i gynnwys chwarae yn eu gwaith bob dydd ac wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae’n anelu i archwilio:

• Pam fod chwarae’n bwysig i blant, teuluoedd a sefydliadau diwylliannol • Ffyrdd ymarferol i gynllunio ar gyfer chwarae

• Ffyrdd i groesawu ymddygiad chwareus mewn lleoliadau diwylliannol, gan ddefnyddio enghreifftiau a syniadau o amgueddfeydd sydd wedi gwella eu darpariaeth ar gyfer chwarae.

Pam fod angen inni ystyried chwarae? Bydd plant yn chwarae’n reddfol pryd bynnag y byddant yn cael cyfle. Ond, mewn amgueddfeydd, efallai y bydd teuluoedd a phlant yn teimlo’n anghyfforddus weithiau neu’n teimlo nad oes ganddynt ganiatâd, bob amser, i fod yn chwareus. Mae plant a phlant yn eu harddegau yn dweud yn gyson eu bod am gael mwy o amser rhydd i chwarae ac i fod gyda’u ffrindiau, a mannau i fod gyda’i gilydd ac i chwarae1. Yng Nghymru, mae 30 y cant o’r bobl sydd ddim yn ymweld ag amgueddfeydd yn dweud nad ydynt yn ymweld oherwydd bod ‘dim byd o ddiddordeb’.2 O gyfuno hyn â data o Loegr sy’n nodi bod y gyfran o blant 5 i 15 oed sy’n ymweld ag amgueddfeydd wedi bod yn statig ers bron i ddegawd3, mae hyn yn awgrymu bod angen archwilio agweddau newydd tuag at ddenu ymwelwyr. Gallai chwarae fod yn un dull ar gyfer cynnwys mwy o blant, plant yn eu harddegau a theuluoedd mewn amgueddfeydd. Mae rhai buddiannau allweddol i chwarae sy’n cyd-berthyn i gyd-destun unigryw’r sector diwylliannol: •

Lles

Ymgysylltu ag ymwelwyr

Gwneud busnes da

Creu mannau cymdeithasol, bywiog all feithrin yr amgylchiadau ar gyfer denu mwy o ymweliadau, ac i chwarae ac ymgysylltu ymddangos.

Chwarae a lles Mae cyfoethogi lles ymwelwyr yn flaenoriaeth i’r mwyafrif o leoliadau diwylliannol ac, o’r herwydd, mae deall gwerth chwarae i les plant, ac i oedolion hefyd, yn gwbl allweddol. Mae chwarae’n hwyl, ac wrth chwarae, ‘mae cynhyrchu cyflyrau llawen yn creu ymdeimlad o optimistiaeth yn y presennol a’r dyfodol agos, ble mae bywyd yn werth ei fyw’4. Mae chwarae a’i drafodaethau, creu rheolau, dewisiadau, methiannau ac anghytuno cysylltiedig, yn galluogi plant i ddysgu i weithio pethau allan ac i ymdopi gyda gofynion byd ansicr.5 Mae plant yn profi llawer o’r byd trwy chwarae ac, fel rhywogaeth, genir bodau dynol gyda natur reddfol chwareus sy’n eu gyrru i chwilio am gyfleoedd chwareus mewn bywyd bob dydd. ‘Fydd chwarae ddim yn aros i gael ei fynegi ar ddiwedd y daith mewn man a glustnodwyd ymlaen llaw; dyma sut mae plant yn profi eu bywydau a sut maent yn mynegi eu hunain a’u gweithrediad yn y deyrnas gyhoeddus.’6 Trwy chwarae, bydd plant yn dysgu am y byd ac am eu hunain – gan ddychmygu, creu a dysgu wrth chwarae. Bydd plant yn ymateb i’r bobl a’r mannau o’u hamgylch wrth chwarae, gan roi tro ar bethau newydd, profi ffiniau cymdeithasol a chorfforol, arbrofi a dysgu am bethau, weithiau ar eu pen eu hunain, ac weithiau gyda phobl eraill. ‘Mae holl brosesau diwylliannol gwareiddiad yn cael eu geni o chwarae a’u porthi ar chwarae. O farddoniaeth i gerddoriaeth, o ddefodau


i athroniaeth, a phopeth arall hefyd, mae agweddau allweddol o fodolaeth a ffurf wreiddiol y cyfan yn ddyledus i batrymau penodol o chwarae.’7

‘Mae’n fwy ymlaciol. Os ydyn nhw’n hapus, rydym ninnau hefyd. Mae [chwarae] yn gwella profiad yr ymweliad i ni.’ Sylw gan riant yn Sŵ Caer8

Os gallwn ystyried chwarae fel ein mecanwaith mewnol ar gyfer dysgu ac ar gyfer bod a chadw’n iach, dylai darparu ar gyfer chwarae fod yn ganolog i sut y mae amgueddfeydd yn cefnogi lles plant yma, nawr.

‘Mae gwahodd chwarae a chwaregarwch i mewn i’n hadeilad wedi newid ein hamgueddfa er gwell! Pan gychwynnodd fy swydd fe wnaethom rywfaint o newidiadau i’r amgueddfa i annog mwy o ryngweithio teuluol gyda’r amgueddfa. Mae’r tîm Blaen Tŷ wedi bod yn wych wrth groesawu’r newid hwn. Rwy’n credu bod rhywfaint o betruster ar y cychwyn gan fod rheolau penodol wedi eu gosod yn y gorffennol am wahanol bethau, ond mae pawb yn gallu gweld yr effaith y mae wedi ei gael ar yr amgueddfa ac maent wedi derbyn y syniadau newydd hyn.’ Curadur Cyfranogaeth, Amgueddfa Parc Howard

Cyfoethogi profiad y staff a’r ymwelwyr Efallai bod amgueddfeydd, safleoedd treftadaeth ac atyniadau ymwelwyr yn safleoedd o bwys ar gyfer treftadaeth a’r celfyddydau, ond maent hefyd yn fannau cymdeithasol sy’n creu atynfa gyda’u casgliadau, yn y synnwyr ehangaf. Os byddwn yn cymryd amser i arsylwi ymddygiad o dro i dro, byddwn yn arsylwi symudiadau a mynegiadau chwareus trwy ac o fewn safleoedd ac orielau, wedi eu cynhyrchu’n rhannol o bosibl gan y straeon a adroddir trwy’r mannau hyn, y gwrthrychau unigryw neu’r bensaernïaeth.

‘Mae teuluoedd am fynd allan a chreu atgofion gyda’i gilydd a rhannu profiadau a rhannu pethau i’w hychwanegu i lyfr lloffion meddyliol eu teulu penodol nhw. Mae atyniadau ymwelwyr, amgueddfeydd ac orielau’n darparu’r cefndir ar gyfer atgofion hapusaf pobl. Rwy’n credu ein bod bron yn darparu math o NHS cyfochrog ar gyfer iechyd meddwl ... i’r cyhoedd ddod i’r mannau pwysig hyn, y mannau emosiynol atseiniol hyn ... i adfer a gwella a chyweirio ac anadlu.’ Bernard Donoghue, Association of Leading Visitor Attractions

Mae gan fannau sy’n cefnogi ac sy’n gwneud lle i chwarae y potensial i helpu ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt, goresgyn rhwystrau i ymweld ac i newid sut y mae teuluoedd yn teimlo mewn gofodau mewn amgueddfeydd. Mae hyn yn galluogi ymwelwyr – a phlant a theuluoedd yn benodol – i ymlacio mwy ac i boeni llai ynghylch gwneud rhywbeth o’i le.

Mae chwarae’n dda hefyd ar gyfer lles staff a’u bodlonrwydd gyda’u swydd. Mae gallu ymlacio a bod yn fwy chwareus yn eu swyddi’n helpu staff i deimlo’n fwy cysurus, ac yn hapusach wrth ryngweithio gydag ymwelwyr.9 Gall chwarae helpu staff i fynd i’r afael â’r hyn allai fod, fel arall, yn faterion digon dyrys a dwys a gall helpu i ysgogi meddwl creadigol neu feirniadol. ‘Mae chwarae’n aflonyddgar. Gall gofyn “Beth pe bae?” helpu pobl i brofi syniadau ar gyfer y dyfodol. Dim ond chwarae all ein tynnu allan o’r meddylfryd busnes fel arfer.’10 Mae chwarae’n creu ffrâm ddiogel ar gyfer creu cysylltiadau, ffurfio perthnasau, a gall hefyd fywiogi ein dychymyg, gan ein helpu i ddatblygu ein dawn i arddangos empathi a dealltwriaeth.11

Gall amgueddfeydd gefnogi hawl plant i chwarae Yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), dynodir chwarae fel un o’n hawliau dynol sylfaenol. Mae sefydliadau diwylliannol sy’n darparu amser, lle a chyfle i fod yn greadigol, i archwilio ac i chwarae’n helpu i gefnogi Erthygl 31: ‘Yr hawl i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig’12. Mae lleoliadau sy’n ystyried chwarae’n helpu hefyd i gefnogi’r gofynion cyfreithiol


ar awdurdodau lleol i gyflawni’r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae13 sy’n rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Gall staff sy’n gweithio mewn lleoliadau diwylliannol, gydag a dros blant, ystyried eu hunain yn rhan o’r gweithlu chwarae. Mae ganddynt rôl i gefnogi’r awdurdod lleol i gyfrif am a chynllunio ar gyfer chwarae plant, yn ddigon tebyg i bobl sydd mewn rolau fel cynllunwyr trefi, athrawon, penseiri, gweithwyr ieuenctid a gwarchodwyr plant.

o anghenion ar gyfer ymweliad teuluol.16 Trwy bleser a mwynhad daw hefyd gysylltiad â lle, a chysylltiad gyda’r bobl sy’n rhan o’r ymweliad.17 Mae perthnasau da gyda staff a lleoliadau nid yn unig yn cynyddu ffyddlondeb cwsmeriaid, ond hefyd yn cynhyrchu argymhellion, yn ogystal ag ymlyniad at nodau neu gennad y sefydliad.18

Mae chwarae’n dda i fusnes

Gall pawb gymryd camau bychain tuag at wneud amgueddfeydd ac atyniadau ymwelwyr yn fwy chwarae-gyfeillgar. Mae Ffocws ar chwarae: Amgueddfeydd a’r sector diwylliant yn offeryn defnyddiol ar gyfer eiriol dros newid strategol a pholisi mewn amgueddfeydd. Mae’r syniadau canlynol yn seiliedig ar enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol ac maent yn cynnig ffyrdd hawdd a chyraeddadwy i ddechrau gwneud eich lleoliad yn un chwareus, neu i ehangu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud eisoes.

Mae rheolwyr amgueddfeydd ac arweinwyr diwylliannol yn clustnodi chwarae’n gyson fel y rheswm am gynnydd yn niferoedd ymwelwyr a theuluoedd fydd yn ymweld fwy nag unwaith. Mewn prosiect chwarae ôl-Covid diweddar gydag amgueddfeydd y DU, dywedodd 60 y cant bod eu gweithgareddau chwarae newydd wedi eu helpu i ddenu cynulleidfaoedd newydd, a bod eu cynulleidfaoedd yn dweud iddynt gael gwell profiadau o ganlyniad i’r gweithgareddau chwareus.14 Cofnododd yr arddangosfa Gwaith-Chwarae, Archwilio’r grefft o weithio gyda phlant sy’n chwarae, wnaeth ail-greu maes chwarae antur wedi ei staffio gan weithwyr chwarae lleol yn Wrecsam, bron i 40,000 o ymweliadau dros dri mis – cynnydd sylweddol ar y ffigyrau ymwelwyr arferol am yr un cyfnod.15

© Sŵ Caer

Mae termau dyrannu cynulledifaoedd – fel ‘chwilwyr-hwyl’ a ‘chwilwyr-gwybodaeth’ – a ddefnyddir gan ymchwilwyr ymwelwyr, yn dynodi bod hwyl ac archwilio’n uchel ar y rhestr

Annog chwarae – syniadau ymarferol

Egwyddorion allweddol Wrth ddatblygu cyfleoedd i chwarae ar eu safleoedd, yn cynnwys y rhaglen 50 things to do before you’re 113/4, sylweddolodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon bod pedair egwyddor allweddol yn amhrisiadwy19: •

Gofodau cymdeithasol i bobl ymlacio neu fod yn chwareus

Y daith – rhwydwaith o leoedd i fynd iddynt, pethau i chwarae gyda nhw ar y ffordd


ac ymyriadau bwriadol i deithio trwyddynt ac arnynt •

Rhoi gwahoddiadau – daw plant o hyd i’w straeon eu hunain, o gael llonydd i wneud hynny

Rhannau rhydd, y gellir eu cyfnewid a’u rheoli gyda llu o ganlyniadau.20

Gellir defnyddio’r egwyddorion hyn boed wrth gynllunio ar gyfer chwarae dan do neu’r tu allan. Bydd gwahodd plant i ganfod eu straeon eu hunain a phennu eu llwybr eu hunain trwy gynnwys amgueddfa’n hybu ymgysylltu a chanlyniadau dysgu meddal. Mae hyn yn cyfoethogi yn hytrach na’n tynnu oddi wrth y deilliannau y gallai amgueddfeydd eu pennu trwy gyfleoedd dysgu chwareus, neu gyfleoedd dysgu eraill.

Man cychwyn – gwerth arsylwi Bydd lleoliadau sy’n gweithio’n dda gyda’r egwyddorion allweddol uchod yn cymryd amser yn gyntaf i sylwi a thrafod pa chwarae sy’n digwydd, a ble mae’n digwydd. Bydd arsylwadau’n helpu i bennu mannau atyniadol sy’n bodoli eisoes ac felly, o’r fan yma, gellir cyfoethogi gwahoddiadau a chreu ymyriadau newydd. Yn bwysig iawn, bydd cymryd amser i sylwi a rhannu arsylwadau chwarae’n rhoi cyfle i bob aelod o staff drafod eu gwerthoedd a’u teimladau am chwarae ac i gytuno ar ffyrdd i gefnogi chwarae a ffyrdd i gyfleu caniatâd chwareus.

‘Fe wnaethom arsylwi chwarae ar y llong a chafwyd trafodaethau diddorol am chwarae a sylweddoli bod cymaint yn digwydd eisoes! Fe wnaethom weithio allan bod angen inni ddylunio ciwiau chwareus i deuluoedd eu dilyn er mwyn annog mwy o chwarae yn rhai o’n gofodau mawr ble nad oes staff oriel neu ddigon o adnoddau neu arddangosion i chwarae gyda nhw. Mae wedi gweithio’n dda iawn ac rydym wedi derbyn adborth gwych gan deuluoedd. Rwy’n gobeithio, un dydd, na fyddwn angen ciwiau. Bydd pobl jest yn gwybod y gallan nhw chwarae yma.’ Claire Hargreaves, Amgueddfa Genedlaethol y Llynges Frenhinol

Teithiau a siwrneiau Mae canfod gwahanol ddulliau i gyfoethogi cyfleoedd ar gyfer sut y gallai plant symud rhwng un gofod a’r llall yn creu elfen newydd a diddordeb ychwanegol yn ystod yr ymweliad. Mae nifer o leoliadau, yn cynnwys Sŵ Caer, Tŷ Pawb, amgueddfa’r V&A, Oriel Gelf ac Amgueddfa Rugby ac Amgueddfa Manceinion wedi rhoi tro ar, a phrofi, nifer o wahanol ddulliau. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyflwyno lôn sgipio a llwybr neidio mewn pyllau dŵr yn yr ardaloedd agored rhwng y llociau yn Sŵ Caer. Yn Amgueddfa Manceinion a’r V&A yn Llundain, mae creu sgwariau sgots, llinellau tonnog ac olion traed ar lawr wedi cyflwyno gwahoddiad i hopian, neidio a dilyn. Crëwyd y llinellau a’r marciau yn unol â chyd-destun a nodweddion y safle neu’r oriel, yn cynnwys defnyddio tâp masgio, sialc, paent neu finyl llawr. Yn Abaty Whitby, aeth staff English Heritage a’r agwedd hon y tu allan, gan dorri llwybrau yn y glaswellt o amgylch y safle, a chuddio adnoddau mewn bocsys a chliwiau i ddod o hyd iddynt, gan greu mannau chwaraeadwy newydd y gellid eu newid heb fawr o gostau. Yn Oriel Gelf ac Amgueddfa Rugby, crëwyd llwybr chwareus trwy’r amgueddfa gyfan gan ddefnyddio arddangosfeydd rhyngweithiol oedd yn bodoli eisoes. Yn ogystal, ychwanegodd yr amgueddfa weithgareddau ac ymyriadau chwareus newydd dros dro: ‘Fe wnaethom osod ras ceir bach ar ben grisiau’r oriel, cynnal her “rock paper scissors” gyda’r plant a staff yr amgueddfa, gwahodd y plant i greu lluniau cysgodion a phaentio ffenestri yn ein horielau, i gyd fel rhan o’n llwybr chwareus. Gwerthwyd pob lle ym mhob sesiwn ac rydym bellach yn bwriadu gwneud mwy, ac i fod yn fwy ac yn well bob tro.’ Rachel Coldicott, Oriel Gelf ac Amgueddfa Rugby Yn Nhŷ Pawb – Stryd Pawb – fe wnaeth rhwydwaith o ffyrdd dros dro wedi eu marcio ar lawr trwy’r ganolfan ganiatáu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol yn ogystal â chwarae. Gyda lonydd, cylchfannau, arwyddion ffyrdd taldra plant a mwy,


fe wnaeth yr ymyriad hwn hybu caniatâd i ymwelwyr chwarae trwy’r ganolfan gymunedol a chelfyddydau gyfan.

Cyflwyno stwff chwaraeadwy Mae amgueddfeydd ac orielau hefyd wedi croesawu defnyddio stwff chwaraeadwy neu rannau rhydd yn eu darpariaeth yn yr oriel, gan ychwanegu haen newydd i’r profiad a’r daith. A hwythau’n ddigon hawdd i’w rheoli’n ystod y pandemig COVID-19, ble gellir gosod adnoddau mewn cwarantin neu eu hail-gylchu, mae lleoliadau wedi sylweddoli eu bod yn gaffaeliad sydd wedi helpu i ychwanegu chwarae ochr-yn-ochr â’r arddangosiadau. Yn Amgueddfa Manceinion, mae cylchau plastig a theils o garped yn bywiogi gofodau mewn oriel hir gan alluogi’r plant i symud a chreu llwybrau i mewn ac allan ac o amgylch y ffosiliau a’r sgerbydau, sy’n ddiogel yn eu cypyrddau gwydr. Yn Amgueddfa Trafnidiaeth Cofentri, darperir cesys Trunki ar olwynion sy’n llawn deunyddiau creadigol a chyfleoedd i greu cuddfannau gydag arwyddion ffyrdd taldra plant ac, yn aml iawn, gosodir blychau cardbord yma ac acw.

‘Rydyn ni jest yn dal ati i ymestyn allan i fwy a mwy o orielau nawr, fe ddechreuon ni’n fach a bellach ry’n ni’n hyderus y gallwn ddefnyddio’r adnoddau ochr-yn-ochr â’r arddangosiadau ac mae teuluoedd yn cael amser gwych.’ Anja Keitel-Campsall, Amgueddfa Trafnidiaeth Cofentri

© M. Dickerson

Creu teimlad cymdeithasol, chwareus Yn ogystal â rhannau rhydd, mae ymdeimlad ac awyrgylch cyffredinol yr amgueddfa gymdeithasol yn creu amodau ar gyfer ymlacio er mwyn i chwarae allu ymddangos. O’r ennyd y bydd ymwelwyr yn cyrraedd a chael eu croesawu, mae defnydd chwareus o’r gofod y tu allan, arwyddion hyrwyddo neu sgyrsiau hamddenol uniongyrchol gyda’r plant, i gyd yn helpu i fywiogi’r awyrgylch a chreu’r ffrâm ar gyfer chwarae. Bydd tynnu sylw at fannau y gellir chwarae ynddynt, adnoddau neu straeon neu wrthrychau unigryw cyn i’r ymweliad gychwyn yn creu ymdeimlad o ddisgwylgarwch y gellir darganfod a gwireddu’r awydd i chwarae. Yn yr Ystafell Ddarllen yng Nghasgliad Wellcome, crëwyd ymdeimlad ymlaciol sydd wir yn darparu ar gyfer naws gwahanol ac sy’n hyrwyddo lle ac amser i ymgysylltu. Trefnwyd amrywiaeth o fannau ymgasglu bach a mawr, gyda byrddau, cadeiriau, goleuo gwahanol a seddi cyfforddus, yn cynnwys sachau ffa. Darperir llyfrau, straeon, gwrthrychau i’w cyffwrdd a gemau bwrdd ar gyfer pob oedran sy’n ymwneud â gwahanol themâu ym meysydd pynciol y casgliad. Mae negeseuon yn y gofod (ac ar-lein) yn nodi’n glir y dylai pobl sydd am astudio, ddefnyddio’r llyfrgell.

© Amgueddfa Trafnidiaeth Cofentri


Sylwadau i gloi

Bydd meithrin yr amodau ar gyfer chwarae yn eich canolfan yn cymryd amser, cysondeb, cefnogaeth ac ymrwymiad. Yn yr adran olaf hon, mae cyfranwyr yn rhannu eu dysg allweddol er mwyn eich annog i ddal ati i arbrofi a dysgu sut y byddwch yn cynllunio a darparu ar gyfer chwarae.

Cofiwch ystyried gwahanol oedrannau a defnyddio gweithgareddau ac iaith briodol sy’n parchu oed a diddordebau. Mae plant yn eu harddegau ac oedolion yn chwarae hefyd!

Byddwch yn hyderus wrth asesu risg ar gyfer chwarae – gwnewch hyn yn yr un modd ag y byddech gyda gweithgaredd ddysgu neu asesiad risg ymwelwyr cyffredin. Cofiwch roi’r ffocws ar fuddiannau chwarae ynghyd â’r camau i reoli risgiau posibl.

Byddwch yn agored i’r hyn sy’n digwydd, gallai elfennau annisgwyl godi – mae hyn yn dda!

Cofiwch gynnwys y staff gymaint â phosibl yn y gwaith cynllunio, yn enwedig rheolwyr a chynorthwywyr ymwelwyr – bydd hyn yn helpu i leddfu pryderon ac yn cynyddu ymddiriedaeth a chefnogaeth.

Adnoddau ychwanegol a dolennau •

Astudiaethau achos ar gyfer Prosiect Amgueddfeydd Chwareus yn 2020 gan Kids in Museums mewn partneriaeth â Penny Wilson, Assemble Play a Charlotte Derry, Playful Places

Gwnewch y gorau o’ch staff – crëwch wahoddiadau neu resymau i blant ryngweithio gyda’r staff.

Welcoming Families to your Venue – ffilm hyfforddi gan Kids in Museums a Museum Tales

Case Study for Stryd Pawb yn Nhŷ Pawb, Wrecsam, gan Ludicology

Ail-ddefnyddiwch becynnau cardbord a deunyddiau y gallai timau eraill eu taflu allan.

Gofynnwch i fusnesau lleol gyfrannu rhannau rhydd.

Rheolau ar gyfer Playful Museum, canllaw ar gyfer amgueddfeydd, a ysgrifennwyd gan staff ymwelwyr yn Amgueddfa Manceinion

Gwefan The Happy Museum ar gyfer The Playful Places Network

Playbook – adnodd am chwarae, celfyddydau, a chwarae creadigol a chasgliadau, a gynhyrchwyd gan The Baltic

Ail-ddefnyddiwch offer sydd gennych eisoes, fel menig trin gwrthrychau a hen wisgoedd – gellir golchi deunyddiau fforddiadwy a chynaliadwy yn hawdd.

Darparwch arweiniad clir i ymwelwyr (un ai ar lafar neu trwy ddefnyddio arwyddion chwareus) – mae’n caniatáu i deuluoedd ymlacio trwy wybod beth a ganiateir ymhle (neu ddim). Bydd hyn yn creu staff sy’n fwy hunanhyderus, sy’n gallu llywio anghenion teuluoedd sy’n chwarae, ynghyd ag anghenion ymwelwyr eraill, y casgliadau a’r adeilad.

Awgrymwch gemau syml fel chwarae cuddio a mannau posibl i’w chwarae.

Cofiwch ystyried anghenion mynediad yn eich holl waith cynllunio.

Mae nonsens a ffeithiau’n gallu gweithio gyda’i gilydd. Mae jocs, awgrymiadau a straeon sy’n defnyddio stwff a geir yn y casgliadau’n wirioneddol gofiadwy a difyr. Defnyddiwch eich casgliadau, gwrthrychau ac ystafelloedd i’ch ysbrydoli – chwiliwch am rywbeth syfrdanol, afiach, llawn hiwmor, poblogaidd, hygyrch, newydd, a rhoi penrhyddid i’ch dychymyg.

© Ludicology


Cyfeiriadau Codwyd y wybodaeth yma o www.gov.uk/ government/statistics/taking-part-201920annual-child-release/museums-taking-partsurvey-201920 ac o gyfweliadau gyda phlant ar gyfer ymchwil Russell, W., Barclay, M., Tawil, B. a Derry, C. (2019) Hawl Plant i Chwarae yng Nghymru: Chwe blynedd o straeon a newid. Caerdydd: Chwarae Cymru; Ymchwil, gwaith yr awdur ei hun.

1

Codwyd y wybodaeth o www.gov.uk/ government/statistics/taking-part-201920annual-child-release/museums-taking-partsurvey-201920.

Hopkins, R. (2019) From What Is to What If: Unleashing the Power of Imagination to Create the Future We Want. Chelsea Green Publishing.

11

Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CRC) (2013) Sylw cyffredinol Rhif 17 (2013) ar hawl y plentyn i orffwys, hamdden, chwarae, gweithgareddau adloniadol, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau (Erthygl 31). Genefa: Y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.

12

2

Codwyd y data o Celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Llywodraeth Cymru (2012) Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 5) 2012. Caerdydd: Llywodraeth Cymru Hawlfraint y Goron. 13

3

Sutton-Smith, B. (2003) cyfeiriwyd ato yn Lester, S. (2020) Everyday Playfulness. Llundain: Jessica Kingsley, td.98.

4

Lester, S. a Russell, W. (2010) Children’s Right to Play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide, Working Paper No. 57. Yr Hag, Yr Iseldiroedd: Sefydliad Bernard van Leer.

5

Ludicology (2018) A place to hop, skip and jump about. Astudiaeth a gomisiynwyd gan Sŵ Caer.

Data a gasglwyd yn ystod prosiect peilot chwarae mewn amgueddfeydd a gynhaliwyd gan Kids in Museums a arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol; Ymchwil, gwaith yr awdur ei hun, ar gyfer Kids in Museums.

14

Marsh, J. (2019) Curadur, Tŷ Pawb, yn siarad yng nghynhadledd The Art of Playwork Conference, Wrecsam, 2019.

15

Termau dyrannu a ddefnyddiwyd gan yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Sydney, a rannwyd yng nghynhadledd Playful Museums Conference, Sydney, 2019.

16

6

Lester, J. (yn y wasg) Rhythms of Resistance in the Adventure Playground of Life, yn Russell, W., Derry, C., Fitzpatrick, J. a Handscomb, B. (gol) Stuff and Nonsense: Thinking differently about children’s play. Cernyw: Maes Chwarae Antur Gwelan Tops.

7

Ludicology (2018) A place to hop, skip and jump about: Astudiaeth a gomisiynwyd gan Sŵ Caer, td.21.

8

Lester, S., Strachan, A. a Derry, C. (2014) A more playful museum: exploring issues of institutional space, children’s play and well-being, International Journal of Play, 3, 1, 24-35.

9

Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Llundain: National Children’s Bureau, td.96-97.

17

Smith, S., Pennaeth Addysg Cadwraeth, Sŵ Caer, mewn sgwrs gyda’r awdur am werth hyrwyddo chwarae i gennad y sŵ dros gadwraeth.

18

Datblygwyd egwyddorion Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Michael Follett, OPAL Outdoor Play and Learning trwy adroddiad ymgynghorol mewnol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Darparwyd y ffynhonnell gan Anita Stevens, Ymgynghorydd Profiadau Ymwelwyr, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

19

Stevens, A. a Lewis, R., ymgynghorwyr ar ran Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn siarad yng nghynhadledd Playful Museums Conference, Sydney, 2019.

20

John Michael Borman, Cyfarwyddwr Biotopia, yn siarad yng nghynhadledd Museum Next Conference, Sydney, 2019.

10


Hydref 2021 © Chwarae Cymru

Awdur: Charlotte Derry

Mae Charlotte yn ymgynghorydd chwarae ac amgueddfeydd annibynnol sy’n gweithio mewn ysgolion a’r sector ddiwylliannol. Mae’n hyfforddwraig ac yn hwylusydd, yn trosglwyddo prosiectau a hyfforddiant ar gyfer amgueddfeydd, ysgolion ac awdurdodau lleol ac ar gyfer grwpiau sy’n cefnogi’r sector. Mae Charlotte hefyd yn fentor ar Raglen Gynradd OPAL a’r Happy Museum.

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.