6 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2021
Roedd ymgyrch Haf o Chwarae’n alwad trwy’r DU gyfan ar i chwarae gael blaenoriaeth yn ystod haf 2021 er mwyn cefnogi lles ac iechyd plant ac i ddod dros effeithiau’r pandemig COVID-19. Anogodd yr ymgyrch bawb – yn llywodraethau, sefydliadau, cynghorau, busnesau a theuluoedd – i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod plant yn cael yr amser a’r lle y maent eu hangen i ail-gysylltu a chwarae gyda’u ffrindiau a mwynhau ystod eang o gyfleoedd chwareus. Yng Nghymru, yn dilyn cais gan y Comisiynydd Plant ac eraill, darparodd Llywodraeth Cymru £5miliwn o gyllid trwy raglen Haf o Hwyl i gefnogi plant a phobl ifanc i ddod dros y pandemig. Un elfen oedd y rhaglen hon o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad plant a phobl ifanc. Tri phrif amcan Haf o Hwyl oedd: • Cefnogi hwyl a’r cyfle i blant a phobl ifanc fynegi eu hunain trwy chwarae • Cynnig mentrau cymunedol rhyngweithiol, creadigol, seiliedig ar chwarae ar gyfer pob oed • Darparu cyfleoedd i chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion. Gan ddefnyddio cyllid Haf o Hwyl a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, darparodd awdurdodau lleol lu o gyfleoedd ledled y wlad, gan weithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o sefydliadau. Fe wnaethom wahodd yr awdurdodau lleol i ddweud mwy wrthym am rai o’r cyfleoedd a ddarparwyd i blant dros yr haf.
Yn Nhorfaen, darparodd y cyllid fwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i fynychu darpariaeth trwy gynyddu’r nifer o leoedd a neilltuwyd ar sesiynau Chwarae a Seibiant ar gyfer plant anabl a rhai sydd ag anghenion cymhleth. Yn ogystal, darparwyd sesiynau a lleoedd ychwanegol ar gyfer plant sydd angen cymorth 1-1 trwy gynlluniau chwarae, darpariaeth ieuenctid, y blynyddoedd cynnar a chwaraeon. Bu cynyddu mynediad i chwarae’r tu allan yn elfen nodweddiadol ar draws Cymru. Yn Sir Gâr, cynhaliwyd sesiynau chwarae am ddim ar gyfer plant a theuluoedd o’r ardaloedd gwledig o amgylch Pumsaint yng Nghoed Dolau Cothi. Cyflwynodd y sesiynau hyn y teuluoedd i fannau cyhoeddus awyr agored lleol, cynnig syniadau chwarae syml ar gyfer teuluoedd a rhoi cyfle i’r plant a’u rhieni gwrdd a chymdeithasu gyda phobl eraill.
‘Gawn ni ddod yma bob dydd?’