8 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2021
Agor strydoedd ar gyfer
chwarae,
Ar un adeg, roedd pawb yn derbyn y byddai plant, unwaith eu bod yn ddigon hen a hyderus i lywio’r byd y tu allan yn annibynnol neu gyda ffrindiau a’u brodyr a’u chwiorydd, yn chwarae’r tu allan a chrwydro’n rhydd yn eu cymdogaeth.
I’r mwyafrif o blant, bu dirywiad dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf ym mynediad plant i’r strydoedd a’r ardaloedd awyr agored ger eu cartrefi. Cyfyngir ar symudedd plant gan draffig ac ofn, sy’n golygu eu bod yn treulio mwy o amser dan do neu mewn gweithgareddau wedi eu trefnu. Mae rhieni yn dweud wrthym eu bod yn ofnus ynghylch y cyfuniad o fwy o gerbydau ar y ffyrdd a chyflymdra’r traffig, sy’n golygu eu bod yn atal eu plant rhag chwarae’r tu allan. Mae’r diffyg cyfle i chwarae’r tu allan a chrwydro’n cael effaith ar iechyd a lles plant – a hynny’n feddyliol ac yn gorfforol – ac ar eu dyfeisgarwch a’u gwytnwch. Efallai mai mabwysiadu cyfyngiad cyflymder o 20mya ym mhob ardal breswyl ac adeiledig gaiff yr effaith mwyaf cadarnhaol a phellgyrhaeddol, fel yr argymhellir
gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) Cymru. Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn o 30mya i 20mya ar ffyrdd preswyl, i’w groesawu. Ond newid amgylcheddol yw hwn ar y cyfan. Bydd yn arafu’r traffig, a thrwy hynny’n lleihau’r risg o anafiadau difrifol ac yn gwella ansawdd yr aer y mae plant yn ei anadlu. Ond, yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol, mae angen mynd i’r afael â’r materion agweddol sydd wedi arwain at weld gallu plant i gael mynediad i chwarae yn eu cymdogaethau eu hunain yn lleihau dros amser. Mae ambell ardal wedi mynd i’r afael â hyn trwy adennill strydoedd ar gyfer chwarae trwy brosiectau strydoedd chwarae dan arweiniad trigolion, ble caiff strydoedd eu cau am gyfnodau byr i ganiatáu i blant chwarae.