2 minute read

Canllawiau gwaith chwarae newydd

Cyhoeddi canllawiau gwaith chwarae newydd

Yn ddiweddar, mae Chwarae Cymru wedi cynhyrchu pedwar canllaw gwaith chwarae newydd fel casgliad o adnoddau ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio’n bennaf, neu fel rhan o’u rôl, gyda phlant sy’n chwarae. Yn ogystal, efallai y byddant o ddiddordeb hefyd i bobl sydd ddim yn gweithio gyda phlant sy’n chwarae ond sydd wedi eu cyfareddu gan chwarae plant ac sydd am ddysgu mwy.

Advertisement

Yn 2006, dechreuodd Chwarae Cymru ddatblygu hyfforddiant a chymwysterau arweiniodd at greu cymwysterau Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3). I fynd gyda’r cymwysterau, fe wnaethom weithio gyda rhai o feddylwyr mwyaf nodedig y byd gwaith chwarae i gynhyrchu cyfres gynhwysfawr o ddeunyddiau dysgu. Er mwyn cynhyrchu’r canllawiau gwaith chwarae newydd hyn, fe weithiom gyda Ludicology i adolygu deunyddiau dysgu P3, er mwyn eu diweddaru a datblygu cynnwys newydd.

Mae’r canllawiau’n cyflwyno ac yn archwilio rhai o’r damcaniaethau, cysyniadau, syniadau ac arferion craidd sydd wrth galon gweithio gyda phlant sy’n chwarae. Nid yw’r canllawiau’n gyfrif cyflawn o bell ffordd. Mae plant a’u chwarae’n gymhleth, fel y mae’r llu o ffyrdd y gallwn weithio gyda’u chwarae, felly mae llawer mwy i’w ddysgu o hyd.

Ein gobaith yw y bydd y canllawiau hyn yn helpu i sicrhau bod yr agwedd gwaith chwarae’n cael ei deall a’i harchwilio’n fwy trylwyr gan ddysgwyr gwaith chwarae a phawb sydd â diddordeb cefnogi chwarae plant. Mae’r canllawiau hyn yn cynrychioli trysorfa o wybodaeth broffesiynol sydd wedi ei datblygu gan y sector dros nifer o ddegawdau ac mae adran gyfeirio gynhwysfawr yn cyfeirio’r darllenydd at ffynonellau’r testun, os hoffent ymchwilio ymhellach.

Er mwyn paratoi i weithio gyda phlant sy’n chwarae, mae’r canllawiau’n cychwyn gyda Chyfrol 1, sy’n edrych ar rai o’r damcaniaethau sy’n dylanwadu ar y modd y mae oedolion yn deall plant, rôl chwarae a phlentyndod, yn ogystal ag egwyddorion gweithio gyda phlant sy’n chwarae. Wedi datblygu rhywfaint o ddealltwriaeth sylfaenol, mae Cyfrol 2 yn archwilio’r llu o ffyrdd y gall y bobl hynny sy’n gweithio gyda phlant sy’n chwarae greu neu gyfoethogi amgylcheddau fel eu bod yn addas ar gyfer chwarae, ac ar arferion i gefnogi plant sy’n chwarae’n uniongyrchol.

Yn dilyn hyn, mae Cyfrol 3 yn edrych ar gynllunio, sefydlu a rheoli prosiect chwarae wedi ei staffio, tra bo Cyfrol 4 yn delio gyda materion sy’n ymwneud â rheoli staff a gweithio gydag oedolion eraill.

Mae gwaith chwarae yn anelu i greu amgylcheddau sy’n addas er mwyn i chwarae o safon ddigwydd ac mae’n ceisio lleihau unrhyw anghydbwysedd grym rhwng plant ac oedolion, gan anelu i greu perthynas weithio gyfochrog yn hytrach na’r un hierarchaidd fwy cyffredin rhwng oedolion a phlant. I lawer, gwaith chwarae yw eu proffesiwn, eu prif rôl gwaith, a’u galwedigaeth – i eraill mae’n rôl y maent yn ei chyflawni fel rhan o gyfrifoldebau eraill ehangach.

Ein gobaith mawr yw y bydd y canllawiau gwaith chwarae’n helpu i rannu natur unigryw’r agwedd gwaith chwarae gyda phawb sy’n dymuno cefnogi plant gyda chyfleoedd o safon i chwarae.

This article is from: