Chwarae dros Gymru Rhifyn 43 Haf 2014
Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae
Plentyndod iach
2 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Cynnwys
Diolch yn fawr
Golygyddol Newyddion Cyfweliad gyda Vaughan Gething 8 Chwarae a iechyd 9 Mynediad i’r rhyngrwyd i blant mewn ysbytai 10-11 Yr oll sydd ei angen yw chwarae
12-13 Dylunio mewn ardaloedd trefol 13 Polisi iechyd cyhoeddus a chwarae 14 Pum ffordd at les 15 Cymru – gwlad chwarae-gyfeillgar 16-17 Datblygu’r gweithlu 18 Adolygiad pecyn cymorth i ysgolion
Golygyddol Gwadd
nad oedd ei mam hi yno, ond ei bod yn neidio’n ôl i’r gwely pan fyddai ei mam ar y ward. Mewn geiriau eraill, roedd Leanne wedi trosi pryderon ei mam yn symptomau corfforol, personol.
2 3-5 6-7
Roedd Leanne yn 13 mlwydd oed pan gwrddais â hi gyntaf. Roedd yn gorwedd mewn gwely yn ward plant fy ysbyty leol, wedi derbyn profion pelydr-x, sgans a phrofion gwaed am y poenau oedd wedi ei thynnu allan o’r ysgol. Wedi ei ysgrifennu ar ei nodiadau roedd ‘NAD’ – ‘nothing abnormal discovered’. Ond roedd llawer yn anarferol am fywyd Leanne. Roedd ei mam yn llawn gofidiau, ac roedd ei phryderon wedi llethu ei merch. Roedd athrawon eisoes wedi nodi ei bod yn dal i hebrwng Leanne i’r ysgol ac yna ei chasglu bob dydd, er eu bod yn byw gerllaw, ei bod yn ymddangos nad oedd gan Leanne ffrindiau a’i bod yn dod o hyd i bob math o esgusodion i aros i mewn dros amser chwarae. Fe ddywedodd y nyrsys wrthyf bod Leanne yn cerdded o gwmpas pan
Nid diagnosis oedden nhw ei angen ond yn hytrach lle i archwilio eu stori, i ddod i delerau â ble aeth pethau o le ac i ail ddweud y stori honno, ond â diweddglo gwahanol. Fe ddywedodd mam Leanne wrthyf ei bod, fel plentyn, wedi ei gadael i ofalu am ei chwaer fach oedd yn wael tra’r aeth ei mam i’r siop. Ond fe aeth hi i chwarae gyda’i ffrindiau a phan ddaeth ei mam adref roedd y babi wedi marw. Cafodd ei gwahardd rhag chwarae o’r eiliad honno. Roedd chwarae’n beryglus a byddai’n amddiffyn ei phlant ei hun rhagddo yn eu tro. Fe grïodd wrth adrodd yr hanes wrthyf. ‘Fe gollais i fy mhlentyndod,’ meddai, ‘ac rydw innau’n amddifadu fy merch o’i phlentyndod hithau’. Mae tair gwers i’w dysgu o’r stori honno. Yn gyntaf, bod chwarae’n hanfodol i ddatblygiad iach plant. Dyma’r cyfrwng a ddefnyddir i lunio cysylltiadau cadarn, ac i’n hannog i gymryd risgiau a’u meistroli, a hynny o fewn ffiniau diogel caniatâd rhieni. Dyma’r modd y byddwn yn llunio perthnasau â’r byd mawr y tu allan, yn dysgu sut i
Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w lawrlwytho o www.chwaraecymru.org.uk
gyfathrebu ag eraill, i gydweithio â hwy a chyfaddawdu. Dyma’r cynfas ar gyfer ein dychymyg, y llwyfan y byddwn yn ymarfer ein rôl mewn bywyd arno a dysgu i ymdopi â’i elfennau rhwystredig. A thrwy chwarae’n rhydd, byddwn yn datblygu doniau corfforol fel plant a ffurfio llwybrau deallusol doniau cymdeithasol yn ein glasoed. Yn fyr, mae’n hanfodol ar gyfer datblygiad yr hunan. Yr ail wers, wrth gwrs, yw bod canlyniadau peidio â chael caniatâd i fynd allan i chwarae’n ddifrifol – Leanne a’i mam, wedi eu cloi â’i gilydd mewn byd ynysig, myglyd, cyd-ddibynnol yn llawn pryder. A’r trydydd, ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel oedolion i sicrhau bod hawl y plentyn i chwarae’n cael ei gyflawni. Ydw i’n optimistaidd ynghylch hyn i gyd? Ydw. Oherwydd fy mod i’n byw a gweithio yng Nghymru, gwlad chwarae-gyfeillgar sy’n eiriol Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn, oherwydd bod ein gwleidyddion yn cael eu dwyn i gyfrif gan fudiadau fel Chwarae Cymru. A gan mai prin iawn yw’r elfennau sy’n gwbl ddiwrthdro. Bu modd i Leanne a’i mam, gafodd eu hannog o’r diwedd i chwarae, ail-ddweud eu stori. A chael eu gwella. Dr Mike Shooter, Cadeirydd Chwarae Cymru
Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru dair gwaith y flwyddyn.
Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchgrawn hwn.
Cysylltwch â’r Golygydd yn:
o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.
Chwarae Cymru, Ty^ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH
Argreffir y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.
Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai
Rhif ffôn: 029 2048 6050 I Ebost: gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk Elusen Gofrestredig Rhif. 1068926 I ISSN: 1755 9243
Crewyd gan Carrick | carrickcreative.co.uk
Chwarae Play fordros Wales Gymru | Summer | Haf 2014 | 3
Newyddion Cefnogwch Chwarae Cymru Mae cais Chwarae Cymru am ariannu ar gyfer y tair blynedd nesaf, o dan Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd (GCPT) Llywodraeth Cymru, wedi bod yn aflwyddiannus. Yn y llythyr yn ein hysbysu am benderfyniad Llywodraeth Cymru, dywedodd Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd wrth Chwarae Cymru nad oeddent yn ystyried bod y cais yn addas i dderbyn ariannu. Mae llawer yn cydnabod bod Chwarae Cymru, ers datganoli, wedi cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu’i bolisi chwarae a’i roi ar waith ar lefel leol. Gyda gofid mawr nid oedd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru unrhyw ddewis ond i gyflwyno llythyrau rhybudd 12 wythnos o ddiswyddo i bob
aelod o staff ac, oni bai y gellir sicrhau ariannu wedi 30 Medi 2014, ni fydd modd i Chwarae Cymru barhau â’r gwaith yma. Mewn ymateb i’r penderfyniad ariannu yma rydym wedi sefydlu ymgyrch Cefnogwch Chwarae Cymru. Ers 15 mlynedd rydym wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros chwarae plant, bellach rydym yn y sefyllfa syfrdanol ble y mae rhaid inni ymgyrchu dros Chwarae Cymru. Am wybodaeth ynghylch sut y gallwch gefnogi ein ymgyrch, ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/ cym/cefnogwchchwaraecymru
Cychwyn ail ran y ‘dyletswydd chwarae’ Ar 1 Gorffennaf 2014 cychwynnodd Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, adrannau 11(3) ac 11(4) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Bydd Adran 11(3) yn gosododd dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardaloedd, cyn belled â bo’n rhesymol ymarferol, a gan roi sylw dyledus i’w asesiadau digonolrwydd chwarae. Bydd Adran 11(4) yn mynnu bod Awdurdodau Lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd ac yn diweddaru’r wybodaeth yma’n gyson. Bydd cychwyn y dyletswydd yn cael ei ddilyn gyda Chanllawiau Statudol i gefnogi Awdurdodau Lleol i gydymffurfio â’r dyletswydd hwn. www.chwaraecymru.org. uk/cym/digonolrwydd
Golwg arall ar Welingtons Croen Llewpard Mae Chwarae Cymru a Phrifysgol Swydd Gaerloyw wedi cydweithio ar astudiaeth ymchwil gweithredu ar raddfa fechan i’r paratoadau a wnaethpwyd gan nifer fechan o Awdurdodau Lleol ar gyfer cychwyn ail ran y Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae – i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol.
cyfleoedd chwarae digonol, fel yr amlinellwyd yn adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Mae’r ymchwil yn ystyried y cynnydd a wnaethpwyd dros y 12 mis diwethaf wedi cyflwyniad Asesiadau Digonolrwydd Chwarae’r Awdurdodau Lleol, gan gyfeirio’n benodol at Gynlluniau Gweithredu a’r modd y mae Awdurdodau Lleol wedi ymbaratoi eu hunain i ymateb i gychwyn arfaethedig sicrhau
Roedd y gwaith o gasglu data’n cynnwys:
Mae hwn, ar y cyfan, yn werthusiad / astudiaeth ymchwil ôl-syllol sydd wedi ei gyfyngu gan gyllid, ond mae hefyd yn parhau â’r agwedd ‘pragmatiaeth egwyddorol’ y mae’n ymddangos bod pob rhanddeiliad wedi ei mabwysiadu wrth symud tuag at gychwyn ail gam y Dyletswydd ac mae hyn o ddiddordeb i’r astudiaeth hon.
•
ystyried y broses o ddatblygu canllawiau statudol
•
cyfweliadau lled-strwythuredig gydag arweiniad strategol o’r Awdurdodau Lleol fu’n astudiaethau achos
•
cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol ar lefel genedlaethol.
Bydd yr adroddiad llawn ar gael yn yr Haf. Mae’r adroddiad o’r astudiaeth ymchwil cyntaf – Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae, Cymru (2013) ar gael ar gais – ebostiwch gwybodaeth@chwaraecymru. org.uk – ac mae’r crynodeb gweithredol ar gael i’w lawrlwytho ar: www.chwaraecymru. org.uk/cym/ymchwil
4 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Perry Else
Taith Ysbryd 2014
Tristwch o’r mwyaf oedd clywed am farwolaeth ein cyfaill a’n cydweithiwr Yr Athro Perry Else yn ddiweddar.
Cynhaliwyd Taith Ysbryd 2014 ym mis Mai gyda saith beiciwr yn seiclo dros 200 milltir o Gaergybi i Gaerdydd dros ddau ddiwrnod, gan orffen mewn pryd ar gyfer ein cynhadledd flynyddol, Ysbryd.
Roedd yn gefnogwr brwd o Chwarae Cymru, a dros y deng mlynedd diwethaf fe gydweithiom â Perry nifer o weithiau pan wnaeth hwyluso gweithdai’n rheolaidd yn ein cynadleddau Ysbryd blynyddol. Bu’n aelod gweithgar o Grw^ p Ymgynghorol Rhaglen cynhadledd fyd-eang yr IPA yng Nghaerdydd yn 2011, fu’n gyfrifol am ddethol cyfraniadau ar gyfer y gynhadledd ble y cyflwynodd Perry bapur a gafodd dderbyniad gwresog iawn. Ond yn bwysicaf oll fu cyfraniad a mewnbwn gwerthfawr Perry fel aelod o’r Grw^ p Craffu wnaeth oruchwylio datblygiad yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. Fe wnaethom hefyd gydweithio â Perry yn ei rôl fel Swyddog Cyfathrebu Cangen Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o’r IPA (EWNI), ac yn fwy diweddar wedi ei ethol yn Gadeirydd. Yn 2013 fe wnaethom ddathlu gyda Perry wedi iddo dderbyn teitl Athro Astudiaethau Chwarae gan Brifysgol Sheffield Hallam, fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad sylweddol i’r proffesiwn gwaith chwarae yn y DU a thramor, dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Ymunodd Perry â’r byd academaidd yn 2005 ac ef oedd arweinydd y cwrs Plant a Gwaith Chwarae ym Mhrifysgol Sheffield Hallam. Roedd Perry yn cyfrannu’n rheolaidd i gyhoeddiadau’r diwydiant ond mae ei waith mwyaf adnabyddus yn seiliedig ar syniadau o’r Play Cycle (Sturrock ac Else 1998) a’r Integral Play Framework (1999); ef hefyd oedd awdur The Value of Play (2009). Fel aelod cyswllt o Ludemos – cartref gwaith chwarae therapiwtig – Perry oedd trefnydd cynhadledd awyr agored flynyddol Beauty of Play ers 2003. Bydd pawb yn Chwarae Cymru’n gweld eisiau Perry. Mae ei golli wedi gadael bwlch sylweddol yn y sector chwarae a gwaith chwarae.
Roedd y daith yn cynnwys dros 4000 medr o ddringo gan ddilyn llawer o lwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, Lôn Las Cymru, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. Eleni cododd y tîm arian er cof am ddau o’n cydweithwyr annwyl, coll o’r sector chwarae yng Nghymru: sef Gill Evans a Nick Waller. Gill oedd Rheolwraig Cyfathrebiadau
Chwarae Cymru tan ei marwolaeth yn 2011 a gweithiodd Nick fel cydlynydd chwarae ym Mhowys, ond bu farw’n ddisymwth iawn ym mis Rhagfyr 2013. Cydweithiodd yn agos â Gill i drefnu’r gwersyll Fforwm Gweithwyr Chwarae a gynhaliwyd cyn cynhadledd yr International Play Association yng Nghaerdydd yn 2011. Hyd yma, mae taith feiciau Ysbryd 2014 wedi codi bron i £1000 at Gronfa Goffa Nick Waller, er cof am y ddau, i ariannu diwrnodau chwarae a digwyddiadau chwarae eraill ar gyfer plant yng Nghymru. I gyfrannu trwy Just Giving, tecstiwch NWMF22 a swm at 70070. www.facebook.com/spiritride2014
Have a Field Day 2014 Mae Have a Field Day yn ffordd wych o gael pobl i fynd allan i’r awyr iach i gael hwyl. Wedi ei drefnu gan Fields in Trust, mae’n dod â chymunedau ynghyd ar safleoedd gwarchodedig Fields in Trust. Y llynedd, cynhaliwyd dros 30 o ddigwyddiadau ar draws Cymru. Mae Parc Wepre yn Sir y Fflint yn un o’r safleoedd gynhaliodd ddigwyddiad y llynedd a chynhelir digwyddiad arall yno eto eleni yn 2014. Fe weithiodd y parc mewn partneriaeth â nifer o grwpiau a rhanddeiliaid lleol i ddarparu diwrnod oedd yn cynnwys ystod eang iawn o weithgareddau ar gyfer pobl leol. O wal ddringo i lithrennau dw^ r a gweithdai celf, cafwyd arddangosfa wych o’r ystod amrywiol o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt ar safle Fields in Trust.
Os hoffech chi gymryd rhan eleni, gallwch daro eich côd post i mewn i wefan Fields in Trust www.fieldsintrust. org a chwilio am fathodyn Have a Field Day i ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich hardal chi. Neu beth am drefnu eich digwyddiad eich hun? Ymwelwch â www. fieldsintrust.org/family_day. aspx am fwy o wybodaeth.
Chwarae dros Gymru | Haf 2014 | 5
Project Wild Thing –
dangosiadau cymunedol O ganlyniad i grant gan Amgylchedd Cymru ar gyfer ein prosiect Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar, llwyddodd Chwarae Cymru i ariannu deg dangosiad cymunedol o’r ffilm ddogfen Project Wild Thing, sy’n hyrwyddo pwysigrwydd darparu mannau gwyrddion naturiol a hygyrch mewn ardaloedd trefol a rhannoldrefol trwy ddangos sut y mae hyn yn cefnogi plant i chwarae. Fe wnaethom ddatblygu pecynnau dangosiadau cymunedol oedd yn cynnwys amrywiol adnoddau i hybu trafodaethau a’r gwaith hyrwyddo. Fe gynhaliodd llawer o’r dangosiadau weithgareddau awyr agored ar gyfer plant a theuluoedd fel rhan o’u digwyddiadau, wnaeth gynorthwyo i gynyddu ymwybyddiaeth ymhellach. Mae’r dangosiadau wedi atgyfnerthu cefnogaeth a dynodi
gwirfoddolwyr lleol sydd wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd i ddynodi atebion lleol fydd yn galluogi mwy o blant i gael mynediad i’r amgylchedd awyr agored. Mae gweithwyr proffesiynol fynychodd y dangosiadau cymunedol wedi cysylltu â Chwarae Cymru i holi am wybodaeth ynghylch sut y gallent ddefnyddio’r ffilm i gynyddu ymwybyddiaeth o ran iechyd, lles a’r amgylchedd. Dywedodd Chantelle Haughton, Darlithydd a Chymrawd Addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ‘Roedd yn bleser cael gweithio mewn partneriaeth â Chwarae Cymru i drefnu dangosiad cymunedol o Project Wild Thing ar y campws. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i greu synergedd rhwng nifer o randdeiliaid o wahanol genedlaethau a disgyblaethau o fewn “cymuned y Brifysgol”; fe ddaeth darlithwyr, ymchwilwyr, ymarferwyr, athrawon, rhieni, mam-gus a thad-cus a phlant ysgol lleol i’r dangosiad. Fe wnaeth y ffilm ddogfen … ysgogi meddwl a thrafodaeth am ystod o brofiadau a chanfyddiadau’. www.projectwildthing.com
‘Dyma be fyddwn ni’n ei wneud yn ein clwb dydd Mercher, mynd allan i natur. ’Doeddwn i ddim yn arfer ei hoffi o’r blaen; nawr dwi’n mwynhau mwd hyd yn oed a dysgu am goed a chreaduriaid o’n hamgylch, mae sw^ n yr adar yn gwneud imi deimlo’n heddychlon. Rwy’n falch bod mam wedi dod heddiw, mae angen inni fynd â ’mrawd bach allan i’r coed.’ Mohammed, 9 oed, tra’n gwylio’r ffilm
Ffurflen asesu risg-budd newydd Mae’r ffurflen Asesu Risg-Budd newydd, a Gomisiynwyd gan y Play Safety Forum a’i hysgrifennu gan Yr Athro David Ball, Tim Gill a Bernard Spiegal, gyda mewnbwn gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn ganllaw byr ar roi asesu risg-budd (ARB) ar waith mewn chwarae.
Pwrpas y ffurflen Mae’r ffurflen wedi ei dylunio i gefnogi agwedd gytbwys tuag at reoli risg trwy ddefnyddio’r
broses asesu risg-budd. Mae’n anelu i wneud yr argymhellion a geir yn Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu yn fwy hygyrch a rhwydd i’w gweithredu gan bobl sydd, trwy eu gwaith bob dydd, ynghlwm â chreu, cynnal a chadw ac archwilio mannau ble y bydd plant yn chwarae.
Ar gyfer pwy y mae hwn? Mae wedi ei anelu at y bobl hynny sydd ynghlwm â darparu
cyfleoedd chwarae mewn ystod o gyd-destunau, yn cynnwys ardaloedd chwarae, parciau cyhoeddus, mannau gwyrddion, lleoliadau gofal plant y tu allan i’r ysgol, lleoliadau gwaith chwarae, ysgolion a gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Mae’r ffurflen ar gael i’w lawrlwytho o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ rheolirisg
6 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Cyfweliad gyda Yn ôl ym mis Mehefin cawsom air gyda Vaughan Gething AC, Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, am ei blentyndod ei hun, pwysigrwydd chwarae plant a chychwyn y Dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol.
Beth ydych chi’n ei gofio’n bennaf am chwarae fel plentyn? Chwarae gyda fy mrodyr a fy ffrindiau. Yr hyn rwy’n ei gofio’n bennaf yw bod y mwyafrif o’n chwarae’n digwydd y tu allan. Er ein bod yn gwneud llawer y tu mewn hefyd – fe fydden ni’n chwarae gemau bwrdd fel Monopoly. Roedd tipyn o chwarae – roedden ni’n deulu mawr.
Beth yw eich hoff atgofion chwarae? Chwaraeon; fe fydden ni’n chwarae pêl-droed a chriced yn yr ardd, neu wedi inni dyfu’n rhy fawr i’r ardd, fe fydden ni’n mynd i lawr i faes y pentref.
Erbyn hyn, ble fydd plant yn chwarae yn eich cymuned chi? Sut mae hyn yn wahanol i’r ardal ble y cafoch chi eich magu? Mae rhywfaint yn wahanol, ond mae hynny oherwydd imi symud. Roeddwn i’n byw mewn pentref gwledig ac roedd gan bobl agwedd weddol agored tuag at weld plant yn cael – ac yn derbyn caniatâd – i chwarae’r tu allan yn y stryd oherwydd nad oedd fawr ddim traffig. Mewn rhannau o fy etholaeth fe fydda’ i dal i weld plant yn chwarae yn y stryd, er enghraifft yn Grangetown fe allwch chi dal weld plant yn chwarae pêl-droed
neu griced yn rhai o’r strydoedd pengaead ble nad oes modd i geir deithio trwyddynt ac yn Llanrhymni gwneir defnydd da iawn o’r ‘rec’. Mae gwahaniaeth i gael gan fod agweddau rhieni wedi newid tuag at y cynnydd mewn traffig a’r canfyddiad o risg ac mae pobl wedi newid eu barn ar roi rhyddid i blant fynd allan a chwrdd â’u ffrindiau a chwarae gyda’i gilydd.
Yw eich dealltwriaeth o chwarae wedi newid ers ichi weithio gyda’r sector chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru? Ydi, oherwydd ’doedd gen i ddim yr un berthynas neu gyswllt â rhai o’r mudiadau, ond mae fy nheimladau cyffredinol am bwysigrwydd chwarae a chyfleoedd yn dal i fod yr un peth. Mae ambell i wahaniaeth yn y modd yr wy’n ystyried pethau, yn arbennig y modd y bydd mudiadau gwirfoddol yn trefnu cyfleoedd ar gyfer plant i chwarae a’r modd y bydd awdurdodau lleol yn hwyluso rhywfaint o hynny a’r amrywiaethau rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru.
Beth ydych chi’n credu y gallwn ni, fel aelodau o’r gymuned, ei wneud i’w gwneud hi’n haws i blant chwarae’r tu allan? Mae hyn yn ymwneud â’r modd y mae oedolion yn ystyried eu
plant a chanfyddiadau ynghylch ymddygiad gwrth-gymdeithasol – yn anffodus mae rhai pobl yn ystyried bod lleiafrif o bobl ifanc yn cynrychioli ystod gyflawn o bobl ifainc. Rwy’n credu bod rhai aelodau o’r gymuned yn ystyried pob person ifanc fel bygythiad, felly rwy’n credu y byddai’n iachach pe bae gan oedolion wahanol ganfyddiad o bwysigrwydd chwarae a chyfleoedd i blant fynd i wneud pethau drostynt eu hunain ond mae rhaid inni hefyd weld newid mewn agweddau, yn arbennig o ran plant hy^ n. Mae’n golygu pwysleisio’r pwynt bod cael cyfleoedd i chwarae’n rhan bwysig o ddatblygiad plentyn.
Sut allwn ni sicrhau fod tlodi profiadau – er enghraifft, diffyg cyfleoedd chwarae cyfoethog – yn derbyn yr un sylw a ffocws â thlodi economaidd? Wnaiff e’ ddim derbyn yr un ffocws â thlodi economaidd oherwydd fe wyddom fod tlodi economaidd yn ddangosydd mor bwysig o ystod gyflawn o gyfleoedd eraill a ’dyw hi ddim yn gwneud synnwyr inni geisio delio â chyfleoedd chwarae ar eu pen eu hunain. Ond ceir cydnabyddiaeth amlwg i bwysigrwydd chwarae yn natblygiad y plentyn yn gymdeithasol, yn emosiynol ac o ran lleferydd ac iaith. Edrychwch ar Dechrau’n Deg, oes mae elfennau ohono wedi eu strwythuro, ond fe geir cyfleoedd chwarae.
Chwarae dros Gymru | Haf 2014 | 7
Beth ydych chi’n credu fydd cychwyn ail ran y ‘Dyletswydd Chwarae’, fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn ei olygu i blant yng Nghymru mewn gwirionedd?
Ceir cyfleoedd i chwarae yn y Cyfnod Sylfaen hefyd – rydym yn cydnabod bod chwarae’n rhan o’r siwrnai ddysgu honno o fewn amgylchedd strwythuredig, yn ogystal â’r hyn fydd yn digwydd y tu allan. Os feddyliwch chi ble rydyn ni nawr, o’i gymharu â 15 mlynedd yn ôl ar ddechrau’r cyfnod datganoli, mae’r amgylchedd wedi newid yn sylweddol a hynny er gwell. Fodd bynnag, mae rhagor o waith yn dal ar ôl i’w wneud o ran sut y byddwn yn annog cyfleoedd y tu hwnt i’r amgylchedd strwythuredig hwnnw, y modd y bydd oedolion yn ystyried chwarae’r tu allan, ein agweddau tuag at draffig a thrafnidiaeth a mannau agored a chyfleoedd i blant fynd i wneud pethau heb i ^ rywun roi stw r iddyn nhw a dweud wrthyn nhw i fynd adre oherwydd ^ nad ydyn nhw’n hoffi’r sw n y mae’r plant yn ei wneud. Mae’r materion yma i gyd yn fater o gydbwysedd – allwch chi ddim bod â sefyllfa absoliwt, ble y gall plant wneud yn union beth hoffen nhw ei wneud ar unrhyw adeg o’r dydd, ond ar yr un pryd dydyn ni ddim am ddweud y dylid rheoli a mesur pob agwedd unigol o fywyd plentyn oherwydd ’dyw hynny ddim yn brofiad unrhyw un ohonom.
Mae plant yn dweud wrthym bod pwysau cynyddol ar eu amser i
chwarae. Beth, yn eich barn chi, all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau fod pob un ohonom yn cynnal cydbwysedd rhwng chwarae ac awydd amlwg i weld plant a phobl ifainc yn gwneud rhywbeth strwythuredig ac wedi ei drefnu trwy’r amser? Mae cydbwysedd yn allweddol. Mae gan lawer o gyfleoedd strwythuredig sydd wedi eu trefnu fuddiannau gwych i blant a phobl ifainc. Ond mae angen inni sicrhau nad dyma’r unig beth y byddwn yn disgwyl i blant gael cyfle i’w wneud. O feddwl yn ôl i fy mhlentyndod fy hun a gallu chwarae’r tu allan gyda fy ffrindiau – fe fydden ni’n mynd i nôl set criced ac fe fydden ni’n mynd i chwarae, felly mae hynny’n elfen strwythuredig gan fod rheolau i’r gêm ond doedd neb yn ein hyfforddi nac yn ein dysgu. Roedd yn ddewis yr oedden ni’n ei wneud – roedd modd inni wneud y dewis hwnnw a mwynhau ei wneud. Rydyn ni angen cydbwysedd, felly dydyn ni ddim yn dweud bod rhaid i’r cyfan fod yn ddistrwythur, wedi ei arwain gan y plant nac ychwaith bod rhaid i’r cyfan gael ei arwain gan oedolyn a’i drefnu i’r eiliad.
Rwyf newydd arwyddo’r Gorchymyn Cychwyn, felly bydd y Dyletswydd yn ei le erbyn dechrau mis Gorffennaf. Yr hyn fu’n hynod o bositif wrth gychwyn y Dyletswyddau hyn gyda’r awdurdodau lleol yw, o’r dechrau cyntaf, y modd y maent, ar y cyfan, wedi bod yn gwbl gadarnhaol yn ei gylch. Rydym wedi gweld parodrwydd i geisio gwneud hyn – mae awdurdodau lleol wedi sylweddoli bod cael eu gorfodi i edrych ar yr holl gyfleoedd sy’n bodoli eisoes o fewn gwahanol gymunedau’n dasg ddefnyddiol iawn. O ganlyniad i orfod ymwneud â’r ddeddfwriaeth hon, mae ganddynt drosolwg gwell o gyfleoedd. Yn benodol, ar gyfer ail ran y dyletswydd, bu’n gymorth mawr i fod ag opsiynau cost isel neu ddi-gost, felly bydd y canllawiau yr ydym wedi ymgynghori arnynt, ac y byddwn yn eu cyhoeddi, yn atgyfnerthu’r ffaith y gall, a bod, y cyfleoedd hynny’n bodoli. Fe wyddom fod awdurdodau lleol dan bwysau ariannol anferthol ond nid yw’r dyletswydd yma’n gofyn i awdurdodau lleol wario llawer o arian ychwanegol. Mewn rhai agweddau, fydd dim angen iddyn nhw wario arian o gwbl ond fe allen nhw ddal wneud gwahaniaeth yn y modd y bydd y cyfleoedd chwarae hynny ar gael i blant a phobl ifainc, felly rwy’n credu y bydd y dyletswydd yn gwneud gwahaniaeth. Fe ddylai, ac fe allai, fod yn rhan o weld Cymru wir yn arwain Prydain, ac ar lefel ryngwladol ehangach, wrth atgyfnerthu pwysigrwydd chwarae a’r hyn y gallwn, yn ymarferol, wneud yn ei gylch.
8 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Beth wnes ti heddiw? – Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar araith Dr Ruth Hussey, y Prif Swyddog Meddygol, yng nghynhadledd Ysbryd yng Nghaerdydd 14 Mai 2014 Ydych chi’n cofio eich hoff amser chwarae cyntaf? Sgipio, dringo coed, adeiladu cuddfan … Mae atgofion plentyndod a chwarae wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn ein cof ac maent yn rhan bwysig o’n hunaniaeth. Rydym yn sylweddoli’n gwbl reddfol, pa mor allweddol yw chwarae i ddatblygiad, dysg, bywyd teuluol, cyfeillion ysgol, iechyd cyffredinol a lles plentyn. Mae’r agwedd seiliedig ar hawliau yn caniatáu inni bwysleisio bod hawl y plentyn i chwarae yn bwysig a dymunol ynddo’i hun. Mae’r ymrwymiad yma i chwarae fel hawl ynddo’i hunan yn caniatáu inni hefyd archwilio’r cyfrifoldebau tuag at blant sy’n llifo ohono, fel llywodraeth, ond hefyd fel gwasanaethau cyhoeddus lleol, gan weithio ar y cyd fel cymunedau ac unigolion, i hybu a chefnogi chwarae diogel o safon uchel ar gyfer pob plentyn. Mae’r gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn defnyddio egwyddorion atal, gwarchod iechyd, a therapi i gefnogi chwarae fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i chwarae, fel un o’r saith nod craidd ar gyfer pob plentyn. Mae chwarae plant, trwy ddiffiniad, yn cael ei gyfarwyddo’n bersonol, felly mae angen i wasanaethau iechyd hyrwyddo’r amodau sy’n caniatáu i blant chwarae’n dda ac yn ddiogel. Mae marwolaethau plant o ganlyniad i ddamweiniau traffig wedi lleihau’n fawr iawn dros yr 20 mlynedd diwethaf, nid dim ond o ganlyniad i ddatblygiadau mewn prosesau rheoli trawma difrifol mewn ysbytai, ond hefyd o ganlyniad i gynlluniau iechyd cyhoeddus megis defnyddio gwybodaeth i lywio cynllunio cymdogaethau er mwyn gwella diogelwch ffyrdd.
Cymerwyd camau i wella diogelwch yn y cartref. Enghraifft ddiweddar yw lleihau’r risg o blant yn cael eu crogi’n ddamweiniol gan linynnau bleinds. Mae gwybodaeth diogelwch yn y cartref a chyngor a roddir gan Ymwelwyr Iechyd a Dechrau’n Deg bellach yn hysbysu rhieni am safon ddiwydiannol newydd i ddiogelu llinynnau bleinds, er mwyn eu helpu i amddiffyn eu plant tra’n chwarae. Er mwyn i blant gael dewis i chwarae’r tu allan, byddant angen amgylcheddau sy’n hygyrch, deniadol a diogel. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Athro Sir Michael Marmot wedi creu crynodeb o’r dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd, gan gefnogi pwysigrwydd chwarae’n gryf. Nododd sut y mae amgylcheddau tlawd yn lleihau cyfleoedd i blant chwarae’r tu allan, ac mae ei argymhellion yn cynnwys gwell cyfleusterau chwarae. Dengys gwybodaeth ar ordewdra mewn plentyndod bod plant sy’n byw mewn tlodi yn llai actif ac yn fwy tebygol o fod dros eu pwysau. Maent angen amgylcheddau awyr agored diogel a mannau agored deniadol ger riniog y drws er mwyn cynnig gwir ddewis i chwarae’r tu allan. Mae’r buddiannau i’r GIG o liniaru gordewdra ymysg plant ac iechyd yn gyffredinol, yn elfen eilaidd i’r prif nod fod gan bob plentyn hawl i chwarae, ond fe wyddom bod lefelau ymarfer corff merched a bechgyn yn dechrau amrywio o’u harddegau cynnar ymlaen. Mae angen inni annog chwarae corfforol anghystadleuol. Beth os yw’r plant ddim ond am chwarae gemau cyfrifiadurol neu wylio’r teledu? Rydym yn gwneud argymhellion i gyfyngu ar amser
sgrîn ar gyfer plant, gan fod treulio gormod o amser o flaen sgrîn yn gysylltiedig â phroblemau iechyd fel ymddygiad llonydd, gordewdra, a diffyg cwsg. Mae angen inni annog opsiynau chwarae amgen. A gaiff plant anabl eu cynnwys mewn chwarae? Dengys canfyddiadau diweddar y gall plant anabl fod â golwg gwael sydd ddim yn cael ei drin, ac o’r herwydd ei fod yn eu heithrio o weithgareddau bob dydd yn cynnwys chwarae. Mae GIG Cymru yn gweithio gyda Chynllun Gofal Llygad Disgyblion Ysgol (SPECS) Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff plant mewn ysgolion arbennig brofion llygaid a darpariaeth sbectol yn yr ysgol, a thrwy hynny ddileu rhwystrau golwg i chwarae a rhyngweithio. Mae rôl GIG Cymru wrth hybu chwarae iach yn cynnwys: • darparu arbenigwyr chwarae mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawrion, er mwyn lleihau poen a gofid meddwl i blant sâl • annog darllen gyda phlant bach trwy’r rhaglen Dechrau Da • hybu datblygiad ieithyddol a chymdeithasol trwy raglen Plant Iach Cymru • hybu iechyd meddwl trwy’r rhaglen Beth am Siarad â Fi? • sicrhau diagnosis cynnar o golli clyw trwy raglen sgrinio clyw babanod. ’Does yr un o’r gwasanaethau hyn yn cynnwys ‘chwarae’ fel canlyniad – ond mae’r cyfan yn cyfrannu at brofiad pob plentyn o chwarae. Mae’n amlwg bod gan bob un ohonom rôl a chyfrifoldeb i alluogi plant i chwarae. http://wales.gov.uk/topics/ health/cmo/?skip=1&lang=cy
Chwarae dros Gymru | Haf 2014 | 9
blant mewn ysbytai
Mynediad i’r rhyngrwyd i
Dywed Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) bod gan bob plentyn yr hawl i addysg, gwybodaeth, chwarae a chyfeillgarwch. Mae’r rhyngrwyd yn chwarae rôl amlwg iawn yn ein cymdeithas gyfoes, gyda bron pob plentyn hy^ n yn defnyddio’r Rhyngrwyd ar gyfer y gweithgareddau hyn. Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn pwysleisio y dylai pleidiauwladwriaethau gymryd pob cam priodol i sicrhau fod pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni eu hawliau yn unol ag Erthygl 31 o GCUHP, a hynny heb wahaniaethu o unrhyw fath. Dylid rhoi sylw arbennig i ymdrin â hawliau grwpiau penodol o blant, gan gynnwys plant mewn sefydliadau gofal iechyd. Mae’r Sylw Cyffredinol hefyd yn creu cysylltiad rhwng Erthygl 31 ac Erthygl 24. Mae’n nodi, ‘bydd sicrhau’r hawliau y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 31, nid yn unig yn cyfrannu tuag at iechyd, lles a datblygiad plant, ond hefyd bydd darpariaeth priodol i blant fwynhau’r hawliau a geir yn Erthygl 31 pan fyddant yn sâl a / neu yn yr ysbyty yn chwarae rhan bwysig wrth hwyluso eu gwellhad’. Mae ansawdd amgylchedd yr ysbyty yn bwysig i les. Cydnabyddir y ffaith bod absenoldebau maith o’r ysgol yn effeithio ar gyfeillgarwch a rhyngweithio cymdeithasol. Mae’r Sylw Cyffredinol hefyd yn cydnabod rôl cynyddol y cyfryngau electronig. Mae’n nodi, ‘mae plant ym mhob cwr o’r byd yn treulio mwy a mwy o amser yn mwynhau chwarae, gweithgareddau adloniadol, diwylliannol ac artistig, fel defnyddwyr yn ogystal â chreawdwyr, trwy amrywiol gyfryngau a llwyfannau digidol, yn cynnwys gwylio’r teledu, negesu, rhwydweithio cymdeithasol,
chwarae gemau, tecstio, gwrando ar a chyfansoddi cerddoriaeth, gwylio a chreu fideos a ffilmiau, creu ffurfiau newydd o gelf, postio lluniau. Mae technolegau cyfathrebu a gwybodaeth yn esblygu i fod yn elfen ganolog o realiti dyddiol plant. Heddiw, bydd plant yn symud yn gwbl ddidrafferth rhwng amgylcheddau all-lein ac ar-lein. Mae’r llwyfannau hyn yn cynnig buddiannau aruthrol – yn addysgol, cymdeithasol a diwylliannol – ac annogir Gwladwriaethau i gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn i brofi’r buddiannau hyn. Mae mynediad i’r Rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn ganolog i wireddu hawliau Erthygl 31 mewn amgylchedd byd-eang.’ Goruchwyliodd Dr Elspeth Webb, Darllenydd mewn Iechyd Plant ym Mhrifysgol Caerdydd a Phediatregydd Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, astudiaeth o fynediad i’r Rhyngrwyd mewn ysbytai plant ac ysbytai dosbarth â gwelyau pediatrig1. Dangosodd yr astudiaeth, tra bo’r mwyafrif o ysbytai’n caniatáu mynediad i’r Rhyngrwyd i blant a phobl ifainc, roedd llawer o anghysondeb, gyda rhai’n darparu’r Rhyngrwyd at ddibenion addysgol yn unig, a chanfyddwyd amrywiol gyfyngiadau. 1 Rees, T., Brooks, R. a Webb, E. Internet access for inpatients. Archives of Diseases in Childhood 98(9): 746-747 Medi 2013. Ar gael o: http://adc. bmj.com/content/early/2013/06/12/ archdischild-2013-304453.extract
Meddai Elspeth, ‘Mae’n ymddangos nad oedd unrhyw gyfiawnhad am y diffyg cysondeb yma. Mewn tair ysbyty mae rhaid i gleifion dalu i chwarae a chymdeithasu, sy’n ymddangos yn arbennig o annheg. ‘Mae’n ddyletswydd ar ysbytai i amddiffyn eu cleifion pediatrig, felly ’doedd yn ddim syndod bod defnydd amhriodol yn destun pryder. Fodd bynnag, mae achosion o’r fath yn brin. Dylai defnydd amhriodol fod yn broblem i weithio o’i chwmpas, yn hytrach na’n rheswm i atal mynediad; mae’n ymddangos y byddai’n rhesymol i ysbytai rannu arfer dda, gyda chyngor diogelwch, wedi ei gyfuno â rheoliadau, yn ffordd bragmataidd ymlaen i bawb. ‘Trwy wrthod y defnydd o’r Rhyngrwyd mewn ysbytai, rydym yn peryglu mynediad i addysg, gwybodaeth, cyfeillion a chwarae ar adeg pan fo plant yn bryderus, ofnus, unig ac yn aml, mewn poen. Gallai darparu mynediad diogel i’r rhyngrwyd helpu i normaleiddio gorfod mynd i’r ysbyty a lleihau effaith derbyn triniaeth ar addysg a chyfeillgarwch rhwng cyfoedion. Mae angen i ysbytai ymateb i’r newid yma ym myd diwylliannol plant ac addasu’r amgylchedd i gydweddu â hynny.’
10 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Yr oll sydd ei angen yw Fel y dywedodd y dychanwr a’r bardd Rhufeinig, Juvenal, agweddau pwysicaf bywyd da yw Mens sana in corpore sano: ‘Meddwl iach mewn corff iach.’ Er mwyn i’n pobl ifainc sicrhau’r cyflwr Juvenalaidd yma, yr oll sydd ei angen yw chwarae. Dewch inni ddechrau gyda’r corff – neu i fod yn fanwl gywir, yr hyn sydd wedi mynd o’i le gyda’r corff. Mae amrywiol ffynonellau’n nodi bod y DU yn wynebu argyfwng gordewdra: er enghraifft, mae’r Institute for Health Metrics and Evaluation, canolfan ymchwil fyd-eang annibynnol sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Washington yn America, wedi canfod ein bod yn dioddef o’r lefel gordewdra trydydd uchaf yn Ewrop. Mae nifer o ddamcaniaethau amrywiol wedi eu llunio i egluro’r broblem (gan gynnwys gorddefnydd o wrthfiotigau) ond, ’does bosib mai gwreiddyn yr helynt yw problem mewnbwn-allbwn: gormod o galorïau i mewn, dim digon o weithgarwch corfforol allan. Mae gan chwarae rôl allweddol yn hyn o beth: mae data concrid yn dangos mai chwarae’r tu allan yw’r ffordd mwyaf heini i blant dreulio eu dyddiau. Er enghraifft, gweithiodd astudiaeth ddiweddar a adolygwyd gan gymheiriaid ym Mhrifysgol Bryste, oedd yn rhan o’r prosiect Cymdeithasau Personol ac Amgylcheddol â phrosiect Iechyd Plant, gyda sampl o 427 o blant deg i unarddeg mlwydd oed o’r ardal leol. Mesurwyd dwyster eu gweithgarwch â mesuryddion cyflymu, tra y defnyddiwyd tracio GPS i nodi os oeddent y tu mewn neu’r tu allan. Canfyddodd yr ymchwilwyr, am bob awr a dreuliwyd y tu allan yn chwarae gyda ffrindiau, bod y plant yn gwneud 17 munud
ychwanegol o ymarfer corff. Yn anffodus, nid yw hyn yn realiti i’r mwyafrif o blant yn y DU. Fel y dywedodd Angela Page, darllenydd mewn ymarfer corff a gwyddor iechyd ym Mryste: ‘Fe ganfyddom fod plant yn treulio’r rhan fwyaf o’u amser ar ôl ysgol y tu mewn a fawr ddim amser y tu allan yn chwarae gyda phlant eraill, sy’n gwneud y cyfraniad mwyaf sylweddol i hynny o weithgarwch corfforol y byddant yn ei gael.’ Caiff y canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn yr International Journal of Behavioral Nutrition and Physical Activity, eu hategu gan ffynonellau yng Ngogledd America. Er enghraifft, disgrifiodd Mark Tremblay, prif swyddog gwyddonol Active Healthy Kids Canada, chwarae fel ‘brawd bach angof’ y teulu ymarfer corff a’i fod yn gwbl allweddol ar gyfer sicrhau lles corfforol plant. Yr ochr yma i Fôr Iwerydd, dywedodd Guy Ker, rheolwrgyfarwyddwr Super Camps, darparwr gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol yn y DU, fod y pwyslais ar chwaraeon yn hytrach na chwarae yn niweidiol i iechyd y wlad. ‘Yr elfen allweddol yw cael plant i fwynhau bod yn weithgar – ac mae hynny’n golygu cael hwyl yn chwarae gemau corfforol,’ meddai. ‘Pan gaiff disgyblaethau chwaraeon, fel pêl-droed, eu cyflwyno’n rhy gynnar bydd yn gelyniaethu llawer o blant.
Chwarae dros Gymru | Haf 2014 | 11
Unwaith iddyn nhw benderfynu nad yw bod yn heini yn hwyl, maent wedi cychwyn ar drywydd gordewdra.’ Ta waeth am yr elfen gorfforol: beth am y meddwl (a’r jeli llwyd sy’n ei greu)? Fel y dywedodd y diweddar, annwyl Perry Else, athro astudiaethau chwarae Prifysgol Sheffield Hallam: ‘fel bo gweithrediadau ymenyddol yn cynyddu, bydd amrywiaeth a chymhlethdod y chwarae’n cynyddu – oes unrhyw syndod bod anifeiliaid sydd a’r ymennydd mwyaf ymysg y mwyaf chwareus? Ceir tystiolaeth gref mai un o’r rhesymau dros esblygiad chwarae yw i ddatblygu ymennydd sy’n fwy effeithlon trwy wella cysylltiadau cortigol; a phan fyddwn yn chwarae, bod yr arwyddion nerfol y mae ein cyrff yn eu cynhyrchu’n creu llwybrau sy’n hybu datblygu’r ymennydd.’ Gan fod chwarae mor bwysig ar gyfer twf niwrol, does fawr syndod fod cael eich amddifadu o chwarae’n arwain at amrywiaeth o effeithiau meddyliol negyddol. Fel y pwysleisiodd Sergio Pellis, athro niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Lethbridge, Alberta, Canada: ‘mae’n ymddangos bod absenoldeb cynyddol profiadau chwarae yn ystod plentyndod yn cyfateb i amrywiol anhwylderau seiciatryddol a diffyg sgiliau cymdeithasol’. Er gwaethaf canlyniadau o’r fath, yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf mae cymdeithasau yn y Gorllewin wedi cyfyngu fwyfwy ar gyfleoedd ar gyfer chwarae’n rhydd a’u disodli â gweithgareddau ysgol a lled-
addysgol. Fel y cyfeiriodd Peter Gray, athro seicoleg yng Ngholeg Boston, yn ei flog Psychology Today: ‘Mae plant heddiw yn treulio mwy o oriau’r dydd, dyddiau’r flwyddyn a blynyddoedd o’u hoes yn yr ysgol nag erioed o’r blaen. Rhoddir mwy o bwyslais ar brofion a graddau nag erioed o’r blaen.’ Mae’n dadlau bod hyn yn arwain at lefelau uwch o bryder, iselder a narsisiaeth mewn plentyndod. Felly dyna ni. Er mwyn sicrhau meddyliau a chyrff iach, bydd angen i blant gael mynediad i chwarae rhydd. Bydd eu hamddifadu o hyn yn golygu canlyniadau difrifol iddyn nhw fel unigolion ac i gymdeithas yn gyffredinol. Ysgrifennwyd gan Rob Parr, cyn is-olygydd gyda’r Times Higher Education. Mae’n aelod cyswllt o A5cend, corff ymgynghorol a chodi arian sy’n gweithio mewn partneriaeth ag elusennau, yn cynnwys London Play. Mae Rob hefyd wedi ysgrifennu erthygl estynedig ar bwysigrwydd chwarae yn y Times Higher Education. Yn yr erthygl honno mae’n nodi bod ‘amddifadiad adloniadol wedi ei gysylltu â throseddoldeb, gordewdra a dirywiad creadigrwydd’ ac felly mae’n anelu i ateb ‘pam nad yw cael hwyl yn cael ei gymryd o ddifrif’. Mae’r erthygl ar gael ar wefan y Times Higher Education.
12 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Dylunio mewn ardaloedd trefol gan ystyried plant a natur
Gan Helle Nebelong
Wrth inni dyfu’n fodau mwy trefol – yn byw mewn trefi a dinasoedd ac yn treulio mwy o amser fel unigolion o flaen sgriniau a doeth-ffonau – dylai darpariaeth amgylcheddau naturiol a chyswllt â natur fod yn rhan o agenda wleidyddol pob llywodraeth i sicrhau bod gan blant, pobl ifainc a’u teuluoedd fynediad i fannau gwyrddion cyfagos a chyfleoedd i chwarae, ymlacio a chymdeithasu. Gall diffyg cyswllt dyddiol â natur fod yn niweidiol – gall mynediad i amgylcheddau naturiol gyfrannu’n sylweddol at ein lles meddyliol ac emosiynol. Straen yw un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd cyhoeddus yn ein rhan ni o’r byd. Datblygodd y gwyddonwyr o America, Rachel a Stephen Kaplan, y ddamcaniaeth Attention Restoration Theory (ART), sy’n pwysleisio buddiannau adferol natur. Mae’r ddamcaniaeth yn honi y gall pobl ganolbwyntio’n well wedi iddynt dreulio amser ym myd natur, neu hyd yn oed ar ôl edrych ar olygfeydd o natur. Maent yn honi bod gan bob un ohonom ddau fodd o dalu sylw: Sylw cyfeiriol; a ddefnyddir pan fyddwn yn cyfeirio ein hunain i ffocysu a chanolbwyntio ar dasg penodol sy’n galw am ymdrech feddyliol – er mwyn sicrhau hyn, bydd rhaid inni ddileu synau diangen ac ymyriadau eraill sy’n tarfu ar ein lefel canolbwyntio.
Mae gallu bod dynol i gynnal sylw cyfeiriol yn gyfyngedig; yn ôl damcaniaeth y Kaplans gallwn ddioddef o flinder sylw cyfeiriol os y byddwn yn dal i geisio mynd y tu hwnt i’n gallu trwy geisio datrys problemau sy’n gynyddol ddyrys. Gall mynediad i fannau gwyrddion naturiol gyfrannu tuag at oresgyn y math yma o flinder. Sylw anwirfoddol; sylw greddfol, awtomatig sy’n ymddangos pan fyddwn dan ddylanwad synau ac arogleuon natur a newidiadau mewn tymheredd. Byddwn yn defnyddio’r math yma o sylw pan fyddwn mewn amgylcheddau naturiol neu mewn cysylltiad â natur. Nid yw’n galw am unrhyw ymdrech feddyliol arbennig ac mae’n helpu i’n tawelu. Mae’n dilyn felly, pan fyddwn yn datblygu datrysiadau cynaliadwy, da ar gyfer darparu mannau chwarae trefol ei bod yn bosibl y byddwn angen delio â heriau posibl er mwyn creu amgylchedd sy’n meithrin sylw anwirfoddol.
Man chwarae a ddyluniwyd gan Helle mewn canolfan gofal dydd yn Copenhagen
Mewn llawer o gymunedau, mae meysydd chwarae cyhoeddus yn tyfu’n fwyfwy artiffisial gyda offer sefydlog o blastig a metal wedi eu gosod ar laswellt synthetig ac arwynebau rwber, sydd i’r gwrthwyneb yn llwyr o ddarparu amgylcheddau naturiol a rhoi profiadau naturiol i blant. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn nodi y dylai’r bobl sy’n llunio penderfyniadau wastad ystyried yr hyn sydd orau i’r plentyn. Pan ddaw’n fater o fannau chwarae, beth yw blaenoriaethau plant? Bydd pob plentyn, waeth beth fo’u oedran, rhyw, gallu, anfanteision a doniau am wynebu her a gwella eu sgiliau, all gynyddu eu annibyniaeth a’u dewrder, trwy chwarae ac ymarfer. Ar yr un pryd, mae’n hanfodol bod plant yn gysylltiedig â natur o oedran ifanc iawn. Bydd plant yn mwynhau chwarae ag elfennau fel dw^ r a phridd a rhannau rhydd
Chwarae dros Gymru | Haf 2014 | 13
naturiol fel tywod, brigau, cerrig, moch coed, dail, blodau, aeron ac elfennau naturiol eraill sy’n symbylu’r synhwyrau a datblygu creadigedd. Bydd chwarae mewn lleoliad naturiol gyda cherrig, boncyffion coed a dw^ r yn annog plant i ymarfer eu sgiliau motor, yn symbylu eu synhwyrau ac mae’n cyfrannu at ddatblygu ymwybyddiaeth cinesthetig o safle a symudiad y cyhyrau. Fel pensaer tirwedd, fe fyddwn yn argymell y cyngor canlynol wrth ystyried datblygu man chwarae naturiol ar gyfer plant a phobl ifainc: • Peidiwch â gwastraffu eich arian ar offer chwarae sefydlog • Canolbwyntiwch ar ddefnyddio deunyddiau a geir yn lleol, rhannau rhydd a phlanhigion / llwyni – all gynnwys deunyddiau sy’n sborion gan rywun arall • Defnyddiwch y Safonau EN/ BS ar y cyd â synnwyr cyffredin • Peidiwch â bod yn oramddiffynnol o blant – mae rhaid iddynt ddysgu am fywyd trwy brofi a methu a phrofiad • Canolbwyntiwch ar y gwerth chwarae ac nid ar y costau cynnal a chadw • Peidiwch â dewis ‘egotects’ (dylunwyr neu benseiri sy’n rhoi mwy o ystyriaeth ac sy’n canolbwyntio ar werth esthetig gofod neu adeilad yn hytrach na chwarae) i ddylunio mannau chwarae plant – mae’n bosibl na fydd eu cynllun wedi ei anelu at blant nac yn canolbwyntio ar anghenion a blaenoriaethau chwarae plant. Mae Helle yn Bensaer Tirwedd Danaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol fel dylunydd mannau chwarae naturiol ble y bydd plant yn ffynnu. Mae’n rhedeg ei phractis preifat ei hun mewn dylunio iechyd. Fel llywydd y Danish Playground Association a chynrychiolydd Ewropeaidd arweinyddiaeth y Nature Action Collaborative for Children (NACC), mae Helle yn eiriolwraig gref dros hawl plant i chwarae yn ogystal â’u hawl i gael mynediad i natur ac amgylchedd iach.
Polisi iechyd cyhoeddus a chwarae Tra bo buddiannau’r modd y bydd chwarae’n gwella iechyd corfforol cyffredinol yn cael eu cydnabod (Start Active, Stay Active 2011), cafodd hyn ei anwybyddu gan bolisïau iechyd prif ffrwd. Mae Chwarae Cymru wedi galw am newidiadau sylfaenol i bolisi iechyd cyhoeddus allai gynnig gwell cefnogaeth i chwarae plant yn ein hymateb i Gwrando arnoch chi – Mae eich iechyd yn bwysig Papur Gwyn Iechyd Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, yr ymgynghorwyd arno’n ddiweddar. Dylai cael mynediad i fannau ar gyfer iechyd, ymarfer corff a chwarae fod yn hawdd. Mae angen gweithredu er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i fannau lleol i chwarae a mwynhau. Mae angen gwarchod mannau agored a’u hyrwyddo fel mannau da a derbyniol i chwarae ac mae rhaid i fynediad iddynt fod yn well. Dylid hyrwyddo gallu plant i chwarae’r tu allan yn lleol. Dylid ad-ennill ffyrdd preswyl ar gyfer chwarae. Dylai fod yn rhwyddach i gymunedau gau eu strydoedd ar gyfer sesiynau chwarae ar y stryd. Dylai’r Llywodraeth ymuno â’r National Institute of Health & Clinical Excellence (NICE 2008) i hybu’n weithredol ddylunio trefol sy’n cael plant i fod yn fwy actif, trwy eu galluogi i deithio’n annibynnol a chwarae allan ar eu strydoedd lleol ac yn eu cymdogaethau. Dylai ymdrechion i wella gweithgarwch corfforol a lles mewn ysgolion ganolbwyntio ar fwy na dim ond chwaraeon ac addysg gorfforol. Methodd ^ p adroddiad diweddar gan Grw Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol a chyfeirio at y diffiniad eang o weithgarwch corfforol ac yn hytrach, gwnaeth argymhelliad unigol y dylai AG gael ei wneud yn bwnc craidd. Roedd hwn yn gyfle a gollwyd i annog mabwysiadu agwedd ysgol gyfan tuag at weithgarwch corfforol. Dylid cyfeirio ysgolion i ystyried os yw’n bosibl i agor tiroedd yr ysgol ar gyfer chwarae distrwythur y tu allan i oriau ysgol er budd y gymuned.
Dylid delio â chymhlethdod a phryderon ynghylch rheoliadau iechyd a diogelwch sy’n atal llawer o blant rhag cymryd rhan mewn chwarae awyr agored actif. Dywedodd hanner y plant a holwyd ar gyfer arolwg Diwrnod Chwarae yn 2008 eu bod wedi eu hatal rhag dringo coeden oherwydd ei fod yn ‘rhy beryglus’ (ICM/Playday 2008). Mae Chwarae Cymru’n cefnogi datganiad Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar bwysigrwydd ystyried y buddiannau, yn ogystal â’r risgiau, pan yn asesu chwarae plant (2012). Dylai pawb sy’n gweithio â phlant fabwysiadu’r agwedd holistig yma tuag at asesu risg. Mae angen, ar fyrder, delio â’r canfyddiadau negyddol o blant a phobl ifainc yn chwarae yn eu cymunedau. Mae anoddefgarwch tuag at weld plant a phobl ifainc yn chwarae allan yn eu cymunedau’n cael effaith cynyddol niweidiol ar iechyd plant. Mae’r cyfyngiadau a osodwyd ar ryddid symud plant trwy’r camddefnydd o orchmynion ymddygiad gwrth-gymdeithasol wedi cyfrannu tuag at farn negyddol o blant a phobl ifainc yn cael mynediad i fannau cyhoeddus ac wedi gwneud plant yn llai actif.
Meddai Marcus Longley, Cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ac Athro Polisi Iechyd Cymhwysol ym Mhrifysgol De Cymru: ‘Mae’r dystiolaeth am fuddiannau iechyd chwarae’n ysgubol, o ran lles corfforol yn ogystal â lles meddyliol plant. Ers blynyddoedd lawer rydym wedi cyfyngu’n ddiarwybod ac yn gynyddol ar chwarae plant, i’r fath raddau fel bod buddiannau’r weithgaredd naturiol yma’n dechrau pylu hefyd. Mae galluogi plant i wneud yr hyn ddaw’n naturiol – i chwarae – bellach yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus.’
14 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Chwarae a’r
Yn 2008, comisiynodd prosiect ‘Foresight’ Llywodraeth y DU, ar Les a Chyfalaf Meddyliol, y New Economics Foundation (NEF) i archwilio’r materion o bwys sy’n ymwneud â lles ac iechyd meddyliol ac i ddatblygu camau gweithredu ar gyfer cynyddu lles meddyliol. Roedd angen i’r camau gweithredu a bennwyd: fod yn seiliedig ar dystiolaeth, canolbwyntio ar unigolion, bod yn ddigon amrywiol fel bod pobl yn gallu eu cymhwyso i’w bywydau eu hunain ac yn apelio’n gyffredinol. Mae’r canlyniadau, sef ‘Pum Ffordd at Les’, yn cael eu hyrwyddo’n sylweddol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae asiantaethau’n cael eu hannog fwyfwy i ddefnyddio’r camau gweithredu ar gyfer cyfoethogi lles aelodau unigol o staff a’u defnyddio fel rhan o’u gwaith â defnyddwyr eu gwasanaethau. Dyma’r pum ffordd: Bod yn sylwgar – arafwch, cofiwch werthfawrogi a chydnabod eich doniau personol a doniau pobl eraill Cysylltu – cwrdd, ymuno, ffonio cyfaill, gwrando Bod yn fywiog – codi lan a rhoi tro arni, cerdded, rhedeg, seiclo, dawnsio, canu Dal ati i ddysgu – rhoi tro ar rywbeth newydd, rhoi tro arni, gofyn sut, ble a pham Rhoi – rhannu yr hyn sydd gyda chi, gwenu ar eraill, gwirfoddoli. Gan i Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac asiantaethau iechyd eraill, fabwysiadu’r Pum Ffordd at Les, ynghyd â’r pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd a 5x60 o weithgarwch corfforol fel negeseuon iechyd cadarnhaol, mae’r erthygl hon yn ystyried sut y mae chwarae’n cyfrannu at y pum ffordd. Fe wyddom y bydd plant, o gael amser, lle a chaniatâd, yn chwarae. Fe wyddom hefyd fod
chwarae’n allweddol ar gyfer lles meddyliol plant, ond sut mae hyn yn cydgysylltu â’r pum ffordd? Bod yn sylwgar – Pan fo gan blant amser a lle i chwarae, byddant yn ymgysylltu â’i amgylchedd mewn amrywiol ffyrdd. Pan fydd plant yn chwarae byddant yn cymryd sylw o’u hamgylchedd a, thrwy chwarae, byddant yn ymgysylltu â’r amgylchedd ac yn cyfaddasu iddo. Cysylltu – Mae gan chwarae rôl canolog wrth greu cysylltiadau cryfion â phobl yn ogystal â lleoliadau. Golyga hyn y bydd plant nid yn unig yn cysylltu â’i gilydd ond hefyd gydag oedolion yn eu amgylchedd. Yr un cyn bwysiced yw’r ffaith y byddant hefyd yn creu cysylltiadau cryfion â’r mannau y maent yn byw a chwarae ynddynt. Bod yn fywiog – Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos mai chwarae yw’r modd mwyaf effeithlon o gael plant i fod yn gorfforol fywiog. Bydd pob plentyn yn chwarae, ond nid yw pob plentyn am gymryd rhan mewn chwaraeon, fel pêl-droed, neu weithgarwch corfforol mwy strwythuredig. Dal ati i ddysgu – Mae chwarae’n caniatáu i blant ddysgu yn eu ffordd eu hunain ac i ryngweithio â chysyniadau newydd a dieithr mewn modd sydd ddim yn peri straen. Trwy arbrofi, rhyngweithio a chyfaddasu bydd plant yn parhau i ddysgu trwy chwarae ymhell wedi i’r dysgu a’r addysgu ffurfiol orffen am y dydd. Rhoi – Er nad yw’r dystiolaeth a gasglwyd gan NEF yn cyfeirio cyn gryfed at fuddiannau iechyd meddwl gweld plant a phobl ifainc
yn ‘rhoi’, mae’n amlwg bod plant yn dysgu sut i roi a rhannu ag eraill trwy chwarae. Mae hyn yn cynnwys trafod rhannu gofod, rhannu syniadau ac adnoddau ar gyfer chwarae a rhannu â’i gilydd. I blant hy^n sy’n cael chwarae gydag ac o amgylch plant iau, bydd rhoi yn digwydd yn naturiol ac yn gytûn wrth iddynt rannu gemau, mannau i chwarae a meithrin neu ymestyn chwarae’r plant iau. Mae ymateb i angen plant am ddigon o amser, lle a chaniatâd i chwarae’n elfen ganolog o’r Pum Ffordd at Les. Mae’r plant eu hunain wedi helpu i dystio i’r modd y bydd chwarae’n helpu i gyfrannu at eu lles a’u hapusrwydd cyffredinol. Yn 2011, cymharodd astudiaeth gymharol, a gynhaliwyd gan Agnes Nairn ac IPSOS MORI, fywydau plant yn y DU â rhai yn byw yn Sweden a Sbaen, er mwyn datgelu pam fod y DU wedi gwneud mor wael yng nghyd-destun lles plant. Gan ddefnyddio dangosyddion goddrychol, canfyddodd yr astudiaeth fod plant yn ystyried bod treulio amser gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd, yn ogystal â chael phethau hwyliog a diddorol i’w gwneud, yn gwbl hanfodol i’w lles. Mae Cymdeithas y Plant wedi datblygu canllaw ar gyfer rhieni ar sut i gefnogi’r Pum Ffordd at Les gyda’u plant. www.childrenssociety.org. uk/sites/default/files/tcs/ parents_guide_online_final.pdf I ddysgu mwy am y Pum Ffordd at Les yng Nghymru, ymwelwch â: www.wales.nhs.uk
Chwarae dros Gymru | Haf 2014 | 15
Cymru
gwlad chwaraegyfeillgar
Mae Gwasanaethau Chwarae ac Egwyl Fer Torfaen yn darparu egwyl fer (seibiant) i deuluoedd cymhleth ar draws y bwrdeistref trwy glybiau chwarae cymunedol, prosiectau sy’n gysylltiedig ag ysgolion, sesiynau chwarae therapiwtig a chynlluniau chwarae gwyliau haf a hanner tymor. Mae agwedd partneriaeth aml-asiantaethol yn galluogi Gwasanaethau Chwarae ac Egwyl Fer Torfaen i gefnogi dros 200 o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion sy’n amrywio o fân-anghenion ychwanegol i anghenion meddygol cymhleth ac anableddau dwys, i fynychu darpariaeth chwarae cymunedol. Trwy weithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol, maent yn gallu cynnig darpariaeth chwarae rheolaidd i blant a phobl ifanc sydd angen nyrs i’w bwydo a rhoi moddion iddynt. Yn ogystal, trwy weithio â ffisiotherapyddion caiff trefniadau dyddiol arferol eu cynnal trwy gydol gwyliau’r ysgol.
Mae proses atgyfeirio drwyadl yn sicrhau bod anghenion unigol penodol pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu dynodi. Yna trefnir hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau cywir i ddarparu’r lefel angenrheidiol o gefnogaeth, sy’n cynnwys hyfforddiant mewn gofal personol a bwydo yn ogystal â hyfforddiant sy’n ymwneud â moddion ar gyfer anhwylderau fel epilepsi a’r clefyd siwgwr. Mae cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau i fynychu darpariaeth chwarae cymunedol o fudd i’r plentyn yn ogystal â’r teulu cyfan. Bydd y plant a’r bobl ifanc yn elwa o gael amgylchedd chwarae cynhwysol sy’n amrywiol a chyfoethog, sy’n caniatáu cyfleoedd sy’n hybu iechyd a lles yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gwthio ffiniau ac archwilio risg, sy’n annog dysg a datblygiad cymdeithasol. Mae llawer o’r cyfleoedd hefyd yn meithrin annibyniaeth a hunan-barch plant ac yn eu hannog i ddatblygu sgiliau sylfaenol byw yn annibynnol. Mae lefelau integreiddio cynyddol o fewn darpariaeth chwarae
cymunedol wedi helpu hefyd i herio a chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig ag anableddau. Mae darpariaeth chwarae integredig yn caniatáu i blant a phobl ifanc chwarae a chymdeithasu â’u cyfoedion heb anabledd. Bu ennill cefnogaeth ac ymddiriedaeth rhieni a gofalwyr yn rhan annatod o’r broses integreiddio. Mae rhieni a gofalwyr yn pwysleisio pa mor allweddol yw’r ddarpariaeth chwarae er mwyn caniatáu seibiant iddynt a’u galluogi i dreulio amser allweddol gyda’u plant eraill. Ffurfiwyd fforwm rhieni / gofalwyr yn 2011 i alluogi rhieni a gofalwyr i rannu eu teimladau a chefnogi natur cynaliadwy darpariaeth chwarae cynhwysol yn Nhorfaen. Mae Cymru – Gwlad ChwaraeGyfeillgar yn ymgyrch gan Chwarae Cymru i helpu i greu rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer chwarae ar draws Cymru. Rhannwch yr hyn sy’n digwydd yn lleol, sydd unai’n gwarchod neu’n gwahardd hawl plant i chwarae, ar dudalen yr ymgyrch ar Facebook. Dyma enghraifft o brosiect sy’n cyfrannu tuag at ddatblygu mannau cyfeillgar ar gyfer plant sy’n chwarae.
‘Fi yw mam Benjamin Stevenson sydd â syndrom Down ag Awtistiaeth. Mae Benjamin yn 11 mlwydd oed ac wedi bod yn mwynhau buddiannau darpariaeth chwarae cynhwysol ers cryn amser bellach … Rwy’n gwerthfawrogi’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i Ben i’w mwynhau mewn amgylchedd diogel gyda chefnogaeth staff sydd wir yn malio ac sy’n frwdfrydig ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud. Mae gan Benjamin anghenion cymhleth ond mae’n gallu mwynhau yr un pethau â phlant eraill o’r un oedran yn y digwyddiadau “Wedi Nos” a’r “Cynllun Chwarae” gan gymysgu â phlant ar lefelau datblygiadol gwahanol a chael ei ddatblygu trwy wneud hynny, trwy wylio a chopïo eu symudiadau. Mae’r gwasanaeth yma nid yn unig yn wych ar gyfer Benjamin, mae hefyd yn cynnig seibiant i mi, sy’n amser gwerthfawr’. Alexandra Hills
16 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
Diwrnod ym mywyd Yn ddiweddar fe wnaethom gyfweld Simon Bazley, un o’n hyfforddwyr Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) newydd, am ei brofiad wrth drosglwyddo’r cymhwyster.
Ers pryd ydych chi wedi bod yn hyfforddwr gwaith chwarae? Fel hyfforddwr llawrydd, rwyf wedi bod yn trosglwyddo hyfforddiant a chymwysterau chwarae, a P3 yn benodol, ers blwyddyn. Cyn hynny, roeddwn yn datblygu a throsglwyddo cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a strategaethau datblygu’r gweithlu.
Beth yw eich amserlen ar gyfer diwrnod hyfforddi ‘cyffredin’? ’Does yr un dydd yn union fel y llall, mae wastad yn amrywio. Er bod fframwaith o wybodaeth y bydd angen inni ei rannu â’r dysgwyr, rwy’n hoffi cymysgu pethau i’w wneud yn fwy diddorol ac ymatebol i ^ anghenion pob grw p unigol.
Beth yw eich hoff elfen o fod yn hyfforddwr P3? Cael cymaint â phosibl o bobl i fod, fel fi, yr un mor frwdfrydig â phosibl ynghylch chwarae. Rwy’n mwynhau pasio gwybodaeth ymlaen, dysgu oddi wrth yr holl bobl yr ydym yn gweithio â nhw, casglu straeon am chwarae plant a gweld pa mor bell y mae’r dysgwyr yr ydym yn gweithio â nhw yn ei deithio. Mae holl ddeunyddiau P3 yn arbennig o dda ac mae’r arfau arfer myfyriol a’r ffurflenni gwerthuso’n gwbl addas i’r diben.
Beth yw eich cas elfen o fod yn hyfforddwr P3? Diwedd pob cwrs. I fod yn gwbl onest, y rhan gwaethaf yw dweud hwyl wrth y dysgwyr i gyd ar ddiwedd y cwrs.
A oes gennych chi arddull hyfforddiant gwaith chwarae? Brwdfrydig – rwy’n weddol ddynamig. Rwy’n hoffi defnyddio llawer o gyfranogiad a chynnwys pawb. Rwy’n hoffi gwrando ar y materion llosg sy’n wynebu’r dysgwyr yn eu gwaith a gweithio o fewn fframwaith y cymhwyster i ddatblygu datrysiadau ar eu cyfer hwy yn benodol a’r hyn y byddant yn ei wneud bob dydd yn eu lleoliad gwaith penodol.
Beth fydd patrwm sesiwn gwaith chwarae arferol? Mae wastad yn wahanol a bob amser yn hwyl. Rwy’n ceisio dechrau gyda ‘bang’ a chadw’r momentwm lan trwy gydol y sesiwn, ond heb lethu’r dysgwyr, felly gan gynnwys digon o egwyliau. Yr elfen allweddol gyda P3 yw wastad i garu’r dysgwyr.
Digwyddiadau ymgysylltu RHAD AC AM DDIM P3 lefel 3 10 Medi 2014 –
Canolfan Greadigol Bae Caerdydd, Caerdydd
11 Medi 2014 – Y Gyfnewidfa, Hen Golwyn Dyma’r digwyddiadau ymgysylltu olaf yn y gyfres ac maent yn nodi cynhyrchu cyfres newydd sbon o ddeunyddiau dysgu Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) ar gyfer dysgwyr a hyfforddwyr lefel 3. Mae’r llawlyfrau Tystysgrif a Diploma P3 wedi eu hysgrifennu gan Richard Trew gyda chyfraniadau gan Ali Wood a Di Murray, a’u golygu’n dechnegol gan Yr Athro Fraser Brown. Dyma’r adnoddau dysgu gwaith chwarae diweddaraf a mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael ym Mhrydain.
Bydd y gyfres gyflawn o lawlyfrau ar gael yn y digwyddiadau ym mis Medi.
Gweithdy Yn ôl y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae, un elfen allweddol o rôl gweithiwr chwarae ar lefel 3 yw cyfrannu tuag at fframwaith sefydliadol sy’n adlewyrchu anghenion ac sy’n gwarchod hawliau plant. Un rhan o’r broses a argymhellir yw ymgynghori â phlant ar y ffyrdd mwyaf effeithlon y gallai’r lleoliad gyflawni eu hawliau. Ond sut allwn ni ymgynghori? Beth yw’r ffordd orau i gynnwys plant? Os ydyn ni’n ymgynghori â phlant ydyn ni’n dwyn eu hamser rhydd? Caiff mudiadau chwarae sy’n codi arian
ar gyfer chwarae plant eu holi am y modd y maent yn gwerthuso eu gwaith neu am y dystiolaeth y maent wedi ei gasglu gan blant fydd yn elwa. Byddwn yn ystyried materion yn cynnwys sut y gallwn gynyddu cyfleoedd i blant chwarae trwy gefnogi datblygiad chwarae a ddewisir o wirfodd ac a gyfarwyddir yn bersonol a’r modd y gallwn arddangos ei werth a’r gwahaniaeth y gall ei wneud ar gyfer plant, teuluoedd a chymunedau. Byddwn yn ystyried gwahanol agweddau ymarferol ar gyfer ymgynghori, ac yn asesu sut a phryd y gall gweithwyr chwarae a mudiadau chwarae fesur ac arddangos effaith. Archebwch eich lle ar-lein: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ digwyddiadau
Chwarae dros Gymru | Haf 2014 | 17
Sut mae P
3
i’r dysgwyr?
Enw: Daniel Wheelock Swydd: gweithiwr chwarae mynediad agored, Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr Pam wnest ti benderfynu astudio ar gyfer y cymhwyster P3? Tydw i ddim am swnio’n rhy idealistig am y peth, ond oherwydd fy mod i’n credu fod chwarae a gwaith chwarae’n hynod o bwysig a’i bod hi’n bwysig bod gweithwyr chwarae’n meddu ar ddealltwriaeth cystal â phosibl ohonynt. Roeddwn i’n credu y byddai’n ddiddorol ac y byddai’n helpu i wella fy ngwaith chwarae, ac fe wnaeth, a helpu, pwy a w^ yr, gyda rhagolygon gwaith yn y dyfodol, gobeithio wir.
Pa lefel o’r cwrs wnes ti ei astudio a faint o amser gymerodd hyn? Lefel 3, gymerodd tua 16 mis.
Beth, yn dy farn di, oedd y negeseuon allweddol ddysgais ti am chwarae a gwaith chwarae tra ar y cwrs? Rwy’n credu mai pwysigrwydd myfyrio, er mwyn deall y broses chwarae yn ogystal â’ch arfer personol eich hun. Hefyd, i fabwysiadu safbwynt ble y mae’r plentyn wrth galon eich gwaith chwarae, gan ganolbwyntio ar anghenion a hoff bethau’r plentyn. Elfen arall yw ffocws ar y gofod chwarae, beth yw ein rhan ni wrth ei greu a sut y byddwn yn dylanwadu arno trwy ein gwaith.
Pa mor heriol oedd y cwrs? Beth am yr asesiad? Roedd y cwrs yn eich herio i feddwl am chwarae a’ch arfer gwaith mewn gwahanol ffyrdd. Cafodd tipyn o wahanol ddamcaniaethau a syniadau eu cyflwyno, ond roeddech chi’n gallu gweld perthynas y rhain â’ch gwaith chwarae. Yn yr un modd, roedd yr asesiadau’n llawer o waith, ond roedd amryw ohonyn nhw’n cynnwys myfyrio’n fanwl ar eich gwaith chwarae. Roedd hyn yn golygu eu bod yn heriol, ond roedd yn golygu hefyd eu bod yn berthnasol i’r hyn yr ydym yn ei wneud, yn hytrach na dim ond ailadrodd atebion o werslyfrau.
Er hynny, oedd y profiad yn hwyl? Roedd yn brofiad pleserus gan fod pawb ar y cwrs yn frwd iawn am chwarae ac roedd digonedd o gyfleoedd i rannu syniadau a thrafod pethau.
Sut un oedd eich hyfforddwr? Sut wnaethon nhw drosglwyddo’r cwrs? Roedd Alex Neill yn arbennig o gyfeillgar ac agos atoch. Roedd llawer o ryngweithio ac amrywiaeth yn arddull trosglwyddo’r cwrs – gwaith grw^ p a thrafodaethau yn hytrach na eistedd a gwrando. Roedden ni’n cael cyfleoedd i archwilio syniadau a’u hystyried yng nghyd-destun ein lleoliadau ein hunain.
Am fwy o wybodaeth am P3 ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/cym/p3
A yw’r cwrs wedi effeithio ar dy arfer gwaith chwarae mewn unrhyw fodd? Yw’r cwrs wedi dy wneud yn weithiwr chwarae gwell? Trwy feddwl yn fwy dwys am ddamcaniaethau gwaith chwarae a chynnwys hyn mewn arsylwadau chwarae ar gyfer y cwrs, rwy’n credu fy mod wedi gallu eu defnyddio’n fwy greddfol fel rhan o fy ngwaith. Yn yr un modd, mae dysgu mwy o’r eirfa dechnegol ac ystyried mwy o safbwyntiau ar chwarae yn rhoi mwy o arfau ichi ddeall y chwarae yn eich lleoliad eich hun a’r modd y mae eich arfer personol yn effeithio arno. O ganlyniad rwy’n credu fy mod yn weithiwr chwarae gwell gan y gallaf gael dealltwriaeth ddyfnach o’r chwarae sy’n digwydd yn ein lleoliadau ac ymateb iddo yn fy arfer.
Fyddech chi’n argymell P3 i weithwyr chwarae eraill? Byddwn yn ei argymell yn bendant, mae’n bwysig sylweddoli faint o waith y mae’n ei olygu, ond mae’n hawdd iawn i’w fwynhau a bydd yn eich gwneud yn weithiwr chwarae gwell.
Gan dy fod wedi cwblhau cymhwyster lefel 3 P3 oes gennyt ti fwriad i astudio ymhellach? Fe fyddwn i’n sicr yn hoffi cael cyfle i wneud mwy o astudio fel hyn, ond fel ag y mae realiti ariannu ar gyfer gwaith chwarae ar hyn o bryd ’does gen i ddim cynlluniau pendant ar hyn o bryd.
18 | Chwarae dros Gymru | Haf 2014
‘Pecyn cymorth gwych...’ Fe ofynnom i Gareth S Parry, Rheolwr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (Uned Partneriaeth Gwynedd ac Ynys Môn) i adolygu ein pecyn cymorth Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu. Pan ddechreuais fy rôl blaenorol fel Cydlynydd Rhodwyr Chwarae dros Ogledd Orllewin Cymru, fe sylweddolais yn gyflym iawn bwysigrwydd ysgolion wrth ddarparu cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant, ac o’r herwydd roeddwn yn falch dros ben i weld bod Chwarae Cymru wedi cyhoeddi’r pecyn cymorth hwn. Mae’r rhagair wedi ei ysgrifennu’n dda ac mae’n cynnwys cyflwyniad cryno i’w ddiben, a gwybodaeth hynod o bwysig ar y cyd-destun deddfwriaethol a pholisi lleol a chenedlaethol sy’n cefnogi’r pecyn cymorth hwn. Un fenter genedlaethol sy’n dod i’r amlwg, yn fy marn i, yw’r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif sy’n cynnig cyfle, wrth adeiladu safleoedd newydd neu adnewyddu hen safleoedd, i wir ystyried cynnwys y pecyn cymorth hwn, a gwneud chwarae’n elfen bwysig o’r holl gamau cynllunio a datblygu. Brawddeg wnaeth sefyll allan i mi yn y rhagair oedd ‘Yn aml, mae adeiladau ysgol, eu cynnwys a’u tiroedd yn cynrychioli’r ased unigol fwyaf yn y mwyafrif o gymunedau’. Yn fy rôl presennol mae angen cynyddol i edrych ar gefnogi cymunedau i dyfu’n gryf a gwydn. Rwy’n credu y gall chwarae fod â rôl amlwg wrth greu cymunedau cydlynol trwy ysgolion ac mae’r cyhoeddiad rhagorol hwn yn cynorthwyo cymuned yr ysgol i gyflawni hyn. Rhennir gweddill y pecyn cymorth yn ddau ran, y cyntaf yn crynhoi’r materion y dylid eu hystyried ar gyfer defnyddio tiroedd ysgolion y tu allan i oriau addysgu, a’r ail sy’n darparu ystod o arfau defnyddiol i gynorthwyo gyda’i weithredu.
Fel y gallech feddwl, mae nifer fawr o faterion y dylid eu hystyried ond mae’r pecyn cymorth yn canolbwyntio ar y materion pwysicaf ac mae hefyd yn cynnwys astudiaethau achos defnyddiol sy’n amlygu arfer gorau. Rhoddir digon o sylw i faterion cyffredin fandaliaeth, yswiriant a chynnal a chadw ynghyd â datrysiadau ymarferol. Un elfen yr hoffwn i’r pecyn cymorth fod wedi ei chynnwys oedd cymorth ar gyfer grwpiau cymunedol sydd eisiau sefydlu cymdeithas chwarae gyfansoddiadol yn eu cymuned, ond rwy’n sylweddoli efallai bod hyn y tu hwnt i’w gylch gorchwyl. Mae’r pecyn cymorth yn cynnig deunyddiau gwych, y mae’r cyfan ohonynt yn rhwydd iawn i’w defnyddio, bron na ellid ei alw’n Dummies Guide… Rwy’n dweud hyn o safbwynt cwbl bositif, gan fy mod yn credu bod angen inni ei gwneud hi cyn rhwydded â phosibl i sicrhau newidiadau yn y maes hwn. Yr unig sylw y byddwn yn ei gynnig yw y dylid bod wedi gosod y naw adran yn eu trefn h.y. yr hyn sydd angen ei wneud yn gyntaf ayyb, gan fy mod yn credu y dylid ymgysylltu â phlant a’r gymuned cyn cynnal dadansoddiad opsiynau, er y gellid dadlau bod hon yn sefyllfa pa un ddaeth gyntaf. Ar y cyfan rwy’n credu bod hwn yn becyn cymorth gwych sy’n gryno ac eglur ac sy’n darparu’r sail resymegol a’r arfau y bydd ysgol / cymuned leol eu hangen i eiriol dros amser chwarae ychwanegol, addas ar gyfer plant. Mae’r pecyn cymorth i ysgolion ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim o: www.chwaraecymru.org. uk/cym/ysgolion
Rachel Maflin, Swyddog Datblygu Chwarae, sy’n dweud wrthym sut y mae GAVO yng Nghaerffili yn rhoi’r pecyn cymorth ar waith: ‘Rydym yn gweithio â thair ysgol, ac mae pob un wedi derbyn copi o’r pecyn cymorth. Rydym yn teimlo iddo fod yn adnodd ategol defnyddiol iawn ar gyfer ein trafodaethau, gan ei fod yn ateb llawer o’r cwestiynau sydd gan ysgolion am y broses. ‘Bu’r astudiaethau achos yn arbennig o ddefnyddiol wrth arddangos sut y gellir rheoli agor tiroedd ysgol yn llwyddiannus … Yn gyffredinol, rydym yn teimlo i’r pecyn cymorth fod yn adnodd gwerthfawr sydd wedi gwneud ein gwaith yn rhwyddach. Rydym yn edrych ymlaen i barhau i’w ddefnyddio ymhellach yn ystod datblygiad y prosiectau.’