Chwarae dros Gymru - Hydref 2017 (rhifyn 49)

Page 1

Chwarae dros Gymru Rhifyn 49 Hydref 2017

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae

Chwarae: plentyndod iach


2 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Cynnwys 2 Golygyddol 3 Newyddion 6 Cadw plant yn ddiogel 8 Mentro yn y blynyddoedd cynnar 10 Pob Plentyn Cymru 12 Creu mannau chwarae hygyrch 13 Adolygiad o’r pecyn cymorth chwarae rhannau rhydd

Diolch yn fawr 14 16 18 19 20 22

Cipolwg ar brosiectau Chwarae Cymru Hawliau chwarae ac iechyd Chwarae allan Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar Datblygu’r gweithlu Dathlu chwarae yng Nghymru

Diolch o galon i bawb a gyfrannodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w lawrlwytho o www.chwaraecymru.org.uk

Golygyddol O safbwynt esblygiadol, mae chwarae wedi ein gwasanaethu’n dda yn ei gyfraniad at iechyd a lles plant ac, o ran hynny, oroesiad ein rhywogaeth. Felly, ’dyw’n ddim syndod fod ganddo hefyd gyfraniad sylweddol i’w wneud i’r agenda iechyd gyfoes. Chwarae yw’r hyn y bydd plant yn ei wneud yn eu hamser eu hunain - gwneud yr hyn a fynnant, fel y mynnant, a gyda phwy bynnag y mynnant. Fyddan nhw ddim yn meddwl am y peth - dyma sydd angen iddyn nhw ei wneud a, diolch byth, mae’n cael ei gydnabod fwyfwy mewn polisïau fel elfen hanfodol ar gyfer plentyndod iach. Mae’r gydnabyddiaeth o rôl allweddol chwarae plant yn rhaglen Pob Plentyn Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n cyfeirio at blant dan bum mlwydd oed, i’w groesawu. Fodd bynnag, er gwaetha’r datganiad croyw yma o’r modd y mae chwarae’n cyfrannu at iechyd corfforol a meddyliol, mae’n dal i gael ei esgeuluso gan bolisi iechyd prif ffrwd mewn meysydd eraill.

Caiff pryderon cymdeithas ynghylch iechyd plant eu hadlewyrchu mewn dau ymchwiliad a gynhaliwyd gan Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros haf 2017. Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ystyried gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ac mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystyried iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc.

cyfyngu ar gyfleoedd i blant chwarae, boed hynny trwy gyfyngu ar amser chwarae yn yr ysgol neu trwy roi blaenoriaeth i yrwyr yn hytrach na cherddwyr. Mae plant wedi colli lle, amser a chaniatâd i chwarae. Mae rhaid i alluogi plant i wneud yr hyn ddaw’n naturiol sef chwarae - fod yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus. Nid dim ond fel elfen o raglenni ymyraethol ond fel un o egwyddorion sylfaenol iechyd cyhoeddus.

Mae ymatebion Chwarae Cymru i’r ddau ymchwiliad, tra’n rhannu tystiolaeth ac arfer dda ynghylch rôl chwarae mewn lles corfforol a meddyliol, yn ailadrodd hawl y plentyn i chwarae fel yr amlinellir yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Yn ogystal â dynodi’r rôl sydd gan chwarae wrth gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a’i gyfraniad at iechyd meddwl plant, rydym yn parhau i eiriol dros agwedd sy’n seiliedig ar hawliau tuag at lunio polisïau sy’n ymwneud â chwarae.

Mae llawer o bolisïau iechyd a chymdeithasol yn ystyried plentyndod fel paratoad ar gyfer dod yn oedolyn, gaiff ei ddiffinio’n gyfleus iawn trwy gerrig milltir a deilliannau datblygiadol. ’Dyw hyn ddim digon da.

Mae’r dystiolaeth am fuddiannau iechyd chwarae a’i gyfraniad at les corfforol a meddyliol plant, yn ysgubol. Ers blynyddoedd lawer rydym fel cymdeithas, yn ddiarwybod ac yn raddol, wedi

Caiff haeriad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn a fynegir yn Sylw Cyffredinol 17, bod chwarae’n ddimensiwn sylfaenol ac anhepgor o bleser plentyndod, ei adlewyrchu gan y gwerth y mae plant yn ei osod ar eu chwarae. Mae rhaid i bolisïau a rhaglenni sydd wedi eu hanelu at blant a chymunedau ystyried safbwyntiau plant ynghylch eu lles yma heddiw, yn ogystal â pharatoi i fod yn oedolyn. Mike Greenaway, Cyfarwyddwr, Chwarae Cymru

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru ddwy waith y flwyddyn.

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchgrawn hwn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:

o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.

Chwarae Cymru, Ty^ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH

Argreffir y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.

Rhif ffôn: 029 2048 6050 I Ebost: gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk

Crewyd gan Carrick | carrickcreative.co.uk

Elusen Gofrestredig Rhif. 1068926 I ISSN: 1755 9243

Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 3

Newyddion

Croeso Croeso i’n Cynorthwyydd Cyfathrebiadau newydd, Lowri Roberts. Mae Lowri’n cefnogi gwaith y Gwasanaeth Gwybodaeth, sy’n cynnwys rhannu newyddion trwy ein gwefan a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, dosbarthu diweddariadau rheolaidd trwy e-bost ac ymateb i ymholiadau. Cyn ymuno â’r tîm roedd Lowri’n gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru.

Cyn ymddeol roedd yr Athro Elspeth Webb yn Athro Pediatreg ac Iechyd Plant ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n Athro Anrhydeddus yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Hoffem hefyd groesawu aelodau newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae Helen Hughes yn Gydlynydd Elusen ar gyfer Canolfan Gymunedol Dowlais. Yn ddiweddar cwblhaodd ein cymhwyster Rheoli Cynllun Chwarae’n Ystod Gwyliau’r Ysgol (MAHPS).

Mae David Egan yn Athro Emeritws Addysg yn Ysgol Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei arbenigedd ymchwil ym maes polisi addysg Cymru.

Mae Catherine Davies yn cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fel sylwedydd ar ran y sefydliad. Mae Catherine yn Swyddog Polisi Plant gyda CLlLC.

Yn olaf, hoffai’r Bwrdd ffarwelio gyda, a diolch i, Brenda Davies a Ben Tawil. Mae Brenda yn un o ymddiriedolwyr gwreiddiol Chwarae Cymru a Ben yn gyn-aelod o’n staff. Bu eu rôl fel cyfeillion beirniadol i Chwarae Cymru’n werthfawr iawn. Mwy o wybodaeth am ein tîm a’r Bwrdd: www.chwaraecymru.org. uk/cym/amdanom

Chwarae ar gyfer plant mewn argyfwng – pecyn cymorth Mae’r International Play Association (IPA) wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd – Access to Play for Children in Situations of Crisis - a ysgrifennwyd gan Marianne Mannello a Martin King-Sheard o Chwarae Cymru. Mae’r pecyn cymorth wedi ei gynhyrchu i gynorthwyo pobl ac asiantaethau sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd o argyfwng fel eu bod mewn gwell sefyllfa i ddeall a chefnogi chwarae bob dydd plant. Mae’n darparu gwybodaeth eglur a chryno i unigolion a sefydliadau, a thempledi ac offer cam-wrth-gam, ymarferol. Mae’r pecyn cymorth yn rhan o brosiect 2015-2017 Access to Play in Crisis yr IPA, sydd hefyd yn cynnwys prosiect ymchwil rhyngwladol. Mae timau’r prosiect wedi treulio amser gyda phlant a theuluoedd mewn chwe lleoliad gwahanol (Gwlad Thai, Nepal, India, Twrci, Libanus a Japan), gan weithio i ddeall sut y bydd plant yn ymarfer eu hawl i chwarae pan fyddant yn wynebu amrywiol fathau o argyfwng.

Mae eu canfyddiadau’n herio llawer o ragdybiaethau ynghylch chwarae, fel ble mae neu ble nad oes cyfle i chwarae (mae’n ymddangos bod ‘sleifio’ cyfle i chwarae’n ddull ymdopi ar draws y byd), a’r hyn sy’n creu amgylchedd ‘da’ ar gyfer chwarae. Mae’r canfyddiadau wedi dynodi dwy her sylweddol ac ystyfnig: 1) Lefelau amrywiol o ddealltwriaeth ynghylch pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a dehongliadau gwahanol iawn o’r hyn y mae ‘chwarae’ yn ei olygu (mae’r IPA yn defnyddio diffiniad Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn) 2) Y tueddiad arferol i dderbyn pwysigrwydd trechaf gweithgareddau addysgol a hamdden a drefnir gan oedolion. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â: http://ipaworld.org/what-we-do/access-to-play-in-crisis/


4 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Cyflwyno L2APP i’r byd Yn y rhifyn diwethaf fe wnaethom gyfeirio at beilot llwyddiannus o’r cymhwyster newydd Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP). Ers hynny, rydym wedi cydweithio gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a phartneriaid ar draws Cymru i drosglwyddo saith cwrs arall yn cwmpasu gogledd, de a chanolbarth Cymru a dderbyniodd adborth cadarnhaol oddi wrth ddysgwyr.

Y tu hwnt i Gymru... Mynychodd ein Swyddog Datblygu’r Gweithlu, Martin King-Sheard a Marianne Mannello, ein Cyfarwyddwraig Gynorthwyol, gynhadledd fyd-eang yr International Play Association (IPA) yn Calgary, Canada i drosglwyddo cyflwyniad ar ddatblygiad L2APP yn ogystal â chynnal gweithdy, oedd wedi gwerthu allan cyn y gynhadledd, ar gyfer 35 o gyfranogwyr o Ganada, Gogledd America, Awstralia, Hong Kong a Seland Newydd. Roedd y cynadleddwyr a fynychodd y sesiwn yn cynrychioli amrywiaeth o leoliadau ac roedd yn amlwg bod diddordeb rhyngwladol sylweddol yn yr agwedd gwaith chwarae. Yn ystod y gweithdy diwrnod llawn,

a gynhaliwyd cyn y gynhadledd, cafodd y cyfranogwyr flas ar fersiwn gryno o gynnwys y cwrs L2APP, gaiff ei drosglwyddo fel arfer dros dridiau. Archwiliwyd yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, trafodwyd ffilm Chwarae Cymru Gwthio Eddie yn y Danadl Poethion gyda Connor a thrafodwyd pryderon ynghylch diogelwch trwy rannu’r agwedd risg-budd tuag at reoli risg. Cafodd y gweithdy dderbyniad gwresog a chynhaliwyd trafodaeth bositif ar sut y gellid gwreiddio’r agwedd yma mewn lleoliadau ble nad yw’r gofyniadau cofrestru ac archwilio’n llwyr gefnogi agwedd gwaith chwarae. Roedd ymarferwyr o ardal Calgary yn falch o allu rhwydweithio ac ehangu ar y diddordeb cynyddol mewn gwaith chwarae yng Nghanada.

‘Gweithdy arfer gwaith chwarae gwych - agoriad anhygoel i IPA Calgary gyda’n ffrindiau o Chwarae Cymru.’ Mwy o wybodaeth am L2APP: www.chwaraecymru. org.uk/cym/l2app Yn ogystal, tra yng nghynhadledd yr IPA, fe wnaeth Martin a Marianne drosglwyddo gweithdy ar y pecyn cymorth Access to Play for Children in Situations of Crisis yr oeddent wedi ei ysgrifennu gyda’r IPA, trosglwyddo papur ymchwil ar chwarae mewn ysgolion a chyfrannu at weithdy ar asesu risg-budd dynamig gyda Tim Gill ac Ellen Sandseter, ymysg eraill.

Cymwysterau Gwaith Chwarae 2017-2018 Mae Chwarae Cymru’n gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i drosglwyddo nifer o gymwysterau gwaith chwarae, yn cynnwys y Dyfarniad Lefel 2 newydd mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) a’r Wobr Lefel 3 mewn Rheoli Cynlluniau Chwarae’n Ystod Gwyliau’r Ysgol (MAHPS). Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus o drosglwyddo cymwysterau o ansawdd uchel, mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning

Wales wedi derbyn cyllid i ddarparu’r cyrsiau canlynol: • Cyflwyniad i Waith Chwarae (Lefel 1) – pedwar cwrs • L2APP – wyth cwrs • MAHPS – pedwar cwrs. Caiff y cyrsiau eu hariannu’n llawn a’u trosglwyddo ledled Cymru, er mwyn ateb y galw o’r sector, rhwng mis Hydref 2017 a diwedd Gorffennaf 2018. Bydd tri chwrs ychwanegol ar gael yn dibynnu ar anghenion staff ysgol, cynorthwywyr cymorth dysgu, staff gofal plant a gweithwyr ieuenctid. Y bwriad yw cynllunio’r cyrsiau ar gyfer y flwyddyn nesaf gan sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a chymunedau’n cael digon

o rybudd a bod trefnyddion yn cael digon o amser i roi cyhoeddusrwydd iddynt yn lleol. I gofrestru eich diddordeb mewn trosglwyddo neu astudio un o’r cyrsiau yn eich ardal chi, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein: http://bit.ly/ FfurflenGaisGwaithChwarae Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jane Hawkshaw, Swyddog Trosglwyddo’r Cwricwlwm, AOC: jane.hawkshaw@adultlearning. wales


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 5

‘Mud and Sparks’ ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Fe wnaethom hwyluso gweithdy deuddydd llwyddiannus gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, oedd wedi gofyn inni drosglwyddo hyfforddiant ‘Mud and Sparks’ i’w staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc sydd wedi bod yn gyfrifol am droseddau tân. Amcanion y gweithdy oedd deall agwedd gwaith chwarae tuag at chwarae gyda’r elfennau (daear, awyr, ^ dw r a thân) a sut y byddwn yn defnyddio asesu risg-budd fel rhan o’r broses. Cymerodd dwsin o gyfranogwyr ran yn y gweithdy ‘Mud and Sparks’ ymarferol, a ddatblygwyd yn wreiddiol i gefnogi gweithwyr chwarae i hwyluso chwarae â’r elfennau. Fe wnaethom hefyd archwilio sut y gellid addasu’r agwedd gwaith chwarae ar gyfer cynllun ymyrraeth gynnar Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy’n gweithio gydag amrywiaeth o blant oedran cynradd mewn ysgolion, clybiau neu weithgareddau wedi eu targedu’n ystod y gwyliau. Trafododd y cyfranogwyr sut i gynnwys elfennau addysgol yn ymwneud â diogelwch tân tra’n rhoi cyfle i’r plant fwynhau chwarae hunangyfeiriedig ac archwilio gyda’r holl elfennau. Roedd hyn yn cydnabod y byddai rhoi profiadau positif i’r plant o ymwneud â thân yn cefnogi eu dealltwriaeth o ddiogelwch tân tra hefyd yn adeiladu perthnasau cadarnhaol gyda staff o’r gwasanaeth tân. Tra cafwyd trafodaethau heriol ynghylch rhai achosion o gynnau tân yn fwriadol yn yr ardal, ble gwyddom fod pobl ifanc wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gystadlu pwy allai gynau’r tân mwyaf fyddai’n cael ei adrodd amdano, roedd cydnabyddiaeth bod y ffactorau sy’n cyfrannu at yr ymddygiad yma’n amrywio ac nad ydyn nhw’n cael eu hachosi’n uniongyrchol gan brofiad plant, neu eu diffyg profiad, o chwarae â thân mewn cyd-destunau eraill.

Meddai Laura Thomas, Rheolwraig Cynllun Atal Cynnau Tanau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: ‘Cafodd y staff fynychodd yr hyfforddiant weithdy deuddydd bywiog a hwyliog wnaeth beri inni feddwl. Roedden ni gyd yn cofio sut beth oedd bod yn blentyn a jesd chwarae, ond ’dyw plant heddiw ddim fel pe bae nhw’n chwarae fel y bydden ni. Fe wnaethon ni ddysgu hefyd am bwysigrwydd gadael i blant chwarae a sut y gall plant ddysgu (yn aml yn fwy effeithlon) trwy chwarae a thrwy fod y tu allan (nid mewn ystafell ddosbarth!). Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cymryd yr hyfforddiant yma’n ei flaen a byddwn yn gweithio gyda phlant ysgol a grwpiau ieuenctid ar draws ardal y gwasanaeth gan gyflwyno ffyrdd rhyngweithiol, hwyliog o ddysgu am dân a’r elfennau eraill yn yr awyr agored.’

• Dylanwadu ar agweddau oedolion tuag at weld plant yn profi chwarae â thân. Mae Chwarae Cymru yn wirioneddol groesawu’r agwedd oleuedig yma tuag at feddwl am blant a thân a byddwn yn dal i weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i werthuso profiadau’r plant a’r oedolion fu’n rhan o sesiynau i beilota’r agwedd yma. Mwy o wybodaeth am ein gweithdy ‘Mud and Sparks’: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ gweithdymudandsparks Am enghreifftiau pellach o brosiectau cyfredol Chwarae Cymru, gweler tudalennau 14 – 15

Cyfryngau Cymdeithasol

O ganlyniad i’r gweithdy, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bellach yn datblygu sesiwn ryngweithiol i ymgysylltu â phlant cynradd i chwarae gyda’r elfennau gyda’r bwriad o: • Gefnogi plant i ddeall tân, defnyddio ymyrraeth gwaith chwarae, trwy brofiad uniongyrchol o chwarae gyda’r elfennau • Creu perthnasau cadarnhaol rhwng plant a’r gwasanaeth tân

www.facebook.com/ChwaraeCymru

twitter.com/ChwaraeCymru


6 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Mae cadw

plant

yn ddiogel yn golygu gadael

iddyn nhw fentro Dr. Mariana Brussoni sy’n rhannu ei gwybodaeth arbenigol am bwysigrwydd gadael i blant gymryd risg fel rhan o’u chwarae er budd eu hiechyd a’u lles, yn ogystal ag er mwyn datblygu gwersi bywyd pwysig. Mae’n galw ar i reoli risg mewn chwarae plant gael ei seilio ar dystiolaeth ac agwedd plentyn-ganolog - ac nid ar ofn a phryder. ‘Bydd yn ofalus!’ ‘Paid â mynd yn rhy bell!’ ‘Dere lawr!’ Mae’n siw^ r y byddai’r mwyafrif o rieni’n cyfaddef iddynt floeddio’r geiriau yma. Gan amlaf, bydd y plant yn ymateb â siom bod eu hwyl wedi ei dorri’n fyr, yn poeni eu bod yn llai abl nag oeddent wedi meddwl, neu’n ddryslyd am yr hyn y mae eu rhieni’n eu rhybuddio’n ei gylch. Mae’r agwedd ofn-risg yma’n rhan o dueddiad cymdeithasol sy’n ystyried bod gweld plant yn cymryd risg yn rhywbeth cwbl negyddol. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd sw^ n plant yn chwarae’r tu allan yn nodwedd gyffredin yn y mwyafrif o strydoedd preswyl. Heddiw, mae plant ar y stryd yn rywogaeth sydd bron â diflannu. Goramddiffyn yw’r norm bellach a chaiff risg ei ystyried fel ei fod cyn waethed â pherygl. Wedi treulio nifer o flynyddoedd yn adolygu ystadegau anafiadau plant ac yn ymchwilio i atal anafiadau,

mae’n amlwg i mi ein bod yn cyfyngu’n ormodol ar chwarae plant er gwaetha’r ffaith bod anafiadau difrifol yn brin. Mae plant angen y rhyddid i chwarae fel y mynnant, yn cynnwys cymryd risg a chymryd rhan mewn chwarae mentrus. Mae fy ymchwil i, a gwaith eraill, yn pwyntio at bwysigrwydd cyfleodd i gymryd risg mewn chwarae er budd iechyd a datblygiad plant, yn cynnwys hybu hunanhyder, datblygiad cymdeithasol, gweithgarwch corfforol a gwytnwch. Mae chwarae’n llawn risg yn helpu plant i ddysgu am y byd a sut y mae’n gweithio, dysgu am eu hunain a’u terfynau a dysgu sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Pan fyddwn ni’n ceisio cyfyngu ar chwarae mentrus plant byddwn yn eu hamddifadu o’r cyfleodd hanfodol hynny allai, yn eironig ddigon, olygu eu bod yn llai diogel. Bydd plant yn dysgu sgiliau rheoli risg trwy archwilio risg mewn

chwarae y gallant eu defnyddio wedyn mewn sefyllfaoedd eraill. Os bydd oedolyn yn gwneud yr holl reoli risg ar eu rhan, fydd plant ddim yn dysgu sut i wneud hyn drostynt eu hunain. Dros y blynyddoedd, mae ein hymdrechion i ffrwyno risgiau wedi arwain at fannau chwarae plant sydd yn fwyfwy unffurf, safonedig a diflas. Mae mynediad i fyd natur a deunyddiau naturiol wedi lleihau, tra bod offer chwarae plastig a metal sefydlog, sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch ond sydd â gwerth chwarae cyfyngedig, wedi tyfu’n fythol bresennol. Mae safonau diogelwch yn defnyddio agwedd beirianyddol sy’n fwy addas ar gyfer ffatrïoedd a phroblemau beirianyddol cymhleth na chwarae plant. Mae’r safonau hyn yn wirfoddol, ond maent wedi eu cymhwyso’n gyffredinol a heb eu hamau er mwyn cyfyngu ar atebolrwydd. Mae hyn er gwaetha’r

Dangosodd ymchwil diweddar y byddai rhaid i blentyn chwarae’r tu allan am dair awr y dydd am tua 10 mlynedd cyn dioddef un anaf (cymharol fychan) fyddai angen triniaeth feddygol. Caiff llawer o fentrau atal anafiadau eu gyrru gan ofn a phryder, yn hytrach na thystiolaeth ymchwil a llunio penderfyniadau plentyn-ganolog.


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 7

yn y cyfryngau ac mae hyn wedi arwain at ymdrechion i unioni’r fantol. Er enghraifft, mae Datganiad Safbwynt Canada ar Chwarae Awyr Agored Egnïol, a lansiwyd gan gonsortiwm o sefydliadau ac academyddion, yn cynnwys crynodeb o’r ymchwil ategol a’r argymhellion ar gyfer gweithredu gan sectorau perthnasol, ac mae wedi bod yn ddylanwadol eisoes wrth newid polisïau. Mae’n ffafrio agwedd newydd tuag at atal anafiadau sy’n anelu i gadw plant mor ddiogel ag sydd angen, yn hytrach na mor ddiogel â phosibl.

ffaith bod canlyniadau ymchwil ar fuddiannau diogelwch y safonau’n gymysg. Mae anafiadau difrifol mor brin fel bod astudiaethau wnaeth archwilio graddau anafiadau cyn ac ar ôl y newid i’r safonau heb arddangos unrhyw newid sylweddol. Mewn cyferbyniad â hyn, mae gwaith ymchwil gwahanol yn awgrymu pan fo offer yn rhy ddiflas, y bydd plant yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd peryglus er mwyn cynnal y lefel o her. Mae mabwysiadu safonau diogelwch yn gyffredinol ac ofn atebolrwydd wedi helpu i annog pobl i beidio defnyddio natur a deunyddiau chwarae naturiol mewn mannau chwarae plant, er eu bod yn cynnig cyfleoedd chwarae amrywiol a chyfoethog ac er eu bod yn lleoliadau delfrydol ar gyfer chwarae mentrus plant. Hefyd, dengys gwaith ymchwil bod ymwneud â natur yn cynnig llu o fuddiannau iechyd i blant a’u rhieni a’u gofalwyr, yn cynnwys gwella iechyd meddwl a hybu gweithgarwch corfforol a mesurau lles eraill. Yn galonogol, mae pryderon ynghylch yr amodau presennol wedi bod yn derbyn sylw cynyddol

Fel enghraifft o’r agwedd hon, mae’r broses asesu risg-budd a ddatblygwyd gan Play Safety Forum y DU yn caniatáu ystyriaeth fwy cytbwys a phlentyn-ganolog o’r gofod chwarae neu’r weithgaredd. Gallai’r broses asesu risg-budd ddisodli neu gyfannu safonau offer a byddai’n hwyluso cynnwys natur a deunyddiau naturiol mewn mannau chwarae plant. Un rhwystr mawr i chwarae plant yw ofnau a phryderon rheini a gofalwyr. Er mwyn helpu rhieni a gofalwr i ennill yr hyder a’r sgiliau i adael i’w plant fynd allan i chwarae, mae fy labordy (Brussoni Lab) wedi creu’r offeryn ar-lein, OutsidePlay.ca. Mae’n arwain defnyddwyr trwy gyfres o dasgau a ddyluniwyd i’w helpu i fyfyrio ar eu hagweddau a’u hofnau ac i gymhwyso’r syniadau i

ddatblygu cynllun personol ar gyfer addasu eu hagwedd. Fe wnaethom anelu i greu offeryn hawdd i’w ddefnyddio y gellid ei rannu’n gyffredinol er mwyn helpu rhieni a chymunedau i ddechrau’r sgyrsiau sy’n angenrheidiol i sicrhau newid. Rydym yn gweld lleihad na welwyd ei fath o’r blaen mewn chwarae awyr agored a chyfleoedd i gymryd risg fel rhan o’u chwarae, sy’n effeithio eisoes ar iechyd a datblygiad plant. Mae dyletswydd ar bob un ohonom i helpu i ddarparu cyfleoedd i blant ddatblygu’r sgiliau a’r gwersi bywyd hynny sydd mor bwysig ar gyfer llunio eu dyfodol - gan eu helpu i ddatblygu barn o’r byd fel man sy’n llawn posibiliadau, yn hytrach na pherygl. Mae Mariana yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol British Columbia, Canada ac yn ymchwilydd gyda Sefydliad Ymchwil Ysbyty Plant British Columbia ac Uned Ymchwilio ac Atal Anafiadau British Columbia. Mae’n ymchwilio i atal anafiadau i blant, yn cynnwys pwysigrwydd datblygiadol chwarae plant sy’n llawn risg.

Adnoddau defnyddiol Position Statement on Active Outdoor Play http://bit.ly/activeoutdoorplay What is the Relationship between Risky Outdoor Play and Health in Children? A Systematic Review http://bit.ly/RiskyOutdoorPlayResearch OutsidePlay.ca – offeryn ar-lein i helpu rhieni i ennill hyder i ganiatáu i’w plant chwarae’r tu allan https://outsideplay.ca Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu https://playsafetyforum.wordpress.com/resources Nature and Why It’s Essential For Kids’ Brains: Information for Parents and Caregivers http://bit.ly/NatureMentalHealth


8 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Mentro yn y

blynyddoedd cynnar Mae gwaith ymchwil yr Athro Ellen Sandseter yn canolbwyntio ar chwarae corfforol plant, chwarae awyr agored a risg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn Norwy. Fe wnaethom ei holi am ei hymchwil i blant ifanc yn wynebu risg a her fel rhan o’u chwarae. Fe wnaeth eich ymchwil ar gyfer eich Doethuriaeth ganolbwyntio ar chwarae a’r blynyddoedd cynnar, yn enwedig risg a her. Beth wnaethoch chi ei arsylwi? Fe wnes i arsylwi chwarae plant mewn amgylcheddau dan do ac yn yr awyr agored, ond fe sylweddolais yn fuan mai chwarae mentrus oedd y math chwarae yr oedd gen i ddiddordeb ynddo, sy’n digwydd y tu allan gan amlaf. Fe geisiais ddysgu beth yw chwarae mentrus a sut i’w ddosbarthu: plant yn dringo’n uchel iawn, chwarae gyda chyflymder mawr, defnyddio cyllyll a llifiau a bwyeill, chwarae gwyllt ble roeddent yn chwarae ymladd a reslo, a chwarae wrth ymyl elfennau peryglus allai beri risg i blant. Hefyd, chwarae ble y gallent archwilio ar eu pen eu hunain ble nad oedd ffensys. Fe wnes i arsylwi plant mewn ysgolion meithrin natur ac awyr agored ac mewn ysgolion meithrin cyffredin. ’Doedd nifer y sefyllfaoedd chwarae mentrus ddim yn uwch mewn ysgolion meithrin natur ac awyr agored, ond roedd ansawdd a lefel y risg a’r her y gallent ei ganfod yn eu chwarae’n llawer uwch. Roedd ganddyn nhw amgylcheddau anrhagweladwy, gyda choed i’w dringo yn lle bariau tw^ r dringo, felly roedd yn fwy anrhagweladwy a gallent ddringo’n uwch.

Oeddech chi’n credu bod gwahaniaeth yn y modd yr oedd staff yn rhyngweithio gyda’r plant yn yr ysgolion meithrin natur ac awyr agored a’r ysgolion meithrin cyffredin? Roedd y staff yn cadw eu pellter ym mhob un o’r ysgolion meithrin. Roeddwn wedi meddwl y byddai staff yr ysgolion meithrin cyffredin â mwy o ofn risg ac y byddent yn dweud wrth y plant beth i’w wneud ac i beidio ei wneud. Ond ’doedd hynny ddim yn wir. Roedden nhw wedi ymlacio’n llwyr ac yn cadw eu pellter. Wnes i ddim sylwi ar wahaniaethau sylweddol rhwng y ddau fath gwahanol o ysgol feithrin.

Roedd yn ymwneud mwy â rhyw a phersonoliaeth y staff – mae’n dibynnu pwy sy’n gweithio yno. Yn aml, bydd ymarferwyr neu athrawon ysgolion meithrin sy’n ddynion yn llawer mwy rhyddfrydig ynghylch risg, ac mae arolygon yn dynodi bod hyn oherwydd eu bod yn fwy parod i chwilio am risg eu hunain.

Beth gredwch chi sy’n ysgogi plant ifanc i chwilio am her? Mae’r hyn sy’n eu hysgogi’n gorfforol iawn. Mae’n anodd i blant egluro pam y byddant yn gwneud pethau, felly pan fyddwn i’n siarad gyda nhw roeddwn yn siarad am deimladau yr oeddent yn eu profi. Fe ddywedodd bron bob un, ‘Mae o mor gyffrous fel ei fod yn cosi yn fy mol, tan fy mod bron a thaflu i fyny’. Dywedodd un o’r bechgyn, ‘Mae fy nghalon yn mynd fel hyn: boing, boing, boing, boing’. Dyma’u ffordd o fynegi teimlad corfforol iawn. Fe geisiodd y plant iau ddangos imi ble roeddent yn ei deimlo a dangos sut yr oeddent yn ei deimlo’n gorfforol. Yr hyn y maen nhw’n ei egluro yw cic o adrenalin dyma’r un peth y bydd oedolion yn ei deimlo pan


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 9

fyddant yn gwneud rhywbeth mentrus. Bydd rhai pobl yn parasiwtio er mwyn cael y teimlad yma, ond ’dyw hyn ddim yn wir am blant, fe fyddan nhw’n cael y teimlad yma trwy ddim ond balansio ar gangen sydd wedi cwympo, er enghraifft. Mae’n golygu gwneud a meistroli rhywbeth nad oeddech chi’n credu y byddech chi’n meiddio ei wneud.

Wnaethoch chi arsylwi’r plant yn rheoli’r heriau drostynt eu hunain? Fe fydden nhw’n dringo i lawr, dweud ‘digon yw digon’ a rhoi’r gorau iddi. Yn wahanol i chwaraeon ffurfiol, ble mae cystadleuaeth, wrth chwarae byddai’r plant eraill yn derbyn y rhoi’r gorau yma. ’Doedd hyn ddim yn rhywbeth y byddai’r plant eraill yn cyfeirio ato nac yn bwlio eraill yn ei gylch. Dywedodd un, ‘Fe alla’ i ddringo i’r bedwaredd gangen ond mae fy ffrind yn gallu dringo i’r chweched oherwydd mae o wedi bod yn ymarfer llawer mwy na fi. Mae o’n mentro gwneud hynny ac rydw innau’n gweithio arni’. ’Doedd y plant ddim yn meddwl ei bod yn annheg nad oedden nhw’n gwneud yr un pethau, roedden nhw’n deall eu bod nhw’n wahanol.

Pan oedd y plant yn profi os allen nhw gyrraedd y bedwaredd, y bumed neu’r chweched gangen, a oedd teimlad ymhlith yr ymarferwyr bod y plant yn gymwys i wneud hynny eu hunain? ’Dyw’r ymarferwyr yn rhoi fawr ddim cyfarwyddyd. Mae rheol ym maes gofal plant - os nad wyt ti’n gallu ei gyrraedd dy hun, ’dwyt ti ddim yn barod. Felly, fyddech chi ddim yn codi plentyn i fyny at y gangen gyntaf. Pan wyt ti’n gallu cyrraedd dy hun, rwyt ti’n barod. Mae plant yn dechrau rheoli pethau drostynt eu hunain pan maen nhw’n flwydd oed, felly maen nhw’n eithaf medrus erbyn eu bod yn bedair neu bump oed. Maen nhw’n gwybod pa lefel o risg y maen nhw’n delio â hi ac mae’r ymarferwyr yn adnabod y plant. Maen nhw’n arsylwi’r plant o ran yr hyn y maen nhw’n gallu ei wneud - mae’r rheolau’n seiliedig ar allu unigol y plentyn, yn hytrach nag oedran. Tydi ‘Addas i’r Oedran’ ddim yn ddisgrifiad y byddwn ni’n ei ddefnyddio mewn addysg plentyndod cynnar yn Norwy.

Pan oeddech chi yn y lleoliadau, fe wnaethoch gyfweld plant tair a chwech oed. Fyddan nhw gyda’i gilydd y mwyafrif o’r amser neu ydyn nhw’n cael eu gwahanu’n ôl oedran? Fe fyddan nhw i gyd gyda’i gilydd yn y lleoliad, gyda’r ieuengaf yn flwydd oed. Gan amlaf yn Norwy bydd plant blwydd i chwech oed yn yr un lleoliad (yna fe fyddan nhw’n dechrau’r ysgol). Mae ganddyn nhw adrannau, un ar gyfer y plant bach blwydd i dair oed, yna adran neu nifer o adrannau o dair i chwech oed. Mae’n amrywio, ond maent bob

amser yn chwarae yn yr un ardal awyr agored, a’r un ardaloedd dan do cyffredin. Yn y maes chwarae, fe fyddan nhw i gyd gyda’i gilydd ar yr un pryd.

Wnaethoch chi ddynodi unrhyw rwystrau oedd yn atal plant rhag cael mynediad i her? Naddo. Wrth gwrs, bydd heriau bob amser - mae rhai rheini’n llawer mwy ymwybodol o risg - ond ’doedd o ddim yn effeithio ar arfer mewn ysgolion meithrin. Pan holais i’r ymarferwyr a’r athrawon ysgol feithrin roedden nhw’n wrthwynebus i hysteria diogelwch a ’doedden nhw ddim am gael eu cyfyngu ganddo. Mewn astudiaeth o 2013, pan ofynnwyd i benaethiaid ysgolion meithrin sut yr oedd ffocws ar ddiogelwch wedi effeithio ar eu harfer, dywedodd rhai ‘Rydym wedi stopio gadael i’n plant ddringo coed’. Roedd hynny’n syndod mawr i mi gan nad oeddwn i’n gwybod bod ysgolion meithrin yn bodoli oedd ddim yn caniatáu i’w plant ddringo coed! Roedd yn ymwneud yn bennaf â phwysau oddi wrth rieni. Rydym yn symud, yn araf, i’r cyfeiriad anghywir ond rydym yn gweithio’n galed i roi stop ar hyn. Mae ein cwricwlwm newydd, y mae rhaid i bob ysgol feithrin yn Norwy lynu ati’n ôl y gyfraith, yn dweud y dylai plant gael cyfle i gymryd rhan mewn chwarae mentrus a dysgu sut i reoli risgiau trwy chwarae egnïol yn yr awyr agored. Mae naw deg pump y cant o blant Norwy’n mynychu ysgol feithrin felly mae’n gam da i’n hatal rhag diweddu fel rhai gwledydd eraill. Rydym yn ceisio atal y datblygiad yma cyn bod problem wirioneddol.

Pan fyddwch chi’n siarad am y cwricwlwm, sut mae’r hyfforddiant i ymarferwyr yn edrych? Mae chwarae awyr agored a chwarae mentrus yn rhan fawr o’u hyfforddiant a tydi o ddim i gyd yn ymwneud â theori. Byddwn yn mynd â’r myfyrwyr allan i gerdded ac i fyny i’r goedwig i wneud gwaith ymarferol. Fe fyddwn ni’n gwahodd ysgolion meithrin i ddod â’u plant i gyd er mwyn i’n myfyrwyr allu ymarfer gyda’r plant ym myd natur. Mae’n ffactor bwysig iawn, pan fo ymarferwyr ac athrawon ysgol feithrin yn cadw eu pellter, nad ydyn nhw’n ymyrryd yn chwarae’r plant. Fe fyddan nhw’n cadw llygad ar y plant, ond yn gadael iddyn nhw chwarae’n rhydd ar eu pen eu hunain. Pan fyddan nhw’n dechrau gweithio fel athrawon meithrin maen nhw’n gwybod nad ydyn nhw mewn lleoliadau strwythuredig, ac nad hyfforddwyr ydyn nhw, yn hytrach fe fyddan nhw’n mabwysiadu rôl hwyluswyr. Mae Ellen yn Athro yn yr Adran Addysg Gorfforol ac Iechyd yng Ngholeg Prifysgol Addysg Plentyndod Cynnar y Frenhines Maud yn Trondheim, Norwy. Mae hefyd wedi ymchwilio i brofiadau plant Norwy o gyfranogaeth a lles.


10 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi’r

cychwyn gorau posibl i bob plentyn

Ym mis Gorffennaf 2017 lansiwyd rhaglen newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef Pob Plentyn Cymru, er mwyn gwella iechyd a lles plant. Mae Pob Plentyn Cymru yn dwyn ynghyd gyngor a gwybodaeth i gefnogi rhieni i roi cychwyn hapus ac iach mewn bywyd i’w plant. Bydd gwefan Pob Plentyn Cymru yn helpu rhieni o pan fyddant yn cynllunio eu beichiogrwydd tan fydd eu plentyn yn bump oed. Meddai’r Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwraig Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Mae pob plentyn yn haeddu’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd. Os bydd plentyn yn treulio ei flynyddoedd cyntaf yn iach a hapus, mae’n fwy tebygol o dyfu’n oedolyn iach a hapus. Efallai na fydd nifer o rieni’n sylweddoli bod eu plentyn dros ei bwysau, neu efallai nad ydyn nhw’n ymwybodol bod hynny’n rhywbeth i’w gymryd o ddifrif. Pan fo plant yn bwysau iach, byddant yn teimlo’n well am eu hunain, a byddant yn ei chael yn haws i chwarae a dysgu. Gan ddechrau o’u geni, helpu plant i gadw at bwysau iach yw’r agwedd orau.’ Lansiwyd y rhaglen wrth i ganlyniadau arolwg newydd* ddangos nad yw rhieni bob amser yn sylweddoli pan fo’u plentyn dros ei bwysau. Yn yr arolwg, nododd pedwar y cant o rieni sydd â phlant pedair i bump oed fod eu plentyn dros ei bwysau ar gyfer ei oed a’i daldra. Ond, mae canlyniadau Rhaglen Mesur Plant 2015/16 yn dangos bod ychydig dros chwarter (26 y cant) o blant pedair i bump oed dros eu pwysau neu’n ordew yng Nghymru. Mae plentyn sydd dros ei bwysau’n bump oed yn fwy tebygol o fod yn ordew erbyn ei fod yn wyth, a gallai dyfu i ddatblygu problemau iechyd hirdymor fel diabetes math 2 neu asthma.

Chwarae’r tu allan Yn ystod wythnosau cyntaf ymgyrch Pob Plentyn Cymru, tynnwyd sylw rhieni a gwarcheidwaid ar draws Cymru at bwysigrwydd chwarae’r tu allan. Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru, tra bo bron bob rhiant yng Nghymru (97 y cant) yn credu ei bod yn bwysig i’w plentyn chwarae’r tu allan bob dydd, nid yw bron i draean o blant dan bump oed (29 y cant) yn cael yr amser y maent ei angen y tu allan. Argymhelliad Iechyd Cyhoeddus Cymru yw rhoi cyfle i blant chwarae’r tu allan bob dydd, ac y dylai plant dan bump sy’n gallu cerdded gael o leiaf dair awr o chwarae egnïol bob dydd.


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 11

Bydd Pob Plentyn Cymru yn helpu rhieni i sicrhau bod eu plant yn aros yn bwysau iach, gan ddechrau gyda’r 10 Cam i Bwysau Iach.

10 Cam i Bwysau Iach

Mae Pob Plentyn Cymru yn cydnabod pwysigrwydd chwarae’r tu allan fel rhan o’r 10 Cam i Bwysau Iach. Mae plant sy’n gorfforol egnïol ac sy’n chwarae o oedran ifanc yn fwy tebygol o fod yn gorfforol egnïol wrth iddynt dyfu’n hy^ n ac maent yn fwy tebygol o fod yn bwysau iach. Ond nid yw buddiannau chwarae’r tu allan wedi eu cyfyngu i hyn. Mae bod yn gorfforol egnïol y tu allan yn helpu plant i ddatblygu’n feddyliol ac yn emosiynol hefyd. Mae plant sy’n cael cyfleoedd rheolaidd i chwarae’r tu allan yn fwy tebygol o ymgysylltu’n dda gydag eraill, gan ddysgu sgiliau cymdeithasol cymhleth a sut i ddatrys anghydfodau. Canfuwyd bod plant chwareus yn arddangos mwy o ddoniau datrys problemau, dychymyg a chreadigedd. Ychwanegodd y Dr Julie Bishop: ‘Mae chwarae’r tu allan bob dydd yn ffordd wych o helpu eich plentyn i dyfu’n oedolyn heini ac iach a bydd yn eu hannog i gadw’n heini wedi plentyndod. Mae pryder cynyddol ynghylch iechyd meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y bydd plant, o gael cyfle, yn cael ymarfer corff amrywiol yn ogystal â buddiannau iechyd meddwl sylweddol o chwarae a ddewisir o wirfodd. Mae treulio amser y tu allan yn ffordd wych o dreulio amser o ansawdd gyda’ch plentyn yn ogystal â bod yn fodd o leihau straen ym mywyd prysur rhiant.’ Lansiad Pob Plentyn Cymru yw’r cam cyntaf mewn rhaglen waith tymor hir i gynyddu’r gyfran o blant sy’n dechrau’r ysgol yn bwysau iach. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â: www.pobplentyn.co.uk Ymunwch â’r sgwrs ar Twitter a Facebook @PobPlentynCymru. * Cynhaliodd Beaufort Research arolwg ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru wnaeth gynnwys 1,503 o gyfweliadau dros y ffôn gyda rhieni a gofalwyr plant o’u geni i bump oed yng Nghymru, rhwng 11 Ebrill a 6 Mehefin 2017.

Mae 10 Cam i Bwysau Iach yn darparu cyngor i rieni a gofalwyr ar bynciau fel pwysigrwydd chwarae’r tu allan, sut i gwtogi ar ddiodydd llawn siwgr, sut i sicrhau bod plant yn cael digon o gwsg, a sut i reoli faint o amser sgrîn y bydd eu plant yn ei gael. Mae’r rhain i gyd yn ffactorau all gynyddu’r perygl y bydd plentyn yn mynd dros ei bwysau neu’n ordew.

Mae’r rhaglen 10 Cam i Bwysau Iach yn cynnwys: 1.

Ceisiwch fod yn bwysau iach pan fyddwch yn dechrau teulu 2. Ceisiwch osgoi magu gormod o bwysau yn ystod eich beichiogrwydd 3. Bwydwch eich babi ar y fron os yn bosibl 4. Arhoswch tan fod eich babi tua chwe mis oed cyn dechrau rhoi bwydydd solet 5. Helpwch eich babi i dyfu’n raddol 6. Chwaraewch y tu allan bob dydd 7. Ceisiwch gyfyngu ar amser sgrîn, gymaint â phosibl 8. Rhoddwch bum dogn o ffrwythau a llysiau i’ch plentyn bob dydd 9. Helpwch eich plentyn i gael digon o gwsg ^ 10. Cadwch at ddw r a llaeth

Er mwyn cefnogi rhaglen Pob Plentyn Cymru, mae Chwarae Cymru wedi cynhyrchu cyfres o gyhoeddiadau newydd – mae’r cyfan ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan: • Cynghorion defnyddiol i rieni gefnogi chwarae plant • Anturiaethau bob dydd – syniadau syml i wneud chwarae’n rhan o’n bywydau bob dydd • Chwarae, gwaith chwarae a bwyd – taflen wybodaeth yn cynnwys astudiaethau achos • Ffocws ar chwarae – papur briffio ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd www.chwaraecymru.org.uk/pobplentyncymru


12 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Creu

mannau chwarae hygyrch Mae gan bob plentyn hawl foesol a chyfreithiol i chwarae yn ei gymuned ei hun waeth beth fo’i ddiwylliant, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen. Mae plant a phobl ifanc angen, ac mae ganddynt hawl i dderbyn mannau o safon ac amser i chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd yn eu cymunedau eu hunain. Mae plant a phobl ifanc anabl yn wynebu rhwystrau oherwydd ‘diffyg darpariaeth, diffyg cefnogaeth, hygyrchedd gwael i adeiladau ac agweddau negyddol sydd, er gwaethaf deddfwriaethau a pholisïau, yn eu hatal rhag cyfranogi yn yr un modd â phlant a phobl ifanc sydd ddim yn anabl’1. Yn dilyn nifer cynyddol o ymholiadau oddi wrth rieni, gwleidyddion a darparwyr, mae Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad ag Alison John Associates, wrthi’n datblygu pecyn cymorth i gynorthwyo awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, gwleidyddion ar bob lefel, cynllunwyr mannau agored, cymdeithasau tai a rheolwyr meysydd chwarae eraill. Bydd y pecyn yn eu cynorthwyo i gyflawni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran datblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch. Bydd yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer gwneuthurwyr offer meysydd chwarae, rhieni ac aelodau o’r gymuned, er mwyn iddynt ddeall y cyfleoedd a’r heriau. Mae’r pecyn cymorth yma wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth eglur a chryno fydd yn helpu i greu mannau chwarae sy’n galluogi pob

plentyn i chwarae ynddynt, ynghyd â’u ffrindiau a’u teuluoedd. Mae’n cynnwys gwybodaeth y bwriedir iddo eich helpu i ddeall a mynd i’r afael â materion sy’n destun pryder ac mae’n cynnig templedi ac offer ymarferol, cam-wrth-gam ar gyfer cyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â chwalu rhwystrau sy’n wynebu plant anabl a’u teuluoedd wrth geisio cael mynediad i fannau chwarae. Mynychodd grwp ffocws bychan o rieni, rheolwyr ardaloedd chwarae awdurdodau lleol, swyddogion datblygu chwarae a chynrychiolwyr o fudiadau plant, gyfarfod a hwyluswyd gan Chwarae Cymru ac Alison John Associates ac mae eu sylwadau wedi hysbysu cynnwys y pecyn cymorth. ^

Mae’r sail bresennol ar gyfer chwalu rhwystrau’n canolbwyntio’n bennaf ar yr amgylchedd ffisegol. Mae’r pecyn cymorth yma’n anelu i ganolbwyntio ar yr amgylcheddau synhwyrol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â chwarae. Bydd ystyried ffactorau ffisegol, cymdeithasol a synhwyrol yn cynyddu ansawdd mannau chwarae ar gyfer pob

plentyn, gan gynnig amgylchedd chwarae cyfoethog i bawb. Mae’r pecyn cymorth yn anelu i gefnogi partneriaid cyfrifol i gymryd camau rhesymol a rhagflaenol i sicrhau y gall plant â namau wneud defnydd da o feysydd a mannau chwarae.

Bydd chwalu rhwystrau i fannau chwarae o ansawdd yn: • Sicrhau eu bod yn hygyrch i’r nifer mwyaf posibl o blant a’u gofalwyr • Cefnogi plant o bob oed a gallu i chwarae gyda’i gilydd • Cyfoethogi’r ymdeimlad lleol o gymuned a chefnogi cyfranogiad a lles cymunedol • Galluogi plant i elwa o holl fuddiannau cadarnhaol chwarae – fydd yn cyfrannu at eu hymdeimlad cyffredinol o iechyd a hapusrwydd. Bydd y pecyn cymorth Creu mannau chwarae hygyrch ar gael ar ein gwefan yn fuan. 1 Winckler, V. (2011) Fair play for disabled children and young people in Wales. Glyn Ebwy: Sefydliad Bevan


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 13

‘Llawlyfr hawdd

i’w ddilyn

er mwyn rhoi cychwyn i chwarae rhannau rhydd’ Fe ofynnom i Helen Borley, Pennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart, Caerdydd i adolygu ein pecyn cymorth newydd Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant. Dyma oedd ganddi i’w ddweud. Mae’r pecyn cymorth newydd yma, a gynhyrchwyd gan Chwarae Cymru, yn anelu i resymoli chwarae rhannau rhydd ac i ddarparu llawlyfr i athrawon ac ysgolion i roi cychwyn ar bethau. Mae’r pecyn cymorth, yn syml, yn disgrifio hanes chwarae rhannau rhydd. Mae’n mynd yn ôl yr holl ffordd at bapur Simon Nicholson ym 1971 sy’n cefnogi gadael i blant chwarae gyda gwrthrychau bob dydd a bod dirnadaeth plant yn aml yn wahanol iawn i’n hamgyffred ni. I blant, mae wal frics yn ardal i neidio, yn drawst i gerdded arno, yn fan cuddio - i oedolion mae’r wal, yn syml, yn derfyn. Yn ail, mae’r pecyn cymorth yn cynnig canllaw hawdd i’w ddefnyddio sy’n amlinellu’r prif gamau sydd angen eu cymryd i roi cychwyn ar bethau: archwilio’r ddarpariaeth bresennol, beth i’w gasglu a sut i’w storio, hyfforddiant ar gyfer oedolion a phlant, enghraifft o gynllun gweithredu, asesu risg a gwaith polisi. Y neges sylfaenol yw cychwyn yn fychan a bydd y prosiect yn tyfu, cynnwys y plant ym mhob cam a gadael i’r plant arwain y chwarae. Mae siarad ac adrodd yn ôl yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen – trafod yr hyn aeth yn dda a’r camau posibl nesaf. Mae’r sesiynau hyn yn allweddol ar gyfer delio â phryderon ymysg rhieni ynghylch diogelwch eu plant yn chwarae, gyda’r hyn y bydd rhai yn ei ystyried yn sbwriel. Mae’r pecyn cymorth yn cyflwyno tystiolaeth ddefnyddiol, sy’n seiliedig ar ymchwil, dros fuddiannau chwarae rhannau rhydd trwy ddolenni i wefannau a phapurau academaidd. Mae’r rhain yn ddefnyddiol i bob un ohonom fydd angen ymchwilio’r dystiolaeth drosom ein hunain a chanfod enghreifftiau o ble y mae’n gweithio’n dda. At hynny, mae’n darparu sail dda ar gyfer dod o hyd i dystiolaeth fuddiol ar gyfer egluro i rieni neu lywodraethwyr ysgol pam fod y plant, i bob diben, yn chwarae gyda ‘jync’. Mae’r pecyn cymorth yn canolbwyntio ar chwarae rhannau rhydd fel rhan o’r amser chwarae traddodiadol a’r diwrnod ysgol anffurfiol. Gellir hefyd ei ddefnyddio

fel rhan o’r cwricwlwm ac mae’n elfen annatod o gwricwlwm sy’n seiliedig ar chwarae. Mae llawer o elfennau cadarnhaol i ddarparu lle ac amser i weithwyr proffesiynol arsylwi rhyngweithio cymdeithasol a datblygiad perthnasau o fewn dosbarthiadau. Mae’r chwarae dychmygol a chydweithredol y mae rhannau rhydd yn darparu ar ei gyfer yn caniatáu i oedolion arsylwi o bellter ac yna cydchwarae pan fo angen modelu neu gefnogaeth. Felly, mewn ymdrech i symud i ffwrdd oddi wrth yr holl deganau plastig lliwgar, llachar ac offer maes chwarae o ansawdd gwael fydd yn torri ar ddim a gaiff eu colli wedi munudau cyntaf y cyffro, darllenwch y pecyn cymorth yma! Adnoddau ar gyfer chwarae … Mae’r teitl yn dweud y cyfan - dyma lawlyfr hawdd i’w ddilyn er mwyn rhoi cychwyn i chwarae rhannau rhydd y gallwn ei ehangu’n adnodd maes chwarae cynaliadwy am ddim, neu’n rhad iawn, fydd yn bywiogi ac ennyn brwdfrydedd y plant i fwynhau chwarae sy’n fwy dychmygol a chydweithredol. Mae’r pecyn cymorth Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant ar gael i’w lawrlwytho, yn rhad ac am ddim, ar: www.chwaraecymru. org.uk/cym/pecyncymorthrhannaurhydd


14 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Cipolwg ar

brosiectau Chwarae Cymru Mae Chwarae Cymru’n gweithio ledled Cymru trwy gefnogi mentrau a phrosiectau cymunedol a sirol. Dyma’r newyddion diweddaraf am ddetholiad o brosiectau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd er mwyn gwella a chynyddu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu cymunedau.

Conwy – cefnogi gofalwyr maeth Mae Chwarae Cymru a Thîm Datblygu Chwarae Conwy wedi bod yn gweithio ar y cyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar ddull arloesol i gynyddu sgiliau’r gweithlu chwarae yn Nhîm Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy. Cychwynnodd y gwaith yma trwy drosglwyddo sesiwn hyfforddiant chwarae a gwaith chwarae ar gyfer gofalwyr maeth, dderbyniodd groeso cynnes. Er hynny, mynegodd y gofalwyr maeth bryderon y byddai perygl i blant gael eu hanafu wrth chwarae a’r materion atebolrwydd posibl fyddai’n gysylltiedig â hyn ar gyfer plant y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt. Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, cyflawnwyd gwaith sylweddol gydag uwchreolwyr a rheolwyr timau o fewn y gwasanaethau cymdeithasol i ddatblygu canllawiau rheoli risg sy’n adlewyrchu polisi chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac sy’n ffurfio dadl ystyrlon ar gyfer caniatáu i blant chwarae a phrofi a dysgu i reoli her ac ansicrwydd drostynt eu hunain. Bydd y canllawiau yma’n helpu gofalwyr maeth i lunio barn resymol am risg pan fydd plant yn chwarae. Y cam nesaf fydd trosglwyddo hyfforddiant i weithwyr cymdeithasol y Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal er mwyn eu galluogi i gynorthwyo gofalwyr maeth yn fwy effeithlon wrth iddynt feddwl am chwarae cyn cyflwyno mwy o hyfforddiant chwarae ar gyfer gofalwyr maeth. Roedd Chwarae Cymru’n awyddus i weithio gyda Thîm Datblygu Chwarae Conwy ar y prosiect yma oherwydd ei fod yn cynrychioli agwedd adrannol awdurdod lleol cyfan tuag at gynyddu sgiliau’r gweithlu chwarae ehangach.

Caerdydd – chwarae ar y stryd Dros yr haf, bu Chwarae Cymru’n gweithio gyda thrigolion lleol yng Nghaerdydd i wneud strydoedd a chymunedau’n fannau mwy chwarae-gyfeillgar ar gyfer plant a phobl ifanc. Gan ddefnyddio model Playing Out - sesiynau chwarae ar y stryd a arweinir gan gymdogion ar gyfer cymdogion - aeth trigolion yn ardaloedd Trelái a’r Eglwys Newydd ati i gau eu strydoedd i draffig am ran o brynhawn 2 Awst 2017 er mwyn dathlu ein Diwrnod Chwarae cenedlaethol. Daeth y plant i chwarae ar eu strydoedd gyda’u teuluoedd - fe ddaethon nhw â’u sgwteri, peli, space hoppers, sialc a rhaffau sgipio gyda nhw tra bo’r oedolion lleol yn helpu i reoli’r traffig. Yn Nhrelái, bu’r plant a rhieni’n sgipio gyda rhaff hir las yr oedd un o’r plant wedi ei benthyca gan ei thad. Fe wnaeth rhai o’r plant greu baner fawr ‘Ffordd ar Gau’, a phan oedd y gwynt yn bygwth ei chipio, rhedodd plentyn arall gartref i nôl pedair bricsen o’r ardd i’w helpu i’w dal yn ei lle. Meddai’r trefnydd lleol, Beth Salter, wedi’r digwyddiad, ‘Mae tipyn o gyffro yn y stryd heno. Rydw i wedi dod i ’nabod dau o bobl nad oeddwn yn eu ’nabod ddoe’. Toni Morgan, y trefnydd lleol yn yr Eglwys Newydd, sy’n dweud wrthym pam yr oedd hi’n credu y byddai sesiynau chwarae stryd yn gweithio yn ei hardal hi: ‘Roeddwn am roi cychwyn i’r prosiect ar fy stryd i gan fy mod yn gwybod bod llawer o deuluoedd yn byw arni, ond doeddwn i heb ddod ar draws unrhyw blant yn chwarae allan o gwbl, a minnau’n byw yno ers tair blynedd. Roeddwn am i fy mhlant fy hun gael profiad chwarae mwy “organig”, wedi ei arwain gan y plant eu hunain, wrth iddyn nhw dyfu i fyny a’r holl fuddiannau ddaw yn sgil hynny … a dyma oedd yr opsiwn tebycaf, a mwyaf diogel, heb iddo fod yn rhy artiffisial ac wedi ei ddifetha gan oedolion! Hefyd, mae’r geiriau “play date” yn troi fy stumog! Ar ben hynny, dwi’n ofnadwy o fusneslyd ac yn hoffi gwybod pwy sy’n byw o nghwmpas ac rwy’n hoffi’r syniad o agosatrwydd o fewn cymuned.’


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 15

Trwy ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar draws Cymru, mae plant yn adrodd eu bod yn wynebu llawer o rwystrau sy’n eu hatal rhag chwarae yn eu cymuned, fel ceir wedi parcio a chyflymder a lefel y traffig, ofn dieithriaid, ac agweddau ac amgylchedd digroeso. Ymunodd Chwarae Cymru gyda’r sesiynau chwarae gyda’r bwriad o weithio gyda Chyngor Caerdydd ac awdurdodau lleol eraill i’w helpu i ystyried cefnogi chwarae stryd, a arweinir gan drigolion, yn eu hardaloedd a’u helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn. Mae’r sesiynau chwarae stryd wedi eu defnyddio fel astudiaeth achos yn ‘Moving forwards: Healthy travel for all in Cardiff and the Vale of Glamorgan’, adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a Bro Morgannwg 2017. Meddai’r Dr Sharon Hopkins, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a Bro Morgannwg: ‘Mae amgylchedd sy’n cefnogi pobl o bob oed i fod yn gorfforol egnïol ac i gymdeithasu ac i blant chwarae’r tu allan, yn hanfodol ar gyfer cadw pobl yn heini ac iach, lleihau lefelau o ordewdra a gwella lles meddyliol. Mae chwarae’n neilltuol o bwysig ar gyfer datblygiad corfforol a lles meddyliol plant.’

Blaenau Gwent – cynhadledd Bywyd Ysgol Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, trefnodd Chwarae Cymru gynhadledd amlasiantaeth wedi ei anelu at archwilio ffyrdd y gallem feithrin gwell amodau ar gyfer chwarae plant mewn ysgolion yn y sir. Ymhlith y siaradwyr oedd ymchwilwyr wnaeth gyflwyno eu canfyddiadau o astudio effaith amserau chwarae cyfoethog, a chynrychiolwyr o Ysgol Gynradd Willowtown ac Ysgol y Santes Fair yn trafod eu profiadau o raglen Ysgolion Chwarae-gyfeillgar Blaenau Gwent. Mae dyletswydd cyfleoedd chwarae digonol Llywodraeth Cymru’n gosod dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant. Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yma, mae Llywodraeth Cymru’n argymell y dylid cefnogi ysgolion i ddarparu mannau chwarae o ansawdd uchel a digon o amser i blant chwarae’n ystod y diwrnod ysgol ac i roi ystyriaeth lawn i agor y ddarpariaeth yma y tu allan i oriau ysgol. Roeddem yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad hwn gan ein bod yn sylweddoli bod rhai o’r gofynion hyn yn heriol i ysgolion. Fe wnaeth y digwyddiad helpu i rannu’r hyn sydd wedi gweithio mewn ardaloedd eraill a dynodi ffyrdd i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau y bydd ysgolion yn eu hwynebu.


16 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Hawliau chwarae ac iechyd:

creu cysylltiadau Mae gan bob plentyn hawl i chwarae, fel sydd wedi ei ddiogelu yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Yn 2013, mabwysiadodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Sylw Cyffredinol sy’n egluro ystyr a phwysigrwydd Erthygl 31 o GCUHP i lywodraethau ar draws y byd. Mae Sylw Cyffredinol yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr elfen o GCUHP sydd angen dehongliad neu bwyslais pellach. Mae’n anelu hefyd i gynyddu pwysigrwydd Erthygl benodol a chynyddu atebolrwydd ymysg gwledydd sydd wedi arwyddo’r Confensiwn. Mae’r Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 yn pwysleisio rôl cyfleodd plant i chwarae yn eu ffordd eu hunain. Mae hefyd yn gosod yr hawl i chwarae o fewn cyddestun ehangach erthyglau perthnasol eraill CCUHP, gan ei fod yn amlinellu sut y mae’r hawl i chwarae’n cysylltu’n annatod gyda’r hawl i fod yn iach, yn enwedig yn Erthyglau 24 a 27. Mae Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd) yn nodi bod gan blant hawl i ofal iechyd o ansawdd dda, dw^ r yfed diogel, bwyd maethlon, amgylchedd glân a diogel, a gwybodaeth i’w helpu i gadw’n iach.

Mae Erthygl 27 (safon byw ddigonol) yn datgan bod gan blant hawl i safon byw sy’n ddigon da i gyflawni eu hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai llywodraethau helpu teuluoedd a gwarcheidwaid sy’n methu fforddio i ddarparu hyn, yn enwedig o ran bwyd, dillad a thai. Yn y Sylw Cyffredinol, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn mynnu bod cyflawni’r hawliau a ddarperir ar eu cyfer yn Erthygl 31 yn cyfrannu at iechyd, lles a datblygiad plant, fel a fynegir yn Erthygl 24. Aiff ymlaen i nodi y bydd darpariaeth briodol i blant fwynhau eu hawl i chwarae pan maent yn sâl neu yn yr ysbyty’n chwarae rhan bwysig wrth hwyluso adferiad iechyd. O ran Erthygl 27, mae Pwyllgor y CU yn pryderu y gall safon byw annigonol, amgylcheddau peryglus a budr, a bwyd annigonol, o bosibl, gyfyngu ar gyfleoedd plant i fwynhau a chyflawni eu hawl i chwarae. Mae’r Pwyllgor yn annog llywodraethau i ystyried yr oblygiadau ar gyfer hawl plant i chwarae pan fyddant yn datblygu polisïau sy’n ymwneud ag amddiffyn y cyhoedd, cyflogaeth, tai a mynediad plant i fannau cyhoeddus. Yn benodol, mae’r Pwyllgor yn mynnu bod ‘plant angen mynediad i fannau cynhwysol sy’n rhydd o beryglon amhriodol ac sy’n agos i’w cartrefi eu hunain, yn ogystal â mesurau i hybu symudedd diogel, annibynnol wrth i’w doniau esblygu.’ Un her benodol, yn ôl y Pwyllgor, yw nad yw hawl plant i gyfranogi mewn chwarae a phwysigrwydd

sylfaenol chwarae ar gyfer lles, iechyd a datblygiad plant yn cael ei ddeall yn iawn na’i werthfawrogi’n ddigonol. Pan gaiff chwarae ei gydnabod, gan amlaf, gweithgarwch corfforol a gemau cystadleuol (chwaraeon) gaiff eu gwerthfawrogi uwchlaw mathau eraill o chwarae sy’n annog cymdeithasoli, dychymyg a chreadigrwydd. Mae’r Pwyllgor yn pwysleisio bod gwell cydnabyddiaeth i ddarparu ar gyfer chwarae i blant hy^ n yn arbennig o angenrheidiol. Yn aml, bydd pobl ifanc yn chwilio am fannau i gwrdd â’u cyfoedion ac archwilio eu egin-annibyniaeth a’r cyfnod pontio i fod yn oedolyn. Mae hwn yn ddimensiwn pwysig ar gyfer datblygu eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn a dylai dderbyn mwy o gydnabyddiaeth a gwell darpariaeth. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ymwneud â chyflawni’r hawl i chwarae, mae Pwyllgor y CU yn argymell nifer o fesurau, fel cydweithredu trawsadrannol mewn llywodraeth leol a chenedlaethol. Mae’n cynghori bod cynllunio ar gyfer chwarae plant yn galw am agwedd eang a chynhwysfawr, yn cynnwys cydweithredu trawsadrannol ac atebolrwydd rhwng awdurdodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae adrannau perthnasol yn


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 17

mewn strategaethau a chynlluniau iechyd neu rai sy’n ymwneud ag iechyd, yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol, strategaethau tlodi plant a strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. • Ystyried yr effeithiau ar chwarae plant mewn asesiadau Effaith ar Iechyd ac Effaith ar Degwch Iechyd. • Darparu gwybodaeth i rieni sydd yn amlygu gwerth chwarae a’i rôl mewn ffordd iach o fyw. • Creu cysylltiadau gyda gwasanaethau chwarae lleol. Mae gweithwyr chwarae wedi eu hyfforddi i hwyluso cyfleoedd sy’n cynorthwyo plant i chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau yn eu cymunedau eu hunain. • Dynodi ariannu partneriaeth er mwyn penodi gweithwyr chwarae mewn cymunedau.

cynnwys nid yn unig y rheini sy’n delio’n uniongyrchol â phlant, fel iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, amddiffyn plant, diwylliant, hamdden a chwaraeon, ond hefyd y rheini sy’n gyfrifol am dai, parciau, trafnidiaeth, amgylchedd a chynllunio trefol. Mae’n datgan yn gryf bod yr holl wasanaethau hyn yn effeithio’n sylweddol ar greu amgylcheddau ble y gall plant gyflawni eu hawliau o dan Erthygl 31. Mae argymhelliad arall yn ymwneud â hyfforddiant a chynyddu capasiti. Mae’r Pwyllgor yn cynghori y dylai pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda neu dros blant, neu y mae eu gwaith yn effeithio ar blant (fel swyddogion y llywodraeth, addysgwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal a’r blynyddoedd cynnar, cynllunwyr a phenseiri) dderbyn hyfforddiant systematig a pharhaus ar hawliau dynol plant, yn cynnwys yr hawliau a gynrychiolir yn Erthygl 31. Dylai hyfforddiant o’r fath gynnwys

arweiniad ar sut i greu a chynnal amgylcheddau ble gall yr hawl i chwarae gael ei sylweddoli’n fwyaf effeithlon gan bob plentyn. Mae’r Sylw Cyffredinol, yn gwbl eglur, yn creu cysylltiad amlwg rhwng chwarae a phlentyndod iach. Fel oedolion, mae angen i ni helpu plant trwy godi chwarae ar yr agenda ar bob cyfle posibl – gyda rhieni a gofalwyr, gyda llunwyr penderfyniadau a chynllunwyr. Mae angen inni gefnogi darparu digon o amser a gofod i blant chwarae bob dydd yn eu cymunedau. Mae’n bosibl y bydd plant â namau angen cymorth i gael mynediad i chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau. Mae nifer o ffyrdd ymarferol i weithwyr iechyd proffesiynol a’r rheini ohonom sydd â diddordeb, neu gyfrifoldeb am iechyd a lles plant gyfrannu trwy: • Hybu pwysigrwydd chwarae mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd iechyd. • Cynnwys cefnogi darpariaeth chwarae ar gyfer pob plentyn

Er gwaetha’r safbwyntiau amlwg a derbyniedig ynghylch y rôl sydd gan chwarae mewn cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella iechyd a lles meddyliol, mae’n bwysig parhau i eiriol dros agwedd sy’n seiliedig ar hawliau tuag at lunio polisïau. Mae’n bosibl y gallai gwahaniaethu rhwng mathau chwarae, i gefnogi’r rheini y credir sy’n fwy cefnogol o ddeilliannau iechyd ar gyfer plant, arwain at esgeuluso elfennau chwarae pwysig iawn eraill yn ddiarwybod. Gall rhaglenni ymyrraeth fod yn ddefnyddiol wrth annog a chefnogi ffyrdd iach o fyw mewn plentyndod. Ond, mae rhaid eu cyfannu trwy ganolbwyntio ar gefnogi plant i fod yn gyfranogwyr gweithredol wrth gynyddu eu gwytnwch a’u hamcanusrwydd eu hunain. Gwyddom y caiff pob agwedd o fywyd plentyn ei ddylanwadu gan ei ysfa i chwarae, a bod chwarae hunan-gyfeiriedig a ddewisir yn bersonol a gynigir gan ddarpariaeth chwarae o ansawdd yn cynyddu cyfleoedd plant i wella eu gwytnwch eu hunain a chefnogi eu hiechyd a’u lles personol.


18 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Chwarae allan

fel offeryn datblygu cymunedol Judith Langdon, Swyddog Ardal Gyfan, Cyngor Sir Fynwy sy’n rhannu ei phrofiadau o gefnogi cau strydoedd er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd chwarae a datblygu cymunedol.

Heriau i ffurfio cymunedau cysylltiedig Fy rôl i yw cefnogi gweledigaeth y cyngor i adeiladu cymunedau cynaliadwy, cydnerth ar draws Sir Fynwy. Mae fy nhîm yn canolbwyntio ar ehangu buddiannau cymdeithasol yn yr ardaloedd hynny sydd angen cymorth fwyaf, tra’n helpu cymunedau i wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau cymdeithasol sylweddol yn ardaloedd mwy llewyrchus y sir.

Yn yr un modd â llawer o ardaloedd ar draws y wlad, rydym hefyd wedi tystio i chwalfa gymdeithasol araf ble rydym, dros gyfnod o ddegawdau, wedi cerdded yn ein cwsg i sefyllfa ble mae gwead cymdeithas yn gwanychu. Ac fe wyddom hefyd, yn genedlaethol, bod ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus yn edwino.

Sesiynau chwarae allan: datblygu cymunedol sy’n seiliedig ar asedau? Yma yn Sir Fynwy, rydym yn gwneud ein gorau i ymateb i’r heriau hyn trwy fuddsoddi yn ein cymunedau a thrwy weithio gyda nhw i gyflawni pethau gwych gyda’n gilydd. Yn ein sir, rydym yn gwbl eglur ein bod am i bobl gredu bod y cyngor yn eu cynrychioli nhw - ein bod ni i gyd ar yr un ochr.

Mae’r hinsawdd bresennol o gyfyngu ar adnoddau, sy’n wynebu pob awdurdod lleol, yn peri heriau sylweddol o ran parhau i ddarparu’r un lefel o wasanaeth y mae pobl yn ei ddisgwyl bellach. Fel sir wledig, mae gan Sir Fynwy her ychwanegol sef poblogaeth sydd wedi ei gwasgaru’n ddaearyddol, gyda phedair prif dref y sir wedi eu lleoli yng nghorneli’r sir.

Mewn partneriaeth â’n trigolion, rydym yn edrych ar ddefnyddio’r model Playing Out - sesiynau chwarae ar y stryd wedi eu trefnu gan gymdogion - fel rhan o gyfres o weithgareddau sydd, yn syml, wedi eu dylunio i ddod â phobl at ei gilydd. I ni mae’n fath o ddatblygiad cymunedol traddodiadol: graddfa fechan, lleol, creu amodau i bobl gysylltu â’i gilydd a chanfod tir cyffredin gyda phobl eraill sy’n byw yn yr un lle. Dydyn ni ddim am fod yn berchen ar y broses na’i wneud ar ran pawb.

Wrth gwrs, pe bae ni am sicrhau bod ugain stryd chwarae yn weithredol erbyn y mis nesaf fe allen ni, fel cyngor, drefnu i hynny ddigwydd – ond byddai hynny’n golygu methu’r pwynt yn llwyr. Er mwyn i’n cymunedau fod yn wydn a chynaliadwy, mae angen iddyn nhw ehangu ar eu hasedau unigryw presennol.

Rôl y cyngor wrth gefnogi chwarae allan Rydym yn hapus i gymryd ein hamser a gadael i chwarae allan yn Sir Fynwy ddatblygu’n organig. Dydyn ni ddim am fod yn berchen ar y broses na’i wneud ar ran pobl, ond byddwn yn sicr yn cefnogi ac annog unrhyw drigolion sydd am wneud iddo ddigwydd ble maen nhw’n byw. Gallwn helpu pobl i drefnu chwarae ar eu strydoedd nhw trwy ddarparu proses syml i wneud cais am gau ffordd, cyhoeddi’r cynllun, darparu hyfforddiant a helpu gydag arwyddion ffyrdd. Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yng nghylchlythyr ‘Playing Out’ ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol a mudiadau cymunedol. Un model o chwarae stryd yw’r prosiect Playing Out – sesiynau chwarae stryd y tu allan i oriau ysgol a arweinir gan gymdogion ar gyfer cymdogion. Wedi ei ddyfeisio gan rieni ym Mryste yn 2009 i adfer chwarae stryd fel elfen normal ac iachus o fywyd bob dydd, mae’r pwyslais ar chwarae rhydd, distrwythur gyda’r plant, fel arfer, yn dod â’u teganau eu hunain. Caiff ffordd breswyl ei chau i draffig er mwyn sicrhau diogelwch, gyda stiwardiaid gwirfoddol ger pob cyffordd ble mae’r ffordd wedi ei chau i ailgyfeirio’r traffig a sicrhau tawelwch meddwl i rieni. http://playingout.net


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 19

Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar Ymgyrch gan Chwarae Cymru yw Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar sy’n helpu i ffurfio rhwydwaith o gymorth ar gyfer chwarae ar draws Cymru. Rhowch wybod i ni beth sy’n digwydd yn lleol naill ai i warchod neu i wahardd hawl plant i chwarae trwy fynd i’r dudalen Facebook: on.fb.me/gwladchwaraegyfeillgar

Dosbarthu bwyd yn ystod gwyliau’r haf Mae gwirfoddolwyr mewn rhwydwaith o eglwysi ar draws Wrecsam a’r Rhyl yn paratoi a dosbarthu pecynnau cinio trwy gydol gwyliau’r ysgol er mwyn sicrhau bod plant sy’n ymweld â chanolfannau chwarae’n derbyn pryd iach. Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad Esgobaeth Llanelwy, mewn partneriaeth â thimau chwarae’r awdurdod lleol, i helpu i fynd i’r afael â newyn yn ystod y gwyliau. Mae dosbarthu cinio i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes yn golygu bod plant yn gallu parhau i fynychu darpariaeth chwarae gymunedol sy’n ateb eu hanghenion chwarae. Karen Maurice, Swyddog Cyfathrebiadau Esgobaeth Llanelwy, sy’n dweud mwy wrthym am y prosiect. ‘Fe glywom am drafferthion oedd yn cael eu hachosi gan newyn yn ystod y gwyliau a’r diffyg darpariaeth yng ngogledd Cymru i helpu i fynd i’r afael â hyn. Wedi clywed am yr angen, roeddem yn teimlo na allem ei anwybyddu - mae’r plant yma a’u teuluoedd yn rhan o’n cymunedau ac roeddem am ddangos iddyn nhw ein bod yn pryderu yn eu cylch. Gan fod gan y timau chwarae berthynas wych gyda’r plant eisoes, roedd yn bwysig inni weithio mewn partneriaeth gyda nhw. Roedd hi’n hawdd iddyn nhw ddynodi’r plant hynny oedd angen cefnogaeth ychwanegol ac roedd modd iddyn nhw gyfathrebu gyda nhw a’u teuluoedd mewn ffyrdd sensitif. Yn ogystal, roedd yn bwysig inni gefnogi’r gweithwyr chwarae gyda’r gwaith gwych y maent yn ei wneud. Mae’r cyfraniad bychan yma’n eu helpu i drosglwyddo eu gwasanaeth a gall sicrhau elfen gyfannol, ychwanegol i’r gwaith y maent yn ei wneud.’ Yn ôl Colin Powell, Rheolwr ar Faes Chwarae Antur Cwm Gwenfro, Wrecsam, mae’r ffaith mai gweithwyr chwarae oedd yn dosbarthu’r pecynnau cinio yn golygu bod pob plentyn yn cael cynnig bwyd. Fodd bynnag, mae’n bosibl targedu’r rheini sydd ei angen fwyaf mewn modd anffurfiol, heb unrhyw stigma cysylltiedig. Ychwanegodd, ‘Yn sicr dyma un o’r hafau lleiaf trafferthus inni o ran delio gydag ymddygiad heriol.

Bydd y rhan fwyaf o deuluoedd yn gwybod, pan fo’u plant bach yn flinedig neu eisiau bwyd y byddant yn anodd i’w rheoli ac yn afresymol pan fyddant yn ceisio cyflawni rhywbeth. Gellir dweud yr un peth am blant hy^n a phobl ifanc. Ond, roedd staff y maes chwarae am imi nodi’n benodol mai prin iawn oedd achosion o ymddygiad gwael a bod hyn, yn eu barn hwy, oherwydd bod bwyd ar gael yn ystod y dydd.’

NEWYDD

Taflen wybodaeth Mae ein taflen wybodaeth Chwarae, gwaith chwarae a bwyd, sydd newydd ei diweddaru, yn archwilio’r agenda iechyd bresennol, chwarae ac iechyd, sut y gellir darparu bwyd mewn lleoliad chwarae yn ogystal ag agweddau a gwerthoedd tuag at fwyd. Yn ogystal â’r esiamplau uchod, mae’n cynnwys astudiaethau achos o Faes Chwarae Antur Meriden ym Mirmingham a Maes Chwarae Antur Glamis yn Llundain. Ar gael i’w lawrlwytho ar: www.chwaraecymru.org. uk/cym/taflennigwybodaeth

Am fwy o enghreifftiau o Gymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar, ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/cym/gwladchwaraegyfeillgar


20 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Datblygu’r gweithlu Diweddariad cymwysterau gan Lywodraeth Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cylchlythyr sy’n egluro’r gofynion o ran cymwysterau ar gyfer darparwyr chwarae a gofal plant sydd wedi eu cofrestru i weithio gyda phlant o wyth i ddeuddeg oed. Yn y gorffennol, roedd lleoliadau chwarae a gofal plant wedi eu cofrestru i weithio gyda phlant hyd at wyth oed. Yn dilyn y newidiadau rheoleiddio, bydd staff sy’n gweithio gyda phlant hyd at ddeuddeg oed mewn lleoliadau gofal plant angen meddu ar gymwysterau gwaith chwarae yn ogystal â’u cymwysterau gofal plant (er enghraifft Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant - CCLD).

• Ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae sydd wedi eu cofrestru eisoes, nid oes unrhyw newidiadau, mae wastad wedi bod yn ofynnol i staff feddu ar y cymwysterau gwaith chwarae perthnasol a geir ar Rhestr o Gymwysterau Gofynnol SkillsActive.

Mae’r llythyr yn cyfeirio at restr SkillsActive: Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru, sydd wedi ei diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau a’i symleiddio, gyda’r bwriad o wneud y gofynion cymwysterau’n fwy eglur. I grynhoi:

Mae’r ddwy restr cymwysterau ar gael ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cymwysteraugofynnol

• I leoliadau gofal plant sydd wedi eu cofrestru eisoes, sydd ond yn gweithio gyda phlant hyd at wyth oed, nid oes newid a byddant angen meddu ar gymhwyster sydd ar restr Gofal Cymdeithasol Cymru Rhestr o’r cymwysterau gofynnol i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. • Mae gan staff mewn lleoliadau gofal plant sydd wedi eu cofrestru eisoes, sy’n gweithio gyda phlant hyd at ddeuddeg oed, tan fis Medi 2021 i ennill y cymwysterau gwaith chwarae priodol a nodir yn Rhestr o Gymwysterau Gofynnol SkillsActive.

Ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae, gofal plant a lleoliadau eraill sydd wedi eu heithrio rhag cofrestru ac sy’n gweithio gyda phlant hyd at ddeuddeg oed, nid oes unrhyw ofynion o ran cymwysterau. Ond, mae Chwarae Cymru’n argymell y dylai lleoliadau gyfeirio at Rhestr o Gymwysterau Gofynnol SkillsActive am arweiniad i gael mynediad i hyfforddiant gwaith chwarae o ansawdd allai arwain at gymhwyster a galluogi staff i weithio mewn lleoliadau cofrestredig. Mae cylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gael i’w lawrlwytho ar: http://bit.ly/cylchlythyrLlC Er mwyn cynorthwyo cyflogwyr a dysgwyr i ddeall y dirwedd cymwysterau, mae Chwarae Cymru wedi datblygu rhestr o gwestiynau cyffredin (FAQs): www.chwaraecymru.org.uk/cym/cwestiynaucymwysterau

Diwygio cymwysterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant Yn dilyn adolygiad o’r sector yn 2016, mae Cymwysterau Cymru yn defnyddio ei bwerau rheoleiddio i ddiwygio cymwysterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant trwy ariannu datblygu cyfres newydd o gymwysterau fydd ar gael o fis Medi 2019. Bydd y cymwysterau newydd yn disodli mwy na 200 o gymwysterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd y cymwysterau cyfredol yn parhau i gael eu hariannu tan fo’r cymwysterau newydd ar gael. Yn ogystal, ceir cyfnod pontio er mwyn caniatáu i ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau ar hyn o bryd, i gael eu hariannu i gwblhau eu cymwysterau. Mae Cymwysterau Cymru wedi penodi consortiwm sy’n cynnwys Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a’r City and Guilds of London Institute fel y partner corff dyfarnu i ddatblygu’r cymwysterau newydd. Bydd y cymwysterau

Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant (CCLDP) newydd yn cynnwys gwybodaeth am a dealltwriaeth o chwarae plant, gan i’r adolygiad o’r sector ddynodi fod hyn yn ddiffygiol ar hyn o bryd. Ni fydd hyn yn disodli unrhyw un o’r cymwysterau gwaith chwarae presennol na’r gofynion rheoliadol cyfredol i staff feddu ar gymwysterau gwaith chwarae. Meddai Cymwysterau Cymru: ‘Mae’r consortiwm yma’n dwyn ynghyd arbenigedd mewn datblygu, asesu, dylunio a throsglwyddo cymwysterau o safbwynt cymwysterau galwedigaethol a chyffredinol. At hynny, rydym wedi ein sicrhau y bydd y bartneriaeth hon yn gwarantu cydraddoldeb rhwng y ddarpariaeth cymwysterau ac asesu ar draws dwy iaith swyddogol Cymru ynghyd â darparu strategaeth rheoli newid gref er mwyn cefnogi’r system gymwysterau gyda hyfforddiant effeithlon, cefnogaeth ac adnoddau.’ Bydd Chwarae Cymru yn hysbysu’r sector am gyfleoedd i gyfrannu at gynnwys y cymwysterau newydd.


Chwarae dros Gymru | Hydref 2017 | 21

Datblygu’r gweithlu

Gweithlu chwaraegyfeillgar i Gymru Mae Chwarae Cymru wedi creu cynllun datblygu er mwyn ymateb i ystod eang o flaenoriaethau ar gyfer y gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae. Mae Gweithlu chwarae-gyfeillgar i Gymru yn diffinio’r gwahaniaeth rhwng y gweithlu chwarae a’r gweithlu gwaith chwarae ac mae’n amlinellu ystod o flaenoriaethau strategol a gweithredol ar gyfer Chwarae Cymru dros y 18 mis nesaf, pryd y caiff ei adolygu er mwyn ymateb i’r rownd nesaf o Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a gynhelir gan awdurdodau lleol yn 2019.

Mae blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gweithlu chwarae yn cynnwys: • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer y gweithlu chwarae’n derbyn blaenoriaeth, ochr-yn-ochr â mentrau i gynyddu sgiliau a chymhwyso’r gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwell dealltwriaeth o anghenion y gweithlu chwarae, sut i asesu eu hanghenion a ffyrdd ymarferol o gefnogi DPP a chynyddu sgiliau • Cefnogi awdurdodau lleol a mudiadau chwarae trydedd sector i gynyddu sgiliau’r gweithlu chwarae

Mae blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gweithlu gwaith chwarae yn cynnwys: • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddynodi ariannu ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae sy’n lleihau’r baich ar ddysgwyr a chyflogwyr ac sy’n caniatáu ar gyfer croesawu ac achredu mwy o ddysgwyr gwaith chwarae • Cynyddu’r seilwaith trosglwyddo ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru, yn enwedig o ran niferoedd a lefelau cymhwysedd tiwtoriaid ac aseswyr • Gweithio gyda Cymwysterau Cymru i sicrhau bod gwaith chwarae’n cael ei wreiddio mewn cymwysterau ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant

• Cefnogi datblygiad opsiynau DPP a chymwysterau sy’n caniatáu i weithwyr chwarae gynyddu eu sgiliau tra’n aros ar yr un lefel.

Mae’r blaenoriaethau a geir yn y cynllun datblygu gweithlu wedi eu pennu trwy ymgynghori â’r sector ac mewn ymateb i flaenoriaethau a ddynodwyd trwy: • Adolygiad Chwarae Cymru o’r 22 Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gan awdurdodau lleol yn 2016 • Rhwydwaith Chwarae Strategol Cymru • Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) • Trafodaethau unigol gyda rhanddeiliaid • Adolygiad o Gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwaith Chwarae yng Nghymru (Cymwysterau Cymru, 2016). Mae Gweithlu chwarae-gyfeillgar i Gymru ar gael i’w lawrlwytho ar: www.chwarecymru.org.uk/eng/cynllungweithlu


22 | Chwarae dros Gymru | Hydref 2017

Dathlu chwarae ynginNghymru Celebrating play Wales Mae cael amser, lle a chaniatâd i chwarae’r tu allan gyda ffrindiau’n bwysig i blant yng Nghymru. Pan ofynnom ni iddyn nhw am eu profiadau chwarae, dyma ddywedodd plant ar draws Cymru wrthym*:

Pa mor aml wyt ti’n mynd allan i chwarae neu yn ‘cymdeithasu’ gyda ffrindiau? Y rhan fwyaf o ddyddiau 41% Ychydig o ddiwrnodau’r wythnos 35% Dim llawer 15% Dydw i ddim yn chwarae neu yn ‘cymdeithasu’ gyda ffrindiau 9%

Oes gen ti ddigon o amser i chwarae’r tu allan?

Oes 80% Nac oes 20%

Wyt ti’n cael chwarae’r tu allan ar dy ben dy hun?

A oes digon o gyfleoedd i chwarae’r tu allan? Oes 83%

Ydw 83% Nac ydw 17%

Nac oes 17%

Ble yw dy hoff le i chwarae neu gymdeithasu pan nad wyt ti yn yr ysgol? 1. Mewn cae neu ardal laswelltog leol 2. Parc 3. Yn yr ardd neu ardd ffrind

Mae chwarae a chymdeithasu’n gwneud imi deimlo’n… 1. Hapus 2. Cyffrous 3. Egnïol

www.chwaraecymru.org.uk * Holwyd 5478 o blant, rhwng 5 a 12 oed – casglwyd y wybodaeth o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae awdurdodau lleol o bob cwr o Gymru (2016 – 2017).


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.