Rhifyn 24
Chwarae dros Gymru Newyddion chwarae & gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol dros chwarae
Gwanwyn 2008
Chwarae a chyfranogaeth www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 GOLYGYDDOL
2
Cynnwys
tudalen
Golygyddol
2
Camp Cynhadledd Cymru
3
Safonau ar gyfer Cyfleoedd Chwarae yng Nghymru
3
Cyngor newydd i adfer ysbryd antur
3
Dyfodol Posibl Gwaith Chwarae
4
Getting it Right Legally – am ddim
4
Playwords – am ddim
4
Adnewyddu aelodaeth Chwarae Cymru
4
Data-bas
4
Cynlluniau Tymhorol a’r AGGCC
5
Adroddiad Pwyllgor (GCD) Arfaethedig Plant sy’n Agored i Niwed 5 Chwarae Plant – Rownd Dau
5
Chwarae a Chyfranogaeth
6
Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc
8
LlCC
8
Pam fod oedrannau pobl yn mynd i fyny yn lle i lawr?
9
Cyfranogaeth a Gwaith Chwarae
10
Cyfranogaeth – Chwarae mewn Ysgolion
12
Cyfweliad gyda’r Comisiynydd Plant newydd
13
Chwarae: yr hawl mwyaf anghofiedig
13
Gwaith Chwarae Cymru
14
3
Hyfforddiant P – yr effaith
15
Digwyddiadau ac Ariannu
16
Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru bedair gwaith y flwyddyn. Cysylltwch â’r Golygydd yn: Chwarae Cymru, Ty^ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH Rhif ffôn: 029 2048 6050 E-bost: gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk ISSN: 1755 9243 Rhif Elusen Gofrestredig. 1068926 Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchlythyr hwn. Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn. Argraffwyd y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy. Dyluniwyd ac argraffwyd gan Carrick Business Services Cyf. Ffôn: 01443 843 520 E-bost: sales@carrickdesignprint.co.uk
Golygyddol Yn ein rhifyn diwethaf fe gyhoeddom ddosbarthiad cyllid rownd un rhaglen Chwarae Plant y Loteri FAWR i naw prosiect adeiladu isadeiledd chwarae rhanbarthol o amgylch Cymru*. Fel canlyniad, mae cymdeithasau chwarae newydd yn cael eu ffurfio ac mae ambell un sy’n bodoli eisoes yn cael ei atgyfnerthu, neu’n ymestyn eu cyfrifoldeb i gynnwys ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos. Mae hon yn gamp aruthrol i Gymru ble, hyd nawr, y bu’r isadeiledd ar gyfer datblygiad darpariaeth chwarae’n anghyson – ble roedd gan rai ardaloedd y budd o gymdeithasau lleol cryfion a phrysur tra bo eraill yn cael trafferthion. Mae’n bosibl y bydd rhai o’r newidiadau fydd yn bosibl trwy’r cyllid newydd yn cymryd amser i sadio, ond mae’n werth cadw golwg am ddatblygiadau yn eich rhanbarth chi fel y gallwch ymuno â nhw nawr, neu ar adeg priodol. Un o agweddau gwirioneddol galonogol y prosiectau isadeiledd newydd yw bod y cyfan wedi eu seilio ar bartneriaeth sector gwirfoddol/awdurdod lleol, er mwyn i ni yng Nghymru allu datblygu perthnasau sy’n bodoli eisoes a llunio rhai newydd mewn modd cydlynol sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o greadigedd, egni ac adnoddau concrid a dynol. Gall hyn ond bod o fudd i blant a’r sector chwarae plant yng Nghymru. Budd allweddol arall yw, yr hyn yr hyderwn fydd, yn ymgais weithredol ar draws y wlad i gyflawni uchelgeisiau Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer rownd dau y rhaglen Chwarae Plant yw Mawrth 2009 – dim ond blwyddyn o nawr. Dros yr haf yma yw’r amser i ddysgu sut y gallai prosiectau chwarae sy’n bodoli eisoes, neu syniadau ar sut i sefydlu prosiectau chwarae newydd, elwa o ariannu rownd dau, ac i edrych ar sut y gallai hyn ffitio i mewn i’r darlun cyflawn yn rhanbarthol (gweler yr eitem Chwarae Plant yn ein hadran newyddion am ragor o wybodaeth). Dyma pryd y bydd awdurdodau lleol a phartneriaid sector gwirfoddol yn adolygu’r ddarpariaeth presennol, yn dynodi bylchau, ac yn gweithio allan beth allai fod ei angen yn y dyfodol i gefnogi nodau’r Polisi Chwarae neu strategaethau chwarae lleol. Tra y byddem i gyd yn cytuno nad oes digon yn cael ei wario ar chwarae plant, y peth cyntaf i’w wneud pan fo arian newydd ar gael (cyn inni lunio rhestr o ddymuniadau) yw edrych a yw’r hyn yr ydym yn ei wario
eisoes yn cyflawni nodau strategol ac yn cynnig gwerth am arian. Os y byddwn yn glynu at yr egwyddor yma, gallai cyfuno arian newydd gydag aildrefniad o’n gwariant presennol, gael effaith sylweddol ar ddarpariaeth chwarae a chyfoethogi’r gwaith gaiff ei wneud yn bosibl trwy gyllid Chwarae Plant y Loteri FAWR. Rydym yn rhagweld y bydd y prosiectau isadeiledd mewn sefyllfa dda i ymateb i’r agenda cyfranogaeth plant yr ydym yn ei hamlygu yn y rhifyn hwn. Mae adroddiad diwethaf Draig Ffynci (senedd plant Cymru) yn amlygu pa mor bwysig yn union yw chwarae i blant – fel y dywed un o’r cyfranwyr yn y cylchgrawn hwn, y plant eu hunain yw’r unig bobl all wybod go iawn sut beth yw bod yn blentyn yn ein hoes ni. Mae’n hanfodol bod plant yn cyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch eu darpariaeth chwarae – mewn modd cynaliadwy, ble y caiff eu barnau a’u hymdrechion eu gwerthfawrogi a’u hystyried o ddydd i ddydd, o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn. Ar nodyn dathliadol arall, roeddem yn hynod o falch i gyrraedd gartref wedi wythnos brysur yng nghynhadledd yr International Play Association (IPA) yn Hong Kong gyda’r newydd inni lwyddo yn ein cais i gynnal yr 50ed gynhadledd ryngwladol yng Nghymru yn 2011. Ddeng mlynedd yn ôl byddai hyn wedi bod yn amhosibl a thu hwnt i’n breuddwydion, felly mae’n arwydd o ba mor bell y mae’r sector chwarae yng Nghymru (a’r DU) wedi dod yn ystod y degawd diwethaf fel ein bod yn hyderus ein bod yn ddigon cryf i drefnu cynhadledd ryngwladol o bwys ac y bydd digonedd i’w ddangos i gyfranogwyr sy’n dod yma oddi tramor. Bu’r gefnogaeth i’n hymgais a’r cynigion o gymorth a dderbyniom o wahanol rannau o Gymru ac o amgylch y DU yn niferus a chadarnhaol. Diolch yn fawr i bawb. Mae gan bob un ohonom rywbeth i anelu tuag ato ac i edrych ymlaen ato – mae’r gwaith caib a rhaw yn dechrau’n awr, ac fe gewch wybod am unrhyw ddatblygiadau yma! Mike Greenaway Cyfarwyddwr, Chwarae Cymru * Cefnogodd Tîm Datblygu Chwarae Cymru yr ymgeiswyr llwyddiannus i baratoi eu ceisiadau, ond nid oedd Chwarae Cymru ynghlwm â gwneud argymhellion i MAWR mewn unrhyw fodd, nac am archwilio/asesu’r ceisiadau, na phenderfynu ar ddyrannu’r cyllid.
Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w llwytho i lawr o adran newyddion ein gwefan ar www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 NEWYDDION
3
Camp Cynhadledd Cymru – Wela’i Di Yno Y llynedd cafwyd galwad am geisiadau i gynnal cynhadledd byd-eang 2011 yr International Play Association (IPA) ar ei 50ed pen-blwydd. ma yn Chwarae Cymru fe feddylion ni’n hir a dwys ac yna fe benderfynon ni pe bydden ni’n gwneud cais ac yn ennill, y byddai’n cynnig cyfle i arddangos yr holl waith caled ar ddarpariaeth chwarae, ymchwil a llunio polisïau sy’n cael ei wneud yng Nghymru ac o amgylch y DU, yn ogystal â chynnig hwb i ysbryd a nod i anelu amdano. Fe gasglom gefnogaeth cyd-sefydliadau a phrifysgolion ac fe aethom i gynhadledd yr IPA yn Hong Kong yn gynnar eleni i weithio’n galed i ddod â’r gynhadledd nodedig hon gartref i Gymru.
Y
Wedi pum niwrnod prysur o fod ar bigau’r drain, fe enillon ni! Dywedodd Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru: ‘Cawsom ein synnu’n llwyr gan y gefnogaeth frwd a dderbyniom gan gydweithwyr yn y DU a thramor. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i lunio cysylltiadau rhyngwladol, ac i ddysgu oddi wrth waith ymchwil ac arfer mewn gwledydd eraill.’
brwdfrydedd eisoes, ond byddwn yn edrych ar i eraill ymuno â ni a sicrhau mai hon fydd cynhadledd fwyaf cofiadwy’r IPA erioed – rhywbeth y gall Cymru fod yn wirioneddol falch ohono. ’Dyw dwy fil ac unarddeg ddim mor bell â hynny a chyn pen dim byddwn yn chwilio am bobl i’n helpu i hyrwyddo’r digwyddiad trwy ddweud “Wela’i di yno”. Mae’n bwysig inni fod y gynhadledd hon yn cynnwys pobl na fyddent fel arfer yn gallu mynychu digwyddiad o’r fath. Rydym yn annog sefydliadau ac unigolion yn y DU i godi arian i noddi cyfranogwyr i fynychu, a fyddent efallai’n ei chael yn anodd i ariannu’r costau hedfan a llety, ac mae rhai cymdeithasau a grwpiau chwarae yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi ymrwymo i wneud hyn. Os y teimlwch y gallech chi, dros y tair blynedd nesaf, godi arian i helpu i gefnogi un o’r cyfranogwyr, cofiwch gysylltu â ni.
Felly, wrth i’r cylchgrawn hwn fynd i’r wasg rydym yn dechrau llunio amserlen ac edrych ar reoli’r prosiect anferth hwn dros y tair blynedd nesaf. Mae gennym gronfa o syniadau a
I gymryd rhan neu i ddysgu rhagor, cysylltwch â Gill Evans ar 029 2048 6050 neu e-bostiwch gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk
Safonau ar gyfer Cyfleoedd Chwarae yng Nghymru
Cyngor newydd i adfer
Yn ein rhifyn diwethaf fe wnaethom adrodd ar benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi cytundeb i gwmni ymgynghorol, York Consulting, i ddatblygu safonau a chanllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ar sut i ddarparu cyfleoedd chwarae yng Nghymru. ^ Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnull grw p ymgynghorol i ddwyn ynghyd ystod o arbenigedd i “weithio ^ gyda York Consulting i ddatblygu’r gwaith yma”. Mae’r grw p ymgynghorol hwn yn cwrdd wrth inni fynd i’r wasg, a byddwn yn hysbysu ein darllenwyr ynghylch unrhyw ddatblygiadau.
www.chwaraecymru.org.uk y lle i fod os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae yng Nghymru newyddion – digwyddiadau – gwybodaeth – swyddi
ysbryd antur M
ae’r Risk and Regulation Advisory Council (RRAC) ^ yn grw p ymgynghorol newydd a benodwyd gan y Prif Weinidog i weithio gyda Gweinidogion ac uwchweision sifil i ddatblygu gwell dealltwriaeth o risg cyhoeddus a sut i ymateb iddo orau, trwy gyfres o weithdai sy’n ystyried arfer da a gwael, a thrwy weithio â chyfranddalwyr allanol i gynorthwyo i feithrin agwedd fwy ystyrlon tuag at risg cyhoeddus a llunio polisïau. Dywed Rick Haythornthwaite, pennaeth y cyngor: ‘Os y gofynnwch chi i rywun, “Ydych chi am i’r byd fod yn le mwy diogel?” wrth gwrs bydd pawb yn ateb ‘ydw’ – ond mae rhaid inni gyfaddawdu bob tro. Mae hunanddibyniaeth a synnwyr o antur yn nodweddion cenedlaethol pwysig y gellid eu colli.’
www.berr.gov.uk/about/economicsstatistics/rrac/index.html
4
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 NEWYDDION
Dyfodol Posibl
Ei Chael yn Iawn yn ôl Gwaith Chwarae y Gyfraith – am ddim Mae Possible Futures for Playwork yn brosiect partneriaeth a luniwyd i gynnig llwyfan ar gyfer trafodaeth a dadl greadigol ar gyfer gweithwyr chwarae.
M
ae Play England yn noddi a rheoli’r prosiect hwn mewn cydweithrediad â SkillsActive, y Joint National Committee for Training in Playwork (JNCTP), Chwarae Cymru, Play Board Northern Ireland a Play Scotland.
Mae’r Possible Futures for Playwork Project yn cynnwys papurau, trafodaeth a daw i ben gyda digwyddiad mawr ym mis Mehefin 2008. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â chydlynydd y prosiect, Perry Else: p.else@shu.ac.uk
Playwords – am ddim Mae Common Threads wedi cyhoeddi y bydd cylchgrawn Playwords ar gael am ddim i bawb. I dderbyn copi am ddim i’w lwytho i lawr, cofrestrwch ar eu gwefan www.commonthreads.org.uk. Mae’r tâl tanysgrifio ar gyfer y copi papur wedi ei hepgor hefyd, sy’n golygu mai’r cyfan y byddwch yn ei dalu yw’r cost postio a phacio (£12 y flwyddyn).
Adnewyddu aelodaeth
Chwarae Cymru Ymunwch â ni – ’dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddod yn aelod o Chwarae Cymru ar gyfer 2008. Mae buddiannau’n cynnwys: gostyngiad yn ffïoedd cynadleddau a seminarau; gwiriadau Biwro Cofnodion Troseddol rhad ac am ddim i staff sy’n gweithio mewn darpariaeth wedi ei reoleiddio; e-fwletinau’n cynnwys newyddion ymgynghoriadau, ariannu a digwyddiadau, a phrisiau gostyngol ar gyhoeddiadau.
Prisiau: Unigolyn: £10 Sefydliadau – un aelodau llawn amser o staff neu lai: £25 Rhyngwladol: £25 Sefydliadau – mwy nag un aelod llawn amser o staff: £50 Masnachol/preifat: £75 Awdurdod Lleol: £100 Am fwy o wybodaeth ac i ymuno, ymwelwch â:
www.chwaraecymru.org.uk neu cysylltwch â Helen ar 029 2048 6050 neu e-bostiwch: helen@chwaraecymru.org.uk
Mae gennym nifer cyfyngedig o Ei Chael yn Iawn yn ôl y Gyfraith: Statws a Strwythur Cyrff Chwarae a Gofal Plant i’w rhannu am ddim. Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan Glybiau Plant Cymru, Partneriaethau Gwaith Chwarae a Phrifysgol Caerloyw fel rhan o waith partneriaeth CWLWM (Childcare Wales Learning and Working Mutually). Mae’r pecyn yn hynod o ddefnyddiol i sefydliadau gwirfoddol gan ei fod yn cynnig ‘arweiniad cyfreithiol i’ch helpu i lywio llwybr llwyddiannus trwy’r tir peryglus o sefydlu cyfleuster gofal plant neu chwarae cymunedol’. Os hoffech gopi am ddim, cysylltwch â Kate ar 029 2048 6050 neu e-bostiwch post@chwaraecymru.org.uk
Data-bas Mae Chwarae dros Gymru ar gael yn rhad ac am ddim i bob un sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru sydd â diddordeb ym maes chwarae plant a phobl ifanc. Os ydych yn byw ac yn gweithio y tu allan i Gymru ac yr hoffech dderbyn Chwarae dros Gymru ar ffurf ffeil i’w llwytho i lawr, gallwn eich cynnwys ar ein rhestr e-bostio. Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghymru ac y byddai’n well gennych dderbyn Chwarae dros Gymru ar ffurf ffeil i’w llwytho i lawr, cofiwch ddweud wrthym.
Galwch Kate ar 029 2048 6050 neu anfonwch nodyn atom trwy post@chwaraecymru.org.uk
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 NEWYDDION
5
Cynlluniau Tymhorol a’r AGGCC O hyn ymlaen, bydd amlder archwiliadau ar gyfer pob darpariaeth gofal dydd (ar wahân i ofal dydd llawn) bob dwy flynedd, yn weithredol o 1 Ebrill 2008. Gwneir penderfyniadau ynghylch pa gynlluniau a phrosiectau i’w archwilio yn ystod 2008 ar lefel rhanbarthol gan AGGCC. el rhan o’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru), bydd angen i ddarparwyr cofrestredig gwblhau adolygiad blynyddol o safon y gofal y maent yn ei ddarparu.
F
Yn dilyn yr adolygiad, dylai darparwyr greu adroddiad ohono, ac er mwyn cynorthwyo darparwyr cofrestredig i gyflawni’r rheoliad hwn mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn creu ffurflen i’w llanw. Bydd yn rhan o’r ffurflenni cyn-archwiliad ond fe all AGGCC wneud
cais am y ffurflen adrodd hon mewn blwyddyn di-archwiliad. Bydd AGGCC yn hysbysu pob darparwr am y newidiadau hyn yn ystod mis Mawrth 2008. Cawsom ein hysbysu y bydd angen i’r holl ddarparwyr chwarae hynny sy’n rhedeg cynlluniau chwarae haf sydd yn gymwys i’w cofrestru, gysylltu â’u swyddfa ranbarthol AGGCC erbyn 30 Mai 2008.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â http://new.wales.gov.uk/cssiwsubsite/cssiw/?lang=cy
Adroddiad Pwyllgor Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed Mae Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) yn disgrifio maes y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n gymwys i ddeddfwriaethu ynddo – a’r ensyniad yw y gall droi hyn yn gyfraith ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Mae’r GCD hwn yn ymwneud â Lles Cymdeithasol – Plant sy’n Agored i Niwed a Thlodi Plant. Bu Chwarae Cymru’n eiriol yn gryf dros gynnwys y gair ‘chwarae’ yn y dehongliad o ‘les’, sydd ar hyn o bryd
yn ymwneud ag ‘addysg, hyfforddiant ac adloniant’ – ac fe glywyd ein cais a gweithredwyd arno. Efallai ei bod yn ymddangos yn od i ddathlu cynnwys un gair mewn deddfwriaeth arfaethedig, ond mae chwarae’n cael ei anwybyddu mor aml fel bod yn rhan allweddol o fywydau plant, fel bod ei weld yn cael ei gynnwys yn y GCD wedi golygu ein bod yn neidio lan a lawr yn y swyddfa’n bloeddio mewn llawenydd. Am fwy o wybodaeth ynghylch y GCD, ymwelwch â http://www.assemblywales.org/bushome/buscommittees/bus-committees-thirdassem/buscommittees-third-vc-home.htm
Chwarae Plant - Rownd Dau Y dyddiad cau ar gyfer rownd dau y rhaglen Chwarae Plant yw Mawrth 2009 – dim ond blwyddyn i ffwrdd. Dros yr haf yma yw’r amser i ddysgu sut y gallai prosiectau chwarae sy’n bodoli eisoes, neu syniadau i sefydlu prosiectau chwarae newydd, elwa o ariannu rownd dau, ac i edrych ar sut y gallai hyn ffitio i mewn i’r darlun cyflawn. I ddysgu rhagor am rownd dau y rhaglen Chwarae Plant
Cywiriad Cylchlythyr Chwarae dros Gymru, rhifyn 23 (Gaeaf 2007) Cywiriad i erthygl 'Wfft i’r Diwylliant Beio a Hawlio' – tudalen naw
ymwelwch â gwefan y Loteri FAWR ar www.cronfaloterifawr.org.uk I ganfod sut y gall prosiectau chwarae lleol elwa o’r buddsoddiad diweddar mewn isadeiledd neu i fynegi diddordeb yn ariannu rownd dau, cysylltwch â’n Tîm Datblygu trwy developmentteam@playwales.org.uk Mae gan Chwarae Cymru gytundeb gyda MAWR i gefnogi ymgeiswyr i baratoi ceisiadau pwrpasol sy’n cyflawni’r criteria ar gyfer y rhaglen Chwarae Plant, nid ydym ynghlwm â gwneud argymhellion i MAWR, nac archwilio/ asesu ceisiadau, na phenderfynu ar ddyrannu’r cyllid. Mae’r erthygl yn datgan: "Tynnodd y teulu eu hawliad yn ôl, a’r cyfan sydd raid i’r Rhwydwaith ei wneud yn awr yw cadw’r holl waith papur am yr anaf tan fod y bachgen yn 18 mlwydd oed, rhag ofn iddo benderfynu hawlio ar ei ran ei hun fel oedolyn." Dylai hyn ddarllen "tan fod y bachgen yn 21 mlwydd oed". Oherwydd y statud cyfyngiadau gall person ddwyn hawliad anaf personol hyd at dair blynedd wedi dyddiad eu 18ed pen-blwydd.
6
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 SYNIAD CHWARAE CYMRU O GYFRANOGAETH
Chwarae a Chyfranogaeth Mae gan blant Cymru hawl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae ganddynt hefyd ddiddordeb mawr mewn chwarae – mewn cael amser i chwarae a mannau o safon a rhyddid i chwarae yn eu ffordd eu hunain. Fe wyddom hyn gan fod chwarae’n uchel ar restr plant mewn un ffordd neu’r llall bob tro y byddwn yn gofyn iddynt beth sy’n bwysig iddyn nhw. Mae adroddiad* diwethaf Draig Ffynci, gan 2,500 o blant rhwng saith a deng mlwydd oed, yn enghraifft plaen o hyn – mae’r ddogfen gyfan yn galw arnom i gymryd eu anghenion chwarae o ddifrif. elly chwarae yw blaenoriaeth plant – eu hagenda hwy. Pan fyddwn yn cefnogi eu hawl i chwarae, byddwn yn cefnogi eu hagenda hwy; byddwn yn cydweithredu â hwy ac mae hyn yn awgrymu ein bod yn gweithio ochr yn ochr â hwy – byddwn yn cynnig syniadau, byddwn yn cefnogi eu syniadau, mae gennym nod cyffredin.
F
Mae Polisi Chwarae cenedlaethol Cymru a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n diffinio chwarae fel gweithgaredd a ddewisir yn rhydd ac a gyfarwyddir yn bersonol gan y rheini sy’n chwarae – bydd gweithwyr chwarae o safon yn ymyrryd mewn chwarae plant â sensitifrwydd gan
ddefnyddio gwerthusiad risg/budd parhaus i sicrhau eu bod yn ymyrryd cyn lleied â phosibl. Os yw’r rheini ohonom sydd â diddordeb mewn chwarae plant i fagu agwedd gyfranogol, bydd angen inni fod yn ymwybodol sut y gallem ymyrryd ar chwarae plant (a chyfranogaeth plant mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag un o’r agweddau o’u bywyd sydd bwysicaf iddyn nhw) trwy ein hagwedd a’n system gred, y penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud, a’r camau y byddwn yn eu cymryd. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn fuan wedi iddo gael ei fabwysiadu gan y CU ym 1989 – mae’n rhan o
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 CYFRANOGAETH ystod eang o ymrwymiadau’r Llywodraeth i hawliau dynol. Ers hynny mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi seilio ei waith gyda a thros blant ar yr hawliau a nodir yn yr UNCRC. Mae Erthygl 31 y Cytundeb, sy’n datgan hawl plant i chwarae, yn fantra adnabyddus i lawer ohonom sy’n darparu neu sy’n ymgyrchu dros hawl plant i chwarae, efallai bod Erthygl 12, sy’n ymwneud â hawl plant i gyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau, yn llai cyfarwydd.
Erthygl 12 1. Sy’n nodi y bydd Pleidiau’n sicrhau y caiff y plentyn, sy’n abl o ffurfio ei farn neu ei barn ei hun, yr hawl i fynegi’r farn honno’n rhydd ym mhob mater sy’n effeithio ar y plentyn, ac y rhoddir sylw dyledus i farn y plentyn yn unol ag oedran ac aeddfedrwydd y plentyn hwnnw.
Gan fod chwarae mor bwysig i bob plentyn, bydd angen inni ofalu y bydd unrhyw ran y byddant yn ei chwarae mewn gwneud penderfyniadau’n ystyrlon ac nad yw’n cwtogi’n ddiangen ar eu hamser a’u rhyddid i chwarae. Gallwn wneud hyn trwy: • sicrhau ein bod yn mabwysiadu agwedd ystyrlon – ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir ac y gall plant wneud dewisiadau deallus, er enghraifft, allwn ni ddim gwneud dewis rhwng trip i lan y môr a diwrnod yn y goedwig os nad oes gennym syniad beth y mae’r ddau brofiad yn ei gynnig, allwn ni ddim dewis sut i offeru maes chwarae newydd os mai ein unig brofiad yw siglenni a llithrennau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i rai grwpiau o blant: gellir eu gadael allan o brosesau gwneud penderfyniadau oherwydd, yn draddodiadol, bod eraill wedi gwneud penderfyniadau drostynt – efallai nad oes ganddynt brofiad o wneud penderfyniadau; oherwydd efallai y bydd yn cymryd rhagor o amser ac ymdrech i ganfod eu barn; neu efallai oherwydd fod ganddynt ystod gyfyng o brofiadau • arsylwi sut y maent yn ymddwyn mewn modd sensitif, ble a sut y byddant yn dewis chwarae, sut y byddant yn defnyddio’r amgylchedd ble y maent yn chwarae, gwrando a defnyddio ein gwybodaeth o ddamcaniaeth chwarae a’n profiad i fyfyrio ar yr hyn y byddant ei eisiau neu ei angen i gyfoethogi eu chwarae – oherwydd eu bod wedi dangos inni yr hyn y maent ei eisiau – ’doedd dim angen iddynt fynd trwy’r ymdrech o lanw ffurflen, na glynu dot coch ar siart, na hyd yn oed ddod i ddweud wrthym, ac ni ymyrrwyd ar eu chwarae o gwbl • parchu barn plant. Pan fydd plant yn cyfranogi mewn prosesau gwneud penderfyniadau, byddwn yn sicrhau ein bod yn parchu eu cyfraniad, yn gweithredu arno ac yn adrodd yn ôl iddynt. Nid oes raid i’r penderfyniadau y bydd plant yn chwarae rhan ynddynt fod yn ‘rhwydd’ neu’n ‘ddibwys’ – gallant wneud mwy na dim ond dewis
7
blas y sudd gaiff ei gynnig – mae rhai lleoliadau chwarae yng Nghymru ble y mae plant yn chwarae rhan ystyrlon wrth ddethol gweithwyr chwarae i’w cyflogi. Os y byddwn yn dangos i blant fod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi maent yn llawer mwy tebygol o fod eisiau cyfrannu at eu cymuned eu hunain yn awr, ac i fod yn rhan o brosesau democrataidd yn y dyfodol • glynu at ein egwyddorion – dywed yr Egwyddorion Gwaith Chwarae mai rôl y gweithiwr chwarae yw cefnogi pob plentyn i greu gofod ble y gallant chwarae. Mae’r datganiad hwn yn awgrymu cyfranogaeth – mae’n ymwneud â phob plentyn yn cael ei gefnogi i gynllunio, trafod a sicrhau adnoddau ar gyfer eu chwarae ac i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ynghylch eu hamgylchedd chwarae Sylwer: Byddem yn ehangu hyn i gynnwys unrhyw fath o ddarpariaeth ar gyfer chwarae plant – nid yw’n ymwneud â gweithwyr chwarae’n unig. Os y caiff plant eu cynnwys mewn modd ystyrlon yn y broses, er enghraifft, o leoli ac offeru man chwarae lleol, rydym yn debygol o weld gwell niferoedd yn ei ddefnyddio a mwy o ofal yn cael ei arddangos tuag at yr offer • cefnogi plant i deimlo’n gysurus ac yn hyderus wrth fod yn onest; gan gofio bod llawer o blant yn hoffi plesio oedolion – efallai y byddant yn gwneud penderfyniadau wedi eu seilio ar yr hyn y maent yn ei gredu yr hoffen ni iddynt ei ddweud. Golyga hyn fod â pherthynas rwydd a “chyfartal” – nid yw’r ffaith ein bod yn hy^n na phlant yn golygu ein bod yn bwysicach na nhw, ac ni all yr un ohonom sy’n oedolion yn wirioneddol ddeall sut beth yw bod yn blentyn yn y byd sydd ohoni heddiw yn well na’r plant eu hunain • defnyddio cyfranogaeth fel sail i’n gwaith – mae gwir gyfranogaeth yn broses barhaus, mae’n rhywbeth sy’n cario ymlaen yn hytrach na’n ddim ond “one off”, mae angen iddo fod yn rhan o ethos cyflawn y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu Ceir safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc ar gyfer Cymru ynghyd a chyfres o wyth canllaw Tanio i edrych ar arfer da y gellir eu llwytho i lawr oddi ar www.participationworkerswales.org.uk Mae gan The Children’s Play Information Service (CPIS) daflen briffio, Consulting Children About Play. Gallwch ei lwytho i lawr oddi ar www.ncb.org.uk neu cysylltwch â CPIS trwy cpis@ncb.org.uk neu galwch 020 7843 6303. Mae A Beginners Guide to Participation i’w gyhoeddi’n fuan. Ymwelwch â www.commonthreads.org.uk os am ragor o wybodaeth. Dysgwch fwy am hawliau plant gan y Children’s Rights Information Network ar www.crin.org *Pam Fod Oedrannau Pobl yn Mynd i Fyny … lansiwyd ym mis Tachwedd 2007 – gweler yn nes ymlaen yn yr adran hon.
8
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 CYFRANOGAETH
Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Mae’r Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc a’r Uned Cyfranogaeth (a leolir yn Achub y Plant) yn gweithio i gynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc (0-25 mlwydd oed) mewn prosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Anna Skeels (Rheolwraig yr Uned Cyfranogaeth) sy’n dweud mwy wrthym: yda’n gilydd rydym wedi datblygu Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc sydd wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ogystal â Draig Ffynci (Cynulliad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc Cymru).
G
Mae’r Safonau Cenedlaethol yn safonau y gall plant a phobl ifanc ddisgwyl iddynt gael eu cwrdd pan ofynnir iddynt gyfranogi. Ceir saith o Safonau: Gwybodaeth; Eich Dewis Chi; Dim Gwahaniaethu; Parch; Chi’n Cael Rhywbeth Mas Ohono; Adborth; Gwella Sut y Byddwn yn Gweithio. Nod y Safonau yw sicrhau y caiff plant a phobl ifanc brofiad cadarnhaol ac ystyrlon o gyfranogaeth.
Ein nod yn y pen draw yw gweithio tuag at weithredu Safonau Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc ar draws Cymru gyfan. Y cam cyntaf fydd cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch y Safonau ac annog sefydliadau i’w defnyddio ar gyfer hunan-asesiad trwy ddefnyddio pecyn yr ydym wedi ei ddatblygu. Mae’r Uned Cyfranogaeth wedi defnyddio’r pecyn hunan-asesu ei hun ac wedi cael ei archwilio’n erbyn y Safonau hyn gan dîm o bobl ifanc sydd wedi eu hyfforddi i fod yn arolygwyr ifainc. Y cam nesaf yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd yw rhedeg peilot dwy flynedd, a ariennir gan y gronfa ‘Making the Connections Fund’, i archwilio sut y byddai system genedlaethol ar gyfer mesur yn erbyn y Safonau Cenedlaethol yn gweithio. Rydym yn chwilio am sefydliadau a phrosiectau ar draws Cymru i weithio mewn partneriaeth â ni i ddatblygu’r gwaith yma. Rydym yn awyddus iawn i gynnal peilot o’r gwaith gyda grwpiau o blant iau ac i ddynodi’r methodolegau, y deunyddiau a’r prosesau fyddai’n addas ar gyfer cyflwyno’r Safonau Cenedlaethol i blant dan 10 oed.
Uned Cyfranogaeth: 029 2039 6838 E-bost: participationunit@savethechildren.org.uk Gwefan: www.participationworkerswales.org.uk/participation
Cyfranogaeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru Nod Prosiect Cyfranogi Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yw sicrhau bod cyfranogaeth plant a phobl ifanc yn elfen prif ffrwd ym mhob maes gwaith perthnasol ar draws chwe ‘thema’ o fewn LlCC yn cynnwys recriwtio, cynhyrchu dogfennau ac ymgynghori. Rydym hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bob adran o LCC. ae’r tîm cyfranogi’n gweithio gyda swyddogion mewn gwahanol feysydd polisi sy’n gweithredu fel Swyddog Cyswllt Adrannol (SCA) dros gyfranogaeth plant a phobl ifanc, er mwyn i blant a phobl ifanc gael eu cynnwys mewn prosesau datblygu polisi ac ymgynghori o’r dechrau.
M
Mae’r prosiect ‘Eich Llais Eich Dewis’, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn bodoli ers 2005 ac mae’n anelu i gynnwys mwy o bobl ifanc 11-25 mlwydd oed yn y broses gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt.
Datblygwyd Canllaw Strategaeth Cyfranogi Lleol (SCLl) mewn cydweithrediad â sefydliadau partner lleol a chenedlaethol a gyda phlant a phobl ifanc, mewn ymateb uniongyrchol i bryderon a fynegwyd gan bobl ifanc o’r Ddraig Ffynci. Mae’n rhan allweddol o’r jig-so isadeiledd a gynlluniwyd i gefnogi a gyrru cyfranogaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ei flaen. Mae’r canllawiau’n anelu i sicrhau y caiff pob plentyn a pherson ifanc rhwng 0-25 mlwydd oed gyfleoedd i gyfrannu at, ac y caiff eu lleisiau eu clywed ar, faterion gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau ar lefel leol. Cyhoeddwyd y canllawiau ym mis Awst 2007. Yn bennaf oll, mae’r Canllaw SCLl yn disgwyl i Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc Lleol i sefydlu mecanweithiau cynaliadwy i gefnogi cyfranogaeth plant a phobl ifanc ar draws yr holl sefydliadau partner a geir yn lleol. Cyfranogaeth Disgyblion – Cynghorau Ysgol – mae disgyblion cynradd ar draws Cymru’n cael dweud eu dweud a chymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch pethau sy’n effeithio arnynt mewn ysgolion. Mae llawer o gynghorau ysgol yn helpu i wneud amser chwarae’n well i ddisgyblion trwy wella’r cyfleusterau ar fuarth yr ysgol. Ceir enghreifftiau o gyflawniadau’r disgyblion ar wefan Cynghorau Ysgol Cymru: www.cynghorauysgolcymru.org.uk
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 CYFRANOGAETH
9
Pam fod oedrannau pobl yn mynd i fyny yn lle i lawr? Ym mis Mai 2008 bydd pobl ifanc Draig Ffynci (Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru) yn cyflwyno eu hadroddiad sy’n dwyn y teitl Pam fod oedran pobl yn mynd i fyny yn lle i lawr? i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
n ystod 2007, gofynnwyd i dros 2,500 o blant rhwng saith a deng mlwydd oed am eu barn ar addysg, iechyd, cyfranogaeth a gwybodaeth. Y cwestiwn yr oeddem am ei ateb oedd “i ba raddau mae plant saith i ddeng mlwydd oed yng Nghymru’n gallu cael mynediad i’w hawliau (fel a ddiffinir gan Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – UNCRC)”.
Y
Cododd y plant bwysigrwydd chwarae trwy gydol y gwaith ymchwil; cyn gymaint felly fel eu bod yn mesur pob thema yn ôl faint yr oedd yn cynorthwyo neu’n llesteirio eu chwarae. Er enghraifft, dywedodd rhai plant eu bod yn teimlo’n ofnus yn eu hardal leol oherwydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol, dywedodd rhai eraill nad oedd modd iddynt chwarae yn eu parc lleol weithiau oherwydd nad oedd yn ddiogel o ganlyniad i beryglon fel gwydr wedi torri neu sbwriel.
“Mae gennym ni barc ond mae’n llawn o ddrygis ac fe hoffen ni iddo gael ei lanhau lan a’i ddefnyddio’n gywir.” “Rhagor o bethau i’w gwneud, ie! Rhagor o barciau, rhagor o ganolfannau hwyl. A thrampolinio ar gyfer pobl sydd ddim a thrampolîn adre”. “Fe hoffwn i newid y parc a gosod rowndabowt yno, siglenni mawr, gwell offer, rhagor o finiau sbwriel a si-so.”
Yn y pen draw, yr hyn yr oedd y plant ei eisiau oedd rhywle da i chwarae. Roedd yn amlwg nad yw hyn yn realiti i rai plant. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd ymgynghori â phlant. Daeth yn amlwg bod plant dan 11 oed yn ddigon abl i ddeall eu safle o fewn, a’u cyfraniad tuag at, gymdeithas. Maent hefyd yn deall eu hawliau a sut i lunio penderfyniadau realistig ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i wella eu bywydau. O gael y cyfle, mae plant yn abl o fynegi eu barn a dim ond hwy sy’n gwybod sut beth yw bod yn blentyn yn ein cymdeithas ni heddiw. Pam gafodd yr adroddiad ei alw’n Pam fod oedrannau pobl yn mynd i fyny yn lle i lawr? Mewn gweithdai gwybodaeth fe ofynnwyd i blant feddwl am gwestiynau yr hoffent gael atebion iddynt. Allen ni ddim meddwl am ateb i hwn, ond roedden ni’n meddwl bod y cwestiwn yn un mor dda fel bod yn rhaid inni ei ddefnyddio yn rhywle! Andrea Burch, Gweithwraig Prosiect Plant De Cymru (cysyllter â 01792 450000) I lwytho’r adroddiad llawn i lawr, ymwelwch â: http://www.funkydragon.org/en/fe/page.asp?n1=1036
10
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 CYFRANOGAETH
Cyfranogaeth Roger Hart yw un o awduron ac ymchwilwyr mwyaf uchel ei barch y byd i gyfranogaeth plant – efallai i chi glywed am fodel Hart ‘Ladder of Participation’. Mae’n hannu o Brydain, ond mae’n byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd ble mae’n Gyfarwyddwr y ‘Children’s Environments Research Group’. Cafodd Martin King-Sheard, ein Swyddog Datblygu yng Ngogledd Cymru, sgwrs ag e’ yng nghynhadledd y Rhodwyr Chwarae yn Torquay fis Tachwedd diwethaf. plant, maent wedi bod yn eiriolwyr dros hawliau plant. Rhywsut ar gychwyniad y proffesiwn fe ymgorfforwyd prif egwyddorion hawliau plant – sef yr erthyglau hynny o’r UNCRC ar roi hawl i blant gael llais. Mae gweithwyr chwarae o safon wastad wedi gwneud hynny. Felly, mewn ffordd, gwaith chwarae yw’r proffesiwn olaf sydd angen ei addysgu ynghylch arddull yr ymwneud â phlant.
Martin: Mae’n gwbl amlwg eich bod yn frwd iawn ynghylch gwaith chwarae fel proffesiwn, allwch chi ddweud tipyn mwy wrthym am hynny a pham? Roger: Wrth gwrs. Rwyf wedi cael y fraint o deithio o amgylch y byd i gwrdd â phobl sy’n gweithio ar hawliau plant. Roedd y llyfryn cyntaf a ysgrifennais ar gyfer UNICEF am gyfranogaeth plant yn galw arnaf i ymweld â gwledydd eraill i ehangu fy nealltwriaeth o gyfranogaeth plant. Fe ymwelais â’r gwledydd oedd fwyaf cyffrous ar y pryd ar ddechrau’r 90’au pan gyhoeddwyd Cytundeb y CU ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) – sef Brasil ac Ynysoedd y Philipinau. Roedd y ddwy wlad yma wrthi’n dod allan o sefyllfa o unbennaeth ac yn ffurfio democratiaethau ac mae’r ddwy ohonynt wedi ymgorffori’r Cytundeb yn eu cyfansoddiadau – sydd wedi cael effaith allweddol ar blant. Felly, yn y gwledydd hynny fe ddysgais trwy wrando ar weithwyr stryd, sef y bobl sy’n gweithio gyda phlant y stryd, merched sy’n buteiniaid a phlant sydd ar goll oddi wrth eu teuluoedd am un rheswm neu’r llall. Roeddent yn gweithio â’r tlawd mewn ffyrdd hynod o gadarnhaol, neilltuol o ddemocrataidd, ac yna aeth y gweithwyr stryd hyn ymlaen i Ynysoedd y Philipinau i rannu eu gwybodaeth â gweithwyr stryd eraill. Yn y cyfamser, roeddwn eisoes wedi ymweld â’r meysydd chwarae antur yn Llundain yn y 70’au a’r 80’au, oherwydd y gwaith yr oeddwn yn ei wneud ar chwarae plant a dylunio amgylcheddol, a chwrddais â gweithwyr chwarae a sylweddoli bod y bobl yma’n union yr un fath â’r gweithwyr stryd: mae gweithwyr chwarae’n gweithio mewn modd llorweddol [cydweithrediadol] â phlant ^ (yn hytrach nag o safle o bw er). Tydw i
ddim yn gwybod am broffesiynau eraill sy’n gwneud hyn. Fel arfer mae gwaith cymdeithasol a gwaith ieuenctid i fod i wneud hyn, ond yn aml bydd ganddynt y broblem ddeuol yma o fod yn rhai sy’n barnu plant a bod ganddynt ^ berthynas o bw er gyda’r Llywodraeth. Mae gweithwyr chwarae a gweithwyr stryd yn galluogi plant mewn ffyrdd yr wyf i’n eu cael yn rhyfeddol, felly fe ddes i’n eiriolwr brwd dros waith chwarae yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf rwyf wedi cael llwyddiant sylweddol wrth ddylanwadu ar bobl yn ninas Efrog Newydd, felly bellach rydym yn gweld gwaith chwarae’n datblygu yn Efrog Newydd ac rwy’n cerdded o amgylch yn teimlo’n falch iawn o hynny. Martin: Rydych wedi sôn am weithwyr chwarae’n gweithio mewn modd cydweithrediadol â phlant a phobl ifanc. Allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am ble y credwch chi y mae rôl y gweithiwr chwarae’n sefyll yng nghyd-destun ymgynghori a chyfranogi? Roger: Wrth gwrs, rwy’n credu bod gweithwyr chwarae, yn ddiarwybod, wastad wedi bod yn weithwyr hawliau
Fyddwn i ddim am wthio gweithwyr chwarae yng nghyfeiriad ymgynghori, oherwydd bod ymgynghori’n ffurf wan iawn o gyfranogi, ond dyma’r modd y mae’r rhan fwyaf o’r DU wedi ymateb i erthyglau cyfranogaeth yr UNCRC. Mae ymgynghori’n isel i lawr ar yr hyn y byddaf yn ei alw’n ‘ysgol cyfranogaeth’ a’r rheswm am hyn yw y dylem, yn ddelfrydol, gael perthynas barhaus â phlant. Mae angen iddynt hefyd wybod ein bod wedi gwrando arnynt a byddant am glywed yn ôl gennym, ac yn aml ni fydd hyn yn digwydd gydag ymgynghori. Mae’r modd yr ydw i wedi gweld gweithwyr chwarae’n gweithio gyda phlant yn gwbl gyfranogol. Fe hoffwn i weld y proffesiwn yn parhau â hyn. ’Dyw hynny ddim yn golygu nad ydw i’n credu y gallai’r proffesiwn elwa hefyd o fod yn hunan-feirniadol a symud ymhellach ymlaen, ac mae gen i un awgrym ynghylch hynny, os oes gennych amser i’w glywed. Martin: Wrth gwrs. Roger: Un maes posibl ar gyfer datblygiad mewn gwaith chwarae yw galluogi plant a phobl ifanc i ymwneud â’i gilydd yn well. A pheidio â chyfarwyddo’r ymwneud hwnnw, ond yn hytrach, bod yn fodel rôl da yn y modd y byddant yn rhyngweithio. Rwy’n teimlo bod angen mathau
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 CYFRANOGAETH
11
a Gwaith Chwarae newydd o strwythurau cymdeithasol ar gyfer plant. Rwy’n teimlo bod llawer o bethau sydd wedi newid, nid yn unig mae amser rhydd plant wedi newid a’u bod yn mynychu rhagor o weithgareddau wedi eu rhaglennu, ond os y cofiwch chi roedd plant yn arfer perthyn i lawer o sefydliadau aelodaeth – y Cybiau, y Sgowtiaid, Brigâd y Bechgyn. Drwy’r byd diwydiannol i gyd, mae aelodaeth yn y rhain wedi lleihau’n aruthrol ers yr Ail Ryfel Byd. Fydden i ddim am ddod â nhw’n ôl, ond fe hoffwn weld rhywbeth arall yn cymryd eu lle sy’n fersiwn ddemocrataidd o’r hyn oeddent. Pan oeddwn i’n y Sgowtiaid ym Mhrydain fe fydden ni’n mynd ar deithiau – pan oeddwn i’n 12 neu’n 13, fe fydden ni’n seiclo tua 10 milltir bob penwythnos i wersylla, heb yr un Prif Sgowt, ac fe fydden ni’n rhedeg ein rhaglen ein hunain, oedd yn anghyfreithlon yn fwy na thebyg. Y peth yw, fe ddylai’r math yna o gyfle fodoli ar gyfer plant heddiw. Maent angen y gallu a’r hawl i drefnu pethau eu hunain. Mae gormod o’r hyn y byddaf yn clywed amdano mewn gwaith chwarae’n dibynnu ar bresenoldeb y gweithiwr chwarae bob amser – mae’n rhaid inni symud y tu hwnt i hynny, ’dyw hynny ddim digon da. Mae’n rhaid inni gyrraedd y pwynt ble y mae plant yn dod yn gwbl soffistigedig wrth redeg eu grwpiau eu hunain. Efallai fod hynny’n swnio’n uchelgeisiol, ond ’dyw e’ ddim. Yr unig reswm nad ydyn ni’n ei wneud yn y DU a’r mwyafrif o’r byd diwydiannol yw oherwydd bod ofn plant arnom ni. Feiddiwn ni ddim gadael iddynt ei wneud. Wyddoch chi, fe gwrddais i â phlant yn y gynhadledd y bore yma, roedden ^ nhw’n grw p o rodwyr chwarae ac roedden nhw’n dangos inni sut i chwarae. Fe ofynnais i iddyn nhw, “Ydych chi’n gwneud hyn gyda phlant eraill?” ac fe ddywedon nhw, “Ydyn, fe fyddwn ni’n dangos i’r plant bach.” Ond, pan fydd y rhodwyr chwarae’n gadael, fyddan nhw ddim yn cwrdd eto. Fyddan nhw ddim yn cwrdd tan yr
wythnos wedyn pan ddaw’r rhodiwr chwarae’n ôl, ac mae hynny’n drist. Fe allen ni wneud llawer yn well na hynny. Nid yn unig y gallai’r plant hyn ddangos i blant eraill beth i’w wneud pan na fydd y rhodiwr chwarae yno, fe ellid hyd yn oed cynnig y syniad o strwythurau democrataidd iddynt fyddai’n eu galluogi i, er enghraifft, fod ag allwedd ar gyfer sied – er mwyn cael lle i storio pethau. Fe allai bod oedolion y gallent droi atynt pan fo ganddynt broblem, ond fe fydden nhw’n rieni neu’n wirfoddolwyr lleol. Fe fyddai’n fodel llawer mwy cynaliadwy. Fe hoffwn i weld gweithwyr chwarae’n canfod ffyrdd o ddatblygu syniadau am hunan-drefnu gyda phlant. Mae’n rhaid inni symud y tu hwnt i’r ddibyniaeth yma ar oedolion. Pan feddyliwch chi am y peth, ’doedd dim oedolion o amgylch ar gyfer fy nghenhedlaeth i; roedd ein gweithgareddau ni i gyd yn cael eu harwain gan blant. Doedden ni ddim angen rhywun i ddweud wrthyn ni sut i drefnu gêm o bêl-droed. Doedden ni ddim angen rhywun i ddangos inni sut i adeiladu cuddfan, nac i wneud tân i ddweud y gwir. Fe fydden ni’n gwneud y pethau hynny i gyd ein hunain. A sut fydden ni’n gwneud hynny? Wel, roedden ni’n oedrannau cymysg yn un peth, yn dysgu gan aelodau abl y ^ grw p. Mae’n rhaid inni ddychwelyd at hynny. Wnawn ni ddim yn llwyr, oherwydd bod gormod o ofn ynghylch diogelwch plant. Ond dydw i ddim yn gweld pam na allwn ei wneud mewn modd hannerdrefnus ble y
byddwn wedi rhoi’r syniadau o hunandrefnu a bod yn fwy democrataidd i blant, ond na fydd raid iddynt aros inni ddod atynt bob tro. Felly, dyna’r weledigaeth yr hoffwn weithio arni gyda phobl rhyw ddydd. Pe bawn i’n dod yn ôl i fyw i’r wlad yma fe fyddwn i’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r gweithwyr chwarae ar hyn … pe gallwn ddod o hyd i rai i weithio gyda mi. Dysgwch fwy am Roger Hart a’i waith ar: www.gc.cuny.edu/index.htm Dysgwch am ‘Ladder of Participation’ Hart ar: www.shetland.gov.uk/consultation/guid elines/TheLadderofParticipation.htm neu darllenwch Roger A. Hart, 1992, ‘Children's Participation: From Tokenism to Citizenship’, cyhoeddiad UNICEF
12
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 CYFRANOGAETH
Cyfranogaeth - Chwarae mewn Ysgolion Catherine Davies, Gweithwraig Datblygu Chwarae ym Mlaenau Gwent, sy’n disgrifio ei phrofiadau wrth gynhyrchu pamffled Chwarae mewn Ysgolion oedd yn bwydo i mewn i Strategaeth Chwarae Awdurdod Lleol. r Ddiwrnod Chwarae cenedlaethol 2007 lansiodd Blaenau Gwent eu Strategaeth Chwarae hirddisgwyliedig.
A
Roedd yn bwysig bod ymgynghori â phlant a phobl ifanc wedi ei wneud ar bob agwedd o’r Strategaeth o’r dechrau; er mwyn i’w barnau a’u safbwyntiau hysbysu’r cynnyrch terfynol. Teitl un adran o’r Strategaeth yw Chwarae mewn Ysgolion; mae’n tanlinellu pwysigrwydd darparu a datblygu amgylcheddau chwarae cyfoethog sy’n gweddu orau i anghenion chwarae plant a phobl ifanc Blaenau Gwent o fewn eu amgylcheddau ysgol, a hynny at ddibenion y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Penderfynwyd mai Uwch-Gyngor Plant Blaenau Gwent, sydd wedi ei ffurfio o ddau ddisgybl etholedig o bob ysgol gynradd yn y Bwrdeistref, fyddai’n gweddu orau i’n cynorthwyo gyda Chwarae mewn Ysgolion. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd er mwyn rhannu gwybodaeth ac ymgynghori, wnaeth alluogi’r plant i gymryd rhan mewn gemau hwylus ac i wlychu’n sopen hefyd, tra’n caniatáu inni gael cipolwg ar eu meddyliau am y cyfleusterau chwarae sydd ar gael ar hyn o bryd yn eu hysgolion, a’r hyn yr hoffent ei weld yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. Ar ddiwedd ein cyfarfod cyntaf fe ofynnom i’r plant fynd yn ôl i’w hysgolion a chynnal eu gwaith ymchwil eu hunain ar y mater; wedi eu harfogi â chamerâu, pennau ysgrifennu a llyfrau nodiadau aethant ati i ymgynghori â’u cyfoedion.
Roeddem wrth ein bodd gyda safon uchel eu hymchwil; fe ddywedodd wrthym yr hyn yr hoffent ei weld a sut y gallem gyflawni’r nodau hyn. Roedd eu argymhellion yn cynnwys: • Hyfforddiant chwarae ar gyfer goruchwylwyr amser cinio – er mwyn iddynt allu deall “y rhan fwyaf o’r amser ein bod yn chwarae a’i bod yn iawn inni gael damweiniau o dro i dro” • Rhoi dewis i blant chwarae y tu mewn neu’r tu allan yn ystod amser chwarae, a rhannu’r iard yn adrannau er mwyn i bawb allu defnyddio’r iard (nid dim ond y rheini sy’n chwarae ‘chwaraeon’) • Ail-gynllunio meysydd chwarae fel bod gan bob ysgol ardaloedd o laswellt a choncrid (roedd plant o ysgolion oedd â defnydd o fannau glaswelltog yn rhyfeddu i glywed nad oedd gan rai plant y moethusrwydd o fan glas!) Casglwyd y wybodaeth gyda chymorth aelodau o’r cyngor ysgol yn Ysgol Gynradd Georgetown. Pan oedd y plant yn fodlon ein bod wedi dehongli’r wybodaeth yn y modd a fwriadwyd, cafodd eu argymhellion eu cynnwys yn y Strategaeth a’u ffurfio’n bamffled sgleiniog i gefnogi’r lansiad. Mae’n dal yn ddyddiau cynnar, ac allwn ni ddim adrodd yn ôl ar weithrediad y Strategaeth, ond ar ôl holl waith caled y plant bydd yn wych gallu dweud wrthynt sut y maent wedi cyfrannu at wella cyfleoedd chwarae mewn ysgolion ar draws y Bwrdeistref. Hoffai’r Tîm Chwarae ddiolch o galon i holl blant yr Uwch-Gyngor Plant ac i bob plentyn a gymerodd ran. Am ragor o wybodaeth am Strategaeth Chwarae Blaenau Gwent neu gyfleoedd chwarae ym Mlaenau Gwent, cysylltwch â’r Tîm Chwarae ar 01495 355584.
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 CHWARAE A HAWLIAU PLANT
13
Cyfweliad gyda’r Comisiynydd Plant newydd A. Beth yw eich hoff atgof chwarae? Mae gen i gymaint, ond yr hyn yr oeddwn yn ei fwynhau fwyaf oedd y rhyddid i fynd i’r parc lleol gyda fy ffrindiau ble y bydden ni’n adeiladu cuddfannau yn y coed, yn chwarae pêl-droed a rygbi gyda siwmperi’n byst gôl, yn marchogaeth ein beiciau trwy gyrsiau dychmygol yr oeddem wedi eu creu, a jest yn hongian o gwmpas yn trafod pethau. Ers talwm roedd ceidwad parc oedd â chwt bychan yn y parc ble y byddai’n cadw llygad ar bethau. Roedd yn ddyn ^ r yn caredig, oedd mae’n siw cadw llygad arnom ni, ond doedd e’ fyth yn fusneslyd – er, roedd pob un ohonom yn mwynhau pan fyddai’n gwneud paneidiau o de inni ar ei stôf pan fyddai’n dechrau bwrw glaw!
B. Yn aml iawn caiff chwarae plant a phobl ifanc ei anwybyddu pan ddaw’n fater o hawliau plant, ond mae’n un o’r pethau pwysicaf ym marn y plant eu hunain. Sut ydych chi’n bwriadu hyrwyddo hawliau plant i chwarae? Rwy’n cytuno, ac rwy’n credu ei
fod yn drueni mawr bod pobl yn tueddu i anghofio pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. Pan fyddaf yn edrych yn ôl ar fy mhlentyndod fy hun a meddwl sut y bu i fy mhlant i gael budd o chwarae – y sgiliau y bu iddynt eu datblygu, yr hyder sydd ganddynt mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ar hwyl a gawsant – rwy’n teimlo gwir gyfrifoldeb i ddefnyddio fy rôl newydd fel Comisiynydd Plant Cymru i hyrwyddo gwerth chwarae. Fel Comisiynydd Plant Cymru, mae’n ddyletswydd arnaf i hyrwyddo hawliau a lles plant ac mae hynny’n cynnwys codi fy llais dros blant a phobl ifanc. Er mwyn gwneud hynny’n dda, ^ bydd angen imi wneud yn siw r fy mod yn cwrdd â chymaint o blant â phosibl a gwrando arnynt wrth iddynt ddweud
wrthyf am eu profiadau, eu gobeithion, eu dyheadau a’u pryderon. Rwy’n llwyr ddisgwyl y bydd plant yn rhoi negeseuon cryfion i mi ynghylch pwysigrwydd chwarae yn eu bywydau. Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi yw sut y gall pob un ohonom weithio i wella bywydau plant – sut y gallwn wneud gwahaniaeth i blant mewn ffyrdd ymarferol y gallant eu gweld, eu teimlo a’u profi. Mae’n rhaid inni werthfawrogi mwy yr hyn y bydd plant a phobl ifanc yn ei dweud wrthym. Byddaf yn rhoi blaenoriaeth i wrando a chwrdd â phlant a byddaf yn defnyddio’r sail hwnnw i hysbysu sut y byddaf yn gweithio gyda’r bobl hynny all wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol. www.childcom.org.uk
Chwarae: yr hawl mwyaf anghofiedig M
ae’r ‘International Play Association: Promoting the Child’s Right to Play (IPA)’ wedi cychwyn cynllun uchelgeisiol i godi Erthygl 31 o’i safle fel ‘yr hawl mwyaf anghofiedig’ yng Nghytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Theresa Casey, Llywydd yr IPA, sy’n adrodd:
Mabwysiadodd Cyngor yr IPA* gynllun strategol yn ystod ein Cynhadledd Byd-eang yn Hong Kong eleni. Ei nod cyntaf yw gwella ein hamlygrwydd fel llais byd-eang hygred ac awdurdodol ar chwarae plant; byddwn yn adeiladu ar gysylltiadau hanesyddol yr IPA a’n rhwydweithiau presennol i greu cysylltiadau cydweithrediadol ffurfiol gyda sefydliadau rhyngwladol eraill ac asiantaethau’r CU. Nod arall yw dylanwadu ar Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn. Chwaraeodd yr IPA rôl o bwys wrth gynnwys chwarae yn yr UNCRC, ond mae’r dystiolaeth hyd yma’n dangos inni fod Erthygl 31 yn anghofiedig, hyd yn oed gan y Pwyllgor hwn. Cyfarfu Cyngor yr IPA â’r Athro Jakob Egbert Doek (cynGadeirydd y Pwyllgor) a roddodd gipolwg gwerthfawr inni ar y system ac a’n cynghorodd ar sut y gallem gael chwarae wedi ei gynnwys ar yr agenda.
Ar lefel cenedlaethol annogir aelodau’r IPA i fynd ati’n weithredol i sicrhau y caiff Erthygl 31 ei drafod mewn Adroddiadau Gwlad i Bwyllgor y CU. Mae Dyddiau Trafod blynyddol Pwyllgor y CU a chyhoeddi’r Sylwadau Cyffredinol yn gyfryngau o bwys ar gyfer tynnu sylw at agweddau o hawliau plant; ’dyw’r un o’r rhain wedi canolbwyntio’n llwyr ar Erthygl 31 hyd yma. Yr her i ni yw arddangos yr hyn yr ydym yn ei wybod ynghylch natur hanfodol chwarae i blant – rhywbeth gaiff ei anghofio’n aml iawn pan fo materion sy’n ymddangos fel pe baent yn bwysicach yn cael eu cynnwys yn yr UNCRC. Gan y cynhelir Cynhadledd Byd-eang nesaf yr IPA yng Nghymru yn 2011, fe gewch gyfle i’n herio ni ar lefel ein cynnydd. Mae Theresa’n awdur ac yn ymgynghorydd chwarae wedi ei lleoli yn Yr Alban.
*Caiff yr IPA ei lywodraethu gan Gyngor yr IPA, sydd wedi ei ffurfio o gynrychiolwyr cenedlaethol, gohebwyr a Bwrdd. I ddysgu mwy am ymuno â changen Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yr IPA a chefnogi ei gwaith, ymwelwch â www.ipa-ewni.org.uk
14
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 DATBLYGU’R GWEITHLU
Gwaith Chwarae Cymru Beth ydym wedi bod yn ei wneud? Jane Hawkshaw sy’n datgelu (bron â bod) popeth... Ers dechrau fel Rheolwraig ym mis Tachwedd 2007 rwyf wedi bod yn datblygu systemau i sicrhau y caiff Gwaith Chwarae Cymru, y Ganolfan Genedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae, ei hadeiladu ar seiliau cadarn. Rydym hefyd wedi penodi cynorthwy-ydd dwyieithog, Aled Morris, i gynorthwyo ein gwaith. ae fy nghydweithwyr a minnau wedi bod yn cwrdd â chyrff ariannu i gael yr hyfforddiant gwaith chwarae newydd, Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith, neu P3, ar y fframwaith cymwysterau.
M
Rydym yn gweithio ar ddatblygu Canolbwynt Dysgu Gwaith Chwarae Cymru gan gynnwys cyhoeddusrwydd, cyrsiau, a thynnu ynghyd gyfleoedd e-ddysgu. Rydym yn comisiynu ymchwil datblygu’r gweithlu i ddynodi lleoliad a statws gweithwyr chwarae yng Nghymru, a’u hyfforddiant a’u cymwysterau, yn ogystal â’u anghenion hyfforddiant. Felly, os ydych chi’n weithiwr chwarae, neu’n gyflogwr gweithwyr chwarae, cofiwch gadw golwg am hyn. Rydym yn datblygu strategaeth datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a rhaglen ar gyfer gweithwyr chwarae ac eraill yn y gweithlu plant, gaiff ei rhannu ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n gwerthuso P3 gyda gweithwyr chwarae, ynghylch y canlyniadau cadarnhaol a’r meysydd gwaith sydd angen eu datblygu a’u gwella. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r eitemau hyn cysylltwch â mi ar 029 2048 6050 neu e-bostiwch jane@playwales.org.uk
Rhagor o newydd da: ar hyn o bryd rydym yn gorffen y gwaith golygu, cywiro proflenni, a dylunio ac argraffu pecynnau hyfforddi’r Wobr, y Dystysgrif a’r Diploma ar lefel 2. Mwy fyth o newyddion da: mae P3 yn symud yn ei flaen yn ddel o ran cael ei achredu gyda’r Scottish Qualifications Authority fel cymhwyster dilys.
Hyfforddi Hyfforddwyr: 7302 Mae angen am ragor o hyfforddwyr gwaith chwarae cymwysedig i drosglwyddo P3 yng Nghymru, felly mae Chwarae Cymru wedi trefnu cwrs City and Guilds (Lefel 3 – ‘Introduction to Delivering Learning’: 7302) sydd wedi denu gweithwyr chwarae o Wrecsam, Abertawe a Rhondda Cynon Taf, i enwi dim ond rhai. Dyma’r tro cyntaf inni hyfforddi gweithwyr chwarae o’r dechrau i ddod yn hyfforddwyr cymwysedig. Caiff y cwrs ei redeg eto yn hwyrach yn y flwyddyn ac mae rhestr aros gennym eisoes. Os oes gennych ddiddordeb cael eich hyfforddi fel hyfforddwr gwaith chwarae, cofiwch gysylltu â ni.
Hyfforddi Aseswyr: L20 Os ydych yn un o’n hyfforddwyr P3 eisoes neu eich bod yn weithiwr chwarae profiadol, mae hwn yn gwrs addas i chi. Mae’n golygu y gallwch asesu’r bobl sy’n cymryd ein cyrsiau P3. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni.
Asesiadau P3 Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith – newydd gwael – newydd da Y newydd gwael: wedi cwblhau dros 60 o gyrsiau a hyfforddi tua 900 o ddysgwyr, mae cyfnod peilot P3 wedi gorffen bellach ac mae’r cyllid wedi dod i ben. Felly, ar hyn o bryd, allwn ni ddim cynnig cyrsiau am ddim. Y newydd da: ond, mae’n bell o fod yn ddiwedd ar ein gwaith i ddatblygu hyfforddiant gwaith chwarae newydd! Rydym wedi cyflwyno cais newydd fydd, os yw’n llwyddiannus, yn caniatáu inni barhau i gynnal peilot a datblygu’r cyrsiau P3 lefel 2 presennol yn ogystal â datblygu ystod o gymwysterau newydd a modiwlau DPP sy’n cynnwys cymwysterau ar lefel 3.
Ers dechrau’r prosiect P3 gwelwyd datblygiadau a newidiadau sylweddol ym maes hyfforddiant ac addysg, ac un o’r rhai amlycaf yw datblygiad fframwaith cymwysterau newydd. Golygodd hyn ehangu cyrhaeddiad y criteria asesu ar gyfer pob cwrs lefel 2 ac rydym wrthi’n brysur yn edrych ar ffyrdd i glirio’r llwyth o ddysgwyr sydd angen asesiad ychwanegol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd o’r cyrsiau P3 cysylltwch â: Gwaith Chwarae Cymru, Y Ganolfan Genedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae – galwch 029 2048 6050 neu e-bostiwch mel@chwaraecymru.org.uk
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 DATBLYGU’R GWEITHLU
15
Hyfforddiant P – yr effaith
3
Fel rhan o’n gwerthusiad o’r cyrsiau Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3), fe ofynnom i reolwyr gweithwyr chwarae sut oeddent yn teimlo bod yr hyfforddiant wedi effeithio ar arfer gwaith chwarae yn eu lleoliad hwy: Jo Jones, Swyddog Datblygu Chwarae, Bro Morgannwg Fe ddaeth staff oedd yn mynychu’r cwrs P3 oddi yno gyda gwir ddealltwriaeth o’r ddamcaniaeth y tu ôl i’r hyn yr ydym yn ei wneud ac roeddent yn llawn hyder ac ysgogiad. Roedd ‘byzz’ go iawn ymysg y tîm chwarae. Fel cyflogwr, roeddwn yn hapus iawn gyda’r hyfforddiant a’r canlyniadau i’r tîm. O sylwadau a wnaethpwyd a chwestiynau a ofynnwyd gan y tîm staff, roedd yn amlwg bod yr hyfforddiant wedi gwella eu dealltwriaeth o’u rôl: • "Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw chwarae nawr.” • “Nid dim ond chwarae yw e’, mae’n bopeth.” • “Rwy’n teimlo’n broffesiynol iawn ynghylch yr hyn yr ydw i’n ei wneud.” • “Mae’r profiad hwn wedi newid fy mywyd.”
Will Morecambe, Rheolwr, Maes Chwarae Antur Y Rhyl Fe ddaeth pawb y bum yn siarad â nhw oddi yno’n llawn brwdfrydedd o’r newydd am eu gwaith a gyda digonedd o syniadau ynghylch sut y gallant wella arno. Fel rheolwr (a gymerodd ran yn y cwrs), cefais gyfle i weld trosof fu hun sut y bu i’r hyn a ddigwyddodd dros y tridiau effeithio ar well arfer gwaith. Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon, y bu imi ddysgu llawer am fy hunan ac fy arferion gwaith. Fe ddysgodd y staff hefyd lawer am eu hunain a’u harferion, a bod hyn bellach yn cael ei drosglwyddo i’w gwaith. Byddwn yn argymell y cwrs yn frwdfrydig iawn i bob un sy’n gweithio ym maes chwarae.
Sue Bradshaw, Arweinydd, Cynllun ^ yr Chwarae Haf Llandeilo Ferwallt, Gw Fe chwaraeodd y plant gyda’r holl frwdfrydedd diymatal a’r egni a welom yn ystod y blynyddoedd blaenorol, ond roedd mwy o ymdeimlad o ryddid. Roedd y plant yn chwarae mewn modd mwy dychmygol, roeddent yn fwy bywiog yn gorfforol, wedi ymlacio mwy, yn fwy ymddiriedus, rhydd, cydweithrediadol a hapus. Roedd yr un peth yn wir am y tîm staff. Fel cyflogwr, roedd yr awyrgylch yn fywiocaol; fe fabwysiadodd y staff yr athroniaeth a arddelwyd yn ystod yr hyfforddiant ac arweiniodd hyn at blant oedd yn methu aros i ddechrau chwarae ac oedd ddim am stopio chwarae ar ddiwedd y dydd. Roedd yr un peth yn wir o’r staff. Gwawriodd y diwrnod olaf, a’r cwestiwn mawr gan rieni oedd: “Mae pob blwyddyn wedi bod yn dda, ond mae eleni wedi bod hyn yn oed yn well, beth ydych chi gyd wedi ei wneud i’w wneud mor ffantastig?” Roedd yr ateb yn un syml, hyfforddiant P3 – roedd llawer llai o densiynau rhwng yr hyn yr oedd y plant ei eisiau a’r hyn y gallem ei ddarparu.
Lisa Williams, Cydlynydd Tîm Chwarae, Cymdeithas Cymdeithasau Gwirfoddol Gwent (GAVO) (Ers yr hyfforddiant) mae’r tîm yn fwy myfyriol yn eu harfer gwaith ac maent yn treulio mwy o amser yn arsylwi ac yn gwerthuso’r sesiynau chwarae a sut y gellir ymestyn cyfleoedd chwarae. Mae hyn wedi effeithio ar y plant a’r bobl ifanc, gan fod y staff yn fwy parod ac yn meddu ar ragor o sgiliau i ymestyn eu chwarae. Mae rhai aelodau o staff, a ddaeth o gefndiroedd gofal plant, wedi newid eu ffordd o feddwl yn llwyr, a thrwy gydol yr hyfforddiant maent wedi ymgolli’n llwyr yn ethos gwaith chwarae. Bu’r hyfforddiant yma yn hynod o ddylanwadol ar draws pob cwr o sir Caerffili, gyda nid dim ond gweithwyr chwarae’n ennill y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth ond hefyd gweithwyr cymorth, gweithwyr ieuenctid, rhieni a gwirfoddolwyr i gyd yn dwyn eu sgiliau newydd yn ôl i’w lleoliadau gwaith ac yn newid y modd y maent yn rhyngweithio â’r plant a’r bobl ifanc. Rwy’n awyddus iawn i’r hyfforddiant yma barhau ac ehangu o fewn Caerffili a chynorthwyo gyda datblygiad gweithlu o safon.
Debra Jones, Gweithwraig Datblygu Chwarae, Valleys Kids Mae’r hyfforddiant P3 wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r gweithwyr chwarae; maent yn llawer mwy hyderus wrth siarad â rhieni ac eraill am bwysigrwydd chwarae a’r broses chwarae. Mae eu harfer gwaith wedi newid yn sylweddol; ceir llawer mwy o feddwl ynghylch sut, pryd neu os y dylid ymyrryd. Maent yn fwy myfyriol ynghylch y sesiynau chwarae, eu hunain a’i gilydd, maent yn fwy agored a chefnogol o roi tro ar bethau newydd. Mae wedi cael effaith cynyddol, gyda’r gweithwyr chwarae’n sylwi ar y newid yn ymddygiad y plant, yn eu barn hwy mae hyn oherwydd eu bod bellach yn adnabod ciwiau chwarae ac yn ymateb iddynt. Fel cyflogwr, rydych angen i’ch staff fod ag amrywiaeth o wybodaeth yn amrywio o chwarae i’r arswydus ‘iechyd a diogelwch’ a phopeth yn y canol; mae P3 wedi ymgorffori’r rhain a llawer mwy. Mae P3 yn raddedig ac wedi ei greu o wahanol rannau, sy’n caniatáu i gyflogwyr a dysgwyr ddewis y lefel cywir o ddysg ar gyfer yr unigolyn, mae hyn yn sicrhau datblygiad naturiol trwy hyfforddiant. Mae’r cyrsiau’n darparu staff o safon sydd wedi eu hyfforddi mewn chwarae i gyflogwyr, ac nid rhai sydd wedi eu hyfforddi ar faint o orchuddion socedi trydan sydd eu hangen!
I ddysgu rhagor am gyrsiau P3 – Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith, cysylltwch â Mel yn Nhîm Datblygu’r Gweithlu ar 029 2048 6050 neu e-bostiwch mel@chwaraecymru.org.uk
16
Chwarae dros Gymru Rhifyn 24 GWANWYN 2008 ARIANNU A DIGWYDDIADAU
Digwyddiadau ac Ariannu Seminar Trefnyddion Diwrnod Chwarae 9 Ebrill 2008 Seminar Trefnyddion Diwrnod Chwarae Llanelwedd www.chwaraecymru.org.uk
10/11 Ebrill, 7/8 Mai, 5/6 Mehefin 2008 Taith astudio ‘Designs for Play’ Stirling www.playlink.org/calendar/
14/15 Mai 2008 Ysbryd Chwarae Antur www.chwaraecymru.org.uk
20 Mai 2008 Places to go? Queen Elizabeth II Conference Centre, Llundain www.playengland.org.uk
23 Mai 2008 Cynhadledd Chwarae Genedlaethol – Iwerddon Temple Bar, Dulyn www.playoreland.ie
9 – 11 Gorffennaf 2008 Toy and Culture – International Toy Research Association World Congress Nafplion, Groeg Galwad am bapurau www.toyresearch.org
13 – 17 Hydref 2008 11ed Cynhadledd Llyfrgelloedd Teganau Rhyngwladol Paris Galwad am bapurau www.alf-ludotheques.org/reseau/congres-en.php
3 – 5 Tachwedd 2008 Child in the City – 4ydd Cynhadledd Ewropeaidd Rotterdam Galwad am bapurau www.europoint.eu/events/?childinthecity Mae
The LankellyChase Foundation
yn gwahodd ceisiadau am grantiau bychain i gefnogi cynlluniau chwarae haf trwy’r DU. Dylai’r cynlluniau chwarae fod o fudd i blant sydd rhwng 5 a 13 mlwydd oed ac yn ddelfrydol byddant yn lleol ac yn para 4 – 6 wythnos neu byddant ar ffurf gweithgareddau arbennig ar gyfer pobl ifanc sydd yn neilltuol o ddifreintiedig. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 2 Mai 2008. www.lankellychase.org.uk/
Bydd Chwarae Cymru’n cynnal Seminar Trefnyddion Diwrnod Chwarae undydd rhad ac am ddim ym Maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ar y 9ed o Ebrill 2008. Thema’r Diwrnod Chwarae eleni yw ‘risg a chwarae’ a bydd y seminar yn cynnig gwybodaeth ymarferol i drefnyddion diwrnod chwarae yn ogystal â sgiliau i allu darparu diwrnod chwarae sy’n byw i fyny i’r thema yn ogystal â chyfle i rwydweithio a rhannu profiadau. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a ddarperir gan Chwarae Cymru – rydym yn darparu’r lleoliad, yr hyfforddwyr, y deunyddiau a phaned – bydd angen i’r rhai sy’n mynychu’r seminar ddod â’u cinio eu hunain gyda hwy. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig – i archebu lle cysylltwch â Kate ar 029 2048 6050 neu e-bostiwch post@chwaraecymru.org.uk
Ysbryd 2008 Os ydych chi’n weithiwr chwarae ac ond yn gallu fforddio mynychu un gynhadledd yn ystod 2008 – dyma’r lle i fod. Byddwn yn cynnal ein cynhadledd flynyddol Ysbryd Chwarae Antur yng Nghaerdydd ar y 14eg a’r 15ed o Fai. Rydym yn disgwyl cyflwyniadau gan dîm o Bortiwgal sydd wedi bod yn ymchwilio i chwarae ymladd, Bob Hughes, Wendy Russell a Stuart Lester. Ymysg y rhai fydd yn hwyluso gweithdai fydd Ali Wood, Jess Milne, Meynell, Dan Rees Jones a Susannah Walker. Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ymwelwch â www.chwaraecymru.org.uk neu cysylltwch â Kate ar 029 2048 6050 neu e-bostiwch post@chwaraecymru.org.uk
Aelod Newydd o’r Tîm Croeso i’n Swyddog Cyllid newydd – Jacky Jenkins – a ddaeth i weithio atom fis Rhagfyr diwethaf. Mae’n cymryd lle Lisa sydd wedi symud i Awstralia gyda’i theulu. Mae Jacky wedi gweithio fel cyfrifydd siartredig a thra’n magu ei dau blentyn bu’n gweithio fel cynorthwywraig dysgu mewn ysgol gynradd ac fel goruchwylwraig arholiadau mewn ysgol uwchradd. Dywed Jacky: “Rwy’n edrych ymlaen at fy swydd newydd sy’n cyfuno gwaith cyfrifon gyda’r profiad a enillais tra’n gweithio mewn ysgolion”. Gobeithio y bydd yn mwynhau gweithio gyda ni yma yn Chwarae Cymru.
Babi Newydd Llongyfarchiadau i Annette, ein gweithwraig wych yn Swyddfa’r Gogledd, a roddodd enedigaeth i Eryn Mai Williams – merch fach nobl – ar yr 22ain Chwefror 2008. Dymunwn bob hwyl iddi hi a’r teulu bach, ac edrychwn ymlaen at dy groesawu’n ôl i’r tîm ym mis Medi.