Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Page 1

Rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae

Gaeaf 2010

Cyfoeth chwarae

www.chwaraecymru.org.uk


2

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 GOLYGYDDOL

Cynnwys

tudalen

Golygyddol

2

Newyddion

3-6

Cyfweliad: Huw Lewis

7

Mannau diogel i chwarae a chymdeithasu Pam gwneud amser i chwarae

8 9-11

Pam fod buddsoddi mewn chwarae yn bwysig

11

Datblygu’r Gweithlu

12-13

Cynhadledd IPA 2011

14

Ymunwch â Chwarae Cymru

15

Digwyddiadau ac Ariannu

16

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru dair gwaith y flwyddyn. Cysylltwch â’r Golygydd yn: ^ Baltig, Chwarae Cymru, Ty Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH Rhif ffôn: 029 2048 6050 E-bost: gwybodaeth@chwaraecymru.org.uk Elusen Gofrestredig Rhif. 1068926 ISSN: 1755 9243 Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchlythyr hwn. Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn. Argraffwyd y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy. Dyluniwyd ac argraffwyd gan Carrick Ffôn: 01443 843 520 E-bost: sales@carrickdp.co.uk

Golygyddol ^ Gan Anne Crowley, Aelod o Grw p Arbenigol ar Dlodi Plant, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Disgrifiodd y Gweinidog dros Blant, Huw Lewis, dlodi plant fel pla yng Nghymru a maes o law bydd yn lansio strategaeth tlodi plant newydd sy’n anelu i leihau’r nifer o blant sy’n byw mewn cartrefi heb waith; a lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli ym meysydd iechyd, addysg a chanlyniadau economaidd ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi. Caiff tlodi plant ei ddiffinio gan lefel yr incwm sydd ar gael gan deulu â phlant, a chaiff teuluoedd â llai na 60 y cant o’r incwm canolrifol eu hystyried yn dlawd. Ond yn sgîl tlodi incwm daw anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd. Caiff plant sy’n byw mewn tlodi lawer llai o gyfleoedd na’u cyfoedion mwy cefnog ac yn aml byddant yn wynebu anawsterau wrth gael mynediad i wasanaethau o safon. Bydd cael eu magu mewn tlodi’n cyfyngu ar gyfleoedd bywyd plant ar gyfer gwaith; hyfforddiant; perthnasau teuluol a chymdeithasol cadarnhaol, cryfion; iechyd corfforol a meddyliol da a hirhoedledd ac mae’n effeithio’n fawr iawn ar eu profiadau mewn plentyndod. Mae nifer o ymgynghoriadau â phlant sy’n byw mewn tlodi ar draws y DU wedi pwysleisio’r ymdeimlad o eithrio y bydd plant mewn teuluoedd incwm isel yn ei deimlo a’r modd y mae’r stigma o fod yn ‘dlawd’ yn effeithio ar eu ymdeimlad o werth ac o berthyn. Bydd plant yn sôn dro ar ôl tro am y rhwystrau y maent yn eu wynebu wrth gael mynediad i’w hawl i chwarae, adloniant a hamdden yn unol ag Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, fel dim neu fawr ddim mannau glân i chwarae, fawr ddim cyfleusterau lleol a chysylltiadau trafnidiaeth gwael. Gwyddom y gall y math o gymdogaeth y mae plentyn yn byw ynddi wneud

gwahaniaeth mawr i gyfleoedd plant i gael chwarae, adloniant a hamdden ac ar gyfer eu diogelwch corfforol. Er enghraifft, amcangyfrifir bod plant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu hanafu gan gar na phlant mewn ardaloedd eraill1. Fel yr amlygwyd gan y ‘Good Childhood Inquiry’ a gynhaliwyd gan The Children’s Society yn ddiweddar, plant sy’n byw mewn tai o’r safon salaf ac yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig sy’n lleiaf tebygol o fwynhau llawer o’r cyfleusterau a’r cyfleoedd y maent wir eu hangen (gan gynnwys y cyfle i chwarae) y tu allan, yn ogystal ag yn y cartref. Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, mae Llywodraethau olynol Cynulliad Cymru wedi hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru, yn enwedig eu hawl i chwarae. Cymru oedd gwlad gyntaf y DU i gyflwyno polisi chwarae oedd yn cydnabod bod chwarae’n rhan annatod o ddatblygiad corfforol, dirnadol, cymdeithasol, moesol ac emosiynol plant. Mae’n amhrisiadwy ar gyfer ymarfer eu dawn greadigol, fel offeryn therapiwtig ac fel modd o ddathlu diwylliannau a chymunedau. O ganlyniad, mae cael eu heithrio o chwarae’n cynrychioli eithriad sylweddol o fywyd ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi. Os yw nod Llywodraeth Cynulliad Cymru, o leihau anghydraddoldebau iechyd, addysg a chanlyniadau economaidd i gael ei gyflawni, yna mae angen gwneud llawer mwy (ar bob lefel o lywodraeth a gan gymdeithas wâr) i sicrhau darparu cyfleoedd cyfartal a digonol ar gyfer chwarae, adloniant a gweithgarwch hamdden yn ogystal â gweithgarwch diwylliannol a chelfyddydol ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru. 1

Road Safety Analysis, Child Casualties 2010: A study into resident risk of children on roads in Great Britain 2004-8. Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar: www.roadsafetyanalysis.org/projects/childcasualties-2010/

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w lawrlwytho o adran newyddion ein gwefan ar www.chwaraecymru.org.uk


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 NEWYDDION

3

Her Meysydd Chwarae ae Her Meysydd y Frenhines Elizabeth yr 2il yn rhaglen llawr gwlad gyffrous a lansiwyd ym mis Mehefin 2010 i nodi Jiwbilî Deimwnt y Frenhines yn 2012. Dyma’r prosiect Jiwbilî cyntaf i gael ei gymeradwyo’n swyddogol, ac mae’n anelu i warchod 2012 o fannau awyr agored ar gyfer chwarae, chwaraeon neu adloniant mewn cymunedau trwy’r Deyrnas Unedig.

M

Mae Meysydd Chwarae Cymru yn trafod â phob Awdurdod Lleol yng Nghymru a byddant hefyd yn cysylltu â pob Cyngor Cymuned a Thref i ofyn am enwebiadau ar gyfer mannau awyr agored i gael eu neilltuo’n barhaol fel Meysydd y Frenhines Elizabeth yr 2il. Meddai Rhodri Edwards, Rheolwr Meysydd Chwarae Cymru, ‘Bu ymateb yr Awdurdodau Lleol hyd yma’n galonogol iawn, gan fod 11 o’r 22

Ymgyrch Meysydd Chwarae Di-fwg Mae’r elusen iechyd cyhoeddus ASH Cymru, wedi lansio ymgyrch ar gyfer meysydd chwarae di-fwg yng Nghymru.

L

ansiwyd yr ymgyrch pan aeth trigolion a phlant ysgol Caerdydd ati i gasglu sbwriel ym Mharc y Rhath i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch sbwriel ysmygu sy’n llygru eu meysydd chwarae. Mae ASH Cymru am i blant allu mwynhau eu parciau a’u mannau awyr agored heb gael eu niweidio gan fwg ail-law. Yn ôl arolwg diweddar mae 75 y cant o oedolion yn cefnogi menter o’r fath.

Mae’r elusen yn credu bod gan blant yr hawl i fwynhau amgylchedd di-fwg waeth os ydynt gartref, mewn car, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol neu allan yn mwynhau eu hamser hamdden gyda’u cyfeillion a’u teulu. ’Dyw’r elusen ddim yn gofyn am bwerau gorfodi newydd, ond yn hytrach arwyddion i weithredu fel rhybudd. Am fwy o wybodaeth ynghylch yr ymgyrch, cysyllter â: carole@ashwales.co.uk

awdurdod eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun a hyderwn y bydd ymateb y Cynghorau Cymuned a Thref yr un mor gadarnhaol’. Am fwy o wybodaeth a manylion ynghylch sut i ymuno â’r prosiect ymwelwch â: www.qe2fields.com

Hyrwyddo delweddau cadarnhaol o blant yn y cyfryngau r 21ain pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) lansiwyd pecyn cymorth ar y cyfryngau sy’n darparu cyngor ymarferol i’ch helpu i gefnogi’r plant a’r bobl ifainc yr ydych yn gweithio â nhw i gyflwyno darlun tecach, mwy cyflawn o’u newyddion, eu barn, eu gweithgareddau a materion sydd o bwys iddynt ar draws y cyfryngau.

A

Lansiwyd y pecyn cymorth, Dwedwch hi fel y mae, mewn dathliad gan y CCUHP ar gyfer plant a phobl ifainc a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 19 Tachwedd 2010. Datblygwyd Dwedwch hi fel y mae fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael mwy o straeon cadarnhaol ynghylch plant a phobl ifainc yng Nghymru i mewn i’r newyddion ac i fynd i’r afael â’r canfyddiadau, sy’n aml iawn yn negyddol, gaiff eu portreadu. Am fwy o wybodaeth, ac i lawrlwytho’r pecyn, Dwedwch hi fel y mae, ymwelwch â: www.ccuhp gwneudpethauniawn.co.uk/mediatoolkit.aspx

SkillsActive yn lansio Strategaeth Addysg a Sgiliau Chwarae a Gwaith Chwarae newydd y DU

M

ae SkillsActive (y cyngor sgiliau sector ar gyfer gwaith chwarae) wedi lansio Strategaeth Addysg a Sgiliau Chwarae a Gwaith Chwarae newydd ar gyfer y DU. Mae’r strategaeth yn seiliedig ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n cydnabod bod chwarae’n hanfodol i ansawdd bywyd plant.

Datblygwyd y strategaeth pum mlynedd ar y cyd ar draws y bedair gwlad, gan gydnabod amrywiol anghenion Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac

fe’i hysbyswyd gan grwpiau ffocws, gweithdai ac ymgynghoriad ar-lein, a’i chefnogi gan y gwaith ymchwil diweddaraf. Mae’r strategaeth yn anelu i fwyafu cytundeb ymysg y gwledydd trwy ddynodi nodau, themâu ac amcanion cyffredin, gyda ffocws ar gyfer y DU sy’n ddigon hyblyg i bob gwlad unigol ddelio â’i blaenoriaethau ei hun o fewn y weledigaeth gyffredinol. Medd Hywel Williams, cadeirydd Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae (CAHGC) y DU:

‘Mae’n bleser gennyf allu cymeradwyo’r strategaeth bwysig hon fydd yn arwain datblygiad gwaith chwarae yn y dyfodol. Ni ellir di-brisio pwysigrwydd chwarae i fywyd a datblygiad y plentyn, ond mae pwysigrwydd y ffaith bod trosglwyddiad gwaith chwarae’n cael ei ddarparu gan weithwyr chwarae cymwysedig a phroffesiynol yn hollbwysig. Bydd y strategaeth hon yn sylfaen ar gyfer trosglwyddo’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n sail i hyn.’ Am fwy o wybodaeth ymwelwch â: www.skillsactive.com/playwork/strategy


4

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 NEWYDDION

Rhwystrau i Chwarae – Strategaeth Chwarae ar gyfer Conwy Martin King-Sheard (sydd ar hyn o bryd ar secondiad o Chwarae Cymru am dridiau’r wythnos fel Prif Swyddog Chwarae Conwy) sy’n ysgrifennu am y broses o ddatblygu Strategaeth Chwarae Conwy, o gysylltu â chyfranddalwyr i fabwysiadu’r strategaeth. ra’n eistedd yn swyddfa Rheolwr Cyfranogaeth Conwy ar ddechrau 2010, roeddwn wedi ymrwymo’n llwyr i osgoi ymgynghoriad diystyr gyda phlant a phobl ifainc fyddai’n gwneud dim mwy na chadarnhau yr hyn yr ydym yn ei wybod eisoes – bod plant eisiau bod y tu allan yn chwarae gyda’u ffrindiau.

T

Nod yr ymgynghoriad oedd i ddynodi rhwystrau i chwarae plant a phobl ifainc – a’r modd y byddwn yn delio â’r rhwystrau hynny. Credaf yn gryf y bydd hyn yn rhan allweddol o’r modd y byddwn yn sicrhau digonoldeb trwy’r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru). Fe gyflwynodd yr ymgynghoriad a ddatblygwyd gasgliad o ddelweddau o ystod o amgylcheddau chwarae, o goedwigoedd a thraethau i strydoedd preswyl a meysydd chwarae ysgolion, i blant a phobl ifainc a’u rhieni a’u gofalwyr. Yn ogystal, fe ddefnyddiom ‘atgofion chwarae’ i atgoffa oedolion am y modd yr oedden nhw’n arfer chwarae, gan ofyn y cwestiwn sylfaenol – ‘Beth sy’n eich atal rhag chwarae fel hyn?’

Roedd yr ymatebion yn rhai grymus, a digon trist ar brydiau: ‘Ry’n ni wedi cael ein dwrdio am chwarae yn y stryd mor aml gan un o’r cymdogion fel bod y plant iau wedi dysgu i beidio â thrafferthu chwarae allan o gwbl ...’ (Person Ifanc, 15 oed) ‘Mae’r ceir yn tarfu ar ein chwarae ni, ond ’does neb yn eu dwrdio nhw …’ (Person Ifanc, Bae Colwyn) Mae traffig ac oedolion sarrug yn ddim ond dau enghraifft o’r rhwystrau sylweddol a ddynodwyd fel rhan o’r ymgynghoriad. Mae’r dystiolaeth lleol yma wedi helpu’n aruthrol wrth ymgysylltu â chyfranddalwyr o’r tu allan i’n cylch arferol. Denodd digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn dros 70 o bobl broffesiynol, o adrannau cynllunio, iechyd a diogelwch a’r heddlu. Mabwysiadwyd y strategaeth derfynol gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 15ed Hydref 2010. Am gopi o’r strategaeth neu’r adroddiad Ymgynghoriad Rhwystrau i Chwarae, ebostiwch Martin: martinkingsheard@cvsc.org.uk

Ymchwil cyfleoedd chwarae ar gyfer plant anabl Victoria Winkler sy’n adrodd am waith ymchwil Sefydliad Bevan (y felin drafod cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer Cymru) i gyfleoedd chwarae a hamdden ar gyfer plant a phobl ifainc anabl. Daeth deuddeg o elusennau plant yng Nghymru, yn cynnwys Barnardo’s, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, ynghyd i weithio gyda Sefydliad Bevan er mwyn edrych ar gyfleoedd chwarae a hamdden ar gyfer plant a phobl ifainc anabl. Fe wnaethom ganfod bod prinder cyfleoedd mawr. Er bod rhai plant a phobl ifainc yn gwneud llawer o wahanol bethau, mae cyfran sylweddol yn gwneud fawr ddim oherwydd nad oes dim ar gael yn agos i’w cartref. Dywedodd plant a phobl ifainc eu bod eisiau gallu bod gyda’u ffrindiau a hynny heb eu rhieni neu eu gofalwyr. Roedd rhwystrau i chwarae a hamdden yn cynnwys diffyg

mynediad, agweddau staff a’r cyhoedd mewn canolfannau hamdden ac yn y blaen, a diffyg cefnogaeth i gyfranogaeth. Fodd bynnag, ceir rhai gweithgareddau hamdden a chwarae hynod o lwyddiannus sy’n cynnwys plant a phobl ifainc anabl, waeth os ydynt yn grwpiau integredig ai peidio. Mae eu llwyddiant yn ganlyniad agwedd seiliedig ar hawliau tuag at chwarae, staff a gwirfoddolwyr ymroddedig a dim ond ychydig o gyllid. Rydym yn gweithio gyda’r elusennau a gefnogodd y prosiect i gadarnhau’r argymhellion a gyhoeddir ym mis Ionawr 2011. Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Sefydliad Bevan ar 01495 356702 neu ymwelwch â www.bevanfoundation.org

Adrodd bod chwarae gemau pêl yn ymddygiad gwrth-gymdeithasol

W

edi i’r heddlu dderbyn cwyn gan un o drigolion ystad dai yng Nghaerdydd, fydd plant ond yn cael chwarae gemau pêl yn ardaloedd cyffredin yr ystad y tu allan i’w cartrefi tan 9:30pm – hyd yn oed ar nosweithiau hir a golau’r haf. Meddai Christine Booth, rhiant sy’n byw yn ardal Heol Cwrt Caerau, Elái, ‘Cefais

fy synnu pan dderbyniais lythyr gan gymdeithas dai Wales and West (WWHA), yn dweud eu bod yn ymchwilio i ymddygiad gwrth-gymdeithasol ar yr ystad.’ Ychwanegodd, ‘Y cyfan y mae nhw’n ei wneud yw chwarae pêl-droed, ac mae’r rhieni i gyd yn gwybod ble mae nhw. Fe ddylai fod hawl ganddyn nhw i chwarae’r tu allan i’w cartrefi eu hunain.’

Dywedodd Andy Pritchard, Swyddog Tai lleol WWHA, ‘Rydym wedi bod yn gweithio’n glòs â’r gymuned i geisio dod o hyd i ateb i’r mater hwn. Ein gobaith yw y gellir datrys materion fel hyn yn fuan ac mewn modd cyfeillgar, trwy drafod unrhyw broblemau’n uniongyrchol â’r gymuned leol.’ Adroddwyd am y mater hwn yn wreiddiol yn y South Wales Echo (21 Medi 2010, tudalen 15)


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 NEWYDDION

5

Common Sense, Common Safety Cyhoeddwyd adroddiad yr Arglwydd Young o Grantham ar gyfer y Prif Weinidog – Common Sense, Common Safety – ar 15ed Hydref 2010. Mae’n cynnwys argymhellion pwysig sy’n ymwneud â gweithdrefnau iechyd a diogelwch. Mae dadansoddiad yr adroddiad a’r argymhellion terfynol yn ymateb yn gadarnhaol i lawer o’r pryderon y mae Chwarae Cymru, ein cydweithwyr a’n haelodau, wedi eu mynegi ers rhai blynyddoedd. Mae Chwarae Cymru’n croesawu’n benodol y sylw a roddwyd i: • Fabwysiadu agwedd ‘synnwyr cyffredin’ tuag at iechyd a diogelwch. Mae Chwarae Cymru, ynghyd ag eraill, wedi hyrwyddo gwerth defnyddio synnwyr cyffredin i hysbysu barn • Symud ‘oddi wrth system o asesu risg i system o asesu risgbudd’ • Ystyried adolygu’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayb ‘er mwyn gwahanu chwarae a hamdden oddi wrth gyd-destunau gweithle’. Credwn fod y dyfyniadau canlynol o Common Sense, Common Safety o ddefnydd penodol i’n darllenwyr.

Dyfyniad o’r adran ar ardaloedd chwarae plant Maes arall sy’n destun pryder yw effaith iechyd a diogelwch ar ardaloedd chwarae plant. Mewn termau cyfreithiol, caiff darpariaeth chwarae ei arwain gan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayb. Mae cred gyffredin yn bodoli yn y sector chwarae bod camddehongli’r Ddeddf yn arwain at greu mannau chwarae diflas sydd ddim yn galluogi plant i brofi risg. Mae chwarae o’r fath yn hanfodol ar gyfer datblygiad plentyn ac ni ddylid ei aberthu i asesiadau risg anghymesur a goreiddgar. Mae hyn yn enghraifft arall o’r modd y mae deddfwriaeth, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol at ddefnydd mewn amgylchedd peryglus, yn cael ei defnyddio mewn amgylchedd nad yw’n addas ar ei gyfer a hynny â chanlyniadau niweidiol. Credaf y dylem, yng nghyd-destun chwarae plant, symud oddi wrth system o asesu risg i system o asesu risg–budd, ble y caiff effeithiau cadarnhaol posibl eu pwyso a’u mesur yn erbyn risg posibl. Yn ogystal, dylem ystyried adolygu’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith er mwyn gwahanu chwarae a hamdden oddi wrth gyd-destunau gwaith.

Dyfyniad o’r adran ar ymweliadau addysgol Dylem symleiddio’r broses y bydd ysgolion a mudiadau tebyg yn gorfod ei chyflawni cyn mynd â phlant ar wibdeithiau. Dylem gyflwyno un ffurflen ganiatâd, wedi ei harwyddo gan riant neu warcheidwad, sy’n cwmpasu’r holl weithgareddau y gallai plentyn gymryd rhan ynddynt yn ystod eu hamser yn yr ysgol, gan alluogi rhieni i nodi nad ydynt am i’w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau penodol. Nid oes angen caniatâd eisoes ar gyfer gweithgareddau fydd yn digwydd yn ystod y diwrnod ysgol ac, er mwyn lleihau’r biwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â gwibdeithiau ysgol, dylem bwysleisio’r neges hon i ysgolion ac awdurdodau lleol.

Dyfyniad o’r adran ar awdurdodau lleol Ceir rhywfaint o anghysondeb ar draws awdurdodau lleol, ac ni chaiff y rheolau ar iechyd a diogelwch eu gweithredu gyda’r bwriad o gynnal agwedd rheoli risg gywir bob amser. Mewn rhai achosion mae’n amlwg bod swyddogion yn rhoi cyngor gwael i fudiadau ac unigolion, sydd yn eu tro’n cael eu hatal rhag cynnal digwyddiad (ffair ysgol er enghraifft) pan nad oes unrhyw reswm da dros hynny, ar sail iechyd a diogelwch. Fodd bynnag, ’does dim gofyniad i roi’r rhesymau hyn ar bapur ac yn aml iawn ni chaiff y rhesymau penodol am wneud y penderfyniad eu hegluro’n llawn. Yn ogystal, ’does dim system i gael ar hyn o bryd ar gyfer apelio na sicrhau iawndal pan gaiff digwyddiad ei wahardd neu ei gwtogi ‘am resymau iechyd a diogelwch’. Bydd disgwyl, yn syml, iddynt dderbyn y penderfyniad ac i beidio â bwrw ymlaen â’r digwyddiad a gynlluniwyd. Gellid hefyd eu hatal rhag hyd yn oed cynllunio digwyddiad o’r fath rhag ofn, neu oherwydd eu bod yn disgwyl, na fydd swyddog o’r awdurdod lleol yn ei ganiatáu. Hoffwn weld y Llywodraeth yn gosod system yn ei lle ble y bydd gan unigolion hawl i ofyn i swyddogion awdurdodau lleol sy’n gwahardd digwyddiadau ar sail iechyd a diogelwch, i gyflwyno eu rhesymau’n ysgrifenedig.

Barn Chwarae Cymru … Hyderwn y bydd yr adolygiad hwn yn helpu pobl i dderbyn bod plant angen ac eisiau heriau ac antur. Mae Chwarae Cymru wedi bod yn ymgyrchu am fabwysiadu agwedd synnwyr cyffredin ers blynyddoedd – gan hyrwyddo agwedd sy’n cefnogi darparwyr chwarae i gyflwyno asesiadau risg-budd: gan roi ystyriaeth i fuddiannau profiadau chwarae heriol yn ogystal â rheoli risg i blant a phobl ifainc. Yr agwedd yma y mae’r Arglwydd Young yn argymell y dylid ei ‘datblygu’n ehangach’, ynghyd ag adolygiad o ddeddfwriaethau er mwyn ‘gwahanu chwarae a hamdden oddi wrth gyd-destunau gwaith’. Mae Chwarae Cymru’n aelod o’r Fforwm Diogelwch Chwarae a gynghorodd ac a ddylanwadodd ar Managing Risk in Play Provision: Implementation Guide (2008), sy’n ehangu ar ddatganiad safbwynt y fforwm, Managing Risk in Play Provision (2002). Mae Managing Risk in Play Provision yn amlinellu dull i ddarparwyr chwarae gyflwyno asesiadau risg-budd. Gellir lawrlwytho Common Sense, Common Safety ar: www.number10.gov.uk/news/topstorynews/2010/10/lordyoung-report-55605


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 NEWYDDION

Ymgyrch Strydoedd o Safon Mae Sustrans yn annog pawb i gymryd y camau cyntaf tuag at droi eu ffyrdd yn strydoedd o safon – ac elfen allweddol hyn yw mabwysiadu cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr. Mae’r mwyafrif (o’r 2000 o bobl a holwyd) yn pryderu nad yw’r stryd o flaen y drws ffrynt yn ddiogel ar gyfer eu plant neu hyd yn oed fel man i gwrdd a sgwrsio gydag eraill. Dros y tair blynedd diwethaf mae Sustrans wedi gweithio â chymunedau lleol i wella eu strydoedd gan ddefnyddio camau ailgynllunio rhad, cost-effeithiol sydd wedi eu hanelu at arafu cyflymder traffig ac atal ‘cymryd llwybr tarw’. Mae syniadau syml fel arafu traffig a defnyddio planhigion i greu rhwystrau naturiol wedi eu cyflawni gyda cyn lleied â phosibl o gostau, ond â buddiannau sylweddol. Yn y strydoedd ble y gwelwyd newidiadau o’r fath mae’r trigolion yn teimlo’n fwy diogel – dywed 36 y cant y byddent yn hapus i adael i’w plant chwarae y tu allan (o’i gymharu â dim ond 9 y cant cyn gwneud y newidiadau). Mae’r newidiadau hefyd yn gwella ansawdd bywyd ac yn dod â phobl ynghyd, gyda 40 y cant o drigolion bellach yn cymdeithasu mwy gyda’u cymdogion. Fel yr eglurodd Alex Allen, arbenigwr Sustrans ar ail-gynllunio strydoedd: ‘Mae pobl yn ystyried bod traffig yn rywbeth sy'n effeithio ar yr amgylchedd ^ ffisegol - sy'n cymryd lle, yn achosi sw na llygredd - ond mae'n bosibl bod ei effaith ar fywyd cymdeithasol yn fwy trawiadol fyth. Mae traffig yn atal rhyngweithio a lles cymunedol. Rydym am i awdurdodau lleol gymryd y cam cyntaf tuag at greu mwy o strydoedd o safon trwy ostwng cyfyngiadau cyflymder i 20mya mewn ardaloedd preswyl a threfol.’ Ymwelwch â www.quality-streets.org.uk cyn yr 28 Chwefror 2011 i lobïo eich cynghorydd lleol i ostwng cyfyngiadau cyflymder.

Blwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Brwydro yn Erbyn Tlodi ac Eithrio Cymdeithasol

ae’r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi bod 2010 yn Flwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Brwydro’n Erbyn Tlodi ac Eithrio Cymdeithasol (EY2010). Mae EY2010 yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch pwysigrwydd brwydro’n erbyn tlodi ac eithrio cymdeithasol er budd datblygiad personol, cymdeithasol ac economaidd ac i roi llais i’r rheini sy’n dioddef tlodi ac eithrio cymdeithasol o ddydd i ddydd.

M

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) yw adran arweiniol Llywodraeth y DU (fel yr aelod-wladwriaeth) ar gyfer y flwyddyn. Mae swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynrychiolwyr y Gweinyddiaethau Datganoledig eraill yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn. Yn 2009 ymgeisiodd nifer o sefydliadau am gyllid i gynnal digwyddiadau fel rhan o’r flwyddyn. Yng Nghymru llwyddodd Sefydliad Bevan â’u cais am £25,000 i gynnal cynhadledd (Building a Fairer Wales, 23 Medi 2010) i annog cyfnewid datrysiadau i dlodi ac i gynhyrchu ffilmiau byrion i gofnodi profiadau pobl sy’n byw mewn tlodi. Fel rhan o EY2010 cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yn cynnwys y Gynhadledd Tlodi ddiweddar, ar y thema Where We Live and Learn, a gynhaliwyd gan Achub y Plant yng Nghymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Cafodd Llysgenhadon Ifainc gyfle i dargedu pobl sy’n gwneud penderfyniadau o

bob cwr o Gymru â syniadau a datrysiadau ynghylch sut y gellid gwella eu cymunedau lleol. Cyn siarad yn y Gynhadledd dywedodd Helen Mary Jones, AS Plaid Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc Cynulliad Cenedlaethol Cymru: ‘Mae’n annerbyniol, yn 2010, bod miloedd o blant yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Os ydym i ddelio’n effeithiol â’r heriau yr ydym yn eu wynebu fel cenedl wrth inni fynd ati i ddileu’r cywilydd cenedlaethol yma bydd raid inni wrando, yn iawn, ar leisiau plant a phobl ifainc sy’n byw â chanlyniadau tlodi. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed yr hyn sydd gan y plant a’r bobl ifainc i’w ddweud – rwy’n gwybod y gwnaf ddysgu llawer.’ Yn ogystal, mae Achub y Plant Cymru wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc ar y prosiect My Back Yard – Inspiring Community Change, sy’n anelu i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â thlodi plant yn eu cymunedau. Mae plant o ddwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi dylunio posteri pryfoclyd i gadw eu parciau lleol yn lân a diogel. Caiff detholiad o’r posteri eu harddangos mewn parciau cyhoeddus o amgylch Caerdydd. Mae’r posteri ar gael hefyd i’w lawrlwytho oddi ar wefan Chwarae Cymru. © Sustrans

6

Am fwy o wybodaeth ynghylch EY2010, ymwelwch â www.2010againstpoverty.eu ac am wybodaeth ynghylch EY2010 yng Nghymru, ymwelwch â http://wales.gov.uk/topics/socialjusti ce/ey2010


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 CYFWELIAD

7

Cyfweliad: Huw Lewis Yn ddiweddar fe wnaethom gyfweld y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, am ei atgofion chwarae o’i blentyndod e’ a’r gwahaniaeth y bydd y Mesur Plant a Theuluoedd yn ei wneud i gyfleoedd chwarae ar gyfer plant yng Nghymru. Beth yw eich atgof pennaf am chwarae fel plentyn? Rwy’n siŵr fel llawer o bobl eraill o’r un oed, roeddwn i’n rhan o’r genhedlaeth hynny fyddai’n gadael y ty^’r peth cyntaf yn y bore a fyddai ond yn dod yn ôl i gael bwyd! Cefais fy magu yng Nghymoedd y De felly roeddwn i mas yn yr awyr agored trwy’r amser. Mae’n wahanol iawn i brofiadau chwarae fy mhlant i heddiw, ac ^ r bod hynny’n brofiad cyffredin i rwy’n siw bobl dyfodd lan yn ystod y 60au a’r 70au.

Beth yw eich hoff atgof chwarae? Rwy’n fab y Cymoedd yn y bôn, felly’r mynyddoedd oedd ein caeau chwarae ni. Rholio lawr y llethrau, dringo lan y mynydd a rhedeg lawr mor gyflym â phosibl. Yr holl dir agored yw’r hyn rwy’n ei gofio bennaf.

Beth mae eich plant chi’n hoffi ei wneud a sut fyddwch chi’n cefnogi hynny fel rhiant? Mae rhieni cyfoes i gyd yn awyddus iawn i greu gweithgareddau sy’n berthnasol i’n plant ac mae hynny’n digwydd llawer mwy nag yn y gorffennol. Rwy’n credu mae’r hyn y mae nhw’n ei hoffi fwyaf yw cael cyfle i fynd allan i redeg o gwmpas a chael y rhyddid i ddyfeisio eu chwarae eu hunain, ond fel rhieni rydym yn bryderus iawn y dyddiau hyn ynghylch ansawdd y profiadau y mae’r plentyn yn eu cael. Efallai ein bod yn pryderu gormod am y peth.

Pam gredwch chi ei fod yn wahanol? Mae’n siŵr ein bod i gyd wedi tyfu’n wyliadwrus o faterion sy’n ymwneud â diogelwch plant, yn enwedig, ffyrdd a thraffig. Efallai ein bod yn chwyddo’r pethau hyn yn ormodol yn ein meddyliau ein hunain, ond pan oeddwn i’n fachgen fe allen ni chwarae pêl-droed ar y stryd heb weld yr un car a ’dyw hynny’n sicr ddim yn wir i fy mab.

Sut gredwch chi mae chwarae’n helpu i leddfu effaith tlodi plant? Mae’r cyfle i chwarae’n un peth yr ydym ni yn y Cynulliad o ddifrif yn ei gylch. Mae’n rhan allweddol o ddatblygiad pob plentyn a’r hyn y bydd tlodi plant yn ei wneud i ddifrodi plant yn fwy na unrhyw agwedd arall yw ei fod yn niweidio eu datblygiad. Mae’n dechrau cyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd trwy arafu eu datblygiad arferol yn ystod eu plentyndod ac mae chwarae’n rhan cwbl annatod o hyn. Mae tlodi plant yn gysylltiedig â chyfyngu ar gyfleoedd i chwarae. Mae anghyfiawnderau amgylcheddol yr ardaloedd y mae’n rhaid i blant mewn tlodi fyw ynddynt yn cael effaith aruthrol. Os y byddech chi’n ystyried damweiniau traffig ar y ffyrdd, mae plant mewn tlodi’n fwy tebygol o fod yn rhan o’r mathau hyn o ddamweiniau oherwydd bod yr opsiynau ar gyfer chwarae yn yr awyr agored yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt fel arfer wedi eu cyfyngu oherwydd natur eu cymuned. Mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo chwarae diogel yn gymorth i’w plentyndod a’u datblygiad.

Pa effaith obeithiwch chi gaiff y Mesur Plant a Theuluoedd ar gyfleoedd i blant sy’n chwarae yng Nghymru? Mae’n eithaf cyffrous, oherwydd mae’r Mesur yn cynnwys pennod ar chwarae, felly’r cam nesaf fydd creu rheoliadau, safonau a chanllawiau* fydd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael ar gyfer plant yn eu hardaloedd. Wrth gwrs rhaid cofio’r frawddeg: ‘cyn belled â sy’n resymol ymarferol’; rydym i gyd yn ymwybodol bod cyfyngiadau i gael sy’n golygu bod pethau’n dynn arnom, ond am y tro cyntaf erioed fe geir dyletswydd cyfreithiol ar bob awdurdod lleol i feddwl am chwarae a chyfleoedd chwarae a buddsoddi mewn chwarae – ac fe fydd rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Mae’n pwysleisio ymrwymiad y Cynulliad i chwarae ac mae’n dangos ei fod yn rhan bwysig o’n agenda.

Beth fydd hyn yn ei olygu i’r plant? Rhychwant y cyfleoedd ar gyfer chwarae yn ogystal ag ansawdd y ddarpariaeth. Fyddwn ni ddim bob amser yn sôn am gyfleusterau chwarae sefydlog, i ddweud y gwir, ond fe fyddwn

‘Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am ddewis chwarae fel testun ei dadl fer. Po fwyaf y caiff ei gadw ar yr agenda, y gorau i blant Cymru.’ Dadl fer Yr Hawl i Chwarae yn y Cyfarfod Llawn, 24 Tachwedd 2010.

ni weithiau. Rwyf hefyd yn edrych am welliant mewn cyfleusterau ar gyfer plant anabl yn benodol. Rwy’n credu bod hwn yn fater o bwys, ac rwy’n gwneud fy ngorau, o fewn y cyfyngiadau cyllidebol presennol, i sicrhau ein bod yn cymryd camau ymlaen ar gyfer plant anabl a’r ddarpariaeth chwarae sy’n agored iddynt.

Sut gredwch chi fydd chwarae’n dod i’r amlwg yn eich cynlluniau ar gyfer y fenter Teuluoedd yn Gyntaf? Mae ein hardaloedd arloesi Teuluoedd yn Gyntaf yn datblygu cynlluniau lleol er mwyn rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant. Oherwydd natur y fenter Teuluoedd yn Gyntaf, fyddwn ni ddim yn glynu at fodel ‘un maint yn gweddu i bawb’ nac yn dweud wrth awdurdodau lleol beth ddylid ei gynnwys yn eu cynlluniau. Mae lan iddyn nhw i benderfynu beth mae teuluoedd yn eu hardal nhw ei angen, ac rwy’n siŵr y byddant i gyd yn ystyried rôl bwysig chwarae wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau. Bydd fy swyddogion yn trafod sut y gellid troi chwarae’n elfen mwy integredig o’r fenter Teuluoedd yn Gyntaf yn y dyfodol. * Ymgynghoriad cyhoeddus i’w gynnal ar ôl etholiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2011.


8

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 ADRODDIAD CHWARAE A CHYMDEITHASU

Mannau diogel i chwarae a chymdeithasu Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cyhoeddi adroddiad ar fannau diogel i chwarae a chymdeithasu Ar y 23 o Dachwedd cyhoeddodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc ei adroddiad ar ddarpariaeth mannau diogel i chwarae a chymdeithasu. Mae’r adroddiad yn benllanw ymchwiliad 11 mis o hyd i’r rhwystrau i chwarae ar gyfer plant a phobl ifainc yng Nghymru. Penderfynwyd cynnal yr ymchwiliad wedi i fwy na 2,700 o blant a phobl ifainc bleidleisio bod mannau diogel i chwarae a chymdeithasu’n un o’r prif faterion oedd yn achos pryder iddynt yn ystod prosiect ‘it’s all about you’ y Pwyllgor, a gynhaliwyd yn ystod misoedd haf 2009. Cynhaliwyd digwyddiad chwarae o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd i dynnu sylw at gyhoeddi’r adroddiad. Ymunodd aelodau’r Pwyllgor mewn amrywiol gyfleoedd chwarae ochr-ynochr â phlant a phobl ifainc oedd wedi eu gwahodd draw am y bore. Mae’r adroddiad yn cynnwys rhestr o 26 o argymhellion sy’n cwmpasu meysydd megis blaenoriaeth strategol chwarae,

trafnidiaeth a diogelwch ffyrdd, cynllunio trefol ac anghenion grwpiau penodol o blant a phobl ifainc. Mae’r Pwyllgor wedi gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflawni’r newidiadau y mae’r adroddiad yn eu hargymell. Caiff newidiadau tymor hir yn ogystal â rhai tymor byr eu hargymell gan y Pwyllgor. Trwy gydol yr ymchwiliad cafodd y Pwyllgor ei daro gan farn gref, ond digon amrywiol ar brydiau, y 1200 o blant a phobl ifainc y derbyniwyd tystiolaeth ganddynt. Enynodd holiadur, a ddosbarthwyd gan y Pwyllgor, ymateb cryf gan rai o’r plant a’r bobl ifainc oedd yn teimlo eu bod eisiau oedolyn i’w goruchwylio tra’u bod yn chwarae. Dywedodd rhai eraill, yr un mor huawdl, bod yn well ganddynt gael amser ar eu pen eu hunain gyda’u ffrindiau heb yr un oedolyn o amgylch. Roedd rhai plant a phobl ifainc eisiau cael amser a gofod ar gyfer chwarae’n rhydd, tra bo eraill eisiau gemau a gweithgareddau

Barn Chwarae Cymru ... M

ae Chwarae Cymru’n croesawu cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc. Mae wedi dynodi, yn ddigon cywir, nifer o faterion sydd angen mynd i’r afael â hwy ar fyrder.

Mae cynllun gweithredu’r polisi chwarae (2006) yn amlinellu’r camau gweithredu a ddynododd y Llywodraeth oedd eu hangen i gefnogi, er mwyn troi’r uchelgeisiau hynny’n realiti ar gyfer plant.

Yn ein tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i’r ymchwiliad, hyrwyddodd Chwarae Cymru y syniad bod chwarae a chymdeithasu’n ymwneud â mwy na dim ond cyrraedd cyrchfan; mae’n ymwneud â’r siwrnai trwy ac o amgylch yr amgylchedd a’r gymuned. Fe wnaethom eiriol bod angen inni newid ein hagwedd tuag at chwarae plant a’r amgylchedd trwy ein cymunedau i gyd er mwyn creu Cymru sy’n gyfeillgar i chwarae. Fe wnaethom alw am agwedd mwy cydlynol tuag at gynllunio a darparu ar gyfer chwarae plant ar lefel leol a chenedlaethol.

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) wedi cynnwys gosod gorfodaeth arloesol ar awdurdodau lleol i asesu a throsglwyddo darpariaeth chwarae digonol ar gyfer pob plentyn.

Ers ei sefydlu, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi arddangos ei fod ar flaen y gad o ran meddwl rhyngwladol ar gyd-destun chwarae plant. Gellid dadlau mai Cymru oedd y wlad gyntaf i fabwysiadu polisi chwarae cenedlaethol yn 2002, datganiad o gred y Llywodraeth ym mhwysigrwydd chwarae a’i uchelgais ar gyfer creu gwlad fyddai’n gwerthfawrogi a chefnogi chwarae.

… ond mae plant yn dal i sôn am ddiffyg lle ac amser i chwarae fel un o’r materion allweddol sy’n effeithio ar eu bywydau. Bu’r diffyg cyfleoedd chwarae’n linyn thema trwy dymor o raglenni ar BBC Wales (Gwanwyn 2009) wnaeth ganolbwyntio ar blentyndod yng Nghymru, oedd yn cymharu profiadau plant heddiw â phrofiadau eu rhieni a’u teidiau a’u neiniau. Mae adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc yn dynodi nifer o feysydd allweddol sy’n galw am ymateb; fe wyddom fod y llywodraeth a llywodraeth leol yn ei chael hi’n anodd iawn i newid y modd y byddant yn gweithio, a cheir amharodrwydd diwylliannol i weithio ar draws adrannau. Os fu mater erioed sy’n gofyn am weithio

wedi eu trefnu y gallent ymuno ynddynt. Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd ystyried materion oedd yn ymwneud â chynnwys plant a phobl ifainc yn y broses llunio penderfyniadau, hyfforddiant gweithwyr chwarae, canllawiau iechyd a diogelwch ar gyfer chwarae anturus a rôl ysgolion. Disgwylir i ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2011, a chaiff ei ddilyn gyda dadl ar y mater yn fuan wedyn. Mae’r adroddiad i’w weld ar: www.cynulliadcymru.org/bushome/bus-committees/buscommittees-other-committees/buscommittees-third-cyp-home/buscommittees-third-cyp-inquiry/cyp3_inq-safe_places.htm Bydd ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r adroddiad, yn ogystal â dyddiad a thrawsgrifiad y ddadl, ar gael hefyd ar yr un dudalen maes o law.

ar draws adrannau a mabwysiadu agwedd strategol, yna chwarae plant yw hynny. Mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn. Mae’r adroddiad yn dynodi’r angen am, a buddiannau, darpariaeth chwarae â goruchwyliaeth. Mae hyn yn ategu canfyddiadau arolygon niferus a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf; ’does dim wedi newid. Ein prif bryder yw bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar adeg pan fo’r cymhwyster gwaith chwarae (P3) unigryw, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ariannu Ewropeaidd, yn wynebu cael ei ddiddymu oherwydd diffyg cyllid i sicrhau ei fodolaeth i’r dyfodol. Rydym yn prysur agosáu at gyfnod pryd na fydd digon o staff cymwysedig ar gael i ddigoni’r gofynion rheolyddol, heb sôn am ateb materion megis ansawdd trosglwyddo darpariaeth chwarae. Mae’n rhaid i ni, fel cenedl, gydnabod ein bod yn ceisio gwrthsefyll llanw sylweddol o newid sydd wedi cael effaith andwyol ar chwarae plant. Mae’n rhaid inni newid ein hagwedd, a chydnabod pwysigrwydd cyffredin chwarae i blant. Os y newidiwn ein hagwedd, gallwn ddechrau newid yr amgylchedd i un ble y byddwn yn sicrhau amser a lle i blant wneud yr hyn y maent angen ei wneud … sef chwarae.


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 CYFOETH CHWARAE

9

Pam gwneud amser i chwarae Cefnogaeth i ddarparwyr chwarae i eiriol dros ddarpariaeth chwarae wedi ei staffio Dadlau achos dros ddarpariaeth chwarae Pan fyddwn yn gofyn beth sy’n bwysig iddynt, bydd plant yn dweud wrthym mai chwarae a bod gyda’u ffrindiau yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau. Ond yn aml iawn bydd oedolion yn anghofio pa mor bwysig yw chwarae, a phan ddaw’n fater o ganfod digon o amser, neu o fantoli’r cyfrifon neu i wneud penderfyniadau cynllunio, yn aml caiff chwarae ei wthio’n is i lawr y rhestr o flaenoriaethau. Yn yr erthygl yma byddwn yn ceisio dangos pam fod chwarae mor bwysig, pam fod darpariaeth chwarae angen cefnogaeth ariannol a gwleidyddol a pham fod angen i gynllunwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau i wneud amser ar gyfer chwarae plant fel rhan o’u gwaith. Mae plant yn aelodau o’n cymdeithas hefyd. Gwyddom fod pob agwedd o’u bywyd yn cael ei ddylanwadu gan eu ysfa i chwarae, ond ychydig bach iawn o’n amgylchedd adeiledig a chynlluniedig sy’n rhoi cyfle, neu ganiatâd, iddynt chwarae. Yn 2008 cyhoeddodd Play England, y sefydliad cenedlaethol dros chwarae plant yn Lloegr, adolygiad llenyddol ac ymchwil sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar chwarae plant, Play for a Change. Archwiliodd yr awduron ddealltwriaeth cyfredol o bwysigrwydd chwarae plant a sut y mae hyn yn cydberthyn â llunio polisïau a darpariaeth cyhoeddus ar gyfer chwarae.

Chwarae Mae chwarae’n treiddio trwy pob agwedd o fywyd plant; nid camgymeriad na chyfeiliornad mo hyn – mae chwarae’n gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd a lles plant ac i oroesiad yr hil ddynol, neu fydden ni heb gadw’r ymddygiad yma trwy gydol ein esblygiad. Bydd plant a phobl ifanc yn chwarae’n ddigymell y rhan fwyaf o’r amser ac ym mhle bynnag y byddant, oni bai eu bod o dan straen meddyliol neu gorfforol neilltuol (er enghraifft trwy flinder difrifol, eisiau bwyd, ofn neu salwch) neu ble fo ffactorau amgylcheddol allanol a / neu ffactorau biolegol personol yn eu hatal rhag chwarae.

Buddiannau chwarae i blant – goroesi a ffynnu Nid yw’r rhestr yma o fuddiannau chwarae yn un cyflawn – mae’r ymchwil yn parhau – ond, mae’n cynnig rhyw fath o syniad inni o werth chwarae a’r ystod o fuddiannau gaiff plant o chwarae. Gall chwarae helpu i gynyddu gwytnwch – y gallu i blant ffynnu er gwaethaf adfyd a straen yn eu bywydau. Bydd chwarae’n effeithio ar y modd y caiff gwead genetaidd plentyn ei fynegi, ac ar ddatblygiad cemegol a ffisegol yr ymennydd. Bydd hyn, yn ei dro, yn dylanwadu’n gadarnhaol ar allu’r plentyn i oroesi a ffynnu. Gall plant sydd wedi datblygu ymateb dyfeisgar, chwareus i’w amgylcheddau ... addasu i ymdopi â’r rhain mewn ffyrdd hyblyg, gan arddangos gwytnwch. Mae iechyd corfforol a meddyliol yn gysylltiedig â’i gilydd a chaiff y ddau eu cefnogi gan chwarae – yn wahanol i chwaraeon ymarfer corff mae chwarae’n cael ei yrru gan y plentyn ac mae’n gyfeillgar i blant, mae’n apelio i bob plentyn. [Mae mwynhad, her ac elfen hunan-gyfarwyddo chwarae, yn ogystal â’r ystod o

symudiadau motor, yn fwy effeithlon na rhaglenni ymarfer corff a gyfarwyddir yn allanol, allai fod yn ddiflas neu’n llawn straen. Poulsen a Ziviani, 2004 fel a ddyfynnwyd yn Play for a Change] Mae chwarae corfforol, egnïol, rheolaidd yn helpu i atal clefydau ac yn lleddfu iselder a phoen meddwl. Bydd llawer o blant sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn ‘ail-greu’r’ golygfeydd y maent wedi bod yn dyst iddynt. Dangoswyd bod chwarae yn y fath fodd yn helpu’r broses wella. Mae natur anrhagweladwy a digymell chwarae’n cefnogi datblygu’r gallu i ymateb mewn modd hyblyg i wahanol sefyllfaoedd – i ymdopi ag ergydion bywyd. Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu eu hymdeimlad eu hunain o le ac o berthyn – mae cysylltiad â, a gwybodaeth ynghylch mannau awyr agored, yn cyfrannu at ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae chwarae’n helpu’r ymennydd i ddatblygu mecanweithiau effeithlon ar gyfer dysgu – yn hytrach na throsglwyddo canlyniadau dysgu penodol – a thrwy hynny gyfrannu at allu i ddysgu gydol oes. Mae cysylltiad cryf rhwng chwarae a chreadigedd – mae’n cynnwys meddwl ochrol, dychymyg a datrys problemau. Bydd plant yn ennill ymdeimlad o bleser ac o wobr trwy chwarae – bydd hiwmor a chwerthin yn helpu i ddatblygu cymwyseddau cymdeithasol. Mae chwarae â phlant eraill yn helpu unigolion i ddatblygu cyfeillgarwch a rhwydweithiau cyfoedion cryf – sy’n cyfrannu at wytnwch iechyd, meddyliol a chymdeithasol plant – yn enwedig rhai sy’n byw mewn tlodi.


10

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 CYFOETH CHWARAE

‘Mae chwarae’n caniatáu ar gyfer mynegi a phrofi emosiynau cryfion o fewn cyd-destun digon diogel.’ Brian Sutton-Smith Mae cyfeillgarwch plant, gaiff eu ffurfio trwy chwarae gyda’i gilydd, o fudd cymdeithasol ac yn gatalyddion gwerthfawr i berthnasau cymdeithasol oedolion o fewn cymunedau.

Buddiannau darpariaeth chwarae i blant Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio yn gysyniad cymharol newydd a phrin yw’r ymchwil i’w effeithlonrwydd. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod chwarae plant yn fuddiol am yr holl resymau yr ydym wedi eu rhestru eisoes, ac na ellir deall eu lles a’u datblygiad fel elfen ar wahân i’w amgylchedd. Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon yn amgylchedd ble y gall plant chwarae mewn modd sy’n ddigymell, hyblyg, anrhagweladwy, llawn dychymyg ac wedi ei gyfarwyddo gan y plant eu hunain – mae’r amgylchedd ei hun yn cyfrannu at eu iechyd a’u lles. Bydd gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n unol â’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu gofod y gallant chwarae ynddo. Ceir rhai ffactorau amgylcheddol a / neu fiolegol personol allanol sy’n atal rhai plant rhag chwarae. Caiff rhai plant eu cefnogi i chwarae mewn amgylchedd ble fo gweithwyr chwarae hyfforddedig sy’n gwybod sut i ymyrryd ble fo angen i hwyluso chwarae. Bydd hyn yn ymestyn buddiannau chwarae i blant na fyddent yn elwa ohono fel arfer. Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon yn darparu ‘pair’ i gymdogaeth ble y gall plant, na fyddent yn cwrdd a chymdeithasu â'i gilydd fel arfer, gymysgu mewn cyd-destun digon diogel; bydd hyn yn cynnig profiad o bobl eraill a mwy o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithiau cymdeithasol ehangach sy’n cyfrannu at wytnwch plant. Mae ein cymdeithas yn un sy’n ofni risg yn gynyddol; ceir llai a llai o gyfleoedd i fynegi ymddygiad sy’n cynnwys mentro mewn modd digymell. O fewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon ceir dealltwriaeth y bydd plant yn naturiol yn chwilio am ansicrwydd a heriau fel rhan o’u chwarae, caiff gweithwyr chwarae eu hyfforddi i asesu risg ac i ymyrryd dim ond os y bydd siawns sylweddol y caiff plant eu niweidio. Mae darpariaeth chwarae’n cynnig gofod ‘digon diogel’ ble y gall plant ‘reoli bod allan o reolaeth’. O fewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon ceir dealltwriaeth o bob ffurf a math o ymddygiad chwarae, efallai nad yw hyn yn wir mewn mannau eraill. Er enghraifft, mae chwarae corfforol, gwyllt yn cyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at wytnwch a chlosio cymdeithasol plant (yn enwedig bechgyn) ond mae’n tueddu i gael ei wahardd mewn nifer o gartrefi ac ysgolion. Ceir tystiolaeth bod llawer o rieni bellach yn fwy caeth ynghylch rhyddid eu plant i rodio a chwarae draw oddi wrth y cartref nag mewn cenedlaethau blaenorol. Gall darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon mewn cymdogaethau lleol roi hyder i blant a theuluoedd y gallant chwarae allan heb gael eu niweidio a chynnig dewis ‘digon diogel’ o fannau i gymdeithasu a chwarae draw oddi wrth y cartref. Mae bywydau plant yn cael eu gwladychu fwyfwy gan weithgareddau gaiff eu harwain gan oedolion – mewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon annogir y plant i fod

yn weithredwyr rhyddion – i wneud eu penderfyniadau eu hunain, creu eu man chwarae eu hunain, cyfarwyddo eu chwarae eu hunain. Mae plant yn gwerthfawrogi amgylcheddau ble y gallant fod yn nhw eu hunain a bod yn ddigymell. Mae plant yn ‘neoffilyddion’ – golyga hyn eu bod wastad yn chwilio am ddewisiadau newydd ac amrywiol, sianelau newydd ar gyfer archwilio a darganfod cyfleoedd a symbyliadau newydd er mwyn bod yn hapus ac yn iach. Gall darpariaeth chwarae wedi ei staffio ddarparu’r posibiliadau newydd y mae plant eu hangen i gael y budd mwyaf o’u hamser yn chwarae – fodd bynnag, mae meysydd chwarae offer sefydlog yn tueddu i fod â nifer cyfyngedig o bosibiliadau ar gyfer chwarae plant. ‘Mae awydd oedolion am ddiogelwch, trefn a gwelededd yn wahanol iawn i awydd y plentyn am anhrefn, cysgod a deunyddiau rhydd’. Weithiau caiff chwarae plant ei lesteirio gan anghymeradwyaeth a gwerthoedd oedolion. Fel rhan o’u chwarae bydd plant angen bod yn wirion, cwympo mas, chwarae’n wyllt a chorfforol, gwneud sŵn a llanast, bod yn ddigywilydd ac yn greulon a dysgu’r canlyniadau gan eu cyfoedion, a dinistrio yn ogystal â chreu. Mae mynegi’r anghenion hyn yn annerbyniol mewn nifer o amgylcheddau a sefyllfaoedd – fe’u derbynir fel rhan o ystod chwarae plant o fewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon. Caiff plant eu cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau o fewn darpariaeth chwarae – o benderfynu a thrafod sut y byddant yn chwarae gyda’i gilydd, i ddewis gweithwyr chwarae newydd, bydd hyn yn cynnig cyfle ar gyfer cyfranogi ac asiantaeth bersonol sy’n aml ar goll mewn elfennau eraill o’u bywydau. Mae llai a llai o blant yn chwarae allan yn ein parciau a’n strydoedd – un o’r rhesymau am hyn yw diffyg hyder yn eu diogelwch, rheswm arall yw anoddefgarwch cynyddol tuag at eu hymddygiad chwarae, ond yn ogystal mae plant yn amharod i fynd allan i chwarae os nad oes neb arall i gwrdd â nhw ac i chwarae â nhw. Mae plant sy’n tyfu i fyny heddiw’n tueddu i fod â llai o gyfleoedd i gwrdd â’i gilydd ac i chwarae’n annibynnol – mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio’n cynnig cyfle o’r fath. Mae’r gweithwyr chwarae a geir mewn darpariaeth chwarae wedi eu hyfforddi i gefnogi chwarae plant trwy ddarparu deunyddiau, man diogel a chaniatâd – ni fyddant yn cyfarwyddo chwarae’r plant nac yn ymuno yn y chwarae, oni bai eu bod yn cael eu gwahodd i ymuno. Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio o fewn cymuned yn dangos i’r bobl sydd yn y gymuned honno bod chwarae’n bwysig – mae ganddo hefyd rôl eiriolaeth a gwaith maes pwysig. Nid yw sefyllfa chwarae wedi ei staffio’n ‘ghetto’ chwarae, ond yn hytrach mae’n un o’r elfennau ddylai fod yn ystod eang o ddewisiadau a chyfleoedd ar gyfer chwarae o fewn cymuned plentyn. Hyfforddir gweithwyr chwarae i eiriol dros chwarae plant – i hyrwyddo’r syniad bod chwarae’n normal ac yn angenrheidiol ac yn ymddygiad sydd i’w groesawu mewn unrhyw fan ble y bydd plant yn teithio trwyddo neu’n treulio amser ynddo. Mae’r cwricwlwm gwaith chwarae, gaiff ei gefnogi o fewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon, yn cynnwys chwarae gyda’r elfennau. Caiff plant eu hannog i chwarae ^ gyda daear, awyr, dw r a thân mewn cyd-destun digon diogel ble mae oedolion wrth law fydd yn asesu risg yn barhaus ac yn cefnogi arfer diogel. I rai plant dyma eu hunig brofiad o’r elfennau – neu’r unig fan yn eu bywydau ble y bydd ganddynt hawl i chwarae â nhw. Ble fo plant wedi eu trawmateiddio gan ddigwyddiadau yn eu bywydau, bydd yr agwedd gwaith chwarae’n cefnogi ‘chwarae allan’ ac ailgreu profiadau anodd mewn modd sensitif ac anfarnol. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn sydd


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 CYFOETH CHWARAE wedi bod yn dyst i drais difrifol o fewn y teulu yn ail-greu digwyddiadau o’r fath wrth chwarae – mae gweithwyr chwarae wedi eu hyfforddi i gymryd amgylchiadau ac ysfa chwarae’r plentyn i ystyriaeth ac i ymateb heb eu ceryddu. Mae’n bosibl na fydd chwarae o’r fath yn derbyn yr un ymateb sensitif mewn mannau eraill ym mywyd y plentyn. Gall darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon greu canolbwynt i gymuned, yn debyg iawn i’r hyn y bydd ysgolion yn ei gynnig yn ystod y tymor, neu fel yr arferai capeli ac eglwysi yn y gorffennol, maent yn cynnig cyfleoedd anfygythiol i oedolion a phobl ifanc i wirfoddoli a chymryd rhan. Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio’n darparu cyfleoedd gwaith a datblygu’r gweithlu o fewn cymunedau. Mae plant a theuluoedd yn gwerthfawrogi darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon; y perthnasau y byddant yn eu ffurfio trwyddo a’r cyfraniad y mae’n ei wneud i gymunedau. Po orau a mwyaf cynhwysfawr yw’r ddarpariaeth chwarae mewn cymuned, y mwyaf tebygol y mae teuluoedd o gael eu denu i fyw yno, oherwydd eu bod yn gwybod y caiff eu plant eu gwerthfawrogi ac y caiff anghenion eu plant eu cwrdd.

11

Casgliad Mae chwarae’n allweddol bwysig i iechyd a lles plant. Mae plant yn gyd-aelodau o gymdeithas ond eto, mae’r mannau y byddant yn treulio amser ynddynt fwy na heb yn wael mewn posibiliadau chwarae. Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio’n ddewis gwerthfawr sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo chwarae plant yn eu cymuned.

Darllen pellach Joost Beunderman, People Make Play: The impact of staffed play provision on children, families and communities (Play England, 2010) Play England (ymchwil Matrix), An economic evaluation of play provision (2010) Stuart Lester a Martin Maudsley, Play, Naturally (Play England, 2007) Stuart Lester a Wendy Russell, Play for a change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives (Play England, 2008)

Pam fod buddsoddi mewn chwarae yn bwysig Mae cynaladwyedd yn air a ddefnyddir yn aml gan bobl sy’n ariannu ac yn gwneud penderfyniadau. Yma rydym yn archwilio yr hyn y mae’n ei olygu i wasanaethau chwarae. Wedi ei wreiddio yn y gymuned Nid yw cynnal darpariaeth yn ymwneud â chyllid yn unig – mae hefyd yn ymwneud llawer â phobl. Mae cynnal darpariaeth chwarae’n bwysig i blant a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt – i fod yn gynaliadwy, byddwn angen cefnogaeth a chyfranogaeth y gymuned sy’n byw o’n hamgylch. Mae darpariaeth chwarae o safon wedi ei wreiddio yn y gymuned leol ac mae’n ffynnu ar berthnasau cryfion ag aelodau o’r gymuned – yn enwedig plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Bydd meithrin perthnasau cadarnhaol o fewn y gymuned leol 365 dydd y flwyddyn yn golygu bod â grŵp parod o ddarpar gefnogwyr sy’n deall gwerth y ddarpariaeth. Bydd cefnogwyr yn rhannu eich pryderon os yw’r gwasanaeth chwarae’n cael ei gwtogi neu ei ddileu. Er mwyn i unrhyw ddarpariaeth chwarae wedi ei staffio fod yn llwyddiannus, boed yn faes chwarae antur neu’n brosiect chwarae peripatetig sy’n gweithio ar lain las lleol, bydd ymdeimlad o berchenogaeth a chyfranogaeth cymunedol yn allweddol. Bydd datblygu cysylltiadau a pherthnasau da gyda phobl ddylanwadol, megis cynghorwyr lleol, trigolion eraill a busnesau lleol, a darparwyr eraill, megis ysgolion, yn creu cronfa eang o bobl i’w recriwtio i gefnogi unrhyw ymgyrch ar gyfer cynnal y prosiect.

Cyfranogaeth Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gyfranogi a mynegi eu barn ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau – mae ganddynt hefyd ddiddordeb byw mewn cynnal darpariaeth chwarae o safon. Bydd cyfranogaeth gwirfoddol plant a phobl ifanc mewn unrhyw ymgyrch nid yn unig yn strategol (bydd gwleidyddion a phobl sy’n gwneud penderfyniadau’n amharod i gael eu condemnio gan y cyhoedd am ‘niweidio’ aelodau mwyaf

bregus ein cymdeithas), ond bydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt fod yn rhan o broses wleidyddol a chymdeithasol. Un enghraifft o weithredu llwyddiannus yw pan y bu i blant Llaneirwg benderfynu i dapio eu hunain yn sownd i’r tanc mawr oedd yn ffocws canolog i’w gwasanaeth chwarae lleol, ac na fu modd i’r lori a ddaeth i’w nôl i’w gludo i ffwrdd.

Swyddi lleol ar gyfer pobl leol Un ffordd o feithrin perthnasau lleol cadarnhaol yw trwy gyflogi pobl leol (unai ar sail cyflogedig neu fel gwirfoddolwyr) fydd yn dod â phob math o fuddiannau gyda hwy, yn cynnwys gwybodaeth leol a dealltwriaeth o rinweddau cyfoethog diwylliant a hanes y gymuned leol. Tra ei bod yn bwysig i gael tîm cytbwys o staff sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol a / neu arbenigedd penodol, gellir hyfforddi staff a aned ac a faged yn lleol i’r lefel angenrheidiol a gallant ychwanegu at ansawdd y berthynas gyda’r plant a’r gymuned.

Materion ariannol Mae’n bwysig i beidio â dibynnu’n llwyr ar un ffynhonnell ariannu ac i gynllunio ymlaen llaw. Efallai bod cyllid statudol ar gael gan yr awdurdod lleol, neu bod cyllid an-statudol ar gael gan ymddiriedolaethau elusennol – bydd angen inni neilltuo amser ar gyfer ymchwilio a dal i ymgeisio am arian fel rhan o’n patrwm gwaith bob dydd (gaiff ei gynnwys mewn swydd ddisgrifiadau a chynlluniau gwaith, ar yr agenda yng nghyfarfodydd y bwrdd rheoli.)

Monitro a chofnodi Yn aml iawn caiff y rhain eu gadael oddi ar y rhestr pethau i’w gwneud, ond mae angen inni gymryd amser yn rheolaidd i fonitro, gwerthuso a chofnodi’r buddiannau y bydd ein gwasanaethau chwarae’n eu cynnig i blant a’u cymunedau lleol. Bydd monitro a chofnodi’n darparu tystiolaeth am yr angen i gynnal y gwasanaeth presennol yn ogystal â chefnogi ceisiadau ariannu. Mae mwy a mwy o ddarpar gyllidwyr yn chwilio am dystiolaeth y bydd eu buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth mesuradwy i blant – os nad yw’r dystiolaeth yma gennym, mae’n bosibl y byddwn yn colli allan.


12

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 DATBLYGU’R GWEITHLU

Cwrs Cymraeg P Wedi hir ymaros a chynllunio, cynhaliwyd y cwrs cyfrwng Cymraeg cyntaf erioed o Wobr Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) yng Nghaernarfon yn ystod yr haf. Dafydd Myrddin Hughes, un o’r ddau hyfforddwr cyfrwng Cymraeg, sy’n ateb ein cwestiynau am effaith a phwysigrwydd y cwrs. Soniwch rywfaint am eich hun a’r modd y dechreuoch ym maes gwaith chwarae, ac yn benodol sut y daethoch yn hyfforddwr P3? Dair blynedd yn ôl fe wnaeth un o’m cydweithwyr fy annog i ymgeisio am fy rôl presennol fel Swyddog Datblygu Chwarae Rhanbarthol gyda Fforwm Chwarae Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r rôl yma’n cynnwys datblygu’r fframwaith ar gyfer cynnal datblygiad chwarae yn y rhanbarth. Mae gennyf nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio ym maes datblygu cymunedol, datblygu chwaraeon ac fel gweithiwr chwarae. Pan ddaeth cyfle imi gymryd rhan yng nghwrs anhygoel P3 – Hyfforddi’r Hyfforddwr – fe achubais ar y cyfle, ac ers hynny rwyf wedi hyfforddi 47 o ddysgwyr. Rwy’n un o ddeg o frodyr a chwiorydd a faged ar fferm yng Ngogledd Orllewin Cymru. Dyma ble y treuliais y rhan fwyaf o fy amser chwarae. O edrych yn ôl, credaf fod tarddiad unrhyw lwyddiant yn deillio o fy mhlentyndod ar y fferm, ble roedd pob munud o bob diwrnod yn antur ac yn addysg.

Beth sy’n arbennig am y cwrs P3 o’i gymharu â chyrsiau eraill y bu ichi eu trosglwyddo? Mae nifer o rinweddau arbennig i’r cwrs P3 – mae’n ymarferol, yn gyfredol ac yn realistig o ran y disgwyliadau a’r wybodaeth a roddir i ddysgwyr. Mae amgylchedd cyfforddus a chyfeillgar trosglwyddo’r cwrs yn arbennig, yn ogystal ag yn unigryw. Mae’r dysgwyr yn teimlo bod y daith P3 yn arbennig iawn oherwydd natur defnyddiol yr hyn y byddant yn ei ddysgu a’r buddiannau y mae’n eu cynnig. Fel un sydd wedi cwblhau’r cwrs, gallaf dystio bod P3 yn gwrs sy’n gwneud i’r dysgwr deimlo cymaint yn well ac yn fwy balch am ei hun a’i ddewis o yrfa. Mae hyn oherwydd y cyfoeth o wybodaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y byddant yn ei ennill yn ystod P3, sy’n cwmpasu pob elfen o’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.

Pam ydych chi’n credu ei bod yn bwysig bod y cwrs hwn ar gael i’w drosglwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg? Mewn ardaloedd o Gymru, fel Gwynedd, ble mai’r Gymraeg yw mamiaith tua 80 y cant o’r boblogaeth, mae’n hanfodol bod cyrsiau’n cael eu cynnig yn ddwyieithog. Bydd hyn yn golygu y gallwn daenu’r rhwyd dros gynulleidfa ehangach o ddysgwyr sy’n dymuno, ac sydd angen, cymryd rhan mewn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn helpu’r hyfforddwr i ymgysylltu’n briodol â’r dysgwyr ac i drosglwyddo

3

brwdfrydedd hyfforddwyr P3 ynghylch gwaith chwarae mewn modd y gall y dysgwr unigol wneud synnwyr ohono a chroesawu’r neges. Rwy’n credu hefyd ei fod yn cyfoethogi ansawdd y cwrs o ran cyfranogaeth y dysgwyr, trwy ganiatáu iddynt ddilyn y cwrs yn eu hiaith eu hunain.

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y gweithwyr chwarae a gyfranogodd yn y cwrs? Mae’n ymddangos bod y gweithwyr chwarae’n gwerthfawrogi eu proffesiwn lawer mwy, ac mae eu rheolwyr yn sicr yn gwerthfawrogi barn y gweithwyr chwarae ac yn gwrando ar eu barn ynghylch sut i hwyluso eu darpariaeth chwarae. Mae’r gweithwyr chwarae’n siarad â’i gilydd â llawer mwy o wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch sut y byddant yn dewis ymyrryd yn y modd y bydd plant yn chwarae.

Beth yw’r her fwyaf i chi fel hyfforddwr gwaith chwarae? ’Does dim heriau o gwbl ynghylch trosglwyddo’r cwrs gan fod y cyfan yn dirwyn yn ei flaen yn gwbl naturiol trwy fy mhrofiad ac ansawdd y deunyddiau gan Chwarae Cymru. Ond, pe bawn i’n gwisgo fy het trefnydd ac asesydd, daw nifer o heriau i’r meddwl – yn ymwneud â diffyg arian ac amser yn bennaf! Yn dilyn y cwrs dywedodd Swyddog Chwarae Gwynedd, Ceri Rhiannon Jones: ‘Braf oedd gweld y plant a’r bobl ifanc yn mwynhau chwarae rhydd yn sgîl y cwrs P3. Credaf fod y cwrs wedi bod yn hynod lwyddiannus a bod y gweithwyr chwarae wedi magu hyder a chael syniadau newydd. Mae’r cynlluniau chwarae yn mynd o nerth i nerth ac mae’r cwrs wedi dod â gwedd newydd ar chwarae i ni.’ Sylwadau dysgwyr yn dilyn y cwrs P3 Cymraeg: ‘Mae’n agoriad llygaid o beth ddylai chwarae fod er mwyn datblygiad plant, a beth yw gwir rôl gweithiwr chwarae mewn darpariaeth.’ ‘Gwerth chweil! Digon o hwyl!’ ‘Dylai pob rheolwr/wraig fynychu’r cwrs gan ei fod yn dangos ochr arall chwarae. Drwy gael rheolwyr i fynychu’r cwrs, bydd darparu chwarae rhydd yn rhwyddach yn y dyfodol.’ ‘Rwy’n teimlo bod genai fwy o hyder o sut a phryd i ymyrryd, neu beidio, mewn chwarae … rwy’n fwy hyderus wrth roi mwy o ryddid i’r plant.’

Y diweddaraf am P3 Rhwng mis Chwefror 2009 a mis Gorffennaf 2010 llwyddodd cyfanswm o 208 o ddysgwyr i gwblhau ein cymhwyster lefel 2, Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3). O’r 208 o ddysgwyr – mae 175 wedi cymhwyso i safon Gwobr lefel 2; mae 24 wedi cymhwyso i safon Tystysgrif lefel 2; ac mae 9 yn weithwyr chwarae lefel 2 cwbl gymwysedig – gan iddynt gwblhau tair rhan P3.


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 DATBLYGU’R GWEITHLU

Cais Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ydym wedi ymgeisio am gyllid gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Os y byddwn yn llwyddiannus, bydd y prosiect hwn yn cynyddu proffil a sgiliau’r gweithlu gwaith chwarae, gan annog dysgu gydol oes, datblygu a throsglwyddo rhaglenni Sgiliau Allweddol ar gyfer gwaith a throsglwyddo hyfforddiant a chymwysterau achrededig.

R

Bydd Undeb Unite, Chwarae Cymru a SkillsActive yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid lleol a chenedlaethol eraill i gefnogi gweithwyr chwarae rhan amser a rhai sydd ar gyflogau isel yn bennaf, llawer ohonynt yn fenywod; gan eu hyfforddi a’u mentora i wella eu sgiliau, eu cyfleoedd dysgu a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Bydd y prosiect yn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau i ddysgu ac yn sicrhau cyfartaledd mynediad i ddysgu ar draws y sector a chynyddu ansawdd darpariaeth chwarae yng Nghymru. Caiff Cynrychiolwyr Dysgu Undebau eu henwebu ar draws Cymru. Os y caiff y cyllid ei sicrhau gan WULF rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn dechrau ar y 1af o Ebrill 2011.

13

Cyfathrebu Clir … ae Gwaith Chwarae Cymru wedi lansio strategaeth cyfathrebu newydd – Cyfathrebu Clir … – fydd yn anelu i wella sgiliau cyfathrebu o fewn y sector, i weithio ar y cyd ag eraill i rannu’r gwaith o raeadru gwybodaeth o fewn y sector gwaith chwarae ac ymysg gweddill y gweithlu plant.

M

Caiff Cyfathrebu Clir … ei hysbysu gan ddau ddigwyddiad ymgynghorol Gwaith Chwarae – Dyfodol o Safon a gynhaliwyd gan Gwaith Chwarae Cymru. Mae’r strategaeth yn amlinellu cynllun Gwaith Chwarae Cymru ar gyfer cyfathrebu â chynulleidfaoedd allweddol, annog cyfranogaeth a gweithio ar y cyd, a dynodi a chyfathrebu â chynulleidfaoedd newydd. Fel rhan o’n cynllun i sicrhau gwell cyfathrebu o fewn y sector byddwn yn defnyddio eiconau i ddynodi natur yr ymateb sydd ei angen i wybodaeth y byddwn yn ei raeadru:

MAE AMSER YN BRIN CADW AT ETO LLEDAENU’R NEWYDD NEWID YN Y GWYNT Cadwch olwg am yr eiconau hyn yn ein cyfathrebiadau yn y dyfodol. Mae Strategaeth Cyfathrebu Cyfathrebu Clir … ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Gwaith Chwarae Cymru: www.gwaithchwaraecymru.org.uk

Ariannu gweithwyr chwarae trwy Gronfa Swyddi’r Dyfodol Mae tîm chwarae Bro Morgannwg a Play Right (cymdeithas chwarae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot) ill dau wedi elwa o ariannu trwy fenter Cronfa Swyddi’r Dyfodol i gyflogi staff tymor byr. Mae menter Cronfa Swyddi’r Dyfodol yn creu cyfleoedd ar gyfer pobl ifainc 18 i 24 mlwydd oed sydd wedi bod yn ddi-waith ers dros chwe mis. Bro Morgannwg Yn ddiweddar treuliodd Sian Offen a Phillipa Morgan chwe mis yn gweithio gyda thîm datblygu chwarae Cyngor Bro Morgannwg; gan ymuno â thîm o weithwyr chwarae i ddarparu cyfleoedd chwarae ar draws y sir. Yn ogystal â datblygu eu sgiliau gwaith chwarae fe ymgymerodd y ddwy â nifer o gyrsiau hyfforddi, sy’n ychwanegiadau gwerthfawr i’w CV’s, yn cynnwys cymorth cyntaf ac iaith arwyddion. Meddai Joanne Jones, swyddog datblygu chwarae’r Fro, ‘Fel cyflogwr, fe fu’n gyfle gwych i gefnogi dwy weithwraig oedd, pan ddaethon nhw atom yn gyntaf, â fawr ddim gwybodaeth ynghylch chwarae na’r effaith gaiff chwarae ar y plant a’r bobl ifainc y byddwn yn gweithio â nhw. Rwyf wedi gwylio’r ddwy yn datblygu i fod yn unigolion hyderus yn ogystal ag yn weithwyr chwarae proffesiynol.’

Play Right Ariannwyd pedwar lleoliad gyda Play Right trwy Gronfa Swyddi’r Dyfodol – gweithwraig chwarae gynorthwyol (Emma); cynorthwywraig greadigol (Holly); cynorthwywraig weinyddol

(Nicola); cynorthwywraig warws (Lynne). Mynychodd y bedair hyfforddiant oedd yn berthnasol i’w rôl ac fe’u cynorthwywyd i ddiweddaru eu CV’s. Dywedodd Patricia Cutler, Cyfarwyddwraig Play Right, ‘Y prif fuddiannau i Play Right oedd cynyddu cwmpas gwaith y staff gan alluogi’r mudiad i barhau i ehangu ein gweithgarwch. Er enghraifft, bydd y gynorthwywraig greadigol, ynghyd â’r gynorthwywraig warws, yn rhedeg gwasanaeth maes i ddwy ardal wledig yng Nghanolfannau Plant Integredig (CPI) Castellnedd – gan fynd â’r storfa sborion at ein aelodau ddwywaith y mis. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynyddu ein rhifau aelodaeth ac yn cefnogi darparwyr chwarae sy’n ei chael yn anodd i ymweld â’r Ganolfan Adnoddau Chwarae i gasglu deunyddiau. Mae cefnogaeth Cronfa Swyddi’r Dyfodol wedi galluogi Play Right i ehangu ac wedi cyfrannu’n sylweddol at gynaladwyedd y gymdeithas.’ Am fwy o wybodaeth ynghylch sut y gallai eich sefydliad chi elwa o fenter Cronfa Swyddi’r Dyfodol, ymwelwch â: http://new.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/learning /guarantee/futurejobsfund/?skip=1&lang=cy


14

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 IPA 2011

Chwarae i’r Dyfodol goroesi a ffynnu 4 - 7 Gorffennaf 2011, Caerdydd - Cymru Cynhadledd fyd-eang 50ed pen-blwydd yr International Play Association Sut allwn ni greu dyfodol ble y caiff chwarae ei werthfawrogi a ble fo pob gwlad a chymdogaeth yn cynnal hawl pob plentyn i gael amser, rhyddid ac amgylchedd digon diogel ar gyfer chwarae yn eu ffordd eu hunain? Mae 18ed cynhadledd yr International Play Association yn cynnig pedwar diwrnod ar gyfer rhannu tystiolaeth, profiadau ac enghreifftiau o arfer da gyda chydweithwyr o bob cwr o’r byd.

Pwy ddylai fynychu? Dylai pawb sydd â diddordeb personol neu broffesiynol mewn chwarae plant a phobl ifainc fynychu. Yn fwy penodol: darparwyr gwasanaethau plant a phobl ifainc; darparwyr amgylcheddau ar gyfer plant a phobl ifainc; eiriolwyr dros hawliau plant a phobl ifainc; llunwyr penderfyniadau a pholisïau mewn llywodraeth leol a chenedlaethol a’r

Archebwch eich lle Bydd angen i bob cyfranogwr a chyfranwr gofrestru ar gyfer lle cyfranogwr cynhadledd trwy wefan y gynhadledd:

sector gwirfoddol; darlithwyr, myfyrwyr, ymchwilwyr a darparwyr addysg a hyfforddiant.

Siaradwyr Brian Sutton-Smith PhD Sudeshna Chatterjee PhD Marc Bekoff Bob Hughes Wendy Russell a Stuart Lester Fe dderbyniwyd 265 o grynodebau o 32 o wledydd o bob cwr o’r byd – o Awstralia i Iran ac o Frasil i Wlad Pwyl. Diolch i bawb a gyflwynodd grynodeb i’w hystyried. Cafodd y crynodebau i gyd eu hadolygu’n annibynnol yn unol â’r

^ themâu gan aelodau o Grw p Ymgynghorol y Rhaglen. Caiff pawb a gyflwynodd grynodeb eu hysbysu os y derbyniwyd neu os y gwrthodwyd eu crynodeb trwy ebost, yn ogystal â’r fformat a benodwyd ar gyfer y cyflwyniad erbyn 31 Ionawr 2011 fan bellaf. ^ p Diolch hefyd i aelodau Grw Ymgynghorol y Rhaglen am eu cymorth a’u cefnogaeth parhaus i adolygu’r holl grynodebau a gyflwynwyd.

Cyhoeddir rhaglen ddiwygiedig y gynhadledd ar wefan cynhadledd 2011 yr IPA ar ddechrau’r flwyddyn newydd.

Mynychu pedwar diwrnod y gynhadledd

Cofrestru’n Gynnar erbyn 31/12/10

Cofrestru ar ac ar ôl 01/01/11 tan 01/06/11

Cofrestru ar ôl 01/06/11

Aelod o’r IPA

£425

£450

£550

Cyfranogwr Cyffredin

£475

£500

£600

Aelod o’r IPA

£140 y dydd

£160 y dydd

£180 y dydd

Cyfranogwr Cyffredin

£150 y dydd

£175 y dydd

£200 y dydd

Pris Dyddiol (o leiaf deuddydd)

www.ipa2011.org/registration Mae’r ffïoedd i gyd yn cynnwys pecyn cynhadledd a bag, cinio a lluniaeth, digwyddiadau cymdeithasol gyda’r nos ynghyd â bwyd, a gwibdeithiau. I’r rheini sy’n methu bod yn bresennol ar gyfer pedwar diwrnod llawn y gynhadledd, ceir dewis i gofrestru (archebu) lle ar gyfer deuddydd neu dridiau. Mae nifer cyfyngedig o leoedd cynhadledd ar gael i fyfyrwyr am bris gostyngedig – dim ond £250 am y pedwar diwrnod llawn. Mae’r cynnig arbennig hwn ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio’n llawn amser yn y DU. Bydd angen darparu prawf o’ch statws myfyriwr i gadarnhau’r archeb.

Bydd llety rhad, o fewn cyrraedd cerdded i leoliad y gynhadledd, ar gael i gyfranwyr a chyfranogwyr yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd o ddim ond £24 y person y noson – www.ipa2011.org/university_halls Oes gennych ddiddordeb bod yn un o noddwyr IPA 2011? Neu oes gennych ddiddordeb hurio gofod arddangos y tu mewn neu’r tu allan i leoliad y gynhadledd? Cysyllter â kathy@playwales.org.uk neu ar 020 2048 6050 Mae Clochdar dros Chwarae yn ddigwyddiad i blant ddathlu eu hawl i chwarae.

Fe ddaw gweithwyr chwarae cymwysedig o bob cwr o Gymru ynghyd i greu amgylchedd diddorol, creadigol ac amrywiol ble y caiff plant deimlo rhyddid i chwarae yn eu ffordd eu hunain ac ar eu telerau eu hunain. Os ydych yn ddarparwr chwarae ac yr hoffech chwarae rhan yn Clochdar dros Chwarae cwblhewch y ffurflen Mynegi Diddordeb sydd ar gael i’w lawrlwytho oddi ar www.ipa2011.org Rydym wedi gwahodd 1000 o blant i fynychu Clochdar dros Chwarae. Bydd cyfranogwyr rhyngwladol y gynhadledd yn bresennol hefyd wrth i Gae Cooper, Caerdydd gael ei drawsnewid yn ardal chwarae.

www.ipa2011.org


Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 AELODAETH 2011

15

Ymunwch â Chwarae Cymru Un diwrnod bydd Cymru yn wlad ble y byddwn yn cydnabod ac yn darparu ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn

ae Chwarae Cymru’n elusen ac yn fudiad cenedlaethol dros chwarae plant sy’n darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer pob un yng Nghymru sydd ynghlwm neu’n gyfrifol am unrhyw amgylchedd ble y gallai plant a phobl ifainc chwarae.

M

Rydym yn cynnal hawl plant i chwarae yn unol ag Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae chwarae a ddewisir o wirfodd yn allweddol bwysig i ddatblygiad iach pob plentyn a pherson ifanc - waeth beth fo’u diwylliant, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen. Mae gan bob plentyn hawl i dderbyn darpariaeth chwarae o safon yn eu cymunedau ac rydym yn gweithio’n strategol i gyflawni’r nod yma ar eu rhan.

Beth allwch chi ei wneud i ni

Beth allwn ni ei wneud i chi

• Helpu i hysbysu ein safbwyntiau polisi a dylanwadu ar drafodaethau a gweithio gyda’r llywodraeth ac asiantaethau eraill • Amlygu materion sy’n peri pryder a dylanwadu ar bolisïau gyda llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol • Rhannu cefnogaeth, arfer gorau a gwybodaeth gydag aelodau eraill • Ein cynghori ynghylch eich profiadau personol o weld trosi polisi’n wirionedd. Mae’n rhaid i gyfeiriad polisïau cenedlaethol fod yn ystyrlon ac yn effeithlon ar gyfer chwarae plant • Enwebu a chael eich enwebu i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru ^ • Eistedd ar Grw p Ymgynghorol Gwasanaeth Gwybodaeth Chwarae Cymru • Ac yn 2011, gweithio gyda ni i sicrhau y bydd cynhadledd fyd-eang yr International Play Association, sy’n cael ei threfnu gan Chwarae Cymru, y gynhadledd chwarae a gwaith chwarae orau erioed ...

Yn ogystal â derbyn Chwarae dros Gymru, cylchgrawn Chwarae Cymru, byddwch yn: • derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi • derbyn e-fwletinau rheolaidd yn llawn newyddion am ariannu a digwyddiadau • derbyn cipolwg cynnar ar erthyglau o ddiddordeb a thaflenni briffio • derbyn ymatebion drafft i ymgynghoriadau cenedlaethol, i wahodd eich sylwadau ac i hysbysu eich ymatebion eich hunain • arbed arian ar ffïoedd seminarau a chynadleddau • derbyn gostyngiadau ar gyhoeddiadau • cael mynediad i wiriadau rhad ac am ddim gyda’r Biwro Cofnodion Troseddol ar gyfer staff sy’n gweithio mewn darpariaeth rheoledig • gallu gwneud defnydd llawn, yn rhad ac am ddim, o’n llyfrgell gynhwysfawr yng Nghaerdydd • derbyn poster rhad ac am ddim • elwa o hysbysebu recriwtio rhad ac am ddim ar gyfer eich swyddi gweigion cysylltiedig â chwarae ar ein gwefan ac yn ein e-fwletinau

Ymunwch ac ychwanegwch eich llais Mae aelodaeth cyswllt yn agored i bob sefydliad ac unigolyn sy’n byw yng Nghymru. Mae aelodaeth cyswllt rhyngwladol yn agored i unrhyw sefydliad neu unigolyn sy’n byw neu’n gweithio y tu allan i Gymru hoffai gefnogi gwaith Chwarae Cymru. Mae’r buddiannau aelodaeth yn gyfyngedig gan ein bod, fel elusen, wedi ein cofrestru i weithio er budd plant a phobl ifainc yng Nghymru.

Gofynnir i bob aelod i arddel: - yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, a - Pholisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru (gellir gweld y ddau ar ein gwefan) Gallwch ymuno â ni trwy gwblhau a dychwelyd y ffurflen gofrestru aelodaeth amgaeëdig neu trwy ymweld â’n gwefan: www.chwaraecymru.org.uk


16

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 DIGWYDDIADAU AC ARIANNU

Digwyddiadau ‘Everybody’s Business’ Cynhadledd Flynyddol y Playwork Inclusion Project (PIP) 24 Chwefror 2011 Llundain www.kids.org.uk

Cynhadledd Genedlaethol Gwaith Chwarae 1 – 2 Mawrth 2011 Eastbourne www.playworkconferences.org.uk

Cynhadledd Athroniaeth Chwarae 12 – 13 Ebrill 2011 Prifysgol Swydd Gaerloyw http://insight.glos.ac.uk/faculties/as/ newsandevents/Pages/default.aspx

‘Play and Health’: 37ed Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol TASP (The Association for the Study of Play) 27 – 30 Ebrill 2011 Rochester, Efrog Newydd http://tasplay.org/conference.html

Ariannu Grantiau Plant Mewn Angen y BBC Mae grantiau Plant Mewn Angen y BBC yn agored i sefydliadau sy’n gweithio â phlant a phobl ifainc difreintiedig sydd yn 18 mlwydd oed neu iau. Mae’n rhaid i’ch mudiad a’ch prosiect fod wedi ei leoli yn y DU a bydd angen ichi fod yn elusen gofrestredig neu’n fudiad di-elw arall. Gallwch ymgeisio am: Grantiau Bychain o £10,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd, neu Brif Grantiau dros £10,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd. Dyddiadau Cau nesaf: 15 Ionawr 2011 a’r 15 Ebrill 2011 www.bbc.co.uk/pudsey/grants/general_grants.shtml

Gwasanaeth Gwybodaeth Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Chwarae Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad ar chwarae a darpariaeth chwarae. Mae ein Tîm Cyfathrebu’n gweithio’n galed fel bod pawb sydd â diddordeb mewn chwarae plant yng Nghymru’n derbyn yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Mae ein gwefan, a’r adran newyddion gaiff ei diweddaru’n rheolaidd, yn rhan allweddol o’n Gwasanaeth Gwybodaeth. Rydym hefyd yn darparu taflenni gwybodaeth a datganiadau safbwynt ar chwarae a mannau chwarae; polisi chwarae; gwaith chwarae; yn ogystal â hysbysebu digwyddiadau a swyddi. Ein llyfrgell gyfeirio chwarae (yn ein swyddfa yng Nghaerdydd) yw’r casgliad mwyaf cynhwysfawr o adnoddau ar chwarae plant a phobl ifanc a materion perthynol eraill yng Nghymru. Mae gennym gasgliad o ddeunydd cyfredol ac allan o brint ar ystod eang o bynciau – o theori chwarae a datblygiad plant, i adeiladu ty^ pen coeden. Mae croeso i ymwelwyr a grwpiau bychain o fyfyrwyr – ebostiwch ni i drefnu ymweliad a byddwn yn falch i’ch helpu. Mae gennym hefyd gasgliad llai o lyfrau ac adnoddau ^ cyfeiriol yn y llyfrgell ym Mhrifysgol Glyndw r yn Wrecsam, sydd ar agor i ymwelwyr. I drefnu ymweliad â’n llyfrgell ebostiwch angharad@chwaraecymru.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.