Chwarae’n egnïol yn ac o amgylch y cartref
Mae chwarae’n helpu plant i archwilio, dysgu am eu byd a theimlo’n hapus. Hefyd, mae symud o gwmpas a chwarae’n llosgi egni ac yn helpu i atal afiechydon difrifol fel diabetes math 2, clefyd y galon a chanser pan fyddwch yn hŷn. Mae gwneud yn siŵr bod amser, lle a rhyddid i chwarae’n ffordd wych o sicrhau bod pawb yn symud o gwmpas ac yn cael hwyl! Mae dyfodiad Covid-19 wedi ein bwrw’n galed. Mae rhieni a gofalwyr yn wynebu cyfnod pryderus wrth i ysgolion a gweithgareddau, fydd yn cadw’u plant yn brysur fel arfer, gael eu cau. Er gwaetha’r straen newydd yma, bydd plant yn dal eisiau ac angen chwarae. Tan i fygythiad y salwch fynd heibio, mae’n bosibl y bydd angen i’ch plant chwarae’r tu mewn yn bennaf neu os byddan nhw’r tu allan, i ddilyn canllawiau fwyaf diweddar Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar bellhau cymdeithasol.
Pwysigrwydd chwarae mewn adegau o straen Yn ystod cyfnodau’n llawn ansicrwydd, mae chwarae: •
yn helpu plant i adennill ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd yn ystod profi colled, unigrwydd a thrawma
•
yn helpu plant i oresgyn poen emosiynol ac adennill rheolaeth dros eu bywyd
•
yn eu helpu i ennill dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a’u galluogi i brofi hwyl a mwynhad
•
Mae’r canllawiau’n argymell y dylai plant gael cymaint o chwarae egnïol â phosibl. Mae’r canllawiau’n dweud: ‘argymhellir i blant fod yn egnïol am 60 munud y dydd, ar gyfartaledd, ar draws yr wythnos.’ Y neges gyffredinol yw bod unrhyw weithgarwch yn well na dim, ac mae mwy yn well fyth. Mae bywyd modern wedi gwneud pethau yn gyfforddus i ni ac mae llawer ohonom yn treulio cyfnodau hir yn eisteddog, sydd ddim yn llosgi’r egni yr ydym yn ei fwyta. Yn ystod y cyfnod newidiol hwn, mae’n bwysig inni neilltuo amser yn ystod y dydd i symud o gwmpas. Mae plant segur mewn perygl o storio gormodedd o fraster yn eu cyrff - yn union fel eu rhieni. Canllawiau ar argymhellion gweithgarwch corfforol ar gyfer plant 5 i 18 oed: •
Dylai pob plentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol dwysedd cymedrol i egnïol (MVPA) am o leiaf 60 munud y dydd dros yr wythnos.
•
Dylai plant gymryd rhan mewn amrywiaeth o fathau a dwyseddau o weithgarwch corfforol dros yr wythnos er mwyn datblygu sgiliau symud, ffitrwydd cyhyrol, a chryfder esgyrn.
•
Dylai plant anelu i leihau’r amser y maent yn ei dreulio’n eisteddog a, phan fo’n bosibl, dylent dorri cyfnodau hir o beidio symud gydag o leiaf rhywfaint o weithgarwch corfforol ysgafn.
yn cynnig cyfle i blant archwilio eu creadigedd eu hunain.
Canllawiau gweithgarwch corfforol Mae canllawiau gweithgarwch corfforol pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ar gyfer datblygiad plant.
Gwneud synnwyr o’r canllawiau • Mae gweithgarwch corfforol dwysedd cymedrol, fel seiclo, yn gwneud inni gynhesu, anadlu’n drymach ac i’n calon guro’n gyflymach, ond tra’n dal i allu siarad. • Mae gweithgarwch egnïol, fel rhedeg yn gyflym, chwarae tic, neu sgwtio, yn cael effaith tebyg ond mwy sylweddol, ac yn gwneud siarad yn anoddach. • Mae gweithgarwch cryfhau’r cyhyrau a’r esgyrn, fel sboncio, sgipio, a siglo yn cynnwys defnyddio pwysau’r corff neu weithio yn erbyn gwrthiant. • Mae ymddygiad eisteddog yn weithgarwch sy’n defnyddio fawr ddim o egni, ac yn
Sicrhau bod plant yn cadw’n egnïol wrth inni ofyn iddyn nhw bellhau’n gymdeithasol Mae pellhau cymdeithasol yn mynnu y dylai pawb - yn blant ac oedolion - gadw chwe throedfedd (dau fetr) ar wahân bob amser. Felly, mae mynd allan yn dal yn bosibl. Ond, mae’n rhaid meddwl am fannau ble mae’n haws cadw’r pellter angenrheidiol oddi wrth bobl eraill sydd ddim yn ein cartref.
golygu eistedd neu orwedd i lawr yn bennaf. Mae gweithgareddau eisteddog yn cynnwys amser sgrîn (gwylio’r teledu, defnyddio’r cyfrifiadur, gemau fideo), eistedd i ddarllen, siarad, gwneud gwaith cartref, neu wrando ar gerddoriaeth.
Chwarae egnïol Mae chwarae egnïol yn weithgarwch corfforol gyda phlyciau rheolaidd o weithgarwch tempo cymedrol neu egnïol, fel cropian, neidio, neu redeg. Mae chwarae egnïol yn cynyddu curiad calon plentyn ac yn gwneud iddyn nhw ‘chwythu a phwffian’.
Awgrymir y gallem fynd am dro trwy’r gymdogaeth, seiclo neu fynd ar sgwter. Mae’n anodd iawn i blant hunanreoleiddio pan maent yn chwarae, yn enwedig pan maent wedi ymgolli mewn gweithgarwch chwarae egnïol neu os oes plant eraill gerllaw, felly efallai y byddant angen eich help gyda hyn.
Syniadau chwarae ar gyfer rhieni Tra bo gofyn i bob un ohonom lynu at y canllawiau pellhau cymdeithasol, mae dal yn bosibl inni dreulio amser y tu allan. Ond, mae angen inni wneud dewisiadau sy’n ei gwneud yn haws inni gadw ein pellter. Mae’n anodd iawn i blant hunanreoleiddio pan maent yn chwarae, yn enwedig pan maent wedi ymgolli mewn chwarae egnïol neu os oes plant eraill gerllaw, felly efallai y byddant angen ein help gyda hyn. Efallai y bydd paratoi a chasglu detholiad o eitemau chwarae i fynd gyda chi i’r ardd neu fan awyr agored yn helpu i gadw pethau’n ddiddorol. Gall eitemau chwarae syml fel peli, rhaffau, cylchau, sialc, teganau bychain fel ceir ac anifeiliaid tegan ei gwneud hi’n haws i blant gael hwyl. Pan allwn ni, ac os ydym yn teimlo’n ddigon iach i wneud hynny, dylem wneud ein gorau i annog chwarae’r tu allan, waeth beth fo’r tywydd. Edrychwch ar y syniadau hyn ar gyfer chwarae’r tu allan ym mhob tywydd am ysbrydoliaeth.
Chwarae’n egnïol dan do Mae’r cartref yn le gwych i chwarae. Gall plant wneud defnydd creadigol o ddim ond cornel o ystafell os oes ganddynt rywfaint o deganau neu fanion bethau eraill, a rhyddid i chwarae. Mae digonedd o syniadau hwyliog sydd ddim angen llawer o le, yn cynnwys hen ffefrynnau fel chwarae cuddio neu greu cuddfan gyda chlustogau a blancedi. Mae plant hŷn yn dal angen lle i chwarae dan do hefyd - mae plant angen bod yn wyllt a chorfforol fel rhan o’u chwarae.
Darllenwch ein blog chwarae dan do am amwgrymiadau ac efallai y bydd yr awgrymiadau anhygoel hyn ar gyfer magu plant yn chwareus yn ddefnyddiol hefyd. Bydd pellhau cymdeithasol ac ynysu cymdeithasol yn arbennig o anodd i blant yn eu harddegau. Bydd llawer o blant hŷn wedi bod yn edrych ymlaen at y gwanwyn, y nosweithiau hirach a’r tywydd mwynach fel adeg i gwrdd gyda’u ffrindiau. I lawer, oedd i fod wedi mwynhau’r rhyddid i chwarae allan yn annibynnol gyda’u ffrindiau am y tro cyntaf, mae hon yn garreg filltir y bydd rhaid iddynt aros amdani bellach. Mae canolbwyntio ar syniadau chwarae heb reolau neu sydd ddim angen dawn benodol yn hwyl i bob aelod o’r teulu, waeth beth eu hoedran, a byddant yn helpu i basio’r amser mewn ffordd chwareus. Yn ogystal, bydd y mathau hyn o weithgareddau’n darparu hwyl a diogelwch yn ystod profiad o golled ac ynysu.
Cadw’n iach
Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant fod yn egnïol, cadw’n iach a bod yn hapus. Gall rhieni a gofalwyr ganfod ffyrdd syml i gynnwys amser a lle ar gyfer chwarae ym mywydau bob dydd eu plant. Gall pob math o chwarae helpu plant i fod yn fwy egnïol. Mae chwarae gyda’n gilydd yn ffordd wych i dreulio amser fel teulu a helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a hyder plant. Gall helpu rhieni ac aelodau eraill o’r teulu i gadw’n egnïol hefyd a bydd yn cyfrannu at les gwell isyml bawb ynaystod cyfnodau o Syniadau doniol ansicrwydd.
Helfa Drysor
Pêl-fasged gyda Sanau
Mae helfa drysor yn ffordd wych i gadw’r plant yn brysur ac egnïol o amgylch y cartref. Os hoffech chi gychwyn yn fach, trefnwch helfa fer. Defnyddiwch focs bychan a gofyn i bawb sy’n chwarae lenwi’r bocs gyda chymaint â phosibl o eitemau diddorol ac anarferol sydd i’w cael yn y tŷ.
Taflwch y sanau wedi eu rholio’n bêl i mewn i fwced, basged olchi, bag siopa neu focs esgidiau.
Neu, chwiliwch am enfys yn y tŷ – gofynnwch i bawb sy’n chwarae ddod o hyd i eitemau gyda phob un o liwiau’r enfys arnynt neu rhoddwch liw penodol gwahanol i bob plentyn. Er mwyn helpu pawb i glirio, cyfnewidiwch eich eitemau fel bod rhywun arall yn rhoi’r eitemau yn ôl yn eu lle.
Gorymdaith y sŵ neu’r jyngl Dangoswch i bawb sut mae: •
Cerdded fel eliffant
•
Siglo eich pen ôl fel hwyaden
•
Sboncio fel cangarŵ
•
Ymlusgo fel neidr
•
Dringo fel mwnci.
Meddyliwch am fwy – sut mae jiráff, arth, malwen, llyffant, aderyn a chath yn symud?
Mainc Drawst Defnyddiwch linell o dâp ar lawr, neu ddarn o raff, i gerdded ar ei hyd ac ymarfer cadw eich balans.
Tenis Balŵn Gan ddefnyddio platiau papur fel racedi, pa mor hir allwch chi gadw’r balŵn oddi ar y llawr? Gwych ar gyfer gweithgaredd unigol neu grŵp. Os allwch chi fynd allan, llanwch y balŵn gyda dŵr a defnyddiwch eich dwylo fel bat! Os nad oes gennych falŵns, beth am roi tro ar sanau wedi eu rholio’n bêl.
Disgo yn y Dydd Rhowch gerddoriaeth ymlaen a dawnsio. Gallwch hefyd chwarae dawnsio a rhewi. Bob tro y bydd y gerddoriaeth yn stopio, pawb i sefyll yn llonydd.
Cwrs Rhwystrau Crëwch gwrs rhwystrau dan do gan ddefnyddio clustogau, gobenyddion, byrddau bach a chylchoedd hwla. Gallwch greu mainc drawst ar lawr gyda thâp masgio, rhaff neu gareiau esgid wedi eu clymu at ei gilydd. Gellir defnyddio’r rhain hefyd i greu cylchoedd ar lawr i neidio i mewn ac allan ohonynt.
Sgots yn y tŷ Defnyddiwch dâp masgio i greu grid sgots ar lawr a chwarae gyda hosan wedi ei rholio’n bêl yn lle carreg. Wedi diwrnod neu ddau, torrwch sgwariau o blastig swigod, eu tapio yn y grid sgots a chwarae sgots swigod swnllyd!
Gemau amser chwarae traddodiadol Meddyliwch am eich gemau amser chwarae eich hun - beth am ‘Simon Says’, Mae’r Llawr yn Lafa neu Golau Coch - Golau Gwyrdd? Gofynnwch i’ch plant beth yw eu hoff gêm i’w chwarae ar fuarth yr ysgol a chwiliwch am ffordd i’w chwarae dan do.
24 Mawrth 2020 © Chwarae Cymru
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.
Elusen cofrestredig, rhif. 1068926