Cwestiynau cyffredin - cymwysterau

Page 1

Cwestiynau cyffredin – cymwysterau


Cymwysterau gwaith chwarae – cwestiynau cyffredin ar gyfer staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig. Mae’r cwestiynau cyffredin hyn wedi eu cynhyrchu mewn ymateb i ymholiadau ynghylch cymwysterau a dderbyniwyd gan Chwarae Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Gofal Cymdeithasol Cymru ac aelodau o Gyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru). Fe’u hadolygir pan geir newidiadau i gymwysterau yng Nghymru ac wrth i gwestiynau newydd gael eu cynhyrchu. Sylwer: ceir dwy restr o gwestiynau – ar gyfer pobl mewn lleoliadau blwyddyn gyfan ac ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae dros y gwyliau.

Lleoliadau blwyddyn gyfan Sut gaiff lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae eu rheoleiddio? Mae’r ddeddf yn mynnu y dylai unrhyw leoliad sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phlant dan 12 oed, am fwy na dwyawr y dydd a mwy na phum diwrnod y flwyddyn, gofrestru gydag Arolygaeth Gofal Cymru. Mwy o wybodaeth: http://arolygiaethgofal.cymru/?lang=cy Mae’r ‘Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 mlwydd oed’ (NMS) yn cynnwys y safonau y caiff lleoliadau eu harolygu’n eu herbyn a hefyd unrhyw eithriadau posibl. Mwy o wybodaeth am yr NMS cyfredol: http://arolygiaethgofal.cymru/ providingacareservice/regs-nms/daycare/?lang=cy

Rwyf wedi derbyn adborth gan ein harolygydd Arolygaeth Gofal Cymru nad ydw i’n llwyr gytuno ag o, beth ddylwn i ei wneud? Mae gennych hawl i gwestiynu unrhyw benderfyniadau gan arolygwyr allai ymwneud ag unrhyw elfen o’ch gwaith. Gall hyn gynnwys: cymwysterau a phrofiad staff, polisïau a gweithdrefnau, arferion gweithio, rheoli risg neu’r amgylchedd ffisegol. Fydd pob lleoliad ddim yn ateb yr heriau yma yn yr un modd ac os ydych chi’n teimlo nad yw hyn wedi ei adlewyrchu yn y cyngor a dderbynioch, neu mewn adborth yn ystod cyfnod yr arolwg, yna dylech herio’r hyn sy’n cael ei ddweud. Yn hwyrach, os byddwch yn anghytuno gyda chynnwys adroddiad eich arolwg, mae’n iawn ichi herio hyn yn ysgrifenedig, er y dylech geisio gwneud hyn o fewn yr amserlen a bennwyd. Os byddwch yn dal i deimlo’n anfodlon gyda’r materion hyn, dylech gysylltu gyda Chwarae Cymru am gyngor pellach.

Beth sydd wedi newid o ran y gofynion cymwysterau ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio mewn lleoliadau cofrestredig? Yn 2014, cynyddodd rheoliadau newydd yr ystod oedran ar gyfer cofrestru lleoliadau sy’n darparu gofal plant. Bellach mae angen i leoliadau sy’n gofalu am blant hyd at 12 oed i gael eu cofrestru, tra yn y gorffennol dim ond lleoliadau oedd yn gofalu am blant dan wyth oed fyddai’n gorfod cofrestru. Golyga hyn, mewn llawer o achosion, y bydd angen i staff feddu ar gymhwyster gwaith chwarae yn ogystal â chymhwyster blynyddoedd cynnar / gofal plant.


Rydyn ni’n gweithio gyda phlant hyd at 12 oed ac wedi clywed na fydd raid inni ennill cymwysterau gwaith chwarae tan 2021. Ydi hyn yn gywir? Ydi a nac ydi. Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr i egluro’r gofynion cymwysterau ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio mewn lleoliadau cofrestredig gyda phlant hyd at 12 oed. Mae’r ‘amser cyflwyno’ ar gyfer lleoliadau gofal plant sydd wedi eu cofrestru eisoes iddynt ennill cymwysterau gwaith chwarae i weithio gyda phlant dros wyth oed erbyn mis Medi 2021. Ar gyfer cofrestriadau newydd, bydd angen i leoliadau arddangos eu bod yn cyflawni’r cymarebau angenrheidiol ar gyfer staff cymwysedig. Am fwy o wybodaeth am y cylchlythyr a’r newidiadau, ymwelwch â: http://gov.wales/topics/people-and-communities/ people/children-and-young-people/childcare/regulation/?skip=1&lang=cy

rhwng pump ac wyth oed cyn y newidiadau i gynnwys plant hyd at 12 oed. Ond nawr mae lleoliadau sy’n gweithio gyda phlant dros wyth oed yn cael eu harchwilio hefyd.

Ble alla’ i gael hyd i’r rhestrau cymwysterau? Mae Rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru – Rhestr o’r Cymwysterau Gofynnol i Weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru a Rhestr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol i Weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru ar gael i’w lawrlwytho: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ cymwysteraugofynnol

Gyda pha ystod oedran fydd y cymwysterau gwaith chwarae yn caniatáu imi weithio â nhw?

Pryd fydd angen imi feddu ar gymwysterau gwaith chwarae?

Bwriedir cymwysterau gwaith chwarae ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant rhwng pump ac 16 mlwydd oed mewn lleoliad gwaith chwarae. Ceir croesi o ran y gwahanol oedrannau o ran cymwysterau, yn dibynnu ar y math o leoliad yr ydych yn gweithio ynddo, i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd.

Yn ôl y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, os yw’r mwyafrif o’ch gwaith gyda phlant dros bum mlwydd oed dylech feddu ar gymhwyster gwaith chwarae sydd wedi ei gynnwys ar restr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol. Gwaith Chwarae fu’r cymhwyster pwrpasol ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant

Mae Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD) ar gyfer rhai sy’n gweithio gyda phlant dan wyth mlwydd oed mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant, tra bwriedir cymwysterau gwaith ieuenctid ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc 11 i 25 oed. Mae’r trefniant hwn


yn adlewyrchu’r sgiliau gwahanol iawn sydd eu hangen er mwyn gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar, gwaith chwarae a gwaith ieuenctid.

Beth am Ofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD) – onid ydi hwnnw’n fy ngwneud yn gymwys i weithio gyda phlant hŷn hefyd? Nac ydi. Tra bo’r CCLD yn cynnwys dysgu am ddatblygiad plant hyd at 19 oed, mae’r cymhwyster hwn wastad wedi ei fwriadu ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio gyda phlant dan wyth oed yn unig. Mae’r asesiad ymarfer a geir yn CCLD yn edrych ar waith gyda phlant dan bump oed (lleoliadau blynyddoedd cynnar) yn unig. Bwriad cynnwys plant hyd at 19 oed yw ateb gofynion penodol plant anabl hŷn a’u hanghenion gofal a datblygiadol perthnasol. Yn ogystal, nid yw CCLD yn cynnwys unrhyw elfennau ar hwyluso chwarae gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae ac, o’r herwydd, mae’n anaddas ar gyfer y bobl hynny sydd angen meddu ar wybodaeth am waith chwarae.

Rwy’n gweithio mewn lleoliad gwaith chwarae mynediad agored neu mewn clwb ar ôl ysgol gyda phlant pump oed a throsodd, pa gymwysterau ydw i eu hangen? Os ydych yn gweithio mewn rôl sydd ddim yn oruchwyliol, rydych angen cymhwyster gwaith chwarae Lefel 2 sydd wedi ei gynnwys ar Restr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol ar gyfer eich math chi o ddarpariaeth. Ar Lefel 2, mae’r rheoliadau’n mynnu bod 50% o staff y lleoliad wedi cymhwyso at Lefel 2, bwriad hyn yw caniatáu i staff ‘hyfforddi tra’n gweithio’. Os ydych yn gweithio mewn rôl oruchwyliol, os mai chi yw’r person cofrestredig neu’r person enwebedig sy’n gyfrifol am y lleoliad, byddwch angen meddu ar gymhwyster gwaith chwarae Lefel 3 sydd wedi ei gynnwys ar Restr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol ar gyfer eich math chi o ddarpariaeth.

Beth am wobrau trosiannol? Ar hyn o bryd mae gwobr drosiannol Lefel 3 ar gael o’r blynyddoedd cynnar i waith chwarae. Bwriedir y wobr yma ar gyfer y bobl hynny sy’n meddu ar gymhwyster CCLD Lefel 3 er mwyn iddynt ennill gwybodaeth gwaith chwarae. Mae’r wobr drosiannol wedi ei chynnwys ar Restr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol ac mae’n ateb gofynion ar gyfer cofrestru. Ond, fe’i bwriadwyd o’r dechrau ar gyfer pobl y mae eu prif rôl gyda phlant dan wyth mlwydd oed. Os yw staff yn gweithio mwy mewn rôl gwaith chwarae nac mewn rôl blynyddoedd cynnar a gofal plant, yna dylent gyflawni un o’r cymwysterau gwaith chwarae lefel diploma a geir ar Restr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol. Ar gyfer pobl sy’n meddu ar CCLD Lefel 2, mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) Agored Cymru yn addas fel gwobr drosiannol ar Lefel 2. Rhagor o wybodaeth am L2APP: www.chwaraecymru.org.uk/cym/l2app

Rwy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar ac rwy’n meddu ar gymhwyster gofal plant (CCLD, er enghraifft) ond rwy’n gweithio hefyd gyda phlant dros bump oed, ydw i angen cymhwyster gwaith chwarae? Ydych. Y cymhwyster ar gyfer gweithio gyda phlant pump oed a throsodd yw gwaith chwarae. Os yw eich gwaith gyda phlant iau yn bennaf, bydd cymhwyster trosiannol priodol yn addas.

Dydw i ond yn gweithio gyda phlant o dan bump oed, ydw i angen cymhwyster gwaith chwarae? Nac ydych. Os ydych chi ond yn gweithio gyda phlant dan bump oed dylech feddu ar y cymhwyster priodol a nodir ar Restr Cymwysterau Gofynnol Gofal Cymdeithasol Cymru.


Rwy’n meddu ar gymhwyster dysgu, gwaith ieuenctid, hyfforddi chwaraeon neu gymhwyster arall – yw hynny’n caniatáu imi weithio mewn lleoliad gwaith chwarae neu leoliad gofal plant y tu allan i’r ysgol? Nac ydi. Mae gwaith chwarae’n broffesiwn pendant ac mae’n galw am wybodaeth a sgiliau penodol. Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster gwaith chwarae priodol ni allwch fod yn berson cofrestredig, person sy’n gyfrifol nac yn rhan o’r gymhareb o staff an-oruchwyliol cymwysedig (ar hyn o bryd mae angen i 50% o staff mewn unrhyw leoliad cofrestredig fod yn gymwysedig ar Lefel 2).

Pam fod dwy restr o gymwysterau? Ar hyn o bryd mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n gyfrifol am y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae SkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Prydain gyfan, yn gyfrifol am waith chwarae. Tra bo rhai o’r sgiliau ar draws y ddau sector yma’n gyffredin maent, ar hyn o bryd, yn cael eu cynrychioli gan wahanol sefydliadau.

Alla’ i gael mynediad i gymwysterau gwaith chwarae wedi eu hariannu? Ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif o’r cyllid sy’n cael ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae trwy’r llwybr prentisiaethau. Mae’r agwedd hon yn cynnwys cymhwyster gwaith chwarae ochr-yn-ochr â sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu ac fe’i cyflawnir yn y gweithle. Os hoffech gael mynediad i gymhwyster gwaith chwarae wedi ei ariannu trwy lwybr cymhwyso arferol, mynnwch air gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, eich colegau lleol a darparwyr hyfforddiant i holi os ydyn nhw’n cynnal unrhyw gyrsiau a ariennir.

Cynlluniau chwarae dros y gwyliau Mae’r Cwestiynau Cyffredin ar gyfer lleoliadau blwyddyn gyfan yn gymwys hefyd i gynlluniau chwarae dros y gwyliau ond mae rhai ystyriaethau arbennig i gynorthwyo cynlluniau chwarae dros y gwyliau i oresgyn yr heriau o sicrhau cymwysterau ymhlith y gweithlu tymhorol.

Beth yw cynlluniau chwarae dros y gwyliau? Mae cynlluniau chwarae dros y gwyliau’n ddarpariaeth tymor byr sy’n gweithredu’n ystod gwyliau’r ysgol a gellir eu cofrestru un ai fel darpariaeth chwarae mynediad agored neu ofal plant y tu allan i’r ysgol, yn ddibynnol ar lefel y gofal a ddarperir, fel y diffinnir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 oed. Mae cynlluniau chwarae dros y gwyliau’n bodoli i ateb anghenion y gymuned a gallant fod yn fusnes bychan neu wedi eu rheoli gan yr awdurdod lleol, y Cyngor Cymuned, sefydliad trydedd sector mwy o faint, pwyllgor rheoli gwirfoddol neu gan gymdeithas gymunedol. Oherwydd natur tymor byr y math yma o ddarpariaeth, gall staff cynlluniau chwarae dros y gwyliau fod yn wirfoddolwyr neu’n weithwyr cyflogedig. Gall staff fod yn gymwysedig mewn gwaith arall gyda phlant neu fod yn astudio ar gyfer rolau eraill o fewn y gweithlu plant.


Pam fod gofynion cymwysterau gwahanol ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae dros y gwyliau? Oherwydd bod cynlluniau chwarae dros y gwyliau’n aml yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr, staff dros dro neu bobl sy’n gymwysedig mewn rhannau eraill o’r gweithlu plant, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mynnu i bobl gyflawni cymwysterau lefel diploma, all gymryd rhwng blwyddyn i flwyddyn a hanner i’w cwblhau, yn anghymesur ac, ar y cyfan, yn amhosibl i’r mwyafrif o bobl. Er mwyn darparu cymwysterau cymesur, cyraeddadwy sy’n adlewyrchu’r modd y mae cynlluniau chwarae dros y gwyliau’n gweithredu, ac sy’n eu cynorthwyo i gael eu cofrestru, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu datblygiad cymwysterau’n benodol ar gyfer staff cynlluniau chwarae dros y gwyliau: •

Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) ar gyfer staff an-oruchwyliol www.chwaraecymru.org.uk/cym/l2app Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Cynlluniau Chwarae’n Ystod Gwyliau’r Ysgol (MAHPS) ar gyfer staff goruchwyliol www.chwaraecymru.org.uk/cym/mahps

Rwy’n gweithio mewn cynllun chwarae dros y gwyliau fel aelod o staff an-oruchwyliol, pa gymwysterau ydw i eu hangen? Mae unrhyw un o’r cymwysterau Lefel 2 sydd ar Restr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol yn addas. Mae Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) Agored Cymru wedi ei ddatblygu’n arbennig ar eich cyfer. Gellir cwblhau’r cwrs mewn tri diwrnod o hyfforddiant a ddysgir gydag amser ychwanegol ar gyfer asesu gwybodaeth ac arfer – bydd lleoliad gwaith o 20 awr yn angenrheidiol hefyd i gwblhau’r cymhwyster.

Rwy’n gweithio mewn cynllun chwarae dros y gwyliau fel rheolwr, person sy’n gyfrifol neu berson cofrestredig ac rwy’n meddu ar gymhwyster Lefel 3 cyfredol mewn maes perthynol

(addysgu, gwaith ieuenctid, y blynyddoedd cynnar), ydw i angen meddu ar gymhwyster arall? Ydych. Gallwch gwblhau Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Cynlluniau Chwarae’n Ystod Gwyliau’r Ysgol (MAHPS) Agored Cymru. Gellir cwblhau’r cwrs yma mewn tri i bedwar diwrnod o hyfforddiant a ddysgir gydag amser ychwanegol ar gyfer asesu gwybodaeth. Mae’r cwrs yma’n cyflwyno’r wybodaeth gyd-destunol sy’n berthnasol i arfer gwaith chwarae a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol fel rheolwr cynllun chwarae dros y gwyliau.

Rwy’n gweithio mewn cynllun chwarae dros y gwyliau fel rheolwr, person sy’n gyfrifol neu berson cofrestredig ond dydw i ddim yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 ar hyn o bryd, pa gymhwyster ydw i ei angen? Bydd angen ichi gwblhau cymhwyster gwaith chwarae Lefel 3 o Restr SkillsActive o Gymwysterau Gofynnol.

Rwy’n gweithio yn Lloegr ac mae’n debyg bod trefniadau gwahanol yma. Oes, mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu na fydd unrhyw griteria rheoleiddiol bellach yn cynnwys angen i ddarparwyr sicrhau bod unrhyw aelod o’u staff yn meddu ar gymwysterau perthnasol. Ond, mae Chwarae Cymru’n argymell archwilio amrywiaeth o opsiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer gweithwyr chwarae yn Lloegr: •

Mynychu cyfarfodydd, seminarau a chynadleddau allweddol

Cyflawni cyrsiau byrion neu gymwysterau hirach

Astudio a darllen annibynnol

Arsylwi, mentora ac adrodd yn ôl ar arferion gweithio.

Ble alla’ i ddysgu mwy am gymwysterau gwaith chwarae? Os na ddaethoch o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn y Cwestiynau Cyffredin hyn, mae croeso ichi e-bostio ein Swyddog Datblygu’r Gweithlu: gweithlu@chwaraecymru.org.uk


Mawrth 2018

© Chwarae Cymru

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.