Hydref 2021
Ffocws ar chwarae Amgueddfeydd a’r sector diwylliant Mae’r nodyn briffio hwn yn darparu gwybodaeth ar sut all y sector diwylliannol gefnogi a dylanwadu ar gyfleoedd i blant a phlant yn eu harddegau chwarae. Mae wedi ei anelu at reolwyr ac arweinyddion strategol er mwyn adeiladu ar y ddealltwriaeth a’r diddordeb cynyddol i gefnogi chwarae plant yn y sector diwylliannol, yn cynnwys amgueddfeydd ac orielau, safleoedd treftadaeth ac atyniadau ymwelwyr. Mae gan amgueddfeydd, orielau a chanolfannau diwylliannol doreth o brofiad a dealltwriaeth o blant a theuluoedd fel ymwelwyr. Mae chwarae’n cyfoethogi lles corfforol ac emosiynol plant ac mae gan y sector diwylliannol wir ddiddordeb ymgysylltu’n ddyfnach gyda chwarae plant. Trwy strategaethau ymgysylltu, dysgu a dehongli, mae llawer yn cynllunio ar gyfer chwarae, yn ymateb i chwarae1, ac yn gwerthfawrogi a hyrwyddo gweithgareddau ac ymddygiadau chwareus. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig y lle a’r amser sy’n helpu i greu’r amodau i chwarae ymddangos ond eto, yn aml iawn, gall rhoi caniatâd i chwarae fod yn gymhleth neu’n amwys.
Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles Mae chwarae’n elfen ganolog ar gyfer iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau. Mae plant yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Mae plant angen, ac mae ganddynt hawl i gael lleoedd o safon i chwarae, fel rhan o’u bywydau bob dydd. Mae chwarae’n unrhyw ymddygiad sy’n cael ei reoli a’i strwythuro gan y plant eu hunain a bydd
yn digwydd pryd bynnag a ble bynnag y bydd cyfle’n codi. Nodweddion allweddol chwarae yw hwyl, ansicrwydd, her, hyblygrwydd a pheidio bod yn gynhyrchiol2.
Mae cael mannau croesawus, digon o amser a chwmni eraill i chwarae gyda nhw bob dydd o bwys mawr i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau ac mae angen i ni feithrin amgylcheddau all gefnogi hyn.
Polisi chwarae cenedlaethol Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros chwarae trwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae hwn yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Trwy’r ddeddfwriaeth hon, mae Llywodraeth Cymru’n anelu i wneud Cymru’n wlad ble mae gan bob plentyn ystod eang o gyfleoedd diddorol a heriol i chwarae ac amser a mannau i fwynhau eu hamser hamdden. Mae Llywodraeth Cymru’n annog awdurdodau lleol i gydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ac i wneud ymrwymiad cadarn i weithio’n drylwyr ar draws polisïau ac adrannau, gyda sefydliadau partner, a gyda phlant a’u teuluoedd a chymunedau i sicrhau bod plant yn cael mynediad i’r cyfleoedd chwarae y maent eu heisiau ac y mae ganddynt hawl i’w disgwyl. Mae’r cyfarwyddyd statudol i awdurdodau lleol, Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae3, yn nodi rhestr o Faterion sy’n cwmpasu nifer o feysydd polisi fydd angen eu hystyried wrth gwblhau Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) statudol. Fel rhan o hyn, mae rhaid i awdurdodau lleol asesu gweithgareddau hamdden. Felly, mae’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae’n ystyried i ba
raddau y mae’r agenda diwylliant a chelfyddydau’n cyfrannu at ddarparu gweithgareddau hamdden digonol ar gyfer plant. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gwblhau asesiadau o gyfleoedd plant i chwarae bob tair blynedd, ac i greu Cynllun Gweithredu blynyddol yn rhestru blaenoriaethau, camau gweithredu a cherrig milltir er mwyn cynnal cryfderau a mynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd yn yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae. Mae gan bob un o awdurdodau lleol Cymru swyddog sy’n gyfrifol am ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae4.
Polisi rhyngwladol ar chwarae a gweithgareddau hamdden Yn rhyngwladol, mae pwysigrwydd chwarae a mynediad i ddiwylliant yn cael ei gydnabod a’i warchod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Erthygl 31 o GCUHP yn datgan bod gan blant hawl i chwarae, ac i ymuno mewn amrywiol weithgareddau diwylliannol, artistig a hamdden eraill. Fel arwydd o’r pwysigrwydd y mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei osod ar chwarae plant, fe gyhoeddodd Sylw Cyffredinol 17 ar Erthygl 315. Mae hwn yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr agwedd o GCUHP sy’n galw am ddehongliad neu bwyslais pellach. Nod y Sylw Cyffredinol yw egluro pwysigrwydd Erthygl 31. Trwy’r Sylw Cyffredinol, mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn cadarnhau:
© Rugby Art Gallery and Museum
‘Mae ymwneud â bywyd diwylliannol a’r celfyddydau’n elfen bwysig o ymdeimlad plant o berthyn. Mae plant yn etifeddu a phrofi bywyd diwylliannol a chelfyddydol eu teulu, eu cymuned a’u cymdeithas, a thrwy’r broses honno, byddant yn darganfod a ffurfio eu hymdeimlad personol o hunaniaeth ac, yn eu tro, yn cyfrannu at symbylu a chynnal bywyd diwylliannol a chelfyddydau traddodiadol’.6 Mae rhaid deall yr hawliau a fynegir yn Erthygl 31 CCUHP yn holistig – mae pob elfen yn gysylltiedig ac yn atgyfnerthu ei gilydd, a phan y’i darperir, maent yn cyfoethogi bywydau plant. Mae’r Sylw Cyffredinol yn datgan bod: ‘Cyfranogi mewn gweithgareddau diwylliannol ac artistig yn angenrheidiol ar gyfer creu dealltwriaeth plant o’u diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill, ac mae rhyngweithio chwareus gyda thraddodiadau a sefydliadau diwylliannol yn ehangu gorwelion, yn cyfrannu at gydddealltwriaeth ac yn hyrwyddo amrywiaeth. Mae plant yn creu a phasio diwylliant ymlaen trwy chwarae dychmygus, caneuon, dawns, straeon, gemau a gwyliau’.7 Yn ogystal, mae gweithgarwch diwylliannol, hanesyddol neu greadigol yn werthfawr i les plant. Gan gydnabod bod plant yn profi a dysgu am y byd trwy chwarae, gall gwau ystyriaeth o chwarae i mewn i waith sefydliadau diwylliannol, tra hefyd yn gwerthfawrogi’r hyn y gall treftadaeth a’r celfyddydau eu cynnig, sicrhau bod bywydau plant
yn cael eu cyfoethogi ymhellach gan ddiwylliant yn ogystal â gan ddiwylliannau chwareus. ‘’Dyw hyn ddim yn fater o’r naill neu’r llall. Gallwch fynd i leoliad ac fe allwch ddysgu ac fe allwch chwarae. Yn ein gwaith gydag ysgolion, ceir amser dysgu, bydd dysgu chwareus yn digwydd a bydd amser chwarae’n digwydd, ac mae’n golygu canfod cydbwysedd, er mwyn iddyn nhw allu cael y rhain i gyd. ’Dyw gweithwyr chwarae ddim yn awgrymu y dylem danseilio neges neu amcanion amgueddfeydd, fel gwarchod treftadaeth neu hyrwyddo dysgu, ond mae angen inni sicrhau bod chwarae’n cael ei gydnabod fel “ac”.’ Swyddog Chwarae Awdurdod Lleol Mae Pwyllgor y CU yn galw am gydweithio trawsadrannol o fewn llywodraethau lleol a chenedlaethol ac mewn partneriaethau eraill er mwyn sicrhau creu amgylcheddau ble gall plant dderbyn eu hawliau yn unol ag Erthygl 31. Cymeradwyodd y DU GCUHP ym 1991 ac fe’i mabwysiadwyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn 2004 fel sail ar gyfer llunio polisïau sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc. Trwy gymeradwyo CCUHP, mae Llywodraeth y DU yn cytuno i ganiatáu i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn archwilio eu cynnydd ar weithredu’r confensiwn yn rheolaidd.
Sut all awdurdodau lleol a’r sector diwylliannol ymateb Er mwyn cyflawni cyfrifoldebau cenedlaethol a rhyngwladol, a gan gydnabod bod chwarae’n cyfoethogi lles corfforol ac emosiynol plant, mae’n hanfodol bod pob sefydliad sy’n denu a gweithio gyda phlant yn cael eu cefnogi i ddarparu’r mannau a’r cyfleoedd i chwarae o’r safon gorau posibl. Mae potensial di-ben-draw ar gyfer datblygu partneriaethau ac arferion i ymestyn ac eiriol dros chwarae plant o fewn y gwasanaethau a’r gofodau a gynigir gan ganolfannau diwylliannol a threftadaeth. Yng Nghymru, mae’r cyfarwyddyd statudol8 yn diffinio’r gweithlu chwarae fel unrhyw un y mae eu rôl yn effeithio ar chwarae plant – pobl sydd
naill ai’n hwyluso eu chwarae’n uniongyrchol, yn cynllunio cyfleoedd chwarae, neu sydd â’r grym i ganiatáu i blant chwarae neu beidio. Mae hyn yn wahanol i rôl gweithiwr chwarae, ond mae’n cydnabod os ydym yn gweithio gyda phlant, yna bod chwarae’n ganolog i bob modd y byddwn yn ymwneud â neu’n gweithio gyda nhw. Gall sicrhau’r newid meddylfryd hwn fod yn gam cyntaf tuag at newid sefydliadol. Rydym yn amlinellu camau nesaf ymarferol ar gyfer swyddogion arweiniol ar ddigonolrwydd chwarae mewn awdurdodau lleol a sefydliadau diwylliannol yn yr adran ganlynol.
Camau gweithredu ar gyfer creu mannau ac arferion diwylliannol mwy chwareus Gall sefydliadau diwylliannol a swyddogion datblygu chwarae lleol neu sefydliadau partner weithio gyda’i gilydd. Gall swyddogion datblygu chwarae a sefydliadau chwarae helpu i: •
Gyfeirio at adnoddau lleol a chenedlaethol ar gyfer datblygu eich staff fel rhan o’r gweithlu chwarae
•
Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth chwarae ar gyfer staff amgueddfeydd a chanolfannau diwylliannol
•
Gweithio gyda staff i ddynodi ffyrdd i gynnwys cyfleoedd i chwarae mewn arddangosfeydd a digwyddiadau newydd
•
Helpu i greu a mabwysiadu polisi chwarae ar draws y sefydliad cyfan, grwpiau gwasanaethau neu hybiau
•
Cefnogi datblygiad arddull risg-budd tuag at chwarae ar draws y sefydliad, sy’n sensitif i amgylchedd amgueddfeydd ac orielau ac anghenion yr ymwelwyr i gyd
•
Helpu i gynnal asesiad sgiliau hwyluso chwarae ar gyfer y staff.
Yn ogystal, gall canolfannau diwylliannol gymryd camau bychan ar unwaith i wreiddio chwarae yn eu harferion dydd-i-ddydd. Gallai newidiadau bychan ond effeithiol gynnwys: •
Cymryd amser, yn rheolaidd ac yn gyson, i arsylwi sut mae plant yn symud a chwarae yn
eich gofod ac yn ystod digwyddiadau a sesiynau a drefnir. Ceisiwch gynnwys pawb a rhannu eich arsylwadau. •
Rhowch chwarae ar yr agenda mewn cyfarfodydd tîm.
•
Meddyliwch sut y mae staff sy’n wynebu ymwelwyr yn defnyddio iaith a goslef llais. Ydyn nhw’n gynnes a chroesawus? Ydyn nhw’n caniatáu ymddygiad chwareus?
•
Meddyliwch sut all eich cynlluniau a’ch deunyddiau cyfathrebu ymgorffori hyrwyddo chwarae, a gwerth chwarae yn eich lleoliad. Gwiriwch fod hyn yn annog chwarae i bob defnyddiwr ac yn ystyried y rheini sydd am chwarae a’r rheini sydd ddim. Sut allwch chi ateb anghenion pawb?
•
Trafodwch a myfyriwch ar sut all gofodau a gweithgareddau fod wedi eu gwahanu’n ddiangen ar gyfer y plant, a sut allai ein gofodau a’n digwyddiadau, sydd wedi eu dylunio’n aml gan oedolion, ymgorffori anghenion chwarae plant yn well.
•
Ystyriwch feddwl mwy am sut y byddwch yn creu’r amodau i chwarae ymddangos trwy’r gofod ac mewn digwyddiadau ac arferion9.
Gwerthfawrogi chwarae Mae creu amser a lle i blant gymryd rhan mewn cyfleoedd chwarae a hamdden digymell yn annog creadigedd, a gall sefydliadau diwylliannol chwarae rôl allweddol yn hyn. Trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer chwarae a sbardunir yn bersonol ac annog rhyngweithiadau chwareus, gellir cyfoethogi amgueddfeydd chwareus a bywydau diwylliannol plant, fydd i gyd yn cyfrannu at greu plentyndod da ac, ar yr un pryd, greu mannau hynod ddeniadol a phleserus i bobl dreulio amser ynddynt.
© Gareth Stacey
Creu diwylliant o gydweithredu rhwng y sectorau diwylliannol a datblygu chwarae – enghraifft Siaradodd Charlotte Derry, Ymgynghorydd Amgueddfeydd a Chwarae, gyda Gareth Stacey yn Nhîm Chwarae a Chefnogi Ieuenctid Wrecsam ac Eleri Farley yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, am eu profiadau o weithio gyda’i gilydd i gefnogi chwarae a datblygu’r Amgueddfa Bêl-droed newydd. Cyflwynwyd Gareth ac Eleri i’w gilydd yn ystod Prosiect Amgueddfeydd Chwareus i gefnogi adferiad amgueddfeydd fu ar gau oherwydd Covid, a arianwyd gan Kids in Museums. Wedi cydweithio ar un prosiect, mae Gareth ac Eleri’n sylweddoli bellach mai gwaddol hyn fydd cyd-gefnogaeth parhaus. ‘Wedi cysylltu’n ddiweddar gyda Thîm Datblygu Chwarae Wrecsam am y tro cyntaf, rwy’n teimlo bod gweithio trawsawdurdod yn gwbl allweddol. Wrth symud ymlaen bydd hyn yn gam anferthol i ni yn Amgueddfa Wrecsam a’r amgueddfa newydd, Amgueddfa Bêl-droed Cymru – o ran hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr a derbyn mewnbwn y tîm chwarae o’r cychwyn cyntaf … rydw i bellach yn ceisio fy ngorau i gael chwarae wedi ei gynnwys yn ein cynlluniau busnes hefyd. Mae’r tîm chwarae’n well na fi gyda’r eirfa, nhw yw’r gweithwyr chwarae proffesiynol, nid fi, felly rydw i’n dysgu oddi wrthyn nhw. Rwy’n gobeithio y gallwn gyfnewid syniadau, ymweld â’r dylunwyr gyda’n gilydd a bod mwy o gefnogaeth yno ar gyfer chwarae.’ Eleri ‘Mae’n wirioneddol bwysig bod ein cefnogaeth ni yno o’r cychwyn (gydag Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru) ac mae hynny’n wir am unrhyw fath o wasanaeth, cynllunio neu ddatblygiad tai. Yn aml, bydd pobl yn ymgynghori gyda ni ar ôl y broses ddylunio, ac erbyn hynny’n mae’n rhy hwyr yn aml iawn. Yr hyn yr ydyn ni wedi ei ddysgu trwy gwblhau asesiadau
digonolrwydd chwarae yw ei bod yn fwy tebygol o gael effaith ehangach os ydym yn cael ein cynnwys o’r cychwyn cyntaf. Mae cefnogi’r amgueddfa bêl-droed a, sut y bydd y plant yn egnïol, yn greadigol, yn gwneud synnwyr llwyr, rydan ni am eu helpu i’w wneud hyd yn oed yn well … dwi’n dal i gredu bod barn gyffredinol yn dal i fodoli nad ydi amgueddfeydd yn llefydd i blant. Dwi’n gwybod bod pethau’n newid ac mae rhaid ei ymgorffori a disgwyl wrth i fwy o deuluoedd ddod i amgueddfeydd, y bydd plant yno, ac y bydd plant yn chwarae, felly mae angen inni baratoi ar gyfer a chroesawu hynny.’ Gareth ‘Rwy’n credu bod yr elfen chwarae wedi bod yn eilradd bron i ddysgu a gyda’r holl dystiolaeth sydd wedi bod yn dod allan o’r sector chwarae, a gyda’r cwricwlwm newydd i Gymru, mae’n pwysleisio’r ffaith bod plant yn dysgu trwy chwarae a’r holl sgiliau hynny y byddwn ni’n eu cymryd yn ganiataol, ein bod yn dysgu’n awtomatig, trwy ddilyn llinellau igam-ogam, cyfarfod pobl newydd, trwy gymryd risg. Rwy’n teimlo ein bod, fel sector, mewn sefyllfa dda iawn i wneud lle i hynny. Eleri
Cyfeiriadau Gweler cardiau adroddiad 25 a 26 yn Russell, W., Barclay, M., Tawil, B. a Derry, C. (2020) Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni Digonolrwydd Chwarae: Archwilio’r amodau sy’n cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd digonol i blant yng Nghymru chwarae – adroddiad cryno. Caerdydd: Chwarae Cymru.
1
Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn CRC (2013) General comment No. 17 on the right of the child to rest, leisure, play, recreational activities, cultural life and the arts (art. 31). Genefa: Y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.
2
Llywodraeth Cymru (2014) Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
3
Ceir hyd i fanylion cyswllt pob awdurdod lleol ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ gwasanaethauchwarae.
4
General comment No. 17 on the right of the child to rest, leisure, play, recreational activities, cultural life and the arts (art. 31).
5
6
Ibid, tudalen 7.
7
Ibid, tudalen 5.
Diolchiadau
8
Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae.
Rydym yn ddiolchgar i Charlotte Derry, yr Ymgynghorydd Amgueddfeydd a Chwarae a Mentor Opal ar gyfer Chwarae mewn Ysgolion, am ei chefnogaeth a’i chyfraniad i’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae.
9
Gweler cardiau adroddiad 25 a 26 yn Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni Digonolrwydd Chwarae: Archwilio’r amodau sy’n cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd digonol i blant yng Nghymru chwarae – adroddiad cryno.
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926